PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Y TYST · 2018. 1. 12. · yn ymuno i ddilyn cynllun yr...

4
Y TYST parhad ar dudalen 2 PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Sefydlwyd 1867 Cyfrol 151 Rhif 1 Ionawr 4, 2018 50c. Blwyddyn Newydd Dda a bendithiol i bawb o ddarllenwyr Y Tyst yn ystod 2018 CYFLYMDER BYWYD O’r golwg fel niwl ar gilio, – diddim Mae’n dyddiau’n dirywio: Ânt tebyg i wynt heibio, Neu lithiad d r ar lethr to Eos Iâl Ar y gweill Lledaenu Y Ffordd Rydym wedi bod yn gweu a chrosio eitemau amrywiol ers mis Mawrth eleni, ac rydym yn cael pleser di-ben-draw gyda’r gwaith ac yn cofio’n barhaus am y rhai hynny sydd mewn angen. Rydym wedi gwneud nawr ers chwe blynedd bellach a bydd trysorydd Berea, John Pritchard a Megan Williams yn cludo’r holl waith – 589 o wahanol bethau eleni – i Ysgol Gyfun Llangefni. Aethant ar ddiwedd Tachwedd i Rwmania a Belarus er mwyn cyrraedd erbyn y Nadolig. Gyrrwyd llawer o focsys esgidiau hefyd. Byddwn yn ail-gydio yn y gwaith ym mis Mawrth ac yn gweu hyd fis Tachwedd. Y mae’r gymdeithas yn dda ac yn felys a bydd bob amser egwyl am baned a sgwrs. Megan Williams Clwb Gweu, capel Berea, Pentre Berw, Ynys Môn Penderfynodd aelodau’r Tabernacl, Hendy- gwyn, Trinity, Llanboidy a Bethel, Llanddewi ofyn i aelodau mewn capeli annibynnol eraill yn yr ardal i ymuno gyda nhw i drafod Y Ffordd. Bu ymateb da i’r gwahoddiad gyda chwech o bobl newydd yn ymuno i ddilyn cynllun yr Annibynwyr. Bu’r Grŵp Trafod yn cwrdd trwy gydol mis Tachwedd a byddant yn ailddechrau yn y flwyddyn newydd. Clywed Cri Duw Yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor y trefnodd CWM ail gynhadledd Clywed Cri Duw ar ddechrau mis Rhagfyr. Yno, yn cynrychioli’r Annibynwyr, yr oedd y Dr Fiona Gannon (Clydach), Fioled Jones (Pencader), Gethin Thomas (Drefach), Arfon Jones (Caerdydd), Elinor Wyn Reynolds (Tŷ John Penri) a’r Ysgrifennydd Cyffredinol, Geraint Tudur. Yr oedd cynrychiolaeth o Eglwys Bresbyteraidd Cymru hefyd yn bresennol, a llywyddwyd y sesiynau a’r trafodaethau gan Ysgrifennydd Cenhadol CWM Ewrop, y Parchg Wayne Hawkins. Dau lais Patrwm yr ymgynghoriad oedd bod rhai sy’n cyflawni gwaith ymarferol mewn amrywiol feysydd yn dod i’r ymgynghoriad i sôn am eu gwaith ac i gyflwyno eu ‘tystiolaeth’. Y Parchg Carwyn Siddall, Llanuwchllyn, oedd y cyntaf a bu’n sôn am un o brosiectau Gofalaeth Bro Llanuwchllyn sy’n ymwneud â phobl hŷn. Mewn sesiwn arall, cymerodd y Parchg Aneurin Owen, cynweinidog Llansannan a Gofalaeth Bro Aled, le siaradwr arall oedd wedi methu dod, a bu’n sôn yn agored ac yn onest (ond heb fradychu unrhyw gyfrinachau) am broblemau cefn gwlad ac am y pwysau sydd ar gymunedau amaethyddol oherwydd yr unigrwydd sy’n gymaint rhan o fywydau cynifer o ffermwyr a’u teuluoedd. Gethin Thomas, Fioled Jones, Arfon Jones Carwyn Siddall a Wayne Hawkins

Transcript of PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Y TYST · 2018. 1. 12. · yn ymuno i ddilyn cynllun yr...

Page 1: PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Y TYST · 2018. 1. 12. · yn ymuno i ddilyn cynllun yr Annibynwyr. ... ond llawer o bobl ifanc hefyd, yn enwedig yn y diwydiant amaethyddol.

