Adroddiad Blynyddol - wasacre.org.uk Benfro 2012-13... · Addoli (arkan al-`ibada) yw’r...

13
Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol 2012-2013 Adroddiad Blynyddol Cyngor Ymgynghori Sefydlog ar Addysg Grefyddol Sir Benfro

Transcript of Adroddiad Blynyddol - wasacre.org.uk Benfro 2012-13... · Addoli (arkan al-`ibada) yw’r...

Page 1: Adroddiad Blynyddol - wasacre.org.uk Benfro 2012-13... · Addoli (arkan al-`ibada) yw’r gweithrediadau sylfaenol sydd yn gysylltiedig â bod yn gredwr ... Defnyddir amrywiadau ar

Cyngor Ymgynghorol Sefydlogar Addysg Grefyddol

2012-2013

AdroddiadBlynyddol

Cyngor Ymgynghori Sefydlogar

Addysg GrefyddolSir Benfro

Page 2: Adroddiad Blynyddol - wasacre.org.uk Benfro 2012-13... · Addoli (arkan al-`ibada) yw’r gweithrediadau sylfaenol sydd yn gysylltiedig â bod yn gredwr ... Defnyddir amrywiadau ar

3

Llythyr ganGadeirydd CYSAG

Mae’n bleser gennyf gyflwyno Adroddiad Blynyddol CYSAG Sir Benfro argyfer y flwyddyn academaidd 2012–2013. Mae wedi bod yn fraint caelCadeirio CYSAG drwy’r flwyddyn a chynrychioli’r Sir ar GymdeithasCYSAGauC (WASACRE)

Gwerthfawrogir yn fawr gefnogaeth ac arweiniad y Cyfarwyddwr Plant acYsgolion, Mr Jake Morgan; felly hefyd y gefnogaeth broffesiynol a gynigiwydgan Mrs Yvonne Jones. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi cydweithrediadparod y Swyddogion i gyd.

Rydym yn sylweddoli maint ymrwymiad Aelodau CYSAG a’r gefnogaeth aroddir yn wirfoddol gan aelodau’r gwahanol enwadau. Edrychaf ymlaen atbarhau’r lefel gref o ymrwymiad drwy gydol y flwyddyn sy’n dod.

Y Cyng. Y Parch. Huw GeorgeCadeirydd CYSAG 2012 - 2013

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg GrefyddolStanding Advisory Council for Religious Education

Page 3: Adroddiad Blynyddol - wasacre.org.uk Benfro 2012-13... · Addoli (arkan al-`ibada) yw’r gweithrediadau sylfaenol sydd yn gysylltiedig â bod yn gredwr ... Defnyddir amrywiadau ar

4

Gwybodaeth am SACRE

Dyletswydd sefydlu CYSAGMae’n ofynnol i bob Awdurdod Lleol sefydlu Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar AddysgGrefyddol yn ei ardal.

Cyfansoddiad CYSAGDylid cael y gynrychiolaeth ganlynol ar CYSAG:

• Enwadau Cristnogol ac enwadau crefyddol eraill a fydd, ym marn yr Awdurdod Lleol,yn adlewyrchu’n briodol draddodiadau crefyddol yn yr ardal

• Undebau athrawon• yr Awdurdod Lleol

Dyletswydd yr Awdurdod Lleol yw sicrhau y penodir aelodau’r grwpiau a’u bod yngynrychiolaidd.

Aelodau CYSAG

Enwadau Crefyddol:Undeb yr Annibynwyr: Mr E PhilipsY Pabyddion: Yn wagY Methodistiaid: Yn wagYr Eglwys yng Nghymru: Yn wagY Bedyddwyr: Y Parchedig G RogersYr Annibynwyr: Y Parchedig C GillhamAr ran Esgobaeth Tyddewi: Mrs Margery Brown, Pennaeth Ysgol Sant Oswald

Cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol:Y Cynghorydd Pat DaviesY Cynghorydd H M George Y Cynghorydd E A MorseY Cynghorydd S T HudsonY Cynghorydd D W M ReesY Cynghorydd D R SinnettY Cynghorydd D G M JamesY Cynghorydd J L Adams

