Llais Ogwan Ebrill 2012

24
Ebrill 2012 Rhif 421 50c Dyffryn Ogwen yn dweud digon yw digon M ae Cyngor Gwynedd yn gweithio mewn partneriaeth â’r grŵp cymunedol Balchder Bro Ogwen a thrigolion, ysgolion a busnesau lleol i geisio rhwystro perchnogion anghyfrifol rhag gadael i’w cŵn faeddu mannau cyhoeddus yn ardal Bethesda. Mae hyn yn dilyn pryderon fod lleiafrif o berchnogion nad ydyn nhw byth yn glanhau ar ôl eu cŵn, er gwaethaf cynllun Trefi Taclus Cyngor Gwynedd sy’n cynnig bagiau baw cŵn i berchnogion. Codwyd pryderon ynghylch perchnogion yn methu â glanhau ar ôl eu cwn ar lwybrau ym Mhant Dreiniog, Caiff y llwybrau eu defnyddio’n helaeth gan blant a theuluoedd. Cafodd y llwybrau eu gosod a’u gwella yma ychydig flynyddoedd yn ôl yn sgil y Fenter Llwybrau Diogel i’r Ysgol, a bu Cyngor Gwynedd a Balchder Bro Ogwen yn plannu coed a bylbiau blodau yno er mwyn helpu i adfer apêl naturiol y safle. Maen nhw hefyd wedi trefnu digwyddiadau codi sbwriel mewn amryw o leoedd. Meddai un o’r trigolion lleol, Chris Humphreys: “Mae’n bryder parhaus i ni fel rhieni y bydd plant yn dod i gysylltiad â baw cŵn. Mae Pant Dreiniog erbyn hyn yn lle chwarae naturiol gwych i blant ond mae rhai perchnogion cŵn yn gadael i’w cŵn wneud eu busnes lle bynnag maen nhw eisio.” Mae Sioned H Thomas, pennaeth Ysgol Abercaseg, hefyd yn bryderus fod perchnogion yn gadael i’w cŵn faeddu gerllaw’r ysgol ac nad ydyn nhw’n glanhau ar eu hôl. Parhad ar dudalen 18 Ymdrech Fawr Balchder Bro Ogwen Mae grŵp cymunedol Balchder Bro Ogwen wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar yn gwella safon eu hamgylchedd. Ar Fawrth 8fed cyfarfu 10 aelod o’r grŵp yng Nghanolfan Hamdden Plas Ffrancon cyn gwasgaru gyda’u gefelau codi i’r ardal gyfagos. Aethpwyd ar hyd llwybr cyhoeddus ger y ganolfan ynghyd â chae chwarae Cae Gas. Fe gasglwyd 30 bag o sbwriel yn ystod y bore yn unig a chafwyd hefyd nifer o eitemau eraill, megis teiars car. Ac eto ar Fawrth 20fed aeth 6 aelod allan i gasglu sbwriel ar lannau’r Afon Caseg, ger Cae Chwarae Abercaseg, a stad Abercaseg. Casglwyd oddeutu 20-25 bag sbwriel, ond adroddwyd bod llawer o waith i'w wneud eto. Gobeithir trefnu dyddiad arall y mis nesaf i geisio gorffen y gwaith tacluso. Parhad ar dudalen 3

description

Papur Bro Dyffryn Ogwen

Transcript of Llais Ogwan Ebrill 2012

Page 1: Llais Ogwan Ebrill 2012

Ebrill 2012 Rhif 421 50c

Dyffryn Ogwen yndweud digon yw digon

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio mewn partneriaeth â’r grŵp cymunedol Balchder BroOgwen a thrigolion, ysgolion a busnesau lleol i geisio rhwystro perchnogion anghyfrifolrhag gadael i’w cŵn faeddu mannau cyhoeddus yn ardal Bethesda.

Mae hyn yn dilyn pryderon fodlleiafrif o berchnogion nad ydynnhw byth yn glanhau ar ôl eucŵn, er gwaethaf cynllun TrefiTaclus Cyngor Gwynedd sy’ncynnig bagiau baw cŵn iberchnogion. Codwyd pryderonynghylch perchnogion yn methu âglanhau ar ôl eu cwn ar lwybrauym Mhant Dreiniog, Caiff yllwybrau eu defnyddio’n helaethgan blant a theuluoedd.

Cafodd y llwybrau eu gosod a’ugwella yma ychydig flynyddoeddyn ôl yn sgil y Fenter LlwybrauDiogel i’r Ysgol, a bu CyngorGwynedd a Balchder Bro Ogwenyn plannu coed a bylbiau blodauyno er mwyn helpu i adfer apêlnaturiol y safle. Maen nhw hefydwedi trefnu digwyddiadau codisbwriel mewn amryw o leoedd.

Meddai un o’r trigolion lleol, ChrisHumphreys: “Mae’n bryderparhaus i ni fel rhieni y bydd plantyn dod i gysylltiad â baw cŵn.Mae Pant Dreiniog erbyn hyn ynlle chwarae naturiol gwych i blantond mae rhai perchnogion cŵn yngadael i’w cŵn wneud eu busneslle bynnag maen nhw eisio.”

Mae Sioned H Thomas, pennaethYsgol Abercaseg, hefyd ynbryderus fod perchnogion yngadael i’w cŵn faeddu gerllaw’rysgol ac nad ydyn nhw’n glanhauar eu hôl.

Parhad ar dudalen 18

Ymdrech Fawr Balchder Bro Ogwen

Mae grŵp cymunedol Balchder Bro Ogwen wedi bod yn brysur iawn ynddiweddar yn gwella safon eu hamgylchedd.

Ar Fawrth 8fed cyfarfu 10 aelod o’r grŵp yng Nghanolfan Hamdden PlasFfrancon cyn gwasgaru gyda’u gefelau codi i’r ardal gyfagos. Aethpwydar hyd llwybr cyhoeddus ger y ganolfan ynghyd â chae chwarae CaeGas. Fe gasglwyd 30 bag o sbwriel yn ystod y bore yn unig a chafwydhefyd nifer o eitemau eraill, megis teiars car.

Ac eto ar Fawrth 20fed aeth 6 aelod allan i gasglu sbwriel ar lannau’rAfon Caseg, ger Cae Chwarae Abercaseg, a stad Abercaseg. Casglwydoddeutu 20-25 bag sbwriel, ond adroddwyd bod llawer o waith i'wwneud eto. Gobeithir trefnu dyddiad arall y mis nesaf i geisio gorffen ygwaith tacluso.

Parhad ar dudalen 3

Page 2: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan

Derfel Roberts [email protected]

ieuan Wyn [email protected]

Lowri Roberts [email protected]

Dewi Llewelyn Siôn [email protected]

Fiona Cadwaladr Owen [email protected]

Siân Esmor Rees [email protected]

Emlyn Evans [email protected]

Neville Hughes [email protected]

Dewi a Morgan [email protected]

Dafydd Fôn Williams [email protected]

Walter W Williams [email protected]

SWYDDOGiON

Cadeirydd:André Lomozik, Zakopane,7 Rhos-y-Coed, Bethesda, Bangor,Gwynedd LL57 3NW 602117

Trefnydd Hysbysebion:Neville Hughes, 14 Pant, Bethesda LL57 3PA [email protected]

Ysgrifennydd:Gareth Llwyd, Talgarnedd, 3 Sgwâr Buddug, Bethesda LL57 3AH [email protected]

Trysorydd: Godfrey Northam, 4 Llwyn Bedw, Rachub,Llanllechid LL57 3EZ 600872

Y Llais Drwy’r Post: Owen G Jones, 1 Erw Las, Bethesda,Gwynedd LL57 3NN 600184

PANEL GOLYGYDDOL

£18 Gwledydd Prydain£27 Ewrop£36 Gweddill y Byd

Owen G. Jones, 1 Erw Las,Bethesda, Gwynedd LL57 [email protected]

-

Golygydd y Mis

archebu Llais Ogwan drwy’r Post

DYDDiaDuR Y DYFFRYN Rhoddion i’r Llais

Llais Ogwan 2

Clwb Cyfeillion Llais Ogwan

Os gwyddoch am rywun sy’n caeltrafferth â’i olwg, ac a hoffai dderbyncopi o’r Llais ar gasét bob mis,cysylltwch ag un o’r canlynol:

Gareth Llwyd 601415Neville Hughes 600853

Llais Ogwan ar Dâp

Cyhoeddir gan Bwyllgor Llais Ogwan

Cysodwyd gan Tasg, Gorffwysfa, Sling, Tregarth

LL57 4RJ 07902 362 [email protected]

Argraffwyd gan Wasg Ffrancon, Dôl Ddafydd, Bethesda LL57 3LY

01248 601669

CydnabyddirCefnogaeth

Golygydd y mis hwn oedd Derfel Roberts.Golygydd mis Mai fydd:Dewi Llewelyn Siôn, Pencraig, 42 ErwLas, Bethesda, LL57 3NN (01248 600274) [email protected]

Pob deunydd i law erbyn dydd Mercher, 2Mai, os gwelwch yn dda. Plygu nos Iau,17 Mai yng Nghanolfan Cefnfaes am 6.45.

£5.00 Karen Williams, Hen Barc, Bethesda

£7.00 Gwen Gruffydd, Aberystwyth

£7.00 Vera Davies, Great Dunmow

£100 Cyngor Cymuned Llanllechid

£20.00 Er cof am Desmond Davies, 30

Bryntirion, Bethesda, a fu farw ar 5

Mai 1982 oddi wrth Nen, Michael,

Martin, Peter a’r teulu.

£20.00 Er cof annwyl am Huw Parry Jones,

Dolgarrog (Mynydd Llandygai gynt)

£10.00 Er cof am Cyril Jones, 6 Bron y Waun,

Rhiwlas gan Mrs Myra Jones

Gwobrau Mis Ebrill£30.00 (63) Awen Gwyn, Maes yr Hedydd, Tregarth£20.00 (152) Jean Ogwen Jones, Tegfan, 6 Stad Coetmor.£10.00 (192) Carys Dafydd, Llys Llywelyn, Braichmelyn£5.00 (22) Don Hughes, Ripponden, Halifax.

Mis Ebrill20 Bingo. Canolfan Glasinfryn am 7.30.

At elusen “Sunny Day” (i godi arian at gael cadair arbennig i ferch lleol).

20 Cyngerdd gan Glain Dafydd yn Eglwys Sant Cedol, Pentir, am 7.00

21 Bore Coffi at Apêl Eist. Urdd Eryri 2012. Neuadd Goffa Mynydd Llandygai 10.30 – 12.00

21 Bore Coffi Ymchwil Canser. Neuadd Ogwen. 10.00 -12.00

22 Gweithdy Gwerin Clera. Amgueddfa Lechi Llanberis. 1.00 – 4.30.

23 Te Bach. Festri Carmel Llanllechid. 2.30 – 4.00

24 Plaid Cymru Cangen Dyffryn Ogwen.Cefnfaes am 7.00

26 Merched y Wawr Bethesda. Brethyn Cartref. Cefnfaes am 7.00

28 Bore Coffi Capel Jerusalem. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00

Mis Mai01 Te Gwanwyn. Canolfan Tregarth.

2.00 – 4.00 . At Eglwys y Santes Fair.

05 Bore Coffi Gorffwysfan. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00

07 Merched y Wawr Tregarth. “Y Bardd Cocos”. Festri Shiloh am 7.00

12 Bore Coffi Cymorth Cristnogol. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00

12 Marchnad Cynnyrch Lleol. Llys Dafydd. 10.00 – 2.00

19 Bore Coffi Ysgol Sul Jerusalem. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00

20 Cymanfa Ganu Annibynwyr Bangor aBethesda. Capel Bethlehem Talybont am 5.30.

23 Plaid Lafur Dyffryn Ogwen. Cefnfaes am 7.30.

26 Bore Coffi Sefydliad y Merched Carneddi. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00

29 Plaid Cymru Cangen Dyffryn Ogwen.Cefnfaes am 7.00

Mis Mehefin02 Bore Coffi Gŵyl Afon Ogwen.

Neuadd Ogwen. 10.00 -12.00

09 Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen. Caeau Dôl Ddafydd, Bethesda.

Sesiynau Siarad i Ddysgwyr

Paned a SgwrsCaffi Fitzpatrick 11.00 – 12.00 Dydd Sadwrn cyntaf pob mis

Peint a Sgwrs Douglas Arms Bethesda

20.00 – 21.00

Trydydd Nos Lun pob mis

Hysbysebwch yn LlaisOgwan

Cysylltwch â Neville Hughes

01248 600853

[email protected]

Page 3: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 3

Lly thyrau

Annwyl Olygydd,

Hoffwn ddefnyddio ychydig ofod,osgwelwch yn dda i ddatgan na fyddafyn ymgeisydd yn yr etholiad am seddar Gyngor Cymuned Pentir ym misMai.

Bûm yn aelod annibynnol dros wardGlasinfryn ar y Cyngor am gyfnoddi-dor o 38 mlynedd ac yn ystod ycyfnod hir yma cefais yr anrhydedd ofod yn Gadeirydd y Cyngorddwywaith.

Hoffwn ddiolch i drigolion ardalGlasinfryn a Chaerhun am eucefnogaeth ac am y fraint o gael eucynrychioli ar y Cyngor ar hyd yblynyddoedd.

Yn ddiffuant.James Griffiths

24 Heol Serth,Caerffili,

CF83 2AN.

Chwilota am berthnasau

Annwyl Olygydd,Apêl yw hon am i unrhyw aelod odeulu Daniel David Roberts sy’ndal i fyw yn ardal Bethesda ddod igysylltiad gan ein bod yn ceisiocwblhau coeden deulu fy nhaid sefy gŵr a enwir uchod. Mae’n debygi Daniel David Roberts symud oFethesda i Abertridwr, ger Caerffilioddeutu’r flwyddyn 1912 ac yno yganed fy nhad a’i frodyr a’ichwiorydd.

Yn ôl Cyfrifiad 1891 roedd DanielDavid Roberts (8 oed) yn byw yn 3Stryd Treflys, Gerlan gyda’i dadEdward a’i fam Elizabeth ynghydâ’i frodyr William, Hugh, EdwardSamuel a’i chwaer ElizabethCatherine. Roedden nhw wedisymud i Gerlan o FforddCarneddi. Roedd y rhieni wedi bodyn byw yn Llidiart y Gwenyn cynhynny. Yn ystod Cyfrifiad 1871roedden nhw’n byw un ai yn Rhif70 neu rif 72 Ffordd Carneddi.Symudodd y teulu i’r Gerlanrywdro rhwng 1871 ac 1881.

Os oes rhywun o’r teulu ar ôlbyddwn yn hynod o falch o glywedgennych a gallwch ysgrifennu atafi’r cyfeiriad uchod neu fy ffonio ar02920 866899 neu fy ebostio ar uno’r ddau gyfeiriad ebost canlynol: - [email protected] neu [email protected]

Yr eiddoch yn ddisgwylgar,Morwyn (Roberts gynt)

a Ken Green.

Plant Alder HayMae cynhyrchydd teledu o Griciethyn apelio am deuluoedd i gymrydrhan mewn cyfres newydd sbon i’wdarlledu ddiwedd y flwyddyn arS4C. Enw’r gyfres yw ‘Plant AlderHay’ ac fel mae’r enw’n awgyrymu,dilyn hynt a helynt plant sy’n gorfodmynychu’r ysbyty arbennig hwn ynLerpwl yw nod y rhaglen. SionedMorys, gwraig y bardd Twm Morys,gafodd y syniad wedi i’w trydyddplentyn, Begw Elin, orfod caelllawdriniaeth go hegar yn Alder Hay,a hynny ar ei diwrnod cyntaf un yn ybyd. ‘Ychydig oriau ar ôl cael eigeni, roedd Begw ar ei ffordd iLerpwl am lawdrniaeth a barodd yny pen draw am 10 awr. Buom amwythnos wedyn yn yr Adran GofalDwys, cyn cael ein trosglwyddo i’rward babis. Mae Begw rwan ynhogan fach tair a hanner oed, ac er nafu’r tair blynedd ddiwethaf ynhawdd, does dim diwrnod yn myndheibio nad ydwyf yn diolch i’rNefoedd fod y fath ysbyty yn bod’.

Cyn geni Begw, mae’n wir dweudnad oedd gan Sioned amcan am yrhyn roedd Alder Hay yn ei wneud,nac ychwaith am yr effaith y maecael plentyn sydd angenllawdriniaeth yno, yn ei chael ar yteulu. ‘Pan mae Alder Hay yn galw,rhaid gollwng pob dim a mynd.Oherwydd bod y lle mor bell o adra,rhaid oedd aros dros nos. Roedd ynrhaid i Mam ddod i warchod Dyddgua Tudwal, oedd yn 5 a 3 ar y pryd.’Dwn i ddim beth faswn ni wedi eiwneud hebddi!’.

Mae pethau wedi tawelu erbyn hyn.Mae cyflwr Begw - sef TrachealOesophageal Fistula - yn golygu fodei phibell wynt yn wan, ac mae’n dali gael pyliau o anwyd drwg. Ond dimbyd tebyg i’r hyn oedd yn digwyddyn y flwyddyn gyntaf pan oeddBegw yn tueddu i stopio anadlu yngyfan gwbwl! ‘Fe fu’n rhaid i Twma minnau roi ‘cusan fywyd’ i Begwsawl tro. Erbyn heddiw, fedra’i ddimcoelio ein bod wedi gorfod gwneud yfath beth. Ond mi wnaethom, acrydan ni wedi dod trwyddi’.

Yr amcan pennaf wrth wneud ygyfres ydi codi ymwybyddiaeth amfodolaeth Alder Hay, a helpu i bobolddeall yr hyn y mae teuluoedd sy’nmynychu’r lle yn gorfod ymdopi ago. ‘Y peth cyntaf rydach chi eisiau eiwneud ar ôl dod adref ydi talu’n ôlmewn rhyw ffordd. Mae llawer yncynnal nosweithiau codi pres, Yffordd hawsa’ i mi oedd gwneudrhaglenni radio. Mi wnes i ddwyraglen ar gyfer Radio Cymru, ac un iRadio Wales, a rhoi elw’r rhaglenni iRonald McDonald House, y lletysy’n rhoi stafell am ddim i bobol felfi, pan fydd plant bach sâl gennymyn yr ysbyty. Hon yw’r gyfresgyntaf i mi ei gwneud ar y teledu. Mifydd elw’r rhaglenni yma hefyd ynmynd i Lerpwl.’

Os oes gennych ddiddordeb mewncymryd rhan, byddwch cystal âchysylltu â Sioned yn Teledu Chwarelar 01766 523 522, neu 07712531439.Diolch!

YSGOL 'ARBENNIG'

Annwyl ffrindiau

Mae Ysgol Abercaseg yn ysgol‘arbennig’ iawn, dyna unioneiriau arolygwyr Estyn wediiddynt dreulio tri diwrnod ynoddiwedd mis Chwefror.

Er mor anodd yw cadw’rnewyddion da i ni ein hunaincyhyd, ni allwn felLlywodraethwyr gyhoeddiunion gynnwys yr adroddiadnes iddo ymddangos ar wefanEstyn ar Ebrill 26ain. Digonyw dweud ein bod yn hynod,hynod falch o’r canlyniad ganbod yr ysgol wedi llwyddo igyflawni camp na wyddom iunrhyw ysgol gynradd arallyng Nghymru ei chyfawni o’rblaen.

Dymunaf dalu teyrngedarbennig iawn i Bennaeth yrysgol, Sioned Thomas, am eiharweiniad medrus; i athrawona chymorthyddion yr ysgol ameu hymroddiad di-ben- draw;i’r holl staff ategol am eucyfraniad gwerthfawr ac, ynolaf, i’r plant a fu’n serennudrwy’r wythnos fel eu harfer –mae pob un ohonynt wedicyfrannu at lwyddiant yr ysgolyn yr arolwg.

Byddwn yn cynnal parti am1.30pm Dydd Iau, 26 Ebrill(sef diwrnod cyhoeddi’radroddiad) a hoffem estyngwahoddiad i drigolion yrardal ddod i'r ysgol i ymuno âni gan ein bod yn credu bodllwyddiant yr ysgol ynrhywbeth y dylem i gydymfalchio ynddo.

Ein braint ni fel rhieni yw caelanfon ein plant i’r ysgol‘arbennig’ yma, i gael euhaddysgu gan bobl arbennig, idderbyn profiadau arbennig athyfu i fod yn blant arbennig.

Yn gywir

Fflur RobertsCadeirydd CorffLlywodraetholYsgol Abercaseg

Senghennydd ydrychineb a

Thrawsfynydd Annwyl Olygydd, Derbyniodd y wasg gopi ogerdyn post gan John Roberts,Caerffili. Cerdyn o’r ‘WelshMethodist Chapel’, Senghennyddydi o, ond mae’r neges ar ei gefnyn ingol.

Llwyddwyd i wasgu pryder,galar a thristwch y danchwa yngngwaith glo’r Universal i’rmymryn o ofod a ganiateir, ‘Thisspace for correspondence.’ Mae’r cerdyn wedi’i gyfeirio at‘Mrs I. (neu J.) Roberts, No. 5Ardudwy, Station Road,Trawsfynydd, North Wales’ acwedi ei stampio gan y post am3.15, 15fed Hydref 1913.

Digwyddodd y drychineb danddaear am 8.10 bore’r 14egHydref:

Anwyl Rienni, Dest air neuddau atoch gan fawr obeithioeich bod iach yno. Mae yndebyg eich bod wedi clwad am ytaniad yn Senghenydd. Miydwyf fi yma er ddoe. Nid ydyntwedi dod o hyd i Jack Daviesetto. Mae na cannoedd nadydynt yn medru mynd attynt ynoetto. Mae nhw wedi dyfod a Willa Jack Tynllyn fynu yn saf yboreu yma. Mae na llawer oddiyma i lawr etto. Mi gewch ymanylion etto. Ydwyf, Bob.

Uwch ben y geiriau ‘This spacefor correspondence’,ychwanegwyd: Mae meibionAnn Jones wedi ei lladd. MaeEdmwnd beth bynnag amEvan.

