Iesu a Sacheus
description
Transcript of Iesu a Sacheus
© (lluniau) Dawn Wilks
Iesu a
SacheusLuc 19:1-10
© (lluniau) Dawn Wilks
Roedd y bobl wedi clywed bod Iesu ar ei ffordd.
Roedd pawb eisiau gweld Iesu.
© (lluniau) Dawn Wilks
Doedd neb yn hoffi Sacheus.
Roedd e yn casglu arian ac weithiau yn cymryd gormod o arian oddi wrth y bobl.
© (lluniau) Dawn Wilks
Doedd neb yn hoffi
Sacheus!
© (lluniau) Dawn Wilks
Doedd neb am adael iddo fynd heibio.
Roedd arno eisiau gweld Iesu..... ond roedd yn ddyn byr ac yn methu ei weld am fod gormod o dyrfa o'i gwmpas.
© (lluniau) Dawn Wilks
Doedd neb yn hoffi
Sacheus!
© (lluniau) Dawn Wilks
Roedd pawb wedi cynhyrfu! ‘ Mae Iesu ar ei ffordd’.
Roedd pawb eisiau gweld Iesu.
© (lluniau) Dawn Wilks
Rhedodd Sacheus ymlaen a dringo coeden oedd i lawr y ffordd lle roedd Iesu'n mynd, er mwyn gallu gweld.
© (lluniau) Dawn Wilks
Cafodd bawb sioc!Bu bron i Sacheus syrthio o’r goeden.
Roedd Iesu’n siarad ag ef fel ffrind.
© (lluniau) Dawn Wilks
“Mae'n rhaid i mi ddod i dy dŷ di heddiw,“ meddai Iesu.
Rhoddodd Sacheus groeso brwd i Iesu yn ei dŷ.
© (lluniau) Dawn Wilks
Doedd y bobl welodd hyn ddim yn hapus o gwbl! Roedden nhw'n cwyno a mwmblan......
“Mae wedi mynd i aros i dŷ 'pechadur' - dyn ofnadwy!”
© (lluniau) Dawn Wilks
Ond roedd Sacheus fel
dyn newydd!
© (lluniau) Dawn Wilks
“.....dw i'n mynd i roi hanner popeth sydd gen i i'r tlodion. Ac os ydw i wedi twyllo pobl a chymryd mwy o drethi nag y dylwn i, tala i bedair gwaith cymaint yn ôl iddyn nhw."
© (lluniau) Dawn Wilks
Mae pob un ohonon ni yn gallu troi at Iesu Grist a chael ffrind am byth.
GJenkins