Torfaen Council - Citizen Space · Web viewMae’r cyfleusterau’n cynnwys man chwarae i blant,...

43
STRATEGAETH TOILEDAU LLEOL TORFAEN: ASESIAD O ANGEN TOILEDAU TORFAEN 2018 Cynnwys Tudalen 2: Cyflwyniad Tudalen 3: Gwybodaeth Gyffredinol am Dorfaen Tudalen 4: Iechyd Tudalen 5: Amcanestyniadau Demograffaidd Tudalen 6: Tlodi Tudalen 7: Cymudo Tudalen 8: Twristiaeth a Digwyddiadau Tudalen 11: Ymgysylltiad Arolwg Toiledau Lleol, t.11 Arolwg Newid Babanod, t.24 Tudalen 28: Y Ddarpariaeth Bresennol Toiledau cyhoeddus sy’n eiddo i ac yn cael eu rhedeg gan CBST, t.28 Adeiladau CBST sy’n agor eu toiledau i’r cyhoedd, t.29 Cynghorau Cymuned, t.29 Adeiladau eraill yn y sector cyhoeddus sy’n agor eu toiledau i’r cyhoedd, t.29 Eiddo yn y trydydd sector sy’n agor eu toiledau i’r cyhoedd, t.29 Cyfleusterau toiled Canolfan Cwmbrân, t.30 Gorsafoedd petrol â chyfleusterau toiled, t.30 Archfarchnadoedd â chyfleusterau toiled, t.30 Cynllun Cenedlaethol Changing Places, t.30 Tudalen 31: Argaeledd Allwedd Radar Tudalen 31: Atodiadau Tudalen 31: Ffynonellau 1

Transcript of Torfaen Council - Citizen Space · Web viewMae’r cyfleusterau’n cynnwys man chwarae i blant,...

STRATEGAETH TOILEDAU LLEOL TORFAEN:

ASESIAD O ANGEN TOILEDAU TORFAEN 2018

Cynnwys

Tudalen 2: Cyflwyniad

Tudalen 3: Gwybodaeth Gyffredinol am Dorfaen

Tudalen 4: Iechyd

Tudalen 5: Amcanestyniadau Demograffaidd

Tudalen 6: Tlodi

Tudalen 7: Cymudo

Tudalen 8: Twristiaeth a Digwyddiadau

Tudalen 11: Ymgysylltiad

· Arolwg Toiledau Lleol, t.11

· Arolwg Newid Babanod, t.24

Tudalen 28: Y Ddarpariaeth Bresennol

· Toiledau cyhoeddus sy’n eiddo i ac yn cael eu rhedeg gan CBST, t.28

· Adeiladau CBST sy’n agor eu toiledau i’r cyhoedd, t.29

· Cynghorau Cymuned, t.29

· Adeiladau eraill yn y sector cyhoeddus sy’n agor eu toiledau i’r cyhoedd, t.29

· Eiddo yn y trydydd sector sy’n agor eu toiledau i’r cyhoedd, t.29

· Cyfleusterau toiled Canolfan Cwmbrân, t.30

· Gorsafoedd petrol â chyfleusterau toiled, t.30

· Archfarchnadoedd â chyfleusterau toiled, t.30

· Cynllun Cenedlaethol Changing Places, t.30

Tudalen 31: Argaeledd Allwedd Radar

Tudalen 31: Atodiadau

Tudalen 31: Ffynonellau

Cyflwyniad

Ymgymerwyd â’r asesiad yma mewn ymateb i Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017, Rhan 8, sy’n gofyn i awdurdodau lleol i ymgymryd ag Asesiad o Angen mewn perthynas â thoiledau cyhoeddus ac, i ddefnyddio’r Asesiad o Angen yma i drwytho Strategaeth Toiledau Lleol .

Mae mynediad i doiledau yn cefnogi pobl i fynd allan a theimlo’n hyderus bod modd iddyn nhw ddefnyddio toiled yn ddiogel, os bydd angen. Dyma’r sefyllfa i bobl o bob oed, os oes ganddyn nhw gyflwr iechyd ai peidio. I’r rheiny sydd ag angen am doiled yn fwy aml neu ar frys, maen nhw’n aml yn cynllunio’u teithiau o gartref ar sail a oes toiled ar gael neu dydyn nhw ddim yn mynd allan o gwbl. Gall hyn arwain at arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd ac mae’n effeithio pobl o bob oed.

Mae Sefydliad y Bledren a’r Coluddyn yn honni fod gan tua 14 miliwn o bobl yn y DU broblem rheoli’r coluddyn (tua 1 o bob 5 o bobl) ac mae tua 6.5 miliwn yn dioddef â phroblem rheoli’r coluddyn sy’n drafferthus iddyn nhw (tua 1 o bob 10 o bobl)1.

Mae gan Dorfaen boblogaeth o tua 92,3002. Mae allosod y ffigyrau uchod yn awgrymu bod tua 18,460 o bobl yn Nhorfaen â phroblem rheoli’r bledren a 9,230 o bobl yn Nhorfaen yn dioddef â phroblem rheoli’r coluddyn sy’n drafferthus iddyn nhw.

Yn amlwg, mae bod toiledau ar gael yn cael effaith sylweddol ar allu nifer o bobl i fyw eu bywyd pob dydd, a gall gael effaith ar gynhwysiant cymdeithasol, bywyd teuluol, lefelau gweithgaredd corfforol a gallu pobl i deithio i’r gwaith. Pwrpas y ddogfen hon yw asesu’r anghenion yma yng nghyd-destun y ddarpariaeth gyfredol o doiledau yn Nhorfaen.

Yn ogystal ag edrych ar Dorfaen yn gyfan gwbl, rydym wedi edrych ar ein tair prif ardal – Blaenafon (poblogaeth: 6,171), Pont-y-pŵl (37,220) a Chwmbrân (48,661)3 – a’r cymunedau sydd ynddyn nhw. Rydym wedi canolbwyntio ar gryfderau ac asedau’n cymunedau a’r seilwaith sylfaenol – ac mae toiledau’n rhan bwysig o hynny – sy’n galluogi pobl i fyw eu bywydau pob dydd.

Does dim rheidrwydd statudol i awdurdodau lleol ddarparu toiledau cyhoeddus, ac mewn nifer o ranbarthau’r DU, mae cynghorau wedi cau’r cyfleusterau toiled neu rhai ohonyn nhw, neu wedi dechrau codi tâl i’w defnyddio. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cynnal nifer o flociau toiled traddodiadol gyda mynediad am ddim ac yn caniatáu mynediad i doiledau yn nifer o’n hadeiladau. Ar hyn o bryd (Hydref 2018) does dim toiledau yn y fwrdeistref sy’n gofyn i bobl dalu i’w defnyddio.

Wrth ddatblygu’r Strategaeth Toiledau Lleol, gan gynnwys yr Asesiad o Angen yma, rydym wedi ystyried a oes toiledau ar gael mewn adeiladau fel siopau, caffis, bwytai, tafarndai a garejys, y mae nifer dda ohonyn nhw’n darparu cyfleusterau a all fod yn rhywle i ruthro atyn nhw ar frys. Gan fod busnesau’n darparu’r toiledau yma’n bennaf, ac weithiau’n unswydd, ar gyfer defnydd cwsmeriaid, edrychodd ein hasesiad hefyd ar p’un a yw trigolion yn teimlo’n gyfforddus wrth ddefnyddio toiledau busnesau heb brynu rhywbeth ac a fydden nhw’n teimlo’n fwy cyfforddus pe bai busnesau’n arddangos arwyddion i ddangos bod eu toiledau ar gael i bobl nad sy’n prynu cynnyrch neu wasanaeth.

Gwybodaeth gyffredinol am Dorfaen

Mae Torfaen yn 126km2 a hi yw’r 3ydd lleiaf o fwrdeistrefi Cymru. Mae yna dair prif ardal sef Cwmbrân, Pont-y-pŵl a Blaenafon gyda chymunedau llai yn cysylltu’r trefi yma ar hyd y cwm. Mae Torfaen hefyd yn cynnwys cefn gwlad gan gynnwys ucheldiroedd ym mhen uchaf y cwm o amgylch Blaenafon (a ddynodir yn Safle Treftadaeth y Byd) ac ochrau’r cwm, coetiroedd, gwarchodfeydd natur, camlas a glannau afonydd, parciau a thir fferm.

Mae CBS Torfaen yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau i reoli bioamrywiaeth ac adnoddau naturiol yn y fwrdeistref ac o’i hamgylch yn ogystal â’r amgylchedd sydd wedi ei adeiladu, heolydd lleol a phriffyrdd.

Mae poblogaeth Torfaen yn cynnwys 28,010 o blant a phobl ifanc (0 i 25 oed) ar hyn o bryd; 45,330 o oedolion (26 i 64 oed); a 18,460 o bobl hŷn (65 oed a throsodd)4. Mae rhagolygon ynglŷn â phoblogaeth yn dweud wrthym ni y bydd nifer y bobl 0 i 64 oed yn gostwng dros y 20 i 30 mlynedd nesaf, bydd nifer y bobl hŷn yn codi (newid mewn niferoedd genedigaethau a disgwyliadau einioes cynyddol), er y gall y newid yn y ffigyrau yma amrywio gan ddibynnu ar adeiladu tai, denu pobl i fyw yn yr ardal, cadw’n pobl ifanc i fyw’n lleol a bod yn gymuned economaidd lewyrchus.

Mae Asesiad Lles Torfaen (2017) a gwblhawyd gan Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Torfaen o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac Asesiad Anghenion Poblogaeth Gwent (2017) a gwblhawyd gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn rhoi gwybodaeth helaeth ar iechyd, a llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y boblogaeth ar draws Torfaen. Gan ddefnyddio’r wybodaeth yma ynghyd â’r wybodaeth o’n hymgysylltiad cyhoeddus ar doiledau lleol yn ystod yr haf / hydref cynnar 2018, rydym wedi gallu creu darlun o’r angen ar draws Torfaen.

Mae gwaith pellach mewn perthynas â datblygu strategaeth toiledau lleol i Dorfaen wedi cynnwys mapio’r ddarpariaeth gyfredol o doiledau i’r cyhoedd, gan nodi bylchau yn y ddarpariaeth ac ymgysylltiad eang gyda phobl ar draws ein cymunedau.

