Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym...

16
Bwle Bwle tin tin Cenhadol Cenhadol Rhif: 71 Hydref 2015

Transcript of Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym...

Page 1: Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Diolchwn am ffyddlondeb yr Arglwydd gan ofalu bod

BwleBwletintinCenhadolCenhadol

Rhif: 71Hydref 2015

Page 2: Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Diolchwn am ffyddlondeb yr Arglwydd gan ofalu bod

Gair o’r Swyddfa

Syched!

Yn dilyn sylw gan chiChwiorydd, mae’r Bwletinwedi cael clawr newydd.

Mae’n debyg bod cael rhifyn glasbob tro yn creu cymhlethdod a’chdymuniad oedd cael lliw neu lungwahanol. Felly dyma ddylunioclawr byddai’n gweddu’rtymhorau. Wrth gyflwyno rhifynyr Hydref, buan iawn bydd gwleddi’r llygad wrth deithio a cherddedo gwmpas pan fydd dail y coed ynnewid eu lliw. Coch, oren ac ambellun yn aros yn fytholwyrdd, tri lliwsy’n fy atgoffa o oleuadau traffic.Rhaid STOPIO am eiliad, oedi agorffwys, yn union fel y gwnaethIesu wrth deithio drwy Samaria aceisteddodd i lawr wrth y ffynnon. (Ioan4: 6)

Byddwch chi’n cael cyfle iorffwys? Ydych chi’n rhuthro o un

lle i’r llall – siopa, pwyllgorau,danfon y plant, ymweld, nôl ywyrion, cyfarfodydd, mae’n waithsychedig! Ond na phoenwch, maeAdran y Chwiorydd wedi dewisadnod sy’n mynd i fodloni’rsyched. Daw ein thema am yflwyddyn 2015-16 o Eseia 12adnod 3: ‘Mewn llawenydd fedynnwch ddwr o ffynhonnauiachawdwriaeth’. Ein bwriad fely llynedd i’w defnyddio’r themaym mhob gweithgareddChwiorydd ac eich annog chithauhefyd i wneud defnydd o’rdeunydd sydd wedi cael ei baratoi.Trowch i dudalen 4 i ddarllenmwy am y thema newydd.

Stopiwch am eiliad,gorffwyswch ym mhresenoldebDuw a gadewch Iddo ein bodloniwrth agosáu at ffynnon bywyd.

Eirian

2 – Bwletin Cenhadol Rhif 71

Page 3: Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Diolchwn am ffyddlondeb yr Arglwydd gan ofalu bod

Diolch ENFAWR i Adran yChwiorydd am eich haelioni achefnogaeth i’r Genhadaeth

yn Llanfair, Penrhys. Mae Llanfair yngalon y gymuned lle mae pobl yn proficroeso a chariad yng nghanolamgylchiadau anodd weithiau. MaeLlanfair yn rhoi mynegiant i’r ffaithnad yw Duw ‘allan yna’ yn gwylio, arwahân, ond yn byw, anadlu ymmywydau pobl y mae Duw yn caru ac iIesu ddangos tosturi.

Un o’n prosiectau yw caffi’rgymuned sydd ar agor tri diwrnod yrwythnos a dwy noson, mae’n chwaraerhan bwysig yn weinidogaeth Llanfair.Mae’n fan lle mae pobl yn teimlo’ngyfforddus i siarad am eu gofidiau,problemau a phryderon y gymuned.Prynodd Adran y Chwiorydd cwcer i’wddefnyddio ar gyfer ein caffi sydd wedibod yn ddefnyddiol iawn. Eleni, mae’rcaffi nos wedi dod yn fwy oweithgaredd teulu gyda rhieni yn dodâ’u plant i fwynhau a chymdeithasugyda’u ffrindiau. Gall noson brysurolygu 80-90 o bobl yn gyfan gwbl –her yn wir i’r gweithwyr agwirfoddolwyr!

Rydym yn mwynhau trefnugweithgareddau amrywiol yn ystodcaffi gyda’r nos gyda’n taflunydd (agyfrannwyd hefyd gan Adran yChwiorydd) sy’n cael ei ddefnyddio ynrheolaidd e.e. ar gyfer Karaoke,Ffilmiau a X ffactor. Mae’r taflunyddhefyd yn ddefnyddiol iawn ar gyferaddoliad fore Llun pan ddaw’r plant o

Ysgol Gynradd Penrhys, ar gyferAstudiaeth Feiblaidd Oedolion ac argyfer Ysgol Sul ac addoliad teuluolprynhawn Sul.

