Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

24
MERTHYR TUDFUL RHIFYN 6 | HAF 2014 SYLW AR ARDAL

description

 

Transcript of Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

Page 1: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

MERTHYR TUDFULRHIFYN 6 | HAF 2014

SYLW AR ARDAL

Page 2: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

2 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Cyflwyniad Anne Croeso i rifyn Haf 2014 Sylw ar ardal Merthyr Tudful. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys newyddion am ein gwaith ym Merthyr Tudful yn ogystal ag ar draws Cymru.

Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn hynod o brysur yn WWH. Rydym yn cyflawni ein rhaglen adeiladu newydd fwyaf ers sawl degawd, ac mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i lawer o ddiwygiadau lles gael eu cyflwyno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’r economi yn troi’r gornel ac mae 2014 yn argoeli i fod yn flwyddyn lawer mwy cadarnhaol na’r rhai diweddar.

Rydym wedi helpu ein preswylwyr i ymdopi â’r newidiadau i fudd-daliadau, ac osgoi ein hofnau gwaethaf y byddai llawer o bobl mynd i ddyled. Rydym wedi ategu nifer y staff rheng flaen i allu cynnig rhagor o gymorth i breswylwyr, ac mae ein harolwg diweddaraf o fodlonrwydd preswylwyr yn dangos bod hyn wedi cael derbyniad da. Mae ein gwasanaethau amrywiol yn parhau i ddatblygu, gan gynnwys cyngor ar ddyledion ac arian, help gyda biliau ynni, a chiniawau

poeth wedi’u darparu gan Castell Catering. Rydym yn gwrando ar ein preswylwyr fel eu bod yn llunio’r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud.

Mae ein busnes wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf, felly rydym nawr yn Grŵp o gwmnïau gyda thri is-gwmni yn canolbwyntio ar gynnal a chadw, datblygu a menter gymdeithasol a chyflogaeth. Rydym wedi newid i wneud ein hunain yn fwy effeithlon a defnyddio’r arian rydym wedi ei arbed i adeiladu cartrefi sydd hyd yn oed yn fwy fforddiadwy. Rydym wedi cynyddu maint ac amrywiaeth ein rhaglen adeiladu newydd mewn ymateb i’r angen cynyddol am gartrefi o ansawdd da, wedi’u dylunio’n dda a

Page 3: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

3 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

I gloi, rwy’n gobeithio y bydd y briffi ad hwn yn helpu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwaith yn eich ardal chi a thu hwnt. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni unrhyw dro gyda’ch syniadau a’ch sylwadau am unrhyw agwedd ar ein gwaith.

Yn gywir

Anne Hinchey, Prif Weithredwr, Grŵp Tai Wales & West

ff orddiadwy i’w prynu a’u rhentu. Yn olaf, rwy’n falch iawn o ddweud ein bod nid yn unig wedi cadw ein statws fel y prif sefydliad nid-er-elw yng Nghymru ar restr y Sunday Times o Gwmnïau Gorau, ond hefyd wedi symud dau le i fyny’r rhestr i fod yn rhif 5 ledled y Deyrnas Unedig. Gyda thros 800 o sefydliadau nid-er-elw yn cymryd rhan ym mhroses achredu Cwmnïau Gorau y Sunday Times, rydym yn falch iawn o’n llwyddiant parhaus, sy’n tysti olaethu i’n staff ymroddedig sy’n gweithio’n galed.

Wales & West HousingGroup Structure

Page 4: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

4 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Ledled Cymru, cafodd 213 o gartrefi eu darparu ar rent cymdeithasol a thri ar werth fel dewisiadau ‘cartref-berchnogaeth cost isel’. Nikki Cole yw Pennaeth Datblygu WWH, ac wrth gydnabod bod anghenion tai ar lefelau critigol, dywedodd bod ystod ehangach o bobl nag erioed o’r blaen yn gofyn am dai. Hyd yn oed gyda marchnata tai ar gynnydd, mae llawer o bobl yn dal yn methu prynu na fforddio rhentu. Bydd ein strategaeth ddatblygu yn golygu y bydd WWH yn adeiladu cartrefi ar rent cymdeithasol, rhent fforddiadwy, ar werth a pherchentyaeth cost isel.

Rydym yn chwilio am safleoedd i’w datblygu ac mae ein Bwrdd wedi

Ein rhaglen adeiladu £150m yn parhau ar garlam

cymeradwyo rhaglen adeiladu £150 miliwn dros bum mlynedd i ddarparu mwy na 1,000 o gartrefi.

