ADRODDIAD YMGYRCH 2016...yn teimlo nad oes llawer yn digwydd mewn ysbytai sydd yn helpu adferiad ac...

16
ADRODDIAD YMGYRCH 2016 mewn partneriaeth â

Transcript of ADRODDIAD YMGYRCH 2016...yn teimlo nad oes llawer yn digwydd mewn ysbytai sydd yn helpu adferiad ac...

  •   

    ADRODDIAD YMGYRCH

    2016

    mewn  partneriaeth â 

  •   

    Adroddiad Ymgyrch Egwyl Te MAWR Gofalwyr    

    Cynnwys:  

     Tudalen 1:     Cefndir yr Ymgyrch  Tudalennau 2 – 4:   Digwyddiadau Ymgyrch Lleol  Tudalen 5:     Adborth gan Ofalwyr  Tudalen 6:     Negeseuon Allweddol o’r  Ymgyrch   Tudalen 7:     Argymhellion yr Ymgyrch  Tudalen 8:     Ymchwil  Atodiad 1:     Prif flaenoriaethau a nodir gan Ofalwyr    Atodiad 2:     Natur a Nodweddion o fyw ag                                          afiechyd meddwl difrifol  

  •                                                                                                                                                  1  

     Egwyl Te MAWR Gofalwyr 2016  

     Cefndir yr Ymgyrch 

     Rhwng Mai a Hydref, roedd yr ymgyrch Egwyl Te MAWR Gofalwyr wedi cyrraedd mwy na 20,000 bobl ar draws Cymru, ac wedi arwain at ofalwyr y bobl hynny ag afiechyd meddwl ym mhob un o’r 22 sir yn dod at ei gilydd i fwynhau te prynhawn, cael sgwrs a rhoi cymorth i’w gilydd.   Roedd Hafal ynghyd â’i bartneriaid, Gofalwyr Cymru, Crossroads Canolbarth a Gorllewin Cymru,  Bipolar UK a Diverse Cymru, wedi cefnogi’r ymgyrch genedlaethol hon lle’r oedd mwy na 1,000 o ofalwyr hefyd wedi cael y cyfle  i roi cynnig ar weithgareddau  lles a phampro a derbyn cyngor a chymorth ar ystod o faterion yn cynnwys asesiadau gofalwyr a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd.    

        

    Roedd 4 amcan brys gan yr ymgyrch:  

    1. Sicrhau bod pobl yn clywed ein llais unedig fel bod gofalwyr yn cael dweud eu dweud ar lefel leol a chenedlaethol ynghylch sut y dylid cynllunio a chyflenwi gwasanaethau iechyd meddwl. Mae gofalwyr, a’r bobl y maent yn gofalu amdano, yn arbenigwyr ar yr hyn sydd angen yn lleol ac yn genedlaethol o ran gwasanaethau iechyd meddwl arall a gwasanaethau perthnasol eraill.  

     2. Ymrymuso gofalwyr unigol i chwarae rhan lawn yn y broses o gynllunio gofal a thriniaeth y person y 

    maent yn gofalu amdano. Mae gofalwyr yn gwybod y person y maent yn gofalu amdano yn well na neb arall, ac  felly, mae’n bwysig eu bod yn  chwarae  rhan uniongyrchol yn y broses o gynllunio a chyflenwi cymorth  a gwasanaethau.  

     3. Rhoi gwybodaeth well i ofalwyr ar draws Cymru drwy sicrhau eu bod yn derbyn ystod o wybodaeth 

    am fudd‐daliadau, triniaethau a gwasanaethau lleol. Mae gofalwyr yn arbenigwyr o ran gofalu yn sgil eu profiad, ac yn fwyaf effeithiol pan eu bod yn meddu ar y wybodaeth hanfodol am y materion hynny sydd yn effeithio ar y person y maent yn gofalu amdano, ynghyd â hwy eu hunain.  

     4. Amlygu’r angen i ofalwyr i dderbyn asesiadau gofalwyr o ansawdd da o dan y Ddeddf Gwasanaethau 

    Cymdeithasol  a  Llesiant  (a  sicrhau  bod  yr  asesiadau  yma  yn  gwneud  gwahaniaeth  go  iawn)  ac  i ddarparu cyngor a chymorth i ofalwyr am eu hawliau o dan y ddeddfwriaeth.   

       

  •                                                                                                                                                  2  

    Lansiad yr Ymgyrch  

    Lansiwyd yr ymgyrch yn swyddogol ar y 12 Mai 2016 yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd gan Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru ac fe’i cefnogwyd gan nifer o  Aelodau Cynulliad. 