Y TYST

parhad ar dudalen 2

PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG

Sefydlwyd 1867 Cyfrol 151 Rhif 1 Ionawr 4, 2018 50c.

Blwyddyn Newydd Dda abendithiol i bawb o ddarllenwyr

Y Tyst yn ystod 2018CYFLYMDER BYWYDO’r golwg fel niwl ar gilio, – diddim

Mae’n dyddiau’n dirywio:Ânt tebyg i wynt heibio,Neu lithiad d� r ar lethr to

Eos Iâl

Ar y gweill

Lledaenu Y Ffordd

Rydym wedi bod yn gweu a chrosioeitemau amrywiol ers mis Mawrth eleni, acrydym yn cael pleser di-ben-draw gyda’rgwaith ac yn cofio’n barhaus am y rhaihynny sydd mewn angen. Rydym wedigwneud nawr ers chwe blynedd bellach abydd trysorydd Berea, John Pritchard aMegan Williams yn cludo’r holl waith –589 o wahanol bethau eleni – i Ysgol Gyfun

Llangefni. Aethant ar ddiwedd Tachwedd iRwmania a Belarus er mwyn cyrraedderbyn y Nadolig. Gyrrwyd llawer o focsysesgidiau hefyd. Byddwn yn ail-gydio yn ygwaith ym mis Mawrth ac yn gweu hyd fisTachwedd. Y mae’r gymdeithas yn dda acyn felys a bydd bob amser egwyl am baneda sgwrs.

Megan Williams

Clwb Gweu, capel Berea, Pentre Berw, Ynys Môn

Penderfynodd aelodau’r Tabernacl, Hendy-gwyn, Trinity, Llanboidy a Bethel,Llanddewi ofyn i aelodau mewn capeliannibynnol eraill yn yr ardal i ymuno gydanhw i drafod Y Ffordd. Bu ymateb da i’r

gwahoddiad gyda chwech o bobl newyddyn ymuno i ddilyn cynllun yr Annibynwyr.Bu’r Grŵp Trafod yn cwrdd trwy gydolmis Tachwedd a byddant yn ailddechrau yny flwyddyn newydd.

Clywed Cri DuwYng Nghanolfan Rheolaeth PrifysgolBangor y trefnodd CWM ail gynhadleddClywed Cri Duw ar ddechrau misRhagfyr.

Yno, yn cynrychioli’r Annibynwyr, yroedd y Dr Fiona Gannon (Clydach),Fioled Jones (Pencader), Gethin Thomas(Drefach), Arfon Jones (Caerdydd),Elinor Wyn Reynolds (Tŷ John Penri) a’rYsgrifennydd Cyffredinol, Geraint Tudur.Yr oedd cynrychiolaeth o EglwysBresbyteraidd Cymru hefyd yn bresennol,a llywyddwyd y sesiynau a’r trafodaethaugan Ysgrifennydd Cenhadol CWMEwrop, y Parchg Wayne Hawkins.

Dau laisPatrwm yrymgynghoriadoedd bod rhaisy’n cyflawnigwaith ymarferolmewn amrywiolfeysydd yn dodi’r ymgynghoriadi sôn am eugwaith ac igyflwyno eu ‘tystiolaeth’. Y ParchgCarwyn Siddall, Llanuwchllyn, oedd ycyntaf a bu’n sôn am un o brosiectauGofalaeth Bro Llanuwchllyn sy’nymwneud â phobl hŷn.

Mewn sesiwn arall, cymerodd yParchg Aneurin Owen, cynweinidogLlansannan a Gofalaeth Bro Aled, lesiaradwr arall oedd wedi methu dod, abu’n sôn yn agored ac yn onest (ond hebfradychu unrhyw gyfrinachau) ambroblemau cefn gwlad ac am y pwysausydd ar gymunedau amaethyddoloherwydd yr unigrwydd sy’n gymaintrhan o fywydau cynifer o ffermwyr a’uteuluoedd.

