Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth - Food Skills Cymru · Olew had rêp Blodyn Aur Sawsiau Calon...

16
1 Food Provenance Events Toolkit sgiliaubwyd.cymru Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth

Transcript of Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth - Food Skills Cymru · Olew had rêp Blodyn Aur Sawsiau Calon...

  • 1Food Provenance Events Toolkit

    sgiliaubwyd.cymru

    Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth

    180416 LANTRA Welcome Pack WEL Toolkit PRINT.indd 1 25/04/2018 12:49

  • Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth2

    I bwy mae’r pecyn hwn?

    Ydych chi’n berchen ar un neu fwy o dai gwyliau, bythynnod, carafanau neu hyd yn oed tipi neu ddau?

    Does dim yn dweud ‘Croeso’ yn well na basged o fwyd a diod Cymreig. Os yw’ch gwesteion yn deulu â phlant ifanc neu gwpwl yn cael gwyliau rhamantus rhowch y dechrau gorau posib iddynt gyda bwyd a diod o’r ardal leol.

    180416 LANTRA Welcome Pack WEL Toolkit PRINT.indd 2 25/04/2018 12:50

  • 3Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth

    180416 LANTRA Welcome Pack WEL Toolkit PRINT.indd 3 25/04/2018 12:50

  • Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth4

    What’s so special about Welsh food and drink?Our grass is green, our rivers are deep, our mountains are high and our natural larder is plentiful. Wales has a long and proud tradition of producing outstanding food and drink, with an abundance of natural resources and raw food materials, and a concerted focus on developing new technologies in food production.

    Like most of what we do in Wales, Welsh food and drink is rooted in our communities, shaped by our landscape, and honed by our culture and language. Whether it’s artisan or mass-market, the warmth of our people comes through in the quality of what we produce.

    Wales is a place where the traditional is re-imagined by a new generation of bright young things, and provenance is protected by experienced old hands who have farmed the fields, and baked the bread, for decades.

    Tarddiad. Pam defnyddio bwyd Cymreig?

    Mae ein glaswellt ni’n wyrdd, mae ein hafonydd ni’n ddwfn, mae ein mynyddoedd ni’n uchel ac mae ein pantri naturiol ni’n llawn. Mae gan Gymru draddodiad hir a balch o gynhyrchu bwyd a diod gwych gan ddefnyddio digonedd o adnoddau naturiol a deunyddiau bwyd crai.

    Fel sy’n arferol yng Nghymru, mae bwyd a diod yn rhan annatod o’n cymunedau, maen nhw’n cael eu ffurfio gan ein tirwedd a’u mireinio gan ein diwylliant a’n hiaith. Ar ei orau, mae bwyd Cymru’n syml: y cynhwysion gorau, yn cael eu coginio’n fedrus gan bobl frwdfrydig.

    180416 LANTRA Welcome Pack WEL Toolkit PRINT.indd 4 25/04/2018 12:51

  • 5Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth

    Pam ddylwn i ddarparu pecyn croeso?

    ‘Does dim ail gyfle i roi argraff gyntaf’!Gan gofio hyn, mae’r croeso mae eich gwesteion yn ei gael wrth gamu dros drothwy eich llety yn hanfodol. Mae gwyliau hunan arlwyo wedi newid, mae’r hyblygrwydd a’r rhyddid maen nhw’n ei gynnig yn denu teithwyr profiadol â safonau uchel.

    Rhowch fwy i’ch gwesteion na’r hyn maen nhw’n ei ddisgwyl, ewch y filltir ychwanegol, rhowch syrpréis iddyn nhw drwy gynnig rhywbeth bach ychwanegol... dyna’r syniad. Mae’n eithaf tebygol y bydd eich gwesteion yn cyrraedd yn flinedig, yn llwglyd ac o dan ychydig o straen, felly beth am wneud iddyn nhw wenu drwy roi basged groeso sydd wedi cael ei pharatoi’n ofalus iddyn nhw.

    180416 LANTRA Welcome Pack WEL Toolkit PRINT.indd 5 25/04/2018 12:51

  • Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth6

    Dilynwch y camau hyn...

    Pa fath o lety ydych chi’n ei gynnig? Ydych chi’n gosod lle moethus, drud, neu encil syml yng nghefn gwlad?

    Dylai eich pecyn croeso adlewyrchu’r hyn rydych chi’n ei gynnig, a’ch prisiau.

    Pwy yw’r gwesteion? Ai teulu â phlant ifanc ydyn nhw?

    Neu gwpwl ar wyliau rhamantus?

    Ydyn nhw’n dod ag anifail gyda nhw?