Mae gan Llanfair hefyd Siop gydaDillad bron yn newydd, gwerthuamrywiaeth o ddillad, esgidiau, teganaua llyfrau am bris rhesymol iawn. Maeein Clwb Gwaith Cartref yn cael eigynnal dwy noson yr wythnos - 2sesiwn cynradd ac 1 uwchradd. 12mlynedd yn ôl sefydlodd eingwirfoddolwyr o Malagasy ProsiectCrefft i’r Plant.

Ym mis Chwefror 2015, cynhalioddLlanfair Ymgynghoriad i adolygu eiwaith a chenhadaeth, daeth 50 o boblo’r gymuned a’r eglwysi cefnogol. Oganlyniad, mae 6 grwp wedi cael eusefydlu, pob un â’i hargymhellion eu

Bwletin Cenhadol Rhif 71 – 3

EGLWYS UNEDIG LLANFAIR,PENRHYS

Page 4: Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Diolchwn am ffyddlondeb yr Arglwydd gan ofalu bod

hunain. Yn annhebygol bydd Llanfairyn cael ei weinidog ei hun yn y dyfodolagos. Mae’r enwadau ategol bob amseryno i helpu, ond mae Llanfair yncyrraedd cyfnod pan mae angen iddogymryd ar fwy a mwy o gyfrifoldebdros ei fywyd ei hun. Un o’r rhain yw’rgofal neu magwraeth pobl y gymuned.Sut y gallwn fwynhau a rhannullawenydd y bywyd Cristnogol? YmMhenrhys, mae gan yr eglwyscyfleoedd arbennig iawn oherwydd eifod yn Eglwys Unedig Iesu Grist argyfer y gymuned gyfan. Yn ddiweddar,ymunodd 14 person 7 sesiwn ohyfforddiant ar gyfer y rhaglen

anogaeth sydd wedi ysgogi achyfoethogi eu bywydau ysbrydol.Mae’r cyfranogwyr wedi cael eu rhannuyn 4 grwp a byddant yn eu tro ynparatoi ac arwain AstudiaethauBeiblaidd wythnosol. Byddant hefyd ynarwain 6 gwasanaeth gwahanol ynystod yr wythnos ar gyfer pobl owahanol oedrannau. Rydym ynddiolchgar iawn i Dduw am y bennodnewydd cyffrous ym mywyd Llanfaira’n cymuned yn Penrhys.

Rebecca Rialte a Sharon Rees

4 – Bwletin Cenhadol Rhif 71

Thema am y flwyddyn 2015-16

Yn ystod y flwyddyn byddwch yn siwr o ddod yn gyfarwydd ar logo uchodwrth ddefnyddio deunydd Adran y Chwiorydd. Mae Sarah Morris wediparatoi gwasanaeth arbennig ar y thema ‘Mewn llawenydd fe dynnwch ddwr offynhonnau iachawdwriaeth’. Os dymunwch gopïau cofiwch gysylltu gyda mi ynswyddfa’r Chwiorydd, manylion ar y cefn neu Sarah Morris yng Nghaerdyddar 02920620424 neu anfon e-bost i [email protected] Bydd ythema yn ein helpu wrth gyflwyno gwaith yr Arglwydd ac yn ein harwain trwysawl gweithgaredd. Gweddïwn byddwch yn manteisio ar bob cyfle iddefnyddio’r adnod a’r gwasanaeth.

Page 5: Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Diolchwn am ffyddlondeb yr Arglwydd gan ofalu bod

Bwletin Cenhadol Rhif 71 – 5

DYDD GWEDDI BYD-EANGY CHWIORYDD:

Y Pwyllgor Cymraeg[Rhyngenwadol]

Cynhelir Cynhadledd Undydd,cyfle i baratoi ar gyfer

Dydd Gweddi Byd-Eang y Chwiorydd.Y gwasanaeth ar gyfer Mawrth 2016 wedi ei baratoi gan

Chwiorydd Cristnogol Ciwba, ar y thema:

“DERBYNIWCH BLANT. DERBYNIWCH FI”

Yn y Gogledd:Capel Bethel, Stryd Fawr, Prestatyn,Sir Ddinbych, LL19 9APDydd Iau: Tachwedd 12fed:10.00y.b - 3-00 y.p

Yn y De: Capel Heol Awst, Heol Awst,Caerfyrddin, SA31 3APDydd Mercher: Tachwedd 25ain: 10.00y.b - 1.00 y.p

Croeso i unrhyw un ddod i’r cyfarfodydd uchod, maent o fuddmawr i’r rhai sy’n trefnu’r gwasanaethau neu i’r rhai fydd yn

annerch ym mis Mawrth.