Gethin Thomas, Fioled Jones, Arfon Jones

Carwyn Siddall aWayne Hawkins

Page 2: PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Y TYST · 2018. 1. 12. · yn ymuno i ddilyn cynllun yr Annibynwyr. ... ond llawer o bobl ifanc hefyd, yn enwedig yn y diwydiant amaethyddol.

gallent heb or-ymestyn yr adnoddau dynoloedd ganddynt. Yr oedd croeso i bawb i’rgweithgareddau oedd yn cael eu trefnu, o’rSied Dynion i’r Grŵp Celf, o’rgweithgarwch Mam a’i Phlentyn i’r ClwbGarddio, o’r Grŵp Trwsio Cyfrifiaduron i’rTîm Chwaraeon. Trwy’r gweithgareddauhyn, yr oedd wedi dod yn bosibl i gyrraeddac i gynorthwyo pobl o bob oed, pobl nafyddent fel arall wedi medru eu cyrraedd ogwbl, ac oherwydd eu llwyddiant yroeddent wedi derbyn cefnogaeth, ac arian,gan y cyngor sir a nifer o ffynonellaueraill. Gellir dysgu mwy am ygweithgarwch hwn ar wefan sydd ganddynt(4tc.info/).Beth yw Cri Duw?Ar ddiwedd pob sesiwn, yn dilyn caeleglurhad o unrhyw bwyntiau aneglur,cafwyd trafodaeth oedd yn gofyn ycwestiwn, beth y mae Duw yn ei ddweudwrthym ni trwy hyn? Beth yw cri Duw yny sefyllfa hon? Gyda phob trafodaeth,gellir dweud fod yr ateb yn dod yn fwyfwyeglur i’r sawl sy’n rhan o’r broses hon. Ynystod y tri mis nesaf, bydd Wayne Hawkinsyn didoli’r wybodaeth a’r dystiolaeth agafwyd, ac yn gosod y cyfan ar ffurfllyfryn byr. Ym mis Ebrill, bydd y cyfarfodolaf yn cael ei gynnal i gadarnhau achymeradwyo cynnwys y llyfryn cyn iddogael ei gyfieithu i’r Gymraeg er mwynrhannu ffrwyth y llafur gyda’r eglwysi. Ogael yr adroddiad, bydd angen i’r eglwysiofyn wedyn, ‘Beth y mae Duw yn eiddweud wrthym ni?’

Hwnnw, gyfeillion, yw cwestiwn mawrein cyfnod ni.

tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 4, 2018Y TYST

Cymorth CristnogolMewn trydedd sesiwn, ymunodd Anna JaneEvans, un o weithwyr Cymorth Cristnogolyng Nghymru, â’r drafodaeth, a hynny i sônam weithgarwch Cymorth Cristnogol, amnewid hinsawdd, y defnydd o danwyddauffosil, a phrosiect ymhlith ffermwyr reis yny Philipinau. Soniodd am yr angen i ni, felunigolion ac eglwysi, weithredu’n gyflym iroi heibio defnyddio tanwydd ffosil, gwneuddefnydd ‘gwyrdd’ o ynni’n gyffredinol, acymgyrchu’n egnïol i berswadio’r banciau iddargyfeirio eu buddsoddion oddi wrthdanwydd ffosil at ynni adnewyddol.Cyfeiriodd ein sylw hefyd at nifer oadnoddau sydd i’w cael ar wefan CymorthCristnogol (www.christianaid.org.uk/get-involved-locally/wales/gwaith-cymorth-cristnogol-yng-nghymru).Llymder ac unigrwyddRhian Huws Williams, cyn Brif WeithredwrCyngor Gofal Cymru, oedd y ‘tyst’ nesaf, acyn ei chyflwyniad bu’n sôn am lymder(austerity) a’i effeithiau, am arwahanrwydd

ac unigrwydd, ac am iechyd meddwl.Nododd bod y themâu hyn i gyd yn cysylltuâ’i gilydd. Cadarnhaodd un awgrym a wnaedgan Aneurin Owen, sef bod arwahanrwyddac unigrwydd yn ffactorau pwysig yn yGymru wledig; nid dim ond ymysg pobl hŷn,ond llawer o bobl ifanc hefyd, yn enwedig yny diwydiant amaethyddol. Ychwaneger athynny, meddai, bobl ag anableddau, eraillsy’n ddi-waith neu unrhyw un sydd eisoes yndioddef o unrhyw iselder, a’r canlyniad ywcynnydd sylweddol yn y niferoedd sy’nwynebu problemau iechyd meddwl.Tlodi trefolYn y sesiwn olaf, cafwyd cwmni’r ParchgCharles Ramsay, offeiriad Catholig plwyf yny Rhyl. Soniodd ef am amgylchiadau aphroblemau tlodi yng nghyd-destun tref, gannodi elfennau fel y camddefnydd o gyffuriau,trais yn y cartref ac effaith cyffredinol tlodiar blant. Gydag eraill, bu’n gweithio ers rhaiblynyddoedd ar gynorthwyo a chefnogi’rgymuned leol, a hynny’n arbennig yngngorllewin tref y Rhyl ble y gwelir rhai o’rproblemau a nodwyd ar eu dwysaf.Cyflwynodd hefyd hanes sefydlu amrywiolfathau o weithgareddau i roi eu hurddas yn ôli unigolion, i roi hyder i’r gymuned ac i atal

