Hybu Iechyd Meddwl Cymru · Croeso i Rifyn 12 o Hybu Iechyd Meddwl Cymru. ... Gymru, a bydd y...
Transcript of Hybu Iechyd Meddwl Cymru · Croeso i Rifyn 12 o Hybu Iechyd Meddwl Cymru. ... Gymru, a bydd y...
-
Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 12 Rhagfyr 2010
1
Croeso
Hybu Iechyd Meddwl Cymru
Rhifyn 12, Rhagfyr 2010
Cydweithio i wella iechyd a lles meddwl
Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad Cysylltu â Phobl —Diwygiad
Croeso i Rifyn 12 o Hybu Iechyd Meddwl Cymru. Mae‟r Cylchlythyr hwn ar gyfer unrhyw un
sydd yn gweithio neu â diddordeb ym maes hybu iechyd meddwl ac mae‟n canolbwyntio ar rannu syniadau ac enghreifftiau o ymarfer. I gyfrannu at y Gronfa Ddata Ymyriadau a
Mentrau neu rifyn o‟r Cylchlythyr yn y dyfodol, cysylltwch â Marie Griffiths
Ceir diwygiad i‟r erthygl uchod a geir yn Rhifyn 11 o Hybu Iechyd Meddwl Cymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn bartner yn y prosiect Dewisiadau Cadarnhaol. Ein rôl yw cefnogi‟r gwaith o fonitro a gwerthuso‟r prosiect trwy weithio gyda Mind Cymru. Mae Iechyd
Cyhoeddus Cymru yn darparu adolygiad allanol o‟r holl wybodaeth a ddefnyddir wrth werthuso‟r prosiect. Rydym hefyd yn cynghori ar ddatblygu dangosyddion ac offer, casglu
data a dadansoddi a dylunio a chynnal cynlluniau peilot o holiaduron ac offer ymchwil arall.
Cafodd y cynllun gweithredu ei lansio‟n swyddogol gan Janet Hawes, is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac yn mynychu oedd aelodau o Gyngor Sir Ceredigion, CAMHS, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Mind a chynrychiolwyr gofalwyr a‟r sector
gwirfoddol.
Hwyluswyd datblygiad y cynllun gan Dîm Lleol Iechyd y Cyhoedd wedi ei leoli yng
Ngheredigion a dechreuodd gyda digwyddiad Open Space Technology (OST), lle cafodd y cynrychiolwyr gyfle i fynegi eu barn a‟u syniadau ynglŷn â‟r ffordd y gallai iechyd meddwl ac
emosiynol da gael ei hyrwyddo yng Ngheredigion.
Yn dilyn hyn, cafodd grŵp gorchwyl a gorffen ei sefydlu i barhau â‟r broses o ddatblygu‟r
cynllun.
Mae prif ddiben y cynllun yn un addysgol, i gynyddu dealltwriaeth yng Ngheredigion o iechyd
meddwl ac emosiynol. Nod y cynllun yw:
hybu iechyd meddwl ac emosiynol da i bawb;
brwydro yn erbyn gwahaniaethu yn erbyn unigolion a grwpiau â phroblemau
iechyd Meddwl
hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol.
Lansio Cynllun Gweithredu Hybu Iechyd a Lles Meddwl Ceredigion
mailto:[email protected]
-
Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 12 Rhagfyr 2010
2
Yn ystod yr achlysur lansio, cafodd y cynrychiolwyr ddarnau jig-so yn datgan y camau
gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth yr oedd eu sefydliad yn gyfrifol am eu cyflwyno.
Eu tasg oedd rhoi darnau‟r jig-so yn y ffrâm gywir, o dan y thema gywir, o‟r themâu canlynol
– y boblogaeth gyfan; llythrennedd iechyd meddwl; rhianta a‟r blynyddoedd cynnar; plant a phobl ifanc; pobl hŷn; y gweithle; cymunedau; iechyd a gofal cymdeithasol.
Ar ôl cwblhau‟r jig-so, roedd y cynrychiolwyr yn gallu gweld cynrychiolaeth weledol o‟r cynllun gweithredu oedd yn dangos yr angen am weithio mewn partneriaeth a phwysigrwydd
hyn er mwyn i‟r cynllun gyflawni ei ddiben.
Yn olaf, cafodd y rheiny oedd wedi mynychu gyfle i edrych a meddwl am eu hiechyd a‟u lles
meddwl eu hunain.
Cyflwynwyd y rheiny oedd yn bresennol i 10 cam cadarnhaol y Sefydliad Iechyd Meddwl tuag
at gyflawni a chynnal iechyd a lles meddwl cadarnhaol a gofynnwyd iddynt ysgrifennu ar garreg yr hyn y maent naill ai yn ei wneud yn barod neu y byddant yn ei wneud i wella a
chynnal eu hiechyd a‟u lles meddwl.
Yna cawsant i gyd eu hannog i fynd â‟u carreg unigol gyda hwy a‟u rhoi mewn lle amlwg i‟w
hatgoffa o bwysigrwydd eu hiechyd a‟u lles meddwl eu hunain yn ddyddiol. Beth fyddech chi‟n ei roi ar eich carreg chi?
Am fwy o wybodaeth am y cynllun gweithredu, cysylltwch â Geinor Jones, Uwch Arbenigwr
Iechyd y Cyhoedd yn Nhîm Iechyd y Cyhoedd Ceredigion, ar 01570 423957
Meddwl yn Gadarnhaol: Iechyd a Lles Emosiynol mewn Ysgolion a Lleoliadau Dysgu Cynnar
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi‟r ddogfen arfer da hon yn ddiweddar.
Mae‟n rhoi: trosolwg cryno o‟r wybodaeth a‟r materion allweddol i ysgolion a lleoliadau addysg mewn perthynas â hyrwyddo iechyd a lles emosiynol plant a phobl ifanc, yn cynnwys
enghreifftiau o ymarfer presennol yng Nghymru; cynigion i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i ddwyn eu gwaith yn hybu iechyd a lles emosiynol ymlaen, ac i adnabod ac ymyrryd yn gynnar gyda phlant a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl; a chyfeirio at
adnoddau a ffynonellau cymorth.
Cliciwch yma i lawrlwytho‟r ddogfen lawn.
Yn yr 21ain Ganrif, mae‟n cael ei gydnabod bod iechyd meddwl gweithwyr yn hanfodol i
lwyddiant pob sefydliad. Mae‟r Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Hybu Iechyd yn y Gweithle (ENWHP) wedi creu canllaw ymarferol i gyflogwyr yn amlinellu buddion gweithlu iach, sut i fynd i‟r afael â materion iechyd meddwl ac hefyd pa bolisïau a gweithdrefnau i‟w sefydlu er
mwyn atal straen a hybu iechyd meddwl da.
