PECYN RECRIWTIOdistinctivepeople.co.uk/wp-content/uploads/2020/02/NWHA... · 2020. 2. 15. · PECYN...

16
PECYN RECRIWTIO Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi

Transcript of PECYN RECRIWTIOdistinctivepeople.co.uk/wp-content/uploads/2020/02/NWHA... · 2020. 2. 15. · PECYN...

  • PECYN RECRIWTIO

    Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi

  • PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL CARTREFI

    2

    Cynnwys

    1. Llythyr o groeso ........................................................................................................................... 3

    2. Neges oddi wrth ein Cyfarwyddwr Gweithrediadau ................................................................... 4

    3. Dyddiadau allweddol .................................................................................................................. 5

    4. Y Broses o wneud Cais ................................................................................................................ 5

    5. Hysbyseb swydd .......................................................................................................................... 5

    6. Prif Fuddion ................................................................................................................................. 6

    7. Gwybodaeth am Tai Gogledd Cymru .......................................................................................... 7

    Ein Gwerthoedd ......................................................................................................................... 8

    Diwylliant ................................................................................................................................... 8

    Pwyntiau gwerthu unigryw ........................................................................................................ 9

    Ymddygiadau arwain.................................................................................................................. 9

    8. Cwrdd a’r Tîm Gweithredol ....................................................................................................... 10

    9. Adroddiadau uniongyrchol ....................................................................................................... 11

    10. Manylebau Rôl Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi ................................................................. 12

    11. Rhagor o wybodaeth ................................................................................................................. 15

  • PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL CARTREFI

    3

    1. Llythyr o groeso Annwyl Cyfarwyddwr Cynorthwyol posibl,

    Diolch i chi am eich diddordeb yn Tai Gogledd Cymru ac yn fwy penodol yn rôl Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymunedau. Yn awr rydym yn edrych at ein twf a’n datblygiad i’r dyfodol. Mae gennym Gynllun Corfforaethol, fydd yn mynd â ni hyd at 2021, ac rydym ar hyn o bryd yn mapio ein gweledigaeth a’n cyfeiriad tu hwnt i hynny.

    Mae’n fraint i mi fod yn gweithio gyda thîm gwych o bobl tu mewn i Tai Gogledd Cymru. Ond rydym hefyd angen tîm gwych ar ein Uwch Dîm Arweinyddiaeth i arwain y ffordd a’n cynorthwyo i gyflawni ein gweledigaeth i’r dyfodol. Mi wnes i ymuno gyda Tai Gogledd Cymru ym mis Tachwedd 2016, a chyda chefnogaeth ein Tîm Uwch Arweinwyr a’r staff, rydym wedi cyflawni llawer yn ystod y tair blynedd ddiwethaf. Rydym wedi wynebu rhai heriau ac mae’r bobl sydd yma’n gwybod o ddifri sut i weithio gyda’i gilydd ac amlygu ein diwylliant o ‘Un Tîm’. Yn awr rydym eisiau gwneud newidiadau i’n cryfhau ac i’n gwneud yn fwy cydnerth. Rydym wedi ail ariannu yn ddiweddar er mwyn ateb cyfres o amcanion strategol a rhoi mwy o allu i ni barhau i ddatblygu ein cartrefi newydd. Rydym ar hyn o bryd yn darparu cartrefi a gwasanaethau i dros 2,600 o gartrefi ar draws y Gogledd, a byddwn yn parhau i wneud buddsoddiad sylweddol yn ein cartrefi. Mae ein tîm gwaith trwsio mewnol yn gwneud y gwaith trwsio o ddydd i ddydd, gyda balchder a gwybodaeth leol, sy’n arbennig o werthfawr i’n cwsmeriaid. Mae’n bwysig i ni ymgysylltu gyda’n tenantiaid a gwrando arnynt, a byddwn yn gweithio ochr yn ochr gyda phreswylwyr sy’n cymryd rhan yn ein Panel Tenantiaid a Chymunedau. Mae’r bobl hynny’n ein cynorthwyo i ddeall anghenion ein tenantiaid yn awr ac i’r dyfodol. Mae gennym hefyd Grŵp Ymateb Cyntaf sy’n gwella y ffordd y bydd tenantiaid yn ymwneud a chyfranogi mewn penderfyniadau. Rydym yn falch o’n Grŵp Tai â Chymorth a’r gwaith y byddwn yn ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd. Rydym wedi darparu cartrefi a gwasanaethau i bobl fregus ers dros 20 mlynedd. Rydym yn darparu dros 300 o unedau tai â chymorth i bobl fregus, yn cynnwys y digartref, pobl sydd â phroblemau cyffuriau ac alcohol, materion iechyd meddwl, cyn-droseddwyr, pobl ag anableddau dysgu a phobl ifanc sy’n gadael gofal.

