PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Y TYST...Yn Iesu daeth hynny yn realiti. Mae Duw wedi dod yn...
Transcript of PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Y TYST...Yn Iesu daeth hynny yn realiti. Mae Duw wedi dod yn...
-
Y TYST
parhad ar dudalen 3
PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG
Sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 51/52 Rhagfyr 21/28, 2017 50c.
Nadolig Llawen i bawb
Nadolig Llawen i hollddarllenwyr Y Tyst oddi wrthswyddogion a staff Undeb yr
Annibynwyr Cymraeg. Boed bendith Duw arnoch.
‘A daeth y Gair yn gnawd athrigo yn ein plith . . .’
Nid rhywbeth i apelio at ein ffansi ywCristnogaeth. Mae’r Newydd Da syddgennym fel Cristnogion wedi ei sylfaenu arfawredd yr hyn sydd wedi digwydd. Niddyn o fyd chwedloniaeth yw arwr y ffyddGristnogol. Iesu yw’r dyn mwyaf real ynhanes y ddynoliaeth. Cofiwn eiriautrawiadol Efengyl Ioan, ‘A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio
yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd;gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant felunig Fab yn dod oddi wrth y Tad yn llawngras a gwirionedd.’ (Ioan 1:14)‘Dyma’r frawddeg fwyaf yn y llyfr
mwyaf yn y byd,’ meddai William Temple.Adnod yw sy’n denu ein sylw at wyrth yrYmgnawdoliad – Duw yn dod yn ddyn ymmherson ei annwyl Fab.Gwir neu gauMae awdur y Llythyr at yr Hebreaid yncyfeirio at yr Arglwydd Iesu ‘yn nyddiau eignawd’ (Heb. 5:7). Mae’r gair ‘cnawd’ yny Testament Newydd yn golygu llaweriawn mwy na chorff, mae’n golygu dyn o’igyferbynnu â Duw. Gwelwyd cymaint ag aoedd yn bosibl o’r gogoniant dwyfol danamodau dynol yn yr Arglwydd Iesu Grist.Un o’r teitlau a dderbyniodd Iesu ar eienedigaeth oedd ‘Immanuel’ sy’n golygu,‘Duw gyda ni’. Roedd hi’n glir o’rcychwyn bod y baban hwn yn Dduw gydani. Mae hynny’n dipyn o beth i’w honni a’ihawlio. Mae’n swnio fel petasem yn ôl ymmyd ffantasi! A all Duw yn wir ddod yn
ddyn? Nid yw’rffaith fod rhywbethsy’n cael ei hawlio yn swnio’nanghredadwy yn golygu ei fod ynanghredadwy. Er enghraifft, yn GreenburyHill, yn Llundain yn 1641, cafodd tri dyneu crogi am lofruddio ynad heddwch. Trwygyd-ddigwyddiad llwyr eu henwau oeddGreen, Bury a Hill! Ym 1664, 1785 a 1860suddodd cychod yn cario teithwyr ar drawsafon Menai. Mae’n anhygoel bod y cychodwedi suddo ar 5 Rhagfyr, a hyd yn oed ynfwy anhygoel mai dim ond un achubwyd ary tri achlysur ac ar y tri achlysur enw’rperson a achubwyd oedd Huw Williams.Mae pob un o’r storïau yn hanesyddolgywir a gwir. Nid yw’r ffaith fod yrhanesion yn anghyffredin yn golygu eu bodyn gelwydd. Yr hyn sydd angen i ni eiwneud yw gwirio’r dystiolaeth.Duwdod mewn cnawdDyna’n union sy’n rhaid i ni ei wneudgydag Iesu. Mae’n hawlio ei fod yn Dduwyn y cnawd. Yr hyn sydd angen i ni eiwneud yw gwirio’r dystiolaeth. Mae’rdystiolaeth yn glir ar ein cyfer yn yrefengylau – Mathew, Marc, Luc ac Ioan.Ynddynt cawn dystiolaeth llygaid dystion ifywyd, marwolaeth ac atgyfodiad yrArglwydd Iesu Grist. Roedd llawer oddilynwyr Iesu yn gasglwyr trethi, eraill ynbysgotwyr ac eraill hyd yn oed yn
‘Newyddion da i bawb– nid newyddion ffug’
GeniMewn oes o addewidion gwag di-sail,â ffug newyddion yn cymylu’r gwir,pan swcrir ni a’n sobri am yn ailgan ‘stori’r funud’ â’i phenawdau clir;
Pan wneir y ffŵl yn frenin am brynhawn,â’i Drwmpdra’n amlwg yn ei drydar ffôl,caeir y drws ar synnwyr, pwyll a dawn– o na chaem weld hen werthoedd gwâr yn ôl!
