Hybu Iechyd Meddwl Cymru · Croeso i Rifyn 16 o Hybu Iechyd Meddwl Cymru. ... o bob cwr o Gymru ac...

10
Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 16 Rhagfyr 2011 1 Croeso Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 16, Rhagfyr 2011 Cydweithio i wella iechyd a lles meddwl Ydy’r Plant yn Iawn? Pwysigrwydd y Blynyddoedd Cynnar Croeso i Rifyn 16 o Hybu Iechyd Meddwl Cymru. Mae‟r Cylchlythyr hwn ar gyfer unrhyw un sydd yn gweithio neu â diddordeb ym maes hybu iechyd meddwl ac mae‟n canolbwyntio ar rannu syniadau ac enghreifftiau o ymarfer. I gyfrannu at y Gronfa Ddata Ymyriadau a Mentrau neu rifyn o‟r Cylchlythyr yn y dyfodol, cysylltwch â Marie Griffiths [email protected] . Cynhelir pumed gynhadledd flynyddol Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan ar Ddydd Mercher 25 Ionawr 2012 yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd. Bydd yn Gynhadledd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd datblygiad y blynyddoedd ynnar ar iechyd a lles meddwl. Rydym wedi gwahodd Cwmni Theatr „Geese‟ i gymryd rhan yn y gynhadledd. Mae Cwmni Theatr „Geese‟ yn dîm o actorion a gweithwyr grŵp sy‟n cyflwyno drama ryngweithiol ac yn cynnal gweithdai‟n ymwneud â thema ddewisol. Bwriad eu perfformiadau yw herio, annog trafodaeth a dadla chodi ymwybyddiaeth yn ymwneud â materion penodol. Gellir mynychu‟r gynhadledd am ddim, a chaiff lloedd eu dyrannu ar sail y cyntaf i‟r felin ynghyd â derbyn ffurflen archebu lle. Gallwch hefyd gofrestru ar-lein yma . Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael mwy o wybodaeth bythefnos cyn y gynhadledd.

Transcript of Hybu Iechyd Meddwl Cymru · Croeso i Rifyn 16 o Hybu Iechyd Meddwl Cymru. ... o bob cwr o Gymru ac...

  • Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 16 Rhagfyr 2011

    1

    Croeso

    Hybu Iechyd Meddwl Cymru

    Rhifyn 16, Rhagfyr 2011

    Cydweithio i wella iechyd a lles meddwl

    Ydy’r Plant yn Iawn? Pwysigrwydd y Blynyddoedd Cynnar

    Croeso i Rifyn 16 o Hybu Iechyd Meddwl Cymru. Mae‟r Cylchlythyr hwn ar gyfer unrhyw un

    sydd yn gweithio neu â diddordeb ym maes hybu iechyd meddwl ac mae‟n canolbwyntio ar rannu syniadau ac enghreifftiau o ymarfer. I gyfrannu at y Gronfa Ddata Ymyriadau a

    Mentrau neu rifyn o‟r Cylchlythyr yn y dyfodol, cysylltwch â Marie Griffiths

    [email protected].

    Cynhelir pumed gynhadledd flynyddol Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan ar

    Ddydd Mercher 25 Ionawr 2012 yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd.

    Bydd yn Gynhadledd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd datblygiad y blynyddoedd ynnar ar iechyd a lles meddwl. Rydym wedi gwahodd Cwmni Theatr „Geese‟ i gymryd rhan yn y gynhadledd. Mae Cwmni Theatr „Geese‟ yn dîm o actorion a gweithwyr grŵp sy‟n cyflwyno

    drama ryngweithiol ac yn cynnal gweithdai‟n ymwneud â thema ddewisol. Bwriad eu perfformiadau yw herio, annog trafodaeth a dadla chodi ymwybyddiaeth yn ymwneud â

    materion penodol. Gellir mynychu‟r gynhadledd am ddim, a chaiff lloedd eu dyrannu ar sail y cyntaf i‟r felin

    ynghyd â derbyn ffurflen archebu lle. Gallwch hefyd gofrestru ar-lein yma.

    Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael mwy o wybodaeth bythefnos cyn y gynhadledd.

    mailto:[email protected]://www.iechydmeddwlycyhoedd.org/Documents/749/Conferenceflyer%28C%29.pdfhttp://www.iechydmeddwlycyhoedd.org/w-questionnaireform.cfm?orgid=749&qid=527

  • Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 16 Rhagfyr 2011

    2

    Beth yw Amser i Newid Cymru?

    Ar ôl llwyddiant „Time to Change‟ yn Lloegr, ac yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn o ymgyrchoedd tebyg yn UDA, Seland Newydd

    a‟r Alban, Amser i Newid Cymru (AINC) yw ymgyrch gynhwysfawr gyntaf Cymru gyfan i herio‟r stigma a‟r gwahaniaethu y mae pobl â phroblemau iechyd meddwl a‟u

    teuluoedd yn eu hwynebu. Mae‟r ymgyrch wedi‟i hariannu am dair blynedd gan y Gronfa Loteri Fawr, Comic Relief a Llywodraeth Cymru. Caiff y Rhaglen ei chynnal gan

    bartneriaeth sy‟n cynnwys tair elusen iechyd meddwl flaenllaw yng Nghyrmu: Gofal, Hafal a Mind Cymru.

    Prif nod y Rhaglen yw newid agweddau ac ymddygiad negyddol mewn perthynas â salwch

    meddwl.

    Beth yw Bwriad Rhaglen Amser i Newid Cymru?

    I fod yn effeithiol, rhaid i ymgyrch gwrthstigma a gwrthwahaniaethu weithio ar sawl lefel, a hynny gyda grwpiau a chymunedau gwahanol. Mae tystiolaeth o ymgyrchoedd tebyg o‟r

    gorffennol yn dangos bod angen nifer o elfennau a gweithgareddau allweddol i sicrhau dylanwad eang a dwfn yn genedlaethol ac yn lleol. Mae‟r prif elfennau fel a ganlyn:

    Ymgyrch Marchnata Cymdeithasol yn y cyfryngau cenedlaethol a lleol i drafod

    materion sy‟n ymwneud â stigma a gwahaniaethu gyda‟r cyhoedd yng Nghymru er mwyn herio agweddau ac ymddygiad.

    Ymgyrch Gweithredu Cymunedol sy‟n rhoi adnoddau i bobl ac yn eu grymuso i

    herio stigma a gwahaniethu yn eu cymunedau lleol.

    Mae AINC yn adeiladu ar y rhaglen Time to Change sydd wedi bod ar waith yn Lloegr ers 2008. Mae‟r ddwy ymgyrch yn ymrwymedig i gydweithio i sicrhau‟r effaith fwyaf posibl yn y ddwy wlad.

    Sut y Gall Sefydliadau neu Unigolion Gefnogi’r Ymgyrch/Rhaglen? Rydym yn ymwybodol iawn y bydd cyfathrebu â phobl, asiantaethau a sefydliadau eraill a‟u

    cynnwys yn hanfodol i lwyddiant y Rhaglen. Rydym yn croesawu‟r cyllid sydd ar gael i ni am dair blynedd, ond nid yw‟n ddigon i ariannu mwy na thîm bach a gweithgareddau craidd y Rhaglen. Gwyddom na allwn gael yr effaith rydym am ei chael oni chydweithredwn â

    sefydliadau eraill i adeiladu ar waith presennol a chael gafael ar adnoddau ychwanegol. Rydym felly‟n awyddus i gael help gan nrhyw unigolion a/neu sefydliadau sydd â diddordeb

    o bob cwr o Gymru ac o bob sector a‟u hannog i ymuno â ni yn yr ymgyrch hon i gael gwared ar y stigma a‟r gwahaniaethu sy‟n gysylltiedig â salwch meddwl. Gall hyn gynnwys sefydliadau a phrosiectau sydd eisoes yn cael eu hariannu i gyflawni canlyniadau tebyg i

    AINC. Drwy gronni ein hadnoddau a chydgysylltu cyhoeddusrwydd a negeseuon allweddol y Rhaglen, bydd gennym gyfle gwell o gyflawni ein hamcanion cyffredin.

