Sefydliadau Lletygarwch - Ffeil o ffeithiau - Tudalen...

4
Sefydliadau Lletygarwch - Ffeil o ffeithiau - Tudalen 1 Geiriau Allweddol: Sefydliad cenedlaethol - Sefydliadau sydd i’w cael drwy’r DU. Yn aml, gelwir y rhain yn sefydliadau ‘cadwyn’. Sefydliad lleol - Sefydliadau sy’n unigryw i’r ardal leol. Sefydliad masnachol - Mae sefydliadau masnachol yn darparu llety, bwyd, diod a gwasanaethau eraill. Dyna brif rôl y sefydliadau. Mae sefydliadau masnachol yn gwneud elw gan eu bod yn codi tâl ar eu cwsmeriaid am eu gwasanaethau. Sefydliad anfasnachol / gwasanaethau arlwyo - Mae sefydliadau anfasnachol/ gwasanaethau arlwyo, yn darparu bwyd a diod o fewn y sefydliadau. Fodd bynnag, nid dyna ydy prif ffocws y sefydliad. Mae gwasanaethau arlwyo’n rhedeg ar gyllideb gyfyngedig. Dydyn nhw ddim yn gwneud elw. Dyma rai enghreifftiau o’r math hwn o sefydliad – ysgolion, carchardai, ysbytai, a chanolfannau’r lluoedd arfog. Sefydliadau cenedlaethol a masnachol Sefydliadau anfasnachol/gwasanaethau arlwyo

Transcript of Sefydliadau Lletygarwch - Ffeil o ffeithiau - Tudalen...

Sefydliadau Lletygarwch - Ffeil o ffeithiau - Tudalen 1

Geiriau Allweddol:

Sefydliad cenedlaethol - Sefydliadau sydd i’w cael drwy’r DU. Yn aml, gelwir y rhain yn sefydliadau ‘cadwyn’.

Sefydliad lleol - Sefydliadau sy’n unigryw i’r ardal leol.

Sefydliad masnachol - Mae sefydliadau masnachol yn darparu llety, bwyd, diod a gwasanaethau eraill. Dyna brif rôl y sefydliadau. Mae sefydliadau masnachol yn gwneud elw gan eu bod yn codi tâl ar eu cwsmeriaid am eu gwasanaethau.

Sefydliad anfasnachol / gwasanaethau arlwyo - Mae sefydliadau anfasnachol/ gwasanaethau arlwyo, yn darparu bwyd a diod o fewn y sefydliadau. Fodd bynnag, nid dyna ydy prif ffocws y sefydliad. Mae gwasanaethau arlwyo’n rhedeg ar gyllideb gyfyngedig. Dydyn nhw ddim yn gwneud elw. Dyma rai enghreifftiau o’r math hwn o sefydliad – ysgolion, carchardai, ysbytai, a chanolfannau’r lluoedd arfog.

Sefydliadau cenedlaethol a masnachol

Sefydliadau anfasnachol/gwasanaethau arlwyo

Sefydliadau masnachol

Sefydliadau sy’n darparu

gwasanaeth bwyd a diod.

Set o fwytai ydy tai bwyta cadwyn, wedi eu lleoli mewn amrywiaeth o safleoedd gwahanol. Bydd y tu mewn fel arfer wedi ei gynllunio’n union yr un fath ym mhob tŷ bwyta. Bydd y tai bwyta i gyd yn cynnig yr un fwydlen. Bydd y staff yn gwisgo iwnifform debyg. Gelwir hyn yn ddelwedd gorfforaethol. Lleolir y tai bwyta hyn mewn ardaloedd twristaidd ac allfeydd siopa. Mae cwsmeriaid yn tueddu i fwyta yn y tai bwyta hyn gan eu bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

Gall tai bwyta dethol fod wedi eu lleoli unrhyw le yn y wlad, ond, ar y cyfan, fe ddowch chi o hyd iddyn nhw mewn un lleoliad yn unig, neu mewn ychydig o leoliadau. Fel arfer, bydd staff gweini wedi eu gwisgo’n fwy ffurfiol ac wedi cael hyfforddiant arbenigol. Bydd dodrefn o ansawdd uchel y tu mewn i’r tŷ bwyta, a bydd y bwyd yn apelio at y llygad ac yn ddrud. Efallai y bydd rhaid i’r cwsmeriaid ddilyn cod gwisgo wrth fynychu’r tŷ bwyta. Gall fod gan y tŷ bwyta sêr Michelin fydd yn dangos ei ansawdd.

