Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd - Digwyddiadau Hydref Gaeaf 2012-13
Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2011
-
Upload
national-parks-wales -
Category
Documents
-
view
220 -
download
1
description
Transcript of Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2011
1
lle I enaid gael llonydd cylchlythyr Parciau Cenedlaethol Cymru
HYDREF 2011HYDREF 2011HYDREF 2011HYDREF 2011
Gwneud Ein Gorau Dros Fioamrywiaeth ar Adeg Gwneud Ein Gorau Dros Fioamrywiaeth ar Adeg Gwneud Ein Gorau Dros Fioamrywiaeth ar Adeg Gwneud Ein Gorau Dros Fioamrywiaeth ar Adeg
AnoddAnoddAnoddAnodd
Margaret Underwood
“Gweld y golau”
“Heriol”
“Ffyrdd newydd o feddwl”
Dim ond ychydig o'r sylwadau oedd y rhain a
wnaed gan aelodau o'r Parc Cenedlaethol ar ôl
iddynt fynychu eu seminar flynyddol ddechrau
Hydref. Cafodd y seminar hon ei llywyddu gan
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau
Brycheiniog - dan y pennawd “Cyflawni
Bioamyriaeth ar adeg heriol economaidd”. Yr
her a oedd yn wynebu'r Aelodau oedd cynnal y
gwaith cyfredol o warchod a gwella
bioamrywiaeth ac adeiladu ar y gwaith hwnnw
er mwyn llwyddo i weld rhagor o fuddion er lles
bioamrywiaeth trwy gofleidio yn ddi-amod y
patrwm gweithreu ecosystemau.
Mae'r Parciau Cenedlaethol ar flaen y gad o ran
addasu yn y cyfnod newidiol hwn o ddatblygiad
cynaliadwy a hyrwyddo'r buddion economaidd
a chymdeithasol a ddaw yn sgil natur a
gwasanaethau naturiol eraill, fel dwr glan, pridd
iach a bioamrywiaeth. A chafwyd cyfle i
ymweld â dau brosiect unigryw a oedd yn
ymgorffori'r agweddau hyn, er mwyn gweld sut
y gall ecosystmeau gynnig budd o fewn Parciau
Cenedlaethol.
Mae'r ddau brosiect wedi cael eu lleoli o fewn y
Bannau Brycheiniog – Deorfa Cynrig Asiantaeth
yr Amgylchedd yng Nghantref a chynllun ail
gyflwyno llygod dwr yn Llyn Llangors. Mae'r ddau
brosiect yn cynnig buddion enfawr i'r
amgylchedd, ac maent yn rhoi hwb incwm
Gwyrdd yw'r DyfodolGwyrdd yw'r DyfodolGwyrdd yw'r DyfodolGwyrdd yw'r DyfodolCymeradwywyd 85.8% o geisiadau cynllunio ynni adnewyddol gan
Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol dros y pum mlynedd di-
wethaf. Cymeradwyodd awdurdodau cynllunio nad ydynt yn Aw-
durdod y Parc 88.7% o geisiadau cynllunio dros yr un cyfnod.
2
sylweddol i gymunedau o du pysgota a ffurfiau
eraill o hamddena cynaliadwy yn ogystal â
chynnig cyfleoedd i arddangos buddion
ecosystemau wrth eu gwaith. Ymunodd y
Gweinidog o Lywodraeth Cymru hwy ar yr
ymweliad hwn, sef, John Griffiths Aelod o'r
Cynulliad (AC) a dreuliodd fore gyda'r Aelodau
yn trafod y pwysau y bydd y Parciau
Cenedlaethol yn eu wynebu yn y dyfodol.
Meddai'r
Gweinidog
“Mae
cynaliadwyedd a
gwarchod ein
bioamrywiaeth
eang ac amrywiol
yn allweddol o ran
gwella lles pobl
yng Nghymru, a
lles pobl yn y byd
ehangach. Trwy
ddatblygu ein
Fframwaith
Amgylchedd
Naturiol ein nod yw sicrhau fod gan Gymru
ecosystemau sy'n gynyddol fwy gwydn a
chadarn sy'n cyflawni buddion cymdeithasol,
amgylcheddol ac economaidd.”
