Symud Creadigol yn y Cyfnod Sylfaen
description
Transcript of Symud Creadigol yn y Cyfnod Sylfaen
Symud Creadigol yn y Cyfnod
SylfaenDyddiadLleoliad
Erbyn diwedd y cwrs hwn bydd gan ymarferwyr wybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o’r canlynol:
• beth yw Symud Creadigol• y cyfnodau graddol ar gyfer datblygu Symud
Creadigol a Dawns• gwaith cynllunio a chyflwyno effeithiol
– gan ddefnyddio ystod o gyd-destunau a symbyliadau
– er mwyn cyflwyno cyfleoedd ar gyfer Symud Creadigol mewn darpariaeth barhaus a darpariaeth â ffocws
– er mwyn cyflwyno ystod o gyfleoedd symbylol ar gyfer unigolion, grwpiau bach a dosbarthiadau cyfan, dan do ac yn yr awyr agored
• y CD-ROM a’r adnoddau Symud Creadigol
Erbyn diwedd y cwrs hwn bydd ymarferwyr yn gallu gwneud y canlynol:
• gwella sgiliau Symud Creadigol plant• nodi sut y mae Symud Creadigol yn cyfrannu at
ofynion y Cyfnod Sylfaen• dechrau nodi sut y gall y dull gweithredu hwn
gyfoethogi arferion cyfredol• dechrau llunio cynllun gweithredu ar gyfer Symud
Creadigol
Trosolwg o’r cwrs• Cyflwyniad• Agweddau ar Symud Creadigol
– beth, ble, gyda, sut ac i beth• Llunio dawnsiau• Dysgu ac addysgu o ansawdd
– Mapiau dilyniant– Cynllunio gan ddefnyddio Cardiau Thema a Mapiau
Dilyniant– Defnyddio’r dull chwe cham– Gwerthuso, gosod targedau a holi
• Cynllunio gweithredu• Gwybodaeth bellach
– Dilyniant a pharhad– Trosolwg o’r adnodd
• Sesiwn lawn
Cyflwyniad
• Y Darlun Mawr• Cysylltiadau â ‘Chwarae i Ddysgu’• Symud Creadigol yn y Cyfnod Sylfaen• Gorchmynion Symud Creadigol• Beth yw Symud Creadigol?• Gall Symud Creadigol gyflawni’r canlynol…
Y Darlun MawrY Cyfnod Sylfaen: • mae’n gyfannol ei natur, ac yn seiliedig ar gyfnod datblygiad plentyn, nid ei oedran;
• mae’r plant yn ganolbwynt iddo;
• rhaid iddo sicrhau cydbwysedd rhwng dysgu strwythuredig drwy weithgareddau a gychwynnir gan y plant, a gweithgareddau sydd dan gyfarwyddyd yr ymarferwr;
• rhaid iddo ddatblygu hunanddelwedd y plant a’u teimladau o hunan-barch, gan fod y rhain wrth wraidd y cyfnod hwn;
• mae’n rhoi mwy o bwyslais ar yr amgylchedd awyr agored fel adnodd;
• dylai ddarparu cwricwlwm eang, cytbwys, sydd wedi’i wahaniaethu;
• rhaid i’r ‘Meysydd Dysgu’ ategu’i gilydd a gweithio gyda’i gilydd i ddarparu dull gweithredu trawsgwricwlaidd. Ni ddylid ymdrin â nhw ar eu pen eu hunain; dylid rhoi pwyslais ar ddatblygu sgiliau’r plant ar draws y ‘Meysydd Dysgu’;
• rhaid iddo ddefnyddio Asesu ar gyfer Dysgu;
• rhaid iddo adlewyrchu’r Fframwaith Sgiliau;
• rhaid i ymarferwyr ddeall, ysbrydoli a herio potensial plant ar gyfer dysgu.
