YSGOL DAFYDD LLWYD
Transcript of YSGOL DAFYDD LLWYD
YSGOL DAFYDD LLWYD
Yn cyflwyno
‘Carolau’r Anifeiliaid’
9fed a’r 10fed o Ragfyr, 2014
Dyma grynodeb
Ar ddiwrnod crasboeth mae Maldwyn , sef asyn blinedig yn cael ei ryddhau am awr i ymlacio gan ei berchennog cas. Cyn hir mae plant ifanc yn cyflwyno ei hunain ac yn awyddus i wybod beth sy’n bod. O ganlyniad mae
Maldwyn yn esbonio pwysigrwydd ei deulu yn nyddiau’r Rhufeiniaid ac mae’r plant yn teithio nôl mewn amser i ymchwilio ei deulu. Ar y daith cawn gwrdd â: Pobl Nasareth; Yr Eryr; Mair a Joseff; Y Dylluan Wen; Y
Bugeiliaid; Herod a’i staff ufudd ond unigryw.
Yn y cyfamser mae’r seren wen yn arwain pawb at y stabl oer ble mae’r Brenin newydd wedi ei lapio mewn cadachau. Mae Mair a Joseff yn derbyn y rhoddion gan y doethion a’r bugeiliaid sef aur thus a myrr ac
wrth gwrs y gwlân gan y ddafad. Mae’r plant yn diolch i Maldwyn am ei help ac yn deall pwysigrwydd yr
asynnod ym mywyd Iesu Grist; Nadolig oedd dechrau’r
perthynas rhwng y Brenin a’r asyn.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed mwy o anturiaethau
teulu’r asyn.
Blynyddoedd maith yn ôl…
Dyma grynodeb o’r stori
...
Pwy ydi pwy?!
Owen sy’n chwarae rhan ‘Yr
asyn’. Mae Owen ym mlwyddyn
6 ac yn hoff iawn o actio a
chanu. Mae Owen yn hoff iawn
o ddarllen llyfrau J.K Rowling.
Dilan sy’n chwarae rhan
‘Perchennog yr asyn’. Mae Dilan
yn hoffi chwarae gemau ar y
cyfrifiadur a hefyd unrhyw
fathemateg.
Tilly sy’n chwarae rôl plentyn.
Mae Tilly yn hoff iawn o nofio
ac yn rhan o Glwb Nofio Y
Drenewydd. Mae Tilly yn
siaradus iawn.
Rosie sy’n chwarae rhan
‘Plentyn’. Mae Rosie wrth ei bodd
yn darllen ac yn nofio. Ei hoff
fwyd yw cacennau ei mam.
Mae Ellie hefyd yn chwarae rôl
plentyn. Mae Ellie yn hoff iawn
o chwarae efo’i brawd a’i
chwaer. Ellie yw’r hynaf yn y
teulu.
Mae Faith yn chwarae rôl plentyn
yn ystod y sioe ac mae hi wrth
ei bodd yn ysgrifennu a chwarae
pêl-fasged.
Mae Hefin yn chwarae rôl
plentyn a mae Hefin wrth ei fodd
yn helpu ei dad ar ei fferm. Mae
Hefin wrth ei fodd yn torri
gwair a chwarae rygbi.
Mae Tianna yn actio rhan
plentyn. Mae Tianna yn hoffi
anifeiliaid. Mae Tianna wrth ei
bodd yn gwneud tai trychfilod.
Eleri sydd yn chwarae rhan
plentyn. Mae Eleri yn hoff iawn
o ddarllen. Hefyd mae Eleri yn
hoffi treulio ei hamser efo’i
ffrindiau a drygioni.
Tyler sy’n chwarae rhan ‘Y
plentyn’. Mae Tyler wrth ei fodd
ar y ‘XBox’ yn chwarae
‘Minecraft’.
James sy’n chwarae rôl
‘Plentyn’. Mae James wrth ei
fodd yn chwarae gemau
cyfrifiadurol.
Tymara sy’n chwarae rôl
‘Plentyn’. Mae Tymara yn hoffi
rhedeg a gwneud unrhyw fath o
athletau.
Rhys sy’n chwarae ‘Plentyn’ yng
ngolygfa 2 a 4. Mae Rhys yn
ddarllenwr o fri ond yn hoff
iawn o gemau cyfrifiadurol.
Huw sy’n chwarae rôl ‘Plentyn’.
Mae Huw wrth ei fodd yn beicio
ac ymlacio yn y bath!!
Reese sy’n chwarae rhan plentyn.
Mae Reese yn mwynhau
ysgrifennu barddoniaeth a
dringo coed.
Orlagh sy’n actio rhan ‘Plentyn’.
Mae Orlagh wrth ei bodd yn
darlunio lluniau. Orlagh sydd
wedi creu ambell i lun sydd yn
rhaglen yma.
Owen sy’n chwarae rhan ‘Milwr’.
Mae Owen wrth ei fodd yn
chwarae pêl droed a creu
siapiau efo’i ‘LEGO’.
Senen sy’n chwarae rhan ‘Milwr’.
Mae Senen yn hoff iawn o
ysgrifennu a darllen. Mae Senen
yn hoff iawn o beintio ar
benwythnosay a dringo coed.
