SIOE GERDD NADOLIG I’R TEULU OLL...T U T U U T T U U U Byddaf yn cael llawer o ysbrydoliaeth o’r...

13
SIOE GERDD NADOLIG IR TEULU OLL sblash o YWS Gwynedd joch o Candelas sbrincl o Car yl P arr y Jones a difer yn o Bandana... GALERI, CAERNARFON RHAGFYR 19eg . 7pm RHAGFYR 20fed . 2.30pm + 7pm £6 . £8 Sbri 3

Transcript of SIOE GERDD NADOLIG I’R TEULU OLL...T U T U U T T U U U Byddaf yn cael llawer o ysbrydoliaeth o’r...

Page 1: SIOE GERDD NADOLIG I’R TEULU OLL...T U T U U T T U U U Byddaf yn cael llawer o ysbrydoliaeth o’r gerddoriaeth pan fyddaf yn creu dawns - ‘rwy’n hoffi gwrando ar y trac nifer

SIOE GERDDNADOLIG I’R TEULU OLLsblash o YWS Gwyneddjoch o Candelassbrincl o Caryl Parry Jones a diferyn o Bandana...

GALERI, CAERNARFON

RHAGFYR 19eg . 7pmRHAGFYR 20fed . 2.30pm + 7pm

£6 . £8

Sbri 3

Page 2: SIOE GERDD NADOLIG I’R TEULU OLL...T U T U U T T U U U Byddaf yn cael llawer o ysbrydoliaeth o’r gerddoriaeth pan fyddaf yn creu dawns - ‘rwy’n hoffi gwrando ar y trac nifer

GOLEUADAU LLACHAR SBRIYN DISGLEIRIOAM Y TRO OLAF

Mae’n anodd credu ein bod yn dod i benllanw y drioleg Sbri!

Mae hi wedi bod yn daith arbennig o ran profi tŵf yn hyder y bobl ifanc, eu doniau yn datblygu a chyfeillgarwch oes yn cael eu ffurfio.

Yn goron ar y cyfan, braf yw gweld actorion y Sbri cyntaf bellach yn cael eu cyflogi fel rhan o’r tîmproffesiynol. Dyma dystiolaeth o bwysigrwydd profiadau celfyddydol safonol i bobl ifanc all eu harwain at yrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiannau creadigol.

Yn dilyn llwyddiant Sbri yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri 2012 a Sbri 2 yn Galeri yn 2014, mae’r criw yn dychwelyd am y tro olaf i lwyfan Galeri.

Wedi ei leoli mewn ysgol uwchradd ffuglennol, mae’r sioe yn frith o ganeuon Cymraeg poblogaidd gan fandiau megis Candelas, Bandana, Geraint Jarman, Caryl Parry Jones, Y Cyrff, Yws Gwynedd a Gwenno - alawon bachog sy’n siŵr o ddeffro atgofion yr hen a’r ifanc. Braf yw dathlu bod y cast presennol yn frodorion o Wynedd, Ynys Môn a Chonwy. O Ben Llŷn draw i Abergele ac o Amlwch i Fethesda - mae’r bobl ifanc yn cynrychioli amrywiaeth o brofiadau ieithyddol, cymdeithasol a diwylliannol.

Gobeithio y cewch chi gymaint o bleser â ni o fewn y tîm artistig yn profi egni y perfformwyr ac yn teimlo ias sgript bachog, caneuon gwefreiddiol wedi eu trefnu o’r newydd a dawnsio celfydd.

Yn olaf, diolch o galon i’r tîm technegol ifanc a phroffesiynol, a holl staff Frân Wen sydd wedi gweithio’n dawel a chydwybodol i wireddu’r llwyfaniad uchelgeisiol hwn.

