Rhaglen Genedlaethol Hyfforddiant Mewn-swydd y Gymraeg Y ...llythyr neu erthygl at y cylchgrawn...
Transcript of Rhaglen Genedlaethol Hyfforddiant Mewn-swydd y Gymraeg Y ...llythyr neu erthygl at y cylchgrawn...
Y G
ymra
egyn
y C
wri
cwlw
mC
ened
laet
hol
Rhaglen Genedlaethol Hyfforddiant Mewn-swydd
y Gymraeg
Agweddau ar Addysgu Cymraeg Ail Iaith
Cyfnodau Allweddol 3 a 4
Codi Safonau LlythrenneddDatblygu Sgiliau Ysgrifennu
dyddiadur
adolygiad
treiglo
paragraffu
adroddiad
termau
gwirio
cywiro
llythyr anffurfiol
stori
effeithiau
Y G
ymra
egyn
y C
wri
cwlw
mC
ened
laet
hol
Rhaglen Genedlaethol Hyfforddiant Mewn-swydd
y Gymraeg
Agweddau ar Addysgu Cymraeg Ail IaithCyfnodau Allweddol 3 a 4
Codi Safonau LlythrenneddDatblygu Sgiliau Ysgrifennu
2
h
Argraffiad cyntaf Mawrth 2005
Uned Iaith Genedlaethol Cymru
Cyhoeddwyd gan Uned Iaith Genedlaethol Cymru CBAC245 Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YX
Mae Uned Iaith Genedlaethol Cymru yn rhan o WJEC/CBAC Cyf.,elusen gofrestredig a chwmni a gyfyngir gan warant ac a reolir ganawdurdodau lleol Cymru.
ISBN 1 86085 582 2
Argraffwyd gan HSW Print, Tonypandy, Rhondda CF40 2XX
Lluniwyd y pecyn hwn gan Weithgor y Cydlynwyr Uwchradd, Cymraeg Ail Iaith:
Rhodri JonesCarys LakeAled LoaderJane NicholasRichard RobertsEnfys ThomasTina ThomasGareth Williams
Cydnabyddir cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ac awdurdodau lleol Cymru.
Diolchir i’r ysgolion canlynol am eu cymorth parod:
Ysgol Uwchradd Castell AlunYsgol Gyfun Cas-gwentYsgol Uwchradd EiriasYsgol Uwchradd EifionyddYsgol Uwchradd Llannerch BannaYsgol Uwchradd Tywyn.
Treialwyd y pecyn hwn gyda grwpiau o athrawon mewn sesiynau hyfforddi a diolchiriddynt am eu hadborth adeiladol.
Diolchir i’r canlynol am eu caniatâd i atgynhyrchu rhannau o’u cyhoeddiadau:ACCACESISUrdd Gobaith CymruGwasg Gomer
3
CYDNABYDDIAETH
4
Bwriad y pecyn hwn yw cynnig syniadau i athrawon ynglyn â sut i godi safonau ysgrifennudisgyblion sy’n dilyn Rhaglenni Astudio Cymraeg Ail Iaith yn CA3/CA4. Mae’r pecyn yn:
● ystyried gofynion Cwricwlwm 2000 ac yn rhoi sylw i sylwadau a gynigir yn adroddiadEstyn (SPAEM): Y Gymraeg yn Ail Iaith yn CA3 (1999)
● gofyn saith cwestiwn sylfaenol i athrawon ynglyn â chyflwyno tasgau ysgrifennu yn ydosbarth ail iaith ac yn cynnwys arweiniad cryno ar ysgrifennu ar y cyd ac ysgrifennudan arweiniad
● cynnig deuddeg o gynlluniau gwersi enghreifftiol sydd â thasg ysgrifennu’n ganolbwyntiddynt
● cynnig meini prawf a chynlluniau marcio enghreifftiol
● cynnwys adran, ar ffurf gweithdy, lle mae cyfle i athrawon sy’n mynychu cyrsiauhyfforddi lunio cynlluniau gwersi enghreifftiol eu hunain; mae pwyslais yma argroesffrwythloni syniadau er mwyn rhannu arfer dda
● cynnwys enghreifftiau o waith ysgrifennu disgyblion ynghyd â sylwebaeth ar y modd yraeth eu hathrawon ati i’w cynorthwyo i godi safon eu gwaith
● amrywiaeth o gêmau/gweithgareddau iaith sydd ag ysgrifennu’n ganolbwynt iddynt
Efallai y byddai diddordeb gan ddefnyddwyr y pecyn hwn mewn dwy gyfrol arall agyhoeddwyd dan nawdd Rhaglen Genedlaethol HMS y Gymraeg: Datblygu Sgiliau Ysgrifennu(2003) a Codi Safonau Ysgrifennu (2000). Mae’r ddwy gyfrol wedi’u hanelu at athrawonCA1/CA2.
Cyhoeddir y pecyn hwn hefyd ar wefan CBAC: www.cbac.co.uk Mae hyn yn cynnighyblygrwydd i athrawon a’u hyfforddwyr ddewis a dethol rhannau ohono at eu dibenioneu hunain.
Richard RobertsHyfforddwr Ymgynghorol
5
CYFLWYNIAD
6
Tudalen
Rhan 1: Gofynion Cwricwlwm 2000 9
Rhan 2: Canfyddiadau Arolygiadau Estyn 13
Rhan 3: Saith Cwestiwn Sylfaenol i’w Holi gan Athrawon 15
Rhan 4: Codi Safonau Ysgrifennu: 19Ysgrifennu ar y cydYsgrifennu dan ArweiniadPennu Targedau
Rhan 5: Cynlluniau Gwersi Enghreifftiol 22
Rhan 6: Gweithdy 1 – Llunio Cynlluniau Gwersi Enghreifftiol 87
Rhan 7: Defnyddio Meini Prawf ac Adborth 88i Godi Safonau
Rhan 8: Gêmau Ysgrifennu 116
Llyfryddiaeth: 124
7
CYNNWYS
8
dyddiadur
rhestr
tystiolaeth
adolygiad
mynegi barn
treiglo
paragraffu
dychmygus
adroddiad
atalnodi
ailddrafftio
drafftio
termau
gwirio
cywiro
llythyr
ffeithiol
e-bost
anffurfiol
gwefan
cardiau cyfarch
sgwrs
stori
effeithiau
personol
9
RHAN1Gofynion Cwricwlwm 2000
Dyma grynhoi Rhaglen Astudio Ysgrifennu Cwricwlwm 2000. Dylid ystyried y RhaglenniAstudio yn eu crynswth wrth fynd ati i lunio rhaglen addysgu ar gyfer disgyblion CA3 aCA4.
Ystod
Dylid addysgu’r disgyblion i:
2. Ysgrifennu:
● mewn ymateb i amrywiaeth o symbyliadau● mewn amrywiaeth o gyd-destunau● i ystod o bwrpasau● gan ddefnyddio ystod o ffurfiau addas i’r pwrpas …
3. mynegi profiadau personol a dychmygus
4. cyflwyno gwybodaeth a llunio darnau cofnodol-ffeithiol amrywiol
5. mynegi barn wrth ymateb i ystod o symbyliadau print, gweledol a chyfrifiadurol
6. ysgrifennu’n ffurfiol ac yn anffurfiol ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd penodol
7. ymestyn a chywiro eu hadnoddau iaith drwy wneud defnydd priodol o:● eiriaduron● geirlyfrau● nodiadau personol● gwirwyr sillafu a gramadeg ar gyfrifiaduron
8. gwneud defnydd eang a phwrpasol o TGCh wrth ymgymryd ag ystod eang o dasgau …
Sgiliau
Dylid addysgu’r disgyblion i:
2. ysgrifennu’n sylwgar wrth ddefnyddio’n briodol ystod o ffurfiau ffurfiol ac anffurfiol
3. ystyried trefn, adeiladwaith ac iaith eu gwaith gan ei ailddrafftio ar sgrin ac ar bapur iwella cynnwys, cywirdeb, eglurder ystyr a mynegiant fel bo’r testun wedi’i gyflwyno’nddestlus ac yn ddealladwy i’r darllenydd
4. defnyddio’r ystod lawn o farciau atalnodi gan gynnwys:
● atalnod llawn● gofynnod● ebychnod● atalnod● colon● hanner colon● dyfynodau● collnod● cromfachau● gwahannod● cysylltnod
5. rhoi sylw gofalus i dreiglo a sillafu
6. dim
7. defnyddio iaith i greu effeithiau
8. mynegi barn gan gynnig rhesymau a thystiolaeth i ategu ac amddiffyn safbwynt neu i berswadio
9. dim
10. gosod eu gwaith yn briodol.
10
Datblygiad Iaith
Dylid addysgu’r disgyblion i:
1. ddatblygu eu hysgrifennu drwy ystyried:
● paragraffu● trefn● mynegiant
2. defnyddio ystod amrywiol o ymadroddion, cwestiynau a brawddegau yn gywir gan ehangu geirfa a ffurfiau berfol a datblygu ymhellach eu gwybodaeth o iaith er mwyn hybu cywirdeb fel eu bod yn:
● defnyddio’r gystrawen Gymraeg● defnyddio ffurfiau berfol (amser a pherson) yn gywir● negyddu brawddegau’n gywir● rhedeg arddodiaid yn gywir● defnyddio’r arddodiaid cywir ar ôl berfenw● treiglo’n briodol● ymwybodol o genedl enwau● gallu gwahaniaethu rhwng geiriau tebyg● gallu gwahaniaethu rhwng ‘i’, ‘u’, ‘y’
3. dim
4. defnyddio rhai geiriau a thermau priodol wrth drafod nodweddion eu gwaith hwy a gwaith eraill.
11
12
Gweithgaredd HMS
Gan ystyried gofynion Rhaglen Astudio CA3, gwnewch restr o dasgau ysgrifennu ygellir eu darparu i ddisgyblion o dan y penawdau:● Ysgrifennu personol a dychmygus● Ysgrifennu cofnodol/ffeithiol● Mynegi barn yn ysgrifenedig● Ysgrifennu ffurfiol
Bydd yr hyfforddwr yn:
● eich rhannu’n bedwar grwp i gyflawni’r dasg
● gofyn i bob grwp gyfnewid ei restr â grwp arall er mwyn eiwella/fireinio/ymestyn
● enwebu cynrychiolydd o bob grwp i adrodd yn ôl i holl aelodau’r cwrs
● arddangos y rhestrau yn ystod y cwrs ac yna’n eu casglu, eu teipio a’u hanfonat yr aelodau yn dilyn y cwrs.
13
RHAN2
Canfyddiadau Estyn (SPAEM) (Y Gymraeg yn Ail Iaith yn CA3,1999)
Prif nodweddion safonau da mewn ysgrifennu
Lle mae disgyblion yn cyflawni safonau da erbyn diwedd CA3, maent yn:
● cynhyrchu darnau estynedig i amrywiol bwrpasau, gan ddangos y gallu i ymhelaethu a datblygu syniadau yn gydlynus
● defnyddio ystod o batrymau brawddegol yn gywir, gan wneud defnydd o gysyllteiriau ac is-gymalau ac amrywio amseroedd a phersonau’r ferf
● ysgrifennu mewn amrywiaeth o ffurfiau, yn cynnwys erthyglau, adolygiadau a cherddi
● cynhyrchu gwaith creadigol sy’n dangos defnydd cynyddol o gyffelybiaethau a dyfeisiau arddull eraill
● gwella ar gynnwys a mynegiant eu hymdrechion cyntaf drwy olygu, cywiro ac ailddrafftio eu gwaith.
Gweithgaredd HMS
Gweithiwch mewn parau i ateb y cwestiwn:
Sut rydych chi’n sicrhau bod eich disgyblion yn cyflawni safonau da mewn ysgrifennu?
Bydd yr hyfforddwr yn:
darparu cardiau (maint cardiau post) ichi ysgrifennu eich ymateb arnynt a’u harddangos ar furiau’r ystafell lle cynhelir y cwrs. Caiff yr ymatebion eu teipio a’u hanfon at aelodau’r cwrs.
14
Diffygion cyffredin o ran cyflawniadau disgyblion mewnysgrifennu
"… lle mae safonau’n foddhaol … mae disgyblion yn:
● ansicr eu gafael ar batrymau brawddegol sy’n llesteirio cynnydd yn y gallu i glymu dilyniant o sylwadau
● gwneud gorddefnydd o batrymau brawddegol elfennol, heb lwyddo i amrywio dechrau brawddegau
● methu amrywio amseroedd y ferf
● gwneud ond ychydig o ddefnydd o ffurfiau cryno’r ferf
● ysgrifennu i ystod gul o bwrpasau ac mewn amrywiaeth cyfyng o ffurfiau."
