How was school today? (Welsh)

14
1 YEAR 3. AGES 7 & 8 1 YEAR 3. AGES 7 & 8 YEAR 3. AGES 7 & 8 Sut oedd yr ysgol heddiw? Canllaw ar ysgolion uwchradd i rieni a gofalwyr 11–14 oed

description

welsh version, secondary school guidance

Transcript of How was school today? (Welsh)

Page 1: How was school today? (Welsh)

1

YEAR 3. AGES 7 & 8

1

YEAR 3. AGES 7 & 8YEAR 3. AGES 7 & 8

Sut oeddyr ysgolheddiw?Canllaw ar ysgolion uwchradd

i rieni a gofalwyr

11–14 oed

Page 2: How was school today? (Welsh)

3

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y bydd rhoi sylfaen gadarn i ddysgwyr argyfer y dyfodol o fudd i blant ac i Gymru gyfan yn yr hirdymor.

Mae gan rieni a gofalwyr ran hollbwysig i’w chwarae i helpu eu plant iddysgu ac, yn bwysicach, i fwynhau’r ysgol a dysgu.

Bydd y canllaw hwn yn helpu i egluro beth mae eich plentyn yn ei ddysguyn yr ysgol uwchradd. Bydd yn rhoi syniadau i chi am sut i helpu eichplentyn a ble i gael rhagor o wybodaeth. Bydd hefyd yn egluro sut caiffcynnydd eich plentyn ei fesur a sut byddwch yn cael gwybod am hyn.

Mae addysg plant yng Nghymru wedi’i rhannu’n bedair rhan neu bedwarcyfnod.

Ysgol gynradd Ysgol uwchradd

Mae’r canllaw hwn yn disgrifio’r cwricwlwm fel y mae’n berthnasol i blantrhwng 11 a 14 oed yng Nghyfnod Allweddol 3 mewn ysgolion uwchradd.

Mae gwybodaeth am gyfnodau dysgu eraill eich plentyn ar gael ynwww.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

Mae CyfnodAllweddol 2rhwng 7 ac11 oed.

Mae’r CyfnodSylfaen ar gyferplant rhwng 3 a 7 oed.

Mae CyfnodAllweddol 3rhwng 11 a14 oed.

Mae CyfnodAllweddol 4 i ddysgwyrrhwng 14 ac16 oed.

1 2 3 4

2

Cyflwyniad Canllaw ar ysgolion uwchradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 3; 11–14 oed

ISBN: 978 0 7504 7473 3WG15566

© Hawlfraint y Goron Mai 2012

Page 3: How was school today? (Welsh)

5

Bydd eich plentyn yn dilyn cwricwlwm cyfoethogac amrywiol sydd â’r nod o roi cyfleoedd iddo/iddiddysgu am y canlynol:

• Cymraeg neu Gymraeg ail iaith • Saesneg • mathemateg • gwyddoniaeth • dylunio athechnoleg • technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) • iaith dramor fodern• hanes • daearyddiaeth • cerddoriaeth• celf a dylunio • addysg gorfforol.

Mae rhaid i blant astudio addysg grefyddol hefydac mae’n rhaid i bob ysgol uwchradd ddarparurhywfaint o addysg bersonol a chymdeithasol(ABCh), gyrfaoedd a’r byd gwaith ac addysg rhyw.

Mae pob ysgol yn penderfynu ar fanylion yr hynbydd plant yn ei ddysgu a threfn y diwrnod ysgol.Byddan nhw’n ystyried y gofynion rydym wedi’unodi, ac yn trefnu eu hamserlenni eu hunain.

Mae athrawon yn llunio cynlluniau gwersi ac ynpenderfynu pa adnoddau a dulliau addysgu i’wdefnyddio. Cyfrifoldeb yr ysgol yw gwneud yn siwrbod ei chwricwlwm yn bodloni’r gofynioncyfreithiol.