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg GrefyddolStanding Advisory Council for Religious Education

Page 4: Adroddiad Blynyddol - wasacre.org.uk Benfro 2012-13... · Addoli (arkan al-`ibada) yw’r gweithrediadau sylfaenol sydd yn gysylltiedig â bod yn gredwr ... Defnyddir amrywiadau ar

5

Cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol:

Ymgynghorydd Cyswllt: Mrs Yvonne Jones

Swyddog: Kate Evan-Hughes,Pennaeth Addysg

Undebau Athrawon: UCAC Miss Glenys GeorgeNAS/UWT Mr Martyn WilliamsNUT Mr Andrew KennedyNAHT Mrs Jan Llewellyn

Swyddogaethau CYSAG

l Cynghori’r Awdurdod Lleol ar Addoli ac ar yr addysg grefyddol i’w rhoi i gyd-fynd â’rmaes llafur a gytunwyd, gan gynnwys dulliau addysgu, cyngor ar ddeunyddiau adarpariaeth hyfforddiant i athrawon.

l Ystyried a ddylid argymell i’r Awdurdod Lleol y dylai ei maes llafur gael ei adolygu drwyGynnull Cynhadledd Maes Llafur wedi ei gytuno.

l Ystyried ceisiadau gan ysgolion am benderfyniadau (i gael eu heithrio o’r rheol i addolifod yn ‘Gristnogol’.

l Adrodd ar eu gweithgareddau i’r Awdurdod Lleol ac i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg GrefyddolStanding Advisory Council for Religious Education

Page 5: Adroddiad Blynyddol - wasacre.org.uk Benfro 2012-13... · Addoli (arkan al-`ibada) yw’r gweithrediadau sylfaenol sydd yn gysylltiedig â bod yn gredwr ... Defnyddir amrywiadau ar

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg GrefyddolStanding Advisory Council for Religious Education

6

Cyfarfodydd CYSAGCynhaliwyd cyfarfodydd ar y dyddiadau canlynol:-

23ain Ebrill 2013 4ydd Gorffennaf 2013

Ymhlith y prif faterion a ystyriwyd ym mhob cyfarfod roedd y canlynol:-

Cyfarfod 23ain Ebrill 2013

l Adroddiad Blynyddol 2011-12l Materion yn ymwneud â WASACRE (Cymdeithas CYSAGauC)l Darlith Flynyddoll Adroddiad yr Ymgynghorydd

Cyfarfod 4ydd Gorffennaf 2013

l Materion yn ymwneud â WASACRE (Cymdeithas CYSAGauC) l Adroddiad yr Ymgynghorydd Cyswlltl Adroddiad Blynyddol

Page 6: Adroddiad Blynyddol - wasacre.org.uk Benfro 2012-13... · Addoli (arkan al-`ibada) yw’r gweithrediadau sylfaenol sydd yn gysylltiedig â bod yn gredwr ... Defnyddir amrywiadau ar

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg GrefyddolStanding Advisory Council for Religious Education

7

GWEITHGORAU ADDYSG GREFYDDOLADRODDIAD YMGYNGHORYDD CYSWLLT A.G.Y CYNRADD

Gweithgor CYSAG Cynradd Sir Benfro

Yn adroddiad blynyddol diwethaf CYSAG yn 2013, adroddwyd bod y gwaith o ddarparu‘cynllun gwaith’ cynhwysfawr ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 wedi ei gychwyn. Cwblhawyd ygwaith hwn yn ystod tymor yr haf 2013. Mae’r holl ddeunyddiau ac adnoddau agynhyrchwyd wedi eu gosod ar E-borth Sir Benfro a chawsant dderbyniad da ganysgolion.

Mae 4 bloc o waith – gellid eu defnyddio’n syml ar gyfer Bl 3–6, neu mewn rhaglen gylcholar gyfer Disgyblion Iau neu, drwy eu haddasu ychydig, yn thema ar gyfer ysgol gyfan. (Gangofio bod themâu Bl 5 a 6 yn rhai mwy cymhleth na rhai Bl 3 a 4.)

