Canllaw byr i gyllid prifysgolion a chyllid myfyrwyr yng ... › media ›...

18
Canllaw byr i gyllid prifysgolion a chyllid myfyrwyr yng Nghymru Medi 2016

Transcript of Canllaw byr i gyllid prifysgolion a chyllid myfyrwyr yng ... › media ›...

  • Canllaw byr i gyllid prifysgolion a chyllid myfyrwyr yng Nghymru

    Medi 2016

    UW2972 Short Guide to Uni Funding in Wales WELSH.indd 1 02/09/2016 11:22

  • Prifysgolion Cymru Cynhyrchwyd y ddogfen hon gan Brifysgolion Cymru, y corff sy’n cynrychioli ein haelodau - yr wyth prifysgol a’r Brifysgol Agored yng Nghymru.

    CadeiryddAthro Colin RiordanLlywydd ac Is-Ganghellor,Prifysgol Caerdydd

    Is GadeiryddRob HumphreysCyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru

    Cyfarwyddydd, Prifysgolion CymruAmanda Wilkinson

    Cysylltwch â niPrifysgolion Cymru, 2 Caspian Point, Caspian Way Bae Caerdydd, Caerdydd CF10 4DQ

    Tel: 029 2044 8020

    Ebost: [email protected] We: www.uniswales.ac.uk

    UW2972 Short Guide to Uni Funding in Wales WELSH.indd 2 02/09/2016 11:22

  • Trosolwg o brifysgolion yng NghymruMae wyth prifysgol a’r Brifysgol Agored yng Nghymru

    Prifysgol Bangor

    Prifysgol Glyndŵr

    Y Brifysgol Agored yng Nghymru

    Prifysgol Aberystwyth

    PCYDDS, Llanbedr Pont Steffan

    PCYDDS, Caerfyrddin

    PCYDDS, AbertawePrifysgol Abertawe

    PDC, Caerdydd

    Prifysgol Metropolitan Caerdydd

    Prifysgol Caerdydd PDC, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

    Prifysgol Cymru

    PDC, CasnewyddPDC, Pontypridd

    UW2972 Short Guide to Uni Funding in Wales WELSH.indd 3 16/09/2016 13:06

  • Cyflwyniad Mae prifysgolion yng Nghymru yn elusennau ac nid ydynt yn gwneud elw. Caiff yr holl incwm a dderbyniant ac unrhyw warged a wnânt ei wario ar:

    addysgu a hyfforddi myfyrwyr i ddiwallu anghenion sgiliau Cymru a’u harfogi gyda’r priodweddau sydd eu hangen arnynt i chwarae rhan weithgar mewn economi fyd-eang

    gynnal ymchwil safon-byd sy’n trawsnewid bywydau

    yrru arloesi sy’n cefnogi twf economaidd lleol a chenedlaethol

    fuddsoddi yn y stad a’r seilwaith er mwyn darparu cyfleusterau addysgu ac ymchwil sy’n gweddu i’w pwrpas

    Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut mae’r incwm y mae prifysgolion yn ei dderbyn i gefnogi’r gweithgareddau hollbwysig hyn wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’r sefyllfa bresennol yn ganlyniad i'r newidiadau hynny.

    UW2972 Short Guide to Uni Funding in Wales WELSH.indd 4 02/09/2016 11:22

  • Cynnwys01 Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch 6

    02 Cefndir a chyd-destun 7

    03 Cyllid cyhoeddus ar gyfer prifysgolion a myfyrwyr – y sefyllfa bresennol 8

    04 Goblygiadau newidiadau yng nghyllid addysg uwch 11

    05 Incwm arall 14

    06 Sefyllfa ariannol gyffredinol prifysgolion yng Nghymru 15

    07 Rheoli risgiau cyllido 16

    UW2972 Short Guide to Uni Funding in Wales WELSH.indd 5 02/09/2016 11:22

  • 01 Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch

    Mae addysgu ac ymchwil prifysgolion yn allweddol i economi a chymdeithas Cymru. Er y daw’r rhan fwyaf o incwm prifysgolion i gefnogi’r gwaith hwn o ffynonellau preifat - gan gynnwys ffioedd dysgu - mae’r arian y mae prifysgolion yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn hanfodol ar gyfer ariannu meysydd na ellir eu hariannu trwy drefniant sy’n dibynnu ar y farchnad, ac na

    allai prifysgolion eu darparu fel arall heb gymhorthdal cyhoeddus.

    Bu newidiadau o bwys yn yr arian a dderbynia prifysgolion yng Nghymru oddi wrth Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r arweiniad hwn yn esbonio sut ddigwyddodd y newidiadau hyn a sefyllfa bresennol cyllid prifysgolion.

