Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb...

30
1 RHAGLEN DORCAS: Gwraig fel Dorcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am Wasanaeth Cristnogol Sesiwn 1. Stori Dorcas - Actau 9:36-42 Sesiwn 2. ‘Gwneud daioni’: Beth yw ystyr hyn heddiw? Sesiwn 3. ‘Gwneud daioni’: Beth yw’r Safon? Pwy yw ein hesiampl? Sesiwn 4. ‘Gwneud daioni’: Help ar gyfer yr adegau anodd! Sesiwn 5. ‘Gwneud daioni’: Pa ganlyniadau allwn ni eu disgwyl? Atodiad (1) + (2) Gwraig fel Dorcas 5 Astudiaeth Feiblaidd am Wasanaeth Cristnogol

Transcript of Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb...

Page 1: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

1

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

Sesiwn 1. Stori Dorcas - Actau 9:36-42

Sesiwn 2. ‘Gwneud daioni’: Beth yw ystyr hyn heddiw?

Sesiwn 3. ‘Gwneud daioni’:

Beth yw’r Safon? Pwy yw ein hesiampl?

Sesiwn 4. ‘Gwneud daioni’:

Help ar gyfer yr adegau anodd!

Sesiwn 5. ‘Gwneud daioni’:

Pa ganlyniadau allwn ni eu disgwyl?

Atodiad (1) + (2)

Gwraig fel Dorcas5 Astudiaeth Feiblaidd am Wasanaeth Cristnogol

Page 2: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

2

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

Cyflwyniad a chanllawiau ar gyfer defnyddio’r Astudiaethau

Y gyfres hon o 5 astudiaeth yw sail Rhaglen Dorcas.Maent yn seiliedig ar stori bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad disgybl o’r ganrif gyntaf o’r enw Dorcas. Yn wir, stori Dorcas fu’r ysbrydoliaeth ar gyfer y rhaglen hon. Yn syml, defnyddiodd Dorcas ei thalentau a’i hadnoddau er mwyn gwasanaethu’r anghenus yn ei chymuned; roedd hi’n wraig a ‘wnaeth ddaioni’. Roedd ei bywyd hi yn gogoneddu Duw a chyflwyno eneidiau i’w deyrnas ef. Onid dyna yw awydd pob Cristion - bod eu bywydau, waeth pa mor gyffredin neu anghyffredin, yn gogoneddu ein Tad nefol ac yn gyfrwng i dynnu eraill at ein Gwaredwr?

Rydym oll yn cofio’r ddameg a adroddodd Iesu am yr adeiladwyr doeth a ffôl yn Mathew, pennod 7. Dywedodd yr Arglwydd Iesu fod y person sy’n gwrando ar ei eiriau ac yn eu rhoi ar waith yn ddoeth. Felly, trwy’r astudiaethau hyn, rydym yn gobeithio sefydlu beth yw’r sail Ysgrythurol ar gyfer Gwasanaeth Cristnogol, fel y gallwn ninnau fod yn ‘ddoeth’ a chael ein cymell i roi’r hyn y gwyddom amdano ar waith.

Mae’r astudiaethau yn dechrau trwy edrych yn fanwl ar y stori Feiblaidd a geir yn Actau 9: 36-42. Rydym wedyn yn ystyried bod ‘gwneud daioni’ yn mynegi ewyllys Duw ar gyfer pob Cristion a’i fod yn rhoi talentau a doniau i bob un ar gyfer eu defnyddio er lles eraill, a hynny fel ymateb diolchgar i’w gariad a’i rodd o iachawdwriaeth. Yn y drydedd astudiaeth, byddwn yn ystyried y safon a osododd Iesu ar gyfer ei ddilynwyr, sef dangos tosturi a’r esiampl o wasanaeth hunanaberthol a roddodd ef ac y mae’n disgwyl i ni ei ddilyn.

Mae’r bedwaredd astudiaeth yn canolbwyntio ar yr adnoddau y mae Duw yn eu darparu ar gyfer galluogi ei bobl i ufuddhau a byw bywyd o wasanaeth: Yr Ysbryd Glân, Ei Air a’r Eglwys. Efallai yr hoffech ystyried rhannu’r astudiaeth hon yn ddwy ran (gorffen un rhan wedi’r adran ar waith yr Ysbryd Glân) gan ei bod yn hwy na’r lleill.

Gorffenna’r gyfres trwy ystyried y canlyniadau cadarnhaol a gwych a ddaw yn sgil gweithredoedd da’r crediniwr: mae’r crediniwr yn cael ei sancteiddio wrth iddo/iddi ymdrechu i ufuddhau a gwasanaethu eraill; caiff aelodau eraill o gorff Crist eu helpu; mae pobl nad ydynt yn ymddiried yng Nghrist yn gweld Duw ar waith a’i ganmol ef, ac yn rhyfeddol caiff Duw ei hun ei ogoneddu trwy ein bywydau ni o wasanaeth a ‘gweithredoedd da’.

Ein gweddi yw y bydd yr astudiaethau hyn yn troi ein ffocws at Iesu ei hun ac oddi wrtho tuag at y byd anghenus o’n cwmpas. Allwn ni ddim bod megis y dyn annoeth hwnnw yn clywed geiriau Duw ac yn dewis eu hanwybyddu - mae’r byd angen gweld pobl Dduw yn byw bywydau ufudd ac mae’r byd angen eu clywed nhw yn datgan newyddion da’r Efengyl.

Page 3: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

3

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

Canllawiau ar gyfer defnyddio’r Astudiaethau Mae’r Astudiaethau wedi’u hysgrifennu ar gyfer eu defnyddio gyda grwpiau sydd eisiau dysgu am y sail Feiblaidd i Wasanaeth Cristnogol. Nid cyflwyniad i’r ffydd Gristnogol fel y cyfrwy yw’r rhain. Cymerir yn ganiataol bod y rhan fwyaf o’r grwp yn gyfarwydd â darllen ac astudio’r Beibl.

Gallwch ddewis cynnal yr astudiaethau ble bynnag a pha bryd bynnag sydd fwyaf cyfleus ar gyfer eich grwp - mewn cartref neu gapel, ar y Sul neu ddiwrnod arall yn ystod yr wythnos.

Mae’r adnodau Beiblaidd a geir yma wedi’u dyfynnu o’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

Bydd pob un sy’n cymryd rhan angen llawlyfr. Gellir llun-gopïo’r llawlyfr neu eu harchebu o’r swyddfa yng Nghaerdydd – 02920 627465.

Bydd angen un neu ddau o bobl i hyrwyddo’r astudiaethau. Gobeithio y bydd y nodiadau sydd wedi’u darparu yn ddigonol, ond mae hi’n wastad yn syniad da i ddarllen esboniadau eraill. Dylai’r arweinydd/ion dreulio amser cyn yr astudiaeth ei hun yn darllen y nodiadau yn ofalus, yn edrych ar y llawlyfr a gweddïo.

Mae gwahanol fath o gwestiynau i’w hateb trwy gydol y gwaith: mae rhai ar gyfer eu hateb gan unigolion ac eraill i’w hateb ar lefel grwp cyfan. Mae nodiadau’r arweinydd yn awgrymu atebion mewn print italig.

Mae arwain grwp yn gallu bod yn dalcen caled, ac os nad oes unrhyw un yn eich grwp yn teimlo’n gymwys i arwain, efallai y gallech wahodd rhywun arall i arwain - eich gweinidog, neu flaenor, rhywun sy’n pregethu yn eich eglwys neu efallai aelod o eglwys gyfagos. Gallwch gysylltu â ni os oes angen help arnoch i gael hyd i rywun i arwain yr astudiaethau ar eich rhan.

Rhai awgrymiadau ar gyfer arwain grwp bychanMae llwyddiant unrhyw grwp bychan yn dibynnu ar yr arweinydd yn y lle cyntaf. Nid athrawon na darlithwyr yw arweinwyr effeithiol. Yn hytrach, rhai sy’n hyrwyddo ydynt, a’u prif waith yw cael pobl i ryngweithio â’i gilydd. Gall bron unrhyw un arwain trafodaeth fuddiol trwy ddilyn rhai canllawiau.

Paratowch cyn dod i’r astudiaeth. Gofynnwch i Dduw eich helpu i ddeall a chymhwyso’r darn i’ch bywyd chi eich hun. Oni bai i hynny ddigwydd, fyddwch chi ddim yn barod i arwain eraill. Mae’n debyg y cymer awr gyfan i ddarllen y darn, gweithio trwy bob cwestiwn yn y nodiadau arweiniol ac ymgyfarwyddo â nodiadau’r arweinydd.

Gweddïwch dros aelodau eich grwp cyn yr astudiaeth. Os yw’r Beibl i gael effaith ar eu bywydau, mae’n rhaid i’r Ysbryd Glân fod ar waith cyn, yn ystod ac wedi’r astudiaeth.

Dechreuwch yr astudiaeth yn brydlon. Wrth sicrhau bod yr astudiaeth yn cychwyn yn brydlon, bydd pobl yn gweithio’n galed i gyrraedd mewn pryd.

Esboniwch mai cael trafodaeth yw pwrpas yr astudiaeth nid gwrando ar ddarlith. Anogwch bawb i gymryd rhan, ond dylid cydnabod y bydd rhai yn amharod i siarad yn ystod y sesiynau cyntaf.

Page 4: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

4

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

Ceisiwch annog mwy nag un ateb ar gyfer pob cwestiwn. Dylai cwestiwn da arwain at fwy nag un ateb posib, ac mae gan bob person ei bersbectif unigryw ei hun. Gofynnwch, “Beth yw barn y gweddill ohonoch chi?” neu “Unrhyw un arall?” nes bydd sawl person wedi ymateb.

Cadarnhewch atebion pobl. Mae pobl yn aml yn amharod i lefaru oni bai eu bod yn gwybod y byddwch yn gwerthfawrogi eu dealltwriaeth. Mae ymateb syml fel: “Mae hwnna’n syniad da”, “Ymateb da”, “Syniad gwych” neu “Wnes i ddim meddwl am hynny” yn ddigon i ddangos i bobl eich bod yn gwerthfawrogi eu sylwadau.

Peidiwch ag ofni tawelwch. Fel arfer bydd unrhyw ysbaid fel hyn yn ymddangos ychydig yn hwy i chi nag i weddill y grwp.

Mae angen ymwrthod â’r demtasiwn i ateb eich cwestiwn eich hun. Gofynnwch y cwestiwn mewn ffordd wahanol hyd nes bydd y grwp yn deall beth sydd dan sylw gennych. Gall grwp fod yn oddefol a thawel os teimlant mai chi fydd yn gwneud y rhan fwyaf o’r siarad.

Peidiwch byth â gwrthod ateb, hyd yn oed os teimlwch ei fod yn anghywir. Wrth i’w hatebion gael eu gwrthod, gall pobl deimlo eu bod nhw yn cael eu gwrthod, ac efallai na fyddan nhw’n barod i gynnig eu barn eto. Ymateb gwell fyddai, “Pa adnod arweiniodd chi at hynny?” Neu gadewch i’r grwp ddelio â’r broblem trwy ofyn iddynt beth yw eu barn nhw.

Gorffennwch yr astudiaeth yn brydlon. Bydd grwp bychan iach yn gwneud mwy nag astudio’r Beibl gyda’i gilydd, felly gadewch ddigon o amser ar gyfer gweithgareddau megis rhannu a gweddïo. Os mai dim ond elfennau wedi’u hychwanegu ar y diwedd yw’r rhain, bydd iechyd y grwp ei hun yn dioddef.