Iechyd

Mae’r darlun Iechyd yn Nhorfaen yn un amrywiol, o gymunedau difreintiedig gyda lefelau isel o iechyd da a lefelau isel o ddisgwyliad oes iach (ble bydd gan berson gyfnod byr o iechyd da, ac yna cyfnod hir o iechyd gwael cyn marw), at bobl sydd â lefelau uchel o iechyd da a lefelau uchel o ddisgwyliad oes iach (ble bydd gan berson gyfnod hir o iechyd da, ac yna cyfnod byr / dim cyfnod o iechyd gwael cyn marw’n hen).

Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru (2014/15) mae dros hanner poblogaeth oedolion Torfaen yn dweud eu bod wedi cael triniaeth am salwch meddyliol neu gorfforol cronig5.

Mae iechyd gwael a chyflyrau cronig fel canser, cyflyrau’r galon, strôc, diabetes, cyflyrau cyhyrysgerbydol, bod yn ordew neu fod â phwysau uchel ac iechyd meddwl gwael, yn gallu achosi trafferthion i bobl yn ddyddiol. Tra bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio i drin a chefnogi’r bobl hynny sy’n derbyn canfyddiad meddygol, mae gwasanaethau cyhoeddus eraill yn cydweithio i ddarparu amrywiaeth o grwpiau cefnogaeth a gwasanaethau cymunedol ac i hybu ymddygiadau a ffyrdd o fyw’n iach.

Er gwaethaf manteision bod yn weithgar, ychydig o dan draean (30.8%) o drigolion Torfaen sy’n dweud eu bod yn cwrdd â’r canllawiau ar weithgaredd corfforol (AIC 2014/15) ar gyfer ymarfer corff ar gyfer iechyd [5]. Mae cyfran y bobl sy’n cael digon o weithgaredd corfforol i fod o fudd i’w iechyd yn Nhorfaen a Chymru dros y degawd diwethaf wedi aros yn gyson. Mae dros draean poblogaeth Torfaen yn dweud eu bod yn gorfforol segur; mae hyn yn uwch na’r cyfartaledd Cymreig. Mae afiechydon cylchredol yn un o brif achosion marwolaeth yn Nhorfaen ac mae’n hysbys fod segurdod corfforol yn ffactor yn hyn.

Mae dau allan o dri o oedolion rhy drwm neu’n ordew (62%, AIC 2014/15), yn uwch na Chymru (59%) [5]. Mae cofrestrau afiechydon meddygon teulu yn dangos bod bron i 6,000 o drigolion Torfaen â diabetes6.

Mae dros chwater y plant yn y flwyddyn derbyn (4-5 oed) yn Nhorfaen eisoes yn rhy drwm neu’n ordew (28.6%) sydd yn uwch na chyfartaledd Cymru o 26.2%7. Mae disgwyl i gyfraddau gordewdra godi ymhellach ymhlith cenedlaethau’r dyfodol, gan greu problem sylweddol i iechyd a lles a chynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

Mae Cymdeithas Genedlaethol Colitis a Chlefyd Crohn (NACC) yn elusen genedlaethol sy’n cynnig cefnogaeth o bobl sydd â Cholitis neu Glefyd Chron - clefydau sy’n gallu taro ar unrhyw oed. Mae Colitis Briwiol a Chlefyd Chron, sy’n cael eu hadnabod ar y cyd fel Clefyd Coluddyn Llidiol, yn effeithio ar tua 1 ym mhob 400 o bobl sy’n byw yn y DU8. Mae’r angen sydyn nad oes modd ei reoli i ddefnyddio toiled yn symptom dilys a chydnabyddedig o Glefyd Coluddyn Llidiol. Mae cael ‘damwain’ mewn lle cyhoeddus yn destun pryder o’r mwyaf i bob claf a gall gael effaith andwyol ar eu gallu i ymgymryd â gweithgareddau dydd i ddydd fel mynd i’r gwaith, siopa neu gymdeithasu.

Rhaid gweld ein lles meddyliol fel adnodd am oes, gan ddylanwadu ar sut yr ydym yn meddwl ac yn teimlo ynglŷn â ni’n hunain ac eraill, sut yr ydym yn dehongli digwyddiadau ac felly sut yr ydym yn ymddwyn ac yn gweithredu mewn bywyd dydd i ddydd.

Mae Sgôr Gryno yr Elfen Feddyliol ar gyfartaledd (AIC, 2014/15) ar gyfer Torfaen yn 48.7, sydd ychydig yn is na Chymru (49.4) sy’n golygu fod gan Dorfaen les meddyliol ychydig yn llai na Chymru gyfan5.

Mae ein Dangosyddion Dyfodol Iach (AICC, 2015) yn dangos bod bron i draean (31%) trigolion Torfaen yn dweud bod ganddyn nhw broblem iechyd meddwl gyffredin9.

Dros y deg mlynedd ddiwethaf, mae astudiaethau i effaith unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol ar iechyd pobl wedi dangos y gall fod yn ffactor fawr mewn lleihau iechyd a lles pobl wrth iddyn nhw heneiddio, yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael chyflyrau fel clefyd cardiofasgwlar, gorbwysedd a dementia. Mae’r risgiau yn debyg i ysmygu a gordewdra. (Holt-Lunstad, 2015 /Hawkley et al, 2010)10.

Mae aelwydydd sengl ymhlith pobl hŷn yn cynyddu, yn rhannol oherwydd bod ysgariad yn cynyddu ymhlith y rhai dros 60 oed (gan wrthdroi’r tueddiad o gyfraddau ysgariad sy’n lleihau ymysg y boblogaeth gyfan) a thrwy bobl sy’n dewis byw ar eu pennau’u hunain, yn ogystal â phrofedigaeth partner neu gymar. Tra bod rhai pobl yn ymdopi’n dda wrth fyw ar eu pennau’u hunain, mae eraill yn cael hyn yn anodd. Gall hyn fod ar lefel ymarferol, ond yn aml mae o ganlyniad i ddiffyg cwmnïaeth, o fod heb rywun i rannu meddyliau a syniadau â nhw a gweld eisiau’r anogaeth a’r ysgogiad meddyliol i gymryd rhan mewn gweithgareddau - yn y cartref a’r tu allan mewn gweithgareddau gwaith, dysgu neu gymdeithasol.

Nid yw unigrwydd ac arwahanrwydd yn gysylltiedig â phobl hŷn yn unig, gall ddigwydd waeth beth yw’r cefndir cymdeithasol, oed, hil, uniaethiad rhywiol, tueddiad rhywiol, statws ariannol neu ddaearyddiaeth a gall effeithio ar gydlyniad cymunedol. Mae nifer o bobl ifanc yn dweud eu bod yn teimlo’n unig. Serch hynny, mae arwahanrwydd sy’n gysylltiedig ag oedran yn cynyddu gyda thlodi ac mae pobl dlawd yn fwy tebygol o gael eu hynysu pan fyddan nhw'n ifanc na’r rheiny nad sy’n dlawd.

Mae mynd allan yn bwysig i iechyd corfforol a meddyliol a gall cael mynediad i doiled fod yn ffactor allweddol i fod rhywun yn mynd allan i’w cymuned leol. Mae hyn yn arbennig o bwysig i nifer o bobl hŷn, pobl sydd â chyflwr iechyd sy’n golygu bod angen iddyn nhw ddefnyddio toiled yn aml ac i deuluoedd â phlant ifanc.

Amcanestyniadau Demograffaidd

Mae amcanestyniadau yn dangos y bydd canran y boblogaeth gyfan yn Nhorfaen, sy’n 65 oed a throsodd yn codi o 20.1% yn 2016 i 28.3% erbyn 2039 ac mae disgwyl i nifer trigolion Torfaen sy’n 85 oed a throsodd mwy na dyblu yn y 23 mlynedd nesaf, o 2,372 yn 2016 i 5,595 yn 2039; cynnydd o 136%11.

Y darlun ehangach i Dorfaen, fel gweddill Cymru, yw bod disgwyliadau einioes a’r gyfradd o farwoldeb cynnar yn gwella. Serch hynny, o dan y darlun hwnnw, mae yna anghydraddoldebau mawr mewn iechyd a chlefydau gyda bod pobl yn byw’n hirach gydag amrywiaeth a chymhlethdod o gyflyrau iechyd cronig.

Bydd angen i ni ystyried cynnydd yn y nifer o bobl hŷn yn y dyfodol wrth gynllunio’n gwasanaethau. Mae angen i ni feddwl hefyd ynglŷn â sut y byddan nhw’n mynd i ac yn ymdopi â’r amgylchedd naturiol a’r amgylchedd sydd wedi ei adeiladu, a rôl toiledau wrth hwyluso hyn. Mae cadw pobl yn iach ac yn annibynnol yn eu henoed yn rheidrwydd ac mae buddsoddiad mewn cynnal lefel rhesymol o gyfleusterau toiledau cyhoeddus sy’n cefnogi gweithgaredd corfforol ac annibyniaeth yn gallu bod yn gost-effeithiol yn y tymor hir.

Tlodi

Yn gyfan gwbl yn Nhorfaen, mae 1 o bob 5 aelwyd yn byw ag amddifadedd materol (mae hyn yn cynnwys eitemau fel bwyd, gwres, nwyddau gwydn a biliau’r cartref); uwch, ond nid yn wahanol iawn yn ystadegol o gymharu â Chymru (Arolwg Cenedlaethol Cymru)12.

Mae dros hanner yr aelwydydd ym Mlaenafon a bron i hanner yr aelwydydd ym Mhont-y-pŵl yn byw ar incwm is (£0k - £20k). Mae un o bob pump o drigolion yn y ddwy dref wedi eu hamddifadu o ran incwm ac mae gan Bont-y-pŵl lefelau arbennig o uchel o drigolion sydd â salwch tymor hir neu’n anabl13.

Mae gan Gwmbrân lefelau ychydig yn uwch o incwm yn yr aelwyd ond eto mae ganddi lefelau uwch o bobl sy’n hawlio budd-daliadau na Chymru ac mae canran y tai sydd ‘mewn tlodi’ yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru13.