Daw mwy o wybodaeth i’ch cynrychiolydd lleoloddi wrth yr ysgrifennydd

Mrs Maureen Hughes, Llanrwst

Dosbarthwr y rhaglenni: Miriam Lewis, 6 Wynnstay Road, Hen Golwyn, Bae Colwyn, LL29 9DS

01492 515475

Page 6: Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Diolchwn am ffyddlondeb yr Arglwydd gan ofalu bod

6 – Bwletin Cenhadol Rhif 71

Mynd a dod…Coleg y Bala - mae cyfnod Jack Newbould ar ei flwyddyn gap wedi dod

i ben ers yr haf. Roedd yn berson hoffus iawn a thra roedd yma bu iddoroi 100% i'r gwaith. Cafodd gyfle i flasu llawer agwedd o waith y Coleg,arwain cyrsiau penwythnos ar y cyd, ymweld ag ysgolion lleol, cyrsiau CICAlffa a hyd yn oed chwarae gyda’r babanod yn ystod ‘Ti a Fi’. Roedd eigyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyncwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion.

Diolchwn am ffyddlondeb yr Arglwydd gan ofalu bod pobl ifanc yndewis dilyn cwrs hyfforddiant yng Ngholeg y Bala. Mae dau fyfyriwrnewydd wedi cyrraedd y Coleg ers mis Medi yn ystod eu blwyddyn gap.

Un o Fangor ydi Guto Gwyn Evans, yn aelod yng Nghapel Penrallt. Yngynharach eleni bu iddo gwblhau cwrs lefel A yn Ysgol Tryfan a dilyncwrs ar y cyd yng Ngholeg Menai. Bydd y flwyddyn yma yn hanfodol iGuto, gan roi cyfle iddo weld beth sydd gan Dduw ar ei gyfer mewnaddysg bellach neu gwasanaethu yng ngwaith yr Arglwydd. Gofynnwn ameich gweddïau i’w helpu i wneud penderfyniadau pwysig am ei ddyfodol.

Mae Carly Dittert wedi teithio llawer mwy na Guto, mae ei chartref ynTexas, America. Yn 2013 derbyniodd Gradd mewn Addysg Uwchraddwedi arbenigo ym Mathemateg. Mae hi wedi treulio’r ddwy flynedddiwethaf yn dysgu mewn Ysgol Uwchradd ond derbyniodd alwad ganDduw i ddod i Goleg y Bala. Fel Guto fydd y flwyddyn yma yn rhoi amseriddi baratoi at ei dyfodol, fydd yn cynnwys priodi ei dyweddi, William.Gweddïwn bydd ei hamser yn Bala yn rhoi arweiniad iddi a bydd cyfle iddiwasanaethu’r Arglwydd pan ddaw’r amser iddi ddychwelyd i Texas. Ynbarod mae posib cynnal sgwrs gyda hi yn Gymraeg, anhygoel!

Page 7: Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Diolchwn am ffyddlondeb yr Arglwydd gan ofalu bod

Ar Orffennaf 16eg, 2015ymunodd cymuned Ysbyty Dr H.Gordon Roberts, ynghyd âchyfeillion yr ysbyty a chleifion,achlysur byr a difrifol erAnrhydedd i gofio a dathlu pen-blwydd sefydlydd yr ysbyty, ParchDr Hugh Gordon Roberts yn 130oed. Cafodd yr achlysur eigadeirio gan Dr David Tariang,Uwch-arolygydd Meddygol.

Eglurodd Dr Tariang “Hwnydi’r tro cyntaf i ni anrhydeddupen-blwydd Dr Roberts yn hanesyr ysbyty, a bydd yn ddigwyddiadblynyddol o hyn ymlaen. MAE’NDDYLETSWYDD ARNOM”.Yn ystod y tair blynedd diwethafmaent hefyd wedi cofio pen-blwydd marwolaeth Dr Roberts afu farw ar 20fed o Ragfyr 1961.