    Os hoffech gyfrannu at yr ymgyrch cyn i‟r cam cyfathrebu ffurfiol ddechrau (penodi Swyddog Cyfathrebu, lansio‟r Wefan ac ati), gallwch ffonio (029 2034 6586), neu anfon

    ebost neu lythyr a:

    Ian Cutler, Rheolwr y Rhaglen, Amser i Newid Cymru, d/o Mind Cymru, Llawr 3, Quebec House, Castlebridge, Cowbridge Road East, Caerdydd, CF11 9AB

    Amser i Newid Cymru

    mailto:[email protected]

  • Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 16 Rhagfyr 2011

    3

    Rhaglen Iechyd Ceredigion yn Ennill Gwobr Genedlaethol

    Mae rhaglen gewlla iechyd leol wedi ennill gwobr

    genedlaethol am ei gwaith gyda mudiadau iechyd meddwl. Fe wnaeth Panel Gwobrwyo Iechyd Cyhoeddus Cymru

    gyfarfod ar 4 Hydref, gan roi‟r wobr „arfer da‟ i Codi Calon. Rhoddir y Wobr Genedlaethol a‟r Nod Ansawdd i raglenni iechyd cyhoeddus sy‟n dangos eu

    bod yn bodloni meini prawf penodol ar gyfer cynllunio, darparu, cynaliadwyedd a gwerthuso. Codi Calon yw‟r rhaglen leiaf i ennill y wobr hyd yma.

    Dywedodd yr Aelod Cynulliad, Elin Jones: “Rwy‟n filch iawn bod y rhaglen arloesol hon wedi cael ei chydnabod â gwobr genedlaethol. Rwy‟n gwybod bod llawer iawn o waith caled wedi‟i

    wneud er mwyn datblygu‟r rhaglen hon, ac rwy‟n llongyfarch pawb sydd wedi sicrhau ei bod yn llwyddiant wrth hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol da yng Ngheredigion”.

    Dywedodd Jan Batty, gweithiwr y rhaglen: “Rwy‟n gobeithio y bydd pawb sydd wedi cefnogi‟r rhaglen a chyfrannu at ei llwyddiant yn teimlo‟r un anrhydedd â minnau wrth i ni gael y

    wobr. Mae‟n cydnabod gwaith caled y rheini a fu‟n cymryd rhan, yn ogystal â brwdfrydedd a diddordeb yr holl fudiadau gwirfoddol, cleientiaid, practisau meddygon teulu a thimau

    gwasanaethau iechyd meddwl”.

    Gwybodaeth am Codi Calon Mae Codi Calon yn rhaglen a gaiff ei chyllido gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda drwy ei Gynllun

    Grant Sector Gwirfoddol. Caiff ei reoli ar y cyd gan Weithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru a Thîm Iechyd Cyhoeddus Hywel Dda yng Ngheredigion.

    Nod y rhaglen yw gwella iechyd pobl sy‟n byw â phroblemau iechyd meddwl. Mae‟n darparu hyfforddiant a chefnogaeth i fudiadau yn y gymuned sy‟n gweithio gyda‟r cleientiaid hyn. Yn

    y ffordd hon, mae cyfleoedd a chefnogaeth i bobl ddewis gweithgareddau mwy iach wedi cynyddu.

    http://www.mindyourheart.org.uk

    Am fwy o wybodaeth manylion Cyswllt: Jan Batty, Gweithiwr Datblygu, Codi Calon

    Gwerthusiad Annibynnol yn barnu bod Cwnsela mewn Ysgolion yn rhan

    annatod o ddarpariaeth ysgolion yng Nghymru

    Mae adroddiad ar werthusiad annibynnol a gyhoeddwyd heddiw gan

    Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) yn barnu bod Cwnsela mewn Ysgolion yn rhan annatod o ddarpariaeth ysgolion yng Nghymru.

    Yn Adroddiad Ymchwiliad Clywch argymhellodd Comisiynydd Plant Cymru y dylai pob person ifanc mewn ysgol fod ag oedolyn y mae'n ymddiried ynddo/

    ynddi y gall rannu ei bryderon ag ef/hi. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £4.5 miliwn yn 2011-12 ar gyfer gweithredu strategaeth genedlaethol ynghylch cwnsela mewn ysgolion

    ac mae gan bob awdurdod lleol bellach ddarpariaeth gwnsela.

    http://www.mindyourheart.org.uk/index_welsh.html

  • Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 16 Rhagfyr 2011

    4

    Mae'r adroddiad newydd yn gwerthuso llwyddiant y strategaeth ynghyd ag effaith hirdymor

    y gwasanaeth ar blant a phobl ifanc.

