Aberystwyth (Milltir Sgwr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar... · 1. Mae hi’n...

31
Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol. 1 1. Aberystwyth (Milltir Sgwâr) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. Golygfeydd hardd, prom hir – delfrydol ar gyfer mynd am dro, y môr, adeiladau diddorol (yr hen goleg, y Llyfrgell Genedlaethol, adfeilion y castell), caffi, siopau, sinema, rheilffordd fach i ben y bryn 2. 1649: chwythu’r castell i fyny 21-0: Aberystwyth yn curo Machynlleth (pêl-droed) 1962: Aberystwyth yn colli 20-1 yn erbyn Caersws 2 flynedd: mae’r bachgen wedi bod yn aelod o’r côr ers dwy flynedd tua blwyddyn: mae’r ferch wedi bod yn aelod o’r côr ers tua blwyddyn 4 milltir yr awr: mae’r trên yn teithio ar gyflymder o bedair milltir yr awr 778 o droedfeddi - dyma hyd y rheilffordd - yr un drydanol hiraf ym Mhrydain £2.75: y pris ar gyfer mynd i fyny ac i lawr ar y trên Y CYFRYNGAU y ffilm: e.e. defnyddio lens camera arbennig i bwysleisio’r cyflwynwyr; cyfres o luniau’n ymddangos ar y sgrîn am gyfnod byr, yn syth ar ôl ei gilydd; ffocws y camera’n dod allan o wrthrychau; cyflymu’r ffilm; mae hyn i gyd yn gyffrous, yn gyflym, yn apelio at bobl ifanc. y gerddoriaeth: mae’n newid ar y dechrau – o fiwsig arferol y rhaglen i fiwsig roc ‘trwm’, gitârs ac ati, sy’n addas ar gyfer rhaglen i bobl ifanc ac mae hyn yn dod i ben ar ddiwedd y cyflwyniad cyffredinol. Mae’r gerddoriaeth yn dawelach wedyn, sy’n fwy addas fel cefndir ar gyfer cyfleu gwybodaeth. y cyflwyno: mae darnau byr o wybodaeth yn cael eu cyflwyno gan bobl ifanc. hyd y darnau: yn fyr ar y cyfan – yn bytiog, yn uniongyrchol, yn mynd i apelio at bobl ifanc. IAITH 1. Mae Aberystwyth ar lan y môr . 2. Roedd y gêm yn dda iawn – enillodd Aberystwyth o 9 gôl i 1. 3. Rydw i’n hoffi mynd i Aberystwyth yn y gaeaf, pan fydd y môr yn donnau mawr. 4. Roeddwn i yn Aberystwyth dros y penwythnos. 5. Roedd John, fy mrawd , gyda fi. 6. Mae rhai pobl yn teithio i Aberystwyth mewn bws / ar fws . 7. Mae’n well gen i fynd ar y trên, fy hun. 8. Mae Aberystwyth yn boblogaidd iawn yn yr haf. 9. Mae John wedi anfon cerdyn post aton ni o Aberystwyth. 10. “Wyt ti eisiau dod i Aberystwyth?”, gofynnodd Arwel.

Transcript of Aberystwyth (Milltir Sgwr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar... · 1. Mae hi’n...

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    1

    1. Aberystwyth (Milltir Sgwâr) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. Golygfeydd hardd, prom hir – delfrydol ar gyfer mynd am dro, y môr, adeiladau diddorol (yr hen goleg, y

    Llyfrgell Genedlaethol, adfeilion y castell), caffi, siopau, sinema, rheilffordd fach i ben y bryn 2. 1649: chwythu’r castell i fyny

    21-0: Aberystwyth yn curo Machynlleth (pêl-droed) 1962: Aberystwyth yn colli 20-1 yn erbyn Caersws 2 flynedd: mae’r bachgen wedi bod yn aelod o’r côr ers dwy flynedd tua blwyddyn: mae’r ferch wedi bod yn aelod o’r côr ers tua blwyddyn 4 milltir yr awr: mae’r trên yn teithio ar gyflymder o bedair milltir yr awr 778 o droedfeddi - dyma hyd y rheilffordd - yr un drydanol hiraf ym Mhrydain £2.75: y pris ar gyfer mynd i fyny ac i lawr ar y trên

    Y CYFRYNGAU • y ffilm: e.e. defnyddio lens camera arbennig i bwysleisio’r cyflwynwyr; cyfres o luniau’n ymddangos ar y

    sgrîn am gyfnod byr, yn syth ar ôl ei gilydd; ffocws y camera’n dod allan o wrthrychau; cyflymu’r ffilm; mae hyn i gyd yn gyffrous, yn gyflym, yn apelio at bobl ifanc.

    • y gerddoriaeth: mae’n newid ar y dechrau – o fiwsig arferol y rhaglen i fiwsig roc ‘trwm’, gitârs ac ati, sy’n addas ar gyfer rhaglen i bobl ifanc ac mae hyn yn dod i ben ar ddiwedd y cyflwyniad cyffredinol. Mae’r gerddoriaeth yn dawelach wedyn, sy’n fwy addas fel cefndir ar gyfer cyfleu gwybodaeth.

    • y cyflwyno: mae darnau byr o wybodaeth yn cael eu cyflwyno gan bobl ifanc. • hyd y darnau: yn fyr ar y cyfan – yn bytiog, yn uniongyrchol, yn mynd i apelio at bobl ifanc. IAITH 1. Mae Aberystwyth ar lan y môr. 2. Roedd y gêm yn dda iawn – enillodd Aberystwyth o 9 gôl i 1. 3. Rydw i’n hoffi mynd i Aberystwyth yn y gaeaf, pan fydd y môr yn donnau mawr. 4. Roeddwn i yn Aberystwyth dros y penwythnos. 5. Roedd John, fy mrawd, gyda fi. 6. Mae rhai pobl yn teithio i Aberystwyth mewn bws / ar fws. 7. Mae’n well gen i fynd ar y trên, fy hun. 8. Mae Aberystwyth yn boblogaidd iawn yn yr haf. 9. Mae John wedi anfon cerdyn post aton ni o Aberystwyth. 10. “Wyt ti eisiau dod i Aberystwyth?”, gofynnodd Arwel.

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    2

    2. Trystan Lewis (Wedi 3) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. Pob math o geir yn enwedig ceir mawr, cyflym, drud 2. Hen geir / ceir clasurol 3. Fergie bach ydy e – yn dyddio o 1952. Hen dractor ei daid / dad-cu oedd e ac roedd angen llawer o waith

    arno fe. Bellach, mae e wedi cael ei adnewyddu ond mae angen tawelydd arno. 4. Mae’n goch. Jaguar Mark 10, 1969, ydy e ac mae’r math yma o gar yn brin heddiw. Mae llawer o bren yn

    y car a seddi o ledr. Pan wnaethpwyd y car, hwn oedd y lletaf ar y ffordd. Mae’n hollol wahanol i geir heddiw, mae steil yn perthyn iddo a byddai’n costio llawer i’w wneud heddiw.

    5. Syr Anthony Hopkins 6. 1956 7. Hen lyfrau / llyfrau newydd / cardiau 8. Gwneud estyniad i’r siop, gwerthu coffi ar y llawr cyntaf, parhau i werthu llyfrau hynafol a chael mwy o

    gasgliadau Faint rydych chi’n ei gofio? 1. Arian 2. Oes 3. Ar lan y môr 4. Llwyd 5. Ydyn 6. 2 neu 3 7. Mae’n agor. 8. Y cyflwynydd 9. Llyfrau 10. Du IAITH a. Newydd 1. Mae’r dyn newydd orffen y gwaith. 2. Rydw i newydd glywed y stori. 3. Mae’r plant newydd adael yr ysgol. 4. Roeddwn i newydd gyrraedd yr ystafell. 5. Roedd y dosbarth newydd ddechrau gweithio. b. Cymharu ansoddeiriau

    hena(f) / hyna(f) byrra(f) anodda(f) ucha(f) agosa(f) / nesa(f)

    ifanca(f) / ienga(f) / ieuenga(f); ieua(f) hira(f) / hwya(f) hawdda(f) / hawsa(f) isa(f) pella(f)

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    3

    3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. Llundain

    Cofio: Mynd i mewn i Hamley’s, gweld y teganau’n symud, yn edrych yn fyw; cael dewis tegan; mae’n cofio sut roedd hi’n teimlo – roedd popeth yn ‘anhygoel’.

    yr Eidal Cofio: Mynd i San Remo a Monte Carlo; cael sbageti am y tro cyntaf yn yr Eidal, cael Knickerbocker Glory anferth ym Monte Carlo – roedd e’n fendigedig.

    Weston-Super-Mare Cofio: Roedd hi’n bwrw glaw drwy’r amser.

    Cwmni Caelloi Dechrau: Yn 1851 1960au: Roedd y bws yn gadael bob dydd Llun ac yn dychwelyd ar ddydd Gwener; £2.00 am docyn dwyffordd; roedd y gyrwyr yn siarad Cymraeg ac roedden nhw’n gallu helpu pobl.

    Faint rydych chi’n ei gofio? 1. Pwllheli 2. Cacen 3. Chwarae gyda theganau 4. Teganau, llun o fabi 5. Gwenno 6. Gwyn 7. Caelloi, Pwllheli, North Wales + rhif ffôn 8. Bysiau, pobl 9. Glas, gwyn, gyda streipiau lliwgar 10. Nac ydy – mae rhai seddi gwag tua’r canol. IAITH Fi Ni Mynd i Es i / Euthum i Aethon ni Gadael Gadewais i Gadawon ni Teithio Teithiais i Teithion ni Cyrraedd Cyrhaeddais i Cyrhaeddon ni Gweld Gwelais i Gwelon ni Gwneud Gwnes i / Gwneuthum i Gwnaethon ni Bwyta Bwytais i Bwyton ni Yfed Yfais i Yfon ni Mwynhau Mwynheuais i Mwynheuon ni Dychwelyd Dychwelais i Dychwelon ni

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    4

    4. Mynd yn ôl Mewn Amser (Retro) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL Y teulu Curtis ac Andrew: mab a thad; mae Curtis yn fab i Andrew; mae Andrew yn dad i Curtis Curtis a Connor: dau frawd; brodyr Curtis a Maddie: brawd a chwaer Jill a Maddie: mam a merch; mae Jill yn fam i Maddie; mae Maddie yn ferch i Jill Clive a Curtis: taid / tad-cu ac ŵyr; mae Clive yn daid / dad-cu i Curtis; mae Curtis yn ŵyr i Clive Cynthia a Clive: gŵr a gwraig; mae Clive yn ŵr i Cynthia; mae Cynthia yn wraig i Clive. Pwy? Pa gyfnod? Pam?