Cysylltiadau â ‘Chwarae i Ddysgu’• Mae’r adnodd yn cynorthwyo ymarferwyr i ddarparu cyfleoedd i
blant ddatblygu, defnyddio, mireinio ac addasu’r sgiliau technegol a gyflwynwyd yn ‘Chwarae i Ddysgu’;
• Mae’n defnyddio lluniau i symbylu syniadau ar gyfer Symud Creadigol;
• Gellir defnyddio llawer o’r Cardiau Gweithgareddau a’r Straeon yn ‘Chwarae i Ddysgu’ fel symbyliad ar gyfer Symud Creadigol;
• Mae’n defnyddio terminoleg a chysyniadau cyson;• Gellir defnyddio cryno-ddisgiau sain ‘Chwarae i Ddysgu’ fel
symbyliad ar gyfer Symud Creadigol neu fel cyfeiliant;• Nid yw’r adnoddau’n gynlluniau gwersi neu’n gynlluniau uned, ond
gellir eu defnyddio fel man cychwyn i symbylu syniadau pellach y gellir eu datblygu’n hawdd i ddarparu profiadau dysgu wedi’u gwahaniaethu;
• Mae’r ddau adnodd yn ymdrin â dilyniant yn yr un modd: ‘Wrth iddynt ddatblygu’, ‘Wrth iddynt wneud cynnydd’ ac ‘Wrth iddynt ddod yn fwy medrus’.
Symud Creadigol yn y Cyfnod Sylfaen• Ceir 7 ‘Maes Dysgu’ yn y Cyfnod Sylfaen
– Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
– Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu– Datblygiad Mathemategol– Datblygu’r Gymraeg– Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd– Datblygiad Corfforol – Datblygiad Creadigol.
Mae symud creadigol yn rhan o Ddatblygiad Creadigol, ynghyd â chelf, crefft a dylunio, a cherddoriaeth.
Dylai sgiliau plant ym maes symud creadigol gael eu meithrin a’u hybu wrth iddynt ddefnyddio eu synhwyrau, eu dychymyg a’u profiad. Dylai gweithgareddau symud creadigol a gynigir
yn y Cyfnod Sylfaen alluogi plant i wneud cynnydd o safbwynt eu gallu i:
• archwilio a mynegi ystod o hwyliau a theimladau trwy gyfrwng amrywiaeth o symudiadau;
• datblygu eu hymatebion i wahanol symbyliadau megis cerddoriaeth, lluniau, geiriau a syniadau;
• datblygu eu rheolaeth trwy gysylltu symudiadau er mwyn creu cyfres o wahanol lwybrau a siapiau â’u cyrff;
• gweithio ar eu pen eu hunain a gydag eraill i esgus, ymateb yn fyrfyfyr a meddwl yn ddychmygus;
• gweithio ar eu pen eu hunain, gyda phartner neu mewn grŵp bach i ddatblygu eu syniadau eu hunain a syniadau pobl eraill a’u helpu i fyfyrio ynghylch y syniadau hynny;
• perfformio symudiadau neu batrymau, gan gynnwys rhai sy’n perthyn i ddawnsiau gwerin Cymreig a dawnsiau o ddiwylliannau eraill.
Gorchmynion Symud Creadigol
YstodDylid rhoi cyfleoedd i blant:
• archwilio’r amgylcheddau dysgu a geir dan do ac yn yr awyr agored, ymchwilio iddynt a’u defnyddio;
• cymryd rhan mewn gwahanol fathau o weithgareddau chwarae ac ystod o weithgareddau a gaiff eu cynllunio, gan gynnwys y rheiny a gychwynnir gan y plant;
• cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt weithio fel unigolion ac mewn grwpiau;
• defnyddio ystod eang o adnoddau a symbyliadau;
• profi traddodiadau a dathliadau o wahanol ddiwylliannau;
• cael profiad o gelf, crefft, gwaith dylunio, cerddoriaeth a dawnsiau o Gymru a diwylliannau eraill.
Beth yw Symud Creadigol?