Gweithgaredd HMS
Gweithiwch mewn parau i ateb y cwestiwn:
Sut rydych chi’n sicrhau y caiff y diffygion uchod eu hosgoi ymhlith eich disgyblion?
Bydd yr hyfforddwr yn:
darparu cardiau (maint cardiau post) ichi ysgrifennu eich ymateb arnynt a’u harddangos ar furiau’r ystafell lle cynhelir y cwrs. Caiff yr ymatebion eu teipio a’u hanfon at aelodau’r cwrs.
15
RHAN3
Saith cwestiwn sylfaenol i’w holi (a’u hateb) gan athrawonCymraeg Ail Iaith
Ystyriwch y cwestiynau a’r atebion isod a addaswyd o waith Raimes (1983, tud. 12-23).
Nodyn i’r hyfforddwr – Gweithgaredd HMS
Gellir cyflwyno’r cwestiynau isod i athrawon eu hateb mewn cwrs hyfforddi cyn dangos cynnwys y dudalen hon iddyn nhw.
1. Sut gall ysgrifennu gynorthwyo ein disgyblion i ddysgu Cymraeg yn well?
Rhaid wrth integreiddio’r sgiliau iaith fel bo’r dasg ysgrifennu’n rhan o broses ehangach sy’n cadarnhau gafael y disgyblion ar yr iaith. Ystyriwch yr enghraifft isod.
Tasg Disgrifiwch y lleoedd gorau i dwristiaid ymweld â nhw yn ardal Abertawe.
Camau posibl
● Trafod â’r disgyblion, e.e. ‘Rydych chi’n llunio taflen wybodaeth ar gyfer denu twristiaid i ardal Abertawe. Pa ddau le rydych yn eu hargymell?’
● Disgyblion yn llunio rhestr o’r lleoedd yr hoffen nhw eu cynnwys yn y daflen wybodaeth.
● Mewn grwpiau, y disgyblion yn dweud pam iddynt ddewis eu lleoedd a chynnig rhesymau pam. Pob grwp i gytuno ar restr.
● Grwpiau i ddewis dau hoff le o’u rhestr.
● Pob grwp yn adrodd yn ôl i weddill y dosbarth gan nodi‘r lleoedd a ddewiswyda chynnig rhesymau pam. Athro/athrawes yn cofnodi ar y bwrdd gwyn/uwchdaflunydd gan sicrhau y cyflwynir geirfa/patrymau iaith priodol.
● Disgyblion yn ysgrifennu drafft o’r ‘brochure’.
● Disgyblion yn darllen gwaith ei gilydd gan gynnig ychwanegiadau/newidiadau/ gwelliannau etc.
● Disgyblion yn ailddrafftio’r gwaith.
● Disgyblion yn darllen eu gwaith yn ofalus ac yn ei gywiro.
16
2. Sut mae dod o hyd i ddigon o destunau ysgrifennu?
Dadleua Raimes fod athrawon yn tueddu i symud yn rhy gyflym o un testun i’r llall "... themore they read on the topic, the more they learn about organizational structure andsentence structure; the more they discuss a topic, the more ideas they develop. Ourproblem isn’t really finding enough topics; it’s developing enough tasks from the goodtopics we have."
Gweithgaredd HMS
I ba raddau y cytunwch â’r dyfyniad uchod?
3. Sut y gallwn ddarparu tasgau mwy diddorol ar gyfer disgyblion?
Dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau elfen gyfathrebol yn y tasgau. Yn naturiol, gall ycyfathrebu hwn fod ar lafar neu’n ysgrifenedig. Sut mae sicrhau elfen gyfathrebol yn ytasgau isod?
llythyr at agony auntdyddiadur personoladolygu ffilmcerdyn poststori yn diweddu gyda ...
4. Pwy sy’n mynd i ddarllen yr hyn mae disgyblion yn ei ysgrifennu?
Mae tuedd i ddisgyblion ystyried gwaith ysgrifennu yn dasg i’w darllen a’i chywiro ganathro. Felly, nid oes cynulleidfa ehangach. Mae’n werthfawr darparu cynulleidfa.Ystyriwch y canlynol:
● yr athro’n cynorthwyo yn y broses trwy ddarllen a chynnig sylwadau ar y drafftgan beidio â chywiro camgymeriadau’n syth
● disgyblion yn cyfnewid drafftiau gan gynnig sylwadau
● grwp o ddisgyblion yn darllen drafft neu’n gwrando arno yn cael ei ddarllen ar goedd a chynnig sylwadau
● llythyr neu erthygl at y cylchgrawn IAW!/cystadlaethau Eisteddfod yr Urdd/papur bro/cylchgrawn ysgol/llyfrynnau dosbarth neu ohebiaeth â disgyblion mewn ysgolion eraill ar y We ac ati
● disgyblion Blwyddyn 7 yn ysgrifennu at ddisgyblion Blwyddyn 6
● ysgrifennu at gynulleidfa ddychmygol, e.e. llythyr cais am swydd ac ati.
17
5. Sut mae cael y disgyblion i ysgrifennu ar y cyd? (gweler arweiniad pellach ar dud 19-20)
Gellir gosod tasg megis ‘Ysgrifennwch baragraff am eich hoff chwaraeon’, egluro bethrydych am iddyn nhw ei wneud a chynnig rhestr eirfa/patrymau iaith etc.
Dull arall posibl yw:
● disgyblion yn trafod beth yw eu hoff chwaraeon gyda’r athro yn sicrhau eu gafael ar yr eirfa/patrymau iaith angenrheidiol
● athro’n cynnig cymorth i rai grwpiau
● un disgybl ym mhob grwp yn ysgrifennu nodiadau ac yn adrodd yn ôl i weddill y dosbarth
● wrth i’r adrodd yn ôl fynd rhagddo, yr athro’n cofnodi’r prif bwyntiau ar y bwrdd gwyn ac yn ychwanegu geirfa newydd os yw’n briodol
● disgyblion yn ymgymryd â’r dasg ac yna’n cyflwyno’r gwaith i ddisgybl mewn grwp arall ei ddarllen.
6. Faint o amser dylid ei glustnodi ar gyfer ysgrifennu (hyd a lled y broses ysgrifennu)?
Cwestiwn anodd iawn ei ateb oherwydd bod dysgu iaith yn broses integredig gyda’r sgiliaullafar, darllen ac ysgrifennu yn gwau trwy’i gilydd. Gellir ateb y cwestiwn efallai trwyystyried y broses ysgrifennu, sef:
● ystyried beth yw’r dasg● pwy yw’r gynulleidfa● casglu deunyddiau/syniadau trwy bledu syniadau, ysgrifennu nodiadau,
trafod ag eraill a darllen● ystyried trefn y darn● ysgrifennu drafft● darllen y drafft yn feirniadol● adolygu● ailddrafftio● cywiro● cyflwyno drafft terfynol.
7. Beth i’w wneud ynglyn â chamgymeriadau?
Mae pwyslais ychwanegol ar gywirdeb iaith yn Cwricwlwm 2000. Rhaid ymateb i’r gofynionnewydd hyn. Mae Raimes yn cynnig rhai strategaethau y gallwn eu hystyried.
● Mae camgymeriadau yn fodd o weld y broses ddysgu ar waith.
● Dylid ymateb i gamgymeriadau wrth gynllunio gwaith yn y tymor byr, e.e. drwy bennu targedau i ddisgyblion (gweler tud. 21) a thrwy dynnu sylw disgyblion at gamgymeriadau cyffredin.
● Dylid clustnodi amser i ddisgyblion gywiro eu gwaith cyn i chi wneud hynny gan ystyried beth sydd yn achosi camgymeriadau, e.e. diffyg gwybodaeth/dealltwriaeth ynteu flerwch ac ati?
● Gellir llunio cynllun cywiro a sicrhau bod y disgyblion yn ymwybodol ohono.
18
Codi Safonau Ysgrifennu
Cydnabyddir bod sefydlu hinsawdd briodol i hyrwyddo ysgrifennu a chynnig digon o gyfle iddisgyblion ysgrifennu dan arweiniad ac ysgrifennu ar y cyd yn gymorth i godi safonau.Mae pwyslais ar y dulliau hyn yn y Strategaeth Llythrennedd Genedlaethol. Mae’r adran honyn crynhoi’r arweiniad a geir yn y Strategaeth ac yn ei Gwefan Safonau:www.standards.dfes.gov.uk/literacy <http://www.standards.dfes.gov.uk/literacy>.
Sefydlu Hinsawdd i Hyrwyddo Ysgrifennu
Mae’n bwysig sefydlu hinsawdd briodol er hyrwyddo ysgrifennu. Ystyriwch y canllawiauisod.
● Cynnig amrywiaeth o brofiadau darllen o safon gan gynnwys deunyddiau ffeithiol a ffuglen
● Cynnal digwyddiadau megis llyfr/awdur yr wythnos/mis● Gwahodd cyfarwyddiaid a beirdd i’r ysgol i rannu eu profiadau a chynnal
gweithdai ysgrifennu gyda’r disgyblion ● Gwneud pob ymdrech i sicrhau brwdfrydedd ymhlith y disgyblion am bob
math o ddarllen ac ysgrifennu● Sicrhau pob cyfle posibl i ddisgyblion gyhoeddi eu gwaith, e.e. yng
nghylchgrawn IAW!, cystadlaethau llenyddol Eisteddfod yr Urdd, papurau bro ac ati
● Darparu cyfleoedd i ddisgyblion ysgrifennu am faterion sydd o bwys iddyn nhw● Athrawon yn rhannu hoff ddarnau darllen/ysgrifennu â’r disgyblion.
Ysgrifennu ar y Cyd
● Disgyblion yn ysgrifennu gyda’r athro/athrawes gydag yntau/hithau â rôl golygydd ac ysgrifennydd
● Athro/Athrawes yn modelu ysgrifennu da ac yn tynnu sylw at gyhoeddiadau lle’r amlygir arferion da
● Darparu cyfleoedd i ddisgyblion ddynwared/efelychu ysgrifennu o’r fath● Cadw golwg ar nod y dasg er sicrhau bod y testun a lunnir yn berthnasol● Addysgu rhyngweithiol – rhaid sicrhau bod digon o gyfle i ddisgyblion gymryd
rhan yn y dasg ac i ddangos beth maen nhw’n gallu ei wneud● Hyfforddi disgyblion mewn technegau ymchwilio ● Tynnu sylw disgyblion at nodweddion iaith, e.e. amser gorffennol y ferf
ac at y defnydd o benawdau, is-benawdau ac ati.
19
RHAN4
Ysgrifennu dan Arweiniad
Wrth ysgrifennu dan arweiniad mae’r athro/athrawes yn canolbwyntio ar gael y disgyblioni ysgrifennu’n annibynnol. Yn aml mae’r agwedd hon ar ysgrifennu’n ddilyniant i’rysgrifennu ar y cyd. Gall gynnwys agweddau megis:
● Cynllunio ar gyfer llunio darn ysgrifennu i’w gwblhau maes o law● Hyfforddi disgyblion sut i ysgrifennu nodiadau a fydd yn sail i lunio testun
llawnach maes o law● Canolbwyntio ar agweddau penodol ar ysgrifennu, e.e. ysgrifennu llythyr● Ehangu a/neu grynhoi testun● Llunio brawddegau sy’n cynnwys cysyllteiriau● Annog disgyblion i arbrofi gyda disgrifiadau/cyfarwyddiadau ac ati a’u hadolygu
drwy gydol y broses ● Hyfforddi disgyblion sut i lunio siartiau llif a fydd yn sail i ysgrifennu testun
llawn● Cysylltu â chydlynu pwyntiau wrth lunio testun● Canolbwyntio ar agweddau megis paragraffu, defnyddio penawdau ac is-
benawdau ac ati● Athro/Athrawes a’r disgyblion yn adolygu’r hyn a ysgrifennwyd gan ystyried
sut y gellir ei wella.
