Pecyn Gweithgareddau G∑yl Feithrin Y Tywydd a’r TymhorauSut mae’r tywydd? Dwedwch chi, dwedwch...
Transcript of Pecyn Gweithgareddau G∑yl Feithrin Y Tywydd a’r TymhorauSut mae’r tywydd? Dwedwch chi, dwedwch...
-
Pecyn Gweithgareddau G∑yl Feithrin
Y Tywydd a’r Tymhorauwww.mym.co.uk
-
www.sainwales.comffôn 01286 831.111 ffacs 01286 [email protected]
Suo Ganeuon CDCD yn cynnwys 20 o hwiangerddi hen a newydd i suo’r babi i gysgu
Hwyl Wrth Ganu CD26 o ganeuon traddodiadol a gwreiddiol i’r plant lleiaf yn cael eu canu gan Mynediad am Ddim - gyda thafl en eiriau
Caneuon Gwerin i Blant CDCaneuon traddodiadol i blant yn cael eu canu gan Plethyn
Caneuon Tecwyn y Tractor CD12 o ganeuon hwyliog am Tecwyn
yn cael eu canu gan Bryn Fôn
Binis Jac y Jwc a Sali Mali
SuperTed Pobol y Dotiau DVDArwr arallfydol Cymru ar DVD am y tro cynta
Bob y Bildar DVD2 DVD yn y gyfres - llais Bryn Fôn
Myffi n y Mul Seren Wib & Cic Mul DVD
Nodi DVD6 DVD yng nghyfres Nodi
Tomos a’i Ffrindiau DVD5 DVD o Ynys Sodor - llais John Ogwen
Ffi -ffi a’i Ffrindiau DVD3 DVD yn y gyfres
DVDs eraill gan…Wil Cwac Cwac - Smot y Ci - Dwdlam Megamics - Jini Mê - Rala Rwdins Barrug - Wynff a Plwmsan - Sali Mali Sam Tân - Pentre Bach - Holi Hana…
DVDs a CDs i blant
www.safleswyddi.com
Gwefan Swyddi iSiaradwyr Cymraeg
safleswyddi
-
Pecyn Gweithgareddau G∑yl Feithrin
Y Tywydd a’r TymhorauDyma gyflwyno pecyn o weithgareddau a chryno ddisg o ganeuon ar y thema ‘Y Tywydd
a’r Tymhorau’, i gyd-fynd â thema’r „yl Feithrin eleni. Mae’n bleser cyflwyno adnodd
sydd yn llawn o awgrymiadau cyffrous ac ymarferol ar sut i ddarparu profiadau byw ac
amlsynhwyraidd i blant ifanc.
Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau wedi cael eu lleoli yn yr ardal chwarae y tu allan. Bydd
cael profiadau uniongyrchol o’r tywydd a newidiadau yn y tymhorau yn ehangu dealltwriaeth
plant o’r byd o’u cwmpas.
Gobeithio bydd y cyfle i ddysgu mwy am y tywydd a’r tymhorau yn un llawn hwyl ac yn
hybu chwilfrydedd naturiol y plant.
DiolchHoffwn ddiolch yn fawr iawn i Jen Evans, Ymgynghorydd Blynyddoedd Cynnar / Y Cyfnod
Sylfaen, am lunio’r pecyn yma yn arbennig ar gyfer yr „yl Feithrin. Diolch yn fawr hefyd i
Paul Gregory, Esteem Music, am gyfansoddi’r caneuon gwreiddiol a chynhyrchu’r cryno ddisg
yn arbennig i gylchoedd y Mudiad ar y thema ‘Y Tywydd a’r Tymhorau’. Llawer o ddiolch
i’r Brodyr Gregory am berfformio’r caneuon ar y cryno ddisg, ac i blant o Ysgol Gynradd
Brynaman am eu cyfraniad i rai o’r caneuon.
Iola Jones
Cyfarwyddwr Marchnata Mudiad Ysgolion Meithrin
�
-
�
Y Tywydd a’r Tymhorau
Cynnwys Tudalen
Rhagair 3
Syniadau am Weithgareddau Cyffredinol ar y Thema 4
Glaw 8
Y Gwynt �0
Yr Haul �3
Yr Hydref �7
Y Gaeaf �8
Geiriau’r Caneuon �0
-
3
Rhagair
Y Tywydd a’r TymhorauEr mwyn amgyffred gwahanol fathau o dywydd, a’r newidiadau yn y tymhorau,
mae’n hanfodol bod plant yn cael profiadau uniongyrchol. Golyga hyn bod angen
cynllunio a chreu sefyllfaoedd lle bo’n ymarferol bosib.
Mae’r Cyfnod Sylfaen yn rhoi pwyslais mawr ar ddefnyddio’r ardal tu mewn a’r
ardal tu allan fel un amgylchedd dysgu er mwyn rhoi amrywiaeth o brofiadau byw
i’r plant. Mae’r ardal tu allan yn cynnig cyfoeth o brofiadau trwy’r flwyddyn ym
mhob tywydd. Cofiwch am yr hen ddywediad:
‘Does dim y fath beth â thywydd anffafriol, dim ond dillad anaddas.’
“Dylai amgylchedd y Cyfnod Sylfaen hybu sgiliau darganfod ac annibyniaeth a
rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio’r amgylchedd awyr agored fel adnodd ar gyfer
dysgu plant.”
(Fframwaith Cyfnod Sylfaen ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru, Ionawr 2008)
Yn y pecyn hwn ceir amrywiaeth o weithgareddau i ddatblygu’r thema ar draws y
meysydd dysgu yn yr awyr agored yn bennaf.
Cofiwch bori trwy Llyfr 10, Tywydd a Thymhorau (Cynllun yr Enfys, Mudiad Ysgolion
Meithrin) a Phecyn Adnoddau Cam wrth Gam (Mudiad Ysgolion Meithrin) am ragor
o syniadau ar y thema. Mae’r CD-Rom Byd Geiriau hefyd yn cynnig
gweithgareddau ar y tywydd a’r tymhorau fel un thema i
ddatblygu geirfa plant bach.
-
44
Syniadau am Weithgareddau Cyffredinol ar y ThemaYstyriwch faint mae plant yn ei ddysgu ac yn ei ddeall am y tywydd wrth edrych drwy’r
ffenest?
Ewch â’r plant allan i holi ‘Sut mae’r tywydd heddiw?’
Cofiwch fod symud a chanu rhigymau yn help i gofio patrymau iaith. Canwch ganeuon
traddodiadol am y tywydd, neu lunio rhai syml eich hunan ar dôn gyfarwydd i’r plant wrth
drafod y tywydd yn ddyddiol e.e.
Mae hi’n bwrw glaw,
Mae hi’n bwrw glaw,
Pit pat, pit pat,
Mae hi’n bwrw glaw.
(tôn: ‘Mae’r ffermwr eisiau gwraig’)
Sut mae’r tywydd? Sut mae’r tywydd?
Dwedwch chi, dwedwch chi.
