resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.comresource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2… ·...
Transcript of resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.comresource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2… ·...
Cymeriadau 1
Rhagymadrodd Daw themâu'r chwedl yn amlwg i raddau helaeth trwy gyfrwng y cymeriadau – eu
gweithredoedd, eu hymateb i sefyllfaoedd, a sut maen nhw'n ymwneud â'i gilydd.
Defnyddir deialog yn aml i ddangos cymhelliad y cymeriadau a’r tensiynau
rhyngddynt. Mewn chwedl lafar y duedd yw i gymeriadau fod yn eithafion ac yn
deipiau – rhaid i’r cymeriadau fod yn gofiadwy oherwydd ni all rhai di-liw aros yn y
cof. Dyna sydd wrth wraidd teipiau fel y llysfam genfigennus, y cawr cas, y
dywysoges hardd, y tywysog golygus mewn chwedlau gwerin a’u tebyg. Ond wrth
ysgrifennu’n greadigol, mae awdur yn cael cyfle i ddadansoddi cymhellion a
theimladau ei gymeriadau, ac mae hyn yn ei dro yn peri iddynt fod yn debycach i
bersonau cig a gwaed. Fodd bynnag, rhaid cofio bob amser mai creadigaeth yr
awdur yw pob cymeriad yn y pen draw. Er na cheir unrhyw sylwadau goddrychol
ynglŷn â’r cymeriadau eu hunain gan awdur Branwen yn ystod y naratif, eto i gyd
gwelwn ei fod wedi symud i ffwrdd o fyd y storïwr llafar gan ymdrechu i greu
cymeriadau sydd a chymhlethdodau yn perthyn iddynt, cymeriadau sy’n arddangos
eu teimladau ac yn gwneud inni gydymdeimlo â nhw.
Ar ddechrau’r chwedl mae’r awdur yn ein cyflwyno i brif gymeriadau’r stori,
cymeriadau sydd yn perthyn i’r un teulu. Cawn wybod bod y cawr Bendigeidfran yn
frenin Ynys y Cedyrn (Ynys Prydain) a bod ganddo chwaer, Branwen, a brawd,
Manawydan; eu tad yw Llŷr a’u mam yw Penarddun. Mae ganddynt ddau hanner
brawd – Nysien ac Efnysien. Maent yn rhannu’r un fam, sef Penarddun; ond eu tad
nhw yw Euroswydd. Yn fuan iawn cawn ein cyflwyno i gymeriad pwysig arall a fydd,
trwy briodas, yn dod yn rhan o’r teulu hwn – Matholwch frenin Iwerddon. O’r cychwyn
cyntaf, felly, cawn awgrym clir bod yr awdur yn ymddiddori yn y cymhlethdodau a’r
tensiynau a all godi rhwng aelodau o’r un teulu.
Cymeriadau 2
Branwen
Cyn edrych ar gymeriad Branwen, dylid oedi i drafod teitl y chwedl gan ei fod yn
lliwio ein darlleniad yn aml. Mewn testunau canoloesol ni cheir teitlau soffistigedig ar
chwedlau, yn wahanol i nofelau cyfoes fel Un Nos Ola Leuad, O! tyn y gorchudd neu
Dan Gadarn Goncrit. Yn wir, mewn llawysgrifau yn aml ni cheir teitlau o gwbl. Y
cwestiwn felly yw pa deitl neu label i’w roi wrth drafod testun sydd heb deitl yn y
traddodiad llawysgrifol. Yn achos hanes Branwen, ymgorfforir rhyw fath o deitl
cyffredinol ar ddiwedd y chwedl yn fersiwn Llyfr Gwyn Rhydderch:
A llyna ual y teruyna y geing honn o’r Mabinyogi...
Ac ar ddechrau’r chwedl yn fersiwn Llyfr Coch Hergest:
llyma yr eil geinc or mabinogi
‘Cainc o’r Mabinogi’ neu ‘Ail Gainc y Mabinogi’ felly sydd yn y llawysgrifau, a hynny’n
atgyfnerthu perthynas y chwedl â’r ceinciau eraill – mae hi’n rhan o gyfanwaith. O ble
felly y daeth y teitl Branwen?