Yn dilyn canu’r emyn “da yw dyffyddlondeb”, darllenwyd y Gair agweddi gan TBn. K. T. Rynjah,Swyddog Gweinyddol. RhoddoddDr David Tariang hanes byr ofywyd Dr Roberts a oedd wedigwneud y fath ymrwymiad i fyndi’r Bryniau fel Meddyg Cenhadol.

Parch W. C. Khongwir,Cadeirydd yr Ysbyty oedd ysiaradwr gwadd a gosododdGarlant o flodau ar benddelw DrRoberts.

Ychwanegodd Dr Tariang,“Roedd yn haeddu pob clod staffyr Ysbyty a’r gymuned yn ei

COFIO PARCH DR.GORDON H. ROBERTS

Bwletin Cenhadol Rhif 71 – 7

Dr. David Tariang

Page 8: Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Diolchwn am ffyddlondeb yr Arglwydd gan ofalu bod

chyfanrwydd. Rydym yn diolch iDduw am ei fywyd, ac yr ydym yndiolch i Dduw am bobl Cymrusydd wedi codi’r dyn anhygoelyma ac sydd wedi gwneud cymainto effaith ym mywydau llawer ......”

Daeth y cyfarfod i ben gyda gairo weddi a’r fendith o danarweiniad y Parch W. C.Khongwir.

8 – Bwletin Cenhadol Rhif 71

Rhai o weithwyr yr Ysbyty wedi ymuno â’r gwasanaeth

Page 9: Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Diolchwn am ffyddlondeb yr Arglwydd gan ofalu bod

Bwletin Cenhadol Rhif 71 – 9

PRYNWCH FEIBL I’CH YSGOL LEOLMae’n debyg mai’r Beibl yw’r llyfr gyda’r gwerthiant uchaf yn y byd acmae ar gael yn 531 o ieithoedd, gan gynnwys, wrth gwrs, Cymraeg. Ymmis Tachwedd eleni cyhoeddir dau Feibl Cymraeg newydd o fersiwnnewydd sbon sef, beibl.net Mae un ohonynt yn fersiwn llawn o’r Beibla’r llall yn Feibl lliw i blant. Mae’r fersiwn honyn defnyddio Cymraeg cyfoes fel bod pobl obob oed yn cael darllen Gair Duw mewn iaithgyfarwydd, bob dydd.Gyda llai a llai o blant a phobl ifanc ynmynychu capel ac Ysgol Sul, dyma gyfle gwychi ni gynnig Gair Duw iddynt. Beth am ystyriedprynu copïau o’r Beiblau deniadol i’ch ysgolionlleol? Cewch archebu drwy Cyhoeddiadau’rGair, a cyn Hydref 31ain maent ar gael ambris gostyngol. www.ysgolsul.com

Y GRONFA GROESOMae £3,000 wedi ei anfon o’r Gronfa Groeso i gais daeth ganY Parchedig Catrin Roberts, Cyd-lynydd gwaith CymorthCristnogol. Yn ystod 2017 bydd apêl pum mlynedd yCyfundeb yn casglu arian i Ynysoedd y Phillippines. BwriadCymorth Cristnogol ydi anfon cynrychiolwyr draw i ymweldâ’r Ynysoedd i gasglu gwybodaeth. Rydym hefyd yn falch oroi Apêl Cymorth Cristnogol ar ein rhestr o AmcanionArbennig gan sicrhau cyfraniad o Gasgliad y Chwiorydd i’rachos teilwng yma. Edrychwn ymlaen at glywed pwy fydd ynymweld â’r ynysoedd a chlywed mwy am y prosiect yn ystod yparatoi.

Page 10: Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Diolchwn am ffyddlondeb yr Arglwydd gan ofalu bod

SASIWN GENHADOLCYMRAEG YGOGLEDD

Cynhaliwyd y Sasiwn eleni yngNghapel Cymraeg Unedig SeiloLlandudno. Roedd cynulleidfadda yn y ddau gyfarfod,estynnwyd croeso i bawb ganLywydd cyfarfod y prynhawnBeryl Jones, Bae Colwyn.Cafwyd eitemau gan blant YsgolMorfa Rhianedd.