Tra bod nifer o awdurdodau ar draws y DU, yn arbennig yn Lloegr, wedi cyflwyno taliadau i fynd i mewn i doiledau cyhoeddus, fel arfer rhwng 20c a 50c, nid yw CBS Torfaen yn codi ar gyfer defnyddio toiledau cyhoeddus a does dim cynlluniau i wneud hynny. Awgrymodd ein hymgysylltiad y byddai 60% o’r rhai a ymatebodd (136 o bobl) “yn fodlon talu tâl rhesymol i ddefnyddio toiledau cyhoeddus pe bai hyn yn cael ei ddefnyddio i ariannu gwelliannau mewn cyfleusterau toiledau”, er bod 22% (50 o bobl) yn anghytuno gyda’r gosodiad hwn. Rhaid i ddata o gylch tlodi yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig hefyd fod yn ystyriaeth bwysig.

Gallai cyflwyno taliadau hefyd effeithio menywod yn fwy na dynion. Ar draws Torfaen, Cymru a Phrydain Fawr, mae yna fwlch sylweddol mewn cyflogau i ddynion a menywod mewn gwaith amser llawn, gyda menywod yn ennill llai yn sylweddol. Hefyd, mae’r cyflog wythnosol ar gyfartaledd yn Nhorfaen i ddynion a menywod yn is na Chymru, sydd yn ei thro yn is na chyfartaledd Prydain Fawr14.

Cymudo

Yn ddaearyddol, mae Torfaen yn ymestyn o Flaenau’r Cymoedd yn y gogledd i goridor yr M4 yn y de ac mae yna dair prif dref ar hyn y ffordd - Blaenafon, Pont-y-pŵl a Chwmbrân.

Mae mwyafrif y boblogaeth yn dibynnu ar gar ar gyfer ei siwrnai i’r gwaith ac mae yna gymudo sylweddol i mewn ac allan er mwyn cyrraedd cyfleoedd gwaith. Mae gan 83.1% o drigolion Torfaen sydd mewn gwaith fynediad at gar neu fan fel trafnidiaeth i’w gweithle15.

Mae ychydig dros (51%) o drigolion sy’n gweithio yn teithio i leoedd gwaith i’r tu allan i Dorfaen. Mae canrannau mwyaf trigolion Torfaen yn gweithio yng Nghwmbrân (12435 allan o 40415 (poblogaeth Torfaen sy’n gweithio) = 31%), ac yna Pont-y-pŵl (6423/16%), yna Casnewydd (6064/15%), Sir Fynwy (2459/6%), Caerdydd (2055/5%) a Chaerffili (1051/3%)13.

Er mwyn cynllunio ar gyfer lles ein cymunedau yn y dyfodol mae angen i ni hefyd ystyried ffactorau eraill a allai ddylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn teithio at ddibenion gwaith trwy’r fwrdeistref. Gallai Bargen Ddinesig Caerdydd, Brexit, newidiadau i bolisi cenedlaethol ar lefel y DU yn ogystal â Llywodraeth Cymru a chael gwared ar dollau ar Bont Hafren effeithio ar benderfyniadau pobl ynglŷn â ble maen nhw’n gweithio a/neu sut maen nhw’n teithio i’r gwaith.

Mae yna ddatblygiadau newydd ar y gweill hefyd. Bydd agor yr ysbyty newydd ym Mhlas Llanfrechfa yn cynyddu gweithlu’r GIG yn Nhorfaen, yn ogystal â thraffig ar hyd yr A4042.

Oherwydd y tir addas sydd ar gael, mae datblygiadau tai wedi eu canolbwyntio yn ne’r fwrdeistref. Bydd hyn yn cael effaith ar nifer y bobl sy’n cymudo o’r ardal hon ac, o ganlyniad, hyd siwrneiau ar adeg oriau brig.

Gyda’r oedran pensiwn gwladol yn cael ei godi i 68 a mwy dros y blynyddoedd nesaf, dylem hefyd ystyried y bydd pobl yn cymudo ymhellach i mewn i oed hŷn. Bydd anghynhwyster a phroblemau gyda’r bledren – sydd wrth gwrs yn gallu effeithio ar gymudwyr iau hefyd – yn datblygu’n broblem fwy wrth i weithwyr heneiddio.

Does dim data lleol sy’n ein helpu i gysylltu defnyddio toiledau gyda phatrymau teithio. Wrth gynhyrchu’r Asesiad o Angen yma fe edrychon ni felly ar ddau brif ffactor:

1. Faint o doiledau sydd ar gael mewn garejys a lleoliadau cyfleus eraill ar hyd y prif ffyrdd cymudo?

2. A yw trigolion Torfaen wedi profi anhawster wrth gymudo i’r gwaith oherwydd diffyg cyfleusterau toiled rhwng eu cartref a’u lle gwaith.

Mae Torfaen yn 126km2 a hi yw’r drydedd fwrdeistref leiaf yng Nghymru. O ganlyniad darnau cymharol fyr o heol sydd rhwng ei phrif drefi. Dangosodd ein gwaith mapio mai’r pellter mwyaf rhwng toiledau ar hyd unrhyw ffordd yw 6 milltir (A4043 - Blaenafon i Bont-y-pŵl). Rydym wedi nodi bod toiledau yng Nghanolfan Adnoddau Tŷ Nant Ddu ym Mhontnewynydd hefyd ar gael ar hyd y ffordd yma, sy’n lleihau’r pellter at 5.1 milltir (Blaenafon i Bontnewynydd) ond mae’r rhain ar gael rhwng 9.00am a 4.30pm yn unig ac nid ar adegau cymudo brig. Dyw’r orsaf betrol ar y darn yma o’r A4043 ddim yn darparu toiledau.

Dangosodd ein harolwg fod 31 allan o 133 (23%) o’r rhai 18-64 oed a ymatebodd yn dweud eu bod wedi profi anhawster wrth gymudo i’r gwaith oherwydd diffyg cyfleusterau toiled rhwng eu cartref a’u lle gwaith. Byddai angen ymchwil pellach er mwyn cael manylion o ran pa mor aml yr oedd yna drafferthion, neu gyfatebiaeth i lwybrau teithio.

Mewn ymgysylltiad wyneb yn wyneb roedd modd i ni gael mwy o ddealltwriaeth; soniodd rhai pobl am ddiffyg parcio y tu allan i doiledau cyhoeddus sy’n rhwystro’r cyfleusterau rhag bod yn arbennig o hygyrch wrth deithio. Serch hynny, canfyddwyd hefyd fod 66% o bobl yn y grŵp oedran yma yn teimlo nad oes digon o wybodaeth am leoliad toiledau cyhoeddus a’r cyfleusterau sydd ar gael yno, gan awgrymu nad yw rhai o’r grŵp yma o leiaf yn ymwybodol o doiledau y gallen nhw eu defnyddio.

Mae ein gwaith mapio yn dangos bod pobl sy’n cymudo mewn car byth (tra yn Nhorfaen) mwy na 3 milltir o’r toiled agosaf ac mae toiled o fewn 6 milltir i gyfeiriad eu taith ar bob adeg.

Mae hyn yn ein harwain ni i gredu y gallai mwy o wybodaeth ar leoliadau toiledau yn nwylo cymudwyr, gan gynnwys y rheiny sydd efallai ychydig i ffwrdd o’u ffordd arferol, fod yn ddigon i wella’r darlun hwn.

Mae gan bobl sy’n teithio ar fysiau fynediad hawdd i doiledau wrth ymyl gorsafoedd bysiau ym Mhont-y-pŵl (toiledau Neuadd y Dref ar Hanbury Road / toiled hygyrch Llyfrgell Pont-y-pŵl) ac yng Ngorsaf Fysiau Cwmbrân sy’n gyfnewidfa i nifer o wasanaethau. Serch hynny, mae yna nifer o lwybrau bysiau y mae cymudwyr yn eu defnyddio i fynd o ardaloedd preswyl i’w lleoedd gwaith nad sy’n mynd heibio i’r lleoliadau yma. Mae’r rhai o’r llwybrau yma’n deithiau bws cymharol fyr, ond yn ddiamau yn achosi anawsterau ar adegau i rai defnyddwyr, yn arbennig os yw gwasanaethau’n cael eu gohirio, er enghraifft.

Mae gan orsaf drenau Cwmbrân doiled Cynllun Allwedd Cenedlaethol sy’n hygyrch trwy Allwedd Radar. Does dim toiledau yng ngorsaf drenau ym Mhont-y-pŵl , a allai fod yn broblem i gymudwyr os oes gohirio a chanslo. Unwaith y’i bod ar y trên, gall gymudwyr ddefnyddio’r toiledau ar y trên.

Twristiaeth a digwyddiadau

Mae tref Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, mewn 33 cilomedr sgwâr, yn darparu amrywiaeth o atyniadau a gweithgareddau gyda thirlun naturiol trawiadol sy’n ei wneud yn gyrchfan perffaith am ddiwrnod allan. Mae toiledau i’w cael yn bennaf ym mhrif atyniadau Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Big Pit, Gweithfeydd Haearn Blaenafon, Neuadd y Gweithwyr ac Amgueddfa Gymunedol Blaenafon a’r Ganolfan Treftadaeth y Byd a Llyfrgell. Mae’r safleoedd yma ond ychydig o funudau oddi wrth ei gilydd.

Mae amgylchedd naturiol allanol Blaenafon hefyd yn denu ymwelwyr. Mae’r Tumble yn un o’r dringfeydd seiclo mwyaf adnabyddus yng nghymoedd y de. Mae’r ddringfa enwog wedi bod yn rhan o nifer o ddigwyddiadau dros y blynyddoedd, gan gynnwys y Tour of Britain ac mae’n rhan annatod o Velothon Cymru bob blwyddyn.

Mae Gwarchodfa Natur Llynnoedd y Garn yn fan poblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd a soniwyd amdani trwy gydol ein proses ymgysylltu fel rhywle a fyddai’n elwa o doiledau.

Mae cyn-dref ddiwydiannol Pont-y-pŵl, gyda’i marchnad dan do ac allanol traddodiadol, yng nghalon y fwrdeistref. Yn 2015, cwblhawyd gwaith ar adnewyddiad helaeth gwerth £2.5 miliwn o Farchnad Dan Do Pont-y-pŵl, a oedd yn cynnwys adnewyddu’r toiledau. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys toiled hygyrch niwtral o ran rhywedd ar wahân ac ystafell ar gyfer newid babanod.