Ymddengys mai’r Arglwyddes Charlotte Guest oedd y cyntaf i roi’r teitl hwn ar yr ail
gainc, a hynny yn ei chyfieithiad i’r Saesneg yn y 19eg ganrif. Yn hytrach na
defnyddio’r labelau a welir yn y llawysgrifau, penderfynodd ddefnyddio enwau’r
cymeriadau yn deitlau: Pwyll Prince of Dyved; Manawyddan the son of Llyr; Math the
son of Mathonwy. A’r teitl a fathodd ar gyfer yr ail gainc oedd Branwen the daughter
of Llyr. Cyn i’w chyfieithiad ymddangos, Brân neu Mabinogi Bendigeidfran oedd teitl
yr ail gainc ymysg ysgolheigion wrth drafod y testunau hyn – y cymeriad gwrywaidd,
y brenin, oedd yn ganolog i’r gainc. Gellid dadlau, felly, bod Charlotte Guest wedi
mynd ati’n fwriadol i newid y teitl gan roi mwy o sylw i gymeriad Branwen efallai nag
a fwriadodd yr awdur yn wreiddiol. Yn wir, gellid dadlau mai dyma’r darlleniad
ffeministaidd cyntaf o’r chwedl. Wrth edrych ar nodiadau Guest, gwelwn fod Branwen
wedi cipio’i dychymyg, ac yn arbennig yr hanes am ‘ddarganfod’ bedd Branwen yn
1813. Yn wir, tybed a oedd Guest yn cydymdeimlo â Branwen? Bu rhaid iddi, fel
Branwen, adael ei gwlad (sef Lloegr) am wlad estron yn dilyn ei phriodas â John
Guest, perchennog Gwaith Haearn Dowlais. Daeth i fyw i Ddowlais ger Merthyr
Tudful yn 1833. Yr oedd Guest yn hapus yno, ond nid yn Sully lle’r oedd ei gŵr wedi
prynu tŷ ger lan y môr. I ddweud y gwir, yr oedd yn casáu’r lle:
At dusk I went out and walked upon the beach. It was quite hushed and the tide came in very quietly. The light was gleaming from the flat Holmes – all seemed very melancholy. An old man was embarking with all his furniture in a small boat, just below our windows, to go to England! I felt almost inclined to wish I were going there too. The change to me from Dowlais to this place is dreadful. [24 Tachwedd, 1840]
Yr oedd yn cyfieithu stori Branwen ymhen dau fis. Gellid dadlau bod newid y teitl o
Bendigeidfran i Branwen yn ymdrech bwriadol ar ei rhan – aeth yn erbyn trefn
ysgolheigion gwrywaidd y cyfnod. Trwy wneud hynny sicrhaodd bod llais y ferch i’w
glywed yn ail gainc y Mabinogi. Mae’n bwysig ein bod yn cofio, felly, wrth ddarllen y
chwedl, nad yr awdur ei hun a roddodd y teitl Branwen i’r chwedl ond yn hytrach
gwraig o gyfnod Oes Fictoria a aeth ati i gyhoeddi y cyfieithiad Saesneg cyntaf o
chwedlau’r Mabinogion.
Cymeriad goddefol yw Branwen ar ddechrau’r gainc –mae'n cael ei rhoi gan ei
thylwyth i Fatholwch am resymau gwleidyddol gan dderbyn penderfyniad ei brawd yn
ddi-gwestiwn. Gwrthrych ydyw, felly, mewn gêm boliticaidd. Yn ôl Cyfraith Hywel
Dda, yr oedd tri math o uniad yn bosibl rhwng gŵr a merch – uniad trwy ‘rodd
cenedl’, hynny yw pan roddwyd morwyn (Saesneg virgin) gan ei theulu i’w gŵr;
‘llathludd’, pan fyddai'r ferch yn mynd heb ganiatâd ei theulu; a ‘thrais’, pan gâi
merch ei threisio yn erbyn ei hewyllys. Rhoddid gwerth mawr ar gadw purdeb merch
cyn iddi briodi ac ar ddiogelu ei henw da wedi’r briodas neu’r uniad. Nid oedd gwerth
i’r ferch os nad oedd hi'n wyryf cyn priodi, ac roedd rhaid i’w theulu dystio drosti. Ond
unwaith iddi briodi, disgwylid iddi feichiogi a chynhyrchu etifedd er mwyn parhau’r
llinach.
