Hafan - Gofal Cymdeithasol Cymru | Gofal Cymdeithasol Cymru · Web viewUwch Swyddog Cofrestru -...
Transcript of Hafan - Gofal Cymdeithasol Cymru | Gofal Cymdeithasol Cymru · Web viewUwch Swyddog Cofrestru -...
Uwch Swyddog Cofrestru - pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr
Gofal Cymdeithasol Cymru
Dyddiad Cau: Dydd Sul 15 Tachwedd 2020 hanner nos.
Cyfweliadau: Wythnos yn cychwyn 23 Tachwedd 2020.
Cynnwys:
· Pwy ydym a’r hyn rydym yn ei wneud
· Sut rydym yn gweithio
· Gwybodaeth allweddol am y swydd
· Buddion staff
· Sut i ymgeisio
· Disgrifiad swydd a manyleb person
· Ffurflen gais
Pwy ydym a’r rydym yn ei wneud
Ein nod yw sicrhau bod pobl yng Nghymru'n gallu galw ar weithlu gofal cymdeithasol o safon uchel sy'n darparu gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion yn llawn.
Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, a gydsefydlid i arwain gwelliant ym maes gofal cymdeithasol.
Rydym yn:
· pennu safonau ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol, gan eu gwneud yn atebol am eu gwaith
· datblygu'r gweithlu fel bod ganddynt yr wybodaeth a'r sgiliau i roi'r gofal a'r cymorth gorau
· gweithio gydag eraill i wella gwasanaethau ar gyfer meysydd sy'n cael eu hystyried yn flaenoriaeth, megis gofal a chymorth yng nghartrefi pobl
· pennu blaenoriaethau ar gyfer ymchwil i gasglu tystiolaeth am yr hyn sy'n gweithio'n dda
· rhannu arfer da gyda'r gweithlu fel eu bod yn gallu rhoi'r gofal gorau
· darparu gwybodaeth am ofal a chymorth ar gyfer y cyhoedd, y gweithlu a sefydliadau eraill.
Sut rydym yn gweithio
Rydym yn disgwyl i’n staff, aelodau ein Bwrdd ac unrhyw un sy’n gweithio ar ein rhan ymddwyn mewn ffordd sy’n dangos ein gwerthoedd.
Mae ein gwerthoedd yn golygu ein bod:
· yn parchu pawb – rydym yn gweld pobl fel unigolion ac yn trin pawb ag urddas a pharch.
· yn mynd ati mewn modd proffesiynol - rydym yn gweithredu'n gyfrifol ac yn y ffordd gywir, gan ddwyn ein gilydd i gyfrif.
· wastad yn dysgu – rydym yn credu mewn gwella ein hunain a chynorthwyo eraill i fod y gorau y gallwn fod.
· yn cynnwys pobl – rydym yn annog ac yn galluogi pawb i gydweithio.
Rydym yn ymrwymedig i'r canlynol:
· bod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog
· gwerthfawrogi amrywiaeth a gwella cyfleoedd i bawb
· cynnwys pobl Cymru yn ein ffordd o weithio
· gwrando ar eich adborth
· pennu safonau uchel o ran gwasanaethau cwsmeriaid
· cyhoeddi gwybodaeth a chael mynediad ati
· gwella ein perfformiad ni ein hunain.
Gwybodaeth allweddol am Cofrestru
Rydym yn cadw Cofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym yn cofrestru gweithwyr cymdeithasol, myfyrwyr gwaith cymdeithasol, rheolwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr gofal plant preswyl a gweithwyr gofal cartref. Mae dros 34,000 o bobl ar ein Cofrestr.
Ein rôl yw sicrhau bod pawb ar y Gofrestr:
· â chymwysterau priodol
· yn addas yn gorfforol ac yn feddyliol i ymarfer
· â'r cymeriad a'r cymhwysedd
· yn dilyn y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol (y Cod) a chanllawiau ymarfer ar gyfer eu rôl
· yn bwriadu ymarfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae'n gyfnod cyffrous iawn i ymuno â'r tîm gan ein bod wedi cwblhau cofrestriad gweithwyr gofal cartref yn ddiweddar, ac mae'r Gofrestr bellach ar agor i weithwyr cartrefi gofal i oedolion. Disgwyliwn i'r Gofrestr gynyddu i dros 50,000 o unigolion erbyn 2022 pan ddaw cofrestru'n orfodol i'r grŵp hwn.