Mae treftadaeth ddiwydiannol y dref yn cael ei dathlu yn Amgueddfa Pont-y-pŵl sydd â thoiledau at ddefnydd cwsmeriaid, ac mae mannau o ddiddordeb yn cynnwys hanes y dref o gynhyrchu haearn a dur, cloddio glo a thwf y rheilffyrdd. Roedd y diwydiant cynhyrchu artistig, Japanio, math o nwyddau â lacer, hefyd yn ffynnu yma.

Trysor canol y dref yw Parc Pont-y-pŵl, sydd yn ymestyn dros 64 hectar ac sydd â sawl nodwedd hanesyddol – gan gynnwys Gerddi Eidalaidd, Tai Iâ, a Groto Cregyn – sydd wedi eu hadnewyddu trwy grant gan Gronfa’r Loteri Treftadaeth ac arian gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae yna gyswllt hefyd o’r Parc, trwy dir fferm cyfagos ar Dŵr y Ffoledd, trwy lwybr cyhoeddus.

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys man chwarae i blant, cae rygbi (cartref Clwb Rygbi Pont-y-pŵl), cyrtiau tenis, golff, bowls a llethr sgïo. Mae yna gysylltiadau trwy lwybrau troed at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar y ffin mwyaf gogleddol. Mae blociau toiled traddodiadol, sy’n eiddo i ac yn cael eu cynnal a’u cadw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, wrth ymyl y cae rygbi ym Mharc Pont-y-pŵl ac wrth ymyl mynedfa’r parc ar Hanbury Road (cyfeirir atynt yn y dogfennau yma fel ‘Bloc Toiledau Neuadd y Dref’. Mae Canolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl hefyd yn y parc ac mae’n caniatáu i bobl nad sy’n defnyddio’r ganolfan i ddefnyddio’r toiledau.

Yng Ngorffennaf 2018 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod cynllun gwerth £4 miliwn i drawsnewid camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn hyb antur wedi derbyn cytundeb o arian gan yr UE. Mae’r Cynllun ar y Cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Glandŵr Cymru - Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, yn rhan o raglen Cyrchfan Denu Twristiaid ehangach gan Lywodraeth Cymru a ariennir gan yr UE, ac a arweinir gan Groeso Cymru, sy’n bwriadu creu 11 o gyrchfannau anhepgor ar draws Cymru. Mae cynllun Triongl Antur Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn bwriadu datblygu hamdden awyr agored, twristiaeth a gweithgareddau hamdden ar hyd Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn Nhorfaen a Chaerffili ac ardal gysylltiol ucheldir Mynydd Maen.

Bydd y cynllun yn cynnwys adeiladu Canolfan Gweithgareddau Ymwelwyr ym Masn Camlas Pont-y-moel ym Mhont-y-pŵl, fel rhan o raglen o welliannau i’r basn. Y bwriad yw uwchraddio’r ddarpariaeth toiledau i gynnwys gwella dyluniad a gosodiad, cyfleuster newid babanod, mynediad i bawb a chyfleusterau newid ar gyfer gweithgareddau chwaraeon dŵr.

Yn ne’r fwrdeistref, mae Cwmbrân yn unigryw fel yr unig Dref Newydd yng Nghymru, dynodwyd yn 1949 ac wedi ei dylunio fel tref fodern neilltuol a blaengar sy’n cynnig cyfleoedd newydd i’w thrigolion.

Mae Canolfan Cwmbrân yn denu’r nifer fwyaf o ymwelwyr i siopa gyda 17 miliwn o gwsmeriaid y flwyddyn o ardal ehangach Gwent a choridor yr M4. Mae dwy set o gyfleusterau toiled ar gael ac mae gan nifer o’r 170 o siopau yn y ganolfan siopa doiledau, gan gynnwys Marks and Spencer, House of Fraser a nifer o siopau coffi. Mae Llyfrgell Cwmbrân hefyd yn yr ardal hon ac yn darparu cyfleusterau toiled.

Mae Cwmbrân yn gartref i nifer o atyniadau i ymwelwyr gan gynnwys Fferm Gymunedol Greenmeadow, Canolfan Celfyddydau Plas Llantarnam a Chanolfan Treftadaeth Wledig Maenor Llanyrafon, y mae pob un ohonyn nhw’n darparu toiledau i ymwelwyr. Cyfeiriodd Fferm Greenmeadow at fwriad i wella’u cyfleusterau newid babanod ac i ddarparu cyfleusterau toiled hygyrch gwella a chyfleuster Changing Place, ar ôl ceisiadau gan fudiadau sydd am ddod â defnyddwyr gydag anableddau difrifol i’r fferm.

Mae Llyn Cychod Cwmbrân yn atyniad allweddol yng Nghwmbrân, sy’n boblogaidd iawn gydag amrywiaeth eang o bobl gan gynnwys teuluoedd, cerddwyr â chŵn a phobl sy’n pysgota yn y llyn. Yn ystod ein proses ymgysylltu mynegodd pobl anfodlonrwydd gyda’r cyfleusterau toiled yn Llyn Cychod Cwmbrân, a soniodd dros 30 o bobl am hyn. Mae’r cyfleuster hwn yn denu nifer o ymwelwyr ac, oherwydd natur yr ardal, mae mwd yn cael ei gario’n rheolaidd ac mae angen i’r cyfleusterau gael ei glanhau’n aml bobl dydd.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen gynllun gwella mewn grym ar gyfer y safle hwn, sy’n cynnwys:

· Gwella’r llwybrau y tu allan i’r toiledau fel nad yw dŵr yn casglu mewn pyllau mwdlyd. Bydd hyn yn lleihau amlder y bydd y toiledau’n mynd yn wlyb ac yn fwdlyd.

· Ailosod golchwyr/sychwyr newydd yn lle’r rhai’r presennol.

Mae’r holl gyrchfannau i ymwelwyr y cyfeirir atyn nhw yn yr adran hon – gan gynnwys Llyn Cychod Cwmbrân – yn cael adolygiadau cadarnhaol yn y cyfryngau cymdeithasol/gwefannau teithio, gyda chyfartaledd ar hyn o bryd o 4, 4.5 neu 5 seren allan o fwyafswm o 5 ar y safleoedd mwyaf poblogaidd. Gall gwefannau o’r fath gael dylanwad mawr ar dwristiaeth ac mae’n bosibl bydd ymwelwyr posibl sy’n dioddef â phroblemau gyda’r coluddyn neu’r bledren yn defnyddio’r safleoedd yma i weld a yw adolygiadau gwael yn rhoi toiledau fel rheswm.

Dywedodd un person fu’n adolygu Llynnoedd y Garn “Y unig rheswm yr ydw i wedi rhoi 4 yn lle 5 yw fy mod i’n cytuno gydag eraill y byddai’r ardal yn elwa o fod â thoiledau ar gael”.

Mewn perthynas â thwristiaeth a’i effeithiau economaidd, mae’n bwysig felly bod cyrchfannau â nifer resymol o doiledau glân mewn cyflwr da sy’n cwrdd ag anghenion ymwelwyr. Dylai staff yr awdurdod lleol ac eraill sy’n hybu asedau Torfaen fel cyrchfannau twristiaeth, ystyried bod gwybodaeth ar-lein am gyfleusterau toiled.

Digwyddiadau mawr

Mae Torfaen yn cynnal rhai digwyddiadau mawr un diwrnod sy’n digwydd mewn lleoedd awyr agored mawr pob haf. Mae toiledau cludadwy yn cael eu llogi i gwrdd ag anghenion ymwelwyr. Gan fod y rhan fwyaf o’r rhain yn ddigwyddiadau sefydledig, mae’r trefnwyr yn gyfarwydd â rhagweld y lefel gywir o ddarpariaeth y mae ei hangen.

Mae’r Digwyddiad Mawr yn digwydd bob blwyddyn yng Nghwmbrân ar ddydd Sadwrn ym Mehefin a gall ddenu dros 10,000 o ymwelwyr. Ariennir gan Gyngor Torfaen, Cyngor Cymuned Cwmbrân, Cyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon, Cyngor Cymuned Henllys a nawdd o’r sector preifat. Mae digwyddiad yn cynnwys cystadlaethau chwaraeon, stondinau crefftau a bwyd, gweithgareddau i blant ac amrywiaeth o berfformwyr cerddoriaeth a dawns. I gyd-fynd â’r bloc toiledau wrth y Llyn Cychod, a fyddai’n annigonol ar gyfer y nifer yma o ymwelwyr, mae tîm Gwasanaethau Chwarae CBS Torfaen yn darparu man addas i deuluoedd sy’n cynnig lle ychwanegol i newid babanod a bwydo o’r fron ac mae toiledau cludadwy yn cael eu llogi.

Mae’r Parti yn y Parc ym Mhont-y-pŵl yn ddigwyddiad tebyg sy’n digwydd ym Mharc Pont-y-pŵl yng Ngorffennaf pob blwyddyn, sy’n cael ei drefnu gyda Chyngor Cymuned Pont-y-pŵl, Partneriaeth Adfywio Pont-y-pŵl, Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, Cartrefi Melin a Marchnadoedd Cotyledon. Mae toiledau ar gael ym mloc toiledau Parc Pont-y-pŵl a Chanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl.

Gofynnodd Tîm Tref Blaenafon ein bod yn nodi pwysigrwydd Bloc Toiledau Lion Street i’r posibilrwydd i drigolion greu a chynnal eu digwyddiadau eu hunain yn y dref, yn arbennig o ganlyniad i gau nifer o gaffis yn y brif stryd.

Ymgysylltiad

Er mwyn helpu i drwytho’n Strategaeth Toiledau Lleol fe wnaethom ni gynhyrchu dau arolwg dwyieithog yn haf 2018; Arolwg Toiledau Lleol ac Arolwg Newid Babanod. Er mwyn sicrhau hygyrchedd, cafwyd arolwg peilot gyda Fforwm 50+ Cwmbrân a roddodd adborth cadarnhaol ynglŷn â’r cynnwys a’r fformat. Dilynodd yr Arolwg Newid Babanod drefn debyg. Gosodwyd yr arolygon ar-lein wedyn trwy Hyb Ymgynghoriadau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Torfaen (Citizen Space) ac mewn copïau caled ar gyfer grwpiau a lleoliadau penodol.