Portreadir Branwen fel y ferch ddelfrydol. Hi yw’r ferch harddaf yn y byd yn ôl y
testun – ‘teccaf morwyn yn y byt’ – a’r gair ‘morwyn’ yn cyfeirio at ei gwyryfdod a’i
phurdeb. Mae’n rhoi mab i’w gŵr o fewn blwyddyn; mae’n ennill clod am ei haelioni;
mae hefyd yn rhoi cyngor doeth i’w brawd Bendigeidfran a hynny er mwyn cynnal yr
heddwch rhwng gwŷr Ynys y Cedyrn a’r Gwyddelod. Dyma’r rhinweddau a
ddisgwylid mewn arglwyddes neu uchelwraig, yn ôl Gramadegau’r Penceirddiaid:
Gwreigdda o arglwyddes neu uchelwraig a folir o bryd a gwedd, a thegwch, ac addfwynder, a digrifwch a haelioni, a lledneisrwydd, a doethineb, a chymhendod, a diweirdeb, a thegwch pryd a gwedd, a disymlder ymadroddion, a phethau eraill ardderchog addfwyn canmoladwy.
Sylwch na chawn ddisgrifiad manwl o’i hymddangosiad corfforol; yn hytrach,
pwysleisir ei rhinweddau a’i hymddygiad cymdeithasol gweddus.
Wedi i Branwen gyflawni ei dyletswydd a rhoi genedigaeth i fab, hynny yw wedi iddi
sicrhau etifedd i goron Iwerddon, mae gwŷr Matholwch yn mynnu dial arni a’i chosbi
am weithred ei hanner brawd. Mae’n colli ei statws yn y llys ac yn cael ei gorfodi i
bobi yn y gegin; ac yn waeth na hynny – daw’r cigydd gyda’i ddwylo gwaedlyd i roi
bonclust iddi bob dydd. Sylwch ar ei dyfalbarhad wrth ymateb i’r sefyllfa:
Blwynyded nit llei no their y buant yuelly.
a’r ffordd ofalus y mae'n mynd ati i feithrin y drudwy gan siarad â’r aderyn a’i anfon
dros y môr gyda neges at ei brawd. Mae’n ymddwyn mewn ffordd ddyfeisgar, ond
trwy wneud hynny mae’n peri rhyfel rhwng Ynys y Cedyrn ac Iwerddon. Sylwch ar ei
hymateb craff wrth i negeseuwyr Matholwch ei chyfarch fel ‘arglwyddes’ a gofyn iddi
beth yw’r olygfa ryfedd sydd i’w weld ar y môr:
‘Kyn ny bwyf arglwyddes,’ heb hi, ‘mi a wnn beth yw hynny. Gwyr Ynys y Kedyrn yn dyuot drwod o glybot uym poen a’m amharch.’
Mae’r geiriau ‘Er nad wyf yn arglwyddes neu ‘Er na chaf fy nhrin fel arglwyddes’ yn
tanlinellu nad yw’r Gwyddelod bellach yn ei thrin gydag urddas a pharch. Dyma’r
geiriau cyntaf y mae Branwen yn eu hynganu yn y chwedl, sydd yn eironig o gofio
mai ei statws fel arglwyddes a ddenodd Matholwch ati yn y lle cyntaf.
Yn ôl traethawd canoloesol ar Gyfraith Gwragedd, yr oedd safle’r ferch yn dibynnu’n
llwyr ar ei chysylltiadau ag aelodau gwrywaidd o’i thylwyth. Er enghraifft, yr oedd ei
‘galanas’, cyn ac wedi iddi briodi, yn hanner galanas ei brawd; ei ‘sarhaed’ yn hanner
sarhad ei brawd cyn iddi briodi ond yn draean sarhad ei gŵr wedi iddi briodi. Mae'r
ddau dâl hyn yn adlewyrchu natur ddeublyg cysylltiadau teuluol gwraig briod yn y
cyfnod. Nid yw byth yn llwyddo i integreiddio'n llawn i deulu ei gŵr. Daw hyn yn glir
yn achos Branwen ar ddiwedd y chwedl; rydym yn ei gweld yn cael ei thynnu rhwng
dau deulu gan ymdrechu, yn ofer, i heddychu rhwng y Gwyddelod (tylwyth ei gŵr) a
gwŷr Ynys y Cedyrn (tylwyth ei brodyr). Gwelir ei theyrngarwch i’r Gwyddelod hyd yn
oed ar ôl iddynt ei chosbi mor greulon – mae bellach yn perthyn i ddwy wlad ac i
ddau dylwyth, a’i mab yn symbol o’r uniad hwnnw. Daw ei greddf fel mam i’r amlwg
yn glir wrth iddi weld ei hanner brawd yn taflu Gwern i’r tân, a rhaid i Bendigeidfran ei
rhwystro rhag ei ddilyn i’r fflamau. Er mai Efnysien sydd yn gyfrifol am y gyflafan,
Branwen sydd yn cymryd y bai. Cyn torri ei chalon, yn llythrennol, ar lan afon Alaw,
mae’n siarad am yr eilwaith:
‘Oy a uab Duw,’ heb hi, ‘guae ui o’m ganedigaeth. Da a dwy ynys a diffeithwyt o’m achaws i.’
gan adleisio geiriau Efnysien cyn iddo daflu ei hun i’r pair. Yn ei marwolaeth mae’n
dawel ac urddasol, fel yn ei bywyd.