    Pennodd yr adroddiad fod yr holl bobl ifanc, y staff addysgu, yr awdurdodau lleol a'r cwnselwyr wedi mynegi'r ffaith eu bod yn fodlon iawn ar y cyfan â'r cwnsela a oedd ar gael mewn ysgolion.

    Roedd tua 85% o'r rheini a wnaeth ymateb yn teimlo'n fwy cadarnhaol ynglŷn â mynd i'r

    ysgol ac yn teimlo eu bod yn gallu ymdopi'n well ers mynd i'r sesiynau cwnsela. Roeddent yn gwerthfawrogi'n arbennig: y ffaith ei bod yn hawdd manteisio ar y gwasanaethau, y gallu i siarad yn agored ac yn onest â rhywun sy'n eu deall a rhywun y gallant ymddiried ynddo/

    ynddi, cyfrinachedd y ddarpariaeth a'r ffaith bod eu hunanhyder wedi cynyddu yn sgil y cwnsela.

    Cytunai'r holl gwnselwyr fod cwnsela mewn ysgolion yn rhan annatod o ddarpariaeth ysgolion, a bod staff, rheini a disgyblion ysgolion yn cydnabod gwerth y ddarpariaeth ac yn

    ei gwerthfawrogi.

    Cytunai'r athrawon yn gryf fod y gwasanaethau cwnsela yn bodloni anghenion disgyblion ac roeddent yn cytuno bod cyrhaeddiad tybiedig, presenoldeb ac ymddygiad y disgyblion a

    oedd wedi derbyn cwnsela mewn ysgolion wedi gwella, ac nid oedd y ddarpariaeth wedi cael llawer o effaith ar lwyth gwaith y staff ychwaith.

    Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews: “Mae'r gwerthusiad hwn yn bositif iawn. Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau y gall pobl ifanc yng Nghymru dderbyn

    gwasanaeth cwnsela pan fyddant ei angen. “Byddwn yn manteisio ar y cyfle yn awr i adolygu'r adroddiad a'i argymhellion mewn

    manylder cyn amlinellu cynllun gweithredu clir. Ein nod yw sicrhau y gall pobl ifanc yng Nghymru fanteisio ar y gwasanaethau cwnsela a'r gefnogaeth orau bosibl.”

    Dywedodd Laurie Clarke, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain: "Rydym yn croesawu'r adroddiad a'r canfyddiadau. Mae strategaeth genedlaethol

    Llywodraeth Cymru ar gyfer cwnsela mewn ysgolion yn tystio i ymrwymiad y Llywodraeth i iechyd emosiynol a lles pobl ifanc. Mae'r adroddiad yn pwysleisio sut y gall cwnsela helpu

    Therapïau’r Celfyddydau’n cael

    Gwobr Cydnabod Llwyddiant Llywodraeth Cymru 2011

    Mae Liz Aylett wedi cael „Gwobr Cydnabod Llwyddiant‟ Llywodraeth

    Cymru 2011 am ei gwasanaethau ym maes Therapïau‟r Celfyddydau. Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru‟n rhoi nifer cyfyngedig o‟r

    gwobrau hyn i unigolion am eu cyfraniad i weithgareddau neu feysydd penodol o fewn themâu penodol. Y thema ar gyfer 2011 yw Iechyd - Arloesi yn cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar y

    cyd.

    “Eleni rydym yn cydnabod unigolion sydd wedi arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar y cyd sy‟n cyflenwi canlyniadau parhaus.”

    Pennaeth Therapïau’r Celfyddydau ac

    Arweinydd y Celfyddydau mewn Iechyd a Lles

  • Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 16 Rhagfyr 2011

    5

    Roedd y seremoni o dan arweiniad Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, ac yn ymuno ag

    ef oedd Lesley Griffiths (Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru). Cafodd Liz ei chyflwyno i‟r ddau weinidog ar wahân a siaradodd gyda nhw am rôl a

    chyfraniad therapïau‟r celfyddydau. Roedd Mrs Alison Strode, Prif Gynghorydd Therapïau Cymru, yn westai ac roedd yn hynod falch bod cydnabyddiaeth wedi cael ei rhoi i therapyddion.

