Affordable Housing in Wrexham Wrecsam Fforddiadwy yn ... · Affordable housing is intended for...

8
A Guide to Affordable Housing in Wrexham

Transcript of Affordable Housing in Wrexham Wrecsam Fforddiadwy yn ... · Affordable housing is intended for...

Page 1: Affordable Housing in Wrexham Wrecsam Fforddiadwy yn ... · Affordable housing is intended for people who are ... eich cyfeiriad e-bost a lle yr ydych yn gweithio gyda sefydliadau

A Guide to Affordable Housing

in Wrexham

Arweiniad i Dai Fforddiadwy yn

Wrecsam

Page 2: Affordable Housing in Wrexham Wrecsam Fforddiadwy yn ... · Affordable housing is intended for people who are ... eich cyfeiriad e-bost a lle yr ydych yn gweithio gyda sefydliadau

We want to help as many local people as possible to find homes which meet their needs. By working with Housing Associations and local developers we will use every way we have to provide affordable homes in Wrexham County Borough.

For more information please contact us: Housing Standards & Strategy Team

Strategic Housing Services Housing & Public Protection

Ruthin Road, Wrexham, LL13 7TU

Tel No: (01978) 315511 e-mail: [email protected]

Rydym am helpu cymaint â phosibl o bobl leol i ddod o hyd i gartrefi sydd yn ateb eu gofynion. Trwy weithio gyda Chymdeithasau Tai a datblygwyr lleol byddwn yn gwneud popeth a allwn i ddarparu cartrefi fforddiadwy ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth trwy gysylltu â ni: Tîm Strategaeth a Safonau Tai, Gwasanaethau Tai Strategol,

Ffordd Rhuthun, Wrecsam. LL13 7TU

Ffôn: (01978) 315511 e-bost: [email protected]

Page 3: Affordable Housing in Wrexham Wrecsam Fforddiadwy yn ... · Affordable housing is intended for people who are ... eich cyfeiriad e-bost a lle yr ydych yn gweithio gyda sefydliadau

What is Affordable Housing?

Affordable housing is intended for people who are unable to afford to purchase a property or rent privately. Through legal agreements these homes remain affordable for future residents. There are several different types of affordable housing which we have listed below. There may be a range of housing options available on any development.

Shared Ownership

Shared ownership allows you to buy a share of your new home (usually 50%) and to rent the other part from a Housing Association. You would need a mortgage and/or savings to finance the part you are buying as well as paying a monthly rent and service charge to the Housing Association.

You can usually buy further shares in the property, but can never own the property out right.

As a guide your costs are likely to be: For a 1 bedroom apartment worth £85,000 - 50% mortgage for £42,500 - weekly rent of £25.00 & service charge of £17.00 (average)

For a 3 bedroom house worth £145,000 - 50% mortgage for £72,500 - weekly rent of £40.00 & service charge of £10.00 (average)

Beth yw Tai Fforddiadwy?

Tai ar gyfer pobl na allant fforddio prynu tŷ na rhentu’n breifat yw tai fforddiadwy. Mae cytundebau cyfreithiol yn sicrhau bod y cartrefi hyn yn parhau’n fforddiadwy i drigolion yn y dyfodol. Mae nifer o wahanol fathau o dai fforddiadwy, rydym wedi’u rhestru isod. Efallai y bydd yna wahanol ddewisiad tai ar gael ar unrhyw ddatblygiad tai Rhan-berchenogaeth Mae rhan-berchenogaeth yn eich galluogi i brynu rhan o’ch cartref newydd (50% fel rheol) ac i rentu’r rhan arall gan Gymdeithas Dai. Byddwch angen morgais a/neu gynilion i ariannu’r rhan yr ydych yn ei phrynu yn ogystal â thalu rhent misol â thâl gwasanaeth i’r Gymdeithas Dai.

Fel rheol, gallwch brynu cyfrannau ychwanegol yn yr eiddo, ond ni allwch fyth brynu’r eiddo yn llwyr.

Mae’ch costau yn debygol o fod yn debyg i’r canlynol:

Am fflat 1 ystafell wely gwerth £85,000 - morgais 50% am £42,500 rhent wythnosol o £25.00 a £17.00 o dâl gwasanaeth (ar gyfartaledd)

Am dŷ 3 ystafell wely gwerth £145,000 - morgais 50% am £72,500 - rhent wythnosol o £40.00 a £10.00 o dâl gwasanaeth (ar gyfartaledd)

Page 4: Affordable Housing in Wrexham Wrecsam Fforddiadwy yn ... · Affordable housing is intended for people who are ... eich cyfeiriad e-bost a lle yr ydych yn gweithio gyda sefydliadau

Homebuy Homebuy is a scheme sponsored by the Welsh Assembly Government. You would need to finance 70% of the price of your new home through a mortgage and/or savings. A Housing Association then provides you with a loan for up to 30% of the price.