Mae rhagor o wybodaeth am y broses gofrestru ar gael ar ein gwefan ac yn y fideo hwn
Ein Tîm Cofrestru
Rydyn ni’n cynnal a chadw’r Gofrestr trwy brosesu ffurflenni pobl sydd yn dod ar y gofrestr a cheisiadau adnewyddu.
Mae cofrestru wedi cael ei wneud o dair tîm llai: Ceisiadau, Pobl Cofrestredig ac Ymholiadau. Goruchwylir y timau hyn gan dîm arweinyddiaeth cofrestru fach. Mae rôl yr Uwch Swyddog Cofrestru yn rhan o'r tîm arweinyddiaeth hwn.
Mae gennym enw da am ddosbarthu gwasanaeth cwsmer rhagorol, ac yn gweithio gyda’n gilydd i wneud yn siwr bod y Gofrestr yn cael ei reoli yn effeithiol.
Mae ein gwaith yn newid trwy’r amser a bydd cyfleoedd i weithio gyda staff o gwmpas y sefydliad.
Mae'r Gofrestr yn cynyddu sy'n golygu bod y tîm cofrestru yn mynd yn fwy wrth i ni gefnogi mwy o bobl i gofrestru.
Gwelwch ein fideo: Cwrdd y Tîm
Gwybodaeth am y swydd
Uwch Swyddog Corfrestru
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain cynllunio busnes a baich gwaith y Tîm Cofrestru. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod prosesau busnes yn symlach, llunio gwybodaeth rheoli i amlygu gwelliannau, ac arwain Swyddogion Tîm a’u timau wrth gyflawni’r swyddogaethau cofrestru sylfaenol. Byddwch yn sicrhau bod y tîm cofrestru yn cydymffurfio â deddfwriaeth, yn monitro ein heffeithlonrwydd ac yn gweithio gyda’r rheolwr cofrestru i gyflawni ein hamcanion allweddol dros y ddwy flynedd nesaf a’r tu hwnt.
Bydd ffocws gennych ar gynllunio at y dyfodol ac, yn benodol, ar sut gall y Tîm Cofrestru barhau i wella’n gweithrediadau i sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaeth o ansawdd uchel i’n cwsmeriaid. Prif gyfrifoldeb deiliad y swydd fydd cofrestru grwpiau newydd ar y Gofrestr ac mae disgwyl y byddwch yn rheolwr prosiect ar ffrydiau gwaith allweddol er mwyn cyfrannu at gyflawni’r gwaith hwn.
Diben allweddol arall y rôl hon yw cefnogi’r sector trwy ddigwyddiadau wyneb yn wyneb. Bydd hyn yn cynnwys gorfod teithio’n rheolaidd ledled Cymru, ar fyr-rybudd weithiau, i baratoi a chynnal sesiynau briffio a chymorth ymarferol ar gofrestru.
Buddion staff
Credwn fod gweithlu iach a hapus yn weithlu cynhyrchiol, ac rydym yn chwilio’n gyson am ffyrdd newydd i ysgogi ac ennyn diddordeb ein gweithlu.
Credwn ein bod yn cynnig telerau ac amodau ardderchog, gan gynnwys:
· Gwyliau blynyddol hael o 28 diwrnod + 3 diwrnod braint + 8 gŵyl y banc (Mae hyn yn cynyddu i 29 diwrnod ar ôl 3 mlynedd o wasanaeth a 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth).
· Ein oriau cytundebol safonol yw 9yb – 5yp dydd Llun i ddydd Gwener, ond rydym yn gweithredu mewn ffordd hyblyg
· Aelodaeth i gynllun pensiwn Llywodraeth Leol
· Fframwaith ymsefydlu, dysgu a datblygu cynhwysfawr
· Polisïau cyfeillgar i deuluoedd
· Cynllun beicio i'r gwaith
· benthyciadau teithio i'r gwaith
Rydym wedi ein cydnabod fel Buddsoddwr Mewn Pobl ar Lefel Arian,
Cysylltwch â ni
Os nad ydym wedi ateb eich cwestiynau i gyd, neu os hoffech siarad â rhywun i gael gwybod ychydig mwy am y rôl neu amdanom ni, cysylltwch â Dean John, Rheolwr Cofrestru.
Ffôn: 02920 780 655
Ebost: [email protected]
Mae'r disgrifiad swydd llawn a'r fanyleb person ar gael isod.
