Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais...

30
Ffurflen gais am drwydded radio cymunedol Fersiwn 6 Dyddiad cyhoeddi: Mai 2017

Transcript of Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais...

Page 1: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais am drwydded radio cymunedol

Fersiwn 6

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2017

Page 2: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Gwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr.

Ynghylch y ffurflen honCynghorir ymgeiswyr i ddarllen dogfen 'Nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer ymgeiswyr am drwyddedau radio cymunedol a thrwyddedigion' Ofcom. Mae'r ddogfen yn cynnwys gwybodaeth am y rheoliadau a'r rheolau deddfwriaethol sy'n llywodraethu radio cymunedol (gan gynnwys unrhyw gyfeiriadau at ddeddfwriaeth ar y ffurflen gais hon). Mae'r nodiadau cyfarwyddyd ar gael ar ein gwefan: https://www.ofcom.org.uk/cymru/manage-your-licence/radio-broadcast-licensing/apply-for-a-radio-broadcast-licenceGofynnwn i chi ateb pob cwestiwn ar y ffurflen gais hon. Mae gan rai adrannau uchafswm nifer geiriau. Mae Ofcom wedi gosod yr uchafsymiau hyn ar lefel sy'n briodol, yn ein barn ni, er mwyn i ymgeiswyr ddarparu'r wybodaeth ofynnol. Lle nodir uchafswm, dylai ymgeiswyr nodi bod Ofcom yn annhebygol o ystyried unrhyw gynnwys sy'n mynd dros yr uchafswm yn ymatebion ymgeiswyr.Bydd Ofcom yn cyhoeddi copi o bob ffurflen gais radio cymunedol mae'n ei chael ar ei wefan. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr ofyn bod gwybodaeth a roddir yn ateb i rai adrannau o'r cais hwn yn cael ei chyflwyno'n gyfrinachol (hynny yw, bydd yn cael ei heithrio o'r copi sy'n cael ei gyhoeddi). Mae'r adrannau perthnasol yn cynnwys bocs ticio i ymgeiswyr nodi a hoffent i'r deunydd aros yn gyfrinachol (maent yn ymwneud â gwybodaeth bersonol am aelodau grŵp a gwybodaeth ariannol). Os bydd ymgeisydd yn gofyn i ni gadw gwybodaeth yn gyfrinachol, byddwn yn gwneud ein gorau i barchu hynny, ond weithiau bydd angen i ni gyhoeddi pob cais, gan gynnwys rhannau sydd wedi'u marcio’n rhai cyfrinachol, a hynny er mwyn bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol.Mae Deddf Darlledu 1996 yn ei gwneud hi'n drosedd datgan gwybodaeth ffug neu beidio â datgelu gwybodaeth berthnasol i Ofcom yng nghyswllt cais am drwydded darlledu. Byddai euogfarn am y drosedd honno yn arwain at anghymhwyso'r parti euog rhag dal trwyddedau darlledu. Mae'n rhaid cael gwybodaeth lawn oherwydd fod y ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i Ofcom asesu ceisiadau yn erbyn meini prawf penodol, ac i ystyried a yw cyfranogiad unigolion yn y corff sy'n gwneud cais am drwydded yn 'addas ac yn briodol', ac nad yw eu cyfranogiad mewn sefydliadau eraill yn eu hanghymhwyso rhag cael eu cynnwys mewn trwydded radio cymunedol. Prif YmrwymiadauFel rhan o'i thrwydded, mae gan bob gorsaf radio cymunedol ddogfen sy'n nodi ei 'Phrif Ymrwymiadau'. Fel rhan o'r cais hwn, hoffem i bob ymgeisydd gyflwyno copi drafft o'i 'Brif Ymrwymiadau' arfaethedig ei hun. Os rhoddir trwydded i chi, bydd y drafft hwn wedyn (yn amodol ar Ofcom yn cytuno iddo) yn sail i'r rhan 'Prif Ymrwymiadau' o'ch trwydded. Dylai gynnig crynodeb o allbwn eich rhaglenni ynghyd â mesurau manteision cymdeithasol (buddion cymunedol), cyfranogiad a mynediad, ac atebolrwydd.

1

Page 3: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

Mynegai 1. Enw’r Orsaf 2. Y gymuned a fydd yn cael ei gwasanaethu 3. Ardal arfaethedigRhaglenni ac allbwn rhaglenni: 4. Allbwn rhaglenniManteision cymdeithasol 5. Manteision cymdeithasol

Mynediad a chyfranogiad: 6. Cyfranogiad yn y gwasanaeth 7. Mynediad at gyfleusterau a hyfforddiant

Sicrhau atebolrwydd: 8. Atebolrwydd

Nodiadau cyfarwyddyd: prif ymrwymiadau drafft yr orsafPrif Ymrwymiadau: i'w llenwi gan yr ymgeisydd

Ynghylch eich sefydliad: 9. Manylion y cwmni10. PerchnogaethY gallu i gynnal y gwasanaeth:11. - 12. Rheoli a gweithredu13. Strwythur staffio14. Profiad yr ymgeisydd

Tystiolaeth o'r galw:15. Galw a/neu gefnogaethY gallu i gynnal y gwasanaeth – gwybodaeth ariannol:16. Gwybodaeth ariannol cyn lansio17. Gwybodaeth ariannol Blwyddyn 1 – incwm18. Gwybodaeth ariannol – cymorth ymarferol (in-kind)19. Gwybodaeth ariannol Blwyddyn 1 – costau20. Gwybodaeth ariannol Blwyddyn 1 – gweithgareddau masnachol ar yr awyr21. – 22. Gwybodaeth ariannol cyn lansio a Blwyddyn 1 – wrth gefn23. Gwybodaeth ariannol – benthyciadau a benthyca arall24. Gwybodaeth ariannol – ffrydiau cyllid eraill

Peirianneg darlledu:Nodiadau peirianneg25. Gwybodaeth am beirianneg

Sut mae cysylltu â chi:26. Manylion cysylltu ar gyfer y cyhoedd27. Manylion cysylltu ar gyfer Ofcom

Datganiad i gloi:28. Datganiad

Page 4: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

1. Enw’r Orsaf Nodiadau CyfarwyddydBeth yw enw arfaethedig yr orsaf? Ateb:

Dyma'r enw rydych chi'n disgwyl ei ddefnyddio i enwi'r orsaf ar yr awyr.

2. Y gymuned a fydd yn cael ei gwasanaethu

Nodiadau Cyfarwyddyd

Diffiniwch y gymuned neu'r cymunedau rydych chi'n bwriadu eu gwasanaethu. Gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau data (ee o'r Swyddfa Cyfrifiadau ac Arolygon Poblogaeth), ac yng nghyswllt eich ardal ddarlledu arfaethedig, nodwch faint y boblogaeth dan sylw a chyfansoddiad y boblogaeth drwyddi draw, ynghyd ag unrhyw wybodaeth economaidd-gymdeithasol berthnasol a fyddai'n ategu eich cais. Nodwch ffynonellau'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu.Atebwch mewn llai na 300 gair:

Mae'n ofyniad deddfwriaethol bod gwasanaeth wedi'i fwriadu'n bennaf i wasanaethu un gymuned neu ragor (pa un ai a yw'n gwasanaethu aelodau eraill o'r cyhoedd hefyd ai peidio) ac mae angen i ni ddeall pwy sy'n rhan o'r gymuned honno neu'r cymunedau hynny. Bydd y gymuned darged hefyd yn cael ei nodi yn y drwydded, os bydd y cais yn llwyddiannus.

Mae'r ddeddfwriaeth yn diffinio 'cymuned' fel: pobl sy'n gweithio, yn byw neu'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ardal neu leoliad penodol; neu bobl sydd ag un neu fwy o ddiddordebau neu nodweddion yn gyffredin.

3. Ardal arfaethedig Nodiadau CyfarwyddydBeth yw'r ardal rydych chi'n bwriadu ei gwasanaethu? Er ein bod yn credu ei bod yn ddefnyddiol gosod

canllawiau sy'n nodi y gallai argaeledd amledd gyfyngu'n aml ar bwerau trosglwyddo i tua 25 wat, a'r radiws darlledu i tua 5km, rydym yn mabwysiadu dull mwy hyblyg, a byddwn yn ystyried ceisiadau ar gyfer ardaloedd ehangach lle gall ymgeiswyr ddangos y bydd yr ardal ddarlledu arfaethedig yn gwasanaethu'r gymuned darged yn well, a'i fod yn dechnegol bosibl. https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0020/101459/community-radio-future-licensing-technical-policy-statement.pdf

Ateb:

Page 5: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

Rhaglenni ac allbwn rhaglenni:Diffiniadau:

Lleoliad y stiwdio: Dylai'r stiwdio y bydd y gwasanaeth yn darlledu ohoni fod wedi'i lleoli yn yr ardal drwyddedig.