Mae hi’n __________________.
Mae hi’n __________________.
Ydy wir, ydy wir.
(tôn: ‘Frère Jacques’, allan o Pecyn Adnoddau Cam Wrth Gam, Mudiad Ysgolion Meithrin)
Mae dysgu plant yn fwyaf effeithiol pan fo’n codi o brofiadau uniongyrchol
Mae cael profiad byw o’r tywydd yn brofiad amlsynhwyraidd. Rydym yn gwybod fod plant yn
dysgu’n well trwy ddefnyddio’u cyrff a’u holl synhwyrau.
Gadewch i’r plant gofnodi’r tywydd trwy dynnu llun / gwneud marciau ar fwrdd du tu allan
neu osod symbol cywir o’r tywydd ar fwrdd tu allan. Neu beth am gymryd tro i gofnodi’r
tywydd ar glipfyrddau neu ar fyrddau gwyn bach – ‘Pwy yw gohebydd y tywydd heddiw?’
Dyma gyfle i’r plant ddechrau deall ysgrifennu i bwrpas.
-
��
Syniadau pellach:
Creu gorsaf dywydd tu allan (gosod poteli plastig i ddal y glaw,
hongian gwahanol bethau sy’n symud yn y gwynt, gwneud deial haul
syml o ddarn o gerdyn neu blastig).
Stiwdio deledu – gwneud sgrin deledu allan o focs mawr,
meicroffon a chamera teledu
‘Bore da / Pnawn da
Dyma’r tywydd.
Mae hi’n braf heddiw.’
Ymestynnwch yr iaith fel sy’n briodol e.e. ‘Mi fydd hi’n bwrw glaw heno. Mi fydd hi’n sych
ac yn wyntog yfory’. Am ragor o syniadau am ragolygon y tywydd ar y teledu darllenwch
dudalennau �4 a �� o Llyfr 10, Tywydd a Thymhorau (Cynllun Yr Enfys - Mudiad Ysgolion Meithrin).
Gwnewch ddefnydd o adnoddau’r Mudiad sy’n ymwneud â’r tywydd a’r tymhorau
– mae yna adnoddau gwych ar gyfer gorsaf dywydd:
Poster a chardiau Y Tywydd
Poster a chardiau Y Tymhorau
Poster Dyddiau’r Wythnos
Heb anghofio:Syniadau ‘Y Tymhorau ym Myd Natur’ ym mhecyn ‘Adnabod ein Byd’ (Mudiad Ysgolion Meithrin)Pecyn ‘Tedi Twt’ – gwisgo Tedi Twt yn addas ar gyfer y tywydd e.e. ‘Mae hi’n bwrw glaw
heddiw, Tedi Twt. Rhaid iti wisgo côt law, welis ac ymbarél.’
Beth am gael tedi a’i wisgo yn ôl y tywydd? Mae dillad i ffitio tedi ar gael o siopau
The Bear Factory neu oddi ar y wefan www.thebearfactory.co.uk
-
��
Gweithgareddau sy’n ymwneud
â’r tywydd yn gyffredinol:-Creu bocs propiau tywyddCasglu amrywiaeth o bethau sy’n gysylltiedig â’r tywydd a’u rhoi mewn bocs neu fasged
e.e. dillad ac esgidiau amrywiol, sbectol haul, eli haul, ymbarél, melin wynt, wind chimes,
rainshaker, teganau byd bach fel cadair haul, barcud, dyn eira, lorri graeanu.
Cymryd tro i daflu dis mawr gyda symbolau’r tywydd arno. Yna dewis eitem o’r bocs/basged
sy’n cyfateb i’r tywydd ar y dis.
Gellir hefyd ychwanegu llyfrau am y tywydd i sbarduno gwaith trafod.
Mae dis mawr gwag i’w gael o gwmni Craftpacks www.craftpacks.co.uk
Gêm amser cylch (i’w chwarae tu mewn neu’r tu allan). Mae’n well chwarae’r gêm
hon gyda gr∑p bach o blant.
Rhowch y plant i eistedd mewn cylch. Gosodwch gasgliad o ddillad addas i bob tywydd yng
nghanol y cylch.
Oedolyn i alw e.e. Mae hi’n bwrw glaw.
Mae hi’n boeth.
Mae hi’n oer.
Mae hi’n braf.
Mae hi’n bwrw eira.
Yna’r plant yn mynd i’r canol i chwilio am ddilledyn sy’n gweddu i’r tywydd ac yn ei wisgo.
Gosod dillad ar y lein.
Defnyddio’r dillad o becyn Tedi Twt neu ddillad go iawn a’u hongian ar y lein tu allan.
Hongian set o ddillad haf.
Hongian set o ddillad gaeaf.
Neu beth am ddod o hyd i ddillad Tedi Twt wedi’u cuddio o gwmpas tu allan, yna’r plant i
ddod o hyd i’r dillad cywir a’u gosod ar y lein.
Gêm barau (ar gyfer � - 4 chwaraewr)
Bydd angen paratoi nifer o gardiau o luniau dillad a chardiau o symbolau’r tywydd.
Troi’r cardiau wyneb i waered a’u gosod ar lawr neu ar fwrdd. Pob plentyn i gymryd tro i
godi dau gerdyn sy’n cyfateb, naill ai dau gerdyn sydd yr un fath neu gerdyn o ddilledyn
sy’n cyfateb i’r tywydd. Y chwaraewr gyda’r nifer fwyaf o gardiau sy’n ennill.
■
■
■
-
77
Gêm gyfatebu (ar gyfer 4 chwaraewr)
Bydd angen paratoi 4 cerdyn A4 wedi lamineiddio, gyda 4 darn o felcro arnynt i ludo 4 cerdyn.
Rhowch lun o’r haul ar y cerdyn cyntaf, llun o’r glaw ar yr ail, llun o’r gwynt ar y trydydd, a llun
o’r eira ar yr un olaf.
Paratowch 4 cerdyn yr un o luniau sy’n cyfateb i’r 4 math o dywydd, gan ludo darn o felcro ar
gefn bob un.
Gosodwch y cardiau wyneb i waered ar y bwrdd neu ar y llawr.
Gofynnwch i bob plentyn yn ei dro godi cerdyn a’i osod ar ei gerdyn ef os yn gywir e.e. sbectol
haul i’w gosod ar gerdyn yr haul.
Y cyntaf i osod 4 cerdyn yn gywir sy’n ennill.
Dawnsio i synau offerynnau taro
Defnyddio offerynnau taro i gynrychioli’r tywydd gwahanol a symud yn briodol.
Maracas neu rainstick ar gyfer y glaw (mae rhagor o awgrymiadau ar gael ar dudalen �8
Llyfr 10, Tywydd a Thymhorau (Cynllun Yr Enfys – Mudiad Ysgolion Meithrin).