    Gallech chi ddarparu danteithion fyddai at ddant plant neu anifeiliaid er mwyn creu argraff ar yr oedolion.

    Pryd maen nhw’n cyrraedd? Os yw pobl yn cyrraedd yn hwyr, gallech chi gynnwys rhywbeth hawdd i’w baratoi ar gyfer swper, ambell beth ar gyfer brecwast a detholiad o de perlysieuol neu siocled poeth.

    Efallai byddai pobl sy’n cyrraedd amser cinio’n gwerthfawrogi llysiau lleol i’w hysbrydoli i goginio swper. A gallwch chi roi cacen gartref iddyn nhw unrhyw bryd!

    Ydyn nhw’n dathlu achlysur arbennig? Gallwch chi gynnig darparu ar gyfer penblwyddi, misoedd mêl a phenblwyddi priodas drwy gynnwys potel o win, cwrw neu seidr lleol, er enghraifft, neu bowlen o ffrwythau, detholiad o siocledi lleol a cherdyn cyfarch.

    Iawn, dwi am fynd amdani. Sut mae penderfynu beth i’w roi yn y pecyn?

    1

    2

    3

    4

    180416 LANTRA Welcome Pack WEL Toolkit PRINT.indd 6 25/04/2018 12:51

  • 7Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth

    Beth mae hyn yn olygu yn ymarferol?Dyma rai engreifftiau:

    www.coastalcottages.co.uk/concierge/hampers/

    www.walescottageholidays.co.uk/holiday-extras/luxury-welsh-hampers

    www.blakelowcottages.co.uk/holiday-cottages/hamper/

    www.forestcottages.co.uk/hampers.html

    www.menaiholidays.co.uk/cottage-hampers

    www.littlewelshhampers.com/collections/hampers-collection

    Sut mae gwneud y pecyn yn unigryw?Y peth mwyaf unigryw am eich llety yw ei leoliad, felly gwnewch y mwyaf o’ch ardal leol drwy gynnwys cynnyrch gan grefftwyr lleol. Cysylltwch â chynhyrchwyr lleol a rhowch eu deunydd marchnata a gwybodaeth amdanyn nhw i’ch gwesteion er mwyn eu hannog i brynu rhagor ganddyn nhw. Gallech chi geisio trefnu disgownt i’ch gwesteion gan gynhyrchwyr lleol, neu ofyn i gynhyrchwyr lleol am ambell sampl am ddim yn gyfnewid am hyrwyddo eu cynnyrch.

    Ewch ati i gasglu perlysiau neu flodau tymhorol o’r ardd a gwnewch arddangosfa i groesawu eich gwesteion.

    Ysgrifennwch neges o groeso sy’n cynnwys rhestr o’r llefydd y gwnaethoch chi brynu’r eitemau, yn ogystal â chyfarwyddiadau i’r farchnad, deli, siop fferm, cigydd, siop bysgod a’r becws lleol. Gallech chi hefyd nodi ar ba ddyddiau neu wythnosau mae’r marchnadoedd a’r marchnadoedd ffermwyr lleol yn cael eu cynnal.

    Gofynnwch i’ch gwesteion os oes unrhyw anghenion dietegol ganddyn nhw a chofiwch gynnig cynnyrch llysieuol, heb glwten neu gynnyrch addas eraill yn y fasged.

    180416 LANTRA Welcome Pack WEL Toolkit PRINT.indd 7 25/04/2018 12:51

  • Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth8

    Gallwch chi ddarparu blas lleol mewn ffordd mor syml â chynnig llaeth, menyn a bara Cymreig pan mae’r gwesteion yn cyrraedd, ambell botel o gwrw lleol, potyn bychan o fêl lleol neu botyn o jam neu farmalêd ar gyfer brecwast.

    Dyma restr o opsiynau eraill gan gynnwys syniadau am gynhyrchwyr bwyd - nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr, felly beth am wneud ychydig o ymchwil eich hun er mwyn creu basged unigryw. Gallai eich gwesteion archebu’r basgedi o flaen llaw am gost ychwanegol neu fel rhan o gost llogi’r llety.

    Syniadau am fasgedi Croeso Cymreig.

    Llaeth (Calon Wen, Totally Welsh, Llaeth Cymreig, Daioni)Menyn (Dragon, Shirgar, Castle Dairies, Collier’s)Bara arbenigol lleol (Alex Gooch, Becws Tan Lan, Welsh Bakery)Te a choffi Cymreig (Te Welsh Brew, Poblado, Coffi Coaltown, Coffi Dwyfor)

    Pethau Sylfaenol.