Bydd ysgol eich plentyn yn gallu rhoi rhagor owybodaeth am y ffordd mae’n strwythuro’rcwricwlwm ac yn datblygu sgiliau, yn ogystal âmanylion am cynnwys bydd eich plentyn yn ei ddysgu.

Mae rhagor o wybodaeth am addysg a’rcwricwlwm yng Nghymru ar gael ynwww.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

4

Y cwricwlwm

Bydd plant yn y grwp oedran hwn yn dilyn yrhaglenni astudio sydd wedi’u nodi yn y cwricwlwmcenedlaethol ar gyfer Cyfnod Allweddol 3. Mae euhaddysg yn adeiladu ar y profiadau a’r hyn addysgwyd yn yr ysgol gynradd ac yn eu paratoi argyfer gwneud penderfyniadau am gyrsiau arholiady byddan nhw’n eu dilyn yn ddiweddarach yn euhaddysg uwchradd.

Mae’r cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 3 ynseiliedig ar bynciau a sgiliau. Bydd yn rhoi sylfaengadarn mewn iaith, mathemateg a gwyddoniaethac yn rhoi’r cyfle i blant gyflawni eu gorau mewncwricwlwm eang a chytbwys.

Mae datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd da, a’udefnyddio mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd,yn greiddiol i’r hyn y bydd plant yn ei ddysgu yn yrysgol uwchradd.

Rydym am sicrhau bod pobl ifanc yn gallu darllen,ysgrifennu a defnyddio rhifau yn effeithiol ac ynhyderus er mwyn cefnogi eu dewisiadau yn ydyfodol wrth ddysgu ac mewn bywyd.

Beth mae fy mhlentyn yn ei ddysgu?

Canllaw ar ysgolion uwchradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 3; 11–14 oed

Page 4: How was school today? (Welsh)

7

Cymraeg ail iaithWrth i blant ddod yn fwy hyderus yn siaradCymraeg, byddan nhw’n adeiladu ar eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth drwy raglen o lafaredd, darllen ac ysgrifennu.

Caiff galluoedd plant fel gwrandawyr, gwylwyr a siaradwyr eu datblygu a’u hymestyn a byddannhw’n siarad yn fwyfwy rhugl.

Bydd y profiadau y byddan nhw’n eu cael yn cynnwys cyfleoedd i gymryd rhan mewngweithgareddau drama a chwarae rôl.

Byddan nhw’n gallu cyflwyno safbwyntiau personolam eu deunydd darllen, gan ymateb yn briodol i gynnwys ac arddull.

Canllaw ar ysgolion uwchradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 3; 11–14 oed

6

Cymraeg neu SaesnegBydd plant yn dilyn rhaglen o siarad, gwrando,darllen ac ysgrifennu.

Bydd gweithgareddau yn sicrhau bod plant yndatblygu ac yn ymestyn eu galluoedd felgwrandawyr, gwylwyr a siaradwyr.

Bydd plant yn darllen yn eang er pleser, diddordeba gwybodaeth ac er mwyn datblygu ac egluro barnbersonol hyddysg am eu darllen.

Bydd y profiadau y byddan nhw’n eu cael yncynnwys cyfleoedd i gymryd rhan mewngweithgareddau drama a chwarae rôl.

Byddan nhw’n dysgu i addasu eu hiaith i gyd-fynd â dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol, ganddefnyddio lefel briodol o ffurfioldeb.

Y cwricwlwm

Page 5: How was school today? (Welsh)

9

Ieithoedd tramor modernCaiff plant y cyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebumewn iaith dramor fodern. Penderfyniad yr ysgolunigol fydd pa iaith neu ieithoedd penodol a gynigir.

Drwy ddatblygu eu sgiliau llafaredd, darllen acysgrifennu, bydd plant hefyd yn meithrindealltwriaeth ryngddiwylliannol, ac ymdeimlad ofyw yn y byd, a byddan nhw’n dysgu i werthfawrogigwahanol ddiwylliannau a chymunedau a’ucymharu â’u diwylliant a’u cymuned nhw. Byddannhw’n archwilio’r hyn sy’n debyg a’r hyn sy’nwahanol rhwng ieithoedd eraill a Chymraeg aSaesneg.