Y Camau nesaf

I gyd-fynd â’r pwys cyfredol ar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifyddeg (LNF), mae’r grŵpbrwd ym maes A.G., sef Helen Brandrick, Hwlffordd JM VC (Tasker Milward), Lisa Cook,Saundersfoot (Dinbych y Pysgod) ac Yvonne Jones, Neyland (STP) wedi bod wrthi’ndatblygu’r unedau hyn ymhellach i gynnwys darnau ‘coeth’ o lythrennedd helpu’rathrawon gyda’u cynllunio.

Rhannwyd enghreifftiau o’r gwaith hwn dan y pwnc ‘Pererindod’ ag aelodau CYSAG SirBenfro ar 28ain Tachwedd.

Mae’r gwaith hwn ar y gweill o hyd.

Blynyddoedd 3/4 Blynyddoedd 3/4

Ein Byd/Y Creu (tua 18 gwers) Cymunedau Crefyddol (tua 15 gwers)

Addoli a Dathlu (tua 8 gwers) Gwisgoedd (tua 8 gwers)

Y Pasg Y Nadolig (tua 5 gwers)

Blynyddoedd 5/6 Blynyddoedd 5/6

Bwyd (tua 12 gwers) Pererindod (tua 12 gwers)

Arweinwyr a Thestunau (tua 12 gwers) Ympryd a Gŵyl (tua 12 gwers)

Cymunedau Crefyddol – crefyddau eraill Bywyd ar ôl Marwolaeth (tua 10 gwers)

Page 7: Adroddiad Blynyddol - wasacre.org.uk Benfro 2012-13... · Addoli (arkan al-`ibada) yw’r gweithrediadau sylfaenol sydd yn gysylltiedig â bod yn gredwr ... Defnyddir amrywiadau ar

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg GrefyddolStanding Advisory Council for Religious Education

8

Y Cyfnod Sylfaen

Mae Yvonne wedi bod yn gweithio’n agos hefyd gyda Sally Abadioru (athrawesYmgynghorol y Cyfnod Sylfaen) i ddatblygu deunyddiau cynnal ar gyfer y Cyfnod Sylfaen.Pwrpas hyn yw sicrhau bod Addysg Grefyddol yn para i fod yn ffocws pwysig yngnghwricwlwm y Cyfnod Sylfaen. Mae Yvonne hefyd wedi rhannu tipyn o ddeunyddiaunewydd cyffrous a gasglodd pan fynychodd hi Gynhadledd y Farmington Institute ym misMehefin 2013.

Adnoddau

Bu Mary Parry (Ymgynghorydd A.G. Caerfyrddin ) yn ddigon caredig i roddi pecynnau o’i‘Big Books’ A.G. i ysgolion Sir Benfro. Dosbarthwyd y rhain yn ystod cyfarfod yPrifathrawon ym mis Ionawr.

Cyrsiau / Hyfforddiant

Oherwydd y newid mewn Datblygiad Proffesiynol Parhaus ni chynhaliwyd cyrsiau A.G. arlefel sirol eleni eto.

HMS Uwchradd

O ganlyniad i anawsterau adnoddau a brofwyd gan ysgolion uwchradd, bu’n anoddcyrraedd niferoedd ymarferol ar amryw o’r cyrsiau a drefnwyd yn ystod y flwyddyn. Mae’rrheini wedi eu gohirio tan yn ddiweddarach.

Darlith Flynyddol CYSAG Sir Benfro 2013

Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar Islam, ond mi fydd cyfleoedd yn y dyfodol ibwysleisio systemau credoau eraill.

"Deall Islam"

Cynhaliwyd cyfarfod dan y teitl ‘Deall Islam’ wedi ei drefnu gan CYSAG (CyngorYmgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol) yn Neuadd y Sir ar 4ydd Gorffennaf 2013.

Cyflwynwyd gwybodaeth am ffydd Islam gan aelodau o’n cymuned Islamaidd gangynnwys yr Imam Mr A. Wahid, Cadeirydd y Mosg Mr A. Mannan a Mr M. Hussein, un ofeibion Mr Mannan.