Mae’n Ddolig, ac mae hiraeth drwy’r holl fydam eni newydd, ac i Fethlem awn,a phlygu mewn rhyfeddod wrth y cruda chanfod yno’r bywyd gwir, go iawn.
Iesu yw’r bywyd hwnnw i bob oes– mae gobaith eto yn ei grud a’i Groes.
Catrin Fychan
Ganwyd Iesu
-
tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Rhagfyr 21/28, 2017Y TYST
Cynhaliwyd cyngerdd mawreddog yn ddiweddar yng nghapel Glynarthen a hynny er buddCroesffyrdd Hafal, elusen sy’n darparu gwasanaeth seibiant i ofalwyr a’u teuluoedd.
Roedd y cyngerdd, a gynhaliwyd ar ddydd Sul, 22 Hydref, wedi dathlu tri o gewri bywyddiwylliannol a Christnogol Cymru sef emynydd enwocaf Cymru, William Williams, a anwyd300 mlynedd yn ôl ym 1717; y bardd Hedd Wyn, a laddwyd ym mrwydr Passchendaele 100mlynedd yn ôl ym 1917, a’r diddanwr Cymreig Ryan Davies a fu farw’n 40 mlwydd oed ym1977.
Roedd y gynulleidfa wedi mwynhau perfformiad gwych gan Gôr Caerdydd o danarweiniad Gwawr Owen. Roedd plant o Ysgol Gynradd T. Llew Jones, Brynhoffnant acysgol Sul Glynarthen hefyd wedi canu yn y digwyddiad. Cymerwyd rhan hefyd gan yPrifardd Idris Reynolds, yr Athro E. Wyn James. Trwy gyfrwng y cyngerdd hwn llwyddwydi godi £1,600.
Carys Ann
Cyngerdd cofiadwy Cymdeithas Ddiwylliannoly Tabernacl, Hendy-gwyn ar Daf
Delme Thomas, y cyn-chwaraewr rygbi,oedd y gŵr gwadd yng NghymdeithasDdiwylliannol y Tabernacl, Hendy-gwynar Daf, yn ddiweddar. Fe siaradodd y gŵrdiymhongar o Fancyfelin am ei yrfa rygbigyda Llanelli, Cymru a’r Llewod.Siaradodd hefyd am bwysigrwydd y ffyddGristnogol iddo. Roedd pawb wedimwynhau yn fawr ac roedd Delme wedigwneud argraff fawr ar bawb oedd ynbresennol.
Guto Llywelyn
Delme Thomas gyda Margaret Titterton,ysgrifenyddes y Gymdeithas
Gair o fyd y ddawns yw ‘carol’ ynwreiddiol, heb unrhyw gyswllt penodol â’rNadolig. ‘Dawns gylch’ oedd ei ystyr ar unadeg, ond wedyn aeth i olygu cân ydawnswyr hefyd. Llaciwyd yr ystyrymhellach nes ei ddefnyddio fel enw arbob math ar ganu rhydd, ond yn arbennigcerddi yn gysylltiedig â gwyliau athymhorau’r flwyddyn. Yn eu plith caedllawer a luniwyd ar gyfer gwyliau’rNadolig, a chân lawen i ddathlu’r Nadoligyw ystyr ‘carol’ fel arfer erbyn heddiw.
Mae lle amlwg i’r Nadolig yng ngwaithy Ficer Prichard, gŵr a gysegrodd eiddawn brydyddol i hyfforddi’r werin yngngwirioneddau’r ffydd Gristnogol. Yn eigerddi, mae’n annog y bobl i ymwrthod i’roferedd a oedd yn gymaint rhan o wyliauNadolig ei ddydd ac a arweiniodd, ymmlwyddyn marw’r Ficer, i’r seneddBiwritanaidd ddiddymu’r ŵyl.
Ond nid annog y bobl i dristwch aphruddglwyf a wna’r Ficer ond i lawenyddgwell, i dreulio’r ŵyl ‘mewn nefolhyfrydwch a duwiol ddifyrrwch’. Ac wrthsôn am y Nadolig daw sioncrwydd a
llonder i’w ganu, sŵn dawnsio a gorfoleddu,sŵn dathlu pen-blwydd, fel yn ei gân hyfrydsy’n ein cymell i fynd i Fethlem. (Dylidegluro, efallai, mai ‘preseb’ yw ystyr ‘craits’ym mhennill olaf y detholiad ohoni agyhoeddir yma.)