Caiff plant eu hannog i werthfawrogi’r ffaith bod y gallu i ddeall a chyfathrebu mewn iaith arall ynsgil oes o ran dysgu, hamdden a chyflogaeth yny wlad hon a ledled y byd.

Dylunio a thechnolegGan ystyried cynaliadwyedd a materionamgylcheddol yn yr unfed ganrif ar hugain, byddysgolion yn addysgu plant i ddylunio a gwneudcynnyrch drwy gyfuno eu sgiliau â gwybodaeth adealltwriaeth. Byddan nhw’n cael eu hannog i wneudpenderfyniadau sy’n seiliedig ar y gwerthoedd sy’nsail i gymdeithas, gan eu helpu i ddod ynddinasyddion gweithgar a gwybodus. Byddan nhw’ncael eu gwneud yn ymwybodol o gyflawniadaudynol a’r syniadau mawr sydd wedi llunio’r byd.

Canllaw ar ysgolion uwchradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 3; 11–14 oed

8

Y cwricwlwm

MathemategMae plant yn ymestyn eu meddwl mathemategoldrwy ddatrys problemau mathemategol, ganweithio gyda hyder a hyblygrwydd cynyddol wrthddatrys problemau anghyfarwydd neu broblemaumewn cyd-destunau anghyfarwydd, gwaith llafarac ysgrifenedig, gan esbonio eu rhesymu i eraill, a defnyddio cyd-destunau o bob rhan o’r maesmathemateg a rhai a gaiff eu defnyddio i ddatrysproblemau go iawn.

Bydd plant yn meithrin eu dealltwriaeth o ddadlaurhesymegol pan fyddan nhw’n dod ar draws nifer offyrdd o ddatrys problemau gan ddefnyddioalgebra a geometreg. Maen nhw’n meithrin gwelldealltwriaeth o briodweddau siâp, lleoliad asymudiad ac yn casglu, cynrychioli, dadansoddi adehongli data realistig.

GwyddoniaethBydd ysgolion yn addysgu plant i roi eu sgiliau, eugwybodaeth a’u dealltwriaeth wyddonol ar waithwrth lunio strategaethau, datrys problemau achynnig esboniadau, gan gysylltu syniadaugwyddonol â’r wybodaeth amdanyn nhw, gangynnwys materion cyfredol.

Byddan nhw’n cael cyfleoedd i astudio gwaithgwyddonwyr ac i gydnabod rôl data arbrofol,meddwl creadigol a gwerthoedd yn eu gwaith ac wrth ddatblygu syniadau gwyddonol.

Page 6: How was school today? (Welsh)

11

Cerddoriaeth Bydd plant yn mwynhau gwneud cerddoriaeth ac ynmynd ati i wneud hynny drwy berfformio, cyfansoddia gwerthuso cerddoriaeth. Byddan nhw’n datblygusgiliau cerddorol gan gynnwys canu a chwaraeofferynnau, ac ymarfer, creu cerddoriaeth yn fyrfyfyr,cyfansoddi a threfnu cerddoriaeth. Byddan nhw hefydyn dysgu gwrando ar gerddoriaeth a’i gwerthuso.

DaearyddiaethBydd plant yn ehangu eu gwybodaeth a’udealltwriaeth o ran sut mae prosesau yn lluniotirweddau naturiol a dynol. Byddan nhw’n cynnalymchwiliadau, yn defnyddio mapiau, yn casgludata ac yn dadansoddi ac yn cyfosod gwybodaeth.Byddan nhw’n cael eu hannog i arddel barnhyddysg am faterion bob dydd, datblygu eusafbwyntiau a’u barn eu hunain a myfyrio arnynnhw a datblygu ymdeimlad o gyfrifoldeb tuag at yr amgylchedd a’u rôl yn y byd.