Cymeriadau 3
EfnysienDyma gymeriad cymhleth a gwyrdroëdig, y gwrthwyneb i’w frawd Nysien. Cawn
glywed ar ddechrau’r chwedl mai heddychwr yw Nysien; mae Efnysien, ar y llaw
arall, â’i fryd ar greu helynt ac yn peri ymladd rhwng dau frawd pan ydynt yn caru ei
gilydd fwyaf. Ef yw’r catalydd neu’r ysbardun sydd yn achosi’r gynnen yn y lle cyntaf
rhwng Iwerddon ac Ynys y Cedyrn – mae’n teimlo ei fod wedi derbyn sarhad (tremic
yw’r gair a ddefnyddir ganddo) gan Bendigeidfran wrth iddo roi Branwen yn wraig i
Matholwch heb ei ganiatâd. Nid yw’n dial ar ei hanner brawd, fodd bynnag, ond ar
Matholwch, brenin Iwerddon, a hynny trwy ymosod yn greulon ar ei geffylau. Mae
hyn yn dangos elfen afresymol yn ei gymeriad. Mae’n ddiddorol sylwi nad lladd y
ceffylau a wna Efnysien, ond eu hanffurfio, gweithred sydd yn greulonach o lawer
sy'n peri dioddefaint i’r ceffylau. Sylwch hefyd ar sut y mae’r awdur yn disgrifio’r
weithred erchyll hon yn fanwl – mae’r cyfan yn weledol dros ben.
Ni chyfeirir at Efnysien wedyn hyd nes iddo ddyfod i mewn i’r tŷ enfawr y mae’r
Gwyddelod wedi ei adeiladu yn arbennig ar gyfer Bendigeidfran. Y tro hwn, y mae’r
awdur yn ei ddisgrifio’n benodol – ‘ac edrych golygon orwyllt antrugarawc ar hyt y ty’
– sydd yn awgrymu ein bod ar fin gweld gweithred debyg i’r hyn a welwyd yn achos y
ceffylau. A dyna sy'n digwydd. Mae Efnysien yn darganfod twyll y Gwyddelod ac yn
gwasgu pen pob milwr nes bod ei fysedd yn suddo i mewn i’w hymennydd drwy’r
asgwrn. Ond yn yr achos hwn gellid dadlau bod ganddo reswm teilwng dros ei
weithred, ac mai ei deyrngarwch i’w dylwyth sydd y tu ôl i’w ymddygiad. Mae felly, i
ryw raddau, yn adfer peth o’i hunan-barch, dim ond i’w golli eto wrth daflu Gwern, ei
nai, i’r tân:
‘Y Duw y dygaf uyg kyffes,’ heb ynteu yn y uedwl, ‘ys anhebic a gyflauan gan y tylwyth y wneuthur, a wnaf i yr awr honn.’ A chyuodi y uynyd, a chymryt y mab erwyd y traet, a heb ohir, na chael o dyn yn y ty gauael arnaw, yny want y mab yn wysc y benn yn y gynneu.
Mae fel petai’n mwynhau dychmygu’r sioc a’r braw a ddaw yn sgil ei weithred
greulon. Nid trwy gyfrwng deialog y cawn wybod am gymeriad Efnysien ond trwy ei
weithredoedd a thrwy ei ymsonau byrion. Sylwch yn y dyfyniad uchod mai dweud
pethau ‘yn ei feddwl’ a wna – hynny yw cadw pethau iddo’i hun yn hytrach na
chyfathrebu a rhannu ei deimladau ag eraill. Dyn unig ydyw, sy’n teimlo ei fod wedi
cael cam, a’r cyfan yn corddi y tu mewn iddo. Ceir rhyw awgrym, fodd bynnag, yn ei
weithred olaf un, fod gobaith hyd yn oed i’r pechadur mwyaf wrth iddo edifarhau a
cheisio gwneud iawn am ei ddrwgweithredoedd:
‘Oy a Duw,’ heb ef, ‘guae ui uy mot yn achaws y’r wydwic honn o wyr Ynys y Kedyrn; a meuyl ymi,’ heb ef, ‘ony cheissaf i waret rac hynn.’