A Mair yn agos at esgor, bu raid iddi hi aJoseff wynebu’r daith hir o Nasareth iFethlehem ar orchymyn y brenin. Gadewch ininnau, ar wahoddiad y Brenin Mawr, fyndat grud ei Fab mewn ffydd ac edifeirwch adiolchgarwch.Awn i Fethlem bawb dan ganu, (Math. 2:1)Neidio, dawnsio a difyrru,I gael gweld ein Prynwr c’redig,Aned heddiw, ddydd Nadolig.Yn lle aur, rhown lwyrgred ynddo,Yn Ile thus, rhown foliant iddo,Yn lle myrr, rhown wir ’difeirwch,Ac fe’u cymer drwy hyfrydwch.Awn i Fethlem i gael gweledY rhyfeddod mwya’ wnaethped,Gwneuthur Duw yn ddyn naturiolI gael marw dros ei bobol.
Awn i weld yr HenDdihenydd, (Daniel 7:9)A wnaeth y nef a’r môra’r mynydd, (Colosiaid1:16)Alffa oediog, Tadgoleuni, (Datguddiad1:8; Iago 1: 16)Yn ddyn bychan,newydd eni.Awn i weled Duw y Gair, (Ioan 1: 1)Brenin nef, ar arffed* Mair,Wedi cymryd cnawd dyn arno, (Philipiaid2: 6–11)Yn fab bach yn dechrau sugno.Awn i Fethlem i gael gweledMair a Mab Duw ar ei harffedMair yn dala rhwng ei dwyloY Mab sy’n cadw’r byd rhag cwympoAwn i weld concwerwr angauWedi’i rwymo mewn cadachau,A’r Mab a rwyga deyrnas SatanYn y craits, heb allu cripian.
RHYS PRICHARD (1579?–1644)(*arffed yw glin/côl)
(Allan o’r gyfrol, Carolau a’u Cefndir)
AWN I FETHLEM
-
Rhagfyr 21/28, 2017 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y TYST
rhyfeddol hwn wedidod i mewn i’n bydbrwnt, pydredig ganbrofi’r hyn a brofwn ni
– gan brofi ein profiadauni. Mae gan Joan Osborne,y gantores o America, gân
sy’n cynnwys y geiriau:What if God was one of us...Just a stranger on the busTryin’ to make his way home?
Yn Iesu daeth hynny yn realiti. Mae Duwwedi dod yn un ohonom ni. DywedoddMartin Luther am yr Arglwydd Iesu,‘Cymerodd fwyd, cysgodd, dihunodd.Gwybu beth oedd blinder, tristwch, allawenydd. Profodd newyn, syched achwys. Hidlodd ddagrau a thorrodd allan ichwerthin. Llefarodd; llafuriodd;gweddïodd.’
Wrth gyflwyno Iesu gerbron y dyrfa â’rgoron ddrain ar ei ben a’r fantell borffor arei ysgwyddau dywedodd Pilat, ‘EcceHomo’ – Edrychwch, dyma’r dyn. (Ioan19:5). Y dyn Crist Iesu a wnaed yn enwogtrwy’r byd mewn llyfr ac mewn lliw. Wrthddarllen yr Efengylau onid y dyn Iesu Grist
a welwn ar bob tudalen – yn sychedig wrthFfynnon Jacob, yn gwenu’n braf wrthdderbyn plant bychain i’w gôl ac yn wylowrth fedd Lasarus. ‘Yng Nghrist’, meddai’rPiwritan, John Robinson , ‘yr ydym yngweld wyneb dynol Duw.’Newyddion daNid newyddion ffug sydd gennym i’wrannu ond newyddion da o lawenydd mawram Dduw ein Tad yn datguddio ei hun ynei Fab – ei Fab y mae cariad Duw ynarllwys allan ohono, ei Fab y mae eiweinidogaeth ar groes o bren yn bont iddod â ni at Dduw. Cawn ddod at Dduwwedi ein gwisgo â glendid Iesu Grist acwrth gredu daw’r Ysbryd Glân i’ncalonnau i’n cynorthwyo i dyfu’n debyg i’rArglwydd Iesu Grist. Newyddion da sy’nllawn gobaith i’n byd terfysglyd a thrist,newydd da am Waredwr sy’n medru ailgreu dyn, tynnu’r drwg allan ohono a’ilenwi â chariad a llawenydd dwfn.