Jack Kuhatschek. Wedi’i addasu o “How to Lead a Small Group Bible Study Effectively”, Zondervan, http://fm2.forministry.com. Wedi’i ddefnyddio gyda chaniatâd.

Gellir cael hyd i erthygl ddefnyddiol ar gyfer arwain grwpiau bychain ar http://www.richardbewes.com/forum/for-8.html

1.

Page 5: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

5

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

Stori Dorcas - Actau 9:36-42

Yn yr astudiaeth hon, byddwn yn edrych yn fanwl ar stori Dorcas, fel y’i cofnodir yn Llyfr yr Actau yn y Testament Newydd

Mae stori Dorcas wedi ysbrydoli merched ar hyd y canrifoedd. Mae’n cynnwys sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn dysgu mwy i ni am ystyr cariad a gwasanaeth Cristnogol.

Torri’r Garw “Y drafferth efo dillad…”Gofynnwch i bawb droi at y person nesaf atynt a sôn wrthynt yn fyr am un o’r canlynol: hoff ddilledyn / y fargen orau o ran dilledyn y gallant ei gofio / y dilledyn gwaethaf y gallant ei gofio. Wedi munud, dylai’r person arall gynnig eu hatgofion hwythau.

1. Darllenwch y crynodeb canlynol o stori Dorcas (Actau 9:36-43) i’r grwp.Mae stori Dorcas, sef sail yr astudiaeth hon, wedi ysbrydoli merched ar hyd y canrifoedd. Mae’n cynnwys llawer o wersi gwerthfawr i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym ni’n gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn dysgu mwy i ni am ystyr cariad a gwasanaeth Cristnogol.

Disgybl i Iesu oedd Dorcas, yn byw yn Jopa, tref ar lan Y Môr Canoldir, a phrif borthladd Palestina ar y pryd hwnnw. Roedd eglwys Gristnogol yn Jopa, ac mae’n bosib bod credinwyr yn cyfarfod i gydaddoli yng nghartref Dorcas, yn ôl arferiad y cyfnod hwnnw (gweler Actau 12:12 a Rhufeiniad 16:5)

Roedd Dorcas yn adnabyddus yn Jopa oherwydd ei charedigrwydd tuag at y tlodion a’i gweithredoedd da, ac roedd ganddi gonsýrn arbennig dros weddwon a’u plant. Er tristwch mawr i bawb o’i chwmpas, aeth yn sâl a bu farw. Ond cafodd rhywun syniad. Beth am fynd i’r dref gyfagos, sef Lyda i nôl yr apostol Pedr - byddai ef yn gwybod beth i’w wneud! Fe ddaeth Pedr draw i’r ty gan weddïo a dweud wrth Dorcas am godi - a dyna’n union a ddigwyddodd! Lledodd y newydd am atgyfodiad Dorcas fel tân gwyllt trwy Jopa a daeth llawer o bobl i gredu yn Iesu o ganlyniad i hynny.

2. Astudio’r stori Feiblaidd yn fanwlGellid gwneud hyn mewn un grwp er ei bod yn fwy tebygol y bydd pobl yn siarad yn rhwyddach mewn grwpiau llai. Os ydach chi’n rhannu’r grwp, mae’n hanfodol cael un person yn y naill grwp a’r llall sy’n fodlon arwain pethau ac sydd wedi cael cyfle i ddarllen dros y cwestiynau ymlaen llaw.

Darllenwch adnod 36. Beth ydan ni’n ei ddysgu am Dorcas o’r adnod hon? Roedd hi’n byw yn Jopa, roedd Tabitha yn enw arall arni, roedd hi’n ddisgybl, wastad yn gwneud daioni a helpu’r tlodion.

Nodiadau: Enw Aramaeg yw Tabitha, ac enw Groegaidd yw Dorcas: mae’r naill a’r llall yn golygu ‘carw’.

1.

Page 6: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

6

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

Darllenwch adnod 39. Beth yn union a wnaeth Dorcas i helpu pobl dlawd Jopa? Gwnaeth glogynau a dillad ar eu cyfer.

Pa fath o bobl yn benodol a gafodd eu helpu ganddi? Gweddwon.

Nodiadau: Gan mai porthladd oedd Jopa, mae’n debyg y byddai llawer o weddwon a phlant morwyr yn byw yno. Byddai clogynau wedi bod yn eitemau anodd a drud i’w gwneud, yn gofyn am amser ac adnoddau. Mae’n debyg bod gan Dorcas ddigon o fodd a doedd dim rhaid iddi weithio i ennill ei bywoliaeth. Yn hytrach, defnyddiodd ei hamser a’i harian i ddarparu ar gyfer eraill.

Darllenwch adnodau 32- 34 ac adnod 38. Pam wnaeth y disgyblion yn Jopa anfon am Pedr? Roeddent wedi clywed bod Pedr wedi iacháu Aeneas ac roeddent am iddo wneud rhywbeth tebyg gyda Dorcas.

Darllenwch adnodau 40-41. Beth wnaeth Pedr wedi iddo gyrraedd? Anfonodd bawb o’r ystafell, gweddïodd, siaradodd â Dorcas, helpodd hi i godi a’i chyflwyno i’r credinwyr.

Darllenwch adnod 42. Pa effaith a gafodd hyn yn Jopa? Daeth llawer o bobl i gredu yn yr Arglwydd.

Beth ydan ni’n ei ddysgu am Dorcas?Roedd Dorcas yn ddisgybl i Iesu.•

Roedd Dorcas yn caru’r tlawd a’r anghenus yn Jopa•

1. Dorcas y disgybl

Mae’r gair a ddefnyddir yma ar gyfer ‘disgybl’ (mathetes) mewn Groeg yn golygu ‘un sy’n derbyn cyfarwyddyd, dysgwr.’

Wrth gwrs, roedd Dorcas wedi clywed rhywun yn dweud y stori am Iesu ac fe gredodd yn dilyn hynny. Roedd y disgyblion wedi dechrau pregethu am Iesu yn y Deml ac yn y synagogau trwy’r wlad wedi dydd y Pentecost. Mae’n bosib fod Dorcas wedi clywed un ohonynt yn pregethu neu ei bod wedi clywed am Iesu gan ffrind neu gymydog.

Cwestiynau:

Pwy yw disgyblion Iesu heddiw? Marc 1:16-20: y bobl a alwodd Iesu i’w ddilyn ef Actau 2:37-39: pobl sy’n edifarhau, pobl sy’n cael eu bedyddio, pobl sy’n cael maddeuant, a rhai sydd wedi derbyn yr Ysbryd Glân. Actau 11:25,26: disgyblion = Cristnogion

Page 7: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

7

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

Sut mae’r adnodau hyn yn ein helpu i ddeall sut all person ddod yn ddisgybl i Iesu? Ydach chi’n ystyried eich bod yn ddisgybl i Iesu?

2. Cariad Dorcas tuag at y tlodion

Roedd cariad Dorcas yn • ymarferol – cyd-ddarllenwch adnod 39. Gwelodd bod y gweddwon a’u plant yn Jopa angen dillad, felly aeth ati i ddarparu dillad ar eu cyfer. Roedd ganddi’r arian i brynu defnyddiau a’r ddawn i ddylunio a gwnïo dilladau addas ar eu cyfer.

Roedd cariad Dorcas yn golygu • gwaith caled – cyd-ddarllenwch adnod 36 . Fe wnaeth ddaioni “trwy’r amser”. Cofiwch - doedd dim peiriannau gwnïo trydanol ar gael y pryd hynny, roedd rhaid gwnïo’r holl ddillad â llaw!

Cwestiynau:

Beth yw’r gorchymyn pwysicaf yn ôl Iesu? Mathew 22:36,37 Pa un yw’r un nesaf o ran pwysigrwydd? Mathew 22:39 Sut allwn ni garu Duw fel hyn? 1 Ioan 4:19; Rhufeiniad 5:5 Sut allwn ni garu ein cymdogion fel hyn? Rhufeiniad 5:5; 1 Ioan 4:19 Nodiadau: Mae’n wir i ddweud y gall pobl nad ydynt yn hawlio bod yn ddisgyblion i Iesu, ddangos cariad mawr at eraill, hyd yn oed cariad aberthol. Ond pan ddaw person yn ddisgybl i’r Arglwydd Iesu, daw ef neu hi yn sianel ar gyfer ei gariad ef, ac wrth garu eraill, rydym yn arddangos cariad Iesu. Ymhellach, mae gan ein cariad ddimensiwn ysbrydol, gan ein bod yn gofalu am eneidiau tragwyddol y rhai o’n cwmpas ni.

Beth sydd angen imi ei ddysgu o stori Dorcas?Dros y pedair wythnos nesaf, byddwn yn defnyddio stori Dorcas ac yn ystyried yr hyn y gallwn ei ddysgu ohoni er mwyn edrych ar y pwyntiau canlynol a’r cwestiynau cysylltiedig.

Sesiwn 2. ‘Gwneud daioni’: Beth yw ystyr hyn heddiw? Mae Duw wedi rhoi talentau i ni i’w defnyddio er lles eraill. Pa dalentau/sgiliau sydd gennych? Sut ydach chi yn eu defnyddio?

Sesiwn 3. ‘Gwneud daioni’: Beth yw’r Safon? Pwy yw ein hesiampl? Byddwn yn edrych ar ddysgeidiaeth Iesu ar wasanaethu eraill a’i esiampl ei hun fel gwas.

Sesiwn 4. ‘Gwneud daioni’: Help ar gyfer yr adegau anodd! Pa adnoddau sydd ar gael i’r Cristion er mwyn gwasanaethu Duw ac eraill?

Sesiwn 5. ‘Gwneud daioni’: Pa ganlyniadau allwn ni eu disgwyl? Gall Duw ein defnyddio ni i helpu eraill i ddod i gredu yn Iesu fel eu Gwaredwr a’u Harglwydd.

Page 8: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

8

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

2. ‘Gwneud daioni’: Beth yw ystyr hyn heddiw?

Yn yr ail astudiaeth hon, byddwn yn ystyried sut y mae Dorcas yn esiampl all ein hannog ni i fywyd o ‘wneud daioni’. Yn y Testament Newydd, defnyddir ymadroddion gwahanol i ddisgrifio bywyd Cristion: bywyd o wasanaeth; bywyd o hunan-aberth; bywyd o ufudd-dod. Disgrifir Dorcas fel person oedd wastad yn “gwneud daioni” a dyma’r ymadrodd y byddwn yn ei ddefnyddio. Byddwn yn ystyried beth sydd yn cymell y Cristion i “wneud daioni” a beth y mae hynny yn ei olygu yn ymarferol.

Torri’r GarwByddwch angen 2 ddarn mawr o bapur neu flipchart a beiros addas.

Gofynnwch i bawb droi at y person nesaf atynt a thrafod achlysur pryd yr oeddent hwy yn rhan o drefnu digwyddiad. Dylai’r naill a’r llall gael tro ar hyn.

Gofynnwch i’r grwp ddychmygu eich bod am drefnu Noson Agored er mwyn codi arian ar gyfer elusen leol. Beth all pob person ei gyfrannu? Ysgrifennwch yr awgrymiadau ar eich papur er mwyn i bawb gael eu gweld. Meddyliwch am ambell i gwestiwn ymlaen llaw, e.e., pwy all helpu hefo’r hysbysebu? Cael y neuadd yn barod? Paratoi’r lluniaeth? Rhoi sgwrs fer am yr elusen? Edrych ar ôl yr arian? Clirio wedyn? Gwneud pethau i’w gwerthu? Gwahodd ffrindiau/cymdogion ayyb.

