Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

17
Gofal Lliniarol Arbenigol Yr Adroddiad Blynyddol 2011

description

Annual Report 2011 for Nightingale House Hospice, Wrexham, in Welsh.

Transcript of Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

Page 1: Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

Gofal Lliniarol Arbenigol

Yr Adroddiad Blynyddol2011

ar2012 WELSH.indd 1 26/03/2012 13:36:02

Page 2: Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

Mae gen i ffydd ynddyn nhw

ac maen nhw’n gwrando arna i

Claf, Awst 2011 “”

Datganiad BwriadauDarparu gwasanaeth gofal lliniarol arbenigol i gleifion sy’n dioddef o waeledd penodol a fydd yn bygwth hyd oes ac sy’n byw o fewn dalgylch Gogledd Ddwyrain Cymru a’r gororau a chefnogi eu teuluoedd mewn amgylchedd llawn gofal. Gweneir hyn gan dim amlddisgylaethol a dderbyniodd hyfforddiant arbenigol ar gyfer darparu rheolaeth symptomau, asesiadau, gofal terfynol, a chefnogaeth emosiynol cyson i berthnasau a gofalwyr, cefnogaeth galar, addysg a gwybodaeth.

Aelodau Pwyllgor Cyfarwyddwyr/YmddiriedolwyrMr M Edwards (Llywydd)Mrs E Griffiths (Cadeirydd)Dr N Braid (Is-Gadeirydd)Mrs P Valentine (Ysgrifenyddes)Mrs A WoodMr C BurgoyneMr M H PhillipsMr A MorseMrs J LoweMr N DaviesMrs E WalkerDr J Duguid.

Hospis Tŷ’r Eos Heol Caer Wrecsam LL11 2SJ.

www.nightingalehouse.co.ukFfon: 01978 316 800

Sefydliad Hospis a Chanolfan Cymorth Canser Wrecsam Rhif Elusen Gofrestredig: 1035600 Company Number 02906838 (Registered in England & Wales).

Cydnabyddiaeth a diolch iGareth Hughes, Kris Williams a Gavin Priest.

ar2012 WELSH.indd 2 26/03/2012 13:36:17

Page 3: Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

1

Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr 2

Prif Weithredwr 4

Cyfarwyddwr Nyrsio 6

Cyfarwyddwr Cyswllt Meddygol 8

Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm 10

Rheolwr Cyswllt y Gwirfoddolwyr 12

Rheolwr Cyllid 14–15

Detholiad o luniau 2011 16–17

Cynnwys

ar2012 WELSH.indd 1 26/03/2012 13:36:24

Page 4: Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

2 Hospis Ty’r Eos | Adroddiad Blynyddol 2011 �

Eluned Griffiths

Bu’n flwyddyn a welodd y chwyddiant yn gwthio ein costau i bron £2.5miliwn tra arhosodd cyfraniad yr adran statudol o tua 20% yn ei unfan, sy’n golygu gostyngiad yng ngwir werth yr arian.

Mae wedi bod yn her codi’r cyfanswm hwn nid yn unig oherwydd ansicrwydd yr hinsawdd economaidd ond hefyd oherwydd cystadleuaeth leol ymgyrch codi arian ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

Drwy gydol y flwyddyn bu’r Adran Cynhyrchu Incwm yn cloriannu a gwella dulliau codi arian gan ddilyn dulliau codi arian arloesol. Cyfrannodd hyn at ein llwyddiant yn cyrraedd y cyfanswm incwm angenrheidiol ond roedd cefnogaeth wych ein cymuned yn llawn mor bwysig.

Ar fy rhan fy hun a’m cyd-ymddiriedolwyr, hoffwn dalu teyrnged i waith caled unigolion, grwpiau cymunedol a chorfforaethau oherwydd, heb eu cyfraniad nhw, ni fyddem wedi cyrraedd ein targed ariannol. Galluogodd eu cefnogaeth inni fedru parhau i gynnal yr holl wasanaethau rydyn ni’n eu darparu ar gyfer ein cleifion a’u teuluoedd.

Rwy’n diolch i’r holl staff am eu gwaith proffesiynol yn gofalu bod pob un o’r adrannau’n cadw o fewn eu cyllid, gan barhau i ddarparu gofal o’r safon uchaf, yn ogystal â darparu’r ‘tipyn bach dros ben’ sy’n ychwanegu cymaint mwy at gysur a lles ein cleifion a’u teuluoedd.

Rhaid imi hefyd ddiolch i’n 500 o wirfoddolwyr a chydnabod yr amser y maen nhw’n ei roi yn rhad ac am ddim ymhob agwedd ar weithgareddau’r hosbis. Heb eu cyfraniad nhw ni fyddem wedi llwyddo i gynnal lefel ein gwasanaethau.

Rydyn ni’n sefydliad lle mae pobl a chleifion yn ganolog ac mae’r arian a godir yn hanfodol i gyllido ein tîm clinigol hyddysg a medrus a’r gwasanaethau clinigol y maen nhw’n eu darparu.