Ar sail y newydd da hwn dymunaf ichwi Nadolig Llawen a phrofiad odangnefedd Crist yn eich calonnau.
Andrew Lenny (Allan o Nodion Seion, Aberystwyth)
‘Newyddion da i bawb – nidnewyddion ffug’ - parhadgenedlaetholwyr eithafol. Nid math oddynion oedd y rhain byddai’n dilyn rhywgranc. Fe wnaeth yr hyn a welsant yn Iesunewid eu bywydau. Maent yn dilyn Iesuam iddynt weld mai Duw yn y cnawdydoedd. Gwelsant Iesu’n tawelu stormenbyd ar Fôr Galilea â phedwar gair o’ienau. Gwelsant Iesu’n cyfodi merch fach ofarw. Gwelsant Iesu yn iacháu dyn oeddwedi ei barlysu ag un gorchymyn.Gwelsant Iesu’n fyw wedi ei atgyfodi ofarw yn dilyn ei farwolaeth ar groes a’iladd yn y modd mwyaf annynol. Beth oeddy tu ôl i allu Iesu i wneud y pethausyfrdanol yma? Yr unig ffordd y medraiwneud y pethau yma oedd wrth iddo fod yrhyn y dywedai ei fod – Duw mewn person,Duw yn y cnawd, Duw yn null dyn.Un ohonom niDyna oedd Iesu’n ei hawlio. Hawliodd maief oedd y ‘Duw cadarn’ yn y cnawd. Mae’run Duw a’n creodd ni a’r bydysawd
Felly roedd rhaid i Iesu gael ei wneud ynunion yr un fath â ni, ei ‘frodyr a’ichwiorydd.’ Dim ond wedyn y gallai fod ynarchoffeiriad trugarog a ffyddlon yngwasanaethu Duw, ac yn cyflwyno aberthfyddai’n delio gyda phechodau pobl a dodâ nhw i berthynas iawn gyda Duw. Am eifod e’i hun wedi dioddef ac wedi cael eidemtio, mae’n gallu’n helpu ni pan fyddwnni’n wynebu temtasiwn. (Heb. 2:17–18 beibl.net)Wrth i ni ddathlu geni gwyrthiol byddllawenydd a diolch yn ein calonnau wrthsylweddoli eto pa mor fawr yw cariad Duwtuag atom. Y mae’r ymgnawdoliad ynddigwyddiad i’w ddathlu sy’n peri mawlbywiog yn ein heneidiau. Ond y maedirgelion mawr yn y ffaith fod Duw wedidod yn ddyn yn Iesu. Mae William Rees(Gwilym Hiraethog) yn cydnabod hyn ynei emyn gwych:
O ddirgelwch mawr duwioldeb, Duw’n natur dyn;
Tad a Brenin tragwyddoldeb yn natur dyn;
o holl ryfeddodau’r nefoedddyma’r mwyaf ei ddyfnderoedd,testun mawl diderfyn oesoedd,
Duw’n natur dyn!Er y dirgelion penffrwydrol a gogoneddushyn, diolch i’r drefn, y mae gruglwyth oelfennau i’r ymgnawdoliad y gallwn eudeall a’u gwerthfawrogi ac un o’r elfennauhyn yw fod Duw yn gallu cydymdeimlo
Y GAIR A DDAETH YN GNAWDgyda ni yn ein gwendid. Fe gyfeiria AnnGriffiths (1776–1805) at hyn yn un o’ihemynau, wrth iddi fyfyrio ar naturunigryw a hardd yr Iesu, meddai:
O f’enaid, gwêl addasrwydd y person dwyfol hwn, dy fywyd mentra arno a bwrw arno’th bwn; mae’n ddyn i gydymdeimlo â’th holl wendidau i gyd, mae’n Dduw i gario’r orsedd ar ddiafol, cnawd a byd.
Hoffwn aros yma gyda’r cymal, ‘mae’nddyn i gydymdeimlo â’th holl wendidau igyd’. Mae o leiaf dau berygl gyda’rNadolig, un ai ein bod yn gorbwysleisiodwyfoldeb Iesu neu ein bod yngorbwysleisio ei ddyndod. Er y dirgelwchsy’n perthyn i’r ffaith fod yn yr Iesu ddwynatur rhaid cael cydbwysedd rhyngddynt.Mae’r cymal hwn yn adlewyrchu yr hyn addywedir yn Hebreaid pennod dau.