    Rydym yn chwilio am Cyfarwyddwr Cynorthwyol fydd yn rhannu ein dyhead ar gyfer Tai Gogledd Cymru ac sy’n meddu’r ynni a’r weledigaeth strategol i gynorthwyo i lunio ein llwyddiant yn y dyfodol. Os yw hyn yn apelio atoch chi, byddem yn falch iawn o glywed gennych. Os byddwch eisiau trafod y rôl yn bellach os gwelwch yn dda ffoniwch Denise o Distinctive People ar 07833 475669 neu [email protected]. Edrychwn ymlaen at glywed gennych. Helena Kirk, Prif Weithredwr

    mailto:[email protected]

  • PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL CARTREFI

    4

    2. Neges oddi wrth ein Cyfarwyddwr Gweithrediadau

    Annwyl ymgeisydd, Diolch am eich diddordeb yn y swydd yma. Mae hwn yn amser gwych i ymuno â Tai Gogledd Cymru. Mewn ymateb i newid yn nisgwyliadau cwsmeriaid, tîm a rheoleiddwyr, rydym yn newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i ddarparu gwasanaeth gwych i'n cwsmeriaid am flynyddoedd lawer i ddod.

    Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn ymuno â'n Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd a'r Rheolwyr i wireddu ein Gweledigaeth. Mae gan y tîm hwn ran allweddol i'w chwarae wrth adnabod a chyflawni newid ar y cyd a sicrhau bod gwelliant a sicrwydd parhaus yn cael ei gynnal. Yn ogystal â bod yn rhan o'n Uwch Dîm Arweinyddiaeth, byddwch yn arwain ac yn datblygu adrannau sylweddol o fewn y grŵp. Mae'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi gyda chyfrifoldeb am arwain ein hisadran cynnal a chadw, rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol eiddo profiadol gyda llygad craff am wasanaeth cwsmeriaid a ffyrdd newydd o weithio. Rydym eisiau creu atebion byw gwell i'r bobl a'r cymunedau rydym yn gwasanaethu ynddynt ac rydym yn credu y byddwn yn gwneud hynny gyda pherthnasoedd sydd wedi'u hadeiladu ar ymddiriedaeth, undod ac ymrymuso, felly byddwn yn gofyn i chi rannu'r Weledigaeth honno hefyd. Edrychwch ar ein Gwefan, yn enwedig ein dogfennau allweddol o dan Amdanom Ni, a gweld a ydych chi'n rhannu ein Gweledigaeth a'n Gwerthoedd. Felly, beth sydd yno i beidio â’i hoffi! Edrychwch ar y pecyn briffio hwn i gael mwy o wybodaeth am y swydd. Os ydych chi'n teimlo mai hon yw'r swydd i chi, yna cysylltwch â Denise ein hymgynghorydd ac anfon eich cais i mewn. Mae Tai Gogledd Cymru eich angen chi i'n helpu ni i wneud gwahaniaeth! Diolch i chi eto am eich diddordeb. Pob lwc, Brett Sadler Cyfarwyddwr Gweithrediadau

  • PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL CARTREFI

    5

    3. Dyddiadau allweddol

    Dyddiad cau: 9yb, 9 Mawrth

    Dyddiad y cyfweliad: Cam cyntaf: 16 Mawrth, Cam terfynol: I’w gadarnhau

    4. Y Broses o wneud Cais I wneud cais, cyflwynwch eich CV (3 ochr A4 ar y mwyaf) a datganiad yn ymateb i'r 3 chwestiwn canlynol (cyfanswm o 2 ochr A4): 1. Pa sgiliau a phrofiad proffesiynol sydd gennych i’w rhoi i'r swydd 2. O'ch ymchwil, sut ydych chi'n teimlo y mae eich arddull arwain yn cyd-fynd â'n diwylliant a'n sefydliad 3. Beth yw eich cyflawniadau mwyaf sy'n berthnasol i'r swydd hon dros y 2 flynedd ddiwethaf E-bostiwch eich CV a'ch ymatebion at [email protected] gan nodi Teitl y Swydd fel testun eich e-bost erbyn 9yb ddydd Llun y 9fed o fis Mawrth 2020.

    5. Hysbyseb swydd

    mailto:[email protected]

  • PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL CARTREFI

    6

    6. Prif Fuddion Rydym yn cydnabod pwysigrwydd denu a chadw gweithlu o safon uchel, llawn cymhelliant a hapus lle mae eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi, ei barchu a'i wobrwyo. Felly rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddarparu telerau ac amodau cyflogaeth i'n staff - nid yn unig yr hyn sy'n mynd i'ch cyfrif banc bob mis, ond y profiad llawn o weithio gyda Tai Gogledd Cymru. Crynhoir yr elfennau allweddol isod (yn seiliedig ar oriau llawn amser - 35 awr fel arfer).

    Trefniadau gweithio hyblyg

    25 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl wrth ymuno gan gynyddu un diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 30 diwrnod - gyda 3 o'r diwrnodau hynny i'w cymryd adeg y Nadolig.

    Gwyliau banc statudol (8)

    Caniatâd i hanner diwrnod o wyliau gael ei ddyfarnu bob chwe mis, os na chymerir absenoldeb salwch

    Ymrwymiad i faterion teulu-gyfeillgar gyda gwell tâl mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu

    Pensiwn cyfrannol gyda'r Cynllun Pensiwn Tai Cymdeithasol

    Cefnogaeth i bobl sy'n dymuno astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol cydnabyddedig perthnasol

    Cefnogaeth i wella sgiliau yn y Gymraeg

    Cyfraniad ariannol at danysgrifiadau aelodaeth broffesiynol lle bo hynny'n berthnasol

    Tâl yn ystod cyfnodau o absenoldeb salwch hyd at uchafswm o 6 mis yn llawn a 6 mis hanner cyflog

    Cynllun Arian Iechyd Am Ddim am gymorth gyda Optegol, Deintyddol, Sgrinio Iechyd, Ffisiotherapi, Osteopathi, Podiatreg / Trin Traed, Ceiropracteg, Aciwbigo, Homeopathi, Ymgynghoriadau a Sganiau ynghyd â sesiynau cwnsela wyneb yn wyneb a Gwasanaeth Cyfreithiol a Iechyd a Lles 24/7.

    Aelodaeth Campfa Gorfforaethol (Cynghorau Lleol)

    Ymrwymiad cryf i faterion iechyd a diogelwch gyda hyfforddiant a chyfleusterau priodol yn cael eu darparu

    Cyhoeddir y wybodaeth hon fel canllaw i ymgeiswyr ac nid yw'r manylion yn rhan o'r amodau cyflogaeth. Rhoddir manylion llawn telerau ac amodau cyflogaeth y Gymdeithas i staff sy'n cael cynnig cyflogaeth. Yn gyffredinol, mae buddion staff rhan-amser ar sail pro rata. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, dylech eu gofyn yn y cyfweliad.

  • PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL CARTREFI

    7

    7. Gwybodaeth am Tai Gogledd Cymru Cafodd Tai Gogledd Cymru ei sefydlu yn 1974 ac mae wedi bod yn darparu cartrefi a gwasanaethau am 45 mlynedd. Rydym yn gymdeithas tai lwyddiannus gyda thros 2,600 o gartrefi a chydag ymrwymiad llwyr i’r cymunedau ar draws y Gogledd. Rydym yn cyflogi hyd at 180 o bobl ac yn falch o fod yn dal achrediad Arian oddi wrth Buddsoddwyr mewn Pobl. Mae ein holl weithwyr cyflogedig yn gweithio i gyfres o werthoedd sydd gyda’i gilydd yn crynhoi beth yw cymeriad y sefydliad.

    Rydym yn deall pa mor werthfawr a phwysig yw cartref da. Dyna le mae ein calon. Yn ogystal â chynnal y cartrefi sy’n bodoli’n barod, byddwn yn adeiladu rhai newydd gydol yr amser. Fel rhan o’n Cynllun Corfforaethol, mae gennym ymrwymiad i gael dros 200 o gartrefi newydd o ansawdd uchel erbyn 2021. Eleni, rydym wedi cwblhau datblygiad o 12 cartref ym Mae Colwyn a dechrau ar gynllun Gerddi Canada yng Nghaergybi, ac mae mwy i ddod. Fodd bynnag, rydym yn ymwneud gyda mwy nag adeiladau yn unig; rydym yn arwain y farchnad yn y rhanbarth hwn mewn meysydd hanfodol fel Tai â Chymorth, darparu llefydd byw a gwasanaethau i bobl fregus yn cynnwys y digartref, pobl â thrafferthion cyffuriau ac alcohol a helbulon iechyd meddwl. Mae rhoi llais i’n tenantiaid yn bwysig i ni, ac mae’n gyrru ymlaen beth fyddwn yn ei wneud ym mhob rhan o’r sefydliad. Mae gennym ymrwymiad trwy ein Cynllun Corfforaethol i gynyddu cyfleoedd ymgysylltu, ac mae hefyd Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid sy’n llunio sut y byddwn yn ymgysylltu. Byddwn yn ogystal yn gweithio ochr yn ochr gyda phreswylwyr a’n Panel Tenantiaid a Chymunedau, sy’n ein cynorthwyo i ddeall anghenion ein tenantiaid yn awr ac i’r dyfodol.

    I gael gwybod mwy, ewch i wefan Tai Gogledd Cymru www.nwha.org.uk

    Gallwch hefyd ddarllen ein Cynllun Corfforaethol a’r Adolygiad Blynyddol diweddaraf yma:

    Cynllun Corfforaethol 2018 – 2021 https://www.nwha.org.uk/wp-

    content/uploads/2017/11/Corporate-Plan-cy.pdf

    Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 https://www.nwha.org.uk/wp-content/uploads/2019/09/NWH-Annual-review-Welsh-6-compressed.pdf

    http://www.nwha.org.uk/https://www.nwha.org.uk/wp-content/uploads/2017/11/Corporate-Plan-cy.pdfhttps://www.nwha.org.uk/wp-content/uploads/2017/11/Corporate-Plan-cy.pdfhttps://www.nwha.org.uk/wp-content/uploads/2019/09/NWH-Annual-review-Welsh-6-compressed.pdfhttps://www.nwha.org.uk/wp-content/uploads/2019/09/NWH-Annual-review-Welsh-6-compressed.pdf

  • PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL CARTREFI

    8

    Ein Gwerthoedd

    Yn ddiweddar mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth (UDA) wedi gwneud gwaith yn ymwneud â diwylliant, ein pwyntiau gwerthu unigryw a'n hymddygiad arwain. Diwylliant Geiriau i ddisgrifio ein diwylliant: • Un Tȋm/sefydliad • Gofalgar • Gwneud gwahaniaeth • Uchelgeisiol • Cael eich gwerthfawrogi • Diogel • Cadarnhaol • Cyfle i gyfranogi • Yn gwrando • Cynhwysol • Tryloyw • Dilys • Yn falch i weithio yma

  • PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL CARTREFI

    9

    Pwyntiau gwerthu unigryw

    Ar hyn o bryd 1) Tai â chymorth 2) Brand/enw 3) Ystwythder 4) Gwydnwch ariannol

    Yn y dyfodol 1) Ffocws Cwsmeriaid 2) Cyflogwr gwych 3) Gwerth am arian 4) Pobl hŷn 5) Ansawdd/ safon y stoc

    Ymddygiadau arwain

  • PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL CARTREFI

    10

    8. Cwrdd a’r Tîm Gweithredol

    Helena Kirk – Prif Weithredwr

    Ymunodd Helena Kirk gyda Thai Gogledd Cymru fel Prif Weithredwr yn Hydref 2016. Mae Helena wedi gweithio yn y sector tai ers 1982, gan ennill profiad helaeth gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai traddodiadol a rhai trosglwyddo stoc. Dechreuodd ei swyddi gydag un mewn gwasanaethau cwsmer rheng flaen ac maent wedi cynnwys pedair swydd Cyfarwyddwr gynharach yn Birmingham, Henffordd, Coventry a Swydd Lincoln. Cyn ymuno gyda Tai Gogledd Cymru roedd hi’n aelod o’r tîm Gweithredol ym Mhartneriaeth Tai Shoreline yn Grimsby am 6 mlynedd. Fe ymunodd hi gyda Phartneriaeth Tai Shoreline yn 2010, gan ddychwelyd i rôl gyda chyfrifoldeb uniongyrchol am wasanaethau cwsmer am 7 mlynedd yn gweithio mewn ymgynghoriaeth tai. Mae hi’n aelod o’r Sefydliad Tai Siartredig ac mae ganddi radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes.

    Brett Sadler – Cyfarwyddwr Gweithrediadau

    Mae Brett Sadler wedi gweithio i Tai Gogledd Cymru am dros saith mlynedd, ac yn y sector tai am dros 18 mlynedd, mewn amrywiaeth o rolau uwch arweinyddiaeth, yn cynnwys Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae ganddo ddiddordeb mawr ym mhopeth digidol ac mewn sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y lefelau uchaf o wasanaeth sydd ar gael. Mae Brett yn Aelod Corfforaethol o’r Sefydliad Tai Siartredig ac yn meddu ar Radd Anrhydedd mewn Hyfforddi a Mentora. Yn ddiweddar cwblhaodd MBA trwy’r Brifysgol Agored.

    Jayne Owen – Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau

    Mae Jayne yn gyfrifydd cymwysedig (CIPFA) gyda 30 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddus, 5 mlynedd fel Trysorydd/Cyfarwyddwr Cyllid a chyn ymgymryd â’r swydd hon, bu Jayne yn cyflawni swydd Cyfarwyddwr Cyllid (Heddlu a Throsedd) ar gyfer Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf. Roedd y swyddi blaenorol hyn yn cynnwys cymhlethdod sylweddol, gydag atebolrwydd dros gyllidebau gwerth miliynau o bunnoedd ynghyd â chynghori ar y defnydd o'r adnoddau hynny. Mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys rheoli trysorlys,

  • PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL CARTREFI

    11

    cynllunio ariannol, archwilio, caffael, comisiynu, gwerth am arian, trawsnewid sefydliadol a llywodraethu effeithiol. Cyn ymgymryd â’r swydd hon, bu Jayne yn gweithio fel Trysorydd i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Manceinion Fwyaf a chyn hynny swyddi amrywiol ar gyfer Cyngor Trafford. Mae hi'n cynnig ehangder o brofiad sy'n mynd y tu hwnt i'w harbenigedd ariannol yn enwedig, diwygio gwasanaethau cyhoeddus, gweithio mewn partneriaeth, strategaeth ystadau a rheoli perfformiad. Mae gyrfa Jayne wedi'i gwreiddio yn y sector cyhoeddus, gan ymboeni'n ddirfawr am rôl y sector cyhoeddus, gwirfoddol a mentrau cymdeithasol mewn cymdeithas.