Lladdwyd 439 o lowyr ynnhanchwa Senghennydd a byddcanmlwyddiant cofio’r drychineby flwyddyn nesaf. Bydd GwasgCarreg Gwalch yn cyhoeddicyfrol o straeon, toriadau papurnewydd, cerddi a lloffion fel hyni gofio’r hanes a’r dioddefaint.Os oes gan unrhyw un o’chdarllenwyr stori neu loffion,byddwn yn falch iawn o glywedoddi wrthynt.

Myrddin ap Dafydd, Gwasg Carreg Gwalch

(01492 642031) [email protected]

Meddai’r Cynghorydd lleol Ann Williams, a drefnodd ydigwyddiadau: ‘Diolch o galon i bawb o Balchder Bro a fu wrthi’ngweithio mor ddiflino ar y diwrnodau hel sbwriel diweddar -rydych wedi helpu gwneud Dyffryn Ogwen yn daclusach lle, ac ynardal gwerth ei gweld. Diolch hefyd am gefnogaeth CyngorGwynedd a menter Trefi Taclus am gydweithio a darparu offer helsbwriel.’

Sefydlwyd Balchder Bro Ogwen yn 2009 oherwydd pryder amlefelau uchel o sbwriel yn yr ardal. Yn ogystal â hel sbwriel, mae’rgrŵp wedi cyflawni amryw o weithgareddau eraill, gan gynnwysplannu bylbiau gyda phlant ysgol leol, plannu coed gyda Merched yWawr, gosod basgedi crog ar y stryd fawr a rhannu bagiau baw cŵnyn y gymuned leol.

Os hoffech ymuno â’r grŵp a helpu i wella amgylchedd DyffrynOgwen cysylltwch ag Ysgrifennydd Balchder Bro, y Dr PaulRowlinson ar y rhif (01248) 605365 neu anfonwch e-bost [email protected].

Balchder Bro - o’r dudalen flaen

Page 4: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 4

BethesdaLlên Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda 600431

Siop KathyStryd Fawr, Bethesda

Fiona Cadwaladr Owen, Bryn Meurig Bach, Coed y Parc, Bethesda, LL57 4YW 601592

Joe Hughes, Awel y Nant, Ffordd Ffrydlas,Bethesda 601902

Dymuna Llais Ogwan ddiolch yn fawr i John a Mair (Siop John) am eucefnogaeth ffyddlon i’r Llais dros gyfnod maith. Diolch am gasglu’rnewyddion a gwerthu’r Llais a’r calendr. Byddwn yn gweld eu colli ary Stryd Fawr! Ond er eu bod wedi ymddeol o’u gwaith o redeg y siop,mae’n dda deall y byddant yn parhau gyda’u dyletswyddau eraill yn ygymuned, megis llogi Cefnfaes a Neuadd Ogwen. Gallwch eu ffonio ar 600251 (sef hen rif y siop).

DiolchDymuna John a Mair (Siop John),Rhes Buddug, Stryd Fawr, ddiolcho galon i bawb, yn gyfeillion acyn gwsmeriaid, am eu cefnogaethffyddlon i’r teulu ers cychwyn ybusnes yn 1950. Diolch i bawbhefyd am eu dymuniadau da wrthiddynt ymddeol.

Diwedd Cyfnod

Llun o’r siop a dynnwyd yn 1961. O'r chwith mae Mrs Ada Thomas (nain John), Mr. W. Edwin Jones (tad John) a

Mrs. Mair Jones (mam John)

Pen-blwydd ArbennigAnfonwn ein cyfarchion a’ndymuniadau da i Mary Jones, ErwLas sy’n dathlu ei phen-blwyddyn 60 mlwydd oed ar 30 Ebrill.

DiolchDymuna Elfed a Helen Jones,Ffordd Ffrydlas ddiolch o waelodcalon i deulu, ffrindiau achymdogion am eu caredigrwydd,yn gardiau, arian, anrhegion achyfarchion a dderbyniwyd arachlysur dathlu eu Priodas Aur ar17 Mawrth. Diolch yn fawr iawn.

Cartref NewyddCroeso cynnes iawn i Mrs M.Kimpton i’w chartref newydd ymMaes y Garnedd.

Babi NewyddLlongyfarchiadau i Emma aTrystan Pritchard, Elidir, AlltPenybryn ar enedigaeth mab –Math Llywelyn Rhys ar 8Mawrth. Brawd bach i Beca Elinac ŵyr i Brian ac Orina Pritchard.

Taid a NainLlongyfarchiadau hefyd i Mr aMrs B. Pritchard, Rhos y Nant aryr achlysur hapus o ddod yn naina thaid unwaith eto a hefyd i naina taid Bangor, y meddyg a Mrs M.Evans.

Pen-blwyddiDathlodd rhai ben-blwyddiarbennig yn ddiweddar. Pen-blwydd hapus iawn i chwi. 70 Mr O. J. Evans, Pant; 65 Mr Vernon Owen, Abercaseg; 80 Mrs Glenys Lloyd Jones,Glanffrydlas.

Priodas AurLlongyfarchiadau ar achlysurhapus o ddathlu eu Priodas Aur iMr a Mrs Alun Hughes, MaesCoetmor, 10 Mawrth; Mr a MrsPhil Williams, Penybryn, 31Mawrth.

YsbytyCofion cynnes atoch i gyd. Dadeall eich bod yn gwella’n raddol.

Mrs Nancy Thomas, Rhes Gordon;Mr Bill Lloyd Williams, FforddBangor; Mr Stan Edwards,Coetmor; Mrs Medi Williams,Coetmor; Mr J.K. Hughes, Sŵn yNant.

DamwainCyfarfod â damwain fu hanes MrsMary Jones, Rhes Tai Glanogwen.Cofion cynnes atoch.

ProfedigaethAr 11 Mawrth ym Mhlas Ogwen bufarw Mr Richard Sandison,Maesygarnedd (Gerlan gynt) yn 81oed. Priod y ddiweddar Mrs WendySandison, tad caredig Jim, Will,Doreen a Rickie. Bu ei angladdddydd Gwener, 16 Mawrth gydagwasanaeth yn amlosgfa Bangor,cydymdeimlwn â chwi fel teulu.

Yn Ysbyty Gwynedd ar 6 Mawrth,wedi cyfnod o flwyddyn yno, bufarw Mr Leslie William Mellor(Les), 17 Rhes Ogwen yn 88 oed.Priod annwyl y ddiweddar MrsDilys Mellor, tad hoffus Sheila,Jean a David. Tad yng nghyfraithGraham, taid Sarah, Liz, Hannah,Keith, Ceri, Mike a Catrin, a hendaid i Danny, Jac, Thomas, Lily,Jonah a Nell. Cynhaliwyd eiangladd ddydd Mercher, 14Mawrth, gyda gwasanaeth ynamlosgfa Bangor, gyda’r ficer yParchedig Nia Williams yngwasanaethu. Cydymdeimlwn âchwi fel teulu i gyd yn eich colled.

Ar 2 Ebrill, yn yr ysbyty, bu farwMr Albert Williams, 21Glanffrydlas yn 89 oed. Priodannwyl Mrs Muriel Williams, tadannwyl Helen, Eleri a Dylan, tadyng nghyfraith, taid a hen daidhoffus. Bu gwasanaeth yn amlosgfaBangor fore Mawrth, 10 Ebrillgyda’r Parchedig Geraint S.R.Hughes yn gwasanaethu. Anfonwnein cydymdeimlad atoch fel teuluyn eich profedigaeth o golli priod,tad, taid a hen daid.

Ar 22 Mawrth yn Ysbyty Gwynedd,bu farw Mr Derek Jones, 6B RhesPenrhyn, yn 47 oed. Tad Emma,Paul a Llifon. Mab annwyl MrsJoyce Jones a’r diweddar Mr GlynJones, a brawd Eurwyn, Linda aBrian a chymar annwyl Jackie. Buei angladd ddydd Gwener, 30Mawrth, gyda gwasanaeth ynamlosgfa Bangor gyda’r ficer yParchedig Nia Williams yngwasanaethu. Cydymdeimlwn âchwi fel plant, mam, a’r teulu i gydyn eich profedigaeth.

CydymdeimladAnfonwn ein cydymdeimlad at DrA. Rees Pritchard, Helen a John, 12Gerddi Menai, Caernarfon, (FforddBangor gynt) yn eu profedigaeth ogolli priod, mam a nain annwyl, sefy ddiweddar Mrs. M. ElunedPritchard yn 95 oed. Bu gwasanaethyn amlosgfa Bangor ddydd Llun, 19Mawrth gyda’i gweinidog yParchedig Ron Williams yngwasanaethu.

BabiLlongyfarchiadau i Sasha Mossgynt o Garneddwen ar enedigaeth

merch fach ar 16 Mawrth, o’r enwMedi Lois. Mae’n siŵr fod NainWendy, John a’r teulu wedigwirioni hefo Medi.Llongyfarchiadau hefyd i Mr J. O.Roberts, Penybryn ar ddod yn hendaid.

DiolchLeslie William MellorDymuna Sheila, Jean, David a’rteulu oll ddatgan eu diolchdiffuant am bob neges a cherdyn ogydymdeimlad, a’r rhoddion adderbyniwyd yn dilyn eu colleddrist yn ddiweddar. Diolch i’rmeddygon ac yn arbennig i’r staffnyrsio ar wardiau Aran a Dulas ynYsbyty Gwynedd, lle cafodd ofalcariadus dros y 14 mis diwethaf.Diolch hefyd i’r Parchedig NiaWilliams am y gwasanaeth hyfrydac i Westy’r Douglas am ylluniaeth, a diolchiadau arbennig iGareth Williams, yr ymgymerwram ei wasanaeth proffesiynol agofalus. Diolch yn fawr.

DiolchDymuna Nia (Moore gynt) aDylan Jones, ddiolch yn fawr amyr holl gardiau ac anrhegion adderbyniwyd ganddynt yn dilyngenedigaeth eu mab, Noa LloydJones, ar 3 Ionawr.

Dymuna Sioned a Huw, 48Abercaseg, ddiolch o galon am yrholl gardiau ac anrhegion adderbyniwyd ar achlysur geni eumab bach, Noa Jac ar 2 Mawrth.Mae’n fachgen bach lwcus iawnyn wir.

Codi arianI ddathlu eu pen-blwydd yn 70oed eleni penderfynodd Eirwen aDilwyn, Erw Las, gasglu arian i’wrannu rhwng Ambiwlans AwyrCymru a Tŷ Gobaith yn hytrachna derbyn anrhegion. Mae £920wedi ei hel i’w rannu rhwng y

ddau achos. Mae Eirwen a Dilwynyn hynod o ddiolchgar i bawb syddwedi cyfrannu mor hael. Diolch ynarbennig i Hogia’r Bonc am ganu arhoi o’u hamser yn rhad ac am ddimar noson y parti. Diolch hefyd iGwyn, Becws Cae Groes am ei roddo roliau ffres. Diolch i Ann, Hugh aSioned am drefnu’r noson.

Pen-blwydd arbennigLlongyfarchiadau i Vernon Owen, 29Abercaseg, ar ddathlu ei ben-blwyddyn 65 mlwydd oed ar 20 Mawrth.

Cyfarchion HwyrLlongyfarchiadau i’r efeilliaid, FredaAdams, 32 Abercaseg, a Fred Morris,13 Garneddwen ar ddathlu eu pen-blwydd yn 50 mlwydd oed ar 2Mawrth.

Mae’r ddau yn dymuno diolch ibawb, yn deulu, ffrindiau achymdogion am y cardiau, anrhegionac arian a dderbyniwyd ganddynt areu pen-blwydd arbennig.

DiolchDymuna teulu’r ddiweddar MrsMary Davies, 20 Glanogwen, ddiolchi bawb am bob arwydd ogydymdeimlad a dderbyniwydganddynt yn eu profedigaeth. Diolcham bob cerdyn, a hefyd am yrhoddion tuag at Ambiwlans AwyrCymru. Diolch i bawb yng nghartrefCerrig yr Afon am fod mor garedig achymwynasgar, ac i Gareth Williamsam drefniadau mor barchus athrwyadl.

DiolchDymuna Joyce, Emma, Paul, Llifon aJackie ddiolch yn fawr i bawb ambob cydymdeimlad ar achlysur tristcolli Derek Jones, Fflat 6B, RhesPenrhyn, ar 22 Mawrth. Diolch iGareth Williams, yr ymgymerwr, a’rFicar, y Parchedig Nia C. Williamsam eu gwasanaeth ar ddydd yrangladd.

Page 5: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 5

EGLWYS UNEDIGBETHESDA

yng Nghapel Jerusalem

Estynnir croeso cynnes ibawb i oedfaon Sul

Bore Gwasanaeth ac Ysgol Sul am 10.00

Hwyr Gwasanaeth am 5.00

Dydd Gŵyl Ddewi

Dyma lun o blant y Cylch yn eu gwisgoedd Cymreig ar gyfer Dydd Gŵyl Ddewi.

Bingo PasgBydd y Cylch yn cynnal bingo Pasg ar nos Fercher, Ebrill 18eg yngNghlwb Criced Bethesda am 6.30 y.h.Gwobrau gwerth chweil a raffl ar y noson. Croeso i bawb. Yr holl elwat Gylch Meithrin Cefnfaes.

Cylch Meithrin CefnfaesGorffwysfan, Stryd Fawr

PwyllgorCynhaliwyd pwyllgor fore Llun,27 Chwefror am 11.15 y boregyda Mr Eric Jones yn y gadair.

Cafwyd gair o groeso i bawbgan y Cadeirydd ac ynbresennol roedd Joe Evans, StanWilliams, Tom Morgan, ElfedBullock, Vernon Owen, JimAmos, Owen John Evans, EricJones a Joe Hughes.Cafwyd ymddiheuriadau ganDafydd Pritchard, Denis Dart acAnn Fôn Williams.

Cydymdeimlodd y cadeirydd âsawl teulu a fu mewnprofedigaeth ers cyfarfodpwyllgor Medi 2011. Teulu ydiweddar Mr Gwynfor Roberts,Y Gerlan; teulu y diweddar MrsOlwen Williams, Glanogwen,Mr Joe Evans a’r teulu (collibrawd); Mr Dennis Dart a’rteulu (colli brawd). Safodd yraelodau i ddangos eu parch.

Anfonodd y cadeirydd eincofion am wellhad buan at: MrsGlenys Lloyd Jones, Mr StanEdwards, Mrs Rene Parry, MrsEttie Evans a Mr Bert Hughes(brawd Dafydd).

Darllenwyd cofnodion pwyllgormis Medi, 2011. Materion i’wtrafod: 1: Y bore coffi, 5 Mai ynNeuadd Ogwen o 10.00 tan12.00) 2: Gwibdaith 1 Mai, sefdydd Mawrth i Aberystwyth achael coffi ar y ffordd, 3: gwibdaith ddirgel, dyddMawrth, 26 Mehefin.

Diolchwyd i’r trysorydd a’rysgrifenyddion am eu gwaith.Etholwyd Mr Elfed Bullock ynis-gadeirydd a Mr Vernon Owenyn is-drysorydd. Bydd sawlmater i’w drafod ar wibdaithmis Mai.

Bore agoredBydd Cylch Meithrin Cefnfaes

yn cynnal bore agored argyfer cofrestru plant a fydd yndechrau yn y cylch ym mis Medi.

Dewch draw am baned asgwrs efo Kerry, Nerys ac

aelodau staff y cylch ar foreMercher, 20 Mehefin rhwng

9.30 a 11.00 y bore.

Byddwn yn edrych ymlaen ateich croesawu

07515860901

CYLCH MEiTHRiNCEFNFaES

angen

CYMHORTHYDD

2 fore yr wythnos dydd Mercher a dydd Gwener

(3 awr y bore, a bod wrth

gefn)

Cysylltwch â’r Cylchneu Kerry

07515860901

CYLCH MEiTHRiNCEFNFaES

Mae Cylch Meithrin Cefnfaesyn awyddus i gynnig lleoliadgwaith i unrhyw un sy’n dilyn

cwrs yn y BlynyddoeddCynnar/Cyfnod Sylfaen/NVQ

lefel 2/3 neu Ddiploma) ac am gael profiad gwaithgyda phlant oed cyn-ysgol.

Os oes gennych ddiddordebcysylltwch â Kerry, yr

arweinydd ar 07515860901neu 602593

EGLWYS UNEDIG BETHESDA

Trefn y Gwasanaethau

22 Ebrill,

Parch. Iorwerth Jones Owen

29 Ebrill, Y Gweinidog.

6 Mai, Y Parch W.H. Pritchard

13 Mai, Y Gweinidog.

Ebrill 15 Y Parch. Ieuan Lloyd

EGLWYS UNEDIGBETHESDA

‘LLENWI’R CWPAN’

Dewch am sgwrs a phaned

Bob bore dydd Iau

rhwng 10.00 o’r gloch a

hanner dydd

Yr Eglwys unedigGweinidog: Y Parchedig Geraint Hughes

Cafwyd rhai dyddiau eithriadol oboeth yn ystod Mawrth cyn i'roerni ddychwelyd wedyn, ond arwaethaf y tywydd poeth fe fuamryw yn cwyno. Roedd rhywstraen arbennig o gryf o'rannwyd yn mynd o gwmpas acamryw wedi eu caethiwo.

Anfonwn gofion at bob unohonoch sydd ddim yn dda agobeithio na fydd y tywydd brafyn hir cyn dychwelyd a iechydyn ei sgil. Da clywed bod rhai o'raelodau sydd wedi bod yn yrysbyty wedi dod adref ac yngwella; dymunwn yr un peth i'rrhai sydd yno ar hyn o bryd.Llongyfarchiadau i Jennie Jonesam ddod yn hen- nain i HarriLlŷn ac i Eurwen Morris amddod yn hen-nain i LiliGwenllian a Dafydd yn hen-daid.Pob dymuniad da i John a Mairar eu hymddeoliad. Fe fydd ynchwith heb eu croeso yn y siop .

Ceri Dart oedd yn trefnu ar gyfery Cyfarfod Gweddi misol achafodd gymorth gan Joe Hughes,Mair Jones a Rhiannon Evans.

Cynhaliwyd Dydd GweddiMerched y Byd yn Jerusalem ar ypnawn Gwener cyntaf o'r mis.Arweiniwyd y gwasanaeth ganMegan Tomos, Carmel a daethnifer dda ynghŷd. Y Ficer, yBarchedig Nia Williams roddoddyr anerchiad. CynhaliwydCymdeithas y Chwiorydd nos Iau,Mawrth 8 o dan lywyddiaeth JeanOgwen Jones. Y gwestai oeddBleddyn a Maureen Hughes oLanrwst. Ar ôl iddynt ymddeolmaent wedi mwynhau crwydro achafwyd hanes y daith i Tseinaganddynt. Daeth y GymdeithasLenyddol i ben gyda gwahoddiadi fynd i Ysgol Llanllechid iglywed y plant yn perfformio’rdarnau ar gyfer Eisteddfod Sir yrUrdd. Llongyfarchiadau mawriddynt ar eu llwyddiannau yno.Dymunwn bob hwyl iddynt hwy aphlant ysgolion eraill yr ardal ynyr Eisteddfod Fawr. Diolch i'r

Brifathrawes a'r athrawon eraillam eu croeso ac am y banedhyfryd. Fe fydd gweithgareddau'rgaeaf yn dod i ben ond peidiwch aanghofio bod croeso i'r Gwasanaethau ar y Sul, i'r Seiatac i Lenwi'r Cwpan bob boredydd Iau.

Dyma lun o Siân Rhys, RhesGordon Bethesda sydd wedicyflawni camp arbennig iawn.Daeth Sian i'r brig yn eidosbarth yng nghystadleuaethsboncen BUCS a hynny drwywledydd Prydain. Mae'n ddagweld chwraewyr ac athletwyrifanc o'r dyffryn yn cyrraedd yfath safon. Mae Siân yn dilyncwrs gwyddor chwaraeon ymMhrifysgol Caerdydd.

LlwyddiantSiân

Meithrinfa Ogwen Cyf

O fore Llun, 30 Ebrill, bydd yFeithrinfa ar agor o 7.30 y bore,gan obeithio y bydd hyn ynhwyluso’r baich i rieni.Llongyfarchiadau i Anti Katrinaa’i phartner, Darren, arenedigaeth merch – Casey Wyn,ar 1 Mawrth. Pob lwc i’r teulubach!

Cafwyd Diwrnod Agoredllwyddiannus fore Sadwrn, 31Mawrth. Croesawodd Pepa Pincnifer o’i ffrindiau a’u rhieni.Diolch i bawb am ddod acymuno yn yr hwyl.

Page 6: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 6

Capel BethelGwasanaethau

22 Ebrill: Parchedig Elwyn Jones29 Ebrill: Parchedig Dewi Morris06 Mai: Parch. Merfyn Jones13 Mai: Y Gweinidog20 Mai: Mr Jack Roberts

Oedfaon am 2.00 o’r gloch.

Croeso cynnes i bawb.

Rachub a LlanllechidDilwyn Pritchard, Llais Afon, 2 Bron Arfon,Rachub LL57 3LW 601880

Raymond Tugwell, 9 Ffordd Llanllechid 601077

Gradd Llongyfarchidau i AngharadHughes, Tandderwen ar ennillgradd M.A. mewn ysgrifennucreadigol yn Adran y Gymraeg,Prifysgol Bangor

Merched y Wawr,Cangen Bethesda

Cynhaliwyd cyfarfod o'r gangen

nos Iau, Mawrth 28 yng

Nghanolfan Cefnfaes.

Llywyddwyd y cyfarfod gan

Margaret Jones a'r cyfeilydd

oedd Gwenno Evans. Roedd

amryw o'r merched yn absennol,

llawer yn dioddef oddi wrth yr

annwyd trwm sydd yn mynd o

gwmpas. Croesawodd y

Llywydd bawb i'r cyfarfod gan

gynnwys Ffion, ei hwyres hynaf

a oedd wedi dod am dro.