Ar waetha blwyddyn anodd, bu’n gryn gamp cyrraedd ein targedau ariannol a darparu triniaeth ar gyfer dros 5,298 o achosion, gan gynnal gwasanaeth o’r radd flaenaf, ac mae’n bwysig nodi’r ffaith fod y gwasanaethau hyn wedi parhau ac y byddan nhw’n dal i gael eu cynnig yn ddi-dâl i’n cleifion a’u teuluoedd. Fodd bynnag, ni allwn ni fod yn hunanfodlon. Mae sawl her economaidd arall yn ein hwynebu yn y blynyddoedd sydd i ddod a bydd gofyn inni barhau yn ein hymdrechion i ofalu ein bod yn cwrdd â’n hanghenion ariannol.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i chi, fy nghyd-ymddiriedolwyr a’r staff, am eich cefnogaeth amhrisiadwy a’ch gwaith proffesiynol yn ystod eleni a sicrhaodd fod Tŷ’r Eos wedi cyrraedd ei amcanion a’i fod yn dal ymlaen i chwarae rôl bwysig yn narpariaeth Gofal Lliniarol yn ein cymuned ac ar gyfer BIPBC.

Mae fy mlwyddyn gyntaf fel

Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

ar fin dod i ben a bu’n fraint

gwasanaethu’r Hosbis yn y swydd

hon.

Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

ar2012 WELSH.indd 2 26/03/2012 13:36:30

Page 5: Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr Yn rhoi cymaint gyda gofal a

charedigrwydd go iawn

Claf, Mai 2011 “”

ar2012 WELSH.indd 3 26/03/2012 13:36:37

Page 6: Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

4 Hospis Ty’r Eos | Adroddiad Blynyddol 2011 �

John Savage

Nid yw hyn ynddo’i hunan yn destun syndod, am ein bod wedi datblygu enw da am ansawdd a rhagoriaeth ein gwasanaeth dros y blynyddoedd. Yr hyn sy’n rhyfeddod yw ein bod wedi llwyddo nid yn unig i gynnal yr un safon o wasanaeth dros gyfnod o ansicrwydd ariannol enbyd, yn lleol a chenedlaethol, ond ein bod hefyd wedi parhau i arloesi yn narpariaeth y gwasanaethau hynny. Mae hyn y dystiolaeth i’n holl staff sydd wedi gweithio mor galed ac sydd bod amser yn rhoi’r lle blaenaf i’w harbenigedd proffesiynol.

O safbwynt cyllid, rwy’n arbennig o falch o’r hyn a gyflawnwyd drwy’r flwyddyn ac fel canlyniad roedd yn golygu ein bod wedi cyrraedd ein nod ariannol, yn enwedig o weld cymaint o’n helusennau’n dioddef yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd ariannol.

Fel arfer, sylfaen ein llwyddiant yw aelodau’r gymuned sy’n ein cefnogi a hebddyn nhw ni fyddem wedi medru cynnal lefelau’r gwasanaeth a gynigir gennym. Oni bai am yr ymdrechion codi arian, mynychu digwyddiadau, cyfrannu nwyddau, gwasanaethau neu arian, ymuno â’n loteri neu wirfoddoli, ni fyddem wedi medru cynnal a darparu holl amrediad y gwasanaethau sydd eu hangen ar ein cymuned, ac felly diolch o waelod calon i chi un ac oll.

I gyrraedd y canlyniadau hyn, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’n rhaid inni weithredu ymarferion cynllunio manwl er mwyn sicrhau bod gennym ddigon o adnoddau i gwrdd â gofynion y gwasanaeth, nid yn unig nawr ond i’r dyfodol. Roedd rhan o’r cynllunio yn ystod 2011 yn golygu

edrych ar dreuliau ynni a’r modd y gallen ni o leiaf sefydlogi, os nad leihau, ein costau ynni dros y blynyddoedd sydd i ddod. Erbyn i chi ddarllen yr adroddiad hwn bydd penderfyniad a wnaed gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ystod chwarter olaf 2011 i fuddsoddi mewn paneli heulol uwchdrydanol wedi ei wireddu a bydd 208 o baneli heulol wedi eu gosod a byddant yn cynhyrchu ychydig o dan 50,000 cilowat y flwyddyn a bydd hyn yn dod ag incwm o £20,000 i’r Hosbis, yn y flwyddyn gyntaf, a chymaint â £750,000 dros 25 blynedd oes rhaglen y llywodraeth, arian y gellir ei ddefnyddio er mwyn parhau i gefnogi gwasanaethau clinigol.

Er y byddwn yn wynebu cyfnod o ansicrwydd economaidd dros y blynyddoedd nesaf, rydyn ni’n cynllunio ar gyfer cynnal lefel y gwasanaethau presennol. Ein huchelgais yw ymestyn ein gwasanaethau ond oni bai y bydd cynnydd gwirioneddol yn yr ariannu cynaliadwy ni fydd modd cyflawni’r cynlluniau hyn.

Oherwydd y gwasgfeydd ariannol ar yr Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ac mewn cyfnod lle na fu erioed gymaint o alw am ein gwasanaethau, ni allwn hyd yn oed warantu y bydd lefel y nawdd a dderbynnir gan ein Bwrdd Iechyd Lleol yn cael ei gynnal ar y lefel presennol o 20%. Mae felly’n bwysicach nag erioed fod ein cymuned yn parhau i’n cefnogi ymhob dull a modd er mwyn sicrhau y gallwn ddal ynmlaen i wneud ein gwaith da.