Arolwg Toiledau Lleol

Yn gyfan gwbl cafwyd 233 ymateb i’r Arolwg Toiledau Lleol. Allan o’r rhain, dywedodd 72 eu bod yn ddynion, 160 eu bod yn fenywod ac 1 yn drawsrywiol. Roedd 90 (39%) o’r rhai a ymatebodd yn ystyried bod ganddyn nhw anabledd.

Nid yw pob anabledd yn gofyn am doiled hygyrch neu gyfleuster Changing Place:

O’r 233 a ymatebodd:

Gall 167 o bobl ddefnyddio toiled cyffredinol (72% o’r rhai a ymatebodd)

Mae 50 o bobl angen toiled hygyrch (21% o’r rhai a ymatebodd)

Mae 16 o bobl angen cyfleuster Changing Place (7% o’r rhai a ymatebodd)

Ble maen nhw’n defnyddio toiledau?

Mae 57 allan o’r 233 yn defnyddio toiledau ym Mlaenafon

Mae 194 allan o’r 233 yn defnyddio toiledau yng Nghwmbrân

141 of the 233 yn defnyddio toiledau ym Mhont-y-pŵl

Oed y rhai a ymatebodd:

Sut gafwyd ymateb?

Cafwyd 127 ymateb i’r Arolwg Toiledau Lleol ar-lein trwy Hyb Ymgynghoriad y BGC.

Cafwyd 106 ymateb trwy sesiynau ymgysylltiad wyneb yn wyneb gan staff CBST rhwng Gorffennaf a Hydref 2018. Aethom ni i leoliadau gwahanol i siarad â grwpiau ac unigolion er mwyn sicrhau trawstoriad da o atebion …

Gwrandawon ni ar bobl hŷn a chasglu eu hymateb i’r arolwg yn:

· Fforwm 50+ Cwmbrân - 24/07/18

· Hyb Cymunedol / Clwb Cinio Ponthir - 07/08/18

· Fforwm 50+ Blaenafon - 07/08/18

· Fforwm 50+ Pont-y-pŵl - 08/08/18

· Hyb Cymunedol / Clwb Cinio Croesyceiliog - 09/08/18

· Safle Age Connects Torfaen yn Widdershins, Sebastopol - 20/08/18

Dysgwyd am brofiadau pobl ifanc trwy:

· Sesiynau arolwg un wrth un a hwyluswyd gan Wasanaeth Chwarae CBST gyda phobl ifanc ag anghenion ychwanegol - Awst 2018.

· Staff a defnyddwyr gwasanaeth Gwasanaethau Chwarae CBST yn rhoi ymateb yn ystod cyfnod cynllun chwarae’r haf - Awst 2018.

A chafwyd sesiynau cyffredinol yn:

· Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl - 22/08/18

· Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl - 29/08/18

· Llyfrgell Cwmbrân - 30/08/18

· Canolfan Adnoddau Blaenafon - 31/08/18 (gan gynnwys sesiwn gyda chynrychiolydd o Dîm Tref Blaenafon a Chynghorydd o Flaenafon)

Pa mor gynrychioliadol oedd y sampl yma?

Mae maint y sampl (233) ar fesur Confidence 95% yn rhoi lled gwall o +/- 6.14%

Dylem fod yn ofalus felly o dynnu casgliadau yn seiliedig ar yr ymateb i’r datganiadau yn yr arolwg os nad oes cytundeb cryf i gyfeiriad penodol.

Crynodeb o’r ymatebion i’r Arolwg Toiledau Lleol:

Gofynnon ni i bobl a ddywedodd eu bod angen toiled hygyrch neu gyfleuster Changing Place pa gyfleusterau/cyfarpar sy’n bwysig iddyn nhw:

Gofynnon ni wedyn i bob un a ymatebodd a oedden nhw’n cytuno neu anghytuno â datganiadau gwahanol, isod:

Gwahaniaethau Daearyddol

Mae’r graffiau uchod yn dangos lefel is o fodlonrwydd gyda chyfleusterau toiled ym Mhont-y-pŵl. Dim ond 34% oedd yn cytuno bod yna ddigon o gyfleusterau toiled ym Mhont-y-pŵl i gwrdd â’u hanghenion, o gymharu â 50% oedd yn teimlo bod yna gyfleusterau digonol ym Mlaenafon a 53% yn teimlo bod yna gyfleusterau digonol yng Nghwmbrân. Roedd hyn yn arbennig o amlwg ymhlith defnyddwyr toiledau hygyrch; dim ond 25% o bobl sydd angen toiled hygyrch oedd yn teimlo fod yna gyfleusterau digonol ym Mhont-y-pŵl i gwrdd â’u hanghenion. Roedd hyn yn cymharu â 55% o bobl sydd angen toiled hygyrch yn cytuno bod yna gyfleusterau digonol yng Nghwmbrân i gwrdd â’u hanghenion a 79% o bobl sydd angen toiled hygyrch yn cytuno bod yna gyfleusterau digonol ym Mlaenafon i gwrdd â’u hanghenion.

Pwysleisiodd rhai o’r bobl a ymatebodd cau Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl am hanner diwrnod ar brynhawn dydd Llun fel rheswm am eu hymateb. Mae cau’r cyfleusterau toiled yma’n cyd-fynd â chau Llyfrgell Pont-y-pŵl am ddiwrnod llawn ar ddydd Llun, mae’r llyfrgell fel arall, o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn, yn darparu toiled hygyrch yn lle toiledau hygyrch ym mloc toiledau Neuadd y Dref ar Hanbury Road. O ganlyniad, yr unig doiledau hygyrch sydd ar gael ar brynhawn dydd Llun yw rhai Tesco a Chanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl, ac mae’r ddau cryn bellter o ganol tref Pont-y-pŵl. Mae’r un sefyllfa’n codi ar ddydd Sul.

Serch hynny, dylid nodi na roddodd mwyafrif y rhai a ymatebodd reswm ac felly mae’n bosibl bod ganddyn nhw ystyriaethau eraill, fel celfi’r toiledau hygyrch neu ddiffyg toiled hygyrch yn y ddau floc toiledau yn y dref.

Defnyddio toiledau busnesau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi ymgysylltu o’r blaen â busnesau yn y sector breifat a’r trydydd sector i’w hannog i ganiatáu i’r cyhoedd, yn hytrach na dim ond cwsmeriaid, ddefnyddio’u toiledau. Dangosodd ein harolwg a’n hymgysylltiad ehangach cefnogaeth gref am ddarparu arwyddion er mwyn cynnig defnydd o gyfleusterau toiled.

Cwestiynau Agored yn yr Arolwg Toiledau Lleol:

Rhoddon ni nifer o gwestiynau agored i bobl er mwyn rhoi digon o gyfle iddyn nhw nodi lleoliadau penodol, ymhelaethu ar eu hatebion neu wneud pwyntiau pellach os oeddynt yn dymuno.

Gofynnwyd: Oes yna unrhyw adeiladau, cyfleusterau/gwasanaethau neu leoedd (o unrhyw fath) yn Nhorfaen yr hoffech chi fynd iddyn nhw ond nad oes modd i chi oherwydd diffyg cyfleusterau toiled addas? Os oes, esboniwch os gwelwch yn dda:

Lleoliad

# pobl yn awgrymu

Lleoliad

# pobl yn awgrymu

Sinema

3

Llwybrau Seiclo

1

Parc Manwerthu Lock Gate

3

Siopau pentref Tref Gruffydd

1

Blaenafon (Canol y Dref)

2

Gweithfeydd Haearn

1

Blaen Bran

2

Hen Gwmbrân

1

Bowl Plex

2

Ar bwys Lidl ac Aldi

1

Stadiwm Cwmbrân

2

Mynwent Panteg

1

Llyfrgell

2

Pentref Pontnewydd

1

Pont-y-pŵl – yn gyffredinol

2

Primark

1

Canolfan Hamdden Pont-y-pŵl

2

Nifer o siopau

1

Fferm Gymunedol Greenmeadow

1

Siopau Trefddyn

1

Big Pit

1

Siop What

1

Llwybrau Halio’r gamlas

1

Canolfan Gymdeithasol Woodland Road

1

Ac eithrio’r ddau awgrym o’r ‘llyfrgell’ ac un o Fynwent Panteg, doedd dim awgrym bod gwasanaethau allweddol y cyngor neu rhai statudol yn anhygyrch oherwydd diffyg cyfleusterau toiled addas.

Gofynnwyd: Oes yna gyfleusterau toiled yr ydych yn teimlo bod angen eu gwella?

Cyfleuster

# pobl yn awgrymu

Darperir gan

Llyn Cychod

15

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Neuadd y Dref, Pont-y-pŵl

12

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen gyda chefnogaeth ariannol gan Gyngor Cymuned Pont-y-pŵl

Gorsaf Fysiau Cwmbrân

8

Canolfan Cwmbrân (M&G Real Estate Limited)

Woodland Road / Parc Croesyceiliog

8

Cyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon

Parc Pont-y-pŵl

5

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Canolfan Cwmbrân Town Centre

4

Canolfan Cwmbrân (M&G Real Estate Limited)

Abersychan

2

Ddim ar agor bellach - digomisiynwyd

Gweithfeydd Haearn

2

Cadw

Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl

2

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Asda

1

Asda Stores Limited

Llynnoedd pysgod yn Sebastopol

1

Ddim ar agor bellach - digomisiynwyd

Inshops

1

Toiledau ar gyfer staff yn unig

Hen Gwmbrân

1

Ddim ar agor bellach - digomisiynwyd

Pontnewydd

1

Ddim ar agor bellach - digomisiynwyd

Llain Fowlio Parc Pontnewydd

1

Ddim ar agor bellach - digomisiynwyd

Canolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl

1

Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen

Meysydd y De

1

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Gofynnwyd: Oes yna unrhyw leoedd gwyrdd ble hoffech chi weld mwy o gyfleusterau toiled neu rai gwell?