CYFARWYDDWR ARTISTIGFRÂN WEN

Sbri 3rhagfyr 2016

Iola Ynyr

R

U

Page 3: SIOE GERDD NADOLIG I’R TEULU OLL...T U T U U T T U U U Byddaf yn cael llawer o ysbrydoliaeth o’r gerddoriaeth pan fyddaf yn creu dawns - ‘rwy’n hoffi gwrando ar y trac nifer

CYFARWYDDWRCERDD

GETHINGRIFFITHS

Mae Sbri 3 wedi bod yn achlysur arbennig i’rCyfarwyddwr Cerdd...

Perfformiais yn y sioe Urdd wreiddiol yn Galeri nôl yn 2012 felly mae’n fraint mawr cael dod yn ôl i gyfarwyddo’r gerddoriaeth.

Mae ‘na 16 o ganeuon gwahanol yn y sioe - rhai ohonynt wedi eu cymysgu â’i gilydd. Cewch ambell glasur modern gan Candelas, Sŵnami ac Yws Gwynedd, hen ffefrynau gan Y Cyrff a Caryl Parry-Jones, heb anghofio artistiaid cyffrous fel Colorama a Gwenno!

Yr awdur Beth Angell oedd yn gyfrifol am ddewis y caneuon i gychwyn, i gyd-fynd â thestun y sioe. Yna, mi wnes i, gyda chymorth Dyl Mei, newid ambell gân yn ôl yr angen. Mae rhai ohonynt yn hynod addas ar gyfer sioe gerdd ar eu ffurf gwreiddiol, ond ‘dw i wedi rhoi fy nhwist fy hun ar ambell un ohonyn nhw - blas newydd ar hen ryseitiau!

Dwi’n hynod gyfarwydd hefo egwyddorion sioe Sbri, a’r disgwyliadau sydd ohoni erbyn hyn. Mae Sbri wedi bod yn greiddiol i fy natblygiad fel cerddor a pherfformiwr, a braint yw cael rhoi rhyw-beth yn ôl y tro hwn a chael gweithio â chriw newydd, hynod dalentog, o bobl ifanc.

Mae’r ymarferion wedi bod yn waith caled ond yn llawn hwyl. Mae clywed eich trefniadau cerddorol yn cael eu perfformio yn fyw am y tro cyntaf yn wefr yn ei hun. Pob tro mae’r corws yn canu mewn harmoni pedwar llais perffaith, mae ‘na rywbeth arbennig yn digwydd - a beth bynnag ydi o, ‘da chi eisiau mwy ohono fo.

Yn bersonol, mae’n braf gweld bod y sioe wreiddiol wedi cael gymaint o effaith ar bobl a ‘dw i’n meddwl bod pobl ifanc wirioneddol yn sylweddoli rwan pa mor safonol yw cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg. Mae ‘na ddisgwyliadau uchel iawn o’r gerddoriaeth erbyn hyn, ac mae wedi bod yn her iach i mi geisio dygymod â hynny. Yn broffesiynol, does na ddim byd gwell na chael gweithio hefo criw sydd yn eich gwthio chi i’r eithaf - mae cyfarwyddwyr cerdd y dyfodol yn eu plith!

Doctor Stange

Mercher / Wednesday18.01.17 | 14:00, 19:30

115m

A StreetcatNamed Bob

Iau / Thursday

19.01.17 | 19:30103m

Arrival

Mercher / Wednesday25.01.17 | 14:00, 19:30

116m

Cefnogir y rhaglen sinema gan |Our cinema programme is supported by |

Queen of Katwe

Sul / Sunday15.01.17| 14:00

124m

Rogue One: A Star Wars StoryGwener / Friday 06.01.17 |14:00, 19:30Sadwrn / Saturday 07.01.17 | 14:00Sul / Sunday 08.01.17 | 11:00, 14:00, 18:00Llun / Monday 09.01.17 | 19:30Mawrth / Tuesday 10.01.17 | 19:30Mercher / Wednesday 11.01.17 | 14:00, 19:30Iau / Thursday 12.01.17 18:30