Dychwelwch eich ffurflen gais i [email protected]
Swydd:
Uwch Swyddog Cofrestru
Rhif y Swydd:
C140
Lleoliad:
Cymru gyfan gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llanelwy
(yn gweithio gartref ar hyn o bryd)
Band Cyflog:
B1 £34,555 – £38,813
Yn Rheolwr Llinell ar (ar y cyd â chydweithiwr sy’n Uwch Swyddog Cofrestru):
Swyddogion Tîm
Yn adrodd i:
Rheolwr Cofrestru
Cyd-destun:
Dyma amser cyffrous i ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, a’r tîm cofrestru yn benodol, wrth i ni barhau i ehangu ein cofrestr i grwpiau newydd o weithwyr gofal cymdeithasol. Mae maint y Gofrestr wedi treblu dros y 12 mis diwethaf a byddwn yn gweld cynnydd sylweddol pellach dros y ddwy flynedd nesaf, wrth i ni gofrestru grwpiau pellach, gan gynnwys gweithwyr cartrefi gofal i oedolion. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni’r darn uchelgeisiol hwn o waith.
Diben y Swydd:
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain cynllunio busnes a baich gwaith y Tîm Cofrestru. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod prosesau busnes yn symlach, llunio gwybodaeth rheoli i amlygu gwelliannau, ac arwain Swyddogion Tîm a’u timau wrth gyflawni’r swyddogaethau cofrestru sylfaenol. Byddwch yn sicrhau bod y tîm cofrestru yn cydymffurfio â deddfwriaeth, yn monitro ein heffeithlonrwydd ac yn gweithio gyda’r rheolwr cofrestru i gyflawni ein hamcanion allweddol dros y ddwy flynedd nesaf a’r tu hwnt.
Bydd ffocws gennych ar gynllunio at y dyfodol ac, yn benodol, ar sut gall y Tîm Cofrestru barhau i wella’n gweithrediadau i sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaeth o ansawdd uchel i’n cwsmeriaid. Prif gyfrifoldeb deiliad y swydd fydd cofrestru grwpiau newydd ar y Gofrestr ac mae disgwyl y byddwch yn rheolwr prosiect ar ffrydiau gwaith allweddol er mwyn cyfrannu at gyflawni’r gwaith hwn.
Diben allweddol arall y rôl hon yw cefnogi’r sector trwy ddigwyddiadau wyneb yn wyneb. Bydd hyn yn cynnwys gorfod teithio’n rheolaidd ledled Cymru, ar fyr-rybudd weithiau, i baratoi a chynnal sesiynau briffio a chymorth ymarferol ar gofrestru.
Ymgysylltu
· Cynllunio a pharatoi cyflwyniadau i’r sector
· Cydlynu digwyddiadau wyneb yn wyneb
· Cyflwyno digwyddiadau wyneb yn wyneb ledled Cymru
Cynllunio a Gwella Busnes
· Arwain ar gynllunio busnes a baich gwaith
· Arwain ar wella busnes, gan gynnwys amlygu cyfleoedd Technoleg Gwybodaeth, a sicrhau bod adolygiadau rheolaidd o’r gweithdrefnau’n cael eu cynnal
· Defnyddio gwybodaeth a deallusrwydd yn effeithiol i gyfrannu at wneud penderfyniadau a chynllunio
· Ochr yn ochr â’r Rheolwr Cofrestru, arwain ar gynllunio i gofrestru grwpiau newydd. Bydd hyn yn cynnwys bod yn rheolwr prosiect ar ffrwd waith i gyflawni amcanion cytunedig.
· Cyfrifoldeb cyffredinol am gynnal polisïau cofrestru, prosesau busnes a chyfarwyddiadau gwaith
· Arwain proses cynhadledd achosion cofrestru, sy’n cynnwys trefnu’r cyfarfod, paratoi bwndeli, cofnodi’r cyfarfod, anfon hysbysiadau o’r penderfyniad, casglu ystadegau ac adrodd yn rheolaidd
· Cynrychioli’r tîm cofrestru mewn gwrandawiadau fel bo’r angen
Datblygiad a Pherfformiad Tîm
· Cyfrannu at reoli a datblygu tîm y staff a’r adnoddau a neilltuir iddo, gan gymryd rôl flaenllaw mewn sefydlu, goruchwylio, hwyluso hyfforddiant ac arfarnu aelodau’r tîm cofrestru.
· Ochr yn ochr â’r Rheolwr Cofrestru, arwain ar recriwtio a chadw ar gyfer y tîm cofrestru. Mae hyn yn cynnwys cynllunio adnoddau.