Er mwyn i NEF “Cymru Fyw / A Living Wales”
gyrraedd ei lawn botensial, bydd yn ofynnol cael
patrymau gweithredu arloesol tuag at yr
amgylchedd, yr economi a'r gymdeithas yng
Nghymru ac mae'r seminar wedi dangos fod
gan y Parciau Cenedlaethol gyfraniad
sylweddol i'w wneud i'r agenda hon. Mae
cynnal cysylltiad cryf rhwng amgylchedd iach a
chymunedau cynaliadwy yn allweddol yn y rol y
mae'r Parciau Cenedlaethol yn ei chwarae.
Mwynhaodd yr Aelodau gyflwyniad bywiog ar
ecosystemau, y patrwm gweithredu
ecosystemau, gan Swyddog Bioamrywiaeth y
Bannau Brycheiniog, sef Ellis. Dywedodd nifer
mai dyma oedd yr uchafbwynt ochr yn ochr
gyda'r anerchiad ar ôl cinio hwyr a ysgogodd i
bobl feddwl, rhoddwyd yr anerchiad hwnnw
gan Clive Bates, Cyfarwyddwr Llywodraeth
Cymru ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy.
Efallai mai'r cyflwyniad mwyaf heriol oedd y
posibilrwydd o ddefnyddio asedau er mwyn
creu incwm trwy fasnachu yn y farchnad
gwrthosod carbon. Er y bydd hyn angen
deddfwriaethu hyn yn y dyfodol, mae iddo'r
potensial i ddarparu dull o sicrhau incwm er
mwyn rheoli'r ardaloedd gwerthfawr hynny fel
corsydd mawn, ar gyfer gwithredu fel sinciau
carbon yn y dyfodol. Mae gan yr ardaloedd hyn
rôl allweddol i'w chwarae yng nghyd destun
gwella ansawdd dwr, gweithredu fel ffilteri hidlo
enfawr, helpu i fynd i'r afael a'r boblem gynyddol
o ddwr sydd wedi colli neu newid ei liw a thrwy
hynny reoli adnodd hanfodol arall – sef dwr. Mae
doethindeb confensiynol yn awgrymu fod yr
amgylchedd a bioamrywiaeth yn dirywio yn
ystod cyfnodau economaidd ansicr. Mae ein
seminar wedi dangos i ni nad felly y mae'n rhaid
i bethau fod. Mae natur yn darparu nifer o'n
gwasanaethau hanfodol am ddim a thrwy'r
Parciau Cenedlaethol – gall Bioamrywiaeth
Cymru helpu.
Buddsoddi Mewn Dyfodol GwyrddBuddsoddi Mewn Dyfodol GwyrddBuddsoddi Mewn Dyfodol GwyrddBuddsoddi Mewn Dyfodol GwyrddDros y ddwy flynedd nesaf bydd oddeutu £1.9 miliwn yn cael ei
fuddsoddi trwy gyfrwng y Gronfa Datblygiad Cynaliadwy / CAE i
mewn i gymunedau o fewn tirweddau a warchodir yng Nghymru.
3
Cacynnod yn ennill cefnogwyr brwd ar Cacynnod yn ennill cefnogwyr brwd ar Cacynnod yn ennill cefnogwyr brwd ar Cacynnod yn ennill cefnogwyr brwd ar
Faes Amddiffyn y Wladwriaeth yn y Parc Faes Amddiffyn y Wladwriaeth yn y Parc Faes Amddiffyn y Wladwriaeth yn y Parc Faes Amddiffyn y Wladwriaeth yn y Parc
CenedlaetholCenedlaetholCenedlaetholCenedlaethol
Mynychodd oddeutu 30 o bobl Ddiwrnod Dathlu
Cacynnod ym mis Awst ar Faes Anddiffyn y
Wladwriaeth yng Nghastellmartin, a drefnwyd
gan Yr Ymddiriedolaeth Dros Warchod Cacynnod.