135m

Nocturnal Animals

Gwener / Friday13.01.17 | 14:00, 19:30

Sadwrn / Saturday14.01.17 | 19:30

117m

Ffilmiau mis Ionawr | January Films

£1

Tocynnau | Tickets:ymlaen llaw / in advance: £5.50 | £4.50 | £3.50 [Prima]ar y diwrnod / on the day: £7.00 | £6.00 | £3.50 [Prima]

Gal-Ionawr-17-A0v2.indd 1 07/12/2016 16:45

U

TU

TU

U

U

Page 4: SIOE GERDD NADOLIG I’R TEULU OLL...T U T U U T T U U U Byddaf yn cael llawer o ysbrydoliaeth o’r gerddoriaeth pan fyddaf yn creu dawns - ‘rwy’n hoffi gwrando ar y trac nifer

Y peth cyntaf nes i oedd comisiynu yr awdur, sef Beth Angell a thrafod sut fyddai’r sgript yn datblygu. Wedyn rhaid oedd penodi yr holl dîm artistig yn arbennig y Cyfarwyddwr Cerdd sef Gethin Griffiths sydd yn mynd ati i drefnu y caneuon a ddewisir gan Beth.

Unwaith mae hi’n gyfnod ymarfer, mae angen castio a chlyweld a thrio cael y cyfuniad gorau o actorion sydd hefyd hefo dawn canu. Mae hi’n un her trefniadol wedyn i ddod â’r holl agweddau at ei gilydd.

Yr her mwyaf oedd delio gyda’r holl agweddau sy’n perthyn i’r sioe o safbwynt actio, canu a choreograffi o fewn cyfnod byr o amser.

O ran ein disgwyliadau ni fel cwmni, y gobaith ydi rhoi cyfle i bob aelod o’r cast serennu yn eu ffordd eu hunain.

Dwi’n hynod falch o’r sioe a’r talent artistig anhygoel ynghyd â brwdfrydedd heintus y criw o bobl ifanc a’r artistiaid proffesiynol.

Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen sydd wrth llyw Sbri 3...

iola YnYr∙Cyfrifon ar gyfer pob math

o fusnes

∙Treth o bob math

∙TAW a chyfrifon rheolaeth chwarterol neu misol

∙Cynlluniau busnes a rhagolygon

∙Ymgynghori treth, olyniaeth

[email protected]: 01286 677624Pwllheli: 01758 61264632 Y Maes, CaernarfonLL55 2NN

owain bebba’i gwmniCYFRIFWYR SIARTREDIGCHARTERED ACCOUNTANTS

01745 584 [email protected]

www.docucentric.co.uk Swyddfeydd yn Llanelwy a Glannau Dyfrdwy

TU

TU

U

UU

Page 5: SIOE GERDD NADOLIG I’R TEULU OLL...T U T U U T T U U U Byddaf yn cael llawer o ysbrydoliaeth o’r gerddoriaeth pan fyddaf yn creu dawns - ‘rwy’n hoffi gwrando ar y trac nifer

Sbri 3rhagfyr 2016

AWDuR

BETH ANGELLAwdur Sbri 1 a 2 yn dychwelyd i gloi’r gyfres...

coreograffydd

kim nobLe

Y ddawnswraig o Gaerdydd sy’n gyfrifol amgoregraffi y caneuon...

TU

T

UU

T

T UU

U

Byddaf yn cael llawer o ysbrydoliaeth o’r gerddoriaeth pan fyddaf yn creu dawns - ‘rwy’n hoffi gwrando ar y trac nifer o weithiau a mynd i’r afael â strwythur y gân yn ogystal â’r teimlad cyffredinol - unwaith byddaf wedi gwneud hyn allai ddychmygu’r ddawns.

Yn ogystal, byddaf yn hoffi defnyddio’r cymeriadau a beth sydd yn digwydd yn y stori i ysbrydoli y symudiadau sy’n cael eu creu; e.e. yn ystod “Ar Goll” mae Angie wedi colli ei ffordd ac yn ddryslyd, mae ei rhieni wedi cael eu siomi - roeddwn eisiau adlewyrchu hyn ac felly mae llawer o dynnu i wahanol gyfeiriadau a throi.

