Marwolaeth David Thomas - Microsoft · 2017. 9. 25. · unrhyw gyfraniad at y drosedd. Stori...

8
9

Transcript of Marwolaeth David Thomas - Microsoft · 2017. 9. 25. · unrhyw gyfraniad at y drosedd. Stori...

  • 9

  • 2

    Yn 1885, roedd ffermwr a gwerthwr gwartheg ynbyw ar Fferm Stallcourt, Llanfleiddan. MaeLlanfleiddan yn bentrefan darluniadwy ar gyriony Bont-faen ym Mro Morgannwg.

    Roedd David yn adnabyddus ac yn boblogaidd yn yrardal, a chydag enw da am ei haelioni. Fodd bynnag,roedd David hefyd yn graff ac ni ddylid manteisio arno.

    Roedd yn hoff o alcohol, ond nid oedd yn yfed gormod.

    Roedd David yn briod ac roedd ganddo lawer o blant.Treuliodd rai blynyddoedd yn America ac roedd pobl ynei alw'n aml 'The Yankee' yn rhannau o Dde Cymru lleroedd pobl yn ei adnabod.

    Ar 30ain Hydref 1885, gadawodd Mr Thomas ei gartrefcyn 9am a dal y trên o'r Bont-faen i'r farchnad yn Nhreorci.

    Pan gyrhaeddodd, derbyniodd £60 oedd yn ddyledusiddo. Ymhlith yr aur a roddwyd iddo gan ddyn o'r enwJenkins, daeth David o hyd i sofren gyda thwll ynddi.

    Rhoddodd Mr Thomas yr holl arian rhydd mewn bagcanfas roedd yn ei gario'n rheolaidd. Yna aeth i gael ciniomewn tafarn yn y dref a mwynhaodd ddiod gydagychydig o ffrindiau.

    Ar ôl ymweld ag un neu ddau o leoedd eraill gerllaw,aeth y gwerthwr gwartheg am adref. Cyrhaeddodd yrorsaf drenau yn y Bont-faen tua 8.30pm.

    Roedd wedi yfed alcohol ond roedd yn dal i allu cynnalbusnes, wrth iddo dderbyn rhagor o arian gan ffermwryn y Bont-faen. Cerddodd y dyn hwn gyda Mr Thomasi'r Duke of Wellington Inn, lle roedd y ddau yngwsmeriaid adnabyddus rheolaidd. Tra'n yfed alcohol,gwnaeth Mr Thomas gyffroi a bod yn arbennig o haelgyda'i arian, gan ddangos y bag canfas trwm i'r hollgwsmeriaid a oedd yno.

    Yfed gyda'r bobl leol Roedd hen ddyn o'r enw Edward Roberts yn y bar.Roedd wedi bod yno ers tua 7.45pm.

    Nid oedd gan Edward Roberts, a'i fab David Roberts,enwau da.

    Roedd Edward yn llifiwr ac yn byw mewn bwthyn bachdwy ystafell ar ei dir ei hun o fewn chwarter milltir i

    Fferm Stallcourt. Roedd y tad a'r mab, yr olaf yn tua 28oed, yn adnabyddus iawn yn yr ardal, ond nid oeddllawer o bobl am wneud unrhyw beth â hwy. RoeddDavid Roberts yn benodol yn cael ei osgoi a'i anwybyddugyda rhai eithriadau.

    Roedd David Roberts yn ddyn trwm di-foes gydamynegiant swrth a mwstash tywyll a thrwchus. Foddbynnag, roedd ef a'i dad yn deyrngar i'w gilydd ac ni ellideu gwahanu. Roeddent yn byw ar eu pen eu hunain yneu bwthyn. Roedd David wedi dychwelyd tua thri mis yngynharach ar ôl gwasanaethu yn y fyddin.

    Ymunodd David â'i dad yn y dafarn ychydig cyn i MrThomas gyrraedd. Nid oedd gan David unrhyw arianfelly talodd ei dad am y diodydd. Gwnaeth trydydd dynymuno â hwy, sef John Thomas; nai y gwerthwrgwartheg.