    Gwyliwch Hafal TV yn darlledu o'r digwyddiad i lansio ein hymgyrch: https://youtu.be/m1lr5lgN-NU

    Uchafbwyntiau y 22 digwyddiad ymgyrch lleol   

    Ym Mai,  roedd digon o  sesiynau canu, pampro ac   ymlacio a Meiri    lleol yn mynychu’r digwyddiadau egwyl  te yng Nghastell‐nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. 

     

     

     

  •                                                                                                                                                  3  

         Ym Mehefin, roedd yr ymgyrch wedi symud i Geredigion  ac yna i’r Gogledd i Ynys Môn, Sir Fflint a Chonwy – gyda llawer o gefnogaeth barhaus gan Aelodau Seneddol. 

     Roedd mis Gorffennaf  yn brysur gyda digon o gerddoriaeth, celf a chrefft a chefnogaeth barhaus 

     

     

    gan Aelodau Cynulliad wrth i’r ymgyrch symud i Wynedd, Sir Ddinbych a Wrecsam cyn teithio i Sioe Frenhinol Cymru ym Mhowys ac yna mynd i’r de i Fro Morgannwg.

  •                                                                                                                                                  4  

    Yn Awst, roedd yr ymgyrch wedi symud i Went, gyda digwyddiadau lleol yn Sir Fynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent  a  Chaerffili,  ac  ym Medi,  symudodd  i  Abertawe,  Pen‐y‐bont  ar Ogwr, Merthyr, Rhondda Cynon Taff a Thorfaen. Dal digon o de i’w yfed a chacenni i’w bwyta! 

      

     

      

      

    Cynhaliwyd y digwyddiad ymgyrch  lleol olaf yng Nghaerdydd ar   7 Hydref, ac  roedd yn cynnwys cystadleuaeth pobi rhwng Kevin Brennan AS a Mark Drakeford AC.  

       

  •                                                                                                                                                  5  

    Adborth gan ofalwyr  

    Mae hi wedi bod yn ymgyrch wych! Dyma ddetholiad o’r adborth a dderbyniwyd gan ofalwyr a  fynychodd y digwyddiadau:  

     

      

      

     

      

      

    Rhannu amser gyda ffrindiau, yn ymlacio a gwneud rhywbeth dros ein hunain. 

    Rwyf wedi  dysgu  bod  treulio  awr  neu  ddwy  i  ffwrdd  o’ch trafferthion yn medru gwneud bywyd dipyn yn fwy haws.  

    Mae hwn wedi bod yn agoriad llygad ac yn fuddiol iawn.  

               Gwych i ddysgu gan bobl eraill. 

                       Hyfryd i wybod eich bod yn cael eich ystyried a’ch cydnabod. 

    Yn dda i rannu profiadau gydag eraill.

    Mae wedi bod yn wych, rwyf wir wedi mwynhau fy hun. ‘Diolch i Chi’. 

    Hyfryd  siarad  gyda phobl  sydd  yn  yr  un sefyllfa.  

  •                                                                                                                                                  6  

    Negeseuon allweddol o’r ymgyrch   

    Mae gofalwyr wedi dweud wrthym yn gyson eu bod angen gwybodaeth well am y mathau gwahanol o afiechyd meddwl ac  i gael cyfleoedd dysgu pellach er mwyn datblygu sgiliau ar gyfer delio gyda symptomau’r  person,  fel  nad  ydynt  ond  yn  cael  gwybod  am  yr  hyn  sy’n  digwydd  pan  fydd  yna argyfwng.    

    Dywedodd gofalwyr eu bod angen mwy o wybodaeth hefyd am y gwasanaethau sydd ar gael yn eu hardaloedd a phwy i gysylltu â hwy a ble i fynd mewn argyfwng.  

      Mae gofalwyr wedi dweud wrthym eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu gan weithwyr 

    iechyd proffesiynol neu eu hynysu o’r gofal a’r driniaeth sydd yn cael eu rhoi i’w hanwyliaid. Mae hyn yn wir o ran y gwasanaethau gofal a thriniaeth sydd  yn cael eu darparu i bobl o fewn y gymuned ac yn yr ysbyty lle y mae gofalwyr yn dweud nad ydynt yn cael eu cynnwys ddigon, yn enwedig pan mae’r person sydd o dan ofal yn cael ei ryddhau o’r ysbyty. 

      Mae gofalwyr hefyd yn dweud wrthym nad ydynt yn derbyn digon o wybodaeth sydd yn ymwneud â 

    gofal a thriniaeth eu hanwyliaid, gyda gweithwyr proffesiynol  yn aml yn sôn mai ‘cyfrinachedd’ yw’r rheswm am hyn. Mae hyn yn medru gwaethygu pethau, gan atal gofalwyr  rhag deall a dysgu am wybodaeth bwysig sy’n ymwneud â’r heriau y maent hwy a’r person y maent yn gofalu amdano yn eu hwynebu a sut i ddelio gyda hyn.   