Fe fydd hi’n amlwg, gobeithio, ar ddiwedd y 5 munud fod gan bawb ran i’w chwarae.

1. Ail-adrodd stori Dorcas: Actau 9:36Darllenwch yr adnod a gofynnwch i’r grwp beth y maent yn ei gofio am Dorcas.

Esboniwch y bydd yr astudiaeth hon yn ystyried bod pobl Dduw i fod i “wneud daioni” fel Dorcas.

2. Gwneud daioni – Ewyllys Duw ar gyfer ei boblDarllenwch Effesiaid 2:8-10. Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw; nid yw’n dibynnu ar weithredoedd, ac felly ni all neb ymffrostio. Oherwydd ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da, bywyd y mae Duw wedi ei drefnu inni o’r dechrau.

Yn yr adnodau hyn, mae’r Apostol Paul yn cadarnhau yn y lle cyntaf mai rhodd gan Dduw yw achubiaeth. Mae Duw trwy ei ras wedi gwneud popeth sydd yn angenrheidiol trwy farwolaeth ei Fab Iesu Grist i sicrhau ffordd iachawdwriaeth. Trwy ffydd rydym yn derbyn rhodd Duw. Yna, mae’n dweud wrth ei ddarllenwyr mai eu pwrpas hwy bellach yw cyflawni’r gweithredoedd da y mae Duw wedi cynllunio iddynt eu gwneud.

Page 9: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

9

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

Beth yw’r gweithredoedd da y mae Duw wedi’u cynllunio inni eu gwneud?

Gallai fod yn ddefnyddiol i rannu’r gweithredoedd da hyn i ddau gategori: a) Y gweithredoedd da sydd yn deillio o Ddoniau ysbrydol. b) Y gweithredoedd da sy’n deillio o Dalentau.

a) Doniau Ysbrydol

Mae’r Apostol Paul yn sôn am ‘ddoniau ysbrydol’ a gyflwynir gan Dduw i’w bobl er mwyn iddynt gyflawni rolau neu dasgau penodol. Felly mae yna weithredoedd da sy’n deillio o’r doniau ysbrydol sydd gennym.

Edrychwch ar yr adnodau a ganlyn am rai esiamplau:

Darllenwch 1 Corinthiaid12:27-31. Mae Duw wedi penodi (h.y., rhoi’r ddawn i bobl ar gyfer bod yn) apostolion, proffwydi, athrawon, cyflawnwyr gwyrthiau, iachawyr, cynorthwywyr, gweinyddwyr, siaradwyr â thafodau.

Darllenwch Rhufeiniad 12:6-8. Mae Duw wedi rhoi’r doniau o broffwydo, dysgu, gwasanethu, annog, rhoi i’r anghenus, arwain, dangos tosturi.

Mae’n debyg eich bod yn adnabod pobl sydd yn berchen doniau ysbrydol amlwg. Gall fod yn bregethwr sydd yn esbonio gair Duw yn glir ac yn eich helpu chi i ddeall beth y mae’r Beibl yn ei olygu ar eich cyfer chi; yn unigolyn sydd fel petai’n gwybod pa gyngor i’w roi pan fo angen cyngor ar anghenion ysbrydol; yn berson sydd a gallu cynhenid i weld anghenion eraill ac sydd ag awydd i helpu; yn unigolyn y mae pobl eraill yn fodlon gwrando arno/i a’u dilyn gan eu bod yn amlwg yn arddangos ysbryd Duw.

Mae’r doniau hyn wedi’u cyflwyno am resymau pendant.

Darllenwch 1 Pedr 4:10-11. I wasanaethu eraill, i fod yn gyfrwng ar gyfer gras Duw tuag at eraill, ac i foli Duw am hyn.

Darllenwch Effesiaid 4:11,12. Mae Duw wedi rhoi doniau penodol i rai fel y gallant baratoi eraill i wasanaethu, ac wrth iddynt wasanaethu adeiladir corff Crist (yr eglwys).

Darllenwch Mathew 5:14-16. Dywedodd Iesu hefyd y bydd ein gweithredoedd da yn golygu mawrygu enw Duw.

b) Doniau neu dalentau naturiol

Mae Duw wedi creu pob un ohonom gydag amrywiaeth o dalentau. Mae’r galluoedd naturiol hyn yn ein gwneuthuriad genynnol ac maent yn datblygu trwy gydol ein bywydau. Efallai y gallwch ganu neu baentio neu ddysgu neu ysgrifennu. Efallai y gallwch wnïo neu gadw cyfrifon. Mae pob math o weithredoedd da y gallwn eu cyflawni gan ddefnyddio’r talentau hyn, i ofalu dros eraill ac i wasanaethu eraill. Eto, mae’r gweithredoedd da hyn yn mawrygu Duw ac yn gyfrwng ar gyfer ei ras tuag at eraill.

Dydi pob Cristion ddim wedi’i alw i fod yn bregethwr neu athro. Ond gall pob un ohonom ddefnyddio ein talentau er lles eraill. Mae’n debyg eich bod yn adnabod

Page 10: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

10

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

Cristion sydd yn nyrs neu yn feddyg, sydd yn ymwybodol bod Duw wedi rhoi talentau arbennig iddynt ym maes meddygaeth.

Yn ddiweddar, daethom ar draws cyfreithiwr sydd yn arbenigo mewn helpu eglwysi ym meysydd materion cyflogaeth a phersonél.

Mae gan sawl eglwys weithgareddau ymestyn i’r gymuned ble bo aelodau’n defnyddio eu talentau i chwarae gyda phlant dan oed ysgol, sgwrsio hefo mamau ifanc, gwrando ar bobl unig mewn bore coffi, neu roi cyngor i unigolion sydd yng nghanol problemau ariannol. Mae ein holl eglwysi yn dibynnu ar bobl yn defnyddio eu talentau i gynnal yr achos o wythnos i wythnos - yn canu’r piano, yn trefnu’r blodau, neu’n cadw’r adeilad yn ddiogel, yn gynnes ac yn daclus.

Mae’r Beibl hefyd yn ein dysgu y dylem ddefnyddio ein hadnoddau i wneud daioni i eraill.

Darllenwch 1 Timotheus 6:17-19. Gorchymyn di i gyfoethogion y byd presennol beidio â bod yn falch, ac iddynt sefydlu eu gobaith, nid ar ansicrwydd cyfoeth ond ar y Duw sydd yn rhoi i ni yn helaeth bob peth i’w fwynhau. Annog hwy i wneud daioni, i fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, i fod yn hael ac yn barod i rannu, ac felly i gael trysor iddynt eu hunain fydd yn sylfaen sicr ar gyfer y dyfodol, i feddiannu’r bywyd sydd yn fywyd yn wir.

Mae Paul yn dweud o leiaf 7 o bethau wrth Gristnogion cyfoethog yn yr adnodau hyn. Ydach chi yn gallu eu rhestru?

I’w Hystyried:

Pa ddawn/ddoniau ysbrydol y mae Duw wedi’u rhoi i chi? Sut ydach chi’n • defnyddio’r ddawn honno? Efallai y byddwch angen help gan Gristion mwy aeddfed i weld pa ddawn/doniau y mae Duw wedi’u rhoi i chi a sut allwch chi eu defnyddio.

Pa dalentau naturiol sydd gennych? Ydach chi yn eu defnyddio er lles eraill?•

Sut agwedd sydd gennych at eich adnoddau ariannol? • Ydach chi’n defnyddio eich cyfoeth er lles eraill?

Darllenwch Colosiaid 3:17.• Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, ar air neu ar weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu Grist, gan roi diolch i Dduw, y Tad, drwyddo ef.

Dylem wneud y CWBL yn ei enw – fel cynrychiolwyr Iesu a drosto ef.

Dylem wneud y cwbl mewn modd DIOLCHGAR – a hynny’n falch ac nid yn rwgnachlyd.

3. Gwneud Daioni - ein hymateb i gariad DuwSoniwch wrth y grwp am achlysur pan ydach chi wedi ymateb yn bersonol i angen neu sefyllfa benodol. Er enghraifft, efallai eich bod wedi gweld adroddiad

Page 11: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

11

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

newyddion o rywle yn y byd lle mae argyfwng wedi digwydd a’ch bod wedi ffonio yn syth i roi arian neu gyfrannu’r nwyddau angenrheidiol. Neu efallai eich bod wedi sylweddoli bod cymydog neu ffrind yn teimlo’n unig iawn a chithau wedi penderfynu treulio amser hefo nhw. Neu efallai bod rhywun wedi bod yn garedig iawn tuag atoch a’ch bod wedi gwneud rhywbeth i ddangos eich bod yn gwerthfawrogi eu haelioni.

Gofynnwch i’r grwp oes ganddynt hwy unrhyw esiamplau i’w rhannu? Beth wnaeth eu cymell?

Efallai y carech wahodd pobl i ysgrifennu rhai esiamplau yn eu llyfrau nodiadau.

Cawn ein cymell i roi ac ymddwyn gan deimladau o dosturi neu ddiolch neu gonsýrn. Cawn ein cymell gan yr hyn sydd ynom ni.

Wrth ddod yn blant i Dduw cawn ein cymell i wneud daioni gan ddau ffactor:

Yr Ysbryd Glân sy’n trigo yn ein calonnau ac yn ein hysgogi i ufuddhau i 1. orchmynion Duw a gweithredu fel y byddai yntau.

Ymateb yn ddiolchgar i gariad Duw a’r trugaredd a ddangoswyd atom yn 2. aberth ei Fab Iesu ar Galfaria.

Byddwn yn edrych yn fanwl ar y rôl y mae’r Ysbryd Glân yn ei chwarae ym mywyd y crediniwr yn ystod y 4edd astudiaeth.

Rhoesom gychwyn ar yr astudiaeth hon trwy ystyried yr adnodau yn Effesiaid 2 sydd yn esbonio mai ewyllys Duw yw gweld ei bobl yn cyflawni gweithredoedd da. Cychwynna’r adnod gyda chrynodeb o newyddion da yr efengyl - y cawn ein hachub trwy ras, trwy ffydd.

Dro ar ôl tro, dywed yr Apostol Paul wrth ei ddarllenwyr am ystyried yr hyn y mae Duw wedi’i wneud drostynt er mwyn iddynt gael eu hysbrydoli i fyw er ei fwyn ef yn llwyr.

Os oes gennych amser, gallwch edrych ar yr adnodau hyn: Rhufeiniaid 12:1-2; Effesiaid 5:1; Philipiaid 2:1,2; Colosiaid 3:12.

Bob dydd dylem gofio beth y mae Duw wedi’i wneud drosom, sut y mae wedi ein caru trwy roi ei Fab i farw dros y byd. Wrth wneud hynny, llenwir ein calonnau â diolchgarwch tuag at ein Tad a gyda’i gariad ef cawn ein hysbrydoli i fyw yn llwyr er ei fwyn ef hefyd.

I DerfynuDefnyddiodd Dorcas ei thalent naturiol i wnïo er mwyn gwneud dillad ar gyfer gweddwon tlawd Jopa a’u teuluoedd. Mae’n amlwg fod ganddi’r modd i brynu defnyddiau ar gyfer hyn, felly byddai wedi defnyddio ei hadnoddau ariannol yn y fenter hefyd.

Efallai hefyd fod ganddi un o’r doniau ysbrydol y mae Paul yn sôn amdanynt yn 1 Corinthiaid 12 - y ddawn o helpu neu wasanaethu eraill o bosib? Cafodd ei gweithredoedd da effaith ar y dref yn ei chyfanrwydd.

Pa effaith allai ein gweithredoedd da ni ei gael?

Page 12: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

12

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

3. ‘Gwneud daioni’: Beth yw’r Safon? Pwy yw ein hesiampl?