Gorau oll os yw’r plant yn cael cyfle i wneud offerynnau eu hunain neu ddefnyddio offer bob
dydd i greu’r synau priodol (darllenwch dudalennau � - �, ‘Gwneud Offerynnau Cerdd’ Pecyn
G∑yl Feithrin ‘Adar ac Anifeiliaid’ am ragor o syniadau).
Symud i gerddoriaeth e.e. Pedwar Tymor - Vivaldi; ‘Walking in the Air’.
Jig- sôs
Talk about Weather Puzzles (pecyn o � jig-sô - glaw,
gwynt, haul, storm, eira a niwl). Maent yn wych ar gyfer
trafod y tywydd; ar gael o Hope Education, Pre-School.
■
-
88
GlawMae stori Ryan a’i Esgidiau Glaw Gwych (Gwasg y Dref Wen) yn stori wych i sbarduno
gweithgareddau tu allan, ac i roi cyfleoedd gwych i blant gael profiadau go iawn yn y glaw
ac i fwynhau pyllau d∑r!
Mae Ryan wrth ei fodd gyda’i esgidiau glaw coch newydd. Mae’n eu gwisgo nhw ar unwaith
ac yn gwrthod eu tynnu i ffwrdd. Mae arno eisiau sblasio yn y glaw ond, yn anffodus, does
dim golwg o law! Yna mae mam-gu’n cael
syniad...
Gweithgareddau
Gadewch i’r plant fynd allan yn y
glaw a cherdded trwy byllau d∑r. Yna
‘stompio a sblasio’ ynddynt fel Ryan.
Beth sy’n digwydd i’r d∑r wrth iddynt
neidio yn y pyllau? Gwnewch olion
welis ar hyd llwybr neu ar draws yr
iard.
Gadewch i’r plant fynd ar gefn beic/
sgwter trwy’r pyllau d∑r ac yna
gadael olion ar yr iard neu ar hyd
llwybr.
Ychwanegwch hylif golchi llestri at y
d∑r yn y pyllau, a gadewch i’r plant arbrofi!
Ychwanegwch ychydig o liw at y d∑r yn y pwll a rhowch gychod bach i hwylio arno.
Rhowch hwyaid plastig i nofio ar y pwll. Canwch ‘Tair o hwyaid bach Fferm T¥ Gwyn’
(allan o Rhifau, Caneuon a Rhigymau – Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol).
Rhowch fachyn yn sownd wrth hwyaid plastig. Gofynnwch i’r plant geisio dal un
hwyaden ar y tro gan ddefnyddio ffon â bachyn arni. Gallwch rifo’r hwyaid o � - �,
� – �0, neu rifo’r smotiau sydd ar bob hwyaden (mae set o hwyaid Hook A Duck ar
gael o gatalog Craft Packs www.craftpacks.co.uk).
Beth am dynnu llun / ysgrifennu gan roi offer marcio amrywiol mewn pwll d∑r neu
ddefnyddio brigau, plu, neu gerrig i farcio mwd?
■
■
■
■
■
■
■
-
��
Oes nad oes pyllau go iawn beth am greu rhai
trwy lenwi tuff spot trays (ar gael o
gatalogau adnoddau addysgiadol neu
mewn archfarchnadoedd sy’n gwerthu
offer adeiladu). Gadewch i’r plant eich
helpu i lenwi rhain â d∑r gan ddefnyddio
cynhwysion gwahanol, neu defnyddiwch biben dd∑r
os yn gyfleus. Mae'r rhain yn wych ar gyfer creu amgylchoedd
gwahanol ar gyfer teganau byd bach. Beth am eu llenwi â phridd
a gadael i’r glaw ddiferu arno i wneud cacennau / teisennau mwd?
Ychwanegwch ddeunyddiau fel pasta neu bast papur wal at y d∑r, a gadewch i’r plant sylwi
beth sy’n digwydd a sut mae’n teimlo.
Gellir eu defnyddio i greu amgylchedd addas ar gyfer canu caneuon fel ‘Pum
crocodeil yn nofio yn yr afon’ neu ‘Tri broga boliog braf’ (Rhifau, Caneuon a
Rhigymau, Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol).
Ychwanegwch ddeunyddiau gwahanol at y d∑r e.e. sbageti.
Gadewch i’r plant arbrofi gyda d∑r yn symud gan ddefnyddio cafn d∑r, pibau glaw/
cafnau plastig, caniau d∑r, bwcedi ac yn y blaen.
Anogwch y plant i arsylwi ar y glaw yn diferu e.e. gosodwch ddrych (na ellir mo’i
dorri) ar y llawr a gadewch i’r glaw ddiferu arno, neu adael i’r glaw ddiferu ar ddarn
mawr o bapur lliw. Gall y plant ychwanegu paent powdwr ar y papur neu ddiferu
d∑r wedi’i liwio dros y papur.
Casglwch barau o esgidiau glaw o bob lliw a maint. Gofynnwch i’r plant eu
dosbarthu yn barau yn ôl lliw, patrwm neu faint. Beth am eu gosod mewn rhes o’r
un lliw neu o’r mwyaf i’r lleiaf? Ydy’r plant yn gallu dod o hyd i bâr sydd yn eu ffitio
er mwyn iddynt allu ‘stompio a sblasio’ fel Ryan?
Manteisiwch ar bob cyfle i fynd allan i ganu a symud yn y glaw gan ymochel o dan
ymbarél!
CaneuonBwrw glaw yn sobor iawn,
Wel dyma bnawn anghynnes.
Mochel dan yr ambarél
A cherdded fel brenhines.
Rhedeg, rhedeg Sblasio, sblasio Pedlo, pedlo
Dwy droed yn rhedeg Dwy droed yn sblasio Dwy droed yn pedlo
Draw i’r pwll Yn y pwll Yn y pwll
Yn fy welis coch. (glas, pinc ayb) Yn fy welis coch. Ar fy meic bach glas.
Addasiadau o ‘Draw i’r Parc - oddi ar y CD yn y pecyn ‘Canu Dysgu Dawnsio’
(Cynllun CWLWM, Mudiad Ysgolion Meithrin)
■
■
■
■
■
■
Glaw allan o CD Triongl, Tywydd a’r Tymhorau
(Caneuon G∑yl Feithrin 2005, Mudiad Ysgolion Meithrin)
-
�0�0
Prynwch gasgen dd∑r. Defnyddiwch dd∑r glaw i ddyfrhau planhigion. Gallwch gyplysu
hyn â phwysigrwydd arbed d∑r mewn tywydd sych.
Beth am wneud het law i Tedi Twt? Rhowch ddigon o gyfleoedd i’r plant arbrofi gyda
gwahanol fathau o ddeunyddiau gan ddiferu d∑r ar y deunyddiau neu eu gadael allan
yn y glaw. Anogwch nhw i drafod sut fath o ddeunydd fyddai orau ayb.
Gadewch i’r plant lunio patrwm ar ymbarél. Torrwch siâp ymbarél allan o gerdyn
neu bapur trwchus. Gofynnwch i’r plant lunio patrwm gan argraffu gyda rîls, darnau
o sbwng o wahanol siapiau, cribau, brwsh dannedd, brigau ayb. Defnyddiwch bren
lolipop fel coes i’r ymbarél. Gallwch rifo’r ymbaréls, eu lamineiddio a’u hongian tu
allan fel llinell rif.