Gellir lawrlwytho canllaw i hybu iechyd meddwl yn y gweithle o‟r ddolen isod.
http://www.enwhp.org/fileadmin/downloads/8th_Initiative/MentalHealth_Broschuere_Arbeitgeber.pdf
Mae Iechyd Meddwl yn Bwysig i Fusnesau
http://www.cazbah.biz/eswevent/documents/ESW%20Event%20Powerpoint.pdfhttp://www.enwhp.org/fileadmin/downloads/8th_Initiative/MentalHealth_Broschuere_Arbeitgeber.pdf
-
Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 12 Rhagfyr 2010
3
Rhaglen Addysg Deubegynol Cymru (BEPCymru)
Cafodd Rhaglen Addysg Deubegynol Cymru (BEPCymru) ei
datblygu gan yr Athro Nick Craddock, Dr Ian Jones, Dr Danny Smith a‟r grŵp Anhwylderau Hwyl ym Mhrifysgol Caerdydd ac
mae‟n rhaglen addysg grŵp â‟r nod o wella dealltwriaeth cyfranogwyr o anhwylder deubegynol ac hefyd i roi buddion o ran ansawdd bywyd a phrofiad o symptomau.
O dan arweiniad dau weithiwr proffesiynol ym maes iechyd meddwl, cyfarfu grŵp o ryw 15 o
gyfranogwyr bob wythnos am 10 wythnos. Mae pob sesiwn yn parhau tua 2 awr ac yn cynnwys cyfuniad o gyflwyniadau, trafodaethau grŵp ac ymarferion grŵp. Mae‟r sesiwn yn
cynnwys:
1. Cyflwyniad i BEPCymru
2. Beth yw anhwylder deubegynol?
3. Beth sy‟n achosi anhwylder deubegynol?
4. Ffordd o fyw
5. Monitro hwyl ac adnabod sbardunau
6. Arwyddnod rhybudd cynnar
7. Meddyginiaethau
8. Dulliau Seicolegol
9. Ffrindiau a Theuluoedd
10.Dod â phopeth ynghyd
Mae BEPCymru yn rhad ac am ddim, wedi ei ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr, ac mae‟n agored i unrhyw un â diagnosis cyfredol o anhwylder deubegynol. Caiff ei gyflwyno ar y cyd
â thriniaeth gyfredol arferol y cyfranogwyr ac mae‟n rhaid i‟r tîm sydd yn gysylltiedig â gofal yr unigolyn gytuno y bydd cymryd rhan o fudd iddynt.
Cafodd BEPCymru ei lansio‟n swyddogol ym mis Ionawr 2010 ac mae‟r adborth yr ydym wedi ei gael gan gyfranogwyr hyd yn hyn wedi bod yn rhagorol:
“Diolch o galon am bopeth yr ydych wedi ei wneud. Rydych wedi dod â rhywfaint o oleuni i dywyllwch fy anhwylder.”
“Roedd y cwrs yn ddefnyddiol iawn, wedi ei hwyluso’n arbennig o dda.”
“Roedd y cwrs yn wych. Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi dysgu llawer ynglŷn â deall fy salwch.”
“Llawn gwybodaeth ac yn ddymunol, yn dda cwrdd ag eraill sydd nid yn unig yn rhannu’r cyflwr ond sydd hefyd yn ceisio ei ddeall gyda’r bwriad o hunan-reolaeth.”
Rydym yn cynnal sesiynau BEPCymru yng Nghaerdydd sy‟n agored i bawb â diagnosis o anhwylder deubegynol sydd yn gallu, ac yn barod i deithio i Gaerdydd am ddwy awr yn
wythnosol. Bydd BEPCymru yn cael ei roi ar waith fesul cam mewn ardaloedd eraill o Gymru, a bydd y grwpiau nesaf yn dechrau yng Ngogledd Cymru yn y dyfodol agos. Os hoffech chi gyfeirio unrhyw un i‟r rhaglen, trafodwch hynny gyda nhw ac yna anfonwch eu
henw, eu dyddiad geni a‟u cyfeiriad i [email protected] neu ffoniwch Helen Davies, Cydlynydd y Prosiect, ar 02920 742038. Yna cânt eu hychwanegu i‟n rhestr aros a byddwn
yn cysylltu â mwy o wybodaeth cyn gynted ag y byddwn wedi trefnu mwy o ddyddiadau.
mailto:[email protected]
-
Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 12 Rhagfyr 2010
4
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau neu i:
gyfeirio cleifion
gwneud cais am daflenni gwybodaeth
gofyn i un o aelodau ein tîm i gyfarfod â chleientiaid, staff neu aelodau o‟r grŵp i
roi mwy o wybodaeth am fuddion cymryd rhan yn BEPCymru
Tîm BEPCymru yw yr Athro Nick Craddock, Dr Ian Jones, Dr Danny Smith, John Hyde, John Tredget, Ria Poole a Helen Davies.
www.bep-c.org
Ym mis Mehefin eleni, cafodd menter arbennig newydd ei lansio sy‟n ceisio cefnogi dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl i
bobl ifanc. Mae Right Here yn brosiect newydd a ddatblygwyd gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, â‟r nod o adnabod gwasanaethau ymatebol a fydd yn rhoi‟r cymorth a‟r cyngor angenrheidiol ynglŷn ag iechyd
meddwl i bobl ifanc, ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn.
Nod y fenter £6 miliwn hon, sy‟n cael ei rhedeg ar y cyd gan Sefydliad Paul Hamlyn a‟r Sefydliad Iechyd Meddwl, yw newid y ffordd y darperir ar gyfer iechyd a lles meddwl pobl ifanc 16-25 oed ar draws y DU. Trwy ymyrryd yn gynnar, cyn i broblemau iechyd meddwl
lethu pobl, yr amcan yw lleihau‟r perygl o niweidio bywydau pobl ifanc yn yr hirdymor.
Yn dilyn cyfnod paratoadol o ddeg mis, cafodd pedwar prosiect eu dethol o dros 200 o
geisiadau ar draws y DU i weithio gyda phobl ifanc, elusennau ieuenctid rheng flaen a gwasanaethau iechyd meddwl, i ddatblygu ffyrdd newydd o roi cymorth i bobl ifanc. Maent i
gyd wedi ymrwymo i gyflawni eu nodau ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth parhaol i‟r ffordd y caiff pobl ifanc eu cynorthwyo.