Amcanion y sesiwn hon yw:

Ymchwilio i’r hyn sydd gan y Beibl i’w ddweud am wasanaethu eraill.•

Ystyried y safon a osododd Iesu ar gyfer ei ddilynwyr.•

Ystyried esiampl Iesu fel “ Y Brenin Gwasanaethgar”.•

Torri’r GarwBydd angen sgwâr o bapur ar gyfer pob unigolyn gan eich cynnwys chi eich hun, eliffant origami wedi’i baratoi ymlaen llaw a chopi o’r cyfarwyddiadau yn Atodiad 1!

Dangoswch yr eliffant origami i’r grwp, rhoi darn sgwâr o bapur i bawb a’u gwahodd i greu eliffant eu hunain. Wedi munud neu ddau, dangoswch iddynt sut i blygu’r papur gam wrth gam nes bod gan bob person eliffant. Esboniwch nad oedd gweld yr eliffant yn ddigon er mwyn gallu gwneud un eu hunain - roedd angen derbyn help, cam wrth gam. Yn yr astudiaeth hon, byddwn yn ystyried y safon a osododd Iesu ar gyfer ein gweithredoedd da ni (yr eliffant) - a’r esiampl yr ydym ni, fel ei bobl, i’w dilyn.

Atgoffa’n hunain1. Cofio Dorcas.

Darllenwch Actau 9 adnodau 36-42. Beth mae adnod 36 yn ei ddweud am Dorcas? Roedd hi’n byw yn Jopa; roedd hi wastad yn gwneud daioni; roedd hi’n helpu’r tlawd.

Beth a ddysgwn o adnod 39 ynghylch yr hyn yr oedd Dorcas yn ei wneud i helpu eraill? Roedd hi’n gwneud dillad a chlogynau.

Rhai pwyntiau i’w cofio o stori Dorcas:

Roedd Jopa yn borthladd prysur felly mae’n bosib bod llawer o weddwon • morwyr a’u plant yn byw yno - roedd yno grwp o bobl mewn angen.

Roedd prynu defnyddiau i wneud dillad yn broses ddrud, felly mae’n debyg • bod Dorcas yn wraig gymharol gyfoethog - roedd ganddi’r modd i ateb rhai o’u gofynion.

Roedd hi’n gallu gwnïo! Roedd hi’n rhoi ei thalentau ar waith i helpu eraill.•

2. Beth a ddywed y Beibl am wneud daioni? Darllenwch Effesiaid 2:10. Beth y mae Duw wedi’i gynllunio i’w bobl ei wneud? Mae Duw wedi cynllunio i’w bobl wneud gweithredoedd da.

Page 13: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

13

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

Darllenwch Mathew 5:16. Beth ddylai ddigwydd yn sgil ein gweithredoedd da? Mae’r gweithredoedd hyn yn tynnu pobl at Dduw.

Darllenwch 1 Timotheus 6:17,18. Beth ddylai credinwyr cyfoethog ei wneud? Gwneud daioni, bod yn hael a bod yn barod i rannu.

Myfyrdod personol

Meddyliwch dros yr wythnos a aeth heibio? Ydach chi wedi cael cyfle i fod yn hael a rhannu gyda rhywun arall? Ydach chi wedi gweddïo y bydd eich gweithredoedd da yn denu eraill at Iesu?

Caru fy nghymydog fel fi fy hun – Y SafonCyflwynwch y darlleniad hwn trwy esbonio bod Iesu yn ateb cwestiwn a osodwyd iddo gan arbenigwr yn y gyfraith Iddewig. Roedd yr arbenigwr wedi holi Iesu sut allai person dderbyn bywyd tragwyddol.

Darllenwch Luc 10:25-37. Y Samariad Trugarog.

Beth a ddywed adnodau 27 a 28 ynghylch yr hyn y mae’n rhaid i berson ei • wneud i gael bywyd tragwyddol? Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl nerth ac â’th holl feddwl, a châr dy gymydog fel ti dy hun.

 Iesu ymlaen i esbonio beth y mae bod yn “gymydog” yn ei feddwl. • Darllenwch adnodau 30-37. Pwy a fu’n “gymydog” i’r unigolyn clwyfedig yn ôl Iesu? Y sawl a ddangosodd dosturi tuag ato.

Felly mae caru rhywun yn yr un modd â’n caru ni’n hunain yn golygu dangos tosturi tuag atynt.

Y safon a osodir gan Iesu yw “dangos tosturi”. Nid dim ond teimlo piti dros • rywun a gafodd anffawd yw ystyr hyn. Roedd y tosturi a ddangoswyd gan y Samariad yn ymarferol, yn aberthol ac yn gostus. Ymarferol = triniodd ei anafiadau yn syth a’i dywys i le diogel ar gyfer rhagor o driniaeth a chymorth. Costus = tarfodd ar ei amserlen ei hun ac fe dalodd am y gofal ar gyfer y dyn a gafodd ei anafu. Aberthol = oherwydd y rhesymau uchod ac oherwydd iddo oresgyn y casineb traddodiadol rhwng Iddew a Samariad er lles y dyn a gafodd ei anafu - roedd yn fodlon rhoi ei ragfarn a’i draddodiad o’r neilltu er mwyn unigolyn arall.

Mae dysgeidiaeth Iesu yma yn adlewyrchu’r safonau yr oedd Duw wedi’u • gosod ar gyfer ei bobl, yr Iddewon, trwy’r gyfraith. Roedd llawer o’r deddfau a roddodd Duw i’r Israeliaid yno er mwyn amddiffyn y tlodion a’r anghenus mewn cymdeithas. Roedd Duw am weld gweddwon a phlant amddifad yn derbyn gofal. Doedd o ddim am weld pobl yn ymelwa ar ei gilydd. Roedd diogelwch economaidd ar gyfer y tlodion, roedd diogelwch cymdeithasol

Page 14: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

14

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

na fu ei debyg o’r blaen a darpariaeth arbennig ar gyfer cynnwys y tlodion mewn addoliad cymunedol. Mae’r cyfreithiau hyn ac eraill yn dangos consýrn dwys Duw am y tlodion. Roedd eu hanwybyddu hwy neu ymelwa arnynt yn ennyn dicter Duw (Exodus 22:22-24; Job 31:21-23). Roedd gofalu am y tlodion yn fater mor ddifrifol nes yr oedd Duw yn ystyried y weithred o roi i’r tlodion yn arwydd cwbl angenrheidiol o ufuddhau i’w gyfraith (Deuteronomium 16:12-13), a phan fethodd Israel â gwneud hynny, disgynnodd barn Duw arni (Eseia 1:15-17; Jeremeia 5:28-29). Roedd agwedd Iesu yn adlewyrchiad clir o galon dosturiol a chyfiawn ei Dad. O gychwyn ei weinidogaeth, dangosodd Iesu ei fod yn uniaethu â’r tlodion a’r gorthrymedig. (Mathew 6:3; 11:12-5; Marc 10:21; Luc 4:18-19; 6:20; 10:25-37; 12:32-34; 14:12-14; 16:19-31; 18:22-24; 19:1-10). Roedd hefyd yn datgan bod gofalu am ein brodyr a chwiorydd anghenus yn arwydd ein bod yn adnabod Duw ac wedi ein hachub (Mathew 25:31-46). Roedd Iesu o ddifrif am ofalu am y tlodion a’r anghenus ac mae’n disgwyl i’w ddilynwyr wneud yr un modd.

Cwestiwn

Gallwch rannu’n barau neu grwpiau bychain ac yna cael cyfnod o adborth neu annog pobl i ateb yn unigol.

Allwch chi feddwl am rywun sydd angen tosturi yn eich eglwys neu eich cymuned? Cofiwch fod hyn yn golygu rhywbeth ymarferol ac fe allai fod yn gostus.

Os na allwch chi wneud hyn, efallai bod modd ichi dreulio ychydig o amser dros y dyddiau nesaf yn gofyn i Dduw ddangos rhywun y dylech chi neu’r Eglwys ddangos tosturi tuag atynt.

Caru fy “nghymydog” fel fi fy hun – Yr Esiampl Darllenwch Ioan 13:1-17. Iesu’n golchi traed ei ddisgyblion.

Esboniwch fod y digwyddiad hwn wedi digwydd ychydig ddyddiau cyn croeshoeliad Crist, pan oedd Iesu a’i ddisgyblion yn Jerwsalem.

Gall rhywun roi cynnig ar gyflwyno adnodau 14 ac 15 yn eu geiriau eu • hunain? Pa fath o dasgau y byddai’n rhaid ichi eu gwneud a fyddai’n cymharu â Iesu yn golchi traed ei ddisgyblion? Pa fath o dasgau “Cristnogol” a fyddech chi’n eu cymharu â Iesu’n golchi eu traed? A fyddech chi’n fodlon gwneud y tasgau hyn?

Beth yw dymuniad Iesu ar gyfer ei ddilynwyr ei hun yn ôl yr adnodau hyn? •

Bywyd a marwolaeth Iesu ei hun wrth gwrs oedd y weithred eithaf • o wasanaeth. Gadawodd y nef, dyfod yn ddyn a marw drosom. Ni all unrhyw un wneud dim sydd yn fwy nag aberthu ei fywyd dros fod dynol arall. Rhybuddiodd Iesu ei ddisgyblion y byddai ei ddilyn ef yn gostus, ac y byddai rhai ohonynt yn marw wrth wneud hynny. Trwy’r canrifoedd, mae Cristnogion wedi dilyn esiampl Iesu, hyd at aberthu eu bywydau eu hunain wrth iddynt dystiolaethu dros Iesu a gwasanaethu eraill yn ei enw ef. Ni

Page 15: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

15

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

fydd yn rhaid i’r mwyafrif ohonom ni fyth wneud yr aberth hwn, ond hyd yn oed yn ein byd heddiw y mae dilyn Iesu yn gallu golygu marwolaeth i gredinwyr mewn rhannau o’r byd. Mae’n dda cofio’r bobl hyn yn ein gweddïau.

Nid dim ond dilyn ei esiampl y mae Iesu am i’w ddilynwyr ei wneud. Mae’n • ffaith ryfeddol i’r Cristion ei ystyried, ond mae Duw am inni fod yn debyg i’w Fab. O’r foment yr ydym yn derbyn yr Ysbryd Glân, rydym yn cael ein trawsnewid i fod yn debyg i Grist (2 Corinthiaid 3:18). Wrth inni geisio ufuddhau i Air Duw a dilyn esiampl Iesu, mae’r Ysbryd Glân ar waith yn ein calonnau a’n meddyliau yn ein trawsnewid i fod yn debycach i Iesu ei hun. Ond nid yw dilyn esiampl Iesu wastad yn hawdd, ac fe fyddwn yn ystyried hyn mewn mwy o fanylder yn yr astudiaeth nesaf.

Yn ystod yr wythnos, treuliwch amser:

Yn diolch i Dduw am ei gariad a’i faddeuant. Darllenwch a myfyriwch ar • Rhufeiniad 5: 8. Carodd Iesu ni’n gyntaf pan oeddem ni yn bechaduriaid - does dim rhaid inni ennill ei ffafr ef trwy ein gweithredoedd da.

Yn ystyried: Ydw i wedi bod yn ceisio ennill ffafr Duw? Neu a ydw i’n • “gwneud daioni” fel ymateb i’w gariad ef?

Yn cofio’r credinwyr hynny sy’n wynebu erledigaeth a hyd yn oed • marwolaeth gan eu bod yn ddilynwyr i Iesu.