Mae 2014 yn argoeli i fod yn flwyddyn hyd yn oed yn fwy. Mae WWH ar y safle neu ar fin dechrau gweithio mewn 9 lleoliad, ac yn gobeithio cwblhau dros 550 o gartrefi – nifer drwy fenter arloesol Grant HF Llywodraeth Cymru. Rydym wedi datblygu arbenigedd credadwy fel sefydliad datblygu tai arbenigol ar gyfer pobl sy’n agored i niwed, tai cymdeithasol yn ogystal â thai gofal ychwanegol.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.wwha.co.uk

Ehangodd WWH ei rhaglen ddatblygu sawl blwyddyn yn ôl, ac yn 2013 gwelwyd cynnydd pellach yn nifer y cartrefi a gafodd eu cwblhau

Llun wedi’i gynhyrchu gan gyfrifiadur o’r datblygiad newydd yn New Road, Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr

Page 5: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

5 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Dyma ddadansoddiad o brosiectau a gyflawnwyd gan WWH fesul awdurdod lleol yn 2013:

Coed y Castell, Pen-y-bont arOgwr

cynllun 23 ar rent cymdeithasol

Brython Drive, Caerdydd a Thŷ Gwyn,Caerdydd

9 ar rent canolradd a 3 Perchnogaeth Cartref Cost Isel a 4 ar rent canolradd

West Shore, Conwy

12 ar rent cymdeithasol

Sir Ddinbych 0

Llys Jasmine, Sir y Fflint

63 gofal ychwanegol

Vulcan House, Merthyr Tudful

15 ar rent cymdeithasol

Cwmfalldau, Powys

9 ar rent cymdeithasol

Rivulet Road a Kingsmills Road, Wrecsam

78 ar rent cymdeithasol a Chanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown

Bro Morgannwg 0

Nifer y tai oedd yn cael eu datblygu ar 31 Rhagfyr 2013:

• Maesgwyn & New Road, Pen-y-bont ar Ogwr – 28 ar rent cymdeithasol a 40 ar rent cymdeithasol

• Elm Street, Caerdydd – 10 tŷ er ymddeol

• Flint House a Glan y Don, Sir y Fflint – tŷ er ymddeol a 58 ar rent cymdeithasol

• Mynwent y Crynwyr, Merthyr Tudful – 17 ar rent cymdeithasol

• Kingsmills Road a Rivulet Road, Wrecsam – 50 ar rent cymdeithasol ac 20 ar rent cymdeithasol

• Townmills Road, Bro Morgannwg – 5 ar rent canolradd

Staff Datblygu WWH y tu allan i Gynllun Gofal Ychwanegol/Gofal Dementia Llys Jasmine, Sir y Fflint

Page 6: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

6 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a diwygio budd-daliadau Yn Ebrill 2014 roedd hi’n flwyddyn ers cyflwyno’r ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a gweithrediad parhaus nifer o ddiwygiadau lles eraill. Mae’r newidiadau wedi cael effaith fawr ar lawer o’n preswylwyr, ac mae ein strategaeth i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau wedi bod yn effeithiol iawn.

Cafodd dros 800 o breswylwyr WWH ostyngiad yn eu budd-dal tai yn Ebrill 2013, a chafodd budd-daliadau 12 o deuluoedd eu capio erbyn diwedd mis Medi 2013. Er gwaethaf llawer o lythyrau ac erthyglau yn ein cylchgrawn i breswylwyr, In Touch, ac ar ein gwefan, nid oedd pobl yn barod ar gyfer y newidiadau. Fe wnaethom ymweld â phawb yr oeddem yn meddwl y gallai’r newidiadau effeithio arnyn nhw, sef cyfanswm o dros 1,000 o breswylwyr. Roedd cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda phawb yn rhan hanfodol o’n llwyddiant o ran helpu pobl i ymdopi.

Eglurodd Shayne Hembrow, y Dirprwy Brif Weithredwr: “Rydym wedi ceisio taro ar gydbwysedd rhwng cefnogi preswylwyr a sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu. Mae wedi bod yn bwysig gwahaniaethu rhwng y rhai sydd ‘ddim eisiau talu’ a’r rhai sydd ‘ddim yn gallu talu’. Fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i helpu’r rhai sy’n cydweithio â ni ac yn gwneud yr ymdrech.

Mae WWH wedi gwneud hyn:

• Buddsoddi dros £180,000 y flwyddyn mewn Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth. Crëwyd saith swydd newydd a recriwtiwyd swyddogion i helpu preswylwyr yn uniongyrchol.

• Mae WWH wedi helpu pobl i gynyddu eu hincwm gymaint â £780 y flwyddyn drwy gael budd-daliadau a grantiau, ail-drafod dyledion a gwella rheolaeth ariannol.

• Mae dros 100 o bobl wedi symud i gartref mwy addas, lle’r oedd un ar gael.

• Mae 85% o bobl yn awr yn talu eu rhent yn llawn, sy’n gynnydd o’r 50% oedd yn gwneud hynny ym mis Mai 2013.

Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi dewis aros yn eu cartrefi. Mae rhai wedi gwneud hynny gan mai yn y gymuned

Page 7: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

7 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

honno maen nhw wedi byw erioed, ac nid ydyn nhw’n dymuno symud plant i ysgolion gwahanol, neu eu bod yn agos at lle maen nhw’n gweithio. Yn achos eraill, maen nhw’n methu symud oherwydd nad oes unrhyw gartref llai i symud iddo.

Yn achos rhai o’n preswylwyr, mae’r tebygolrwydd hyd yn oed yn fwy anodd. Ni all preswylwyr anabl sy’n byw mewn cartrefi sydd wedi’u haddasu’n gynaliadwy ar gyfer eu hanghenion symud yn hawdd, ac nid oes gwarant o gael addasiadau mewn eiddo arall yn y dyfodol.

Fe wnaethom hefyd gyhoeddi papur ymchwil ar y broblem hon a lobïo’r Llywodraeth i newid y rheolau ac eithrio preswylwyr anabl mewn cartrefi a addaswyd.