    Pice ar y maen bychain Tan y Castell/Pice ar y maen Fabulous WelshcakesSiocled Nom Nom, Siocled Wickedly Welsh, Siocled Sarah BuntonThe Welsh Fudge CompanyMarmalêd Lemon Sisilaidd CoedcanlasSelwyn’s Seaweed SnacksHalen Môr Halen Môn, Halen Gwyr Gower Sea Salt a Halen Pembrokeshire Sea Salt CompanyCymysgedd Bara Brag Arbenigol Bacheldre MillersBara Lawr ParsonsMêl Cymreig Olew had rêp Blodyn AurSawsiau Calon LânBwydydd The Pembrokeshire Beach Food CompanyPoteli bychain Penderyn – wisgi, jin, fodca, gwirodlyn MerlynPoteli bychain o jin Dà Mhile gyda thonig Llanllyr Source

    Anrhegion bach.

    180416 LANTRA Welcome Pack WEL Toolkit PRINT.indd 8 25/04/2018 12:51

  • 9Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth

    Bacwn a selsig gan eich cigydd lleol neu eich siop fferm leol (Edwards o Gonwy, Charcuterie)Bara lleol (Alex Gooch, Becws Tan Lan, Welsh Bakery)Menyn Cymreig (Dragon, Shirgar, Castle Dairies, Collier’s, Calon Wen)Iogwrt (Llaeth y Llan, Rachel’s Organic, Daffodil Foods)Wyau maes lleol (Birchgrove, Ochr Cefn Isa, Tŷ Mawr, Ellis Eggs)Madarch (The Mushroom Garden)Llaeth Cymreig (Calon Wen, Totally Welsh, Daioni, Ty Tanglwyst, Llaethdy Llŷn)Te a choffi Cymreig (Te Welsh Brew, Coffi Dwyfor, Coffi Coaltown, Poblado, Coffi Cariad)

    Basged Frecwast.

    180416 LANTRA Welcome Pack WEL Toolkit PRINT.indd 9 25/04/2018 12:51

  • Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth10

    Dylunio: four.cymru Lluniau: © Hawfraint y Goron (2017) Visit Wales, Janet Baxter

    Te Welsh BrewPice ar y maen Tan y CastellBara brith Waffles TregroesBisgedi brau AberffrawMenyn Cymreig (Dragon, Shirgar, Calon Wen, Castle Dairies, Collier’s)

    Te prynhawn.

    180416 LANTRA Welcome Pack WEL Toolkit PRINT.indd 10 25/04/2018 12:51

  • 11Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth

    Caws (Cosynnau bychain Snowdonia Cheese Company (200g), Caws Cenarth, Caws Teifi, Cwmni Caws Caerfyrddin)Cracers (Cracers Cradoc’s, Cracers Cnwc, Cracers Caws Tregroes)Cyffeithiau (Picl Cymysg Radnor Preserves, Preservation Society, Penylan Preserves, Goetre Farm, Miranda’s Preserves, Welsh Lady Preserves, Wendy Brandon)Gwin Cymreig (Gwinllanoedd Ancre Hill, Glyndwr, Gwinllan Conwy, Llaethliw, Llanerch, Pant Du, Penarth, Sugarloaf, Parva Farm, White Castle)Seidr a Seidr Gellyg (Apple County Cider, Pant Du, Ty Gwyn, Gwynt y Ddraig)Gwin ffrwythau a pherthi (Gwinllan Cwm Deri)

    Caws a gwin neu seidr.

    180416 LANTRA Welcome Pack WEL Toolkit PRINT.indd 11 25/04/2018 12:52

  • Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth12

    Dylunio: four.cymru Lluniau: © Hawfraint y Goron (2017) Visit Wales, Janet Baxter

    Cwrw golau Annwyl Tomos a LilfordGwirodlyn Jin CondessaGwin Pefriog Ancre HillPâté Potted Pig Cymreig neu pâté PatchworkCracers Caws TregroesFodca PenderynCreision Jones o GymruSiocled Cymreig neu daffi triog

    Basged Parti.

    180416 LANTRA Welcome Pack WEL Toolkit PRINT.indd 12 25/04/2018 12:52

  • 13Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth

    Cig eidion Cymreig, cig oen Cymreig, porc, dofednod neu helgig CymreigTatws neu lysiau tymhorol lleolSawsiau Calon Lân fel Mwstard, Saws Mintys, Rhuddygl Poeth, Jeli Cyrens CochPoteli o win, cwrw neu seidr Cymreig

    Cinio dydd Sul.