Rhagor o nodiadau ar y Gyfraith a’r tlawd ac anghenus yn y gymdeithas Iddewig

Roedd diogelwch economaidd ar waith ar gyfer y tlodion: roedd ganddynt hawl i loffa grawn o gorneli caeau a doedd dim modd i gredydwyr gymryd eu blancedi na’u hoffer (Lefiticus 19:9-10; Deuteronomium 24:17). Roedd rhaid talu dynion ar ddiwedd eu diwrnod o lafur (Lefiticus 19:13), ac roedd disgwyl i aelodau’r teulu helpu’i gilydd i adennill eu tir os oeddent yn syrthio i ddyled ac yn ei golli (Lefiticus 25:23-34).

Roedd y deddfau a gyflwynwyd gan Dduw hefyd yn rhoi diogelwch cymdeithasol heb ei debyg o’r blaen i’r tlodion: doedd gan farnwyr ddim hawl i ddangos ffafriaeth tuag at y cyfoethogion (Lefiticus 19:15); roedd gweddwon yn cael priodi eu brodyr-yng-nghyfraith er mwyn sicrhau etifedd i ofalu amdanynt yn eu henaint (Deuteronomium 25:5-10).

Yn olaf, roedd cyfraith Duw yn gwneud darpariaeth arbennig ar gyfer cynnwys y tlodion mewn addoliad cymunedol: roedd gweision, caethweision, dieithriaid a hyd yn oed anifeiliaid i gymryd rhan yn y Sabath (Deuteronomium 5:1-15); yn achos pobl dlawd nad oeddent yn gallu fforddio aberthau drud, roeddent yn cael aberthu’r hyn yr oedd modd iddynt ei fforddio (Lefiticus 5:7, 11; 14:21). Cesglid un degwm gyda gorchymyn penodol i gynnwys estroniaid, plant amddifad, gweddwon a phobl dlawd eraill mewn gwledd a dathliad cymunedol blynyddol. (Deuteronomium 14:22-29).

Page 16: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

16

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

4. ‘Gwneud daioni’: Help ar gyfer yr adegau anodd!

Yn yr ail astudiaeth, daethom ar draws y disgrifiad o Dorcas fel gwraig oedd “wastad yn gwneud daioni” (Actau 9:36). Yn y drydedd astudiaeth, canolbwyntiwyd ar orchymyn Iesu i garu ein cymydog, h.y. dangos tosturi a dilyn ei esiampl ef wrth wasanaethu eraill.

Yn yr astudiaeth hon, byddwn yn ystyried yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer y Cristion wrth iddo/iddi ymdrechu i fyw bywyd sy’n llawn o ‘weithredoedd da’. Ystyrir hefyd bwysigrwydd gweddi ym mywyd y Cristion.

Mae ein tad nefol yn rhoi popeth y mae ei blant ei angen er mwyn byw bywyd sydd yn ei blesio ef, ac sy’n llawn o “weithredoedd da”- y gweithredoedd da hynny y mae ef wedi bwriadu iddynt eu cyflawni. (Effesiaid 2:10)

Y prif adnoddau sy’n grymuso Cristion yw’r Ysbryd Glân, Yr Eglwys a Gair Duw - Y Beibl.

Torri’r GarwGofynnwch i’r grwp rannu’n barau a rhoi copi o’r pôs yn Atodiad 2 i bob pâr. Rhowch ychydig funudau iddynt i geisio datrys y pôs eu hunain cyn dangos yr ateb. Mae’n debyg na fyddent wedi gallu datrys y broblem eu hunain - roedd angen eich help chi. Esboniwch nad yw Duw yn disgwyl i Gristnogion wneud y cwbl “ar eu pen eu hunain”- mae adnoddau ar gael ar gyfer byw o ddydd i ddydd a does dim modd inni ddal ati heb y rhain.

1. Yr Ysbryd Glân Mae llawer o gyfeiriadau Beiblaidd yn yr astudiaeth hon. Efallai yr hoffech ddewis rhai ohonynt neu ofyn i wahanol bobl i gael hyd i un cyfeiriad yr un i’w ddarllen i’r grwp.

Person yr Ysbryd Glân

Trydydd person y Drindod yw’r Ysbryd Glân. Mae ganddo feddwl, emosiynau ac ewyllys. Mae’n gydradd â Duw’r Tad a Duw’r Mab ac mae ganddo’r un natur. Rhodd Duw yw’r Ysbryd Glân er mwyn cychwyn a gorffen y gwaith o godi Corff Crist, Yr Eglwys ar y ddaear. Mae’r Ysbryd yn datgelu pechod, mawrygu Crist ac yn gweddnewid y crediniwr.

(Gweler Mathew 28:19; Rhufeiniaid 8:11; Eseia 63:10; Rhufeiniaid 15:30; Rhufeiniaid 8:27; Ioan 16:8; Ioan 14:26; 1 Ioan 2:27)

Gwaith yr Ysbryd Glân

a) Ei waith yn y Creu - Genesis 1:2-3

b) Ei waith yn cyfathrebu gwirioneddau Duw. Ei brif waith yw tystiolaethu dros Grist - 2 Timotheus 3:15-16; 2 Pedr 1:19-21; Ioan 14:26, 15:26, 16:13-14; Ioan 16:13-14

c) Mae ynghlwm wrth waith Crist - Luc 1:35; Mathew 3:16

Page 17: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

17

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

d) Mae’n gwneud gwaith helaeth gyda bodau dynol.

Yr enedigaeth newydd - • Ioan 3:1-8; Effesiaid 1:14; 1 Corinthiaid 12:13

Creu dealltwriaeth -• 1 Corinthiaid 2:4 Ioan, 15:26

Creu ffrwyth (sancteiddrwydd) - • Galatiaid 5:22-26; 1 Pedr 1:2

Yn llenwi credinwyr -• Effesiaid 5:18

Yn rhoi doniau i gredinwyr -• 1 Corinthiaid 12:4-7; Effesiaid 4:7-14; 1 Pedr 4:10-11; Rhufeiniaid 12:6-8

Yn helpu gyda gweddi - • Effesiaid 2:18; Rhufeiniaid 8:26

Yn cymhwyso gwaith Crist ar gyfer credinwyr. Mae’n selio ac yn sancteiddio • credinwyr yng Nghrist - 1 Ioan 2:27

Yr Ysbryd = Grym ar gyfer byw

Wrth orffen y drydedd astudiaeth, nodwyd nad yw hi wastad yn hawdd dilyn esiampl Iesu a gwasanaethu eraill fel y mae ef yn ei ddisgwyl. Ysbryd Iesu yn trigo oddi mewn i gredinwyr yw’r Ysbryd Glân a dyna sail y grym sy’n galluogi’r Cristion i fyw fel y mae Duw wedi ei fwriadu.

Darllenwch Rhufeiniaid 8:11. Os yw Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu oddi wrth y meirw yn cartrefu ynoch, bydd yr hwn a gyfododd Grist oddi wrth y meirw yn rhoi bywyd newydd hefyd i’ch cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd, sy’n ymgartrefu ynoch chwi.

Darllenwch Galatiaid 2:20. Yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ ac mwyach, nid myfi sy’n byw ond Crist sy’n byw ynof fi. A’r bywyd yr wyf yn awr yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw trwy ffydd yr wyf, ffydd ym Mab Duw, yr hwn a’m carodd i ac a’i rhoes ei hun i farw trosof fi.

Darllenwch Philipiaid 4:13. Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy’r hwn sydd yn fy nerthu i.

Treuliwch ychydig funudau yn trafod yr adnodau hyn a’r oblygiadau ar gyfer y Cristion sydd am ddilyn esiampl Iesu trwy ddangos tosturi a gwasanaethu eraill.

Efallai eich bod chi’n meddwl - mae angen yr Ysbryd Glân arna’i yn fy mywyd! Os ydach chi’n Gristion, mae’r Ysbryd Glân eisoes yno.

Darllenwch Rhufeiniad 8:9. Ond nid ym myd y cnawd yr ydych chwi ond yn yr Ysbryd gan fod Ysbryd Duw yn cartrefu ynoch chwi.

Mae’r Ysbryd Glân yn trigo ynoch chi ond efallai nad ydach chi’n caniatáu iddo eich arwain. Gall fod yn byw ynoch chi - ond ddim yn llywodraethu drosoch.

Derbyn arweiniad yr Ysbryd

Yn ei lythyr at y Galatiaid, sonia Paul am gael ein “harwain” gan yr Ysbryd. (Galatiaid 5:16, 25. cf Rhufeiniaid 8:15). Awgryma hyn ein bod yn ufuddhau i’r hyn a ddywed ef. Mae ef yn arwain ac rydan ni’n dilyn. Digon hawdd. Ond fel arfer, dydan ni ddim yn hoff iawn o glywed rhywun arall yn dweud wrthym beth i’w wneud - hyd yn oed os mai Duw yw hwnnw! Mae cael ein harwain gan yr Ysbryd Glân yn golygu caniatáu i Ysbryd Duw a Gair Duw ddweud wrthym beth i’w wneud.

Page 18: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

18

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

Wrth inni ddarllen Gair Duw, mae’r Ysbryd Glân yn dangos i ni’r pechodau sydd yn ein bywydau, y pechodau hynny y mae’n rhaid inni eu diosg. Mae’r Apostol Paul yn annog ei ddarllenwyr yn gyson i ddiosg pechod, i draddodi pechod i farwolaeth a ffoi rhag pechod er mwyn i’n bywydau arddangos yr elfennau hynny y mae Duw am eu gweld - yn sanctaidd a phur fel Iesu. Eto, grym yr Ysbryd Glân all ein helpu i ddelio â’r pechod yn ein bywydau. Mae delio â phechod yn rhan o gael ein “harwain gan yr Ysbryd” a “byw yn ôl yr Ysbryd.”

Mae gennym ddewis bob dydd: Ydym ni am adael i’r Ysbryd Glân ein harwain, neu ydym ni am gael ein rheoli gan rywbeth arall? A fydd ofnau ynghylch y dyfodol, neu ein hawydd i gael yr hyn yr ydym yn ei ddeisyfu, yn bwysicach nag ufuddhau i Grist? Pan fo’r Ysbryd Glân yn eich llenwi, mae’n rheoli eich meddyliau a’ch gweithredoedd, mae’n eich helpu i ddiosg pechod. Does dim modd ichi gael eich llenwi gan gasineb, ofn neu bryder wrth gael eich llenwi gan yr Ysbryd. Does dim lle iddyn nhw.

Darllenwch Effesiaid 5:17. Am hynny, peidiwch â bod yn ffyliaid, ond ceisiwch ddeall beth yw ewyllys yr Arglwydd. Peidiwch â meddwi ar win (afradlonedd yw hynny) ond llanwer chwi â’r Ysbryd.

Yn wahanol i alcohol, nid newidiadau artiffisial sy’n cael eu creu gan yr Ysbryd Glân. Dydy’r rhain ddim yn diflannu gydag amser. Yn ôl y Beibl, y “ffrwyth” sy’n cael ei greu gan yr Ysbryd Glân yw’r newidiadau parhaol hyn.

Darllenwch Galatiaid 5:22.23. Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth. Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain.

Pan fo’r Ysbryd Glân yn rheoli ein bywydau, mae ffrwyth yn cael ei gynhyrchu, h.y., mae cymeriad Iesu yn datblygu ynom ni. Rydym yn cael ein trawsnewid i ymdebygu iddo ef, 2 Corinthiaid 3:18. Byddwn yn gynyddol yn meddwl ac yn gweithredu fel ein Gwaredwr, gan ddangos y tosturi a ddangosodd ef a gwasanaethu eraill fel y gwnaeth ef.