Celf a dylunioBydd plant yn datblygu gallu cynyddol i wneudcysylltiad rhwng sut maen nhw’n creu eu gwaith eu hunain a gwaith artistiaid, crefftwyr a dylunwyreraill. Byddan nhw’n dod yn gynyddol annibynnol o ran eu dewis o ddeunyddiau a phrosesau ac, o’uprofiadau yn y gorffennol, byddan nhw’n maguhyder wrth ddefnyddio iaith weledol, gyffyrddol a synhwyraidd.

Canllaw ar ysgolion uwchradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 3; 11–14 oed

10

Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh)Bydd plant yn adeiladu ar eu sgiliau, eu gwybodaetha’u dealltwriaeth drwy ddatblygu ymwybyddiaethgynyddol o ba mor berthnasol a chredadwy ywgwybodaeth a byddan nhw’n dechrau nodi achwestiynu tuedd mewn ffynonellau.

Byddan nhw’n cael eu haddysgu i ddod yngynyddol annibynnol o ran sut i ddefnyddioffynonellau gwybodaeth diogel ac addas, boed ynrhai TGCh neu’n rhai eraill, a sut i ddefnyddioamrywiaeth o sgiliau ac adnoddau TGCh i ddod ohyd i wybodaeth, ei dadansoddi, ei chyfleu, eichyflwyno a’i rhannu. Byddan nhw’n dod ynfwyfwy ymwybodol o effeithiau cymdeithasol,moesegol, moesol ac economaidd TGCh yn ygymdeithas ehangach.

HanesBydd plant yn dysgu drwy holi am brif nodweddiongwleidyddol, economaidd, cymdeithasol adiwylliannol cyfnodau dethol o hanes Cymru ahanes Prydain yn ystod y mileniwm diwethaf achanolbwyntio ar y nodweddion hyn. Byddannhw’n dysgu am y profiadau gwahanol a gafoddpobl ym mhob cyfnod, ac yn meithrin eudealltwriaeth o achosion digwyddiadau a sut maepethau’n newid dros amser.

Y cwricwlwm

Page 7: How was school today? (Welsh)

13

Llythrennedd a rhifeddCaiff pob plentyn help i ddatblygu ei sgiliaullythrennedd a rhifedd. Yn ogystal â dysguCymraeg, Saesneg a mathemateg, mae’r sgiliau hyn yn rhai y gall plant eu defnyddio mewnsefyllfaoedd gwahanol ac mewn amrywiaeth eang o weithgareddau.

Mae llythrennedd yn disgrifio set o sgiliau, yncynnwys siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu, sy’nein galluogi i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas.

Mae rhifedd yn seiliedig ar hanfodion mathemategol.Mae rhifedd yn disgrifio’r set o sgiliau sydd eihangen i fynd i’r afael â phroblemau go iawn mewnnifer o sefyllfaoedd drwy ddefnyddio rhesymumathemategol er mwyn cynllunio sut i ddatrys y broblem, ac wedyn gynnal y prosesaumathemategol i ddod o hyd i’r ateb.

Bydd plant yn datblygu sgiliau llythrennedd arhifedd yn holl bynciau’r cwricwlwm cenedlaethol a thrwy ddefnyddio amrywiaeth eang o weithgareddau.

Canllaw ar ysgolion uwchradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 3; 11–14 oed

12

Addysg gorfforolWrth i hyder plant gynyddu, bydd eu gallu i gymrydrhan mewn gweithgareddau sy’n fwy heriol yndechnegol yn cynyddu hefyd. Byddan nhw’n dysgubuddiannau cydweithio ag eraill i atgyfnerthu tîmneu bartneriaeth er mwyn curo eraill. Byddan nhwhefyd yn dysgu ymarfer ar gyfer digwyddiadau.

Bydd ysgolion yn annog plant i ddeall y byddcymryd rhan mewn gweithgaredd o fudd i’whiechyd a’u ffitrwydd ac i gymryd mwy ogyfrifoldeb dros eu lles eu hunain.

Beth arall fydd fy mhlentyn yn ei ddysgu?Ochr yn ochr â phynciau’r cwricwlwmcenedlaethol, bydd pob plentyn yn dilyn rhaglen o addysg grefyddol, addysg bersonol achymdeithasol (ABCh) ac addysg rhyw.