Y nod oedd darparu brasddarlun o’r ffydd Islamaidd gydag esboniad o’r Pum ColofnAddoli yn Islam a phum colofn ffydd Islam.

Page 8: Adroddiad Blynyddol - wasacre.org.uk Benfro 2012-13... · Addoli (arkan al-`ibada) yw’r gweithrediadau sylfaenol sydd yn gysylltiedig â bod yn gredwr ... Defnyddir amrywiadau ar

9

Pum Colofn Addoli yn Islam.

Yn ffydd Islam, disgwylir i Foslemiaid gyflawni pum gweithred addoli sylfaenol. Y Pum ColofnAddoli (arkan al-`ibada) yw’r gweithrediadau sylfaenol sydd yn gysylltiedig â bod yn gredwro Foslem ac yn arfer ei ffydd; ond mae pob Colofn yn agoriad i ddealltwriaeth ddyfnach amwy ysbrydol wrth i berson dyfu yn y ffydd Islamaidd.

Shahada • Daw person yn Foslem drwy wneud datganiad sylfaenol o dystiolaeth.‘Rwyf yn tystio nad oes un Duw arall ond Duw, a thystiaf mai Muhammad ywnegesydd Duw.’ Defnyddir amrywiadau ar y shahada mewn llawer osefyllfaoedd gwahanol.

Salat • Gweddi ddefodol swyddogol yw’r Salat. Perfformir hon ar bum adeg benodolbob dydd gan wynebu tua Meca. Mae’r Salat yn cynnwys cyfres o ddywediadaua safleoedd corfforol ac yn eu plith benlinio gan bwyso’r talcen ar y llawr.

Zakat • Cyfraniad elusennol gorfodol yw Zakat. Mewn egwyddor mae’n ddyledus ynflynyddol ar bob Moslem ar raddfa 2.5 y cant o’i asedau hylifol ac eiddo sy’n ennillincwm. Mae Zakat yn cefnogi gweithredoedd elusennol ac yn hyrwyddo Islam.

Saum • Ymprydio o doriad gwawr tan fachlud haul bob dydd yn ystod y nawfedmis (Ramadan). Ni ddylai Moslemiaid fwyta, yfed na chael rhyw. Mae hwn yngyfnod o adnewyddu ysbrydol.

Hajj • Dylai pob Moslem, o leiaf unwaith yn ei oes, os yw’n gorfforol ac ariannolbosibl, fynd ar bererindod i Feca yn ystod deuddegfed mis y Moslem. Ynystod pum prif ddiwrnod yr Hajj, bydd y rhai sydd ar bererindod yn efelychu’rddefod gyntaf a gyflawnwyd gan Abraham, gan gynnwys mynd o gylch ybeddrod sanctaidd (Ka`ba), sefyll ar wastadedd `Arafat a chyflwyno aberth.

Y Pum Colofn Ffydd mewn Islam

Mewn Islam, mae’r Pum Colofn Ffydd yn cynnig crynodeb o ddaliadau sylfaenol y Moslem. Yny tabl hwn fe sylwch ar elfennau sy’n debyg yn y ffydd Islamaidd a systemau credu’r Cristion.

• Credu yn Nuw (Allah) fel yr unig dduw.

• Credu yn angylion Duw, megis Gabriel.

• Credu yn llyfr Duw ac yn y negeswyr a’r proffwydi a ddatgelodd y llyfr hwn. (Weithiaucyfeirir at y rhain fel dwy Golofn ar wahân a chreu, felly, Chwe Cholofn Ffydd.) Mae’r llyfryn llyfr nefolaidd tragwyddol a ddatgelwyd yn rhannol yn y Beiblau Iddewig a Christnogolond a ddatgelir yn llwyr yn y Qur’an. Anfonodd Duw ei broffwydi a’i negeswyr i ddatgeluei air ac i rybuddio pobl beth a fyddai’n digwydd oni bai iddynt ddychwelyd i lwybr Duw.Muhammed yw’r proffwyd olaf mewn cyfres a ddechreuodd gydag Adda ac sy’ncynnwys Abraham, Noah, Moses, a’r Iesu, ymhlith eraill.