    Mae Liz, a enwebwyd gan ei chydweithwyr ym maes therapïau‟r celfyddydau, wedi gweithio

    yn y GIG am y 28 mlynedd diwethaf, 24 ohonynt yn GIG Cymru. Mae‟n un o aelodau gwreid-diol Pwyllgor Rhwydwaith Cymru Gyfan ar gyfer Proffesiynau Therapïau‟r Celfyddydau, mae wedi cynrychioli‟r GIG yn y grŵp hwn yn y Pwyllgor Cynghori Therapïau Cymru yn y gorffen-

    nol ac mae wedi bod yn gydlynydd Rhanbarthol i Gymdeithas Therapïau‟r Celfyddydau Pry-dain ym Manceinion a Chymru.

    Mae Liz yn Bennaeth Therapïau‟r Celfyddydau ac yn Rheolwr y Rhaglen Celfyddydau ym maes Iechyd a Lles i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Gogledd Cymru). Dros y pum

    mlynedd diwethaf, mae Liz wedi bod yn rhagweithiol yn arwain partneriaethau cydweithredol yn y Celfyddydau ym maes Iechyd a Lles ac mae wedi bod yn aelod allweddol o weithgor

    Llywodraeth Cymru /Cyngor Celfyddydau Cymru dros y Celfyddydau ym maes Iechyd a Lles: Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru.

    Dywed Liz, “Mae ymgysylltu â defnyddwyr y gwasanaeth, awdurdodau lleol, ymarferwyr y celfyddydau, y celfyddydau cymunedol, iechyd y cyhoedd a‟r 3ydd sector wedi bod yn werth

    chweil ac mae wedi fy ngalluogi i godi proffil Therapïau‟r Celfyddydau yn y bwrdd iechyd, gyda phwyslais ar gydweithredu cadarnhaol a datblygu ystod eang o ymyriadau‟r celfyddy-

    dau. Mae‟n gweithredu fel enghraifft o arfer da yng Nghymru ac rwy‟n ddiolchgar am fod yn y sefyllfa i arwain y mentrau hyn yn lleol. Mae derbyn y wobr hon gan Lywodraeth Cymru yn gydnabyddiaeth ragorol!”

    Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau yn Dda

    Mae cynnwys defnyddwyr gwasanaethau a‟u gofalwyr yn dda yn fater pwysig i seicolegwyr

    Cymru – maent bellach wedi gweithredu ar y geiriau trwy eu cynnwys mewn cyfarfodydd, eu cael i awgrymu gwelliannau i raglenni triniaeth y maent yn eu cyflenwi a helpu i ddewis

    seicolegwyr clinigol y dyfodol. Mae cangen Cymru o‟r Is-adran Seicoleg Glinigol yn gosod esiamplau rhagorol trwy gymryd

    sylw rheolaidd o farn a chyfraniadau Simon Mudie a Garry W.Gibbs, sy‟n cynrychioli defnyddwyr y gwasanaeth a‟u gofalwyr ac elusennau iechyd meddwl fel Journeys, MIND a‟r

    Gymdeithas Ddeubegynol. Mae Dr Jenny Hunt, cadeirydd cangen Cymru, seicolegydd clinigol sy‟n helpu i hyfforddi

    aelodau newydd, yn credu‟n gryf bod budd i gynnwys defnyddwyr y gwasanaeth a‟u gofalwyr am ei fod yn ei helpu hi i wella‟r gwasanaeth y mae‟n ei gyflenwi.

    Dywedodd Dr Hunt: “Cred Is-adran Seicoleg Glinigol Cymru ei fod yn bwysig deall barn y cyhoedd a chleifion am eu profiadau yn ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl a seicoleg

    a bod cynnwys pobl sydd wedi cael profiad o wasanaethau o‟r fath yn ffordd werthfawr o wneud hyn. Mae hyn yn llywio arfer gorau, sut i wella ein hymarfer, mae‟n ein helpu ni i

    feddwl am yr hyn y mae pobl ei eisiau a sut i fodloni‟r anghenion hynny.”

  • Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 16 Rhagfyr 2011

    6

    Mae Simon a Garry yn mynychu cyfarfodydd pwyllgor yn aml a chânt eu hannog i awgrymu

    syniadau a gwelliannau newydd. Aeth Garry i gyfarfod strategaeth cenedlaethol yr Is-adran Seicoleg Glinigol yn Belfast ym mis Mehefin i gynrychioli Cymru gyda Jenny lle‟r amlinellodd

    y cadeirydd, yr Athro Peter Kinderman, rai o‟r prif heriau y mae seicolegwyr Cymru‟n eu hwynebu.

    Dywedodd: “Mae pob cenedl ddatganoledig yn ystyried cynnwys “unrhyw ddarparwr bodlon” yn sefydliadau‟r trydydd sector, a dewis a chystadleuaeth wedi eu rheoleiddio yn y GIG. Mae

    pob cenedl ddatganoledig yn mynd i‟r afael â monitro canlyniadau a mesur newid, yr her i ddarparu ymyriadau sydd wedi eu cymeradwyo gan NICE, comisiynu o dan arweiniad meddygon teulu neu amlddisgyblaethol, costau enfawr iechyd meddwl ar gynhyrchiant ac

    unigolion a chyfyngiadau‟r triniaethau sydd ar gael.”

    Cymerodd Garry ran mewn gweithdai i drafod gwella‟r ffordd y mae cymdeithas yn cyfathrebu a gwnaeth awgrymiadau ymarferol.

    Gan ystyried lles, dywedodd Peter Kinderman fod yr hyn sy‟n bwysig i ni fel bodau dynol yn cynnwys ystod eang o faterion - perthynas gymdeithasol (cymdeithasol, rhieni, cariadus),

    iechyd meddwl, iechyd corfforol, diogelwch corfforol - bod yn rhydd rhag troseddu ac ofn troseddu - tai, addysg, cyflogaeth, chwaraeon a hamdden, y celfyddydau a diwylliant, ac

    ysbrydolrwydd...‟

    Cyllid yn newyddion ‘MAWR’ i Gymdeithas Ponthafren

    £336, 314 gan y Gronfa Loteri Fawr

    Mae Cymdeithas Ponthafren, sy‟n hybu iechyd a lles

    meddwl cadarnhaol yn Sir Drefaldwyn, wedi cael £336,314 dros gyfnod o dair blynedd, gan raglen Pobl a Lleoedd y

    Gronfa Loteri Fawr. Bydd y prosiect yn ymestyn yn syl-weddol y gwasanaethau cyfredol ar gyfer pobl â phroble-mau iechyd meddwl yng Ngogledd Powys, yn cynnwys

    ymestyn oriau agor Canolfan Allgymorth y Gymdeithas yn y Trallwng a darparu gwasanaeth cwnsela ac argyfwng y

    tu allan i oriau yn y Drenewydd a‟r Trallwng. Mae‟r sefy-dliad hwn, sydd wedi ennill sawl gwobr, wedi ei leoli yn y Drenewydd ac mae Canolfan Allgymorth yn y Trallwng a

    Grŵp Allgymorth yn Llanidloes.

    Mae‟r Gymdeithas yn darparu gwasanaeth hanfodol i gefnogi pobl leol â phroblemau iechyd meddwl o unrhyw fath, fel iselder a gorbryder, a‟r rheiny sydd wedi eu hynysu neu eu hallgáu. Maent yn cynnig ystod eang o gyrsiau/hyfforddiant yn amrywio o feithrin hyder i

    sgiliau TG ac yn cynnig amgylchedd croesawgar i bobl alw heibio am sgwrs neu i ymlacio yn eu gerddi hyfryd.

    Dywedodd Tim Halford, Cadeirydd Ponthafren, “Mae‟r newyddion hwn yn rhagorol – mae

    dyfarniad y Loteri yn dangos y cyfraniad y mae Ponthafren wedi ei wneud i gymuned Gogledd Powys dros y blynyddoedd ac mae‟n deyrnged wirioneddol i wirfoddolwyr a chefnogwyr niferus Ponthafren a‟r rheiny sy‟n tywys ac yn gweithio i‟r sefydliad. Bydd yn ein

    galluogi ni i gynyddu oriau agor y gwasanaeth yn y Trallwng, datblygu ymhellach y gwaith o gyflenwi‟r cymorth adferiad un i un ar gyfer unigolion ac ymestyn gwasanaethau‟r Ganolfan

    yn y Drenewydd, a fydd yn cynnwys oriau agor hwy ar gyfer cymorth mewn argyfwng / y Tu

  • Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 16 Rhagfyr 2011

    7

    Allan i Oriau a gwasanaethau cwnsela parhaol yn y ddwy ganolfan.

