Sylw ar ardal Merthyr

16
Merthyr Gwanwyn 2012 Sylw ar ardal Helping Merthyr families through Mortgage Rescue Lean management is working well for us Community spirited family rewarded by First Minister Preswylwyr Gwobredig Preswylwyr Merthyr yn fuddugol yn ein gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2011 Hefyd yn y rhifyn hwn... Huw Lewis AC yn agor datblygiad newydd Brewery Court a Brewery Mews Cysylltu Merthyr

description

Wales & West Housing Association's newsletter for the Merthyr area (Cymraeg)

Transcript of Sylw ar ardal Merthyr

Page 1: Sylw ar ardal Merthyr

MerthyrGwanwyn 2012

Sylw ar ardal

Helping Merthyr families through Mortgage Rescue

Lean management is working well for us

Community spirited family rewardedby First Minister

Preswylwyr GwobredigPreswylwyr Merthyr yn fuddugol yn ein gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2011

Hefyd yn y rhifyn hwn...

Huw Lewis AC yn agor datblygiad newydd Brewery Court a Brewery Mews Cysylltu Merthyr

Page 2: Sylw ar ardal Merthyr

2www.wwha.net

Sylw ar ardal Merthyr – Gwanwyn 2012

Nid oes angen i mi ddweud fod pawb ohonom yn parhau i wynebu amodau economaidd heriol iawn, ac yn awr yn fwy nag erioed, rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid, cefnogi arloesi i gwrdd â galw, ac yn syml, mynd y fi lltir ychwanegol i helpu ein preswylwyr a’u cymunedau i helpu eu hunain.

Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd, i helpu ein preswylwyr ymdrin â phroblemau yn ymwneud ag arian, a chael cymaint â phosibl ohonyn nhw i ddefnyddio’r we fyd eang. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid amrywiol er mwyn helpu pobl i gael gwaith neu hyfforddiant, naill ai o’r newydd neu ailafael yn yr hyn roedden nhw’n ei wneud yn fl aenorol.

Yna, mae ein datblygiadau diweddaraf yn y busnes, gan gynnwys newyddion am ein rhaglen ddatblygu sy’n werth £101

miliwn, ein strategaeth newydd ar Gyfranogiad Preswylwyr, a sut rydym yn mynd ati i hunanasesu. Ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dweud wrthych chi ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru yn rhestr cwmnïau gorau 2012 y Sunday Times.

Felly, rydw i’n gobeithio y gwnewch chi roi pum munud o’ch amser i ddarllen y dafl en newyddion hon, ac y bydd yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol yn eich golwg chi.

Yn olaf, rydym yn gwerthfawrogi eich adborth bob amser, felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni i ddweud wrthym beth yw eich barn ar ‘Sylw ar...’, y newyddion sydd ynddo, neu unrhyw agwedd arall ar ein busnes.

Anne HincheyPrif Weithredwr

Croeso i rifyn gwanwyn 2012 Sylw ar ardal Merthyr

Cydweithfa Bwyd a Llysiau Cyfarthfa yn ennill gwobr Prosiect Cymunedol WWHA

Page 3: Sylw ar ardal Merthyr

3www.wwha.net

Sylw ar ardal Merthyr – Gwanwyn 2012

Darparu cartrefi fforddiadwy ym Merthyr

Fe wnaeth Huw Lewis, AC Merthyr Tudful a Rhymni, a’r Gweinidog Tai, Treftadaeth ac Adfywio, agor yn swyddogol ein datblygiad diweddaraf o gartrefi newydd fforddiadwy o safon uchel ym Merthyr Tudful.

Brewery Mews a Brewery Court yw datblygiad newydd y dref, a adeiladwyd mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac mae’n darparu 20 cartref i bobl leol.

Wedi ei leoli ger Brecon Road, cafodd y datblygiad hwn, sy’n werth £3 miliwn, ei agor yn ffurfiol

gan Mr Lewis ddydd Gwener, 7 Hydref.

Mae’r datblygiad yn cynnwys:

2 randy dwy ystafell wely13 tŷ dwy ystafell wely5 tŷ tair ystafell wely

Mae’r holl gartrefi wedi cael eu hadeiladu i gwrdd â Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru, ac mae’r nodweddion allweddol yn cynnwys paneli solar sy’n helpu i ostwng biliau tanwydd.

I weld fideo am yr agoriad, ewch i: http://tinyurl.com/d2fx4u8

Page 4: Sylw ar ardal Merthyr

4www.wwha.net

Sylw ar ardal Merthyr – Gwanwyn 2012

Mae datblygu rhagor o gartrefi fforddiadwy, cynaliadwy o safon uchel i bobl Cymru yn un o flaenoriaethau pennaf WWHA.