There are no monthly payments to make on the loan, but the 30% share does have to be repaid to the Housing Association if you sold your home in the future. Discount for Sale Housing Developers sometimes agree to sell some new homes at discounted price. You would purchase 100% of your new home without having to pay the full purchase price. Housing Associations usually carry out the checking and allocating role on behalf of the developers. The discount agreements would be written into the legal agreement and would apply if you sold your home in the future.

Social Rented These properties are available to rent from Housing Associations at affordable rent levels.

Cymorth Prynu Mae Cymorth Prynu yn gynllun a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Byddai’n rhaid i chi ariannu 70% o bris eich cartref newydd drwy forgais a/neu gynilion. Yna, bydd Cymdeithas Dai yn rhoi benthyciad i chi ar gyfer hyd at 30% o’r pris. Ni chodir unrhyw daliadau misol ar y benthyciad, ond byddai’n rhaid i chi ei ad-dalu i’r Gymdeithas Dai petaech yn gwerthu eich cartref yn y dyfodol.

Gostyngiad wrth Brynu

Mae Datblygwyr Tai weithiau yn cytuno i werthu rhai tai newydd ar ddisgownt. Byddech yn prynu 100% o’ch cartref newydd heb orfod talu’r pris llawn. Cymdeithasau Tai, fel rheol, sydd yn gwneud y gwaith o wirio a dyrannu ar ran y datblygwyr. Byddai’r cytundebau disgownt yn cael eu cynnwys yn y cytundeb cyfreithiol a byddant yn berthnasol petaech yn gwerthu eich cartref yn y dyfodol.

Rhentu Cymdeithasol

Mae’r cartrefi hyn ar gael i’w rhentu ar lefelau rhent fforddiadwy oddi wrth Gymdeithasau Tai.

Page 5: Affordable Housing in Wrexham Wrecsam Fforddiadwy yn ... · Affordable housing is intended for people who are ... eich cyfeiriad e-bost a lle yr ydych yn gweithio gyda sefydliadau

Future Affordable Housing Schemes

Brymbo Plas Brymbo - 5 apartments Housing Association: To be confirmed Developer: George Wimpey

Rhostyllen Wrexham Road - 8 houses & 6 apartments Housing Association: Pennaf Housing Group Developer: Pennaf Housing Group

Wrexham Road - 56 properties (types unknown) Housing Association: Cymdeithas Tai Clwyd Developer: To be confirmed

Ruabon St Mabon’s Field - 8 houses Housing Association: Pennaf Housing Group Developer: Bellway

Wrexham Town Jaques Scrap Yard, Mold Road - 34 apartments Housing Association: To be confirmed Developer: Castlemead Homes

Rivulet Road - 32 apartments Housing Association: Cymdiethas Tai Clwyd Developer: Gower Homes

Cynlluniau Tai Fforddiadwy yn y Dyfodol

Brymbo Plas Brymbo - 5 fflat Cymdeithas Dai: I’w gadarnhau Datblygwr: George Wimpey

Rhostyllen

Ffordd Wrecsam - 8 tŷ a 6 fflat Cymdeithas Dai: Grŵp Tai Pennaf Datblygwr: Grŵp Tai Pennaf

Ffordd Wrecsam - 56 o gartrefi (ni wyddys pa fath) Cymdeithas Dai: Cymdeithas Tai Clwyd Datblygwr: I’w gadarnhau

Rhiwabon

Cae Sant Mabon - 8 tŷ Cymdeithas Dai: Grŵp Tai Pennaf Datblygwr: Bellway

Tref Wrecsam Iard Sgrap Jaques, Ffordd yr Wyddgrug - 34 fflat

Cymdeithas Dai: I’w gadarnhau Datblygwr: Castlemead Homes

Rivulet Road - 32 fflat Cymdeithas Dai: Cymdeithas Tai Clwyd

Datblygwr: Gower Homes

Page 6: Affordable Housing in Wrexham Wrecsam Fforddiadwy yn ... · Affordable housing is intended for people who are ... eich cyfeiriad e-bost a lle yr ydych yn gweithio gyda sefydliadau

Interested in affordable housing?

We hold a list of people interested in affordable housing. We use this to inform people of new affordable housing developments and to pass details on to the Housing Associations involved.

Registering your details

If you wish to apply to go on our list, please complete the attached form and return it to us at the address shown.

By signing this you give us your consent to share your details with the Housing Association and Developers.

