Stôf WhisperLite MSR
description
Transcript of Stôf WhisperLite MSR
Stôf WhisperLite MSR
Dyma enghraifft o sut y gellid llunio cyflwyniad PowerPoint ar gyfer Uned 30 Tasg 1
Er mwyn cyflawni’r dasg bydd yn rhaid i chi gynnwys:
• Disgrifiad o’r stôf – beth y mae’n ei wneud a phwy sy’n ei chynhyrchu
• Sut y datblygodd stofiau gwersylla• Pa danwydd sy’n cael ei ddefnyddio, a pham?• Hanes MSR (Mountain Safety Research)• Gwahanol rannau MSR• Manteision ac anfanteision y stôf• Gwasanaeth a gwarant• Ym mhle y gellir ei phrynu.
Stôf WhisperLite MSR
MSR – Mae stôf Whisperlite, a gynhyrchir gan Mountain Safety Research yn un o’r rhai mwyaf amlbwrpas ar y farchnad.
Y mae’n costio oddeutu £89.99
http://www.flickr.com/photos/mooseblend/2600660158/
Stôf WhisperLite MSR- Beth yw hi?
Gan amlaf cyfeirir at y stôf fel y ‘WhisperLite,’ ac mae’n un o’r stofiau mwyaf poblogaidd ymhlith defnyddwyr proffesiynol a phobl awyr-agored. Mae’n gallu defnyddio amrywiaeth eang o danwydd hylif gan gynnwys petrol, meths neu danwydd coleman. Dylech felly allu dod o hyd i danwydd ar ei chyfer yn unrhyw ran o’r byd.
Wedi ei phacio nid yw’n cymryd llawer o leGallwch ei rhoi mewn padell neu sosban i’w charioMae’n ysgafn – dim ond 330 gramGall ferwi litr o ddŵr mewn dim ond 3 ½ munudGall y defnyddiwr ei hunan roi gwasanaeth iddi Mae ganddi system unigryw o lanhau ei hun trwy ‘ysgwyd’Mae ganddi 3 coes sy’n ei gwneud yn sefydlog ar dir anwastad.
Offer gwasanaethu
http://www.flickr.com/photos/wanderlinse/4663932060/
Stôf WhisperLite MSR - Sut y datblygodd stofiau gwersylla
Mae dyn yn wastad wedi defnyddio gwres i goginio – tanau agored i ddechrau
Datblygwyd y stôf danwydd gyntaf gan gwmni Primus o Swedenyn y1890au. Defnyddiwyd stôf Primus gan Shackleton.
Datblygwyd stôf gyntaf MSR, y Model 9, yn 1973
http://www.flickr.com/photos/spilt-milk/209070722/
Stôf WhisperLite MSR - Tanwydd
Mae’r WhisperLite yn gallu defnyddio gwahanol danwyddau.
Gall ddefnyddio amrywiaeth eang o danwyddau sy’n seiliedig ar olew, gan gynnwys diesel. Gall ddefnyddio petrol di-blwm neu danwydd Coleman, neu baraffîn. Er mwyn i’r stôf weithio ar ei gorau dim ond y tanwydd glanaf y dylid ei ddefnyddio.
Tanwydd Coleman yw’r cyflymaf i ferwi dŵr, a petrol yw’r ail orau.
Mae petrol a diesel ar gael ym mhobman, ond maent yn danwyddau budr felly bydd y llosgydd yn hel baw yn gyflym. Faint o amser mae’n ei gymryd i ferwi 1 litr o ddŵr
Tanwydd Coleman 3.5 munudPetrol 4.4 munud
Stôf WhisperLite MSR - Hanes cwmni MSR
1971 sefydlu’r cwmni – dylunio matres sy’n chwythu ei hun i fyny
1973 Y stôf danwydd gyntaf
2007 Y stôf danwydd gyntaf i ddefnyddio gwres pelydrol.
1984 Cyflwyno’r stôf WhisperLite
Stôf WhisperLite MSR – Manteision ac anfanteisionManteision
Gwydn Tanwydd ar gael yn hawddLlosgi’n boeth iawnBerwi’n gyflymPacio i le bychan iawnPosib ei defnyddio ar uchderPartiau ar gael yn rhwyddGall y defnyddiwr ei thrin ei hunanSystem lanhau trwy ysgwyd
Anfanteision
CostusY botel danwydd yn cymryd llawer o lePetrol yn achosi huddygl Nid yw’r coesau mor gadarn
Mae’r WhisperLite yn dod gyda’i system ei hun o lanhau trwy ‘ysgwyd’. Wrth ysgwyd y stôf mae pigwr bychan yn glanhau’r nosl fel bod yr anwedd tanwydd yn gallu mynd drwyddo yn effeithlon. Os nad yw hynny’n gweithio gall y defnyddiwr dynnu’r stôf yn ddarnau a rhoi gwasanaeth iddi ei hunan. Gan amlaf mae angen ei glanhau os oes huddygl yn cronni yn y nosl anwedd. Gallwch brynu partiau newydd ym mhob rhan o’r byd bron. Mae gwarant safonol o 12 mis gyda’r stôf.
Casgliad o bartiau ac offer
Stôf WhisperLite MSR – Gwasanaethu a phartiau
Stôf WhisperLite MSR - profion Dylid archwilio unrhyw stôf cyn ei defnyddio ac ar ôl ei defnyddio. Mae hyn yn arbennig o wir os yw’r offer yn cael ei ddefnyddio gan grŵp o bobl e.e. gan Ganolfan Awyr Agored. Os oes amheuaeth ynglŷn â pherfformiad y stôf dylid mynd â hi at rywun mwy cymwys. Os nad oes person mwy cymwys ar gael NI DDYLID defnyddio’r stôf. Beth i’w wirio?Bod y llinellau tanwydd yn ffitio’n dynn (ddim yn gollwng)Bod y breichiau a’r coesau yn gadarnBod caead y botel danwydd yn dynnDim huddyglDim hisian abnormal ar ôl preimio’r stôf (pwmpio’r botel)Dim tanwydd yn gollwng ar ôl preimioDim craciau yn y llinell danwydd, a’r pibelli heb fod yn gollwngYr handlen addasu yn gadarn ac yn gweithio’n iawn. Y llinell danwydd yn gyfan ac wedi ei gosod gyda’i gilydd yn iawn.
OS OES UNRHYW AMHEUAETH – PEIDIWCH Â’I DEFNYDDIO
Stôf WhisperLite MSR – Y mhle allwch chi ei phrynu? Mae’r WhisperLite ar gael yn rhwydd yn y Deyrnas Unedig, ym mhobman o siopau nwyddau awyr agored rhyngwladol mawr i siopau bach annibynnol. Gallwch ei phrynu ar-lein hefyd.
Dyma rai siopau sy’n ei gwerthu.Cotswold OutdoorJoe BrownField and Trek
Mae’n cael ei dosbarthu yn y Deyrnas Unedig ganFirst Ascent (UK) LtdUnits 2-7Limetree Business ParkMatlockDerbyshireDE4 3EJ
http://www.flickr.com/photos/simonov/2620291202/
Stôf WhisperLite MSR - Lle i gael gwybodaeth ychwanegol?
http://cascadedesigns.com/msr/stoves/expedition-stoves/whisperlite-internationale/product
http://cascadedesigns.com/en/msr
http://homepage.mac.com/inov8/Compass/msrhistory.html
http://en.wikipedia.org/wiki/Mountain_Safety_Research