    Cyrhaeddodd Mr Thomas y Duke of Wellington am 9pmac ymunodd â grŵp y Roberts, gan dalu am y rowndgyntaf o ddiodydd. Cymerodd yr arian o'r bag canfas adywedodd yn ymffrostgar: "Dwi'n fodlon benthyca £20 iunrhyw un yma", ac ysgydwodd y bag trwm ar y bwrdd.Pan na wnaeth unrhyw un fanteisio ar y cyfle, rhoddoddThomas y bag o'r neilltu, ac estynnodd wahoddiad i'rRoberts' a'i nai i ymuno ag ef mewn gêm o gardiau.

    Roedd Edward Roberts yn rhy feddw i chwarae asyrthiodd i gysgu ar setl yng nghornel yr ystafell. Ondgadawodd y dafarn am 11pm gyda'r rhai eraill.

    Marwolaeth David Thomasyn y Bont-faen, 1885

    “Llofruddiaeth yn y Storm”

    The Duke of Wellington Inn, High Street, Cowbridge.

  • 3

    Cafodd y pedwar ohonynt eu gweld yn mynd i gyfeiriadeu cartrefi gyda'i gilydd. Aethant i lawr Church Street,gyda Thomas a'i nai ar y blaen, a'r ddau Roberts yn dilyn.Ar ôl mynd i lawr Church Street, gwnaethant groesicamfa ar ochr dde'r ffordd, yn erbyn Melin y Dref, ilwybr troed a oedd yn arwain i Fferm Stallcourt.

    Roedd y tywydd wedi bod yn wlyb ac yn wyntog iawndrwy'r dydd, a chyda'r nos roedd gwyntoedd cryfion;gyda'r glaw yn dod i lawr yn drwm. Roedd yn chwythu'ngorwynt pan adawodd y dynion y dafarn, ac nid oeddentyn gallu gweld ble roeddent yn mynd yn dda iawn nac yngallu cadw'n ddi-sigl.

    Roedd y llwybr troed bron o dan ddŵr, ac roedd y caeaucyfagos fel corsydd. Nododd David Thomas, a oedd yngymharol sobor er ei fod wedi bod yn yfed drwy'r dydd, eibod "y noson waethaf ers yr holl flynyddoedd roedd wedibyw yno." Syrthiodd yr hen Roberts, a oedd yn sicr ynfeddw, ddwywaith ond cafodd ei godi a'i gefnogi gan ei fab.

    Er mwyn mynd i'w bwthyn, byddai Edward a DavidRoberts fel arfer yn gadael Mr Thomas ar y pwynthwnnw ac yn mynd heibio i Felin y Dref i'r chwith.

    Cysylltodd gwraig a oedd yn byw drws nesaf i'r bwthynyn ddiweddarach i ddweud yr aeth i'w gwely ychydigwedi 11pm y noson honno. Ychydig yn ddiweddarach, ernad oedd yn siŵr faint, cafodd ei deffro gan sŵn cerddedyn y bwthyn nesaf ac roedd dau ddyn yn siarad. LleisiauDavid Roberts a'i dad oeddent.

    Llofruddiaeth FfiaiddAm 7am drannoeth, daeth dyn o'r enw BenjaminWilliams ar draws rhywbeth gwarthus ar ei fforddi'r gwaith: daeth o hyd i gorff dyn hanner fforddrhwng y gamfa ym Melin y Dref a Fferm Stallcourt.

    Roedd y dyn wedi'i lofruddio mewn ffordd ofnadwy offyrnig.

    Roedd y pen a'r wyneb wedi'u curo cymaint fel na ellid eiadnabod. Roedd anafiadau ofnadwy i gefn ei ben, dauanaf rhiciog i'w wyneb, ac un anaf ar ochr ei drwyn, ganfynd drwodd i asgwrn ei benglog. Mae'n rhaid bod yranaf olaf hwn, a wnaed gyda rhywbeth trwm a phŵl,wedi bod yn farwol ar unwaith.

    Stopiodd y glaw tua 2am ond gan fod dillad y dyn marwyn wlyb, roedd yn amlwg ei fod wedi'i ymosod a'i laddcyn hynny. Roedd ei bocedi'n wag ac nid oedd unrhywarian arno. Roedd llyfr nodiadau ac un neu ddau bethbach arall, ond dyna'r cwbl.