    6

    UW2972 Short Guide to Uni Funding in Wales WELSH.indd 6 02/09/2016 11:22

  • Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Uwch

    Mae’r trefniadau ar gyfer cyllid prifysgolion a chefnogaeth i fyfyrwyr yn amrywio ar draws y DU. Yn 2012 dilynodd Cymru Lloegr trwy gynyddu’r uchafswm ffioedd ar gyfer astudio israddedig llawn-amser i £9,000 y flwyddyn (o £3,375 yn 2011/12).

    Fodd bynnag, yn groes i Loegr, cyflwynodd Llywodraeth Cymru grantiau ffioedd dysgu ar gyfer pob myfyriwr israddedig a TAR i fyfyrwyr yn byw yng Nghymru a myfyrwyr o’r UE yng Nghymru i dalu am y cynnydd hwn (tua £5,000) fel na fyddai’r myfyrwyr hyn yn talu mwy mewn termau real nac y gwnaethant cyn i’r ffioedd godi.

    Sylwer: nid oes uchafswm ffïoedd i ffïoedd ar gyfer astudio rhan-amser ac ôl-radd ac ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, ac ni fu unrhyw

    newidiadau sylweddol yn y trefniadau cefnogaeth ar eu cyfer.

    Felly, er 2012/13, mae cyllideb Addysg Uwch Llywodraeth Cymru (a weinyddir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru - CCAUC) yn ariannu dau dderbynnydd gwahanol:

    1. Cyllid cyhoeddus ar gyfer myfyrwyr2. Cyllid cyhoeddus ar gyfer prifysgolion

    Dengys Ffigur 1 y defnyddiwyd rhan sylweddol o gyllideb CCAUC er 2012/13, a oedd eisoes yn lleihau, i gyllido grantiau ffïoedd dysgu ar gyfer myfyrwyr (porffor) tra bod cyllid uniongyrchol i fyfyrwyr wedi gostwng (gwyrdd).

    02 Cefndir a chyd-destun

    Ffigur 1Ffynhonnell: Cyllidebau Llywodraeth Cymru. Ffigyrau Gwirioneddol gan Brifysgolion Cymru.

    Er 1 Ebrill 2015 symudwyd taliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer grantiau ffïoedd dysgu i fyfyrwyr i gyllideb cefnogaeth ôl-16 Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, er nad yw CCAUC yn gweinyddu’r cyllid hwn mwyach, mae CCAUC yn dal yn gyfrifol i bob pwrpas am godiadau yng nghostau grantiau ffïoedd. Clustnodwyd £21.1m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer taliadau grantiau ffïoedd dysgu ychwanegol a ragwelir ar gyfer BA 2016/17 (h.y. y flwyddyn yn diweddu ar 31 Mawrth 2017), pe bai gofynion grantiau ffïoedd dysgu yn uwch na’r gyllideb bresennol.

    7

    Cyllideb Addysg Uwch

    Cyllideb Addysg Uwch (termau real)

    Dyraniadau Grant CCAUC i brifysgolion

    Taliadau grant ffioedd dysgu CCAUC

    Taliadau grant ffioedd dysgu

    0

    100

    200

    300

    400

    500

    2016/17 AY

    2016/17 FY

    2015/16 AY

    2015/16 FY

    2014/15 AY

    2014/15 FY

    2013/14 AY

    2013/14 FY

    2012/13 AY

    2012/13 FY

    2011/12AY

    2011/12FY

    2010/11 AY

    2010/11 FY

    £ m

    iliyn

    au

    UW2972 Short Guide to Uni Funding in Wales WELSH.indd 7 02/09/2016 11:22

  • 03 Cyllid cyhoeddus ar gyfer prifysgolion a myfyrwyr – y sefyllfa bresennol

    Cyllid cyhoeddus ar gyfer myfyrwyrFaint: £258m o daliadau grant ffïoedd dysgu ar gyfer 2016/17 (amcangyfrif yn seiliedig ar lythyr gorchwyl CCAUC yn cynnwys cost grant ffi ychwanegol posib o £21.1m).

    Ar beth gaiff ei wario? Mae’r rhan fwyaf o gyllid cyhoeddus ar gyfer myfyrwyr yn darparu grantiau ffïoedd dysgu (GFfD) heb brawf modd o hyd at £5,190 y flwyddyn ar gyfer pob myfyriwr o Gymru, ac ar gyfer myfyrwyr UE yn astudio yng Nghymru. Nid yw grantiau ffïoedd dysgu ond ar gael ar gyfer darpariaeth lawn-amser ar lefel israddedig a TAR ac fe’u telir gan Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar ran myfyrwyr o Gymru (a myfyrwyr UE yng Nghymru) i’w darparydd addysg uwch, ym mha le bynnag y maen nhw’n dewis astudio yn y DU.

    Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu nifer o gamau cefnogaeth ariannol eraill i fyfyrwyr yn cynnwys grantiau cynnal prawf modd hyd at £5,161 y flwyddyn, sy’n cael eu talu o gyllideb arall Llywodraeth Cymru.

    Cyllid cyhoeddus ar gyfer prifysgolionFaint: £112m o gyllid grant CCAUC ar gyfer prifysgolion yn 2016/17 (ar ôl tynnu allan cost grant ffi ychwanegol posib o £21.1m).

    Ar beth gaiff ei wario? Mae cyllid cyhoeddus yn galluogi prifysgolion i weithio’n gadarnhaol i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, fel y’u hesbonir yn llythyr gorchwyl CCAUC. Mae’r arian grant i brifysgolion yn cefnogi meysydd sy’n hollbwysig i economi a chymdeithas yng Nghymru, ond sy’n ddibynnol ar fuddsoddiad cyhoeddus gan na ellir eu hariannu trwy incwm ffïoedd dysgu a threfniant sy’n dibynnu ar y farchnad nad yw’n darparu cefnogaeth ddigonol ar eu cyfer. Y meysydd hyn yw cyllid ymchwil craidd a chyllid addysgu ar gyfer darpariaeth ran-amser a chyfrwng Cymraeg a chyllid ychwanegol ar gyfer pynciau drud (gweler tudalen gyferbyn).

    Ymchwil Darperir cyllid cyhoeddus ar gyfer prifysgolion ledled y DU trwy system cyllid-deuol:

    Arian craidd ar gyfer ymchwil gan Lywodraeth Cymru a ddosberthir trwy CCAUC, a elwir yn gyllid QR (Ymchwil Ansawdd-Gysylltiol). Mae cyllid QR yn gosod y seiliau ar gyfer adeiladu prosiectau niferus trwy ddenu’r ymchwilwyr disgleiriaf, sicrhau cyllid gan Lywodraeth y DU, cyllid Ewropeaidd a phreifat a datblygu arloesiadau. Defnyddir canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 yn sail ar gyfer dyrannu cyllid QR gan CCAUC i brifysgolion.

    1 2

    8

    UW2972 Short Guide to Uni Funding in Wales WELSH.indd 8 16/09/2016 13:08

  • Cafodd cyllid QR yng Nghymru ei gadw ar lefel gyson dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, ni fu hynny ond yn bosib oherwydd bod CCAUC wedi diogelu cyllid QR ar draul diweddu neu leihau’n sylweddol linellau cyllideb eraill megis cyllid ar gyfer ehangu mynediad ac addysgu ôl-radd. Ni chafwyd gostyngiadau cymharol i linellau cyllideb yn Lloegr lle y cafodd QR ei ddiogelu mewn termau real.

    Mae Cynghorau Ymchwil y DU hefyd yn darparu cyllid cystadleuol ar gyfer prifysgolion. Nid yw cyllid ar gyfer Cynghorau Ymchwil y DU wedi cael ei ddatganoli, ac nid yw gwariant cynyddol Cynghorau Ymchwil yn cael ei adlewyrchu yng nghyllideb Llywodraeth Cymru o dan fformiwla. Mae Cymru’n cystadlu’n uniongyrchol â sefydliadau eraill yn y DU am gyfran o’r grantiau – mae cyllid QR o CCAUC felly’n allweddol er mwyn galluogi prifysgolion i gystadlu.

    Er mwyn bod yn gynaliadwy yn yr hirdymor, mae angen i brifysgolion ysgwyddo costau llawn eu hymchwil, gan gynnwys costau ar gyfer staff academaidd, hyfforddi myfyrwyr ymchwil ôl-radd, gwaith maes, gwaith labordy a stiwdio ac adnewyddu eu seilwaith. Fodd bynnag, ni lwyddodd prifysgolion yng Nghymru i dalu eu costau am weithgareddau ymchwil yn 2013–14, ac roedd diffyg sylweddol o £124m, sef 39.6% o incwm y prifysgolion.

