Map o gwrs cyfeiriannu Coetir Cymunedol Cilfái

2

description

Map a chyfarwyddiadau manwl ar gyfer cwrs cyfeiriannu Coetir Cymunedol Cilfái

Transcript of Map o gwrs cyfeiriannu Coetir Cymunedol Cilfái

Page 1: Map o gwrs cyfeiriannu Coetir Cymunedol Cilfái
Page 2: Map o gwrs cyfeiriannu Coetir Cymunedol Cilfái

Cyfeiriannu yng Nghoedwig Gymunedol Cilfái

NOD. Yr amcan wrth gyfeiriannu yw mynd o gwmpas cwrs sy'n cynnwys cyfres o bwyntiau rheoli, drwy ddefnyddio map i benderfynu ar lwybr rhyngddynt, ac yna dilyn y map ar hyd y llwybr a

dod o hyd i'r pwyntiau rheoli.

Y MAP. Map cyfeiriannu safonol yw hwn; mae'r symbolau a'r lliwiau'n cael eu hesbonio yn yr allwedd. Y raddfa yw 1:5,000, sy'n golygu bod 1cm ar y map yn cynrychioli 50m ar y ddaear, fel y

dangosir gan linell y raddfa.

PELLTEROEDD Gellir cyfrifo'r pellter o un pwynt i'r llall drwy ddefnyddio llinell y raddfa ar y map. Wrth fesur ar y ddaear, mae metr yn gymesur yn fras â brasgam dyn.

CYFEIRIADAU:. I ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn mynd neu'n ei wynebu, cadwch y map yn yr un cyfeiriad â'r ddaear, h.y. wedi'i gyfeiriadu. Wrth fynd yn eich blaen, bydd y nodweddion ar

un ochr o'r map ar yr un ochr ar y ddaear.

Y CWMPAWD. Os oes gennych gwmpawd, gallwch ei ddefnyddio i gyfeiriadu'r map. Mae'r nodwydd yn pwyntio i'r gogledd magnetig. Defnyddiwch hwn i gadw saethau'r gogledd ar y map yn

pwyntio i'r gogledd hefyd. Bydd cwmpawd hefyd yn ddefnyddiol i ddod o hyd i gyfeiriadau cywir ar draws ardaloedd heb lwybrau, ac i benderfynu i ba gyfeiriad i fynd ar gyffyrdd llwybrau, etc.

Sut i ddefnyddio cwmpawd onglydd ar gyfer cyfeiriadau:

1. Gosodwch ymyl y cwmpawd onglydd ar hyd y cyfeiriad rydych chi'n bwriadu ei ddilyn ar y map. 2. Trowch y capsiwl fel bod y llinellau cyfochrog ynddo yn unol â llinellau'r gogledd ar y map. 3. Codwch y cwmpawd o'r map a'i ddal o'ch blaen, gan bwyntio ymlaen. TROWCH EICH HUN gyda'r cwmpawd nes bod y nodwydd yn unol â'r llinellau yn y capsiwl. 4. Ewch yn eich blaen i'r cyfeiriad y mae blaen y cwmpawd yn cyfeirio ato.

RHEOLYDDION A MARCWYR. Dangosir lleoliadau'r rheolyddion ar y map gan gylchoedd wedi'u rhifo'n goch, a cheir disgrifiad o bob un isod. Nodir y rheolyddion ar y ddaear gan bostyn ac

ar ei ben mae plac â symbol cyfeiriannu coch a gwyn. Mae rhif yno, sy'n cyd-fynd â'r un rheolydd ar y map, a llythyren y dylech eu cofnodi yn y sgwâr perthnasol ar y cerdyn rheoli wrth ochr eich map i gadarnhau eich ymweliad.

DISGRIFIADAU O'R RHEOLYDDION:

Dechrau 1. 2. 3. 4.

Cyffordd heol/llwybr Troed wal bridd Cyffordd llwybr/ffos Tro yn y llwybr Cyffordd llwybr

5. 6. 7. 8. 9.

Wal, pen gogleddol Clogfaen, ochr ogledd-orllewinol Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr

10. 11. 12. 13.

Tarddle nant Cyffordd llwybr, ochr dde-orllewinol Cyffordd gyli Adfail, cornel ogleddol

15. 16. 17. 18. 19.

Cyffordd llwybr Gogledd y Knoll, ochr ogledd-orllewinol Adeilad, cornel dde-orllewinol Cyffordd gyli/wal bridd Llannerch, ymyl dde-orllewinol

CYRSIAU A AWGRYMIR. Dechrau a gorffen o gyffordd y llwybr â Heol Jersey ar ochr ddwyreiniol y map, a ddynodir ar y map gan driongl coch ar ben cylch dwbl:

Gwyn 1 km byr a hawdd ar gyfer dechreuwyr ifanc: Dechrau - 11 - 3 - 7 - 4 - 9 - 8 - Gorffen

Melyn 2.1km hawdd i ddechreuwyr hŷn a'r rhai sy'n datblygu o'r Gwyn: Dechrau - 8 - 7 - 2 - 6 - 12 - 15 - 16 - 13 - Gorffen

Oren 2.5km yn fwy anodd ac yn dilyn ymlaen o'r Melyn: Dechrau - 13 - 16 - 18 - 19 - 17 - 15 - 10 - 5 - 1 - 6 - 7 - Gorffen

NEU rhowch gynnig ar ymweld â chynifer o reolyddion â phosib mewn amser penodol, er enghraifft 30 neu 45 munud (digwyddiad ‘Sgorio’).

CYFLEOEDD CYFEIRIANNU ERAILL. Os hoffech wneud mwy o gyfeiriannu, cysylltwch â'r clwb lleol, CLWB CYFEIRIANNU BAE ABERTAWE, drwy ymweld â gwefan y clwb yn www.sboc.org.uk

CYDNABYDDIAETH. Sefydlwyd y cwrs cyfeiriannu parhaol hwn gyda help grantiau a ddarparwyd drwy Ddinas a Sir Abertawe gan 'Dringo'n Uwch' (Cyngor Chwaraeon Cymru), Cydcoed (Comisiwn Coedwigaeth), Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd. Lluniwyd y map a chynlluniwyd y cyrsiau gan Glwb Cyfeiriannu Bae Abertawe.