y plwyf rhag troi yn fathar ghetto o anobaith.GweithgareddauamrywiolGyda chymorthgwirfoddolwyr oamrywiol eglwysi, arhai heb fod o unrhyweglwys, aethant ati iwneud cymaint ag yFiona Gannon, Aneurin Owen a Rhian Huws Williams

Clywed Cri Duw– parhad

Y Mwyaf UnDathliadau Adfent a Nadolig yn

Salem, Porthmadog‘Ymhlith holl ryfeddodau’r nef - hwn yw y mwyaf un,gweld yr anfeidrol ddwyfol Fodyn gwisgo natur dyn,’ meddai Williamsmewn pennill sydd gyda’r gorau yn yriaith Gymraeg i ddisgrifio’r Adfent a’rNadolig. A bu’r eglwys yn Salem yndathlu hynny’n benodol am rai Suliau.ParatoiAr 26 Tachwedd, thema’r gwasanaethboreol oedd ‘Paratoi’, a chyflwynwydmyfyrdodau gan Bryn Evans, un oddiaconiaid yr eglwys. Cymerwyd rhanhefyd gan Derwyn Williams, AlwenEvans, Arwel Puw a Twm Edwards mewngweddïau, darlleniadau ac emynau addas.Eifion WynYna ar 3 Rhagfyr, a’r gwasanaeth o danofal y gweinidog, rhoddwyd sylw iemynau Eifion Wyn gan ei bod yn

ganmlwydd a hanner eieni eleni. Ganwyd amagwyd EliseusWilliams neu EifionWyn yn y Garth ymMhorthmadog cyn i’rteulu symud i HeolNewydd. Ystyriodd yweinidogaeth ond niddilynodd y llwybrhwnnw, a bu’n ddisgybl-athro am gyfnod ymMhentrefoelas cyn dod’nôl i Borthmadog ynglerc swyddfa lechi. Arhyd ei oes bu’nbregethwr cynorthwyolac yn aelod yn Salem, acwrth gwrs, yn farddhynod o gynhyrchiol.Pwy na chlywodd am‘Gwm Pennant?’ a ‘Mai’ (‘Gwn ei ddyfodfis y mêl …’) a’r ‘Ora Pro Nobis’ cofiadwy(‘Mae’r curlaw yn dallu ffenestri fy nhŷ…’). Dwy ffaith hynod ddiddorol oedd bodEifion Wyn yn ffrind agos i deulu IfanwyWilliams, un o’n haelodau ffyddlonaf, ahefyd yn ffrind i daid prif olygydd Y Tyst,

Harri Edwards a fu’nBrifathro Ysgol Stryd Wesla,Porthmadog. Yn yr oedfa,cafwyd portread o Eifion Wyna chyplyswyd rhai o’i emynaua darlleniadau Beiblaidd amyfyrdod. Cofir am ‘Efengyltangnefedd’, ‘Un fendith dyroim’, ‘Hollalluog nodda ni’,‘Dod ar fy mhen’, ‘Molwn di,O Dduw ein tadau’ i enwi dimond ychydig o’r emynau agyfansoddodd. Ond rhoddwydsylw arbennig i un emyn cyndod at fwrdd y Cymun, a’remyn hwnnw oedd:Cofir mwy am Fethlem Jwda,testun can pechadur yw;cofir am y preseb hwnnwfu’n hyfrydwch cariad Duw,dwed o hyd pa mor ddrud

iddo ef oedd cadw’r byd.I mi, dyma un o glasuron Eifion Wyn ganei fod yn emyn sy’n dechrau wrth ypreseb ac yn symud i gyfeiriad y groes acyn gofyn am ymateb yr unigolyn:

parhad ar dudalen 7

Page 3: PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Y TYST · 2018. 1. 12. · yn ymuno i ddilyn cynllun yr Annibynwyr. ... ond llawer o bobl ifanc hefyd, yn enwedig yn y diwydiant amaethyddol.