20
21
Pennu Targedau
Mae targedu yn rhan o'r broses o asesu ffurfiannol gan ei fod yn fodd i gynllunio'rcam/au nesaf yn nysgu'r disgybl. Mae'n cynnig ffocws ar elfennau penodol o ysgrifennuac, yn ôl Clarke (1998), yn fodd i godi safonau. Wrth dargedu rhaid:
● sicrhau bod y targed/au yn gyraeddadwy i'r disgybl o fewn cyfnod penodol, e.e. mis;
● bod y disgybl/ion yn ymwybodol o'r targed a sut i'w gyrraedd;● annog y disgybl i fod yn rhan o'r broses o bennu targed/au;● i'r targedu fod yn hyblyg yn yr ystyr y gellir ei/u newid, er enghraifft, pan fo'n
rhy anodd neu wedi ei gyrraedd cyn y dyddiad a bennwyd.
Sut mae gosod targed?
Awgryma Clarke y dylid llunio cerdyn targed ar gyfer pob disgybl ac y dylid ei gadwmewn man canolog. Dylai pob disgybl nôl ei gerdyn targed bob tro mae'n ysgrifennu a'igadw ar y ddesg tra bydd yn ymgymryd â'r dasg. Dyma gynnig enghraifft o gerdyntarged. Yn aml, bydd llawer o'r disgyblion â'r un targed, yn arbennig wrth i anawsteraucyffredin godi.
Dyddiad gosod y targed Targed/au Dyddiad cyrraedd y targed
10 Chwefror 2005 1. Defnyddio Mae e/hi 10 Mawrth 2005wrth ysgrifennu am unigolion eraill.
2. Defnyddio atalnod llawn ar ddiwedd pob brawddeg a phriflythyren ar ei dechrau.
Nodyn: Ceir ymdriniaeth o ddrafftio ac ailddrafftio gwaith ysgrifennu yn Rhan 7 y pecyn.
22
Cynlluniau Gwersi Enghreifftiol
Mae rhan hon y pecyn yn cynnig cynlluniau gwersi enghreifftiol gyda thasgau ysgrifennu’nganolbwynt iddynt. Cynigir tair gwers ar gyfer Bl7, Bl9 a CA4 o dan y penawdaucanlynol:
● Ysgrifennu personol a dychmygus● Ysgrifennu cofnodol/ffeithiol● Mynegi barn yn ysgrifenedig● Ysgrifennu ffurfiol
Mae rhai o’r cynlluniau gwersi hefyd yn cynnwys fframweithiau ysgrifennu a thaflennihunanasesu.
Nodir cynulleidfa pob cynllun gwers fel a ganlyn:
● uchel eu gallu● gallu cymysg● isel eu gallu.
RHAN
5
23
Ysgrifennu personol a dychmygus
Cynllun Gwers 1
Blwyddyn: 7 (Gallu cymysg)
Nod: Ysgrifennu llythyr personol (diwedd tymor 1 Blwyddyn 7 gan dargedu lefelau 3-5)
Adnoddau: Llythyrau o gylchgrawn IAW!
Camau’r wers:
1. Athro/athrawes yn adolygu manylion personol gyda’r disgyblion, e.e.- Beth ydy dy enw di?- Faint ydy dy oed di?- Pryd mae dy ben-blwydd di?- Pa liw gwallt/llygaid sy gyda ti?- Sawl brawd a chwaer sy gyda ti?- Faint o bobl sy yn dy deulu di? Pwy? Disgrifia dy
dad/fam/chwaer etc.- Oes anifail anwes gyda ti?- I ba ysgol gynradd est ti?- I ba ysgol rwyt ti’n mynd?- Beth ydy dy hoff bwnc di? Pam?- Pwy ydy dy hoff athro/athrawes di? Pam?- Beth ydy dy hobïau di?- Beth rwyt ti’n hoffi? Pam?- Beth dwyt ti ddim yn hoffi? Pam?
2. Atgyfnerthu’r adolygu – y disgyblion yn holi ac ateb ei gilydd mewn grwpiau ynglyn â manylion personol trwy ddefnyddio’r cwestiynau uchod. Rhaid i bob disgybl holi ac ateb o leiaf bum cwestiwn.
3. Darllen llythyrau o gylchgrawn IAW! (Taflen 1)(Gellir manteisio ar y cyfle i ddisgyblion ddarllen ar goedd i’r dosbarth/i grwp neu bartner).
4. Disgyblion yn nodi’n gyflym pa wybodaeth sydd yn y llythyrau trwy roi ✓ gyferbyn â’r manylion yn y rhestr (gweler Taflen 2).
24
5. Athro/athrawes yn gwirio atebion Taflen 2 gyda’r dosbarth, e.e trwy holi- Sawl person oedd yn sôn am ysgol gynradd?- Sawl person oedd yn sôn am eu hobïau? ac ati
6. Athro/athrawes yn trafod cynnwys y llythyron â’r disgyblion a chyflwyno fframwaith ysgrifennu ar gyfer llunio llythyr tebyg (Taflen 3) gan nodi bod angen ysgrifennu mewn paragraffau a chynnwys cyfeiriad ar frig y llythyr.
7. Disgyblion yn llunio drafft cyntaf y llythyr ar gyfrifiadur
8. Athro/athrawes yn marcio’r gwaith gan wneud sylwadau adeiladol er mwyn gwella’r gwaith.
9. Disgyblion yn ailddrafftio yn sgil sylwadau’r athro/athrawes.
25
Gwers 1, Taflen 1
26
Gwers 1, Taflen 2
Nodwch pa wybodaeth sydd yn y llythyrau drwy roigyferbyn â’r manylion priodol
Enw
Oed
Pen-blwydd
Teulu
Disgrifiad
Anifail anwes
Ysgol uwchradd
Ysgol gynradd
Hoff bwnc/bynciau
Hoffi … pam?
Ddim yn hoffi … pam?
27
Gwers 1, Taflen 3
Fframwaith Ysgrifennu Llythyr
Cyfeiriad ……………….…………….
Dyddiad
Annwyl ,,,
Paragraff 1
Enw, oed, pen-blwydd, disgrifiad
Paragraff 2
Aelodau’r teulu, disgrifio, barn, anifeiliaid anwes – hoffi? –
Paragraff 3
Ysgol gynradd, ysgol uwchradd, hoff bynciau – pam? hoff
Paragraff 4
Hobïau/diddordebau, Beth? Pryd? Ble? Gyda phwy? Hoffi –
Hwyl fawr,
Enw
Ysgrifennu personol a dychmygus
Cynllun Gwers 2
Blwyddyn: 9 (Uchel eu gallu)
Nod: Ysgrifennu dyddiadur gwyliau
Adnoddau: Pell ac Agos, Ni Eto
Cyd-destun: Yn y wers/gwersi blaenorol bydd yr athro/athrawes wedi cyflwyno geirfa a chystrawennau trafod gwyliau â’r disgyblion gan gynnwys geirfa a chystrawennau ar gyfer manylu ar yr hyn a wnaed yn ystod y gwyliau.
Camau’r wers:
1. Athro/athrawes yn adolygu thema ‘Gwyliau’ gyda’r disgyblion trwy holi cwestiynau megis:
- Ble est ti ar dy wyliau?- Pryd est ti?- Gyda phwy est ti?- Ble arhosaist ti?- Sut le oedd …?- Sut oedd y tywydd?- Fwynheuaist ti? Pam?- Beth wnest ti yn ystod y dydd?- Beth wnest ti gyda’r nos?- Beth oeddet ti’n hoffi? Pam?- Beth doeddet ti ddim yn hoffi? Pam?- Ble hoffet ti fynd y flwyddyn nesaf? Pam?
2. Atgyfnerthu’r adolygu – y disgyblion yn trafod eu gwyliau mewn grwpiau gan ddefnyddio’r cwestiynau uchod.
3. Disgyblion yn darllen cardiau post gwyliau er mwyn casglu syniadau am wyliau unigolion a’r hyn wnaethon nhw yn ystod eu gwyliau (Taflen 1).
4. Disgyblion yn llenwi grid i gasglu gwybodaeth am y gwyliau yn y cardiau post (Taflen 2)
5. Cyflwyno fframwaith ysgrifennu dyddiadur i’r disgyblion (Taflen 3).
28
29
6. Ysgrifennu dyddiadur un diwrnod ar y cyd wedi’i seilio ar gerdyn post Delyth ar fwrdd gwyn ar flaen y dosbarth gan ddilyn y fframwaith ysgrifennu.
7. Cyflwyno’r meini prawf asesu i’r disgyblion a’u hannog i’w defnyddio’n rhestr wirio cyn cyflwyno’u gwaith:
● Amrywio patrymau brawddegol ● Mynegi barn a’i gefnogi â rhesymau● Creu effeithiau yn eu hysgrifennu, e.e. wrth fynegi sut maen nhw’n teimlo ac ati● Defnyddio ambell idiom a chymhariaeth● Paragraffu ● Sillafu cywir
8. Disgyblion yn llunio dyddiadur tri diwrnod yn seiliedig ar brofiad personol neu ddychmygus. (Gellir cyflwyno cardiau post yn sbardun ar gyfer ysgrifennu dychmygus yn ôl yr angen – Taflen 4.)
30
Gwers 2, Taflen 1
31
Gwers 2, Taflen 2
Llenwch y grid canlynol â gwybodaeth o’r 4 cerdyn post
Delyth John Clare Julie
Gwyliau – ble?
Teithio – sut?
Tywydd?
Gwneud beth? 1
2
Mwynhau?
Pam?
32
33
Gwers 2, Taflen 3
Fframwaith Ysgrifennu Dyddiadur
Dydd ……….
Yn y bore - codi … faint o’r gloch? (wedi blino ar ôl ddoe?)
- gwneud beth? mwynhau? barn?/teimladau?- gyda phwy? barn am y bobl?
Yn y prynhawn - gwneud beth? - gyda phwy?- mwynhau?- barn/teimladau?
Cinio - ble? pryd? gyda phwy? bwyta beth?
Gyda’r nos - gwneud beth? - gyda phwy?- mwynhau?- barn/teimladau?
Dydd ………..
Yn y bore - gwneud beth? ble? pryd? - barn / teimladau?- gyda phwy? barn am y bobl?
Yn y prynhawn - gwneud beth?- gyda phwy?- barn/teimladau?
Cinio - ble? pryd? gyda phwy? bwyta beth?
Gyda’r nos - gwneud beth?- gyda phwy?- hapus? diflas? Pam?- gwneud beth yfory? ac ati
Gwers 2, Taflen 4
34
35
Ysgrifennu personol a dychmygus
Cynllun Gwers 3
Blwyddyn: CA4 (Gallu cymysg/uwch)
Nod: Ysgrifennu stori ddychmygus
Adnoddau: Bwrdd gwyn rhyngweithiol (os oes modd)
Cyd destun: Yn y wers/gwersi f/blaenorol bydd yr athro/athrawes wedi cyflwyno/adolygu’r amser gorffennol ac wedi cyflwyno geirfa ac idiomau ar gyfer ysgrifennu stori
Camau’r wers:
1. Disgyblion yn darllen y stori – Sal (Taflen 1). Os oes modd, dylid dangos y stori ar fwrdd gwyn rhyngweithiol ar flaen y dosbarth.
2. Athro/athrawes yn amlinellu’r bwriad o ysgrifennu stori greadigol a dadansoddi’r pethau sydd angen eu cynnwys wrth ysgrifennu stori gan gyfeirio at y stori yn Taflen 1, e.e.
- wedi’i hysgrifennu yn yr amser gorffennol- disgrifiad o’r prif gymeriad/gymeriadau- un prif ddigwyddiad- defnydd o ddeialog/sgwrs- defnydd o idiomau- clo â ‘moeswers’/‘tro’ ac ati.
3. Unigolion yn dod i flaen y dosbarth a lliwddangos ar y stori mewn gwahanol liwiau'r nodweddion arbennig a nodwyd yn Cam 2, e.e.
- defnydd o ddeialog- disgrifiad o gymeriad- y prif ddigwyddiad ac ati.
4. Cyflwyno fframwaith ar gyfer ysgrifennu stori i’r disgyblion (Taflen 2) a thrafod yr hyn a nodir yn y fframwaith.
5. Athro/athrawes yn adolygu’r amser gorffennol gyda’r disgyblion i baratoi ar gyfer ysgrifennu stori.
6. Athro/athrawes yn adolygu/cyflwyno idiomau addas i’w defnyddio yn y stori. (Taflen 3).
7. Disgyblion yn drafftio stori - Diwrnod ofnadwy! neu Byth eto!
36
8. Disgyblion yn ysgrifennu’r llythyr (ar gyfrifiadur i hybu ailddrafftio).
9. Ar ôl gorffen, y disgyblion yn gwerthuso’u gwaith trwy lenwi ffurflen hunanasesu (Taflen 4).
10. Disgyblion yn ailddrafftio’u storïau yn dilyn yr hunanasesu.
37
38
Gwers 3, Taflen 1
Sal
Nos Sadwrn diwethaf es i a fy nghariad allan am bryd o fwyd yngNghaerdydd.