Cwestiynau

A ydach chi’n gwneud ymdrech i ganiatáu i’r Ysbryd Glân eich arwain chi bob dydd? Oes yna bechodau yn eich bywyd y mae’n rhaid cael eu gwared gyda help a grym yr Ysbryd? Allwch chi weld ffrwyth yr Ysbryd Glân yn tyfu yn eich bywyd?

Yr Ysbryd = Help i Weddïo

Mae’r Ysbryd Glân hefyd yn ein helpu i weddïo. Gweddi yw un o’r pethau pwysicaf y mae Cristion yn ei wneud gan ei fod yn un cyfrwng i ddatblygu a chynyddu ein perthynas â Duw. Gallwn weddïo yn unrhyw le ac ar unrhyw amser. Mae gweddi yn dod â llawenydd a heddwch i enaid y crediniwr, hyd yn oed ar adegau anodd. Wrth weddïo rydym yn dilyn esiampl Iesu ei hun - gan iddo ef weddïo’n gyson a hynny’n aml am gyfnodau meithion.

Mae’r Cristion i weddïo am bob math o bethau ac fe fyddai’n ddefnyddiol i dreulio amser yn ystyried dysgeidiaeth Iesu am weddi yn Mathew 6, yn ogystal ag edrych ar y cyfeiriadau aml at weddi yn y llythyrau (epistolau). Mae’r pethau hynny y cawn ein hannog i weddïo drostynt yn cynnwys: bod enw Duw yn cael

Page 19: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

19

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

ei ddyrchafu a’i deyrnas yn cael ei hymestyn ar y ddaear (Mathew 6); gofyn am yr Ysbryd Glân (Effesiaid 3:19); gofyn am iacháu’r sâl ac am wyrthiau eraill (Iago 5:14, Actau 4:30); am undod (Ioan 17:20:21); am ddirnadaeth (Philipiaid 1:9,10); am adnabod Duw a’i ewyllys yn well (Colosiaid 1:10,19); am gryfder a dyfalbarhad i wneud gweithredoedd da (Colosiaid 1:10,11); am ddiogelwch a maddeuant (Mathew 6:12, 13).

Mae gweddi yn newid pethau - pan ydym yn gweddïo’n unol ag ewyllys Duw! Mae Duw yn caru rhoi rhoddion da i’w blant ac mae gweddi sy’n cael ei hateb yn un o’r rhoddion hynny! (Mathew 7:11, Luc 11:13)

Darllenwch Rhufeiniaid 8:26, 27. Yn yr un modd, mae’r Ysbryd yn ein cynorthwyo yn ein gwendid. Oherwydd ni wyddom ni sut i weddïo ond y mae’r Ysbryd ei hun yn ymbil trosom ag ocheneidiau y tu hwnt i eiriau. Ac y mae Duw, sy’n chwilio calonnau dynol, yn deall bwriad yr Ysbryd, mai ymbil y mae dros y saint yn ôl ewyllys Duw.

Mae’r adnodau hyn yn datgelu mai’r Ysbryd Glân sy’n ein dysgu ynghylch beth i weddïo amdano, yn arwain ein gweddïau, ac yn ysbrydoli gweddïau yn ein calonnau. Yn aml, mae’n anodd dod o hyd i’r geiriau i’w dweud, efallai mai dim ond ochneidio neu wylo y gallwn ei wneud gan fod ein teimladau a’n profiadau mor ddwys. Efallai nad oes gennym syniad ynghylch beth yw ewyllys Duw mewn sefyllfa benodol. Mewn achosion fel hyn, bydd yr Ysbryd Glân yn eiriol drosom, bydd yn gweddïo drosom a hynny’n unol ag ewyllys Duw. Dyna anogaeth a chysur rhyfeddol. Wrth inni weddïo dros bobl a sefyllfaoedd lle mae angen, bydd yr Ysbryd Glân yn arwain ein gweddïau ac yn gweddïo drosom ninnau hefyd.

A yw Duw yn ateb pob un o’n gweddïau?

Weithiau, mae’r ffordd yr ydym yn byw yn creu rhwystrau rhyngom ni a Duw; efallai ein bod yn anufudd; weithiau rydym yn gwrthod maddau; efallai bod yna bechod heb ei gyffesu yn ein bywydau neu ein bod yn gweddïo gyda’r cymhellion anghywir neu am bethau nad yw’n ddaionus i ni. Mae Duw yn ateb gweddïau’r rhai hynny y mae eu calonnau yn bur. Ond nid dweud yr ydym fod yn rhaid inni fod yn berffaith cyn y bydd Duw yn ein hateb. Ond mae’n rhaid bod yn ostyngedig ac yn edifeiriol wrth weddïo.

Sut ydym i weddïo?

Mae gan bobl batrymau gwahanol ar gyfer gweddio ac yn aml mae’r rhain yn dibynnu ar ddull byw neu bersonoliaeth unigolyn. Gall y rhai hynny sy’n gweithio amser llawn weddïo ar y ffordd i’r gwaith yn y car neu yn ystod amser cinio; mae rhai’n gweddio wrth loncian neu gerdded y ci; mae’r rhai hynny sydd â babanod bach a phlant yn ei chael hi bron yn amhosib cael amser i weddïo - ac aros yn effro! Er yr anawsterau, mae’n hanfodol bod y Cristion yn cael hyd i ddull sy’n gweddu iddo/iddi ac yn neilltuo amser ar gyfer gweddïo.

Cwestiynau

A yw gweddi yn rhan hanfodol o’ch bywyd dyddiol? Oes pethau yn eich bywyd ar hyn o bryd sy’n rhwystrau o ran eich perthynas chi â Duw? A ydach chi wedi ystyried treulio amser yn gweddio gyda ffrind neu ddau yn gyson?

Page 20: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

20

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

2. Yr Eglwys Yr ail adnodd y mae Duw wedi’i roi i ni er mwyn ein helpu i fyw bywyd sy’n ei blesio ef yw’r Eglwys. Pan fo unigolyn yn dod yn Gristion trwy waith yr Ysbryd Glân ar y galon, mae wedyn yn blentyn Duw ac yn aelod o’i deulu, yr Eglwys. Gelwir yr eglwys hefyd yn Gorff Crist. Mae aelodau gwahanol o gorff Crist angen ei gilydd ac yn dibynnu ar ei gilydd yn union fel y mae rhannau gwahanol o’r corff yn dibynnu ar ei gilydd.

Darllenwch Effesiaid 4:11-12. A dyma’i roddion: rhai i fod yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon, i gymhwyso’r saint i waith gweinidogaeth, i adeiladu corff Crist.

Pa rolau a restrir fan hyn? Apostolion, proffwydi, athrawon, gweinidogion. Beth yw bwriad yr arweinwyr hyn? Paratoi pobl Dduw ar gyfer gweithredoedd o wasanaeth. Beth yw canlyniad ‘gweithredoedd o wasanaeth’? Mae’r corff yn tyfu ac yn cael ei adeiladu.

Dyma rai o’r cyfrifoldebau eraill sydd gan bob aelod o gorff Crist tuag at ei gilydd:

Cario beichiau ei gilydd: Galatiaid 6:2.•

Gweddio dros y naill a’r llall: Effesiaid 6:18. •

Annog ei gilydd: 1 Thesaloniaid:5:11.•

Cwestiynau

Disgrifir yr eglwys hefyd fel ‘Priodferch Crist’: Effesiaid 5:25-27; Datguddiad 19:7-9. Pa syniadau y mae hyn yn ei roi i ni ynghylch ein perthynas â Christ?

Disgrifir yr Eglwys hefyd fel ‘teml sanctaidd’: Effesiaid 2:19-21. Pa fath o bobl a pha fath o Eglwys y mae Duw eisiau ei weld?

I’w ystyried

Meddyliwch am eich rôl chi yn yr Eglwys. Sut ydach chi yn cyflawni eich rôl? Ydach chi angen yr aelodau i’ch helpu chi mewn ffyrdd penodol ar hyn o bryd?

3. Y Beibl – Gair Duw Yn drydydd, mae Duw wedi rhoi’r Beibl i ni, Ei Air ef.

Darllenwch 2 Timotheus 3:16. Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi a cheryddu a chywiro a disgyblu mewn cyfiawnder. Felly y darperir dyn Duw â chyflawn ddarpariaeth ar gyfer pob math o weithredoedd da.

Ar gyfer beth y mae’r Efengyl yn ddefnyddiol? Dysgu, ceryddu, cywiro, hyfforddi mewn cyfiawnder.

Beth yw canlyniadau rhoi’r Efengyl ar waith ym mywyd y credinwyr? Eu paratoi ar gyfer pob gwaith da.

Mae’r Ysgrythur (y Beibl) wedi ei rhoi i ni er mwyn ein harfogi i wneud “GWEITHREDOEDD DA.”

Page 21: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

21

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

Mae Duw wedi dewis cyfathrebu â ni trwy’r cread, trwy ei Air a thrwy ei Fab. Cyn y down yn Gristnogion, mae Duw yn siarad â ni trwy ei Air gan ddod ag achubiaeth i ni trwy ffydd yng Nghrist Iesu. Mae ein perthynas wedyn yn tyfu wrth iddo siarad â ni trwy ei Air.

Wrth gwrs, mae’n rhaid inni wneud amser i wrando ar Dduw. Mae’n rhaid inni ddarllen ei Air, mae’n rhaid ei astudio a gwrando ar eraill yn esbonio’r Gair. Megis gyda gweddi, mae gan wahanol bobl eu hoff ffyrdd o wneud hyn, ac mae’n rhaid treulio amser digonol yn gwrando ar Dduw yn siarad â ni trwy ei Air a chymhwyso’r Gair i ni ein hunain. Cawn wedyn ein harfogi i wneud y “gweithredoedd da” y cyfeiriodd Paul atynt yn yr adnodau uchod.

Yn yr un modd ag y mae ein cyrff angen maeth digonol er mwyn gweithio’n iawn, mae’n rhaid trin ein bywyd ysbrydol yr un fath. Ffynonellau ein maeth ysbrydol yw Gair Duw, dibynnu ar yr Ysbryd Glân, Cristnogion eraill a gweddi. Mae llenwi ein bywydau â’r pethau hyn yn ein helpu ar gyfer gwasanaethu eraill. Caiff ein calonnau eu llenwi â chariad a thrugaredd Duw wrth inni ddeall mwy am ei gariad a’i drugaredd tuag atom.

I’w Drafod

Pa ddulliau gwahanol y mae pobl yn eu defnyddio ar gyfer astudio’r Beibl? Sut allwn ni oresgyn yr anhawster o neilltuo amser ar gyfer darllen ac astudio Gair Duw?

Wrth Derfynu

Er bod ein Tad nefol wedi darparu’r cwbl sydd ei angen arnom ar gyfer byw iddo ef a gwneud daioni i eraill, rydym yn dal i wynebu anawsterau.

Roedd awdur y llythyr at yr Hebreaid yn gwybod pa mor bwysig oedd hi i Gristnogion annog ei gilydd.

Darllenwch Hebreaid 10:24, 25. Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da, heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â’ch bod yn gweld y dydd yn dod yn agos.

Mae’n amlwg i’r Cristnogion cynnar gael eu helpu gan anogaeth y credinwyr eraill, felly mae’r awdur yn eu hannog i barhau i gyfarfod â’i gilydd i astudio’r Ysgrythur a gweddio oherwydd:

“… lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i, yr wyf yno yn eu canol.” (Mathew 18:20). Mae Duw ei hun hefo ni wrth inni ddod ynghyd gyda chredinwyr eraill.