Paratowch focs propiau ar gyfer y rhigwm y pry copyn. Bydd angen darn o beipen
dd∑r plastig, can d∑r ar gyfer y glaw, haul mawr a phry copyn plastig. Anogwch y
plant i gymryd eu tro i adrodd neu i ganu’r rhigwm gan ddefnyddio’r propiau.
Dringodd y pry copyn Yna daeth yr haul
I fyny’r beipen hir. I sychu’r glaw i gyd,
Glaw mawr a ddaeth A dringodd y pry copyn
A’i olchi’n ôl i’r tir. Y beipen ar ei hyd.
Allan o Caneuon Chwarae 1, Meredydd Evans a Phyllis Kinney (Mudiad Ysgolion Meithrin)
Mae gêm Insey Winsey Spider ar gael o Orchard Toys.
Bydd plant yn cael gwell dealltwriaeth o’r cysyniad bod y gwynt yn chwythu trwy fod allan yn
ei deimlo, yn hytrach nag edrych drwy’r ffenest yn gwylio’r dail yn symud ar y coed. Byddant
yn dod i ddeall nerth y gwynt trwy gael cyfle i wneud pethau sy’n chwifio yn y gwynt.
Byddant yn dod yn gyfarwydd â’r hyn a olygir wrth ddiwrnod tawel, neu awel ysgafn yn
chwythu, a deall bod gwynt stormus yn gallu bod yn beryglus a dinistriol.
Mae angen rhoi digon o gyfleoedd i’r plant i ddechrau deall bod grym gwynt yn gwneud i
bethau symud.
Dyma rai enghreifftiau:
Defnyddio gwellt yfed i chwythu amrywiaeth o wrthrychau ysgafn a thrwm e.e. pluen,
mwclis, carreg fach, bloc pren, pêl fach, gwlân cotwm, darn o glai ac yn y blaen.
Rhoi cychod bach hwylio mewn cafn d∑r neu tuff spot tray. Chwythu trwy welltyn i
wneud iddynt symud.
■
■
■
■
■
■
YGw y n t
-
����
Cân : Cwch bach yn sigloSiglo, siglo
Cwch bach yn siglo ar y don
Gwynt yn chwythu,
D∑r yn tasgu,
Cwch bach yn suddo o dan y don.
Allan o Caneuon Bys a Bawd, Falyri Jenkins (Mudiad Ysgolion Meithrin)
Gwneud cychod bach allan o bolystyren a ffyn bach (cocktail sticks). Yna gosod hwyliau
arnynt a’u rhoi i hwylio ar hyd darn o beipen wedi’i llenwi â d∑r.
Chwythu swigod ar ddiwrnod gwyntog.
Gollwng bal∑ns i hedfan yn y gwynt.
Gwneud melinau gwynt o gardfwrdd, yna eu profi yn y gwynt.
Beth am osod rhes o felinau gwynt ar ffens a’u gwylio’n troelli?
Oes lle addas tu allan i osod baner Y Ddraig Goch a’i gwylio’n chwythu?
Gwnewch faneri triongl (buntings) i ddathlu rhyw achlysur arbennig yn y cylch neu ar
gyfer chwarae rôl. Defnyddiwch ddefnyddiau amrywiol i wneud y baneri. Cymharwch y
ffordd mae’r gwahanol ddefnyddiau’n symud yn y gwynt. Pa rai sy’n chwythu gyflymaf a
pha rai sy’n chwythu arafaf?
Gadewch i’r plant wneud pethau sy’n gwneud s∑n wrth symud yn y gwynt. Defnyddiwch
hen CD’s a’u cloriau. Rhowch nhw i hongian ar gortyn a gwrandewch ar y s∑n wrth
iddynt symud yn y gwynt ysgafn. Casglwch bethau metal a’u hongian ar fachau i ddal y
gwynt. Cymharwch eu s∑n wrth chwythu yn yr awel ac ar ddiwrnod gwyntog.
Beth am wneud lloches i gysgodi rhag y gwynt?
Yn bennaf oll rhowch gyfle i’r plant redeg yn y gwynt gan ei deimlo ar eu bochau ac yn chwythu
trwy eu gwallt.
Gadewch iddynt wneud stribedi hir o rubanau allan o ddarnau o blastig neu bapur cellophane
wedi’u clymu. Yna rhedeg yn y gwynt gan chwifio’u rhubanau.
■
■
■
■
■
■
■
■
■
-
����
Cân: Chwifio, chwifio,
Dwy fraich yn chwifio.
Chwifio, chwifio,
Yn y gwynt.
Addasiadau o Draw i’r Parc – allan o’r CD yn y pecyn ‘Canu Dysgu Dawnsio’
(Cynllun CWLWM, Mudiad Ysgolion Meithrin).
Mae’r gwynt yn chwythu’n stormus
Mae’r gwynt yn chwythu’n stormus
Mae’r gwynt yn chwythu’n stormus
Hw-hw, hw-hw, hw-hw.
Allan o lyfryn Y Tywydd, Pecyn Adnoddau Cam wrth Gam (Mudiad Ysgolion Meithrin).
Rhowch gyfleoedd ymarferol i helpu’r plant ddeall bod y gwynt yn sychu pethau:-
Gadewch i’r plant ddefnyddio brwshys paent mawr a d∑r i beintio’r waliau neu ffens,
i wneud marciau ar y llwybrau, yna gadael i’r gwynt eu sychu.
Gadewch iddynt olchi dillad doliau / tedi a’u rhoi i hongian ar y lein i sychu.
Golchwch barau o sanau a’u hongian fesul pâr ar y lein. Ydy’r plant yn gallu meddwl
am y lle gorau i osod y lein ddillad?
Golchwch deganau byd bach a’u gadael allan i sychu.
Gwnewch byllau d∑r a gwyliwch nhw’n sychu dros gyfnod o amser.
Chwarae rôl: Golchfa Geir
Bydd angen nifer o gerbydau, offer golchi e.e. bwcedi, brwshys, sbwng, hylif golchi llestri
neu ewyn ymolchi, peipen dd∑r os yn bosib, cadachau, dillad sy’n dal d∑r, welis, sialc i
farcio’r iard, ar gyfer y cerbydau, clipfyrddau a phensiliau, arian. Cofiwch annog y plant i
greu arwyddion a labeli eu hunain. Y plant i gymryd tro i olchi’r cerbydau a gadael i’r gwynt
eu sychu.
Peidiwch ag anghofio am yr hen ffefryn traddodiadol:
Morus y gwynt
Ac Ifan y glaw
Chwythodd fy nghap
I ganol y baw.
