Map o gwrs cyfeiriannu Gwaith Brics Dyfnant

2

description

Map a chyfarwyddiadau manwl ar gyfer cwrs cyfeiriannu gwaith brics dyfnant

Transcript of Map o gwrs cyfeiriannu Gwaith Brics Dyfnant

Page 1: Map o gwrs cyfeiriannu Gwaith Brics Dyfnant
Page 2: Map o gwrs cyfeiriannu Gwaith Brics Dyfnant

Cyfeiriannu yng Ngwaith Brics Dyfnant

AMCAN. Yr amcan wrth gyfeiriannu yw mynd o gwmpas cwrs sy'n cynnwys cyfres o bwyntiau rheoli, drwy ddefnyddio map i benderfynu ar lwybr rhyngddynt, ac yna dilyn y map ar hyd y llwybr

a dod o hyd i'r pwyntiau rheoli.

Y MAP. Map cyfeiriannu safonol yw hwn; mae'r symbolau a'r lliwiau'n cael eu hesbonio yn yr allwedd. Y raddfa yw 1:5,000, sy'n golygu bod 1cm ar y map yn cynrychioli 50m ar y ddaear, fel a

ddangosir gan linell y raddfa.

PELLTEROEDD Gellir cyfrif y pellter o un pwynt i'r llall drwy ddefnyddio llinell y raddfa ar y map. Wrth fesur ar y ddaear, mae metr yn gymesur yn fras â cham dyn.

CYFEIRIADAU. I ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn mynd neu'n ei wynebu, cadwch y map yn yr un cyfeiriad â'r ddaear, h.y. wedi'i gyfeiriadu. Wrth fynd yn eich blaen, bydd y nodweddion ar

un ochr o'r map ar yr un ochr ar y ddaear.

Y CWMPAWD. Os oes gennych gwmpawd, gallwch ei ddefnyddio i gyfeiriadu'r map. Mae'r nodwydd yn pwyntio i'r gogledd magnetig. Defnyddiwch hwn i gadw saethau'r gogledd ar y map yn

pwyntio i'r gogledd hefyd. Bydd cwmpawd hefyd yn ddefnyddiol i ddod o hyd i gyfeiriadau cywir ar draws ardaloedd heb lwybrau, ac i benderfynu i ba gyfeiriad i fynd ar gyffyrdd llwybrau, etc.

Sut i ddefnyddio cwmpawd onglydd ar gyfer cyfeiriadau:

1. Gosodwch ymyl y cwmpawd onglydd ar hyd y cyfeiriad rydych chi'n bwriadu ei ddilyn ar y map. 2. Trowch y capsiwl fel bod y llinellau cyfochrog ynddo yn unol â llinellau'r gogledd ar y map. 3. Codwch y cwmpawd o'r map a'i ddal o'ch blaen, gan bwyntio ymlaen. TROWCH EICH HUN gyda'r cwmpawd nes bod y nodwydd yn unol â'r llinellau yn y capsiwl. 4. Ewch yn eich blaen i'r cyfeiriad y mae blaen y cwmpawd yn cyfeirio ato.

RHEOLYDDION A MARCWYR. Dangosir lleoliadau'r rheolyddion ar y map gan gylchoedd wedi'u rhifo mewn coch, a cheir disgrifiad o bob un isod. Nodir y rheolyddion ar y ddaear gan bostyn

ac ar ei ben mae plac â symbol cyfeiriannu coch a gwyn. Mae rhif yno, sy'n cyd-fynd â'r un rheolydd ar y map, a llythyren rydych chi'n ei gofnodi yn y sgwâr perthnasol ar y cerdyn rheoli wrth ochr eich map i gadarnhau eich ymweliad.

DISGRIFIADAU O'R RHEOLYDDION:

Dechrau 2. 3. 4.

Clegyr, pen GDd, troed Pont Ffin llystyfiant

5. 6. 8. 9.

Cyffordd llwybr Pwll Adfail, cornel GDd Troed clegyr

10. 11. 12. 13. 14.

Cyffordd llwybr Mynedfa ogof Clawdd, brig/pen Clawdd, brig/pen Diwedd llwybr

15. 16. 18. 19.

Gât Adfail, cornel DDd Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr

CYRSIAU A AWGRYMIR Cychwyn a gorffen o'r maes parcio a'r ganolfan ailgylchu oddi ar Res Walter yn Nyfnant, y caiff ei ddangos gan driongl coch ar ben cylch dwbl ar y map:

Gwyn 1.7 km byr a hawdd ar gyfer dechreuwyr ifanc: Dechrau - 3 - 8 - 19 - 12 - 10 - 15 - 18 - Diwedd

Melyn 1.7km hawdd i ddechreuwyr hŷn a'r rhai sy'n datblygu o'r Gwyn: Dechrau - 18 - 16 - 14 - 12 - 19 - 11 - 3 - Diwedd

Oren 2.1km yn fwy anodd ac yn dilyn ymlaen o'r Melyn: Dechrau - 2 - 9 - 11 - 8 - 4 - 6 - 12 - 13 - 16 - 5 - Diwedd

NEU rhowch gynnig ar ymweld â chynifer o reolyddion â phosib mewn amser penodol, er enghraifft 30 neu 45 munud (digwyddiad ‘Sgorio’).

CYFLEOEDD CYFEIRIANNU ERAILL. Os hoffech wneud mwy o gyfeiriannu, cysylltwch â'r clwb lleol, CLWB CYFEIRIANNU BAE ABERTAWE, drwy fynd i wefan y clwb yn www.sboc.org.uk

DIOLCHIADAU Sefydlwyd y cwrs cyfeiriannu parhaol hwn gyda help grantiau drwy Ddinas a Sir Abertawe gan 'Ddringo'n Uwch' (Cyngor Chwaraeon Cymru), Cydcoed (Comisiwn Coedwigaeth), Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd. Lluniwyd y map a chynlluniwyd y cyrsiau gan Glwb Cyfeiriannu Bae Abertawe.