Mae’n dra phwysig i mi mai nid dim ond dysgu symudiadau i’r bobl ifanc ydw i, ond yn hytrach eu hannog i ddod â’u creadigrwydd eu hunain

i’r sioe, felly yn aml byddaf yn gosod tasgau creadigol iddynt.

Rhagorodd y cast fy nisgwyliadau! Mae eu hegni a’u hymrwymiad wedi disgleirio drwy bopeth rwyf wedi taflu atynt, ac mae eu gwaith caled wedi dwyn ffrwyth wrth i’r dawnsfeydd (a’r sioe gyfan) edrych yn rhagorol. Y diwrnod cyntaf i mi weithio gyda’r criw naethon ni greu dawns i’r gân “Anifail” a thaflodd y criw eu hunain syth i mewn i bob tasg.

Roeddent yn gallu nid yn unig cofio y camau cymleth a’r cyfrif (tra’n canu) ond ei lenwi â chymeriad a theimlad.

Rwyf yn hapus iawn gyda’r canlyniad - maent wedi dysgu popeth mor sydyn, maent yn griw talentog iawn!

O gofio, fe ddaeth ysbrydoliaeth Sbri 3 am ambell le ‘doji’ a deud y lleiaf bu’n rhaid i fy ysgol i gynnal partïon!

Mae’r broses ‘sgwennu’r sgript drwyddi draw yn un hir. Mae’r dechrau mewn llyfr nodiadau, yn ‘sgwennu syniadau bychain wrth iddynt ddod i’r meddwl – weithiau yng nghanol nos – sydd reit ‘annoying’ i’r gŵr – ond o ran y ‘sgwennu mater o ffendio amser o amgylch popeth arall sy’n digwydd ydi hi.

Dwi’n edrych ‘mlaen i glywed a gweld y ‘mash-yp’ Eden a hefyd addasiad nhw o glasur Jarman, Merch Tŷ Cyngor. Mae’r bobl ifanc yn elwa cyn gymaint o’r broses yma. Cael eu mentora gan griw gwbwl ysbrydoledig, ffrindiau am oes - a mi fyddan nhw’n clywed caneuon ‘brilliant’ o fy nghyfnod i!

Page 6: SIOE GERDD NADOLIG I’R TEULU OLL...T U T U U T T U U U Byddaf yn cael llawer o ysbrydoliaeth o’r gerddoriaeth pan fyddaf yn creu dawns - ‘rwy’n hoffi gwrando ar y trac nifer
Page 7: SIOE GERDD NADOLIG I’R TEULU OLL...T U T U U T T U U U Byddaf yn cael llawer o ysbrydoliaeth o’r gerddoriaeth pan fyddaf yn creu dawns - ‘rwy’n hoffi gwrando ar y trac nifer

Y BAND

Piano Gethin Griffiths Gitâr Aled Jones Gitâr Fâs Hawys Williams Drymiau Guto Evans Alto Sacsoffon 1 Huw Lloyd-Williams Alto Sacsoffon 2 Tomos Morris-Jones Tenor Sacsoffon Llŷr Wyn Williams Trwmped Owain Llestyn Trombôn Caleb Rhys

RHEOLWYR LLWYFAN CYNORTHWYOL

Iestyn Llwyd JonesElliott TugwellTom Daniel Williams

GWIRFODDOLWR

Sioned Young, Prifysgol Bangor

ARTISTIAID

Sgript Beth AngellCyfarwyddwr Iola YnyrCyfarwyddwr Cerdd Gethin GriffithsIs- gyfarwyddwyr Gwennan Mair Jones + Mirain FflurCynllunydd gwisgoedd Mirain FflurCynllunydd set Gwyn EiddiorCynllunydd goleuo Sion Gregory

Dylunio Dafydd OwainFfotograffiaeth Kristina Banholzer

Cyfarwyddwr Artistig Iola YnyrRheolwr Gweithredu Nia JonesRheolwr Technegol Lewis WilliamsRheolwr Marchnata Carl Russell Owen Swyddog Cyfranogi Gwennan Mair JonesSwyddog Gweinyddol Olwen Mai Williams

Mae Cwmni’r Frân Wen yn gwmni cyfyngedig dan warant (3079992) ac yn elusen gofrestredig (1065046).

