· 2020. 5. 1. · • Bydd eich athro/cynghorydd yn ysgrifennu geirda ar eich cyfer. • Dylech...
Transcript of · 2020. 5. 1. · • Bydd eich athro/cynghorydd yn ysgrifennu geirda ar eich cyfer. • Dylech...
www.aber.ac.uk
Enw ......................................................................................................................................................................................................
Ysgol/Coleg ....................................................................................................................................................................................
E-bost ..................................................................................................................................................................................................
Rhif Adnabod Personol UCAS ..........................................................................................................................................
Dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur
Mai - Medi Ymchwilio i’ch Prifysgolion a Cholegau
Awst 10 - Medi 21 Clirio ac Addasu
Canol Medi - Hydref 15 Ceisiadau i Rydgrawnt, neu i astudio meddygaeth, deintyddiaeth, neu feddygaeth/wyddoniaeth filfeddygol
Medi 1 - Ionawr 15Ceisiadau o’r DU neu unrhyw le arall yn yr UE (ar wahân i Celf a Dylunio 2)
Ionawr 16 - Mehefin 30Ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried yn ôl disgresiwn prifysgolion
Chwefror 26 - Gorffennaf 6UCAS Extra
BLW
YD
DY
N 1
2B
LWY
DD
YN
13
Mai
Meh
Gor
Awst
Medi
Hyd
Tach
Rhag
Ion
Chw
Maw
Ebr
Mai
Meh
Gor
Awst
Medi
www.aber.ac.uk
Register and apply
1 Ewch i: www.ucas.com/ucas/undergraduate/register 2 Register:
Cliciwch ar Bydd UCAS yn cynhyrchu Enw Defnyddiwr a bydd eisiau i chi greu eich cyfrinair eich hunan..... Cadwch e’n Ddiogel!
3 Cwblhau eich Proffil Bydd rhaid i chi lenwi 5 adran:
• Gwybodaeth Bersonol (e.e. manylion ysgol, cyfeiriad ayyb)• Cymwysterau• Hanes Gweithio• Datganiad Personol• Manylion Cyswllt (gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost personol)Bydd rhaid llenwi’r pump adran cyn i chi fedru cychwyn gwneud cais.
4 Gwneud Cais Gallwch ddewis hyd at bump cwrs*. Does dim rhaid blaenoriaethu eich dewisiadau, a fydd y prifysgolion/colegau a ddewiswch ddim yn gweld ble arall rydych chi wedi ymgeisio amdanynt.
5 Gwiriad Olaf Unwaith i chi orffen eich datganiad personol gwiriwch eich cais unwaith eto, yna datgan ei fod wedi’i gwblhau a safiwch e! Bydd rhaid i chi ddarllen a chytuno â’r datganiad wedyn.
6 Adran Olaf • Bydd eich athro/cynghorydd yn ysgrifennu geirda ar eich cyfer. • Dylech gyflwyno eich cais i UCAS gyda’r ffi ymgeisydd. Os hoffech ymgeisio ar gyfer un cwrs mewn un sefydliad yn unig, bydd ffi gostyngedig ar gael. Mae’r ffi yn amrywio os ydych yn ymgeisio ar gyfer un cwrs neu am nifer. Edrychwch ar wefan UCAS er mwyn gweld y swm cywir.
• DIM OND UNWAITH Y MEDRWCH CHI YMGEISIO MEWN CYFNOD YMGEISIO.
* Os ydych chi’n ymgeisio ar gyfer cwrs meddygaeth, deintyddiaeth, meddygaeth neu wyddoniaeth filfeddygol, yna ymgeisio ar gyfer cyfanswm o bedwar cwrs yn un o’r pynciau yma fedrwch chi wneud.
Cwblhau eich Cais
www.aber.ac.uk
Datganiad Personol
Profiad Gwaith
Cymwysterau
DiddordebauHobïau
Hobïau e.e. hyfforddi, clwb drama
Defnyddiwch ddull Mapio’r Meddwl er mwyn ysgrifennu Datganiad Personol unigryw
www.aber.ac.uk
Ychydig o gyngor ynglŷn ag ymgeisio oddi wrth rhai o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
Lluniwch
ddatganiad personol
sydd mor wreiddiol
ac unigryw â phosib.
Darllenwch yn eangach
na’ch cwrs
Edrychwch
ar wefannau
prifysgolion i weld
pa fath o sgiliau neu
rinweddau yr hoffen
nhw weld
Unwaith
i chi
gyflwyno’ch cais
i brifysgolion,
ceisiwch beidio
ei ddarllen
Dechreuwch lunio drafftiau
yn gynnar
Ewch i Ddiwrnodau Agored
www.aber.ac.uk
Peidiwch rhuthro’r peth. Fydd datganiad personol gwych ddim yn barod mewn oriau, neu hyd yn oed ychydig o ddyddiau. Cymerais i dros fis i gwblhau’r fersiwn a ddanfonais mewn. Weithiau, mae’n werth camu’n ôl o’r datganiad am ychydig o ddyddiau cyn mentro nôl ato yn ffres
Datganiad PersonolY Pethau Pwysig:
• Dydych chi ddim yn cael ysgrifennu mwy na 4,000 o gymeriadau neu 47 llinell o destun yn y ffont arferol.