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg GrefyddolStanding Advisory Council for Religious Education

Page 9: Adroddiad Blynyddol - wasacre.org.uk Benfro 2012-13... · Addoli (arkan al-`ibada) yw’r gweithrediadau sylfaenol sydd yn gysylltiedig â bod yn gredwr ... Defnyddir amrywiadau ar

10

• Credu yn Nydd y Farn a’r Atgyfodiad ymhen y rhawg, pan godir pawb o farw, eu barnuyn ôl eu ffydd a’u gweithredoedd, a’u hanfon i erddi paradwys neu i fflamau uffern.

• Credu bod Duw yn gyfrifol am bopeth sy’n digwydd, da a drwg fel ei gilydd, oherwyddmae pob dim yn digwydd yn unol ag ewyllys Duw. Yr unigolyn, fodd bynnag, sy’ngyfrifol am ei weithredoedd moesol ac anfoesol.

Rhoddwyd esboniad manylach o bum cam bywyd yn y ffydd Islamaidd:

• Creodd Allah holl eneidiau disgynyddion Adda ac Efa a oedd wedi eu tynghedu i ddodi’r ddaear hon.

• Bywyd yng nghroth y fam, • Bywyd yn y byd hwn,• Marwolaeth ac• Atgyfodiad ar ddydd y farn.

Weithiau cyfeirir at gamau sy’n perthyn i Nefoedd ac Uffern.

Dywedwyd wrth yr aelodau y byddai cyfnod ymprydio ‘Ramadan’ yn cychwyn ar 9fedGorffennaf 2013.

Pan fydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi byddwn yn nyddiau cynnar Ramadan achyflwynir peth gwybodaeth isod a rydd y rhan bwysig hon o’r ffydd Islamaidd yn eichyd-destun.

Ramadan yw nawfed mis y calendr Islamaidd. I Foslemiaid yn y Deyrnas Unedig, mae’ngyfnod gweddi ac ympryd, cyfrannu at elusennau a hunan-atebolrwydd. Datguddiwydadnodau cyntaf y Qu’ran i’r proffwyd Muhammad (a ysgrifennir hefyd yn Mohammad neuMuhammed) yn ystod traean olaf Ramadan, cyfnod sydd felly yn gyfnod arbennig osanctaidd.

Mae Moslemiaid wedi bod yn ymprydio drwyddo ers mwy na 14 canrif.

Mae’n gyfnod o fyfyrio i’r gymuned Islamaidd a bydd rhoddion elusennol gan y gymunedIslamaidd yn ystod y cyfnod hwn lawer yn fwy hael nag ar unrhyw bryd arall.

Os dymunwch ymchwilio ymhellach i hyn gall y ddolen ganlynol fod o ddefnydd ichi:

http://www.timeanddate.com/holidays/uk/ramadan-begins

Cafodd yr aelodau amser i ofyn cwestiynau yn yr awyrgylch cartrefol ac ymlaciol.

Holwyd ynghylch jihad sydd yn cael ei gyflwyno yn y cyfryngau fel delwedd o drais,drwgdeimlad ac ymladd.

Ond, esboniodd Mr Mannan fod ystyr wreiddiol jihad yn golygu llawer iawn mwy.

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg GrefyddolStanding Advisory Council for Religious Education

Page 10: Adroddiad Blynyddol - wasacre.org.uk Benfro 2012-13... · Addoli (arkan al-`ibada) yw’r gweithrediadau sylfaenol sydd yn gysylltiedig â bod yn gredwr ... Defnyddir amrywiadau ar

11

Bydd Moslemiaid yn defnyddio’r gair Jihad i ddisgrifio tri math gwahanol o ymgiprys:

• Ymgiprys mewnol credwr i fyw bywyd y Moslem cystal ag y medr wneud. • Ymgiprys i greu cymdeithas Foslemaidd dda.• Rhyfel sanctaidd: yr ymgiprys i amddiffyn Islam, gyda grym os oes angen.

Mae llawer o awduron modern yn honni mai prif ystyr Jihad yw'r ymgiprys mewnolysbrydol, ac mae llawer o Foslemiaid yn derbyn hynny.