Llongyfarchwyd Jennie Jones ar

ddod yn hen-nain i Harri Llŷr ac

Eurwen Morris ar ddod yn hen-

nain i Lili Gwenllian. Diolchodd

y Llywydd i bawb am

gyfraniadau at y bwyd a phob

cymorth arall tuag at y Noson

Ddathlu a gynhaliwyd yng

nghapel Jerusalem fis Mawrth.

Cafwyd noson i'w chofio.

Diolch i Andre ac Ian am dynnu

lluniau mor dda. Penderfynodd y

gangen gyfrannu rhodd o£150

tuag at Eisteddfod yr Urdd a

gynhelir ym Mharc Glynllifon

ddechrau mis Mehefin.

Rhoddwyd gwobr lwcus gan

Jean Northam ac enillwyd hi gan

Megan Wyn Phillips. Y gŵr

gwadd oedd Medwyn Williams,

y garddwr enwog o'r pentref

gyda'r enw hiraf yng Nghymru!

Rydym yn hen gyfarwydd a'i

groesawu atom i Ferched y

Wawr a hefyd i Gymdeithas y

Chwiorydd, felly gwyddom am

ei orchestion rhyfeddol ym myd

garddio, tyfu llysiau yn arbennig.

Y tro yma clywsom am y

gwahoddiad i ddangos ei waith

yn Cincinnati. Roedd cyrraedd

yno a medru trefnu i osod ei

stondin yn gamp ynddo'i hun heb

sôn am y clod yr enillodd yno.

Os oes gennych awydd ceisio

efelychu ei gamp, cofiwch am yr

hadau mae Medwyn a'i deulu yn

eu gwerthu- fe fydd archebu o'r

catalog yn ddechreuad beth

bynnag!! Diolchwyd iddo am ein

dysgu a'n diddori gan Jean

Ogwen Jones. Diolchodd hefyd i

Medi a Rita am baratoi’r baned

ac i Margaret am addurno'r

byrddau a chyflwyno cwningen

basg siocled i bob aelod.

Cofiwch ymweld â Phabell

Merched y Wawr yn Eisteddfod

yr Urdd er mwyn gweld gwaith

rhagorol Margaret a Jên.

Dymunant ddiolch i bawb fu yn

cynorthwyo gyda'r gwaith. Fe

fydd y cyfarfod nesaf nos Iau,

Ebrill 26. Fe fyddwn yn paratoi

rhaglen at y flwyddyn nesaf.

Llais Ogwan 6

Capel Bethania

Oedfaon

6 Mai: Parchedig Nia C. Williams.20 Mai: Cau – Cymanfa’r Annibynwyr.

Oedfaon am 5.30 ar y Sul cyntaf a’r trydydd o’r mis.

Croeso Cynnes i Bawb

Sefydliad y Merched,Carneddi

Sefydliad y Merched, CarneddiRhoddodd ein llywydd, GwynethMorris, groeso cynnes i bawb arnoson hollol wahanol i’r rhaiblaenorol lle’r oedd Bethesda odan eira mawr! Ond rhyfeddbeth mae tipyn o haul yn gallu eiwneud ynte! Yr oedd ychydig o’raelodau yn ymddiheuro amamryw resymau ac fe aethGwyneth ymlaen i longyfarchDoris Shaw ar ddod yn hen nain.Ei hŵyr, Neil, a Sara wedi caelbachgen bach, ond dim mor fachchwaith; yr oedd yn pwyso 9pwys. Gobeithiem fod EttieEvans yn dal i wella acanfonwyd ein cyfarchion atNancy Thomas, hithau wedi caelpen-glin newydd yn ddiweddar.

Yn yr ysbyty yr oedd GlenysWyn Jones wedi cael ei phen-blwydd yn 80 oed. Mae eincyfarchion am wellhad yn myndati. Darllenwyd cofnodion misMawrth gan Jean Hughes a’rllythyr misol gan GwynethMorris.

Ein gŵr gwadd oedd y ParchedigW. R. Williams, mab y diweddarCharles Williams, Bodffordd.Wedi bod yn weinidog yn yFelinheli am flynyddoedd ondwedi ymddeol ac yn byw ynAmlwch erbyn hyn. Cawsomnoson ddifyr iawn ganddo ynrhoi ei atgofion am gymeriadauyr oedd wedi eu cyfarfod ynystod ei yrfa fel gweinidog.Diolchwyd i W. R. Williams ganGwyneth Morris ac i’rgwestwragedd am y baned.Enillydd y raffl, yn rhoddediggan Dilys Jones, oedd JeanHughes.

PriodasAr brynhawn dydd Sadwrn, 17 Mawrth, yng ngwesty Carreg Môn,cynhaliwyd priodas Helen Glynne, merch Gareth a Nancy, 10 FforddPantglas a Paul John Wilkinson yn wreiddiol o St Helen’s.Llongyfarchiadau a phob dymuniad da.

Gwellhad BuanDa yw deall fod y CynghoryddPearl Evans, Stryd Britannia adrefwedi treulio pum wythnos mewngwahanol ysbytai. Hefyd TwmFfranc Jones, Maes Bleddyn yntauwedi derbyn triniaeth ynddiweddar yn yr ysbyty. Brysiwch wella i’ll dau.

Anfonwn ein cofion hefyd at MrsOlwen Lewis, Rhes Bryn Owensydd yn yr ysbyty.

CydymdeimloAnfonwn ein cydymdeimlad atPaul, Emma a Llifon, MaesBleddyn ar achlysur trist colli eutad, Derek Jones, ym Methesda.Bu farw Mrs Ann Rowena Jones,Hen Barc ar 23 Mawrth yngnghartref Plas Pengwaith,Llanberis. Roedd Mrs Jones yn uno drigolion hynaf yr ardal ahithau’n 98 mlwydd oed. Bu MrsJones yn aelod gweithgar affyddlon yn Eglwys SantesLlechid am flynyddoedd cyn cauyr Eglwys. Cymerai ddiddordebmawr yn hanes yr ardal ac roeddei gwybodaeth a’i hatgofion ynwerthfawr iawn i bobl oedd ynarchwilio hanes lleol. Bu’rangladd yn amlosgfa Bangor ar 2Ebrill. Anfonwn ein cyd-ymdeimlad at y teulu oll yn eucolled.

Anfonwn gofion at y Cynghorydd aMrs Godfrey Northam ar achlysurtrist o golli modryb i Godfrey ynNe Cymru.

Pen-blwydd hapusPen-blwydd hapus arbennig i MrsJean Williams, Maes Bleddyn arachlysur dathlu ei phen-blwydd yn80 oed.

DiolchDymuna Keilly Tugwell ddiolch amy gefnogaeth a’r cymorth adderbyniodd wrth gynnal bore coffiyn y Ganolfan. Daeth nifer fawryno ynghyd â Sali Mali a Sam Tân.Gwnaethpwyd elw o £500 tuag atgronfa y Cylch Ti a Fi lleol.

Clwb yr Henoed15 Chwefror - cafwyd prynhawndifyr gyda Neville Hughes yn sôn ahel atgofion am emynau a chaneuono’n plentyndod. Cawsom ambell istori ynghlwm â hwy a chyfle iganu ac i chwerthin bob yn ail.

29 Chwefror - cawsom daith ddifyri Venue Cymru yn Llandudno llecawsom fwynhau sioe Joseff a’iGôt amryliw. Pawb wedi mwynhauy diwrnod allan.

14 Mawrth – Daeth Mrs BettyWilliams â nifer o greiriauhanesyddol sydd wedi bod yn eimeddiant ers blynyddoedd.Prynhawn difyr iawn o hel atgofion.

Pen-blwydd ArbennigLlongyfarchiadau i Mrs JeanWilliams, 60 Maes Bleddyn, arddathlu ei phen-blwydd yn 80mlwydd oed ar 27 Mawrth. Cariadmawr oddi wrth y plant a’r teulu igyd.

Clwb Cant PwyllgorApêl Bethesda

Eisteddfod yr UrddEryri 2012

Mis Mawrth

£40.00 Mrs Ifanwy Jones,Llandderfel (31)

£24.00 Mrs Dilys Parry,Rhiwlas (8)

£15.50 Rupert Bath, Bethesda(126)

Page 7: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 7

CAPEL CARMEL

Gwasanaethau

22 Ebrill Gweinidog 2.00 a 5.0029 Ebrill Parch. T. Roberts 2.0006 Mai Gweinidog 2.00 a 5.0013 Mai Cyfarfod Canu 2.0013 Mai Oedfa Cymorth

Cristnogol 5.0020 Mai Cymanfa Ysgolion SulBore 10.30 Pendref, BangorHwyr 5.30 Bethlehem, Talybont

Yr Ysgol Sul am 10.30 y.b.Dwylo Prysur Nos Wener 6.30

Croeso Cynnes

Cylch Ti a FiBob bore Gwener

10 – 11.30ybCanolfan Rachub a Llanllechid

Dewch am banad, sgwrs,chwarae a chân!

Ffôn: 602874

CARMEL LLANLLECHID

Te BachPnawn Llun

23 Ebrill2.30 tan 4.00 o’r gloch

Croeso Cynnes

Sky ar y SgwârMewn rhifyn diweddar ogylchgrawn Golwgymddangosodd erthygl ganTommie Collins ar Bryn Law,newyddiadurwr pêl-droed gyda’rcwmni teledu Sky Sports. Mae’nymddangos yn rheolaidd arbenwythnosau ar y sgrin ynadrodd digwyddiadau o wahanolgaeau pêl-droed gan roigwybodaeth lawn i’r gwylwyr amy digwyddiadau diweddaraf ar ymaes cicio. Mae yn gwneud ygwaith ers dros 13 o flynyddoeddbellach.

Yn yr erthygl mae’n sôn am eigysylltiadau Cymreig, ac feddywedodd Mr Law ei fod yncofio dod i Rachub ar ei wyliau atei nain a’i daid. Rhaid oeddymchwilio ymhellach!

Gyda chymorth Mr Collins acanogiad Elwyn Parry o’rWyddgrug, llwyddais i gysylltugyda Mr Law yn ei gartref ynLeeds. Roedd yntau yn ei dro ynfwy na pharod i gydweithredu.Wedi ei eni yn Lerpwl, treulioddflynyddoedd yn ardal Rhiwabonger Wrecsam, yn ddisgybl ynYsgol Rhiwabon lle’roedd Mark Hughesyn un o’i gyd-ddisgyblion. Mae yncofio dod i Rachub arwyliau pan yn yrysgol at ei nain a’idaid sef William aMary Thomas(Corbri). Roeddynt wediymddeol o’u gwaithyn Lerpwl a symud i11 FforddLlanllechid, a hwyroddodd yr enw

Y Bwthyn ar y tŷ, sydd yn dal igario’r enw o hyd. Mab yw i EnidLaw (Thomas), merch Mr a MrsThomas. Mae hi a’i gŵr bellachwedi ymgartrefu yn Llangollen.Wrth siarad fe gofiodd ei fod ynchwarae gydag un o hogia y Postar draws y ffordd i’r tŷ, sef ErylHughes (Post). Cofiai chwaraeyng ngardd gefn y Post, y caechwarae, mynd i’r siopau lleol ynenwedig i’r siop tsips ar yr allt.Cofiai grwydro ar hyd y mynyddam ambell i bnawn.

Mae ganddo gof am fynychuFfair Llan, ond nid yw’r atgof ynbleserus yn ystod un ymweliad.“Wedi mynd ar yr olwyn fawr yroeddwn, mae’n siŵr fy mod tuanaw neu ddeg oed, ond ynanffodus fe euthum yn sâl gandaflu i fyny ar yr olwyn. Wedidod adref rhoddodd nain joch ofrandi i mi, at yr iechyd fel ydywedodd nain”. Cof arall syddganddo yw am y diweddarWilliam John Evans yn adroddhanesion am yr ardal wrth y ddauohonynt.

Diolch i Bryn Law am eigydweithrediad a dymuniadaugorau iddo yn y dyfodol.

CAPEL CARMEL

Mis PrysurDyna oedd hanes mis Mawrth i blant a phobl ifanc Carmel ar DdyddGŵyl Dewi. Cynhaliwyd te bach gyda chyngerdd yn dilyn gan blantyr Ysgol Sul. Braf oedd gweld y festri’n llawn a chawsom bnawndifyr.

Diwedd y mis cynhaliodd Clwb Dwylo Prysur gyngerdd amrywiol.Roedd lluniaeth ysgafn wedi ei baratoi. Roedd elw’r ddau gyngerddyn cael ei roi i gronfa Mali Parry Owen i’w helpu wrth iddi fynd iwneud gwaith gwirfoddol yn Hondiwras. Bydd yn gweithio ymysgpobl a phlant difreintiedig iawn. Trosglwyddwyd siec am £400 gydadymuniadau gorau yr aelodau a bendith Duw yn ei gwaith.

Cyngerdd Gŵyl Ddewi

Cyngerdd Miri Mawrth gydag aelodau Clwb Dwylo Prysur a Mali(ar y dde yn y rhes flaen).

Llongyfarchiadau i Colin a Delyth Jeffreys,Llangoed, Nant Graen, ar ddod yndaid a nain am y tro cyntaf i NoaJac, mab Sioned a Huw ynAbercaseg. Pawb wedi gwirioniefo’r bychan.

DiolchDymuna Gethin Jeffreys ddiolch ogalon i bawb am ei noddi i redegras marathon Efrog Newydd ymmis Tachwedd. Gwnaed swmsylweddol o £2,000 tuag at elusen“Action for Kids”. CwblhaoddGethin y cwrs mewn 4 awr a 4munud. Camp ardderchog yn wir.Da iawn Gethin a diolch i ti.

Yn gwellaYdi, mae Mr John Glyn Jones oDan y Gadlas Isaf yn gwella ar ôlllawdriniaeth yn Ysbyty Wrecsam.Anfonwn ein cofion ato amwellhad llwyr a buan.

BraichmelynRhiannon Efans, Glanaber, Pant, Bethesda 600689

Capel Nant y Benglog (A)

08 Ebrill Pasg - Dim oedfa15 Ebrill D.R. Williams (Conwy)22 Ebrill Conwy Ellis29 Ebrill I’w gyhoeddi06 Mai Parch. Dewi Morris13 Mai Gareth Edwards

Croeso cynnes i bawb am 2.00 o’r gloch.

Nant Ffrancon

CarneddiDerfel Roberts, Ffordd Carneddi, Bethesda600965

Penblwydd PriodasLlongyfarchiadau i Alan a JeanJones, Dedwyddfa, Llanfairpwll aHywel a Meryl Edwards, Carneddi,Bryngwran ar ddathlu eu priodasruddem ar y 1af o Ebrill. Cariadmawr a dymuniadau gorau gan mam– Mari Williams, 100 Carneddi – agan y plant a’r wyrion i gyd.

LlawdriniaethDa deall bod Menna Roberts, LlysArtro yn gwella ar ôl llawdriniaethar ei chlun yn Ysbyty Gwynedd,Bangor yn ddiweddar.

Dymuna Menna a’r teulu ddiolch ibawb am bob arwydd o ewyllys da,boed yn gardiau, galwadau ffônneu’n ymweliadau tra mae’n doddros y driniaeth.

Eryl yn y cae chwarae.

Page 8: Llais Ogwan Ebrill 2012

TalybontNeville Hughes, 14 Pant, Bethesda 600853

Eglwys Maes y Groes

Ebrill22 Parchg Iorwerth Jones-Owen,

Caernarfon. 29: Gweinidog.

Mai 06: Parchg W. H. Pritchard; 13: Gweinidog; 20: Cymanfa Ganu’r Annibynwyr

ym Methlehem am 5.30;27 : Gweinidog.

Oedfaon am 2.00 oni nodir ynwahanol.

Croeso cynnes i bawb.

Capel Bethlehem,

Talybont

Ar y Sul cyntaf o’r mis, yn dilyn yGwasanaeth Teuluol, cynhaliwydbwffé yn yr Ysgoldy i ddathluGŵyl Dewi Sant. Diolch i bawb adrefnodd y wledd flasus, a’rgefnogaeth i wneud yr achlysuryn llwyddiant.

Llongyfarchiadau mawr i CerysHughes a Siôn Lloyd Jones arachlysur eu priodas ar 10 Mawrth.Merch Brian a’r diweddar JoanHughes yw Cerys, a Siôn yn fab iJac ac Elizabeth Jones o Langefni.Cynhaliwyd y gwasanaeth yn yrEglwys o dan arweiniad yParchedig John Mathews gydaGeraint Gill wrth yr organ.Cafwyd y wledd briodas yngngwesty’r Afr ym Meddgelert.Dymunwn bob hapusrwyddiddynt yn y dyfodol.

Cynhaliwyd Festri’r Pasg ar nosFawrth y 27ain o’r mis. Ail-etholwyd Dennis Wright a CatrinHobson yn wardeiniaid a BarryLill yn drysorydd. Diolch o galoniddynt am eu gwaith caled ar hydy blynyddoedd.

DiolchHoffai Laura ac Aneirin,Pontyberem, ddiolch o waelodcalon i’w holl ffrindiau yn yDyffryn a thu hwnt am eu mawrgaredigrwydd tuag atynt yn dilyngeni Sisial Maela. Maent wrthi’nddyfal yn ysgrifennu cardiaudiolch, a gobeithio na fydd hi ddimyn hir nes bydd pawb wedi clywedoddi wrthynt!

Dymuna Jean Hughes, Bryn Awel,ddiolch yn fawr i’w theulu, aelodauBwrlwm Bethlehem a phawb ynardal Dyffryn Ogwen a fu morgaredig wrthi ar ei phenblwyddarbennig.

ProfedigaethCydymdeimlwn fel ardal â theuluAmanda Williams, Carreg Boeth,Llanddaniel (gynt o 17 Dolhelyg) afu farw’n ddiweddar yn dilyngwaeledd hir. Anfonwn ein cofionat Elved a Mair, Ann, Michael aLynne a’r teulu oll yn eu colledfawr.

PriodasLlongyfarchiadau mawr i KatrinNewman, “Abbeyfield”, Talybont,a Chris Smith ar eu priodas ynddiweddar.

Llais Ogwan 8

Gerlanann a Dafydd Fôn Williams, 14/4 Stryd y Ffynnon, Gerlan 601583

Nain a ThaidLlongyfarchiadau i Wayne a TracySherlock, Ciltrefnus, ar ddod yndaid a nain am y tro cyntaf. Ganedmab bychan, Jac Wayne, i’wmerch, Jade, a’i phartner,Michael. Dymuniadau gorau i chifel teulu

CydymdeimloRydym yn cydymdeimlo gydaJackie Stephenson, Ciltrefnus, ynei phrofedigaeth o golli DerekJones, Rhes Penrhyn. Rydym,hefyd yn meddwl ar yr adeg tristhwn am fam y diweddar Derek,Mrs Joyce Jones, Maes y Garnedd,a’r teulu i gyd yn eu profedigaethfawr.

ProfedigaethCydymdeimlwn gyda Peter aDelyth Robinson a’r teulu, ac Idrisa Rhian Roberts, Ciltrefnus, yn euprofedigaeth o golli modryb, yddiweddar Mrs Myfanwy Slater,Llanfaes, Ynys Môn

MarwolaethTrist oedd clywed y newyddion amfarwolaeth Dick Sandison, Maes yGarnedd. Cyn symud i Faes yGarnedd bedair blynedd yn ôl, buDick yn byw yn Stryd y Ffynnonam ugain mlynedd. Rydym yncydymdeimlo’n fawr gyda Berwyna Nia Williams a’r teulu, aMyfanwy Owen, Stryd y Ffynnona’r teulu, yn eu profedigaeth.

I’r ysbytyTreuluiodd Betsi Lŵ, Gwernydd,gyfnod yn Ysbyty Gwynedd ynystod y mis diwethaf. Braf ywdweud ei bod bellach adref ac yngwella. Pob dymuniad am welladllwyr a buan iti Betsi.

PriodiLlongyfarchiadau i StephenRoberts, Ffordd Gerlan gynt, a

CYLCH MEiTHRiNGERLaN

Llun i Gwener9:00 - 12:30

2-4 oed

Cysylltwch â ni ar:07768405874

Cheryl Thomas,Tŷ Isa, Bethesda,ar eu priodas yn ddiweddar ynEglwys Glanogwen. Eindymuniadau gorau i’r ddauohonoch yn eich bywydpriodasol

Llwyddo mewn Prawf GyrruLlongyfarchiadau i CassieStephenson, Ciltrefnus, amlwyddo yn ei phrawf gyrru, ahynny ar y cynnig cyntaf. Pobhwyl gyda’r gyrru rwan, Cassie!

Y CabanCynhaliwyd noson Bingo WyauPasg yn y Caban yn ddiweddar.Cafwyd noson lwyddiannus ahwyliog dros ben o danarweiniad Owie Williams, a bu ibawb fwynhau eu hunain ynfawr. Hoffai’r Pwyllgor ddiolcho galon i Owie am ei waith yngalw’r rhifau ac i Joyce Jones amwerthu’r tocynnau. Diolch,hefyd, i bawb a gefnogodd ynoson, ac i’r gwahanol gwmnïauam gyfrannu’r gwobrau.

Hen nain a hen daidLlongyfarchiadau i Eurwen aDafydd Morris , Garnedd Uchaf,Ffordd Abercaseg, ar ddod ynhen nain a hen daid. Ganedmerch fach, Lili Gwenllian, iwyres Eurwen, Ceri, a’i phartner,James.

Taith GerddedHoffai Ann Williams, Stryd yFfynnon, ddiolch i bawb am euhaelioni yn ei noddi ar gyfer taithgerdded i godi arian at ApêlGerallt Jones. Cerddodd Ann oLyn Ogwen i Felin Fawr arbrynhawn braf o wanwyn achododd £300 at yr apêl. Diolchyn fawr iawn i chi i gyd am eichcefnogaeth!

Cario’r fflamLlongyfarchiadau i Mari Davies, Tŷ Dŵr, ar gael ei dewis yn un o’rrhai i gario’r fflam Olympaidd pan fydd ar ei thaith o gwmpas Prydain.Bydd Mari yn cario’r fflam ym Mhorthaethwy ar Fai 29 pan fydd ynmynd trwy Ogledd Cymru. Cafodd Mari ei henwebu gan swyddog PoblIfanc Egniol oherwydd ei gwaith fel Llysgennad Ifanc ar gyfer yGemau Olympaidd, a’i llwyddiant yn y byd hwylio.