    AddysguRhan-amser Mae costau ychwanegol yn gysylltiedig â chynnig darpariaeth ran-amser. Fodd bynnag, dangoswyd yn Lloegr na fydd y farchnad yn cynnal ffïoedd am ddarpariaeth ran-amser ar lefel o £9k lle y mae codiadau mewn ffïoedd wedi arwain at ostyngiad trychinebus yn y galw (er mai prin erioed y cawsant eu gosod ar lefel pro-rata i £9k). Felly, mae cymhorthdal cyhoeddus ar gyfer darpariaeth ran-amser yn cynnig cyfleoedd addysg uwch i ystod eang iawn o fyfyrwyr, gan gynnwys y sawl sydd eisiau gwella eu sgiliau neu ail-hyfforddi, a

    busnesau sydd eisiau tyfu trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus. Mae darpariaeth ran-amser yn gwneud cyfraniad o bwys i ddatblygu sgiliau lefel uwch yn y gweithlu, i’r agenda ehangu mynediad, ac i ddatblygu cymunedol ac adfywiad economaidd mewn cymunedau difreintiedig. Yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, mae CCAUC wedi ceisio gymaint ag y gall i gynnal y gefnogaeth i’r ddarpariaeth hon, a hyd yn hyn golygodd hynny y gellid codi ffïoedd is ar gyfer y ddarpariaeth hon yng Nghymru ac o’r herwydd y cafwyd gostyngiad llai yn y niferoedd o gymharu â Lloegr.

    Pynciau drudMae incwm ffïoedd yn annigonol, hyd yn oed ar £9k, i gynnal yr holl addysgu ar ei ben ei hyn. Dengys data o’r ymarferiad costio ledled y DU (o’r enw TRAC) fod cost bron i hanner yr holl bynciau yn fwy na £9k.

    Mae canllawiau cynllun ffïoedd Llywodraeth Cymru hefyd yn dangos y defnyddir tua 30% o’r incwm ffïoedd dysgu ychwanegol (sef tua £5k o GFfD a ddaw o Lywodraeth Cymru) i gefnogi cyfleoedd cyfartal a hyrwyddo addysg uwch. Gan na ellir defnyddio’r 30% o incwm ffïoedd ychwanegol (tua £1.5k) a glustnodwyd i ysgwyddo costau addysgu pwnc-gysylltiol darpariaeth israddedig lawn-amser, uchafswm gwirioneddol y ffïoedd incwm yw £7.5k nid £9k. Mae’r rhan fwyaf o bynciau yn costio mwy na £7.5k i’w cyflwyno.

    Mae’n costio dros £15k y flwyddyn i hyfforddi’n feddyg. Mae prifysgolion Cymru yn derbyn £7.5k* y flwyddyn o ffïoedd dysgu myfyrwyr. Defnyddir cyllid Llywodraeth Cymru i brifysgolion trwy CCAUC i gau’r bwlch ariannu hwn er mwyn sicrhau llif cyson o feddygon i’r dyfodol yng Nghymru.

    * Incwm ffioedd effeithiol - gweler uchod

    Gan amlaf, dyrennir cyllid CCAUC trwy fformiwla, gan roi ystyriaeth i ffactorau amrywiol, gan gynnwys recriwtio i bynciau academaidd, modd a lefel, a faint o ymchwil ansawdd uchel a wneir yn y sefydliad.

    9

    UW2972 Short Guide to Uni Funding in Wales WELSH.indd 9 02/09/2016 11:22

  • Ffigur 2Ffynhonnell: Prifysgolion Cymru yn seiliedig ar Gylchlythyron Cyllido CCAUC. Nodiadau: (a) Mae hyn yn rhagdybio y defnyddir £21.1m ar gyfer taliadau grant ffïoedd dysgu, a dyraniadau grant fel y dangosir yn CCAUC W16/16HE.

    Dyraniadau grant CCAUC wrth weithgaredd

    0

    50

    100

    150

    200

    250

    300

    350

    400

    2016/17(a)2015/162014/152013/142012/132011/122010/11

    395

    34

    77284

    385

    48

    77260

    259

    46

    77137

    224

    49

    7996

    163

    31

    7953

    151

    23

    7948

    11210

    7626

    Grant arall Grant ymchwil Grant dysgu

    10

    £ m

    iliyn

    au

    UW2972 Short Guide to Uni Funding in Wales WELSH.indd 10 02/09/2016 11:22

  • 04 Goblygiadau newidiadau yng nghyllid addysg uwch

    Ffigur 3 Ffynhonnell: Prifysgolion Cymru yn seiliedig ar Gylchlythyron Cyllido CCAUC. gweler nodyn ar dudalen 12.

    Taliadau grant ffioedd dysgu i fyfyrwyr Cymreig/UE

    Gostyngiad yn yr incwm cyffredinolFel y dangosir yn Ffigur 1, mae cyllid cyhoeddus ar gyfer prifysgolion wedi lleihau’n sylweddol. Ar hyn o bryd daw tua 10% o incwm y sector o gyllid cyhoeddus. Daw tua 50% o ffïoedd dysgu o fyfyrwyr cartref a rhyngwladol, a’r gweddill o grantiau a chontractau ymchwil, ac incwm o fusnesau ac elusennau.