Ionawr 4, 2018 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

Barn AnnibynnolJerwsalem

‘Y flwyddyn nesaf yn Jerwsalem,’ ywaddewid pob Iddew ar Ŵyl y Bara Croyw.Dros filoedd o flynyddoedd hiraethodd yrIddew am y ddinas a’r deml; mae’r dyheadi ddychwelyd wedi bod yn llawer hwy na’rblynyddoedd y buon nhw’n byw yno.Roedden nhw’n wylo wrth afonyddBabilon wrth gofio Jerwsalem; ym mhobpriodas Iddewig maen nhw’n dal i falu’rgwydr fel symbol o ddinistr y deml a’raddewid mae’r pâr priod yn ei wneud.Mae’r syniad o Jerwsalem yn rhanannatod o fod yn Iddew.

CaersalemI ninnau, fel Cristnogion ac fel Annibynwyr,mae Jerwsalem yr un mor sanctaidd.Rhoddodd ei henw i rai o’n capeli, rydymwedi canu am fryniau Caersalem agwrando ar bregethau am broffwydi yn eichondemnio ac am eraill yn hiraethuamdani yn y gaethglud. Yr ydym wedicofio dyddiau olaf yr Iesu yn cludo’i groes

i Golgotha a’r bedd gwagmewn gardd yno. Ond ininnau hefyd, syniad ydy o.Syniad a drosglwyddwyddros y cenedlaethau sy’nsymbol o’n dyhead amberthynas gyda Duw. Maellawer yn credu mai ar ygraig lle’r adeiladoddSolomon ei Deml ybreuddwydiodd Jacob amyr ysgol yn esgyn o’r ddaear i’r nefoedd achreu porth rhwng Duw a dyn. Yma arfynydd Moreia yn Jerwsalem mae Duw adynoliaeth yn cofleidio’i gilydd.Mosg Al-AqsaY mae traddodiad Mwslemaidd yn dweudmai ar y graig honno y gweddïoddMuhammad cyn esgyn i’r nefoedd ar eifarch gwyrthiol ar un noson yn 620 OC.Adeiladwyd Mosg Al-Aqsa ar y graig – cynleoliad y Deml – a dyma’r trydydd Mosgpwysicaf yn Islam. Yn ystod bywydMuhammad, tuag at Jerwsalem y byddennhw’n plygu i weddïo.

Mi fydd llawer ohonom wedi bod ardaith neu bererindod yn dilyn llwybrau’rIesu i’r ddinas ryfeddol hon. Mae eistrydoedd culion yn anghysurus o lawn, ymilwyr a’u gynnau yn amlwg, sŵn ceir,arogl carthffosiaeth, a theimlad fodrhywbeth erchyll ar fin digwydd yn gefndiri’r profiad Anghydffurfiol Cymreig o ganuemyn wrth y bedd gwag. Oes, maegennym i gyd ein syniad o Jerwsalem sy’ndra gwahanol i realiti’r lle? Ac mae tairffydd plant Abraham yn perchnogi eusyniadau eu hunain.

Bwrw’r graigDwi’n cofio mynd i ffilmio yn Jeriwsalemyn y saithdegau. Roeddwn yn ffilmiocyfres grefyddol fer i rwydwaith ITV.Roedd Donald Swann, yr awdur a’rcerddor, a Sydney Carter, y bardd, ynmynd o gwmpas ardaloedd Iddewig,Cristnogol a Mwslemaidd y ddinas yncynnal cyngherddau byr a thrafodaethoedd yn chwilio am y pethau oedd yn eurhannu ac yn eu huno. Teitl y gyfres oeddStrike that Rock a’r graig yn y teitl oeddhonno sydd mor gysegredig i’r tair ffydd.Ein teimlad bryd hynny oedd mai yn yddinas hon y byddai dyfodol y ddynoliaethyn fyd-eang yn cael ei benderfynu. Wrthgofio fy argraffiadau ar y pryd, rwy’nsylweddoli nad oes dim wedi newid er boddros ddeugain mlynedd wedi mynd heibio.Dinas heddwch?Ac ychydig wythnosau’n ôl mae DonaldTrump yn cael breuddwyd ac ynpenderfynu fod yna gyfle arall i dynnu sylwato’i hun ac atgyfnerthu cefnogaeth yn yrUnol Daleithiau drwy gefnogi Israel.Doedd y ffaith fod gweddill y byd wedicreu syniad o Jerwsalem fel prifddinasheddwch rhwng Israel a Phalesteina yngolygu dim i’r Arlywydd. Mae’n debyg, osmai codi muriau ar y ddaear yw eichgweledigaeth, mae’n anodd gweld ysgolyn ymestyn i’r nefoedd ac yn agor porth atDduw.