      Mae gofalwyr wedi  sôn am y  safon annerbyniol  sy’n nodweddu gwasanaethau  i gleifion mewnol. 

    Mae’r amgylchedd ar y wardiau yn aml yn cael ei ystyried fel llefydd arswydus ac mae gofalwyr yn aml yn teimlo nad oes llawer yn digwydd mewn ysbytai sydd yn helpu adferiad ac yn diwallu anghenion sylfaenol pobl.  

      Yn sgil y ffaith fod eu pryderon yn cael eu hanwybyddu,  mae’r person y maent yn gofalu amdano yn 

    aml yn gwaethygu i’r pwynt fel bod angen gwasanaeth argyfwng arno neu’n gorfod mynd i’r ysbyty.    

    Mae  gofalwyr  yn dweud wrthym mai eu blaenoriaeth  gyntaf  yw  lles  y person  y maent  yn  gofalu amdano. Fodd bynnag, rydym wedi canfod fod hyn yn aml yn digwydd ar draul iechyd a lles y gofalwr ei hun. Mae rhai o’r pethau y mae gofalwyr yn dweud y byddai’n eu helpu yn cynnwys: 

      Mwy o seibiannau 

    Mynediad at therapïau seicolegol ar gyfer eu hunain, y bobl y maent yn gofalu amdanynt a mwy o therapi teuluol  

    Cyfleusterau trafnidiaeth well er mwyn cael mynediad at wasanaethau cymorth 

    Mwy o help a chymorth i gael gafael ar fudd‐daliadau lles a gwybodaeth ar hawliau lles   

    Mae llawer o ofalwyr wedi dweud wrthym  nad ydynt yn ymwybodol o’u hawl i dderbyn asesiadau gofalwyr. Er yn darparu  gofal di‐dâl, nid yw llawer o bobl yn ystyried eu hunain fel ‘gofalwyr’ ac nid yw llawer o bobl  yn hoffi’r term ‘asesiad’.      

             

  •                                                                                                                                                  7  

     Argymhellion  

    1. Cydnabod gwerth gofalwyr a gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud   

    Dylai pob un Bwrdd Iechyd ac awdurdod lleol fynd ati i sefydlu ar y cyd protocol ynghylch sut y dylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol ymgysylltu gyda gofalwyr, gwrando arnynt a pharchu eu barn ac amlinellu sut y maent yn mynd ati i sicrhau bod gofalwyr yn chwarae cymaint o rôl ag sy’n bosib yng ngofal eu hanwyliaid. Dylai’r protocols yma gael eu cynnwys yng Nghynlluniau Canolig Integredig y Byrddau Iechyd.      2. Dylid cyflogi Hyrwyddwr Gofalwyr ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru  

    Dylai pob un Bwrdd Iechyd ddefnyddio ‘Hyrwyddwyr Gofalwyr’ iechyd meddwl a gosod y rolau yma drwy’r trydydd sector. Dylai’r rôl yma fod yn ddolen gyswllt rhwng gofalwyr, grwpiau gofalwyr iechyd meddwl  a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a helpu i ddarparu’r wybodaeth, y cyngor a’r cymorth arbenigol i ofalwyr sydd yn ymwneud â materion iechyd meddwl, deddfwriaeth, ble i fynd am gymorth pellach ayyb.  3. Defnyddio Cynlluniau Gofal a Thriniaeth er mwyn canfod gofalwyr sydd o bosib 

    angen cymorth    Dylai cydlynwyr gofal ddefnyddio datblygiad y Cynlluniau Gofal a Thriniaeth i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd fel cyfrwng i ganfod y gofalwyr hynny sydd angen cymorth, a hynny er mwyn cynorthwyo pob awdurdod lleol i weithredu ei ddyletswyddau (o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) i gynnig asesiadau i’r holl ofalwyr sydd yn dod yn amlwg i’r awdurdod ac sydd o bosib angen cymorth.  