Oddi ar CD Triongl, Tywydd a’r Tymhorau
(Caneuon G∑yl Feithrin �00�, Mudiad Ysgolion Meithrin)
■
■
■
■
■
■
-
�3�3
Yr Haul
Yr Haul yn yr Haf
Rhowch gyfleoedd ymarferol i’r plant ddeall beth mae’r haul yn gallu ei wneud. Bydd rhai
o’r gweithgareddau ar gyfer dyddiau gwyntog yn addas ar gyfer dyddiau heulog hefyd e.e.
hongian dillad ar y lein i sychu, golchi teganau a’u sychu yn yr haul, yr haul yn sychu pyllau
d∑r wedi’r glaw.
Rhaid addysgu’r plant am beryglon gwres tanbaid yr haul a beth allen nhw ei wneud i’w
hamddiffyn eu hunain rhag y peryglon hynny:
Gwisgo dillad addas - pwysigrwydd gwisgo cap / het haul
Defnyddio eli haul
Pwysigrwydd chwilio am gysgod rhag gwres yr haul
Deall bod angen dyfrhau blodau a phlanhigion yn ystod tywydd sych / poeth
Sut mae cadw’n oer mewn tywydd poeth?
Cân: Eli Haul
Oddi ar CD Triongl, Tywydd a’r Tymhorau, Caneuon G∑yl Feithrin �00� (canu a symud i’r gerddoriaeth)
Yn yr Ardd Llyfrau i sbarduno gweithgareddau - Tedi Twt a Doli Glwt yn yr Ardd, (Cyfres Tedi Twt a Doli
Glwt, Canolfan Gymraeg San Helen Abertawe); Taid ar Binnau (Cyfres Mabon a Mabli)
Symud a Chân Breichiau’n symud lan a lawr,
Lan a lawr, lan a lawr,
Breichiau’n symud lan a lawr
Fel pili-pala’n hedfan.
(fel buwch goch gota’n hedfan)
Oddi ar y CD yn y pecyn ‘Canu Dysgu Dawnsio’
(Cynllun CWLWM, Mudiad Ysgolion Meithrin)
Caneuon eraill:‘Buwch Goch Gota’ (Caneuon y Creaduriaid, Falyri Jenkins)‘Cân y Gwenyn’ (Caneuon Rwdlan)
■
■
■
■
■
-
�4�4
Gweithgareddau:
Mynd oddi amgylch i chwilio am greaduriaid bach o dan y cerrig, potiau blodau ac ar
ddail (trafod a chymharu).
Adnabod creaduriaid sy’n hedfan yn yr ardd.
Peintio cerrig yn goch gyda smotiau du i wneud buwch goch gota; eu defnyddio i
chwarae gêm guddio yn yr ardd.
Creu byd y creaduriaid bach mewn tuff spot tray gan ddefnyddio pridd neu dywod,
cerrig, graean, potiau blodau bach, dail; a chuddio creaduriaid bach plastig neu
wneud rhai allan o does.
Creu gardd fach mewn bocs hadau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau
naturiol, ychwanegu teganau byd bach.
Plannu blodau a phlanhigion sy’n tyfu’n gyflym.
Gwahodd gwenynwr i’r cylch i ddangos sut mae’r gwenyn yn cynhyrchu mêl.
Mwynhau brechdanau mêl i ddilyn wedi eu paratoi gan y plant.
Defnyddio darnau hir o blastig neu cellophane i wehyddu siâp blodyn, pili-pala, haul
ar y ffens.
Annog y plant i fod yn ymwybodol o’u pum synnwyr wrth grwydro yn yr awyr agored
yn yr haf.
Beth am greu gardd amlsynhwyraidd?
Mae’r haf yn amser torri gwair / glaswellt / porfa (un o’r synau cyffredin a glywir yn
yr ardd yn yr haf).
Gadewch i’r plant dyfu hadau gwair mewn tuff spot tray neu mewn hen deiar. Cymryd
cyfrifoldeb am eu dyfrhau mewn tywydd sych. Wedi’r gwair dyfu rhowch greaduriaid
plastig neu deganau byd bach ynddo i chwarae. Beth am roi cynnig i dorri’r glaswellt
gyda siswrn bach a’i wylio yn aildyfu? Rhoi’r gwellt yn y bin compost a chadw golwg
ar yr hyn sy’n digwydd iddo dros amser.
Creu ardal chwarae rôl: Canolfan Arddio
Dyma rai o’r propiau y gellid eu defnyddio:-
amrywiaeth o offer garddio (mae rhai addas gyfer plant ar gael o S&S Supplies)
blodau, perlysiau a phlanhigion – gorau oll os yw’r plant wedi eu tyfu eu hunain
amrywiaeth o botiau blodau (rhai wedi eu peintio a’u haddurno gan y plant)
addurniadau i’w hongian yn yr ardd (gall y plant wneud rhai eu hunain gan
ddefnyddio offer o’r bocs ailgylchu)
til ac arian
papur lapio a bagiau papur (anogwch y plant i wneud labeli ac arwyddion eu hunain)
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
-
����
Dyma rai themâu addas ar gyfer ardal chwarae rôl tu allan:
Caffi Awyr Agored
Stondin Hufen Iâ
Y Fferm (trwy’r tymhorau)
Maes Awyr
Golchfa Geir
Ar Lan y Môr
Safle Bicnic
Gwasanaethau Argyfwng (yn ymateb i dywydd garw)
Mynd am Bicnic
Llyfrau stori: Picnic Tedi Twt, Cyfres Tedi Twt, Canolfan Gymraeg San Helen Abertawe
Y Picnic, Cyfres Mabon a Mabli
Trafod y canlynol:
Tywydd addas i fynd am bicnic
Lleoedd addas i fynd am bicnic
Lleoedd addas i gysgodi rhag gwres yr haul
Bwydydd addas ar gyfer picnic
Offer addas i gario’r bwyd
Sut i gadw’r bwyd yn oer
Hoff fwyd picnic y plant
Rheolau cefn gwlad wrth fynd am bicnic e.e. cadw at
y llwybrau, cau giatiau, cadw’r ci ar dennyn, mynd â
sbwriel adref
Ailgylchu’r sbwriel sbarion bwyd i’r bin compost, bin ailgylchu papur / plastig
Rhoi cyfle i’r plant baratoi picnic e.e. brechdanau amrywiol, ffrwythau, cacennau e.e.
cacennau pili-pala, diod oer.
Caneuon:‘Mynd am Bicnic’, Llyfr Caneuon Hip, Hip, Hwrê – Caryl Parry Jones, Mudiad Ysgolion Meithrin
‘Picnic’, Caneuon y Creaduriaid, Falyri Jenkins
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
-
����
Neu beth am gael amser snac yn yr awyr agored?
Amser snac, amser snac
Yn yr ardd, yn yr ardd. (yn y cae) (yn y parc)
Snac fendigedig, snac fendigedig
Yn yr ardd, yn yr ardd.
(tôn ‘Frère Jacques’)
Syniadau pellach ar gyfer bwydydd a diodydd yr haf:
Deunydd salad i greu wyneb ar blât papur. Bydd y plant yn cael hwyl wrth fwyta’r ‘wyneb’!