Enw fy nghariad ydy Marc. Mae e’n ddeunaw oed ac mae e’nastudio ar gyfer Lefel A yn yr ysgol. Mae e’n cw l iawn. Dw i wrthfy modd yn mynd allan gyda Marc achos mae e’n olygus iawn. Maee’n garedig ac mae e’n gwisgo’n trendi.
Am chwech o’r gloch roeddwn i’n cael bath. Mwynheuais i wrandoar fiwsig tra oeddwn i’n gorwedd yn y bath cynnes braf. Roeddwnyn gyffrous dros ben. Gwisgais fy hoff ffrog ddu, colur aphersawr drud. Roedd Marc yn gwisgo crys gwyn a throwsus dugyda thyllau drostyn nhw i gyd. Roedd e’n edrych yn grêt.
Gadawon ni’r ty am saith o’r gloch a chyrhaeddon ni’r ty bwyta amhanner awr wedi saith. Aethon ni i dy bwyta Eidalaidd achos maeMarc a fi yn hoff iawn o fwyta pasta am ei fod yn flasus iawn.Roedd ty bwyta Giorgio yn wych. Roedd rhyw ferch yn cael ‘henparty’ ac roedd swn ofnadwy yno. Ces i basta a llysiau a bwytoddMarc pizza ham a thomato. Yfodd y ddau ohonon ni boteli Grolschi ddechrau ac yna gormod o lawer o win.
Mwynheuon ni’r noson yn fawr iawn. Gadawon ni’r ty bwyta amddeg o’r gloch. Roedd y ddau ohonon ni’n chwerthin gan ein bod niwedi yfed cryn dipyn. Edrychodd Marc arna i. Dywedodd e‘Wyt ti eisiau aros gyda fi heno Siân!’Atebais i ‘’Wi ddim yn siw r, mae mam a dad yn fy nisgwyl i gartre.Ces i stwr ofnadwy’r tro diwethaf wnes i aros gyda ti.""Tecstia dy fam a dweud dy fod yn aros yn nhy Tracey heno"Cytunais a rhedon ni ar draws y ffordd i ddal y bws olaf.
Yn sydyn daeth car yn gyflym rownd y gornel a tharo Marc.
Roedd gwaed ym mhobman. Dyna noson waethaf ein bywyd. Roeddwn yn crynu fel deilen.
Anghofia i fyth mo’r noson honno.
39
Gwers 3, Taflen 2
Paragraff 1
Gosod y sefyllfa, e.e.
Dydd Gwener diwethaf, penderfynais i a fy ffrind fynd i …
Paragraff 2
Cyflwyno a disgrifio’r prif gymeriad
Paragraff 3
Paratoi ar gyfer mynd i … Nodi teimladau, e.e.
roeddwn i’n teimlo’n gyffrous
ansicr
ofnus
roeddwn i ar bigau’r drain
roeddwn i wrth fy modd …
Paragraff 4
Gwneud beth, pryd, ble, pam, disgrifio’r lle a’r awyrgylch.
Paragraff 5
Mwynhau?/Ddim yn mwynhau? Pam? Nodi teimladau eto.
Paragraff 6
Y digwyddiad (prif ddigwyddiad). Beth ddigwyddodd? Pam?
Uchafbwynt!
Paragraff 7
Moeswers/tro, e.e.
Fydda i fyth eto yn …
Gwers 3, Taflen 3
40
41
42
Gwers 3, Taflen 4
Ffurflen hunanasesu
Ydw i wedi:
✓
gosod y sefyllfa ym mharagraff 1
disgrifio’r cymeriad(au)
dweud sut mae’r cymeriad(au) yn teimlo
dweud beth sy’n digwydd,
- pryd,
- ble,
- disgrifio’r lle a’r awyrgylch.
defnyddio deialog
defnyddio idiom(au)
Oes uchafbwynt? (un prif ddigwyddiad)
Ysgrifennu Cofnodol/Ffeithiol
Cynllun Gwers 4
Blwyddyn: 7 (Gallu cymysg)
Nod: Ysgrifennu ffeil ffeithiau
Adnoddau: Cylchgrawn IAW! Ebrill 2002 Ffrindiau Ffantastig, Cyfres Fflic
Cyd-destun: Yn y wers flaenorol bydd yr athro/athrawes wedi cyflwyno/adolygu’r eitemau iaith canlynol:
enw llawn arwydd y sêrdyddiad geni hoff …taldra cas …cariady dechrauuchelgaisBeth nesa?A pheth arall
Camau
1. Y disgyblion yn darllen y ffeil ffeithiau ar tud. 4 a 5 Ffrindiau Ffantastig, Cyfres Fflic yn unigol neu mewn parau. (Taflen 1).
2. Y disgyblion yn gweithio mewn parau ● yr athro/athrawes yn gwneud llungopïau o’r ffeil ffeithiau ymlaen llaw ● pob disgybl yn cael un o’r ffeiliau ffeithiau sy’n wahanol i un ei bartner/ei
phartner ● parau i holi’i gilydd gan ddefnyddio cwestiynau megis:
- Beth ydy dy enw di?- Faint ydy dy oed di?- Pa arwydd y sêr wyt ti?- Beth ydy dy hoff …?- Beth ydy dy gas …?
3. Y disgyblion yn cofnodi’r wybodaeth ar y grid (Taflen 2) er mwyn iddynt adrodd yn ôl i weddill y dosbarth yn y trydydd person.
4. Y disgyblion yn darllen Kylie Minogue ar dud. 8 a 9 Cylchgrawn IAW! Ebrill 2002fel dosbarth o dan arweiniad yr athro/athrawes (Taflen 3)
43
44
5. Yr athro/athrawes yn holi’r disgyblion beth maen nhw wedi’i ddysgu am Kylie. Disgwylir iddynt ddweud pethau megis:- We know how old she is- We know a little about her family- We know where she’s going to be singing on her tour- We know what her favourite food is- We know where she lives now etc.
● yr athro/athrawes yn gofyn i’r disgyblion ddarllen y frawddeg/brawddegau sydd yn rhoi’r wybodaeth iddynt.
6. Y disgyblion yn cael cyfle i ysgrifennu o leiaf un frawddeg am Kylie ar fyrddau gwyn unigol neu ar bapur A4 gydag un aelod o bob grwp yn casglu’r gwaith ac yn darllen y brawddegau i’r gweddill.
7. Y disgyblion yn chwilio mewn cylchgronau neu ar y We am wybodaeth am eu hoff ganwr pop/grwp pop gan ganolbwyntio ar wybodaeth debyg i’r hyn sydd yny darnau darllen - y disgyblion is eu gallu’n gweithio ar batrwm Ffrindiau Ffantastig a’r disgyblion mwyaf galluog yn gweithio ar sail Cylchgrawn IAW!
8. Y disgyblion yn dod â thap neu gryno-ddisg o’i hoff ganwr pop/grwp i’w chwarae i weddill y dosbarth a rhannu’r wybodaeth ffeithiol am y canwr/grwp.
45
46
Gwers 4, Taflen 1
47
48
Gwers 4, Taflen 2
Grid Cofnodi Gwybodaeth
ENW:
Oed
Arwydd y sêr
Hoff fwyd
Cas fwyd
Hoff bwnc
Cas bwnc
Hoff grwp
Cas fiwsig
Hoff chwaraeon/Cas chwaraeon
49
50
Gwers 4, Taflen 3
51
Lluniau: Virgin Publications
52
Ysgrifennu Cofnodol/Ffeithiol
Cynllun Gwers 5
Blwyddyn: 9 (Gallu cymysg)
Nod: Darllen ffeithiau diddorol am sioeau cerddYsgrifennu adroddiad am ymweliad â theatr/sinema
Adnoddau: Cylchgrawn IAW! Medi 2002 Y Sioe Gerdd, Cyfres Fflic
Cyd-destun: Yn y wers flaenorol bydd yr athro/athrawes wedicyflwyno/adolygu eitemau iaith megis:- Ysgrifennodd …- Mae’r … wedi bod …- Mae’r geiriau yn dod o …- Mae’r … wedi clywed …- Sioe gerdd gan … ydy …- … ar hyd y byd etc.
Camau
1. Yr athro/athrawes yn gofyn i unigolion ddarllen y ffeithiau am y sioeau cerdd ar dud. 14 a 15 Y Sioe Gerdd (Taflen 1) - gellir defnyddio (‘PowerPoint’ neu ‘Photoshop’ ) a’u defnyddio ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol.
2. Yr athro/athrawes yn tynnu sylw’r disgyblion at y defnydd o’r eirfa/patrymau iaith a gyflwynwyd yn y wers flaenorol.
3. Y disgyblion yn gweithio mewn parau i ddarllen yr wybodaeth eto a llenwi’r grid (Taflen 2).
4. Yr athro/athrawes yn holi am y sioeau cerdd a’r disgyblion yn defnyddio’r grid yn hytrach na’r darnau darllen i chwilio am yr atebion.
5. Y disgyblion yn darllen y ffeithiau am y sioe gerdd Chitty, Chitty Bang Bang; tud. 8 a 9 Cylchgrawn IAW!, Medi 2002 (Taflen 3) gan ddefnyddio’r eirfa ar waelod y dudalen yn ganllaw.
6. Y disgyblion yn cwblhau’r fframwaith ysgrifennu (Taflen 4) i gofnodi’r hyn maen nhw wedi’i ddarllen amdano yn yr wybodaeth ffeithiol am Chitty, Chitty, Bang, Bang.
53
7. Y disgyblion, o dan arweiniad yr athro/athrawes yn rhannu’r wybodaeth â gweddill y dosbarth.
8. Y disgyblion yn cofnodi ymweliad maen nhw wedi bod arno i’r theatr i weld drama neu sioe gerdd neu i’r sinema i weld ffilm. Gall y disgyblion a fyddai’n elwa ar hynny ddefnyddio’r fframwaith ysgrifennu (Taflen 5).
9. Cyflwyno meini prawf asesu i’r disgyblion a’u hannog i’w defnyddio’n rhestr wirio cyn cyflwyno’u gwaith i sylw’r athro/athrawes
● Ysgrifennu brawddegau cysylltiedig● Amrywio patrymau, e.e. aethon ni, roedd hi’n etc.● Mynegi barn am yr ymweliad a chynnig dau/tri rheswm● Creu effeithiau yn yr ysgrifennu, e.e. wrth ddisgrfio rhan o’r
ffilm/sioe gerdd● Paragraffu● Sillafu’n gywir.
Gwers 5, taflen 1
54
55
Gw
ers
5, T
afle
n 2
Cats
Star
light
Ph
anto
m o
f
Whist
le D
own
Les
Wes
t Si
de
Expr
ess
the
Ope
rath
e W
ind
Miser
able
Stor
y
Pwy
ysgr
ifen
nodd
y ge
iria
u?
Pwy
ysgr
ifen
nodd
y ge
rddor
iaet
h
Ble
mae
’r
sioe
?
Pa f
ath o
si
oe y
dy
hi?
Bet
h y
dy’
r st
ori?
Pa g
aneu
on
sydd y
n y
sioe
?
56
57
Gwers 5, Taflen 3
58
59
Lluniau: Alastair Muir
Gw
ers
5, T
afle
n 4
Bet
h r
oeddw
n i’n
wyb
od
Bet
h r
ydw
i e
isia
u w
ybod
?B
eth r
ydw
i w
edi
ddys
gu a
r ôl
cyn
dar
llen
y daf
len?
dar
llen
y daf
len
amC
hit
ty C
hit
ty B
ang
Ban
g?