Am ei fod e ei hun wedi dioddef acwedi cael ei demtio, mae’n gallu’n helpu nipan fyddwn ni’n wynebu temtasiwn. (Heb.2:17–18)Ac eto yn Hebreaid:
Felly gadewch i ni ddal ein gafael ynbeth dŷn ni’n gredu. Mae gynnon niArchoffeiriad gwych! – Iesu, Mab Duw,sydd wedi mynd i mewn at Dduw i’rnefoedd. Ac mae’n Archoffeiriad sy’ndeall yn iawn mor wan ydyn ni. Mae
wedi cael ei demtio yn union yr un fath âni, ond heb bechu o gwbl. Felly gadewchi ni glosio at orsedd Duw yn hyderus.Mae Duw mor hael! Bydd yn trugarhauwrthon ni ac yn rhoi popeth sydd eiangen i ni pan mae angen help arnon ni.(Heb. 4:15)
Duw yn agosMae’r gwirionedd hwn yn dod â Duw ynagos, agos atom. Teimlwn weithiau fodDuw ymhell ac nad ydyw yn deall einsefyllfa. Credwn Ei fod yn analluog ideimlo’r ing, y boen, yr unigrwydd, yranobaith a’r tristwch a brofwn mewncyfnodau anodd ac isel o’n bywydau. Niddyna’r gwir. Yn yr Iesu mae Duw ei hunyn gwybod y profiad o gael ei demtio(Math. 4: 1–11); mae’n gwybod beth ywblino yn gorfforol (Marc 4: 38); mae’ngwybod am golli anwyliad trwy farwolaeth(Ioan 11: 28–37); mae’n gwybod amdeimlo yn unig; mae’n gwybod amddioddef yn gorfforol (Mathew 27: 26);mae’n gwybod am gael ei wadu a’ifradychu gan ffrindiau (Luc 22: 54–62;Ioan 18: 1–11); mae’n gwybod am yprofiad o farw (Mathew 27: 45–56) ac feŵyr am y teimlad fod Duw wedi cefnuarno (Marc 15: 34). Oherwydd hyn gallwndroi yn hyderus at yr Iesu gan siarad gydagEf am ein tristwch a’n hofnau gan wybodei fod Ef yn deall. Dyma un o wirioneddausyfrdanol yr ymgnawdoliad sy’n ein gadaelyn gegrwth:
mae’n ddyn i gydymdeimlo â’th holl wendidau i gyd, mae’n Dduw i gario’r orsedd ar ddiafol, cnawd a byd.
-
tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Rhagfyr 21/28, 2017Y TYST
BLWYDDIADUR2018
UNDEB YR ANNIBYNWYRCYMRAEGYn cynnwys
Dyddiadur, Darlleniadur,Suliadur a Llawlyfr
Pris: £7.50yn cynnwys cludiant
AR GAEL NAWRCysylltwch â Thŷ John Penri
i archebu eich copi - 01792 [email protected]
Gwrando mewn gwrandawiadrhan o etifeddiaeth caethwasiaeth, meddai,ac yn deillio o’r syniad (neu’r rhagfarn) naallwch ymddiried yn neb sy’n ddu eigroen.Gan gyfeirio at agweddau tebyg yn yr
Unol Daleithiau, dywedodd fod, ar hyn obryd, dri chwestiwn yn cael eu gofyn ganbobl ddu yno am bobl wyn. Yn gyntaf,‘Pam maen nhw’n ein casáu ni?’ Yn ail,‘Pam maen nhw’n ein lladd ni?’ Ac yndrydydd, ‘Pam nad ydyn nhw’n cael eigalw i gyfrif gan y gyfraith am yr hyn ymaent yn ei wneud?’‘Mae’n frawychus gweld yr un
agweddau cul a bygythiol hyn yn codi eupennau yma ym Mhrydain,’ meddai EsgobHall.Er bod
Bianca Gallantyn byw yn yrIseldiroedd,mae ei theuluyn dod oSuriname ynNe America.Ni fu iddynterioed siarad am gaethwasiaeth er bod eirheini yn gwybod mai dyna oedd eucefndir. Nid nad oeddent wedi cael cyfle iddweud rhywbeth; i’r gwrthwyneb, yroeddent yn gwneud llawer gyda’i gilydd,yn enwedig chwaraeon, a byddai hynnywedi rhoi digon o gyfle iddynt drafodgyda’u plant. Ond nid felly y bu, acunwaith eto, er bod ganddynt iaith euhunain yn Suriname, dim ond Iseldiregoedd i gael ei siarad yn y cartref.Gwelai fod yr Iseldiroedd yn mynd trwy