Cebabs ffrwythau’r haf
Lolis rhew
Sm∑ddis (Smoothies)
Defnyddiwch gynfasau i greu cysgodfan rhag yr haul. Anogwch y plant i ddefnyddio’r gysgodfan i
edrych ar lyfrau neu i sgwrsio.
Gofynnwch i’r plant greu cysgodfan ar gyfer teganau meddal gan ddefnyddio teganau adeiladu a
deunyddiau naturiol.
Ar Lan y Môr
Chwarae rôl: Ar lan y môr
Llyfr stori: Tedi Twt ar lan y môr, Cyfres Tedi Twt a Doli Glwt, Canolfan Gymraeg San Helen
Abertawe
Cân‘Awn am dro i lan y môr’, Llyfryn Yr Haf, Pecyn Adnoddau Cam wrth Gam, Mudiad Ysgolion
Meithrin.
Awgrymir cael caniatâd y rhieni a threfnu ymlaen llaw gyda nhw fod y plant yn dod â gwisg nofio,
tywel, het /cap haul ayb gyda nhw i’r cylch er mwyn iddyn nhw baratoi eu bag i fynd i ‘lan y môr’.
Efallai bydd modd i rai o’r rhieni ymuno â chi.
Dyma rai awgrymiadau:
pwll padlo neu ddau - un ar gyfer padlo a sblasio yn y ‘môr’ a’r llall ar gyfer chwarae yn y
tywod (neu gellir defnyddio tuff spot trays ar gyfer y tywod).
cafn bach i greu pwll pysgod (lliwio sbageti yn wyrdd i wneud gwymon) cerrig, pysgod a
chreaduriaid y môr plastig, cregyn. Gellir gosod sticeri lliw neu rifau ar y pysgod er mwyn
chwarae gêm wrth bysgota.
■
■
■
■
■
■
-
�7�7
bwcedi, rhawiau, rhwydi, baneri i’w gosod
ar y cestyll tywod (gall y plant wneud
rhain ymlaen llaw)
arwyddion a labeli
basged bicnic
stondin hufen iâ
sgrin i gysgodi rhag y gwynt
parasòl neu gysgodfan rhag yr haul
peli mawr i chwarae ar y traeth ac yn y d∑r.
Yr HydrefGweithgareddau tu allan yn yr Hydref
Defnyddio cardiau lliw paent i chwilio am ddeunyddiau naturiol sy’n cyfateb i’r lliw ar y
cerdyn (rhowch dâp gludiog ar ddwy ochr y cerdyn i gasglu’r deunyddiau).
Rhowch un ddeilen yr un i’r plant a gofyn iddynt chwilio am ddeilen sy’n cyfateb.
Gall y plant ddewis llun o ddeilen ac yna mynd i chwilio am y ddeilen sy’n cyfateb.
Gwnewch yr un peth eto gan ddefnyddio moch coed, concyrs, mês, ayb.
Casglwch wahanol fathau o ddail - rhai bach / mawr, hir / byr, llyfn / pigog, deuliw.
Rhowch fasged neu fag papur i bob plentyn a gofynnwch iddynt fynd i chwilio am
ddeunyddiau gwahanol i lenwi’r fasged neu’r bag. Gadewch i’r plant ddosbarthu’r hyn a
gasglwyd.
Defnyddiwch gylchoedd hula hoops i wneud setiau o bethau a gasglwyd.
Chwiliwch am ddeilen sydd yn fwy na’ch llaw.
Chwiliwch am ddeilen sy’n ffitio ar gledr eich llaw.
Dewiswch ddeilen ac arbrofwch i weld faint o bethau fydd yn ffitio ar eich deilen chi
(defnyddiwch ddarnau lego, botymau, mwclis ac yn y blaen).
Rhowch gerdyn rhif i bob plentyn (o �-3, �-�, neu o �-�0) a gofynnwch iddynt fynd i
chwilio am y nifer cywir o ddail.
Casglwch ddeunyddiau i wneud lloches i greadur bach gysgu ynddi dros y gaeaf.
Gadewch i’r plant gael hwyl yn cerdded, rhedeg, neidio a rowlio mewn pentwr o ddail!
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
-
�8�8
Y Gaeaf
Gweithgareddau tu allan yn y gaeaf
Gan mai prin iawn yw’r cyfleoedd i’n plant weld eira’r dyddiau yma, rhaid manteisio ar bob cyfle
i’r plant gael chwarae ynddo.
Rhaid rhoi cyfle iddynt wneud y canlynol pan fydd hi’n bwrw eira:
ei weld a’i deimlo’n disgyn
ei flasu hyd yn oed! (h.y. y plant i geisio dal pluen o eira ar eu tafodau pan fydd hi’n
bwrw eira)
taflu peli eira (gyda gofal!)
gwthio peli eira mawr i wneud dyn eira
gwneud olion yn yr eira
defnyddio brigau i farcio yn yr eira
casglu eira mewn bwced a gweld beth sy’n digwydd iddo wrth ddod ag o i mewn i le
cynnes.
Ar foreau rhewllyd gadewch i’r plant wneud y canlynol:
cerdded drwy’r glaswellt wedi iddi farrugo a gwneud olion
dilyn olion adar a chreaduriaid eraill
gwneud marciau ar y glaswellt
chwilio am byllau d∑r sydd wedi rhewi; ydi’r plant yn gallu torri’r rhew?
Rhowch dd∑r allan i rewi mewn caeadau tuniau. Y bore canlynol defnyddiwch deganau
byd bach i lithro a sglefrio ar y rhew yn y caeadau.
Ewch am dro i edrych ar y newidiadau sydd yn yr amgylchedd yn ystod y gaeaf.
Defnyddiwch offer mawr i adeiladu sled.
Gwnewch gerfluniau o rew. Llenwch fenig rwber / bal∑ns â d∑r wedi’i liwio. Clymwch nhw
i frigau neu ar ffens a’u gadael allan dros nos. Y bore canlynol, tynnwch y menig i lawr a’u
tynnu’n rhydd gan adael cerfluniau diddorol! Gadewch i’r plant arsylwi beth sy’n digwydd
wrth roi’r cerfluniau mewn d∑r.
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
■
-
����
Casglwch frigau diddorol a dail bythwyrdd. Peintiwch nhw yn wyn gan ychwanegu gliter i
greu gardd fach yn y gaeaf.
Casglwch ddeunyddiau naturiol a’u rhoi mewn pentwr i rewi tu allan. Yna rhowch nhw i
hongian tu allan a gwyliwch ar yr hyn sy’n digwydd.
Rhowch ddarn hir o bapur llwyd neu ddu ar y ffens i beintio llun o’r gaeaf.
Defnyddiwch ewyn eillio i greu patrymau gaeafol mewn tuff spot tray.
Gwnewch ‘gacennau’ i’r adar bach.
