Newyddlen cynaliadwyedd@bangor nadolig 2014
-
Upload
sustainabilitybangor -
Category
Documents
-
view
223 -
download
4
description
Transcript of Newyddlen cynaliadwyedd@bangor nadolig 2014
Mae cynaliadwyedd yn un o werthoedd craidd Undeb y Myfyrwyr. P'un ai bod hynny'n golygu buddsoddiad ariannol yn eu projectau gwirfoddoli a chymdeithasau amgylcheddol, y gwaith maent yn ei wneud i ymwneud â chynaliadwyedd yr iaith a'r diwylliant Cymraeg, neu gynaliadwyedd cymunedau lleol a phrojectau lleol, neu eu gwaith yn hyrwyddo democratiaeth ac annog cyfranogiad dinesig.
Mae pob un o'r gweithgareddau hyn, a mwy yn cyfrannu at gymdeithas iach lle mae cymunedau'n ffynnu. Mae'r egwyddorion hyn yn rhan annatod o'r Bartneriaeth Gymunedol newydd, Caru Bangor, a fydd yn dod â chymunedau ynghyd i ymgyrchu dros fuddiannau cyffredin er mwyn arwain at newid mewn amryw o feysydd, a datblygu'r agenda cynaliadwyedd ehangach sydd wrth graidd yr holl waith.
Mae’r Brifysgol a’r Undeb yn falch bod eu gwaith ar gynaliadwyedd yn cael ei gydnabod yn genedlaethol, a bod y cynnydd o fewn y blynyddoedd diweddar, trwy gydweithio â'r Brifysgol, yn dangos bod cydymdrechu ar faterion sydd o bwys i'r ddau sefydliad yn gallu cael effaith bositif ar y byd o'n cwmpas. Rhwng 2013/14 a 2014/15 mae Undeb Myfyrwyr Bangor wedi gwario llawer ar weithgaredd cynaliadwy. Dyma rai o’r uchaf-bwyntiau: Cymerodd 15 adran y Brifysgol ran mewn 250 o weithredoedd gwyrdd a archwiliwyd gan 9 myfyriwr hyfforddedig gan helpu i arbed 4.8 tunnell o garbon yn ôl amcangyfrif a £10,162. Fel rhan o Undebau Myfyrwyr yr Effaith Werdd, dyfarnwyd gwobr Aur i Undeb Myfyrwyr Bangor am eu hymdrechion, gan gyflawni cyfanswm sgôr am y flwyddyn o 445, ac ennill 'The Ecologist
and Resurgence Communications Challenge Award' a'r wobr nodedig Undeb y Flwyddyn - Anfasnachol 2% o ostyngiad yn y defnydd o drydan mewn neuaddau preswyl, arbediad o dros 12 tunnell o CO2 bron i £2,020 yn sgil yr ymgyrch Diffodd ynghyd â newidiadau i'r isadeiledd ar y campws.
Dywedodd UCM "Mae'r cynnydd rhagorol hwn yn dangos cymaint o effaith y gall gweithredoedd unigol eu cael o'u cyflawni'n dorfol, a dylid cymeradwyo staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor am eu hymdrechion i hyrwyddo ymddygiad mwy effeithlon a chynaliadwy ar y campws."
Newyddlen
Cynaliadwyedd@Bangor
Tymor y Nadolig 2014
Undeb y Myfyrwyr Bangor yn cael clod am ei record ar gynaliadwyedd
Cynaliadwyedd Prifysgol
Bangor University Sustainability
@planedPBUplanet
www.bangor.ac.uk/cynaliadwyedd
Prifysgol Bangor a Waitrose yn
ymestyn allan i becynnu gwyrdd
Cafodd pecynnau gwyrdd prototeip a ddatblyg-
wyf fel rhan o’r prosiect STARS eu arddangos
yn Waitrose, Porthaethwy ar 18 Tachwedd
2014.
Mae'r prosiect STARS, a ariennir gyda
chymorth gan Lywodraeth Cymru drwy'r cynllun
A4B, yn brosiect cydweithredol a arweinir gan y
Ganolfan Biogyfansoddion ym Mhrifysgol
Bangor, mewn partneriaeth â Phrifysgol
Aberystwyth a nifer o bartneriaid diwydiannol
gan gynnwys Waitrose. Gall deunydd pecynnu
wedi'u gwneud o laswellt gael ei gompostio yn
hawdd gyda gwastraff bwyd, gan roi mantais
amgylcheddol amgen i'r tunelli a tunelli o blast-
ig sy'n cael eu defnyddio mewn archfarchnad-
oedd heddiw.