Ond mae cynifer o gyfeiriadau o fewn testunau Islamaidd at Jihad fel ymgiprys militaraiddfel nad yw’n gywir honni bod dehongli Jihad fel rhyfel sanctaidd yn anghywir.

Jihad a’r Proffwyd

Y Jihad mewnol yw’r un y dywedir i’r Proffwyd Muhammad ei alw y Jihad mwyaf.

Codwyd cwestiwn pellach ynghylch gosod gwragedd ar wahân yn y mosg. Yr esboniad agynigiwyd oedd mai i rwystro rhag denu sylw’r dynion ydoedd.

Trafodwyd hefyd pam na fwyteir cig porc gan y gymuned Islamaidd.

Yr ateb cyntaf oedd bod porc yn aflan, ond dywedodd Mr Mannan y byddai’n dderbyniolbwyta porc i’ch cadw’n fyw petaech yn yr anialwch ac ar eich cythlwng ac mai porc oeddyr unig fwyd ar gael yno.

Roedd y cyfarfod yn ffordd dda i godi ymwybyddiaeth o’r ffydd Islamaidd ac estynnodd MrMannan groeso i unrhyw un a fyddai â diddordeb mewn mynychu’r gweddïau dydd Gwener.

Cofnodwyd gan Steve Butler Yn y llun: O’r chwith i’rdde - Mr Martyn Williams(Is-gadeirydd CYSAGCyngor YmgynghorolSefydlog ar AddysgGrefyddol), Mr M Hussein(un o feibion Mr Mannan),Mr A Wahid (Imam), Mr AMannan (aelod blaenllawyn ein cymuned Islamaidda Chadeirydd y Mosg) a’rCynghorydd H George(Dirprwy Arweinydd aLlefarydd y Cabinet arW a s a n a e t h a uAmgylcheddol aRheoleiddio ac ar yr iaithGymraeg.

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg GrefyddolStanding Advisory Council for Religious Education

Page 11: Adroddiad Blynyddol - wasacre.org.uk Benfro 2012-13... · Addoli (arkan al-`ibada) yw’r gweithrediadau sylfaenol sydd yn gysylltiedig â bod yn gredwr ... Defnyddir amrywiadau ar

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg GrefyddolStanding Advisory Council for Religious Education

12

Arolygiadau Estyn yn ysgolion uwchradd Sir Benfro

Er mis Medi 2010, mae arolygon dan arweiniad Estyn wedi eu cyflwyno’n raddol mewnysgolion i sicrhau bod ysgolion yn fwy hyderus ynghylch canfyddiadau’r arolygon. Bydd trichwestiwn a deg meincnod safon yn cael eu hasesu. Bydd y rhain yn canolbwyntio ynarbennig ar ganlyniadau dysgwyr ond hefyd ar ansawdd yr addysgu a’r arweiniad a’r rheolaeth.

Y prif feini prawf yn yr adroddiad fydd:

l Barn gyfan ar berfformiad cyfredol yr ysgol; a l Barn gyfan ar obeithion yr ysgol i wella safon.

Ond mae barn hefyd ar ddangosyddion safon, h.y.

l canlyniadau – y safonau a gyrhaeddir gan ddisgyblion a’u lles hwy. l darpariaeth – profiadau dysgu, addysgu, gofal, cynhaliaeth ac arweiniad, ac awyrgylch

yr addysgu. l arweiniad – arweiniad, gwella ansawdd, gweithio mewn partneriaeth a rheoli adnoddau.

Seilir pob barn ar raddfa bedwar pwynt:

l Ardderchog: llawer o gryfderau yn cynnwys enghreifftiau sylweddol o arfer arwainsector.

l Da: llawer o gryfderau a heb elfennau pwysig yn gofyn am welliant sylweddoll Digonol: cryfderau’n fwy niferus na’r elfennau sydd ag angen eu gwella.l Anfoddhaol: elfennau pwysig i’w gwella yn fwy niferus na’r cryfderau.

Cafodd dwy ysgol uwchradd eu harolygu er yr Adroddiad Blynyddol blaenorol – YsgolTasker Milward ym mis Mawrth 2013 ac Ysgol Dewi Sant ym mis Mai 2013. Ni chafwydsylwadau penodol ar ansawdd dysgu A.G. na safonau’r pwnc yn y naill ysgol na’r llall.Dywed yr adroddiadau fod y profiadau dysgu yn hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol,cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion. The school promotes effectively the pupils’spiritual, moral, social and cultural development’.

Mae Cadeirydd CYSAG a’r awdurdod lleol wedi penderfynu cymryd camau i annogysgolion uwchradd i amlygu mwy o ymroddiad a diddordeb mewn A.G. yn y dyfodol.

RHESTR O'R SEFYDLIADAU YR ANFONWYD YR ADRODDIAD ATYNT:l Llywodraeth Cymrul Holl Ysgolion a Cholegau’r Awdurdod Addysg Lleol l Llyfrgell Genedlaethol Cymrul Canolfan Genedlaethol Cymru ar Addysg Grefyddoll Holl Awdurdodau Addysg Lleol Cymrul Esgobaeth Tyddewil Comisiwn Ysgolion Esgobaeth Menevia l Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant l Cyngor Ffederal Eglwysi Rhyddion

Page 12: Adroddiad Blynyddol - wasacre.org.uk Benfro 2012-13... · Addoli (arkan al-`ibada) yw’r gweithrediadau sylfaenol sydd yn gysylltiedig â bod yn gredwr ... Defnyddir amrywiadau ar

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg GrefyddolStanding Advisory Council for Religious Education

13

Ysgolion Sir Benfro CANLYNIADAU TGAU 2013 Astudiaethau Crefyddol

YSGOLION A* A B C D E F G U

Ysgol Bro Gwaun (CB) Cyfanswm 100 4 11 16 20 19 11 11 6 2

Gronnol % 4% 15% 31% 51% 70% 81% 92% 98% 100%

Ysgol Dewi SantCyfanswm 53 15 9 11 8 6 3 0 1 0

Gronnol % 28% 45% 66% 81% 92% 98% 98% 100% 100%

Ysgol Dewi Sant (CB) Cyfanswm 67 6 12 11 15 8 12 3 0 0

Gronnol % 9% 27% 43% 66% 78% 96% 100% 100% 100%

Ysgol Greenhill Cyfanswm 62 15 24 12 10 1 0 0 0 0

Gronnol % 24% 63% 82% 98% 100% 100% 100% 100% 100%

Ysgol Greenhill (CB) Cyfanswm 121 2 11 16 30 25 14 7 5 11

Gronnol % 2% 11% 24% 49% 69% 81% 87% 91% 100%

Ysgol y Preseli Cyfanswm 90 2 12 28 26 17 5 0 0 0Gronnol % 2% 16% 47% 76% 94% 100% 100% 100% 100%

Ysgol y Preseli (CB) Cyfanswm 168 5 8 14 28 38 40 16 13 6Gronnol % 3% 8% 16% 33% 55% 79% 89% 96% 100%

Ysgol PenfroCyfanswm 1 1 0 0 0 0 0 0 0 0

Gronnol % 100% 100% 100% 100% 100% 100% 100% 100% 100%

Ysgol Penfro (CB) Cyfanswm 12 4 2 3 3 0 0 0 0 0

Gronnol % 33% 50% 75% 100% 100% 100% 100% 100% 100%

Ysgol Tasker Milward Cyfanswm 11 0 1 1 3 0 1 0 2 3Gronnol % 0% 9% 18% 45% 45% 55% 55% 73% 100%

Ysgol Tasker Milward (CB) Cyfanswm 165 7 16 33 31 15 22 18 17 6Gronnol % 4% 14% 34% 53% 62% 75% 86% 96% 100%

Ysgol Syr Thomas Picton Cyfanswm 78 14 17 21 20 5 0 0 1 0Gronnol % 18% 40% 67% 92% 99% 99% 99% 100% 100%

Ysgol Syr Thomas Picton (CB) Cyfanswm 120 5 16 13 25 19 21 11 6 4Gronnol % 4% 18% 28% 49% 65% 83% 92% 97% 100%

