Download - Bwydo’r Pum Mil

Transcript
Page 1: Bwydo’r Pum Mil

Bwydo’r Pum MilMathew 14: 13-21

Marc 6:30-44Luc 9:10-17 Ioan 6:1-14

Page 2: Bwydo’r Pum Mil

Roedd tyrfa fawr yn aros am Iesu pan ddaeth i’r lan o’r cwch. Iachaodd y rhai oedd yn sâl a treuliodd amser yn dysgu llawer o bethau iddyn nhw.

Page 3: Bwydo’r Pum Mil

Dechreuodd nosi, felly dyma'r disgyblion yn dweud, “Mae'r lle yma'n anial ac mae'n mynd yn hwyr. Anfon y bobl i ffwrdd, iddyn nhw gael mynd i'r pentrefi i brynu bwyd.”

Page 4: Bwydo’r Pum Mil

Atebodd Iesu, “Does dim rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd. Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.”

Page 5: Bwydo’r Pum Mil

Beth? Ni?” medden nhw, “Byddai'n costio ffortiwn i gael bwyd iddyn nhw i gyd!”

Page 6: Bwydo’r Pum Mil

“Ewch i weld faint o fwyd sydd ar gael,” meddai Iesu.

Page 7: Bwydo’r Pum Mil

Dyma nhw'n gwneud hynny, a dod yn ôl a dweud, “Pum torth fach a dau bysgodyn!”

Dewch â nhw i mi,” meddai Iesu.

Page 8: Bwydo’r Pum Mil

Wedyn cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn a rhoi gweddi o ddiolch i Dduw.

Page 9: Bwydo’r Pum Mil

Dwedodd wrth y bobl am eistedd i lawr ar y glaswellt. Torrodd y bara a rhoi'r torthau i'w ddisgyblion, a dyma'r disgyblion yn eu rhannu i'r bobl.

Page 10: Bwydo’r Pum Mil

Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a dyma nhw'n codi deuddeg llond basged o dameidiau oedd wedi eu gadael dros ben.

Page 11: Bwydo’r Pum Mil

Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant!

Addasiad o waith gwreiddiol: www.max7.org