A hwythau gyda'u hoffer dal gloynnod byw a
photiau pwrpasol, aeth y tim tua chyfeiriad Llwybr
Maes Castellmartin er mwyn chwilio am rai o'r
cacynnod / gwenynnod mwyaf prin ym Mhrydain.
Dywedodd cyfranogwr, Sue Beckett, a oedd yn
ymweld o Ganolbarth Lloegr : “Bu'n brofiad
cyfareddol dysgu am y cacynnod, doedd gen i
ddim syniad bod yna 24 o wahanol rywogaethau.
Mae hyn wedi fy ysbrydoli i i geisio creu cynefin
blodau gwyllt yn fy gnardd er mwyn annog rhagor
o gacynnod”
Enillodd yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth
Cacynnod gystadleuaeth ar lein y llynedd am
arian cyllido gan y Gymdeithas Cadwraeth Awyr
Agored ar gyfer Prosiect Llwybr Cacynnod /
Gweynnynnod Arfordir Penfro. Mae'r arian cyllido
yn helpu i ddarparu cynefinoedd blodau gwyllt ar
gyfer cacynnod ar hyd Llwybrffordd Maes tanio
Castellmartin.
Aelodau'r Awdurdod yn cymeradwyo Aelodau'r Awdurdod yn cymeradwyo Aelodau'r Awdurdod yn cymeradwyo Aelodau'r Awdurdod yn cymeradwyo
Cynllun Datblygu Lleol y Bannau Cynllun Datblygu Lleol y Bannau Cynllun Datblygu Lleol y Bannau Cynllun Datblygu Lleol y Bannau
Brycheiniog.Brycheiniog.Brycheiniog.Brycheiniog.
Yn gynharach eleni fe wnaeth Aelodau o
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau
Brycheiniog (APCBB) gymeradwyo'r newidiadau i
Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) yr Awdurdod ar
gyfer cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w
archwilio.
Mae'r gymeradwyaeth hon gan yr Aelodau o
Ddogfennau Cyflwyno'r CDLl yn digwydd yn dilyn
pedair blynedd o ymgynghori ac ymglymiad
dwys gyda chymunedau'r Parc Cenedlaethol,
sefydliadau partner, tirfeddianwyr, asiantau a
datblygwyr. Mae hyn yn dilyn yn gyflym iawn y
ffaith fod Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
Arfordir Penfro ac Eryri wedi mabwysiadu eu CDLl
hwythau – a hynny ymysg y rhai cyntaf yng
Nghymru.
Dros y chwe wythnos nesaf, bydd ymgynghori
pellach yn digwydd ar y newidiadau arfaethedig
i'r cynllun, sef yr hyn a elwir yn newidiadau ffocy-
sedig, a fydd yn mynd i'r afael a'r materion a
godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y fersiwn
Adneuo o'r (CDLl. Bydd cymunedau a budd
ddeiliaid unwaith yn ragor yn cael cyfle i leisio eu
barn, gan roi cyfle idddynt ddweud a yw'r newid-
iadau a wnaed yn delio gyda'r materion a god-
wyd yn ystod yr ymgynghoriad adneuo. Yr
Archwilydd a fydd, yn y pendraw yn penderfynu
ar gynnwys terfynol y CDLl.
4
Parc Cenedlaethol Eryri yn cyrraedd 60Parc Cenedlaethol Eryri yn cyrraedd 60Parc Cenedlaethol Eryri yn cyrraedd 60Parc Cenedlaethol Eryri yn cyrraedd 60Mae nifer o ddigwyddiadau arwyddocaol wedi
digwydd dros y misoedd diwethaf er mwyn
dathlu penblwydd Parc Cenedlaethol Eryri yn 60.