Mae pob prosiect wedi cael ei lunio gan bobl ifanc sydd, trwy fod yn aelodau o baneli ieuenctid Right Here lleol, yn cymryd rhan weithredol yn hybu lles meddwl ac emosiynol pobl
16-25 oed, codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn lleol, creu a chyflwyno gweithgareddau i helpu pobl ifanc eraill i ofalu am eu hiechyd meddwl, a chwarae rhan yn llywodraethu a chyflwyno pob prosiect. Mae pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn ystod pob cam ac ar bob lefel
o Right Here, ac mae digon o gyfleoedd i gymryd rhan.
Mae gwefan Right Here wedi cael ei ymestyn i gynnwys fideo o‟r bobl ifanc sydd yn cymryd
rhan yn ogystal â‟r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau. Am fwy o wybodaeth ewch i
www.right-here.org.uk
Wedi ei ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr, cafodd y gwasanaeth
therapydd rhieni ei sefydlu ym mis Mehefin 2009. Mae‟n gysylltiedig â‟r Tîm Ymyriadau Teuluol (prosiect Gweithredu Dros Blant) yng Nghymru, ac mae‟r gwasanaeth yn darparu therapi
teuluol i unigolion, cyplau a theuluoedd yng Nghyngor Bwrdeistref Caerffili. Mae naws ataliol i‟r gwasanaeth, ac mae‟n cynnig ymyriadau wedi eu cyfyngu i 12 wythnos i
deuluoedd â phryderon newydd, pryderon sy‟n dod i‟r amlwg neu rai ysgafn i ganolig yn
Right Here
Gwasanaeth therapydd rhieni a grwpiau lles
http://www.bep-c.org/http://www.right-here.org.uk/
-
Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 12 Rhagfyr 2010
5
ymwneud ag iechyd meddwl.
Roedd cynllun y gwasanaeth yn wreiddiol yn canolbwyntio ar un swydd seicotherapydd
systemig amser llawn, yn cynnig therapi ac ymgynghori. Roedd deiliad y swydd yn cyflwyno sgiliau a phrofiad oedd yn ychwanegu at ethos y prosiect a oedd eisoes yn therapiwtig ac yn
systemig ac yn hyrwyddo‟r tîm i geisio cyllid ychwanegol i greu ystafell therapi deuluol a gafodd ei gorffen ym mis Ebrill 2010. Mae hon bellach yn weithredol fel clinig therapi teuluol
un diwrnod yr wythnos ac mae‟n cael ei defnyddio‟n llawn.
Yn ogystal, mae gan y prosiect bellach weithiwr rhan-amser a gwirfoddolwr neilltuol sy‟n
cyflwyno gweithdai lles i rieni.
Tra‟n rhoi sylw i iechyd meddwl rhieni a‟r effaith ar y teulu, mae hybu iechyd meddwl da yn
y gymuned wedi dod yn rhan bwysig o‟r gwasanaeth cyffredinol.
Rydym eisoes wedi cyflwyno 4 gweithdy trwy gydol yr Hydref a gafodd dderbyniad
cadarnhaol iawn gan y rheiny a fynychodd a‟r rheiny a gyfeiriodd o asiantaethau/ gwasanaethau iechyd meddwl eraill.
Mae gennym eisoes 4 gweithdy wedi eu cynllunio ar gyfer Tachwedd a Rhagfyr yn canolbwyntio ar ŵyl y Nadolig o drafod deinameg teulu, rheoli cyllidebau, osgoi gormod o
alcohol a bwyd, i gael amser i ymlacio. Mae mwy o grwpiau hefyd yn debygol o gael eu cynllunio ar gyfer y Gwanwyn!
Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth therapydd rhieni a/neu weithdai lles, cysylltwch â Leah Salter (Therapydd rhieni) ar 029 20849230 neu [email protected]
Pwy yw’r plentyn hwn?
Y tu mewn i bob oedolyn mae plentyn bach na fodlonwyd ei anghenion. Y tu mewn i bob
oedolyn ceir yr agwedd fregus honno o‟r Hunan y mae angen ei chydnabod a‟i meithrin. Enghreifftiau o‟r plentyn y tu mewn yn dod allan yn bytheirio yw cael stranc. Mae plant dwy
flwydd oed yn strancio (am nad oes ganddynt yr eirfa i gyfleu rhwystredigaethau sy‟n eu llethu). Yn amlwg mae angen i bobl dwy a deugain oed sy‟n strancio reoli„r plentyn y tu
mewn ryw ychydig! Yn yr un modd, mae plant pum deg dwy oed sy‟n dal i ddilysu eu bodolaeth trwy eraill, neu sydd eisiau cymeradwyaeth gan berthynas hŷn yn cyflwyno‟r cwestiwn “pam?!” Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys rhedeg i ffwrdd a chuddio rhag
cyfrifoldeb neu osgoi problemau neu wrthdaro.
Pam trafferthu gydag ef neu hi?
Nid yw gwaith gyda‟r plentyn y tu mewn yn ymwneud ag ail-fyw y gorffennol. Mae‟n ymwneud â rhoi poen y gorffennol yn y cyd-destun priodol, edrych arno mewn ffordd
wrthrychol, fel y gellir ei drawsnewid. Mae‟n ymwneud â newid safbwynt. Weithiau mae ein cysylltiad emosiynol â digwyddiadau yn ein bywydau yn ein cadw mewn ystumdro amser a‟r
atgofion hyn yw‟r grym y tu ôl i batrymau ein hymddygiad. Mae problemau‟n codi pan fyddwn yn parhau i edrych ar y boen honno gyda llygaid a theimladau plentyn bach mewn
corff oedolyn. Er enghraifft, nid yw plentyn dwy oed yn deall bod yn rhaid i‟r fam ddechrau
gweithio wedi i‟r tad adael y cartref heb air a dechrau gweld cariad newydd. Yr unig beth
Y Plentyn y Tu Mewn
mailto:[email protected]
-
Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 12 Rhagfyr 2010
6
Mae llawer o orielau ac amgueddfeydd ar draws Gogledd Cymru yn lleoliadau newydd ar
gyfer gwella a hybu iechyd meddwl da, gan ddarparu amgylchedd hygyrch a chynhwysol i gefnogi‟r rheiny (a‟u gofalwyr), sydd yn profi iechyd meddwl gwael neu‟n gwella.