Gwelir, felly, nad yw Efnysien yn ddrwg i gyd – trwy ei hunanaberth ef sicrheir
buddugoliaeth. Wedi dweud hynny, pwysleisir mai buddugoliaeth wag yw hon – saith
yn unig, ynghyd â Branwen, sydd yn dianc yn fyw o faes y gad. Wrth ymestyn yn y
pair mae ei galon yn torri’n llythrennol; tor calon sydd yn achosi marwolaeth Branwen
hithau. Yn eironig ddigon, felly, mae'r brawd a'r chwaer yn cael eu huno yn y modd y
maen nhw'n marw. Ac nid hynny yn unig – torrir y pair yn bedwar darn drwy weithred
Efnysien tra bo Branwen yn cael ei chladdu mewn ‘bed petrual’, sef bedd pedair
ochr.
Cymeriadau 4
BendigeidfranMae presenoldeb Bendigeidfran yn amlwg drwy'r chwedl ar ei hyd, o’r llinellau
agoriadol pan gyflwynir ef fel brenin Ynys y Cedyrn, sef Ynys Prydain, hyd at gladdu
ei ben yn Llundain ar ddiwedd y stori. Cyfeirir at ei gysylltiadau teuluol, ond ni cheir
unrhyw sôn am wraig na phlant. Datgelir yn gynnil, wrth ddisgrifio’r wledd briodasol
rhwng Matholwch a Branwen, fod Bendigeidfran yn fawr o gorff:
Nyt ymywn ty yd oydynt, namyn ymywn palleu. Ny angassei Uendigeituran eiryoet ymywn ty.
Mae hyn, wrth gwrs, yn rhagweld yr hyn a fydd yn digwydd tua diwedd y stori, pan
gynigia’r Gwyddelod adeiladu tŷ iddo, rhywbeth na chafodd erioed. Yng nghymeriad
Bendigeidfran cawn ddarlun o’r brenin delfrydol, amddiffynnydd ei bobl a’i dylwyth.
Mae’n gymeriad hael a dewr, nid yn annhebyg i’r darlun a gawn gan y beirdd wrth
iddynt foli eu penaethiaid. Mae ei gymeriad yn adlewyrchu’n berffaith y disgrifiad yn
Gramadegau’r Penceirddiaid o sut i foli brenin:
Arglwydd a folir o feddiant, a gallu, a milwriaeth, a gwrhydri, a chadernid, a balchder, ac addfwynder, a doethineb, a chymhendod, a haelioni, a gwarder, a hygarwch wrth ei wŷr a’i gyfeillion, a thegwch pryd, a thelediwrwydd corff, a mawrfrydwch meddwl, a mawrhydri gweithredoedd, a phethau eraill addfwyn anrhydeddus.
Mae’n gymeriad cadarn, ond eto yn awyddus i gynnal deialog a thrafod gan ofyn yn
gyson am gyngor gan ei wŷr fel yn achos y briodas rhwng Branwen a Matholwch.
Wedi dweud hynny, ef sydd yn arwain bob tro ar y penderfyniad. Mae gweithred
erchyll ei hanner-brawd, Efnysien, wrth ddifetha meirch Matholwch, yn creu dilema
iddo:
A menegwch ydaw pa ryw wr a wnaeth hynny, a phan yw o’m anuod inheu y gwnaethpwyt hynny; ac y may brawt un uam a mi a wnaeth hynny, ac nad hawd genhyf i na’e lad na’e diuetha.
Nid yw hanner brodyr yn cael eu crybwyll fel arfer yn y testunau cyfraith. Ond mae’r
triawd cyfreithiol canlynol yn dangos cryfder cwlwm gwaed a’r rheswm efallai pam na
allai Bendigeidfran gosbi Efynsien: ‘Tri dyn sydd yn gas gan eu cenedl [sef ‘tylwyth,
teulu’]: lleidr a thwyllwr gan na ellir ymddiried ynddynt, a dyn sydd yn lladd dyn o’i
genedl ei hun.’ Mae hyn yn dangos pa mor bwysig i Bendigeidfran yw’r uned deuluol,
a chawn awgrym o’r tensiynau a all godi rhwng teyrngarwch i’r teulu a theyrngarwch
i’r wlad, thema a welir yn aml yng ngwaith llenorion fel Saunders Lewis. Wedi dweud
hynny, mae Bendigeidfran yn benderfynol o wneud iawn am y sarhad a wnaethpwyd
i Matholwch gan Efnysien, ac mae’n talu llawer mwy o iawndal i frenin Iwerddon nag
sydd raid. Gwartheg, gwialen a phlât o aur oedd ‘wynebwerth’ brenin Gwynedd, yn ôl
y llyfrau cyfraith. Ond yma, mae Bendigeidfran hefyd yn rhoi pair i Matholwch; nid
unrhyw bair ond y Pair Dadeni, y crochan hwnnw sydd yn dod â’r meirw yn fyw
drachefn. Mae’n talu’n ddrud am y rhodd arbennig hwn nes ymlaen yn y chwedl.