Da iawn, ti Mari! Maehyn yn anrhydedd fawr,ac yn dâl am dy hollwaith a’th lwyddiant.Yn anffodus bydd Mariyn methu ychydig o’rgemau eu hunainoherwydd y bydd yncystadlu ymmhencampwriaethTopper y Byd yn yrIseldiroedd. Pob hwyliti yn y fan honno,hefyd Mari!

Bwrlwm BethlehemDiolch yn fawr i bawb agefnogodd Noson Goffi’rBwrlwm ar nos Fercher 14Mawrth i godi arian at EisteddfodGenedlaethol yr Urdd, Eryri 2012(Apêl Ardal Talybont). Gwnaedelw o £560.

Cymanfa Ganu Sul y BlodauY farn gyffredinol oedd bod yGymanfa flynyddol hon, a drefnirgan Bwyllgor CymdeithasTalybont a’r Cylch, yn llwyddianteto eleni. Diolchodd llywydd ynoson, Neville Hughes, iMr.Edward Morus Jones,Llandegfan (arweinydd), Mr. D.Wynn Williams, Tregarth(organydd), Parti Clwb DwyloPrysur Carmel Llanllechid (danarweiniad Mrs. Helen WynWilliams) a Chôr y Dyffryn a’uharweinydd, Mrs. MenaiWilliams am eu cyfraniadgwerthfawr i’r noson. Diolchwydhefyd i’r gynulleidfa am eucefnogaeth a’u canu da, ac i bawbam gynorthwyo gyda’rparatoadau. Gwnaed elw o £100tuag at Apêl Ardal Talybont,Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.

Cymdeithas Diogelu HenBeiriannau amaethyddol

Gogledd CymruGan fod Eisteddfod yr Urdd a’r arddangosfa flynyddolo hen beiriannau yng Nglynllifon yn gorgyffwrdd,mae’r arddangosfa eleni i’w chynnal ar 24 Mehefin.Bydd yn cynnwys crefftau gwledig, peiriannau o bobmath, ynghyd â nifer o weithgareddau eraill.

Page 9: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 9

GlasinfrynCaerhunMarred Glynn Jones2 Stryd Fawr, Glasinfryn,Bangor LL57 4UP01248 [email protected]

Sefydliad y MerchedMwynhawyd noson Cawl a Chân ary 14eg o Fawrth. Croesawyd pawbi'r wledd gan ein llywydd, MrsIngrid Farrer, a llongyfarchwyddwy o'r aelodau, sef Mrs JeanPierce a Mrs Pat Jones, ar ddathlupen-blwydd arbennig ar ddechrau'rmis.

Cafwyd pryd ardderchog wedi eibaratoi gan yr aelodau. Roedd pawbwedi cyfrannu ac roedd y cawleleni dan ofal Mrs Sarah Flynn.

Wedi'r gwledda, cawsom eindiddanu gan Mandy Barnes aLlewelyn Owen. Gitaryddionclasurol yw'r ddau a mwynhawyddarnau o fiwsig hyfryd ganddynt.Awyrgylch arbennig i ddiweddunoson lwyddiannus.

Diolch i Mair am drefnu, a diolch ibawb am gyfrannu.

LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau mawr a phobdymuniad da i Don a BarbaraChadwick, 28 Bro Infryn, syddwedi dathlu eu pen-blwydd priodasdiemwnt yn ddiweddar.

CydymdeimladAnfonwn ein cydymdeimlad atJosie O’Neil, 34 Bro Infryn, syddwedi colli ei mam yn ddiweddar.

Newyddion tristRoedd tristwch ym mhentrefGlasinfryn wrth inni glywed amfarwolaethau sydyn dau o drigoliony pentref. Bu farw Mr TonyO’Donovan, Tŷ Penrhyn, yn yrysbyty ar ôl salwch annisgwyl abyr. Anfonwn ein cofion at eiwraig, Joan, ei ferch, Nicki, a’rteulu oll.

Bu farw Geraint Griffith, neu Gerryfel yr oedd pawb yn ei adnabod, ynei gartref, Glyndŵr. Anfonwn eincydymdeimlad at ei gymar,Gwenda, ei blant Shelley, David aTammy a’r teulu oll.

EtholiadCanolfan Glasinfryn fydd yr orsafbleidleisio ar gyfer yr etholiadaullywodraeth leol ar ddydd Iau, 3Mai. Bydd y Ganolfan ar agor o7.00 y bore hyd at 10.00 yr hwyr.Cofiwch bleidleisio! Mae pleidlaispob un ohonom ni’n bwysig yn yrymdrech i warchod eingwasanaethau lleol.

Pwyllgor y GanolfanCynhaliwyd cyfarfod o BwyllgorRheoli’r Ganolfan nos Iau,Mawrth 22. Trafodwyd llawer ofaterion gan gynnwys materioncynnal a chadw, yr angen igofrestru tanc septig y Ganolfangydag Asiantaeth yr Amgylchedd,a’r Clwb Cant. Cynigiwyd hefydy syniad o gynnal sêl cist car odan do yn y Ganolfan yn ydyfodol ac fe benderfynwyd rhoisylw manwl i’r syniad yn ycyfarfod nesaf. Bydd y CyfarfodBlynyddol yn cael ei gynnal arnos Lun, 11 Mehefin, am 7.30,i’w ddilyn gan gyfarfod o’rPwyllgor.

Swydd NewyddLlongyfarchiadau a phobdymuniad da i Llinos Jones,Fferm Ty’n Ffridd, ar ei swyddnewydd yn Adran AmgylcheddCyngor Sir Powys.

Yn yr ysbytyDymuniadau gorau am adferiadbuan i Mrs Sue Lee, FfermPenhower Isaf, a gafoddddamwain ddifrifol panddisgynnodd oddi ar ei cheffyl, abu rhaid ei hebrwng i’r ysbytygan wasanaeth yr AmbiwlansAwyr, diolch amdanynt. Da ywdeall ei bod yn gwneud cynnyddda yn Ysbyty Gwynedd.

Mae Mrs Elsi Prytherch, Erwau’rGwynt, Waen Wen, yn gwellawedi cael dwy ben-glin newyddyn Ysbyty Gwynedd a MissMargaret Griffith, 21 Caerhun,hithau wedi cael clun newydd.Gwellhad buan i chwi i gyd.Anfonwn ein cofion hefyd atEifion Jones, Bro Eryri, WaenWen, sydd yn derbyn triniaeth ynYsbyty Eryri.

CydymdeimladCydymdeimlwn â Mr a MrsDavid Farrar, Penhower UchafNewydd, ar farwolaeth mamDavid, sef Mrs Kath Farrar oeddyn 96 oed.

BingoCynhelir y Bingo nesaf ar 20Ebrill yn y Ganolfan am 7.30yh,yr elw yn mynd tuag at Elusen“Sunny Day”, sydd yn casgluarian i brynu cadair bwrpasol iferch ifanc o’r ardal. Gwnaed elwo £148 yn y Bingo a gynhaliwydar 9 Mawrth tuag at GlwbEpilepsi Ysbyty Gwynedd.Diolch yn fawr iawn i bawb ambob cyfraniad a chefnogaeth.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethafrhannwyd y £811.50 a godwyd yny nosweithiau Bingo i’relusennau canlynol :-

Tŷ Gobaith, Cronfa Elusen PlantLleol Ward Minffordd YsbytyGwynedd, Ambiwlans Awyr,RNLI, Ysgol Pendalar, CronfaNyrsys yn y Gymuned,Ymddiriedolaeth Llid yrYmennydd, Uned Gofal Arbennigy Babanod Ysbyty Gwynedd.Diolch yn fawr iawn !

Clwb Cant y GanolfanMawrth

£20 - 20 - Peter Banham£10 - 7 - Marie Langham£ 5 - 6 - Liz Bestwick£ 5 - 66 - Mrs Shaklady

LlandygáiEthel Davies, Pennard,

Llandygái 353886

Eglwys Sant TegaiGwaeleddAnfonwn ein cofion anwylaf at MrsJane Couch, Mrs Beryl Edwards,Mr Gwynne Edwards a HarryGross a dymunwn adferiad buan ichi i gyd.

LlongyfarchiadauCarem longyfarch y ParchedigJohn Matthews ar ei wneud ynDdeon Gwlad dros dro.Fore Sul, 18 Mawrth yngngwasanaeth Sul y Fam roedd Johndruan yn cymryd gwasanaeth ycymun ond roedd yn chwarae’rorgan hefyd. Roedd damwain wedidigwydd ac fe gaewyd y lôn acoherwydd hynny ni allai Geraint yrorganydd fod yn bresennol.

Penblwydd Llongyfarchiadau i Hazel fydd yndathlu ei phenblwydd ar 17 Ebrill –gobeithio y cewch ddiwrnod hapusHazel.

Tynnu lluniauBu ffotograffydd proffesiynol yntynnu lluniau yn Neuadd Talgai arfore Sadwrn 17 Mawrth, Ar werthhefyd roedd lluniau a wnaed gan ydiweddar Dr Allan Probert.Gwnaed elw o £117 i gronfaatgyweirio’r eglwys. Diolchwn igwmni ffotograffeg Leonardo’s atheulu Worthing ac i bawb agefnogodd yr achlysur tynnulluniau.

Y croeshoeliad (Stainer)Bu canmoliaeth fawr i’r noson ynSant Tegai ar nos Sul 25 Mawrth.Roedd y côr ‘Cantabile’ yn wych acroedd nifer dda yn bresennol ar ynoson. Cafwyd lluniaeth ynNeuadd Talgai ar derfyn y noson –diolch i aelodau’r côr ac ynarbennig i Linda Irons. Diolchhefyd i’r merched fu’n gwneud ybwyd ac i’r rhai fu’n gweini yn ygegin ac i Nerys am drefnu popeth.

DiolchOherwydd fod 2012 yn flwyddynnaid roedd gweithwyr yr

CydymdeimladGyda thristwch mawr y clywsomam farwolaeth Mrs Mair EnaWilliams, Walnut Cottage, PentreLlandygai gynt. Bu farw MrsWilliams yng nghartref ‘Conventof Mercy’, Bae Colwyn ar 27Chwefror. Roedd pawb yn eihadnabod fel Mrs Thomas, dynestrin gwallt ac roedd hi’n wraighwyliog dros ben a’i thŷ fel pinmewn papur bob amser. Cydymdeimlwn â Merfyn ei mabac â’i chwaer a’r teulu i gyd.Claddwyd ei llwch ym mynwentSant Tegai gyda’r Parch. JohnMatthews yn gwasanaethu.

Yn dawel yn ei gartref, Tegfan, 10 Vicarage Gardens, Llandudnoar 9 Mawrth, bu farw Owen WynOwen, (Tregarth gynt) yn 82mlwydd oed. Cofiwn Wyn feldarllenydd lleyg, fel ei dad MrIdwal Owen o’i flaen. Dynannwyl, boneddigaidd a thaweloedd Wyn bob amser ac un fellyydoedd yn Ysgol y Sir (yr hen‘County School’ fel y cyfeirid ati )flynyddoedd maith yn ôl.Cydymdeimlwn â Linda ei wraig,Carol ei ferch a’r teulu cyfan yneu galar.

GenedigaethLlongyfarchiadau i David aBethan Hughes, Bangor arenedigaeth eu mab bychan, Rhys,a aned ar 9 Mawrth. Mae’n siŵrbod Lowri wrth ei bodd yn caelbrawd bach i ofalu amdano. MaeRhys yn ŵyr i’r ddiweddar DilysJones, Bryn, Llandygai ac i John aMargaret Hughes, 8 CilgantAlotan, Bangor. Bendith Duw ar yteulu i gyd.

GwaeleddAnfonwn ein dymuniadau da atgleifion o’r Bryn ac o’r pentref.Mae’r rhain yn cynnwys Ernie aNerys Coleman, Ieuan a CeinwenEvans, Jim a Beryl Hughes,Olwen Lytham, Gwen Morsley,Cassie Tindall, Betty Williams,Dorothy Proudley Williams a JoanWillis. Edrychwn ymlaen at eichgweld yn codi allan fel mae’rtywydd braf yn dod yn nes.

PenblwyddiLlongyfarchiadau i Pauline,Muriel a Mary fydd yn dathlu eupenblwyddi ym Mis Ebrill ac iEdmund fydd yn cael eibenblwydd ym Mis Mai. Gobeithio y cewch amser hapusond peidiwch â gwledda’normodol.

Llun o’r EglwysPleser o’r mwyaf oedd gweld lluno Eglwys Sant Tegai ym MhapurMenai ym mis Chwefror eleni.Diolch o galon i Mr Ray Tindall,Tŷ Mawr am roi llun o’r eglwys iGymdeithas Morrisiaid Môn aoedd yn ymweld â Llandygai ar

29 Hydref 2011. Rydym ar y mapunwaith yn rhagor.

BingoCynhaliwyd bingo yn neuadd Talgaiar nos Fawrth, 20 Mawrth. Roeddyn noson arbennig i Robin gan fodPauline a Raymond wedi paratoirhyw barti bach yn ddiarwybodiddo – roedd ei benblwydd ydiwrnod hwnnw. Diolch o galon iPauline a Raymond am drefnupopeth ac i’r merched am helpu ynyr egwyl.

Sefydliad y MerchedCroesawodd ein llywydd, AnneHughes, bawb i gyfarfod misMawrth ar y 26ain. Cafwyd sawlymddiheuriad am absenoldeb.Darllenodd Sheila lythyr yffederasiwn a nodwyd ei gynnwys.Y Dyn Cig o Lanrug oedd siaradwry noson a chawsom noson arbennigyn ei gwmni. Daeth â thamaidenfawr o gig eidion a dangosoddIwan, ei fab, sut oedd yn ei dorri ynwahanol dameidiau ar gyfer eucoginio. Dangosodd Mr Jones dwrciwedi tynnu pob asgwrn ohono, a’istwffio ar gyfer ei goginio ond hwylfawr y noson oedd gwahodd rhai o’raelodau i glymu selsig

Ymddirieolaeth Genedlaethol yngNghastell Penrhyn yn caeldiwrnod ychwanegol o wyliau ar29 Chwefror. Roeddent wedigwirfoddoli i weithio yn ygymuned y diwrnod hwnnw.Daethant i lanhau’r eglwys abuont yn brysur iawn drwy’rdydd. Diolch o galon i RichardPennington a’i dîm – roedd bobman yn lân iawn a’r pryfed copwedi hen ddiflannu.

Page 10: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 10

Pentiranwen Thomas,Min yr afon11 Rhydygroes, Pentir 01248 355686

Eglwys Sant Cedol

John Huw Evans, 30 Bro Rhiwen, Rhiwlas352835

RhiwlasCawl a ChânNos Wener 16 Mawrth,cynhaliwyd noson o Gawl aChân yn yr Eglwys. Diddanwydy gynulleidfa gan Gôr Orianagyda threfniadau amrywiol oalawon gwerin Cymreig agemynau traddodiadol. Diolchwni Lorna Todd a Chôr Oriana amnoson wych, a diolch i bawb ameu cefnogaeth.

GarddwestCynhelir yr arddwest eleni am2.00 o’r gloch brynhawn dyddSadwrn, 26 Mai yn y Ficerdy,Pentir. Bydd cystadleuaethagored, sef ffotograffeg ar ypwnc Byd Natur, a bydd ygystadlaeaeth yn cael eibeirniadu ar y diwrnod. Byddamrywiaeth o stondinau a rafflyno ar y diwrnod. Croeso cynnesi bawb.

CyfarchionAnfonwn ein cofion y mis hwn iddwy o'n cyfeillion sydd wedicael llawdriniaeth yn YsbytyGwynedd, sef Alison Roberts,Rhiwlas a Margaret Griffith,Caerhun. Brysiwch wella eichdwy.

CywiriadYn rhifyn Mis Mawrth o'r Llaiscafwyd llun o froga.Ymddiheurwn am y camgymeriad.Nid llun gan Wyn James mohonoond llun a gyfranwyd yn garediggan Mr Andy Williams. Hoffemddiolch yn fawr iawn i Andy am eihaelioni.

LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Menai o BrynMeddyg, Pentir ar basio Gradd 4clarinet a Gradd 5 sacsoffon.

Llwyddiant Band JásLlongyfarchiadau i Menai, BrynMeddyg, Pentir a Wesyn, Carreg yNant Pentir am fod yn rhan o fandjas hynod lwyddianus YsgolTryfan Bangor a fu'n fuddugol ynyr Eisteddfod Sir yn ddiweddar.Pob hwyl i chwi oll ynNglynllifon.

Eisteddfod yr UrddFel rhan o apêl Pentir a Rhiwlas igodi arian tuag at Eisteddfod yrUrdd, Eryri 2012 bydd GlainDafydd, Carreg Nant, yn eindiddori yn Eglwys Sant Cedol am7.00 yr hwyr nos Wener, 20 Ebrill.Mae Glain fel y gwyddom ynenillydd gwobr Bryn Terfelynghyd â nifer fawr o wobraueraill. Ar hyn o bryd mae Glain ynastudio yn Ecole de Musique deParis, ac yn cael ei thiwtora gan ydelynores enwog Isabelle Perrin.

Clwb 100 - Mis Mawrth

1af Rhif 12 William Williams, Llanfairfechan2ail Rhif 46 David E Williams, Glasinfryn3ydd Rhif 22 Ann Williams, Rhiwlas

Geni.Ganwyd Owen Benjamin (Ben) iDeborah a Steffan Job, 34 BroRhiwen ar 22 Mawrth gangyfaethogi bywyd y ddau. Mae Benyn ŵyr derbyniol i Dafydd aGwenan Job Bangor ac i Malcom aShirley Towers, Abertawe.Dymunwn bob bendith iddynt felteulu.

Yn Llydaw ar 2 Ebrill ganwydbachgen i Lleuwen Steffan a’iphartner. Bydd Steve Eaves a’rteulu, Bryn Llys, yn sicr o fod ynedrych ymlaen i weld Caradog a’irieni adref yn Rhiwlas yn ystod ymisoedd nesaf. Anfonwn ein cofiona’n dymuniadau gorau atynt ganddymuno iechyd a hapusrwyddiddynt i’r dyfodol.

CydymdeimloDymunwn fynegi cydymdeimladgyda Arthur a Glenys Clarke 24(a)Caeau Gleision. Bu farw mamArthur oedd yn byw yn Nebo gerPen y groes.

ColledYn ystod mis Mawrth collwyd daua fagwyd yn y pentref. Dau oedd ynparhau â meddwl uchel iawn oRhiwlas.

Ar 9 Mawrth bu farw Hugh LewisWilliams o Langefni yn 88 mlwyddoed. Roedd Hugh ymhlith yr olaf ifyw ym Mhenyffridd gan symud ynbedair ar ddeg oed gyda’i rieniFfowc ac Alice Williams ynghyd âJohn Richard a Stanley i 5 BroRhiwen.

Pan yn cyfarfod â Hugh byddai’rsgwrs yn ddifeth yn troi i sôn am eiatgofion o’i blentyndod yn ypentref ac yn enwedig y direidi awnai ef a’i ffrindiau ym Mhen yFfridd.

Ei fagwraeth yn Rhiwlas fyddaiprif destun sgwrs WilliamMeurig Williams o Fangorhefyd. Bu farw Meurig ar 20Mawrth yn 89 mlwydd oed.Cafodd Meurig ei eni a’i faguyng Nghaeau Gleision, oedd yndyddyn sylweddol allwyddiannus ar y pryd.

Diddorol fyddai gwrando arnoyn sôn am ei blentyndod a’iatgofion am ei blentyndod ynRhiwlas ac yng Nghapel Pisgah.Fe’i clywais yn adrodd pennaupregethau o’i gof sawl tro ac fely ‘capel bach’ y soniai Meurigam Bisgah bob amser.

Braint fu cael adnabod y ddauohonynt a dymunwngydymdeimlo â theulu’r ddau yneu profedigaeth.

Dymunio gwellhadCafodd Richard Owen (Evan) 33Bro Rhiwen lawdriniaeth ddwysyn Ysbyty Gwynedd ddechrauMawrth. Mae’n bleser adrodd eifod yn gwella a’i fod i’w weld ogwmpas unwaith yn rhagor ac yrun mor barod ei sgwrs.

ProfedigaethYn dilyn colli Huw LewisWilliams a Meurig Williams,daeth y newydd am farw un arallo’r un genhedlaeth sef GoronwyOwen, yr ieuengaf o saithplentyn John a Jane Owen, BrynTirion, Rhiwlas. Roedd yn 91oed.

Treuliodd Goronwy y rhanhelaethaf o’i oes fel athro mewngwahanol ysgolion yng ngogleddLloegr. Symudodd i gylchMilton Keynes pan yn ymddeol.Cydymdeimlwn yn gywir gydaDilys Parry, Bryn Tirion a arferaigadw cysylltiad agos gyda’ihewythr a’i deulu.

Cydymdeimlwn hefyd gydachysylltiadau eraill ei deulu ynyr ardal.

Merched y Wawr, Cangen Rhiwlas.Cyfarfu’r gangen Nos Fawrth, 13 Mawrth a chroesawyd ni i’rcyfarfod gan ein llywydd, Ann Roberts. Anfonwyd ein cofion at einhysgrifenyddes, Heulwen Evans sydd heb fod yn rhy dda yn ystodyr wythnosau diwethaf

Er ei bod braidd yn ddiweddar, hwn oedd ein cyfarfod i ddathluGŵyl Ddewi a phwy’n well nag Angharad Tomos i roi sgwrs inni.Wrth ei chyflwyno cyfeiriodd Ann at y llu llyfrau i blant acoedolion a gyhoeddwyd ganddi. Yn ogystal mae gan Angharadgolofn wythnosol yn y Daily Post Cymraeg ac yn sicr mae’rdarllenwyr selog yn ymwybodol o’i hoffter o deithio, a dyna oeddtestun ei sgwrs.

Cawsom dipyn o’i hanes pan yn blentyn yn crwydro yma a thrawyn y garafan gyda’i chwiorydd a’i rhieni. Bu troeon trwstan achawsom gynghorion ar beth i beidio’i wneud pan ar wyliau. Bu’raelodau hefyd yn sôn am brofiadau a helyntion a gawsant hwythautra ar wyliau.

Roedd pawb o’r farn inni gael noson gartrefol, hwyliog a hynod oddiddorol. Diolchwyd yn swyddogol gan Iona a diolch hefyd iDilys ac Einir am y teisennau cri a’r bara brith.

Llongyfarchiadau i Cedol Dafydd am ennill yr Unawd Piano dan 12 oedyn Eisteddfod Sir yr Urdd ac ar ddod yn ail yn yr Unawd Pres. Hefyd iMarteg Dafydd am ennill yr Unawd Telyn dan 12 oed. Mi fydd y ddau yn cystadlu yn y Genedlaethol fis Mehefin yngNglynllifon a phob hwyl iddyn nhw yno. Bydd Glain Dafydd (telyn) yncynnal cyngerdd yn Eglwys Sant Cedol ar Ebrill 20fed, 7:00yh, fel rhan oapêl Pwyllgor yr Urdd Pentir a Rhiwlas

Llongyfarchiadau

Page 11: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 11

TregarthGwenda Davies, Cae Glas, 8 Tal y Cae, Tregarth 601062

Olwen Hills (anti Olwen), 4 Bro Syr Ifor, Tregarth 600192

CAPEL SHILOH

GwasanaethauYr Ysgol Sul am 10.30 y bore Y Gwasanaethau eraill am 5.30

Ebrill 15 Richard Lloyd Jones, Bethel22 Trefninat Lleol29 R.J.H. Griffiths [Machraeth]

Mai 06 Parch. Gwynfor Williams 13 10.30 Oedfa Deulu20 Trefniant Lleol

Cynhaliwyd Oedfa Deulu ynShiloh ar fore Sul, 18 Mawrthyng ngofal plant a ieuenctid yrYsgol Sul. Cafwyd cwmni MrGareth Roberts o Fangor addaeth i roi sgwrs ar ‘Gyfeillion.’

Clwb 100 Canolfan Tregarth

Mis Mawrth41 Goronwy Roberts £1523 Gwenda Davies £1040 Sulwen Roberts £ 5

Clwb Cant Y GelliMis Chwefror

£20 40 Owen T Jones £10 31 Parchedig Lynne Perry £10 42 Keith Irons £ 5 110 Olive Davies

Mis Mawrth£20 20 Mrs Mair Owen£10 10 Chris Perry£10 15 Pamela Smith £ 5 09 Margaret Pritchard

EGLWYS Y SANTES FAIR,Tregarth

Ciniawa GarawysDiolch yn fawr iwan i’r mercheda fu wrthi’n brysur yn darparucinio yn yr eglwys ar ddydd Iauyn ystod y Garawys, hefyd ibawb a gefnogodd y ciniawa athroi mewn i gymdeithasu.

Te GwanwynCynhelir Te Gwanwyn yngNghanolfan Tregarth ar 1 Mai o2.00 - 4.00 yp. Bydd y stondinauarferol yno, yn ogystal â raffl.

CydymdeimladAr 9 Mawrth yn dawel yn eigartref, 10 Vicarage Gardens,Llandudno, bu farw Owen WynOwen yn 82 oed. Yn athro wrthei alwedigaeth, bu’n DdarllenwrLleyg yn Nhregarth ac eglwysi’rardal rai blynyddoedd yn ôl. Bugwasanaeth yn Eglwys y Gelli ar15 Mawrth ac yna yn AmlosgfaBangor.

Cydymdeimlwn â’i wraig Linda,ei ferch Carol a’i gŵr Dylan, a’iŵyr Morgan Siôn a hefyd eichwaer yng nghyfraith MissNesta Hughes

GwellhadCroesawn Mrs Myra Jones, ErwFaen yn ôl i’r eglwys ar ôl eianhwylder diweddar.

DathluLlongyfarchiadau i Carys a DavidO’Connor, Godre’r Parc, Sling, addathlodd eu priodas ruddem arFawrth 17. Gobeithio i chwifwynhau’r diwrnod.

ProfedigaethCydymdeimlwn gyda amryw odeuluoedd a gollodd rai annwyl ynystod yr wythnosau diwethaf.Byddwn yn meddwl amdanoch i gydyn ystod y cyfnod trist hwn yn eichbywyd.

Bu farw Bryan Llewelyn Williams,22 Tal y Cae yn Ysbyty Gwynedd acyntau’n 75 mlwydd oed. Roedd ynbriod â Judith ac yn ‘Pops’ i Hannaha’i phriod Stephen. Yn enedigol oardal Llanrwst by Bryan yn gynReolwr Banc gyda’r Midland/HSBC.Bu ei angladd yn Eglwys y SantesFair, Biwmares ar Fawrth 16.

Ar yr 8 o Fawrth bu farw Elvris PriceJones, 27 Bro Syr Ifor, Tregarth yn80 mlwydd oed. Priod y diweddarStanley a mam Margaret ac Ian,Dwynwen a Keith, Rhian a Tegryd,Menna a Frank, Dilwyn a Jan, Dylana Claire ac yn Nain a Hen-Nain.Roedd hefyd yn chwaer i Dafydd,Hannah Mer, Arnold, Stella aGwynedd. Cynhaliwyd yr angladdyng Nghapel Shiloh, Tregarth arFawrth 14 a rhoddwyd hi i orffwysym Mynwent y Gelli.

Merched y Wawr,Cangen Tregarth

Jên Temple Morris a Iona RhysCooke oedd yn gyfrifol am drefnuNoson Merched y Wawr cangenTregarth, Nos Lun, 2 Ebrill ynFestri Capel Shiloh. Y gŵr gwâddoedd Chris Jones fu’n sôn am eifusnes tyfu a gwerthu llysiau , sef‘Tatws Bryn’. Yn Llanllechid maeei fferm, sef Bryn Hafod-y-wern,ac yno mae’n tyfu dros hanner canto amrywiol lysiau. Cafodd ei dad,y diweddar Ken Bryn lawer oddylanwad ar y mab a gyda’rcynghorion gwerthfawr adderbyniodd ganddo mae ganChris fusnes arbennig ollwyddiannus a llewyrchus. Nid ynunig mae’n gwneud y gwaith caledo blannu a thrin yr hadau a’rllysiau ond hefyd, bob dydd Iaumae ganddo stondin ym MarchnadLlangefni ac wrth gwrs mae hefydyn gwerthu’r cynnyrch ymMarchnad Ffermwyr Bethesda bobmis. Gyda’r nos ar Nos Iau caiffgyfle i alw mewn rhannau oFangor, Talybont, Tregarth,Brynrefail , Rhiwlas a MynyddLlandygai i werthu’r llysiau ac ymMethesda ar Ddydd Gwener.

Mae’r busnes wedi ehangu’n arwyn ystod y blynyddoedd diwethafac wedi cyrraedd mor bell aMarchnad Dolgellau ar y Sul.Diolchwyd i Chris am roi nosonarbennig o ddifyr a chafodd pawbgyfle i flasu rhai o lysiau fferm yBryn wedi i bob aelod gael pecyn ifynd adre. Dylem i gyd fod ynhynod o ddiolchgar am ygwasanaeth hwn a cheisio eigefnogi hyd eithaf ein gallu. Maecymaint o bwyslais y dyddiau ymaar fwyta’n iach ac ar fwytabwydydd sydd wedi eu tyfu’n lleol.

Mwynhawyd paned i ddiweddu’rnoson, a baratowyd gan AngharadWilliams ac Olwen Jones. Enillyddy gystadleuaeth gwaith llaw oeddBeryl Hughes, Meini Gleision.

Bydd y gangen yn cyfarfod nesafar 7 Mai pan ddaw J. RichardJones, Llangefni i siarad ar y testun’Y Bardd Cocos.’

Croeso cynnes iawn i Festri CapelShiloh am 7.00 o’r gloch.

Pwyllgor Apêl Rhiwlas a Phentir

Noson yng nghwmni

Glain Dafydd Enillydd Gwobr Bryn Terfel

2011

Nos Wener 20 Ebrill7.00 pm

Eglwys Sant Cedol Pentir

Tocynnau £5.00, £3.00 i blant

Am docynnau ffoniwch

Hefin 01248 352890

Cynrig 01248 601318

Neu ar y drws ar y noson

Elw tuag at EisteddfodGenedlaethol yr Urdd, Eryri

2012

Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Ivor ac Iola Hughes, 107 CaeGlas. Dathlodd y ddau hanner can mlynedd o fywyd priodasol hapus achytûn ar 10 Mawrth. Prin y gellir meddwl am garedicach dau nag Ivorac Iola na dau mor barod eu cymwynas.

Dathlu Priodas Aur.

Yn Ysbyty Gwynedd ar Fawrth 9yng nghwmni ei deulu bu farwHugh Lewis Williams, 5 Perth yPaen, Llangefni yn 88 oed. Roeddyn briod â Megan ac yn llysdad iBryn a Patricia ac yn ffrind agos iRhian a Ieuan, Samantha,Timothy a Russel ac yn frawd iJohn. Bu Hugh yn byw am 50 oflynyddoedd yn 11 Maes OgwenTregarth a chafodd ei gladdu ymmynwent Eglwys y Gelli arFawrth 16.

Yn dawel yng Nghartref MaesOgwen, Bethesda, gynt o Ty’nLlidiart, Sling, bu farw EllenMary Owens a hithau yn 97mlwydd oed. Roedd yn briodannwyl i’r diweddar GeorgeOwens ac yn fam gariadus iGeorgie a’i briod Mair ac yn Naini Arwel, Gareth a’i briod Meinira Siân ac yn Nain a Hen-nainarbennig. Cynhaliwyd ygwasanaeth angladdol ynAmlosgfa Bangor ar Fawrth 21.

Dymuna George a Mai Owen a'rteulu ddiolch yn fawr iberthnasau, ffrindiau achymodogion am bob arwydd ogydymdeimlad a ddangoswydtuag atynt yn eu profedigaethddiweddar o’i cholli. Diolch amy rhoddion tuag at Gronfamwynderau Plas OgwenBethesda, ac i'r trefnwr angladdauGareth Williams.

Gair o ddiolchDymuna Bess a Fred Buckley,Maes Ogwen ddiolch o galon i’rteulu, ffrindiau a chymdogion ambob arwydd o gydymdeimlad addangoswyd tuag atynt yn euprofedigaeth yn ddiweddar o golliannwyl frawd sef Huw ParryJones, Dolgarrog (MynyddLlandygai gynt).

Page 12: Llais Ogwan Ebrill 2012

NEuaDD GOFFaMYNYDD LLaNDYGai

BORE COFFiSadwrn, 21 Ebrill 2012

10.30 – 12.00

Elw tuag at Apêl Tregarth aMynydd Llandygai

Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012

Eglwys y Santes ann a’r Santes Fair

Ebrill 15: 9.45 Boreol Weddi

Ebrill 22: 9.45 Cymun Bendigaid

Ebrill 29: 10.00 Cymun Teuluol yn Eglwys

Crist, Glanogwen. (Yr unig wasanaeth yn y

plwyf y Sul Hwn)

Mai 06: 9.45 Gwasanaeth Teuluol.

Mai 13: 9.45 Cymun Teuluol

Mai 20: 9.45 Boreol Weddi.

Carem ddiolch i bawb a gefnogodd y "FfairBasg" ddiwedd Ebrill. Enillwyd y BocsFfrwythau gan Mrs. Barbara Roberts,Llwybr-main.

Trist oedd clywed fore Sul na fydd y Ficer,y Parchedig Nia Williams, ynein gwasanaethu yn y Plwyf hwn ar ôldiwedd mis Mai. Diolchwn iddi amei holl waith dros y pedair blyneddddiwethaf a dymunwn yn dda iddi yn eiswydd newydd yn y Ddeoniaeth.

Cofiwn am bawb sydd yn sâl ar hyn o brydac anfonwn ein cofion cywirafatoch i gyd.

Llais Ogwan 12

Mynydd

LlandygáiTheta Owen. Gwêl y Môr, Mynydd Llandygai. 600744

Pen-blwyddMae Lynda Davies, 7 Arafon yn dathlu eiphen-blwydd yn 40 ar 20 Ebrill.Dymuniadau gorau iddi gan Leia, Lois,Lauren, Mam a Dad, Sheila, Max, Dion,Siôn, Llion, Kevin, Nerys a Llŷr.

CydymdeimladCydymdeimlwn â theulu Mr Huw Parry,Dolgarrog, ei chwaer Bessie yn Nhregartha’r teulu i gyd yma ym Mynydd. Byddcolled fawr ar ei ôl.

DiolchDymuna Megan a Dei Parry ddiolch ogalon i ffrindiau a’r teulu am y blodau, yranrhegion a’r cardiau ar achlysur dathlueu Priodas Ddiemwnt (60 o flynyddoedd).

Mae Dei yn diolch hefyd am bobcaredigrwydd a galwadau ffôn ac ati ar ôlcael damwain a thorri ei fraich. Diolch ynfawr.

Gŵyl y MynyddCadwch y diwrnod yn rhydd. Bydd Gŵyly Mynydd ar 4 Mehefin, gerddi ar agor,stondinau a throi pren. Bydd yr eglwys aragor gyda lluniaeth a stondinau. Dewch ifwynhau byddwn yn falch o’ch gweld.

DamwainAnfonwn ein cofion at Iwan Morris agafodd ddamwain wrth chwarae pêl-droed. Torrodd ei goes yn ddrwg iawn ondgobeithio y caiff wellhad buan.

Gair o ddiolchDymuna Eilir, Tony, Linda, Kevin a’uteuluoedd ddiolch am bob arwydd ogydymdeimlad a dderbyniwyd yn ystod euprofedigaeth o golli gŵr, tad a thaidannwyl sef Huw Parry Jones, Dolgarrog,(Mynydd Llandygai gynt). Mae’r teulu ynddyledus am haelioni pawb wrth iddyntdderbyn £1,200 tuag at yr hosbis ynLlandudno. Diolch i’r Parch. Dewi T.Morris am ei wasanaeth urddasol atheimladwy, i Mr Wyn Williams am eiwasanaeth ar yr organ ac i Stephen Jonesyr ymgymerwr am ei drefniadau trylwyr acharedig.

CaFFi SERENBETHESDa

Ffon: 01248 600661

Oriau agorLlun i Gwener: 8.00 tan 4.00Dydd Sadwrn: 8.00 tan 1.00

Pryd arbennig (Special) bob dyddCinio rhost bob dydd Gwener

Bwyd i’w fwyta allan

Croeso cynnes gan Sue a’r staff

allech chi fod yn Samariad?Hoffai’r Samariaid ym Mangor eich gwahodd i’r

Diwrnod Agored a gynhelir yng Nghanolfan y Samariaid, 5A Llys Onnen, Parc Menai.Dydd Sadwrn 17eg Mawrth

Rhwng 10am a 3pm

Am ragor o fanylion e-bostiwch [email protected] neu ffonio 01248 674985 rhwng 3pm a 5pm (Llun-Sadwrn)

Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod

CorbyBu’r côr ar daith i dref Corby ynSwydd Northampton yn ystodpenwythnos olaf Mis Mawrth ahynny ar wahoddiad côr meibion ydref honno. Cynhaliwyd y cyngerddmewn neuadd ar gyrion y dref adaeth nifer sylweddol o’r trigolionlleol allan i gefnogi’r digwyddiad.Bu’r côr yn cydganu rhai darnaugyda’r côr lleol a rhoddwydderbyniad brwd i raglen Côr yPenrhyn. Bydd Côr Meibion Corbyyn dod i Landudno i rannu llwyfangyda ni yn ystod y flwyddyn nesaf.Edrychwn ymlaen at gael eucyfarfod unwaith eto.

Cyngerdd yn y Feniw, LlandudnoNos Sul 1 Ebrill roedd y côr yn canumewn cyngerdd elusennol yn YFeniw yn Llandudno. Perfformiad arfyr rybudd oedd hwn ond llwyddoddy côr i wneud enw da iddo’i hun arwaethaf y ffaith bod nifer o’r aelodauyn absennol oherwydd gwaeledd agalwadau eraill.

Newid lle ymarferAr ôl blynyddoedd o gyfarfod ynYsgol Penybryn i ymarfer arnosweithiau Llun mae’r côr wedipenderfynu symud lleoliad yrymarferion i Glwb Criced a BowlioBethesda. Nid yw’r amodau ynYsgol Penybryn bellach yn cwrdd aganghenion y côr gan fod rhaid caelhyblygrwydd ynghylch hyd yrymarferion ac mae’r pwyllgor cerdda’r arweinydd yn teimlo bod canumewn lle gydag awyrgylch acwstigllai ffafriol yn mynd i fod o help iddatblygiad lleisiol a seinyddol y côr.Bydd hyn yn golygu bod dwygymdeithas gymunedol yn y fro yngallu manteisio ar adnoddau eigilydd a thrwy hynny yn mynd i fod ogymorth iddyn nhw oroesi.

Côr Meibion y Penrhyn

Page 13: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 13

Hywel WilliamsAelod SeneddolEtholaeth Arfon

CYMORTHFEYDDOs oes gennych fater yr hoffech eidrafod gyda’ch AS mewn cymhorthfa,yna cysylltwch af ef yn ei swyddfayng Nghaernarfon neu ym Mangor:

Swyddfa Etholaeth, 70 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NR (01248) 372 948

Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell, Caernarfon, LL55 1SE (01286) 672 076

[email protected]

CYMORTHFEYDDOs oes gennych fater yr hoffech ei

drafod gyda’ch AC mewn cymhorthfa,

yna cysylltwch ag o yn ei swyddfa ym

Mangor neu yng Nghaernarfon

alun Ffred JonesAelod CynulliadEtholaeth Arfon

Swyddfa Etholaeth, 70 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NR (01248) 372 948

Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell, Caernarfon, LL55 1SE (01286) 672 076

[email protected]

A - BCapel yr Achub (Rachub) (MC). Caewydym 1816 ac fe’i dymchwelwyd ym 1838. Amana (Mynydd Llandygái) (A). Agorwydym 1846, helaethwyd ym 1853 ac eto ym1868. Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yn yCapel ar Fedi 26 2004. Dymchwelwyd yradeilad tua 2006 a bellach saif tri thŷ ar ysafle. Parheir i gynnal gwasanaethauunwaith y mis yn Eglwys St Ann a St Mair,Mynydd Llandygái.Bethania (Bethesda) (A). Agorwyd ym1885/86. Deil yn agored.Bethel (Rachub) (B). Agorwyd ym 1885.Deil yn agored.Bethel (Ty’n y Maes) (MC). Codwyd ym1843 (er i ddyddiad arall, sef 1838, gael eigrybwyll wrthyf). Ni wn ddyddiad ei gauond mae’n stiwdio i’r arlunydd DavidWoodford ers blynyddoedd bellach. Capel Bethesda (A). Codwyd ym 1820,ailgodwyd ym 1828 a chredaf iddo gael eiweddnewid, onid ei drydyddgodi, tua 1873.Daeth yr Achos i ben ym 1988 a bu’r adeiladyn wag nes ei droi’n fflatiau ymhen ychydigflynyddoedd wedyn. Enwyd y fflatiau’n‘Arafa Don’ ar ôl un o donau R. S. Hughes,y cyfansoddwr adnabyddus a fu’n organyddy capel am rai blynyddoedd.Bethlehem (Tal-y-bont) (A). Agorwyd ym1825 ac ailgodwyd ym 1860. Deil yn agored.Bethmaaca (Glasinfryn) (A). Agorwyd ym1836, ailgodwyd ym 1865 athrydyddgodwyd ym 1898.Bryn-teg (Bethesda) (MC). Agorwyd ym1864, helaethwyd yn 1878. Caewyd ym1988 a throwyd yr adeilad yn dŷ (neu’nfflatiau?)Byddin yr Iachawdwriaeth. Dechreuwydyr Achos ym 1888. Ni wn pryd y peidiodd â

chael ei ddefnyddio gan y Fyddin (a byddwnyn falch o gael unrhyw wybodaeth ynghylchhynny) ond ‘Yr Hen Neuadd’ (ac nid‘Salvation Army’) sydd ar frig yr adeilad ersrhai blynyddoedd. Credaf mai rhyw sefyliado Loegr sy’n defnyddio’r adeilad y dyddiauhyn.

C - CHCae Gwigin (Tal-y-bont) (A). Agorwyd tua1874-5. Rhagflaenydd Capel Bethlehem.Caechwarel. Capel a berthynai i’rMethodistiaid Calfinaidd. Nid oes gennyfragor o wybodaeth amdano.Caersalem (Bethesda) (B). Dechreuwyd yrAchos yno tua 1834. Ddechrau’r 1850au,cynhaliwyd gwasanaethau yno gan Saint yDyddiau Diwethaf (y Mormoniaid). Yn 1856,symudodd y Bedyddwyr oddi yno i hen SiopTŷ Mawr ac yna i Gapel y Tabernacl. Trowydyr adeilad yn Rhifau 10 ac 11 Pen-y-graig,Bethesda.Carmel (Rachub) (A). Agorwyd ym 1839 acailgodwyd ym 1860. Deil yn agored.Carneddi (MC). Agorwyd ym 1816,ailgodwyd ym 1827/28 a thrydyddgodwyd efym 1868. Caeodd ym 1993 a dymchwelyd yCapel, y festri a’r Tŷ Capel, Heddiw stad taiMaes yr Athro (i goffáu Syr Idris Foster)sydd ar y safle.Cororion (Tregarth) (A). Agorwyd tua 1813a chaewyd tua 1825.Chwarel Goch (Sling) (A). Agorwyd ym1877, caewyd ym 1987 a throwyd yn dŷ.

Bydd dwy restr arall o addoldai yn dilyn ynrhifynnau nesaf Llais Ogwan.