    Enw Pryd

    Pam

    Curtis

    y 70au Hoffai weld George Best yn chwarae.

    Connor

    Ddim yr Ail Ryfel Byd

    Doedd dim digon o fwyd.

    Andrew / Dad

    y 70au Roedd tîm rygbi Cymru’n chwarae’n dda iawn.

    Jill / Mam

    yr 80au Roedd hi’n hoffi’r ffasiwn.

    Clive / Dad-cu

    y 40au Dyma gyfnod ei blentyndod.

    Cynthia / Mam-gu

    y 50au – y 60au Hoffai weld Elvis a’r cantorion eraill.

    TRAFOD: 1914-1918 Gwybodaeth yn y clip: Roedd hi’n gyfnod rhyfel, bu mwy o bobl farw yn y rhyfel yma nag mewn unrhyw ryfel arall. Lloyd George oedd y Prif Weinidog. Roedd merched yn gwneud swyddi dynion. Sylweddolodd merched eu bod nhw’n gyfartal â dynion. Roedd merched yn protestio er mwyn cael y bleidlais. Faint rydych chi’n ei gofio 1. Mae hi’n wyntog. 2. Tair (Maddie, Mam, Mam-gu) 3. Cwmllynfell, drws nesa i’w gilydd 4. Mae hi’n hoffi gwisgo i fyny. 5. Mae’r gerddoriaeth yn drist, yn dynodi marwolaeth, mae’r ffilm yn ddu a gwyn, mae’r bachgen yn eistedd

    â’i ben yn ei blu. 6. Y tad 7. Ydy. 8. Dominos 9. Doli 10. Un o’r bechgyn

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    5

    IAITH a. Hoffwn / Hoffet ac ati. 1. Hoffwn i fyw yn yr wyth degau. 2. Hoffech chi fyw mewn cyfnod arall? 3. Hoffai’r disgyblion fynd yn ôl i’r naw degau. 4. Hoffai Mam fynd yn ôl i gyfnod ei phlentyndod. 5. Hoffai Dad fyw yn y dyfodol. 6. Hoffen nhw fynd yn ôl i’r gorffennol. 7. Hoffech chi fyw mewn cyfnod arall? Na hoffwn, dw i’n hapus yn y presennol. 8. Hoffai’r disgyblion fyw mewn cyfnod arall? Hoffen ( ) 9. Hoffet ti weld beth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol? Na hoffwn, dim diolch. 10. Hoffai’r athro hanes fynd yn ôl i’r 1920au. Hoffai. ( ) b. Y dyddiad 1914 un naw un pedwar yn un naw un pedwar mil naw un pedwar ym mil naw un pedwar 1968 un naw chwech wyth yn un naw chwech wyth mil naw chwech wyth ym mil naw chwech wyth 2002 dwy fil a dwy yn y flwyddyn dwy fil a dwy yn nwy fil a dwy 2010 dwy fil a deg yn y flwyddyn dwy fil a deg yn nwy fil a deg y 90au y naw degau yn y naw degau Y CYFRYNGAU (rhai awgrymiadau’n unig) Cyfleu’r cyfnod: Mae ffilm sepia yn cyfleu’r cyfnod. Mae’r gwisgoedd yn addas. Creu naws: Mae sŵn craclo ar y ffilm i gyfleu ei bod yn hen. Mae cerddoriaeth y Death March a’r ffilm ddu a gwyn, ynghyd â gweld y bachgen yn eistedd gyda’i ben yn ei blu, yn cyfleu’r diflastod gan fod offer technolegol ein cyfnod ni’n cael ei gymryd o’r tŷ. Mae cerddoriaeth fwy bywiog o’r cyfnod yn gefndir i weithgareddau megis dysgu’r sol-ffa, sy’n cyfleu bywyd naturiol bob dydd.

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    6

    5. Dillad (Cwpwrdd Dillad) ATEBION Rhan 1 – Beverly Hughes GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. Ydy 2. Cyn iddi ddechrau siarad, yn ôl ei mam; efallai pan aeth hi dramor am y tro cyntaf 3. Cot ffwr, het a bŵts 4. Roedd bechgyn o’r ysgol yn ei gwisgo hi ar gyfer perfformio rhan un o’r gwŷr doeth mewn cyngerdd

    Nadolig. 5. Roedd hi’n boeth iawn yno – yn chwilboeth. IAITH Y lluosog brawd, brodyr mab, meibion merch, merched gŵr, gwŷr gwraig, gwragedd cefnder, cefndryd, cefndyr cyfnither, cyfnitherod perthynas, perthnasau teulu, teuluoedd Rhan 2 – Craig Evans 1. Hetiau, treinyrs, jîns rhydd, llawer o siacedi a chyfwisgoedd 2. Mae’n cael gwybodaeth am beth sy’n newydd, beth sy wedi dod i mewn. 3. Dydy hi ddim wedi clywed amdanyn nhw. 4. Talodd e £90.00 ond maen nhw’n werth £400.00 nawr. 5. Defnyddiodd Nike y logo heb ganiatâd ac felly roedd rhaid stopio’u gwerthu nhw.

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    7

    6. Bagiau Plastig (popeth yn wyrdd) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. Mae’r ffilm yn dangos y lleoedd yma am y rhesymau yma:

    • cefn gwlad – er mwyn dangos bagiau plastig yn llygru cefn gwlad • y Senedd, adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd – er mwyn cyfeirio at bôl piniwn a

    gynhaliwyd y llynedd a oedd yn dangos bob pobl Cymru’n dymuno cael gwared ar fagiau plastig a’u bod wedi gofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud hynny

    • seibr-gaffi – er mwyn dangos gwefan Modbury a chyflwyno Modbury • Castell Newydd Emlyn - lle yng Nghymru sy’n ceisio defnyddio llai o fagiau plastig; mae Ifor ap Glyn yn

    cyfweld y bobl • caffi yng Nghastell Newydd Emlyn – lle mae Ifor ap Glyn yn gwylio pobl yn mynd heibio • stryd yng Nghastell Newydd Emlyn – mae’n mynd i’r stryd i siarad â’r bobl, er mwyn casglu eu barn am

    fagiau plastig 2. 216 – faint o fagiau plastig mae pawb yn eu defnyddio mewn blwyddyn

    8% – mae 8% o olew’r byd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwneud nwyddau plastig 3.4% – dim ond 3.4% o’r nwyddau plastig sy’n cael eu hailgylchu

    3. Ar y cyfan, mae’r bobl yn cefnogi’r syniad, er bod rhai heb glywed llawer amdano. Faint rydych chi’n ei gofio? 1. Ar ffens, ar goed 2. Nac ydy 3. Gwyrdd (a brown ac mae arwydd glas oddi tano hefyd) 4. Oes 5. Dynes IAITH gwneud ei orau glas fi Rydw i’n gwneud fy ngorau glas. ni Rydyn ni’n gwneud ein gorau

    glas. nhw Maen nhw’n gwneud eu gorau

    glas. chi Rydych chi’n gwneud eich gorau

    glas.

    â’i wynt yn ei ddwrn hi Rhedodd hi â’i gwynt yn ei dwrn. nhw Rhedon nhw â’u gwynt yn eu

    dwrn. fi Rhedais i â fy ngwynt yn fy nwrn / â’m gwynt yn fy nwrn. ni Rhedon ni â’n gwynt yn ein dwrn.

    crynu yn ei sgidiau ni Rydyn ni’n crynu yn ein sgidiau. fi Rydw i’n crynu yn fy sgidiau. nhw Maen nhw’n crynu yn eu

    sgidiau. ti Rwyt ti’n crynu yn dy sgidiau. chi Rydych chi’n crynu yn eich

    sgidiau.

    Y CYFRYNGAU (awgrymiadau’n unig) Mae Castell Newydd Emlyn yn cael ei bortreadu fel lle yng nghefn gwlad - yn y ‘gorllewin gwyllt’, bron; mae’r gerddoriaeth trymped yn ein hatgoffa o ffilmiau cowboi a’r darnau eitha byr o ffilm lle mae’r camera’n symud o wrthrych i wrthrych (y caeau > yr arwydd > y car > y dref > traed yn cerdded > y stryd) yn nodweddiadol o ddechrau ffilm gowboi. Mae rhyw ddirgelwch yma - dydyn ni ddim yn gweld wynebau’r bobl. Mae’r gerddoriaeth yn awgrymu lle tawel, hamddenol, cysglyd, bron – does dim brys yma. Yna, wrth i Ifor ap Glyn symud ei sylw i’r stryd, mae’r gerddoriaeth yn debyg i glicio bysedd, gyda rhythm pendant, mwy bywiog ac mae hyn yn cyfleu pobl yn cerdded, yn rhedeg hyd yn oed, wrth iddyn nhw fyw eu bywyd bob dydd. Mae’r gerddoriaeth yma’n fwy modern, sy’n adlewyrchu cyfnod modern y bagiau plastig.