60
Gwers 5, Taflen 5
Fframwaith Ysgrifennu
Ymweliad â …
Es i i weld …
yn …
Es i yno …
Roedd y sioe yn dechrau …
… ysgrifennodd y …
Stori … oedd …
Y peth gorau am y sioe / ffilm oedd…
Yn yr egwyl …
Es i adref am …
61
Ysgrifennu Cofnodol/Ffeithiol
Cynllun Gwers 6
Blwyddyn: CA4 (Uchel eu gallu)
Nod: Ysgrifennu Rough Guide i un o ddinasoedd/prifddinasoedd y byd
Adnoddau: Trip i’r Ddinas, Cyfres Fflic Cylchgrawn IAW!, Mai 2002
Cyd-destun: Yn y wers flaenorol bydd yr athro/athrawes wedi:- cyflwyno’r eirfa a’r patrymau iaith isod i’r disgyblion- sicrhau bod y disgyblion yn ynganu a goslefu’n gywir- gosod y patrymau mwyaf defnyddiol ar siart/poster:
DinasPrifddinasAdeiladodd … y …Mae … yn bwysig yn … i …Mae … yn cael eu cynnal ynoCafodd ei adeiladu/gynllunio gan …
Camau
1. Y disgyblion yn darllen yr wybodaeth am y dinasoedd a’r prifddinasoedd yn Trip i’r Ddinas, Cyfres Fflic tud. 22/23 (Taflen 1) a chwblhau’r dasg o gysylltu’rdisgrifiad â’r lluniau priodol.
2. Y disgyblion yn gweithio mewn parau i holi’i gilyddBeth ydy enw prifddinas …?Wyt ti’n gwybod beth ydy enw prifddinas …?Pa un o’r rhain ydy prifddinas …?gan ddefnyddio tud. 6 Cylchgrawn IAW! Mai 2002 (Taflen 2)
Atebion posibl:… ydy prifddinas …Dw i ddim yn siwr.Dw i’n meddwl mai … ydy prifddinas …Does gen i ddim syniad.Yn bendant, … ydy prif ddinas …
3. Dan arweiniad yr athro/athrawes, y disgyblion yn darllen a thrafod yr wybodaeth yn IAW!, tud. 6 am Lundain, Paris a Madrid.
62
63
4. Y disgyblion yn cael cyfle i chwilio am wybodaeth a lluniau o ddinas neu brifddinas o’u dewis. Gallant ddefnyddio’r We, llyfrau cyfair neu brochuresgwyliau i gael yr wybodaeth.
5. Cyflwyno meini prawf asesu i’r disgyblion a’u hannog i’w defnyddio’n rhestr wirio cyn cyflwyno’u gwaith;
● Amrywio patrymau brawddegol (gweler Cam 6)● Mynegi barn a’i gefnogi â rhesymau a/neu ffeithiau● Creu effeithiau yn eu hysgrifennu, e.e. wrth ddisgrifio
ambell nodwedd y ddinas dan sylw● Defnyddio ambell idiom a chymhariaeth● Paragraffu ● Sillafu cywir
6. Y disgyblion yn ysgrifennu Rough Guide i’r ddinas neu’r brifddinaso’u dewis
Bydd yr athro/athrawes yn arwain yr ysgrifennu gan gyfeirio at yr eirfa/patrymau iaith a ddarllenwyd yn Cyfres Fflic,Trip i’r Ddinas a chylchgrawn IAW!, Mai 2002, e.e..:
Mae … yn …Mae … ger …Adeiladodd … … yn …Roedd pobl yn dod yno i …Mae …. yn cael eu cynnal ynoCafodd … ei (h)adeiladu gan …Cafodd … ei g(ch)ynllunio gan …Yr un mwyaf enwog ydy ….Mae twristiaid yn …Mae’r golygfeydd o … yn …Mae’r …. yn … o uchder / daldraMae’r … yn dal … o boblMae’r … yn sefyll ar y …
7. Y disgyblion yn darllen gwaith ei gilydd neu’n cyflwyno eu gwaith i weddill y dosbarth gan ddefnyddio rhaglen gyfrifiadurol megis PowerPoint.
Gwers 6, Taflen 1
64
65
66
Gwers 6, Taflen 2
67
dyddiadur
rhestr
tystiolaeth
adolygiad
mynegi barn
treiglo
paragraffu
dychmygus
adroddiad
atalnodi
ailddrafftio
drafftio
termau
gwirio
cywiro
llythyr
ffeithiol
e-bost
anffurfiol
gwefan
cardiau cyfarch
sgwrs
stori
effeithiau
personol
68
Mynegi Barn
Cynllun gwers 7
Blwyddyn: 7 (gallu cymysg)
Nod: Cymharu profiadau’r ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd.
Adnoddau: Taflen 1
Camau’r Wers:
1. Adolygu/Cyflwyno eitemau iaith (dosbarth cyfan), e.e. Wrth sôn am yr ysgol uwchradd: Wrth sôn am yr ysgol gynradd:Beth wyt ti’n hoffi … Beth roeddet ti’n …Dw i’n hoffi … Roeddwn i’n hoffi’r …Dw i ddim yn hoffi … Doeddwn i ddim yn …
Pam?Mae’r … Roedd yr …
Yn fach/yn fawrYn ddiflas/yn gyffrousYn anodd/yn hawddYn dda/yn ddrwg ac ati
2. Defnyddio’r fframwaith ysgrifennu i gofnodi barn bersonol (Taflen 1).
3. Gwaith llafar mewn grwpiau o dri wedi’i seilio ar eu gwaithysgrifenedig –
● Disgybl A yn holi ● Disgybl B yn ateb● Disgybl C yn cofnodi’n gryno, e.e. Siân – chwarae siop – yn hwyl.
pawb yn dilyn yn ei dro.
4. Adolygu’r trydydd person (dosbarth cyfan), e.e. Wrth sôn am yr ysgol uwchradd Wrth sôn am yr ysgol gynraddMae … yn hoffi… Roedd … yn hoffi…
Pam?
5. Gan ddefnyddio’r trydydd person, ysgrifennu darn byr yn nodi barn rhywun arall am ysgolion cynradd ac uwchradd. (Gall y disgyblion uwch eu gallu ysgrifennu am fwy nag un person gan ddefnyddio ansoddeiriau a brawddegau ychwanegol).
69
Gwers 7, Taflen 1
Beth wyt ti’n hoffi yn yr ysgol uwchradd? Pam?
Dw i’n hoffi … daearyddiaeth achos mae’n gyffroushanesCymraeg
Dw i ddim yn hoffi chwaraeon... drama mae’n ddiflas
Beth roeddet ti’n hoffi yn yr ysgol gynradd? Pam?
Roeddwn i’n hoffi darllen achos roedd e’n gyffrous... chwarae ar
yr iardcinio’r ysgol
Doeddwn i ddim Mrs Davies roedd e’n ofnadwyyn hoffi … cerdded i’r
ysgol
Yn yr ysgol uwchradd …
Mae John gwyddoniaeth achos mae’n ddiddorol Hefyd ...yn hoffi mae’n hoffi...
Yn yr ysgol gynradd …
Roedd Sarah Mr Thomas achos roedd e’n Hefyd …yn hoffi ddoniolroedd hi’n hoffi…
70
Mynegi Barn
Cynllun Gwers 8
Blwyddyn: 9 (Gallu Cymysg)
Nod: Llunio sgwrs yn mynegi barn am wyliau mewn gwersyll.
Adnoddau: Cyfres Fflic (Gwersylla), Taflenni 1-5.
Cyd-destun: Cyn y wers hon bydd y disgyblion wedi cael cyfle i ddarllen Gwersylla mewn cyfres o wersi wedi’u seilio ar y gyfrol.
Camau’r wers:
1. Darllen naill ai’r sgwrs ar tud. 8 Gwersylla (Taflen 1) neu’r sgwrs ar tud. 9 Gwersylla (Taflen 2) - gwaith pâr.
2. Athro/athrawes yn holi am farn y cymeriadau (Gwaith llafar dosbarth cyfan), e.e.
- Ydy Tara’n hoffi nofio?- Aeth Caren i’r gwersyll y llynedd?- Ydy Alan yn hoffi cerdded?- Aeth Dylan i’r gwersyll y llynedd?
3. Darllen tud. 29 Gwersylla (Taflen 3) - Gwaith unigol a llenwi’r daflen gofnodi (Taflen 4).
4. Trafod ac adolygu gwaith Cam 3 naill ai ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol neu ar yr uwchdaflunydd gan ddefnyddio’r patrwm isod:Beth oedd rhif ...?
5. Ysgrifennu sgwrs rhwng dau ffrind yn mynegi barn am weithgareddau’r gwersyll. (Gall y disgyblion is eu gallu ddefnyddio Taflen 5 fel enghraifft gan newid y geiriau sydd wedi’u tanlinellu).
Gwers 8, Taflen 1
71
72
Gwers 8, Taflen 2
73
Gwers 8, Taflen 3
74
Gwers 8, Taflen 4
Beth oedd hoff weithgareddau Alan a Dylan?
Dewis Alan Dylan
1 bowlio deg 10/10
2
3
4
5 bowlio deg 7/10
6
7
8
75
Gwers 8, Taflen 5
Tara: Beth roeddet ti’n hoffi yn y gwersyll?
Caren: Roeddwn i’n hoffi gêmau tîm.
Tara: Fel beth?
Caren: Pêl-droed a hoci.
Tara: Pam?
Caren: Achos mae’n ymarfer da i gadw’n heini.
Tara: Mae’n well gyda fi ddawnsio na chwaraeon.
Caren: Pam?
Tara: Rydw i’n mwynhau symud gyda’r miwsig ond mae’n rhaid gwisgo sgidiau ysgafn.
Caren: Beth doeddet ti ddim yn hoffi?
Tara: Doeddwn i ddim yn hoffi rhwyfo ar y llynachos roeddwn i’nnerfus.
Caren: Pam?
Tara: Achos dw i ddim yn gallu nofio.
Ysgrifennwch eich sgwrs eich hunan.
76
Mynegi Barn
Cynllun Gwers 9
Blwyddyn: CA4 (isel eu gallu)
Nod: Ysgrifennu adolygiad o gig/cyngerdd.
Adnoddau: Ni, Atodiad 1
Cyd-destun: Bydd y disgyblion wedi gorffen yr uned yn ymwneud â cherddoriaeth yn Ni, tud. 8–12. Byddan nhw hefyd wedi dod ag enghreifftiau o’u hoff gerddoriaeth i’r dosbarth.
Camau’r wers:
1. Adolygu rhai o batrymau iaith yr uned, e.e. Pwy ydy dy hoff grwp/ganwr?
2. Athro yn holi’r disgyblion, e.e. - Wyt ti wedi gweld (enw grwp) ar y teledu? - Wyt ti wedi gweld grwp yn fyw? - Pa grwp? - Ble?
3. Dangos yr adolygiad enghreifftiol (Taflen 1) ar uwchdaflunydd/bwrdd gwyn rhyngweithiol.
4. Athro/Athrawes yn darllen yr adolygiad a thrafod yr eirfa â’r dosbarth, e.e.
- Beth ydy:llawn cerddoriaeth glasurolcaneuon roc trwmllais yn arbennigpob math yn dalentoggeiriau
5. Ymarfer disodli - yr athro/athrawes yn tanlinellu’r pethau y gall y disgyblion eu newid, e.e. enw’r grwp/lleoliad/yr ansoddeiriau ac ati.
6. Disgyblion yn ysgrifennu drafft cyntaf o adolygiad o gig (go iawn neu ddychmygol) yn eu llyfrau.
7. Disgyblion yn hunanasesu eu gwaith (Taflen 2).
8. Ailddrafftio’r gwaith gan ei baratoi ar gyfer cynulleidfa ehangach, e.e. ar wal y dosbarth/anfon at IAW!/papur bro/cylchgrawn ysgol.
77
Gwers 9, Taflen 1
Adolygiad Enghreifftiol
10/10 i’r MANICS!!!
Nos Sadwrn diwethaf es i gyda fy ffrind, Siân i Stadiwm yMileniwm yng Nghaerdydd i weld y Manics. Roedd y stadiwmdan ei sang. Roedd pawb yn mwynhau ac yn hapus. Dechreuoddy gig am naw o’r gloch. Roedd grwp arall o’r enw Big Leaves yncanu ar y dechrau.
Pan ddaeth y Manics i’r llwyfan roedd pawb yn gweiddi asgrechian. Roedd hi’n gyffrous iawn. Roedd Nicky Wyre yncanu’r gitâr fas a James Dean Bradfield yn canu’r gitâr flaen.Roedd pawb yn dawnsio ac yn canu gyda’r grwp.