TÎm sbri 3PRIF GYMERIADAU

Rhys Ifan Gwilym PritchardSophie Ffion Angell RobertsCatrin Beca Llwyd RobertsAngie Malan Fôn JonesDisgybl 1 Jade RobertsDisgybl 2 Bo LeungDisgybl 3 Gwenno Glyn PritchardLlygoden 1 Nia HâfLlygoden 2 Gwernan Rebeca BrooksLlygoden 3 Ela Vaughan RobertsMam Rhys Elena BrownTad Rhys Gwion Morris JonesCeri Catrin Peris OwenDei Bach Dewi Glyn JonesDei Mawr Gwion Llŷr ParringtonJini Betsan Angell RobertsJac Math RobertsGwraig Mali LlyfniGŵr Elis Rhys EvansHogyn 1 Harri Llewelyn RobertsHogyn 2 Gethin Wyn JonesFfliw Siwan Mair JonesE-Coli Leisa GwenllianSalmonela Kirsten Macdonald

DAWNSIWR

Carwyn Healy

CORWS

Catrin Llewelyn GruffuddNerys Wyn WilliamsAlys Fflur WilliamsCadi Siân ThomasElin Haf MorganGwenllian Dauncey GriffithsHeledd Prys HuwsLowri Angharad GreenFreja Ann BuerdsellFfion Hâf RichardsonNiall Grant-RowlandsRebecca WilliamsAnest WilliamsCai Tomos Lewis

Celyn Alaw RobertsLleucu Non RobertsGeorge GillNon LlewelynBegw Angharad EvansEla OliverLuned ElfynYasmin RobertsCatrin Fflur EvansIolo Hari OwenFfiôn Ceri OwenAnna Mared HughesGwen Alaw RobertsAlys Fflur Letton-Jones

TU

T U

UU

U

U

Page 8: SIOE GERDD NADOLIG I’R TEULU OLL...T U T U U T T U U U Byddaf yn cael llawer o ysbrydoliaeth o’r gerddoriaeth pan fyddaf yn creu dawns - ‘rwy’n hoffi gwrando ar y trac nifer

Sbri 3rhagfyr 2016

is Gyfarwyddwr

gwenNan mair

is Gyfarwyddwr a Chynllunydd Gwisgoedd

MIRAIn FFLUR

Fy rôl i yn Sbri 3 oedd creu stŵr a hwyl mawr, gan obeithio bod y criw yn defnyddio’r egni i berfformio ar y noson. Rwyf wedi sicrhau y cyfle i’r criw gael rhoi eu stamp, greddf a theimlad i’r sioe.

Dwi wir yn edrych ymlaen i’r criw gael rhannu’r sioe gyda’r gynulleidfa.Mae fy nisgwyliadau yn uchel iawn gan eu bod wedi rhoi 100% i bob agwedd o’r broses ymarfer.

Fedrai ddim pwysleisio cymaint y mae’r criw wedi datblygu dros y cyfnod.

Mae rhai wedi cymryd rhan mewn prosiectau blaenorol gyda Frân Wen ac mae eu gweld yn mentora’r criw ifanc yn anhygoel. Dwi’n gobeithio gwnaiff y criw i gyd gofio Sbri3 am byth, ac y gwnawn nhw barhau i fod mor hyfryd, talentog a chreadigol.

Mae yna Lygod mawr yn byw ymhob man yndoes? Ac yn ôl bob sôn, nhw fase’r unig anifail fase’n goroesi rhyfel niwcliar. ‘Sgwn i os yw hyn achos nad ydynt yn beirniadu cefndir llygod eraill?