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    8

    7. Gwesty Cymru (04 Wal) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL Beth sy’n gwneud y gwesty mor Gymreig: yr enw; llechi; derw; cynnyrch o Gymru; patrymau Celtaidd; maen nhw’n defnyddio’r iaith Gymraeg. Faint rydych chi’n ei gofio? 1. Ar lan y môr / ger y môr 2. Mae’r gwesty yn Aberystwyth - ar lan y môr, ar y prom, yn edrych allan dros y môr 3. Draig 4. Tu allan / yn yr ardd / ar y lawnt 5. Gwyn 6. Ie. 7. Llun ar y wal, streipen ar y dwfe ac ar y clustogau 8. Ydy. 9. Droriau wrth y gwely, gwely, cadair, teledu 10. Oes IAITH a. Cywiro brawddegau 1. borffor; 2. fendigedig; 3. lliwgar; 4. Gymreig; 5. fodern; 6. lleol; 7. rhad; 8. fodlon; 9. binc, wyn; 10. gyffrous b. Llenwi bylchau 1. Cymru; 2. Cymry’n; 3. Cymreictod; 4. Cymraeg; 5. Gymro; 6. Gymraes; 7. Cymreig; 8. Cymry; 9. Nghymru; 10. Gymreig Y CYFRYNGAU Y gerddoriaeth (awgrymiadau’n unig) Mae cerddoriaeth ailadroddus i ddechrau i gyfleu tonnau’r môr. Mae’n creu argraff ar ddechrau’r darn. Yna, mae sŵn y môr yn cymryd lle’r gerddoriaeth, sy’n adlewyrchu lleoliad y gwesty. Mae cerddoriaeth ysgafnach wrth ddangos tu mewn i’r gwesty, sy’n creu naws gartrefol. Does dim cerddoriaeth pan fydd Aled Samuel yn manylu, er mwyn sicrhau bod y manylion yn cael eu cyfleu’n gwbl glir, felly hefyd wrth gyfweld y perchennog, does dim cerddoriaeth i dynnu oddi ar y wybodaeth. Mae cerddoriaeth piano wrth ddangos yr olygfa o’r ystafell wely ac wrth ddangos ystafell pen y tŷ – mae’n chwaethus fel yr olygfa a’r ystafell. Ar ddiwedd y darn, mae’r gerddoriaeth a’r ffilm yn dod i ben yn naturiol gyda’i gilydd.

  • 8. Tir Uchel Cymru (Natur Cymru) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. Yr ucheldir 2. O ardal Llanwddyn, yng nghanol Mynyddoedd y Berwyn 3. Mae llawer o eira; mae’r gwynt yn fain; mae’n gallu bod yn beryglus. 4. Maen nhw’n dod i gerdded, dringo, astudio’r creigiau a’r bywyd gwyllt. 5. I edrych ar olion Oes yr Iâ 6. Maen nhw’n meddwl am wlad fynyddig, hardd. Faint rydych chi’n ei gofio? 1. aderyn (sigl-di-gwt / brith y fuches), gwylan, carw, adar (piod môr), ysgyfarnog, pili pala/glöyn byw/iâr

    fach yr haf, carw, geifr, aderyn coch (croesbig), pysgodyn, neidr/gwiber, dolffin, gwiwer goch, elyrch 2. Llynnoedd, dyffrynnoedd, coed, glaswellt, porfa, creigiau 3. Pinc, gwyn, melyn, coch 4. Mae eira ar y cerrig. IAITH a. O 1. ohoni; 2. ohonyn; 3. ohoni; 4. ohono; 5. ohonot; 6. ohonoch; 7. ohonon; 8. ohono; 9. ohonoch; 10. ohonyn b. Cywiro

    Natur Cymru Mae Cymru’n brydferth. Mae Cymru’n llawn bywyd gwyllt diddorol. Yn y gyfres Natur Cymru, mae Iolo Williams yn ymweld â rhannau o Gymru ac mae’n siarad am fyd natur yn yr ardaloedd yna. Mae e wrth ei fodd yn dangos yr anifeiliaid, yr adar, y blodau, y planhigion a’r tir i ni. Bydd cyfres newydd yn dechrau’r wythnos nesaf, ar nos Fercher. Yn y gyfres, bydd Iolo’n mynd i lan y môr, i’r goedwig, i’r tir uchel ac i lawer o leoedd eraill, wrth gwrs. Os ydych chi’n hoffi bywyd gwyllt, dyma’r gyfres i chi. Cofiwch: nos Fercher 8.00-9.00

    Y CYFRYNGAU (awgrymiadau’n unig) Mae’r darn yn dangos bod Cymru’n lle hardd iawn. Mae’r ffilm yn dangos golygfeydd hardd, e.e. blodau, mynyddoedd, llynnoedd ac ati. Mae lliwiau pendant yma, e.e. aderyn du â phen gwyn, blodyn coch, eira gwyn, caeau gwyrdd ac ati ac mae’r lliwiau’n newid gyda’r tymhorau. Mae’r ffilm yn manylu ar wrthrychau unigol, e.e. wyneb gafr, adar ond, yn ogystal, mae golygfeydd eang, e.e. mynyddoedd, creigiau. Mae’r gerddoriaeth yn hyfryd, e.e. y delyn, sy’n adleisio harddwch y wlad a Chymru’n benodol. Rydyn ni’n clywed sŵn yr afon yn llifo. Mae’r gerddoriaeth yn cyrraedd crescendo, wrth sôn am y gwahanol dymhorau, sy’n cyfleu pa mor fendigedig ydy’r wlad. Mae’r aderyn ar y diwedd yn arbennig o effeithiol – mae’n cyfleu natur Cymru – glendid, purdeb. Rydyn ni’n clywed sŵn y gwynt yng Nghwm Idwal, sy’n adlewyrchu pa mor unig ydy’r lle yn y gaeaf, mae hyn yn cael ei adleisio yn nodau hir y gerddoriaeth. Mae’r golygfeydd yn olau ar y cyfan, yn ddisglair wrth ddisgrifio Cymru hardd, ond mae niwl mewn un rhan sy’n cyfleu bod rhywbeth arbennig iawn yn perthyn i Gymru – mae bron yn gyfriniol. Mae’r darn yn dangos bod Cwm Idwal yn lle unig yn y gaeaf. Mae’r lliwiau’n fwy llwyd, y golygfeydd yn fwy gwyn.

    Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    9

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    10

    9. Ysbrydion (Wedi 3) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. Mae pethau rhyfedd yn digwydd yn y tŷ, e.e. synau rhyfedd, drysau’n cau, pethau trydanol ddim yn

    gweithio, pethau’n diflannu ac yn ymddangos; mae e’n dweud bod Hedd Wyn wedi cysylltu â’i ferch; mae e’n dweud bod tad Meirionna yn cysylltu â nhw.

    2. Nac ydy. Mae e’n dweud bod ysbrydion yn gymeriadau doniol, llawn hwyl; mae e’n dweud mai pobl y byd yma sy’n frawychus – maen nhw’n waeth na phobl y byd nesaf.

    Faint rydych chi’n ei gofio? 1. Curo wrth y drws 2. Ydy 3. Pum munud ar hugain i un 4. Ydy, mae Rhodri Jones yn gwisgo cap. 5. Oes – Ellis Humphrey Evans, (Hedd Wyn), 1887-1917 6. Oes 7. Mae e’n paratoi ac yn yfed paned (o de). 8. Ar gadair (yn y coridor) 9. Mae hi’n gwisgo sgarff a chot olau. 10. Ceffyl Y CYFRYNGAU Mae’r lluniau’n awgrymu rhywbeth tywyll, ‘arallfydol’, e.e. dol / tedi wedi torri, y syniad bod rhywun yn mynd i fyny’r grisiau (yn enwedig wrth gyfeirio at sŵn traed tua’r diwedd); mae’r ffilm yn eich arwain chi drwy goridor cul lle mae pethau ar y llawr; mae rhai clipiau’n dywyll ac yn ‘niwlog’; mae pethau wedi eu gadael hwnt ac yma ar hyd y llawr a’r grisiau; mae un darn yn canolbwyntio ar y ffenest, fel petai rhywbeth yn edrych i mewn i’r tŷ o’r tu allan; mae llun tywyll o’r tŷ sy mewn lle unig (mae’n debyg); mae clip o Hedd Wyn yn marw ac yna croes; mae’r camera weithiau’n llifo o wrthrych i wrthrych ac mae’r gwrthrychau’n ‘aneglur’ ar brydiau. Mae’r gerddoriaeth yn creu naws ‘arallfydol’, gyda’r ffidil a’r tincian, yn arbennig, yn ychwanegu at hyn. Yn ogystal, mae effeithiau sain, fel sŵn clwyd yn gwichian ar y dechrau a sibrwd ar y diwedd ac mae hyn yn creu naws ‘arallfydol’, ‘sbwci’. HEDD WYN 1. Mae e’n dweud bod Hedd Wyn yn un o’r ysbrydion sy wedi bod yn ymweld â nhw, mae e wedi cymryd

    ffansi at ei ferch hynaf ac wedi ysgrifennu penillion iddi; roedd e’n mwynhau cwmni merched.

    2. Mae’r ysgrifen o dan ben Hedd Wyn yn y cerflun yn rhoi ei enw llawn a dyddiadau ei eni a’i farwolaeth, sef “Ellis Humphrey Evans, (Hedd Wyn), 1887-1917”; mae’r clip yn dangos iddo fod yn filwr ac iddo gael ei anafu/ei ladd mewn brwydr.

    4. Mae’r olygfa’n dangos Hedd Wyn yn cael ei anafu yn y frwydr. 5. Mae’r olygfa yma’n arwain at ei farwolaeth, y syniad o Hedd Wyn bellach yn ysbryd. Hefyd, mae’n dywyll,

    yn drist, yn cyfleu marwolaeth, sy’n addas o ran cyd-destun y darn cyfan. IAITH Y lluosog bws > bysiau / bysys; bwrdd > byrddau; cwpwrdd > cypyrddau; cyfrwng cyfryngau; mwg > mygiau; gwn > gynnau; pwll > pyllau; twll > tyllau; pwrs > pyrsiau; tŵr > tyrau; gŵr > gwŷr; cyfreithiwr > cyfreithwyr; ffermwr > ffermwyr; garddwr > garddwyr; siopwr > siopwyr

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    11

    10. Traethau Cymru (Wedi 7) ATEBION

    Faint rydych chi’n ei gofio? Y gweithgareddau ar y DVD: torheulo mynd ar gefn asyn nofio chwarae yn y dŵr cerdded ar y traeth yn yr haul / yn y glaw gorwedd syrffio bwyta hufen iâ

    chwarae gyda ffrisbi rhedeg (yn y glaw) casglu cregyn eistedd ar gadair haul gwneud castell tywod mynd â’r ci / cŵn am dro chwarae pêl hedfan barcud

    GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. Syrffio:

    • Mae dewis amrywiol o draethau yma (e.e. Llangennith, Langland, Bae Caswell). • Mae’r traethau’n lân. • Mae’r môr yn lân.

    2. Traeth Cefn Sidan: Gallai’r hysbysebion gyfeirio at y canlynol: • digon o dywod – 7 milltir o dywod • poblogaidd gyda phobl ar draws De Cymru • golygfeydd hyfryd • digon o le i chwarae ar y traeth / chwarae yn y môr • mae’n bosib cael hufen iâ yma • does dim ots am y tywydd, mae’n lle braf mewn unrhyw dywydd.

    3. Y darn olaf • Mae 120 o draethau Cymru wedi ennill gwobrau. • Mae 42 o draethau Cymru wedi ennill y Faner Las – gwobr ryngwladol. • Mae hyn yn profi bod traethau Cymru cystal ag unrhyw draeth yn y byd. • Mae awgrym fod traethau Cymru’n cael eu rheoli’n dda a bod y dŵr yn lân, sef meini prawf y Faner Las.

    Y CYFRYNGAU Mae’r gerddoriaeth yn effeithiol achos mae’n cyfleu’r syniad o lan y môr, e.e. y gerddoriaeth ar ddechrau’r darn. Mae’r gerddoriaeth ar ddiwedd y darn yn atgoffa rhywun o draethau pell, lle mae pobl mewn sgertiau o laswellt yn dawnsio’r hwla. Mae’r effeithiau sain yn dda, e.e. sŵn taranau a sŵn glaw’n diferu i bwysleisio’r tywydd gwlyb. Tua’r canol, lle mae’r cyflwynydd yn canmol traeth Cefn Sidan, mae e fel petai’n ymgolli yn yr harddwch, ond mae’n sylweddoli’n sydyn fod y tywydd yn wlyb a bod pethau’n wahanol y diwrnod yma. Mae hyn yn cael ei gyfleu’n arbennig o dda drwy gyfrwng effaith sain sy’n swnio fel hen record yn cael ei chrafu. Yn ogystal, mae sŵn y môr yn gefndir i ran o’r cyflwyniad ac mae hyn yn pwysleisio’r cyd-destun.

    IAITH 1. Mae traethau Cymru’n wych. 2. Mae’r tywod yn felyn. 3. Mae’r tywydd yn wlyb weithiau. 4. Mae’r traethau’n boblogaidd. 5. Weithiau, maen nhw’n llawn iawn. 6. Fel arfer, mae diwrnod ar y traeth yn rhad iawn achos does dim rhaid i chi brynu pethau yno. 7. Mae hwn yn draeth da. 8. Mae Aberystwyth yn dref ar lan y môr. 9. Mae Tyddewi’n ddinas ger y môr. 10. Mae’n lle bendigedig.

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    12

    11. Gwastraffu Bwyd (Newyddion) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL

    Ble? Beth? Pam? Yn y gegin

    Pasta a llysiau

    Mae dangos y teulu’n bwyta yn ffordd dda o gyflwyno’r eitem – mae bwyd yn bwysig i ni i gyd, mae’r eitem yn berthnasol i ni i gyd.

    Yn y drol, yn yr archfarchnad

    Uwd, pasta, dŵr, sudd ffrwythau, llaeth, bara

    Mae’r drol yn llawn – mae bwyd yn angenrheidiol i bawb + mae’n cyflwyno’r syniad o ddigonedd, efallai gormodedd a gwastraffu.

    (Yn y cefndir lle mae Gordon Brown yn siarad)

    (logo afal) (Mae’r logo’n dangos bwyd, mae’r gynhadledd yn trafod bwyd.)

    Yn Affrica Grawn – mae’r ddynes yn malu grawn Mae llwyth o lysiau, e.e. mangles efallai, yn mynd heibio ar fan india corn / grawn

    Mae eu bwyd nhw’n wahanol i’n bwyd ni, yn fwy syml + ychydig sydd gan y ddynes o’i gymharu â’r drol lawn uchod.

    1. Mae’r merched yn bwyta’n dda iawn; maen nhw’n gorffen popeth ar eu platiau ac, fel arfer, maen nhw

    eisiau mwy. 2. Mae’n costio arian i bawb ac mae’n codi pris bwyd. 3. Yn Japan 4. Mae cadw oergell fawr yn hanner llawn yn gwastraffu ynni. 5. Mae e’n sôn am droi bwyd yn fiodanwydd. Faint rydych chi’n ei gofio? 1. Tri o bobl / tair merch 2. Sudd ffrwythau / llaeth 3. Ydy 4. Dim byd 5. Mae e’n rhyfeddu / synnu braidd. Mae e’n dangos hyn yn ei lais ac yn y ffaith ei fod e’n chwerthin. IAITH b. on’d 1. Mae hi’n braf, on’d ydy hi? 2. Mae John yn mynd, on’d ydy e / o? 3. Mae’r plant yn dod, on’d ydyn nhw? 4. Rydw i’n iawn, on’d ydw i? 5. Rydyn ni’n gywir, on’d ydyn ni? 6. Rydych chi’n hapus, on’d ydych chi? 7. Mae’r athro’n dda, on’d ydy e / o? 8. Mae’r bobl wrth eu bodd, on’d ydyn nhw? 9. Rwyt ti’n gwybod hyn, on’d wyt ti? 10. Rydych chi’n gweithio bob nos, on’d ydych chi?

    11. Roedd hi’n braf on’d oedd hi? 12. Roedd hi’n oer, on’d oedd hi? 13. Roedd y plant yn dda, on’d oedden nhw? 14. Roeddwn i’n iawn, on’d oeddwn i? 15. Roedden ni’n hapus yno, on’d oedden ni? 16. Roedd pawb wrth eu bodd, on’d oedden nhw? 17. Roedden nhw’n gweithio, on’d oedden nhw? 18. Roeddet ti’n gynnar, on’d oeddet ti? 19. Roeddech chi’n iawn, on’d oeddech chi? 20. Roeddwn i’n gwybod on’d oeddwn i?

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    13

    12. Tŷ Eco (Y Tŷ Cymreig)

    ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL Yr elfennau gwyrdd: Mae’r tŷ wedi ei addasu – maen nhw wedi ailddefnyddio hen adeilad. Mae llawer o bren yn y tŷ. Dydyn nhw ddim wedi defnyddio pethau gwenwynig na choncrit. Mae llawer o ffenestri yn y to a’r waliau, gan gynnwys ffenestri mawr ar un ochr – i adael golau a gwres yr haul i mewn / i ddefnyddio ynni’r haul. Mae llawer o ynysiad yn y to, y waliau ac o dan y llawr. Mae gwydro triphlyg yno. Maen nhw wedi defnyddio deunyddiau lleol, e.e. pren, llechi, yn hytrach na deunyddiau o bell. Mae’r pantri yng nghornel ogledd-ddwyreiniol y tŷ, y tu allan i’r ynysiad (ac mae’n llawn pethau cartref a bwyd ffres, sy’n awgrymu bod y ddau’n coginio’u bwyd yn ffres yn hytrach na theithio i brynu prydau parod). Mae paneli solar yn cynhesu’r dŵr. Mae toiled sych yn y tŷ, gyda ffan yn y to. Maen nhw’n defnyddio dŵr o’r ffynnon. Faint rydych chi’n ei gofio? 1. Y cyntedd / yr ystafell gotiau, y gegin 2. Cotiau 3. Mewn cae, ar fryn, yn agos i’r tŷ 4. Maen nhw’n cerdded, yn gwthio’u beiciau – mae’n amlwg eu bod wedi bod yn beicio 5. Ffrwythau, afalau 6. Dwy 7. Llawr o bren (gyda llwyth o ynysiad oddi tano) 8. Winwns / nionod 9. Nac oes 10. Sied, paneli solar, potiau blodau, porfa / glaswellt IAITH

    dau fwrdd dwy gadair tri drws tair ffenest pedwar cwpwrdd / pedwar o gypyrddau pedair wal / pedair o waliau chwe photel / chwech o boteli wyth gwely / wyth o welyau deg jar / deg o jariau un deg pump / pymtheg person un deg pump / pymtheg o bobl dau ddeg / ugain punt dau ddeg o bunnau dau ddeg pum(p) potel dau ddeg pump o boteli tri deg ffenest tri deg o ffenestri pum deg llyfr pum deg / hanner cant o lyfrau saith deg pedwar llythyr saith deg pedwar o lythyrau wyth deg ffeil wyth deg o ffeiliau cant o bobl

    Sy… Oedd … Fydd 1. Rydw i’n byw mewn bwthyn sy’n wyrdd iawn. 2. Yn yr ardd, mae paneli solar sy’n cynhesu’r dŵr. 3. Mae gwres o dan y lloriau, sy’n cadw’r tŷ’n gynnes iawn. 4. Mae gwydro dwbl yn y tŷ, sy’n wych. 5. Roeddwn i’n byw mewn hen dŷ oedd yn y wlad. 6. Roedd carreg yn y wal oedd yn dweud ‘Adeiladwyd yn 1803’. 7. Roeddwn i wrth fy modd yn chwarae yn yr ardd oedd yn llawn coed a blodau. 8. Ryw ddiwrnod, bydda i’n byw mewn tŷ eco fydd yn helpu i warchod yr amgylchedd.

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    14

    13. Garddio (Byw yn yr Ardd) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. Maen nhw eisiau plesio’r beirniad. 2. Cystadleuaeth garddio ar draws Cymru; mae 20 o ddosbarthiadau, e.e. Pentrefi Bychain, Trefi, Dinasoedd,

    Siopau, Tafarndai, Meysydd Carafanau 3. Mae e’n ystyried:

    • ydy pawb yn cymryd rhan • ansawdd y blodau • ydy pobl yn cyfuno blodau • coed a llwyni • ydy pobl yn ailgylchu • oes sbwriel • oes baw cŵn.

    4. Naddo, ond cawson nhw’r tlws arian – yr ail wobr. Faint rydych chi’n ei gofio? 1. Pentref bach yng nghanol y wlad, gyda bythynnod, pont o gerrig, gerddi hardd, afon. Mae mainc yno a

    photiau blodau hwnt ac yma o gwmpas y pentref. Mae’n eithaf tawel, yn ôl pob golwg. 2. Mae hi’n bwrw glaw. 3. Rhwng 5 a 15 4. Ci 5. Basgedi (crog) 6. Gardd Llinos Jones:

    i. cŵn ii. corachod iii. cwningen iv bysedd y blaidd (lupins)

    7. Oes Y CYFRYNGAU Y tyndra: Dydyn ni ddim yn cael gwybod am bwy mae’r merched yn aros; mae llawer o gliwiau a chyfeiriadau at ddyn pwysig, gyda phawb yn ychwanegu darn o wybodaeth amdano, felly rydyn ni eisiau gwybod pwy ydy e a pham mae e’n dod. Y gerddoriaeth: Mae’r gerddoriaeth yn hamddenol, yn hyfryd ar y dechrau – mae popeth yn normal ac mae bywyd yn braf. Ond yna, mae chwiban a cherddoriaeth sy’n debyg i gerddoriaeth ffilm gowboi ac rydyn ni’n disgwyl i rywbeth anarferol ddigwydd – i ddyn reidio i mewn i’r pentref, fel mewn ffilm gowboi, efallai. Wrth gyflwyno’r gerddi, mae cerddoriaeth gitâr yn y cefndir, sy’n ddigon o hwyl ac sy’n ysgafn, fel ei bod yn gweddu unwaith eto. Y ffilm: Mae’r ffilm ddu a gwyn, y ffilm ‘niwlog’ wrth gyfeirio at ‘y gŵr yma’ a’r ddafad yn cyd-fynd â’r gerddoriaeth i greu darlun o bentref yng nghefn gwlad (yn y gorllewin gwyllt efallai) sy’n disgwyl ymwelydd ‘pwysig’; mae’n llwyddo i greu ymdeimlad o ddirgelwch. Mae’r syniad o ffilm gowboi’n cael ei ddatblygu yn y cyfeiriadau at ‘gyda’i glipfwrdd dan ei gesail a’i firo’n llawn inc’ a’r cyfeiriad at ‘codi ofn ar y garddwyr’ sy’n atgoffa rhywun o gowboi’n dod i mewn i bentref gyda gwn ac sydd ar fin herio’r bobl. Yn ogystal, rhaid cofio bod Bethan Gwanas, wrth gyflwyno, yn gwisgo het gowboi.

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    15

    IAITH Rhifau a ffigurau a. ar eich pen eich hun > fi Ydw i’n mynd o gwmpas ar fy mhen fy hun? > ni Ydyn ni’n mynd o gwmpas ar ein pen ein hunain? > hi Ydy hi’n mynd o gwmpas ar ei phen ei hun? > ti Wyt ti’n mynd o gwmpas ar dy ben dy hun? > nhw Ydyn nhw’n mynd o gwmpas ar eu pen eu hunain? > fo Ydy o’n mynd o gwmpas ar ei ben ei hun? Roeddech chi yn y tŷ ar eich pen eich hun. > fi Roeddwn i yn y tŷ ar fy mhen fy hun. > ni Roedden ni yn y tŷ ar ein pen ein hunain. > hi Roedd hi yn y tŷ ar ei phen ei hun. > ti Roeddet ti yn y tŷ ar dy ben dy hun. > nhw Roedden nhw yn y tŷ ar eu pen eu hunain. c. Ymadroddion amser

    A.

    B.

    ddoe neithiwr echnos echdoe heno yfory y llynedd eleni y flwyddyn nesaf y penwythnos

    y diwrnod cyn heddiw y noson cyn heddiw y noson cyn neithiwr y diwrnod cyn ddoe y noson sy’n dilyn heddiw y diwrnod ar ôl heddiw y flwyddyn ddiwethaf y flwyddyn yma y flwyddyn ar ôl eleni dydd Sadwrn a dydd Sul

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    16

    14. Jazz Aberhonddu (Jazz Aberhonddu: Dathlu 25) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL • pryd dechreuodd yr ŵyl: 1984 • beth sy’n digwydd yn yr ŵyl: agoriad swyddogol, cyngherddau, gorymdaith drwy’r dref, pobl yn gwersylla • pwy sy wedi perfformio yno: Slim Gaillard a Buddy Guy, Guy Barker a Stephane Grappelli a Kenny Davern • pa offeryn mae Slim Gaillard yn ei ganu: piano • pa offeryn mae Catrin Finch yn ei ganu: y delyn • pam mae’r ŵyl yn bwysig i Catrin Finch: mae’r ŵyl yn rhoi cyfle i gerddorion ifanc glywed cerddorion

    proffesiynol yn perfformio ac mae hyn yn gallu eu hysbrydoli nhw; mae’n gwneud iddyn nhw fod eisiau bod fel y cerddorion proffesiynol, i ddysgu oddi wrthyn nhw; mae’n sicrhau parhad cerddoriaeth yng Nghymru

    Faint rydych chi’n ei gofio? 1. Sut mae’r ŵyl yn effeithio ar y dref:

    • codi stondinau yn y stryd (e.e. take away) • baneri ar y stryd • cerddwyr, gyda phecynnau ar eu cefn yn dod i’r dref • meysydd gwersylla’n ymddangos • gorymdaith drwy’r dref • pobl yn dod o bell ac agos – o Brydain, Ewrop ac o weddill y byd • arhosfan / bysiau arbennig • mae pobl bwysig yn dod i’r dref, e.e. Rhodri Morgan yn y seremoni agoriadol • pobl yn dawnsio / yn gwneud cerddoriaeth yn y stryd

    2. Roedd hi’n heulog adeg yr ŵyl gyntaf; dydy Rhodri Morgan ddim yn meddwl y bydd hi’n braf iawn y tro yma.

    3. Ydy, mae Sam Gaillard yn gwisgo cap. 4. Sacsoffon a drymiau 5. Mae’r delyn gyntaf yn fach, yn frown ac mae Catrin Finch yn ei chario hi.

    Mae’r ail delyn yn fawr, yn rhy fawr i’w chario ac mae hi’n las. IAITH 1. Addurnir y dref. 2. Rhoddir baneri o gwmpas y strydoedd. 3. Agorir yr ŵyl yn swyddogol. 4. Cynhelir seremoni. 5. Gwahoddir perfformwyr. 6. Anfonir gwahoddiadau. 7. Derbynnir rhai. 8. Gwrthodir rhai. 9. Hysbysebir yr ŵyl. 10. Gwerthir tocynnau. 11. Paratoir posteri. 12. Trefnir bysiau arbennig.

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    17

    15. UFOs (Y Byd ar Bedwar) ATEBION Richard Foxhall (1996) Yn 1996, gwelodd e olau yn yr awyr, fel cylch o sbotoleuadau’n goleuo’r obelisg ar ben y bryn. Y plant ysgol (1977) Gwelodd y plant (a’r athrawes) rywbeth crwn, gyda dôm du; roedd ei waelod yn llachar; teithiodd e i fyny’n syth ac yn gyflym iawn. Y bobl yn ardal Mynyddoedd y Berwyn (1974) Clywon nhw sŵn ofnadwy, fel bang, fel daeargryn - roedd e i’w glywed am filltiroedd; roedd pobl yn ofnus. Alwyn Roberts (2008) Gwelodd e (a’i deulu) olau yn symud tuag at y mynyddoedd. Roedd e’n olau cryf, oren fel golau stryd. Roedd y peth yn teithio’n syth i fyny, heb unrhyw sŵn; daeth siâp arall dros y bryn hefyd.

    Ernie Edwards (1970) Roedd Ernie Edwards, 19 oed, yn cerdded adre a gwelodd e UFO; roedd golau’n disgleirio oddi tano, roedd sŵn rhyfedd ac arogl rwber a sylffwr; cafodd e fraw; symudodd yr UFO i ffwrdd yn gyflym, stopio uwchben mynydd; roedd hi’n 8.30 ar Ernie yn cyrraedd adre, awr yn hwyrach nag arfer, a dydy e ddim yn gallu cofio beth ddigwyddodd yn ystod yr awr yna. Y bore wedyn, roedd ei groen yn goch ac yn crafu, roedd lwmp caled uwch ei geg ac mae e’n meddwl mai transmitter oedd y lwmp hwnnw. Y CYFRYNGAU Cyfleu gwybodaeth: Mae’r cyflwynydd yn cyflwyno gwybodaeth, ond yna mae cyfweliadau gyda phobl sy’n honni iddyn nhw weld UFOs. Mae hyn yn rhoi ymdeimlad o wirionedd i’r clip. Mae mynd i leoliadau penodol, mynd yn ôl mewn amser i ddefnyddio clipiau o’r cyfnod, hefyd, yn rhoi ymdeimlad o wirionedd a dilysrwydd i’r darn; mae defnyddio ffynonellau gwreiddiol, e.e. llyfr cofnodion o’r ysgol ar Ynys Môn, penawdau papur newydd, yn cryfhau’r ymdeimlad hwn. Creu awyrgylch: Mae’r dechrau’n dywyll, yn edrych ar ehangder y bydysawd. Mae’r gerddoriaeth yn ‘arallfydol’, yn ‘annaearol’, gyda nodau hir yn cyfleu naws annaearol. Mae’r ffilm yn dangos mynyddoedd unig. Mae defnyddio siâp soser a cherddoriaeth wrth gyflwyno’r papurau newydd yn atgyfnerthu’r syniad o bresenoldeb UFOs. Felly hefyd y penawdau sy’n dod aton ni, fel petai, o ryw gefndir tywyll. Mae’r ffilmio ar y diwedd yn effeithiol iawn, e.e. mae ffilmio o’r tu ôl i frigyn ac edrych ar y ddau drwy’r coed yn rhoi’r argraff bod rhywun – neu rywbeth – yn eu gwylio. Mae hyn yn gweddu i’r cynnwys yn berffaith. IAITH a. Ateb cwestiynau:

    1. Oes / Nac oes 2. Ydw / Nac ydw; Ydyn / Nac ydyn 3. Oes / Nac oes 4. Ydyn / Nac ydyn 5. Hoffwn / Na hoffwn; Hoffen / Na hoffen 6. Baswn / Na faswn; Basen / Na fasen 7. Bydda / Na fydda; Byddwn / Na fyddwn 8. Do / Naddo 9. Oedd / Nac oedd 10. Oedden / Nac oedden

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    18

    b. i + treiglad meddal; o + treiglad meddal

    1. Roedd llawer o olau yn yr awyr. 2. Es i i weld beth oedd yn digwydd. 3. Aethon ni ati i dynnu llun. 4. Aethon ni i Gaerdydd i siarad â’r cyfryngau. 5. Roedd pobl o bob rhan o Gymru yn y stiwdio deledu. 6. Penderfynodd pobl y cyfryngau fynd i Ogledd Cymru i wneud rhaglen am yr UFOs. 7. Dw i’n mynd i wylio’r rhaglen. 8. Does dim digon o raglenni am bethau fel hyn ar y teledu, yn fy marn i. 9. Ydych chi’n mynd i gael cyfweliad am beth weloch chi? 10. Faint o bobl sy wedi gweld UFO, tybed?

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    19

    16. Cyfweliad (Pobol y Cwm) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL (1) 1. Yn y gegin 2. Dillad / cyfweliad y ferch ifanc 3. Yn y rhaglen, mae’r ddynes yn fam i’r ferch sy’n gwisgo top gwyn; mae’r ddwy ferch ifanc yn ffrindiau 4. i. top pinc llachar, sgert dywyll, fer iawn, gleiniau a breichledau, band yn ei gwallt

    ii. barn 5. i. peidio â thynnu gormod o sylw

    ii. ymddangos yn hyderus iii. gofyn llawer o gwestiynau iv. dangos ei bod hi wir eisiau’r swydd v. peidio â rhoi’r argraff mai’r cyflog sy’n bwysig

    GWYLIO, GWRANDO A DEALL (2) Beth mae hi’n ei wneud: • Hi sy’n dechrau gofyn y cwestiynau – “Oes rhywun arall yn cael cyfweliad?” • Mae hi’n hapus iawn i wneud gwallt Gwen – ac yn gwneud gwaith da. • Mae hi’n dda gyda Gwen – yn groesawgar, yn gwenu’n braf arni, yn canmol ei gwallt ac yn gwneud iddi

    deimlo’n dda amdani ei hun. • Mae hi’n cynnig helpu – mae hi’n eiddgar. • Mae hin ateb cwestiynau’n hyderus – yn rhy hyderus. • Mae hi’n canmol Brandon. • Mae hi’n ateb yn onest. • Mae hi’n brwsio’r llawr. Beth mae hi’n ei ddweud: • Mae hi’n defnyddio ffurf ‘ti’ gyda’r ddau arall. Mae hyn yn dangos ei bod yn gymeriad hyderus – gorhyderus. • Mae hi’n siarad yn hollol hyderus gyda Brandon (mwy o flew ar ei chest nag ar ei ben). Mae hi braidd yn

    orhyderus os rhywbeth. • Mae hi’n dweud bod y tiwtor wedi rhoi’r geirda er mwyn gwneud yn siŵr na fydd hi’n mynd yn ôl i’r coleg. • Mae hi’n dweud ei bod hi eisiau gweithio mewn salon bach gan ei bod hi’n bosib y byddai hi’n gallu cael

    mwy o gyfrifoldeb yno. • Mae hi’n dweud y byddai hi’n gallu ymdopi gyda chyfrifoldeb ar ôl cael fodca. • Mae hi’n dweud nad ydy hi’n gwybod pa mor hir fydd hi yno. • Mae hi’n cyfeirio at hangover a ‘photel neu ddwy o fodca’. Mae hi’n: • hyderus - yn rhy hyderus, braidd yn hy, hyd yn oed • brwd / eiddgar • dymunol, croesawgar, agos-atoch-chi • annoeth efallai – dydy hi ddim yn ystyried beth mae hi’n ei ddweud • uchelgeisiol – barod i gymryd mwy o gyfrifoldeb • gonest, di-flewyn ar dafod • anaeddfed efallai. Dydy hi ddim yn poeni llawer. Dylid defnyddio’r dystiolaeth uchod i gefnogi’r pwyntiau.

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    20

    IAITH Yr ateb cywir i gwestiynau sy’n dechrau gyda “Ga i...?” ydy:

    Cei / Na chei; Cewch / Na chewch

    1. Cei / Na chei; Cewch / Na chewch 2. Cewch / Na chewch 3. Oes / Nac oes – mae amheuaeth yn y darn 4. Ydy / Nac ydy 5. Bydd / Na fydd

    6. Baswn / Na faswn; Basen / Na fasen 7. Bydda / Na fydda; Byddwn / Na fyddwn 8. Ydyn / Nac ydyn 9. Oedd 10. Do

    1. “Gofynnwch unrhyw beth rydych chi eisiau,” dywedodd y bachgen wrth y dyn yn y cyfweliad. 2. “Rydych chi’n edrych yn grêt,” dywedodd y ferch ifanc wrth y cwsmer newydd yn y salon. 3. “Ydych chi eisiau pwdin?” gofynnodd y gweinydd ifanc i’r hen ddyn yn y tŷ bwyta. 4. “Pryd rydych chi eisiau gweld ein dosbarth ni?” gofynnodd y ferch i’r Pennaeth. 5. “Ydych chi eisiau gweld fy ngwaith cartref?” gofynnodd y bachgen i’r athro Cymraeg. 6. “Wyt ti eisiau mynd allan?” gofynnodd Chloe i’w ffrind hi. 7. “Mae hwn i chi,” dywedodd John wrth yr athrawes. 8. “Dewch i mewn,” dywedodd y ferch fach wrth ei ffrindiau. 9. “Ydych chi’n nabod rhywun yn y stryd?” gofynnodd Mr Jones i’r dyn oedd yn symud i mewn drws nesaf. 10. “Ydych chi eisiau i fi wneud unrhyw beth arall?” gofynnodd y ferch ysgol i’r rheolwr pan oedd hi ar

    brofiad gwaith.

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    21

    17. Chwilio am Gariad (Rownd a Rownd) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL Y cymeriadau: Merch ysgol Ei brawd, Liam Eu mam Cwsmer yn y caffi – does dim perthynas amlwg rhyngddi a neb arall Y weinyddes yn y caffi – does dim perthynas amlwg rhyngddi a neb arall Bachgen ifanc, gwallt coch a sbectol yn y coridor – ffrind i Liam Tair merch ysgol – maen nhw’n nabod Liam a’i fam Cymeriadau Y fam Mae hi’n gwneud ei gorau dros ei theulu, e.e. mae lasagne yn yr oergell ar gyfer eu swper gan y bydd hi’n hwyr yn dod adre. Mae’n trafod yn onest gyda’i mab dros ginio. Mae’n fam dda. Mae perthynas dda rhyngddi a’i mab - mae’n barod i drafod mater allai fod yn sensitif iawn. Mae’n berson agored, gonest fel rydyn ni’n gweld yn y ffordd mae’n siarad gyda’i mab. Mae’n cymryd balchder yn y ffordd mae’n edrych. Mae’n gwisgo colur bob bore. Mae’n berson realistig – yn fam ifanc, sengl Mae ei thraed hi ar y ddaear. Mae’n gorfod cael trefn ar y plant yn y bore; mae hi’n gorfod cymryd camau os yw hi eisiau symud ymlaen gan nad ydy hi mor hawdd i fam ifanc ddod o hyd i gariad ag ydy hi i ddyn. Y mab Mae’n ofalus o’i fam, yn poeni amdani ar y dechrau (mae’n gwybod bod gwybodaeth amdani hi ar y wefan, yn amau ei bod hi’n mynd allan ar ddêt y noson honno, yn edrych yn ôl yn bryderus arni o’r drws). Mae’n sensitif – mae e wedi ei frifo gan nad yw ei fam wedi dweud wrtho am y wefan. Mae’n deyrngar, ffyddlon. Mae’n cymryd ochr ei fam o flaen ei ffrindiau – “Does gen i ddim cywilydd o Mam”. Faint rydych chi’n ei gofio? 1. Gwylio’r teledu / cartwnau 2. Mae hi braidd yn flin. 3. Panini / brechdan wedi ei thostio, salad a sglodion 4. Yn y coridor / wrth y loceri 5. Tair Y CYFRYNGAU Mae Liam yn cyfleu ei bryder yn ei wyneb, wrth iddo symud yn araf, stopio wrth y drws i edrych yn ôl. Mae’r fam yn cyfleu pryder wrth iddi oedi ychydig wrth gau’r gliniadur. Mae’r fam yn eistedd i fyny’n hyderus ac yn parhau i fwyta wrth siarad yn y caffi - dydy hi ddim yn poeni. Mae’r ffaith bod Liam yn rhoi atebion byr yn y caffi yn mynegi ei bryder, ei ddiffyg dealltwriaeth. Mae ei wyneb, y symudiadau trafferthus wrth iddo gymryd ei lyfrau allan o’r locer ar y diwedd yn dangos nad yw’n hapus o hyd. Mae’r ffordd mae’n siarad gyda’i ffrind, yn defnyddio’i fys i bwyntio yn mynegi ei bendantrwydd i gymryd ochr ei fam. IAITH

    1. bwyta 2. yfa 3. rheda 4. gweithia 5. darllena

    6. ysgrifenna 7. siarada 8. dos / cer 9. gwna 10. bydda

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    22

    Tafodiaith ’ta / neu

    tyd / dere ddrwg gen i / mae’n flin gyda fi cwmpeini / cwmni dallt / deall heno ’ma / heno hogyn / bachgen efo / gyda geneth / merch yli / edrycha

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    23

    18. Sŵn (Hacio) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. Mae’r RNID yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r niwed mae cerddoriaeth uchel mewn gigs, clybiau nos a

    thafarndai yn gallu ei wneud i glyw. 2. Ydy. 3. Mae e wedi bod yn dioddef o Tinnitus, sef:

    i. roedd ei glustiau’n canu’n barhaol – fel shell shock ii. roedd e’n “colli balans”, yn cerdded yn gam ac yn syrthio drosodd wrth gerdded iii. roedd e’n methu cysgu

    4. Maen nhw’n gwisgo plygiau clustiau. 5. Roedd ei glyw’n gwaethygu ac roedd e’n dioddef o Tinnitus, yn enwedig yn y nos. TRAFOD Fyddai pobl ddim eisiau gwisgo’r bling plugs achos fydden nhw ddim yn edrych yn ‘cŵl’ a fydden nhw ddim yn gallu cael cariad! Faint rydych chi’n ei gofio? 1. Mewn clwb nos 2. Top oren a gwyn 3. Bas dwbl 4. Drwm / drymiau / set drymiau 5. Doughnut / Rhys Doughnut Jones Y CYFRYNGAU - TRAFOD Mae’r tîm cynhyrchu wedi gwneud yn siŵr bod: • cyflwynydd ifanc • pwnc cyfoes, sy’n perthyn i fyd pobl ifanc, yn cael ei drafod • pobl ifanc yn cael eu cyfweld • lleoliadau sy’n gyffredin i bobl ifanc, e.e. gigs ac ati, yn cael eu dangos IAITH

    SŴN UCHEL

    Ydych chi’n mynd allan ar nos Wener neu nos Sadwrn?

    Wel, mae llawer o bobl ifanc yn mwynhau mynd allan, wrth gwrs.

    Mae rhai’n mynd i gigs a rhai’n mynd i glybiau nos lle mae cerddoriaeth uchel yn cael ei chwarae.

    Dydy llawer ohonyn nhw ddim yn sylweddoli un peth pwysig iawn …

    … mae sŵn uchel yn gallu bod yn beryglus!

    • Mae naw deg y cant (90%) o bobl ifanc sy’n mynd i glybiau nos wedi cael problemau gyda’u clyw.

    • Mae risg bod pobl ifanc yn mynd i golli eu clyw pan fyddan nhw’n hŷn.

    • Mae rhai chwaraewyr mewn bandiau wedi cael problemau mawr.

    Mae’n bwysig eich bod chi’n gwybod hyn.

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    24

    19. Byw yng Nghymru (Newyddion) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. Addysg (ysgolion), iechyd, gofal plant / meithrinfeydd, ailgylchu 2. Y lleoedd ar y ffilm:

    Lle Pam?

    stiwdio deledu

    Mae’r cyflwynydd yn cyflwyno’r eitem newyddion o’r stiwdio, fel mae’n gwneud gydag eitemau eraill; mae’n rhoi cefndir y darn, cyn symud ymlaen at Owain Clarke, sy’n mynd ar ôl y manylion drwy fynd i ymweld â phobl a lleoedd arbennig.

    cartref teulu ifanc

    Rydyn ni’n gweld y teulu ifanc yn eu cartref ac maen nhw’n cynrychioli teuluoedd ifanc a chartrefi eraill yng Nghymru. Mae’r clip yn dangos eu bywyd bob dydd, sy’n cynrychioli bywyd pobl eraill. Maen nhw’n poeni am faterion sy’n ymwneud â’r teulu / cartref, e.e. gofal plant, iechyd – dyma beth sy’n bwysig yng nghartrefi llawer o bobl eraill hefyd.

    stryd Mae’r stryd yn cael ei dangos achos bod y cyflwynydd eisiau symud o’r cartref i’r ‘byd mawr’. canolfan ailgylchu

    Mae’r ganolfan ailgylchu’n cael ei dangos pan fydd y cyflwynydd yn sôn am wasanaethau cyhoeddus – mae’n cyfeirio at ailgylchu.

    capel Wrth ymweld â’r capel, lle mae’r côr yn ymarfer, mae’r cyflwynydd yn gallu cael barn pobl eraill. swyddfa

    Mae’r cyflwynydd yn cyfweld Aelod Cynulliad mewn swyddfa – lle gwaith. Mae’r Aelodau Cynulliad yn trafod gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r ffilm wedi symud o farn teuluoedd / cartrefi / y cyhoedd at y bobl sy’n gallu gwneud rhywbeth am y sefyllfa.

    cartref teulu ifanc Mae mynd yn ôl i’r cartref yn uno’r darn, yn dod â ni yn ôl at fywyd bob dydd teuluoedd ifanc. 3. 7,500: saith mil a hanner / saith mil pum cant – dyma faint o bobl gafodd eu holi

    ¾: tri chwarter – roedd y nifer yma’n defnyddio cyfleusterau ailgylchu 94%: naw deg pedwar y cant – cafodd y nifer yma eu trin â pharch ac urddas mewn ysbytai 27%: dau ddeg saith y cant – mae’r nifer yma’n anhapus gyda’u meddygon teulu 75%: saith deg pump y cant – mae’r nifer yma’n ailgylchu 44%: pedwar deg pedwar y cant – mae’r nifer yma’n defnyddio bysiau lleol

    Faint rydych chi’n ei gofio? 1. Un 2. Pinc 3. Amser brecwast 4. Mae Osian yn ddwy oed a Llion yn 9 mis oed 5. Llaeth a bananas

    6. Llinos Jones 7. tegan bach / Eeyore 8. Dau 9. Lluniau / magnedau 10. Glas a choch

    IAITH Rhifau a ffigurau 2,000 – dwy fil; 2,009 – dwy fil a naw; 2,012 – dwy fil a deuddeg / dwy fil ac un deg dau; 3,000 – tair mil; 3,800 – tair mil, wyth cant; 4,750 – pedair mil, saith cant, pum deg ¼ – chwarter; ½ – hanner ¾ – tri chwarter 10% – deg y cant 15% – pymtheg y cant / un deg pump y cant 17.5% – un deg saith pwynt pump y cant 20% – ugain y cant / dau ddeg y cant; 50% – pum deg y cant / hanner cant y cant; 100% – cant y cant Y ferf 1. wn i ddim; 2. (g)wn i / mi / fe wn i; 3. (g)wela(f) i; mi / fe wela(f) i 4. (g)wela(f) i chi; mi / fe wela(f) i chi; 5. fel (y) gwelwch chi; 6. awn ni ’te; 7. aiff e …; 8. daw’r …; 9. ysgrifenna’r …; 10. dengys y map …

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    25

    20. Ysmygu (Hacio) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. Rhieni, mam-gu a thad-cu’n ysmygu; pwysau ffrindiau; cŵl; peth naturiol i wneud wrth gymdeithasu yn

    ystod y penwythnos 2. 16 oed 3. Pan oedd hi’n 12 oed 4. Roedd hi’n eu dwyn nhw o becyn sigaréts ei mam. 5. 20 sigarét 6. £35.00 7. Mae hi’n gweithio i’w thad; mae hi’n cael arian poced bob mis; mae hi’n gwario arian cinio ar sigaréts yn

    lle prynu bwyd 8. Ffoniodd hi yrrwr tacsi i ofyn iddo fynd i nôl sigaréts iddi o’r siop. 9. Connor 10. 10 oed TRAFOD Yn gaeth i ysmygu: Mae’n gwneud yn siŵr bod sigaréts gyda hi drwy’r amser; mae’n cael sigarét ar ôl codi yn y bore; mae’n ysmygu wrth iddi weithio; mae hi wedi talu i yrrwr tacsi ddod â sigaréts iddi; mae’n dweud ei bod hi’n methu symud heb sigaréts; mae’n well gyda hi brynu sigaréts na dillad; mae’n gwario’i harian cinio ar sigaréts; mae’n methu rhoi’r gorau i ysmygu. Agwedd ei thad hi: Mae e’n flin iawn bod Rowena’n ysmygu (mae’n gwybod bod ysmygu’n ddrwg i chi achos mae

    e’n ceisio cael Rowena i roi’r gorau i ysmygu), ond mae hi’n dweud ar y dechrau bod ei rhieni hi’n ysmygu.

    ei mam hi: Mae hi’n ysmygu, roedd Rowena’n arfer dwyn sigaréts o becyn ei mam; mae awgrym bod ei mam yn gorfod derbyn y ffaith bod Rowena’n ysmygu.

    ei brawd hi: Mae’n poeni am iechyd ei chwaer; mae’n gwybod bod ysmygu’n beryglus, yn ffiaidd; mae’n sylweddoli bod modd mynd yn gaeth i ysmygu (er bod Rowena’n trio rhoi’r gorau i ysmygu, fydd hi ddim yn llwyddo, yn ei farn e).

    Faint rydych chi’n ei gofio? 1. Tri 2. Gwisg ysgol 3. Mewn parc chwarae 4. Posteri a lluniau 5. Maen nhw’n chwarae gêm electronig. IAITH a. Iaith y de

    ma’s / allan; mam-gu / nain; tad-cu / taid; tu fa’s / tu allan; gwynto / arogli; lan / i fyny b. rhoi lan: rhoi’r gorau i; fi’n codi yn y bore: rydw i’n / rwy’n codi yn y bore; os fi gyda deg punt: os oes deg

    punt gyda fi / os oes gen i ddeg punt; fi angen pac o ffags: mae angen pecyn o sigaréts arna i; mae e’n ridiculous: mae e’n dwp / mae o’n wirion

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    26

    21. Camerâu Cyflymder (Y Byd ar Bedwar) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. Mawrth 22, 2005, ychydig ar ôl dau o’r gloch 2. Yng Nglan-llyn 3. Oedd 4. Ysgrifennodd hi at yr heddlu yn egluro ble roedd hi ac yn sôn am y tystion; roedd yr heddlu’n mynnu

    erlyn, ond ar ôl 8 mis, penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron ollwng yr achos llys. 5. 37 milltir yr awr 6. Nac oedd 7. Do 8. Roedd e’n meddwl bod y camerâu’n anghywir. Dylen nhw fod 100% yn gywir. 9. Roedd y rhybudd ar bapur maint A4 – roedd e’n rhy fach i’w ddarllen heb stopio. 10. 2,610 o yrwyr (a Viv Williams) Yr arwyddion ffordd: camerâu cyflymder, 40 milltir yr awr, 30 milltir yr awr, 50 milltir yr awr, parth 20 milltir yr awr, ffordd yn culhau IAITH Gor gorfwyta, goryfed, goryrru, gorflino, gorymateb, gorddefnyddio Pa mor (awgrymiadau’n unig) 1. pa mor newydd, pa mor hen, pa mor ddrud, pa mor effeithlon, pa mor economaidd, ac ati 2. pa mor fawr, pa mor ddrud, pa mor wyrdd, ac ati 3. pa mor gyfoethog, pa mor gefnog, pa mor garedig, pa mor hael, pa mor gybyddlyd, ac ati 4. pa mor hardd, pa mor ddel, pa mor bert, pa mor fawr, pa mor fach, pa mor foethus, pa mor unig, ac ati 5. pa mor hyfryd, pa mor llwm, pa mor dlawd, pa mor sych, pa mor wlyb, ac ati 6. pa mor flasus, pa mor hyfryd, pa mor ofnadwy, pa mor echrydus, pa mor ddrud, pa mor rhad, ac ati 7. pa mor dda, pa mor ddoniol, pa mor dreisgar, pa mor ofnadwy, pa mor wych, pa mor hen, ac ati 8. ba mor ddawnus / dalentog, ba mor ofnadwy, ba mor ddoniol, ba mor gerddorol, ba mor ddiddorol, ac ati 9. pa mor fregus, pa mor dlawd, pa mor druenus, pa mor gyfoethog, ac ati 10. pa mor hen, pa mor ifanc, pa mor flin / ddig, ac ati.

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    27

    22. Llwybr yr Arfordir (Taro 9) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. Parc fferm 2. Ei wraig 3. Tri chwarter miliwn o bunnau 4. Dolffiniaid a morloi 5. Mae’r Cyngor / Cynulliad eisiau gwneud llwybr o gwmpas yr arfordir a bydd pobl yn gallu gweld dolffiniaid /

    morloi heb dalu i ddod i mewn i’r parc fferm. 6. Mae cwm serth yno, mae’n beryglus i blant. 7. Mae’r Cyngor yn meddwl y gallai llwybr o gwmpas yr arfordir fod o fantais i fusnesau lleol. 8. Mae’r Cynulliad eisiau creu llwybr cerdded o gwmpas arfordir Cymru. 9. Maen nhw eisiau’r hawl i grwydro ar hyd coridor lletach ar hyd yr arfordir. 10. Nac ydy Ar y parc fferm, gallwch chi: weld / mwytho anifeiliaid, e.e. ceffylau, defaid cael rhywbeth i’w fwyta yn y caffi / bwyta hufen iâ mwynhau golygfeydd hyfryd gwylio adar, morloi, dolffiniaid yn y bae IAITH Arian tri chwarter miliwn Dau ddeg mil o bunnau / Ugain mil o bunnau; dau ddeg pum mil o bunnau / pum mil ar hugain o bunnau; naw deg wyth mil o bunnau / naw deg wyth o filoedd o bunnau; tri chan mil o bunnau; tri chant a hanner o filoedd o bunnau / tri chant pum deg o filoedd o bunnau Ers ers dwy flynedd, ers tair blynedd, ers pedair blynedd, ers pum mlynedd, ers chwe blynedd, ers deng mlynedd, ers ugain mlynedd, ers can mlynedd Dod â / Mynd â dod â – (to) bring mynd â – (to) take

    Gorchmynion 1. Dere / Tyrd â hwnna i’r ysgol yfory. 2. Dere / Tyrd â’r bwyd i fi o’r siop. 3. Dewch â’r ffurflen i’r swyddfa cyn gynted â phosib. 4. Dewch â’r DVD yn ôl o fewn yr wythnos os gwelwch yn dda. 5. Cer / Dos â’r llyfr i’r ysgol. 6. Cer / Dos â’r llythyr yma i’r post. 7. Ewch â digon o arian ar y trip. 8. Ewch â’r llyfr yma’n ôl i’r llyfrgell. 9. Ewch â’r gwaith i’r athrawes yfory. 10. Cer / Dos â brechdanau i ginio.

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    28

    Dod â – y gorffennol a’r dyfodol SYLWER: Mae’n bosib defnyddio Mi neu Fe o flaen y ffurfiau yma (mewn brawddegau ond ddim mewn

    cwestiynau), ond rhaid cofio treiglo ar ôl y geiriau yma. 1. Des i â’r llyfr yn ôl yr wythnos diwethaf. 2. Daeth o â’r gwaith cartref i mewn ddoe. 3. Daethon ni â bwyd Tsieineaidd yn ôl i’r fflat. 4. Ddaethoch chi â’r llyfrau yna? 5. Daethon nhw ag anrhegion i ni. 6. Dôn nhw â hi nos yfory. 7. Dewn ni / Down ni â’r car newydd i’ch tŷ chi nos yfory. 8. Dôn nhw â bwyd gyda nhw ar y daith. 9. Daw hi / Deith hi â fo i’ch tŷ chi nos yfory. 10. Do i â nhw yfory.

    Mynd â – y gorffennol a’r dyfodol 1. Es i â deg punt i’r ffair haf. 2. Aeth e â llond lori o fwyd i Affrica. 3. Aeth fy ngwraig â’r ferch i’r ysbyty. 4. Aethon nhw â’r dyn i’r ddalfa. 5. Aethon ni â’r cerdyn i’w thŷ neithiwr. 6. A (Af) i â ti i’r orsaf yfory. 7. Aiff / Eith John â’r plant i’r gêm ddydd Sadwrn. 8. Awn / Ewn ni â chi ar daith o gwmpas Cymru. 9. Ei di â’r bagiau trwm? 10. Ân nhw â’r plant i Ffrainc yn yr haf. TAFODIAITH mo’yn / eisiau claw / gwrych / clawdd ffaelu / methu y cyfan sy ’da ni / popeth sy gennyn ni gweud / dweud y ffordd hyn / yma so nhw’n … / dydyn nhw ddim yn …

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    29

    23. Sefydlu S4C (Teledu’r Cymry) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. a. Doedd dim digon o raglenni Cymraeg ar y teledu

    b. Roedd y rhaglenni Cymraeg ymlaen ar adegau anghyfleus. 2. Yn Llandaf, Caerdydd, tu allan i ganolfan y BBC 3. Roedd rhai pobl eisiau mwy o raglenni Cymraeg, roedd rhai’n meddwl bod gormod o raglenni Cymraeg

    ymlaen yn barod – roedden nhw eisiau rhaglenni Saesneg o Lundain. 4. Roedden nhw’n cytuno bod angen rhoi blaenoriaeth i’r Gymraeg ar y bedwaredd sianel. 5. Torrodd y Blaid Geidwadol ei haddewid a dweud na fyddai sianel Gymraeg. 6. Penderfynodd e ymprydio. 7. Bu cyfarfodydd a newidiodd y Blaid Geidwadol ei meddwl. 8. Tachwedd 1982 Mae Dewi Llwyd wedi bod: • tu allan i Ganolfan y BBC, Llandaf, lle y digwyddodd y protestio yn y 60au • storfa archifau’r BBC, er mwyn dangos y bocsys ac ati sy’n cynnwys y llythyrau • yn San Steffan (1) – dyna ble roedden nhw’n penderfynu ar y bedwaredd sianel • yn San Steffan (2) – dyna ble ildiodd y llywodraeth • yn San Steffan (3) – parhau â’r syniad bod y llywodraeth wedi ildio – diwedd y bennod, fel petai

    IAITH b. Cywiro brawddegau 1. Roedden ni’n gwylio’r teledu neithiwr. 2. Dylwn i / Dylen ni wylio llai o’r teledu. 3. Gwyliodd y plant y teledu drwy’r nos. 4. Hoffech chi weld y newyddion? Hoffwn. / Hoffen. 5. Bob nos, rydw i’n gorffen fy ngwaith cartref cyn gwylio’r teledu. 6. Rydw i’n gwneud fy ngorau glas i orffen fy ngwaith cartref bob nos. 7. Roedd e wedi cau’r llenni cyn eistedd i lawr i wylio’r ffilm arswyd. 8. Rydw i wrth fy modd yn gwylio ffilmiau ar y teledu. 9. Wyt ti’n mynd i wylio’r gêm rygbi ar y teledu brynhawn Sadwrn? 10. Rydw i’n byw yn Awstralia nawr ac mae hiraeth arna i am Gymru – ac am S4C!

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    30

    24. Deddf Iaith (Taro 9) ATEBION GWYLIO, GWRANDO A DEALL Y bobl ar y stryd: Mae rhai’n meddwl y dylai siopau ddarparu gwasanaeth dwyieithog, e.e. dyn ifanc / dynes o dan yr ymabarél, y pâr o Gaerdydd; mae rhai’n meddwl nad oes angen Cymraeg mewn siopau, e.e. dyn sy’n cyfeirio at hill billies, y dyn sy’n cyfeirio at human beings; mae un ddynes yn meddwl y dylid cael gwasanaeth Cymraeg mewn siopau bwyd / archfarchnadoedd ond ddim mewn siopau dillad. Perchennog Siop y Pentan, Caerfyrddin: Mae e’n meddwl y byddai siopau’n fwy parod i ddefnyddio’r Gymraeg petaen nhw’n gweld mantais o ddefnyddio’r iaith. Marian Ritson: Mae hi’n meddwl bod angen ysgogi cwmnïau i ddefnyddio’r Gymraeg (achos mae’n cyfoethogi busnesau); dydy hi ddim o blaid gorfodi siopau i wneud hyn. John Nash: Dylai’r cwsmeriaid eu hunain siarad Cymraeg mewn siopau. Faint rydych chi’n ei gofio? 1. Mae Cymdeithas yr Iaith yn protestio. 2. Arwydd croeso, arwyddion ffordd, arwyddion y banc 3. Siop y Pentan 4. Mewn siop dodrefn / celfi / yn y siop Pethau Bychain IAITH a. Dylwn / Dylet / Dylai / Dylen / Dylech / Dylen 1. Dylwn i siarad Cymraeg. 2. Dylen ni ofyn am bethau yn Gymraeg. 3. Dylen nhw ddangos hysbysebion Cymraeg. 4. Dylai pawb ddechrau siarad yn Gymraeg 5. Dylai’r derbynnydd ateb y ffôn yn Gymraeg a Saesneg. 6. Ddylwn i ddim mynd i’r dref. 7. Ddylen ni ddim prynu mwy o bethau i’r parti. 8. Ddylech chi ddim rhoi arian i fi. 9. Ddylai’r banc ddim rhoi benthyg arian i bawb. 10. Ddylet ti ddim prynu car newydd. 11. Dylwn i ddal y bws i’r dref. 12. Dylen ni gyrraedd cyn naw o’r gloch. 13. Dylen ni fod yn gynnar. 14. Dylai pawb yrru llai. 15. Dylen nhw gerdded mwy. b. Eisiau / eisiau i 1. Dw i eisiau siarad Cymraeg mewn siopau. 2. Dw i eisiau i siopau gynnig gwasanaeth Cymraeg. 3. Mae’r siopau eisiau i ni brynu pethau yn eu siopau nhw, felly rydyn ni eisiau i’r siopau gynnig gwasanaeth

    dwyieithog.

  • Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

    31

    4. Wyt ti eisiau siarad â’r rheolwr? 5. Wyt ti eisiau i fi siarad â’r rheolwr? 6. Ydych chi eisiau help? 7. Ydych chi eisiau i fi helpu? 8. Maen nhw eisiau mwy o wybodaeth. 9. Maen nhw eisiau i ni roi mwy o wybodaeth iddyn nhw. 10. Dw i ddim eisiau i chi boeni am hyn.