Roedd ein canfyddiadau yn arswydus, gyda chost bosibl o £40m i’r pwrs cyhoeddus yng Nghymru, ac rydym ni a’n partneriaid yn Tai Cymunedol Cymru wedi bod wrthi’n lobïo Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad a rhanddeiliaid eraill i ymgyrchu i berswadio Llywodraeth y Deyrnas Unedig i newid y polisi hwn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.wwha.co.uk/About-Us/News/Pages/Public-money-set-to-be-wasted.aspx

Cymaint fu effaith y data yn ein hadroddiad fel ei fod wedi cael ei ddefnyddio’n helaeth gan y rhai sy’n ymgyrchu yn erbyn ac adrodd ar effaith diwygio lles yng Nghymru, gan gynnwys y Pwyllgor Dethol ar Faterion Seneddol Cymreig, a sesiynau llawn yn y Senedd.

Mae un o’n preswylwyr, Judith Parker, yn byw gyda’i merch Emma, sy’n 21 oed, a’i mab Luke, sy’n 17 oed, mewn byngalo wedi ei adeiladu’n bwrpasol yn Caerau, Caerdydd

Page 8: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

8 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Ym mis Chwefror cyrhaeddodd y cwmni safle uchaf y gynghrair o gwmnïau nid-er-elw yng Nghymru am y drydedd flwyddyn yn olynol ym mhroses Cwmnïau Gorau’r Sunday Times, a oedd yn gosod Tai Wales & West yn y 5ed safle ledled y Deyrnas Unedig. Dan yr un broses, fe wnaeth WWH hefyd gadw safon aur gwobr achrediad tair seren y Cwmnïau Gorau.

Yn ystod yr hydref y llynedd, cafodd WWH ei enwi yn rhestr agoriadol Housing 24 o’r 50 Landlord Tai Fforddiadwy gorau yn y Deyrnas Unedig, gan gyrraedd safle 42.

Mae Vulcan Court, cynllun ailddatblygu Bragdy hanesyddol Vulcan ym Merthyr

Tudful, wedi ennill gwobr Datblygiad Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Tai mawreddog y Deyrnas Unedig 2014, a hefyd wedi cael ei enwi fel un o’r 50 Datblygiad Tai Fforddiadwy Gorau yn rhestr gyntaf Inside Housing.

Cafodd Llys Jasmine, datblygiad gofal ychwanegol a gofal dementia arloesol WWH yn yr Wyddgrug, gogledd Cymru, le ar restr fer categori’r Cynllun Datblygiad Mawr y Flwyddyn Gwobrau Tai’r Deyrnas Unedig.

Yn olaf, cawsom y wobr gyntaf yn y categori Arloesi gydag Ynni Adnewyddadwy yng Ngwobrau Ynni a’r Amgylchedd y Deyrnas Unedig 2014.

Ni yw’r cwmni nid-er-elw gorau yng Nghymru - eto!Y mae wedi bod yn chwe mis arbennig o lwyddiannus i WWH o ran dyfarniadau ac achrediadau.

Page 9: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

9 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Twf Connect24

Ers 2004 rydym wedi bod yn darparu’r gwasanaethau hyn ar gyfer cymdeithasau tai eraill ledled Cymru, a’r llynedd fe wnaethom groesi’r ffi n i Loegr.

Ers 2012, gan weithio dan is-frand y Grŵp, sef Connect24, rydym yn falch iawn o allu adrodd twf dramati g yn y rhan hon o’n busnes dros y chwe mis diwethaf, wrth i ni ennill dim llai nag wyth contract newydd gyda saith sefydliad gwahanol.

Mae ein gwasanaeth Connect24 bellach yn monitro Larymau mewn Argyfwng mewn mwy na 7,700 o gartrefi ledled Cymru, ac yn ateb galwadau ff ôn y tu allan i oriau i 50,000 o gartrefi . Er bod y cynnydd hwn yn ein busnes yn destun

Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydym wedi bod yn ymateb i alwadau larwm mewn argyfwng ein preswylwyr ein hunain a darparu gwasanaeth ff ôn 24 awr / 7 diwrnod yr wythnos sy’n delio â’r amrywiaeth lawn o faterion rheoli tai.

boddhad, rydym yn ymwybodol o’r angen i ddarparu’r un gwasanaeth o safon a pharhau ein perthynas waith ymatebol dda gyda’n holl gleienti aid.

Yn ddiweddar rydym wedi prynu system fonitro gwaith unigol, felly yn fuan byddwn yn gallu cynnig y gwasanaeth newydd hwn i gleienti aid hen a newydd, eto dan is-frand Connect24 WWH.