Cynhyrchu'n lleol: Allbwn wedi'i gynhyrchu'n lleol yw allbwn sy'n cael ei wneud a'i ddarlledu yn ardal ddarlledu drwyddedig y gwasanaeth. (Rhagwelir y bydd y mwyafrif o orsafoedd yn cynhyrchu'r rhan fwyaf o'u hallbwn eu hunain, yn yr ardal leol. Fodd bynnag, efallai y bydd yn briodol i rai cymunedau targed fod lefelau eithaf uchel o allbwn yn deillio o'r tu allan i'r ardal drwyddedig.) Allbwn byw : allbwn sy'n cael ei gynhyrchu gan gyflwynydd yn y stiwdio ar adeg y darllediad. (Gall y lefelau o allbwn byw amrywio rhwng gwahanol wasanaethau yn dibynnu ar anghenion neu ddisgwyliadau'r gymuned darged.)

Allbwn gwreiddiol : allbwn sydd, yn y lle cyntaf, yn cael ei gynhyrchu ar gyfer y gwasanaeth a'i drosglwyddo ganddo, ac mae'n eithrio allbwn a drosglwyddwyd yn rhywle arall ynghynt. Gall allbwn gwreiddiol fod yn fyw neu ar ffurf trac llais. Nid yw ailadrodd darllediadau allbwn gwreiddiol yn cyfrif tuag at y gofyniad lleiaf.

Cyfnodau brig : efallai y byddai'n ddefnyddiol nodi pa ddeunydd fydd yn cael ei ddarlledu yn ystod 'cyfnodau brig'. Os byddwch chi'n gwneud hynny, dywedwch beth fydd y cyfnodau brig i'ch cymuned darged chi yn eich barn chi (gall hyn amrywio rhwng gorsafoedd).

Allbwn awtomataidd/deunydd trac llais : bydd y rhan fwyaf o orsafoedd yn darlledu allbwn awtomataidd ar ryw adeg. Nid oes rhaid manylu faint o ddeunydd trac llais neu awtomataidd fydd yn cael ei ddefnyddio yn y Prif Ymrwymiadau.

Cynnal y gwasanaeth/deunydd wedi'i gynhyrchu gan drydydd parti : os ydych chi'n bwriadu darlledu deunydd wedi'i gynhyrchu gan sefydliad gwahanol, nodwch beth yw'r deunydd a faint ohono a ddarlledir (fesul diwrnod neu wythnos fel y bo'n briodol).

4. Allbwn rhaglenni Nodiadau CyfarwyddydAtebwch y tri chwestiwn isodMae Cwestiwn A yn gofyn i chi ddisgrifio eich gwasanaeth rhaglenni.Mae Cwestiwn B yn ymwneud â sut bydd eich allbwn yn gwasanaethu chwaethau a diddordebau eich cymuned darged.Mae Cwestiwn C yn ymwneud â sut bydd eich gwasanaeth yn ehangu'r amrywiaeth o wasanaethau lleol (heb fod yn rhai y BBC) sydd ar gael yn eich ardal.Bydd gofyn i chi lunio'ch 'prif ymrwymiadau' drafft eich hunain yn nes ymlaen ar y ffurflen hon. Bydd hyn yn sail i'ch trwydded ac yn erbyn y rhain y bydd Ofcom yn eich barnu. Dylai gynnwys crynodeb o'ch allbwn rhaglenni arfaethedig fel y nodir isod, ac adlewyrchu eich ymrwymiad i ddarparu ar gyfer chwaethau a diddordebau perthnasol, i ehangu'r amrywiaeth o raglenni a gwasanaethau perthnasol, ac i ddarparu gwasanaeth unigryw ei natur a'i gynnwys, fel y nodir yn y Nodiadau Cyfarwyddyd yn y golofn gyferbyn.

Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddatgan eu cynigion ar gyfer darparu gwasanaeth a fydd yn:(i) darparu ar gyfer chwaethau a diddordebau aelodau

o'i gymuned darged neu'r cymunedau targed (neu ar gyfer unrhyw chwaethau a diddordebau arbennig yn y cymunedau hynny);

(ii) ehangu'r amrywiaeth o raglenni sydd ar gael ar wasanaethau lleol heb fod yn rhai y BBC (gorsafoedd masnachol a chymunedol) i aelodau o'r gymuned berthnasol neu'r cymunedau perthnasol;

(iii) ehangu amrywiaeth gyffredinol gwasanaethau lleol o'r fath, heb fod yn rhai y BBC, a ddarperir yn yr ardal dan sylw;

(iv) unigryw ei natur, neu'n darparu cynnwys unigryw, o'i gymharu ag unrhyw wasanaeth lleol, heb fod yn un y BBC, y bydd yn gorgyffwrdd ag ef.

Mae'n rhaid i Ofcom ystyried i ba raddau y bydd cynigion ymgeisydd yn darparu ar gyfer chwaethau a diddordebau aelodau o'i gymuned darged neu gymunedau targed.

Mae'n rhaid i Ofcom hefyd ystyried i ba raddau y byddai cynigion ar gyfer gorsaf radio cymunedol yn ehangu'r amrywiaeth o raglenni sydd ar gael drwy wasanaethau heb fod yn rhai y BBC (gorsafoedd masnachol a chymunedol) yn yr ardal dan

2

Page 6: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

sylw (yn arbennig, i ba raddau y byddai natur neu gynnwys gwasanaeth arfaethedig yn unigryw o'i gymharu ag unrhyw wasanaethau lleol, heb fod yn rhai y BBC, a fyddai'n gorgyffwrdd a'r gwasanaeth arfaethedig).

Dylai'r wybodaeth a roddir yma fod yn fanylach na'r hyn rydych chi'n ei nodi yn eich prif ymrwymiadau drafft (yn nes ymlaen ar y ffurflen hon), a bydd yn ein helpu ni i gael dealltwriaeth lawnach o sut byddwch chi'n gwasanaethu eich cymuned darged a sut sain fydd gan yr orsaf.

4. Allbwn rhaglenniA: Disgrifiwch eich gwasanaeth rhaglenni. Efallai y bydd y cwestiynau canlynol o gymorth i chi wrth ddisgrifio eich gwasanaeth rhaglenni (ond dylid eu defnyddio fel canllaw yn unig): Sut sain fydd gan y gwasanaeth? Pa gerddoriaeth fyddwch chi'n ei chwarae? Beth fydd prif elfennau siarad y gwasanaeth, a sut bydd y manteision cymdeithasol/buddion cymunedol

rydych chi'n eu cynnig yn cael eu hadlewyrchu ar yr awyr? Beth yw'r gymhareb cerddoriaeth i siarad debygol? A fydd hyn yn amrywio rhwng gwahanol adegau o'r diwrnod neu'r wythnos (neu'r flwyddyn)? Ydych chi'n bwriadu darlledu allbwn byw? Os ydych chi, pryd a faint ydych chi'n bwriadu ei ddarlledu? A fyddwch chi'n darlledu mewn ieithoedd ar wahân i Saesneg (pa ieithoedd a faint)? A fydd eich allbwn yn wreiddiol, hy wedi'i gynhyrchu'n benodol ar gyfer eich gwasanaeth? A fydd yn cael ei gynhyrchu'n lleol? Ydych chi'n bwriadu ailadrodd deunydd? Atebwch mewn llai na 1,000 gair:

B. Beth yw cyfeiriad y stiwdio arfaethedig (os ydych chi'n ei wybod)?

C: Yn seiliedig ar yr hyn rydych chi wedi'i ddweud uchod, sut bydd eich gwasanaeth radio arfaethedig yn darparu ar gyfer chwaethau a diddordebau eich cymuned/cymunedau targed?Atebwch mewn llai na 400 gair:

3

Page 7: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

D: Sut bydd eich gwasanaeth radio cymunedol arfaethedig yn ychwanegu at yr amrywiaeth o raglenni sydd ar gael ar wasanaethau lleol heb fod yn rhai y BBC (gorsafoedd masnachol a chymunedol) i aelodau o'r gymuned neu gymunedau perthnasol, yn ychwanegu at amrywiaeth gyffredinol gwasanaethau o'r fath yn yr ardal dan sylw, ac yn wahanol ac yn unigryw o'i gymharu â nhw? Dywedwch wrthym ni gyda pha wasanaethau lleol, heb fod yn rhai y BBC, y bydd eich gorsaf yn gorgyffwrdd.Atebwch mewn llai na 400 gair:

Manteision cymdeithasol

5. Manteision cymdeithasol Nodiadau CyfarwyddydMae'n rhaid i radio cymunedol fod er budd y cyhoedd a sicrhau buddion cymunedol, neu fanteision cymdeithasol, i wrandawyr a chyfranogwyr. Y gofyniad ar gyfer 'manteision cymdeithasol' yw un o'r prif ffactorau sy'n gwneud gorsafoedd radio cymunedol yn wahanol i wasanaethau radio eraill. Dywedwch wrthym ni pa fanteision cymunedol y bydd eich gwasanaeth yn eu sicrhau ar gyfer y gymuned/cymunedau targed a/neu'r cyhoedd. Rhowch bytiau o dystiolaeth i ategu eich ateb. Dylai eich 'prif ymrwymiadau' drafft (yn nes ymlaen ar y ffurflen hon) gynnwys crynodeb o'ch manteision cymdeithasol arfaethedig fel y nodir isod.