Please inform us if there are any changes in your circumstances and you no longer require re-housing. Eligibility

Once you have expressed an interest in a particular scheme the Housing Association will look at your eligibility. Each scheme may have different eligibility criteria but generally this will consider:

- your connection to the area in which the properties are being built, residence employment etc. - your financial circumstances and housing need

Gyda diddordeb mewn tai fforddiadwy?

Rydym yn cadw rhestr o bobl sydd â diddordeb mewn tai fforddiadwy. Rydym yn defnyddio’r rhestr i roi gwybod i bobl am dai fforddiadwy sydd yn cael eu hadeiladu ac i roi eu manylion i Gymdeithasau Tai priodol.

Cofrestru eich manylion

Os ydych yn dymuno i ni eich cynnwys ar ein rhestr, llenwch y ffurflen atodedig a dychwelwch hi atom i’r cyfeiriad isod.

Wrth lofnodi hon rydych yn rhoi eich caniatâd i ni roi eich manylion i’r Gymdeithas Dai a’r Datblygwyr.

Cymhwyster

Ar ôl i chi fynegi diddordeb mewn cynllun penodol, bydd y Gymdeithas Dai yn ystyried a ydych yn gymwys. Mae’n bosibl y bydd meini prawf gwahanol ar gyfer pob cynllun, ond yn gyffredinol bydd yn ystyried:

- eich cysylltiad â’r ardal lle mae’r cartrefi yn cael eu hadeiladu, ble rydych yn byw, eich gwaith ayb. - eich amgylchiadau ariannol a’ch angen am dŷ.

Page 7: Affordable Housing in Wrexham Wrecsam Fforddiadwy yn ... · Affordable housing is intended for people who are ... eich cyfeiriad e-bost a lle yr ydych yn gweithio gyda sefydliadau

Please return to: Housing Standards & Strategy Team, Wrexham County Borough Council, Ruthin Rd, Wrexham LL13 7TU

You

Name: Address:

Tel No:

E-mail Address: Place of Employment: Date of Birth:

Your Partner (If applicable)

Name: Address: Date of Birth: Place of Employment:

Affordable Housing Registration Form

Ffurflen Cofrestru am Dai Fforddiadwy

Dychwelwch i: Tîm Strategaeth A Safonau Tai Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Ffordd Rhuthun, Wrecsam. LL13 7TU

Chi

Enw:

Cyfeiriad:

Ffôn:

Cyfeiriad E-bost: Lleoliad eich gwaith: Dyddiad geni: Eich partner (Os yn berthnasol) Enw: Cyfeiriad:

Dyddiad Geni: Lleoliad ei gwaith:

Page 8: Affordable Housing in Wrexham Wrecsam Fforddiadwy yn ... · Affordable housing is intended for people who are ... eich cyfeiriad e-bost a lle yr ydych yn gweithio gyda sefydliadau

How many persons will there be in your new household?

Adults Children

Where in the County Borough would you like to live?

What types of property would you consider?

How many bedrooms do you need? DATA PROTECTION NOTICE

The information that you give us can be used for statistical purposes, and for considering you for suitable affordable housing schemes.

WCBC will share some information such as your name and address, e-mail address and location of employment. This information will be strictly in accordance with the Data Protection Act 1998.

I hereby authorise you to disclose information such as name and address and employment to whoever needs this, in connection with my application, e.g. housing associations, developers and estate agents.

You have the right to ask for a copy of your information (for which we might charge a small fee) and to correct any inaccuracies in your information.

Signature:

Date:

Your Preferences

Faint o bobl fydd yn fyw yn eich cartref newydd? Oedolion Plant

Ymhle yn y Fwrdeistref Sirol fuasech chi’n hoffi byw?

Pa fathau o dai fuasech chi yn eu hystyried?

Sawl ystafell wely rydych eu hangen?

Eich Dewisiadau

HYSBYSIAD DIOGELU DATA Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni yn cael ei defnyddio i ddibenion ystadegol ac er mwyn i ni eich ystyried ar gyfer cynlluniau tai fforddiadwy addas.

Bydd CBSW yn rhannu peth gwybodaeth, fel eich enw a’ch cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost a lle yr ydych yn gweithio gyda sefydliadau perthnasol. Bydd y wybodaeth hon yn cydymffurfio’n llwyr â Deddf Diogelu Data 1998.

Rwyf drwy hyn yn rhoi caniatâd i chi roi gwybodaeth amdanaf e.e. fy enw, cyfeiriad a lle fy ngwiath i bwy bynnag sydd ei angen mewn cysylltiad â fy nghais e.e. cymdeithasau tai, datblygwyr a gwerthwyr tai. Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’ch gwybodaeth (efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi fechan) ac i gywiro unrhyw wallau yn eich gwybodaeth.

Llofnod:

Dyddiad: