PAVS Information

18
Who we are Support Services Development Support Funding Support Training Support Representation and Joint Working Volunteering Pembrokeshire Communities 2.0 Circuit Rider Project Pembrokeshire Association of Voluntary Services Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro Supporting Voluntary and Community groups across the County Yn cefnogi grwpiau Gwirfoddol a Chymunedol ar draws y Sir

description

Information for the third sector in Pembrokeshire.

Transcript of PAVS Information

Who we are

Support Services

Development Support

Funding Support

Training Support

Representation and Joint Working

Volunteering Pembrokeshire

Communities 2.0 Circuit Rider Project

Pembrok

eshire Assoc

iatio

n of Volun

tary Services

Cym

deith

as Gwasanaethau

Gwirfod

dol S

ir Ben

fro

Supporting Voluntary and Community groups

across the County

Yn cefnogi grwpiau Gwirfoddol a Chymunedol ar draws y Sir

Mae Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro yn:

♦ Gymdeithas annibynnol o grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn Sir Benfro

♦ Sefydliad aelodaeth, sy’n cynnig aelodaeth lawn neu gyswllt i unigolion a’r holl grwpiau gwirfoddol a chymunedol sy’n gweithredu yn Sir Benfro

♦ Cwmni cyfyngedig trwy warant ac elusen gofrestredig, a lywodraethir gan ymddiriedolwyr a etholwyd o blith yr aelodau

♦ Rhan o rwydwaith o Gynghorau Gwirfoddol Sirol sy’n cwmpasu pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru

Fel un o’r sefydliadau aelodaeth cydnabyddedig ac annibynnol sy’n ffurfio’r Bartneriaeth Isadeiledd Trydydd Sector yng Nghymru, mae CGGSB yn bodoli i gefnogi a datblygu gweithredu gwirfoddol yn Sir Benfro. Yn ogystal, mae CGGSB yn darparu rhyngwyneb, neu berthynas waith, rhwng mudiadau gwirfoddol a’r sector statudol.

Pwy ydyn ni

Pembrokeshire Association of Voluntary Services is:

♦ the independent association of voluntary and community groups in Pembrokeshire

♦ a membership organisation, offering full or associate membership to individuals and all voluntary and community groups operating in Pembrokeshire ­ how to become a member

♦ a company limited by guarantee and registered charity, governed by trustees elected from the membership

♦ part of a network of County Voluntary Councils covering every local authority area in Wales

As one of the recognised, independent, membership organisations that form the Third Sector Infrastructure Partnership in Wales, PAVS exists to support and develop voluntary action in Pembrokeshire. PAVS also provides an interface, or working relationship, between voluntary organisations and the statutory sector.

Who we are

Gwasanaethau Cymorth Gwasanaethau Cymorth yw’r enw a roddir i dimau Cyllid a Gweinyddiaeth cyfun CGGSB. Mae aelodau’r tîm Gwasanaethau Cymorth yn rhoi cymorth i’r holl brosiectau a staff a leolir o fewn y gymdeithas. Maent hefyd yn ymddwyn fel ysgrifenyddiaeth i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Gellir cael mynediad at sgiliau Rheolaeth Ariannol, AD, Rheoli Adeiladau ac Iechyd a Diogelwch trwy’r tîm hwn, ac oddi fewn i bortffolio o wasanaethau / cyfleusterau a gweithgareddau a ellid eu darparu ar gyfer grwpiau, medrwn helpu gyda:

♦ Gwasanaethau ariannol, sy’n medru cynnwys cyflogres a chadw cyfrifon i grwpiau sy’n aelodau

♦ Cymorth a chyfarwyddyd AD ♦ Rheoli cyfleusterau mannau cyfarfod mewnol ♦ Cymorth ymarferol gyda dylunio, argraffu a reprograffeg ♦ Llogi desg boeth tymor byr neu logi lle i ddesg ymroddedig am dymor hirach ♦ Gwasanaethau llungopïo, lamineiddio a rhwymo ♦ Mae cyfarpar TGCh, yn cynnwys taflunyddion amlgyfrwng a gliniaduron, ar gael i’w llogi

♦ Gellir llogi sgriniau taflunydd a standiau siartiau troi hefyd

Yn ogystal, mae tîm Gwasanaethau Cymorth CGGSB yn golygu ac yn dosbarthu cylchlythyr chwarterol CGGSB ­ Llais Sir Benfro, sydd ar gael mewn copi caled a chopi electronig.

www.pavs.org.uk [email protected]

Support Services is the name given to the combined Finance and Administration teams at PAVS. Support Services team members provide support for all projects and staff based within the association. They also act as secretariat for the Trustee Board.