Mae ein rhaglen ddatblygu gyfredol, sy’n werth £101 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd, yn cynnwys prosiectau arloesol ar gyfer preswylwyr sydd ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu, ynghyd â thai anghenion cyffredinol a chyfleusterau gofal ychwanegol. Mae’r rhaglen yn cael ei chefnogi gan £15 miliwn o grant tai cymdeithasol gan awdurdodau lleol sy’n bartneriaid â ni a chan Lywodraeth Cymru.

Mae datblygiadau WWHA ym Merthyr sydd ar y safle ar hyn o bryd, neu a fydd ar y safle’n fuan, yn cynnwys:

• Vulcan House, Merthyr Tudful

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful dros y pedair blynedd ddiwethaf i ailddatblygu’r adeilad rhestredig Gradd 2 hwn, sydd gyferbyn â’n datblygiad yn Brewery Court a Brewery Mews, a gwblhawyd yn ddiweddar. Mae caniatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig wedi cael eu cymeradwyo. Disgwylir i’r prosiect ddechrau y mis hwn (Mawrth 2012) a disgwylir iddo gael ei

Rhagor o gartrefi fforddiadwy ym Merthyr

gwblhau yn ystod haf 2013.

• Rhent yn Gyntaf

Mae’r cynllun Rhent yn Gyntaf yn cynnig dewis canol y farchnad i bobl ar incymau canolig, ac fe wnaethom brynu dau gartref gwag ym Merthyr Tudful fel rhan o brosiect i beilota’r cynllun hwn. Mae’r ddau gartref wedi cael eu gosod i deuluoedd ifanc o’r ardal. Mae Rhent yn Gyntaf yn ceisio darparu atebion tai i’r rhai sydd mewn sefyllfa ariannol sefydlog ac eto sy’n methu prynu cartref ar hyn o bryd oherwydd yr ansicrwydd economaidd.

Dywedodd y Pennaeth Datblygu, Nikki Cole: “Er bod y maes tai i deuluoedd yn rhywbeth y mae gan WWHA gryn brofiad ac arbenigedd ynddo, rydym hefyd yn cydweithio ag awdurdodau lleol ledled Cymru i gwrdd ag anghenion pobl leol sydd ag anawsterau dysgu ac awtistiaeth. Rydym yn edrych ymlaen at y cyfle i ddarparu atebion tai i gwrdd ag amrywiaeth eang o ofynion tai.”

Mae cyllid grant i gynorthwyo datblygu tai cymdeithasol newydd yn brin, ond er hynny, mae’r Gymdeithas wedi llwyddo i sicrhau cyllid er mwyn helpu i ddatblygu amrywiaeth o gyfleoedd ym maes tai yn yr ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu.

Page 5: Sylw ar ardal Merthyr

5www.wwha.net

Sylw ar ardal Merthyr – Gwanwyn 2012

Gwobrau i breswylwyr Merthyr

Mae bwyta’n iachach ar stad Twyncarmel ym Merthyr Tudful yn llawer haws a llawer rhatach erbyn hyn, diolch i grŵp o wirfoddolwyr gwobredig.

Cydweithfa Bwyd a Llysiau Cyfarthfa oedd enillwyr Gwobr Prosiect Cymunedol Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth WWHA yn 2011 – gwobr a noddwyd gan Cambria Maintenance Services,rhan o grŵp WWHA sy’n gwasanaethu cartrefi ledled de a chanolbarth Cymru.

Mae’r grŵp o wyth dynes yn teithio i farchnadoedd ffrwythau a llysiau Caerdydd cyn y wawr bob dydd Iau, gan ddefnyddio fan wedi ei benthyg, er mwyn dod o hyd i gynnyrch lleol ffres a’i brynu am bris gostyngol, ac yna maen nhw’n gallu ailwerthu’r stoc am brisiau fforddiadwy i gymuned Twyncarmel.

Ers dechrau’r cynllun yn 2010 maen nhw wedi gwerthu mwy na 1,000 bag o gynnyrch ffres i gwsmeriaid yn y gymuned leol sydd wrth eu bodd

gyda’r hyn maen nhw’n ei gael.

Fe gawson nhw eu henwebu ar gyfer y Wobr Prosiect Cymunedol gan Helen McShea o fudiad Cymunedau yn Gyntaf.