gyfnod anodd yn awr wrth i raigwleidyddion hyrwyddo syniadau adaindde hiliol. Er hynny, yr oedd yn falch ofedru dweud fod yr eglwysi ar y cyfan yngwneud ymdrechion i helpu, a’r EglwysLutheraidd yr oedd hi’n perthyn iddi ynymgyrchu dros fewnfudwyr a ffoaduriaid.O leiaf, meddai, mae’r mater yn awr yncael ei drafod, ac mae hynny’n golygu ybydd y sefyllfa i’w phlant yn dra gwahanoli’r sefyllfa y bu iddi hi orfod ymgodymu âhi yn y gorffennol.Daeth y diwrnod i ben gyda thystiolaeth
yr Esgob Ddr Joseph Daniel Aldred oChurches Together inEngland. Yn wreiddiolo Jamaica, yr oeddwedi byw yn Lloegrers 1968. Fel bachgen ifanc,
nid oedd wedi bod ynymwybodol o gefndirhanesyddol ei wlad.Yn yr amser hwnnw,
yr oedd Jamaica yn dal yn un odrefedigaethau Prydain, a daeth ei dad iLoegr ym 1955 i geisio bywyd gwell. Ni
Dyma ail ran yr adroddiad o’r gynhadleddhon.I’r United SocietyPartners in the Gospelyr oedd Rachel EvelynVernon yn gweithio,cymdeithas sydd a’igwreiddiau’n mynd ynôl i ddechrau’rddeunawfed ganrif. Yroedd hi, eto, ynddisgynydd igaethweision.Soniodd am yr adroddiadau oedd ar
gadw yn archif ei chyflogwr, llawerohonynt ar gyfer noddwyr cyfoethog yrSPG ond wedi eu haddasu, rhag ennyngwg.Yn yr SPG gwreiddiol, roedd pobl yn
bwriadu’n dda, meddai, ac am i’r Efengylfynd ar led ac i bobl gael eu hachub. Uno’r pethau a wnaethant oedd dod a thribachgen ifanc o Ghana i Loegr i’whyfforddi’n genhadon gyda’r bwriad o’uhanfon yn ôl yn ddiweddarach at eu pobleu hunain. Bu dau ohonynt farw, ac aeth unyn ôl ymhen blynyddoedd, ond erbynhynny yr oedd wedi colli ei iaith ac ynsiarad Saesneg. Oherwydd hynny, nid oeddei bobl ei hun yn ei dderbyn, ac am ei fodyn ddu, nid oedd chwaith yn cael eidderbyn gan y perchnogion caethweisiongwyn. Adroddodd hanes Coleg Codrington.
Gadawodd Christopher Codrington arian isefydlu coleg diwinyddol Anglicanaidd ynBarbados ar ddechrau’r ddeunawfed ganrif.I gynnal y coleg, gadawodd hefyd ddwyblanhigfa weithredol ac arnynt 300 ogaethweision. Ffrwyth llafur y caethionoedd i gynnal y coleg ac, oherwydd hynny,yr oeddent i fod yn fodelau o blanhigfeyddCristnogol yn darparu gofal ac addysg i’rcaethion. Ymddengys nad oedd neb yngweld gwarthusrwydd y sefyllfa.
Esgob yn y Churchof God of Prophecyyw Delroy Hall, acmae’n byw yn Leeds.Soniodd am ei brofiadwrth deithio o faesawyr yng ngogleddLloegr. Wrth iddobaratoi i hedfan,dywedodd un o
swyddogion y maes awyr na allai ganiatauiddo wneud hynny tan fod ganddo broffiliddo. Mae proffilio’n cael ei ddefnyddiogan awdurdodau llawer gwlad erbyn hynfel arf hiliol i benderfynu pwy sy’n fwyaftebygol o ymwneud â thorcyfraith.Awgrymodd fod y digwyddiad hwn yn
arwydd o’r hyn sy’n digwydd ymMhrydain ar hyn o bryd wrth i agweddaugwleidyddol symud fwyfwy i’r dde. Mae’n
welodd Joseph ei dad wedyn tan 1968.Ac yntau wedi medru ymweld â
Jamaica yn ddiweddar, gall dystio i’r tlodisydd yno o hyd. Oes, mae cyfoethogionyno, meddai, ond mae tlodi mawr hefyd.Mae yno bobl nad ydynt yn gwybod o bley mae’r pryd nesaf yn dod. Yn ôl Banc y Byd, y mae un o bob
pedwar yn Jamaica yn byw mewn tlodidwys, ond oherwydd natur yr ynys a’ihinsawdd, nid oes fawr o gydymdeimlad.Cyhuddir pobl yno o fod yn ddiog, ond ygwir yw bod yr economi mor wan fel na allddarparu ar gyfer, na chynnal, yboblogaeth.‘Nid wyf yn erbyn pobl wyn,’ meddai