• Dylech chi ysgrifennu eich datganiad gan ddefnyddio Word, yna’i dorri a’i ludo i Apply. Fydd geiriau italig, bras na rhai wedi’u tanlinellu ddim yn cael eu trosglwyddo.
Strwythur eich Datganiad:
Adran Gyntaf (40%) - Soniwch am y pwnc/pynciau yr hoffech chi eu hastudio yn y brifysgol
Rhai syniadau:Pam fod gennych chi ddiddordeb yn y pwnc/pynciau?:
Beth ydych chi eisiau dysgu?:
Datblygiadau diweddar yn y newyddion a pham bod eich pwnc yn bwysig:
Rhai pynciau neu brofiad gwaith cyfredol sy’n berthnasol i’r cwrs:
www.aber.ac.uk
Ail ran (35%) - Y pynciau rydych chi’n ei astudio ar hyn o bryd
Rhai syniadau:Rhai esiamplau sy’n dangos eich bod yn defnyddio cyfrifoldeb, yn dysgu’n annibynnol, yn gweithio mewn tîm, neu’n rheoli amser yn dda:
Profiad Gwaith:
Sgiliau Trosglwyddadwy a phynciau ategol:
Y Drydedd Adran (25%) - Eich Diddordebau Allgyrsiol a Llwyddiannau
Rhai syniadau:Sgiliau a ddysgwyd:
Pam fod gennych y diddordeb, a pham ydych chi’n ei wneud?:
Datblygiad ar gyfer y dyfodol:
www.aber.ac.uk
Eglurhad o rai termau . . . Cynnig Amodol Yn gosod yr amodau y bydd yn rhaid i chi eu bodloni er mwyn
cychwyn ar eich cwrs dewisol (e.e. BBB, gan gynnwys B yn Bioleg).
Cynnig Di-amod Cynnig lle i astudio heb unrhyw amod.
Dewis Cadarn O’r holl gynigion rydych chi wedi’u derbyn, dyma i bob pwrpas eich prif ddewis o gwrs a darparwr.
Dewis Yswiriant O’r holl gynigion a dderbynioch, dyma i bob pwrpas fyddai eich hail ddewis pe na fyddech chi’n bodloni amodau eich dewis cadarn.
UCAS Apply Dyma’r system ymgeisio ar-lein a ddefnyddir ar gyfer cyflwyno cais drwy UCAS.
Rhif Adnabod Personol UCAS
Pan fyddwch chi’n ymgeisio am le mewn Prifysgol drwy UCAS byddwch chi’n derbyn Rhif Adnabod UCAS sy’n 10 digid o hyd fydd yn hollol unigryw i chi.
UCAS Track Unwaith i chi gofrestru a chwblhau eich cais ar-lein drwy UCAS, gallwch ddilyn trywydd eich cais, gweld ac ymateb i gynigion, ac ychwanegu dewisiadau clirio drwy UCAS Track.
Mynediad wedi’i Ohirio Os ydych chi, ar ôl cwblhau’r broses o ymgeisio ar gyfer prifysgol a chael eich derbyn ar gwrs, yn penderfynu nad ydych chi eisiau dechrau ym mis Medi, gallwch ohirio eich cwrs am flwyddyn.
Adnoddau defnyddiol
www.hotcourses.com...... rhestr o gyrsiau
www.whatuni.com........... wedi’i greu gan fyfyrwyr
www.opendays.com......... Diwrnodau Agored Prifysgolion
www.thecompleteuniversityguide.co.uk
Mae’r wefan annibynnol yma yn cynnig arweiniad da i chi ynglŷn â pha brifysgol
sydd orau i chi drwy ei Dabl Cynghrair a Safleoedd Prifysgolion Prydain.
www.thestudentroom.co.uk
Mae myfyrwyr TGAU, Lefel A a myfyrwyr prifysgol yn rhannu eu gwybodaeth
academaidd a chymdeithasol; o gymorth astudio i wybodaeth am ddewis
prifysgol, gyrfaoedd a bywyd myfyrwyr.
www.ucas.com Y Gwasanaeth Ymgeisio i Brifysgolion a Cholegau.
www.aber.ac.uk
Nodiadau
................................................................................................................
..........................................................................................................................

..........................................................................................................................www.aber.ac.uk
HanesOeddech chi’n gwybod bod Hanes wedi cael ei ddysgu yn Aberystwyth ers 1872, sydd yn golygu mai ein hadran ni yw’r Adran Hanes hynaf yng Nghymru, ac un o’r mwyaf blaenllaw ym Mhrydain?
Daearyddiaeth Oeddech chi’n gwybod fod yna rewlif yn yr Antarctig sydd wedi ei enwi ar ôl rhewlifegwr o Brifysgol Aberystwyth? Efallai eich bod wedi clywed amdano – Rhewlif Glasser.