    Er bod prifysgolion yn derbyn y rhan fwyaf o’u hincwm o ffïoedd dysgu, y sefyllfa bresennol yw mai dau draean yn unig o gyllid cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar gyfer ffïoedd dysgu a dderbynnir gan fyfyrwyr yn mynd i brifysgolion yng Nghymru, gan fod gan fyfyrwyr o Gymru’r hawl i dderbyn y grant ffïoedd ym mha le bynnag y dewisant astudio.

    100

    162

    228237

    258

    0

    50

    100

    150

    200

    250

    300

    2016/17(a)2015/162014/152013/142012/132011/122010/11

    3565

    6399

    78150

    81156

    88170

    Taliadau grant ffioedd i astudio tuallan i Gymru

    Taliadau grant ffioedd i astudio yng Nghymru

    11

    £ m

    iliyn

    au

  • Defnydd cyfyngedig o gyllidMae prifysgolion yn gyfyngedig yn eu defnydd o incwm ffïoedd dysgu, sy’n golygu nad yw’n cymryd lle cyllid cyhoeddus i brifysgolion o ran y meysydd y gall eu cefnogi.

    Fel y dangosir ar dudalen 8, mae prifysgolion yn defnyddio eu cyllid cyhoeddus uniongyrchol i gefnogi meysydd na all y farchnad eu cefnogi – darpariaeth ran-amser a chyfrwng Cymraeg, pynciau drud a chyllid ymchwil craidd.

    Telir cyllid cyhoeddus ar gyfer ffïoedd dysgu yn uniongyrchol i fyfyrwyr (israddedigion llawn-amser yn unig) a’r myfyriwr sydd wedyn yn dewis ymhle y byddant yn gwario’r arian hwn. Golyga hynny fod incwm i brifysgolion o ffïoedd dysgu, a dderbynnir trwy fyfyrwyr, yn

    rhoi prifysgolion o dan gontract i fyfyrwyr ac nid i Lywodraeth Cymru na CCAUC. Mae ffïoedd uwch wedi golygu fod cyfrifoldebau cytundebol prifysgolion i fyfyrwyr wedi cynyddu, a chafwyd cynnydd hefyd yn nisgwyliadau myfyrwyr o’r hyn a ddarperir am eu ffïoedd. Felly, ni ellir defnyddio incwm ffïoedd dysgu yn gymhorthdal i’r meysydd hynny sy’n derbyn cymhorthdal trwy gyllid cyhoeddus a delir yn uniongyrchol i brifysgolion. Hefyd, fel y gwelsom ar dudalen 9, mae’r rhan fwyaf o bynciau’n costio mwy na’r ffi wirioneddol y mae prifysgolion yn ei derbyn i’w cyflwyno, sy’n golygu nad oes gan brifysgolion ddim dros ben o’u hincwm ffïoedd dysgu i’w ddefnyddio mewn mannau eraill.

    Ffigur 4 Ffynhonnell: Prifysgolion Cymru yn seiliedig ar Gylchlythyron Cyllido CCAUC. Sylwer: (a) a (b) Mae’r ffigyrau ar gyfer 2015/16 a 2016/17 yn amcangyfrifon. Cymerir y rhagolwg ar gyfer y GFfD cyffredinol ar gyfer 2015/16 o Gylchlythyr CCAUC, ond amcangyfrifir y dosbarthiad fesul gwlad ar sail cyfrannau’r flwyddyn gynt. Mae’r rhagolwg ar gyfer y GFfD cyffredinol ar gyfer 2016/17 yn seiliedig ar CCAUC W16/16HE sy’n rhagdybio y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r £21.1m a glustnodwyd ar gyfer taliadau GFfD ar ben y £236.7m a drosglwyddwyd eisoes o’r gyllideb AU, a bydd cyfrannau’r dosbarthiad fesul gwlad yn debyg i rai’r flwyddyn gynt.

    12

    Canlyniad hyn yw bod cyfanswm y cyllid cyhoeddus i brifysgolion gan Lywodraeth Cymru, boed yn uniongyrchol neu drwy fyfyrwyr, wedi gostwng. Dengys Ffigur 4 gyfanswm y buddsoddiad o gyllideb CCAUC ar gyfer arian grant i fyfyrwyr a chefnogaeth ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru, er 2010/11, a gwelir y cafwyd gostyngiad o £113m yn y cyfanswm dros y 6 blynedd diwethaf.