Ac nid Cydweithfa Bwyd a Llysiau Cyfarthfa oedd yr unig rai o Ferthyr i ennill Gwobr Gwneud Gwahaniaeth yn 2011. Fe gafodd Mary Cassidy ac Andrew Selway, cynrychiolwyr Mount View Angels, Wobr Ysbrydoliaeth arbennig am eu gwaith yng ngerddi cymunol y stad. Fe gawson nhw eu henwebu gan y Cynghorydd lleol, Brian Mansbridge, ac mae’r ddau arddwr brwd yn dod â’r gymuned ynghyd gyda’u gwelyau newydd ar gyfer ffrwythau, llysiau a blodau, a brynwyd gyda chefnogaeth gan Gronfa Amgylcheddol WWHA.

I gwblhau’r goron driphlyg, roedd gan Ferthyr reswm arall dros ddathlu, wrth i’r aelod o Fwrdd WWHA sy’n byw yn y dref, David Davies, gael lle ar restr fer y categori Arwr Tai yng Ngwobrau Tai Cymru 2011.

Merched Cydweithfa Fwyd Cyfarthfa yn pacio bagiau yn barod i’w gwerthu

Page 6: Sylw ar ardal Merthyr

6www.wwha.net

Sylw ar ardal Merthyr – Gwanwyn 2012

Cysylltu Merthyr

Mae WWHA yn un o’r partneriaid sy’n darparu prosiect cynhwysiant digidol sy’n cael ei gyllido gan Cymunedau 2.0 / Llywodraeth Cymru, ac sy’n cael ei gynnal gan Brosiect Ieuenctid a Chymuned Aberfan ac Ynysowen.

Hyd yn hyn, mae dros 879 o bobl wedi elwa ar y prosiect, sy’n ymdrin â dysgu rhagor am unrhyw beth, o sut i wneud y defnydd gorau o ffôn symudol neu Kindle i sgiliau cyfrifiadurol fel e-bostio, Skype, defnyddio’r rhyngrwyd neu siopa ar-lein.

Mae sesiynau allgymorth yn cael eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol ledled y Fwrdeistref Sirol, ac mae nifer o breswylwyr yn cymryd rhan mewn mwy nag un sesiwn.

Yn ogystal, mae un deg tri o breswylwyr lleol wedi gwirfoddoli i fod yn hyrwyddwyr cymunedol, gan helpu eraill i ymuno â’r oes ddigidol. Mae un o’r rhain wedi cael swydd yn ddiweddar.

Yn ddiweddar, bu’r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, yn Nhŷ Pontrhun, un o gynlluniau er ymddeol WWHA ym Merthyr Tudful, ar ymgyrch canfod ffeithiau am ein gwaith arloesol gyda phartneriaid, gan gynnwys Connect Merthyr a Cymunedau 2.0 i wneud technoleg ddigidol yn hygyrch i bawb.

Mae un preswyliwr, Joe Foley, wedi defnyddio’r sesiynau i ysgrifennu blog am brofiadau ei dad yn India yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Page 7: Sylw ar ardal Merthyr

7www.wwha.net

Sylw ar ardal Merthyr – Gwanwyn 2012

“Cyn i mi ddechrau’r sesiynau hyn, nid oeddwn i wedi cyffwrdd â chyfrifiadur, hen sôn am eu defnyddio” meddai Joe, sy’n 68 oed. “Ond mae Laura, ein tiwtor o Connect Merthyr, wedi bod yn hyfryd. Yn y lle cyntaf, roeddwn yn meddwl ‘Ni fyddaf yn gallu gwneud hyn’, ond edrychwch arnaf fi yn awr!”

Fe wnaeth un arall o breswylwyr Tŷ Pontrhun, Lorraine Morgan, sy’n 80 oed ac sydd i’w gweld yn y llun gyda’r Gweinidog) ddangos i’r Gweinidog sut roedd ei sgiliau newydd yn ei galluogi i weld cynnyrch o’i hoff siopau ar-lein.

“Mae’n anghygoel, a dweud y gwir,” meddai. “Dyma fi, yn eistedd gartref, ac rydw i’n cael golwg ar siopau Marks & Spencers a Debenhams. Mae’n beth da iawn i mi, gan nad oes gennym M&S ym Merthyr, ac mae’n ffordd hir i lawr i Gaerdydd.

“Heb y dosbarthiadau hyn, ni fyddwn wedi ystyried defnyddio’r rhyngrwyd o gofio am fy oedran. Mae hyn wedi newid fy mywyd.”

Yn yr 8 mis yn dilyn recriwtio staff cyntaf y prosiect yn Ionawr 2011:

• Bu 731 o bobl mewn 173 cwrs anffurfiol

• Bu 255 o bobl mewn 32 sesiwn flasu

• Bu 213 o bobl mewn 69 sesiwn galw heibio â chymorth

• Mae 23 o grwpiau cymunedol wedi ymwneud â’r prosiect, ac mae 17 yn rhagor wedi cael cynnig.

