GWEITHIO GYDA’N GILYDD

33
GWEITHIO GYDA’N GILYDD

description

GWEITHIO GYDA’N GILYDD. Pan fo angen cymydog Ble'r wyt ti, ble'r wyt ti? Pan fo angen cymydog Ble'r wyt ti? Waeth pa liw, na pha gredo Enw chwaith, paid â hidio Ble'r wyt ti?. Rwyf heb fwyd a heb ddiod Ble'r wyt ti, ble'r wyt ti? Rwyf heb fwyd a heb ddiod - PowerPoint PPT Presentation

Transcript of GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Page 1: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Page 2: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Pan fo angen cymydog

Ble'r wyt ti, ble'r wyt ti?

Pan fo angen cymydog

Ble'r wyt ti?

Waeth pa liw, na pha gredo

Enw chwaith, paid â hidio

Ble'r wyt ti?

Page 3: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Rwyf heb fwyd a heb ddiod

Ble'r wyt ti, ble'r wyt ti?

Rwyf heb fwyd a heb ddiod

Ble'r wyt ti?

Waeth pa liw, na pha gredo

Enw chwaith, paid â hidio

Ble'r wyt ti?

Page 4: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Pa le bynnag y byddi

Wele fi, wele fi

Pa le bynnag y byddi

Wele fi

Waeth pa liw, na pha gredo,

Enw chwaith, paid â hidio

Wele fi, wele fi

Page 5: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Page 6: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

UN FFORDD DDA O GOFIO PA MOR BWYSIG YW GWEITHIO GYDA'N GILYDD YW EDRYCH AR FYSEDD EICH LLAW DDE

Page 7: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Ar y dde mae Mistar Bys Bach, y lleiaf o'r pump. Mae Americanwyr yn ei alw'n 'Pinkie'. Nid yw'n gryf iawn ac mae'n anodd meddwl am unrhyw beth y gallai ei wneud ar ei ben ei hun. Yn yr hen amser, roedd rhai pobl bwysig o dras yn estyn eu bys bach wrth ddal paned o de yn arwydd o foesau da.

Page 8: GWEITHIO GYDA’N GILYDD
Page 9: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Nesaf ato mae Mistar Gwanllyd, am ei fod mor wan. Yn wir, mae'n cael trafferth symud heb help ei frodyr. Ceisiwch ei wiglo ac fe welwch pam rwy'n dweud hynny.

Page 10: GWEITHIO GYDA’N GILYDD
Page 11: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Yna daw Mistar Bys Canol. Ef yw'r talaf o'r cyfan ond mae arna i ofn nad yw'n fwy defnyddiol na'r ddau arall.

Page 12: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Wrth ei ymyl y mae Mistar Pwyntio. Ef yw'r prysuraf o'r cyfan. Yn ogystal â phwyntio, mae'n gwasgu cloch drws, yn helpu i godi mân bethau, ac wrth ei chwifio'n yr awyr, mae'n pwysleisio'r hyn rydym ni'n ei ddweud pan fyddwn yn dweud y drefn wrth rywun neu'n rhoi araith rymus. Does dim amheuaeth mai Mistar Pwyntio yw'r mwyaf grymus o'r brodyr.

Page 13: GWEITHIO GYDA’N GILYDD
Page 14: GWEITHIO GYDA’N GILYDD
Page 15: GWEITHIO GYDA’N GILYDD
Page 16: GWEITHIO GYDA’N GILYDD
Page 17: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Yr olaf wrth gwrs yw Mistar Pwtyn/Stwcyn (y bys bawd). Yn fyr a thrwchus, ef yw'r cryfaf o'r pum brawd. Gall wthio'n gryfach - mae'n dda iawn â phinnau bawd - a phan fyddwn yn ei godi'n syth uwchben ein dwrn, mae'n golygu "popeth yn dda".

Page 18: GWEITHIO GYDA’N GILYDD
Page 19: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Nawr ni all yr un o'r rhain wneud llawer ar ei ben ei hun, ond pan fyddant yn gweithio gyda'i gilydd, gallant gyflawni gwyrthiau.

Page 20: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Gallant baentio lluniau gwych

Page 21: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Chwarae cerddoriaeth sy'n felys i'r glust

Page 22: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Iacháu corff anafus

Page 23: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Dal pêl yn yr awyr

Page 24: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Rheoli ceffyl cyflym

Page 25: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Clymu carrai esgidiau

Page 26: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Gwnïo neu wau

Page 27: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Defnyddio cyllell a fforc

Page 28: GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Mae pobl fel bysedd. Dim ond hyn a hyn y gall y rhan fwyaf ohonom ei gyflawni ar ein pennau ein hunain, ond drwy weithio gyda'n gilydd, does dim diwedd i'r hyn y gallwn ei wneud.

Page 29: GWEITHIO GYDA’N GILYDD
Page 30: GWEITHIO GYDA’N GILYDD
Page 31: GWEITHIO GYDA’N GILYDD
Page 32: GWEITHIO GYDA’N GILYDD
Page 33: GWEITHIO GYDA’N GILYDD