    Dyraniadau grant CCAUC a Grant Ffioedd Dysgu

    0

    50

    100

    150

    200

    250

    300

    350

    400

    2016/17(a)2015/162014/152013/142012/132011/122010/11

    65259

    385395

    99224

    150163 156

    151170112

    Taliadau grant ffioedd i fyfyrwyr yng Nghymru (b) Cyfanswm dyraniadau grant

    £ m

    iliyn

    au

    UW2972 Short Guide to Uni Funding in Wales WELSH.indd 12 16/09/2016 13:09

  • Meysydd nas ariennir mwyachMae’r cyllid y mae CCAUC yn ei dderbyn bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei wneud ar sail amodau a thelerau a nodir yn y Llythyr Gorchwyl. O gofio fod cyllid cyhoeddus uniongyrchol i brifysgolion, a weinyddir gan CCAUC, wedi lleihau o £395m yn 2010/11 i £112m yn 2016/17, cafodd rhai meysydd eu torri’n gyfan gwbl o’r herwydd:

    Cyllid arloesiRoedd y Gronfa Arloesi ac Ymgysylltu yn darparu cyllid craidd ar sail fformiwla ar gyfer timau ymgysylltu busnes a masnacholi arbenigol iawn ac roedd yn darparu arian cyfatebol a ddefnyddiwyd i fanteisio ar ffynonellau cyllid eraill, gan gynnwys arian Ewropeaidd, Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, Innovate UK a refeniw Eiddo Deallusol.

    Nid yw Llywodraeth Cymru mwyach yn darparu cyllid seilwaith i gefnogi’r gweithgarwch hwn. Golyga hyn fod Cymru mewn sefyllfa wahanol i weddill y DU (mae’r Gronfa Arloesi Addysg Uwch yn Lloegr yn £160m y flwyddyn).

    Erbyn hyn mae prifysgolion yn cynnig am arian trwy raglenni Ewropeaidd i gyllido trosglwyddo gwybodaeth neu trwy ail-fuddsoddi eu hincwm i gefnogi gweithgareddau i’r dyfodol lle bynnag y gallant.

    Arian cyfalafCafodd cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer arian cyfalaf ei ddileu yn 20121. Erbyn hyn mae’n rhaid i brifysgolion fenthyca i wneud buddsoddiadau cyfalaf er mwyn parhau’n gystadleuol a chynnig y lefel o brofiad y mae myfyrwyr yn ei fynnu erbyn hyn ac sydd ar gael mewn rhannau eraill o’r DU. Er enghraifft, mae adeiladau prifysgol hanesyddol, sy’n aml yn ganolog i hunaniaeth ddiwylliannol llawer o ddinasoedd a threfi yng Nghymru, yn allweddol hefyd yn denu myfyrwyr ond maent er hynny’n ddrud i’w cynnal a’u cadw.

    Hyd yn ddiweddar, bu gan Brifysgolion yng Nghymru lefelau benthyca is na chyfartaledd y sector yn y DU. Fodd bynnag, mae codiadau diweddar a disgwyliedig i gefnogi cynlluniau datblygu stad sylweddol yn debygol o olygu y bydd benthyciadau’r sector yng Nghymru o leiaf gyfuwch os nad yn fwy na’r cyfartaledd yn y DU.

    13

    1 Ac eithrio taliadau cyfalaf ymchwil a delir er mwyn sicrhau’r un arian cyfatebol gan BIS.

    UW2972 Short Guide to Uni Funding in Wales WELSH.indd 13 02/09/2016 11:22

  • 05 Incwm arall

    Mae prifysgolion yn derbyn incwm o ffynonellau ac eithrio ffïoedd dysgu a chyllid cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys incwm o gontractau ymchwil cystadleuol ac o weithgareddau cyfnewid gwybodaeth.

    Fodd bynnag, ni fyddai’r incwm hwn yn bodoli oni bai am y buddsoddiad a wneir gan Lywodraeth Cymru. Mae arian craidd i brifysgolion yn darparu cymorth seilwaith er mwyn i brifysgolion adeiladu’r sail ar gyfer cynhyrchu gweithgareddau eraill.

    £214m o incwm ar gyfer ymchwil yn 2014/15 o Gynghorau Ymchwil, busnesau ac elusennau yn y DU a ffynonellau yn yr UE a thu hwnt.

    £201m o incwm ar gyfer gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth yn 2013/14 – rhannu eu harbenigedd a chydweithio â busnesau a’r gymuned ehangach.

    £274m o incwm arall yn 2014/15 e.e. gwasanaethau ymgynghoriaeth a llogi cyfleusterau.

    Defnyddir yr incwm a ddaw o’r meysydd hyn i gyflawni darnau penodol o waith neu brosiectau. Er bod y gweithgarwch o’r prosiectau hyn yn creu sgil-effeithiau i Gymru o ran GVA a chreu swyddi, mae’r incwm y mae prifysgolion yn ei dderbyn ar gyfer y prosiect yn creu contract rhyngddynt ag arianydd, busnes neu elusen yr ymchwil, ac felly mae’n rhaid ei wario ar gyflawni’r prosiect. Ni ellir defnyddio’r incwm hwn yn gymhorthdal ar gyfer elfennau eraill o waith y brifysgol neu i gronni arian wrth gefn.

    14

    UW2972 Short Guide to Uni Funding in Wales WELSH.indd 14 02/09/2016 11:22

  • 06 Sefyllfa ariannol gyffredinol prifysgolion yng Nghymru

    Mae asesiad CCAUC2 o sefyllfa ariannol y sector wedi datgan ‘Mae’r gwarged gweithredol ar gyfer 2013/14, wedi’i addasu i roi ystyriaeth lawn i addasiadau cost economaidd lawn ar gyfer cost cyfalaf a seilwaith, yn dangos mai sefyllfa’r sector yw diffyg cyfanredol o £67m o’i gymharu â diffyg o £85m yn 2012/13. Dengys hyn i ba raddau nad yw’r sector mewn sefyllfa i ddarparu ar gyfer dyfodol cwbl gynaliadwy.’

    Rhagolygon tymor byrMae hylifedd net yn fesur o allu prifysgolion i gyflawni eu cyfrifoldebau di-oed a thymor byr trwy gadw arian neu asedau bron yn arian. Y gymhareb hylifedd gyfartalog ar gyfer y sector yn 2013/14 oedd 114 diwrnod gwariant. Fodd bynnag, mae’r ffigwr hwn gryn dipyn yn is i rai, ac roedd gan bum sefydliad lai na 90 diwrnod gwariant. Mae’r safle hylifedd net yn amrywio trwy gydol y flwyddyn, ac mae’r pwynt hylifedd isaf ar gyfer y rhan fwyaf o brifysgolion yn union cyn y taliad ym mis Mai gan Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC) o 50% o’r incwm ffïoedd ar gyfer y myfyrwyr a gofrestrodd er mis Medi.

    Mae’r arian wrth gefn sydd gan brifysgolion yn cynrychioli’r gwargedion cronnol a gadwyd i’w hail-fuddsoddi yn y seilwaith cyfalaf a’r stad. Nid yw arian wrth gefn yn cynrychioli arian hylifol.

    Bydd y cynnydd yn yr arian a fenthycwyd gan brifysgolion i ariannu’r buddsoddiadau cyfalaf sylweddol sydd eu hangen i gynnal safle gystadleuol sector addysg uwch Cymru yn galw am wargedion yn y dyfodol sydd o leiaf yn ddigonol i dalu cost benthyca ac ad-daliadau i’r dyfodol.

    Llwyddodd prifysgolion Cymru yn y blynyddoedd diwethaf i sicrhau benthyciadau ar gost gymharol isel. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o fenthyciadau fel arfer yn cynnwys cyfamodau sy’n mynnu fod prifysgolion yn cadw isafswm lefelau hylifedd a gwargedion penodedig ac mae’r gofynion cyfamod hyn yn cael eu profi o leiaf yn flynyddol.

    Mae cynnal isafswm lefel hylifedd yn cynnig peth gwarchodaeth rhag newidiadau llif arian (e.e. mae llif arian prifysgolion yn cael ei effeithio gan bryd yn y cylch blynyddol y caiff ffïoedd eu talu iddynt gan yr SLC), a bydd lefelau gwargedion i’r dyfodol yn cael eu heffeithio gan yr anwadalwch a’r ansicrwydd yn y prisiadau cyfrifoldebau pensiwn cyfredol (fel y dangoswyd gan HEFCE3).

    2 Cymerwyd yr holl ddata o gylchlythyr CCAUC Analysis of the financial position of the HE sector 2013/14 a daw data arall o’r adroddiad hwn a gyhoeddwyd yn 2014/15. 3 Rhagolygon HEFCE Financial health of the higher education sector: 2014-15 i 2017-18.

    15

    UW2972 Short Guide to Uni Funding in Wales WELSH.indd 15 02/09/2016 11:22

  • 07 Rheoli risgiau cyllidol

    Risgiau tymor byr i brifysgolionDangosodd y canllaw hwn sut mae cyllid prifysgolion a threfniadau cefnogi myfyrwyr, ynghyd â ffynonellau cyfansoddiad incwm prifysgolion, wedi newid yn fawr. Golyga’r amgylchedd cyllido hwn fod y sector yn wynebu cryn ansicrwydd wrth ragweld y dyfodol.