Gelwir caffi hefyd yn siop goffi, a’i brif bwrpas ydy gwerthu diodydd poeth. Gall bod gan y caffis berchnogion annibynnol, neu fe allan nhw fod yn rhan o gadwyn, e.e. Starbucks neu Costa. Mae mwyafrif y caffis yn gwerthu pryd ysgafn neu byrbryd gyda’r diodydd. Yn aml, bydd byrddau tu allan i’r caffis hyn, yn ogystal â rhai tu mewn, ac maent fel arfer yn cynnig opsiwn prydau parod. Gelwir rhai caffis yn y DU yn ‘greasy spoon’. Bydd y sefydliadau hyn fel arfer yn cynnig bwydlen gyda bwydydd wedi eu ffrio a brecwast llawn drwy’r dydd.

Mae tŷ bwyta bwyd cyflym yn gweini bwyd y gellir ei ddarparu a’i goginio’n gyflym. Dangosir y fwydlen mewn lluniau uwchben y cownter, ac mae’r cwsmeriaid yn penderfynu a ydyn nhw eisiau bwyta i mewn neu fynd â’r bwyd allan mewn cynhwysydd neu fag. Gall tŷ bwyta bwyd cyflym fod yn rhan o gadwyn, e.e. McDonalds a Burger King, neu fe all fod yn fusnes lleol â pherchennog annibynnol, e.e. siop ‘pysgod a sglodion’, siop Tsieineaidd neu siop ‘cebab’.

Tai bwyta cadwyn

Tai bwyta dethol

Caffis a Siopau Coffi

Tai bwyta bwyd cyflym

Sefydliadau Lletygarwch - Ffeil o ffeithiau - Tudalen 2

Sefydliadau sy’n darparu

gwasanaeth llety.

Mae gwesty rhad yn cynnig llety sylfaenol am brisiau fforddiadwy. Gallant fod yn rhan o gadwyn, e.e. Premier Inn a Travelodge, neu fod â pherchnogion annibynnol. Mae’r math hwn o lety’n ddelfrydol ar gyfer arhosiad byr pan na fydd angen moethusrwydd. Fel arfer, mae’r stafelloedd yn sylfaenol iawn a dim ond yn cynnig y pethau hanfodol. Prin iawn ydy’r cynnyrch a’r gwasanaethau a gynigir mewn gwesty rhad. Gellir disgwyl bod tŷ bwyta a bar yno, ond does dim gwarant bod y rhain ar gael. Ceir y math hwn o westy yng nghanol dinasoedd neu’n agos at ffyrdd prysur mewn gorsafoedd gwasanaethau.

Gellir dosbarthu gwestai drwy ddefnyddio sêr o un i bump. Mae hyn yn rhoi canllawiau clir i’r cwsmer ynglŷn â beth i’w ddisgwyl wrth archebu llety. Dyfernir sêr i’r sefydliad ar sail safonau, a maint y cynnyrch a’r gwasanaethau a gynigir ganddyn nhw. Mae gwesty un seren yn sefydliad sylfaenol sy’n cynnig cynnyrch a gwasanaethau cyfyngedig. Mae gwesty pum seren yn foethus iawn, ac yn cynnig amrywiaeth o gynnyrch a gwasanaethau. Rhaid i sefydliadau ym Mhrydain wneud cais i’r AA i gael eu dosbarthu.

Sefydliad ydy Gwely a Brecwast (G a B) sy’n cynnig llety, ac mae brecwast yn y pris. Gallai’r brecwast a gynigir fod yn gyfandirol, yn frecwast llawn,’Seisnig’ neu’r ddau. Fel arfer, perchnogion annibynnol fydd piau’r math hwn o sefydliad, a byddant wedi eu lleoli mewn mannau anghysbell. Yn aml iawn, tai, maenordai, neu blastai bach wedi eu trawsnewid ydyn nhw. Mae rhai G a B yn cynnig cinio a phryd gyda’r nos am bris ychwanegol, ond nid bob tro.