Mae deddfwriaeth darlledu yn nodi nifer o 'nodweddion gwasanaethau radio cymunedol'. Mae'n rhaid i ddeiliaid trwyddedau sicrhau bod eu gwasanaethau yn cydymffurfio â'r nodweddion hyn, gan gynnwys, yn yr achos hwn, sicrhau manteision cymdeithasol.

Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi'r manteision cymdeithasol y mae'n rhaid i orsafoedd eu sicrhau. Y rhain yw cyflawni'r amcanion canlynol, a hynny yng nghyswllt unigolion neu grwpiau o unigolion yn y gymuned darged, neu yng nghyswllt aelodau eraill o'r cyhoedd –(a) darparu gwasanaeth radio i unigolion nad ydynt fel

arall yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol gan wasanaethau o'r fath,

(b) hwyluso trafod a mynegi barn,(c) darparu (boed hynny drwy raglenni sydd wedi’u

cynnwys yn y gwasanaeth neu fel arall) addysg neu hyfforddiant i unigolion nad ydynt yn cael eu cyflogi gan yr orsaf, a

(d) deall y gymuned benodol yn well a chryfhau cysylltiadau yn y gymuned honno.

Gall manteision cymdeithasol hefyd gynnwys cyflawni amcanion eraill o natur gymdeithasol.1

Mae'n rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth y bydd eu gwasanaeth yn arwain at fanteision cymdeithasol sylweddol i'r cyhoedd neu'r gymuned/cymunedau targed. Ni ddylid cyflwyno copïau o lythyrau nac adroddiadau ymchwil ac ati, ond gellir cynnwys detholiadau byr perthnasol, sy'n cynrychioli crynodeb cywir a chynhwysfawr, ohonynt. Os ydym am weld y deunydd gwreiddiol, gofynnwn amdano.

Mae'n rhaid i Ofcom ystyried i ba raddau y bydd eich gwasanaeth arfaethedig yn sicrhau manteision cymunedol i'r cyhoedd neu'r gymuned darged.

1 Gweler Erthygl 2(3) Gorchymyn Radio Cymunedol 2004 a Nodiadau Cyfarwyddyd Ofcom ar gyfer ymgeiswyr am drwyddedau radio cymunedol a thrwyddedigion.

4

Page 8: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

Atebwch mewn llai na 1,500 gair:

Mynediad a chyfranogiad:

6. Cyfranogiad yn y gwasanaeth Nodiadau CyfarwyddydSut ydych chi'n cynnig sicrhau bod aelodau o'ch cymuned darged (neu gymunedau targed) yn cael cyfle i gymryd rhan yn y gwaith o weithredu a rheoli'r gwasanaeth?Dylai eich 'prif ymrwymiadau' drafft (yn nes ymlaen ar y ffurflen hon) gynnwys crynodeb o'ch amcanion cyfranogiad arfaethedig fel y nodir isod.Atebwch mewn llai na 400 gair:

Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi nifer o 'nodweddion gwasanaethau radio cymunedol'. Mae'n rhaid i ddeiliaid trwyddedau sicrhau bod eu gwasanaethau yn cydymffurfio â'r nodweddion hyn, gan gynnwys, yn yr achos hwn, darparu cyfleoedd i gymryd rhan yn y gwaith o weithredu a rheoli'r gwasanaeth. Mae'n rhaid i Ofcom gael gwybodaeth am sut byddai hyn yn cael ei gyflawni.

Pa ran fyddai gan aelodau o'r gymuned darged yn yr orsaf radio? Sawl gwirfoddolwr ydych chi'n rhag-weld y bydd yn cymryd rhan yn eich gwasanaeth bob blwyddyn?

5

Page 9: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

7. Mynediad at gyfleusterau a hyfforddiant Nodiadau Cyfarwyddyd

Nodwch y dulliau ymarferol (ffurfiol ac anffurfiol) y byddwch chi'n eu defnyddio i sicrhau bod aelodau o'ch cymuned darged yn gallu cael mynediad at y cyfleusterau y byddai'n cael eu defnyddio i ddarparu eich gwasanaeth, ac yn cael hyfforddiant i'w defnyddio.Dylai eich 'prif ymrwymiadau' drafft (yn nes ymlaen ar y ffurflen hon) gynnwys crynodeb o'ch amcanion mynediad arfaethedig a'r rhai ar gyfer hyfforddi pobl i ddefnyddio'r cyfleusterau fel y nodir isod.Atebwch mewn llai na 400 gair:

Mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i Ofcom ystyried y ddarpariaeth y mae pob ymgeisydd yn cynnig ei sicrhau er mwyn caniatáu i aelodau o'r gymuned darged gael mynediad at y cyfleusterau a fydd yn cael eu defnyddio i ddarparu'r gwasanaeth ac iddynt gael hyfforddiant i ddefnyddio'r cyfleusterau hynny.

Sicrhau atebolrwydd:

8. Atebolrwydd Nodiadau CyfarwyddydNodwch eich dulliau arfaethedig ar gyfer atebolrwydd cymunedol. Dylai'r rhain ymdrin â materion fel:Sut bydd aelodau o'ch cymuned darged: yn gallu cysylltu â'ch gwasanaeth, ac yn dylanwadu ar weithrediaeth y gwasanaeth?Sut byddwch chi'n ystyried awgrymiadau neu feirniadaeth gan aelodau o'ch cymuned darged (neu gymunedau targed) ac yn gweithredu arnynt?Dylai eich 'prif ymrwymiadau' drafft (yn nes ymlaen ar y ffurflen hon) gynnwys crynodeb o'ch mesurau atebolrwydd arfaethedig fel y nodir isod.Atebwch mewn llai na 500 gair:

Mae deddfwriaeth darlledu yn nodi nifer o 'nodweddion gwasanaethau radio cymunedol'. Mae'n rhaid i ddeiliaid trwyddedau sicrhau bod eu gwasanaethau yn cydymffurfio â'r nodweddion hyn. Un o'r rhain yw, mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth, bod y darparwr yn gwneud ei hun yn atebol i’r gymuned (neu'r cymunedau) y mae’r gwasanaeth i fod i’w gwasanaethu.

Mae'n rhaid i Ofcom ystyried y ddarpariaeth y mae pob ymgeisydd yn ei chynnig er mwyn sicrhau ei atebolrwydd i'r gymuned berthnasol (neu'r cymunedau perthnasol).

6

Page 10: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

Nodiadau cyfarwyddyd: prif ymrwymiadau drafft yr orsafMae angen i chi lunio drafft o'r Prif Ymrwymiadau ar gyfer eich gwasanaeth arfaethedig. Mae templed prif ymrwymiadau wag dros y dudalen. Os caiff eich sefydliad drwydded, bydd y prif ymrwymiadau rydych chi'n llunio drafft ohonynt yma yn cael eu cynnwys yn eich trwydded. (Sylwer: Efallai y bydd Ofcom yn gofyn am ddiwygiadau os, er enghraifft, ein bod yn teimlo bod gofyn am newidiadau er mwyn adlewyrchu cynigion eich cais yn well). Dylai eich Prif Ymrwymiadau fod yn gyson â'r atebion rydych chi eisoes wedi'u rhoi ar y ffurflen gais hon a, lle bo'n briodol, eu crynhoi.Mae’n bwysig eich bod yn llunio drafft o'ch ymrwymiadau eich hunain, yn hytrach na chopïo'r hyn y mae eraill wedi'i roi. Dylech gofio y bydd bodloni'r Prif Ymrwymiadau yn amod unrhyw drwydded: rhywbeth y mae'n rhaid i chi ei wneud ar bob adeg ac, os byddwch chi'n torri'r amodau, gallech wynebu sancsiynau, gan gynnwys dirymu'r drwydded. Felly dylech chi feddwl yn ofalus am yr hyn y byddwch chi'n ymrwymo iddo.Rydym yn disgwyl i'r prif ymrwymiadau fod yn gryno ac yn ddim mwy nag un tudalen o hyd.

PRIF YMRWYMIADAU: i'w llenwi gan yr ymgeisydd [Rhoddir canllawiau mewn ffont italig.]