    9. Adroddiadau uniongyrchol

    Cyfardwyddwr Cynorthwyol

    Cartrefi

    Rheolwr Archwilio

    Cydymffurfiad

    Rheolwr Atgyweirio

    Mewnol

    Rheolwr Asedau a Chyfleusterau]

  • PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL CARTREFI

    12

    10. Manylebau Rôl Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi

    TEITL Y SWYDD Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi

    COD Y SWYDD

    ADRAN Gweithrediadau ISADRAN(NAU) Cartrefi

    YN ATEBOL I Cyfarwyddwr Gweithrediadau

    YN GYFRIFOL AM

    Rheolwr Trwsio Mewnol Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau Rheolwr Archwilio Cydymffurfio

    PWRPAS Y SWYDD

    Mae'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi yn gyfrifol am arwain ac integreiddio'r Timau Gwaith Trwsio mewnol, Gwaith Cynlluniedig a Cynnal a Chadw Tiroedd, Cyfleusterau a Rheoli Asedau, Iechyd a Diogelwch a chydymffurfiaeth, Sicrwydd Data ac Addasiadau mewn modd effeithiol. Bydd deilydd y swydd yn sicrhau bod ein strategaethau rheoli asedau a chaffael a rhaglenni buddsoddi mewn cynnal a chadw yn cael eu cyflenwi, a bod staff yn gweithredu o fewn polisïau, cyllidebau a rheolau Tai Gogledd Cymru gan gynnwys fframweithiau rheoleiddio perthnasol. Bydd deilydd y swydd yn aelod o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a disgwylir iddo/iddi gyfrannu at gyflawni amcanion y Gymdeithas ynghyd â hyrwyddo gwaith Tai Gogledd Cymru i randdeiliaid allanol ac asiantaethau partner ledled y rhanbarth.

    ATEBOLRWYDD Datganiad o’r prif feysydd cyfrifoldeb

    1. Arwain ar gyflawni'r Strategaeth Rheoli Asedau, gan sicrhau cynllunio cyllideb effeithiol, cynnal

    tai a stoc arall yn llawn, cyflawni safonau perthnasol a gwarchod eu gwerth. 2. Arwain ar weithredu a monitro cynlluniau rheoli asedau a rhaglenni buddsoddi mewn stoc;

    darparu adroddiadau a gwybodaeth gysylltiedig i'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, y Bwrdd, rhanddeiliaid a rheoleiddwyr.

    3. Datblygu a chynnal proffiliau gwariant 30 mlynedd sy’n cydbwyso gofynion ffisegol y stoc â blaenoriaethau a disgwyliadau preswylwyr, gan ennyn cefnogaeth ymgynghorwyr technegol arbenigol lle bo’n briodol.

    4. Arwain Gwaith Trwsio mewnol effeithlon ac effeithiol, Gwasanaethu Nwy, Cynnal a Chadw Tiroedd, Eiddo Gwag a gwasanaethau Cynlluniedig; pennu, cyflawni a chynnal nodau busnes; darparu lefelau uchel o wasanaethau a boddhad i gwsmeriaid.

    5. Darparu adroddiadau perfformiad sy'n diwallu anghenion gwahanol gynulleidfaoedd ar draws pob maes gwaith trwsio a chynnal a chadw a rheoli asedau.

    6. Sicrhau bod Arweinwyr Tîm yn ymchwilio ac yn datrys cwynion cwsmeriaid yn effeithiol. 7. Sicrhau bod gweithrediadau a phrosesau'r Gymdeithas yn cyflawni safonau iechyd a diogelwch

    rheoliadol, gan fabwysiadu arferion gorau lle bo hynny'n briodol a sicrhau cydymffurfiad bob amser. Arwain yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth ar faterion iechyd a diogelwch a bod yn agored i risg.