Mae amgueddfeydd ac orielau yn dod yn gynyddol ymwybodol o‟u potensial i chwarae rôl gadarnhaol yn adferiad pobl ar ôl afiechyd. Mae nifer o fodelau arfer da ar raddfa fwy neu
lai lle mae amgueddfeydd ac orielau wedi arwain y ffordd yn cyfryngu partneriaethau gyda sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ac mae‟r sector diwylliannol yn gyffredinol yn symud
i‟r cyfeiriad hwn.
Mae 'Amgueddfeydd ar gyfer Iechyd Meddwl Gwell' sy‟n cael ei redeg gan Gastell
Bodelwyddan yn brosiect sy‟n ymddangos fel petai‟n dilyn y model hwn a gobeithio ei fod yn nodi dechrau rhywbeth newydd, “Gyda chyllid gan CyMAL (Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau Cymru) fe wnaethom ddatblygu cysylltiadau gyda defnyddwyr gwasanaethau
iechyd meddwl lleol i gynnal cyfres o weithdai y celfyddydau creadigol yn ein lleoliad. Uchelgais 'Amgueddfeydd ar gyfer Iechyd Meddwl Gwell' yw prif ffrydio ymweld ag
amgueddfeydd ac orielau ym mywydau pobl fel ei fod yn dod yn rhan o‟u gweithgaredd cymdeithasol arferol”.
“Un o ganlyniadau mwyaf arwyddocaol 'Amgueddfeydd ar gyfer Iechyd Meddwl Gwell' yw fel amgueddfa, rydym yn adolygu ein dull strategol er mwyn bodloni anghenion defnyddwyr y
gwasanaeth iechyd yn well a chefnogi‟r agenda les i‟r dyfodol. Mae llawer o ddatblygu sefydliadol i‟w wneud ond rydym yn awyddus iawn i ddysgu oddi wrth y proffesiwn meddygol ynglŷn â‟r ffordd y gallwn helpu i bontio‟r bylchau ac agor drysau”.
Mae gweledigaeth arloesol a rennir yn y rhanbarth i ddatblygu ymhellach y strategaethau partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Celfyddydau
Cymru, Datblygu‟r Celfyddydau rhanbarthol, gofal cymdeithasol, y 3ydd sector gwirfoddol. Bydd datblygu gweledigaeth fwy strategol yn helpu i gefnogi cynaliadwyedd a hirhoedledd y
tu hwnt i gymorth ariannol tymor byr sy‟n cael ei gynnig i brosiectau. Yn y pen draw y nod yw gwella ansawdd y gofal a‟r cymorth sy‟n cael ei gynnig i ddefnyddwyr y gwasanaeth.
Mae Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor, ar hyn o bryd yn gweithio mewn partneriaeth
â MIND Gwynedd/Môn, Cyngor Celfyddydau Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
`Orielau ar gyfer Iechyd a Lles Meddwl Gwell `
mae‟r plentyn yn ei wybod yw nad yw‟r Fam o amgylch “rhagor” (am y rhan fwyaf o‟r dydd), a nawr (yn sydyn) mae‟r holl bobl anghyfarwydd hyn bellach o‟i amgylch ef/hi ac mae ei holl fyd/byd wedi cael ei droi ben i waered. Yn y rhan fwyaf o deuluoedd, nid oes unrhyw un yn
cydnabod effaith sefyllfa o‟r fath ar y plentyn. Mwy na thebyg, mae‟r oedolion yn gwneud y gorau y gallant i barhau â‟u bywydau gyda‟u hoffer goroesi eu hunain. Fy mhwynt i yw nad yw‟r plentyn yn gwybod hyn. Mae‟r plentyn yn teimlo ei fod wedi cael ei adael, ei anwyby-
ddu, ac efallai fod digwyddiad o‟r fath yn ei drawmateiddio. Mae hyn eisoes wedi gadael ei ôl ar yr haen emosiynol. Mae‟r un teimladau hyn o gael ei adael yna‟n gysylltiedig â sefyllfa-
oedd neu ddigwyddiadau dilynol sy‟n cael eu cyflwyno yn ei fywyd neu ei bywyd wrth iddo/iddi dyfu. Gallai‟r sbardun fod yn unrhyw beth o ffrind yn gadael yr ysgol, perthynas yn chwalu, anifail anwes yn marw. Gall adweithio i ddigwyddiadau yn y ffordd hon ychwanegu
at yr emosiynau ac arwain at sawlch iselder.
Mae „The Inner Child‟ yn rhan o erthygl hwy gan Oshilaja Hemsley ac mae‟r trawsgrifiad
llawn ar gael yn http://www.the-creative-well.com/The-Inner-Child.html
http://www.the-creative-well.com/The-Inner-Child.html
-
Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 12 Rhagfyr 2010
7
Paentio Greddfol
Cadwaladr gan ddarparu cyfres o weithdai y celfyddydau gweledol am ddim yn ystod y
flwyddyn. Mae MOSTYN, Llandudno yn cynnal rhaglen addysgol fywiog i bob oedran yn mynd i‟r afael â‟r agenda `Celfyddydau ar gyfer Lles`, a gaiff ei datblygu ymhellach yn
2011. Yn olaf, mae Oriel Mon, Llangefni, ar hyn o bryd yn cynnal cynllun peilot o gyfres o weithdai `ArtB` sydd yn rhoi lleoliad cefnogol rheiny sydd yn dioddef iechyd meddwl gwael.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Liz Aylett – Rhaglen y Celfyddydau mewn Iechyd a Lles, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr. [email protected] Ffôn 01248 682321
Neu arweinwyr Amgueddfa ac Oriel Gwynedd:
Bernadette Rippon [email protected] 01492 879201 Gwawr Wynne Roberts [email protected] 01286 679721 Morrigan Mason [email protected] 01745 584060
Nicola Gibson [email protected] 01248 752014
Mae‟n adeg gyffrous i‟r rheiny ohonom sydd ym maes y celfyddydau a gwella.
O‟r diwedd, wedi cymaint o siarad am y celfyddydau ac iechyd, ceir bellach arddangosiadau
ymarferol o rôl bwysig dawn greadigol yn ein lles. Ledled y wlad ceir rhaglenni arbennig sydd wedi ymestyn ystod y lleoliadau ar gyfer y celfyddydau. Rhaglenni a phrosiectau sy‟n mynd â chelfyddydau amrywiol i ysbytau, clinigau, enciliadau a busnesau yn amrywio o gwmnïau
canolig eu maint i gorfforaethau enfawr. Ceir hefyd rhaglenni arloesol cyfeirio at Feddyg Teulu/Artist mewn dinasoedd fel Bryste, Llundain, Newcastle a Chaeredin.