Pam y dylid rhoi’r cyfle i blant ddatblygu eu sgiliau Symud
Creadigol?
Agweddau ar Symud Creadigol
• Beth?• Ble?• Gyda?• Sut?• I beth?
Beth?
Gweithrediadau Dawns Sylfaenol– Teithio– Troi– Neidio– Ystumio– Llonyddwch
Ble?
– Cyfeiriad– Lefel– Llwybrau– Ymwybyddiaeth ofodol
Gyda?
• Gyda phwy?– ymarferwr– partner– grŵp bach– dosbarth cyfan
• Gyda beth?– propiau
Sut?
– Dynameg• Egni• Llif• Maint y symudiad• Cyflymder
– Ansawdd– Dyfeisiau coreograffig
I beth?
– cyfeiliant
– byrfyfyr
Symbyliadau
• Cyffyrddol – defnyddio prop• Syniadaethol – defnyddio cysyniadau neu
bynciau trafod• Cinesthetig – defnyddio patrymau symud• Clywedol – defnyddio cerddoriaeth, geiriau,
cerddi• Gweledol – defnyddio lluniau, darluniau,
dyluniadau, clipiau fideo• Defnyddio symbyliadau yn yr amgylchedd
dysgu a’u cysylltu â’r ddarpariaeth barhaus
Cynllunio Cynorthwyo taith ddysgu
plentyn
Tasg â ffocws
Cyfoethogi’r ddarpariaeth
Darpariaeth barhaus
Llunio dawnsiau
- Datblygu syniadau Symud Creadigol dros sawl sesiwn
- Dawnsiau i unigolion, parau, grwpiau bach a’r dosbarth cyfan
- Strwythur dawns – dull creu stori – dechrau, canol a diwedd
- Defnyddio’r dull chwe cham
Sut – dyfeisiau coreograffig• Symudiadau unffurf – yr un gweithrediadau ar yr un
pryd• Canon – yr un gweithrediadau ond gan ddechrau ar
adegau gwahanol, fel tonau crynion mewn cerddoriaeth
• Ailadrodd – perfformio gweithred, sawl gweithred neu gymal cyfan unwaith eto fel bod yr ail berfformiad yn union yr un fath â’r perfformiad cyntaf.
O.N. Nid yw Arwain a Dilyn yn ddyfais goreograffig ynddo’i hun - mae naill ai’n Symudiad Unffurf neu’n Ganon gan ddefnyddio Trefniant Gofodol penodol, h.y. Un o flaen y llall / un y tu ôl i’r llall
Dysgu ac addysgu o ansawdd
• Mapiau Dilyniant • Cynllunio
– Defnyddio Mapiau Thema• Holi• Gwerthuso a gosod targedau
Cynllunio Gweithredu
Nodwch: - y camau gweithredu i’w cymryd yn y tymor byr
a chanolig o ganlyniad i fynychu’r cwrs Symud Creadigol;
- y meini prawf ar gyfer llwyddo y byddwch yn eu defnyddio i fesur effaith y cwrs ar safonau dysgu ac addysgu;
- y dystiolaeth y byddwch yn ei chasglu i gadarnhau bod yr effaith honno wedi’i chael;
- sut y byddwch yn adrodd ynghylch cynnydd/arfer da, ac i bwy y byddwch yn adrodd yn ei gylch.
Gwybodaeth bellach
• Dilyniant a pharhad• CD-ROM ac adnoddau
Dilyniant a Pharhad
• Chwarae i Ddysgu• Plymio i’r Pwll – Nofio yn y Cyfnod
Sylfaen• Modiwl 1, 2, 3 Gweithgareddau
Gymnasteg• Dawns CA2 • Iechyd, ffitrwydd a lles• Rôl yr arweinydd pwnc
Sesiwn lawn
• Ailystyried canlyniadau’r cwrs• Ailystyried y cynllun gweithredu• Cwblhau’r gwaith gwerthuso