Enw’r orsaf [Fel y nodir yn adran 1 y cais hwn]

Ardal y drwydded [Nodwch yr ardal ddarlledu arfaethedig fel y nodir yn adran 3 y ffurflen hon.]

Disgrifiad o gymeriad y gwasanaeth [Disgrifiwch mewn dim mwy nag 80 gair gyda'i gilydd]: - y gymuned darged/cymunedau targed [disgrifiwch y gymuned neu'r cymunedau y byddwch chi'n eu

gwasanaethu; dylai hyn grynhoi eich ateb yn adran 2 y ffurflen hon]:- prif bwrpas y gwasanaeth

- prif swyddogaethau neu weithgareddau'r orsaf.

Bydd y gwasanaeth yn darlledu: [dylai'r pwyntiau bwled hyn grynhoi eich atebion yn adran 4 y ffurflen hon]:

Cerddoriaeth. Dyma'r prif fathau o gerddoriaeth2 a ddarlledir pob wythnos: [rhowch y mathau o gerddoriaeth mewn dim mwy na 30 gair]

Siarad. Dyma'r prif fathau o allbwn siarad3 a ddarlledir pob wythnos: [disgrifiwch yr allbwn siarad mewn dim mwy na 30 gair]

2 ee pop prif ffrwd, trefol (urban) ac ati.3 ee newyddion lleol, gwybodaeth am yr hyn sydd ymlaen ac ati.

7

Page 11: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

Yn ystod pob wythnos, darlledir rhaglenni mewn [rhestrwch bob iaith ar wahân i Saesneg, os yw hyn yn berthnasol]

Mae'r gwasanaeth yn darparu allbwn gwreiddiol4 am isafswm o [rhowch rif] bob diwrnod. [Beth yw'r nifer lleiaf o oriau bob diwrnod y bydd y gwasanaeth yn darlledu allbwn gwreiddiol?]

Mae'r gwasanaeth yn darparu allbwn wedi'i gynhyrchu'n lleol5 am isafswm o [rhowch rif] bob diwrnod. [Beth yw'r nifer lleiaf o oriau bob diwrnod y bydd y gwasanaeth yn darlledu allbwn wedi'i gynhyrchu'n lleol?]

[Mae'r testun isod wedi'i gynnwys ym Mhrif Ymrwymiadau pob trwydded radio cymunedol, ac nid oes angen ei addasu nac ychwanegu ato. Mae'n rhaid i bob gwasanaeth gydymffurfio â'r gofynion hyn, ond nid oes angen cynnwys y manylion o ran sut mae pob gwasanaeth yn mynd ati i wneud hyn yn y Prif Ymrwymiadau]

Mae'r stiwdio wedi'i lleoli yn yr ardal ddarlledu drwyddedig.

Mae'r gwasanaeth yn darparu amrywiaeth o fuddion cymunedol (amcanion manteision cymdeithasol wedi'u gorfodi gan statud) ar gyfer y gymuned darged, a hynny ar yr awyr ac oddi ar yr awyr, a thrwy wneud hynny mae'n cyflawni'r amcanion canlynol:

hwyluso trafod a mynegi barn,

darparu (boed hynny drwy raglenni sydd wedi’u cynnwys yn y gwasanaeth neu fel arall) addysg neu hyfforddiant i unigolion nad ydynt yn cael eu cyflogi gan y sawl sy'n darparu'r gwasanaeth, a

deall y gymuned benodol yn well a chryfhau cysylltiadau yn y gymuned honno.

Mae aelodau o'r gymuned darged yn cyfrannu at y gwaith o weithredu a rheoli'r gwasanaeth.

Mae gan y gwasanaeth ddulliau yn eu lle i sicrhau ei fod yn atebol i'r gymuned darged.

[Sylwer: Os cewch drwydded, bydd y prif ymrwymiadau rydych chi'n llunio drafft ohonynt yma yn cael eu cynnwys yn eich trwydded. (Fodd bynnag, efallai y bydd Ofcom yn gofyn am ddiwygiadau os, er enghraifft, ein bod yn teimlo bod gofyn am newidiadau er mwyn adlewyrchu cynigion eich cais yn well).]

Ynghylch eich sefydliad:

9. Manylion y cwmni Nodiadau CyfarwyddydMae'r ddeddfwriaeth yn mynnu'r canlynol: Ni ddylai gwasanaethau radio cymunedol gael eu darparu am resymau masnachol gan fwyaf nac er mwyn

elw ariannol neu faterol arall i’r corff sy'n darparu'r gwasanaeth na'r unigolion sy’n rhan ohono Gellir defnyddio unrhyw elw a geir i wella darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol neu i ddarparu manteision

cymdeithasol i aelodau o'r cyhoedd neu'r gymuned darged, ac at y dibenion hynny'n unig

Darparu enw'r corff corfforaethol (ee cwmni) sy'n cyflwyno'r cais hwn a'r math o gorff corfforaethol. Dylech chi ddarparu copïau o Femorandwm, Erthyglau Cymdeithasu a Thystysgrif Corffori'r cwmni (neu, os yw'n fath arall o gorff corfforaethol, ei ddogfennau sefydlol a'r rheini sy'n nodi ei amcanion a'i reolau gweithredu)

Dim ond corff corfforaethol sy'n gallu dal trwydded radio cymunedol. Mae corff corfforaethol bob amser fwy neu lai yn gwmni (cofrestredig), er gall hefyd gynnwys, er enghraifft, rhai cyrff a grëwyd gan statud (nid yw elusen gofrestredig neu unigolyn ar ei ben ei hun yn gorff corfforaethol).

Felly mae'n rhaid cyflwyno eich cais ar ran

4 Ystyr allbwn gwreiddiol yw allbwn sydd, yn y lle cyntaf, yn cael ei gynhyrchu ar gyfer y gwasanaeth a'i drosglwyddo ganddo, ac mae'n eithrio allbwn a drosglwyddwyd yn rhywle arall ynghynt. Gall allbwn gwreiddiol fod yn fyw neu ar ffurf trac llais. Nid yw ailadrodd darllediadau allbwn gwreiddiol yn cyfrif tuag at y gofyniad lleiaf.5 Allbwn wedi'i gynhyrchu'n lleol yw allbwn sy'n cael ei wneud a'i ddarlledu yn ardal ddarlledu drwyddedig y gwasanaeth.

8

Page 12: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

cwmni cofrestredig (neu gorff corfforaethol arall). Mae gwahanol fathau o gwmnïau (ee cwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau, cwmni budd cymunedol, cwmni cyfyngedig drwy warant) ac mae angen i ni wybod pa fath o gwmni sy'n gwneud cais am drwydded.

Ni fyddwn yn ystyried rhoi trwydded i gwmni os nad yw wedi cael ei gofrestru. Os bydd y cais yn llwyddiannus, caiff y drwydded ei rhoi i'r corff corfforaethol (ee cwmni) sy'n cyflwyno'r cais hwn.

Ateb:

Enw'r cwmni (neu gorff corfforaethol arall):

Dyddiad cofrestru:

Rhif cofrestru'r cwmni:

Math o gwmni (neu gorff corfforaethol arall):

Os nad yw eich corff yn gwmni, esboniwch sut mae'n bodloni'r gofyniad er mwyn bod yn gorff corfforaethol:

10. Perchnogaeth Nodiadau CyfarwyddydRhowch fanylion ynghylch pwy sy'n rheoli'r corff corfforaethol (ee cwmni) sy'n gwneud cais am y drwydded hon, a phwy sy'n berchen arno, ac ar ba sail y mae'r rheolaeth a'r berchnogaeth hyn yn cael eu cyflawni. (Os bydd hyn yn wahanol unwaith y mae'r orsaf yn dechrau darlledu, nodwch hynny (ni gyhoeddir trwydded nes fod y darlledu wedi dechrau.) Mae'n rhaid i'r wybodaeth a ddarperir gynnwys: pob tanysgrifiwr, aelod, cyfranddaliwr, neu beth

bynnag sy'n briodol ar gyfer y cwmni (neu gorff corfforaethol) sy'n gwneud y cais, a nodi graddau eu budd (ee % cyfranddaliad) (os bydd y cwmni'n cael ei reoli gan aelodau, ond nad yw'r aelodau wedi cael eu recriwtio eto, nodwch hynny). (Byddwn yn eich holi am y bwrdd cyfarwyddwyr yn adrannau 11 a 12 isod.)

manylion unrhyw unigolyn, cwmni neu gorff arall a allai arfer rheolaeth dros yr ymgeisydd.

Ateb:

Mae'n rhaid i Ofcom gael manylion am berchnogaeth y cwmni (neu gorff corfforaethol arall) sy'n gwneud cais am y drwydded hon, ac am unrhyw faterion yn ymwneud â'i reolaeth. Byddwn hefyd yn ystyried sut bydd y cwmni (neu gorff corfforaethol) yn cael ei redeg (nodir hyn yn Erthyglau Cymdeithasu y cwmni fel arfer).