Syniad pellach yw gwneud llyfr lloffion i’r cylch. Tynnwch luniau o’r plant yn gwneud rhai
o’r gweithgareddau uchod a glynwch nhw yn y llyfr i gyd-fynd efo’r gerdd isod. Bydd hwn
yn llyfr bach hyfryd i’w gadw yn y gornel stori er mwyn i’r plant gael edrych yn ôl arno pan
fydd y tywydd yn braf.
Mae llawer o gerddi addas i’w gweld yn y gyfrol Cerddi Cyntaf gan Myrddin ap Dafydd.
Dyma enghraifft o un o’r cerddi y gellir ei defnyddio i ysgogi gwneud marciau a dilyn olion
yn yr eira.
Ôl traed yn yr eira
Yn yr eira,
ôl traed yn ddu
yn cyrraedd ataf
o ddrws y t¥.
Cerdded yn bwyllog,
rhedeg yn ffri,
mae’r olion o hyd
yn fy nilyn i.
Marcio’r eira,
llinell drwy’r llun:
ni allaf ddianc
rhag fi fy hun.
■
■
■
■
■
■
■
Allan o Cerddi Cyntaf, Myrddin ap Dafydd
(Gwasg Carreg Gwalch)
IolaCross-Out
IolaReplacement Texttuff spot tray. mewn italics
-
�0�0
1. Y Tywydd
Mae’r gwynt yn chwythu’r dail o’r coed, dail o’r coed, dail o’r coed
Mae’r gwynt yn chwythu’r dail o’r coed, ffal di ral di ri.
Mae’r glaw yn creu rhyw bylle bach, pylle bach, pylle bach
Mae’r glaw yn creu rhyw bylle bach, ffal di ral di ri.
Mae’r niwl yn cuddio pen y bryn, pen y bryn, pen y bryn
Mae’r niwl yn cuddio pen y bryn, ffal di ral di ri.
Mae’r eira’n lliwio’r byd yn wyn, byd yn wyn, byd yn wyn
Mae’r eira’n lliwio’r byd yn wyn, ffal di ral di ri.
Mae’r haul yn gwenu arna i, arna i, ac arnat ti
Mae’r haul yn gwenu arna i, ffal di ral di ri.
2. Plîs Mistar Haul
Deffro yn y bore’n hapus ac yn iach,
Dim byd yn fy mhoeni ond un peth bach -
Beth am y tywydd? Mae’r gwynt yn gry’
O plîs Mistar Haul, tyrd allan atom ni.
Deffro yn y bore’n hapus ac yn iach,
Dim byd yn fy mhoeni ond un peth bach -
Beth am y tywydd? Mae’r glaw mor gas
O plîs Mistar Haul, mae’n bryd i ti ddod mas.
Deffro heddiw’r bore yn hapus ac yn iach,
Dim byd yn fy mhoeni, dim un peth bach -
Awyr las o’r diwedd, hwrê Mistar Haul!
’Ni wedi cael hen ddigon o’r hen dywydd gwael,
’Ni wedi cael hen ddigon o’r hen dywydd gwael.
Geiriau’r caneuon ar y cd Y Tywydd a’r Tymhorau © Paul Gregory
-
����
3. Hydref, gaeaf, gwanwyn, haf
Hydref, gaeaf, gwanwyn, haf,
Hydref, gaeaf, gwanwyn, haf,
Hydref, gaeaf, gwanwyn, haf,
Dyna yw’r tymhorau,
Hydref, gaeaf, gwanwyn, (clap)
Hydref, gaeaf, gwanwyn, (clap)
Hydref, gaeaf, gwanwyn, (clap)
Dyna yw’r tymhorau.
Hydref, gaeaf, (clap) haf,
Hydref, gaeaf, (clap) haf,
Hydref, gaeaf, (clap) haf,
Dyna yw’r tymhorau.
Hydref, (clap) gwanwyn, haf,
Hydref, (clap) gwanwyn, haf,
Hydref, (clap) gwanwyn, haf,
Dyna yw’r tymhorau.
(clap) gaeaf, gwanwyn, haf,
(clap) gaeaf, gwanwyn, haf,
(clap) gaeaf, gwanwyn, haf,
Dyna yw’r tymhorau.
Hydref, gaeaf, gwanwyn, haf,
Hydref, gaeaf, gwanwyn, haf,
Hydref, gaeaf, gwanwyn, haf,
Dyna yw’r tymhorau.
4. Pawb a phopeth
Glaw, glaw, mae’n glawio o hyd
Pawb a phopeth yn wlyb.
Glaw, glaw, mae’n glawio o hyd
Pawb a phopeth yn wlyb.
Haul, haul, mae’n heulog o hyd
Pawb a phopeth yn boeth.
Haul, haul, mae’n heulog o hyd
Pawb a phopeth yn boeth.
Rhew, rhew, mae’n rhewi o hyd
Pawb a phopeth yn oer.
Rhew, rhew, mae’n rhewi o hyd
Pawb a phopeth yn oer.
Gwynt, gwynt, mae’n wyntog o hyd
Pawb a phopeth yn flêr.
Gwynt, gwynt, mae’n wyntog o hyd
Pawb a phopeth yn flêr.
5. Dyn eira
Mi welais ddyn eira yn eistedd mewn berfa
Ar waelod yr ardd ryw dro,
Er gwaethaf ei swildod, daeth allan o’r cysgod
I chwarae ’da plant bach y fro.
Ond heb sylweddoli dechreuodd e doddi
Roedd gwres yr haul yn rhy gry’ -
Er byr oedd ei amser, rhoes bleser i lawer,
Bob gaeaf ble bynnag y bu.
Dyn eira, dyn eira, fe ddeui di nôl ryw dro.
Dyn eira, dyn eira, rwyt ti’n aros yn ein co’.
-
����
6. Mae’n dibynnu ar y tywydd
Mae gen i het yn y cwpwrdd, het yn y drâr
Mynydd o hetiau yn y cwtsh dan stâr.
Mae’n dibynnu ar y tywydd o ddydd i ddydd
Gwisgo het neu beidio, dyna’r dewis sydd,
Gwisgo het neu beidio, dyna’r dewis sydd.
Mae gen i got yn y cwpwrdd, cot yn y drâr
Mynydd o gotiau yn y cwtsh dan stâr.
Mae’n dibynnu ar y tywydd o ddydd i ddydd
Gwisgo cot neu beidio, dyna’r dewis sydd,
Gwisgo cot neu beidio, dyna’r dewis sydd.
Mae gen i sgarff yn y cwpwrdd, sgarff yn y drâr
Mynydd o sgarffiau yn y cwtsh dan stâr.
Mae’n dibynnu ar y tywydd o ddydd i ddydd
Gwisgo sgarff neu beidio, dyna’r dewis sydd,
Gwisgo sgarff neu beidio, dyna’r dewis sydd.
Mae gen i welis yn y cwpwrdd, welis yn y drâr
Mynydd o welis yn y cwtsh dan stâr.