Daw doethineb Bendigeidfran i’r amlwg wrth i Matholwch adrodd hanes y pair. Pan
oedd yn hela un diwrnod yn Iwerddon, gwelodd ŵr mawr ei faint yn dod allan o lyn, a
phair ar ei gefn. Roedd gwraig enfawr gydag ef; ymhen pythefnos a mis rhoddodd y
wraig enedigaeth i filwr arfog! Gofalodd Matholwch am y teulu rhyfedd hwn, a’u
cynnal. Ond ymhen peth amser, dechreusant boenydio gwŷr a gwragedd y wlad ac
roedd rhaid i Matholwch wneud rhywbeth yn eu cylch. Adeiladodd dŷ haearn, ei roi
ar dân a cheisio llosgi’r teulu yn y fan a’r lle. Ond llwyddodd Llasar Llaes Gyfnewid
a’i wraig Cymidei Cymeinfoll i ddianc o’r tŷ a dod drosodd i Ynys y Cedyrn gyda’r
pair. Yma cawsant groeso mawr gan Bendigeidfran. Yn hytrach na’u hynysu a
cheisio milwro yn eu herbyn, yr hyn a wnaeth ef oedd manteisio ar eu cryfderau er
lles y wlad:
Eu rannu ym pob lle yn y kyuoeth, ac y maent yn lluossauc, ac yn dyrchauael ym pob lle, ac yn cadarnhau y uann y bythont, o wyr ac arueu goreu a welas neb.
Brenin hirben sydd yma, yn troi’r dŵr i’w felin ei hun.
Wrth glywed am gosb Branwen, ymateb greddfol Bendigeidfran yw ‘doluryaw’; yna
mae'n trefnu cyrch i Iwerddon i ddial y sarhad gan ofalu gadael gwŷr i amddiffyn
Ynys y Cedyrn yn ei absenoldeb. Mae’r disgrifiad grymus ohono’n nesáu at arfordir
Iwerddon yn rhoi darlun clir inni am y tro cyntaf yn y chwedl o’i wir faint a’i bŵer, a’r
lleihad ar y diwedd yn dweud y cyfan – ‘llidyawc yw’. Wedi cyrraedd Iwerddon
pwysleisir ei rôl fel yr arweinydd par excellence wrth iddo orwedd ar draws afon
Llinon a gorchymyn i’w wŷr gerdded drosto:
‘Nit oes,’ heb ynteu, ‘namyn a uo penn bit pont. Mi a uydaf pont’, heb ef.
Llwydda i daro bargen gyda’r Gwyddelod a sicrhau heddwch rhwng y ddwy blaid –
dyma’r gwladweinydd delfrydol. Yna, wrth i weithred erchyll Efnysien arwain at
ymladd drachefn, cawn ddarlun sensitif o’r brawd mawr yn gofalu am ei chwaer ac
yn ei chysgodi rhwng ei darian a’i ysgwydd. Hyd yn oed wedi iddo dderbyn clwyf
angheuol mae Bendigeidfran yn cynllunio ar gyfer y dyfodol gan geisio sicrhau
heddwch i’r Ynys yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n gorchymyn i’w wŷr gladdu ei ben
yn y Gwynfryn yn Llundain. Arwyddocâd hyn, yn ôl y chwedl, yw na ddeuai gormes
fyth dros y môr tra byddai’r pen wedi ei guddio yno.
Brenin delfrydol, felly, ac yn esiampl i bob arweinydd. Ond efallai nad yw’r darlun
mor ddu a gwyn â hynny. A ddylai Bendigeidfran efallai fod wedi cysidro cosbi ei
hanner brawd? A yw efallai yn rhy gryf, yn rhy hael, ac yn rhy fyrbwyll? Ai gwendid
yn ei gymeriad oedd rhoi’r pair i Matholwch ac ai chwant a barodd iddo ganiatáu i’r
Gwyddelod adeiladu tŷ iddo, ‘peth ny chauas eiryoet’? A oedd yn rhy barod i
ymddiried ynddynt? Wedi dweud hynny, fe gytunodd ar dermau heddwch ‘trwy
gynghor Branuen’, hynny yw mae ei deyrngarwch i’w deulu yn llywio ei benderfyniad
am yr eilwaith. Tybed a fyddai wedi derbyn cyngor gwahanol gan ei wŷr? Ochr yn
ochr â Matholwch, mae Bendigeidfran heb os yn cael ei bortreadu fel brenin cryf ac
fel arweinydd delfrydol. Ond tybed a oes awgrym cynnil erbyn diwedd y stori bod
angen cytbwysedd ac angen gwrando?