    Aeth yr heddlu yno'n gyflym, a chafodd y corff eiadnabod ar unwaith fel David Thomas. Cafodd ei gludoar ysgol i'w dŷ ei hun. Gwnaeth y Roberts iau, gyda'i dad,a gafodd eu denu yno, helpu i'w gario i'r tŷ; rhywbeth adrafodwyd yn fawr wedyn.

    Ar noson y llofruddiaeth a ddygodd Mrs Thomas o'i gŵr,breuddwydiodd fod rhywun agos iawn ati wedi bodmewn damwain, a arweiniodd at farwolaeth. Yn eibreuddwyd gwelodd ddynion yn rhedeg o'r safle. Roeddy freuddwyd mor fyw, wrth godi'r bore wedynoherwydd ei dychryn am nad oedd ei gŵr wedi dodadref, soniodd wrth ei phlant, a oedd yn eu gwely, am yfreuddwyd.

    O fewn 20 munud i'r sgwrs hon, tra bod pawb ynpendroni ble roedd, cafodd wybod bod ei gŵr wedi'iladd o fewn tafliad carreg i'r tŷ. Roedd Mrs Thomas a'iphlant yn drallodus, ac am beth amser roedd yn wallgof.

    Cyflawnwyd y llofruddiaeth o fewn 200 llathen i dŷMrThomas, a 500 llathen o fwthyn o'r enw 'The OldKennels' ar waelod y bryn.

    Roedd gan David Thomas, 48 oed, bedwar o blant;roedd yr hynaf yn 16 oed. Roedd nai David, JohnThomas, 23 oed, newydd briodi ac yn gweithio mewnsiop fara yn Llanfleiddan.

    Am beth amser, roedd John yn cael ei amau o gymrydrhan yn y drosedd a chafodd ei arestio.

    Fodd bynnag, profwyd ei fod wedi gadael y diweddarwrth y gamfa ac wedi mynd i'w gartref ei hun. Cafodd eiryddhau o'r ddalfa yn yr ymchwiliad ynadol cyntaf.

    Cariad mab ymroddedigGweithredodd yr heddlu yn gyflym ac arestioddEdward Roberts a'i fab, gan mai hwy oedd y boblolaf i gael eu gweld gyda'r dyn a lofruddiwyd.

    Gwadodd y ddau eu bod yn euog, gyda David yn dweudwrth ei dad: "Mae hyn yn beth da, dad, beth ti'n eiddweud?"

    I hyn, atebodd Edward Roberts: "Dwi ddim yn gwybodunrhyw beth am hyn. Ni welais Mr Thomas neithiwr ogwbl."

    Roedd y sylw hwnnw'n amlwg yn anwir. Cadarnhaoddsawl tyst fod y pedwar dyn yn yfed gyda'i gilydd yn y

    Stallcourt Farm, home of the murdered man

  • 4

    Duke of Wellington, a'u bod wedi gadael y dafarn gyda'igilydd.

    Nododd Edward Roberts ei fod wedi bod mewn cwsgmeddwol yr holl amser roedd yn y dafarn, ond cafoddhynny ei wrthbrofi gan y landlord a nifer o'r cwsmeriaid.

    Cafodd bwthyn y Roberts ei chwilio a daethpwyd o hyd ihances boced waedlyd yn cynnwys £66 mewn aur, asofren gyda thwll ynddi, mewn cwpwrdd tywyll.

    Drannoeth, daeth yr heddlu o hyd i filwg a oedd gydagolion gwaed arno, ond ar ôl ei ymchwilio, ni allaidadansoddwr dyngu mai gwaed dyn ydoedd. Y mwyaf ygallai ei ddweud yn sicr oedd mai gwaed mamal ydoedd.

    Pan holwyd Edward Roberts am y bilwg, dywedodd: "Fyun i ydyw, ond dwi ddim yn gwybod unrhyw beth arallamdano."

    Roedd y meddyg a archwiliodd y corff gyntaf o'r farn ygallai'r anafiadau fod wedi'u hachosi gan arf o'r fath.

    Dau neu dri diwrnod ar ôl i'r dynion fynd i'r ddalfa,gwnaeth swyddog ddigwydd clywed sgwrs rhyngddyntyng nghoridor gorsaf yr heddlu.