Fy hoff gân i oedd If you tolerate this ...; roedd hi’nffantastig. Canon nhw bum cân o’r albwm newydd hefyd. Maellais da gyda James Dean Bradfield ac mae Nicky Wyre yndalentog iawn.
Mwynheuais i’r noson yn fawr iawn a hoffwn i weld y Manics etoachos maen nhw’n wych.
78
�
79
Gwers 9, Taflen 2
Taflen Hunanasesu
Ydw i wedi …
Sôn am fy hoff fand?
Dweud ble roedd y cyngerdd?
Disgrifio’r cyngerdd?
Dweud sut roeddwn yn teimlo?
Defnyddio 3 ansoddair?
Defnyddio paragraffau?
Sillafu ac atalnodi’n gywir?
80
Ysgrifennu Ffurfiol
Cynllun Gwers 10
Blwyddyn: 7 (Isel eu gallu)
Noder mai ar gyfer grwp ag anghenion addysgol arbennig y bwriedir y wers hon.
Nod: Ysgrifennu Rysáit (gan ddefnyddio pecyn prosesu geiriau)
● Cyflwyno/cadarnhau gorchmynion● Cyflwyno/cadarnhau geirfa bwyd.
Adnoddau: Llyfr Darllen – Teisen Luke (Cyfres Sebon)Cynhwysion teisen (blawd/wy ac ati.)Offer cegin (powlen/llwy/tun teisen)Offer TGCh a phecyn prosesu geiriauFframwaith ysgrifennu rhagosodedig ar gyfer llenwi bylchau – creu rysáit (gweler isod).
Cyd-destun:
Bydd y disgyblion yn y wers ddiwethaf wedi darllen llyfr Teisen Luke fel ymarfer dosbarth.
Byddant wedi nodi rhai o’r geiriau ar gyfer cynhwysion teisen o’r wers honno yn eullyfrau.
Camau’r wers
1. ● Cyflwyniad gan yr athro/athrawes ar wneud teisen gan ddefnyddio’r cynhwysionY disgyblion yn gwylio tra byddan nhw’n sefyll o amgylch y ddesg
● Byddant yn nodi unrhyw eirfa na chafwyd o’r wers flaenorol yn eu llyfrau ● Dylai’r athro/athrawes gyflwyno’r arddangosiad trwy holi’r cwestiwn
‘Beth rydw i’n wneud nesaf?’● Dylai wedyn, yn sgil hyn, fynnu’r ffurf
‘Rhowch y _________ yn y ____________’gan y disgyblion
● Ac felly ymlaen gyda’r gorchmynion perthnasol, e.e.Cymysgwch ….Trowch ….
● Dylai’r athro/athrawes nodi’r brawddegau ar y bwrdd gwyn wrth fynd ymlaen a disgwyl i’r disgyblion ailadrodd y patrymau iaith wrth iddo/iddi gyflawni pob cam o’r broses
● Wedi gorffen cymysgu’r gorchestwaith, da fyddai cael cytundeb yr adran technoleg bwyd i grasu’r deisen erbyn y wers nesaf.
Cam 2
Troi at gyfrifiaduron, naill ai yn yr ystafell ddosbarth, neu mewn swît gyfrifiadurol.
● Llwytho profforma ar gyfer cynhyrchu rysáit i 6/7 o’r cyfrifiaduron (gweleryr enghraifft isod)
● Y disgyblion yn gweithio mewn parau● Bydd y cynhwysion yn dod o’r eirfa a gasglwyd● Bydd y cyfarwyddiadau yn dod o’r gorchmynion a ddysgwyd yn ystod y
wers● Efallai bydd angen banc o’r gorchmynion hyn (ddim yn y drefn gywir) ar
daflen ar wahân yn dibynnu ar allu’r disgyblion.
81
Rysáit Teisen Fictoria
Cynhwysion
1. * 4 owns o fenyn
2. * 4 owns o siwgr
3. * 2 wy mawr
4. * dropyn o vanilla essence
5. * 4 owns o flawd
6. * jam
7. * siwgr eisin
Cyfarwyddiadau
1. Rhowch y b_______ yn y fowlenwedyn
2. Rh______ y _______ yn y _____________.wedyn
3. _______y _________ yn y _____________.wedyn
4. _______ y _________ yn y _____________.wedyn
5. Cym_____ y _________ yn y _____________.wedyn
6. Rhowch y _________ yn y _____________.wedyn
7. Rhowch y _________ yn y _____________.ar nwy marc ? Arhoswch am _____ munud
Bwytwch a mwynhewch!
● Dylai’r disgyblion argraffu’r rysáit erbyn diwedd y wers● Gellid gadael lle rhwng pob un o’r cyfarwyddiadau i’r disgyblion dynnu llun i
gyd-fynd â’r cyfarwyddiadau yn ystod, neu erbyn y wers nesaf● Gellid cywiro’r gwaith yn ystod y wers nesaf gyda’r disgyblion yn marcio
gwaith ei gilydd.
82
Ysgrifennu Ffurfiol
Cynllun Gwers 11
Blwyddyn: 9 (Gallu Cymysg)
Nod: Ysgrifennu llythyr cais am swydd
Adnoddau: Fideo IAW! , Rhaglen 26.2Taflen o hysbysebion ar gyfer swyddi yn NhwFframwaith ysgrifennu llythyr
Camau’r wers:
1. Gwylio fideo IAW! gyda’r dosbarth ar y cyd.
2. Holi’r disgyblion yn gyffredinol gan gyflwyno/adolygu’r eirfa angenrheidiol.- Oes gwaith rhan amser gyda ti? Oes- Pam rwyt ti’n gwneud y gwaith? Achos rydw i’n hoffi …- Faint o arian rwyt ti’n ennill? Achos rydw i eisiau arian- Wyt ti’n mwynhau’r gwaith? Ydw, dw i wrth fy modd- Pryd rwyt ti’n gwneud y gwaith? Ar ddydd Sadwrn- Sut cest ti’r gwaith? Gwelais i’r hysbyseb yn ffenest y siop
Ces i’r swydd ar ôl fy mrawdCes i’r swydd trwy ofyn yn y siopGwelais i’r hysbyseb yn y papur newydd
3. Edrych ar daflen hysbysebion ar gyfer swyddi rhan amser, e.e. taflen swyddi Nhw, tud. 15.
Tasg 1 - ysgrifennu hysbyseb gan ddefnyddio un o’r hysbysebion yn fframwaithTasg 2 - ysgrifennu llythyr cais yn ymateb i un o’r swyddi
Gellir defnyddio’r fframwaith ysgrifennu (Taflen 1) i gynorthwyo’r disgyblion.
4. Cyflwyno meini prawf asesu’r dasg i’r disgyblion
● ysgrifennu brawddegau cysylltiedig● amrywio patrymau brawddegol (gweler y fframwaith ysgrifennu)● sillafu’n gywir● paragraffu’n briodol● atalnodi’n gywir● defnyddio fformat cywir llythyr ffurfiol.
83
Gwers 11, Taflen 1
Fframwaith Ysgrifennu
84
Cyfeiriad ___________________________________
Cyfeiriad y cyflogwr
Annwy Syr/Madam
Hoffwn wneud cais am swydd yn _____________yn ystod gwyliau’r haf.Gwelais eich swydd yn ____________________Rydw i’n _________ oed ac yn mynd i ________Rydw i’n astudio __________ __________________________________ ________________________________ _____________ _______a ____________Mae diddordeb gyda fi mewn _______________Rydw i wedi gweithio yn ___________________Hoffwn i weithio yn ___________________achos rydw i’n hoffi gweithio gyda __________ arydw i’n mwynhau ____________________Rydw i’n gallu dechrau ar __________________
Diolch ichi am ystyried fy nghais.
Yr eiddoch yn gywir
enw
Ysgrifennu Ffurfiol
Cynllun Gwers 12
Blwyddyn: CA4 (Gallu Cymysg)
Nod: Ysgrifennu erthygl ar gyfer papur bro.
Adnoddau: Llyfr darllen: Rownd Laeth Pip, Cyfres SEBON
Cyd-destun
● Bydd y disgyblion wedi darllen y stori’n unigol neu fel gweithgaredd dosbarth mewn gwers flaenorol.
● Ar gyfer y gweithgaredd, dylid canolbwyntio ar ail ran y stori lle mae Pip yn cael ei achub oddi wrth y lladron gan y ci drws nesaf, (tudalen 9–14 yn unig).
Camau’r wers:
1. Rhannu’r disgyblion yn grwpiau o 3. Dylid ceisio sicrhau bod cymysgedd o alluoedd ym mhob grwp.
2. Cyflwyno llun (Sganio neu lungopïo llun 2, tudalen 12 o’r llyfr) i’r disgyblion.
3. Cynnig y pennawd Jac yn Achub y Dydd i’r disgyblion.
● Gellid defnyddio fframwaith ysgrifennu tebyg i’r un isod a defnyddio cymaint neu gyn lleied ohono ag a fynnir yn ôl gallu’r dosbarth/grwp - Taflenni 1 a 2. Mae geiriau/adrannau y gellid eu hepgor mewn print coch.
● I sicrhau na fydd y disgyblion yn copïo’n uniongyrchol o’r testun, gellir gwneud llungopi o’r testun a chuddio’r geiriau fel yn Nhaflen 3
4. Dylid trafod â’r disgyblion fod angen defnyddio’r trydydd person a’r amser gorffennol i ddisgrifio’r digwyddiadau yn y lluniau.
5. Un o’r disgyblion yn darllen yr erthygl fel bwletin newyddion ar y teledu neu’r radio a recordio’r gwaith ar recordydd casét neu fideo.
85
Gwers 12, Taflen 1
Jac yn Achub y Dydd
86
Dydd Gwener diwethaf roedd Pip yn dechrau eirownd laeth.
Aeth e i rif 6 Stryd y Bont fel arfer.
Clywodd e swn od yn dod o’r tu ôl i’r ty ac aeth e i’rcefn i weld.
Gwelodd e fod lladron yn ceisio torri i mewn i’r ty.
Yn anffodus, gwelodd y lladron Pip.
Roedden nhw’n bygwth Pip
ac roedden nhw yn ymosod ar Pip / arno fe
Wrth lwc roedd Jac yr Alsatian drws nesaf yn clywed yswn a neidiodd e dros y wal.
I ddechrau, roedd Pip yn poeni ond fe ymosododd yci ar y lladron.
Daeth Mr Lloyd y dyn llaeth i weld beth oedd ybroblem a gwelodd e’r lladron yn y gornel gyda’r ci.
Ffoniodd e am yr heddlu.
Aeth y ddau leidr yn y car gyda’r plismyn
Nawr mae’r ddau leidr yn y ddalfa.
Gwers 12, Taflen 2
Jac yn Achub y Dydd
87
Dydd Gwener diwethaf roedd Pip yn dechrau eirownd laeth.
Aeth e i rif 6 Stryd y Bont fel arfer.
Clywodd e swn od yn dod o’r tu ôl i’r ty ac aeth e i’rcefn i weld.
Gwelodd e fod lladron yn ceisio torri i mewn i’r ty.
Yn anffodus, gwelodd y lladron Pip.
Roedden nhw’n bygwth Pip
ac roedden nhw yn ymosod ar Pip / arno fe
Wrth lwc, clywodd Jac yr Alsatian drws nesaf y swn aneidiodd e dros y wal.
I ddechrau, roedd Pip yn poeni ond fe ymosododd yci ar y lladron.
Daeth Mr Lloyd y dyn llaeth i weld beth oedd ybroblem a gwelodd e’r lladron yn y gornel gyda’r ci.
Ffoniodd e am yr heddlu.
Aeth y ddau leidr yn y car gyda’r plismyn
Nawr mae’r ddau leidr yn y ddalfa.
Estyniad posib fyddai cynhyrchu erthygl yn ffurfiol ar becyn bwrdd gyhoeddi, e.e. Publisher.Gellid mewnforio sgan o’r llun a defnyddio fframwaith rhagosodedig ar gyfer tudalen flaenpapur bro.
Gwers 12, Taflen 3
88
89
RHAN6
Gweithgaredd HMS
Gweithdy 1
1. Defnyddiwch y fformat a gynigir yn Rhan 5 i lunio gwersi enghreifftiol sydd â thasg ysgrifennu’n ganolbwynt iddynt o dan y penawdau:
● Ysgrifennu personol a dychmygus● Ysgrifennu cofnodol/ffeithiol● Mynegi barn yn ysgrifenedig● Ysgrifennu ffurfiol.