I’w Ystyried

Ydym ni’n gwneud ymdrech i gyfarfod â Christnogion yn rheolaidd er mwyn annog eraill a chael ein hannog ganddyn nhw?

Adnoddau

‘Youth Alpha Leader’s Guide’: Alpha International; 2002, London

Barbara Hughes, ‘The Disciplines of a Godly Woman’: Crossway Books; 2001, Illinois, U.S.A.

Page 22: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

22

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

5. ‘Gwneud daioni’: Pa ganlyniadau allwn ni eu disgwyl?’

Pwrpas yr astudiaeth: Yn yr astudiaeth hon rydym am ystyried beth a ddywed y Beibl ynghylch pwrpas ein gwaith da a beth fydd canlyniad bywyd o “wneud daioni” ar gyfer yr eglwys, pobl y tu hwnt i gymdeithas yr eglwys, ni ein hunain a Duw. Byddwn wedyn yn gorffen ein cyfres trwy ail-ystyried stori Dorcas a sut y gallwn gymhwyso’r gwersi sydd wedi’u dysgu yn ystod y gyfres hon ar gyfer ein bywydau ein hunain.

Torri’r GarwGofynnwch i bob aelod o’r grwp droi at y person sydd nesaf atynt a dweud wrthynt beth oeddent yn breuddwydio bod pan oeddent yn blentyn. Caniatewch rai munudau ar gyfer hyn ac yna gofyn a yw rhywun yn fodlon rhannu eu hatgof gyda’r grwp.

Neu gofynnwch i’r parau rannu stori am adeg pan nad aeth pethau fel y gobeithiwyd!

Gwnewch y pwynt fod pethau weithiau’n troi allan fel rydan ni eisiau ond yn aml iawn dydyn nhw ddim. Mae gan y Beibl lawer o eiriau calonogol i’r Cristion am y math o ganlyniadau y gallwn eu disgwyl o’r daioni rydan ni’n ei wneud a dyma thema’r astudiaeth hon.

Beth nad yw gweithredoedd da!!Dydy ein gweithredoedd da ni ddim yn cael eu gwneud er mwyn “prynu” neu “ennill” ffafr gan Dduw neu le yn y nefoedd.

Beth mae’r adnodau hyn yn ei ddweud am ennill ffafr Duw?

Eseia 64:6 A’n holl gyfiawnderau fel clytiau budron.

Rhufeiniaid 3:28 Ein dadl yw y cyfiawnheir rhywun trwy gyfrwng ffydd yn annibynnol ar gadw gofynion cyfraith.

Ioan 5:24 Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthych, fod y sawl sy’n gwrando ar fy ngair ac yn credu’r hwn a’m hanfonodd i yn meddu ar fywyd tragwyddol. Nid yw’n dod o dan gondemniad; i’r gwrthwyneb, y mae wedi croesi o farwolaeth i fywyd.

Titus 3:5 Fe’n hachubodd ni, nid ar sail unrhyw weithredoedd o gyfiawnder a wnaethom ni, ond o’i drugaredd ei hun.

Beth yw gweithredoedd da!!Dyma ydynt:

Ein hymateb i gariad a thrugaredd Duw.•

Page 23: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

23

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

Rhufeiniaid 12:1 Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch frodyr, ar sail tosturiaethau Duw, i’ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Gan fod ein pechodau wedi’u maddau gan farwolaeth aberthol Iesu ar groes Calfaria, rydym am ddangos ein diolchgarwch wrth wneud y pethau hynny sy’n bodloni Duw.

Ewyllys Duw ar gyfer ei bobl•

Effesiaid 2:10; Titus 2:11-14; 3:1,8,14 … wedi ein creu yng Nghrist Iesu i fywyd o weithredoedd da.

Gwaith ysbryd Duw yn fewnol•

Colosiaid 1:10 … nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch … er mwyn ichwi fyw yn deilwng o’r Arglwydd.

Pwrpas ein gweithredoedd daMae pwrpas i’n gweithredoedd da ac mae canlyniadau iddynt, nid yn unig i’r rhai hynny yr ydym yn ceisio eu gwasanaethu a dangos tosturi atynt.

Mae ganddynt bwrpas a chanlyniadau eraill ar gyfer yr Eglwys, y rhai hynny sydd y tu hwnt i’r Eglwys, hynny yw “y byd”, ar ein cyfer ni ein hunain a gogoniant Duw ei hun.

1. Er lles yr Eglwys

Darllenwch Galatiaid 6:9,10. Peidiwn â blino ar wneud daioni … gadewch inni wneud da i bawb, ac yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd.

Yn y lle cyntaf, dylem geisio gwneud daioni i gredinwyr eraill. Nid anwybyddu’r rhai hynny sydd ddim yn perthyn i deulu Duw yw hyn. Ond, wrth inni wneud daioni i’n brodyr a’n chwiorydd yn y ffydd, bydd teulu Duw ar y ddaear yn cael ei feithrin a’i ddiogelu. Mae’r berthynas rhwng Cristnogion yn un arbennig iawn: Duw yw ein Tad nefol cariadus, Iesu yw ein Gwaredwr holl ddigonol, ac mae’r Ysbryd Glân yn byw oddi mewn i ni. Defnyddia’r Apostol Paul y gymhareb o’r corff dynol yn ei lythyr at Gristnogion Corinth er mwyn eu helpu i ddeall y berthynas unigryw sydd gan Grist â’i bobl (1 Corinthiaid 12).

Rydym yn aelodau o gorff Crist ac rydym i gefnogi ein gilydd ac i weithio gyda’n gilydd. Mae pob aelod yn hanfodol. Os yw un aelod yn dioddef mewn unrhyw ffordd, mae’r corff cyfan yn dioddef. Os yw un aelod yn gorfoleddu, mae’r corff cyfan yn falch ac yn gorfoleddu.

Cwestiwn

Meddyliwch am “deulu’r ffydd” yr ydach chi’n perthyn iddo. Sut ydach chi’n dangos consýrn am aelodau eraill y teulu? Oes yna rywbeth y dylech ei wneud i’r aelodau o gofio eich talentau a’ch doniau? Beth am “deulu’r ffydd” yn fyd eang? Oes cyfleoedd i ofalu am y teulu mwy eang?

Page 24: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

24

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

2. Er lles “y byd”

Yn aml yn y Beibl, defnyddir y term “y byd” er mwyn dynodi’r bobl hynny sydd ddim yn perthyn i Dduw.

Gwelwyd yn Astudiaeth 3 bod llawer o’r deddfau a roddwyd i’r Iddewon ac a gofnodwyd yn yr Hen Destament, yn adlewyrchu consýrn Duw ynghylch gofalu yn llawn am y tlawd a’r anghenus mewn cymdeithas. Dangosodd Iesu yntau gydymdeimlad a chonsýrn mawr am bobl mewn angen.

Ond mae Gair Duw hefyd yn pwysleisio bod gan bobl anghenion ysbrydol a bod eu hangen i gael perthynas iawn â Duw hyd yn oed yn bwysicach na’u hanghenion corfforol.

Darllenwch Mathew 4:4 ac Ioan 6: 35, 40.

Pa anghenion a ddisgrifir yn yr adnodau hyn?

Yr angen i glywed geiriau Duw. • Y mae’n ysgrifenedig: ‘Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw, ond ar bob gair sy’n dod allan o enau Duw’.

Yr angen i gredu yn Iesu. • Meddai Iesu wrthynt. ‘Myfi yw bara’r bywyd. Ni bydd eisiau bwyd byth ar y sawl sy’n dod ataf fi, ac ni fydd syched byth ar y sawl sy’n credu ynof fi … Oherwydd ewyllys fy Nhad yw hyn: fod pob un sy’n gweld y Mab ac yn credu ynddo i gael bywyd tragwyddol’.

Pwrpas ein gweithredoedd da yw peri y bydd pobl o’n cwmpas yn “gweld” Duw ar waith ynom a thrwom - megis y dywediad Saesneg “actions speak louder than words” – ac felly yn dod at Dduw eu hunain. Dydi llawer o’r bobl y down ar eu traws byth yn mynd i gapel neu eglwys, felly sut y gallant ddod i adnabod Duw? Gall ein bywydau ni fod yn dyst i hyn. Gallwn ddangos ein bod yn perthyn i Dduw trwy’r modd yr ydym yn byw. Gallwn ddangos cariad a thrugaredd Duw i bobl wrth i ni eu caru a bod yn garedig a thosturiol tuag atynt. Gall y Cristion fod fel drych, yn adlewyrchu Duw i bobl sydd ddim yn ei adnabod ac fe allwn fod yn sianelau o’i gariad atynt hwy hefyd.

Stori Gwenda

Yn 2004, symudodd Gwenda, ei gwr Ray a’u dau o blant i fyw drws nesaf i Owain a Siân Edwards yn Y Ffôr, Pwllheli. Cyn hir, sylwodd Gwenda fod yna rywbeth gwahanol am y teulu drws nesaf!

Byddai Siân yn mynd allan o’i ffordd i helpu Gwenda, ac mae’n cofio cael ei synnu gan ei charedigrwydd a’i pharodrwydd i neilltuo amser i warchod ei merch ieuengaf, nad oedd ond dwy flwydd oed ar y pryd. Sylwodd Gwenda fod Siân wastad yn gwneud amser ar gyfer pobl, er gwaethaf ei chyfrifoldebau ei hun, amser i wrando arnynt a dangos diddordeb gwirioneddol ynddynt.

Cafodd ymddygiad Siân ddylanwad mawr ar Gwenda ac fe ddaethant yn ffrindiau agos - yn union fel Dafydd a Jonathan yn yr Hen Destament. Roeddent yn mwynhau siarad a threulio amser gyda’i gilydd, ond dim ond wedi i’w cyfeillgarwch ei sefydlu ei hun y dechreuodd Siân rannu ei ffydd hefo Gwenda - cyn hynny dim ond wedi cyflwyno Beibl a CD o ganeuon Cristnogol iddi hi a’i gwr yr oedd Owain a Siân.

Page 25: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

25

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

Hyd at y pwynt hwn, doedd Gwenda ddim wedi teimlo’r angen am ffrindiau agos, ond cafodd cariad a gofal Siân drostynt fel teulu ddylanwad cryf arni. Daeth Gwenda i adnabod Iesu fel ei Gwaredwr personol ym mis Medi 2005 a Ray yntau’r un fath fis yn ddiweddarach.

O fewn dwy flynedd, gadawodd Siân ac Owain Y Ffôr i ymgymryd â chyfrifoldebau yng Ngholeg Y Bala. Er bod Ray a Gwenda’n hynod o drist o’u gweld yn gadael Y Ffôr, roeddent yn sicr mai Owain a Siân oedd y bobl iawn i barhau â gwaith yr Arglwydd yn y Coleg.

Dyma sut y mae Gwenda’n disgrifio Siân:

“Mae Siân yn berson sydd yn gwneud pethau. Dydi hi ddim yn llusgo traed, mae hi’n gwybod bod amser yn brin ac mae llawer o eneidiau angen Iesu. Trwy ei chariad hi atom ni, daethom ni i brofi cariad Duw”.

I’w Drafod

Sut all ein gweithredoedd da ddatgelu Duw i bobl eraill?

3. Er mwyn fy sancteiddio

Wrth inni geisio ufuddhau i air Duw ac wrth geisio “gwneud daioni”, caiff ein bywydau eu trawsnewid - gair arall am hyn yw ‘sancteiddio’. Rydym wedi cyffwrdd â hyn yn y drydedd a’r bedwaredd astudiaeth.