Mae’r egwyddor o un prosiect yn gweithredu mewn Bwrdeistref, a gafodd ei ddefnyddio gan brosiect

Connect wedi cael ei ddefnyddio fel y model ar gyfer rhaglen ddilynol Cymunedau 2.0 o fis Mawrth 2012 hyd 2015.

Am ragor o wybodaeth am gynhwysiant ariannol, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Mae datblygiad pellach yn y prosiect hwn yn cynnwys cynllun er ymddeol Tŷ Pontrhun, sydd nawr yn beilot ar gyfer buddsoddiad o £1 miliwn mewn technoleg band eang WiFi gan WWHA. Gan ddefnyddio’r cwmni lleol, Boynes, rydym yn bwriadu estyn darpariaeth band eang fforddiadwy i bobl hŷn ym mhob un o’n 92 cynllun er ymddeol ledled Cymru yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Bydd llwytho i lawr 1GB fesul cartref yn costio cyn lleied â £1 yr wythnos i’n preswylwyr.

Page 8: Sylw ar ardal Merthyr

8www.wwha.net

Sylw ar ardal Merthyr – Gwanwyn 2012

PACT Ward Cyfarthfa

Yn ddiweddar, fe wnaeth Alison Chaplin, un o Swyddogion Proseict Datblygu Cymunedau WWHA, sy’n gweithio ym Merthyr Tudful, dderbyn Gwobr Hyrwyddwr Cymunedol yn Noson Wobrwyo Gwirfoddolwyr Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Cyfarthfa am ei gwaith parhaus yn y cyfarfod PACT.

Yn ddiweddar, bu staff WWHA mewn Diwrnod Hwyl yn Ysgol Coed-y-Dderwen, Gellideg, Merthyr Tudful, i helpu’r plant ysgol lleol gyda’u hymdrechion codi arian.

Fe wnaethom hefyd roi pecynnau arbed ynni i bobl sy’n cael budd-daliadau cymwys.

Tai yn chwarae rhan hollbwysigMae tai wedi cael eu cydnabod fel elfen allweddol yn y Protocolau Rheoli Troseddwyr Integredig sy’n cael eu rhoi ar waith mewn menter dan arweiniad yr Heddlu a’r Gwasanaeth Prawf.

Mae Alison hefyd yn mynd i’r cyfarfodydd canlynol ar ran WWHA:

• Bwrdd Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Ward Cyfarthfa

• Fforwm Cynhwysiant Ariannol Merthyr Tudful

• Panel Grantiau Ehangach Trydydd Sector Cyngor Merthyr – gan ddirprwyo’n achlysurol ar y Panel Gwerthuso Technegol

• Partneriaeth Gweithredu Gwledig Merthyr Tudful

• Fforwm Adfywio’r Trydydd Sector - Partneriaeth Trydydd Sector Blaenau’r Cymoedd, gynt

• Fforwm Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles dan arweiniad Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful a Fforwm Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc, Fforwm Cyfranogiad (Ieuenctid)

Ysgol Coed y Dderwen

Page 9: Sylw ar ardal Merthyr

9www.wwha.net

Sylw ar ardal Merthyr – Gwanwyn 2012

Yn ystod chwe mis olaf 2011, fe wnaethom wario £5.7 miliwn ar ailwampio ein cartrefi ledled Cymru, ac rydym wrth ein bodd ein bod ni’n debygol o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012.

Rydym wedi adnewyddu ceginau mewn dros 400 o gartrefi (£1.3 miliwn), a thrwy Gymru gyfan, rydym wedi gwario dros £600,000 ar ailwampio ystafelloedd ymolchi.

Yn yr ardal leol, mae hyn yn

Parhau i fuddsoddi yn ein heiddo

cynnwys buddsoddiad o £100,000 mewn 45 ystafell ymolchi newydd yng nghynllun er ymddeol Tŷ Pontrhun yn Nhroedyrhiw, ynghyd â £44,000 yn adnewyddu rheolyddion bwyleri cymunol y cynllun.

Rydym hefyd yn buddsoddi £1.2 miliwn arall mewn rhaglen fawr i adnewyddu ffenestri, a ddylai wneud ein cartrefi yn fwy cyfforddus, yn gynhesach, yn rhatach i’w gwresogi ac yn llai tebygol o fod angen gwaith cynnal a chadw drud yn y dyfodol agos.

Y diweddaraf am ddatblygiadauLedled Cymru, mae ein rhaglen ddatblygu, sy’n werth £101 miliwn dros bum mlynedd, yn mynd o nerth i nerth.