Mae clwb aelodaeth yn sefydliad sy’n gofyn i gwsmeriaid ddod yn aelodau cyn y gallan nhw fwynhau’r cynnyrch a’r gwasanaethau sydd ganddo i’w gynnig. Rhaid i bob un aelod dalu ffi flynyddol gyda’r math hwn o sefydliad. Yn gyfnewid am hyn, gall yr aelodau ddisgwyl rhai breintiau arbennig. Bydd rhai clybiau dethol yn derbyn dim ond aelodau sydd wedi eu cymeradwyo gan yr aelodau sydd yno’n barod. Fel arfer, bydd aelodau’r clybiau hyn yn rhannu’r un diddordebau neu hobïau. Enghreifftiau o’r clybiau hyn ydy: Y Clwb Moduro Brenhinol, Clwb Cychod Hwylio, Clwb Golff.

Gwestai Rhad

Gwestai un i bum seren

Gwely a Brecwast

Clybiau aelodaeth

Sefydliadau sy’n gofyn am

aelodaeth.

Sefydliadau Lletygarwch - Ffeil o ffeithiau - Tudalen 3

Sefydliadau sy’n darparu

gwasanaeth bwyd a diod.

Mae bar yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar weini diodydd ysgafn ac alcoholig. Fel arfer, byddan nhw’n cynnig amrywiaeth o ddiodydd, yn cynnwys coctels. Mae rhai barrau'n gwerthu prydau ond mae nifer yn cynnig snaciau ysgafn a blasynnau. Bydd y math hwn o sefydliad yn cael ei leoli fel arfer mewn dinas neu dref brysur. Tueddant i gynnig adloniant gan DJ neu fandiau byw. Fel arfer, bydd ganddyn nhw lawr dawnsio, ac maen nhw’n denu oedran iau i’r tafarnau. Yn aml iawn bydd ganddyn nhw thema, e.e. carioci.

Gelwir tŷ tafarn yn Saesneg yn ‘pub’. Prif bwrpas tŷ tafarn ydy gwerthu diodydd alcoholig, a diodydd ysgafn, oer. Yn ogystal, bydd mwyafrif o’r tafarnau’n gwerthu bwyd traddodiadol, e.e. pastai’r bugail, a physgod a sglodion. Bydd y math hwn o dafarn wedi ei leoli mewn tref fechan neu bentref. Gallai’r dafarn fod yn perthyn i fragdy, ac yn un o gadwyn o dafarnau. Gallai’r bragdy gyflogi rheolwr i redeg y busnes - gelwir hyn yn dafarn wedi’i rheoli. Fel arall, gallai’r dafarn gael ei rhedeg gan drwyddedai - bydd y trwyddedai’n dal trwydded y sefydliad, ond bydd rhaid iddo/iddi werthu cwrw arbennig y bragdy hwnnw. Gelwir hyn yn dŷ tafarn ar denantiaeth. Yn olaf, gall perchennog annibynnol fod yn berchen ar y dafarn, a gwerthu amrywiaeth o gwrw o fragdai gwahanol. Dyma ydy tafarn rydd.

Fel arfer, dim ond gyda’r nos mae’r math hwn o sefydliad ar agor. Gall fod yn rhan o gadwyn, e.e. Oceana neu Tiger Tiger, neu â pherchennog annibynnol. Ceir clybiau nos fel arfer mewn trefi a chanol dinasoedd, a byddant ar agor nes oriau mân y bore. Fel arfer, bydd cwsmeriaid yn talu i fynd i mewn i’r sefydliad, a bydd adloniant ar ffurf cerddoriaeth iddyn nhw. Mae’r clybiau nos i gyd yn cynnig diodydd ysgafn ac alcoholig, ac weithiau’n cynnig bwyd. Bydd gan y clybiau nos lawr dawnsio.

Barrau

Tai Tafarnau

Clybiau nos

Sefydliadau Lletygarwch - Ffeil o ffeithiau - Tudalen 4