Fel y byddwch yn darllen drwy’r

adroddiad hwn mi welwch fod

Ty’r Eos yn 2011 wedi parhau i

ddarparu gwasanaeth o’r radd

flaenaf i’r holl gleifion a’r teuluoedd

dan ein gofal.

Prif Weithredwr

ar2012 WELSH.indd 4 26/03/2012 13:36:44

Page 7: Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

Bu’r gofal yn ystod fy arhosiad yn eithriadol

ym mhob dull a modd gyda llawer o OTC (ofal

tyner cariadus), tosturi a hiwmor

Claf, Mehefin 2011 “”

ar2012 WELSH.indd 5 26/03/2012 13:36:50

Page 8: Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

6 Hospis Ty’r Eos | Adroddiad Blynyddol 2011 �

Cyfarwyddwr NyrsioTracy Livingstone

Yn 2011 yn sgil datblygiad y Rhaglen Ddydd Llun o sesiynau ‘galw heibio’, rydyn ni bellach yn medru effeithio ar fywydau’r cleifion llawer ynghynt ar ôl i waeledd a fydd yn cyfyngu ar hyd oes gael ei ganfod. Gall cleifion, na fydd efallai arnynt angen sylw ffurfiol y ddarpariaeth ar gyfer cleifion allanol neu ofal dyddiol, fanteisio ar y cyfle i ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ac awgrymiadau ynglŷn â dull o fyw, a’r siawns i fedru siarad am yr effaith y mae’r salwch yn ei gael ar ei bywydau a’u perthynas ag eraill.

Cefnogir y rhaglen nid yn unig gan ein tîm nyrsio uned ddyddiol, ond hefyd gan ein tîm ailsefydlu, ffisiotherapyddion, a therapyddion galwedigaethol sy’n darparu sesiynau ar gyfer ‘Diffyg Anadl’, ‘Rheoli Blinder’, ‘Tipyn o ymarfer’ ac ‘Ymlacio’, lle mae’r pwyslais ar hunan-gymorth a galluogi cleifion i reoli eu bywydau a’u lles eu hunain.

Rhoddwyd sylw pellach i hunan-gymorth trwy gynnig y rhaglen hyfforddi sgiliau ‘Gofal’, a gafodd ei hyrwyddo ar y cyd â’n cydgysylltwr caplaniaid, ac mae wedi’i llunio i annog unigolion i ganolbwyntio ar y presennol yn hytrach na defnyddio eu hegni i feddwl am y gorffennol neu’r dyfodol. Cafwyd ymateb hynod o bositif gan y rhai a wnaeth ddefnydd o’r mentrau hyn a gyflwynwyd trwy ddefnyddio adnoddau a oedd yn bodoli’n barod ond gan ddilyn dulliau newydd ac arloesol.

Fel mae triniaethau canser wedi gwella, felly hefyd y mae disgwyliadau hyd oes ar ôl y dadansoddi. Oherwydd hyn, nid yn unig rydyn ni’n gweld bod cleifion yr hosbis yn byw yn hirach ond hefyd, fel y mae’r amser yn mynd heibio, fod dichon iddyn nhw ddatblygu cyflyrau eraill a theimladau morbid yn eu sgil. Mae hyn yn creu mwy o bwysau ar gleifion a’u teuluoedd ac mae tîm ein gweithwyr cymdeithasol yn parhau i weithio gyda’r cleifion, gan gynnig cefnogaeth a mynd i’r afael â materion ymarferol a achosir gan y newidiadau yn eu hamgylchiadau.

Mae’r teimladau morbid a ddaw yn eu sgil yn golygu bod angen gweithio’n fwy agos gyda chydweithwyr mewn arbenigeddau eraill, gan fanteisio ar wybodaeth

ac arbenigedd y naill a’r llall o fewn y rhaglen addysgol, i sicrhau fod aelodau’r staff yn medru cwrdd ag anghenion cyfnewidiol ein cleifion a’u teuluoedd.

Mae ein gwaith gyda’r tîm rheoli heintiau dros y deuddeg mis diwethaf wedi dangos yn glir effaith bositif cydweithio. Mae rheoli heintiau yn rhan bwysig o’r agenda iechyd ac, o’r herwydd, mae’n hanfodol fod yr Hosbis a’r staff yn ymwybodol o’r datblygiadau cyfoes a’u bod yn medru ymateb yn briodol ac yn unol â gofynion y deddfwriaeth a’r canllawiau presennol.

Aethpwyd i’r afael â’r gwaith mewn nifer o ffyrdd gwahanol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; newidiwyd y defnydd ar lawr yr uned cleifion mewnol o garped i finyl, gan wella glanweithdra a thrin gorlifiadau ac ati yn fwy effeithiol. Hefyd mae’r holl staff sy’n gweithio yn y rhannau clinigol yn dilyn hyfforddiant gorfodol mewn rheolaeth haint a phob blwyddyn mae ein nyrs gyswllt yn cysylltu â’r tîm arbenigol i gytuno ar gynnwys a blaenoriaethau’r cwrs.