Mae'r digwyddiadau hyn yn adlewyrchu'r
gwaith a ymgymerwyd ag o gan Awdurdod y
Parc Cenedlaethol er lles cymunedau o fewn y
Parc a'r ymwelwyr o bedwar ban byd sy'n
cyrraedd yno i ymchwilio i, i brofi ac i ymlacio o
fewn tirweddau trawiadol yr ardal.
Mae'r penblwydd hwn yn 60 yn darparu cyfle i
gydnabod y gwaith caled a ymgymerwyd ag o
i wella rhinweddau arbennig y Parc ochr yn ochr
gyda hyrwyddo yr ardal er lles y cymunedau o
fewn ei ffiniau.
Fe anfonodd John Griffiths, y Gweinidog dros yr
Amgylchedd a Datblygiad Cynaliadwy ei
gefnogaeth ar gyfer y dathliadau "Hoffwn
longyfarch holl staff Parc Cenedlaethol Eryri am
eu gwaith caled dros 60 mlynedd yn diogelu ein
amgylchedd. Mae Eryri, ynghyd a Pharciau
Cenedlaethol eraill Cymru, yn enghraifft o
dirwedd hardd ac unigryw Cymru. Mae ein
amgylchedd a werthfawrogir gennym yn creu
cyflogaeth ac incwm sy'n werth biliynau o
bunnoedd, mae'n cynnig iechyd, cyfleoedd
hamddena, chwaraeon a chyfleoedd ar gyfer
dysgu. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig
i gefnogi'r dirwedd ac yn ddiweddar lansiodd ei
Fframwaith Amgylchedd Naturiol 'Cymru Fyw', -
fframwaith newydd ar gyfer ein amgylchedd, ein
cefn gwlad a'n moroedd."
O’r Gofod Naturiol i Seibrofod O’r Gofod Naturiol i Seibrofod O’r Gofod Naturiol i Seibrofod O’r Gofod Naturiol i Seibrofod
Mae presenoldeb y Parciau Cenedlaethol ar y rhyngrwyd yn dal i gynyddu. Mae’r rhan fwyaf o Awdurdodau
Parciau Cenedlaethol gwledydd Prydain, gan gynnwys Awdurdodau tri Pharc Cymru, yn cymryd rhan mewn
rhwydweithio cymdeithasol ac yn cynyddu presenoldeb ar lein Parciau Cenedlaethol.
Gallwch ddarllen eu proffiliau, tudalennau, twît a sianelau, pob un yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei
ddiweddaru’n gyson. Mae Porth y Parciau Cenedlaethol yn cynnwys dewis cynhwysfawr o ddolenni priodol.
Gellir mynd at y dudalen honno drwy’r cyfeiriad:
http://www.nationalparks.gov.uk/aboutus/ourwebsites.htm
5
Fel rhan o'r dathliadau mae dau o lwybrau troed
newydd wedi cael eu hagor, - Pen-y-Gwryd a Thaith
Ardudwy. Mae nifer o deithiau tywys wedi digwydd
gan gynnwys teithiau cerdded ar gyfer y llai abl.
Fe wnaeth Denis McAteer, Cadeirydd Y Cerddwyr
yng Nghymru (Ramblers Wales) y sylw yn ystod
agoriad Taith Ardudwy Way - “Heblaw am y
mwynhad o gael cerdded rhan mor brydferth o
gefn gwlad bellach mae yna gyfoeth o dystiolaeth
ynghylch y buddion iechyd sy'n gysylltiedig a
cherdded. Gyda'r llwybr newydd hwn fe fydd
cynnydd yn y cyfleoedd i bawb fynd allan a chael
awyr iach. Hefyd, os gaiff ei hyrwyddo yn iawn, fe all
y llwybr hwn ddenu ymwelwyr newydd i'r ardal ac
yn sgil hynny dod a buddion uniongyrchol i'r
economi leol.”
Cododd beicwyr o Awdurdod Parc Cenedlaethol
Eryri £1,133 er lles 'Achub y Plant trwy gwblhau taith
feic 80 milltir o dde'r Parc Cenedlaethol i'r Gogledd.