Dwi ‘di bod yn lwcus iawn gan fy mod wedi bod yn gweithio’n agos efo’r cast yn ystod ymarfer sydd wedi gwneud y rôl o ddylunio gwisgoedd yn bleser. Dwi’n ‘nabod y criw yn dda iawn, ac felly mae’r gwaith o ddylunio tipyn haws gan fod modd portreadu eu hegni a’u personoliaethau drwy wead neu liw y defnyddiau. Ma’ na ddipyn o symud a bwrlwm felly mae’n bwysig fod y gwisgoedd yn adlewyrchu hynny.

Y her fwya ydi gwneud yn siwr fod gwisgoedd yr holl gast yn gweithio fel cyfanwaith ond eto ar yr un pryd yn unigryw i bob unigolyn.

Ges i amser anhygoel fel aelod o gast Sbri 1 a wnaeth i mi sylweddoli am y tro cyntaf bod unrhyw beth yn bosib – mae’n swnio’n ‘gawslyd’, ond roedd cael gweithio â chwmni proffesiynol a minnau ar fîn mynd i astudio i Brifysgol yn du hwnt o werthfawr. Mi ges i hyder i gredu fod modd i mi greu gyrfa yn y maes yr oeddwn i ar fin mentro i mewn iddo.

Mae wedi bod yn fraint cael gweithio â chriw o bobol ifanc mor ddawnus, ond nid yn unig hynny, mae eu parodrwydd i weithio’n galed a’u hegni wedi fy ysgogi- mae wedi fy ngadael yn geg agored ar brydia! Mae ‘na griw sbesial iawn yma!

TU

T

UU

TU

TU

UU

Page 9: SIOE GERDD NADOLIG I’R TEULU OLL...T U T U U T T U U U Byddaf yn cael llawer o ysbrydoliaeth o’r gerddoriaeth pan fyddaf yn creu dawns - ‘rwy’n hoffi gwrando ar y trac nifer

CAINCSETIAU A LLWYFANNAU AR GYFER TELEDU | THEATR | FFILMSETS & STAGE FOR TV | THEATRE | FILM

“POB LWC SBRI 3”

UNED 2STAD DDIWYDIANNOL CIBYNCAERNARFONGWYNEDDLL55 2BD

01286 677767

Page 10: SIOE GERDD NADOLIG I’R TEULU OLL...T U T U U T T U U U Byddaf yn cael llawer o ysbrydoliaeth o’r gerddoriaeth pan fyddaf yn creu dawns - ‘rwy’n hoffi gwrando ar y trac nifer

F

TGeibanY Bandana

Merch Ty Cyngor

Geraint Jarman

Diwrnod Braf

Pry Cry

Gwyl y Baban

Caryl Parry Jones

O! Na Mai’n Ddolig Eto

Frizbee

Dere Mewn

Colorama

Chwyldro

Gwenno

Anifail

Candelas

CÂn i Gymru

Datblygu

MASH-YP

Y Pethe Bach Wyt Ti’n Wneud

Eden

MASH-YP

TREFN CANEUON

HYD Y SIOE: 2 AWR

U

Sebona Fi

Yws Gwynedd

Colli Er Mwyn Ennill

Y Cyrff

Ar Goll

Swnami

Paid  Bod Ofn

Eden

Yma Wyf ‘innau i Fod

Geraint Lovgreen

egwyl( 15 munud )

ACT 1

ACT 2

Page 11: SIOE GERDD NADOLIG I’R TEULU OLL...T U T U U T T U U U Byddaf yn cael llawer o ysbrydoliaeth o’r gerddoriaeth pan fyddaf yn creu dawns - ‘rwy’n hoffi gwrando ar y trac nifer

Sbri 3rhagfyr 2016

Creu theatr a chyfleoedd i blant a phobl ifanc sy’n ysbrydoli’r dychymyg, y meddwl a’r galon yw gweledigaeth Frân Wen.