Page 10: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

10 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Isod gwelir crynodeb o gontractau Connect24:

Sefydliad Gwasanaeth a ddarperir gan Connect24 WWH

Cymdeithas Tai Abbey field Cymru Larwm mewn argyfwng / TeleofalTai Cymunedol Bron Afon Ffôn y tu allan i oriauCymdeithas Tai Charter Ffôn y tu allan i oriauCymdeithas Tai Derwen Ffôn y tu allan i oriauCymdeithas Tai Elim Ffôn y tu allan i oriauGrwp Gwalia Ffôn y tu allan i oriauHafal Ffôn y tu allan i oriauHafan Cymru Ffôn y tu allan i oriauCymdeithas Tai’r Canolbarth Larwm mewn argyfwng / TeleofalCartrefi Dinas Casnewydd Larwm mewn argyfwng / Teleofal a

Ffôn y tu allan i oriauCymdeithas Tai Newydd Larwm mewn argyfwng / TeleofalGrŵp Tai Pennaf Larwm mewn argyfwng / TeleofalTai Calon Larwm mewn argyfwng / Teleofal a

Ffôn y tu allan i oriauTemp2Perm Ffôn y tu allan i oriauTai Cymoedd i’r Arfordir Larwm mewn argyfwng / TeleofalWates Ffôn y tu allan i oriauUnigolion preifat Larwm mewn argyfwng / Teleofal

Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwasanaethau a ddarparwn, cysylltwch â:

Cate Dooher, Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi ar 02920 415386 neu [email protected]

Christine Bowns, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 02920 415341 neu [email protected]

Page 11: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

11 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Castell Ventures- menter gymdeithasol newyddMae Castell Ventures yn gwmni newydd, sy’n rhan o Grŵp Tai Wales & West, ac sy’n ymroddedig i greu rhagor o fuddsoddiad cymdeithasol a menter mewn cymunedau ledled Cymru. Eglura Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp WWH a Chadeirydd Castell Ventures, pam y cafodd ei greu.

“Mae Cymunedau angen cwmnïau moesegol cryf a chyfrifol, sy’n barod i roi blaenoriaeth i gwsmeriaid a gwasanaethu, a gofalu am y cymunedau lle maen nhw’n gweithredu. Maen nhw angen cwmnïau sy’n prynu’n lleol, yn gweithio’n lleol ac yn cyfl ogi’n lleol fel bod buddsoddiadau ac elw yn aros yn y gymuned.”

Dywed Anne: “Bydd gan Castell Ventures lawer o ddimensiynau, a bydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a chynnyrch y mae ein preswylwyr a’n cymunedau yn dweud wrthym eu bod nhw eu hangen. Bydd yn creu cyfl eoedd cyfl ogaeth a hyff orddiant, ac yn cefnogi preswylwyr i gyrraedd eu potensial llawn.”

Yr adran gyntaf yw Castell Catering. Fe’i sefydlwyd ym mis Hydref y llynedd i ddarparu prydau poeth i bobl hŷn yn ein cynlluniau gofal ychwanegol a’r gymuned ehangach. Mae ein gwaith gydag Age Connect Gogledd Ddwyrain

Cymru a’n cynlluniau gofal ychwanegol newydd wedi amlygu’r angen am wasanaethau prydau bwyd poeth, ac roedd Cyngor Sir y Ffl int hefyd yn awyddus i ymchwilio i’r posibilrwydd o greu menter gymdeithasol i greu rhagor o gyfl eoedd cyfl ogaeth a hyff orddiant.

Mae Castell Catering wedi sicrhau swyddi i 15 o bobl, ac erbyn hyn mae’n gweini dros 1,000 o brydau poeth blasus yr wythnos. Lle bynnag y bo modd, mae’r cynhwysion yn lleol ac mae’r adborth gan gwsmeriaid wedi bod yn wych.

Am ragor o wybodaeth am Castell Catering, ff oniwch 0800 052 2526. Gallwch hefyd fynd i’r wefan www.wwha.co.uk

Page 12: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

12 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Adroddiad Blynyddol 2013- cryf, cynaliadwy ac yma ar gyfer y tymor hir

Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol ar gyfer 2013 wedi cael eu cyhoeddi erbyn hyn, a gwelwyd bod 2013 wedi bod yn flwyddyn wych i’r grŵp.

Gyda throsiant o £40 miliwn, fe wnaeth y Grŵp warged o £8.5m a ail-fuddsoddwyd i gefnogi gwariant o £27m ar welliannau fel ceginau, ystafelloedd ymolchi a 213 o gartrefi newydd.

Fel busnes cymdeithasol nid-er-elw, ni thalwyd difidendau cyfranddaliadau ac ni ddyfarnwyd taliadau bonws, oherwydd yn lle hynny aeth yr holl arian tuag at wasanaethau ar gyfer preswylwyr ac i gefnogi cymunedau. Mae cyflawni gwerth am arian i breswylwyr a phartneriaid wrth wraidd y ffordd rydym yn rhedeg ein busnes.

Eglura Tony Wilson, y Cyfarwyddwr Cyllid: “Mae ein strategaeth i ddod â mwy o wasanaethau dan ein gofal ni, rheoli costau’n well a chael gwared ar wastraff wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rydym wedi ailgynllunio gwasanaethau’n radical i ganolbwyntio’n well ar gyflawni gwerth am arian i breswylwyr, ac mae hyn

wedi ein gwneud ni’n fwy effeithlon, gan allu ail-fuddsoddi rhagor o adnoddau er budd ein cymunedau.”

I weld copi o’r adroddiad :http://www.wwha.co.uk/About-Us/Corporate-Information/Pages/Corporate-reports.aspx

Page 13: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

13 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Cambria Maintenance ServicesMae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac erbyn hyn y mae wedi treblu mewn maint bron â bod ers i ni ei sefydlu yn 2010

Ar ddechrau 2013, fe wnaethom ymestyn ein gwasanaethau i ogledd Cymru, sy’n golygu bod Cambria bellach yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw adweithiol i’n holl eiddo ledled Cymru. Rydym yn hynod falch o’r llwyddiant hwn, a’r ffaith bod Cambria yn cyflogi dros 100 o staff ac yn hyfforddi nifer o brentisiaid.