    Dywedodd Edward Roberts: "Mae'n beth drwg eu bodnhw wedi dod o hyd i'r holl arian arno, ac yntau hebunrhyw beth y noson gynt."

    Nododd y carcharor oedrannus: "Gall ddweud ei fod yncynilo ar gyfer y Nadolig."

    Atebodd David Roberts: "Ie, mi ddyweda i fy mod yncynilo i brynu dillad newydd neu rywbeth felly."

    Heblaw am y sgwrs hon, nid oedd llawer o dystiolaeth ogyfranogiad Edward Roberts at y drosedd. O ystyrieddifeiad y mab o'i dad, roedd yn annhebygol y byddairheithgor yn collfarnu'r hen ddyn.

    Roedd David Roberts yn benderfynol o glirio ei dad ounrhyw gyfraniad at y drosedd. Stori Edwards oedd eifod yn rhy feddw a chysglyd i gofio unrhyw beth. Foddbynnag, pe byddai hynny'n wir, gall fod wed gwybod neugymryd rhan yn y broses o guddio'r arian. Golyga hyn eifod yn gefnogwr o hyd. Clywodd y cymydog drws nesafy dynion yn siarad ac yn symud o gwmpas, ac nid yw hynyn cyfateb â chyfrif David fod ei dad mor feddw na allaisiarad na gweithredu.

    Roedd Edward Roberts yn 60 oed ac wedi'i gyflogi ganMr James, adeiladwr yn y Bont-faen. Helpodd David eidad gyda mân swyddi hefyd fel llifiwr hyd nes ei fod yn 20oed. Roedd wedi bod yn wyllt ac yn ystyfnig erioed acnid oedd gan lawer o bobl bethau da i ddweud amdano.

    Yn 1877, ymrestrodd David yn y Sgotiaid Brenhinol.Gwasanaethodd am saith mlynedd, ond treuliodd bumpo'r rheini yn y carchar am droseddau milwrol. Cafodd eiryddhau o'r diwedd am nad oedd gwella arno.

    Y CyfaddefiadUnig nodwedd gymeradwy David oedd ei ymroddiad di-droi i'w dad, a hyn, heb amheuaeth, a arweiniodd at ycyfaddefiad canlynol:

    “Ar noson 30ain Hydref 1885, roeddwn yn y tŷ lledwi'n byw yn Llanfleiddan rhwng 7 ac 8 o'r gloch.Daeth John Thomas, nai y diweddar, ata i a gofyn afyddwn i'n mynd i'r Bont-faen. Dywedais nad oeddwnam fynd am ei bod mor wlyb a gwyntog. Dywedoddwrtha i pe byddwn i'n mynd gydag ef na fyddwn i'nsefyll allan yn y glaw. Roeddwn i'n gwybod wedyn bethroedd yn ei feddwl, roedd yn golygu mynd am ddiod,ac felly fe aeth i dafarn Warren. Cawsom "blue" yrun, ac yna gadael i fynd adref, ond aethom i'r "Dukeof Wellington" a dywedais, "Beth am weld a yw fynhad yno." Felly fe aethom i mewn ac roedd fy nhadyno, a David Thomas, Evans y Ceidwad, a Lewis amab Warren. Gofynnais am ddau "blue" o gwrw, ytalodd fy nhad amdanynt. Yna cawsom ychydiggemau o gardiau am gwrw. Yna gwnaethom "shookthe hat" am fwy o gwrw, a daethpwyd â'r cwrw agollwyd i mewn a chafodd ei yfed o fewn y cwmni.Roedden ni yn nhafarn y "Duke of Wellington" tan 11o'r gloch.

    "Gwnaeth David Thomas, ei nai, fy nhad a minnauadael y dafarn gyda'n gilydd ac roedd yn noson wylltiawn. Aethom gyda David Thomas hyd at Felin y Drefac yna gwnaethom ei adael. Aeth David Thomas drosy gamfa ar ochr pinwydden y felin ac aethom iLanfleiddan mewn cyfeiriad gwahanol. Panwnaethom gyrraedd Melin Llanfleiddan, aeth JohnThomas i gyfeiriad ei dŷ. Hoffwn hefyd nodi bod fynhad, pan adawodd y "Wellington" yn yr hyn maennhw'n ei alw'n "feddw gaib" ac roedd yn rhaid i mi eiarwain adref. Des ag ef adref a'i roi yn ei wely.