I’w barhau

Pwy Sy’n Cofio Ddoe?© Dr J. Elwyn Hughes

Capeli ac Eglwysi Dyffryn Ogwen – Rhan 1

Cyflwynaf i chi’r tro hwn y gyntaf o dair rhestr o’r capeli a fu yn Nyffryn Ogwendros y tri chan mlynedd diwethaf, fwy neu lai. Pwysleisiaf ar y dechrau fel hyn fod

angen gwneud llawer mwy o waith eto ar hanes yr addoldai lleol, ac annigonol acarwynebol iawn fu fy ymchwil yn y maes pwysig hwn (fel y dengys ambell ddyddiadcoll a phrinder ffeithiau!). Ni wnaf yma ond nodi enw’r capel ynghyd â dyddiad ei godi,a’i ailgodi mewn rhai achosion, ynghyd ag ambell sylw perthnasol arall ond mae’n rhaidi mi ychwanegu na allaf fod yn sicr a yw pob dyddiad yn gwbl gywir. Dw i’n ddyledus iambell un, megis Helen Jones, Mynydd Llandygái; Anwen Thomas, Pentir; John HuwEvans, Rhiwlas; a Gwilym Williams, Bethesda, am ateb rhai o’m hymholiadau, ganlenwi bwlch neu ddau yma ac acw. Pe bai unrhyw un o ddarllenwyr Llais Ogwan âgwybodaeth ychwanegol, neu ffeithiau gwahanol, byddwn yn falch iawn o glywed oddiwrthynt.

Nyth y GânYr Ymwelydd

Ar fore braf o Ebrill mwynA’r gwanwyn teg yn gwenu,

Bu’n gwisgo’i ddillad ar y brigI’r goedwig yno ganu,

A diolch iddo wnaeth y côrAm drysor fu’n ei rannu.

Mor falch yr ydoedd pawb o’i rodd,Deffrôdd y trymaf gysgwr,

Ac aros iddo ddod i’w dirYn hir y bu y ffermwr;

Erioed ni fethodd ar ei daithNa chwaith ymweld â’r garddwr.

Dosbarth Meithrin Ysgol LlanllechidAeth yr enfys i’r feithrinfa ag awch

Ar gychwyn eu gyrfa,A gwelwn hynod floda’nLlwyddo dan y dwylo da.

Cau Siop John a MairMae inni nawr mewn hanes, a’i heddiw

Heb nwyddau na neges;Ei bri fu oes yr hen bresYn gweini yno’n gynnes.

Lamp y Bugail amser Wyna Yn y nos y mae’i heisiau allan

Yn y gwyll am oriauI’w arwain hyd yr erwauI fan y fref a hi’n frau.

Dafydd Morris_____________

Hen Eglwys TansgafellMor wag yw’r benglog dywyllA’r gwynt yn sbianu’i wawd,

A chri eneidiau gorffwyllYn oeri gwaed a chnawd;

Mor hir yw’r cwsg tragwyddolWrth allor fud y llan,

Ac ias yr oriau hwyrolYn freuddwyd dros y fan.

Nid oes ond llygad lloerigYn ’ffeirad yno mwy,

A’i wae hyd ruddiau’r cerrigYn gwarchod plant y plwy’;

A hen dylluan ffyddlonO’i chlwyd rhwng brigau’r yw,

Yw’r unig glochydd eonRydd fraw yng nghlustiau’r byw.

’Ddaw neb ond Afon OgwenA’i chân yn breliwd lleddf

I wrando gyda’r ywenAr Lith a Dengair Deddf;A’r unig siant bryd gosberA glywir dros y cwm

Yw’r slum a’u gwichian oferHyd furiau’r adfail llwm.

Goronwy Wyn Owen

Page 14: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 14

HOME GUARD BETHESDA 1943Yn dilyn cyhoeddi llun o’r Home Guard yn rhifyn Mawrth derbyniwydyr wybodaeth isod oddi wrth Mr Maldwyn Hughes o Fangor. Nid yw’rrhestr yn gyflawn o dipyn ond dyma’r enwau mae Mr Hughes yn eucofio.

Rhes isaf:Yr ail o’r dde yw Gordon David Dixon un ai o Res Douglas neu FforddFfrydlas. Nid yw Mr Hughes yn cofio pwy oedd y gweddill yn y rhes hon.

Yr ail res: Rifau 1 i 4 yn anhysbys ond y 5ed o’r dde yw William Charles Jones, Sarsiantoedd yn byw yn Rhes Penrhyn a brawd i’r diweddar Glyn Jones (Saer). Y 6edyw David Llywelyn, Adwy’r Nant, oedd yn Lifftenant neu’n Gapten. Roeddo’n brif glerc yn Chwarel y Penrhyn ac yn chwarae fel cefnwr i dîm peldroedBethesda Vics.7fed; Cred Maldwyn Hughes fod y gŵr hwn yn gweithio ynSwyddfa’r Chwarel. Nid yw’n cofio ei enw. 8fed; Yr un modd gyda’r gŵr hwnoedd yn dal swydd “Company Sergeant Major” ac roedd o’n gweithio mewnsiop ddillad yn Rhes Penrhyn.10fed; Emmanuel Parry, Tan y Foel oedd yngorporal ac yn gweithio yn swyddfa’r chwarel.

Y drydedd resRhifau 1 i 3 yn anhysbys ond rhif 4 yw Robert Ffrancon Roberts, 1 Adwy’rNant a oedd yn fforman yn adran drydanol Cyngor Dinesig Bethesda. Rhif 5;Richard Pryce Jones, Ffordd Ffrydlas ac yn wreiddiol o ardal Glyn Ceiriog.Roedd o’n Lance Corporal ac yn gweithio yn y chwarel. Rhifau 6 a 7 ynanhysbys ond rhif 8 yw Herbert Evans, Henbarc, chwarelwr a arferai chwaraeyn y gôl i dîm peldroed Vics Bethesda.

Y rhes uchaf:Rhifau 1 i 4 yn anhysbys ond cred Mr Hughes mai rhif 5 yw “Baden?” Thomas,Bryntirion. Credir hefyd ei fod yn gweithio fel gyrrwr i Dr. Gruffydd, VictoriaPlace, a’i fod yn frawd hynaf i’r diweddar Oscar Thomas. Rhifau 6 i 10 ynanhysbys.

Diolch i Mr Maldwyn Hughes am yr wybodaeth. Efallai bod eraill a allailenwi’r bylchau? Anfonwch air i’r Llais os gallwch chi..

Yr Home Guard

Mae Côr Cyntaf i’r Felin wedi bod yn brysur ers dechrau’rflwyddyn.Ar Fawrth y cyntaf eleni, canodd y côr cymysg pedwar llaismewn cyngerdd arbennig yng Ngwesty’r Bwcle ym Miwmares,Sir Fôn fel rhan o’u dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi.

Côr Cyntaf i’r FelinDyma un o nifer o gyngherddau mae’r côr yn cymryd rhan ynddoyn ystod y misoedd nesaf. Maent hefyd yn ymarfer ar gyfercystadlu yn Eisteddfod Môn eleni.

Mae cyfeilyddes amryddawn y côr wedi bod yn brysur iawn hefyd.Bu Lois Eifion, ar ôl beirniadu mewn Eisteddfodau Cylch yr ardalyn canu, wrth chwarae y piano, yng nghystadleuaeth genedlaethol‘Cân i Gymru’ a ddarlledywd ar S4C ar Fawrth y 4ydd.

Meddai Lois, "Er i'r profiad fod yn gwbl newydd i mi, mi wnes ifwynhau'n arw. Roeddwn yn falch mod i wedi cael y cyfle i wneudrhywbeth hollol wahanol i gyfeilio (am ‘change’!) a dwi'ngobeithio y daw mwy o gyfleon tebyg yn y dyfodol."

Meddai Guto Pryderi Puw, cyfansoddwr ac arweinydd y côr, “Maehi bob amser yn braf cael cerddorion sy’n medru troi eu dwylo atunrhyw beth i gefnogi gwaith y côr, o fedru cyfeilio rhai o’rdarnau mwyaf cymhleth i ganu gyda’r Sopranos, pan fo’r angen.Cerddor felly ydi Lois. Ond wedi nos Sul diwethaf bydd rhaid i nifod yn ofalus i ddal gafael ynddi, rhag ofn iddi ddechrau gyrfa felcanwr pop!”

Os hoffech chi i Gôr Cyntaf i’r Felin berfformio mewn nosongymdeithasol , neu os hoffech ymuno a’r côr, gan ein bod ynchwilio am aelodau newydd ar hyn o bryd – yn arbennig fellytenoriaid a baswyr, cysylltwch â:Guto Puw, yr arweinydd ar 07816474218 neu Llinos Williams, Cadeirydd y Côr ar 07776440596.

Mae’r côr yn ymarfer rhwng 7.30 a 9pm ar nosweithiau Mercheryng Nghapel Bethania, Y Felinheli.

Page 15: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 15

Blodau Hyfryd7 Rhes Buddug, Bethesda

602112 (gyda’r nos 602767)

Blodau ar gyfer pob achlysur

Priodasau, Angladdau ayybFfres a Sidan

Gwasanaeth ‘Archebu a Danfon’

CAFFI COED Y BRENIN1 Rhes Buddug, Bethesda

Ffôn: 01248 602550

Bwyd cartref blasus(mewn awyrgylch cyfeillgar)

Cinio arbennig bob dydd Iau

Bwyd i’w gario allan

Gwasanaeth arlwyo ar gyfer partïon o bob math -

plant, pen-blwydd ac ati(yn y caffi neu mewn lle o’ch dewis chi)

Cacennau ar gyfer pob achlysur e.e. priodas neu ben-blwydd

Prisiau rhesymol

Atgyweiriadau teledu a fideo, offer sain, derbynwyr lloeren.

Hefyd gwerthiant a gwasanaeth

38 Stryd Fawr, Bethesda LL57 3ANFfôn/Ffacs 01248 602584

electricalsandrew duggan

Cerbydau PenrhynCabiau a bysiau mini

Ffôn: (01248) 600072

Meysydd awyr PorthladdoeddContractau

Contractwyr i Wasanaeth ambiwlans Gogledd Cymru

“J.R.”SGaFFaLDWYR

Yr iard, Ffordd StesionBethesda

Ffôn: (01248) 601754

Dyma ni - sgaffaldwyr o fri

Gorsaf betrolB E R A N

D e i n i o l e nFfôn: Llanberis 871521

ar agor bob dydd 24/7

Petrol • Diesel • Nwy Calor • GloCylchgronau • Papurau newydd Cardiau pen-blwydd • Melysion

Tocynnau loteri Gwasanaeth PAYPOINT ar gyfer

trydan, nwy, ffonau symudol,trwyddedau teledu ayyb

MODURON

PANDY

Cyf.

TregarthGwasanaeth Atgyweirio

Canolfan ‘Unipart’M.O.T.

Ffôn: 01248 600619 (dydd)

Modurdy CentralCeir ail-law ar werth

M.O.T. ar gaelHefyd

Trwsio a Gwasanaeth

Ar Allt Pen-y-bryn, Bethesda 601031

CONTRaCTWYR TOi2 Hen Aelwyd, Bethesda

600633 (symudol) 07702 583765

Arbenigo mewn gwaith ffelt a pitsio.

Hefyd toeau llechi a gwaith yswiriant.

Gadewch i ni gynnig pris rhesymol am

waith diguro.

m.hughesa’i fab

Sefydlwyd 1969

Y Douglas Arms* Lluniaeth i Bartïon * Te Cynhebrwng *

* Gardd Gwrw * Te a Choffi *Oriau Agor

Llun – Gwener: 6.00 - 11.00Sadwrn: 3.30 – 12.00

Sul: Pnawn 1.00 - 4.00, Hwyr 8.00 -11.0001248 600219

www.douglas-arms-bethesdaCewch groeso cynnes gan

Gwyn, Christine a Geoffrey

BISTRO’R BRENIN(Bwyty Trwyddedig)Rydym yn croesawu partïon

o bob math – dathlu pen-blwydd

ac achlysuron arbennig eraill.

Ffoniwch01248 602550

e-bost : [email protected]

MODURDY FFRYDLAS

Perchenogioni.D.Hughes ac a. Ll. Williams

Stryd Fawr, Bethesda PROFiON M.O.T.

GWaSaNaETH aTGYWEiRiOTEiaRS a BaTRiS

GWaSaNaETH TORRi i LaWRNEu DDaMWaiN

600723 Ffacs: 605068

ProfionM.O.T.

01248 361044 a 07771 634195

Bysus o 25 i 57 sedd ar gael ar gyfereich holl anghenion teithio -

tripiau, priodasau, partïon ac ati.

Gwasanaeth lleol, traddodiadol a dibynadwysefydlwyd 1997 perchennog: derfel owens

Torri GwalltiauDynion a Phlant

gan Alison

Page 16: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 16

AR DRAWS1. Pedr oedd y cyntaf, yn ôl

traddodiad (3)3. Cerdd enwog am Gymru, ond

doedd dim ots gan y bardd amdani! (3)

5. Dod a rhai o’r un fryd at ei gilydd; ----- at ei debyg (5)

8. Rhosyn enwog y Beibl (5)9. Roedd newyddiadurwr a

darlledwr enwog o Eifionydd yn mynd drosti’n aml (7)

10. Mae diwedd mawr yn llai yn creu un o’r bonedd pendefig! (4)

11. Hwy gânt gadair, coron a medalyn yr Eisteddfod Genedlaethol. (8)

13. Yn sŵn “bidinc” y gwneid yr hen grefft yma erstalwmmeddai’r hwiangerdd (6)

14. Os yw golau’r haul y tu ôl i’r torrwr gwrych cewch hwn, a nofel hefyd (6)

17. Erin a Hibernia yw enwau eraill arni (4,4)

19. Y Twrci Tena (4)22. Os yw dy gof anodd wedi

drysu, mi fyddi’n anfodlon iawn (7)

23. Mae rhai yn hoffi eu cig moch yn -----, nes ei fod yn galed a brau (5)

24. Elin Fflur oedd yn cyflwyno’r gyfres gerddorol yma ar S4C (5)

25. Heb hon byddem wedi gorfod cael nawddsant arall (3)

26. Un acharn ac un y llychau; mae’r ddau yn Sir Gaerfyrddin (3)

I LAWR1. Er mwyn cael digonedd o 23 Ar

Draws rhaid gwneud hyn i’r anifail (5)

2. Dim amser i gael cinio tri chwrs. Rhaid i hwn wneud y tro (7)

3. Ai dyma amser yr ‘hen blant bach’ i ganu? (4)

4. Ar y dechrau roedd ganddo ef efaill drwg iawn yn chwedl yr ail gainc (6)

5. Yma mae un o ysbytai mwyaf Cymru, capel mwyaf Cymru acun o gorau meibion enwocaf y byd (8)

6. Ewch yn ôl i’r twb ; mae lle i gadw bwyd a diod ynddo (5)

7. Glynu a sugno, - nodweddion amlycaf y creaduriaid bach yma (7)

12. Ceir oel newydd o’r goeden yma’n gyson (8)

13. Ar dipyn o ddryswch mae’r deyrnas yma’n llawer llai nag ybu (7)

15. A gawn ni atgof o’r hen grefft-wyr a fu’n 13 Ar Draws? (7)

16. Arwyddlun cwmni olew enwog (6)

18. Sut rai oedd y Dyniadon Hirfelyn Tesog? (5)

20. Os am fynd i fyny yn y byd, dyma’r wlad i fynd iddi‘Dewch chi ddim uwch! (5)

21. Geni planhigyn (4)

ATEBION CROESAIRMAWRTH 2012

AR DRAWS 1. Ahab; 4. Guto; 8. Gwych; 9. Archddiacon; 11. Fandal; 13. Llosgiad; 15. Tra,dau; 16. Nos Ola; 18. Sgadan; 20. Digoni; 22. Donegal; 23. Degawd; 25. Yw na’r lili; 26. Llanw; 27. I ddod; 28. Glud.

I LAWR 2. Hwrdd; 3. Beddrod; 4. Gwasgu; 5. Trofan; 6. Chwedlonol; 7. Uchel; 10. Nadolig; 12. Y tes; 13. Llafarganu; 14. Safadwy; 17. Abid; 19. Nodwydd; 20. Defaid; 21. Gaflog; 23. Dallu;24. Plau.

Croesair Ebrill 2012

Enw:

Cyfeiriad:

Wel wir, pawb ond dau yn hollolgywir y tro hwn - ysgaden(sgadan), enw arall am bennog,yw'r pysgodyn sy'n rhoi ei enw i'rbae ym Mhen Llŷn. Dwi’ndechrau amau fod y croeseiriauyn mynd yn rhy hawdd! Tybed?Enw Jean Vaughan Jones, 12Hafod Lon, Rhiwlas, LL57 4GDddaeth allan gyntaf o’r het ac iddihi yr aiff y wobr y mis yma.Llongyfarchiadau ichi, a phobclod am atebion cywir i’rcanlynol hefyd : Doris Shaw,Bangor; E.E.Roberts, Llanberis;Dulcie Roberts, ElizabethBuckley, Gareth a Sara Oliver,Rosemary Wiliams, Tregarth;Dilys A. Pritchard-Jones,Abererch; Rita Bullock,Bethesda; Emrys Griffiths,

Rhosgadfan; Alwena Tomos,Talybont; Heulwen Evans, DilysParry, Rhiwlas; John a MeirwenHughes, Abergele.

Atebion erbyn dydd Mercher 2 Maii ‘Croesair Ebrill’, Bron Eryri, 12Garneddwen, Bethesda. LL57 3PD.

YN y chwilair hwn mae un o’r atebion wedi ei ddangos yn barod. A oesmodd i chwi ddod o hyd i’r gweddill? (Gwyddom fod Ll, Ch, Dd, Th

ac yn y blaen yn un llythyren yn y Gymraeg, ond i bwrpas y chwilairdangosir hwy fel dwy lythyren ar wahân.) Atebion, gyda’r enw a’rcyfeiriad, os gwelwch yn dda, i André Lomozik, Zakopane, 7 Rhos-y-Coed,Bethesda, Gwynedd LL57 3NW, erbyn 5 Mai Bydd gwobr o £5.00 i’r enwcyntaf allan o’r het. Os na fydd neb wedi cael y 12 yn gywir rhoddir y wobri’r sawl fydd wedi cael y nifer fwyaf yn gywir.

C H W i L a i R M i S   E B R i L LSiop W.E. Jones

Siop W. E. Jones Bethesda yw’r testun y mis yma.

Dyma atebion Mawrth:Brwydr Cefn Pilkem (lle lladdwyd Hedd Wyn); Eisteddfod Bala (lleenilliodd ei gadair cyntaf yn 1907); Ellis Humphrey Evans (enw HeddWyn); Fflandrys; Gorffennaf (y mis y’i lladdwyd); Mary Evans (enw eifam); Penbedw (Birkenhead); Trawsfynydd (lle y ganwyd Hedd Wyn);Un naw un chwech (dechrau ar gyfansoddi ei awdl ‘Yr Arwr’); Unwyth wyth saith (blwyddyn ei eni); Y Dyffryn (Awdl); Yr Ysgwrn (eigartref).

Dyma enwau’r rhai a gafodd yr atebion cywir:Gwyn Owain Hughes, Ynys Môn; Rosemary Williams, Tregarth; Johna Meirwen Hughes, Abergele; Merfyn a Laura Jones, Tregarth;Elizabeth Buckley, Tregarth; Mrs G. Clark, Tregarth; Herbert Griffiths,Tregarth; Eirlys Edwards, Bethesda; Doris Shaw, Bangor; ElfedBullock, Maes y Garnedd; Mair Jones, Bethesda; Marilyn Jones,Glanffrydlas.

Enillwyr Mis Mawrth oedd:John a Meirwen Hughes Cwellyn, 4 Heol Elwy Abergele LL22 7US

Page 17: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 17

DaFYDD CaDWaLaDRDaFYDD CaDWaLaDR

Cynhyrchion Coedlannol

Coed Tân - Llwythi bach a mawrYsglodion pren i’r arddFfensio a thorri coed

Asiant system gwresogi trwylosgi coed

01248 605207

D. E. HUGHESa’i fe ib ion cyf

YMGYMERWYR aDEiLaDauN.H.B.C.

Gardd Eden, Stryd Fawr,Rachub, LL57 3HF

Ffôn a Ffacs 01248 602010

L. Sturrsa’i feibion

sefydlwyd yn 1965

ADEILADWYR

Ffôn: 600953Ffacs: 602571

Pob math o waith trydanol

Huw JonesYmgymerwr TrydanolTrydanwr cymwysedig gyda

phrofiad diwydiannol

Y Wern, Gerlan, Bethesda

Gwynedd LL57 3ST

Ffôn: 01248 602480

Symudol 078184 10640 01248 601 466

OWEN’S TREGARTH

Cerbydau 4, 8 ac 16 seddArbenigo mewn meysydd awyr

Cludiant Preifat a Bws Mini

01248 602260

Oriel CwmCwm y Glo, Caernarfon

Gwasanaeth fframio lluniau obob math ar gael ar y safle

Prisiau rhesymolArddangosfaganartistiaidl lleol

Ffôn / Ffacs 01286 870882

RICHARD S. HUMPHREYS

Contractwyr Trydanol

Jones & Whitehead Cyf

Swyddfa Gofrestredig

Penrala, Tregarth, Bangor, Gwynedd, LL57 4AU

Ffôn: 01248 601257Ffacs: 01248 601982

E-bost: [email protected]

Malinda Hayward(Gwniadwraig)

awel DegPenygroes, Tregarth.

am unrhyw waith gwnïo- trwsio, altro ac ati -

Ffoniwch 01248 601164

[email protected]

DEWCH I WELDEICH

CYFREITHIWRLLEOL

SGWâR BUDDUGSTRYD FAWR

BETHESDAGWYNEDDLL57 3AG

BETHESDA01248 600171

[email protected]

CyfreithwyrY CYNGOR CYNTAF

AM DDIM

EWYLLYSIAU APHROFIANT

SYMUD TŶ

Tudur Owen, Roberts, Glynnea’u cwmni

Plymio a GwresogiTŷ Capel Peniel, Llanllechid

Rhif Corgi 190913

Tony Davies

SaER i.D.R. JOiNERYBusnes ifanc Cymraeg Lleol

Am waith saer o safon uchel aphris diguro

Cysylltwch ag IWAN

07553 977275

01248 602062

Cymwysedig a phrofiadol ymmhob agwedd ar waith saer.