Oherwydd gwaeledd y ParchCasi Jones, daeth MennaMachreth, CydlynyddCymdeithas Genhadol yBedyddwyr i siarad yngnghyfarfod y prynhawn. Bu ynsôn am y pwysigrwydd o rannuein ffydd gyda phawb, fel mae’rcorff angen bwyd a diod, maeangen bwyd ysbrydol arnomninnau trwy wrando ar bethmae’r Iesu’n ddweud wrthym.Terfynodd trwy weddi yn gofyn iDduw ein defnyddio ni trwy einffydd.

Llywydd cyfarfod yr hwyr oeddY Parch Eirlys Gruffudd, YrWyddgrug a chafwyd eitemaugan blant Ysgol Sul Seilo. Ysiaradwraig oedd Delyth WynDavies, Chwilog, swyddogDysgu a Datblygu gyda’r EglwysMethodistiaid, ei phwnc oedd‘Discipleship’, roedd wedi caelhi’n anodd ei gyfieithu efallaimeithrin disgyblaeth, bu yn sônam y gwahanol agweddau megisgwrando a gweithredu. Maeclwstwr bach ohonom yn ycapeli ond mae pob un yn rhano gymdeithas mwy megis gwaith,ysgol, cartref a’r gymdeithas o’ncwmpas.

Cyflwynodd y Parch EirlysGruffudd y diolchiadau i bawb agymerodd rhan gan wneudSasiwn llwyddiannus, yn sicrcawsom gras a bendith wrthfynychu’r cyfarfodydd eto eleniac edrychwn ymlaen i’r Sasiwnflwyddyn nesaf yng NghapelJerwsalem, Bethesda.

Margaret Jones

10 – Bwletin Cenhadol Rhif 71

ADRODDIADAU O’RSASIWN

Page 11: Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Diolchwn am ffyddlondeb yr Arglwydd gan ofalu bod

Bwletin Cenhadol Rhif 71 – 11

Eleni, cynhaliwyd ein rali ar ddyddMercher, Mai 13eg ar ddiwrnodbendigedig o braf yn Eglwys Ebeneser,Hwlffordd, Sir Benfro. Croesawyd yParch Neil Kirkham i gyflwyno eianerchiad gan ein Llywydd, MrsChristine Hodgins. Roedd Neil wediymweld â Phalas Lambeth yn ddiweddarar gyfer cynhadledd i ddathlu undodCristnogol, ac fe esboniodd y pumpwynt a godwyd yn y cyfarfod hwnnw;Rydym yn datgan Crist Iesu fel Arglwydda Gwaredwr; Natur bod yn ddisgybl;Gwasanaeth i’r Arglwydd yn seiliedig argariad; Adeiladu gwerthoedd y deyrnas; astiwardiaeth gyfrifol o’r greadigaeth.

Cyfrifoldeb yr Eglwys yw ‘tyfu pobl’, achreu disgyblion a gaiff eu danfon allanfel cenhadon, nid yn unig dramor ond ofewn eu cymunedau eu hunain; i fwydo

ein pobl gyda’r efengyl, i weddïo’ngorfforaethol ac mewn grwpiau bychain,i ofalu amdanynt, eu meithrin a’u carugan eu hannog i dyfu mewnadnabyddiaeth o Iesu Grist; comisiwnmawr Iesu oedd EWCH. Dylid arfogipob crediniwr i gyflwyno eu tystiolaeth agallu rhannu stori’r Efengyl gan wybodein bod wedi ein hachub rhag uffern acwedi ein cymodi â’n Tad Nefol.Gorffennodd Neil ei anerchiad trwy einherio i weddïo’n daer dros bum person.

Yn dilyn canu ein hemyn olaf, daethChristine â phethau i ben gyda’r fendith.Wedi gwasanaeth bendigedig, roedd tesylweddol wedi ei baratoi ar ein cyfer ganferched yr eglwys. Mor braf oeddrhannu cyfeillach fel hyn ac edrychwnymlaen at gyfarfod unwaith eto.

Gwenda E. Innes

SASIWN CENHADOL SAESNEG Y DE

SASIWN GENHADOL CHWIORYDD Y DECynhaliwyd Sasiwn Genhadol

Chwiorydd y De ar Fai 21ain ynEglwys y Tabernacl, Aberteifi. Yllywyddion oedd Parch Llunos Gordona Margaret Jones, Llywydd y Sasiwn.