Yn y bôn, cyfrifoldeb ysgolion yw cynllunio adarparu rhaglen eang a chytbwys o addysggrefyddol, ABCh ac addysg rhyw wedi’i chynllunio i ddiwallu anghenion penodol dysgwyr.

Y cwricwlwm

Page 8: How was school today? (Welsh)

15

Canllaw ar ysgolion uwchradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 3; 11–14 oed

14

Sut galla i helpu fymhlentyn i ddysgu?

Mae rhieni yn chwarae rhan hollbwysig wrth helpuplant i ddysgu. Gallwch helpu eich plentyn iddysgu drwy chwarae rhan, nid dim ond gartrefond fel rhan o’ch bywyd bob dydd gyda’ch gilydd.Dangoswch ddiddordeb a thrafodwch pa bynciauy maen nhw’n eu hastudio yn yr ysgol a cheisiwchsicrhau bod ganddyn nhw le tawel i astudio ac iwneud eu gwaith cartref.

Syniadau ar gyfer dysgu gyda’ch gilydd gartref

• Gall annog eich plentyn i ddarllen, hyd yn oed amddim ond 10 munud y dydd, wneud gwahaniaethgwirioneddol. Gall deunydd darllen amrywio –anogwch eich plentyn i ddarllen nid dim ond llyfraua chylchgronau ond hefyd wefannau, apps, gemauac ati.

• Bydd sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r newyddiondiweddaraf yn helpu plant i ddatblygu euhymwybyddiaeth o’r gymuned leol, genedlaethol a byd-eang. Ceisiwch eu hannog i ddarllen y papurnewydd neu’r newyddion ar y we unwaith neuddwywaith yr wythnos.

Dysgu yn y cartref

• Wrth edrych ar filiau’r cartref, trafodwch â nhwbeth mae’r bil yn ei ddangos a’r amrywiolopsiynau o ran sut i dalu. Mae hon yn sgil bywydwerthfawr.

• Ceisiwch gynnwys y plant wrth gynllunio teithiau,gwyliau neu ddigwyddiadau a hyd yn oed wrthwneud tasgau o amgylch y cartref a gwaith DIY.

• Ceisiwch gysylltu rhai o weithgareddau’r teulu ary penwythnos â’r hyn maen nhw’n ei ddysgu ynyr ysgol ar y pryd. Bydd yn helpu i sicrhau boddysgu yn fwy o hwyl.

• Cofiwch fod gweithgareddau sy’n defnyddio’rrhyngrwyd, gemau a chwaraeon oll yn cynnigcyfleoedd gwerthfawr, llawn hwyl i roi sgiliau agwybodaeth ar waith.

• Anogwch eich plentyn i wneud ei orau glas gyda’i waith cartref ac i’w gwblhau’n brydlon.

Presenoldeb yn yr ysgolWrth gwrs, y ffordd orau o helpu eich plentyn i ddysgu yw drwy wneud yn siwr nad yw’n colligwersi. Felly, rhowch y dechrau gorauposibl mewn bywyd i’ch plentyn drwy wneud yn siwr ei fod yn mynd i’r ysgol bob amser.

Page 9: How was school today? (Welsh)

17

Alla i dynnu fy mhlentyn yn ôl o’rcwricwlwm cenedlaethol?Nid oes hawl gan riant i dynnu plentyn yn ôl obynciau’r cwricwlwm cenedlaethol, nac o’rtrefniadau i asesu cynnydd plant yn y pynciau hyn.Fodd bynnag, mae gennych yr hawl i dynnu eichplentyn yn ôl o addysg grefyddol ac unrhyw addysgrhyw a all gael ei darparu.