O ran rheoli'r ymgeisydd, os yw'r rhan fwyaf neu rannau sylweddol o faterion yr ymgeisydd yn cael eu gwneud yn unol â dymuniadau unrhyw unigolion neu gorff corfforaethol, dylai'r wybodaeth a ddarperir gynnwys enw a chyfeiriad yr unigolion neu gyrff hynny.

Y gallu i gynnal y gwasanaeth:

11. Rheoli a gweithredu Nodiadau Cyfarwyddyd

Yng nghyswllt yr ymgeisydd, a fyddech cystal â darparu: Rhestr o gyfarwyddwyr, gan nodi pwy yw'r

rheolwr gyfarwyddwr a/neu'r cadeirydd (gweler

Yn ogystal â'r nodiadau am berchnogaeth uchod, mae'n rhaid i Ofcom hefyd werthuso'r adnoddau dynol sy'n gysylltiedig â rhedeg gorsaf radio cymunedol. Dylai'r atebion ddangos sut bydd y rheini â phrofiad

9

Page 13: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

cwestiwn 12 sy'n ymwneud â manylion cyfarwyddwyr).

Syniad o'r strwythur rheoli (ee pwyllgor rheoli neu gyfatebol, os yw'n berthnasol), a/neu

Gwybodaeth am bwy fyddai'n gyfrifol am reoli a rhedeg yr orsaf o ddydd i ddydd (mae cwestiwn ar wahân am staff arall isod). Esboniwch y rôl(au) yn yr orsaf, teitlau swyddi, a nodi pa un ai a ydynt yn gyflogedig neu'n wirfoddol, yn amser llawn neu'n rhan amser (a nifer yr oriau).

Ateb:

perthnasol yn gweithio i'r orsaf. Ynghyd â hynny, efallai y byddai diagram neu siart sefydliad yn helpu i roi darlun cliriach.

12. Rheoli a gweithredu Nodiadau CyfarwyddydRhowch wybodaeth am bob cyfarwyddwr fel y nodir isod (efallai y bydd rhywfaint o'r wybodaeth neu'r wybodaeth gyfan y cael ei hystyried yn gyfrinachol).Ar ben hynny, os oes unrhyw unigolion wedi cael eu pennu ar gyfer rolau rheoli yn yr orsaf arfaethedig, rhowch ragor o wybodaeth yn yr adran hon. Ateb (i bob cyfarwyddwr):

Mae'n rhaid i Ofcom gael gwybod am y cyfarwyddwyr arfaethedig a chadeirydd yr ymgeisydd. Gan amlaf, bydd rhywfaint o'r wybodaeth a roddir yn yr adran hon, neu'r holl wybodaeth, yn cael ei thynnu o'r copi o'r ffurflen gais hon sydd ar gael yn gyhoeddus. (Bydd pob ffurflen gais radio cymunedol ar gael ar ein gwefan.) Os hoffech chi ofyn am gael unrhyw ran o'r wybodaeth wedi'i thynnu, nodwch pa rannau (a pham, dros e-bost i [email protected]).

Cyfeiriad cartref:

Rhif ffôn cyswllt:

Cyfeiriad e-bost:

Gwaith:

Swyddi cyfarwyddwr eraill:

Profiad neu gymwysterau perthnasol:

Os oes unrhyw unigolion (heb fod yn gyfarwyddwyr o reidrwydd) wedi cael eu pennu ar gyfer rolau rheoli, nodwch ar ba brofiad y mae'r unigolion a bennwyd yn meddu er mwyn cyflawni'r rôl dan sylw.

13. Strwythur staffio Nodiadau CyfarwyddydBeth yw strwythur staffio eich gwasanaeth radio arfaethedig? Rhowch deitl swydd ar gyfer pob swydd, a nodi a fydd yr unigolyn yn cael ei dalu neu'n gweithio mewn capasiti gwirfoddol, ac a fydd yn gweithio ar sail amser llawn neu ran amser (nodwch nifer yr oriau ar gyfer swyddi rhan amser). Gellir darparu hyn ar ffurf diagram neu siart sefydliad.

Atebwch mewn llai na 400 gair, ynghyd â'r siart sefydliadol (dewisol):

Mae'r ddeddfwriaeth yn mynnu bod Ofcom yn ystyried gallu'r ymgeisydd i gynnal y gwasanaeth arfaethedig (yn ogystal â sicrhau bod yr ymgeisydd yn addas ac yn briodol i ddal y drwydded). Yn ogystal â'i pherchnogaeth, ei rheolaeth a'i gweithrediadau, mae staffio arfaethedig yr orsaf yn berthnasol i'r ystyriaethau hyn.

10

Page 14: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

14. Profiad yr ymgeisydd Nodiadau CyfarwyddydDisgrifiwch hanes eich grŵp, ac unrhyw brofiad perthnasol y grŵp, neu'r unigolion yn y grŵp, drwy ateb y cwestiynau isod.

Mae'n rhaid i Ofcom ystyried a oes gan ymgeisydd y gallu i redeg gorsaf radio cymunedol am gyfnod y drwydded (hyd at bum mlynedd). Er cymorth i'n hystyriaethau ni, hoffem gael gwybod am unrhyw brofiad perthnasol y mae grŵp yr ymgeisydd drwyddo draw, neu'r unigolion sy'n rhan ohono, yn meddu arno.

A. Rhowch hanes byr o'ch grŵp. Atebwch mewn llai na 300 gair:

B. Rhowch grynodeb o brofiad darlledu'r grŵp (ee radio rhyngrwyd, Trwyddedau Gwasanaeth Cyfyngedig. Atebwch mewn llai na 150 gair:

C. Rhowch grynodeb o brofiad perthnasol y grŵp, neu ei aelodau, mewn meysydd perthnasol heb fod yn rhai darlledu (fel y trydydd sector, busnes lleol, codi arian, hyfforddiant neu addysg).

Atebwch mewn llai na 150 gair:

D. Rhowch grynodeb o brofiad darlledu radio prif unigolion grŵp yr ymgeisydd (oni bai eich bod eisoes wedi disgrifio hynny uchod).

Atebwch mewn llai na 150 gair:

11

Page 15: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

Tystiolaeth o'r galw:

15. Galw a/neu gefnogaeth Nodiadau CyfarwyddydRhowch grynodeb o dystiolaeth o'r galw a/neu'r gefnogaeth ar gyfer eich gwasanaeth arfaethedig.Gall hyn gynnwys amrywiaeth o wybodaeth, er enghraifft: crynodeb o gymorth gan sefydliadau statudol

neu rai o'r sector gwirfoddol sy'n disgwyl cyfrannu'n ymarferol a/neu'n ariannol at eich gweithrediadau, neu a fyddai'n disgwyl cydweithio â chi ar weithgareddau ar y cyd;

tystiolaeth o ddiddordeb a grëwyd drwy weithgarwch radio (ee Trwyddedau Gwasanaeth Cyfyngedig, radio rhyngrwyd), gweithgarwch cymunedol, hyfforddiant, gwaith yn y sector gwirfoddol ac ati;

canlyniadau ymchwil;

crynodeb o gefnogaeth gan wleidyddion lleol, cynghorau, cyrff addysgol neu grefyddol ac ati;

crynodeb o gefnogaeth gan fusnesau lleol neu sectorau eraill;

tystiolaeth o gefnogaeth gan eich cymuned darged arfaethedig.

Atebwch mewn llai na 1,000 gair:

Wrth ystyried ceisiadau am drwydded radio cymunedol, mae'n rhaid i Ofcom ystyried graddau'r galw neu'r gefnogaeth leol ar gyfer darparu'r gwasanaeth arfaethedig.

Penderfyniad ymgeiswyr yw pa dystiolaeth o alw neu gefnogaeth y maent am ei chyflwyno. Fodd bynnag, nid yw Ofcom o'r farn fod cefnogaeth gyffredinol ar gyfer sefydlu gwasanaeth radio newydd mor arwyddocaol â thystiolaeth o gefnogaeth ystyriol i gynigion ymgeisydd penodol. Mae hynny'n golygu nad oes gan Ofcom fawr o olwg ar enghreifftiau lu o lythyrau cyffredinol neu ffurfiol o gefnogaeth gan eich grŵp, nac ar ddeisebau.

Ni ddylid cyflwyno copïau o lythyrau neu adroddiadau ymchwil ac ati. Fodd bynnag, gall eich ymateb fan hyn gynnwys detholiadau byr perthnasol o ddeunydd o'r fath, a rhaid iddynt fod yn grynodeb cywir a chynhwysfawr o unrhyw dystiolaeth ategol o'r fath. Os ydym am weld y deunydd gwreiddiol, gofynnwn amdano.