Fe groesodd y tim o 17 ar draws y llinell i orffen y
daith yng Nghonwy ar ol iddynt deithio trwy galon
Eryri.
Daeth y rhaglen o ddigwyddiadau i'w bincal ar y 18
fed o Hydref, sef y dyddiad pan welwyd Eryri yn cael
ei ddynodi fel Parc Cenedlaethol yn ol ym 1951 yn
wreiddiol. Er mwyn nodi'r achlysur, cafodd un o
brosiectau diwylliannol y Parc “Rhyfeddodau Eryri”
ei gyhoeddi i'r cyhoedd yn Oriel Croesor, Croesor.
Mae'r prosiect sy'n rhedeg gydol y flwyddyn, yn
dathlu amrywiaeth o ryfeddodau o fewn y Parc
Cenedlaethol trwy gyfrwng dulliau dehongli
llenyddol a gweledol. Mae'r 60 rhyfeddod a
enwebwyd gan y cyhoedd yn arddangos
rhinweddau arbennig Eryri.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheini-Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheini-Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheini-Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheini-
og yn cymryd rôl arweiniol wrth sicrhau €10miliwn og yn cymryd rôl arweiniol wrth sicrhau €10miliwn og yn cymryd rôl arweiniol wrth sicrhau €10miliwn og yn cymryd rôl arweiniol wrth sicrhau €10miliwn
ar gyfer cymunedau gwledigar gyfer cymunedau gwledigar gyfer cymunedau gwledigar gyfer cymunedau gwledig
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
(APCBB) yn dathlu gyda'i ddeuddeg partner sydd
wedi eu lledaenu ar draws Ewrop, wedi iddynt
sicrhau dros €10miliwn er budd cymunedau gwl-
edig dros y bedair blynedd nesaf.
Fe fydd y prosiect newydd – sydd wedi cael ei enwi
yn Gynghreiriau Gwledig – yn dechrau ddiwedd
Tachwedd, pan fydd y deuddeng partner a chyn-
rychiolwyr busnes yn dechrau mynychu cyfarfod, a
fydd yn cael ei lywyddu gan Awdurdod Parc Cen-
edlaethol Bannau Brycheiniog (APCBB) er mwyn
cynllunio eu patrwm gweithredu ar gyfer herio pa-
trymau gweithredu confensiynol tuag at ddatblygi-
ad gwledig.
Chwaraeodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol rôl
arweiniol wrth ffurfio'r cais llwyddiannus am gyllid
cyd ariannu y Gronfa Datblygu Gwledig Ewrope-
aidd (ERDF) a gafodd y golau gwyrdd yn swyddog-
ol ar y 12fed o Hydref 2011 gan Raglen NWEIVB
Interreg yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd y partneriaid yn cefnogi mentrau a chy-
munedau gwledig i weithio gyda'i gilydd mewn
cynghreiriau newydd er mwyn creu cyfleoedd
busnes newydd, a diogelu a gwella gwasanae-
thau gwledig a gwneud eu hardaloedd yn leoe-
odd arbennig i bobl ymweld â hwy, ac ail leoli
iddynt er mwyn magu eu teuluoedd. Bydd y pros-
iect yn parhau am bedair blynedd gyda chef-
nogaeth gan yr UE a chronfeydd partner lleol sydd
wedi eu hanelu at rwydweithio rhyngwladol, hyf-
forddiant, ymweliadau cyfnewid a'r budd o gyf-
newid arferon gorau rhwng rhanbarthau yr UE.
6
Her i achub cen colledig yng Her i achub cen colledig yng Her i achub cen colledig yng Her i achub cen colledig yng
Ngwarchodfa Natur Cenedlaethol Ngwarchodfa Natur Cenedlaethol Ngwarchodfa Natur Cenedlaethol Ngwarchodfa Natur Cenedlaethol
TycanolTycanolTycanolTycanol
Bydd cen sy'n rhyngwladol bwysig yn cael ei holli o
goedlan y Parc Cenedlaethol oni bai y gweithredir
i ailsefydlu'r amodau hynny lle maent yn ffynnu.
Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Tycanol yw un o
ddim ond chwe safle pori coedlannol yng
Nghymru sy'n rhynglwadol bwysig ar gyfer 400
rhywogaeth o gen sy'n tyfu yno.
Mae cen yn ffynnu dan amodau agored, golau,
ond yn Nhycanol y mae'r amodau hyn yn cael eu
colli yn gyflym fel mae'r canopi coed yn mynd yn
fwy a mwy dwys a thrwchus.
Meddai'r
Swyddog
Coedlannau,
Celia Thomas
: “Er fod
popeth yn
edrych yn
‘Dragwyddol
’- ac yn
heddychlon
iawn, mae'r
gorchudd mwsgol o dan y coed yn ennill y dydd
dros y cen, a'r cen yw'r peth a roddodd y
dynodiad i'r fangre hon fel Ardal o Ddiddordeb
Gwyddonol Arbennig (AoDdGA)), GNC
(Gwarchodfa Natur Cenedlaethol) ac Ardal
gadwraeth Arbennig (ACA).
“Yn aml mae pobl yn dychryn pan fo coed yn cael
eu dymchwel, ond fe fyddwn yn gweithio yn galed
i gael y cydbwysedd rhwng cael gwared a rhai o'r
coed a chadw'r ymdeimlad o le yn Nhycanol.”
Rhodd i'r Parc gan Ymwelwyr EryriRhodd i'r Parc gan Ymwelwyr EryriRhodd i'r Parc gan Ymwelwyr EryriRhodd i'r Parc gan Ymwelwyr Eryri
Ar y 13eg o Hydref. Llywyddodd Parc
Cenedlaethol Eryri Gynhadledd Rhoddion
Ymwelwyr yng Ngahnolfan Astudio Plas Tan y
Bwlch, ym Maentwrog.
Gyda chymorth partneriaid o'r sectorau preifat,
cyhoeddus a gwirfoddol, ymchwiliodd y
gynhadledd i'r ffyrdd y gall busnesau, atyniadau
a chyrchfannau o fewn y Parc Cenedlaethol roi
gwerth ychwanegol i ymwelwyr trwy gyfrwng
cynlluniau arloesol, a fyddai'n cael eu hariannu
yn bennaf gan yr ymwelwyr eu hunain.
Mae'r dystiolaeth am gynlluniau tebyg mewn
rhannau eraill o Brydain ( ardal y Llynnoedd ) ac
Ewrop a Gogledd yr America yn dangos fod rhoi
rheswm i'r ymwelydd i fuddsoddi cyfran fechan
o arian yn ystod eu gwyliau, yn gallu bod o fudd
sylweddol i'r ardal.
Yn gyffredinol mae cynlluniau o'r fath yn cael eu
hadnabod fel ‘rhoddi ymwelwyr’ neu ‘ad-daliad
ymwelwyr’ ac maent wedi eu cynllunio yn
benodol er mwyn caniatau i rai sy'n ymweld ag
ardal i wneud cyfraniad uniongyrchol tuag at
gynlluniau cadwraeth neu dreftadaeth.
Wedi iddynt glywed am brofiadau o leoedd
eraill, cafodd y rhai a oedd yn mynychu'r
gynhadledd gyfle i drafod a dadlau dros y
potensial o gael cynlluniau o'r fath o fewn Eryri.
Dywedodd Aneurin Phillips, Prif Weithredwr Parc
Cenedlaethol Eryri, “Mae'r gynhadledd hon yn
gyfle i ymchwilio i'r potensial o ddatblygu Rhoddi
Ymwelwyr o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Bydd
y gynhadledd yn rhoi i'n sector dwristiaeth y
cefndir perthnasol i ystyried a fyddai hi'n bosib
sefydlu cynllun o'r fath er budd busnesau a
thwristiaid fel ei gilydd yn y Parc Cenedlaethol”.