Cymeriadau 5
Matholwch
Trwy’r gainc cawn gyferbyniad rhwng Bendigeidfran y brenin cadarn a theg, a
Matholwch frenin Iwerddon sydd yn gymeriad gwan, hawdd dylanwadu arno. Cawn
yr argraff glir ei fod yn caniatáu i’w wŷr ei reoli ac nad yw’n barod i sefyll a dal ei dir.
Mae Matholwch yn ymddangos ar ddechrau’r gainc wrth iddo gyrchu Ynys y Cedyrn
yn ei longau i ofyn am Branwen yn wraig iddo – strategaeth wleidyddol sydd ganddo,
felly, sef cydio Prydain ac Iwerddon ynghyd ym mherson Branwen er mwyn cryfhau’r
ddwy wlad. Yr oedd priodasau politicaidd fel hyn, wrth gwrs, yn gyffredin iawn yn yr
Oesoedd Canol. Cawn yr awgrym ar y dechrau, felly, fod Matholwch yn frenin doeth
sydd yn deall yn iawn pa mor bwysig yw cydweithio a sefydlu cynghreiriaid. Ond yn
fuan iawn daw ei wendidau i’r amlwg, a hynny trwy gyfrwng y ddeialog rhyngddo ef
a’i wŷr. Ar ôl i Efnysien ddifetha’r ceffylau, dadleua’r Gwyddelod mai ei sarhau oedd
y bwriad o’r dechrau. Ond nid yw Matholwch mor siŵr:
‘Dioer, eres genhyf, os uy gwaradwydaw a uynhynt, rodi morwyn gystal, kyuurd, gyn anwylet gan y chenedyl, ac a rodyssant ym.’
Eto mae’n caniatáu i’w wŷr ei arwain a gwneud ei benderfyniadau drosto: ‘Ac nyt oes
it a wnelych namyn kyrchu dy longeu.’ Pan ddaw negeseuwyr Bendigeidfran at
Matholwch, mae’n mynegi ei syndod – sylwch ar y modd y mae’r geiriau ‘rhyfeddod’
a ‘rhyfedd’ yn digwydd o fewn pedair brawddeg. Nid yw’n deall y sefyllfa o gwbl. Ond
mae’n ddigon parod i gredu na wyddai Bendigeidfran ddim oll am weithred Efnysien.
Mae’n ymddangos, felly, ei fod yn rhy barod i gael ei reoli gan farn ei gynghorwyr.
Daw hyn i’r amlwg ymhellach wrth i Matholwch adrodd hanes y pair rhyfeddol wrth
Bendigeidfran gan egluro sut y daeth o hyd i’r gwrthrych arallfydol tra oedd yn hela
un dydd. Mae’n egluro sut y daeth Llasar a’i wraig allan o Lyn y Pair, sut y ganed
mab iddynt a sut y cafodd broblemau enfawr yn ceisio rheoli’r teulu cwerylgar hwn.
Yn y diwedd, gofynnodd y wlad iddo ddewis rhwng ei deyrnas a’r teulu:
O hynny allan y dygyuores uyg kyuoeth am ym pen, y erchi im ymuadeu ac wynt, a rodi dewis im, ae uyg kyuoeth, ae wynt.
Yn hytrach na gwneud penderfyniad yn y fan a’r lle, ymateb Matholwch oedd gofyn
i’w wŷr am gyngor. Aethant ati i geisio dinistrio’r teulu gan adeiladu tŷ haearn iddynt
a’i roi ar dân; ond llwyddodd Llasar a’i wraig i ddianc a ffoi, gyda’r pair, i Ynys y
Cedyrn. Pwysleisir y gwahaniaeth rhwng Bendigeidfran a Matholwch yn y modd y
mae’r ddau yn ymdrin â’r teulu – yn hytrach na cheisio eu dinistrio, mae
Bendigeidfran yn eu defnyddio i gryfhau ei deyrnas gan sianelu eu pŵer i’w
ddibenion ei hun.
