Merry Christmas Nadolig Llawen Seasons Greetings from Ian, Ceri and Ronen … and all our interns .
Nadolig ar y Ffrynt
description
Transcript of Nadolig ar y Ffrynt
gan Des Quinn a Martin Williams
Rhan 2
Pwyswch ‘ESC’ unrhyw bryd i stopio’r cyflwyniad
Cliciwch ar Gerdyn Nadolig rydych am wybod mwy amdano. Gwaith Estynnol
Gofyn am beth mae’r milwr wrth yr angel cyn y gall fynd ymlaen at y ffosydd?
Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
Cliciwch yma i weld y tu fewn i’r cerdyn
Pa gorfflu a gynhyrchodd y cerdyn hwn?
Pam yn eich barn chi roedd catrodau gwahanol yn cynhyrchu eu cardiau eu hunain?
Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
Edrychwch ar y delweddau ar hyd ymylon y cerdyn hwn.
Am beth ac am bwy y mae’r milwyr yn meddwl, ac yn teimlo’u colli, wrth iddynt yfed llwncdestun?
Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
Pryd y cafodd y Cerdyn Nadolig hwn ei gynhyrchu a
beth mae’n ei ddangos?
Pryd mewn gwirionedd y cyrhaeddodd y cerdyn ben
ei daith?
Pwy yn eich barn chi a gynhyrchodd y cerdyn hwn a
beth a’ch helpodd chi i benderfynu?
Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
Beth sy’n gwneud hwn yn Gerdyn Nadolig mor effeithiol
i’w anfon o’r ffosydd?
Meddyliwch am yr amodau gwirioneddol o gwmpas llawer o’r ffosydd a phwy all fod wedi
derbyn y cerdyn hwn.
Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
Mae’r cerdyn Nadolig hwn yn nodi’r gwledydd a’r ardaloedd
y bu’r 4ydd Adran yn rhyfela ynddynt.
Beth mae hynny’n ei ddweud wrthych am y balchder a
deimlai bob Adran o’r fyddin?
Gan ddefnyddio atlas neu fap, ceisiwch gael gwybod ymhle mae pob un o’r ardaloedd ac
ym mha wlad y maent?
Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
O ble daw y geiriau a welir ar y cerdyn post hwn?
Am beth mae’r milwr hwn o’r 38ain Adran yn meddwl yn ystod
y Nadolig?
Cynhyrchwyd y cerdyn post hwn yn 1917
Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
Lansiwyd y cynllun i wneud blychau anrheg i’r milwyr ym mis Hydref 1914 gyda’r bwriad o gyflwyno blwch anrheg i bob un oedd ‘yn gwisgo lifrai’r Brenin ar Ddydd Nadolig’. Roedd y blwch wedi’i wneud o bres gyda phenddelw a blaenlythrennau’r Dywysoges Mary.
Ar gyfer ysmygwyr, roedd y tun yn cynnwys pibell, baco, ugain o sigaréts, ffotograff bychan o’r Dywysoges a cherdyn Nadolig. Os nad oeddynt yn ysmygu, roedd y milwyr yn derbyn tun ac ynddo bensel a wnaed ar ffurf bwled (gweler y sleid nesaf).
‘Blwch Anrheg y Dywysoges Mary’, Nadolig
1914 Pam yn eich barn chi roedd y Dywysoges Mary eisiau i
flychau anrheg gael eu gwneud ar gyfer milwyr
Prydain yn 1914?
Roedd Blwch y Dywysoges Mary a welir
yma’n cynnwys neges o Longleat.
“The Marchioness of Bath has been requested by Colonel Hooke of the 7th
Wilts. Regiment to forward to
Rte. A.R. Coombes
The enclosed gift from H.R.H. Princess Mary.”
Edrychwch ar y dyddiad yr anfonwyd y
llythyr hwn, a hefyd Flwch y Dywysoges
Mary, ar y sleid nesaf.
Delwedd trwy garedigrwydd Des Quinn
A barnu o’r dyddiad yr anfonwyd
y llythyr hwn, a dderbyniodd
pob un o’r milwyr eu hanrhegion
Nadolig mewn pryd?
Pam yn eich barn chi roedd
Ardalyddes Bath yn anfon
Blychau’r Dywysoges Mary at
filwyr o gatrawd y 7th Wiltshire?