     4. Gwneud defnydd gwell o asesiadau gofalwyr 

    Dylai awdurdodau lleol sicrhau fod asesiadau gofalwyr, lle bo’n briodol, yn cynnwys yr angen i ddarparu cymorth i helpu gofalwyr i ymgysylltu a chwarae  mwy o ran a bod yn fwy gwybodus am ofal eu hanwyliaid. Yn ogystal â mynd i’r afael ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol gofalwyr, dylai  asesiadau gofalwyr gynnwys hyfforddiant, codi ymwybyddiaeth, adeiladu hyder ayyb ynghyd â mynediad at gymorth ariannol a chyngor cyfreithiol annibynnol/eiriolaeth annibynnol yn rhad ac am ddim ayyb.  5. Hyrwyddo a defnyddio datganiadau datblygedig  

      Dylai Byrddau Iechyd ac awdurdodau lleol hyrwyddo ar y cyd y defnydd a’r manteision o ddefnyddio datganiadau datblygedig neu gyfarwyddiadau datblygedig, lle bo’n briodol, pan  fydd pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn dechrau mynd yn sâl – a hynny er mwyn egluro rôl y gofalwr, neu'r gofalwyr, os ydynt hwy yn  mynd yn sâl hefyd.         Mae’r defnydd o  gyfarwyddiadau datblygedig a datganiadau datblygedig  o bosib yn medru bod yn briodol ar gyfer diogelu a hyrwyddo teimladau, buddiannau ac iechyd yr anwylyd. Maent yn debygol o gael lle sylweddol yng ngofal a thriniaeth y bobl sydd yn disgyn o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. 

     6.   Sicrhau mynediad gwell at ystod o wasanaethau 

    Rhaid  i Fyrddau  Iechyd ac awdurdodau  lleol weithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod gofalwyr yn medru cael mynediad at ymyriadau neu wasanaethau sydd yn berthnasol iddynt megis ystod o therapi teuluol, cwnsela, seibiant, grwpiau cymorth i ofalwyr neu eiriolaeth annibynnol.

  •                                                                                                                                                  8  

    Ymchwil  Cyn yr ymgyrch, roedd Hafal wedi cynnal ymchwil er mwyn canfod y prif flaenoriaethau i ofalwyr y bobl hynny ag afiechyd meddwl. Roedd hyn yn cynnwys mwy na 30 o ofalwyr o Gymru gyfan yn treulio diwrnod yn trafod yr hyn a oedd yn bwysig  iddynt ac yn rhannu eu pryderon a’u gobeithion a’u dyheadau am y dyfodol.   

    Yn ystod yr ymgyrch, roeddem wedi cynnal arolwg (gan ddefnyddio Survey Monkey) er mwyn  casglu barn gofalwyr nad oedd yn medru mynychu unrhyw un o’r digwyddiadau ymgyrch  lleol.   Rydym hefyd wedi derbyn adborth sylweddol yn ystod yr ymgyrch gan staff o Gymru gyfan sydd yn gweithio gyda gofalwyr o ddydd i ddydd. Mae’r blaenoriaethau sydd wedi eu nodi  fel rhan o’r ymchwil hwn i’w weld yn Atodiad 1.   Papur Trafodaeth  Datblygwyd papur trafodaeth: ‘Caring for Mental Health in Wales: Supporting Carers of People with Mental Illness’ a’i rannu’n eang yn ystod yr ymgyrch. Nod yw papur oedd esgor ar drafodaeth am yr anghenion a’r heriau sydd yn cael eu hwynebu gan rywun sydd yn gofalu am rywun ag afiechyd meddwl.  Mae rhai o’r materion allweddol sydd yn effeithio ar ofalwyr y bobl hynny sydd yn byw ag afiechyd meddwl difrifol yn cael eu nodi yn Atodiad 2 o’r adroddiad hwn. Mae copi o’r papur trafodaeth i’w ganfod yma:  http://www.hafal.org/wp‐content/uploads/2016/05/Carers‐Discussion‐Paper‐1.pdf 

     Y Grŵp Cydweithredol Anghenion Uchel  Mae’r Grŵp Cydweithredol Anghenion Uchel yn gynghrair hirdymor o  fudiadau  trydydd sector sydd yn anelu  i  gefnogi  adferiad  pobl  ag  afiechyd meddwl  difrifol  yng Nghymru,  ac  i  gefnogi  gofalwyr. O  ran “afiechyd  meddwl  difrifol”,  rydym  yn  golygu  pobl  sydd  â  sgitsoffrenia,  anhwylder  deubegynol  neu afiechydon eraill sydd angen cymorth sylweddol.  Yn draddodiadol, mae’r grŵp hwn o bobl wedi eu cefnogi gan wasanaethau  iechyd meddwl eilaidd ond maent yn aml yn cael eu cefnogi ar  lefel gofal cynradd yn unig. Mae gweithgareddau’r grŵp yn cael eu harwain gan bobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr drwy lywodraethiant pob un o’r mudiadau a thrwy ymgysylltu’n uniongyrchol fel ymgyrchwyr a gwirfoddolwyr mewn ymgyrchoedd penodol.   Mae aelodaeth o’r grŵp cydweithredol yn amrywio, ac yn hyn o beth, cefnogwyd yr ymgyrch gan Hafal, Bipolar UK, Diverse Cymru, Gofalwyr Wales a Crossroads Canolbarth a Gorllewin Cymru. Efallai y bydd mudiadau eraill yn  ymuno gyda’r grŵp cydweithredol maes o law.      