Mae’n dibynnu ar y tywydd o ddydd i ddydd
Gwisgo welis neu beidio, dyna’r dewis sydd,
Gwisgo welis neu beidio, dyna’r dewis sydd.
7. Mynd am dro
Mae’r tywydd yn braf, mae’r tywydd yn braf,
Beth am fynd am dro? Beth am fynd am dro?
Gwisgo sbectol haul, gwisgo sbectol haul
Gyda gwên bob tro, gyda gwên bob tro
Cerddwn law yn llaw, bob cam cawn hwyl a sbri.
O mae’r tywydd yn braf, o mae’r tywydd yn braf,
Mae’r tywydd yn braf.
Mae’r tywydd yn oer, mae’r tywydd yn oer,
Beth am fynd am dro? Beth am fynd am dro?
Gwisgo het a chot, gwisgo het a chot
Gyda gwên bob tro, gyda gwên bob tro
Cerddwn law yn llaw, bob cam cawn hwyl a sbri.
O mae’r tywydd yn oer, o mae’r tywydd yn oer
Mae’r tywydd yn oer.
Cerddwn law yn llaw, bob cam cawn hwyl a sbri.
O mae’r tywydd yn braf, o mae’r tywydd yn braf,
Mae’r tywydd yn braf.
-
�3�3
8. Mellt a tharanau
Mellt a tharanau, wel dyna chi s∑n -
Mae’n waeth o lawer na chyfarth y c∑n.
Os allan yn chwarae â’r storm yn nesáu,
Af adref i guddio a’r drysau ’di cau.
Yr Enfys
A welsoch chi’r enfys neu dim ond y fi?
Bwa o liwiau fel colur mamgu!
Aros ’mond eiliad mor hynod o hardd
Fel iâr fach yr haf ar flodau’r ardd.
9. Tymor yr haf
Hei, hei, mae’n dymor yr haf
Mae’r haul yn gwenu,
Mae’r tywydd yn braf.
Gwisgo crysau-T a sbectol haul
Hwrê, mae’n dymor yr haf.
Hei, hei, mae’n dymor yr haf
Mae’r haul yn gwenu,
Mae’r tywydd yn braf.
Mynd am dro i lan y môr
Hwrê, mae’n dymor yr haf.
Hei, hei, mae’n dymor yr haf
Mae’r haul yn gwenu,
Mae’r tywydd yn braf.
Awn ar wyliau, y teulu oll
Hwrê, mae’n dymor yr haf.
Hei, hei, mae’n dymor yr haf
Mae’r haul yn gwenu,
Mae’r tywydd yn braf.
Mefus a mafon a hufen iâ.
Hwrê, mae’n dymor yr haf
Hwrê, mae’n dymor
Hwrê, mae’n dymor
Hwrê, mae’n dymor yr haf.
10. Sdim ots gen i beth yw’r tywydd
Rwy’n hoffi mynd i siopa gyda’n teulu ni,
Sdim ots gen i beth yw’r tywydd.
Sych neu wlyb, oer neu boeth
Rhaid cydio llaw, mae hynny’n ddoeth.
Rwy’n hoffi mynd i siopa gyda’n teulu ni
Sdim ots gen i beth yw’r tywydd.
La la la la la la la la,
Sdim ots gen i beth yw’r tywydd.
Rwy’n hoffi mynd i’r parc gyda’n teulu ni,
Sdim ots gen i beth yw’r tywydd.
Sych neu wlyb, oer neu boeth
Rhaid cydio llaw, mae hynny’n ddoeth.
Rwy’n hoffi mynd i’r parc gyda’n teulu ni
Sdim ots gen i beth yw’r tywydd.
La la la la la la la la,
Sdim ots gen i beth yw’r tywydd.
Rwy’n hoffi mynd ar wyliau gyda’n teulu ni,
Sdim ots gen i beth yw’r tywydd.
Sych neu wlyb, oer neu boeth
Rhaid cydio llaw, mae hynny’n ddoeth.
Rwy’n hoffi mynd ar wyliau gyda’n teulu ni
Sdim ots gen i beth yw’r tywydd.
La la la la la la la la,
Sdim ots gen i beth yw’r tywydd.
-
�4�4
11. Pyllau d∑r
Cyfri, cyfri un, dau, tri,
Pyllau d∑r ar lawr y t¥,
Os yw’n bwrw glaw o hyd
Mi af i fyw ym mhen draw’r byd.
Cyfri, cyfri un, dau, tri,
Clywch y gwynt yn chwythu’n gry’,
Os yw’r gwynt yn gryf o hyd
Mi af i fyw ym mhen draw’r byd.
Cyfri, cyfri un, dau, tri,
Eira mawr ar simnai’r t¥,
Os daw eira mawr o hyd
Mi af i fyw ym mhen draw’r byd.
Cyfri, cyfri un, dau, tri,
Haul yn gwenu arnom ni,
Os yw’n heulog iawn o hyd
Mi af i fyw,
Mi af i fyw,
Mi af i fyw ym mhen draw’r byd.
12. Yn y gaeaf, yn yr haf,
Yn y gaeaf, yn yr haf,
Tywydd oer neu dywydd braf,
Gallaf droi fy mol rownd a rownd -
Rownd i’r chwith, rownd i’r chwith,
Rownd i’r dde, rownd i’r dde,
Gallaf droi fy mol rownd a rownd.
Yn y gaeaf, yn yr haf,
Tywydd oer neu dywydd braf,
Gallaf droi fy nwylo rownd a rownd -
Rownd i’r chwith, rownd i’r chwith,
Rownd i’r dde, rownd i’r dde,
Gallaf droi fy nwylo rownd a rownd.
Yn y gaeaf, yn yr haf,
Tywydd oer neu dywydd braf,
Gallaf droi fy nhraed rownd a rownd -
Rownd i’r chwith, rownd i’r chwith,
Rownd i’r dde, rownd i’r dde,
Gallaf droi fy nhraed rownd a rownd.
Yn y gaeaf, yn yr haf,
Tywydd oer neu dywydd braf,
Gallaf droi fy mreichiau rownd a rownd -
Rownd i’r chwith, rownd i’r chwith,
Rownd i’r dde, rownd i’r dde,
Gallaf droi fy mreichiau rownd a rownd.
-
www.bilingualfrombirth.com www.mym.co.uk
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y rhif rhadffôn:
Cefnogir ein gwaith gan:
-
s4c.co.uk/planedplantbach
PlanedPlant Bach
Croeso i wefan Planed Plant Bach lle cei di fynd am dro o gwmpas y tŷ a chwrdd â rhai o dy hoff gymeriadau.
Cei weld tudalennau dy hoff raglenni, gwylio dy hoff benodau a gwrando ar dy hoff ganeuon.
Paid anghofio anfon dy gyfarchion pen-blwydd a lluniau.
Welcome to the Planed Plant Bach website, where you can explore the house and meet your favourite characters.
You can see the pages of your favourite programmes, watch some of your favourite episodes and listen to your favourite music.
Don’t forget to send your birthday greetings and drawings.