Rydym nawr naill ai wedi dechrau neu ar fin dechrau gweithio ar fwy na 250 uned mewn pum awdurdod lleol gwahanol. Mae’r unedau hyn yn cynnwys tai anghenion cyffredinol, gofal ychwanegol, anghenion arbennig a llety gofal dementia.

Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi cwblhau cyfanswm o 47 uned ledled Cymru, gan gynnwys tai a rhandai anghenion cyffredinol, ynghyd ag unedau arbenigol tai â chymorth.

Rydym hefyd yn peilota ein menter ‘Rhoi Cynnig Arni Cyn Prynu’ gyntaf,

gydag 16 uned ar gael am rent fforddiadwy, gyda’r dewis o brynu’r cartref ar ôl blwyddyn o denantiaeth lwyddiannus.

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynlluniau datblygu, ewch i:www.wwha.net/ourservices/development

Brewery Court a Brewery Mews, Merthyr Tudful

Page 10: Sylw ar ardal Merthyr

10www.wwha.net

Sylw ar ardal Merthyr – Gwanwyn 2012

Achub morgeisiMae ein cynllun achub morgeisi yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau cymaint o ddeiliaid sydd mewn perygl o weld eu cartref yn cael ei adfeddiannu.

Rydym ymysg nifer prin o gymdeithasau sy’n gweithredu cynllun rydym yn ei gyllido ein hunain, nawr bod yr arian grant gan Lywodraeth Cymru wedi dod i ben.

Mae galw sylweddol o hyd am y gwasanaeth, ac rydym yn ymrwymedig i barhau â’r cynllun achub morgeisi er mwyn helpu i leihau digartrefedd.

Hyd yn hyn, rydym wedi buddsoddi dros £2 miliwn yn y cynllun.

Hyd heddiw, mae WWHA wedi:

• Prynu 31 cartref yn gyfan gwbl – lle mae’r preswylwyr wedi dod yn denantiaid i ni. Mae hyn yn cynnwys 3 cartref a brynwyd heb grant fel rhan o gynllun y talwyd amdano gan y Gymdeithas. Mae 4 teulu arall wedi derbyn cynnig o gymorth fel rhan o’r cynllun hwn.

• Cwblhau 26 benthyciad i alluogi’r preswylwyr i aros yn eu cartrefi fel perchnogion

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynllun achub morgeisi, ffoniwch y rhif rhadffôn 0800 052 2526 Neu ewch i: www.wwha.net/OurServicesMortgageRescue/

Mae’r Gymdeithas newydd ddod â blwyddyn arall o berfformiad ariannol cryf i ben.

Yn gyntaf, fel rhan o fframwaith reoleiddio newydd Llywodraeth Cymru, cawsom radd pasio am farn hyfywdra ariannol, sef y radd uchaf sy’n cael ei dyfarnu, ac mae hynny’n dangos bod gennym ddigon o adnoddau i gwrdd ag ymrwymiadau busnes ac ariannol sydd gennym ar hyn o bryd ac a fydd gennym yn y dyfodol.

Yn ail, mae ein canlyniadau am y flwyddyn yn dangos gwarged a llif arian rhydd a chadarnhaol. Mae hyn wedi ein galluogi i fuddsoddi dros £30 miliwn dros y tair blynedd ddiwethaf yn ein cartrefi presennol i

wella ansawdd ein cartrefi.

Gyda £10 miliwn yn rhagor o fuddsoddiad ar y gweill eleni, rydym yn debyg iawn o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn y dyddiad targed, sef 2012.

Yn barod, mae gennym £35 miliwn o fuddsoddiadau ar gyfer datblygiadau’r dyfodol. A ninnau wedi dechrau rheoli 165 cartref newydd eu datblygu yn ystod eleni yn unig, mae gennym gynlluniau i ddod â 600 yn rhagor i’n portffolio dros y 5 mlynedd nesaf. I wneud hyn, byddwn angen cyllid pellach, ac rydym yn gwneud cynnydd da at y nod, gyda geriad isel a phortffolio mawr o gartrefi o ansawdd uchel sydd heb eu sicrhau ar ein llyfrau.

Perfformiad ariannol cryf gan WWHA

Page 11: Sylw ar ardal Merthyr

11www.wwha.net

Sylw ar ardal Merthyr – Gwanwyn 2012

Gwobrau yn grynoErs ein rhifyn blaenorol o ‘Sylw ar...’, rydym wedi ennill y gwobrau canlynol:

• Cwmnïau Gorau 2012 y Sunday Times. Yn 2012, enwyd WWHA fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, gan gyrraedd yr 8fed safle, i fyny o safle 14 yn 2011.