  •                                                                                                                                                  9  

    Atodiad  1 

    Thema’r Gweithdy

    2 Prif Flaenoriaeth

    Blaenoriathau Eraill

    Cynnwys gofalwyr a theuluoedd, gwrando arnynt a materion yn ymwneud â chyfrinachedd

    Rhaid cael trafodaeth rhwng gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol pan fydd yna arwyddion cynnar bod cyflwr unigolyn sy’n derbyn gofal yn gwaethygu. Rhaid cymryd barn a phryderon gofalwyr o ddifri’ – yn enwedig pan fydd arwyddion argyfwng i’w gweld.

    Mae angen sefydlu triongl o ofal rhwng y sawl sy’n derbyn y gofal, y gofalwr, gweithwyr iechyd /gofal cymdeithasol sydd at ddechrau’r driniaeth er mwyn sefydlu sut y dylid trin, cynorthwyo a gofalu am y person, y rolau a chyfrifoldebau, ffiniau ayyb. Mae angen i ofalwyr chwarae mwy o ran yn y broses o gynllunio a gofalu am eu hanwyliaid.

    Mae angen mwy o hyblygrwydd o ran trefnu cyfarfod ac apwyntiadau a darparu mwy o gymorth i helpu gofalwyr i fynychu cyfarfodydd ac apwyntiadau.

    Dylid sicrhau caniatâd i rannu gwybodaeth drwy drydydd parti y mae modd ymddiried ynddynt a dylid cytuno hyn ar ddechrau’r driniaeth.

    Dylai’r geiriad mewn Codau Ymarfer, canllawiau a deddfwriaeth eraill fynd ati i ddefnyddio’r derminoleg y dylai gweithwyr proffesiynol ‘orfod’ gweithio gyda gofalwyr, yn hytrach na defnyddio’r term ‘lle bo’n bosib’

    Angen rhoi cyngor a hyfforddiant ar faterion sydd yn effeithio ar anghenion gofalwyr i weithwyr iechyd proffesiynol ynghyd â gofalwyr

    Mae gweithwyr iechyd proffesiynol angen hyfforddiant gorfodol a pharhaus sy’n ymwneud ag anghenion teuluoedd/gofalwyr a sut i ymgysylltu, eu cynnwys ayyb.

    Dylai hyfforddiant i weithwyr iechyd bwysleisio’r pwysigrwydd o gydlynwyr gofal yn ymgysylltu gyda theuluoedd/gofalwyr i wrando ar eu hanghenion ac ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi

    Mae staff y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol a gweithwyr proffesiynol eraill angen dealltwriaeth well o sgil-effaith rôl gofalwyr a dealltwriaeth dda o’r gwasanaethau cymorth eraill sydd ar gael gan gynnwys y rhai o’r 3ydd sector

    Mae gofalwyr angen derbyn hyfforddiant am y system iechyd meddwl, eu hawliau, cynlluniau i adael yr ysbyty ayyb a dylent chwarae rôl yn datblygu a darparu’r hyfforddiant hwn

    Mae gweithwyr iechyd angen mwy o hyfforddiant am faterion gofalwyr, a dylai rhan o hyn gynnwys siarad gyda gofalwyr am eu profiadau.

  •                                                                                                                                                  10  

    Help a Chymorth i Ofalwyr

    Mae angen mwy o eiriolwyr a hyrwyddwyr iechyd meddwl arbenigol er mwyn bod yn ddolen gyswllt rhwng y gofalwyr, gwasanaethau cymorth a mudiadau

    Angen ymwybyddiaeth well o faterion iechyd meddwl o fewn gwasanaethau gofal cynradd, yn enwedig yng nghymorthfeydd Meddygon Teulu

    Angen mwy o wasanaethau ymyrraeth ar gyfer y teulu cyfan a chynnwys teuluoedd wrth drafod anghenion gofalwyr

    Rhaid i ofalwyr chwarae mwy o ran mewn adolygiadau ffurfiol sydd yn nodi cynnydd a phrognosis eu hanwyliaid

    Angen ymgyrch gwrth-stigma (cyhoeddus) a hyfforddiant (mudiadau)

    Hawliau Gofalwyr

    Rhaid i ofalwyr i gael mwy o wybodaeth am eu hawliau. ‘Nid ydym yn gwybod beth yw ein hawliau!’