Esgob Aldred, ‘nac yn gwrthod gweithiogyda phobl wyn, ond nid wyf chwaith yndisgwyl am bobl wyn i f’achub. Yr ydymyn ymgyrchu, yn ymladd, i ryddhau einhunain!’Ar y llaw arall, ychwanegodd, ‘pobl
wyn sy’n mynd i oresgyn hiliaeth ac mae’nmynd i gymryd canrifoedd.’ DiweddgloYr oedd elfennau anghyffyrddus acysgytwol i’r Gwrandawiad hwn, ond rhaidoedd gwrando ar y dystiolaeth oedd yn caelei chyflwyno. Ni allai’r gwrandäwr gwynlai na theimlo cywilydd o ganlyniad i’r hyna glywai, a siom fod cyn lleied wedi eiwneud ar y pryd i roi stop ar y fasnachddieflig hon.Pan fo gwareiddiad ‘Cristnogol’,
gwledydd ‘Cristnogol’ ac eglwysi‘Cristnogol’ yn ymddwyn yn y fath fodd,neu’n caniatau i’r fath bethau ddigwydd,mae cwestiynau mawr yn codi, ac ni ddawdim da o geisio’u hosgoi neu trwy geisioanwybyddu’r poen, a’r gofid a’r tristwch aachoswyd.I wella clwy’, yn enwedig os yw’n
casglu, yn crawnio, rhaid edrych arno, acedrych yn fanwl. Dim ond wedyn y byddwn yn gwybod
beth yn union sydd angen ei wneud.
-
Rhagfyr 21/28, 2017 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 11Y TYST
Annwyl Olygydd,Rwyf wedi fynghymell i sgwennuatoch gan imi gaelf’ysbrydoli, ymMethel Penarth foreSul 19 Tachwedd, owrando ar bregethyr Hybarch JohnGwilym Jones.Gyda’i ddwy bregeth o’r ddwy flyneddaeth heibio’n parhau yn fyw yn fy nghof,roedd deffro mewn pryd fore Sul ynorchest hawdd gan f’eiddgarwch i fynd iwrando arno!
Y Gwynfydau oedd ei gymhelliad yntaui bregethu’r tro hwn a’r modd yr ydym yndueddol o wneud y camsyniad mai areithioi dorf oedd Crist wrth bregethu ar ymynydd. Nid felly roedd hi ac fe gofiwnam Grist yn ffoi mor aml oddi wrth y dorfanwadal. Cael cwmnïaeth ei ddisgyblionhoff oedd wrth fodd yr Iesu; nid bod yn yrŵyl yn Jerwsalem oedd ei ddymuniad bobtro ond cilio i Fethania at ei gyfeillion – yreneidiau hoff cytûn hynny yr oedd wir yneu hadnabod.
Fel cantores, fe ddeallais i’r dim eiriauJohn Gwilym wrth iddo ddisgrifiopwysigrwydd cynulleidfa ac fel y mae caelderbyniad gwerthfawrogol a neuadd dan eisang, neu gapel gorlawn, yn gwneud y bydo wahaniaeth!
Ond aeth ymlaen i holi – oes rhaid caelcannoedd yno ac ai nifer y gwrandawyr
yw’r elfen hanfodol? Ai oherwydd y brynyn codi, fel y gallai’r dorf ei weld a’iglywed, y cafodd Dewi ei enwi’n sant, neuynteu ysbrydoli pobl oedd ei ragoriaeth? Abeth am y miloedd, yn llythrennol,fyddai’n aros eu tro wrth fynedfeydd capelipan fo Daniel Rowland Llangeitho ynpregethu – ai’r rhifau hyn oedd yn eigymell yntau i barhau i bregethu’r gair,ynteu ei argyhoeddiad dwfn o gariad Duw?
Ac yn ein hoes ni heddiw – ai safon yraddysg yn ein colegau sy’n bwysig ynteudenu mwy a mwy o fyfyrwyr i dalu’n haelam eu haddysg? Oedd Donald Trump ynein hargyhoeddi ei fod yn adnabodunigolion yn ei gynulleidfa wrth iddowneud mor a mynydd o bwyntio atynt felpetaent yn ‘cyfri’ ymysg y cannoedd? Ac aydym ninnau’n dyheu am gael bod fel yr‘eglwysi mega’ anferth yn yr Amerig danddylanwad diwygiad arall? Oesgwahaniaeth os ydym yn teimlo’n unig ynyr oedfa ac yn cyfri ‘dau neu dri’ yn unigwrth edrych o’n cwmpas?