Rydyn ni hefyd wedi parhau i ddarparu lleoliadau hyfforddi i fyfyrwyr gydol y flwyddyn, drwy’r cysylltiadau sy’n bodoli rhyngom ni a Phrifysgol Glyndŵr, ar gyfer myfyrwyr nyrsio a therapi galwedigaethol ac rydyn ni’n datblygu cysylltiadau newydd ar y cyd â Phrifysgolion Birmingham a Manceinion ar gyfer lleoli myfyrwyr y cwrs ffisiotherapi.

O fwrw golwg yn ôl ar waith pob un o’r adrannau clinigol yn ystod 2011 daw’n amlwg iddi fod yn flwyddyn brysur. Bu’n flwyddyn o her yn nhermau’r angen parhaol i ddefnyddio’r adnoddau prin mewn modd cyfrifol, gan ddal ymlaen i sicrhau fod y prif bwyslais ar ddiwallu anghenion y cleifion a’u teuluoedd.

Ar waetha pob her a wynebwn, y cleifion a’u teuluoedd yw canolbwynt y gofal a ddarparwn, diolch i’n holl staff, ein gwirfoddolwyr a’n cefnogwyr, oherwydd eu hymroddiad a’u penderfyniad nhw sy’n gwneud y gwasanaethau yr ydyn ni’n eu darparu y rhai gorau posibl.

Mae’r Adroddiad Blynyddol yn rhoi cyfle inni, bob blwyddyn, fwrw golwg ar bob un o’n gwasanaethau ac ystyried yr effaith a gawsom ar fywydau’r cleifion a’r teuluoedd a gyfeiriwyd i’n gofal.

ar2012 WELSH.indd 6 26/03/2012 13:37:01

Page 9: Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

‘Dw i ‘di cael y gofal gore a ges i erioed

mewn ysbyty. Mae hyn wedi lleddfu ‘mhoen

i gymaint fel ‘mod i’n mynd adre dros y Sul ac

yn dod yn ôl ar ddydd Llun, ac yn edrych

ymlaen at hynny.

Claf, Gorffennaf 2011

”“

ar2012 WELSH.indd 7 26/03/2012 13:37:08

Page 10: Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

8 Hospis Ty’r Eos | Adroddiad Blynyddol 2011 �

Cyfarwyddwr Cyswllt MeddygolDr Nigel Martin

Mae pob blwyddyn fel petai’n dod

â sawl her newydd, ychwanegol

i ddarpariaeth Gwasanaethau

Meddygol Lliniarol Hosbis Ty’r Eos.

Cyn imi drafod yr heriau hyn, mae’r rhaid imi nodi un newid arwyddocaol, sef bod yr Athro Matthew Makin wedi ymddiswyddo fel Cyfarwyddwr Meddygol Anrhydeddus er mwyn iddo fedru canolbwyntio ei egnïon ar ei rôl fel Pennaeth a Meddyg Ymgynghorol Meddygaeth Liniarol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Bydd yn parhau fel ‘Meddyg Ymgynghorol Gwadd mewn Meddygaeth Liniarol’ yr Hosbis a bydd yn aros ar y rota feddygol ar alwad Mae wedi dal swydd Cyfarwyddwr Meddygol Anrhydeddus am un mlynedd ar ddeg a’i ddylanwad ef fu’n sbarduno’r datblygiadau mewn Gwasanaethau Lliniarol, nid yn unig yn Nhŷ’r Eos ond hefyd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae wedi gweld yr Hosbis yn datblygu o ddyddiau ei blentyndod i’w lawn dwf, lle mae ar flaen y gad yn arwain y datblygiadau arloesol ym maes Gofal Lliniarol a byddwn yn gweld ei golli’n fawr iawn yn ei rôl fel rheolwr. Rydyn ni’n falch ei fod am gadw cysylltiad agos â Thŷ’r Eos, a hoffem ddiolch iddo am ei waith ymroddgar drosom yn y gorffennol a diolch iddo rhag blaen am yr hyn y bydd yn ei wneud yn y dyfodol, yn ogystal.

Mae tîm meddygol yn Hosbis Tŷ’r Eos wedi aros yr un fath yn ei hanfod. Mae cysylltiadau cryfion rhyngom a BIPBC wedi eu cynnal yn rhinwedd y ffaith ein bod yn cefnogi lleoliadau clinigol Cofrestryddion Gofal Lliniarol, Meddygon Tŷ ar y Cwrs Sylfaen Blwyddyn Un, a hefyd ymweliadau gan fyfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd. Maen nhw i gyd wedi elwa’n fawr o’r cyfnod a dreulion nhw gyda ni. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni hefyd wedi meithrin cysylltiadau gyda Darlithydd Clinigol mewn Meddygaeth Liniarol o Brifysgol Glyndŵr a gynigiodd i’r staff nid yn unig gymorth meddygol amhrisiadwy ond hefyd sesiynau addysgol gwych.