    Nid yw gweithwyr proffesiynol yn gwrando ar ofalwyr bob tro ac weithiau maent yn teimlo eu bod wedi tanseilio. Angen i ofalwyr fod yn ymwybodol o’u hawliau

    Angen eiriolwyr penodol i ofalwyr

    Angen gwyntyllu ffyrdd o gynnal asesiadau pwrpasol i ofalwyr

    Angen gwyntyllu’r posibilrwydd o apwyntiadau cyfun gyda gofalwyr a’r sawl sy’n derbyn y gofal pan yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol

    Materion Eraill Mae rhai gofalwyr angen therapïau siarad yn ogystal â chlinics galw heibio i ofalwyr er mwyn derbyn cymorth, gwybodaeth a chyngor a chyfeirio at wasanaethau eraill.

    Ystyriwch sefydlu llinell gymorth ar gyfer gofalwyr. Mae angen clir am gymorth a chyngor gwell, yn enwedig pwy i gysylltu â hwy adeg argyfwng.

    Angen apwyntio hyrwyddwyr i ofalwyr

    Canfod ffyrdd o gysylltu gyda gofalwyr yn well pan fydd cleifion yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty – asesiad ar gyfer tai addas

    Angen gwasanaethau cynradd ac eilaidd gwell i ofalwyr, gan gynnwys therapïau siarad a chyswllt gwell rhwng Meddygon Teulu a gwasanaethau cymdeithasol.

  •                                                                                                                                                  11  

    Atodiad  2 

    Natur a nodweddion o fyw gyda rhywun sydd ag afiechyd meddwl difrifol   

     Mae pobl sydd yn byw ag afiechyd meddwl difrifol (megis Sgitsoffrenia, Anhwylder Deubegynol neu fath arall o afiechyd seicotig) yn hynod agored i niwed, yn meddu ar anghenion cymhleth uchel ac o bosib yn byw bywydau anhrefnus.  Fel arfer, y gofalwr  neu’r teulu sydd yn gweld yr effaith y mae hyn yn ei gael ar y person y maent yn gofalu amdano o ddydd i ddydd a hwy fydd yn sylwi pan fydd y person yn dechrau mynd yn sâl ac angen cymorth proffesiynol, gofal a thriniaeth gynnar. Mae’r symptomau sydd yn medru cael eu profi gan y person ag afiechyd meddwl difrifol o bosib yn achlysurol, sydd yn golygu eu bod yn teimlo’n iawn am gryn dipyn o’r amser.   

     Afiechyd meddwl yw’r unig afiechyd lle y mae’r person sydd yn ei brofi o bosib yn cael ei gadw yn yr ysbyty ac yn derbyn triniaeth yn erbyn ei ewyllys (fel y’i diwygir gan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983). Mae hyn yn medru arwain at densiynau o fewn teuluoedd ac anghydfod posib rhwng y person ag afiechyd meddwl a’i ofalwr neu deulu.  

     I rai pobl, y bygythiad posib, neu’r peryg o gael eu  cadw yn yr ysbyty  o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, sydd yn eu harwain i ymddwyn yn wahanol wrth gwrdd â gweithiwr iechyd a/neu ofal cymdeithasol. Yn aml, y gofalwr neu’r teulu sydd yn medru gweld sut y mae’r person go iawn.   

     Mae yna stigma a gwahaniaethu penodol yn gysylltiedig ag afiechyd meddwl. Mae hyn weithiau yn cael ei waethygu pan fydd yr heddlu a/neu asiantaethau  cyfiawnder troseddol  yn  dod yn rhan o’r sefyllfa, yn arddangos y fath o arwyddion yn eu hymddygiad y mae pobl  eraill yn ystyried yn rhyfedd a/neu’n fygythiol, ac weithiau, mae yna gysylltiad gyda’r  gorddefnydd neu’r camddefnydd o gyffuriau a/neu  alcohol. 

     Pan fydd rhywun sydd yn byw ag afiechyd seicotig yn sâl, efallai y byddant yn ymddangos yn  rhithdybiaethol, dangos arwyddion o baranoia a/neu’n profi rhithdybiaethau. Y gofalwr fel  arfer sydd yn medru gweld yn union beth sydd yn digwydd, a’r gofalwr hefyd fydd o bosib yn  ffocws y rhithdybiaeth fel y person agosaf.  

     Fel arfer, mae’r gofalwr/teulu yn gorfod ymdopi ar ben eu hunain wrth geisio cynorthwyo’r  person drwy’r cyfnod heriol ac anodd iawn. Mae hyn yn medru arwain at densiynau,  gwrthdaro ac euogrwydd o fewn teuluoedd.  

    Pryderon penodol gofalwyr y bobl hynny sydd yn byw ag afiechyd meddwl difrifol 

    Yr hyn y mae gofalwyr yn dymuno yw ystod  o wasanaethau iechyd meddwl safon uchel, sydd ar gael yn hawdd i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Maent am geisio deall afiechyd meddwl y person y maent yn gofalu amdano yn well, ac i gael eu cynorthwyo ar hyd y ffordd.   