Ein gweledigaeth yw i Cambria barhau i dyfu a chynyddu ei lwyth gwaith. Heb os, mae Cambria wedi ein helpu

i wneud arbedion effeithlonrwydd sylweddol, gydag arbedion o £1.1 miliwn ers ei sefydlu yn 2010. Mae hyn yn cyfateb i 330 o geginau, 380 o ystafelloedd ymolchi neu 21 o gartrefi newydd wedi’u cyllido gan grant. Gallwn adrodd hefyd fod Cambria wedi cynnal 24,500 o atgyweiriadau yn 2013 yn unig, yn ogystal ag adnewyddu 228 o geginau a 466 o ystafelloedd ymolchi.

Page 14: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

14 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Cefnogi cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant

Drwy gydol 2013, fe wnaeth WWH gefnogi 58 o brentisiaethau, cyflawni mwy na 13,500 awr o hyfforddiant a chynnal cyfartaledd o 83.75% o ran y defnydd o lafur a chadwynau cyflenwi lleol.

Rydym hefyd wedi llwyddo nid yn unig i ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant drwy raglen Go Wales, y mae un o gyfranogwyr y cynllun - Libby Price - wedi mynd ymlaen i gael gwaith llawn amser fel rheolwr ein canolfan adnoddau cymunedol newydd yn Hightown, Wrecsam.

Enghraifft arall o leoliad gwaith llwyddiannus oedd myfyriwr Rheoli Digwyddiadau o Brifysgol Morgannwg, Lisa Williams, yn gweithio’n wirfoddol gyda’r tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata. Fe wnaeth Lisa helpu i godi dros £9,000 mewn nawdd ar gyfer Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blaenllaw WWH ym mis Hydref 2013.

Yn olaf, mae Jack Donald, myfyriwr adeiladu, dylunio a rheoli o Brifysgol Leeds, a gafodd leoliad gwaith gwirfoddol gyda’n tîm datblygu yng Ngogledd Cymru, erbyn hyn yn cael ei dalu am ei gyfraniad ar sail ansawdd ei waith.

‘Gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau’ yw ein bwriad, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiannau 2013 gyda chymorth sylweddol pellach ar gyfer cyfleoedd gwaith, cyflogaeth a hyfforddiant ledled Cymru.

Mae Grŵp WWH yn ymrwymedig i gefnogi cymaint â phosibl o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant drwy ei wahanol feysydd busnes.

Yn y llun gwelir y myfyriwr Jack Donald (ar y chwith) gyda Craig Sparrow, Rheolwr Datblygu WWH

Page 15: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

15 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Gostyngiad o 50% yn yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a nodwyd Yn 2013 fe wnaethom adolygu’r ffordd rydym yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac ers hynny rydym wedi cwblhau ailwampiad radical o’n system.

Mae ein dull newydd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer wedi arwain at gwymp enfawr o 50% mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad niwsans a nodwyd - o 1260 o ddigwyddiadau a nodwyd yn 2012 i 625 yn 2013. Roedd grymuso preswylwyr i wneud penderfyniadau gwybodus, gan annog a chynorthwyo preswylwyr i ddod o hyd i atebion parhaol, a chynorthwyo preswylwyr i gynnal eu tenantiaethau drwy roi cymorth perthnasol ar waith yn sylfaen i’n llwyddiant hyd yn hyn.

Mynd yn groes i’r duedd o ran troi pobl allan Datblygiad arall rydym yn hynod falch ohono yw’r gostyngiad yn ein ffigurau ar gyfer troi pobl allan.

Yn ddiweddar, mae’r cyfryngau wedi cyfeirio at gynnydd yn nifer yr achosion o droi tenantiaid allan o dai cymdeithasol, yn enwedig ar ôl cyflwyno’r diwygiadau lles. Fodd bynnag, mewn cyferbyniad llwyr, mae WWH yn mynd yn groes i’r tueddiad penodol hwn.

Yn 2006 fe wnaethom droi allan 3 o deuluoedd oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a 46 oherwydd ôl-ddyledion rhent, sef cyfanswm o 49 achos o droi allan.

Yn 2013 fe wnaethom droi allan 6 o deuluoedd oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a 10 oherwydd ôl-ddyledion rhent, sef cyfanswm o 16 achos o droi allan. Mae’r ffigurau hyn yn

cynrychioli gostyngiad o 67% dros gyfnod o saith blynedd.

Mae Lynnette Glover, Pennaeth Tai yn WWH, yn priodoli’r gostyngiad hwn i ‘newid llwyr yn ein diwylliant, sydd wedi ein gweld ni’n rhoi anghenion ein cwsmeriaid yn gyntaf. Rydym yn gweithio’n galed i helpu pobl i gadw eu tenantiaethau, gan ddefnyddio troi allan fel y dewis olaf. Mae ein dull newydd yn cynnwys paneli rhent arloesol, lle mae’r rhai nad ydyn nhw’n talu’n barhaus yn cael cyfle olaf sylweddol i fynd i’r afael â’u problemau a gwneud trefniant parhaol a fydd yn mynd i’r afael â’u hôl-ddyledion, ac mae’r rhain wedi cael eu canmol gan y drefn farnwrol yng Nghymru.’