Mae Jake yn chwarae rhan
‘Milwr’. Mae Jake wrth ei fodd
yn chwarae gemau cyfrifiadurol,
darllen ac creu pethau ‘LEGO’
weithiau.
Dylan sy’n actio rhan ‘Y
Cadfridog’. Bachgen sydd wrth
ei fodd yn darllen ag helpu. Mae
Dylan yn mwynhau chwaraeon a
drygioni.
Maldwyn sydd yn chwarae rôl
Joseff. Mae Maldwyn wrth ei
fodd yn chwarae amrywiaeth o
chwaraeon megis pêl droed a
rygbi. Bethan Gwanas yw ei
hoff awdur.
Carrie sydd a’r anrhydedd o
chwarae ‘Mair’. Peldroedwraig o
fri yw Carrie sy’n chwarae i dîm
y Sir. Carrie yw’r hynaf yn yr
ysgol.
Tomas sy’n chwarae rôl Herod
a’r eryr. Mae Tomas wrth ei
fodd yn cwblhau heriau
mathemateg, chwarae pêl droed a
physgota.
Bethany sy’n chwarae rhan
‘Antoniws’. Mae Bethany yn hoff
iawn o ddarllen a choginio. Mae
Bethany yn edrych ar ôl ei
brodyr a chwiorydd.
Pasha sy’n actio rhan ‘Gwas’.
Mae Pasha yn mwynhau criced
a rownderi yn ystod yr haf.
Mae Pasha yn mwynhau actio.
Teleri yw’r ‘Person Trin Gwallt’.
Mae Teleri wrth ei bodd yn
siarad, siarad, SIARAD! Hefyd
mae Teleri yn hoffi canu a
dillad. DIVA go iawn!
Toby sy’n chwarae rôl ‘Cerddwr
y Pwdl’. Mae Toby yn chwarae
pel droed bob nos!! Mae Toby
yn mwynhau canu.
Mae Greta yn actio’r rhan y
Cogydd sy’n rhan o staff Herod.
Mae Greta yn hoff iawn o
chwarae adref efo’i chwiorydd a
darllen efo’i mam a’i thad.
Hetty sy’n actio rhan yr
‘Ysgrifennyddes’. Mae Hetty wrth
ei bodd yn coginio cacennau ac
ysgrifennu cerddi. Mae Hetty
wrth ei bodd yn bownsio ar ei
thrampolin.
Imogen sy’n chwarae rhan
‘Gabriel’. Mae Imogen wrth ei
bodd yn nofio a dawnsio. Mae
Imogen yn hoff iawn o chwarae
efo’i ffrindiau.
Megan sy’n chwarae rhan un o’r
angylion. Mae Megan yn
mwyhnau darllen a’i hoff awdur
yw Jaqueline Wilson.
Angel fach arall yw Ceris. Mae
Ceris wrth ei bodd yn chwarae
efo’i ffrindiau a gwylio rygbi
efo’i thad.
Naomi sy’n chwarae rôl angel
arall. Mae Naomi yn mwynhau
gymnasteg a choginio efo Nain.
Mae Naomi yn hoff iawn o
chwarae efo’i ffrindiau.
Nia sy’n chwarae rhan ‘Bugail’.
Mae Nia wrth ei bodd yn canu,
dawnsio a chwaraeon. Ei hoff
chwaraeon yw hoci a nofio.
Mae Megan Jones yn fugail
hefyd. Yn ystod ei hamser rhydd
mae Megan wrth ei bodd yn
mynd am dro efo’i chi. Pêl
rwydwraig o fri yw Megan.
Mae Lily yn fugail yn ystod y
sioe. Yn ystod ei hamser rhydd
mae Lily yn mwynhau treulio ei
hamser efo’i cheffylau ac yn
darllen.
Rhiannon sy’n chwarae rôl ‘Y
llais’. Mae Rhiannon yn
mwynhau gymnasteg a nofio.
Mae hi wrth ei bodd yn chwarae
efo’i ffrindiau.
Siannon sy’n chwarae rôl ‘Y
Dylluan Wen’ a ‘Casper’. Mae
Siannon wrth ei bodd yn canu
ac yn chwarae pêl droed.
Jamie sy’n chwarae rôl
‘Melchior’. Mae Jamie yn
mwynhau canu. Mae Jamie
hefyd yn mwynhau sgwrsio a
chwarae pêl droed.
Callum sy’n actio rhan
‘Balthasar’. Mae Callum wrth ei
fodd yn darlunio lluniau a
Callum sydd wedi darlunio’r
lluniau sydd ar y rhaglen.
Cynhyrchwyr: Mrs Davies, Mrs Yewdall,
Mrs Jarman a Miss Davies.
Cyfeilyddes: Mrs Bethan Jones
Props: Toni Green, Mrs Morgan, Sam
Davies a Sharon Williams.
Gwisgoedd: Rhieni, Toni Green
Eleri Green a Sam Davies
Tocynnau: Mrs Sheila Bebb
Y Rhaglen: Miss Davies a’r plant
Darlunyddion: Orlagh a Callum
Hoffai’r Ysgol ddiolch i Ysgol Hafren ac
Ian Gregory am eu cydweithrediad a’u
parodrwydd i rannu’r neuadd a’n helpu.
A diolch i chi am ddod i weld ein sioe
Nadolig.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd
Dda i chi gyd.