Mae’r cynhyrchiad Sbri 3 yn benllanw i flwyddyn brysur o weithgareddau cyfranogi a gyflwynwyd i bobl ifanc Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy yn amrywio o gynllun ‘sgwennu newydd (Sgript i Lwyfan), prosiect dyfeisio arbrofol (Ar y Stryd) i gynlluniau datblygu arloesol gan gynnwys Stiwdio Frân Wen a 7aith. Edrychwn ymlaen at gyflwyno rhagor o brofiadau celfyddydol ac uchelgeisiol i bobl ifanc yr ardal yn 2017! Ceir rhagor o wybodaeth ar y wefan www.franwen.com.

Page 12: SIOE GERDD NADOLIG I’R TEULU OLL...T U T U U T T U U U Byddaf yn cael llawer o ysbrydoliaeth o’r gerddoriaeth pan fyddaf yn creu dawns - ‘rwy’n hoffi gwrando ar y trac nifer

ENGLISH SYNOPSIS

STAGE SEtFOR FINALSbri...Hooray it’s Christmas!

The perfect excuse to eat too much, overspend on presents and throw the best party of the year.

Set in a fictional secondary school, the show features Welsh language pop and rock songs from the likes of Candelas, Bandana, Geraint Jarman, Caryl Parry Jones, Y Cyrff, Yws Gwynedd and Gwenno - a stellar song choice sure to appeal to both young and old.

The bright lights of Sbri 3 follows the fate of a group of school friends who are trying to arrange the party of the year.

“There’s only one problem - they have been banned from every reputable venue in the area,” said author Beth Angell.

“This will be the last chance we get to meet the Sbri characters, to feel the tension that exists between young people, to listen to popular songs, witness outstanding talent and discover how love can overcome differences.”

Rhys and Sophie join in the effort and are adamant to make it a party to remember. However, due to the bickering, the despair and lack of enthusiasm, organising the party becomes a burden to say the least. The two try to keep their friends in order and the saying “blood is thicker than water” becomes a reality for both of them.

Time is running out and enthusiasm is wavering, only time will tell if they can over-come the hurdles to show everyone – amidst the despair – that you can have SBRI!

Cwrs rygbi TAg ihyfforddwyr ifAnC

Cwrs dringo deuddydd dros hAnner Tymor

Cwrs hoCiwyThnosol yn ysgol

llAnrug

Cwrs AThleTAu bACh dros hAnner Tymor

Cwrs hwyliowyThnosol ym

mhlAs menAi

diwrnod o hwylyn AmlwCh

rhAi o gysTAdleuwyr rAs hwyl sion Corn A

misTAr urdd

blwyddyn newydd,

Profiadau newydd!

mae digon o ddewis o glybiau chwaraeon gan yr urdd yn eich ardal chi –ewch i’n gwefan www.urdd.cymru/fyardal am fwy o wybodaeth neu ffoniwch 01248 672 108.

Page 13: SIOE GERDD NADOLIG I’R TEULU OLL...T U T U U T T U U U Byddaf yn cael llawer o ysbrydoliaeth o’r gerddoriaeth pan fyddaf yn creu dawns - ‘rwy’n hoffi gwrando ar y trac nifer

YR HEN YSGOL GYNRADD, PORTHAETHWY, YNYS MôN, LL59 5HS(01248) 715048 | WWW.FRANWEN.COM | [email protected]

Gellir gweld rhagor o luniau o’r cyfnod ymarfer a’rperfformiadau ar www.franwen.com

DIOLCHIADAUDiolch arbennig i’r cyfansoddwyr am roi caniatâd i ddefnyddio’r caneuon.

Ysgol Syr Hugh Owen, CaernarfonYsgol yr Hendre, Caernarfon

Ymddiriedolaeth Elusennol

YNYS MôN / ISLE OF ANGLESEYCharitable Trust