Page 16: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

16 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Safon Ansawdd Tai Cymru a mynd i’r afael â thlodi tanwydd

Yn Tai Wales & West rydym yn ymrwymedig i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn ogystal â gwneud ein heiddo mor ecogyfeillgar ag y bo modd. Dyma gipolwg ar rywfaint o’r gwaith rydym wedi’i wneud yn ystod y misoedd diwethaf i’r dibenion hyn:

• Mae’r mwyafrif helaeth o eiddo WWH wedi cael eu hinsiwleiddio (waliau ceudod a llofft)

• Rydym wedi gwneud dros 600 o newidiadau tanwydd i nwy gwres canolog ar gost o tua £1.5 - £2 miliwn

• Rydym wedi gwario tua £1.3 miliwn ar y stoc presennol, gan gwblhau:

34 o osodiadau pympiau gwres o’r ddaear

49 o osodiadau pympiau gwres o’r awyr gyda monitorau a rheolyddion o bell

• Byddwn yn gosod 4 system ynni deallus mewn tai cyfan (gwaith a gynlluniwyd ar gyfer Mai 2014 mewn partneriaeth â Phrifysgolion Caerdydd a Glyndŵr - rhan o’r prosiect SOLCER)

• Roeddem yn enillwyr yng nghategori Arloesi mewn Ynni Adnewyddadwy yng Ngwobrau 2014 Ynni a’r Amgylchedd y Deyrnas Unedig

• Fe wnaeth ein preswylwyr yng nghynllun er ymddeol Western Court ym Mhen-y-bont Ogwr ennill Gwobr Tenantiaid Cynaliadwy’r Flwyddyn 2014 yn y Deyrnas Unedig.

Rydym wedi cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn hyn, ac mae ein sylw parhaus yn parhau i fod ar fynd i’r afael â thlodi tanwydd, gan helpu i wneud cartrefi’n gynhesach a lleihau biliau.

Page 17: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

17 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Dywedodd Tony Graham, un o reolwyr Ymddiriedolaeth Trussell Cymru, “Hoffwn ychwanegu ein diolch i Tai Wales & West am eu rhodd hael, a fydd yn ein galluogi i wella’r gwaith hanfodol y mae ein banciau bwyd yn ei wneud ledled Cymru. Wrth i bobl yng Nghymru weld bod eu hamgylchiadau yn mynd yn fwy anodd, mae Ymddiriedolaeth Trussell yn croesawu ein partneriaeth gyda Tai Wales & West, a’u cydnabyddiaeth o’r heriau y mae llawer o bobl ledled ein gwlad yn eu hwynebu.”

O’r chwith i’r dde: Karen Lewis, Rheolwr Cynllun WWH, Cleide Correia, Tony Graham ac Anne

Hinchey

Cefnogi Ymddiriedolaeth Trussell a banciau bwyd ledled Cymru

Fe wnaeth cynrychiolwyr Ymddiriedolaeth Trussell a chefnogwyr Banc Bwyd Merthyr Cynon gyfarfod â Phrif Weithredwr WWH Anne Hinchey yng nghynllun er ymddeol Tŷ Pontrhun ym Merthyr Tudful, de Cymru, i dderbyn y siec.

Mae WWH, sy’n rheoli dros 9,500 o dai fforddiadwy mewn 12 ardal awdurdod lleol ledled gogledd, canolbarth a de Cymru, wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth a banciau bwyd ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae WWH yn gweithredu mannau casglu ar gyfer Banciau Bwyd mewn llawer o’i gynlluniau er ymddeol ledled Cymru, yn ogystal ag yn ei swyddfeydd yng Nghaerdydd a’r Fflint.

Ledled Cymru mae staff a phreswylwyr WWH wedi cyfrannu dros 640kg o fwyd i fanciau bwyd yn Sir y Fflint, Wrecsam, Caerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â Merthyr Cynon yn ystod y 12 mis diwethaf.

Yn gynharach eleni, rhoddodd Bwrdd Tai Wales & West £5,000 i Ymddiriedolaeth Trussell, y sefydliad sy’n gyfrifol am fanciau bwyd ledled Cymru.

Page 18: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

18 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

The new Hightown Community Resource Centre

Left: The Polish community in Hightown celebrate Christmas at the new HCRC

Ongoing development works at Kingsmills Road, Hightown, Wrexham

Rhedeg Marathon Llundain dros Gymdeithas Strôc CymruFe wnaeth Andrew Pritchard, Swyddog Tai gyda WWH, redeg Marathon Llundain mewn pedair awr, tri munud a 26 eiliad, gan godi mwy na £3,000 er budd Cymdeithas Strôc Cymru.

Cafodd Andy, sy’n gweithio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ei ysgogi pan welodd drosto’i hunan effeithiau dinistriol strôc pan ddioddefodd ei nain gyfres o ymosodiadau.