I raddau helaeth, rydym yn dod yn fwy ymwybodol o‟n cyfrifoldeb ein hunain am ein hiechyd ac yn dechrau cael agwedd holistaidd tuag at ein lles ein hunain.
Fel artist greddfol ac ymarferydd egni, rwy‟n canfod nad oes yn rhaid i mi “esbonio” yr hyn rwy‟n ei wneud ac mae pobl wedi rhoi‟r gorau i rolio eu llygaid pan fyddaf yn siarad am y
ffaith bod dawn greadigol yn agwedd mor hanfodol o‟n bodolaeth (fel yr oeddent yn ei wneud ugain mlynedd yn ôl pan wnes i ddechrau). Trwy gyfuno arferion esoterig gyda‟r
creadigol, rwy‟n dangos i bobl sut y gallant ddefnyddio “ffynhonnau eu henaid” i baentio eu tirluniau eu hunain a dod at wraidd materion emosiynol sy‟n eu poeni, a chael rôl weithredol yn eu hadferiad eu hunain.
Rwy‟n defnyddio‟r broses o baentio greddfol sydd yn broses o “baentio o‟r bol " yn lle‟r lefel feddyliol neu‟r meddwl a all fod yn llawn barnau sy‟n analluogi sy‟n ein hatal rhag mynegi ein
Hunain a byw bywydau dilys. Nid yw paentio yn y ffordd hon yn ymwneud ag eisiau bod fel Picasso. Mae‟n ymwneud â hunan-fynegiant sydd yn angen cynhenid ynom i gyd. Mae‟n ym-
wneud â bod yn greadigol, nid yn artistig... dau faes egni gwahanol iawn.
Felly beth sydd gan hyn i gyd i‟w wneud â lles?
Gall ein hiaith lafar fod braidd yn annigonol wrth fynegi ein hemosiwn, ac weithiau rydym yn canfod ein bod wedi ein dal mewn atgofion er da neu er drwg. Pan fyddwn yn cael ein dal yn
ein dramâu ein hunain neu ddramâu pobl eraill, mae angen newid persbectif neu rydym yn parhau “wedi ein dal”. Fel bodau aml-ddimensiwn o egni, mae pob poen neu fychanu yr
ydym yn ei deimlo yn gadael ôl ar ein cyrff emosiynol. Mae materion heb eu datrys yn
mailto:[email protected]:[email protected]:[email protected]:[email protected]:[email protected]
-
Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 12 Rhagfyr 2010
8
datblygu n ffurfiau meddwl a phatrymau egnïol wedi eu dal. Mae ein cyrff yn dal ymlaen i‟r
atgofion neu‟r olion hyn oni bai ein bod yn eu rhyddhau. Mae ein cyrff yn dweud llawer wrthym am gyflwr ein meddyliau.
Trwy‟r broses greadigol o baentio greddfol, rydym yn dysgu pa mor gyfyngedig y gall ein geirfa fod. Mae paentio greddfol yn defnyddio iaith lliw, siâp, ffurf a symbolau (a golwg
symbolaidd) i fynegi‟r emosiynau hynny nad ydym wedi eu ffurfio‟n llafar eto. Mae‟n ein hatgoffa nad codau llafar yw‟r unig iaith sydd gennym. Mae‟n gwneud i ni ystyried ein
hanadlu ac yn defnyddio ein synhwyrau i gyd, nid y pum synnwyr adnabyddus yn unig. Mae‟n ein dwyn ni (fel oedolion) i‟r man cysegredig hwnnw yr oeddem yn ei adnabod unwaith fel plant, y man hwnnw o syfrdan a hud ac ymwybod dwfn lle gallwn weithredu heb
ofn i fynegi ein gwirionedd mewnol. Trwy‟r ymarfer, caiff ein hamgyffrediad ei ddwysáu. Daw ein harsylwadau yn fwy manwl. Rydym yn teimlo syniad dwfn o lonyddwch a thawelwch, ond
eto rydym yn dal yn gwbl fyw. Mae‟n ffordd wych o leihau straen.
Trwy‟r broses, mae‟r holl “fygydau” hynny yr ydym wedi eu gwisgo dros y blynyddoedd er
mwyn goroesi ein magwraeth (camweithredol fel arfer), yn cael eu tynnu i ffwrdd. Mae‟r canlyniadau yn eithriadol. Mae pobl sydd heb baentio erioed o‟r blaen yn cael eu synnu‟n aml wrth i‟r pwerau sydd wedi cael eu claddu‟n ddwfn ynddynt, yr oeddent wedi anghofio sut i‟w
defnyddio, gael eu dihuno. Mae gennym oll egni creadigol rhagorol y tu mewn i ni, pe byddem yn newid ein ffyrdd ein hunain. Pan fyddwn yn paentio ein tirluniau emosiynol
rydym yn cael cipolwg ar yr hyn sy‟n mynd ymlaen yn ein cyrff ein hunain, ein bywydau, ein hemosiynau, ein patrymau ymddygiad. Wrth fynegi ein hemosiynau ar gynfas neu bapur, gallwn adnabod ffurfiau ein meddwl a‟n dawnsfeydd emosiynol ein hunain. Mae rhoi ffurf i‟r
emosiynau hyn yn ein helpu ni i weld ble yr ydym yn gaeth. Os nad ydym yn hoffi‟r hyn yr ydym yn ei weld, gallwn ei newid wrth i‟r mewnwelediad i batrymau ein hymddygiad
ymddangos yn gyflym.
Rwy‟n cloi gyda pharagraph rhagorol gan Carolyn Myss - Anatomy of Spirit: "Mae egni
creadigol yn ein rhyddhau o batrymau arferol ein hymddygiad, ein meddyliau a‟n cydberthynas. Mae arfer yn uffern y mae pobl yn dal ymlaen iddo mewn ymgais i atal llif
newid ".
Pan fyddwn yn dod o hyd i achos craidd ein hing a‟n salwch, rydym bron wedi cyrraedd
adferiad.
Cerddoriaeth a Ffilm Gymunedol TAPE
Mae Cerddoriaeth a Ffilm Gymunedol TAPE yn fenter gymdeithasol
amlgyfrwng unigryw sy‟n cyflwyno prosiectau ar draws siroedd Gogledd Cymru.
Yn TAPE rydym o‟r farn bod archwilio a datblygu dawn greadigol wrth wraidd lles ar gyfer unigolion a chymunedau.