Skills in Financial Management, HR, Premises Management and Health and Safety are accessible through this team and within the portfolio of services/facilities and activities that can be provided for groups we can assist with:

♦ Financial services which can include payroll and book­keeping for member groups

♦ HR support and guidance ♦ Facilities management of in­house meeting spaces ♦ Practical help with design, printing and reprographics ♦ Short­term hot­desk hire or longer term dedicated desk space hire ♦ Photocopying, laminating and binding services ♦ ICT equipment including multi­media projectors and laptops are available for

hire ♦ Projector screens and flip chart stands may also be hired

PAVS’ Support Services team also edits and circulates PAVS’ quarterly newsletter ­ the Pembrokeshire Voice, both in hard copy and electronic copy.

www.pavs.org.uk [email protected]

Support Services

Cymorth Datblygu

Mae Cymorth Datblygu CGGSB ar gael i grwpiau gwirfoddol a chymunedol, sydd angen cymorth gydag unrhyw faterion sy’n effeithio ar eu mudiad ym mhob cam o’u datblygiad.

Mae’r gwasanaeth wedi’i deilwrio i ddiwallu anghenion pob grŵp ac mae’n cynnwys:

♦ Cymorth i ddatblygu dogfen lywodraethu, sy’n diwallu anghenion y grŵp ♦ Cymorth gyda phroses gofrestru Elusennau a Chwmnïau ♦ Cymorth i ddiwygio a diweddaru’r Cyfansoddiad presennol ♦ Sesiynau cyfarwyddyd wedi eu teilwrio, i helpu aelodau pwyllgor i ddeall eu rolau a’u

cyfrifoldebau fel ymddiriedolwyr ♦ Gwybodaeth i roi’r diweddaraf i grwpiau gwirfoddol am newidiadau yng Nghyfraith y

DU, Elusennau a Chwmnïau, a fydd yn effeithio ar eu mudiad ♦ Cymorth i ddatblygu’r polisïau angenrheidiol i gynnwys eu gweithgareddau presennol

ac arfaethedig ♦ Cymorth a gwybodaeth i alluogi grwpiau i fanteisio ar gyfleoedd i dendro ♦ Cyfarwyddyd ar bob agwedd o redeg grŵp gwirfoddol

www.pavs.org.uk/support/ [email protected]

PAVS Development Support is available to voluntary and community groups that need help with any issues that affect their organisation at every stage of their development.

The service is tailored to meet the needs of each group and includes:

♦ Support to develop a governing document which meets the group’s needs ♦ Support with the Charity and Company registration process ♦ Help to amend and update an existing Constitution ♦ Tailored guidance sessions to help committee members understand their roles and

responsibilities as trustees ♦ Information to keep voluntary groups up to date with changes in UK, Charity &

Company Law that will affect their organisation ♦ Support to develop necessary polices to cover their current and proposed activities ♦ Support and information to enable groups to take advantage of tendering opportunities ♦ Guidance on all aspects of running a voluntary group

www.pavs.org.uk/support/ [email protected]

Development Support

Cymorth Nawdd

Mae Gwasanaeth Cyngor ar Nawdd CGGSB yn cynnig cymorth i grwpiau gyda gwahanol agweddau o gaffael nawdd.

Mae’r gwasanaeth wedi’i deilwrio i ddiwallu anghenion y grwpiau ac mae’n cynnwys:

♦ Cymorth i ganfod ffynonellau posib o nawdd, gan ddefnyddio “Grantfinder”, sy’n dod o hyd i ffynonellau nawdd Lleol, Rhanbarthol, Cenedlaethol ac Ewropeaidd priodol

♦ Cymorth i grwpiau i ystyried amrywiaeth eang o opsiynau ar gyfer nawdd, yn cynnwys grantiau, benthyciadau, masnachu a chynhyrchu incwm, i ddod o hyd i’r “cyfuniad nawdd” cywir i gynnal eu gweithgareddau

♦ Mynediad at gyhoeddiadau nawdd, yn ogystal â chanllawiau ar gyfer cyrff blaenllaw sy’n cynnig grantiau

♦ Mynediad at yr amryw o daflenni gwybodaeth ar Ddod o Hyd i Arian ar wefan CGGSB ♦ Cymorth i drefnu ymagweddau codi arian a datblygu strategaeth codi arian ♦ Digwyddiadau nawdd a gweithdai ymarferol, yn cynnwys Ffair Nawdd CGGSB a chyfleoedd

i grwpiau i gwrdd wyneb yn wyneb gydag arianwyr mewn sesiynau ‘syrjeri’ ♦ Cronfa Effaith Sir Benfro CGGSB – Cynllun grant cyfalaf gyda nawdd o hyd at £3,000 ar

gyfer grwpiau gwirfoddol / cymunedol a mentrau cymdeithasol ar draws y sir ♦ Cyfarwyddyd ar gwblhau ffurflenni cais ac atborth adeiladol ar geisiadau nawdd drafft ♦ Hyfforddiant a sesiynau cymorth grŵp

[email protected] www.pavs.org.uk

The PAVS Funding Advice Service offers support to groups with the different aspects of obtaining funding.

The service is tailored to meet the needs of the groups and includes:

♦ Support to identify possible sources of funding using “Grantfinder” which identifies appropriate Local, Regional, National and European sources of funding

♦ Support for groups to consider a wide range of funding options including grants, loans, trading and income generation to find the right “funding mix” to sustain their activities

♦ Access to funding publications as well as guidelines for top grant giving bodies ♦ Access to the Finding and Getting Money range of information sheets via the PAVS website ♦ Support to plan fundraising approaches and develop a fundraising strategy ♦ Funding events and practical workshops including the PAVS Funding Fair and opportunities for groups to meet face­to­face with funders at ‘surgery’ sessions

♦ The PAVS Pembrokeshire Impact Fund – a capital grant scheme with funding of up to £3,000 for voluntary/ community groups and social enterprises across the county

♦ Guidance on filling in application forms and constructive feedback on draft funding applications

♦ Training and group support sessions

www.pavs.org.uk/funding/ [email protected]

Funding Support

Cymorth Hyfforddi

Mae CGGSB yn cynnig nifer o gyfleoedd i ddysgu, sydd wedi eu teilwrio’n arbennig i ddiwallu anghenion y sector gwirfoddol a chymunedol, yn cynnwys:

♦ Rhaglen hyfforddi agored, gyda chyrsiau ar amryw o bynciau, o ddod o hyd i nawdd i hyfforddi ymddiriedolwyr, yn cynnwys nifer o gyrsiau achrededig. Ceir gostyngiad i aelodau llawn CGGSB.

♦ Dewis o gyrsiau ychwanegol, a ellid eu cynnal ar gyfer eich grŵp chi’n unig, mewn lle ac ar amser sy’n gyfleus i chi, ar yr amod bod gennych 6 neu fwy o gyfranogwyr

♦ Gweithdy ‘Meithrin eich Sgiliau’ am ddim ar gyfer eich mudiad, wedi’i hyrwyddo gan Swyddog Hyfforddi CGGSB, i ganfod pa hyfforddiant sydd angen ar eich mudiad – yna bydd CGGSB yn eich helpu i ddod o hyd i’r cyrsiau sydd eu hangen arnoch

♦ Hyrwyddo’r cyrsiau a gynigir gan y sector gwirfoddol, trwy hysbysebu ar wefan CGGSB ac yn y Rhaglen Hyfforddi