    180416 LANTRA Welcome Pack WEL Toolkit PRINT.indd 13 25/04/2018 12:52

  • Dyma gyfle perffaith i gyflwyno blas lleol ac i roi croeso cynnes Cymreig. Mae’r rhestr isod yn cynnwys cynhyrchwyr posib:Coffi Dwyfor: amrywiaeth lawn gan gynnwys ffyn coffi Masnach Deg, bagiau te mewn amlenni, te ffrwythau a pherlysiau, siocled poeth, llaeth, siwgr a bisgedi unigol.Welsh Brew: cydynau coffi, te, te arbenigol a the trwytho.Mae Brecon Carreg, Princes Gate, Tŷ Nant, Cerist, Decantae a Pant Du: i gyd yn cynnig poteli bychain o ddŵr llonydd a phefriog.Dyna’r opsiynau hawdd. Ydych chi eisiau gwneud eich hambwrdd chi’n unigryw? Dewch o hyd i gwmni lleol ac ewch ati i ‘Gymreigio’ y bisgedi traddodiadol i mewn i bice ar y maen bychain neu fara brith.Pice ar y Maen Fabulous Welshcakes yng Nghaerdydd: amrywiaeth o flasau mewn pacedi unigol.Bisgedi Aberffraw: pacedi dwbl o deisennau brau traddodiadol.Tan y Castell: pecynnau o ddwy o bice ar y maen.Popty Bakery Ltd: pice ar y maen unigol wedi eu lapio, teisennau brau a thafelli o fara brith.Os oes amser gennych chi, ewch ati i bobi bisgedi cartref a’u gweini mewn jariau Kilner er mwyn creu cyffyrddiad personol fydd yn creu argraff.

    Hambwrdd croeso yn ystafell wely’r gwesteion.

    Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth14

    180416 LANTRA Welcome Pack WEL Toolkit PRINT.indd 14 25/04/2018 12:52

  • Gan bod ganddyn nhw amser i ymlacio, efallai y gallech chi annog eich gwesteion, yn enwedig y rhai ifanc, i roi cynnig ar ambell rysáit Gymreig os wnewch chi ddarparu rysáit a chynhwysion mewn pecyn parod, fel:Pice ar y maen – blawd, menyn Cymreig, siwgr, ffrwythau sych, wyau lleolBara brith – te Welsh Brew, siwgr, ffrwythau sych, wyau lleol, sbeis Cawl – cig eidion neu gig oen Cymreig, gwreiddlysiau, cennin, persli a darn o gaws Caerffili i’w fwyta gyda’r cawl gorffenedig

    Ryseitiau Cymreig traddodiadol.

    15Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth

    180416 LANTRA Welcome Pack WEL Toolkit PRINT.indd 15 25/04/2018 12:53

  • Pecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth16

    Gweler y ddolen isod am restr fwy cynhwysfawr o gynhyrchwyr bwyd Cymreig:Nid dim ond enwogion y diwydiant bwyd sy’n bwysig. Porwch drwy gyfeirlyfr cynhyrchwyr a chyfanwerthwyr bwyd a diod Cymru - cyfeirlyfr cynhwysfawr o holl brif gyflenwyr Cymru.

    https://issuu.com/uwicpublications/docs/welsh_food_and_drink_directory_2016

    Mae’r rhan fwyaf o archfarchnadoedd yn gwerthu ychydig o gynnyrch Cymreig fel te Welsh Brew, llaeth, menyn, caws, wyau, cyffeithiau, cigoedd, selsig a bacwn, llysiau, bisgedi, pice ar y maen, a bara brith. Weithiau, mae siopau fferm, delis lleol neu siopau bwyd arbenigol yn cynnig gwasanaeth archebu a dosbarthu, felly holwch nhw. Neu mae dosbarthwyr mawr hefyd yn gallu dosbarthu’n uniongyrchol a hynny am ddim, hyd yn oed am archeb fechan.

    Cyfanwerthwyr sy’n darparu bwyd a diod Cymreig:Blas ar Fwyd www.blasarfwyd.com

    Harlech Frozen Foods www.harlech.co.uk

    Castell Howell www.castellhowellfoods.co.uk

    Tayst www.tayst.co.uk

    Vin Sullivan www.vinsullivan.com

    Mintons www.mintonsgoodfood.co.uk

    Dolenni defnyddiol.

    Dylunio: four.cymru Lluniau: © Hawfraint y Goron (2018) Visit Wales, Janet BaxterPecynnau Croeso Cymreig Pecyn Cymorth16

    Am fwy o wybodaeth cysylltwch âsgiliaubwyd.cymru | 01982 [email protected] | @foodskillscymru

    180416 LANTRA Welcome Pack WEL Toolkit PRINT.indd 16 25/04/2018 12:53