Canllaw ar ysgolion uwchradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 3; 11–14 oed

16

A yw plant ag anghenion addysgolarbennig yn dilyn y cwricwlwmcenedlaethol?Bydd y rhan fwyaf o blant, gan gynnwys y rhai aganghenion dysgu ychwanegol, yn gallu dilyn ycwricwlwm cenedlaethol. Fodd bynnag, ar adegau,gall pennaeth benderfynu na ddylai’r cwricwlwmcenedlaethol cyfan neu ran ohono fod ynberthnasol, dros dro, i blentyn ag anghenionaddysgol arbennig. Mewn achosion eithriadol iawn,fel plant sydd â Datganiadau Anghenion AddysgolArbennig gan yr awdurdod lleol, gall benderfynu naddylai’r cwricwlwm cenedlaethol fod yn berthnasolo gwbl a hynny’n barhaol. ‘Datgymhwyso’ yw’r termam hyn.

Hefyd, gallwch gael rhagor o wybodaeth am bethsydd ar gael i blant ag anghenion dysguychwanegol ynwww.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

Page 10: How was school today? (Welsh)

19

Sut bydda i’n gwybod sut mae fymhlentyn yn dod yn ei flaen?Byddwch yn cael adroddiad ysgrifenedig argynnydd eich plentyn o leiaf unwaith y flwyddyn.Cewch gyfle hefyd i gwrdd ag athro/athrawes eich plentyn.

Bydd yr adroddiad blynyddol yn cynnwysgwybodaeth o’r asesiad hwn o’r cwricwlwmcenedlaethol. Bydd yr adroddiad blynyddol hefydyn cynnwys adborth oddi wrth athro/athraweseich plentyn ar gryfderau a meysydd i’w gwella,presenoldeb a chyflawniadau. Bydd yr adroddiadyn sail i drafodaeth am anghenion dysgu eichplentyn a’r camau nesaf.

Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3, bydd adroddiadeich plentyn yn cynnwys lefel y cwricwlwmcenedlaethol ar gyfer pob pwnc. Bydd hyn yn rhoidarlun cryno i chi o gynnydd eich plentyn a’i lefelcyflawniad yn erbyn safonau’r cwricwlwmcenedlaethol.

Bydd yr adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaetham sut mae’r canlyniadau ar gyfer yr ysgol gyfan yncymharu â safonau lleol a chenedlaethol.

Am ragor o wybodaeth am adroddiadau ysgol ewch iwww.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

Canllaw ar ysgolion uwchradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 3; 11–14 oed

18

Sut caiff fy mhlentyn ei asesu?

Mae gan bob pwnc yn y cwricwlwm cenedlaetholei set ei hun o dargedau heriol sy’n cwmpasu cyfreso gamau, neu lefelau, ar raddfa genedlaetholgyffredin. Ym mhob un o’r pynciau, caiff cynnyddeich plentyn ei asesu yn erbyn safonaucenedlaethol yn seiliedig ar wyth lefel aPherfformiad Eithriadol (PE). Mae hyn yn galluogiathrawon i gynllunio gwersi yn unol ag oedran agallu, ac yn helpu i asesu cynnydd plant.

Mae athrawon yn asesu gwaith plant o ddydd iddydd, ym mhob pwnc ac ym mhob gweithgaredd.Yn benodol, byddan nhw’n asesu cynnydd yn ypynciau craidd, sef Cymraeg (naill ai fel iaithgyntaf neu fel ail iaith), Saesneg, mathemateg agwyddoniaeth.

Bydd yr athro/athrawes yn penderfynu pa lefel arraddfa’r cwricwlwm cenedlaethol sy’n adlewyrchucynnydd eich plentyn orau ym mhob un o’rpynciau craidd. Mae’r asesiad hwn yn defnyddiopob agwedd ar waith eich plentyn yn yr ysgol a’iwaith cartref.

Asesu eich plentyn

Page 11: How was school today? (Welsh)

21

Canllaw ar ysgolion uwchradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 3; 11–14 oed

Mae’n bwysig cofio y bydd plant gwahanol yncyflawni ar gyflymdra gwahanol ond ar ddiwedd yr ysgol uwchradd, bydd disgwyl i’r rhan fwyaf o blant gyrraedd Lefel 4 ar raddfa’r cwricwlwmcenedlaethol ym mhob pwnc craidd.