2. Bydd yr hyfforddwr yn eich rhannu’n grwpiau gan roi’r cyfrifoldeb am un o’r penawdau uchod i bob grwp.
3. Defnyddiwch y rhestr a dynnwyd yn Rhan 1.
4. Penderfynwch ar lefel gallu’r gynulleidfa darged:● uchel eu gallu● canolig eu gallu● isel eu gallu.● gallu cymysg.
5. Defnyddiwch fframweithiau ysgrifennu a thaflenni hunanasesu pan fo’n briodol.
6. Cyfnewidiwch eich gwaith â grwp arall er mwyn cael ei adborth/mireinio.
7. Bydd yr hyfforddwr yn arddangos yr holl wersi ar furiau’r ystafell.
8. Cynrychiolydd o bob grwp i adrodd yn ôl i holl aelodau’r cwrs.
9. Bydd yr hyfforddwr yn teipio’r gwersi a lunnir ac yn eu hanfon at aelodau’r cwrs.
Defnyddio Meini Prawf ac Adborth i Godi Safonau GwaithYsgrifennu
Mae rhan hon y pecyn yn cynnig:
● ymdriniaeth gryno o’r broses ysgrifennu● meini prawf enghreifftiol sy’n seiliedig ar Ddisgrifiadau Lefel Cwricwlwm 2000● cynllun marcio testun enghreifftiol● gweithdy ymarferol lle mae cyfle i athrawon ystyried enghreifftiau o waith
disgyblion.
90
RHAN
7
Y Broses Ysgrifennu
Dadleua sylwebyddion megis Raimes (1983) a Byrne (1991) fod tywys disgyblion trwy’rbroses ysgrifennu yn codi safonau. Isod, cynigir enghraifft o’r broses ar waith (fe’icynhwysir hefyd ar dudalen 15 y pecyn hwn) yn y dosbarth ail iaith lle mae gofyn iddisgyblion lunio taflen wybodaeth am Abertawe.
● Trafod gofynion y dasg â’r disgyblion.
● Disgyblion yn llunio rhestr o’r lleoedd yr hoffen nhw eu cynnwys yn y daflen wybodaeth.
● Mewn grwpiau, y disgyblion yn dweud pam iddynt ddewis eu lleoedd a chynnig rhesymau pam. Pob grwp i gytuno ar restr.
● Grwpiau’n dewis dau hoff le o’u rhestr.
● Pob grwp yn adrodd yn ôl i weddill y dosbarth gan nodi‘r lleoedd a ddewiswyd a chynnig rhesymau pam. Athro/athrawes yn cofnodi ar y Bwrdd Gwyn/uwch-daflunydd gan sicrhau cyflwyno geirfa/patrymau iaith priodol.
● Disgyblion yn ysgrifennu drafft o’r pamffled.
● Disgyblion yn darllen gwaith ei gilydd gan gynnig gwelliannau ac ati.
● Disgyblion yn ailddrafftio’r gwaith.
● Disgyblion yn darllen eu gwaith yn ofalus ac yn ei gywiro.
91
92
Defnyddio Meini Prawf i Godi Safonau
Mae pwyslais cynyddol ar Asesu ar Gyfer Dysgu – Assessment for Learning - ac mae’r GrwpDiwygio Asesu (2003) yn cynnig arweiniad yn hyn o beth. Mae gwneud disgyblion ynymwybodol o feini prawf asesu yn greiddiol i’r cysyniad o Asesu ar Gyfer Dysgu. Sylfaeny meini prawf a lunnir mewn ysgolion yw Disgrifiadau Lefel, Cwricwlwm 2000 ac mae’renghreifftiau isod – sy’n cynnwys llafaredd, darllen ac ysgrifennu - wedi’u haddasuohonynt i’w defnyddio gan athrawon a’u disgyblion.
SIARAD (Llafaredd)
Sut dw i'n ennill marciau?Marciau
1 - 5 Defnyddio geiriau ac ymadroddion syml. Gofyn ac ateb cwestiynau syml gyda chefnogaeth athro.
6 - 10 Gofyn ac ateb cwestiynau. Peth amrywiaeth o eirfa a phatrymau. Ynganu a goslefu'n ddealladwy.
11 - 15 Gofyn ac ateb cwestiynau a gwneud gosodiadau. Defnyddio amrywiaeth o eirfa a phatrymau'n gywir fel arfer.
16 - 20 Gofyn cwestiynau ac ymateb, ychwanegu at yr atebion, gwneud gosodiadau, cynnig gwybodaeth a sôn am rai profiadau. Rhoi esboniadau byr a defnyddio mwy a mwy o batrymau brawddegol yn weddol gywir.
21 - 25 Dechrau sgwrs a chynnig cyfres o sylwadau. Rhoi rhesymau syml i gefnogi'r sylwadau. Defnyddio amrywiaeth o batrymau brawddegol a ffurfiau'r ferf gyda mesur da o gywirdeb.
26 - 30 Cymryd rhan mewn trafodaeth. Trafod gwybodaeth a gofyn ac ymateb yn synhwyrol i wybodaeth a dderbyniwyd. Rhoi barn, cytuno ac anghytuno a rhoi rhesymau dros gytuno ac anghytuno. Defnyddio amrywiaeth gynyddol o batrymau brawddegol ac amrywio amser a pherson y ferf yn gywir fel rheol.
93
DARLLEN
Sut dw i'n ennill marciau?
Marciau
1 - 5 Gallu deall geiriau a'u hynganu'n weddol gywir. Ymateb yn ddi-iaith.
6 - 10 Gallu deall geiriau ac ymadroddion syml. Darllen ambell ddarn syml.Ymateb ar lafar neu yn ddi-iaith.
11 - 15 Gallu deall mwy a mwy o eiriau, ymadroddion a darnau byr ac ymateb iddynt. Dechrau darllen yn annibynnol.
16 - 20 Gallu deall prif rediad a ffeithiau allweddol mewn paragraffau/sgyrsiau byr. Ymateb trwy gyfeirio at fanylion arwyddocaol. Gallu darllen yn annibynnol a chlir a chyda peth mynegiant.
21 - 25 Gallu dangos dealltwriaeth o ystod o ddeunyddiau addas trwy adnabod y digwyddiadau a'r cymeriadau a gyflwynir yn y testun. Gallu dewis ffeithiau perthnasol a mynegi barn yn syml. Darllen yn annibynnol, gallu darllen ar goedd yn glir a chyda mynegiant.
26 - 30 Gallu deall adnoddau addas, gan gynnwys peth deunydd dilys trwy ddewis a dethol y prif bwyntiau. Gallu mynegi barn am y deunydd a chynnig rhesymau dros y farn. Gallu casglu gwybodaeth o fwy nag un ffynhonnell i gwblhau tasgau penodol. Darllen testunau hirach yn annibynnol.
94
95
YSGRIFENNU
Sut dw i'n ennill marciau?
Marciau
1 - 5 Copïo'n gywir. Ysgrifennu geiriau a rhai ymadroddion syml, cyfarwydd o’r cof.
6 - 10 Ysgrifennu ymadroddion a rhai brawddegau i gyfleu gwybodaeth bersonol a ffeithiol. Sillafu'n gywir fel arfer.
11 - 15 Ysgrifennu nifer o batrymau addas syml yn weddol gywir. Defnyddioprif lythyren ac atalnod llawn yn weddol gyson.
16 - 20 Ysgrifennu nifer o frawddegau cysylltiedig (i greu paragraff byr). Bydd peth amrywiaeth yn y patrymau brawddegol a ddefnyddir. Sillafu'r rhan fwyaf o eiriau strwythur yn gywir. Defnyddio prif lythyren, gofynnod, collnod ac atalnod llawn yn weddol gywir.
21 - 25 Ysgrifennu dilyniant o frawddegau gydag amrediad o ymadroddion a phatrymau brawddegol. Mynegi barn yn syml. Sillafu'r mwyafrif o eiriau'n gywir. Defnyddio prif lythyren, gofynnod ac atalnod llawn yn gywir a defnyddio dyfynodau yn ôl yr angen.
26 - 30 Dechrau creu effeithiau trwy ddewis geiriau ac ymadroddion addas.Defnyddio paragraffau ac amrediad o gystrawennau. Dechrau manylu gan ystyried gofynion y dasg. Mynegi barn a chynnig rheswmam y farn. Sillafu mwyafrif y geiriau'n gywir ac atalnodi'n briodol.
96
Cynllun Cywiro Testun Enghreifftiol
O dan gystrawen wallus __________________ a i ar ochr y ddalen.
O gwmpas gwall treiglo a tr ar ochr y ddalen.
O gwmpas gwall sillafu a s ar ochr y ddalen.
Wrth ymyl gwall atalnodi
Paragraff newydd PN
* Ar ddiwedd y darn o waith nodir rhinweddau’r darn ac awgrymu lle i wella. Gosodtarged (hyd at dri) weithiau.
* Sillafu gwallus
Nodi’r gair a sillafwyd yn wallus, e.e. (x3) mynd
(y disgyblion i’w gopïo’n gywir deirgwaith)
* Cystrawen wallus
Yr athro i gopïo’r gystrawen wallus o waith y disgybl a’i marcio fel hyn:
✕ ✓
Myndais i’r ysgol › Es i’r ysgolMae rhan hon y pecyn yn cynnig enghreifftiau o waith lle mae disgyblion wediailddrafftio’u gwaith ysgrifennu.
Ysgol Eifionydd, Porthmadog
97
Taflen sylwadau ar waith disgyblion
98
Ysgol Greenhill, Dinbych-y-pysgod
99
Gweithgaredd HMS
Gweithdy 2
Mae’r gweithdy hwn yn cynnig:
● enghreifftiau o waith lle mae disgyblion wedi ailddrafftio’u gwaith ysgrifennuyn sgil adborth eu hathrawon
● cyfle i athrawon fynd trwy’r broses o gynnig adborth ar waith disgyblion er mwyn codi safonau
● enghraifft o waith o safon uchel lle mae cyfle i ystyried ei gyd-destun ar lawr y dosbarth.
Yn dilyn, mae enghreifftiau o’r modd y mae Gemma (dyddiadur), Amanda (adroddiad)ac Emily (ysgrifennu am Gaerdydd) wedi mynd ati i ailddrafftio’u gwaith ysgrifennu ynsgil adborth eu hathrawon.
100
101
102
103
104
105
106
Gweithgaredd HMS
Yn dilyn mae enghraifft o’r modd y mae Nick (ysgrifennu am Gaerdydd) wediailddrafftio’i waith yn sgil adborth ei athrawes.
Beth oedd hyd a lled yr adborth a gafodd Nick i wella ei waith?
Sut byddech chi’n ei annog i wella ei waith eto?
107
108
109
Gweithgaredd HMS
Yn dilyn mae tair enghraifft o waith disgyblion:● llythyr at ffrind post● dyddiadur gwyliau● stori am noson allan
1. Marciwch y testun gan ddefnyddio’r meini prawf a gynigir ar dudalennau 93-96.
2. Nodwch sut y byddech chi’n cynnig adborth i’r disgyblion ar sut i wella eu gwaith.
Gellwch ddefnyddio grid fel yr isod i hwyluso’r gwaith.
Teitl y gwaith:Dyddiad:
Rwyt ti wedi … defnyddir cymalau o’r meini prawf (tud. 95 yma)
Er mwyn gwella, rhaid iti ... defnyddir cymalau o’r
meini prawf (tud. 95 yma) gan geisio symud y disgybl i’r lefel uwch
Mae rhai adrannau yn gosod tasg ‘arbennig’ fel hyn yn achlysurol pryd mae’rdisgyblion yn gwybod y bydd rhaid iddyn nhw ailddrafftio’u gwaith yn sgil adbortheu hathrawon. Mae hyn yn cyfrannu at godi safonau.
110
111
112
113
114
115
Yn dilyn mae enghraifft o waith prosiect lle mae disgybl Blwyddyn 11 wedi llunio TeithlyfrByr i Deli.
Gan ystyried yr arweiniad a gynigir yn Rhan 3 – tudalen 15 - y pecyn hwn, lluniwch gamaua fyddai’n arweiniad i’r disgyblion rydych chi’n eu haddysgu i efelychu’r gamp.