Dibynadwy a chyfeillgar.

Page 18: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 18

Cyngor Cymuned Llandygái

Cynhaliwyd cyfarfod Mawrthyn Neuadd Goffa MynyddLlandygái gyda’r CynghoryddMrs Mair Owen Pierce yn ygadair.

Penderfynwyd cysylltu etogyda’r Cyngor Sir ynglŷn â’rproblemau yng ngwaelod AlltCerrig Llwydion.

Mae’r Cyngor Sir wedi cytuno iddarparu gwaharddiadau parciogerllaw y fynedfa i ystâd Tal yCae. Credir bod angenrhywbeth hefyd i rwystrocamddefnydd pan fo cerbydau’nparcio a difetha’r glaswellt.

Derbyniwyd ffurflenni ynglŷnag arwydd i ystâd Pendinas achysylltir â’r Cyngor Sir.

Cafwyd ar ddeall bodcanmoliaeth i’r Cyngor Sir ameu gwaith ynglŷn â llifogydd ynNhan y Bwlch, MynyddLlandygai. Mae problem arallwedi codi ynglŷn â llifogydd arFfordd Hermon.

Parheir i ddwyn sylw at ysbwriel mewn amryw fannau erbod Adran yr Amgylchedd wediclirio rhai o’r ffyrdd. MaeLlywodraeth Cymru wedicytuno i drin ffens gerllaw yrystâd ddiwydiannol.

Cafwyd adroddiad gan yCynghorydd Mrs E. Frodshamar y Ganolfan Goffa agweithgareddau’r pentref a chany Cynghorydd Mrs M. Leverettar faterion ynglŷn âllywodraethwyr ysgolLlandygai. Adroddwyd arBartneriaeth Ogwen gan yCynghorydd Mrs Mair Owen acar Ganolfan Tregarth gan yCynghorydd Rhys M. Llwyd.

O’r CyngorCyngor Cymuned Pentir

Cyfarfu’r cyngor yng NghanolfanGlasinfryn gyda'r CynghoryddMarred Jones yn cadeirio.

ANTUR WAUNFAWR Cafwyd cyfle i groesawu dauswyddog o'r Antur a ddaeth i sônam waith ail-gylchu sydd yn caelei wneud ganddynt.Mae'r antur yn ail-gylchupapurau, plastigion a bocsys ondbellach maent yn casglu tecstiliaua dillad a fyddai'n addas i'w hail-gylchu. Mae ganddynt fanciaucasglu dillad mewn rhai mannaucyhoeddus yn ogystal â gwneudcasgliad o dŷ i dŷ bob tri mis.Mae'r Antur yn cyflogi 84 o boblyng Nghaernarfon a'r Waunfawr.Mae siop ail-gylchu dodrefnhefyd wedi agor yn y WarwsWerdd, Stad Cibyn, yngNghaernarfon. Apêl oeddganddynt i dderbyn gymaint âphosib o gynnyrch at ail-gylchu.Dros y ddwy flynedd ddiwethaffe gasglwyd dros 230,000 odunelli o wastraff a fyddai wedicael ei wasgaru mewn tipiaucyhoeddus. Yn ogystal â hyn maeganddynt gynllun casglu sbwrielcyfrinachol o Swyddfeydd affatrioedd. Gallwch gysylltugyda'r Antur ar 01286 650721 osam ragor o wybodaeth ynglŷn â'ugweithgareddau. Mae ysgolionGwynedd yn chwarae rhanbwysig yn y gwaith, ac yn eu tromae'r disgyblion yn cael euhaddysgu i ail-gylchu.

ENWAU AR FYSUS PADARNHolodd y Cyng. Dewi Jones aoedd unrhyw ohebiaeth bellachwedi ei derbyn ynglŷn â'r materyma. Adroddodd y Clerc nadoedd wedi derbyn dim. Teimlai'rCyng. Jones yn anhapus nad yw yCwmni bysiau yn rhoi parch i'riaith Gymraeg, mae euharwyddion oddi mewn i'r bysiauhefyd yn uniaith Saesneg.Nododd enghreifftiau o 'BangorTown Clock' a 'Hospital', felesiamplau. 'Roedd yn cydnabodiddo sylwi fod un arwydd ynnewid i Ysbyty ond dim ond ar unfws y gwelodd hyn yn digwydd.Cafwyd llythyr gan y Cyng.D.H.James ar yr un trywydd ac'roedd o yn ychwanegu 'MenaiBridge' at y rhestr. Penderfynwydholi'r Cyngor Sir ymhellach.

CYFLYMDER AR YR A4244 Mynegwyd siom nad oeddcynyrchiolydd o'r Cyngor wedicael gwahoddiad i fynychucyfarfod a drefnwyd gyda MrAlun Ffred Jones AC, yr Heddlu,Swyddog-ion o Gyngor Gwyneddac aelodau Parchu Pentir, i drafody mater yma. Pasiodd y Cyngor iofyn i'r Clerc ddatgan siom amhyn a nodi yr hoffai'r CyngorCymuned gael ei gynrychioli.Gofynnwyd i'r Cyng. LowriJames a fyddai yn mynychu'rcyfarfod.

GWAGIO BINIAU YN YFYNWENTAdroddodd y Clerc nad oeddCyngor Gwynedd wedi cadw atdrefn contract a gytunwyd arddechrau'r flwyddyn ariannol. Ynsgil hyn 'roedd y Clerc wedi gofynam leihau y bil a hefyd amsicrwydd y cedwir at y contract yflwyddyn ariannol yma. Y gobaithyw symud y bin mawr allan achael dau fin bychan yn eu lle afyddai'n cael eu gwagio bobpythefnos. Mae hyn yn dilyn cŵynnad yw rhai o'r bobl yn gallu agory caead trwm sydd ar y binpresennol.

CAIS CYNLLUNIONid oedd gwrthwynebiad i ail gaisi ymestyn Bryn Mêl, Caerhun. Yrunig newid oedd yn y geiriad ynymwneud â'r tir o gwmpas yreiddo.

Ar ddechrau mis Chwefror aeth cynrychiolwyr o Arfon i gyfarfod oBlaid Lafur Gogledd Cymru yn y Rhyl i drafod ffiniau etholaetholseneddol arfaethedig efo cynrychiolwyr o Blaid Lafur Cymru.

Yna, yng nghanol y mis, cynhaliwyd cyfarfod o’r gangen i dderbynadroddiadau gan y Cyngor Sir (e.e. llai o dorri gwair mewnardaloedd 30mya, ysgolion Dyffryn Ogwen ddim yn cael eu had-drefnu tan ar ôl 2020; a’r cynghorau lleol (e.e. y Cynllun DatblyguLleol a’r praesept am 2012-13). Hefyd penderfynwyd newidcyfarfodydd y gangen i’r bedwaredd nos Fercher yn y mis gyda’rcyfarfod nesaf ar ddiwedd mis Mai.

Cafwyd llythyr gan y Blaid Lafur i ddweud bod pobl sydd wedi bodyn aelodau ers 50 mlynedd neu fwy yn gymwys i gael tystysgrif acaelodaeth am ddim yn y dyfodol. Penderfynwyd y byddai’rysgrifennydd yn ymchwilio i’r mater.

Ar ddechrau mis Mawrth cynhaliwyd bore coffi yn Neuadd Ogweni godi arian at Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru 2012a fydd yn cael ei chynnal ym Mharc Glynllifon, Arfon ar ddechraumis Mehefin. Llwyddwyd i godi dros £280 a hoffai’r gangenddiolch i’r siopau ac eraill am roi cymaint o wobrau i’r raffl anwyddau i’r stondin cynnyrch.

Plaid Lafur Dyffryn Ogwen

Meddai: “Rydan ni’n bryderus am iechyd y plant – mae plantyn aml yn sathru baw cŵn ar eu ffordd i’r ysgol ac yn ei garioi’r ystafelloedd dosbarth a’r mannau chwarae.”

Gall dod i gysylltiad â baw cŵn achosi ‘toxocariasis’ sy’n galluarwain at salwch difrifol a hyd yn oed ddallineb. Mae plant ynarbennig o agored i niwed yn hyn o beth.

Mae hi’n drosedd peidio â chlirio os ydi ci o dan eich rheolaethyn baeddu mewn unrhyw lecyn cyhoeddus. Mae troseddwyr ynagored i dderbyn cosb benodol o £75.

Meddai’r Cynghorydd Ann Williams sy’n un o aelodauBalchder Bro Ogwen:

“Rydan ni wedi bod yn gweithio efo Tîm Gorfodaeth CyngorGwynedd mewn partneriaeth â’r gymuned leol i leihauproblemau baw cŵn yn ardal Bethesda dros y blynyddoedddiwethaf.

“Mae Cyngor Gwynedd wedi dosbarthu miloedd o fagiau bawcŵn am ddim o dan y cynllun Trefi Taclus, yn ogystal â darparubiniau, arwyddion rhybudd a phatrolau gorfodaeth. Ond mae’rbroblem yn parhau, ac mewn rhai ardaloedd, mae hi fel petai’ngwaethygu.”

Fel Cyngor mae arnon ni eisiau gweld perchnogion cŵn yncymryd cyfrifoldeb ac yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes.“I fynd i’r afael â’r broblem yma, mae Wardeiniaid Gorfodaethy Cyngor, Staff Morwrol a Pharciau Gwledig a SwyddogionCymorth Cymunedol yr Heddlu’n targedu ardaloedd llegwyddon ni fod yna broblem ar adegau o’r dydd pan ydan ni’namau bod y rhai sy’n gyfrifol yn mynd â’u cŵn am dro. Doesdim esgus dros beidio â glanhau ar ôl eich ci – mae ymddygiado’r fath yn gwbl annerbyniol.”

Taclo’r TacleI adrodd am broblemau baw ci cysylltwch â Thîm GorfodaethStryd Cyngor Gwynedd ar 01766 771000 neu ewch iwww.gwynedd.gov.uk/gwnewch-o-ar-lein a dewis Adroddwch.Bydd unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi yn gyfrinachol.Cefnogir Trefi Taclus Gwynedd gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod 2010-11, fe gyflwynodd Tîm Gorfodaeth CyngorGwynedd 185 o rybuddion cosb sefydlog am gŵn yn maeddu athroseddau sbwriel.

“Digon yw digon”o’r dudalen flaen

Page 19: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 19

Blodau Racca

PENISARWAUNPlanhigion gardd a basgedi crog o’r

ansawdd gorau - gan hogan o Rachub

Ffôn: 01286 870605

Hefyd ymgymryd â gwaith cerrig beddi:

adnewyddu neu o’r newydd

Gweithdy Pen-y-bryn

Cefn-y-bryn, Bethesda

Ffôn: gweithdy 600455gartref 602455personol 07770 265976Bangor 360001

Gwasanaeth personol ddydd a nos

STEPHEN

JONES

†TREFNYDD

ANGLADDAU

Gareth WilliamsTrefnydd Angladdau

Crud yr Awel1 Ffordd Garneddwen

Bethesda

Ffôn: (01248) 600763 a 602707

GWASANAETH DYDD A NOS

01248 605566archfarchnad hwylus Gwasanaeth personol

gyda’r pwyslais ar y cwsmerTocynnau Loteri, cardiau a biliau trydan a nwy

ar agor 7.00 y bore tan 10.00 yr hwyr7 diwrnod yr wythnos

LONDISBETHESDA

Hysbysebwch yn yHysbysebwch yn y

Llais: Cysylltwch â:Llais: Cysylltwch â:

Neville HughesNeville Hughes

600853600853

JOHN ROBERTS

Teilsiwr

Symudol: 07747 628650

Paentiwr

Papurwr

Ffôn: 01248 600995

arbenigwr mewn lloriau coed caled

Arbenigwr mewn gosod aselio lloriau coed caled,

adnewyddu lloriaugwreiddiol a chyweiriolloriau sydd wedi eu

difrodi.

Andrew G. Lomozik B.A.Ffôn: 01248 602117 Symudol: 07835487909

Posh PawsTacluso Cŵn

Busnes lleol

Prynhawniau neu Nosweithiau4.00 - 10.00

Dydd Sul 8.00 a.m - 4.00 p.m.Gwasanaeth casglu a danfon

Ty’n Llan Uchaf, Llanddeiniolen

01248 671382 neu 07935324193Ebost: [email protected]

Vivien, Amanda, Jenny a NicolaGEmWAITH BO-WEN

GWASANAETH TYLLU CLUSTIAU

601888

Siswrn ArianTrin Gwallt Merched,

dynion a Phlant

auR

Gostyngiad o20%

Os nad mewn sêl eisoes

Ymgymerwr adeiladu agwaith saer

Ronald JonesBron Arfon, Llanllechid

Bethesda

01248 601052

Gwasanaeth ymgynghorol cymunedol

Cefnogaeth hyblyg i grwpiau cymunedol

ar unrhyw gam o ddatblygiad prosiect

Am fwy o wybodaeth,

cysylltwch â Mair Watts

Ffôn : 01766 771 382 / 07785 957 511

E-bost : [email protected]

Tir a Bro

Page 20: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 20

Ysgol Dyffryn Ogwen

Gair o’r dosbarth

AuschwitzYmweliad Mari Gwyn a Lois Angharad

Fe fuom ni’n ymweld ag Auschwitz yng Ngwlad Pwyl, un o’r carchar-wersylloedd mwyaf enwog ble roedd Iddewon yn cael eu carcharu gany Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cawsom y cyfle arbennig ymadiolch i Brosiect LFA, sy’n trefnu ymweliadau yno i fyfyrwyr.

Y rheswm fod y prosiect yma yn bodoli yw er mwyn codiymwybyddiaeth pawb am y digwyddiad difrifol yma, i barchu’rdioddefwyr ac, yn bwysicach fyth, i sicrhau nad oes unrhyw beth felyna yn digwydd eto yn y dyfodol. Roedd yn brofiad emosiynol a fyddyn aros yn ein cof am byth.

Y cam cyntaf o’r daith oedd cael cyfarfod yng Nghaerdydd gydagweddill y myfyrwyr. Aethom mewn grwpiau, a thrafod eindisgwyliadau a’n teimladau am y profiad oedd o’n blaen, er mwyn einparatoi i allu ymdopi â’r emosiynau fyddai’n dod gyda’r ymweliad.Roedd y cyfarfod yma yn fythgofiadwy, ac yn brofiad arbennig iawn,oherwydd cawsom y cyfle anhygoel i wrando ar oroeswr oedd ynAuschwitz, Leslie Kleinman, yn siarad am ei brofiad yno fel carcharor.Roedd neuadd lawn o 170 ohonom yn hollol ddistaw wrth i Lesliesiarad. Roedd yn wreiddiol o Hwngari, yr hynaf o 9 plentyn, a chafoddei deulu i gyd eu cludo i Auschwitz pan oedd yn 14 oed ar ôl bod ynbyw mewn ghetto. Gwnaeth Leslie oroesi diolch i garcharor arall afynnodd iddo ddweud wrth y Natsïaid ei fod yn 17 oed. Golygai hyn eifod yn cael mynd i weithio yn y gwersyll, yn lle cael ei hel i’r siambrnwy gyda gweddill ei deulu.

Mari a Lois gyda Leslie Kleinman

Dywedodd Leslie fod 68 aelod o’i deulu wedi mynd i Auschwitz a dimond 3 ohonynt oedd wedi goroesi, gan ei gynnwys ef ei hun. Roedd ynsioc clywed yr holl bethau roedd wedi mynd drwyddynt. Un pethtrawiadol iawn oedd pan soniodd am y cyfnod pan gafodd ei ryddhauo’r gwersyll a dod i Brydain yn 17 oed, yn 6 troedfedd o daldra, ond ynpwyso 4 stôn yn unig. Roedd yr emosiwn yn ei lais yn wir drawiadol,

ac roedd yn amlwg bod y profiad yn dal i darfu arno hyd heddiw.Torrodd i lawr wrth gofio am ei ymweliad yn ôl i’r gwersyll yn 2011er mwyn iddo allu coffau ei deulu, a llenwyd yr ystafell âchydymdeimlad.

Ar y diwrnod ei hun roedd yn rhaid codi yn gynnar iawn er mwynmynd i faes awyr Caerdydd erbyn 5.00 y bore a chychwyn ar y daith iWlad Pŵyl, a oedd wedi ei gorchuddio ag eira, a phawb wedi lapiomewn dillad a chotiau trwchus. Ar ôl glanio aethom ar fysus a gwneudein ffordd at bentref bychan o’r enw Oświęcim. Cyn y rhyfel, roedddros hanner y boblogaeth yn Iddewig, ac roedd y pentref yn llawnsynagogau. Cafodd pob Iddew ei hel i wersylloedd yn ystod y rhyfel, adim ond 3 a ddychwelodd ar ôl i’r rhyfel orffen. Fe fu Iddew olaf ypentref farw yn 2003. Roedd yn ofnadwy dychmygu’r Iddewon yndychwelyd adref, dim ond i ddarganfod dieithrwch. Aethom i’r unigsynagog oedd yn dal i sefyll, a dysgu am grefydd a thraddodiadau’rIddewon.

Y cam nesaf oedd mynd i Auschwitz 1. Beth wnaeth ein taro ni fwyafoedd ei fod mewn lleoliad hollol annisgwyl. Roedd y gwersyll fel petaiwedi ei rewi mewn amser, ond eto, roedd tref fodern brysur a swnllydyn sefyll reit wrth ei ymyl, a sŵn ceir yn byrlymu o’n cwmpas. Roeddgweld bywyd yn parhau tu ôl i’r weiren bigog drydanol yn od.Cerddasom o dan y giât adnabyddus ‘Daw Gwaith a Rhyddid’ ganfeddwl am yr holl bobl oedd wedi cael eu gorfodi i ddod yma. Yn ygwersyll yma roedd popeth oedd wedi cael ei adael ar ôl gan yNatsïaid, yn cynnwys eiddo personol yr Iddewon, hyd yn oed eugwallt a’u dillad. Roeddent yn dwmpathau mewn rhesi hir fel sbwriel,ac fe ddaeth y sefyllfa yn fyw i ni. Aethom i mewn i siambr nwy, agweld y tyllau yn y to ble roedd y nwy yn dod i mewn i’r ystafell.Roedd gan y gwersyll yma hefyd gewyll ble roedd Iddewon oedd wedicael eu cyhuddo o geisio dianc yn cael eu cosbi.

Yna, aethom ar y bws tuag at Auschwitz-Birkenau. Roedd y gwersyllyma yn ynysig yng nghanol unman. Y tro hyn, cawsom brofiad osafbwynt Natsi, drwy sefyll yn nhŵr gwarchodwyr y camp, ble roeddgolygfa o’r camp cyfan. Dychrynwyd ni gan faint anferthol y camp;nid oeddem yn gallu gweld ei ben draw. Cerddasom ar hyd trac y trênoedd yn ymestyn ar draws y gwersyll diddiwedd. Roedd olion eintraed ar yr eira yn ein hatgoffa o’r holl garcharorion oedd wedicerdded yma. Roedd llawer o’r siambrau nwy yn y gwersyll wedi eudymchwel gan y Natsïaid ar ddiwedd y rhyfel, er mwyn ceisiocuddio’r dystiolaeth. Ond, cafodd un o’r siambrau ei chwalu gan griwo garcharorion a lwyddodd i ddwyn powdr gwn a chreu bom.

Roedd yna ystafell llawn lluniau o ddioddefwyr y gwersyll, gydagychydig o wybodaeth am rai unigolion. Roedd gweld yr holl boblgwahanol yn ein atgoffa mai unigolion oedd pob un ohonynt, dim criwo bobl yr un fath. Cawsom seremoni coffáu yn y gwersyll, o danarweiniad Rabi. Darllenodd gerddi am brofiadau’r dioddefwyr i ni, acyna canodd gân Iddewig oedd yn atseinio drwy’r gwersyll llonydd.Roedd wedi tywyllu erbyn hyn, ac fe gafodd pob un ohonom gannwyllfach i’w chynnau, i’w gosod un ar ôl y llall ar y trac trên, er cof am yrholl dioddefwyr.

Wrth edrych yn ôl ar y profiad, sylweddolwn erchylltra’r pethau awelsom yno. Nid oeddynt wedi ein taro ar y pryd oherwydd ei fodwedi bod yn gymaint i’w gymryd i mewn. Ond, mae’n brofiad fydd ynaros yn agos at ein calon am byth.

Ysgol Llandygái

Chwaraeon i BawbDaeth Imtiaz Nadir, sef pencampwr Taekwondo atom i'r ysgol fel rhano'r cynllun 'Chwaraeon i Bawb'. Dyma gynllun sydd yn cefnogi cronfasydd wedi ei sefydlu i helpu athletwyr sydd heb nawdd ariannol igystadlu yn y Gemau Olympaidd. Cymerodd y disgyblion ran mewngweithgaredd ymarfer corff noddedig a chasglwyd dros fil o bunnautuag at y gronfa. Diolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y fenter.

Adnoddau Techni-QuestBu disgyblion Blwyddyn 3 a 4 yn arbrofi, arsylwi ac ymchwilio drwyddefnyddio offer gwyddonol Techni-Quest.Thema’r dosbarth y tymor hwn oedd trydan ac roedd yr offer yndatblygu ymhellach eu dealltwriaeth o natur grymoedd, magnedau acyn y blaen.

Gwasanaeth y PasgBu disgyblion yr ysgol yn cymryd rhan mewn gwasanaeth arbennigiawn yn yr eglwys leol.Cawsom wledd yn gwrando ar berfformiadau amrywiol gan bobdosbarth, a diolch i'r rhieni am ddod i gefnogi'r plant.

Page 21: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 21

Ysgol Rhiwlas

Ysgol Bodfeurig

Dysgu am Fasnach DegDathlwyd pythefnos Masnach Deg yn yr ysgol gydag wythnos gyfan oweithgareddau oedd yn helpu i godi ymwybyddiaeth pawb yn yr ysgol obeth yw Masnach Deg yn ogystal â’r pethau gellir eu prynu sydd ynFasnach Deg.