7
Cydbwysedd rhwng drain, rhedyn a Cydbwysedd rhwng drain, rhedyn a Cydbwysedd rhwng drain, rhedyn a Cydbwysedd rhwng drain, rhedyn a
gloynnod bywgloynnod bywgloynnod bywgloynnod byw
Gall cadw llwybrau a Hawliau Tramwy yn glir ym
Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro fod yn fater
pigog – yn llythrennol, gyda chydbwysedd
anodd yn gorfod cael ei gadw rhwng gwarchod
cynefinoedd arbennig a chadw cerddwyr yn
ddiogel, yn enwedig yn y mannau arfordirol
hynny.
Meddai Pennaeth Hamddena a Thwristiaeth
Awdurdod y Parc, Charles Mathieson : “Mae ein
staff wedi cael eu hyfforddi i adnabod
rhywogaethau pwysig fel tegeirian y gors.”
“Rydym yn gwneud ein gorau glas i dorri ar yr
adegau hynny o'r flwyddyn fel ein bod yn gallu
gwneud y gorau o'r bioamrywiaeth o gwmpas y
llwybrau, ond mae'n wastad rhaid cydbwyso hyn
gyda'n dyletswydd gofal dros iechyd a
diogelwch y cyhoedd a chadw Hawliau Tramwy
yn agored ac ar gael i'w defnyddio.”
Mae torri gwair ar lethrau glaswelltog, fel y rhai ar
y Faes Tanio Castellmartin, hefyd angen cael ei
wneud trwy gyfrwng dull sensitif.
Meddai Swyddog Cadwraeth Fferm Awdurdod y
Parc. Geraint Jones : “Yn ddiweddar rydym wedi
cynnal ymarferiad torri gwair a gwneud beiliau
yng Nghastellmartin a hynny yn bwrpasol ar adeg
hwyrach er mwyn rhoi cyfle i'r planhigion
blodeuol i ymsefydlu eu hadau. Yr oedd yna sioe
fendigedig o'r planhigyn bengaled yn blodeuo,
sy'n bwysig dros ben i gacynnod cyn iddynt fynd
i aeafgysgu.
Y Parciau Cenedlaethol yn ymestyn yr Y Parciau Cenedlaethol yn ymestyn yr Y Parciau Cenedlaethol yn ymestyn yr Y Parciau Cenedlaethol yn ymestyn yr
Ymgynghoriad Hawliau Tramwy Ymgynghoriad Hawliau Tramwy Ymgynghoriad Hawliau Tramwy Ymgynghoriad Hawliau Tramwy
Mae'r cyfnod ymgynghorol ar gyfer yr holiaduron
mewn perthynas a'r Rhwydweithiau Hawliau
Tramwy wedi cael ei ymestyn hyd y 18fed o
Dachwedd, sy'n rhoi rhagor o amser i bobl gael
dweud eu dweud o ran beth yw eu barn am y
rhwydwaith gyfredol.
Yn sgil y lefel o ddirddoeb a ddangoswyd gan y
cyhoedd, mae Awdurdodau Parciau Cenedlae-
thol y Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro
wedi penderfynu ymestyn y cyfnod ymgyngho-
rol sy'n gwahodd pobl i gymryd rhan yn yr holia-
dur sy'n berthnasol i Hawliau Tramwy Cyhoeddus
fel eu bod yn gallu adolygu ac asesu gwerth y
rhwydwaith yn ogystal â'i effeithiolrwydd Bydd yr
adolygiad hwn a gynhelir ar y cyd yn gwella'r
gwaith sy'n cael ei gyflawni gan y ddau Barc
Cenedlaethol ill dau o ran eu Cynlluniau Gwella
Hawliau Tramwy.
Peintio'r Byd yn WyrddPeintio'r Byd yn WyrddPeintio'r Byd yn WyrddPeintio'r Byd yn Wyrdd
Rhwng 2009/10 a 2010/11 lleihaodd Awdurdodau'r Par-
ciau Cenedlaethol eu gollyngiadau carbon 10.25% ar
gyfartaledd, ymhell y tu hwnt i darged Llywodraeth Cymru
o 3% !