Teithlyfr Byr i Deli
116
117
118
119
Gêmau Ysgrifennu
Mae’r astudiaeth hon yn cynnig enghreifftiau o gêmau/gweithgareddau difyr sy’n addas i’wcyflwyno i ddisgyblion CA3/CA4. Yn ogystal â datblygu sgiliau ysgrifennu, maent hefyd ynfodd o hybu llafaredd a sgiliau darllen. Nid yw’r gêmau hyn wedi’u cynnwys mewnunrhyw drefn blaenoriaeth.
Pam defnyddio gêmau iaith?
Mae defnyddio gêmau yn y dosbarth iaith yn:
● cynnig cyfleoedd i'r dysgwr siarad Cymraeg● cynnig cyfle i ganolbwyntio ar elfennau iaith penodol● cadarnhau eitemau iaith a gyflwynwyd eisoes● hyblyg - gellir eu cymhwyso’n hawdd ar gyfer gwahanol alluoedd/oedrannau ● fodd o ymarfer gwaith llafar, darllen ac ysgrifennu● ddefnyddiol ar gyfer adolygu● hyrwyddo cydweithio ymhlith disgyblion● hyrwyddo cystadleuaeth iach.
Paratoi
● Gall gêm/au fod yn rhan annatod o wers neu’n weithgaredd atodol ar ddechrau/diwedd gwers
● Rhaid cyflwyno'r iaith sydd yn angenrheidiol i chwarae'r gêm yn drylwyr● Dylai athrawon fod yn hyddysg yn y gêm cyn ei defnyddio yn y dosbarth● Gellir dangos sut i chwarae gêm gyda dau neu dri disgybl.
Ystyriaethau eraill
● Dylid amseru gêmau'n ofalus, h.y. ni ddylid treulio gormod o amser yn eu chwarae/paratoi ar eu cyfer
● Rhaid sicrhau bod pawb yn cymryd rhan.
120
RHAN
8
121
Rhestru geiriau
Nod: adolygu geirfa
Adnoddau: papur a phensil
Camau
1. Dewiswch thema, e.e. chwaraeon.
2. Gofynnwch i’r disgyblion ysgrifennu cymaint o eiriau ag y gallant mewn 2 funud.
3. Ar ddiwedd y cyfnod o 2 funud dywedwch ‘amser ar ben’ a gofynnwch iddynt gyfrif eu geiriau - y person gyda’r mwyaf yw’r enillydd.
4. Mewn grwpiau, pob disgybl, yn ei dro, yn darllen ei restr i’r gweddill; hwythau i ddileu’r geiriau sy’n cyfateb i’w rhai nhw.
5. Os ydy’r disgyblion yn cael trafferth cofio, cânt chwilota am y geiriau yn eu llyfrau.
6. Gellwch wneud y gêm yn anos trwy fynnu sillafiadau cywir.
Dwyn i gof (1)
Nod: ysgrifennu’n gywir
Adnoddau: darn darllen ar lefel briodol
Camau
1. Gosodwch gopïau o ddarn darllen yma ac acw yn y dosbarth.
2. Disgyblion yn mynd at y darn, yn ei ddarllen unwaith ac yna’n cerdded yn ôl at eu desgiau ac yn atgynhyrchu cymaint ag y gallant o’r darn.
3. Ailadrodd y broses tua 4/5 gwaith.
4. Athro/Athrawes yn dangos y darn ar uwchdaflunydd a’r disgyblion yn gwirio’u gwaith o ran cynnwys a chywirdeb iaith.
122
Dwyn i gof (2)
Nod: ysgrifennu’n gywir
Adnoddau: darn darllen ar lefel briodol
Camau
1. Gosodwch gopïau o ddarn darllen yma ac acw yn y dosbarth.
2. Rhannu’n barau; un disgybl yn mynd at y darn, yn ei ddarllen unwaith ac yna’n cerdded yn ôl at eu desgiau ac yn arddweud cymaint ag y gallant o’r darn i’w partner; hwnnw/honno’n ei ysgrifennu.
3. Ailadrodd y broses tua 4/5 gwaith gan newid rôl y partneriaid.
4. Athro’n dangos y darn ar uwchdaflunydd a’r disgyblion yn gwirio’u gwaith o ran cynnwys a chywirdeb iaith.
123
Adnabod y gair
Nod: Arddywediad
Adnodd: Unrhyw ddarn darllen
Tasgau amrywiol:
1. Arddweud testun gyda bylchau i’r disgyblion eu llenwi.
2. Arddweud enwau lleoedd a’r disgyblion yn eu hysgrifennu yn y man priodol ar fap o Gymru.
3. Athro’n darllen darn ar gyflymder ‘arferol’ sawl gwaith nes bod y disgyblion wedi gorffen ei ysgrifennu.
4. Pob disgybl mewn grwp yn cael brawddeg i’w darllen yn uchel – gweddill y disgyblion yn eu hysgrifennu ac yna’n penderfynu ar eu trefn.
Nodyn: Mae’r gyfrol Dictation, Davis a Rinvolucri (2001) yn gyforiog o syniadau.
124
Darllen neges
Nod: darllen yn uchel
Adnoddau: brawddeg wedi'i hysgrifennu ar ddarn o bapur, e.e. Wela i di wrth dafarn y Royal Oak yng Nghwmbrân am 8.45, nos Fawrth, 16 Ebrill.
Camau
1. Ysgrifennwch frawddeg ar ddarn o bapur a'i dangos i ddisgybl, sy’n eistedd agosaf atoch, am bum eiliad yn unig.
2. Y disgybl yn ysgrifennu'r frawddeg ac yn ei dangos i'r sawl sydd yn eistedd agosaf ato am bum eiliad yn unig.
3. Ailadrodd y broses nes bod pawb wedi cael cyfle i ysgrifennu'r neges.
4. Y disgybl olaf i ysgrifennu'r neges yn ei darllen yn uchel i weddill y dosbarth.
5. Yr athro/athrawes yn darllen y neges wreiddiol - mae'n siwr y bydd wedi newidyn sylweddol!
6. Pawb yn cael cyfle i ddarllen ei neges.
Nodyn: gall y gêm hon fynd rhagddi tra bo gweithgareddau arferol y dosbarth ar waith.
125
Cymharu llun a gair
Nod: darllen adroddiad ac yna ysgrifennu fersiwn gwell
Adnoddau: llun o ddigwyddiad; paragraff yn disgrifio'r digwyddiad ond yn cynnwys sawl camgymeriad ffeithiol
Camau
1. Dangos llun o ddigwyddiad ynghyd â disgrifiad gwallus rydych chi wedi'i baratoiohono.
2. Disgyblion yn ystyried y llun a darllen eich disgrifiad chi’n ofalus.
3. Athro'n darllen y disgrifiad gwallus ac yn annog y disgyblion i gynnig cywiriadau ar lafar. Dylid annog defnyddio iaith megis: Dw i'n anghytuno â’r hyn rwyt ti wedi ysgrifennu am ... etc.
3. Disgyblion yn ysgrifennu fersiwn gywir ac yna'n darllen gwaith ei gilydd.
4. Disgyblion yn penderfynu p’un ydy’r disgrifiad gorau.
126
Tystion
Nod: ymarfer yr amser gorffennol a'r amherffaith
Adnoddau: llun
Camau
1. Dangos llun i'r dosbarth am ychydig eiliadau ac yna ei guddio.
2. Disgyblion yn ysgrifennu un frawddeg yn unig am unrhyw agwedd ar y llun ar stribed o bapur.
3. Dangos y llun eto, a’r disgyblion yn ychwanegu brawddeg ar stribed arall.
4. Mewn grwpiau, y disgyblion yn rhoi eu brawddegau at ei gilydd ac yn eu defnyddio i lunio paragraff yn disgrifio’r llun.
5. Dangos y llun a chynrychiolydd o bob grwp yn darllen eu paragraff.
6. Y dosbarth yn pleidleisio ynglyn â pha grwp oedd y tystion gorau.
127
Sut maen nhw'n edrych
Nod: ysgrifennu disgrifiad o berson
Adnoddau: tâp fideo
Camau
1. Chwarae rhan fer o berson yn siarad ar fideo gyda'r sgrin wedi'i chuddio/duo.
2. Disgyblion yn ysgrifennu disgrifiad byr o'r person.
3. Chwarae’r tâp eto, y tro hwn wedi ei ddangos/oleuo.
4. Rhannu'r dosbarth yn grwpiau o bump a phawb yn cael cyfle i ddarllen disgrifiad ei gilydd.
5. Gofyn i'r dosbarth pa ddisgrifiad oedd nesaf ati - yn gyntaf ar lefel grwp ac yna ar lefel dosbarth cyfan.
Nodyn: Gellir ymestyn y gweithgaredd gan ofyn i'r disgyblion gynnig rhesymau am eu disgrifiadau.
128
Stori Stribed
Nod: darllen a chreu stori
Adnoddau: clawr cefn cylchgrawn IAW!2 gopi o’r cartwn – un gwreiddiol ac un gyda phob ffrâm wedi’i thorri gydag ambell air wedi’i ddileu
Camau
1. Darllen y cartwn mewn parau.
2. Casglu’r copi gwreiddiol.
3. Rhoi amlen i bob grwp yn cynnwys y dudalen wreiddiol gyda phob un o’r fframiau wedi’u torri a’u gwahanu.
4. Rhoi’r lluniau yn eu trefn gywir ac ysgrifennu’r geiriau coll, h.y. creu stori stribed eu hunain.
5. Dangos yr un gwreiddiol ar uwchdaflunydd gan roi cyfle i’r disgyblion wirio’u gwaith.
129
Sillafu Cywir
Nod: datblygu cywirdeb iaith
Adnoddau: papur a phensil
Camau
1. Adolygu 5-10 gair.
2. Arddweud y geiriau.
3. Rhannu’n grwpiau – disgyblion yn gwirio gwaith ei gilydd ac yn penderfynu p’un/pa rai yw’r sillafiad cywir.
4. Cymharu’r canlyniadau â’r dosbarth cyfan.
130
Bingo Bwrdd Gwyn/Du
Nod: datblygu sgiliau gwrando, darllen a deall ac ysgrifennu
Adnoddau: disgyblion: papur a phensilAthrawon:rhestr o eiriau
Camau
1. Dangos 10-15 o eiriau i’r dosbarth.
2. Gofyn i’r disgyblion ddewis ac ysgrifennu 5 o’r geiriau ar bapur.
3. Athrawes/Athro yn galw’r geiriau (nid mewn trefn).
4. Y disgybl cyntaf i gael 5 gair yn gweiddi Bingo.
131
ACCAC Cymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru, (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2000)
Byrne, D. Teaching Writing Skills (Longman 1991)
CBAC Codi Safonau Ysgrifennu: Ymateb i Waith Disgyblion (2000)
CBAC Datblygu Sgiliau Ysgrifennu (2003)
Clarke, S Targeting Assessment in the Primary Classroom (Hodder and Stoughton 2001)
Davis, P. a Rinvolucri, M. Dictation (Cambridge University Press 2001)
Estyn (SPAEM) Y Gymraeg yn Ail Iaith yn CA3 (1999)
Grwp Diwygio Asesu Asesu ar gyfer Dysgu: 10 egwyddor (2002)
Raimes, A. Techniques in Teaching Writing (Oxford University Press 1983)
132
LLYFRY
DDIAETH
Rhaglen Genedlaethol Hyfforddiant Mewn-swydd y Gymraeg
Agweddau ar Addysgu Cymraeg Ail Iaith
Rhestr Cyhoeddiadau
Rheolaeth Adran
Meithrin Sgiliau Darllen i Ddatblygu Rhaglenni Darllen Annibynnol
Meithrin Llafaredd yn y Dosbarth: Meithrin Sgiliau Gwrando
Meithrin Llafaredd yn y Dosbarth: Y Continuum Cyfathrebol (Gwaith Grwp)
Defnyddio’r Iaith Darged
Gwahaniaethu
Asesu a Chofnodi
Cynllun Gwaith Enghreifftiol CA4: Byd Gwaith
Arfer Dda: llyfryn a fideo
Addysgu a Dysgu Effeithiol yn CA4
Codi Safonau Llythrennedd: Datblygu Sgiliau Darllen
Gwneud y Defnydd Gorau o Gerddi
Astudio ‘Saith Pechod Marwol’
Gellir prynu copïau o’r cyfrolau hyn trwy gysylltu â
Siop Lyfrau CBAC
245 Rhodfa’r Gorllewin
Caerdydd CF5 2YX
☎ 029 2026 5063 / 029 2026 5112
Ffacs 029 2026 5073
www.cbac.co.uk