Bu pawb yn brysur yn coginio ar gyfer uchafbwynt y dathlu sef parti!Bu plant y babanod yn creu cacennau creision ŷd, blwyddyn 2 a 3 yncreu salad ffrwythau a blynyddoedd 4, 5 a 6 yn coginio cacen siocled –pob un o’r rhain yn cynnwys cynhwysion Masnach Deg!

Dyma’r dosbarth meithrin yn cael picnic Masnach Deg gyda Bili Broga

YmweliadauFel rhan o waith yr adran Iau ar yr ardal leol ac sut mae wedi newiddros y ganrif ddiwethaf fe aethom ar ymweliadau i ddysgu mwy.

Ar 19 Mawrth aethom i’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis ac yna iGastell Penrhyn. Yn gyntaf aethom i’r Amgueddfa Lechi a gwelaisolwyn ddŵr mawr mawr! Hefyd gwelais chwarelwr yn hollti a naddullechi gyda morthwyl a chŷn.

Wedyn aethom i Castell Penrhyn ac aethom ar daith o amgylch ycastell! Dysgais lot am y castell, y gweision a’r morynion a’r bobol aethi aros yn Castell Penrhyn!

Roedd y diwrnod yn hwyl ac dysgais lawer am y gwahaniaeth rhwngbywydau y tlawd a’r cyfoethog!

Gan Sasha, Blwyddyn 6

Dydd Gŵyl Ddewi/Diwrnod y LlyfrWel, sôn am ddechrau da i’r bore – gwasanaeth wedi ei drefnu a’igynnal gan blant yr adran iau. Da iawn chi. Roedd rhai o’r plant wedigwisgo mewn gwisg draddodiadol ac eraill fel cymeriad o lyfr.Roeddynt yn hynod o smart wrth gerdded ar y “cat walk” yn y neuadd!

Amgueddfa Lechi LlanberisYmweliad addysgol heb ei hail. Bu’r plant yn gwrando’n astud ac ynholi staff yr amgueddfa yn synhwyrol. Diolch i’r staff am y croeso.

Eisteddfod yr UrddLlongyfarchiadau mawr i’r plant a fu’n cystadlu yn ysgol DyffrynOgwen. Roedd eich lleisiau canu ac adrodd yn fendigedig.Llongyfarchiadau i Gwawr am gyrraedd Eisteddfod y Sir yn ygystadleuaeth Cerdd Dant. Llwyddiant hefyd i griw Ciara Dodd yn yradran Celf a Chrefft – cawsant gyntaf yn yr eisteddfod Cylch am ddarno waith gwehyddu.

Noson o DdawnsBu’r adran Iau yn perfformio dawns yn Y Galeri, Caernarfon. Dawnsgreadigol gyda cherddoriaeth bwerus. Thema’r ddawns oedd ‘TaithAnturus’ a bu canmoliaeth mawr gan y gynulleidfa i’r perfformiad.

Diogelwch y FfyrddBu plant blwyddyn 5 a 6 yn ffodus cael mynd i weld perfformiad sioeDiogelwch y Ffyrdd o’r enw ‘Dim ond Eiliad’ yn Ysgol Pen-y-bryn.Canmolwyd ymddygiad y plant yn fawr.

Athletau Arfon

Ar ôl ymarfer am beth amser fe aeth tîm o blant i gymryd rhan yngnghystadleuaeth Athletau Arfon. Cyfle gwych i ddatblygu sgiliauathletau a bod yn rhan o dîm. Dim ond 16 o ysgolion a gymerodd ranfelly ymfalchïwn ein bod wedi cael cyfle i gystadlu. Da iawn chi blantam eich hymdrechion.

Dona Direidi

Bu plant adran y babanod a blwyddyn 3 i Ysgol Dyffryn Ogwen arddiwedd y tymor. Mae pawb wrthi’n rapio gyda steil ar ôl gweld DonaDireidi. Sioe hwyliog ac egnïol

Taith Gerdded NoddedigDiolch i Gyfeillion yr Ysgol am drefnu taith gerdded noddedig i godiarian i’r ysgol. Bu’n daith egnïol gyda rhieni a phlant wedi mwynhau ynfawr. Diolch i’r trefnwyr.

KarateDiolch i Brent a Sara, hyfforddwyr Karate Llanberis am ddod i siaradefo’r plant. Edrychwn ymlaen i’r sesiwm ymarferol tymor nesaf.

Sports ReliefDiolch i’r Cyngor Ysgol am drefnu diwrnod o weithgareddau corfforolac am goginio cacen i bob plentyn. Casglwyd £75 at yr achos.

Gwasanaeth/Raffl PasgCynhelir gwasanaeth y Pasg ar brynhawn olaf y tymor. Mae’r plantwedi bod wrthi’n galed gyda Mrs Williams yn y gwersi cerdd yn dysguemynau newydd. Braf oedd clywed y canu soniarus.Llongyfarchodd Mrs Green y plant am eu holl hymdrechion a’ullwyddiannau yn ystod y tymor ac am eu caredigrwydd tuag ati. Hefyd fe drefnwyd raffl a phob plentyn yn awyddus i ennill tedianferthol a wyau Pasg. Llongyfarchiadau i’r enillwyr.

Page 22: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 22

Ysgol Llanllechid

Eisteddfod yr UrddLlongyfarchiadau i bawb fu’n rhoi eu gorau yn enw Ysgol Llanllechidyn eisteddfodau’r Urdd yn ddiweddar. Mae ymdrech y plant wedi bodyn rhagorol ac rydym fel staff yn falch iawn o bob un ohonoch.

Dymunwn yn dda yn awr i aelodau’r gan actol a’r cor fydd yn cystadluyn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynllifon ddechrau mis Mehefin.

Gweithdy Twm MorysFe gafodd disgyblion blwyddyn 6 ddau fore hynod o ddifyr yngnghwmni y bardd Twm Morys. Buont yn trafod un o’i gerddi ac yna yncreu cerdd ddosbarth o dan y teitl ‘Pleidlais Baner Cymru’. Edrychwnymlaen i’w groesawu eto ar ôl gwyliau’r Pasg.

MarathonAr ddydd Sul Ebrill 22ain bydd Mr Stephen Jones a Mr Huw Jones ynrhedeg ym marathon Llundain. Maent wedi bod yn codi arian ar gyfereu helusennau sef ‘Get Kids Going’ (elusen sydd yn hybu chwaraeon iblant sydd ag anableddau) a ‘Meningitis Trust (elusen sydd yn helpurhai sydd wedi dioddef llid yr ymennydd). Cawsom ddiwrnod marathonyn Ysgol Llanllechid – gyda rhai yn teithio pellter y marathon oamgylch trac yr iard, ac eraill yn canu eu hoff gân. Llwyddwyd i godiyn agos i £700 a hoffai’r ddau Mr Jones ddiolch yn fawr iawn i bawbam eu cefnogaeth.

Cyngerdd Cymdeithas y CapeliBu rhai o ddisgyblion yr ysgol yn perfformio i aelodau o Gymdeithas yCapeli, Gofalaeth Bro Ogwen yn ddiweddar i ddathlu Gŵyl Ddewi.Cafwyd eitemau amrywiol a safonol gan y plant, - y côr, parti cerdddant, partïon llefaru, y Gân Actol yn ogystal ag unigolion oedd wedillwyddo i fynd i Eisteddfod Sir yr Urdd, sef Cerys Elen, Mari Fflur,Hanna Morgan, Gwydion Rhys a Mari Baines. Roedd y gynulleidfawedi eu cyfareddu, ac ar ôl paned, cacen a sgwrs derbyniwyd casgliadsylweddol ganddynt. Diolch yn fawr i bawb.

Twm Morys

Dydd Mawrth a dydd Mercher daeth Twm Morys i ein ysgol i siaradam farddoniaeth a cerddoriaeth. Cawsom ddyddiau arbennig gyda fe acawsom ysgrifennu cerdd newydd. Ein hoff ran oedd pan oedd o ynchwarae y delyn a canu. Bydd o yn dod yn ôl ar ôl gwyliau’r Pasg igario’n mlaen gyda’r gwaith ac mae pawb yn edrych ymlaen!

Gan Meical a Josh

Eisteddfod yr UrddLlongyfarchiadau i`r holl blant a fu`n llwyddiannus yn Eisteddfod Cylchyr Urdd eleni. Cafwyd Eisteddfod lwyddiannus dros ben.Llongyfarchiadau calonogol i`r Gân Actol ar ddod yn fuddugol mewncystadleuaeth o safon uchel dros ben yn yr Eisteddfod Sir.Llongyfarchiadau hefyd i`r côr dan 12 ar ennill y wobr gyntaf yn ygystadleuaeth corau dan 12 i ysgolion o dros 150 o blant. Yr un yw einllongyfarchion i`r Parti Cerdd Dant. Dyfarnwyd y drydedd wobr iddynt.Da iawn hefyd Gwydion Rhys ar ddod yn drydydd yn yr unawdllinynnol. Da iawn pawb ohonoch a dymuniadau da yn yr EisteddfodGenedlaethol. Canlyniadau llawn yn y rhifyn nesaf...

Wythnos WyddoniaethCafwyd wythnos gyfan o weithgareddau gwyddonol yn ddiweddar acroedd yr holl ddisgyblion yn cymryd rhan. Roedd pob math o bethau’ndigwydd... ffrwydriadau, seiniau, cylchedau trydan, pethau’n hedfan ynogystal â choginio teisenau coch, piws a gwyrdd! Roedd y plant wedimwynhau’r cyfan ac yn gallu trafod y gweithgareddau’n dda. Ynogystal, cafodd pob un o`r dosbarthiadau weithdai ar drydan yn ystod ycyfnod.

Noson Bingo’r PasgCafwyd noson ’Bingo’ tu hwnt o llwyddiannus yn y Clwb Criced cyngwyliau’r Pasg. Roedd y clwb yn orlawn o blant, rhieni, a chyfeillion ynogystal â nifer helaeth o gynddisgyblion yr ysgol. Cymdeithas yrhieni/athrawon [o dan arweiniad Mrs Iona Robertson a Mrs LowriRoberts] oedd wedi bod yn weithgar iawn yn trefnu unwaith eto, acroedd gwobrau lu yn cael eu dosbarthu. Rhaid diolch yn arbennig i’r‘Galwr’ sef Mr Dilwyn Owen, a wnaeth ei waith mor broffesiynol agerioed! Diolch i bawb am gefnogi.

Lon Fach OdroDo, fe ddaeth yr haul i wenu eto, a’r ŵyn ar y dolydd i brancio....a budosbarthiadau’r Cyfnod Sylfaen yn crwydro Lôn Fach Odro iddarganfod a chofnodi arwyddion y Gwanwyn. Mae’r coed yn blaguro’nhyfryd erbyn hyn a Llygad Ebrill a Dant y Llew yn tyfu yng nghanol ydail poethion a’r dail tafol. Mae taith ar hyd Lôn Fach Odro yn werthchweil i’r plant gael sylweddoli’n iawn beth yw effaith y tymhorau arein hamgylchfyd.

Noswaith o DdawnsCafodd dau o grwpiau dawns Ysgol Llanllechid gyfle i berfformio yn yGaleri yng Nghaernarfon mewn ‘Noson o Ddawns’. Cafwyd dawnswerin hyfryd gan blant Blwyddyn 2, a dawns disgo tu hwnt o gelfyddgan enethod Blwyddyn 6. Diolch yn fawr i Ms Angharad Tomos amhyfforddi’r ddau grŵp.

Ysgol Pen-y-bryn

Dim ond EiliadBu dosbarth Carnedd ac Elidir yn ddigon ffodus i weld y cynhyrchiad‘Dim Ond Eiliad’ a gomisiynwyd gan Menter Môn. Drama lwyfangyffrous a chyfoes gyda neges hynod bwysig sef bod yn ddiogel ar yffordd oedd hi. Roedd pawb wedi mwynhau ac yn amlwg wedi uniaethuâ’r cymeriadau a’r sefyllfaoedd. Diolch yn fawr i’r actorion a’r cwmniam roi gwledd i ni.

HociAeth dau dîm o blant blwyddyn 6 i Faes Glas am gêm o hoci.Cystadleuaeth hoci ‘Activate’ ysgolion cynradd Cymru oedd yn cael eichynnal yna a chafwyd p’nawn difyr gyda’r timau cymysg ynmwynhau’r profiad o chwarae yn erbyn dwy ysgol o Gaernarfon, Bethela Llanllechid. Diolch i Delwyn Humphreys, Hoci Cymru, am drefnu adiolch i Ysgol Llanllechid am rannu bws gyda ni – ysgolion gwyrdd arwaith!!

EisteddfodLlongyfarchiadau mawr i bawb a fu’n cystadlu yn Eisteddfod Gylch aSir yr Urdd. Rydym oll yn edrych ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol yrUrdd ei hun yng Nghlynllifon yn ystod wythnos y Sulgwyn.

MyfyriwrRydym yn croesawu Mr Aled Hughes i’n plith, sef darpar-athro oBrifysgol Bangor. Gobeithiwn y gwnewch chi fwynhau’ch cyfnod gydani ym Mhen-y-bryn.

PC Dewi ThomasHoffem ddiolch i PC Dewi Thomas am ddod atom i drafod diogelwchffonau symudol a bwlio-cyber. Mae’n bwnc hynod bwysig ac mae’nallweddol bod pawb yn deall pwysigrwydd gwneud penderfyniadaudoeth gyda ffonau a gwefannau cymdeithasol.

Page 23: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 23

Dathlu Dydd Gŵyl Ddewi a Diwrnod y LlyfrAr Fawrth y cyntaf, dathlodd holl blant yr ysgol Ddydd Gŵyl Ddewi aDiwrnod y Llyfr drwy wisgo gwisgoedd Cymreig neu fel cymeriadau olyfrau. Roedd yna blant lliwgar iawn yn Ysgol Abercaseg y diwrnodhwnnw!

Dyma blant Dosbarth Ffrydlas yn eu gwisgoedd lliwgar!

Llwyddiant yn yr Eisteddfod! Cafodd disgyblion yr ysgollwyddiant eto eleni gyda’u gwaithcelf a chrefft yn Eisteddfod Cylchac Eisteddfod Sir yr Urdd. Daethnifer o wobrau 1af, 2il a 3ydd ynôl i’r ysgol!

Llongyfarchiadau i NeiveAtkinson, dosbarth Tryfan, arddod yn gyntaf am adrodd iddysgwyr yn yr Eisteddfod Sir.Pob lwc i ti yn yr EisteddfodGenedlaethol yng NglynllifonNieve. Llongyfarchiadau hefyd ibawb a fu’n cystadlu!

Dyma Nieve yn falch iawn o’i thystysgrif!

Ysgol AbercasegGweithdai Barddoni gyda Thwm MorysMae Dosbarth Ffrydlas yn gweithio ar brosiect i greu cyflwyniaddramatig ar ffurf cerdd gyda’r Prifardd Twm Mory. Bydd cyfle i rieni’rplant wrando ar berfformiad o’r gwaith gorffenedig yn ddiweddarachyn y flwyddyn

Dyma Twm Morys yn paratoi’r plant ar gyfer y perfformiad!

Parti DathluAr Ebrill 26ain cyhoeddir adroddiad o arolwg a gafodd yr ysgol ynddiweddar. Yr un diwrnod, i ddathlu’r ffaith fod yr arolwg wedi bod ynun mor llwyddiannus, cynhelir parti mawreddog yn yr ysgol.Bydd yparti’n cychwyn am 1.30pm a chaiff y plant eu diddanu ganwneuthurwr swigod anferthol a chonsuriwr medrus! Mae croeso i’rplant fydd yn dechrau’n y Dosbarth Meithrin ym Mis Medi ymuno âni’n y parti!

Croeso’n ôlCroeso’n ôl i Mrs Yvonne Griffiths a diolch i Miss Mandy Roberts amei holl waith caled tra’r oedd gyda ni’n yr ysgol!

Page 24: Llais Ogwan Ebrill 2012

Llais Ogwan 24

NEUADD OGWENBETHESDA

GYRFA CHWIST24 Ebrill

8, 22, 29 Mai

am 7 o’r gloch

Dewch i fwynhau nosweithiau difyr

Beth sydd

ymlaen yn y

Dyffryn?

NEUADD OGWEN,

BETHESDA

21 Ebrill: Ymchwil Canser

28 Ebrill: Capel Jerusalem

05 Mai: Gorffwysfan

12 Mai: Cymorth Cristnogol

19 Mai: Ysgol Sul Jerusalem

26 Mai: Sefydliad y Merched Carneddi

(Bob bore Sadwrn am 10.00 o’r gloch)

BOREAU

COFFI

12 MaiMarchnad Cynnyrch Lleol

Llys Dafydd

10.00 – 2.00

www.facebook.com/marchnad-cynnyrch-

lleol-ogwen-local-produce-market

Cymanfa Annibynwyr

Dosbarth Bangor a Bethesda

CYMANFA YSGOLION SULDydd Sul, 20 Mai 2012

yng

Nghapel Pendref, Bangor

Yn y bore am 10.30

Hefyd

CYMANFA GANU am 5.30 o’r gloch

yng Nghapel Bethlehem,

Talybont

Arweinydd Cerddorol:

Mr Elfed Morgan Morris

Eitemau: Côr Plant Llandygai

(Gwneir casgliad yn y ddau gyfarfod)

Trefnir bws i gyfarfod y bore

Manylion gan Neville Hughes

(Ysgrifennydd) ar 600853

Un sesiwn am ddim os dewchâ’r hysbyseb hwn hefo chi

Croeso i bawb, yn arbennig dysgwyr

Manylion gan Jake neu ElenaFitzpatrick - 01248 602416

neu galwch heibio’r dosbarth

Dosbarthiadau

yng Nghanolfan

Gymdeithasol

Tregarth bob

nos Fercher

7.00 tan 9.00

WU SHU KWANBocsio Cic Tsieineaidd (Kung Fu)

Yn dilyn llwyddiant ysgubol mewn Is-Etholiad yllynedd, mae’r Cynghorydd Dafydd Meurig, sy’nbyw yn Llanllechid, wedi mwynhau ei rôl newyddfel Cynghorydd Sir: “Mae hi wedi bod yn agoriadllygad cael dod yn rhan o’r Cyngor, a dod i weld sutmae pethau’n gweithio. Dwi’n falch iawn o’r cyfle igynrychioli pobl Arllechwedd ac wedi profillwyddiant wrth gychwyn prosiectau a dod â phoblleol ynghyd i weithgareddau cymdeithasol yn eincymuned.”

Mae’r Cynghorydd Ann Williams wedi ei geni a’imagu yn Nyffryn Ogwen ac mae’n ddiwyd iawn ofewn y gymuned leol. Mae’n aelod o GyrffLlywodraethol Ysgolion Abercaseg a Phenybryn,aelod o bwyllgorau rheoli Neuadd Ogwen, CanolfanCefnfaes, Y Caban a Balchder Bro Ogwen. Maehefyd yn aelod o Bartneriaeth Ogwen a PhwyllgorLlywio Lôn Las Ogwen.

Mae’r Cynghorydd Dafydd Owen yn ymgeisio felCynghorydd Plaid Cymru yn Ward Tregarth aMynydd Llandygai. Nid yw’n ddieithr i waithcymunedol oherwydd ei fod yn aelod o GyngorCymuned Llandygai ers 25 mlynedd. Mae’n aelod oBwyllgor Rheoli Canolfan Tregarth, yn aelod oBartneriaeth Ogwen, a Balchder Bro ac yncynrychioli’r Dyffryn ar Brosiect Bangor, yn ogystalâ bod yn un o Lywodraethwyr Ysgol GynraddTregarth, ac yn weithgar gyda Llais Ogwan.

“Mae hi’n anrhydedd i gael fy newis i sefyll drosBlaid Cymru yn Etholiadau Lleol Cyngor Gwyneddym mis Mai,” meddai Dafydd Owen. “‘Dwi’nedrych ymlaen yn arw at yr ymgyrchu ac ynbwriadu gweld nifer fawr o’r etholwyr yn y dyfodolagos. ‘Dwi’n addo gwneud fy ngorau drostynt ac yngobeithio y caf y cyfle drachefn i’w cynrychioli arGyngor Gwynedd.”

Wrth longyfarch y Cynghorwyr Dafydd Meurig acAnn Williams ar gael eu hethol yn ddi-wrthwynebiad, dymunwn yn dda i’r CynghorwyrDyfrig Jones a Dafydd Owen ar gyfer 3 Mai.

Plaid Cymru, Cangen Dyffryn Ogwen

Cyhoeddi tîm cryf Plaid Cymru yn Nyffryn Ogwen

Mae tîm cryf o bedwar ymgeisydd profiadol wedi eu dewis i sefyll dros BlaidCymru yn Nyffryn Ogwen yn Etholiadau Lleol Cyngor Gwynedd ar Fai'r 3ydd:

Mae’r pedwar yn meddu ar brofiad helaeth o wasanaeth cyhoeddus ac wedi cynrychioli’r ardal ar GyngorGwynedd ac ar gyrff arwyddocaol lleol, yn arbennig y Cynghorau Cymuned.

Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Jones: “Mae hi wedi bod yn fraint cynrychioli Ward Gerlan a Rachub dros yblynyddoedd diwethaf. ‘Dwi wedi dysgu llawer ac wedi dod i adnabod y bobl leol a’r gweithgareddaubywiog sy’n cael eu trefnu yn yr ardal yn dda. Byddwn yn falch iawn o’r cyfle i gynrychioli pobl yr ardalunwaith eto wedi’r Etholiad ym mis Mai.”

Mae’r Cynghorydd Jones yn aelod o Gyngor Cymuned Bethesda, yn Ysgrifennydd Cwmni Tabernacl, yn uno drefnwyr Gŵyl Pesda Roc, ac yn aelod o Awdurdod S4C. Mae’n briod a chanddo ddau o blant bach acmae’n gweithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Bangor.

Y Cyng. Dyfrig Jones (Ward Gerlan a Rachub), Y Cyng. Dafydd Meurig (Ward Arllechwedd), Y Cyng. Dafydd Owen (Ward Tregarth a Mynydd Llandygai, Y Cyng. Ann Williams (Ward Ogwen)