    "Mae'n wir ddrwg gen i ddweud ond ar ôl rhoi fy nhadyn ei wely, gadawais y tŷ fy hun gyda ffon fawr o'r tŷ,ac es i ben Bryn Llanfleiddan. Es i lawr y llwybr troedsy'n arwain i'r Bont-faen a chyfarfod â'r diweddar yndod i fyny'r llwybr troed a gofynnais iddo am ei arian.Gofynnodd i mi o ble roeddwn i wedi dod, a dywedaisfy mod wedi dod o'r Bont-faen. Atebodd, "Cer i'rBont-faen." Dywedais, "Dwi am gael dy arian di yngyntaf." Dywedais y byddai'n well iddo ei roi i mi neu ybyddwn i'n ei orfodi. Felly gwnaethom frwydro athaflais ef i'r llawr a'i daro gyda'r ffon roedd gen ideirgwaith. Yna, cymerais ei holl arian, a'i hollbapurau y llosgais hwy gartref. Hefyd, y bag arian.

    "Hoffwn hefyd nodi pan gyrhaeddais gartref fod fynhad yn cysgu'n drwm yn y gwely. Ar ôl i mi losgipopeth, es i'r gwely a chodi drannoeth am 6.15am.Pan ddihunais, es i'r ardd a chyfrif yr arian am nad

  • 5

    oeddwn i am i fy nhad wybod fod gen i unrhyw arian.Byddai am gael gwybod o ble y ces yr arian, fellyrhoddais yr arian lle daethoch o hyd iddo, ac niwelodd unrhyw un fi'n ei roi yno, gan fod fy nhad yn eiwely ar y pryd. Hefyd, hoffwn nodi mai'r arf aladdodd y diweddar oedd y ffon roedd gennych chi yneich llys, nid y bilwg. Fi yw'r unigolyn euog, ac nidoedd gan unrhyw un arall unrhyw beth i'w wneud agef. Mae John Thomas a fy nhad yn ddiniwed. DavidRoberts yw fy enw. Mae'n rhaid i mi adael fy mywydnawr, am lofruddio David Thomas”

    DAVID THOMAS, Mab Edward Roberts.

    Mae datganiad David yn awgrymu ei fod yn ceisio lleihau,cymaint ag y gallai, ffyrnigrwydd yr ymosodiad. Awgrymanad oedd unrhyw beth mwy na dadl fach wedi bodrhyngddo ef a David Thomas, a arweiniodd at frwydr.

    Roedd y "ddadl fach" mae'n cyfeirio ati mewn gwirioneddyn ymosodiad treisgar ar David Thomas. Cafodd ei guro ifarwolaeth gyda thair ergyd fawr. Nid yw rhannau eraillo'r cyfaddefiad yn swnio'n wir ychwaith.

    Gallai ffon fod wedi creu anafiadau o'r fath, tra gallaibilwg yn sicr fod wedi'u hachosi. Ar wahân i'r oliongwaed ar y bilwg, roedd yn wlyb, sy'n awgrymu fod yllofruddiwr wedi mynd ag ef allan gyda'r nos.

    Yn ôl y cyfaddefiad, gadawodd David Roberts a'i dad MrThomas wrth y gamfa, chwarter milltir o'i gartref. Hyd ynoed pe byddai'r gwyntoedd cryfion, y glaw trwm achyflwr meddwol David Thomas yn cael eu hystyried, niddylai fod wedi cymryd mwy na 10 munud iddogyrraedd ei ddrws ei hun. Er hynny, yn ystod yr amserhwn, yn ôl pob sôn aeth Roberts adref, helpu ei dad iddadwisgo, ei roi yn ei wely, ac yna aeth allan eto i ddal eiddioddefwr bwriadedig 200 llathen o'i gartref.

    Mae'n annhebygol y gwnaeth David Thomas loetran ar yffordd adref o ystyried y tywydd drwg, ac aros yn ddigonhir i Roberts nôl y bilwg, neu'r ffon, ac yna mynd allan i'wlofruddio. Mae'n llawer mwy tebygol na wnaeth y naillRoberts ddychwelyd i'r bwthyn hyd nes roedd yllofruddiaeth wedi'i chyflawni.