Fe wnaeth siop Waitrose gynnal arddangosfa
yn dangos amrywiaeth o eitemau bwyd wedi
pecynnu yn y cynnyrch pecynnu glaswellt, sydd
ar hyn o bryd yn cynnwys hambyrddau bwyd,
basgedi ffrwythau a blychau dal wyau.
Gofynnwyd i Siopwyr roi sylwadau ar amrediad
y cynnyrch a thrwy hynny ddarparu adborth
gwerthfawr ar gyfer y prosiect. Roedd yr holl
ddeunydd pecynnu oedd yn cael eu
harddangos wedi eu gwneud gan ddefnyddio'r
peiriant mowldio mwydion newydd, gan Adare
sydd wedi ei leoli yng Nghanolfan Technoleg
Bioburo Trosglwyddo y Ganolfan
Biogyfansoddion ym, Mona, Ynys Môn.
Meddai Quentin Clark, Pennaeth
Cynaliadwyedd a Chaffael Moesegol, Waitrose:
"Mae Waitrose wedi bod yn falch iawn o fod
wedi bod yn ymwneud â'r gwaith hwn am nifer
o resymau amlwg, mae'r cyfle i archwilio ffyrdd
newydd o greu deunyddiau mwy cynaliadwy,
megis pecynnu, ei atyniad ei hun ond mae hyn
wedi bod yn enghraifft gwych o ddull mwy agor-
ed sy'n dangos sut y gall y byd
academaidd a busnes weithio gyda'i gilydd.
Gyda phawb yn cyfrannu eu harbenigedd, i
helpu i gyflwyno gwyddoniaeth go iawn, ac
ymarferol i'r farchnad "
Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr
Athro John G. Hughes: "Mae gan y Ganolfan
Biogyfansoddion ym Mangor hanes cryf o
weithio ar y cyd gyda chwmnïau yng Nghymru
er mwyn masnacheiddio cynnyrch cynaliadwy.
Mae Bangor yn falch o fod yn rhan o'r prosiect
cyffrous iawn yma ac rydym yn edrych ymlaen
at weld y cydweithredu yn datblygu fel rhan o
ymrwymiad y Brifysgol i Gymru a busnesau
lleol.
Lucideon yn ardystio System Rheoli Amgylcheddol (EMS)
Bangor i ISO 14001
Yr Her
Mae Prifysgol Bangor wedi sicrhau System Rheoli Amgylcheddol (EMS) ers 2009 gan lwyddo a chyrraedd lefel 5 cynllun y Ddraig Werdd.
Fel rhan o ymrwymiad i ddatblygu
ymhellach gofynnodd y Brifysgol i CICS (a elwir rŵan yn Lucideon) wirio eu EMS yn allanol i safon ryngwladol gydnabyddedig ISO
14001 yn unol â’r arferion gorau.
Beth a gyflawnwyd
Asesodd Lusideon System Rheoli Amgylcheddol y Brifysgol ar hyd amryw o adeiladau ar y
campws. Roedd y broses ardystio yn cynnwys cyn-asesiad gydag asesiadau camau 1 a 2 i
ddilyn. Mae’r asesiadau yn adolygu systemau sydd mewn lle yn barod, dangos diffyg
cydymffurfiad a darparu argymhellion i wella a fydd yn helpu i gyflawni ardystiad yn y pen draw.
Diolch i waith gyda chynllun y Ddraig Werdd roedd Prifysgol Bangor ymhell ar y ffordd i’r
ardystiad. Mae’r Brifysgol rŵan yn un o’r
prifysgolion cyntaf i gael EMS wedi ardystio i ISO14001. Mae cael EMS wedi’i ardystio yn
allanol yn dod a sicrwydd i’r Brifysgol fod y data yn fanwl gywir a dibynadwy. Byddai hefyd yn helpu gyda thorri costau drwy wella perfformiad ac effeithlonrwydd a dull systematig gofynion y safon ryngwladol yma.