Yr ydym wedi cael ein paratoi i ryw raddau, felly, ar gyfer ymateb Matholwch pan
yw’r wlad yn mynnu ei fod yn dial y sarhad a wnaeth Efnysien. Yn hytrach na sefyll
ac amddiffyn ei wraig, mae’n ildio ac yn cytuno i’w chosbi. Pyped ydyw yn nwylo ei
bobl. Mae’r ddeialog yn dangos yn glir pwy sy’n rheoli pwy:
‘Ie, Arglwyd,’ heb y wyr wrth Uatholwch, ‘par weithon wahard y llongeu, a’r yscraffeu, a’r corygau, ual nat el neb y Gymry; ac a del yma o Gymry, carchara wynt ac na at trachefyn, rac gwybot hynn.’ Ac ar hynny y diskynyssant.
Y mae Matholwch eisoes wedi derbyn iawndal, a hwnnw’n iawndal hael, am y
sarhad a wnaeth Efnysien. Ei barodrwydd ef yn awr i ddilyn cyngor ei wŷr sydd yn
arwain at yr elyniaeth rhwng y ddwy wlad yn ail hanner y chwedl. Wrth i’w feichiaid
ddod ato gyda’r newyddion fod rhywbeth od iawn i’w weld ar y môr, sylwch nad ef
sy’n mynd i holi Branwen; yn hytrach, mae’n anfon negeseuwyr a hynny’n dweud y
cyfan. Trafod a chynnal deialog yw strategaeth Bendigeidfran; ond cilio ac ymbellhau
yw tacteg Matholwch. Pwysleisir hyn eto wedi i Bendigeidfran lanio yn Iwerddon.
Mae Matholwch yn dilyn cyngor ei wŷr gan ffoi a thorri’r bont dros afon Llinon:
‘Arglwyd,’ heb y wyrda wrth Uatholwch, ‘nyt oes gynghor namyn kilyaw drwy Linon... a gadu Llinon y rot ac ef, a thorri y bont yssyd ar yr auon...’
Nid yw’n cysidro aros i wynebu Bendigeidfran a thrafod termau heddwch.
Ar ddiwedd y dydd, wrth gwrs, nid oes dewis ganddo – mae rhaid iddo gynnig
amodau heddwch a fydd yn dderbyniol i Bendigeidfran. Sylwch ar eiriau ei
negeseuwyr wrth iddynt gyfarch Bendigeidfran:
Ar hynny... llyma gennadeu Matholwch yn dyuot attaw ef, ac yn kyuarch guell idaw, ac yn y annerch y gan Uatholwch y gyuathrachwr, ac yn menegi o’e uod ef na haedei arnaw ef namyn da.
Pwrpas Matholwch wrth gyrchu Ynys y Cedyrn yn wreiddiol oedd ‘ymgyuathrachu a
thidy, Arglwyd’ ‒ hynny yw cysylltu’r ddau deulu a’r ddwy wlad drwy briodas. Yma
mae’r negeseuwyr yn gobeithio apelio at rwymau teuluol Bendigeidfran – un teulu
ydynt bellach. Ar ôl i Bendigeidfran wrthod y cynnig cyntaf, mae Matholwch unwaith
eto yn troi at ei wŷr i ofyn eu cyngor yn hytrach na rhoi arweiniad iddynt:
‘A wyr,’ heb y Matholwch, ‘mae ych kynghor chwi?’ ‘Arglwyd,’ heb wy, ‘nyt oes it gynghor namyn un. Ni enghis ef ymywn ty eiryoet...’
[Cymharwch hyn â’r sefyllfa pan yw gwŷr Ynys y Cedyrn yn gweld nad oes pont dros
yr afon – nhw sydd yn gofyn i’w brenin am gyngor, yn hytrach na’r ffordd arall: ‘Mae
dy gynghor am bont?’ heb wy. ‘Nit oes,’ heb ynteu, ‘namyn a uo penn bit pont.’]
Felly, trwy gyfrwng cymeriad Matholwch, a thrwy ei gyfosod â Bendigeidfran, mae’r
awdur yn awgrymu rhywbeth ynglŷn â natur brenhiniaeth ac am yr holl gyfrifoldebau
sy’n perthyn i’r swydd honno (gweler ymhellach o dan Themâu). Edrych am gyngor y
mae Matholwch bob tro – nid yw’n fodlon gwneud penderfyniad. Ond rhoi
gorchymynion iddo a wna ei wŷr yn hytrach na’i gynghori, a hynny’n awgrymu pa
mor fregus oedd sefyllfa rhai brenhinoedd yn yr Oesoedd Canol.