Her arwyddocaol a pharhaol yw’r newidiadau ym maes Meddygaeth Liniarol. Dros y flwyddyn mae wedi dod yn amlwg fod cynnydd yng nghymhlethdod y cyflyrau rydyn ni bellach yn ei trin. Adlewyrchir hyn nid yn unig yn y ffaith fod pobl yn byw yn hirach oherwydd gwelliannau mewn dulliau trin canser, ond eu bod yn tueddu i ddatblygu symptomau mwy

cymhleth ac yn aml mae cyflwr eu iechyd yn llawer gwaeth pan ddônt i mewn i’r Hosbis. Rydyn ni wedi datblygu arbenigedd neilltuol i gefnogi pobl sy’n dioddef o glefydau niwrolegol dirywiol fel Clefyd Niwronau Motor. Yn draddodiadol, cefnogaeth ddigon bratiog gafodd y sawl a fu’n dioddef o’r clefydau hyn, yn bennaf oherwydd bod natur eu cyflwr yn rhywbeth mor brin. Fodd bynnag, i wella ansawdd eu bywydau mae angen mabwysiadu dulliau cydgysylltiedig a chyfannol sy’n golygu dod â llawer o wahanol arbenigeddau at ei gilydd a’r angen i ddatblygu sgiliau newydd — fel problemau gofalu am gleifion sy’n defnyddio gwyntylliad di-ymyrgar yn ystod, ac ar ddiwedd, oes. Ar ben hyn, rydyn ni’n derbyn ymgynghoriadau sy’n cynnwys nifer cynyddol o gleifion yn dioddef o glefydau nad ydynt yn rhai enbyd. Mae’r achosion hyn nid yn unig yn gosod heriau newydd mewn rheoli symptomau ond mae hefyd yn sicrhau ein bod yn gyfarwydd â’r datblygiadau yn y triniaethau diweddaraf.

Mae’r pwysau cynyddol ar nifer gwelyau’r Bwrdd Iechyd Cenedlaethol yn gosod gofynion ychwanegol ar Dŷ’r Eos oherwydd bod cleifion yn cael eu trosglwyddo o ofal dwys i’r Hosbis yn gynt. Mae’r cleifion hyn yn aml yn dod atom yng nghyfnod cynharach eu hadferiad ar ôl triniaeth a gall hynny olygu bod arnynt angen gofal o natur mwy dibynnol. Gall y cyfyngiadau ariannol ar y gwasanaethau statudol ei gwneud hi’n fwy anodd, yn ogystal, i anfon cleifion adref o Dy’r Eos i’w cartrefi eu hunain oherwydd yr oedi sy’n digwydd fel canlyniad i holl gymhlethdod trefnu gofal ar eu cyfer o fewn y gymuned .

Fodd bynnag, i gau pen y mwdwl, nid yw’r cyfan yn ‘ofid a gwae’. Mae Tŷ’r Eos wedi dangos, dros y blynyddoedd, ei fod yn gallu addasu ac mae’n parhau i gwrdd â’r gofynion trwy ddarparu math o ofal a chymorth, sydd, yn fy marn i, ar flaen y gad ym maes Gofal Lliniarol. Rwy’n siŵr y bydd hyn yn parhau i’r dyfodol.

ar2012 WELSH.indd 8 26/03/2012 13:37:13

Page 11: Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

Cyfarwyddwr Cyswllt Meddygol

”Alla i lai na chanmol y gofal ‘dw i’n

ei gael yn Nhy’r Eos; gyda ‘mod i’n cerdded

drwy’r drws roedd yr awyrgylch yn gwneud

imi deimlo’n gartrefol; mae’r staff yn fawr

eu gofal a charedig a ‘dw i’n gwerthfawrogi

eu harbenigedd a’u cyfeillgarwch

Claf, Ionawr 2011

“ar2012 WELSH.indd 9 26/03/2012 13:37:18

Page 12: Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

10 Hospis Ty’r Eos | Adroddiad Blynyddol 2011 �

Cyfarwyddwr Cynhyrchu IncwmCaroline Siddall

Cyfeirir yn aml at yr Hosbis Ty’r Eos

fel calon y gymuned ac efallai fod

2011 wedi tanlinellu hyn yn fwy

nag erioed.

Dros gyfnod ariannol a fu’n anodd i bawb, trwy eich cefnogaeth gyson chi rydyn ni, eto fyth, wedi cyflawni ein targedau ariannol heriol gan sicrhau bod ein timau clinigol yn gallu parhau i ddarparu gofal cleifion o’r safon uchaf, ffaith sydd bellach yn gyfystyr â’r enw Tŷ’r Eos.

Yn ystod 2011, trefnodd yr Hosbis nifer o ddigwyddiadau codi arian, yn cynnwys y Ddawns Flynyddol a noddwyd yn garedig iawn gan MWL Systems. Cyfanswm yr arian a godwyd yn y digwyddiadau hyn oedd £268,000. Canlyniad cefnogaeth y gymuned fu derbyn dros £338,000, a chodwyd llawer o’r cyfanswm hwn gan gefnogwyr yn cynllunio a threfnu eu digwyddiadau eu hunain. Yn gynwysedig yn y cyfanswm hwn mae £95,000 a godwyd gan 190 o’n cefnogwyr a fu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau noddedig fel rasys marathon, neidiau parasiwt a dringo mynyddoedd. Ar ben hyn, drwy gynnal nifer o weithgareddau amrywiol, codwyd £24,000 gan ein grwpiau rhanbarthol, ac mae llawer o’r rhain wedi ein cefnogi oddi ar sefydlu’r hosbis.