    Efallai bod y dyn oedrannus wedi bod yn rhy feddw iwerthfawrogi’n llawn beth oedd yn digwydd os gwnaethei fab ymosod ar Mr Thomas heb air na rybudd cyngynted ag y gadawodd John Thomas.

    Gallai'r anafiadau ofnadwy a wnaed i ben ac wyneb ydioddefwr fod wedi'u hachosi gan garreg drom. Roeddllawer o gerrig wrth ymyl safle'r ymosodiad, ac roeddgwaed ar un ohonynt.

    Hefyd, byddai'n rhyfedd i David Thomas ofyn i DavidRoberts o ble roedd yn dod. Roedd yn adnabod y dyn yndda ac wedi bod yn ei gwmni am ddwy neu dair awr ynoson honno.

    Efallai mai dim ond bwriadu dwyn roedd Roberts gan ydyn, rydym yn gwybod, nad oedd y math o berson afyddai'n rhoi ei arian i'r unigolyn cyntaf a oedd yn gofyn.

    Mae bron yn sicr fod David Roberts wedi penderfynumai llofruddiaeth oedd yr unig ffordd y gallai gael y bag oarian i'w hun heb iddo gael ei ganfod.

    Y TreialGwnaeth yr Arglwydd Brif Ustus Coleridgelywyddu yn y treial ym MrawdlysoeddMorgannwg, Caerdydd, ddydd Mercher 10fedChwefror 1886.

    Arweiniodd Mr Arthur Lewis erlyniad y Goron, acamddiffynnwyd Edward Roberts gan Mr Abel Thomas odan gyfarwyddyd Mr Belcher, a oedd yn gyfrifol am yrachos ers y dechrau.

    Plediodd David Roberts yn euog ac ni chafodd eigynrychioli gan gwnsler. Plediodd ei dad yn 'Ddieuog' acyn ôl pob sôn roedd yn gwbl ddigyffro drwy gydol yrachos ynadol. Yn gynnar yn ystod y treial, yn dilyn araithagoriadol cyngor yr erlyniad, ymyrrodd y Barnwr adweud wrth Mr Lewis nad oedd y dystiolaeth yn erbyn ycarcharor o'r fath fel y byddai'n debygol y byddai unrhywreithgor yn collfarnu.

    Dywedodd ei fod yn methu â dod o hyd i unrhywdystiolaeth ddiffiniol yn erbyn Edward Roberts, heblaw eifod gyda Mr Thomas ar y noson y cafodd ei lofruddioond ei fod yn gwadu treulio unrhyw amser gydag ef, a'ifod wedi cael ei glywed yn awgrymu eglurhad o sut ycanfuwyd yr arian. Byddai'r arian a ganfuwyd yn ei dŷwedi bod yn dystiolaeth gref yn erbyn Edward Robertspe na fyddai ei fab, a gyfaddefodd i'r drosedd, wedi bywyno hefyd.

    Cyfaddefodd Mr Arthur Lewis nad oedd yr achos ynerbyn y carcharor oedrannus yn un cryf, a'i fod yn barodi'w dynnu'n ôl gyda chaniatâd yr Arglwydd. Ni allai brofifwy na'r hyn roedd wedi'i ddweud wrth y rheithgor, atheimlodd nad oedd yn ddigon i arwain at gollfarn.

    Mynegodd yr Arglwydd ei gymeradwyaeth o sylwadau'rcwnsler, a chyfarwyddodd y rheithgor i ryddfarnuEdward Roberts o'r cyhuddiad. Felly canfuwyd yr olaf yn'Ddieuog' a chafodd ei ryddhau.

    Dywedodd y Dirprwy Glerc, wrth gyfeirio at y carcharorDavid Roberts: "Rydych wedi cyfaddef eich bod yn euogo lofruddiaeth o'ch gwirfodd. Oes gennych unrhywreswm dros pam na ddylid cyflwyno dedfryd y llys yneich erbyn?" I hyn, atebodd David Roberts heb emosiwn,"Nac oes Syr."

    Yna pasiodd yr Arglwydd y ddedfryd o farwolaeth yn yffordd arferol, a gadawodd y carcharor y doc yn ddi-hidac yn ddigyffro.