Mae cynaliadwyedd yn uwch ar agenda
myfyrwyr wrth iddyn ddewis eu Prifysgol ac mae myfyrwyr yn disgwyl campws sy’n gydwybodol o’r amgylchedd. Mae ardystiad ISO 14001 yn dangos gall hyn rhoi hwb mawr i enw da'r
Brifysgol, yn cynnwys cydnabyddiaeth gwobrau cynghreiriau gwyrdd a chynaliadwyedd.
Dywedodd Tim Watts, Rheolwr
Gweithrediadau Lucideon :
"Yn ystod y broses asesu gychwynnol
dangosodd Prifysgol Bangor eu bod wedi
sefydlu a gweithredu EMS a bod ganddynt y gallu i gyflawni eu hymrwymiadau polisi,
amcanion ac anghenion gweithredol. Roedd yr EMS wedi ei sefydlu ers nifer o flynyddoedd fel rhan o Gynllun y Ddraig Werdd. Mae hyn wedi bod o gymorth sylweddol i'r Brifysgol wrth
sefydlu EMS, sy’n mynd i'r afael â gofynion ISO 14001: 2004. Fe wnaeth y broses o weithredu'r EMS nodi a mynd i'r afael â nifer o
gyfleoedd i wella, gan sefydlu seiliau ar gyfer gwelliant parhaus yn y dyfodol. "
Meddai Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol Prifysgol Bangor:
"Mae safonau y Ddraig Werdd ac ISO 14001
yn gofyn am reolaeth systematig o rai
gweithgareddau a all gael effaith andwyol ar yr amgylchedd. Yn ein hachos ni mae'r rhain yn cynnwys ein defnydd o ynni, y defnydd o ad-noddau naturiol, gwaredu gwastraff, a theithiau busnes. Mae’r Ddraig Werdd yn
safon rheoli credadwy iawn o fewn Cymru ac i adeiladu ar hyn drwy gyflawni achrediad ISO 14001 rydym yn dangos yn glir i'n rhanddeiliaid ar lefel fyd-eang, fod ein Prifysgol wedi
ymrwymo i ddiogelu a gwella ein amgylchedd naturiol. "
Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro John Hug-hes: "Mae hwn yn gyflawniad gwych o'r nod hir dymor a osodom ar ein hunain pan yn cychwyn ar ein EMS yn ôl yn 2009. Rwyf wrth fy modd ein bod yn parhau i adeiladu ar ein henw da yn rhyngwladol fel Prifysgol
gynaliadwy, ac mae hyn yn dystiolaeth
bellach ein bod yn cymryd ein cyfrifoldebau am-gylcheddol o ddifrif
Lansio Partneriaeth Caru Bangor Mae’r Bartneriaeth Caru Bangor yn broject trefnu yn y gymuned sy’n cael ei arwain gan yr Undeb Myfyrwyr ac fe gafodd ei lansio yn ddiweddar mewn digwyddiad agored i’r gymuned a myfyrwyr. Bwriad y bartneriaeth yw cymell cydweithio rhwng myfyrwyr, Prifysgol Bangor, Cyngor Gwynedd a Chyngor Bangor, preswylwyr, busnesau a llu o grwpiau cymunedol
eraill drwy Fangor gyfan. Mae’r prosiect hefyd wedi cael ei gynnig ar gyfer Gwobr
Rhagoriaeth Effaith Gwyrdd Undebau Myfyrwyr UCM. Mae’r fframwaith rhagoriaeth yn rhoi cyfle i undebau myfyrwyr i weithio gyda’u sefydliadau ar fenter gynaliadwyedd ehangach , gan greu prosiectau trawsnewidiol, gyda chefnogaeth ac arweiniad gan UCM.
Mae’r Bartneriaeth yn adeiladu ar
dactegau trefnu cymunedol ac yn
canolbwyntio ar y themâu craidd sydd wedi eu hadnabod drwy ymgynghori â trigolion a myfyrwyr.