Cymerodd ein cymuned leol ein neges ‘mae pob ceiniog yn cyfrif’ o ddifrif yn ystod y flwyddyn a chodwyd £58,000 mewn newid mân trwy bacio bagiau, casglu ar strydoedd, a hel arian yn y tuniau melyn a’r ciwbiau casglu bach ar ‘lun tŷ’, felly nid oes wahaniaeth pa mor fach y bo’r cyfraniad, mae’r cyfan yn ein helpu i barhau i ofalu am ein cleifion.

Cododd ein cefnogwyr corfforaethol dros £100,000; cyflwynwyd £20,000 o’r cyfanswm hwn gan NISA — cynllun ‘Gwneud Gwahaniaeth yn Lleol’ a fu’n foddion noddi aelod o’r tîm nyrsio am flwyddyn.

Fis Tachwedd, cawsom wybod ein bod yn ddigon ffodus i dderbyn grant parhaus o £30,000 y

flwyddyn, am dair blynedd gan Blant mewn Angen y BBC ar gyfer helpu noddi Gollwng, ein rhaglen galar plant.

Rydyn ni hefyd yn falch dros ben fod Cynghrair Rygbi Cymru wedi ein dewis yn elusen gydol Cystadleuaeth Cynghrair Rygbi’r Pedair Gwlad. Canlyniad hyn oedd bod logo’r Hosbis yn ymddangos ar flaen crysau’r tîm, lle gellid ei weld ar raglenni chwaraeon y teledu fel Sky Sports a Chwaraeon BBC, gan hybu proffil cyhoeddus Tŷ’r Eos.

Parhaodd ein busnes Adwerthu i dyfu pan agorwyd siop elusen newydd yn Lôn Rhosnesni, gan ehangu ein hystafell arddangos dodrefn a olygodd gynnydd mewn incwm o £20,000 (28%) o’r siop hon. Rydyn ni hefyd wedi codi dros £51,000 drwy ein busnes ailgylchu sy’n dangos cynnydd o £15,000 (43%). At ei gilydd, mae ein busnes adwerthu wedi cynhyrchu incwm o £494,000, sef cynnydd o £78,000 (18%) ar gyfanswm 2010.

Gyda chefnogaeth ein cwmni canfasio allanol, mae 2538 o aelodau newydd wedi ymaelodi yn ein loteri sy’n gwneud yr aelodaeth yn gyfanswm parchus o 15,654. Canlyniad hyn fu cynnydd mewn incwm o £100,000 (17%) ar gyfanswm 2010.

Ar ddechrau bob blwyddyn, rydyn ni bob amser yn ymwybodol o faint yr her sy’n ein hwynebu pan fyddwn yn trefnu gweithgareddau codi arian. Fodd bynnag, mae’r gefnogaeth a gawn gan ein cymuned yn destun llawenydd a syndod inni. Ar ran ein cleifion, eu teuluoedd a’r staff, hoffwn ddiolch i chi am eich cefnogaeth gyson, heboch chi ni fyddai yna Hosbis.

ar2012 WELSH.indd 10 26/03/2012 13:37:28

Page 13: Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm

Yn ystod 2011, cawsom ein cefnogi gan y cwmnïau canlynol a’n dewisodd

ni yn Elusen y Flwyddyn, ac rydyn ni’n diolchgar iddyn nhw am eu

efnogaeth gyson.

Allington Hughes Hadlow Edwards Nice PakBuckley Insurance Hillyer McKeown NISACash for Gold House Name Plate Parkway TelecomCynghrair Rygbi Cymru Jolly Good Van Hire SainsburyDW Sports Marks and Spencer Money StoneacreEADS MWL Systems Travail

WholeBake

ar2012 WELSH.indd 11 26/03/2012 13:37:33

Page 14: Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

12 Hospis Ty’r Eos | Adroddiad Blynyddol 2011 �

Rheolwr Cyswllt y GwirfoddolwyrVal ConnellyEin braint, yn Hosbis Ty’r Eos, yw

cael ‘Byddin o Wirfoddolwyr’ mor egnïol sy’n parhau i neilltuo mwy a mwy o’u hamser i hyrwyddo ein nod a’n hamcanion, nid yn unig yn yr Hosbis a hefyd yn y gymuned

ehangach .

Rydyn ni’n dal i ddenu grŵp o wirfoddolwyr sy’n fwyfwy amrywiol ac mae hyn yn ein galluogi i ledaenu neges bositif yr hosbis i gynulleidfa ehangach.