  • 6

    Heblaw am fynegi ei ryddhad nad oedd ei dad yn rhan obethau mwyach, ni chyfeiriodd David Roberts at eidrosedd lawer. Fodd bynnag, diwrnod neu ddau cyn ydienyddiad, ar ôl clywed bod ei dad wedi dioddef cyn ytreial, ysgrifennodd lythyr yn rhyddhau ei dad o unrhywran yn y drosedd.

    Nododd eto yma mai ef, ac ef yn unig, a gyflawnodd yllofruddiaeth. Ysgrifennodd lythyr at weddw eiddioddefwr, yn mynegi ei edifeirwch am y "galar aachosodd iddi."

    Dienyddio David RobertsCyrhaeddodd Berry y dienyddiwr yngNghaerdydd fore dydd Llun ar y trên a oedd yngadael Abertawe am 11.05am.

    Oherwydd yr eira trwm, roedd y trên ychydig funudau'nhwyr. Ar ôl dod oddi ar y trên, ymddengys fod Berry,nad oedd erioed wedi bod i Gaerdydd o'r blaen, ynddryslyd ynghylch ei ffordd allan o'r orsaf. Dechreuoddfynd i lawr yr isffordd, ond cafodd ei alw nôl ganborthor. Roedd y dienyddiwr, wedi'i wisgo mewn côtfawr lwyd, yn ysmygu sigâr, ac yn edrych yn eithaf hapus.Ar ôl cyrraedd y tu allan i'r orsaf, neidiodd i mewn i gab,a gofyn i'r gyrrwr fynd ag ef i'r carchar."

    Cynhaliwyd y dienyddiad mewn amgylchiadau anarferolac arweiniodd at sgandal ar y pryd.

    Y dyddiad oedd dydd Mercher, 2il Mawrth 1886.

    Gwnaeth y tramgwyddwr, gyda'i agwedd stoicaidd drwygydol y treial, barhau'n ddigyffro hyd at y diwedd. Yrunig newid a ddaeth drosto wrth iddo aros am eiddienyddiad oedd ei fod wedi troi at grefydd. Roed ynedrych ymlaen at ei ymweliadau gan ei ymgynghoryddysbrydol ac yn darllen y Beibl drwy'r amser.

    Bythefnos cyn ei farwolaeth cafodd yr hyn a oedd i fodyn ei ymweliad olaf gan ei dad, ac achosodd trallod eidad i David Roberts fynegi emosiwn. Ar wahân i hyn,cysgodd yn dawel, ac ymddengys yn hapus drwy'ramser.

    Ar y prynhawn cyn y dienyddiad, cerddodd EdwardRoberts, a oedd wedi bod yn aros gyda'i chwaer ers eiryddhau o'r ddalfa, y naw milltir o Lanfleiddan iGaerdydd i ffarwelio â'i fab. Nid oedd David yn disgwylhyn. Ar ôl i'w dad adael y carchar, bwytaodd ycondemniedig swper awchus a chyda'r nos, ar ôl swpercynnar, aeth i orffwys.

    Aeth y Llywodraethwr, Uwchgapten Knox ato am 8pma gofyn iddo a oedd ganddo gais am unrhyw beth neuunrhyw beth i'w ddweud.

    Atebodd, "Nac oes syr, dim." Ar ôl gofyn iddo eto,atebodd yn ddigyffro: "Yn gwbl sicr, diolch syr, diolch ynfawr iawn."

    Nid aeth David i gysgu tan bron 10pm a dihunodd am12am pan roedd yn siaradus iawn ac yn sôn am yr hyn addigwyddodd iddo yn y Fyddin. Am 4am syrthiodd igysgu eto a chysgodd tan 6am pan gododd a gwisgo.Cyrhaeddodd y Parchedig Mr Davies yn fuan wedyn acarhosodd gydag ef hyd at y diwedd. Gwrthododd DavidRoberts frecwast, ond yfodd gwpaned o de. Gweddïoddgyda'r caplan tan 7.50am pan ddechreuodd y gloch ganuei gnul marwolaeth.