Fe gawsom her gan John Gwilym foreSul: ‘ Chwi yw halen y ddaear … chwi ywgoleuni’r byd.’ Nid geiriau canmoliaethusmohonynt ond yn hytrach geiriau heriolinni FOD yn halen y ddaear ac i geisiollewyrchu cariad at ein cyd-ddyn, boedhynny o fewn muriau ein heglwysi neuoddi allan yn y byd mawr cythryblusheddiw. A ’sdim rhaid inni fod yngynulleidfaoedd anferth i wneud hynny –gall un neu ‘ddau neu dri’ neu ddeuddegfod yn ddigon.
Dywedodd y Pab Benedict mewncyfweliad radio yn 1969 y bydd eglwys ydyfodol yn ‘dechrau eto o’r newydd yn
GOHEBIAETH ffres fel eglwys fach’ ac y bydd ‘ei seiliauwedi’u hangori yng ngwreiddiau’r rhaisy’n byw drwy weithredu eu ffydd mewnffordd real, heb feirniadu naill a’r llall agweld bai. Gall arweinydd neu weinidogsy’n ddim ond gweithiwr cymdeithasolgael ei newid am seicotherapydd neuarbenigwr therapyddol arall, ond byddangen yn y dyfodol ar weinidogion sy’nfodlon bod yng nghanol y cae chwarae yncyd-deithio gyda’r praidd yng nghanol eutrallod a’u hapusrwydd, yn eu gobeithiona’u hofnau.
Mae fy niolch yn fawr i weinidogionsydd wedi bod yng nghanol y cae chwaraeimi ac maent wedi cael dylanwad arnaf –Hywel Wyn Richards yn fwyaf arbenniga’i sancteiddrwydd gweithredol, eibregethu tanbaid a’i weddïau hynaws;hefyd Allan Pickard a’i ddiffuantrwyddcynnes a’i lais melfedaidd; Owain Llŷr a’iddyfeisgarwch cyfoes a galluog, a JohnGwilym Jones tra roeddwn i’n fyfyriwr ymMangor a’i gadernid tawel a’i bregethuysbrydoledig. Diolch amdanynt ac ambawb sy’n parhau i’n harwain yn yreglwysi a phregethu’r gair i’n hysbrydoli ohyd.
Ac i ninnau sydd ar dro’n teimlo’n unigmewn cynulleidfa fach neu’n teimlo’rhiraeth am gyfeillion arferai lenwi’r lle,deisyfwn gyda’n gilydd i gadw’n ffydd ac ideithio ymlaen yn ddewr.
Gyda diolch i John Gwilym Jones am fynghymell i ysgrifennu ac am ei faddeuantwrth imi gofnodi ei bregeth aruthrol o dda!
Yn gywir,Siân Meinir
-
Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.
Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920 490582E-bost: [email protected]
Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Tŷ John Penri, 5 Axis Court, ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe
ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888
E-bost: [email protected]
tudalen 12 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Rhagfyr 21/28, 2017Y TYST Golygydd
Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,
Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE
Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]
GolygyddAlun Lenny
Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX
Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039
E-bost: [email protected]
Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen
Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim âchynnwys y Pedair Tudalen.
Golygyddion
CHWILOTAIR Y NADOLIGG I L O D A N D T H U S BA D M O L I O O A P G N RM N O N J O S E F F H E ES F G R A U R T T A M W NH C T Y E C T H F S E Y IT R E H L H B I F Y H D NE B D S I I N O I N E D UR G I E A O O N A S L I MA C S F S R F N N T H O ES U E R E Y A E B A T N IA D I B A B R R D B E D NN A I E S E M L D L B A EM I O L S W B E S E R P G
Plant ysgol Sul Caersalem, Pontyberem, yn cyflwyno neges y Nadoligar lafar ac ar gân
Oedfa Nadolig ysgol Sul Bancyfelin
Oedfa Nadolig ysgol Sul y Priordy
AIFFT
ANGYLION
ASYN
AUR
BABI
BETHLEHEM
BRENIN
DEFAID
DOETHION
GENI
HEROD
IESU
JOSEFF
MAIR
MESEIA
MOLI
MYRR
NADOLIG
NASARETH
NOS
NEWYDDION DA
PRESEB
SEREN
STABL
THUS