Lleoliad

# pobl yn awgrymu

Lleoliad

# pobl yn awgrymu

Llyn Cychod

31

Pontnewydd

2

Camlesi

20

Sebastopol

2

Parc Pont-y-pŵl

18

Y Ffoledd

2

Woodland Road

12

Parc Alexander Road

1

Abersychan

8

Blaen Bran

1

Llynnoedd y Garn

8

Lleiniau Bowlio

1

Meysydd y Gogledd (gan gynnwys ymatebion yn cyfeirio at Oasis neu’r Ganolfan Ffitrwydd)

7

Parc Sgrilau, Llanyrafon

1

Parc Cwmbrân

5

Tal-y-waun

1

Pont-y-Moel

4

Y British

1

Parc y Llynnoedd Pysgod Tref Gruffydd

3

Ochr y Clawdd, Croesyceiliog

1

Meysydd y De

3

Y Groto

1

Trac/llwybrau seiclo

2

Trefddyn

1

Gwarchodfa Natur Cwm-ynys-cou

2

Roedd y rhan fwyaf o’r sylwadau ynglŷn â’r Llyn Cychod (31 sylw) yn gysylltiedig â glendid, a rhoddwyd adroddiadau yn ôl i Wasanaethau Strydlun CBST sy’n cynnal a chadw’r cyfleuster. Roedd rhai sylwadau’n sôn bod nifer y toiledau’n annigonol ar adegau brig.

Mae’r gamlas yn Nhorfaen (20 sylw) yn ased gwych, gyda theithiau cerdded trawiadol, awyr iach a bywyd gwyllt. Sicrhawyd arian i ddatblygu Basn Camlas Pont-y-moel, gan gynnwys toiledau newydd. Bydd hyn yn rhoi pwynt mynediad i rwydwaith y gamlas i’r rheiny sydd â phryderon ynglŷn â bod ag angen toiledau.

Awgrymodd nifer o bobl a soniodd am Barc Pont-y-pŵl (18 sylw) fod angen moderneiddio’r toiledau.

Roedd mwyafrif y sylwadau ynglŷn â Woodland Road (12 sylw) yn ymwneud a mynediad, yn bennaf cwynion fod toiledau ar glo ar oriau brig pan fod teuluoedd yn defnyddio’r parc. Roedd rhai sylwadau’n cyfeirio ar yr angen am foderneiddio.

Sylwadau dethol mewn perthynas â gwybodaeth ac arwyddion

“Rydym yn teimlo y byddai arwyddion mwy clir o gwmpas Torfaen gyfan fel bod pawb yn gwybod ble mae’r toiled agosaf yn fantais i bawb sy’n edrych am gyfleusterau cyhoeddus”

“Dangoswch yr holl gyfleusterau toiled ar fap neu ap gan nad yw rhai pobl yn gwybod amdanyn nhw”

“Byddai’n syniad da i gael adran ar app/gwefan Torfaen sy’n rhoi manylion am adeiladau/busnesau sy’n caniatáu mynediad i gyfleusterau toiled. Yn yr oes sydd ononi â thechnoleg, byddai hyn yn ddefnyddiol iawn ac yn galluogi pobl i gynllunio teithiau o flaen llaw.”

“Does dim arwyddion da iawn. Rydw i wedi teithio ymhell ac mae’r cyfleusterau’n wael iawn o’u cymharu â nifer o wledydd eraill yr ydw i wedi ymweld â nhw..Yr Almaen, Sweden a nifer o rai eraill. Fel gwlad mae angen i ni feddwl am dwristiaeth a phrofiad ymwelwyr, sydd ddim yn un da, mae’n siŵr!”

Sylwadau dethol mewn perthynas â mynediad gyda choets neu nifer o blant

“Yn aml mae’r ciwbiclau’n rhy fach ar gyfer rhiant a phlentyn - heb sôn am riant a dau o blant!”

“Fel mam rydych chi’n cael trafferth i gael plant i ddal nhw’u hunain i gyrraedd toiled da. Pan fyddwch yn cyrraedd rhai maen nhw’n aml mewn cyflwr gwael neu â hygyrchedd cyfyngedig.”

“Mae’n anodd rheoli fy ail blentyn tra fy mod yn delio â’r cyntaf. Mae’r seddi â gwregys sydd ar gael mewn rhai lleoedd yn syniad da”.

Sylwadau dethol yn ymwneud ag amserau agor neu argaeledd cyfyngedig

“Mae’r Toiledau cyhoeddus yng Nghanolfan Woodland Road yn aml ar gau felly does gan deuluoedd sy’n defnyddio’r parc neu’r siop goffi fach unman”

“Byddai defnydd allwedd radar yn y rhan fwyaf o doiledau y Tu allan i Oriau’n fanteisiol.”

“Mae gan y farchnad, neuadd y dref, y ganolfan hamdden etc. gyfleusterau da sydd ddim ar agor yn ddigon hir ond mae’n nhw’n lân buaswn yn fodlon talu i ddefnyddio / gwybod bod cyfleuster glân ar gawl 24 awr y dydd”

“Gallant fod ar agor yn gynharach ac yn hirach os gwelwch yn dda”

“Gallai toiledau’r parc (Woodland Road / llyn cychod) fod ar agor yn hirach.”

Sylwadau dethol mewn perthynas ag anghenion ychwanegol neu gyflyrau meddygol penodol

“Rwy’n dioddef â Colitis Briwiol, felly pan fydda’ i angen cyfleusterau toiled, mae angen nhw arna’ i bron yn syth. Mae’r rhai o dan Costa Coffee/W H Smiths wedi bod yn fendith. Mae gan y rhan fwyaf o archfarchnadoedd dim ond un ciwbicl, weithiau dau, mae hyn yn broblem wirioneddol i bobl sydd â Cholitis neu Glefyd Crohn.”

“Mae angen parcio i’r anabl y tu allan i doiledau ar gyfer y rheiny sydd â phroblemau dal dŵr.”

“Mae glendid yn hanfodol. Mae’n rhaid i ni brynu gorchuddion toiled (ar werth yn Poundland, ond nid trwy’r amser) ac yn aml rwy’n osgoi yfed cyn gadael y tŷ - problem disychu. Gwerthfawrogi gofalwyr yn helpu os oes problem/ cwymp” (Mae gan yr unigolyn yma glefyd hunanimíwn sy’n achosi mynediad i’r ysbyty os oes haint)

Arolwg Newid Babanod

Yn ogystal â’r arolwg ar-lein, gofynnwyd yn rhagweithiol i rieni am eu profiadau o gyfleusterau newid babanod yn ystod sesiynau ymgysylltiad cyffredinol yng Nghanolfan Adnoddau Blaenafon, Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, Llyfrgell Cwmbrân a thrwy sesiynau penodedig yn:

•Fforwm Dad a Fi - 06/10/18

•Fferm Gymunedol Greenmeadow - 14/08/18

Yn gyfan gwbl roedd yna 40 o bobl a oedd wedi ymateb i’r Arolwg Newid Babanod. O’r rhain, roedd 6 yn ddynion a 34 yn fenywod. Roedd 4 yn ystyried fod ganddyn nhw anabledd.

Dim ond un ym mhob pedwar o bobl a atebodd yr Arolwg Newid Babanod ddywedodd eu bod yn teimlo’n gyfforddus wrth ddefnyddio cyfleusterau newid babanod busnesau heb brynu unrhyw beth neu ddefnyddio’u gwasanaethau. Dywedodd 92% o’r rhai a atebodd yr Arolwg Newid Babanod y bydden nhw’n teimlo’n fwy cyfforddus ynglŷn â defnyddio cyfleusterau busnesau pe baen nhw’n arddangos arwydd i ddweud bodd modd defnyddio’u cyfleusterau heb brynu unrhyw beth neu ddefnyddio’r gwasanaeth.

Roedd 81% yn teimlo nad oes digon o wybodaeth ynglŷn â lleoliad cyfleusterau newid babanod.

Roedd 72% yn anfodlon ar y cyfan gyda’r cyfleusterau newid babanod mewn blociau toiled cyhoeddus. Roedd hyn yn anfodlonrwydd trawiadol o uwch na’r ymateb mewn perthynas â chyfleusterau sy’n cael eu darparu gan siopau (53%), caffis/bwytai/tafarnau (43%), llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac adeiladau cyhoeddus tebyg (29%) neu mewn neuaddau/lleoliadau lleol ar gyfer dosbarthiadau/gweithgareddau (23%).

Roedd 67% yn anfodlon ar y cyfan gyda glendid cyfleusterau newid babanod.

Roedd 55% yn anfodlon ar y cyfan gyda nifer y cyfleusterau newid babanod

Roedd 53% yn anfodlon ar y cyfan gyda’r cyfarpar ar gael mewn cyfleusterau newid babanod. Soniwyd fod rhai cyfleusterau weithiau heb finiau ac yn cynnwys dim ond cyfleusterau sylfaenol i newid babanod. Soniodd sawl un am yr her y maen nhw’n eu wynebu gyda nifer o blant bach, yn arbennig o ran bod ag unman i roi ail blentyn yn ddiogel tra’u bod yn delio â chewyn brwnt y llall. Yn ystod ymgysylltiad wyneb yn wyneb cyfeiriodd rhai pobl at seddi â gwregys sydd mewn rhai toiledau – gan roi rhywle i osod ail blentyn yn ddiogel – gan ddweud y dylen nhw fod mewn mwy o doiledau yn Nhorfaen.

Soniodd nifer o bobl am adegau pan fod yr angen iddyn nhw, y rhiant, ddefnyddio’r toiled yn broblem. Dyw gorfod gadael plentyn mewn coets y tu allan i giwbicl ddim yn ddiogel ac yn aml does dim lle i gymryd coets i mewn i giwbicl. Defnyddiwyd toiledau hygyrch – gyda mwy o le – weithiau o ganlyniad, er bod y rhain yn aml yn anhygyrch oherwydd bod angen allwedd radar.

Dywedodd 50% fod diffyg cyfleusterau newid babanod yn atal neu’n pwyso arnyn nhw rhag ymweld â rhai o leoedd gwyrdd Torfaen (parciau, camlesi, coedwigoedd ac amgylcheddau ‘awyr agored’ eraill). Mae hyn yn destun pryder o ran gweithgaredd corfforol a lles meddyliol ac mae’n ategu’r ymateb i’r un cwestiwn yn yr Arolwg Toiledau Lleol, ble ddywedodd dau draean (67%) o bobl bod diffyg toiledau addas yn eu hatal neu’n pwyso arnyn nhw rhag ymweld â lleoedd gwyrdd. Gyda gordewdra ymhlith plant yn broblem gynyddol a phroblemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc yn cynyddu, mae’n bwysig bod plant yn cael cyfleoedd i fod yn weithgar yn yr awyr agored ac yn parhau gyda’r ffordd yma o fyw yn eu harddegau ac fel oedolion.