♦ Aelodaeth am ddim gyda Rhwydwaith Dysgu Trydydd Sector Sir Benfro (P3LN) cymuned ar­lein i’r rhai hynny sydd â diddordeb mewn dysgu / hyfforddi o fewn y Sir

♦ Gwasanaeth dangos y ffordd at gyrsiau / darparwyr eraill yn Sir Benfro; trwy gyfrwng Rhwydwaith Dysgu Sir Benfro

Mae gwybodaeth bellach ac adnoddau ar gael ar wefan CGGSB www.pavs.org.uk/training/ [email protected]

PAVS delivers a number of learning opportunities tailored specifically to meet the needs of the voluntary and community sector including:

♦ An open training programme with courses on a variety of topics from finding funding to trustee training, including a number of accredited courses. Courses are discounted for full PAVS members

♦ A selection of additional courses that can be run just for your group, at a place and time convenient for you, providing you have 6 or more participants

♦ A free ‘Build on your Skills’ workshop for your organisation, facilitated by the PAVS Training Officer to identify what training is needed in your organisation ­ PAVS will then help you find the courses you need

♦ Promotion of courses offered by the voluntary sector through advertising on the PAVS website and in the Training Programme

♦ Free membership of the Pembrokeshire Third Sector Learning Network (P3LN) and online community for those with an interest in learning/ training within the County

♦ A signposting service to other courses / providers in Pembrokeshire; through the Pembrokeshire Learning Network

Further information and resources are available on the PAVS website www.pavs.org.uk/training/ [email protected]

Training Support

Mae’r Tîm Cynrychiolaeth a Chydweithio yn CGGSB yn gweithio i hyrwyddo a chynnal cysylltiadau cadarn rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol yn Sir Benfro, gan helpu grwpiau gwirfoddol a chymunedol i gael y strwythurau cynllunio strategol i wrando ar eu lleisiau.

Caiff y gwaith hwn ei wneud trwy:

♦ Gymell cydweithio rhwng pawb sy’n ymwneud â darparu gwasanaeth ar draws amrywiaeth eang o bartneriaid

♦ Hyrwyddo rhwydweithiau, yn cynnwys Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, Plant a Phobl Ifanc a Chynhalwyr, sy’n cwrdd yn chwarterol i ystyried newidiadau polisi yn lleol ac yn genedlaethol, ac i dderbyn gwybodaeth a/neu hyfforddiant ar amrywiaeth eang o bynciau

♦ Cyhoeddi e­fwletinau cyson a/neu gylchlythyrau chwarterol, i roi’r diweddaraf i grwpiau rhwng cyfarfodydd rhwydwaith ac i gasglu barnau ar fyr rybudd, os oes angen

♦ Sicrhau bod barnau’n cael eu bwydo i mewn i brosesau cynllunio ac ymgynghori lleol, rhanbarthol a chenedlaethol

♦ Cynorthwyo aelodau rhwydwaith unigol i ddarparu cynrychiolaeth trydydd sector effeithiol ar grwpiau a phartneriaethau cynllunio strategol

♦ Sicrhau bod y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn cael eu defnyddio i’w llawn botensial, trwy gyfrwng gwaith Broceriaid Sector Gwirfoddol oddi fewn i Dimau Adnoddau Cymunedol ar draws y Sir

♦ Darparu dolen rhwng gwaith PLANED mewn cymunedau gwledig a chynllunio a darparu gwasanaeth trwy rôl y Swyddog Cyswllt Cynllunio Cymunedol

♦ Cynrychioli’r trydydd sector mewn partneriaethau cynllunio strategol ♦ Cynorthwyo cynhalwyr di­dâl yn Sir Benfro trwy gyfrwng y Fforwm Cynhalwyr; cyhoeddi’r Newyddiadur

Cynhalwyr (Carers’ Gazette); datblygu gwasanaethau i gynhalwyr a rhoi cymorth / cyfarwyddyd cyffredinol

Cysylltwch â swyddfa CGGSB i gael mwy o wybodaeth neu ymwelwch â’n gwefan bwrpasol ar www.pembs­networking.org.uk

Cynrychiolaeth a Chydweithio

The Representation and Joint Working Team within PAVS works to promote and maintain strong links between the voluntary and statutory sectors within Pembrokeshire, helping voluntary and community groups to get their voices heard within strategic planning structures.