Darllenwch 2 Corinthiaid 3:18 a Rhufeiniaid 8:29. Ac yr ydym ni i gyd, heb orchudd ar ein hwyneb, yn edrych, fel mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd ac yn cael ein trawsffurfio o ogoniant i ogoniant, yn wir lun ohono ef. A gwaith yr Arglwydd, yr Ysbryd, yw hyn.

Pa newidiadau sy’n digwydd ym mywydau pobl Dduw? Maent yn cael eu trawsnewid, maent yn cydymffurfio â delwedd Mab Duw.

Mae’n anhygoel meddwl mai ewyllys Duw yw gweld ei bobl yn ymdebygu i’w Fab, Iesu Grist. Wrth gwrs, proses barhaus yw hon a dydi pethau ddim yn digwydd dros nos. Un ffordd y caiff ein bywydau eu newid ac y down yn debycach i Iesu yw wrth inni “wneud daioni”. Rydym eisoes wedi ystyried sut y mae’r Ysbryd Glân yn ein helpu i ddiosg pechod a rhoi’r grym i ni i ufuddhau. Gwaith yr Ysbryd Glân yw sancteiddio a hynny’n bennaf wrth inni ufuddhau ac ymostwng i ewyllys Duw o ddiwrnod i ddiwrnod.

Darllenwch 1 Pedr 2:20 a 1 Pedr 3:13,14. … pa glod sydd mewn dygymod â chael eich cernodio am ymddwyn yn ddrwg? Ond os am wneud daioni y byddwch yn dioddef ac yn dygymod â hynny, dyna’r peth sydd yn gymeradwy gan Dduw.

Mae Pedr yn atgoffa’i wrandawyr bod pobl Dduw yn cael eu galw i wneud daioni hyd yn oed mewn sefyllfaoedd anodd ble y gallant hwy ddioddef o’r herwydd.

Stori Linda

Dychwelodd Linda a’i theulu i UDA wedi cyfnod anodd o waith cenhadol yn Ynysoedd y Philipinau. Llwyddodd y teulu i brynu ty bychan cyffyrddus, ac

Page 26: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

26

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

roedd Linda yn mwynhau troi’r ty yn gartref clyd iddynt. Roedd hi’n arbennig o hoff o’r ardd fechan yng nghefn y ty, ble y byddai’n ymneilltuo ar gyfer darllen ei Beibl a gweddïo. Yn fuan wedi hynny, symudodd teulu newydd i mewn drws nesaf. Roedd y cymdogion newydd yn uchel eu cloch ac yn rhai garw eu natur. Roeddent yn sgrechian ar eu plant, yn gadael i’r ardd dyfu’n wyllt a chaniatáu i’w bechgyn wneud dwr yn erbyn clawdd yr ardd oedd yn gwahanu’r ddau gartref.

Roedd Linda wedi cyrraedd pen ei thennyn. Gwyddai y dylai geisio “gwneud daioni” i’w chymdogion, ond y gwir oedd, roedd hi yn eu casáu. A hithau’n teimlo na allai ddioddef rhagor, daeth adref un prynhawn i weld y ddau hogyn drws nesaf yn dringo dros y ffens, ac wedi chwistrellu dodrefn yr ardd hefo paent oren. Torrodd i lawr ac wylo gan ddweud, “Arglwydd, dwi’n gwybod y dylwn garu fy nghymdogion, ond y gwir yw, fedra’i ddim gwneud hynny. Rwy’n eu casáu!”. Trodd at ei Beibl a darllen yr adnodau hyn o Colosiaid 3: 12-14: “Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch amdanoch dynerwch calon, tiriondeb, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd. Goddefwch eich gilydd a maddeuwch i’ch gilydd os bydd gan rywun gwyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau.” Unwaith eto, gofynnodd yn daer i Dduw ddangos iddi sut y gallai garu ei chymdogion erchyll!

Yna, fe ddaeth y syniad iddi y dylai wneud rhestr o bethau y byddai’n eu gwneud ar gyfer teulu yr oedd hi yn eu caru.

Gofyn i’r fam ddod draw am goffi1.

Cynnig gwarchod2.

Gwneud bisgedi iddynt3.

Yna, gyda llawer o ofn a gweddi, dechreuodd wneud y pethau hynny oedd ar ei rhestr. Y tro cyntaf yr aeth Linda drws nesaf â platiad o fisgedi, roedd y fam yn amlwg wedi ei chyffwrdd gan y fath garedigrwydd. Dros y misoedd nesaf ac wedi sawl ymweliad, dechreuodd y fam rannu ei stori gyda Linda. Roedd y cwpwl wedi rhoi cartref i’r plant oedd yn perthyn iddynt o bell wedi i’r plant hynny gael eu gadael yn amddifad. Doedd hi na’i gwr wedi cael fawr o addysg, roeddent yn ei chael hi’n anodd cael y ddeupen ynghyd ac edrych ar ôl y bechgyn. Roedd byw drws nesaf i’r teulu hwn yn parhau’n anodd iawn, ond roedd calon Linda yn newid wrth iddi geisio dangos cariad Duw mewn ffyrdd ymarferol iddynt. Ymhen ychydig, roedd raid i’r teulu symud ymlaen ac roedd Linda yn wirioneddol drist oherwydd hyn. Gwyddai ei bod wedi gallu eu helpu, ond gwyddai fod y profiad wedi ei sancteiddio hithau hefyd ac roedd cariad wedi disodli’r casineb yn ei chalon.

4. Er gogoniant i Dduw

Darllenwch 1 Pedr 2:12. Bydded eich ymarweddiad ymhlith y cenhedloedd mor amlwg o dda nes iddynt hwy … ogoneddu Duw yn nydd ei ymweliad ar gyfrif yr hyn a welant o’ch gweithredoedd da chwi. Beth wnaiff y “paganiaid” wedi gweld eich gweithredoedd da?

Darllenwch Mathew 5:16. Felly, boed i’ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron dynion nes iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.

Page 27: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

27

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

Beth, yn ôl Iesu, wnaiff pobl wedi gweld ein “goleuni”?

Darllenwch 1 Corinthiaid 10:31. Felly, beth bynnag a wnewch, prun ai bwyta neu yfed, neu unrhyw beth arall, gwnewch bopeth er gogoniant Duw. Beth allwn ni ei wneud i ogoneddu Duw?

I’w Drafod:

Mae llawer o bobl yn dweud bod gormod o ragfarn yn perthyn i’r capel, a dyna pam nad ydyn nhw yn tywyllu’r lle!

Pam mae pobl yn dweud hyn?

Sut allwn ni sicrhau mai Duw sy’n cael y clod o’n gweithredoedd da?

Pa agweddau y mae’n rhaid inni eu harddangos fel Cristnogion er mwyn atal eraill rhag ein gweld fel rhagrithwyr?

Gostyngeiddrwydd - cydnabod yn gyson ein bod ymhell o fod yn berffaith; cyffesu – ceisio maddeuant a glanhad; cydnabod gras – gwybod mai rhoddion gan Dduw yw ein gweithredoedd da hyd yn oed.

Beth mae stori Dorcas yn ei ddweud wrthym am wneud daioni?

Mae’n rhaid ei bod wedi gwneud daioni i deulu’r ffydd - roedd y credinwyr 1. yn Jopa’n amlwg yn meddwl llawer ohoni ac fe fyddai hynny’n esbonio pam eu bod wedi danfon am Pedr wedi ei marwolaeth. Actau 9:38.

Mae’n rhaid ei bod wedi gwneud daioni yn ei chymuned. Ymgasglodd 2. pobl o’r dref yn ei chartref er mwyn dangos i Pedr y dillad yr oedd wedi eu gwneud ar eu cyfer hwy. Actau 9:39.

Roedd ganddi gymeriad “Crist-debyg.” Fe’i disgrifir fel person yn “llawn 3. gweithredoedd da” megis Iesu, ei Gwaredwr, yr un a ddaeth “nid i gael ei wasanaethu ond yn hytrach i wasanaethu”. Actau 9:36; Marc 10:45.

Daeth llawer i gredu yn yr Arglwydd fel canlyniad i’w bywyd a’i hatgyfodiad 4. gwyrthiol. Actau 9:42. Ac wrth gwrs, mae achub eneidiau sy’n dragwyddol yn un o’r digwyddiadau mawr sy’n gogoneddu Duw.

Cwestiynau

Pa fath o berthynas sydd gen i gyda fy mrodyr a chwiorydd yng Nghrist? Oes 1. angen imi ymdrechu i “wneud daioni” iddynt? Beth fyddai hyn yn ei olygu yn ymarferol?

Sut allaf i “wneud daioni” yn fy nghymuned?2.

Ydw i’n cael fy nhrawsnewid i fod yn fwy fel Iesu trwy waith yr Ysbryd Glân 3. yn fy mywyd - diosg pechod a gweld ei ffrwyth yn tyfu? Oes rhywbeth penodol yn fy mywyd sydd angen sylw?

A yw fy mywyd yn gogoneddu Duw? Pwy yw’r bobl sydd angen imi weddïo 4. y deuant hwy i gredu yn Iesu? Sut allaf i gyflwyno Iesu iddynt?

Page 28: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

28

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

Atodiad (1)

Plygwch y papur.Plygwch un cornel i’r canol.

Plygwch ar y llinellau dotiog.

Plygwch y trwnc i fyny... ac i lawr.

I orffen, trowch drosodd. Plygwch y ddwy gornel yn ôl, ac ychwanegu llygaid.

Wyneb Eliffant

Origami: © Fumiaki Shingu

Page 29: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

29

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol

Atodiad (2)

Gwnewch gopi ar gyfer pob person, a gofynnwch i bob un dorri o gwmpas y blychau fel y bydd ganddyn nhw dri darn. Gosodwch y darnau o’ch blaen fel ar y tudalen wreiddiol, h.y., cyn i chi ei thorri’n dri blwch. Y nod yw gosod y marchogion ar gefn y ceffylau heb dorri neu blygu yr un o’r tri darn.

Trowch y ceffyl uchaf 90° yn erbyn y cloc a’r ceffyl arall 90° yn erbyn y cloc, a’u gosod ochr yn ochr. Fe fydd y ceffyl chwith fel pe bai yn sefyll ar ei draed ôl a’r ceffyl de fel pe bai’n sefyll ar ei ben.

Trowch y darn y mae’r marchogion arno 90° gyda’r cloc a’i osod ar y ddau geffyl. Fe ddylech yn awr weld 2 geffyl â marchog ar bob un. – mae un y ffordd iawn â marchog ar ei gefn; mae’r llall â’i ben i lawr, ond hefyd â marchog ar ei gefn. Mae’r ddau geffyl fel pe baen nhw’n neidio dros rwystr!.

“P.T

. Bar

num

’s t

rick

mul

es”

gan

Sam

Loy

d (1

842

–191

1)

Page 30: Gwraig fel Dorcasrhaglendorcas.com/.../2013/01/Llyfryn1-CY-FINALx.pdf · sawl gwers bwysig i bawb sydd am ddilyn Iesu, ond rydym yn gobeithio gweld yn benodol sut y mae Dorcas yn

30

RH

AG

LEN

DO

RC

AS: G

wraig fel D

orcas - 5 Astudiaeth Feiblaidd am

Wasanaeth C

ristnogol Rhoddir caniatâd i lungopïo y deunyddiau ar gyfer eu defnyddio mewn eglwys leol perchennog y deunydd.

Awduron: Sarah Morris ag Elinor Owen

Golygydd: Iola Alban

Dylunio / Cysodi: Eurig Roberts

Ariannwyd gan Adran Chwiorydd, Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Copïau ychwanegol ar gael o Swyddfa’r EBC neu Eirian Roberts, Coleg y Bala.