Roedd canran y bobl a oedd yn cytuno bod gan Gwmbrân ddigon o gyfleusterau newid babanod (38%) yn uwch na chanran y bobl a oedd yn teimlo bod gan Bont-y-pŵl (19%) neu Flaenafon (14%) ddigon o gyfleusterau newid babanod, er bod 51% yn credu nad oes gan Gwmbrân ddigon o gyfleusterau newid babanod.

Gofynnwyd: “Oes yna fannau gwyrdd penodol ble’r hoffech chi weld rhai, neu well, toiledau/cyfleusterau newid babanod? Os felly, ble?”

Lleoliad

# pobl yn awgrymu

Lleoliad

# pobl yn awgrymu

Llyn Cychod Cwmbrân

25

Abersychan

1

Camlesi

6

Park y Llyn Pysgod, Sebastopol

1

Parc Pont-y-pŵl

4

Parc Glansychan

1

Woodland Road

3

Gofynnwyd: Oes yna unrhyw adeiladau, cyfleusterau/gwasanaethau neu leoedd (o unrhyw fath) yn Nhorfaen yr hoffech fynd iddyn nhw ond nad oes modd i chi oherwydd diffyg cyfleusterau newid babanod addas? Os felly, esboniwch:

Lleoliad

# pobl yn awgrymu

Lleoliad

# pobl yn awgrymu

Theatr y Gyngres

1

Nifer o siopau

1

Lleoedd bwyta yng Nghwmbrân

1

Canolfan Hamdden Pont-y-pŵl

1

Fferm Gymunedol Greenmeadow

1

Ochr Maes Parcio Riverside y dref (Pont-y-pŵl)

1

Mae’r ymateb i’r cwestiwn hwn yn awgrymu nad yw rhieni a gwarcheidwaid yn cael trafferth sylweddol mynd at wasanaethau hanfodol neu statudol y cyngor oherwydd diffyg cyfleusterau newid babanod yn yr adeiladau neu’r lleoedd y mae’r gwasanaethau yma i’w cael.

Gofynnwyd: Os oedd cyfle i wella’r cyfleusterau presennol, be fyddech chi’n awgrymu sydd angen gwneud?

Awgrym

# pobl yn awgrymu

Awgrym

# pobl yn awgrymu

Mwy o/gwell glanhau

9

Mwy o arwyddion i ddangos ble mae cyfleusterau

1

Toiledau i rieni – h.y. digon mawr i goetsys, gyda thoiled a lle newid babanod yn yr un lle

5

Goleuadau i’r baban edrych arnyn nhw

1

Biniau’n cael eu gwagio’n aml

4

Bachau i grogi bag cewynnau arnyn nhw

1

Newid babanod yn nhoiledau’r dynion

3

Gwregysau ar fyrddau

1

Diheintyddion i lanhau mannau newid babanod / dwylo

3

Silff i osod pethau arnyn nhw

1

Man bwydo / cadair

2

Seddi â gwregys ar gyfer plant eraill

1

Cymryd newid babanod allan o doiledau i’r anabl

1

Roedd sylwadau ynglŷn â newid babanod yn canolbwyntio’n bennaf ar:

· Glendid

· Diffyg hygyrchedd gyda choets

· Heriau ymarferol os yw’r oedolyn neu blant eraill angen defnyddio toiled

· Cydraddoldeb rhyw – cyfleusterau’n hygyrch i dadau

Sylwadau dethol yn ymwneud â hygyrchedd gyda choets:

“Mae’r cyfleusterau newid babanod yn y llyn cychod yn llawer rhy fach. Does dim ffordd cael coets i mewn yna heb rwystro pawb arall rhag cyrraedd y toiledau.”

“Llyn Cychod Cwmbrân. Mae yna doiled i’r anabl sydd bob amser wedi ei gloi a does gan y caffi ddim oll i wneud â’r toiledau. Gall fy mhram dwbl ddim mynd i mewn i doiledau’r menywod.”

“Fel mam i 3 (i gyd o dan 5) mae ceisio cael hyd i doiled hygyrch yn unrhyw le yn anodd ac os oes angen i fi ddefnyddio’r toiled fy hun mae’n rhaid i fi gynllunio bod rhywun gyda fi gan nad yw’r rhan fwyaf o gyfleusterau newid babanod yn cynnig toiled oedolion a dyw’r toiledau menywod ddim digon mawr i gynnwyd coets.”

“Mae cyfleusterau toiled ar y cyfan yn rhy fach i fynd â phram iddyn nhw tra byddwch yn defnyddio’r cyfleusterau – sy’n golygu bod angen fel arfer i fi fynd i’r ciwbicl anabl. Byddai’n dda hefyd pe bai’r ystafelloedd newid babanod yn gallu cynnwys ciwbicl toiled hefyd fel gall fy mhlentyn arall ddefnyddio’r toiled tra fy mod i’n newid y babi. Mae’n berffaith yn Asda. Mae M&S yn anodd oherwydd yr angen i fynd i fwy nag un lle, mae’r toiledau cyhoeddus wrth y maes parcio yng Nghwmbrân yn berffaith – mae’r ystafell newid babanod sydd â thoiled yn berffaith! Ac yn lân bob tro.”

Sylwadau dethol mewn perthynas â heriau os yw’r oedolyn neu blant eraill hefyd eisiau defnyddio toiled:

“Os yw oedolyn allan gyda babi bach mae’n bosibl cael hyd i doiled gyda man newid babanod, serch hynny, dyw e ddim yn bosibl yn aml i’r oedolyn hefyd fynd at doiled. Gall yr oedolyn ddim mynd i giwbicl gyda babi na gadael y plentyn y tu allan i’r ciwbicl. Mae yna gyfleuster newid gyda digon o le ar gyfer coets ac sy’n darparu cyfleuster [toiled] i’r oedolyn yn y maes parcio tanddaearol yng Nghwmbrân, ond ar y cyfan os ydych chi’n mynd allan gyda phlentyn bach mae angen dau oedolyn arnoch chi.”

Sylwadau dethol mewn perthynas â glendid a glanweithdra:

“Does dim o’r cyfleusterau yr ydw i wedi eu defnyddio yn Nhorfaen â gorchuddion ar gael ar gyfer y bwrdd newid na chwaith unrhyw ffordd o lanhau/diheintio’r bwrdd. Does gan llawer o’r cyfleusterau ddim gwregysau sy’n golygu ei fod yn beryglus cerdded i ffwrdd o’r babi hyd yn oedd i olchi’ch dwylo.”

Soniodd nifer o rieni am le ar gyfer bwydo o’r fron:

“Byddai mannau i fwydo o’r fron yn ddefnyddiol – lle diogel â chadair gyfforddus.”

Sylwadau mewn perthynas â chyfleusterau newid babanod mewn toiledau dynion:

“Unedau newid babanod ar wahân fel gall dynion a menywod eu defnyddio.”

“Ychydig iawn o unedau newid babandod sydd dim yn rhan o doiledau menywod, sy’n golygu na all dynion newid eu babanod. Mae gosod cyfleusterau newid babanod mewn toiledau i’r anabl yn helpu ond rydych chi’n teimlo’n euog os oes rhaid i berson anabl aros i ddefnyddio’r toiledau oherwydd eich bod chi’n newid babi.” Noder: does dim gwahanu ar ran rhyw yn y ffordd hyn yng nghyfleusterau CBS Torfaen.

Sylwadau gydag ystyriaethau ariannol:

"Mae’n drueni nad yw’r rhai sydd gyda ni yn cael gofal gan y bobl sy’n eu defnyddio. Buaswn i’n falch o dalu i ddefnyddio cyfleusterau pe baen nhw’n cael eu cynnal at safon digon uchel.”

“Rwy’n credu y byddai’n well gwario unrhyw arian dros ben ar bethau eraill. Os ydych chi’n mynd â’ch plant allan yna mae’n siŵr mai cyfrifoldeb y rhiant yw sicrhau eu bod yn mynd â digon o bethau newid babanod gyda nhw a pheidio disgwyl i eraill ddarparu pethau ar eu rhan.”

Y ddarpariaeth bresennol

Mae toiledau sydd ar agor i’r cyhoedd ar gael ar draws Torfaen. Mae’r rhan fwyaf yn ddarpariaeth gyffredinol gyda mynediad cyfyngedig i gyfleusterau niwtral o ran rhywedd, cyfleusterau newid babanod neu gyfleusterau changing places (fel y’i dynodwyd gan y cynllun cenedlaethol i blant hŷn ac oedolion ac oedolion sydd angen lleoedd mwy a chyfarpar penodol).

Mae toiledau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cael eu hyrwyddo mewn taflen y mae modd ei lawrlwytho o wefan CBS Torfaen. Mae rhai o’n partneriaid – fel Age Connects Torfaen – yn darparu copïau caled o’r daflen hon i’n cwsmeriaid. https://www.torfaen.gov.uk/cy/RoadsTravelParking/StreetCareandCleaning/Publicconveniences/PublicaccesstotoiletsinTorfaen.aspx

Mae’r wefan yn rhoi manylion am leoliad ac oriau agor ond mae yna drosolwg yma:

Toiledau cyhoeddus sy’n eiddo i ac yn cael eu rhedeg gan CBST

•  Bloc Toiledau Lion Street+, Blaenafon. NP4 9NH

•  Bloc Toiledau’r Llyn Cychod+, Llanfrechfa Way, Llanyrafon, Cwmbrân. NP44 8HT

•  Ystafelloedd Newid Meysydd y De, Llanyrafon, Cwmbrân, NP44 8HT

•  Bloc Toiledau Neuadd y Dref*, Hanbury Road, Pont-y-pŵl. NP4 6JL

•  Bloc Toiledau Parc Pont-y-pŵl, Pont-y-pŵl. NP4 8AT

*Mae Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl yn cyfrannu’n ariannol at gost y toiledau yma.

+Angen allwedd radar i fynd i’r toiled hygyrch.