Ysgol Aberdaugleddau Cyfanswm 20 2 2 3 3 4 6 0 0 0Gronnol % 10% 20% 35% 50% 70% 100% 100% 100% 100%

Ysgol Aberdaugleddau (CB) Cyfanswm 140 1 4 5 32 30 26 30 8 4Gronnol % 1% 4% 7% 30% 51% 70% 91% 97% 100%

SIR BENFRO Cyfanswm 315 49 65 76 70 33 15 0 4 3Gronnol % 16% 36% 60% 83% 93% 98% 98% 99% 100%

SIR BENFRO Cyfanswm 893 34 80 111 184 154 146 96 55 33CWRS BYR Gronnol % 4% 13% 25% 46% 63% 79% 90% 96% 100%

(CB) = TGAU CWRS BYR

Page 13: Adroddiad Blynyddol - wasacre.org.uk Benfro 2012-13... · Addoli (arkan al-`ibada) yw’r gweithrediadau sylfaenol sydd yn gysylltiedig â bod yn gredwr ... Defnyddir amrywiadau ar

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg GrefyddolStanding Advisory Council for Religious Education

14

Ysgolion Sir Benfro CANLYNIADAU TGAU 2013 Astudiaethau Crefyddol

YSGOLION A* A B C D E N

Ysgol Bro Gwaun Cyfanswm 8 1 4 1 0 0 1 1Gronnol % 13% 63% 75% 75% 75% 88% 100%

Ysgol Dewi Sant Cyfanswm 16 0 0 3 3 4 5 1Gronnol % 0% 0% 19% 38% 63% 94% 100%

The Greenhill School Cyfanswm 0 0 0 0 0 0 0 0Gronnol % 0% 0% 0% 0% 0% 0% 0%Cyfanswm 5 0 0 1 4 0 0 0Ysgol y Preseli Gronnol % 0% 0% 20% 100% 100% 100% 100%

Ysgol Penfro Cyfanswm 8 0 2 2 2 2 0 0Gronnol % 0% 25% 50% 75% 100% 100% 100%

Ysgol Tasker Milward Cyfanswm 14 0 0 2 6 5 1 0Gronnol % 0% 0% 14% 57% 93% 100% 100%

Ysgol Syr Thomas Picton Cyfanswm 15 0 5 4 5 1 0 0Gronnol % 0% 33% 60% 93% 100% 100% 100%

Ysgol Aberdaugleddau Cyfanswm 12 0 3 1 4 3 1 0Gronnol % 0% 25% 33% 67% 92% 100% 100%

SIR BENFRO Cyfanswm 78 1 14 14 24 15 8 2Gronnol % 1% 19% 37% 68% 87% 97% 100%

Ysgolion Sir Benfro CANLYNIADAU LEFEL AS 2013 Astudiaethau Crefyddol

YSGOLION A B C D E N

Ysgol Bro Gwaun Cyfanswm 8 0 3 3 2 0 0Gronnol % 0% 38% 75% 100% 100% 100%

Ysgol Dewi Sant Cyfanswm 30 4 8 6 5 4 3Gronnol % 13% 40% 60% 77% 90% 100%

Ysgol Greenhill Cyfanswm 0 0 0 0 0 0 0Gronnol % 0% 0% 0% 0% 0% 0%Cyfanswm 7 0 2 3 2 0 0Ysgol y Preseli Gronnol % 0% 29% 71% 100% 100% 100%

Ysgol Penfro Cyfanswm 12 2 3 2 3 0 2Gronnol % 17% 42% 58% 83% 83% 100%

Ysgol Tasker Milward Cyfanswm 11 4 3 0 4 0 0Gronnol % 36% 64% 64% 100% 100% 100%

Ysgol Syr Thomas Picton Cyfanswm 24 6 3 10 5 0 0Gronnol % 25% 38% 79% 100% 100% 100%

Ysgol Aberdaugleddau Cyfanswm 12 0 1 5 1 1 4Gronnol % 0% 8% 50% 58% 67% 100%

SIR BENFRO Cyfanswm 104 16 23 29 22 5 9Gronnol % 15% 38% 65% 87% 91% 100%