Y GyfraithOeddech chi’n gwybod mai ein hadran ni oedd un o’r Ysgolion Cyfraith Prydeinig cyntaf i roi graddau yn y Gyfraith i fenywod?
AmaethOeddech chi’n gwybod bod gyda ni dros 1,000 hectar o dir ffermio, 500 o wartheg godro, 4 diadell o ddefaid pedigrî, a chnydau porthi a chnydau âr ar gyfer bio-danwydd?
Theatr, Ffilm a TheleduOeddech chi’n gwybod bod cyfarwyddwr ‘Bridget Jones Diary’, Sharon Maguire, yn un o raddedigion Aberystwyth?
Gwyddor Chwaraeon ac YmarferOeddech chi’n gwybod bod Aberystwyth wedi bod yn gyrchfan ymarfer beicio mynydd ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain yn 2012?
Ieithoedd ModernOeddech chi’n gwybod ein bod yn un o ychydig brifysgolion Prydain i roi’r cyfle i fyfyrwyr gyfuno’r ieithoedd maen nhw’n astudio?
Gwyddor/Ymddygiad AnifeiliaidOeddech chi’n gwybod bod gan Fae Ceredigion y boblogaeth fwyaf o ddolffiniaid trwynbwl ym Mhrydain? Mae hefyd yn enwog am ei adar y môr, a mamaliaid megis morloi llwyd a llamhedyddion?
BusnesOeddech chi’n gwybod mai Belinda Earl, a raddiodd o Brifysgol Aberystwyth, oedd Prif Weithredwr benywaidd cyntaf Prydain ar gadwyn o siopau stryd fawr, pan wnaed hi’n Brif Weithredwr Debenhams?
Rheoli TwristiaethOeddech chi’n gwybod bod myfyrwyr Rheoli Twristiaeth wedi mynd i leoliadau profiad gwaith mor bell â Seland Newydd, Norwy, Yr Ynysoedd Dedwydd a Ffrainc?
SwolegOeddech chi’n gwybod bod IBERS yn gartref i amgueddfa o enghreifftiau sŵolegol a botanegol hanesyddol?
#CaruAber
www.aber.ac.uk
FfisegOeddech chi’n gwybod bod yr Adran Ffiseg yn ymwneud â phob taith planedol yr ESA, o’r Haul i blaned Sadwrn, ac o ganlyniad i hyn, logo Prifysgol Aberystwyth fydd y darn cyntaf o ysgrifennu Cymraeg i’w weld yn y gofod?
CelfOeddech chi’n gwybod bod y pedwar dyluniad ‘Llwybr a Phont’ ar gefn y y darn punt (2004-2007) wedi eu creu gan un o raddedigion yr Ysgol Gelf, Edwina Ellis?
SaesnegOeddech chi’n gwybod bod un o
lyfrgelloedd gorau’r byd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar riniog drws y Brifysgol?
SeicolegOeddech chi’n gwybod bod gyda ni arbenigwr ar seicoleg Jack the Ripper yn yr adran?
MathemategOeddech chi’n gwybod bod ein staff yn datblygu modelau mathemategol i weld sut mae ewynnau yn ymddwyn ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol?
AddysgOeddech chi’n gwybod bod ein graddedigion yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc o gwmpas y byd, ac bod rhai yn creu meithrinfa yn Nicaragua ac yn cychwyn ysgol yn Kenya?
CyfrifiaduregOeddech chi’n gwybod bod un o raddedigion Cyfrifiadureg, Jan Pinkava, wedi cyd-gyfarwyddo’r ffilm Pixar, Ratatouille, a enillodd Oscar?
Gwleidyddiaeth RyngwladolOeddech chi’n gwybod mai ni oedd yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol cyntaf yn y byd?
#CaruAber
www.aber.ac.uk
www.aber.ac.ukPrifysgol AberystwythCampws PenglaisAberystwyth SY23 3DD
Facebook | www.facebook.com/Prif.Aberystwyth
Twitter | @Prifysgol_Aber | @AberUni
YouTube | youtube.com/prifysgolaberystwyth
Ffon: +44 (0) 1970 622021 / +44 (0) 1970 628786Ebost: [email protected]
Rhestr Wirio Ydych chi wedi....Amlygu eich prif feysydd diddordeb?
Cyfuno eich astudiaeth presennol gyda’ch cynlluniau ar
gyfer y dyfodol?
Dangos dealltwriaeth o’r cwrs?
Amlygu gwybodaeth o’r pwnc a dealltwriaeth o’r cwrs ar lefel eangach?
Cefnogi unrhyw wybodaeth gyda thystiolaeth neu esiamplau?
Dangos eich bod yn medru cymell eich hun?
Sôn am gynlluniau neu uchelgais gyrfa?
Gwirio eich gramadeg, sillafu ac atalnodi?
Ei roi i rywun arall ei ddarllen?
Sicrhau bod gennych lai na 4000 o lythrennau neu 47
llinell?
Copïo’r ddogfen a’i gludo i UCAS Apply ac wedi ei safio?
2350
9 10
/18