Yn ogystal, ni oedd yr unig gymdeithas Tai o Gymru i gael gwobr tair seren y Cwmnïau Gorau – gwobr a chwenychir yn fawr.

“Rydw i wedi gwirioni ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, ac ein bod ni ymysg y deg cwmni nid-er-elw gorau yn y Deyrnas Unedig. Mae cyrraedd y raddfa uchaf o dair seren yn wych,” meddai Anne Hinchey. “Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gwmni sy’n cael ei yrru gan werthoedd – bod yn deg, agored, cefnogol, effeithlon a chyfrifol – tuag at ein staff, yn ogystal â phawb rydym yn gweithio gyda nhw ac yn gweithio ar eu cyfer”.

• Roeddem wrth ein bodd yn WWHA pan gawsom ein henwi ymysg y 30 Cwmni mwyaf caredig at deuluoedd yn y Deyrnas Unedig gan Working Families, sefydliad sy’n ymgyrchu dros gydbwysedd rhwng bywyd hamdden a gwaith. Roeddem yn un o ddau sefydliad o Gymru a gafodd le ar y rhestr, sy’n llawn cwmnïau o’r radd flaenaf.

• Fe wnaeth ein Prosiect Digartrefedd Rhagor o Ddewisiadau yn Stoneleigh Manor, ar y cyd â Chyngor Sir Powys, ennill Gwobr Comisiynu Da Hyrwyddo Annibyniaeth 2011 Cymorth

Cymru. Cafodd y prosiect hwn le ar restr fer Gwobr Tai Cymru CIH am ‘wneud y defnydd gorau o stoc.”

• Fe wnaeth Fforwm Cynhwysiant Ariannol Gogledd Cymru, yr ydym yn aelod ohono, ennill Gwobr 2011 Hyrwyddo Annibyniaeth Cynnwys Defnyddwyr y Gwasanaeth am y DVD ‘My Home… Making Every Penny Count’. Ers hynny, mae’r DVD wedi ennill ail wobr – Gwobr MoneyActionNet 2011 gan y darparwyr gwybodaeth am weithredu cymdeithasol, Lemos & Crane.

• Cafodd preswylwyr WWHA ddwy wobr gan TPAS Cymru. Fe wnaeth y grwpiau o Gwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr, a stad Barracksfield yn Wrecsam, ddod i’r brig mewn cystadleuaeth gref gyda grwpiau landlordiaid cymdeithasol eraill yng Nghymru.

• Cafodd ein Prosiect Adfywio Ecogyfeillgar ar Powell Road yn Sir y Fflint le ar restr fer Gwobr Tai CIH y Deyrnas Unedig am Gyflawniad Eithriadol yng Nghymru.

• Cafodd ein cynllun er ymddeol, Sydney Hall Court yng Nghei Connah, sy’n cael ei redeg gan y rheolwr cynllun Rob Holmes, ei gynnwys ar restr fer gwobr Cartref Caredig i Anifeiliaid Anwes y Flwyddyn y Cinnamon Trust.

• Rydym wedi cael Safon Aur Ôl Troed Tai RSPCA.

Page 12: Sylw ar ardal Merthyr

12www.wwha.net

Sylw ar ardal Merthyr – Gwanwyn 2012

Mentrau ecogyfeillgar

Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd drwy ein holl sefydliad, ynghyd â chefnogi ein preswylwyr i allu mwynhau manteision niferus bod yn garedig i’r amgylchedd. Rydym hefyd newydd basio archwiliad blynyddol y Ddraig werdd, gan gyrraedd Lefel 2.

Rydym yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o brosiectau, dan arweiniad Owen Jones, ein Swyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.

Rydym wedi bod yn gosod Pympiau Gwres o’r Ddaear yng Nghlos Pontganol, Llangynidr, ynghyd â safl eoedd ychwanegol yng Nghrughywel, Llanfair Caereinion a’r Ffl int. Mae’r rhain yn brosiectau arloesol, sy’n mynd i gael effaith fawr ar helpu preswylwyr i arbed arian ar eu biliau ynni.

Mae rhai preswylwyr ym Maes yr Onnen, Crughywel, yn talu rhwng

£150 a £200 y mis ar eu biliau trydan, ac maen nhw nawr yn mynd i elwa ar ffenestri newydd, inswleiddio gwell a phympiau gwres o’r ddaear. Bydd camau pellach, fel tynnu eu cawodydd trydan a rhoi cawodydd cymysgu yn eu lle, hefyd yn helpu i leihau eu biliau.

Mae pympiau gwres o’r ddaear ymysg y systemau gwresogi dŵr domestig mwyaf cynaliadwy sydd ar gael ar hyn o bryd, a bydd preswylwyr ar eu hennill drwy gael rheolaeth well ar eu systemau gwresogi. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd gwneud hynny’n arbed arian iddyn nhw.

Yn y llun gwelir y twll turio cyntaf yng Nghlos Pontganol ar gyfer gosod pympiau gwres o’r ddaear.

Bydd yn o’r 10 twll turio yn mynd tua 200 metr i lawr (tua 600 troedfedd).

Page 13: Sylw ar ardal Merthyr

13www.wwha.net

Sylw ar ardal Merthyr – Gwanwyn 2012

Mae prosiectau eraill yn cynnwys:

• Newid tanwydd• Parhau i dreialu dyfeisiau

optimeiddio foltedd • Gweithio gydag Asiantaeth

yr Amgylchedd i ddatblygu cynlluniau llifogydd ar gyfer y cartrefi sydd gennym a allai gael eu heffeithio.

Rydym hefyd wedi buddsoddi dros £15,000 o’n Cronfa Amgylcheddol mewn 29 prosiect ledled Cymru. Mae’r rhain i gyd yn brosiectau dan arweiniad preswylwyr, sydd wedi gwneud cais am gyllid ar lawr gwlad.

Mae prosiectau yn cynnwys datblygu gerddi bioamrywiaeth, gosod gwelyau wedi’u codi ar gyfer

plannu hygyrch, prynu hadau, cyfarpar, tai gwydr a chyfarpar arall.

Rydym yn gweithio’n galed yn barhaus i sicrhau ein bod ni’n defnyddio ac yn ymgorffori technolegau sy’n garedig i’r amgylchedd lle bynnag y medrwn ni ym mhob agwedd ar ein datblygiadau newydd, ynghyd â’n rhaglenni ailwampio.

Er hynny, yn anffodus, mae ansicrwydd ynghylch cyllid wedi arwain at orfod oedi ein cynlluniau i osod paneli PV solar ar doeau ein cartrefi addas. Digwyddodd hyn yn sgil ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth, ac rydym ymysg nifer o ddarparwyr tai cymdeithasol eraill yn y Deyrnas Unedig sydd yn yr un sefyllfa.

Yn y llun, gwelir yr hen storfa fi niau yn Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi cael ei thrawsffurfi o erbyn hyn yn dŷ gwydr, diolch i gyfraniad o £200 gan Gronfa Amgylcheddol WWHA.

Page 14: Sylw ar ardal Merthyr

14www.wwha.net

Sylw ar ardal Merthyr – Gwanwyn 2012

Uwchraddio sgiliau gyda Cymunedau 2.0 a Take Ctrl

Mynediad band eang Wi-fi i breswylwyr hŷn

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu mynediad band eang WiFi ym mhob un o’n 100 o gynlluniau i bobl hŷn ledled Cymru o fewn y ddwy flynedd nesaf, gan fuddsoddi £1 miliwn yn y prosiect.

Rydym eisoes yn gweithio ar gynllun peilot yn Nhŷ Pontrhun, un o’n cynlluniau er ymddeol ym Merthyr Tudful, mewn partneriaeth â’r darparwr o Gymru, Boynes. Bydd pedair llinell, llwybryddion a chyfnerthyddion ar waith yn y cynllun o fis Mawrth 2012 ymlaen, gan alluogi pob preswyliwr i lwytho i lawr 1MG yr un. Bydd y gost i’r preswylwyr yn swm fforddiadwy iawn, sef £1 y cartref fesul wythnos.

Rydym hefyd yn cydweithio â nifer o bartneriaid i uwchraddio sgiliau unrhyw un o’n preswylwyr, beth bynnag fo eu hoedran neu eu profiad blaenorol, fel eu bod nhw’n gallu mwynhau manteision technoleg ddigidol.

Ym Merthyr Tudful, rydym yn gweithio gyda Cymunedau 2.0 ar brosiect Connect Merthyr. Mae hwn yn cefnogi pobl hŷn sydd eisiau dysgu sut i ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau ar y rhyngrwyd, gan gynnwys e-bost, Skype, peiriannau chwilio, Twitter a YouTube. Mae

hefyd yn eu helpu i ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar digidol arall, gan gynnwys ffonau symudol, camerâu a chamerâu fideo.