Themâu craidd y Bartneriaeth yw;
Cynaliadwyedd
Gwastraff ac Ailgylchu
Tai & Ymddangosiad
Dinasyddiaeth a Democratiaet
Llygredd Sŵn
Bydd y Bartneriaeth yn darparu lle a llwyfan lle gall pobl ddod at ei gilydd i ddylanwadu ar y newid maent yn dymuno ei gweld yn eu cymunedau, ac i gydweithio yn hytrach na
gadael i sefydliadau weithio ar ran pobl. Bydd y tactegau trefnu cymunedol y mae’r
Bartneriaeth yn adeiladu arnynt hefyd yn llywio’r ffordd y mae Undeb y Myfyrwyr yn
gweithio gyda myfyrwyr a chymunedau i gyflawni newid, ac yn y tair blynedd nesaf bod y newid yma’n sicrhau bod llais myfyrwyr yn rhy uchel i unrhyw wleidydd i’w hanwybyddu.
Bydd Partneriaeth Gymunedol Caru Bangor yn dod â phobl ynghyd o bob cwr o’r byd, yn ymdrechu’n rhagweithiol tuag at nodau ac amcanion cyffredin, ac yn rhoi llais i’r gwaith rhagorol a’r cydweithio sydd eisoes yn digwydd yn ein cymunedau.
Hwyl y Glas ym Mhrifysgol Bangor Roedd tîm SBBS Cynaliadwyedd@Bangor yn Ffair y Glas, digwyddiad mwyaf poblogaidd yr Wythnos Groeso, lle mae myfyrwyr yn cofrestru ar gyfer clybiau, cymdeithasau, chwaraeon a gwirfoddoli. Fe wnaeth y tîm hyrwyddo nod y Brifysgol o ‘Ddod â Chynaliadwyedd yn Fyw’ trwy Cynaliadwyedd@Bangor, sef y strwythur unigryw a’r rhaglen barhaus o welliannau mae’r tîm wedi datblygu i ddeall a rheoli datblygiad cynaliadwy’r Brifysgol o dan y strwythur cynaliadwyedd poblogaidd a ddefnyddir: Pobl, Planed a Ffyniant.
Mae John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor yn awyddus bod y Brifysgol yn dod yn adnabyddus yn fyd-eang fel y Brifysgol Gynaliadwy ac mae’n hynod gefnogol o waith Rhwydwaith WISE a Thîm PrifBlaned i ymgorffori’r strwythur PrifBlaned ar draws y campws a thu hwnt mewn addysg, ymchwil ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Dywedodd:
“Ym Mhrifysgol Bangor, mae cynaliadwyedd yn rhan o bopeth a wnawn. Dyma’r ffordd a’r rheswm pam rydym yn gweithredu.”
Mae llwyddiant unrhyw fenter cynaliadwyedd yn dibynnu ar fewnbwn gan bob aelod o’r gymun-ed. Yn Ffair y Glas cafodd cannoedd o fyfyrwyr eu hysbrydoli i gymryd rhan â chynaliadwyedd yn bersonol ac yn broffesiynol. Hyrwyddodd y tîm sut i fanteisio ar gyfleoedd newydd drwy ddatblygu arferion cynaliadwy i gynyddu mant-ais gystadleuol yn y farchnad swyddi ac fel entrepreneuriaid trwy fanteisio ar arbenigedd tîm SBBS mewn datblygiad cyfrifol amgylch-eddol a chymdeithasol. Gall hyrwyddo camau
gweithredu personol megis arwyddo Addewid Cynaliadwyedd y Brifysgol, a thrafod pa ddatblygiadau cynaliadwyedd dylai’r Brifysgol fod yn gweithredu, a chymryd mwy o ran gyda PrifBlaned.
Dywedodd Ricky Carter, Rheolwr Amgylchedd Prifysgol Bangor:“Roedd yn wych i fyfyrwyr newydd sgwrsio gyda thîm SBBS, a chael gwybod pam mae angen i bawb chwarae eu rhan i helpu’r Brifysgol leihau ei effaith ar yr amgylchedd drwy weithredoedd syml bob dydd, ond hefyd mae wedi rhoi iddynt safbwyntiau cynaliadwy newydd ar eu gyrfaoedd a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol”.
Dydd Llun 9 Chwefror - Dydd Sul
15 Chwefror
Trwy gydol yr wythnos byddwn yn cynnal sesiynau thema amrywiol ac ar ddydd
Mercher rhwng 12 a 4yp yng Nghyntedd a choridor Prif Adeilad y Celfyddydau bydd nifer o stondinau llawn gwybodaeth ar fyw
yn iach.