· Rheoli Swyddog(ion) Tîm a chymryd cyfrifoldeb cyffredinol am eu meysydd gwaith
· Arwain ar reoli perfformiad y tîm cofrestru
Ysgrifennu Adroddiadau a Rheoli Data
· Cynhyrchu, dadansoddi a lledaenu data cofrestru. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu adroddiadau ystadegol i’r tîm, y sefydliad a’r sector
· Sicrhau bod data’r Tîm Cofrestru yn destun rheolaeth ffurfweddu drylwyr
Rheoli Newid
· Llunio cynlluniau cyfathrebu mewnol ac allanol
· Arwain ar weithredu unrhyw newidiadau sy’n cael eu cyflwyno o ddeddfwriaeth newydd
Rheoli Rhanddeiliaid
· Gweithio’n agos gyda’n partneriaid i gyflawni amcanion busnes cyffredin
· Cysylltu a rheoli’r berthynas â’n rhanddeiliaid, gan gynnwys cyflogwyr
· Rhoi cyflwyniadau ar gofrestru i gynulleidfaoedd perthnasol
· Gosod a chynnal safonau gwasanaeth cwsmeriaid ar gyfer ymholiadau ac ymdrin ag ymatebion
Cyfryngau digidol
· Dadansoddi effaith ein sianeli digidol, e.e. gwefan, porth ar-lein, Twitter, e-fwletinau
· Cyfrifoldeb cyffredinol am wneud y mwyaf o’r defnydd o’n gwasanaethau ar-lein
· Cymryd rhan yn y datblygiad a’r gwerthusiad parhaus o’r system TGCh
Cyffredinol
· Dirprwyo ar ran y Rheolwr Cofrestru, fel bo’r gofyn
Manyleb yr Unigolyn:
Meini Prawf
Hanfodol neu Ddymunol
Profiad:
Paratoi a rhoi cyflwyniadau
Profiad o arwain ar amlygu a rhoi gwelliannau i fusnes ar waith
Profiad o arwain a rheoli unigolion a thimau i gyflawni’r canlyniadau a ddymunir
Profiad o ddefnyddio data i gyfrannu at wneud penderfyniadau a chynllunio
Profiad o ddadansoddi a dosbarthu data
Profiad o reoli newid mewn sefydliad
Profiad o wneud y mwyaf o ddefnyddio gwasanaethau ar-lein
Profiad o gynnal polisïau, prosesau busnes a chyfarwyddiadau gwaith
Profiad o reoli prosiectau
Profiad o werthuso prosiectau
Sgiliau:
Parodrwydd i deithio ledled Cymru i roi cyflwyniadau, weithiau ar fyr-rybudd
Gallu i arwain ar gynllunio busnes a baich gwaith
Gallu i lunio adroddiadau i’w hadolygu gan reolwyr
Cymhwyster rheoli prosiectau neu reoli newid cydnabyddedig
Gallu cyflwyno tystiolaeth i gynulleidfa i’w helpu i wneud penderfyniad gwybodus
Y gallu i gyflawni pob tasg yr un mor gymwys yn y Gymraeg a’r Saesneg
H
H
H
H
H
H
H
H
D
D
H
H
H
D
H
D
Nodiadau:
1. Mae’r swydd-ddisgrifiad hwn yn disgrifio prif ddiben a phrif elfennau’r swydd. Mae’n ganllaw i natur y prif ddyletswyddau fel y maent ar hyn o bryd, ond ni fwriedir iddo fod yn rhestr cwbl gynhwysfawr na pharhaol o dasgau. Mae disgwyl i ddeiliad y swydd weithio’n hyblyg ac ymateb yn gadarnhaol i anghenion busnes sy’n newid
Ffurflen gais isod
Ffurflen gais
Cyfrinachol
Swydd yr ymgeisir amdano:
Uwch Swyddog Cofrestru
Adnoddau Dynol yn unig:
Rhif Cyfeirnod yr ymgeisydd:
Ffurflen gaisCyfrinachol
A fyddech cystal â theipio neu ysgrifennu’n glir mewn inc du, gan y bydd angen llungopïo’r ffurflen hon
Manylion personol
Cyfenw - Mr/Mrs/Ms/Miss
Enw(au) Cyntaf
Cyfeiriad cartref
Rhif Ffôn
Yn ystod y dydd:
Adref:
Ffôn symudol:
e-bost:
Canolwyr
A fyddech cystal â rhoi manylion dau gyflogwr y gallem ofyn am eirda ganddynt. Rhaid i’ch cyflogwr presennol neu gyn-gyflogwr fod yn un o’r rhain - os yn berthnasol.
Gofynnir am eirda gan ganolwyr cyn y cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer.