Llongyfarchiadau i Andy ar redeg ei farathon gyntaf, ac os hoffech gyfrannu arian, gallwch barhau i wneud hynny, ar ôl y digwyddiad, ar ei dudalen Virgin Money Giving:

www.virginmoneygiving.com/AndrewPritchardLondonMarathon2014

Page 19: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

19 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Datblygiadau newydd ym Merthyr TudfulMynwent y Crynwyr – eiddo newydd bron wedi’u cwblhau

Mae ein datblygiad newydd yn Rodericks Terrace, Mynwent y Crynwyr, ym Merthyr Tudful bron â chael ei gwblhau, a bydd eiddo’n cael eu hysbysebu’n fuan ar wefan Dewisiadau Tai newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, www.merthyrhousingchoice.org.uk

Mae’r naw tŷ dwy ystafell wely ac un byngalo dwy ystafell wely wedi cael eu hadeiladu ar hen safle Ysgol Rhyd-y-Grug, ac yn ganlyniad partneriaeth rhwng Tai Wales & West a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Cafodd y datblygiad, a oedd yn werth £2m, ei gyllido’n rhannol drwy Grant Tai Cymdeithasol o £1.25m gan Lywodraeth Cymru, gyda £750,000 yn rhagor o gyllid gan WWH.

Caffael safle newydd yn Abercannaid

Rydym nawr yn gweithio gyda’r Eglwys yng Nghymru er mwyn ailddatblygu Eglwys Sant Pedr a Sant Paul yn

Abercannaid. Bydd y cynllun yn darparu tua 13 eiddo fforddiadwy newydd i’w rhentu, a bydd hefyd yn helpu i gefnogi uwchraddio neuadd yr eglwys at ddefnydd y gymuned ac addoliadau. Y gobaith yw y byddwn yn gallu dechrau gwaith ar y safle yn ddiweddarach eleni.

Fflatiau un ystafell wely arfaethedig yn Nhwyncarmel

Mae gennym breswylwyr ar y stad sydd angen symud i dai llai o faint oherwydd y dreth ar ystafelloedd gwely / y cymhorthdal ystafell sbâr.

Rydym yn awr yn gweithio ar gynlluniau i adeiladu 8 fflat un ystafell wely ar ran o’r cae ger 304 Twyncarmel i’n helpu i ddiwallu’r angen hwnnw.

Bydd ymgynghoriad â phreswylwyr yn cael ei gynnal yn fuan, ond gall preswylwyr fod yn dawel eu meddwl na fydd y cynnig hwn yn atal unrhyw un rhag gallu parhau i ddefnyddio gweddill y cae ar gyfer gweithgareddau hamdden anffurfiol.

Page 20: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

20 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Vulcan Court yn ennill Gwobr Tai uchel ei bri

Mae’r datblygiad nid yn unig wedi ennill Gwobr fawreddog Tai’r Deyrnas Unedig 2014 ar gyfer Datblygiad Bach y Flwyddyn, ond fe’i cydnabuwyd hefyd yng ngwobrau cyntaf 24 Housing fel un o’r 50 Datblygiad Tai Fforddiadwy gorau yn y Deyrnas Unedig.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn hynod o lwyddiannus i Vulcan Court, ein datblygiad newydd a adeiladwyd ar safle’r hen Vulcan House mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Ym mis Ionawr ymunodd yr Aelod Cynulliad a Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru Huw Lewis â ni i agor yn swyddogol ddatblygiad sy’n cynnwys 15 o gartrefi fforddiadwy newydd o ansawdd uchel, sy’n cynrychioli’r bennod nesaf ym mywyd Vulcan House

Page 21: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

21 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

hanesyddol y dref.

Cafodd yr adeilad rhestredig Gradd II ei adeiladu gerllaw Brecon Road - cyn fragdy a chanolfan gweithgarwch y Siartwyr yn y 19eg ganrif – a oedd wedi mynd yn adfail nes i ni ailddatblygu’r safle mewn partneriaeth â Chyngor Merthyr.

Wrth groesawu’r newyddion am lwyddiant Vulcan Court yng Ngwobrau Tai’r Deyrnas Unedig 2014, dywedodd Huw Lewis AC wrthym: “O adeilad adfeiliedig, hanesyddol i lety mawr ei angen ar gyfer Merthyr Tudful, mae Vulcan House yn llwyddiant go iawn. Ar ôl cyfarfod â rhai o’r preswylwyr newydd, rwy’n gwybod eu bod

wrth eu bodd gydag ansawdd eu cartrefi newydd.

“Heb gefnogaeth a dycnwch Tai Wales & West, ni fyddai’r prosiect hwn wedi digwydd, ac rydw i wrth fy modd bod Vulcan House wedi cael ei gydnabod yn gwbl briodol yng Ngwobrau Tai mawreddog y Deyrnas Unedig. Fel yr Aelod Cynulliad lleol, rwy’n llongyfarch pawb a wnaeth hyn yn bosibl.”

Mae’r ailddatblygiad sy’n werth £ 2.2m yn ganlyniad gwaith tîm agos rhwng Wales & West, Cyngor Merthyr, Cadw, Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg a Gwent a disgyblion Ysgol Iau Cyfarthfa.

Page 22: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

22 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Mae Herman Valentin, un o’n Swyddogion Prosiect Datblygu Cymunedol yng Nghaerdydd, hefyd yn weithiwr ieuenctid hyfforddedig. Bydd Herman yn gweithio gyda phobl ifanc o ardal Twyncarmel nid yn unig i ddod i wybod pa fath o gyfleusterau a gweithgareddau fydden nhw’n hoffi eu gweld, ond eu helpu nhw hefyd i ddod o hyd i gyllid a sefydlu unrhyw fenter sy’n deillio.