Diffoddwch Dros Y Dolig
Oeddech chi'n gwybod bod Prifysgol Bangor yn defnyddio'r un faint o
drydan ag oddeutu 5,000 o gartrefi nodweddiadol yn y DU bob blwyddyn?
Mae ein "Cloc Ynni" yn rhoi syniad da i ni o faint mae ein defnydd o ynni yn ei
gostio i ni, ynghyd â'r ôl-troed carbon o ganlyniad.
Dywed Ricky Carter, Y Rheolwr Amgylcheddol “Rydym yn gwneud cynnydd
gwych gyda'n mesurau arbed ynni, ac er gwaethaf cynnydd o 30% yn y
niferoedd staff a myfyrwyr, mae ein cyfanswm defnydd o ynni nawr yn 75% o'r
hyn yr oedd 10 mlynedd yn ôl”. Mae staff a myfyrwyr yn helpu'r Brifysgol i
gael hyn hyd yn oed yn is trwy ddiffodd yr holl offer trydanol diangen yn ystod
y nos, dros y penwythnos, ac yn enwedig cyn iddynt adael am gyfnod
gwyliau'r Nadolig"
Gwella Effeithlonrwydd Ynni yn Safle'r Normal
Mae'r Adran Ystadau a Chyfleusterau wedi uwchraddio system wresogi tanio olew oedd
wedi heneiddio gyda system prif gyflenwad nwy newydd ar y safle Normal. Bydd y system
newydd yn llawer mwy cost effeithiol a buddiol o ran effeithiau amgylcheddol.
Meddai Tony Flint, Rheolwr Peirianneg Cynnal a Chadw Ystadau ... .. "Rydym yn
chwilio'n gyson am ffyrdd o wella effeithlonrwydd ynni a thrwy hynny lleihau costau yn
ogystal â'n heffeithiau amgylcheddol. Drwy osod system wresogi nwy yn lle olew ar y safle
rydym yn rhagweld arbediad o tua £40,000 y flwyddyn mewn costau tanwydd, a fydd yn
lleihau ein hallyriadau carbon gan fwy na 80 tunnell. Mae hwn yn un o nifer o fesurau
rydym yn eu cymryd ar draws y Stad i gyflawni ein targedau lleihau carbon hir. dymor”
Ychwanegodd Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol "Nid yn unig bydd y system newydd
yn fwy cost effeithiol ac effeithlon o ran allyriadau, bydd yn lleihau ein hôl troed carbon
ychwanegol sy'n gysylltiedig â chludiant olew, yn ogystal â chael gwared â
photensial sylweddol ar gyfer llygredd o ollyngiadau".
I gael rhagor o wybodaeth am fesurau effeithlonrwydd ynni, cysylltwch â
Diwrnod S’mae—Diwrnod i ddathlu'r
Gymraeg
S’mae, S’mae …. dyna’r geiriau a gafodd ei
glywed ym mhob man o amgylch Prifysgol
Bangor ar Ddydd Mercher 15 Hydref, diwrnod
cenedlaethol swyddogol i ddathlu’r iaith
Gymraeg. Fe wnaeth siaradwyr a dysgwyr o
bob math o gefndir Cymreig wneud pwynt o
gyfarch ei gilydd yn y ffordd hon er mwyn codi
ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r iaith Gymraeg
ac er mwyn ymarfer eu Cymraeg. ‘Rhowch
gynnig arni’ oedd thema gyffredinol y dydd.
Roedd Cynaliadwyedd@Bangor yn cefnogi’r
diwrnod drwy ‘Ddod a’r Gymraeg yn fyw’ fel
rhan o’r nod i ‘Ddod a Chynaliadwyedd yn
fyw’.
Fel mewn mannau eraill yng Nghymru,
cynhaliwyd llawer o wahanol ddigwyddiadau
ledled Bangor, ac roedd Prifysgol Bangor yn
hyrwyddo’r dydd. Cafodd staff a myfyrwyr ym
Mhrifysgol Bangor, eu gwobrwyo am eu
hymdrech i ddefnyddio’r Gymraeg ar y
diwrnod gyda gostyngiad o 10% ar de a
choffi. Cafodd dysgwyr Cymraeg y Brifysgol,
gan gynnwys Is-Ganghellor y Brifysgol, eu
gwobrwyo am eu hymdrechion i ddysgu’r iaith
mewn seremoni wobrwyo arbennig. Roedd
sesiwn blasu Cymraeg ar gyfer myfyrwyr yn
nhafarn y Belle Vue ac roedd hefyd yn gyfle
gwych i adrannau drefnu eu digwyddiadau eu
hunain ar gyfer y diwrnod.
Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn, ond
gadewch i ni hefyd gofio nad yw’r iaith Gym-
raeg yn rhywbeth am un diwrnod yn unig,
mae’n rhan allweddol o’n prifysgol, ein dinas
a bywyd ein gwlad bob dydd o’r flwyddyn.
Sgrinio Ffilm Planet Ocean
Yn mis Hydref fe drefnodd y tîm Cynaliadwyedd
ddangosiad o ffilm y 'PLANET OCEAN' ar y cyd gyda’r
grŵp Cyfeillion y Ddaear lleol a'r cyhoedd. Rhaglen
ddogfen trawiadol oedd hi am y cefnforoedd a'r angen
i'w diogelu. Roedd y ffilm yn gyfle i blymio i ddirgelion
mwyaf ein planed gyda thîm o sinematogwyr tanddwr
rhyngwladol wrth iddynt archwilio'r cwlwm syfrdanol
rhwng dynoliaeth a'r môr. Ymunodd Paul Kay gyda’r gynulleidfa ar gyfer sesiwn holi ac ateb ar y
noson, ef yw Swyddog Prosiectau Cymraeg yn Gymdeithas Cadwraeth Forol .
Mae Myfyrwyr yn Diffodd yn gystadleuaeth arbed ynni ac ailgylchu sy’n agored i bob myfyriwr
sy’n byw mewn neuaddau preswyl.
Gwyliwch allan am wobrau
a dilynwch ni ar Facebook
Y Gymru a Garem: Y Brifysgol a Garem
Cynhaliodd y tîm cynaliadwyedd gyfarfod
arbennig o’r fforwm cynaliadwyedd gyda Mike
Palmer (Swyddfa Archwilio Cymru) i drafod y Bil
Cenedlaethau’r Dyfodol. Ar hyn o bryd ‘Cymru’n
Un: Cenedl Un Blaned’ yw cynllun statudol
presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo
Datblygu Cynaliadwy (DC) ar draws ei
swyddogaethau. Mae’n dweud mai DC fydd
egwyddor drefniadol canolog y llywodraeth yng
Nghymru – mae gwneud datblygu cynaliadwy yn
brif egwyddor drefniadol i lywodraeth felly wedi
bod yn bolisi i’r llywodraeth am bron i bedair
blynedd. Mae Bil Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol yn mynd a’r dyhead hwn gam ymhellach
drwy gryfhau’r trefniadau llywodraethol presennol
o fewn detholiad o sefydliadau sector cyhoeddus
penodol er mwyn ‘gwella llesiant Cymru’.
Mae’r Bil yn sicrhau bod anghenion
cenedlaethau’r presennol yn cael eu bodloni heb
beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddarparu
eu hanghenion eu hunain. Bydd hyn yn digwydd
drwy ymgorffori egwyddor datblygu cynaliadwy
yn y gyfraith.
Er na fydd Prifysgolion yn cael eu cynnwys yn y
Bil, y teimlad cryf yn y fforwm oedd y dylai
Prifysgol Bangor gymryd rhan yn y Sgwrs
Genedlaethol ac y dylai’r Brifysgol baratoi ar
gyfer a gweithredu’r Bil o fewn ein harferion ein
hunain. Roedd y digwyddiad yn gyfle i gasglu
syniadau am Y Gymru a Garem/ Y Brifysgol a
Garem h.y. pa fath o Brifysgol yr hoffem a sut
fyddai orau i fesur ac adrodd ar ein llwyddiannau
ym maes cynaliadwyedd.