12

Page 16: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

Y gallu i gynnal y gwasanaeth – gwybodaeth ariannol:

16. Gwybodaeth ariannol cyn lansio

Wrth asesu gallu ymgeisydd i gynnal y gwasanaeth, mae angen i ni wybod pa gyllid ac asedau sydd ganddo, faint mae'n bwriadu ei wario er mwyn cael yr orsaf ar yr awyr (gwariant cyn lansio), a'r cyllid a ragwelir ar gyfer y cyfnod cyn lansio. Sylwer yr ymdrinnir ag incwm ymarferol ('in-kind') yn adran 18 isod.

Sylwer mai canllawiau'n unig yw'r categorïau a restrir isod, ac efallai na fyddant yn berthnasol i bob cais (ac efallai y bydd rhai eraill yn berthnasol i'ch cais, ac os oes, dylid eu rhestru)Asedau Presennol Gwariant Cyn LansioEitem Swm Eitem Manylion Swm

£ £Arian mewn

banc/cymdeithas adeiladuEiddo (gwerth

adeiladau rydych chi'n berchen arnynt)

Prydlesu eiddo/rent ar gyfer y cyfnod cyn lansio

Gwerth unrhyw gyfarpar stiwdio rydych chi'n berchen arno (llai unrhyw ddyled ariannol)

Cyfarpar stiwdio

Gwerth cyfarpar trosglwyddo (llai unrhyw ddyled ariannol)

Cyfarpar trosglwyddo

Cyfarpar darlledu allanol

Cyfarpar darlledu allanol

Cyfarpar swyddfa Cyfarpar swyddfa

Adeiladau (incwm rhent blynyddol)

Eitemau eraill (RHAID rhoi manylion y rhain)

Costau un-tro eraill (rhowch fanylion)

Costau staffio (gros)

Cyhoeddusrwydd a marchnata

Wrth gefn (arian cadw)

Cyfanswm Asedau: Cyfanswm y costau sefydlu:

Incwm: Rhowch wybodaeth am y cyllid a ragwelir ar gyfer eich cyfnod cyn lansio

Cyllid arian sydd wedi'i sicrhau:Enw'r Cyllidwr/Cyllidwyr

Telerau ac amodau'r cyllid (os oes rhai) Swm y cyllid cyn lansio (£)

Cyllid arian heb ei gadarnhau (heb ei sicrhau eto) ee grant:

13

Page 17: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

Cyfanswm y cyllid sydd ar gael yn y cyfnod cyn lansio: Ticiwch y bocs hwn os ydych chi am i Ofcom hepgor y wybodaeth hon o gopi cyhoeddus eich cais.

17. Gwybodaeth ariannol Blwyddyn 1 - incwmRhowch wybodaeth am yr incwm a ragwelir ar gyfer eich blwyddyn gyntaf o ddarlledu. DS mae

cyfyngiad deddfwriaethol ar incwm o hysbysebu ar yr awyr a chyfeiriadau masnachol/nawdd (yn gryno, mae pob gorsaf yn cael ‘lwfans refeniw sefydlog’ o £15,000 y flwyddyn o nawdd a hysbysebu y telir amdano; efallai hefyd y caniateir i rai gorsafoedd gael hyd at 50% o gyfanswm eu hincwm perthnasol bob blwyddyn (hy heb ystyried y lwfans refeniw sefydlog). (Gweler 'Gwahodd ceisiadau am drwyddedau radio cymunedol' ar gyfer eich rhanbarth am ragor o wybodaeth).Cyllid arian sydd wedi'i sicrhau:

Enw'r Cyllidwr/Cyllidwyr Telerau ac amodau'r cyllid (os oes rhai) Cyfanswm cyllid blwyddyn 1 (£)

Cyllid arian heb ei gadarnhau (heb ei sicrhau eto): ee grant / hysbysebu ar yr awyr / nawdd

Cyfanswm y cyllid sydd ar gael i ariannu eich blwyddyn gyntaf o weithredu:

Ticiwch y bocs hwn os ydych chi am i Ofcom hepgor y wybodaeth hon o gopi cyhoeddus eich cais.

18. Gwybodaeth ariannol – cymorth ymarferolRhowch gyfansymiau ar gyfer y cymorth ymarferol (in-kind) rydych chi'n disgwyl ei gael ar gyfer y

cyfnod cyn lansio ac ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Gallwch chi ystyried rhywfaint o fewnbwn gwirfoddol yn gymorth ymarferol – darllenwch ein canllawiau ar hyn http://stakeholders.ofcom.org.uk/binaries/broadcast/radio-ops/volunteerinput.pdf Cyn lansio: Cymorth ymarferol wedi'i gadarnhau (wedi'i sicrhau):

Manylion darparwr y cymorth ymarferol

Telerau ac amodau'r cymorth ymarferol hwn (os oes rhai)

Amcangyfrif o werth cyfatebol y cymorth (£)

Cymorth ymarferol heb ei gadarnhau (heb ei sicrhau eto) ee mewnbwn gwirfoddol:

Cyfanswm y cymorth ymarferol sydd ar gael yn y cyfnod cyn lansio:

Blwyddyn un: Cymorth ymarferol wedi'i gadarnhau (wedi'i sicrhau):Manylion darparwr y

cymorth ymarferolTelerau ac amodau'r

cymorth ymarferol hwn (os oes rhai)Amcangyfrif o werth

cyfatebol y cymorth (£)

14

Page 18: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

Cymorth ymarferol heb ei gadarnhau (heb ei sicrhau eto) ee mewnbwn gwirfoddol:

Cyfanswm y cymorth ymarferol sydd ar gael yn y flwyddyn gyntaf o weithredu:

Ticiwch y bocs hwn os ydych chi am i Ofcom hepgor y wybodaeth hon o gopi cyhoeddus eich cais.

19. Gwybodaeth ariannol Blwyddyn 1 – costauRhowch grynodeb o gostau blwyddyn un – eich gwariant gweithredu disgwyliedig ar gyfer y 12 mis

cyntaf ar ôl i'r gwasanaeth ddechrau darlledu. (Gallwch ychwanegu rhesi os oes angen).

Sylwer mai canllawiau'n unig yw'r categorïau a restrir isod, ac efallai na fyddant yn berthnasol i bob cais. Gallwch ychwanegu rhagor o eitemau os oes angen.

Costau Rhowch unrhyw wybodaeth/esboniadau ychwanegol a allai fod o gymorth i'ch cais yn eich barn chi

Cyfanswm blwyddyn 1 (£)

H.P./prydlesu/cyllidoStaffAdeiladauSefydlu/gorbenionCyffredinol a gweinydduCyfreithiol a phroffesiynol Treuliau gwirfoddolwyrPeirianneg - Costau gweithredu trosglwyddydd - Arall (rhowch fanylion)Rhaglennu - Ffioedd hawlfraint - Gwasanaeth newyddion - Arall (rhowch fanylion)Costau gwerthu/comisiwnMarchnata a hyrwyddoYmchwil cynulleidfaFfioedd trwyddedau darlleduEraill (RHAID rhoi manylion y rhain)

Cyfanswm y costau: Ticiwch y bocs hwn os ydych chi am i Ofcom hepgor y wybodaeth hon o gopi cyhoeddus eich cais.

20. Gwybodaeth ariannol Blwyddyn 1 – gweithgareddau masnachol ar yr awyrYn ystod eich blwyddyn gyntaf o ddarlledu, a

fyddai eich gorsaf arfaethedig yn cynnwys unrhyw hysbysebion ar yr awyr? (Os byddai, nodwch faint o incwm rydych chi'n disgwyl ei gael o'r ffynhonnell hon a'i gyfran ddisgwyliedig o gyfanswm yr incwm?

Mae'r ddeddfwriaeth ar gyfer Radio Cymunedol yn cyfyngu ar faint o incwm y gellir ei gael bob blwyddyn yn sgil gwerthu nawdd a hysbysebu ar yr awyr.Os 'Na fyddai', a allai eich gwasanaeth

arfaethedig fynd ati i gynnwys hysbysebu ar yr awyr yn nes ymlaen? (Os byddai, nodwch faint o incwm rydych chi'n amcangyfrif ei gael o'r ffynhonnell hon ac amcangyfrif o'i gyfran o gyfanswm yr incwm?

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf o ddarlledu, a fyddai eich gorsaf arfaethedig yn cynnwys cyfeiriadau masnachol neu nawdd yn gyfnewid am dâl? (Os byddai,

15

Page 19: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

nodwch faint o incwm rydych chi'n disgwyl ei gael o'r ffynhonnell hon a'i gyfran ddisgwyliedig o gyfanswm yr incwm?

Os 'Na fyddai', a allai eich gwasanaeth arfaethedig fynd ati i gynnwys cyfeiriadau masnachol neu nawdd yn gyfnewid am dâl yn nes ymlaen? (Os byddai, nodwch faint o incwm rydych chi'n amcangyfrif ei gael o'r ffynhonnell hon ac amcangyfrif o'i gyfran o gyfanswm yr incwm?