Mae’r prosiect yn cael ei gyllido gan Sefydliad Paul Hamlyn, ac mae’r partneriaid yn cynnwys:

Sgowtiaid Cymru, Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin (Dr M’z), CaST, Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân (CCYP), Canolfan Galw Heibio i Ieuenctid Senghenydd (SYDIC), Clybiau Bechgyn a Merched, Promo Cymru, Tai Wales & West, Theatr Fforwm Cymru, Shelter Cymru, Mencap Cymru.

Mentrau cymunedolProsiect Dod at ein gilydd – Twyncarmel

Swyddog Cyfranogiad Datblygu Cymunedol WWH, Herman Valentin, sy’n arwain ar y prosiect hwn, ac am ragor o wybodaeth am y prosiect, e-bostiwch [email protected]

Ar ôl i’r preswylwyr ddweud wrthym eu bod eisiau rhagor o weithgareddau wedi’u trefnu ar gyfer pobl ifanc yn yr ardal, rydym bellach yn gweithio gyda Chlwb Bechgyn a Merched Treharris ar y prosiect cyffrous newydd ‘Dod at ein gilydd’ (Getting Together).

HERMAN VALENTINSwyddog Cyfranogiad Datblygu Cymunedol

Page 23: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

23| Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Gwyliau pêl-droed yn boblogaidd gyda phobl ifanc lleol Gan barhau ar thema ymgysylltu â phobl ifanc, rydym hefyd yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Tref Merthyr ar gyfres o wyliau pêl-droed cymunedol.

Cafwyd sesiwn flasu lwyddiannus ym mis Tachwedd 2013, ac fe’i dilynwyd gan Ddiwrnod Chwaraeon y Ddraig yn gynnar ym mis Ebrill a dwy Ŵyl Pêl-droed Mini Clwb Pêl-droed Merthyr ym mis Mai. Mae cannoedd o ddisgyblion ysgolion cynradd o’r fwrdeistref sirol wedi mwynhau’r cyfle i chwarae yn stadiwm Cigg-E y Merthyron o ganlyniad i’r digwyddiadau hyn a noddir gan WWH.

Dywedodd Brent Carter, Rheolwr Datblygu Busnes gyda Chlwb Pêl-droed Tref Merthyr,: “Mae gweld timau yn

dod yma o gymaint o ysgolion cynradd ym Merthyr Tudful yn aruthrol, a megis dechrau y mae pethau. “Ni fyddai Clwb Pêl-droed Tref Merthyr wedi gallu cynnal y digwyddiadau hyn heb nawdd a chefnogaeth anhygoel Tai Wales & West, ac mae ein dyled yn enfawr iddyn nhw. I mi, mae hyn yn ddechrau ar berthynas ddisglair a chyfle i weithio gyda’n gilydd er mwyn cynnig cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon yn ddi-dâl, a dyna’r union beth y mae cymuned Merthyr Tudful ei angen.”

O’r chwith i’r dde: Brent Carter, Rheolwr Datblygu Busnes, y Cyngh. Brendan Toomey, y Maer Graham Davies, Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH ac Elliott Evans, Rheolwr Datblygu Cymunedol gyda’r timau buddugol

Page 24: Sylw ar ardal merthyr tudful haf 2014

24 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth

– gwneud gwahaniaeth

Un achos o’r fath yw Mrs D. Mae hi’n byw mewn tŷ tair ystafell wely gyda’i phartner a dau o blant ifanc. Roedd hi’n cael anhawster talu’r gwahaniaeth ar ôl i’w budd-dal tai gael ei leihau. Hyd yn oed gyda chymorth Sharon i ostwng ei dyledion a chyllidebu’n fwy gofalus, ni allai Mrs D fforddio i aros lle’r oedd yn byw. Gyda phrinder llety llai o faint ar gael yn nalgylch ysgol ei mab, roedd symud yn anodd, er yn ffodus, daeth fflat dwy ystafell wely yn un o ddatblygiadau newydd WWH ar gael, ac roedd Ms D yn gallu symud yno. Mae hi bellach wedi ymgartrefu ac yn hapus yn ei chartref newydd. Mae ein Swyddogion Cefnogi Tenantiaid yn parhau i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau rhai o’n preswylwyr mwyaf agored i niwed

ledled Cymru, ac yn unman yn fwy felly nag ym Merthyr Tudful. Dyma un enghraifft yn unig o’r math o waith a wneir a’r effaith gadarnhaol y gellir ei gyflawni.

Mae tua 65 o’n preswylwyr wedi cael eu heffeithio gan y dreth ar ystafelloedd wely ym Merthyr Tudful. Mae Sharon Jones, ein Swyddog Cefnogi Tenantiaeth sy’n gweithio yn ardal Merthyr, wedi bod yn cefnogi pob un o’r preswylwyr hyn i helpu i dalu neu symud i gartref mwy addas. Hyd yn hyn, mae 79% yn llwyddo i dalu, rhai gyda chefnogaeth y cyngor, ac mae 11 wedi cael cymorth i symud.

SHARON JONESSwyddog Cefnogi Tenantiaeth