Daeth Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, ar ymweliad â’r prosiect yn ddiweddar, i weld dros ei hunan yr effaith anhygoel o gadarnhaol y mae’n ei gael ar ei gyfranogwyr hŷn. Yn ogystal, yng ngogledd Cymru, rydym yn cyflogi Jen Bailey, cydlynydd Prosiect Take Ctrl. Mae hon yn bartneriaeth rhwng saith cymdeithas tai, gan gynnwys WWHA. Am ragor o fanylion, ewch i: www.takectrl.org

Hunanasesu a chynllunio ar gyfer y dyfodol

Fel cymaint o gymdeithasau tai eraill, rydym yn cynnal ymarferion hunanasesu trylwyr i weld pa mor dda rydym yn perfformio, ac i’n helpu ni i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Rydym bob amser yn croesawu adborth adeiladol ynghylch unrhyw agwedd ar ein busnes, ein heiddo, neu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynlluniau a’n proses hunanasesu, ewch i:

www.wwha.net/AboutUs/CorporateInformation/Performance/InspectionInformation

Page 15: Sylw ar ardal Merthyr

15www.wwha.net

Sylw ar ardal Merthyr – Gwanwyn 2012

Cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant

Rydym yn parhau i gydweithio â’n contractwyr ac eraill i ddarparu gwaith a hyfforddiant i bobl yn nifer o’r cymunedau lle’r ydym yn gweithio.

Mae Donna Samuel yn un o ddau sydd wedi dychwelyd i weithio a gafodd swyddi parhaol gyda WWHA diolch i JobMatch, Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ddiweddar, fe wnaeth Donna gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones (yn y llun isod) mewn digwyddiad Iechyd a Lles lleol, a manteisiodd ar y cyfle i egluro sut roedd dod o hyd i waith llawn amser wedi trawsnewid ei bywyd.

Mae nifer o’n contractwyr wedi cyflogi prentisiaid o ganlyniad i’r gwaith rydym yn ei gomisiynu. Mae enghreifftiau eraill o’r modd rydym yn cefnogi pobl i ddychwelyd i weithio yn cynnwys:

• Gweithio gyda JobMatch i hyfforddi dau Ymgynghorydd Ynni pwrpasol, a fydd yn lledaenu’r gair ymysg preswylwyr am sut i gael y bargeinion gorau ar danwydd a’r ffordd orau i dorri costau.

• Cefnogi ein contractwyr a chyflenwyr i greu prentisiaethau mewn gwaith trydanol a gosod ffenestri.

• Creu lleoliadau gwaith drwy’r Ganolfan Byd Gwaith a Rhaglen Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau.

• Ac rydym yn ymchwilio i’r cyfleoedd y gallem eu creu drwy ailgylchu.

Strategaeth Newydd ar Gyfranogiad Rydym wedi diweddaru ein strategaeth ar Gyfranogiad Preswylwyr.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.wwha.net/NR/rdonlyres/6C6733C0-FA83-4302-912C-F846D2D3C68F/0/InTouchWinter20112.pdf

Neu, gallwch ddarllen y strategaeth lawn yn: www.wwha.net/NR/rdonlyres/10FD0DC5-E4DD-4B9C-9FC0-EF0F5A83AA1B/0/WHALTPS2011.pdf

Page 16: Sylw ar ardal Merthyr

16www.wwha.net

Sylw ar ardal Merthyr – Gwanwyn 2012

Jackie Bloxham, Rheolwr Tai (Tai er Ymddeol / Tai â Chymorth)029 2041 4083

[email protected]

Jenny Williams, Rheolwr Tai (Anghenion Cyffredinol) 029 2041 [email protected]

Mae Cymdeithas Tai Wales & West wedi ei chofrestru fel cymdeithas elusennol dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965, Rhif 21114R

D AT B LY G U G WASA N A E T H AU E I D D O

Cysylltiadauallweddol

STRATEGOL

TAI

Prif Swyddfa3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam,

Tremorfa, CaerdyddCF24 2UD

Ffôn: 0800 052 2526Ffacs: 029 2041 5380

Gwefan: www.wwha.net

Swyddfa’r FflintUned 2 Parc Busnes AcornAber Road, Y Fflint, Sir y FflintCH6 5YN

E-bost: [email protected]: 0800 052 5205Dilynwch ni ar @WWHA

Anne Hinchey, Prif Weithredwr029 2041 5335

[email protected]

Tony Wilson, Cyfarwyddwr Cyllid029 2041 [email protected]

Shayne Hembrow, Cyfarwyddwr Gweithrediadau029 2041 5362

[email protected]

Lynnette Glover, Pennaeth Tai029 2041 5365

[email protected]

Nikki Cole, Pennaeth Datblygu029 2041 4093

[email protected]

Steve Porter, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo 029 2041 [email protected]