Ticiwch y bocs hwn os ydych chi am i Ofcom hepgor y wybodaeth hon o gopi cyhoeddus eich cais.

21. Gwybodaeth ariannol cyn lansio - wrth gefnOs bydd unrhyw ddiffyg rhwng yr incwm a'r costau a ragwelir ar gyfer y cyfnod cyn lansio, esboniwch

isod sut rydych chi'n disgwyl talu am unrhyw gostau heb eu talu. Atebwch mewn llai na 150 gair a/neu gyflwyno tabl crynodeb:

Ticiwch y bocs hwn os ydych chi am i Ofcom hepgor y wybodaeth hon o gopi cyhoeddus eich cais.

22. Gwybodaeth ariannol Blwyddyn 1 - wrth gefnOs bydd unrhyw ddiffyg rhwng incwm Blwyddyn 1 a chostau Blwyddyn 1, esboniwch isod sut rydych

chi'n disgwyl talu am unrhyw gostau heb eu talu (gweler adrannau 23 a 24 isod hefyd). Fel arall, os oes unrhyw arian dros ben ar ddiwedd Blwyddyn 1, esboniwch beth rydych chi'n disgwyl ei

wneud ag adnoddau ychwanegol o'r fath.Atebwch mewn llai na 150 gair a/neu gyflwyno tabl crynodeb:

Ticiwch y bocs hwn os ydych chi am i Ofcom hepgor y wybodaeth hon o gopi cyhoeddus eich cais.

23. Gwybodaeth ariannol – benthyciadau a benthyca arallOs yw unrhyw ran o'ch cyllid arfaethedig (un ai ar gyfer gosod neu weithredu) ar ffurf benthyciadau, ee

gan gyfarwyddwyr, unigolion neu sefydliadau, rhowch fanylion pwy sy'n darparu'r benthyciad a thelerau benthyca o'r fath, telerau ad-dalu disgwyliedig, y gyfradd llog a godir a chostau cysylltiedig eraill.Atebwch mewn llai na 150 gair a/neu gyflwyno tabl crynodeb:

Ticiwch y bocs hwn os ydych chi am i Ofcom hepgor y wybodaeth hon o gopi cyhoeddus eich cais.

24. Gwybodaeth ariannol – ffrydiau cyllid eraillOs bydd diffyg rhwng incwm a chostau, pa drefniadau ydych chi wedi ymchwilio iddynt, ac sydd yn eu

lle, i ddarparu rhagor o gymorth ariannol a/neu ymarferol ar gyfer eich gwasanaeth arfaethedig?Os oes gennych chi unrhyw gynigion ar gyfer ehangu a/neu newid model cyllido eich gwasanaeth

arfaethedig ar ôl y flwyddyn gyntaf o weithredu, rhowch fanylion hynny isod:Atebwch mewn llai na 150 gair a/neu gyflwyno tabl crynodeb:

Ticiwch y bocs hwn os ydych chi am i Ofcom hepgor y wybodaeth hon o gopi cyhoeddus eich cais.

16

Page 20: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

Peirianneg darlledu:

Nodiadau peiriannegMae angen gwybodaeth ragarweiniol am beirianneg amledd radio arnom, ac fe gynghorir ymgeiswyr nad yw'r adran hon wedi'i bwriadu i fod yn gynhwysfawr. Rydym yn gofyn am y paramedrau peirianneg sylfaenol sy'n angenrheidiol ar gyfer pennu graddau'r amledd sydd ar gael yn ardal berthnasol yr ymgeisydd (ar ôl ystyried gofynion darlledwyr cyfagos); ac ar gyfer pennu a oes modd gwasanaethu'r ardal arfaethedig y gwasanaeth yn ddigonol o'r safle hwn. O ganlyniad, dylai ymgeiswyr gymryd sylw o bwysigrwydd pennu safle trosglwyddo sy'n addas ar gyfer yr ardal y maent am ei wasanaethu. Er nad yw Ofcom am weld ymgeiswyr yn mynd i draul ddiangen (nid ydym yn gwarantu y bydd amledd addas ar gael na/neu y byddwn yn gallu ei ddyrannu ar gyfer darlledu o'r safle trosglwyddo dan sylw), rydym yn gofyn am fanylion manwl o'r safle trosglwyddo rydych chi wedi'i ddewis. Mae’r cwestiynau canlynol yn ymwneud â hyn.Dylai ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o drafodaethau neu gytundeb â pherchennog y safle (ee a oes cytundeb amodol mewn lle). Bydd unrhyw ddyfarniad trwydded yn seiliedig ar yr ardal ddarlledu o'r safle a nodir yn y cais. Os cynigir trwydded, efallai na fydd Ofcom yn gallu cytuno ar newid i'r safle a gynigir yn y cais hwn (a bydd rhaid cyfiawnhau unrhyw gais am newid).Dylai ymgeiswyr ddarllen y rhan berthnasol o God Peirianneg Safle Ofcom, sydd ar gael drwy fynd i: http://stakeholders.ofcom.org.uk/broadcasting/guidance/tech-guidance/eng_code/

25. Gwybodaeth am beiriannegAteb

Band: Mae'r cais hwn ar gyfer trwydded FM Ydy / Nac ydy

Ydych chi'n deall y gofynion ar gyfer FM (VHF) ac a ydych chi wedi cynnwys y rhain isod ac, er enghraifft, yn eich costau cychwyn a chostau eraill y manylwyd arnynt yn gynharach?

Ydw / Nac ydw

Cyfeiriad y safle trosglwyddo:

Y cyfeiriad post a'r cod post:

Cod cyfeirnod yw'r Cyfeirnod Grid Cenedlaethol sy'n cynnwys dwy lythyren a dau grŵp o dri rhif (ee SW 123 456). Mae'r cod ar gael gan Arolwg Ordnans.

Beth yw uchder y safle, mewn metrau, Uwchlaw'r Seilnod Ordnans?

Cyfeirnod Grid Cenedlaethol:

Mewn metrau, beth yw cyfanswm uchder y mast / adeilad Uwchlaw Lefel y Ddaear?

Ynghylch mesuriadau'r safle:

Mewn metrau, beth yw uchder antena'r trosglwyddydd Uwchlaw Lefel y Ddaear?

Mae angen i chi ddarparu ffotograffau o'r adeilad / mast trosglwyddo a lleoliad yr erial.

Rhowch dic os ydynt yn amgaeedig

Pwy sy'n berchen ar y safle a beth yw eu manylion cyswllt llawn?

(Rhowch enw, cyfeiriad a rhif(au) ffôn)

A yw'r safle hwn eisoes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darlledu, ac os ydyw, gan bwy?

Ynghylch y safle trosglwyddo:

Dilëwch fel sy'n briodol yr atebion sy'n disgrifio eich sefyllfa o ran y safle arfaethedig (efallai na fyddwch chi'n gallu ateb y pedwar cwestiwn):

Wedi pennu'r safle? Do / Naddo

17

Page 21: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

Argaeledd y safle trosglwyddo:

Cytundeb amodol â pherchennog y safle mewn lle? Oes / Nac oes

Neu oes un yn cael ei drafod? Oes / Nac oes

Grŵp yr ymgeisydd sy'n berchen ar y safle? Ie / Nage

Arall – rhowch fanylion

Grŵp yr ymgeisydd sy'n berchen ar y safle? Ie / Nage

(Sylwch: ni allwn ystyried cais os nad oes safle wedi'i bennu.)

Sut mae cysylltu â chi:

26. Manylion cysylltu ar gyfer y cyhoedd Nodiadau Cyfarwyddyd

Rhowch enw'r person a fydd yn delio ag ymholiadau gan y wasg a'r cyhoedd, a'i fanylion cyswllt.

Bydd Ofcom yn cyhoeddi ceisiadau am drwydded radio cymunedol ac, o bryd i'w gilydd, datganiadau a allai gynnwys manylion cysylltu ar gyfer y cyhoedd ar ei wefan. Mae'n rhaid cael pwynt cyswllt i ddelio ag ymholiadau'r wasg ac ymholiadau eraill gan bartïon sydd â diddordeb.

Enw:

Rhif ffôn:

Rhif ffôn symudol:Cyfeiriad e-bost:

Gwefan:

Cyfeiriad post:

GWNEWCH YN SIŴR EICH BOD YN RHOI GWYBOD I OFCOM AM UNRHYW NEWIDIADAU I'CH MANYLION CYSWLLT

27. Manylion cysylltu ar gyfer Ofcom

Nodiadau Cyfarwyddyd

Rhowch enw'r person a fydd yn gweithredu fel y prif gyswllt ag Ofcom, a'i fanylion cyswllt:

Bydd angen i Ofcom gysylltu â'ch grŵp mewn cysylltiad â'r cais hwn.