Cafwyd anerchiad hollol ddidwyllgan Steffan Morris, bachgen ifanc sy’nparatoi at y Weinidogaeth.Dangoswyd fideo o’r Cwrs Ieuenctid‘Dilyn Fi’ yng Ngholeg y Bala; herCristnogaeth i ieuenctid heddiw a’rymateb sydd i’r her honno trwy ddilynCrist. Diolchwyd am y gefnogaethariannol y mae’r gwaith ieuenctid yngNgholeg y Bala yn ei dderbyn ganAdran y Chwiorydd. Yna cronicloddSteffan, trwy ddefnyddio hanes Jonah,ei hanes ysbrydol ef ei hun; ei fodwedi teimlo’r alwad yn ifanc ond ynofni ymateb ei ffrindiau a’i gydnabod.

Ms Carol Hardy, Cydlynydd yprosiect ‘Estyn Llaw’ ‘Stafell Fyw,Caerdydd, oedd siaradwraig wadd yrhwyr. Mae ‘Stafell Fyw yn Ganolfanddyddiol ar gyfer pobl sy’n gaeth ialcohol, cyffuriau a mathau eraill oddibyniaeth. Mae’n Ganolfangroesawgar, cyfeillgar a chysurus gyda’rpwyslais ar ‘Beth allwn ni ei wneud i’chhelpu chi heddiw?’ Cafwyd gan Carolgronicl bersonol, gonest, a dirdynol o’iphrofiadau hi ei hunan a’i dibyniaeth aralcohol, ac yn yr awr dywyllaf ynteimlo’r wefr a’r llawenydd oddarganfod y gobaith newydd yn Nuw.Diolchwyd yn gynnes i bawb a fuynglyn â’r trefniadau ac am y wledd abaratowyd ar ein cyfer.

Nans Couch

Page 12: Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Diolchwn am ffyddlondeb yr Arglwydd gan ofalu bod

12 – Bwletin Cenhadol Rhif 71

Oherwydd y patrwm diweddargyda llai o niferoedd ynmynychu’r Sasiynau Cenhadol,penderfynwyd y byddem yn rhoicynnig ar weledigaeth newydd argyfer 2015. Y thema a ddewiswydgennym ar gyfer yr achlysur oedd‘Dathlu Cenhadaeth’.

Y syniad oedd cynnal ydigwyddiad ar ffurf cyfarfodydd‘clwstwr’, gyda chwe cyfarfodclwstwr yn lle un cyfarfod sasiwnyn cael eu cynnal dros ddauddiwrnod yn ein Cymdeithasfa.Roedd ein gweithwyr cenhadol yngweithio gyda’i gilydd ar y ddau

ddiwrnod, gan ymweld â thrichyfarfod pob dydd er mwyniddynt esbonio natur y gwaith ymaent yn ymwneud ag o. Roeddhyn yn fodd o dynnu sylw atwaith cenhadol yn lleol yn hytrachnag ar brosiectau cenhadaethdramor. Cafwyd ymateb da iawni’r sgyrsiau hyn ac roeddent yngyfle ar gyfer dathliad achyfeillach gan gynnigmewnwelediad arbennig i’r gwaithsy’n mynd rhagddo gennym i’rrhai a ddaeth ynghyd.

Hoffem gyflwyno eindiolchiadau eto am y lletygarwch a

SASIWN CENHADOL Y DWYRAIN (GOGLEDD)SAESNEG

Capel Moreton, Wirral

Page 13: Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Diolchwn am ffyddlondeb yr Arglwydd gan ofalu bod

ddarparwyd ym mhob lleoliad aci’r timau arweiniodd pob cyfarfodclwstwr. Roedd yr adborth o’rdigwyddiadau yn galonogol, gydamwy o bobl wedi mynychu elenina’r swm arferol mewn SasiwnGenhadol. Mae gwersi i’w dysgufodd bynnag: roedd yr amserlenafrealistig yn golygu ei bod hi’ndipyn o farathon i’r rhai hynny o’rtimau cenhadaeth oedd yn teithioo fan i fan. Nodwyd hefyd efallaiy dylid canolbwyntio ar anghenioncynulleidfaoedd lleol mewncyfarfodydd i’r dyfodol.

Ond arbrawf newyddllwyddiannus! Un y gallwnadeiladu arno yn 2016.