    Roedd bron 1,000 o bobl wedi ymgasglu y tu llan i'rcarchar. Gwnaethant aros i weld y faner ddu yn cael eichodi cyn gwasgaru'n dawel. Roedd Roberts yn gwisgotrowsus streipiog a chôt a fest glas tywyll, y ddau ar agoryn y tu blaen, a safodd yn ddigyffro tra roedd Berry ynpinio ei freichiau. Ni symudodd o gwbl, a'r unig beth aoedd yn dangos ei fod yn deall ei helynt, oedd y golwgpryderus yn ei lygaid.

    Roedd y crocbren 15 llathen o'r gell ac roedd twll 10troedfedd o ddyfnder a 6 troedfedd o led wedi'i gloddio.Cafodd y grocbren ei hadeiladu yn unol â chynlluniau'rSwyddfa Gartref, ac roeddent union yr un fath a phangafodd ei defnyddio yn Abertawe y diwrnod cynt.

    Roedd y trawst yn ffawydden goch a'r drysau gollwng, aoedd yr un lefel â'r tir, wedi'u defnyddio ar gyfer dauddienyddiad yn Henffordd. Cerddodd David Roberts ynsyth at y crocbren, a sefyll yn gadarn gyda'i gefn at ygwylwyr tra roedd Berry yn pinio ei goesau. Er ei fod ynedrych yn welw ac yn flinderus, ni ddangosodd o gwbl eifod yn grynedig ac ailadroddodd yr ymatebion yn dawelar ôl y caplan.

    Yna tynnodd Berry het Roberts, rhoi'r cap gwyn am eiben, a heb oedi, tynnodd y lifer. Dim ond 3 troedfedd 7modfedd oedd y cwymp, gyda lwfans o 5 modfedd argyfer ymestyn y rhaff, gan ei wneud yn gyfanswm oddim ond 4 troedfedd. Roedd y cwymp mor anarferol ofyr am fod Roberts yn 13 stôn, ac ofnwyd y byddaicwymp hwy yn torri ei ben i ffwrdd.

    Llanblethian Village, Cowbridge

  • 7

    Roedd y gwylwyr yn credu fod y cwymp yn fyr iawn,ond am yr ychydig eiliadau cyntaf ymddengys fodpopeth yn iawn, wrth i ben Robert (tua 3 neu 4modfedd o'r drysau gollwng) aros yn llonydd.

    Fodd bynnag, dechreuodd ei ddwylo symud adechreuodd geisio anadlu'n wyllt, er mawr ddychryn i'rgwylwyr. Wrth i hyn fynd yn ei flaen, a brwydr y dyn aoedd yn marw'n cynyddu, dechreuodd y rhai a oedd ynbresennol edrych yn ddryslyd. Aeth Berry atLywodraethwr y carchar a'r Uchel-Siryf i gael gair â hwy.Yn ystod y cyfnod hwn, o fewn ychydig eiliadau o 3munud, parhaodd Roberts i frwydro. Gofynnwyd iohebwyr adael, ac wrth iddynt symud i'r iard,ymddengys Roberts yn fyw o hyd.

    Yn union cyn cwêst Roberts, aeth dau o'r gohebwyr iystafell ymweld y carchar, lle roedd Berry yn cael eifrecwast. Nododd Berry ei fod wedi bod yn"ddienyddiad clyfar". Anghytunodd y gohebwyr ganwneud sylw yn unol â'r amser a nodwyd ganddynt, nadoedd David Roberts wedi marw am dri munud o'ramser y tynnwyd y follt.

    Gwylltiodd Berry a bygwth cyflwyno achos athrod ynerbyn unrhyw un a oedd yn honni hyn.

    Roedd y gohebydd a oedd yn cynrychioli Cymdeithas yWasg wedi tynnu ei oriawr allan yn syth ar ôl i DavidRoberts ddechrau symud er mwyn cofnodi pa mor hir yparhaodd y sefyllfa boenus hon. Dyma pam y gofynnwydi gynrychiolwyr y papurau newydd adael.

    Notes

  • Heddlu De CymruPencadlys Heddlu De Cymru

    Heol y Bont-faen, Pen-y-Bont ar Ogwr CF31 3SU

    Ebost: [email protected]ôn: 01656 869291

    Ewch i’n gwefan www.heddlu-de-cymru.police.uk

    Dyluniwyd ac Argraffwyd gan Adran Argraffu Heddlu De Cymru.