Enw:

Rhif ffôn:

Rhif ffôn symudol:Cyfeiriad e-bost:

Gwefan:

Cyfeiriad post:

GWNEWCH YN SIŴR EICH BOD YN RHOI GWYBOD I OFCOM AM UNRHYW NEWIDIADAU I'CH MANYLION CYSWLLT

Datganiad i gloi:

28. DatganiadBUDDIANNAU YR YMGEISYDD, Y CYFARWYDDWYR A'R PERCHNOGION

1. Yng nghyswllt yr ymgeisydd ac unrhyw gorff a/neu unigolion y rhoddir eu manylion yn adrannau 11, 12

18

Page 22: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

ac 13 y cais hwn, nodwch a yw'r ymgeisydd, neu unrhyw gorff neu unigolyn yn cymryd rhan yn unrhyw o'r gweithgareddau a nodir yn y tabl isod (ac os ydynt, enwch y corff neu'r unigolyn hwnnw), ac i ba raddau maent yn cymryd rhan neu y mae ganddynt fudd yn y gweithgareddau. At y dibenion hyn, mae'r ymgeisydd yn cynnwys cysylltiadau'r ymgeisydd (hy cyfarwyddwyr a'u cysylltiadau a chwmnïau grŵp eraill. (Sylwer: os nad oes un o'r categorïau canlynol yn yr adran hon yn berthnasol, rhaid nodi hyn yn glir drwy ysgrifennu "dim" mewn unrhyw focs perthnasol.)

Gweithgaredd/cyfranogiad Gan yr ymgeisydd a/neu gyfranddaliwr neu aelod (adran 11 y ffurflen gais hon)

Gan gyfarwyddwr(adran 12 y ffurflen gais hon)

a) Awdurdodau lleol

b) Cyrff y mae eu hamcanion yn wleidyddol yn bennaf neu gan fwyaf, neu gyrff sy'n gysylltiedig â chorff o'r fath

c) Cyrff y mae eu hamcanion yn grefyddol yn bennaf neu gan fwyaf

d) Unigolyn sy'n swyddog mewn corff a ddaw o dan (c) uchod

e) Corff corfforaethol cyswllt (fel y diffinnir ym mharagraffau 1(1) ac 1(1a) Rhan I o Atodlen 2 Deddf Darlledu 1990) neu gorff a ddaw o dan (b) neu (c) uchod)

f) Asiantaeth hysbysebu neu gyswllt asiantaeth hysbysebu

g) Buddiannau darlledu eraill (gan gynnwys radio, teledu, darlledu lloeren a chebl a gweithgareddau cysylltiedig).

Buddiannau eraill2. Rhowch fanylion unrhyw fuddiant neu weithgaredd arall yr ymgeisydd sydd, neu a allai fod, yn

anghydnaws â'r gofynion a orfodir gan neu o dan Atodlen 2 Deddf Darlledu 1990 (fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Radio Cymunedol 2004) ac Erthyglau 6 a 7 Gorchymyn Radio Cymunedol 2004. Rhowch fanylion unrhyw gyfranogwr arall yn y cais y mae ei fuddiant yn, neu a allai fod yn anghydnaws â'r gofynion hyn. (Efallai y bydd angen i chi geisio cyngor ynglŷn â'r materion hyn)

Ateb:

Materion eraill3. Yn unol â'i ddyletswyddau o dan Adran 86(4) Deddf Darlledu 1990 (fel y'i diwygiwyd), mae Ofcom yn

mynnu bod yr ymgeisydd yn rhoi gwybod i Ofcom am unrhyw faterion a allai ddylanwadu ar farn Ofcom ynghylch a ellir peidio ag ystyried unrhyw un o'r canlynol yn 'berson addas a phriodol' i gymryd rhan mewn trwydded radio:

(i) yr ymgeisydd;(ii) unrhyw o gyfarwyddwyr yr ymgeisydd;(iii) unrhyw unigolyn, neu unrhyw gyfarwyddwr cwmni, a fydd â buddiant o 5 y cant neu fwy yn yr

ymgeisydd.Byddai materion o'r fath yn cynnwys, er enghraifft, y canlynol (pa un ai a ydynt wedi digwydd yn y DU neu mewn unrhyw wlad arall): unrhyw euogfarn droseddol heb ei disbyddu, unrhyw ansolfedd a/neu orchmynion methdalu nas rhyddhawyd, unrhyw achos o anghymwyso rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni cyfyngedig, ac unrhyw ganfyddiadau anffafriol y daw Ofcom (neu ei reoleiddwyr darlledu rhagflaenol), unrhyw awdurdod rheoleiddio a/neu lys neu dribiwnlys o hyd iddynt yng nghyswllt unrhyw faterion rheoleiddiol.

Ateb:

Ydych chi'n cadarnhau, hyd eithaf eich gwybodaeth a'ch cred, y canlynol:4. Nid yw'r ymgeisydd yn berson anghymwys mewn cysylltiad â'r drwydded drwy rinwedd amodau adran

143 (5) Deddf Darlledu 1996 (o ran amcanion gwleidyddol); 5. Nid yw'r ymgeisydd yn berson anghymwys fel arall mewn cysylltiad â'r drwydded drwy rinwedd Rhan II o

Atodlen 2 Deddf Darlledu 1990 neu unrhyw reol arall sy'n ei wahardd rhag dal y drwydded;

19

Page 23: Statement - Ofcom  · Web viewGwall! Mae enw un o briodweddau'r ddogfen yn ddieithr. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol. Ffurflen gais radio cymunedol

Ffurflen gais radio cymunedol

6. Nid yw unrhyw gyfarwyddwr, aelod neu berson arall sy'n ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â'r gwaith o reoli grŵp yr ymgeisydd yn destun gorchymyn anghymwyso fel y diffinnir yn adran 145 (1) Deddf Darlledu 1996;

7. Nid oes yr un person (corff corfforaethol neu unigolyn) sy'n rhan o'r cais wedi cael ei ddyfarnu'n euog o drosedd darlledu heb awdurdod yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac y bydd yr ymgeisydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau na fydd unrhyw berson (corff corfforaethol neu unigolyn) sydd wedi cael ei ddyfarnu'n euog o drosedd o'r fath yn ymwneud â darparu'r gwasanaeth, creu rhaglenni sy'n rhan ohono, na gweithredu'r orsaf radio os caiff yr ymgeisydd drwydded; ac

8. Mae unrhyw faterion a allai ddylanwadu ar farn Ofcom o ran a yw cyfarwyddwyr neu aelodau o grŵp yr ymgeisydd yn unigolion addas a phriodol i gymryd rhan mewn trwydded radio wedi cael eu datgan wrth Ofcom.

Dylai ymgeiswyr nodi bod Ofcom yn cadw'r hawl i ddirymu trwydded os, ar unrhyw adeg, canfyddir bod unrhyw ddatganiad perthnasol yn anghywir, a bod yr ymgeisydd neu unrhyw aelod neu swyddog wedi'i wneud gan wybod ei fod yn anghywir, ac o dan amgylchiadau adran 144 Deddf Darlledu 1996, y gallai darparu gwybodaeth anghywir neu beidio â datgelu gwybodaeth berthnasol gyda'r bwriad o gamarwain Ofcom arwain at euogfarn droseddol ac anghymwyso rhag dal trwydded. Ticiwch y bocs hwn i gadarnhau bod yr ymgeisydd yn cytuno â'r datganiadau uchod.

Ticiwch y bocsys isod i nodi pa ddogfennau ychwanegol sydd wedi’u cynnwys fel rhan o'r cais hwn. Nid ydym yn fodlon derbyn gwybodaeth ychwanegol gyda'r cais hwn, ar wahân i'r hyn a nodir isod:

Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu

Tystysgrif Corffori

Taliad Cais (DU £ 600.00) ni ellir ei dalu'n ôl

Ffotograffau o'r adeilad / mast trosglwyddo a lleoliad yr erial.

Drwy hyn rwyf yn gwneud cais i Ofcom am gael trwydded radio cymunedol ac yn datgan bod y wybodaeth a gyflwynir yn y cais hwn ac unrhyw ddogfennau ychwanegol yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth a’m cred.

(Enw'r unigolyn)

(Teitl neu swydd yng ngrŵp yr ymgeisydd)

(Dyddiad)

Dychwelwch y ffurflen hon ac unrhyw wybodaeth electronig ychwanegol i [email protected] Os oes unrhyw ddeunydd papur yn gysylltiedig â'r cais hwn, dylech ei anfon at:

Community Radio Licensing Team, 5th FloorOfcom Riverside House2A Southwark Bridge RoadLondon SE1 9HA

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw copi o'r ffurflen hon ar gyfer eich cofnodion.

20