Euryn Ogwen Williams(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o

reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt Undeb yrAnnibynwyr na’r tîm golygyddol.)

Euryn OgwenWilliams

Cofir am y croesbren garwLle y cuddiwyd wyneb Duw;lle gorffennodd Iesu farw,lle dechreuais innau fyw ...

Cymerwyd rhan yn ogystal â’rgweinidog yn y gwasanaethcofiadwy hwn gan Twm Edwards,Megan Lloyd Williams ac Elen V.Jones. Gwaetha’r modd yr oeddafiechyd wedi taro rhai o’r aelodauoedd i gymryd rhan, a hynny ar yfunud olaf, ond llwyddwyd i ad-drefnu’n ddigon hawdd. RowenaGriffiths oedd yr organyddes yn yddau wasanaeth uchod.Oedfa’r plantBore Sul 10 Rhagfyr, deffrodd poblPorthmadog i ddaear oedd wedi’igorchuddio gan flanced wen o eira,fel ag yr oedd llu o ardaloedd eraillar draws y wlad. Bu peth trafod aoeddem i gario mlaen a’r oedfa, a’rpenderfyniad oedd i wneud hynny,ond yr oeddem yn ymwybodol na

fyddai rhai o’r ffyddloniaidoedrannus yn gallu bod yno, na’rrhai oedd yn gorfod teithio o leoeddanghysbell. Ond, ymlaen yr aethom,a’r plant yn arwain y gwasanaeth, acni chawsom ein siomi. Gwnaeth yplant eu gwaith yn effeithiol agraenus gan wneud i ni sylweddolimai dyfodiad arbennig iawn oedddyfodiad yr Iesu i’n byd. Roedd yrhen neges oesol yn cael ei chyflwynomewn dull modern a chyrhaeddgar.Diolchwyd i’r plant am euffyddlondeb ar hyd y flwyddyn ahefyd i’r athrawon am fod mor driwi’w haddewid i’w hyfforddi. Roeddcynulleidfa deilwng iawn o ystyriedamgylchiadau’r tywydd. Wedi’rgwasanaeth cafodd y gynulleidfagyfan gyfle i gymdeithasu uwchbenpaned a mins pei, ac aeth y plant a’rathrawon ymlaen wedyn i gaffienwog Jenny’s ym Mhorthmadog igael cinio hynod flasus.

Iwan Llewelyn Jones

Mae CD Y Pêr Ganiedydd: casgliad o emynauWilliam Williams, Pantycelyn o gymanfaoeddCaniadaeth y Cysegr bellach ar gael. Dyma’r unig CD o waith yr emynydd gydachanu cynulleidfaol o gyfres Caniadaeth yCysegr i’w chyhoeddi erioed.Nid yw’r CD ar werth yn y siopau ar hyn obryd ond gallwch ei phrynu trwy gysylltu â:[email protected] neu drwy ffonio029 20 619767.Caiff ei hanfon atoch. Y pris yw £10.

Y Mwyaf Un – parhad

Page 4: PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Y TYST · 2018. 1. 12. · yn ymuno i ddilyn cynllun yr Annibynwyr. ... ond llawer o bobl ifanc hefyd, yn enwedig yn y diwydiant amaethyddol.

Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920 490582E-bost: [email protected]

Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Ty John Penri, 5 Axis Court, ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe

ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888

E-bost: [email protected]

tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 4, 2018Y TYST Golygydd

Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,

Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE

Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]

GolygyddAlun Lenny

Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

E-bost: [email protected]

Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim âchynnwys y Pedair Tudalen.