I gael gwybodaeth am ddisgrifiadau lefel ycwricwlwm cenedlaethol, ewch iwww.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

Pwy sydd â’r hawl i gaeladroddiadau a gwybodaeth aralloddi wrth yr ysgol?Mae gennych yr hawl i gael copi o adroddiad eichplentyn oddi wrth yr ysgol. Mae gennych yr hawl igael copi o adroddiad blynyddol y llywodraethwyrhefyd.

Mae gan rieni sydd wedi ysgaru neu wahanu aceraill a all fod â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn yr un hawl i weld yr wybodaeth hon oni bai bodgorchymyn llys a fyddai’n atal hyn.

I gael rhagor o wybodaeth am rieni/gofalwyr a chyfrifoldeb rhiant, ewch iwww.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

Deilliannau 1, 2 a 3 y Cwricwlwm CenedlaetholGall athrawon baratoi adroddiad ar gynnydd plant sy’n gweithio tuag at y cam cyntaf ar y cwricwlwm cenedlaethol gan ddefnyddio’r tri cham ‘deilliant’sy’n dod cyn iddyn nhw gyflawni Lefel 1.

Lefelau 1, 2, 3 a 4 y Cwricwlwm CenedlaetholI rai plant, gall perfformiad o dan y lefel ddisgwyliedig fod yn gamp fawriawn.

Lefel 5 y Cwricwlwm CenedlaetholDyma’r lefel ddisgwyliedig ar gyfer plant ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 byddy rhan fwyaf o blant yn cyrraedd y lefel hon, ond nid pob un ohonyn nhw.

Lefelau 6, 7 ac 8 y Cwricwlwm Cenedlaethol Mae cyflawniad ar Lefel 6 neu’n uwch yn dangos eu bod yn cyflawni’n uwchna’r cyffredin.

Perfformiad Eithriadol (PE)Efallai y byddai disgwyl i rai plant gyflawni llawer uwch na’r lefel ddisgwyliedig.

H – Heb ddyfarnu lefelYn anaml iawn, mae amgylchiadau’n codi sy’n golygu nad oes gan ysgolddigon o wybodaeth na thystiolaeth i lunio asesiad athro/athrawes.

D – DatgymhwysoO dan rai amgylchiadau, gall y pennaeth benderfynu nad yw’r cwricwlwmcenedlaethol cyfan neu ran ohono yn berthnasol i unigolyn, er enghraifft,oherwydd anghenion addysgol arbennig plentyn.

Lefelau’r cwricwlwm cenedlaethol

20

Asesu eich plentyn

Page 12: How was school today? (Welsh)

23

Opsiynau yng Nghyfnod Allweddol 4Yn ystod blwyddyn olaf Cyfnod Allweddol 3(Blwyddyn 9) bydd pobl ifanc mewn ysgolionuwchradd a gynhelir yn cael cynnig dewis o blith o leiaf 30 o gyrsiau i’w hastudio. Bydd o leiaf bumpohonyn nhw yn gyrsiau galwedigaethol neu’ngyrsiau sy’n canolbwyntio’n fwy ar yrfaoedd neu’nfwy ymarferol.

Mae hyn yn eu galluogi i ddilyn cwricwlwm eang achytbwys ac i ddewis cyrsiau sydd o ddiddordebiddyn nhw ac sy’n eu cymell, gan eu helpu i gyflawnicanlyniadau da ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4.

Bydd pobl ifanc yng Nghyfnod Allweddol 4 hefyd yngallu defnyddio gwasanaethau cymorth dysgwyr, gangynnwys hyfforddiant dysgu, i’w helpu i oresgynunrhyw rwystrau i’w dysgu.

Canllaw ar ysgolion uwchradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 3; 11–14 oed

22

Symud yn ddidrafferth iGyfnod Allweddol 4

Yn ystod y ddwy flynedd olaf o addysg orfodol,bydd plant yn dilyn cwricwlwm sy’n cynnwysCymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth.