Adeiladau CBST sy’n agor eu toiledau i’r cyhoedd

•   Canolfan Treftadaeth y Byd a Llyfrgell Blaenafon, Church Road, Blaenafon. NP4 9AE

•   Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog, The Highway, Croesyceiliog, Cwmbrân. NP44 2HF

•   Llyfrgell Cwmbrân+, Gwent Square, Cwmbrân. NP44 1XQ

•   Mynwent Llwyncelyn, Llwyncelyn Drive, Llwyncelyn, Cwmbrân. NP44 7PF

•   Canolfan Addysg i Oedolion Power Station, Blenheim Road, Sain Derfel, Cwmbrân. NP44 4SY

•   Llyfrgell Pont-y-pŵl, Hanbury Road, Pont-y-pŵl. NP4 6JL

•   Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl+, Pont-y-pŵl. NP4 6JW

•   Canolfan Dysgu i Oedolion y Settlement, Trosnant Street, Pont-y-pŵl. NP4 8AT

•   Canolfan Adnoddau Tŷ Nant Ddu, Hospital Road, Pontnewynydd, Pont-y-pŵl. NP4 8LE

+Angen allwedd radar i fynd i’r toiled hygyrch.

Mae Cynghorau Cymuned fel arfer yn caniatáu i’r cyhoedd ddefnyddio’r toiledau yn yr adeiladau sy’n eiddo iddyn nhw neu maen nhw’n eu rhedeg ar sail disgresiwn, pan fo staff yn bresennol. Serch hynny, gall staff fod yna ar adegau afreolaidd ac felly, er mwyn rheoli disgwyliadau, mae’n well gan Gynghorau Cymuned i’r cyfleuster yma beidio â chael ei hysbysebu:

• Swyddfeydd Cyngor Tref Blaenafon, 101 High Street, Blaenafon. NP4 9PT

(darperir gan Gyngor Tref Blaenafon)

• Tŷ’r Cyngor, Ventnor Road, Cwmbrân. NP44 3JY

(darperir gan Gyngor Cymuned Cwmbrân)

• Canolfan Chwaraeon a Chymdeithasol Woodland Road+, Croesyceiliog, NP44 2DZ

(darperir gan Gyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon

Mae Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl yn cyfrannu at gostau cadw Bloc Toiledau Neuadd y Dref, Hanbury Road, Pont-y-pŵl. NP4 6JL (gweler uchod).

Nid yw Cyngor Cymuned Henllys na Chyngor Cymuned Ponthir yn meddiannu eiddo ar sail amser llawn ac felly nid ydynt yn rhoi mynediad i doiledau.

Adeiladau sector cyhoeddus sy’n agor eu toiledau i’r cyhoedd

• Canolfan Adnoddau Blaenafon, Middle Coed Cae Road, Blaenafon. NP4 9AW

(darperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan)

Eiddo yn y trydydd sector sy’n agor eu toiledau i’r cyhoedd

•   Capel Bethlehem, Broad Street, Blaenafon. NP4 9NE

• Canolfan Byw’n Egnïol Bowden, Folly Road, Trefddyn, Pont-y-pŵl. NP4 8JD

• Stadiwm Cwmbrân, Henllys Way, Cwmbrân NP44 3YS

• Canolfan Hamdden Fairwater, Ty Gwyn Way, Fairwater, Cwmbrân NP44 4YZ 

• Neuadd y Mileniwm Garndiffaith, Top Road, Garndiffaith, Pont-y-pŵl. NP4 7LT

• Neuadd Bentref Ponthir, Ponthir Road, Ponthir, Casnewydd NP18 3XL

•   Canolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl, Trosnant Street, Pont-y-pŵl NP4 8AT

• Prosiect Kickplate, Adeiladau Portland, Commercial Street, Pont-y-pŵl. NP4 6JS

•   Neuadd Gymunedol y Pishyn Tair, Deerbrook, Greenmeadow, Cwmbrân. NP44 4SX

Cyfleusterau toiled Canolfan Cwmbrân

· Yr Orsaf Fysiau+, Gwent Square, Glyndwr Road, Cwmbrân. NP44 1QS

· Monmouth Square+, Cwmbrân. NP44 1PX

Mae’r Amserau Agor ar gyfer y mwyafrif o gyfleusterau toiled uchod i’w gweld yn Atodiad 1: Mapio Data – Toiledau y gellir eu hyrwyddo at gyfer defnydd cyhoeddus.

Gorsafoedd petrol â chyfleusterau toiled

· Gorsaf Betrol Esso, Rockhill Road, Pont-y-pŵl NP4 8AN (Rontec)

· Gorsaf Betrol Shell, Henllys Way, Cwmbrân. NP44 3JA (Euro Garages)

· Gorsaf Betrol Shell Folly Tower, Cylchfan A4042, Pont-y-pŵl. NP4 0XB (24 awr) (Euro Garages)

Archfarchnadoedd â chyfleusterau toiled

· Archfarchnad Asda, Cwmbrân, Llewelyn Road, Cwmbrân. NP44 1UL

· Morrisons, Grange Road, Cwmbrân. NP44 1QP

· Archfarchnad Sainsburys, Llewellyn Road, Cwmbrân. NP44 1UL

· Archfarchnad Tesco, y Maes Parcio Uchaf, Lower Bridge St, Pont-y-pŵl NP4 6JU

Byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r gorsafoedd petrol a’r archfarchnadoedd uchod yn ffurfiol i ofyn am ganiatâd i gynnwys y cyfleusterau ar y map cenedlaethol o doiledau sy’n cael ei gynhyrchu.

Cynllun Cenedlaethol Changing Places

Mae gwybodaeth am fanylion toiledau Changing Places i’w gweld yn: http://www.changing-places.org/the_campaign/what_are_changing_places_toiledau_.aspx

Mae’r unig gyfleuster toiled sy’n cwrdd â gofynion Changing Places ar gael yn:

•    Archfarchnad Asda, Cwmbrân+, Llewelyn Road, Cwmbrân, NP44 1UL

Allwedd Radar ar gael

Mae’r eiddo sydd â + angen allwedd radar i fynd i’r toiledau(au) hygyrch. Gellir prynu allweddi radar gan nifer o werthwyr ar-lein neu’n lleol o:

Age Connects Torfaen, East Avenue, Tref Gruffydd, Pont-y-pŵl NP4 5AB.

Argos, 2-4 Monmouth Walk, Cwmbrân NP44 1PE.

Argos, 16 Crane Street, Pont-y-pŵl NP4 6LY.

Bush Healthcare, 33 Gwent Square, Cwmbrân NP44 1PQ.

Haven Mobility, Uned 14, Ystâd Ddiwydiannol Avondale, Cwmbrân NP44 1UG

Trafnidiaeth Gymunedol Torfaen/Shopmobility, 32 Gwent Square, Cwmbrân NP44 1PL.

Atodiadau

Atodiad 1: Data Mapio (hyd yn hyn) – Toiledau adnabyddwyd yn Nhorfaen

Atodiad 2: Arolwg Toiledau Lleol

Atodiad 3: Arolwg Newid Babanod

Ffynonellau

1Cyfwelodd Populus Research â 1040 o oedolion 18 oed a throsodd rhwng 9-22 Mehefin 2008. Dywedodd 23% bod ganddynt broblem rheoli’r bledren ac 11% broblem rheoli’r coluddyn.

https://psnc.org.uk/south-staffordshire-lpc/wp-content/uploads/sites/95/2015/02/BowelProblems.pdf

2Amcanestyniadau poblogaeth canol y flwyddyn y SYG (2017)

https://cy.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/bulletins/annualmidyearpopulationestimates/mid2017?:uri=peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/bulletins/annualmidyearpopulationestimates/mid2017

3Amcanestyniadau poblogaeth canol y flwyddyn y SYG, MSOAs (2016)

https://cy.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/bulletins/annualsmallareapopulationestimates/mid2016?:uri=peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/bulletins/annualsmallareapopulationestimates/mid2016

4Asesiad Lles Torfaen 2017 http://www.torfaenpublicservicesboard.co.uk/cy/Documents/Assessment-of-Well-being/Part-1-Torfaen-Well-being-Assessment.pdf

5Arolwg Iechyd Cymru 2015

https://gov.wales/docs/statistics/2016/160601-welsh-health-survey-2015-initial-headline-results-cy.pdf

6ABUHB – cofrestrau heintiau meddygon teulu i Dorfaen.

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/866/ABUHB%20Diabetes%20Annual%20Report%202014%20final%20September%202015.pdf

7Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/888/12518%20PHW%20CMP%20Report%20%28Wel%29.pdf

8Memorandwm gan Gymdeithas Genedlaethol Colitis a Chlefyd Crohn https://publications.parliament.uk/pa/cm200708/cmselect/cmcomloc/636/636we24.htm

9Dangosyddion Ein Dyfodol Iach (2015)

http://www.arsyllfaiechydcyhoedduscymru.wales.nhs.uk/dangosyddion-ein-dyfodol-iach-2015

10Holt-Lunstad, 2015 / Hawkley et al, 2010 https://www.ahsw.org.uk/userfiles/Research/Perspectives%20on%20Psychological%20Science-2015-Holt-Lunstad-227-37.pdf

11Amcanestyniadau ar sail poblogaeth (2014), Llywodraeth Cymru

https://gov.wales/statistics-and-research/local-authority-population-projections/?skip=1&lang=cy

12Uned Data Cymru (2016). Deall Data Cryno Llesiant Lleol, Hydr ef 2016. http://www.data.cymru/SharedFiles/Download.aspx?pageid=30&mid=64&fileid=95

13Tarddiad-Cyrchfan, Cyfrifiad 2011

https://www.nomisweb.co.uk/census/2011/origin_destination

14Cyflog Gros dynion v menywod. Ffynhonnell : Arolwg Blynyddol y SYG o oriau ac enillion – dadansoddiad y gweithle, 2015, trwy NOMIS.

https://cy.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/earningsandworkinghours/bulletins/annualsurveyofhoursandearnings/2015provisionalresults?:uri=employmentandlabourmarket/peopleinwork/earningsandworkinghours/bulletins/annualsurveyofhoursandearnings/2015provisionalresults

15Asesiad Lles Torfaen infograffeg Pont-y-pŵl http://www.torfaenpublicservicesboard.co.uk/cy/Documents/Assessment-of-Well-being/Part-3-Well-being-of-Pontypool-and-its-communities.pdf

20