This work is carried out by:

♦ Encouraging collaborative working between all those involved in service delivery across a wide range of partners

♦ Facilitating networks including Health, Social Care and Wellbeing, Children and Young People and Carers, which meet on a quarterly basis to consider local and national policy changes and to receive information and/or training on a wide variety of subjects

♦ Publishing regular e­bulletins and/or quarterly newsletters to keep groups informed between network meetings and to gather views at short notice, should this be required

♦ Ensuring that views are fed into the local, regional and national planning and consultation processes ♦ Supporting individual network members to provide effective third sector representation on strategic

planning groups and partnerships ♦ Ensuring that services delivered by voluntary and community groups are used to their maximum

potential through the work of Voluntary Sector Brokers within Community Resource Teams across the County

♦ Providing a link between the work of PLANED in rural communities and service planning and delivery through the Community Planning Link Officer role

♦ Representing the third sector at strategic planning partnerships ♦ Supporting unpaid carers in Pembrokeshire through the Carers’ Forum; publication of the Carers’

Gazette; development of services for carers and general support/signposting

Contact the PAVS office for more information or visit our dedicated website at www.pembs­networking.org.uk

Representation and Joint Working

Gwirfoddoli Sir Benfro yw canolfan wirfoddolwyr CGGSB, sy’n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i gefnogi gwirfoddoli yn y Sir. Trwy gyfrwng y prosiect Porth Ymgysylltu, mae lleoliadau i wirfoddoli’n cael eu cynnig i bobl sydd wedi bod yn ddi­waith am gyfnod hir, fel cam cyntaf tuag at waith neu hyfforddiant pellach, ac mae ffocws ar wirfoddoli ymhlith pobl ifanc hefyd.

Mae gan Wirfoddoli Sir Benfro gontractau gyda’r Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru, ac mae’n cynnig cyngor a chyfarwyddyd cyfrinachol ar gyflogaeth, hyfforddiant a datblygiad personol, yn ogystal â gwirfoddoli.

Mae Gwirfoddoli Sir Benfro’n cynorthwyo darpar wirfoddolwyr trwy: ♦ gynnal cyfweliad anffurfiol, i ganfod beth maen nhw’n gobeithio’i gael allan o wirfoddoli cyn awgrymu

lleoliadau ♦ teilwrio atgyfeiriadau i ddiwallu gofynion gwirfoddolwyr unigol ♦ darparu gwasanaeth Allgymorth (trwy apwyntiad yn unig) yn Aberdaugleddau, Doc Penfro, Dinbych y

Pysgod, Arberth, Abergwaun a Threfdraeth ♦ cynnig gwasanaeth eiriolaeth anffurfiol i wirfoddolwyr (a grwpiau) ble mae materion wedi amlygu

Mae Gwirfoddoli Sir Benfro yn cynorthwyo grwpiau wrth ddatblygu cyfleoedd i wirfoddolwyr trwy: ♦ Canllaw ysgrifenedig a chwrs undydd cyflenwol ar gyfer grwpiau, yn dwyn y teitl ‘Sut i Ddatblygu Cynllun

Gwirfoddoli’ ♦ Cymorth a chefnogaeth barhaus gyda recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr i ddiwallu safonau arfer gorau ♦ Cymorth gyda rhaglenni a chynlluniau gwirfoddoli cenedlaethol ♦ Bwletin gwirfoddoli, a gyhoeddir ddwywaith y flwyddyn, sy’n cael ei ddosbarthu i wirfoddolwyr cofrestredig a

rhai mudiadau.

www.pavs.org.uk/volunteering/ [email protected]

Gwirfoddoli Sir Benfro

Volunteering Pembrokeshire is the PAVS volunteer centre, providing a wide range of services to support volunteering within the County. Through the Engagement Gateway project, volunteering placements are offered to people who are long­term unemployed as a first step to work or further training, and there is also a focus on youth volunteering.