Melin Drafod Cynaliadwyedd Misol 'Dod a Chynaliadwyedd yn Fyw'
Hybu syniadau a thrafodaeth o amgylch Cynaliadwyedd@Bangor
PrifBlaned :: Cynaliadwyedd@Bangor
28/01/15 1-2pm Teras 3
Llywydd UM Rhys Taylor— Partneriaeth Gymunedol Caru Bangor
25/02/15 1-2pm Teras 3
Heli Gittins— Ymwybyddiaeth Ofalgar a chynaliadwyedd
18/03/15 1-2pm Alun Roberts 304, Ystafell Seminar Hughes
Jackie Ellis, Adnoddau Dynol a Chynaliadwyedd
29/04/15 1-2pm Teras 3
Angela Church, Caffael Cynaliadwy ac Arlwyo
27/05/15 1-2pm Teras 3
Nicola Day, Caffael Cynaliadwy ym Mhrifysgol Bangor
bangor.ac.uk/cynaliadwyedd
Gair gan Dr Einir Young Y Pennaeth Datblygu Cynaliadwy Gobeithio eich bod wedi mwynhau cynnwys y rhifyn hwn o Newyddlen Cynaliadwyedd@bangor. Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur arall ac yn ystod y tymor hwn mae mwy fwy o weithgareddau a llwyddiannau i’w dathlu. Rydym yn ffodus iawn fod y Brifysgol wedi cytuno i ar-iannu swydd Mair Rowlands, aelod o staff yn SBBS, sy’n cydlynu’r gwaith o hyrwyddo cynaliadwyedd ar draws y brifysgol. Yn ystod y flwyddyn sydd dod bydd mwy o ad-drefnu i sicrhau fod ein hymdrechion yn cael eu cydnabod ac yn dod a budd i ni gyd. Yn y cyfamser dyma grynodeb o’r llwyddiannau: Mae biliau ynni Prifysgol Bangor tua £2.5miliwn y flwyddyn: o hynny, mae tua £1.9 miliwn yn cael ei war-
io ar drydan a £500k ar nwy a’r gweddill yn olew a LPG. Dros y 9 mlynedd ddiwethaf mae cyfanswm ein defnydd ynni wedi gostwng o 23% Yn yr un cyfnod gostyngodd yr allyriadau carbon sydd ynghlwm wrth ynni o 10.6% Rydym wedi arbed £1.6M ar ein biliau ynni dros y 9 mlynedd olaf a phetaem wedi aros yn ein hunfan byddai’n biliau yn £600,000 yn fwy. Yn ystod y cyfnod hwn mae niferoedd CALL staff a myfyrwyr wedi codi o 30%, ac mae nifer yr ystafelloedd yn y neuaddau preswyl wedi codi o 20%. Mae “treth” Carbon yn costio tua £200,000 y flwyddyn i ni ar hyn o bryd (h.y. bron i 13,000 tonnes x £15.60 y dunnell). Bydd y gost hon yn codi i £16 y dunnell flwyddyn nesaf. Mae ail-gylchu gwastraff i fyny o 17% i 47% sy’n welliant o 30% dros naw mlynedd. I roi’r llwyddiant hwn yn ei gyd-destun fe gymrodd ddeng mlynedd i Gyngor Gwyn-edd (sy’n Gyngor a chanddo record ail-gylchu arbennig o dda) i wella o 20%; rhyw-beth lwyddom ni i’w gyflawni mewn pum mlynedd ar ôl gweithredu’n System Rheoli Amgylcheddol. Cafodd gwaith Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor a gwaith cyd-lynu Mair ei gydnab-od mewn gwobrau Prydeinig - fe enillon nhw’r wobr Aur yng Ngwobrau ‘Effaith Werdd’, gwobr gay r Ecologist a nhw yw “Undeb y Flwyddyn” yn y category ‘anfasnachol’. Yn arolwg diweddara’r NUS a’r Academi Addysg Uwch ar gynali-adwyedd dywedodd 90% o fyfyrwyr Prifysgol Bangor eu bod yn cytuno neu gytun-o’n gryf fod cynaliadwyedd yn bwnc y dylai’r Brifysgol ei hyrwyddo. Meddai’r NUS am berfformiad Bangor: “Mae’r rhaglen glodwiw hon yn dangos pa mor arwyddocaol yw effaith unigolion pan eu bod yn gweithredu fel grŵp a dylid canmol staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor am eu hymdrechion i hyrwyddo defnyddio
ynni’n fwy effeithiol a chynaliadwy ac annog newid ymddygiad parthed gwastraff, teithio a bwyd ar draws y campws. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd a gobeithio y gwnewch ymuno gyda ni yn y gweithgareddau yn 2015
www.bangor.ac.uk/cynaliadwyedd