Bydd hefyd yn ofynnol iddyn nhw barhau i astudioaddysg gorfforol, addysg grefyddol, addysgbersonol a chymdeithasol, addysg rhyw ac i ddysguam yrfaoedd a’r byd gwaith.

Bydd y rhan fwyaf hefyd yn dilyn detholiad ogyrsiau sy’n arwain at gymwysterau allanol megisTystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd (TGAU).

Bydd yr ysgol yn cynnig llawer o wybodaeth achymorth i bobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr i’w helpu i wneud penderfyniadau da am eu haddysg yn 14oed a bellach.

Cyfnod Allweddol 4

Page 13: How was school today? (Welsh)

25

Canllaw ar ysgolion uwchradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 3; 11–14 oed

24

Bagloriaeth Cymru Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru bellachyn cynnig Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Maeiddo ddwy ran – y craidd a’r opsiynau. Mae’r craiddyn orfodol ac yn cynnwys pump elfen:

• Sgiliau Hanfodol Cymru a Sgiliau Allweddol

• Addysg gysylltiedig â gwaith

• Cymru, Ewrop a’r Byd

• Addysg bersonol a chymdeithasol

• Ymchwiliad unigol.

Bydd myfyrwyr yn dewis opsiynau ar gyfercymhwyster allanol o blith y dewisiadau a gynigiryn yr ysgol ar y lefelau priodol. Gallai’r rhain fod yn gymwysterau TGAU neu’n gymwysteraugalwedigaethol fel y bo’n briodol i’r dysgwr unigol.

I gael rhagor o wybodaeth ewch atwww.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

Cyfnod Allweddol 4

Ystyried gyrfaoedd a’r byd gwaithyng Nghyfnod Allweddol 4 Beth all fy mhlentyn ei ddisgwyl?

• Mae gyrfaoedd a’r byd gwaith yn rhan bwysig o’r cwricwlwm ysgol a’r broses o baratoi plant i symud i fyd cyflogaeth yn y dyfodol. Dylaiysgolion wneud yn siwr bod plant yn caelcyfleoedd i ddysgu am fyd gwaith, y sgiliau, ywybodaeth a’r cymwysterau sydd eu hangen argyflogwyr, a’r holl ddewisiadau gyrfaol sydd ar gael.

• Mae profiad gwaith yn rhan bwysig o brosesddysgu plant rhwng 14 a 19 oed. Mae’n rhoicyfleoedd iddyn nhw wella eu gwybodaeth a’udealltwriaeth o fyd gwaith, yn ogystal âmentergarwch ac entrepreneuriaeth, a’r sgiliau y bydd eu hangen arnyn nhw. Gallai hyn gynnwystrefnu lleoliadau i blant gyda chyflogwr. Er nadoes unrhyw ofyniad ar yr ysgolion i gynnigprofiad gwaith, mae llawer yn gwneud hynny.

Page 14: How was school today? (Welsh)

26

Angen rhagor o wybodaeth?Gallwch gael rhagor o wybodaeth oddi wrth yffynonellau canlynol.

• Eich ysgol – siaradwch ag athro/athrawes eichplentyn, y pennaeth neu aelod o’r corffllywodraethu.

• Eich awdurdod lleol.

• Ewch i’n gwefan ynwww.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

• Ewch i wefan Gyrfaoedd Cymru ynwww.gyrfacymru.com

 phwy galla i siarad os oes pryderon gen i?Os oes pryderon gennych, dylech siarad agathro/athrawes eich plentyn yn gyntaf. Os yw ysgoleich plentyn wedi dewis unigolyn i fod yn bwyntcyswllt cyntaf ar gyfer pryderon neu gwynion,gallech siarad â’r unigolyn hwnnw hefyd.

Os oes pryderon gennych o hyd, gallwch godi eichpryder fel cwyn. Bydd polisi’r ysgol ar ymdrin âchwynion yn rhoi gwybod sut i wneud hyn.

Cymorth a chyngor