Mae TAPE yn canolbwyntio ar gefnogi pobl a allai fod angen cyfle i ymgysylltu â chymdeithas mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Trwy holl brosiectau TAPE, caiff unigolion eu hannog i
archwilio gweithgareddau newydd neu gydnabod sgiliau a diddordebau presennol ac yna mynd ati i ddefnyddio‟r sgiliau a‟r diddordebau hyn mewn ffordd gadarnhaol.
Caiff holl brosiectau TAPE eu cynnal gan ganolbwyntio ar rymuso, waeth beth fo‟u hoed neu
eu gallu. Mae‟r pwyslais yn cael ei roi ar annog pobl i ddatblygu a pherchenogi eu gwaith ac
-
Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 12 Rhagfyr 2010
9
o‟r fan hon cefnogi adferiad a chynnydd i lawer o feysydd, o amser hamdden, i addysg, hyf-
forddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth.
Ewch i www.tapemusicandfilm.co.uk /
www.tapedradio.co.uk neu ebost [email protected]
LLUN: 'Ghostbuskers' – grŵp clera TAPE yn perfformio‟n fyw yng Ngwobrau Bwrdd Cyfianwder Troseddol 2010 yn
Venue Cymru lle‟r enillodd TAPE wobr cymeradwyaeth arbennig y beirniaid am 'Gyfraniad Eithriadol yn Ymgy-
sylltu Cymunedau Lleol a Chynyddu Hyder y Cyhoedd'.
Cododd staff a defnyddwyr y gwasanaeth yn Hollyhouse, Cheltenham arian at achos da ar
Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd (Dydd Sul, Hydref 10), trwy gynnal taith gerdded noddedig ar gyfer yr elusen iechyd meddwl, MIND.
Mae Hollyhouse yn gartref naw ystafell wely ar gyfer oedolion ag anafiadau ar yr ymennydd, anawsterau dysgu ymylol neu broblemau iechyd meddwl, sy‟n cael ei redeg gan y darparwr
gofal arbenigol, Tracscare.
Gorffennodd pedwar cleient a naw aelod o staff pedair
cylchdaith o‟r parc cyfagos mewn gwisg ffansi, gyda‟r dynion wedi gwisgo fel menywod a‟r menywod wedi gwisgo fel dynion.
Yna daeth y grŵp ynghyd mewn neuadd eglwys leol am fwyd
parti ac i gyflwyno medalau i bawb a gymerodd ran. Casglodd bawb hefyd arian gan deulu a ffrindiau, i godi arian ar gyfer MIND, sydd yn hyrwyddo dealltwriaeth well o fate-
rion iechyd meddwl yn y DU.
Dywedodd y gweithiwr cymorth Stacey Worgan, a helpodd i drefnu‟r digwyddiad, eu bod yn
disgwyl codi tua £250 unwaith bydd yr arian i gyd wedi dod i mewn.
Ychwanegodd: “Fe wnaeth pawb a gymerodd ran yn y daith gerdded noddedig ei mwynhau, ac anaml yr ydym yn gallu cynnal digwyddiad y gall cymaint o staff a cheleintiaid gymryd rhan ynddo gyda‟i gilydd, felly roedd hwn yn ymarfer adeiladu tîm da hefyd.”
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Tracscare ar 08701 020202 neu ewch i www.tracscare.co.uk.
Taith gerdded noddedig yn codi arian at achos da
http://www.tapemusicandfilm.co.ukhttp://www.tapedradio.co.ukmailto:[email protected]://www.tracscare.co.uk/
-
Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 12 Rhagfyr 2010
10
Cyfeiriadur Iechyd, Lles a Chymorth
Mae gwybodaeth am ystod enfawr o wasanaethau iechyd a lles ar draws Cymru gyfan ar gael nawr trwy glicio botwm.
Mae Cyfeiriadur Iechyd, Lles a Chymorth Galw Iechyd Cymru yn cynnwys gwybodaeth am amrywiaeth o grwpiau iechyd a lles a ddarperir yn lleol ac yn genedlaethol a all helpu
pobl sydd eisiau cyngor a gwybodaeth am gyflyrau iechyd, sydd eisiau gwneud dewisiadau ffordd o fyw iachach neu sydd eisiau cymorth cymdeithasol i helpu i oresgyn ynysu a chad-
w‟n weithgar yn y gymuned. Os ydych wedi cael diagnosis o gyflwr meddygol, gallwch chwi-lio‟r cyfeiriadur am grŵp cymorth lleol addas. Neu os oes gennych ddiddordeb yn bod yn fwy egnïol, cael hobi newydd neu ddysgu rhywbeth newydd, beth am chwilio am grŵp cerdded
lleol, dosbarth dawns, clwb celf a chrefft neu ddosbarth nos yr hoffech ei fynychu.
Gallwch chwilio‟r cyfeiriadur trwy ymweld ag adran Gwasanaethau Lleol gwefan Galw Iechyd Cymru yn www.nhsdirect.wales.nhs.uk, neu os nad oes gennych fynediad i‟r rhyngrwyd gallwch ffonio 0845 46 47 (cyfraddau lleol o linell tir) a siarad ag Arbenigwr Gwybodaeth
Iechyd a fydd yn chwilio‟r cyfeiriadur ar eich rhan. Os ydych yn fyddar neu yn drwm eich clyw gallwch gysylltu â Galw Iechyd Cymru drwy ffôn testun ar 0845 606 46 47, neu ffonio
trwy typetalk yr RNID ar 1 8001 0845 46 47. Mae gwasanaeth cyfieithu a dehongli dros y ffôn ar gael hefyd i‟r rheiny sydd eisiau cyfathrebu yn eu dewis iaith.
Pan fyddwch wedi dod o hyd i grŵp neu wasanaeth sydd yn addas i chi, gallech ddewis bod y wybodaeth yn cael ei hanfon atoch i‟ch ffôn symudol – yn rhad ac am ddim, neu os ydych
wedi chwilio‟r cyfeiriadur ar-lein gallech glicio „Cyfarwyddiadau‟ i gynllunio taith yn y car, ar droed neu drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd yno.