Mae’r fintai wirfoddol wedi cynyddu’n fawr eleni, oherwydd bod mwy o bobl ifainc 16–18 oed yn astudio ar gyfer Tystysgrif Bagloriaeth Cymru. Mae gofynion adran wirfoddoli’r Dystysgrif yn cyfateb i’n hanghenion ni am wirfoddolwyr, yn enwedig ar gyfer digwyddiadau codi arian. Gall y gwirfoddolwyr gynnwys yn eu portffolio amrywiaeth o weithgareddau, fel pacio bagiau, ffeiriau, a digwyddiadau unigol. Mae ein system o fesur oriau gwirfoddol unigolion nid yn unig yn galluogi’r gwirfoddolwyr i lenwi eu Portffolio Gwirfoddoli, ond mae hefyd yn cynnig cyfleon ychwanegol i wirfoddoli yng ngwaith yr Hosbis i’r bobl ifainc hynny sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa gydberthynol

Yng Nghynhadledd Helpu’r Hosbis yn Bournemouth, eleni, roedden ni’n gallu hybu ein Rhaglen Bobl Ifainc, gan ddangos pa mor effeithiol ydyw a bu’n gyfle gwych i rannu dulliau ymarfer gorau o fewn y gymuned hosbis genedlaethol.

Mae gwirfoddolwyr a gafodd eu recriwtio i helpu mewn digwyddiadau codi arian yn cael eu hannog i ddod â ffrind neu aelod o’r teulu gyda nhw i gynnig

help llaw yn y gweithgareddau a chael hwyl yn ogystal. Mae’r oriau ychwanegol hyn wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i gyfanswm yr oriau gwirfoddol a recordiwyd ar hyd y flwyddyn. Rydyn bob amser yn awyddus i groesawu gwirfoddolwyr newydd!

Mae dulliau newydd rhwydweithio cymdeithasol i’w gweld yn ddull recriwtio llwyddiannus ac yn ffordd o gadw cysylltiad â gwirfoddolwyr. Ar hyn o bryd defnyddir Facebook a Twitter gan fwy a mwy. Ffordd arall o gadw mewn cysylltiad yw drwy ddefnyddio ffôn, e-bost neu SMS. Anfonir manylion am ddigwyddiadau codi arian i Wirfoddolwyr ar ffurf llyfryn gyda’r llythyr newyddion chwarterol. Nodir felly pwy sydd ar gael ac mae hyn yn cael ei gadarnhau bythefnos cyn bob digwyddiad, gan ddefnyddio’r dull cyswllt sydd orau gan y gwirfoddolwyr.

Mae’r dirywiad economaidd diweddar yn golygu bod angen mwy o wirfoddolwyr oherwydd cynnydd yn nifer y digwyddiadau. Mae cyfanswm yr oriau a gyfrannwyd gydol y flwyddyn yn deyrnged ysblennydd i haelioni ein holl wirfoddolwyr sydd wedi ymateb mor wych i bob her newydd.

Diolch i chi. Oni bai amdanoch chi ni fyddai hyn yn bosibl.

Ystadegau Gwirfoddolwyr am 2011

Cyfrannwyd 63,513 o oriau gan dros 500 o wirfoddolwyr.

Cyfrannwyd 706 o oriau gan Gyfeillion ac Aelodau’r Teulu

mewn sesiynau dwy awr.

Bu cynnydd o 18% ar gyfanswm yr oriau llynedd.

Nifer y Gwirfoddolwyr dan 25 oed yw 76.

ar2012 WELSH.indd 12 26/03/2012 13:37:37

Page 15: Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

Rheolwr Cyswllt y Gwirfoddolwyr Nid dim ond effeithiol mae’r staff

Ond mae eu sirioldeb yn ysbrydoli

Claf, Hydref 2011 ”

ar2012 WELSH.indd 13 26/03/2012 13:37:41

Page 16: Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

14 Hospis Ty’r Eos | Adroddiad Blynyddol 2011 �

Ffeithiau a ffigyrau

Mae £6,600 yn noddi’r hosbis am 1 diwrnod.

14% - canran yr incwm a dderbynnir gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

£278,000 — y swm a godir gan y Loteri ar gyfer elusen.

Noddir 66 diwrnod o ofal cleifion gan y Loteri.

Daw 22% o gyfanswm yr incwm gan Loteri’r Hosbis.

£110,000 — y cyfanswm a godir gan siopau elusennol yr Hosbis.

Gwerthiant o bron hanner miliwn o bunnau drwy’r siopau elusennol.

Cynnydd o 19% yng ngwerthiant y siopau elusennol.

£716,000 — cyfanswm y cyfraniadau a dderbyniwyd.

Noddir 171 diwrnod o ofal cleifion gan y cyfraniadau cyffredinol.

£299,000 — y cyfanswm a godir yng ngweithgareddau codi arian yr Hosbis.

Noddir 71 diwrnod o ofal cleifion gan weithgareddau codi arian.