    RecriwtioAr hyn o bryd mae incwm ffïoedd dysgu yn cyfrannu hanner holl incwm y sector. Mae hynny’n gwneud addysg uwch israddedig yn system werthedig. Mae angen i brifysgolion Cymru allu cystadlu â phrifysgolion eraill yn y DU a darparwyr amgen i ddenu myfyrwyr. Fodd bynnag, mae bwlch arwyddocaol a chynyddol o ran cyllid cyhoeddus rhwng prifysgolion Cymru a phrifysgolion yng ngweddill y DU y maen nhw’n cystadlu â nhw. Amcangyfrifwyd fod y bwlch cyllido rhwng Cymru a Lloegr rhwng £73m a £115m (cyn y

    gostyngiadau yn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant ym mis Tachwedd a Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016/17).

    Mae tablau cynghrair yn ddylanwadol wrth ddenu myfyrwyr ond caiff prifysgolion yng Nghymru eu dal yn ôl gan lefelau is cymharol o fuddsoddiad cyhoeddus. Mae lefel y buddsoddiad neu faint o incwm sydd gan brifysgol i’w wario yn effeithio’n uniongyrchol ar ei safle yn y tablau cynghrair. Er enghraifft, mae’r prif dablau cynghrair yn cynnwys sgoriau ar gyfer faint a werir ar gyfleusterau, gwasanaethau academaidd, gwariant cyffredinol (fesul myfyriwr) a staff (cymhareb myfyrwyr staff gan amlaf).

    Golyga hynny fod prifysgolion yn wynebu ansicrwydd wrth broffwydo nifer eu myfyrwyr, ac o’r herwydd eu hincwm o ffïoedd dysgu o flwyddyn i flwyddyn.

    16

    UW2972 Short Guide to Uni Funding in Wales WELSH.indd 16 02/09/2016 11:22

  • Risgiau tymor canol i hir i brifysgolion Capasiti YmchwilMae datblygu capasiti ymchwil yn allweddol i sicrhau y ceir lefelau uwch o gyllid cystadleuol. Mae’n hanfodol fod Cymru’n buddsoddi i ddatblygu’r mas critigol o ymchwilwyr a chyfleusterau sydd eu hangen arnynt i ddenu’r doniau gorau a ffynonellau cyllid newydd. Bydd rhaglenni buddsoddi fel rhaglen Sêr Cymru yn cyfrannu at gynyddu’r mas critigol, ond mae’n rhaid i unrhyw fuddsoddiad newydd fod ar ben y cyllid QR craidd ac nid yn ei le, os ydym am sicrhau unrhyw ddatblygiadau ymchwil ychwanegol.

    Newidiadau Deddfwriaethol Bydd newidiadau deddfwriaethol posib ar gyfer addysg uwch yn Lloegr yn effeithio ar Gymru ac ar amgylchedd addysg uwch ledled y DU.

    Sut mae prifysgolion yn rheoli’r risgiau hyn Effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a gwerth am arian Bu prifysgolion yn lleihau eu costau ac yn gwneud i’w hadnoddau fynd ymhellach trwy wneud gwell defnydd o stadau, gwneud arbedion caffael o flwyddyn i flwyddyn, rhannu asedau a rhannu gwasanaethau swyddfa gefn.

    Strategaethau i sicrhau ffiniau incwm digonolMae prifysgolion yn ceisio cynhyrchu ffiniau incwm dros wariant (h.y. gwargedion) i sicrhau sefydlogrwydd ariannol a gwrthsefyll yr amgylchedd anwadal y maent yn gweithio ynddo. Os yw’r sector yn mynd i barhau’n ariannol gynaliadwy, mae’n rhaid iddo fod yn ariannol ddarbodus a chadw lefel o arian wrth gefn sy’n ddigonol i ymateb i newidiadau i niferoedd myfyrwyr, amrywiadau mewn llif arian, ansicrwydd yn y prisiadau cyfrifoldebau pensiwn cyfredol ac ad-dalu benthyciadau ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf.

    17

    Mae Adolygiad Diamond o gyllid addysg uwch a threfniadau cyllid myfyrwyr i Gymru wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb cynaliadwy i fyfyrwyr a phrifysgolion mewn amgylchedd cyllidol heriol a bydd yn cyhoeddi ei argymhellion yn yr Hydref 2016.

    UW2972 Short Guide to Uni Funding in Wales WELSH.indd 17 02/09/2016 11:22

  • 2 Caspian Point, Caspian Way, Bae Caerdydd, Caerdydd CF10 4DQ

    029 2044 8020 [email protected]

    four.cymru UW2972 09/2016

    UW2972 Short Guide to Uni Funding in Wales WELSH.indd 18 02/09/2016 11:22