Os na hoffech i ni gysylltu ach geirda nes ar ol y cyfweliad, ticiwch y blwch:
1. Enw:
2. Enw:
Teitl swydd:
Teitl swydd:
Cyfrifoldeb:
Cyfrifoldeb:
Cyfeiriad:
Cyfeiriad:
Cod post:
Cod post:
Ffôn:
Ffôn:
e-bost:
e-bost:
Perthnasau a ffrindiau
Oes gennych chi ffrindiau neu berthnasau sy’n gweithio i Ofal Cymdeithasol Cymru? Os felly, rhowch yr enw(au) perthnasol a’ch perthynas â’r sawl a enwir:
Statws cyfreithiol i weithio yn y DU
Oes gennych chi hawl gyfreithiol i weithio yn y DU? Oes/Nac oes
Os ‘OES’ ond bod amodau’n gysylltiedig â’r hawl honno, er enghraifft dyddiadau cychwyn neu orffen, rhowch fanylion:
Os ‘NAC OES’ pa fath o drwydded sydd ei hangen arnoch?:
Adegau nad ydych ar gael
A oes unrhyw ddyddiadau pan na fyddwch ar gael i ddod am gyfweliad yn ystod y ddeufis nesaf?
___________________________________________________________________
Addysg/Cymwysterau
Rhowch enw’r sefydliad a pha fath o sefydliad ydyw, gan ddechrau gyda’r Ysgol Uwchradd a rhestrwch y cymwysterau a enillwyd ynghyd â’r dyddiadau.
Sefydliad
Cymwysterau
Aelodaeth o gyrff proffesiynol a chymwysterau professiynol
Rhowch fanylion eich aelodaeth o gyrff proffesiynol a lefel y cymhwyster a enillwyd.
Dyddiad
Sefydliad proffesiynol
Lefel yr aelodaeth a gyflawnwyd
Hyfforddiant ychwanegol
Rhowch fanylion unrhyw hyfforddiant pellach neu arbenigol rydych chi wedi’i gwblhau neu ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Cyflogaeth
Os ydych chi’n gadael yr ysgol/coleg, dylech gynnwys manylion eich swyddi gwyliau.
Cyflogwr presennol neu ddiwethaf
Enw, cyfeiriad a natur y busnes:
Y swydd a’r cyfrifoldebau:
Dyddiadau (mis a blwyddyn) O: I:
Cyflog: (ar hyn o bryd neu pan adawsoch)
Cyfnod rhybudd (os oes angen)
Pam ydych chi eisiau gadael y swydd hon (neu pam y gwnaethoch chi ei gadael):
Cyn-gyflogwyr
Gan ddechrau gyda’r diweddaraf – parhewch ar dudalen newydd os oes angen
Enw a natur y busnes
Y swydd, eich cyfrifoldebau a’ch cyflog ar adael
Dyddiadau
mis a blwyddyn
Manyleb person
Esboniwch sut yr ydych yn cwrdd â’r meini prawf canlynol trwy gyfeirio at eich profiad blaenorol.
Nodwch dim ond adran yma’r ffurflen gais fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer y broses rhestr fer.
Ni fydd y panel yn gweld eich manylion personol, addysg a profiad gwaith yn ystod y broses o ddewis y rhestr fer.
Hanfodol
Profiad o arwain a rheoli unigolion a thimau i gyflawni’r canlyniadau a ddymunir
Profiad o arwain ar amlygu a rhoi gwelliannau i fusnes ar waith
Gallu i arwain ar gynllunio busnes a baich gwaith
Profiad o ddefnyddio data i gyfrannu at wneud penderfyniadau a chynllunio
Profiad o reoli newid mewn sefydliad
Gallu i paratoi a rhoi cyflwyniadau
Gallu cyflwyno tystiolaeth i gynulleidfa i’w helpu i wneud penderfyniad gwybodus
Sut glywsoch chi am y swydd?
Ticiwch y blwch yma os hoffech chi dderbyn unrhyw elfennau o'r broses gyfweld yn Gymraeg
Datganiad
Rwy’n cadarnhau bod manylion y cais hwn a’r dystiolaeth o gymhwysedd a ddarperir i’w gefnogi yn wir ac yn gywir hyd y gwn; ac rwy’n rhoi caniatâd Gofal Cymdeithasol Cymru brosesu, trwy gyfrwng cronfa ddata gyfrifiadurol neu ddull arall, unrhyw wybodaeth yr wyf wedi’i darparu at ddibenion cyflogaeth gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Llofnod:_________________________________Dyddiad:_____________
Dychwelwch eich ffurflen gais i [email protected]