Glenys Fogg

Bwletin Cenhadol Rhif 71 – 13Capel Trinity, Wrecsam

Agor y Llyfr

Page 14: Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Diolchwn am ffyddlondeb yr Arglwydd gan ofalu bod

14 – Bwletin Cenhadol Rhif 71

PROSIECT NEWYDD AR GYFER2015-16

Mae gan Adran y Chwiorydd newyddioncyffroes am brosiect newydd ar gyfer ein tymornewydd o waith. Rhywbeth gallwn wneudgyda’n gilydd er budd plant bach anghenus.Mae’r prosiect Dress a Girl Around the Worldyn gynllun i greu ffrogiau a siorts allan o gasgobennydd neu unrhyw ddefnydd sbâr syddgennych. Mae patrwm hawdd i’w ddilyn ar gaelo’r swyddfa yma neu os ydych yn defnyddio’r we neu facebook mae cyfarwyddiadau syml

i’w cael wrth ymweld â’r wefanwww.dressagirlaroundtheworld.co.uk

Os ydych ddim yn un am wnïo ac ynmwynhau gwau, mae patrwm hefyd i wau tedibach del i roi ym mhoced y ffrog. Felly, betham sefydlu grwp gwnïo neu wau yn eich ardalchi, yn eich festri neu neuadd. Mae gwaith argyfer pawb, torri allan y patrwm, gwnïo,smwddio a bydd pawb angen paned a chacenwrth gwrs!

Ar y wefan mae’n egluro bod pobl o bob rhano’r byd yn dod at ei gilydd am ddiwrnod neufin nos gan eu bod yn credu bod pob merch ynhaeddu’r urddas o berchnogi o leiaf un ffrog.

Page 15: Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Diolchwn am ffyddlondeb yr Arglwydd gan ofalu bod

Bwletin Cenhadol Rhif 71 – 15

Y Gronfa Argyfwng...Ar Ebrill 25ain 2015 gwynebodd trigolion Nepal amser anodd iawno ganlyniad i ddaeargryn erchyll. Collwyd miloedd o fywydau,dinistriwyd llawer o adeiladau ac roedd 6.6 miliwn o bobl wedi euheffeithio. Yn ystod Encil flynyddol yr Adran penderfynwyd anfon£4,000 at yr Apêl o’r Gronfa Argyfwng. Bu i’r arian fod o gymorth ianfon bwyd, dwr, blancedi, pebyll, cymorth meddygol a nwyddau t y.Parhawn i gofio amdanynt yn ein gweddïau.

Yn ystod y misoedd diwethaf rydym wedi dilyn y newyddion adarllen yn ein papurau dyddiol am y miloedd o ffoaduriaid yn mudo iddiogelwch. Mor drist ydi tystio dynion ifanc, merched a phlant ynrhedeg i dderbyn lloches mewn gwlad saff. Cymaint sydd wedi collieu bywyd. Teuluoedd wedi eu gwahanu a phob un yn gadaelcymaint ar ôl. Penderfynwyd yn ystod Pwyllgor Blynyddol Adran yChwiorydd ar Fedi’r 9fed i anfon £3,000 o’r Gronfa Argyfwng ihelpu’r sefyllfa ddyrys yma.

Daeth ceisiadau ychwanegol i law’r swyddogion a thrysoryddion ySasiynau, derbyniodd y canlynol arian oedd yn weddill o’r CasgliadArbennig eleni. Cwrs Ieuenctid Coleg y Bala - £3,000 (y cais yma yncael ei roi ar restr Amcanion am y tair blynedd nesaf); Banc BwydPort Talbot - £500 cais trwy law Bethan Davies, GweithiwrCenhadol, Henaduriaeth Morgannwg/Llundain a ChapelChristchurch, Croesoswallt - £100 cais trwy law Caroline Hodgins.Gweddïwn fendith ar waith y ceisiadau uchod.

Page 16: Bwletin Cenhadol...gyfraniad yn werthfawr iawn a dymunwn bob bendith wrth iddo ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Diolchwn am ffyddlondeb yr Arglwydd gan ofalu bod

Swyddfa Adran y ChwioryddColeg y Bala, Y Bala, Gwynedd, LL23 7RY

( 01678 520 0658 [email protected]

Cysodwyd gan Aeron Jones, Ty’n y Cefn, Llanuwchllyn 07729 960484Argraffwyd gan WPG, Y Trallwng 01938 552260