Caiff yr holl wybodaeth yn y cyfeiriadur ei wirio a‟i ddiweddaru‟n rheolaidd, er mwyn gwneud yn siŵr ei
fod mor gywir â phosibl. Os ydych yn rhedeg grŵp neu wasanaeth lleol ac eisiau i‟ch manylion gael eu
cynnwys yn y Cyfeiriadur Iechyd, Lles a Chymorth, cysylltwch â Gareth Thomas ar 01792 776252 est 5447
neu e-bost: [email protected]
http://www.nhsdirect.wales.nhs.ukmailto:[email protected]
-
Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 12 Rhagfyr 2010
11
-
Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 12 Rhagfyr 2010
12
Grŵp Garddio Y Gampfa Werdd BTCV yn Ysbyty Santes Tudful, Merthyr
Mae BTCV ac Ysbyty Santes Tudful wedi gweithio mewn partneriaeth ers mis Ionawr 2008 i
wireddu Prosiect Gardd y Gampfa Werdd. Gweithiodd gwirfoddolwyr o dan arweiniad staff BTCV am dair wythnos yn trawsnewid y gofod segur ar dir yr ysbyty yn ardd hygyrch.
Dechreuodd y sesiynau garddio ym mis Mai 2008. Tyfodd y prosiect o bartneriaeth rhwng BTCV a phrosiect Mentro Allan ym Merthyr a Blaenau Gwent. Prif amcan y prosiect yw annog a chefnogi gweithgareddau corfforol yn yr amgylchedd naturiol ar gyfer pobl â phroblemau
iechyd meddwl acíwt, sydd yn gleifion ym Merthyr Tydfil. Agorwyd yr ardd yn swyddogol gan Edwina Hart ym mis Tachwedd 2008.
Mae staff yn yr uned iechyd meddwl wedi cael eu hyfforddi i gyflwyno prosiect y Gampfa Werdd ar gyfer cynaliadwyedd y prosiect ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â‟r staff
gweithgaredd corfforol ar y wardiau a‟r adran therapi galwedigaethol i ddatblygu‟r sesiynau.
Cynhelir sesiynau yn y mannau gwyrdd ar dir yr ysbyty a‟r adran Therapi Galwedigaethol lle
mae gennym gyfleusterau gwaith coed i alluogi cleifion i adeiladu gwelyau uwch ar gyfer y gerddi. Mae‟r grŵp wedi parhau i berchenogi‟r mannau gwyrdd ar dir yr ysbyty a gwneud
penderfyniadau ynglŷn â‟r ffordd y dylai‟r mannau edrych a‟r hyn y dylid ei blannu. Rydym wedi plannu amrywiaeth o hadau ac wedi tyfu‟r rhain yn y tŷ gwydr. Mae‟r grŵp wedi trin yr eginblanhigion trwy gydol yr wythnos ac wedi eu plannu allan yn y gwelyau blodau. Mae cy-
franogwyr a fynychodd fel cleifion preswyl wedi parhau i ddychwelyd i‟r sesiynau ar ôl cael eu rhyddhau o‟r ysbyty.
Gweithiodd y grŵp i ddatblygu map gwyrdd o dir yr ysbyty ac mae hwn yn amlinellu‟r prosiect a pham yr ydym wedi datblygu‟r bartneriaeth yn ogystal â darparu gwybodaeth am
iechyd meddwl ac am y mannau gwyrdd ar dir yr ysbyty a theithiau cerdded byr y gellir mynd arnynt i weld pob man gwyrdd.
Mae BTCV wedi datblygu taflen syml i gyfeirio cleifion i brosiectau BTCV tebyg yn eu hardal er mwyn galluogi cleifion i barhau â‟u diddordeb newydd trwy fynychu‟r sesiynau a sicrhau
bod gan bobl gysylltiadau er mwyn mynd allan yn eu cymunedau.
Lluniau cyn ac ar ôl
http://www.wcva.org.uk/index.cfm
-
Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 12 Rhagfyr 2010
13
Cynnwys ffyniant yn Hands on Scotland
Mae adran newydd ar gyfer rhieni a gweithwyr ynglŷn â sut i helpu plant i ffynnu!
Dysgwch sut i: Ddatblygu hyder; annog diolchgarwch; hyrwyddo optimistiaeth; meithrin cydberthynas dda; meithrin syniad o ddiben; datblygu cydbwysedd emosiynol...a llawer
mwy!
Mae Hands On Scotland yn wefan sefydledig, boblogaidd, sy‟n helpu gweithwyr rheng flaen i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc. Mae‟n cynnig llawer o wybodaeth ymar-ferol a thechnegau „ymarferol‟ i ymateb yn ddefnyddiol i ymddygiad cythryblus. Mae 11,000
o ymelwyr ar gyfartaledd yn ymweld â‟r safle bob mis. Mae gwerthusiad wedi dangos bod y wefan hon wedi cynyddu dealltwriaeth gweithwyr o ymddygiad cythryblus; eu hyder; a‟r
teimlad eu bod yn cael eu cefnogi yn eu gwaith:
„Mae gweithwyr yn meddwl „iechyd meddwl‟ ac yn methu gwneud unrhyw beth. Ond mae‟r
wefan yn cyfeirio at wrando a chymryd sylw o bethau sydd yn newid yn y person ifanc ac mae‟n eich helpu i sylweddoli y gallwch wneud rhywbeth‟ (Gweithiwr Prosiect).
Mae gan wefan Hands On Scotland borth newydd bellach ar sut i helpu plant a phobl ifanc i ffynnu!
Mae‟r porth newydd yn adnodd unigryw sy‟n rhoi gwybodaeth, syniadau a gweithgareddau i helpu i hybu iechyd meddwl cadarnahol, neu ffyniant, ymysg pob plentyn a pherson ifanc.
Ei nod hefyd yw helpu i atal yr anawsterau sy‟n cael eu disgrifio yn yr adran Ymddygiad Cythryblus ac i helpu i wella iechyd meddwl y gweithwyr a‟r rhieni, a thrwy hyn, creu cy-muned sy‟n fynnu.
Mae‟r porth newydd hwn wedi ei ddylunio ar gyfer rhieni, gofalwyr ac unrhyw un sy‟n
gweithio gyda babanod, plant a phobl ifanc (er enghraifft: athrawon, gweithwyr cymde-ithasol, gofalwyr maeth, gweithwyr iechyd, nyrsys ysgol, nyrsys meithrin, ac ati).
Mae‟r porth ffyniant yn cynnwys 14 o destunau yn cynnwys ystod eang o faterion yn cynn-wys hyder, cadernid, diolchgarwch, cydberthynas dda, syniad o ddiben a chydbwysedd emosiynol. Defnyddir gwybodaeth o lenyddiaeth helaeth mewn seicoleg gadarnhaol, hybu
iechyd, addysg ac iechyd y cyhoedd.
Dyma brif negeseuon y porth newydd:
Gofalwch a datblygwch eich iechyd meddwl eich hun.
Credwch fod gan bob plentyn y potensial a‟r hawl i ffynnu.