    Mae‟r rhaglen Pobl a Lleoedd yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 ac £1 miliwn ar gyfer ystod

    eang o brosiectau cymunedol. Am fwy o wybodaeth am y rhaglen Pobl a Lleoedd a sut y gallwch wneud cais am gyllid, ewch i http://www.biglotteryfund.org.uk/prog_people_places

    Cysylltwch â: Nicky Morris, Cydlynydd neu Jane Powell, Swyddog Datblygu Ffôn: 01686 621586

    Ebost: [email protected]

    Sesiynau therapi coetir gyda Choed Lleol yn gwella iechyd cleifion

    Mae ymweld â choetir lleol yn cael ei “ragnodi” fel rhan o‟r

    Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) er mwyn rhoi cyfle i wneud ymarfer corff trwy

    weithgareddau coetir er mwyn brwydro yn erbyn amrywiaeth o gyflyrau iechyd cronig fel iselder, osteoarthritis, diabetes a phroblemau‟r galon.

    Caiff y prosiect Coed Actif Cymru, sy‟n cael ei redeg gan

    Bartneriaeth Coed Lleol, ei ariannu gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ac mae‟n seiliedig ar allu coetiroedd i wella iechyd a lles trwy leihau straen a rhoi cyfle i wneud ymarfer corff.

    Mae‟r prosiect yn cynnwys coetir yn Aberystwyth,

    Ceredigion, a Threherbert yn Rhondda Cynon Taf. Yn ogystal â‟r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i

    Wneud Ymarfer Corff, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac atgyfeiriadau gan grwpiau iechyd meddwl, fel MIND yn

    Aberystwyth, gall pobl â chyflyrau cronig atgyfeirio‟u hunain i‟r therapi coetir hefyd.

    Dywedodd Mair Jones, o Aberystwyth, sy‟n dioddef o ME, a elwir hefyd yn syndrom blinder cronig, fod cerdded mewn coetir wedi dod yn rhan o‟u threfn

    wythnosol ers cael ei hatgyfeirio i‟r cynllun.

    "Rwyf wedi cael llawer o fudd o wneud gweithgaredd rheolaidd yn yr awyr agored yn wythnosol," dywedodd.

    "Mae bellach yn rhan o’m trefn wythnosol ac nid yw’n dibynnu ar y tywydd, am fod cael lloches yn y coed ar ddiwrnod glawiog gyda chwmni yn rhan

    o’r hwyl." Mae rhaglen 16 wythnos dros y gaeaf newydd gael ei lansio

    mewn coetiroedd lleol, i ychwanegu at lwyddiant cyrsiau‟r gwanwyn a‟r haf, pan fynychodd dros 80 o bobl.

    Mae‟r sesiynau‟n cynnwys gweithgareddau fel cerdded Nordig, sgiliau gwaith coed gwyrdd, sgiliau byw yn y gwyllt,

    http://www.biglotteryfund.org.uk/prog_people_placesmailto:[email protected]

  • Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 16 Rhagfyr 2011

    8

    Adnabod planhigion ac anifeiliaid, cynnau tân a gwneud te ar dân agored – neu gerdded

    drwy‟r coetiroedd a‟u mwynhau. Yn Nhreherbert ceir grwpiau‟n seiliedig ar ddefnyddio‟r amgylchedd naturiol i wneud ymarfer corff a grŵp cadwraeth sy‟n cael ei gynnal mewn

    partneriaeth â BTCV. Dywedodd Zena Wilmot, Cydlynydd Partneriaeth Coed Lleol, “Rydym oll yn gwybod bod

    ymarfer corff yn dda i ni, ond nid yw mynd i’r gampfa’n addas i bawb.

    “Mae’r prosiect hwn wedi dangos y gall cerdded neu fod yn egnïol mewn coetiroedd wella iechyd a lleihau straen yn ogystal â datblygu diddordebau, sgiliau a chael llawer o hwyl.”

