GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Post on 26-Jan-2016

45 views 6 download

description

GWEITHIO GYDA’N GILYDD. Pan fo angen cymydog Ble'r wyt ti, ble'r wyt ti? Pan fo angen cymydog Ble'r wyt ti? Waeth pa liw, na pha gredo Enw chwaith, paid â hidio Ble'r wyt ti?. Rwyf heb fwyd a heb ddiod Ble'r wyt ti, ble'r wyt ti? Rwyf heb fwyd a heb ddiod - PowerPoint PPT Presentation

Transcript of GWEITHIO GYDA’N GILYDD

GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Pan fo angen cymydog

Ble'r wyt ti, ble'r wyt ti?

Pan fo angen cymydog

Ble'r wyt ti?

Waeth pa liw, na pha gredo

Enw chwaith, paid â hidio

Ble'r wyt ti?

Rwyf heb fwyd a heb ddiod

Ble'r wyt ti, ble'r wyt ti?

Rwyf heb fwyd a heb ddiod

Ble'r wyt ti?

Waeth pa liw, na pha gredo

Enw chwaith, paid â hidio

Ble'r wyt ti?

Pa le bynnag y byddi

Wele fi, wele fi

Pa le bynnag y byddi

Wele fi

Waeth pa liw, na pha gredo,

Enw chwaith, paid â hidio

Wele fi, wele fi

GWEITHIO GYDA’N GILYDD

UN FFORDD DDA O GOFIO PA MOR BWYSIG YW GWEITHIO GYDA'N GILYDD YW EDRYCH AR FYSEDD EICH LLAW DDE

Ar y dde mae Mistar Bys Bach, y lleiaf o'r pump. Mae Americanwyr yn ei alw'n 'Pinkie'. Nid yw'n gryf iawn ac mae'n anodd meddwl am unrhyw beth y gallai ei wneud ar ei ben ei hun. Yn yr hen amser, roedd rhai pobl bwysig o dras yn estyn eu bys bach wrth ddal paned o de yn arwydd o foesau da.

Nesaf ato mae Mistar Gwanllyd, am ei fod mor wan. Yn wir, mae'n cael trafferth symud heb help ei frodyr. Ceisiwch ei wiglo ac fe welwch pam rwy'n dweud hynny.

Yna daw Mistar Bys Canol. Ef yw'r talaf o'r cyfan ond mae arna i ofn nad yw'n fwy defnyddiol na'r ddau arall.

Wrth ei ymyl y mae Mistar Pwyntio. Ef yw'r prysuraf o'r cyfan. Yn ogystal â phwyntio, mae'n gwasgu cloch drws, yn helpu i godi mân bethau, ac wrth ei chwifio'n yr awyr, mae'n pwysleisio'r hyn rydym ni'n ei ddweud pan fyddwn yn dweud y drefn wrth rywun neu'n rhoi araith rymus. Does dim amheuaeth mai Mistar Pwyntio yw'r mwyaf grymus o'r brodyr.

Yr olaf wrth gwrs yw Mistar Pwtyn/Stwcyn (y bys bawd). Yn fyr a thrwchus, ef yw'r cryfaf o'r pum brawd. Gall wthio'n gryfach - mae'n dda iawn â phinnau bawd - a phan fyddwn yn ei godi'n syth uwchben ein dwrn, mae'n golygu "popeth yn dda".

Nawr ni all yr un o'r rhain wneud llawer ar ei ben ei hun, ond pan fyddant yn gweithio gyda'i gilydd, gallant gyflawni gwyrthiau.

Gallant baentio lluniau gwych

Chwarae cerddoriaeth sy'n felys i'r glust

Iacháu corff anafus

Dal pêl yn yr awyr

Rheoli ceffyl cyflym

Clymu carrai esgidiau

Gwnïo neu wau

Defnyddio cyllell a fforc

Mae pobl fel bysedd. Dim ond hyn a hyn y gall y rhan fwyaf ohonom ei gyflawni ar ein pennau ein hunain, ond drwy weithio gyda'n gilydd, does dim diwedd i'r hyn y gallwn ei wneud.