Rheolwr Cyllid

Neil Williams

Incwm 2011

Llywodraeth Cymru 5%

Group Income£3.3 million

Sut y defnyddir yr arian i ddarparu gofal cleifon a theuluoedd

Cymynroddion 6%

Rhoddion 22%

Digwyddiadau 9%

Incwm Buddsoddiadau 1%

Gwerthiant Siopau 14%

Amrywiol 4%Grantiau Cyfyngedig 2%

Loteri 22%Bwrdd Iechyd Lleol 15%

Gofal Dyddiol 9%

Addysg 1%

GweithwyrCymdeithasol 4%

Meddygol 13%

Therapi Galwedigaethol 3%

Ffisiotherapi 7%

Cleifion Mewnol 60%

Therapiau Amgen 3%

Incwm Grwp£3.3 miliwn

ar2012 WELSH.indd 14 26/03/2012 13:37:42

Page 17: Nightingale House Hospice Annual Report 2011 WELSH

15

Datganiadau CyllidolDATGANIADAU CYLLIDOL Datganiad cyfunol y Gweithgareddau Cyllidol (yn cynnwys cyfrif incwm a gwariant) . Blwyddyn yn dod i ben 31 Rhagfyr 2011.

Cronfeydd Anghyfynedig

Cronfeydd Cyfyngedig

Diwedd Blwyddyn

31 Rhag 2011

Diwedd Blwyddyn

31 Rhag 2010 ADNODDAU INCWM £ £ £ £ Adnoddau incwm o gronfeydd cynhyrchu

Incwm gwirfoddol - Grantiau a rhoddion 1,329,652 28,550 1,358,202 1,312,213 Gweithgareddau cynhyrchu incwm 1,541,738 - 1,541,738 1,391,163 Incwm o fuddsoddiadau 36,023 - 36,023 28,777

Adnoddau Incwm o weithgareddau elusennol 197,015 62,154 259,169 262,399 Adnoddau a dderbyniwyd– elw o werthiant asedau sefydlog 104,840 - 104,840 82,346 CYFANSWM YR INCWM A DDERBYNIWYD 3,209,268 90,704 3,299,972 3,076,898 GWARIANT ADNODDAU Costau cynhyrchu incwm

Costau cynhyrchu arian yr Hosbis 388,217 3,632 391,849 384,858 Gweithgareddau marchnata masnachol 865,575 2,175 867,750 741,890

Costau rheoli buddsoddiadau 6,361 - 6,361 4,517 Gweithgareddau elusennol 1,859,309 168,937 2,028,246 1,997,444 Costau Trefnu 7,676 - 7,676 6,883 Eraill - - - - CYFANSWM GWARIANT ADNODDAU 3,127,138 174,744 3,301,882 3,135,592 Adnoddau net i memn / (talu allan) adnoddau cyn trosglwyddo ac elw a cholledion eraill 82,130 (84,040) (1,910) (58,694)

Trosglwyddo rhwng cronfeydd - - - - Elw / (colledion) na sylweddolwyd ar fuddsoddiad asedau (108,671) - (108,671) 78,698 Elw a sylweddolwyd ar fuddsoddiad asedau 41,873 - 41,873 14,015 Symudiadau net y cronfeydd 15,332 (84,040) (68,708) 34,019 Cyfanswm y cronfeydd ar 1 Ionawr 2011 2,989,872 2,195,269 5,185,141 5,151,122 CYFANSWM Y CRONFEYDD AR 31 RHAGFYR 2011 3,005,204 2,111,229 5,116,433 5,185,141

MANTOLENNI CYFUNOL AC ELUSENNOL. Ar 31 Rhagfyr 2011 Grŵp Grŵp Elusen Elusen 2011 2010 2011 2010 ASEDAU SEFYDLOG £ £ £ £ Asedau diriaethol 3,121,737 3,320,674 2,864,879 3,063,858 Buddsoddiadau 1,048,699 1,086,146 1,048,701 1,086,148 4,170,436 4,406,820 3,913,580 4,150,006 DYLEDWYR I’W TALU AR ÔL BLWYDDYN Dyledwyr - - - 28,118 ASEDAU CYFREDOL Buddsoddiadau 152,426 152,395 152,426 152,395 Stoc 23,831 17,125 11,741 9,525 Dyledwyr 98,376 106,829 156,482 125,747 Arian yn y banc ac mewn llaw 961,209 792,982 794,828 645,292 1,235,842 1,069,331 1,115,477 932,959 Credidwyr – symiau i’w talu o mewn blwyddyn (277,345) (278,245) (133,725) (148,953)

ASEDAU CYFREDOL NET 958,497 791,086 981,752 784,006 Cyfanswm asedau llai dyledion cyfredol 5,128,933 5,197,906 4,895,332 4,962,130 Darpariaeth ar gyfer dyledion a chostau (12,500) (12,765) (12,500) (12,765)

ASEDAU NET 5,116,433 5,185,141 4,882,832 4,949,365 CRONFEYDD Cronfeydd anghyfyngedig 3,005,204 2,989,872 2,849,097 2,833,765 Cronfeydd cyfyngedig 2,111,229 2,195,269 2,033,735 2,115,600 TOTAL FUNDS 5,116,433 5,185,141 4,882,832 4,949,365

Datganiad Cyfunol Y Gweithgareddau Cyllidol (yn cynnwys cyfrif incwm a gwariant). Blwyddyn yn dod i ben 31 Rhagfyr 2011.

Mantonlenni Cyfunal Ac Elusennol, cyfanswm yr arian ar 31 Rhagfyr 2011.

15

ar2012 WELSH.indd 15 26/03/2012 13:37:44