    Am fwy o fanylion am y gweithgareddau sy‟n cael eu cynnal, cysylltwch â:

    Zena Wilmot yng Nghoed Lleol ar 01654 700061 neu [email protected]

    Digwyddiadau i Ddod

    Sgyrsiau Gwrando Mind Cymru

    Amrywiol

    Amrywiol

    Mae Mind Cymru yn cynnal cyfres o Sgyrsiau Gwrando ledled Cymru ym mis Tachwedd / Rhagfyr 2011. Mae‟r digwyddiadau hyn i gyd yn ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl yn eich ardal chi.

    Am fwy o wybodaeth cliciwch yma

    Hyfforddiant Rheoli Achosion Cadw Swydd

    6—7 Rhagfyr 2011, Glasgow

    10—11 Ionawr 2012, Bryste 21—22 Chwefror 2012, Llundain

    Digwyddiad hyfforddi dau ddiwrnod hanfodol ym maes cyflwyno gwasanaethau cadw swydd effeithiol.

    Mae‟r hyfforddeion yn caffael gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau trwy gymysgedd bywiog ac

    ysgogl o ddarlithoedd, chwarae rôl a gwaith grŵp arbrofol trwy gydol y cwrs. I weld cynnwys y cwrs a ffurflen archebu, cliciwch yma

    mailto:[email protected]://www.iechydmeddwlycyhoedd.org/w-events.cfm?orgid=749&id=5621http://www.centrevents.co.uk/pdf/rb_training.pdf

  • Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 16 Rhagfyr 2011

    9

    1 Chwefror 2012

    Ystafell Gyfarfod y BSA, Imperial Wharf, Llundain

    Ymchwilio i Hapusrwydd: Heriau Damcaniaethol a Methodolegol Mae Grŵp Astudio Hapusrwydd Cymdeithas Gymdeithasegol Prydain yn gwahodd

    gwyddonwyr cymdeithasol i gyflwyno crynodebau ar gyfer eu cynhadledd ddydd a gynhelir yn faun â‟r nod o archwilio‟r heriau damcan.

    Am fwy o wybodaeth cliciwch yma

    Plant Gwrthdaro: Darys Argyfwng Byd-eang NEET

    26—28 Mawrth 2012

    Gwesty’r Europa, Belfast, Gogledd Iwerddon

    Mae Plant Gwrthdaro yn gynhadledd arloesol sy‟n dod ag arfer gorau byd-eang ac arbenigwyr y byd ynghyd i fynd i‟r afael â‟r argyfwng cynyddol mewn addysg a diweithdra ymysg ieuenctid.

    Ar draws y byd, mae llawer gormod o bobl yn dod yn oedolion heb unrhyw addysg,

    cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Mae‟r gynhadledd unigryw hon y dod ag arbenigwyr y byd ynghyd ac yn arddangos atebion

    ymarferol i‟r broblem o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

    Am fwy o wybodaeth cliciwch yma

    Digwyddiadau i Ddod

    Cynhadledd Ddydd Grŵp Astudio Hapusrwydd Cymdeithas Gymdeithasegol Prydain

    http://www.iechydmeddwlycyhoedd.org/w-events.cfm?orgid=749&id=5637http://www.iechydmeddwlycyhoedd.org/w-events.cfm?orgid=749&id=5474

  • Hybu Iechyd Meddwl Cymru Rhifyn 16 Rhagfyr 2011

    10

    Cyfraniadau i'r cylchlythyr

    Os hoffech gyfrannu i rifynnau o Hybu Iechyd Meddwl Cymru

    yn y dyfodol cysylltwch â

    Marie Griffiths

    14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol

    Caerdydd

    CF11 9LJ

    Ffôn: 029 2022 7744

    EBost: [email protected]

    Cofrestrwch Am ddim

    I ymuno â'r rhwydwaith ewch i wefan Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl

    Cymru Gyfan a llenwch ffurflen fer ar-lein.

    www.iechydmeddwlycyhoedd.org

    Cedwir eich manylion yn gwbl gyfrinachol.

    Fodd bynnag, os hoffech ganslo eich tanysgrifiad i Hybu Iechyd

    Meddwl Cymru

    e-bostiwch [email protected]

    mailto:[email protected]://www.iechydmeddwlycyhoedd.org/mailto:[email protected]