    Fodd bynnag, mae gofalwyr yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio neu anwybyddu gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, a hynny o’r gofal a thriniaeth sydd yn cael eu darparu, ac mae hyn hyd yn oed yn wir pan fydd y gofalwr neu’r aelod teulu yn dweud wrth y gweithiwr proffesiynol fod y person yn dechrau dangos arwyddion ei fod ar fin cael ail bwl o salwch. Canlyniad hyn yw bod cyflwr y person yn gwaethygu i’r fath raddau fel bod angen gwasanaeth argyfwng arno neu mae angen iddo fynd i’r ysbyty.    

  •                                                                                                                                                  12  

    Mae gofalwyr a theuluoedd yn dweud wrthym eu bod am dderbyn gwybodaeth well am fathau gwahanol o afiechydon ac i gael mwy o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau er mwyn medru ymdopi gyda symptomau’r person, yn hytrach na bod rhywun yn cysylltu gyda hwy pan fydd argyfwng yn digwydd.  Mae llawer o ofalwyr yn siarad am safon annerbyniol sydd yn nodweddu gwasanaethau ar gyfer cleifion mewnol, ac mae hyn yn medru arwain at waethygu unrhyw ymdeimlad o euogrwydd, baich a straen i ofalwr pan y mae’r person y maent yn gofalu amdano yn gorfod mynd i’r ysbyty. Mae awyrgylch y wardiau yn aml yn cael ei ddisgrifio fel llefydd ofnus, na sydd yn gwneud rhyw lawer i helpu adferiad ond ymddengys hefyd nad yw anghenion sylfaenol y claf yn cael eu diwallu.  Mae gofalwyr yn aml yn siarad hefyd am y ffaith nad ydynt yn cael chwarae digon o rôl yn y broses o baratoi gofal a thriniaeth y person y maent yn gofalu amdano tra eu bod yn yr ysbyty; ac o’r herwydd yn aml yn teimlo eu bod wedi cael eu heithrio neu eu hanwybyddu. Mae yna ddiffyg trafodaeth neu gyfathrebu gyda’r gofalwr neu’r teulu pan fydd y person yn cael ei ryddhau o’r ysbyty. Nid oes yna unrhyw gyfathrebu/trafodaeth  am y broses o ryddhau’r unigolyn o’r ysbyty neu unrhyw sgil‐effeithiau neu beryglon posib a ddaw o wneud hyn.    Yn aml, nid yw gofalwyr pobl sydd yn byw ag afiechyd meddwl difrifol yn derbyn gwybodaeth am ofal a thriniaeth eu hanwyliaid gyda gweithwyr proffesiynol yn dweud mai ‘cyfrinachedd’ yw’r rheswm am hyn. Mae hyn yn medru gwneud pethau yn waeth, ac atal gofalwyr rhag deall a dysgu am wybodaeth bwysig am yr heriau pwysig y maent hwy a’r person y maent yn gofalu amdano yn eu hwynebu ynghyd â’r ffordd orau i ddelio gyda hwy.   

    Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi paratoi taflen ddefnyddiol sydd yn dwyn y teitl,  ‘Carers and confidentiality in mental health’1 ac mae modd ei chanfod yma:  

    http://www.rcpsych.ac.uk/healthadvice/partnersincarecampaign/carersandconfidentiality.a spxy.aspx 

     Mae’r dyfyniad agoriadol o’r daflen gan aelod o Rethink sydd â’i fab yn meddu ar afiechyd meddwl ac mae hyn yn adlewyrchu llawer o’r hyn y mae gofalwyr wedi dweud wrthym; “Mae angen i mi wybod yr hyn yr ydych yn ceisio ei gyflawni i'm mab a sut ydych yn bwriadu mynd ati i wneud hyn. Mae angen i mi ddeall y driniaeth y mae’n mynd i dderbyn fel y gallaf chwarae rhan yn ei raglen adferiad. Yr hyn na sydd angen i mi wybod yw manylion personol yr hyn sydd yn digwydd rhyngddo ef a’r gweithwyr proffesiynol.” 