Golygyddion

COFIO MARTIN LUTHER YM MHENYGRAIGWittenberg yn 1517, yn ôl traddodiad. Eto,meddai Alun Tudur, bu crynanniddigrwydd am y drefn eglwysig amflynyddoedd cyn hynny. Nid oedd yroedfaon unffurf, trwy gyfrwng yr iaithLadin, yn diwallu anghenion ysbrydolpobl. Roedd yr eglwys yn dysgu bod modd

ennill haeddiant Duw trwy ffyddlondeb achyffesu pechodau i’r offeiriad lleol. Aethymhellach trwy werthu ‘tystysgrifau’ yrhonnwyd y byddent yn rhyddhau eneidiauo’r purdan, meddai Dr Tudur. Trwy ffydd yn unigOnd fe wawriodd ar Martin Luther,mynach ac athro, mai trwy ffydd yn unig ycawn ein derbyn gan Dduw. Arweinioddhyn at y Diwygiad Protestannaidd, ac atsefydlu enwadau ac eglwysi fel yrAnnibynwyr ymhen amser. Gan y byddai’nhanfodol i bobl fedru deall y Beibl, fe aethMartin Luther ati i drosi’r Ysgrythurau iAlmaeneg. O fewn 30 mlynedd, byddaigan y Cymry, hefyd, Feibl yn ein hiaith einhunain. Cafwyd cyfle i ofyn cwestiynau yn sgil

anerchiad Dr Alun Tudur. Cafwydtrafodaeth fer am ganlyniadau gwleidyddoltwf Protestaniaeth, gan gynnwys y rhyfel30-mlynedd yn Ewrop. Yn sicr, bu’rCwrdd Chwarter yn gyfle gwych i addysgupobl am Martin Luther a’r newid allweddola fu yn hanes yr eglwys Gristnogol. (Bydd adroddiad llawn o’r CwrddChwarter mewn rhifyn pellach o’r Tyst)

Dr Alun Tudur yn annerch ym Mhenygraig

Cafodd Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddineu hatgoffa o’u gwreiddiau pan fu’r ParchgDdr Alun Tudur, golygydd Y Tyst, yntraethu am Martin Luther a’r weithreddaniodd y Diwygiad Protestannaidd 500

mlynedd yn ôl, mewn Cwrdd Chwarter yngnghapel Penygraig, ger Caerfyrddin. Cyflwr yr Eglwys Babyddol a chyfoeth y

Pab ysgogodd Luther i hoelio dogfen agarni 95 o bwyntiau ar ddrws eglwys

TEGANAU I DEULUOEDD TLAWD

Dyma’r teganau a gasglwyd gan ofalaeth eglwysi Annibynnol Y Priordy, Cana aBancyfelin tuag at Apêl Teganau ac Ariannol Cyngor Sir Gâr. Mae’r apêl, a sefydlwydsaith mlynedd yn ôl, yn darparu anrhegion i deuluoedd difreintiedig ledled y sir yn ystod yNadolig. Yn 2016, fe ddosbarthwyd 2,500 o anrhegion i 680 o blant, yn ogystal â 280 ohamperi bwyd. Gyda 30% o blant Cymru yn byw mewn tlodi, byddai nifer wedi bod hebanrhegion yn ystod y Nadolig oni bai am apeliadau o’r fath yma.Yn y llun: y Cyng. Cefin Campbell, aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am ymladdtlodi (ac aelod yng Nghapel Newydd, Llandeilo); y Cyng. Peter Hughes Griffiths (aelod yny Priordy, Caerfyrddin); y Parchg Beti-Wyn James, gweinidog gofalaeth y tair eglwys; yCyng. Mair Stevens (Dirprwy-arweinydd y cyngor, sy’n gyfrifol am gydlynu’r apêl) aSuzanne Jordan, swyddog yr apêl

RHYD-Y-MAIN

Cafwyd gwasanaeth Nadolig cofiadwynos Sul 17 Rhagfyr 2017 yng nghapelRhyd-y-main pan ddaeth EglwysiBrithdir, Tabor, Ganllwyd a Rhyd-y-mainat ei gilydd i oedfa yng ngofal yrieuenctid a’r gweinidog. Cafwyddarlleniadau, gweddïau, carolau acunawd. Dangoswyd cywaith yr ysgol Sulo neges y Geni hefyd, a’r plant wedi eigynllunio’n gywrain. Mae’r ysgol Sul ynmynd ymlaen o nerth i nerth drwy lafurcariad athrawon ymroddedig, planteiddgar a rhieni cefnogol.