Gwrandewch, er mwyn deall sut mae pob plentyn yn teimlo mewn gwirionedd.
Helpwch bob plentyn i ganfod ei werth unigryw ei hun.
Cysylltwch yn dda gyda phob plentyn a byddwch yn eu helpu i gysylltu‟n dda gy-
dag eraill.
Anogwch bob plentyn i fwynhau‟r foment bresennol.
Ceir hefyd 33 o weithgareddau wedi eu dylunio ar gyfer rhieni a gweithwyr i‟w defnyddio gyda grwpiau neu blant a phobl ifanc unigol i‟w helpu i ddatblygu iechyd meddwl da.
Mae‟r safle yn esblygu yn barhaus: mae ffurflen adborth i bob adran, a bydd sylwadau ar y
ffurflenni hyn yn arwain at waith gan dîm y wefan i ychwanegu neu newid gwybodaeth a
Y DU, Gweriniaeth Iwerddon ac Ewrop
-
Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 12 Rhagfyr 2010
14
a chyngor.
Mae‟r adborth cychwynnol ar y porth newydd wedi bod yn gadarnhaol iawn:
Mae‟n galonogol iawn gweld gwybodaeth wedi ei hanelu at rieni a gweithwyr sydd yn ca-nolbwyntio ar hybu iechyd meddwl cadarnhaol!
Gweithiwr Cymdeithasol
Pe byddwn yn cynnwys popeth yr wyf yn ei hoffi am y safle hwn, byddwn wedi creu llyfr.
Swyddog Datblygu Ymarfer Gwasanaethau Maethu
Llawer o gyngor ystyriol a synhwyrol…Rwy‟n hoffi‟r ffordd y mae wedi ei gysylltu‟n benodol
â‟r Cwricwlwm Rhagoriaeth. Athro ysgol uwchradd
Ewch i‟r wefan yn www.handsonscotland.co.uk a helpwch i ddatblygu bywydau ifanc sy‟n
ffynnu.
Digwyddiadau i Ddod
Dyddiadau Amrywiol
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae tystiolaeth wedi cael ei chasglu sy‟n dangos bod gwaith yn dda i iechyd ac y gall yn wir fod yn therapiwtig. O ganlyniad, mae nifer o fentrau
a gynlluniwyd i helpu pobl i aros mewn/dychwelyd i waith er gwaethaf cyflyrau iechyd cronig (yn cynnwys iechyd meddwl) ac felly atal „chronigedd‟, wedi cael eu hariannu ar draws y DU.
Fel rhan o hyn, mae Cymru Iach ar Waith yn cefnogi meddygon teulu i reoli cleifion ac felly maent yn gweithio gyda Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP) i gynnal cyfres o weithdai am ddim wedi eu hachredu gan RCGP, sef "Iechyd a Gwaith mewn Ymarfer Cyf-
fredinol". Nod y gweithdai hyn yw cefnogi meddygon teulu i ddefnyddio‟r Nodyn Ffitrwydd a rhoi gwybodaeth am adnoddau lleol a rhai awgrymiadau defnyddiol ar ysgogi cleifion. Croe-
sewir meddygon teulu, hyfforddeion a meddygon teulu sesiynol, a meddygon sylfaen, i fyny-chu unrhyw un o‟r digwyddiadau a restrir ar yr amserlen yn rhad ac am ddim.
I archebu lle am ddim, cysylltwch â Suzanne Burrows [email protected] neu
07977719748.
Cynhadledd Diwylliant ac Iechyd Meddwl Rhyngwladol
Iechyd a Gwaith mewn Ymarfer Cyffredinol
6-7 Rhagfyr 2010
Ysbyty Wythenshawe, Manceinion
Mae‟r gynhadledd hon yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Manceinion a Phrifysgol Toronto.
Cenhadaeth y gynhadledd yw darparu fforwm agored ar gyfer pob testun sydd o ddiddordeb
i gymuned ryngwladol amrywiol astudiaethau iechyd meddwl a diwylliant, creu trafodaeth fywiog, feirniadol am gymdeithas gyfoes; meithrin cysylltiadau a chyfnewid syniadau; ac yn
y pen draw, cael ysbrydoliaeth oddi wrth ei gilydd.
Am fwy o wybodaeth lawrlwythwch taflen y gynhadledd a‟r agenda
http://www.handsonscotland.co.ukfile:///H:/NETWORKS/Mental%20Health%20Promotion%20Network/NEWSLETTER/ISSUE%2012/Articles/RCGP%20event%20timetable.docxBLOCKED::mailto:[email protected]://www.publicmentalhealth.org/Documents/749/FLYER%20CIMH%202010.pdffile:///C:/Documents%20and%20Settings/ma123707/Local%20Settings/Temporary%20Internet%20Files/Content.Outlook/W4X1RIUP/Articles/Culture%20and%20International%20Mental%20Health%20Conference%20Agenda.doc
-
Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 12 Rhagfyr 2010
15
Gweithdai Celf mewn Iechyd a Lles Mind Ynys Mon ac Amgueddfa ac Oriel
Gwynedd
Dyddiadau Amrywiol
Mae‟r gweithdai celf 2D a 3D hyn ar gyfer pobl o Wynedd ac Ynys Môn. Cyfres o weithdai a chyfle i archwilio, mynegi a mwynhau trwy gyfrwng celf mewn amgylchedd anffurfiol. Nid
oes angen unrhyw brofiad blaenorol o gelf. Mae’n rhaid archebu lle. Ar gyfer pobl dros
18 oed.
Cyfraniadau i'r cylchlythyr
Os hoffech gyfrannu i rifynnau o Hybu Iechyd Meddwl Cymru yn y dyfodol cysylltwch â
Marie Griffiths
14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol
Caerdydd
CF11 9LJ
Ffôn: 029 2022 7744
EBost: [email protected]
Cofrestrwch Am ddim
I ymuno â'r rhwydwaith ewch i wefan Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl
Cymru Gyfan a llenwch ffurflen fer ar-lein.
www.iechydmeddwlycyhoedd.org
Cedwir eich manylion yn gwbl gyfrinachol. Fodd bynnag, os hoffech ganslo
eich tanysgrifiad i Hybu Iechyd Meddwl Cymru e-bostiwch
file:///H:/NETWORKS/Mental%20Health%20Promotion%20Network/NEWSLETTER/ISSUE%2012/Articles/Ynys%20Mon%20Mind%20and%20Gwynedd%20Museum.pdfmailto:[email protected]://www.iechydmeddwlycyhoedd.org/mailto:[email protected]