    8. Goruchwylio pob contract i sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n effeithiol ac yn gymwys gan ystyried Rheolau Sefydlog, Cynllun Dirprwyo a Rheoliadau Ariannol, gan sicrhau y darperir yr holl gyngor cyfreithiol angenrheidiol mewn achos o anghydfod cytundebol

  • PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL CARTREFI

    13

    9. Datblygu, rheoli, monitro a rheoli gwariant o fewn y gyllideb ar gyfer y cyllidebau refeniw a chyfalaf, mewn perthynas â gwaith trwsio ymatebol, eiddo gwag, gwaith cylchol a rhaglenni cynlluniedig.

    10. Arwain y broses o gyflenwi ystod gynhwysfawr o wasanaethau cynnal a chadw cost-effeithiol o ansawdd uchel yn unol â pholisïau'r Gymdeithas, egwyddorion gwerth am arian a disgwyliadau tenantiaid, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau perthnasol.

    11. Arwain ar reoli'r gronfa ddata cyflwr stoc a ffynonellau gwybodaeth cysylltiedig eraill, gan sicrhau bod arolygon cyflwr stoc rheolaidd yn cael eu cynnal i fonitro'r asedau ac i sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei chadw a'i chynnal.

    12. Darparu sicrwydd data a hyder gwasanaeth, gan gyfrannu at wytnwch busnes trwy'r sefydliad; sicrhau bod ansawdd a chywirdeb data a gwybodaeth yn rhan annatod o ddiwylliant y tîm.

    13. Arwain y tîm Cartrefi trwy recriwtio, hyfforddi a datblygu staff yn effeithiol; monitro a gwerthuso perfformiad, adolygu strwythurau i sicrhau cysondeb â gofynion gwasanaeth.

    14. Arwain ar ofynion caffael rhaglenni buddsoddi mewn eiddo yn unol â strategaethau a pholisïau perthnasol, yn enwedig Rheolau Sefydlog a Rheoliadau Ariannol. Archwilio a darparu prosiectau caffael ar y cyd sy'n cynnwys cydweithredu â sefydliadau eraill.

    15. Cyfrannu at lunio a chyflawni'r Cynllun Corfforaethol; gweithredu argymhellion Archwilio Mewnol; asesu a rheoli risg; cynorthwyo i gyflawni strategaethau'r Gymdeithas.

    16. Datblygu, cynnal a gwella perthynas y Gymdeithas gyda rhanddeiliaid allanol allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, asiantaethau / partneriaid lleol a Swyddfa Archwilio Cymru; hyrwyddo a chynrychioli'r sefydliad mewn cymunedau.

    17. Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau allweddol y Gymdeithas, gan gynnwys cyfle cyfartal, a iechyd a diogelwch.

    Corfforaethol 1. Cyflawni’r uchod gan roi sylw dyledus i holl bolisïau a gweithdrefnau’r gymdeithas, yn cynnwys

    iechyd a diogelwch, Gwastraff, Amgylcheddol, cyfle cyfartal, gwasanaethau cwsmeriaid a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.

    2. Sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth Diogelu Data ar bob adeg cynnal cyfrinachedd gwybodaeth yn ymwneud â staff, preswylwyr a TGC yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018

    3. Sefydlu, datblygu a chynnal perthynas waith effeithiol â’r holl gydweithwyr er mwyn sicrhau cyfraniad integredig at amcanion TGC.

    4. Cydymffurfio â Chod Ymddygiad TGC drwy ymddwyn mewn modd proffesiynol a pharchus bob amser.

    CYMWYSTERAU/PROFIAD/GWYBODAETH/SGILIAU Offer sydd eu hangen i wneud y gwaith

    Hanfodol

    1. Addysg i lefel gradd neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol. 2. Arweinydd a model rôl ar gyfer staff - gan ysbrydoli eraill i fabwysiadu ymagwedd

    hyblyg sy'n edrych i'r dyfodol. 3. Profiad o arwain o bell, gan gynnwys arwain ac ysgogi gweithwyr symudol 4. Tystiolaeth o brofiad o weithio ar lefel uwch reoli ym maes rheoli eiddo ac asedau. 5. Profiad o gynllunio ariannol a rheoli cyllideb. 6. Profiad o weithredu mewn amgylchedd masnachol. 7. Y gallu i reoli a threfnu timau amlddisgyblaeth. 8. Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf. 9. Y gallu i adeiladu a rheoli perthnasoedd cydweithredol gydag ystod o randdeiliaid

    a sefydliadau contractio. 10. Sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno.

  • PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL CARTREFI

    14

    11. Yn hyfedr wrth ddefnyddio cynnyrch Microsoft Office neu debyg. 12. Rhaid bod â dealltwriaeth a gallu dangos parch tuag at natur a diwylliant

    dwyieithog yr ardal y mae Tai Gogledd Cymru yn gweithredu ynddi a bydd yn ofynnol i siaradwyr di-Gymraeg ymrwymo i ddysgu neu wella eu sgiliau yn y Gymraeg.

    Dymunol

    1. Profiad o reoli asedau yn strategol mewn amgylchedd tai ac adfywio. 2. Hanes profedig o ddarparu rhaglenni buddsoddi mewn eiddo. 3. Hollol rugl yn y Gymraeg ac yn gwbl hyderus gyda'r Gymraeg yn ysgrifenedig.

    CYMWYSEDDAU

    Rhinweddau/ymddygiad personol y mae’n rhaid i ddeilydd y swydd feddu arnynt er mwyn llwyddo yn y swydd.

    Cymwyseddau corfforaethol

    Canolbwyntio ar y Cwsmer Byddwch eisiau darparu’r gwasanaeth gorau gallwch i’ch

    cwsmeriaid, gan fod yn sensitif a chyson eich agwedd ar yr un pryd.

    Sicrhau Canlyniadau o Safon

    Byddwch yn gallu dangos eich bod yn gwneud eich gwaith yn dda ac yn cyflawni’r nodau rydych yn eu gosod i chi eich hun ac a osodir gan eraill. Byddwch wedi ymrwymo i gyflawni gwaith o safon a byddwch yn awyddus i wella’r hyn a wnewch.

    Gwaith Tîm/Cyfathrebu

    Byddwch yn cyfrannu hyd eithaf eich gallu fel aelod o unrhyw dîm. Byddwch yn dangos ymrwymiad a pharch bob amser. Byddwch yn ystyried anghenion a disgwyliadau pobl eraill ac yn cyfathrebu mor eglur ac effeithiol â phosib.

    Ni all yr un disgrifiad swydd ymdrin â phob mater a all godi ar wahanol adegau o fewn y swydd. Er mwyn cynnal gwasanaethau effeithiol, efallai y bydd angen i chi gyflawni unrhyw dasg arall resymol, sy’n cyd-fynd yn fras a’r rhai sydd yn y ddogfen hon, yn unol â chais eich rheolwr llinell neu Gyfarwyddwr.

    ENW DEILYDD Y SWYDD ENW’R RHEOLWR

    LLOFNOD LLOFNOD

    DYDDIAD DYDDIAD

  • PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL CARTREFI

    15

    11. Rhagor o wybodaeth Rydym yn gobeithio bod y pecyn hwn wedi rhoi digon o wybodaeth i chi amdanom ni. Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, byddem yn hapus iawn i siarad gyda chi a’ch cynorthwyo mewn unrhyw ffordd y gallwn. Denise Kirkham, Distinctive People Tel: 07833 475669 or [email protected]. Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 9yb, 9fed Mawrth 2020

    mailto:[email protected]

  • PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL CARTREFI

    16

    www.nwha.org.uk

    Facebook www.facebook.com/northwaleshousing Twitter www.twitter.com/northwalesha

    LinkedIn www.linkedin.com/company/north-wales-housing

    http://www.nwha.org.uk/https://www.facebook.com/northwaleshousinghttp://www.twitter.com/northwaleshahttp://www.linkedin.com/company/north-wales-housing