    Mae’r defnydd o  gyfarwyddiadau datblygedig a datganiadau datblygedig 2 o bosib yn medru bod yn briodol ar gyfer diogelu a hyrwyddo teimladau, buddiannau ac iechyd yr anwylyd. Maent yn debygol o gael lle sylweddol yng ngofal a thriniaeth y bobl sydd yn disgyn o dan y Ddeddf Iechyd Medd

                                                           1Carersandconfidentialityinmentalhealth:Issuesinvolvedininformation‐sharing:Rhano’rymgyrchPartnersinCare,sefmenterarycydrhwngColegBrenhinolySeiciatryddiona’rPrincessRoyalTrustforCarers 2Maecyfarwyddiadaudatblygedigadatganiadaudatblygedigynddogfennausyddyncaeleullunioganunigolionpaneubodynteimlo’nddaermwynmynegi’rhynymaentamwleddyndigwyddoraneugofalathriniaethfeddygolynydyfodol,ahynnyosnadydyntynmedrumynegihyneuhunain. 

  •                                                                                                                                                  13  

    Yr angen am gymorth iechyd meddwl arbenigol  

    Mae’r bobl sydd yn byw ag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr a/neu deuluoedd angen gofal, cymorth a thriniaeth arbenigol, a hynny yn sgil natur a chymhlethdod yr afiechyd ynghyd ag unrhyw ganlyniadau cyfreithiol posib.   

    Fel sydd wedi ei drafod eisoes yn y papur hwn, mae llawer o ofalwyr y bobl hynny sydd yn byw ag afiechyd meddwl difrifol yn ‘berthynas agosaf’, ac o’r herwydd, mae hawliau a phwerau penodol ganddynt o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, e.e. bod rhywun yn ymgynghori gyda hwy, yr hawl i ofyn am asesiad, i wneud cais fod yr unigolyn yn cael ei ryddhau o’r ysbyty, i chwilio am gymorth gan eiriolydd annibynnol ayyb. 

    Mae’n debygol mai ond gweithwyr cymorth sydd yn gweithio o fewn maes iechyd meddwl sydd yn datblygu’r ymwybyddiaeth, yr arbenigedd ac yn medru cael mynediad at yr adnoddau sydd angen er mwyn darparu cymorth effeithiol pan fydd materion cymhleth ac anodd yn effeithio ar y person sydd yn derbyn y gofal.  Mae gwasanaethau generig yn aml yn “cyfeirio” pobl at wasanaethau eraill yn hytrach na darparu cymorth cynhwysfawr. Mae gweithwyr cymorth iechyd meddwl arbenigol yn medru neilltuo mwy o adnoddau a gwybodaeth er mwyn mynd i’r afael â’r materion yma.   

    Mae’n hynod bwysig sicrhau fod  asesiad o anghenion gofalwyr (asesiad gofalwr3) yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau bod y wybodaeth, cyngor a chymorth ar gael yn hawdd er mwyn helpu atal unrhyw ddirywiad yng nghyflwr eu hanwyliaid a’u hatal rhag gorfod mynd i mewn i’r ysbyty.    

    Yn aml,  nid yw gofalwyr yn cysylltu tan fod rhywbeth yn digwydd sydd yn golygu bod angen gwasanaethau iechyd meddwl statudol. Mae hwn yn ymateb brys ac mae’n annhebygol y bydd hyn ar gael gan ddarparwr gwasanaeth generig, a  hynny sgil diffyg dealltwriaeth lawn o’r ddeddfwriaeth a pholisïau.  

    Mae buddsoddi mewn gwasanaethau gofalwr iechyd meddwl arbenigol yn meddu ar fanteision economaidd hirdymor (ac weithiau byrdymor) i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gwasanaethau cymorth iechyd meddwl arbenigol yn medru darparu cymorth i ofalwyr ac ‐ yn anuniongyrchol ‐ i’r bobl hynny sydd yn derbyn gofal ac mae hyn yn medru osgoi gorfod rheoli argyfwng.  Er enghraifft, pan fydd yna arwyddion fod yna ail bwl o salwch ar fin digwydd, mae staff trydydd sector gyda phrofiad/gwybodaeth iechyd meddwl yn medru cynorthwyo gofalwr i gyflwyno achos cryfach ar gyfer ymyrryd yn gynnar, a hynny er mwyn osgoi’r claf yn  gorfod mynd i’r ysbyty ac aros yno sydd yn arwain at lawer iawn mwy o gostau.     

                                                           3Maeasesiadgofalwyrynfforddoadnabodeichanghenionfelgofalwr;sutymaebodynofalwryneffeithioarnoch,faintoofalymaemoddichieiroi tra’chbodhefydynmedruymgymrydâgweithgareddaueraillytuhwntiofalu acunrhywhelpsyddangenarnoch. 

  •                                                                                                                                                  14  

         

    Cysylltwch â’r Grŵp Cydweithredol Anghenion Uchel drwy:  Hafal Uned B3 Parc Technoleg Lakeside  Ffordd y Ffenics  Llansamlet Abertawe  SA7 9FE  Ffôn: 01792 816 600 E‐bost: [email protected]