Volunteering Pembrokeshire has contracts with Jobcentre Plus and Careers Wales and offers confidential advice and guidance on employment, training and personal development as well as volunteering.

Volunteering Pembrokeshire supports potential volunteers by: ♦ having an informal interview, to understand what they hope to get out of volunteering before suggesting

placements ♦ tailoring referrals to meet individual volunteers’ requirements ♦ providing an Outreach service (by appointment only) in Milford Haven, Pembroke Dock, Tenby, Narberth,

Fishguard and Newport ♦ offering an informal advocacy service for volunteers (and groups) where issues have arisen

Volunteering Pembrokeshire supports groups in developing volunteer opportunities through: ♦ A written guide and a complementary one­day course for groups entitled ‘How to Develop a Volunteering

Initiative’ ♦ Ongoing help and support with recruiting and managing volunteers to meet best practice standards ♦ Support with national volunteering programmes and initiatives ♦ A volunteering bulletin, published twice a year, which is distributed to registered volunteers and some

organisations.

www.pavs.org.uk/volunteering/ [email protected]

Volunteering Pembrokeshire

Mae Cylchredwyr Technoleg CGGSB (Swyddogion Cymorth TGCh) yn cynnig cyngor a chymorth gyda phob agwedd o TGCh (Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu) ar gyfer eich grŵp neu eich mudiad.

Mae’n bosib eich bod yn dymuno: ♦ Sefydlu neu wella eich gwefan ♦ Prynu’r cyfrifiadur cywir a meddalwedd newydd ♦ Rhannu ffotograffau a fideos o’ch digwyddiadau ♦ Fideo­gynadledda gyda’ch cleientiaid, eich ♦ Ymddiriedolwyr neu eich staff am ddim

Yn ogystal, mae’r Cylchredwyr Technoleg yn cynnal gweithdai ar hyd a lled Sir Benfro, i ddangos sut mae technoleg fodern yn medru gwella eich gwaith, lleihau costau a gwella eich modd o gyfathrebu.

Trwy gyfrwng y prosiect Cymunedau 2.0, mae CGGSB yn gweithio gyda grwpiau a mudiadau gwirfoddol a leolir, neu sy’n gweithio, yn ardaloedd targedig o Sir Benfro, sef:

♦ Hwlffordd, Castell a’r Garth ♦ Aberdaugleddau, Hubberston a’r Gorllewin ♦ Doc Penfro, Canol a Llanion ♦ Penfro, Cil­maen a Gogledd Santes Fair

Gellir rhoi cymorth TGCh i fentrau cymdeithasol ar draws y Sir gyfan.

[email protected] www.pavs.org.uk/support/ict/

Cymorth TGCh

PAVS’ Circuit Riders (ICT Support Officers) offer advice and support all aspects of ICT (Information Communications Technology) for your group or organisation.

You may want to: ♦ Set up or improve your website ♦ Buy the right computer and new software ♦ Share photos & videos of your events ♦ Video conference your clients, Trustees or staff for free

The Circuit Riders also deliver workshops throughout Pembrokeshire to show how modern technologies can enhance your work, reduce your costs and improve your communications.

Through the Communities 2.0 project, PAVS works with voluntary groups and organisations based in, or who work within, targeted areas of Pembrokeshire, namely:

♦ Haverfordwest, Castle & Garth ♦ Milford, Hubberston & West ♦ Pembroke Dock, Central & Llanion ♦ Pembroke, Monkton & St Mary North

ICT support can be provided to social enterprises across the whole of the County.

[email protected] www.pavs.org.uk/support/ict/

Communities 2.0 Circuit Rider Project

36/38 High Street, Haverfordwest, Pembrokeshire SA61 2DA

36/38 Y Stryd Fawr, Hwllfordd, Sir Benfro, SA61 2DA

Tel/Ffôn: 01437 769422 Fax/Ffacs: 01437 769431

Email: [email protected] Website: www.pavs.org.uk

Company limited by Guarantee/Cwmni Cyfyngedig trwy Warant

Registered No/Rhif Cofrestredig: 3343059

Registered Charity No/Elusen Gofrestredig: 1063289