Gwarchod Glöynnod Byw yng Nghymru Cylchlythyr Blynyddol …...barhal. 3 Gwarchod Glöynnod Byw yng...
Transcript of Gwarchod Glöynnod Byw yng Nghymru Cylchlythyr Blynyddol …...barhal. 3 Gwarchod Glöynnod Byw yng...
Gwarchod Glöynnod Byw yng Nghymru Cylchlythyr Blynyddol 2014
Britheg y Gors : G. Tordoff
Gair o Groeso a Chyflwyniad 2
Ystad Ddiwydiannol Wrecsam – cyfle a gollwyd 3
Cadwraeth Britheg y Gors yng Nghymru 4 - 5
Y Fachadain Brin a Gwyfyn Gwent 6 - 7
Fferm y Median 8-9
Glöynnod Byw Sir Drefaldwyn 10
Prosiectau lle gallwch chi helpu 11
Glöynnod 12-13
Yr Adroddiad ar Gyflwr Natur, flwyddyn yn ddiweddarach 14-15
2 Gwarchod Glöynnod Byw yng Blynyddol 2014
Gair o Groeso a Chyflwyniad
Croeso i rifyn 2014 o Gylchlythyr GGB Cymru. Rydym wedi cael tywydd aruthrol yr haf yma i
fwynhau glöynnod byw a gwyfynod. Gobeithio y bydd y Cylchlythyr yma’n eich ysbrydoli i fynd
allan i’w gwylio a danfon cofnodion inni o’r rhywogaethau a welwch chi, ni waeth ai ‘penboethyn
pilipalod’ ydych chi neu un sydd newydd ddarganfod byd cyffrous gwyfynod a glöynnod byw.
Dangosodd Adroddiad ‘The State of Nature’ fod llu o rywogaethau o bob math wedi dirywio, a
bod cynefinoedd pwysig wedi cael eu colli ledled gwledydd Prydain. Mae data da gennym yng
Nghymru ynghylch sut gyflwr sydd ar ein glöynnod byw, ond mae’r darlun ar gyfer gwyfynod yn
un anghyflawn: mae angen mwy o arsylwi ac arolygu.
Mae gennym adroddiad diddorol ‘Glöynnod Byw Sir Drefaldwyn’ gan Gofnodydd Glöynnod Byw
Sirol ifanc, sy’n gobeithio y bydd ‘pilipalgarwyr’ ei sir yn mynd allan i helpu i lenwi’r bylchau yn y
cofnodion – erys nifer o sgwariau 2km ar hyd Sir Drefaldwyn lle na chyflwynwyd cofnodion
ynghylch glöynnod byw erioed!
Mae Ystad Ddiwydiannol Wrecsam yn gadarnle i’r Gwibiwr Brith, ond mae dan fygythiad
oherwydd datblygiadau sy’n anwybyddu anghenion un o’n glöynnod byw mwyaf prin.
Mae gennym newyddion gwych am gaffaeliad mwyaf diweddar Gwarchod Glöynnod Byw, sef y
warchodfa ar Fferm y Median, sy’n estyniad i Warchodfa Caeau Ffos Fach ar gyfer Britheg y
Gors lle mae gwirfoddolwyr ac aelodau staff wedi bod wrthi’n gweithio’n galed.
Rydym yn arolygu ffawd Britheg y Gors ar wahanol safleoedd ledled Cymru, lle mae ambell
arwydd bod pethau ar wella i raddau. Yn Ne Ddwyrain Cymru ceir dau wyfyn sy’n brin iawn, sef y
Fachadain Brin a Gwyfyn Gwent, ond maent yn byw mewn tirweddau tra gwahanol i’w gilydd.
Mae arolygon cyffrous wedi dod o hyd i’r ddwy rywogaeth hyn mewn lleoliadau newydd eleni.
A ydych chi wedi ystyried gadael rhodd i Warchod Glöynnod Byw Cymru yn eich
ewyllys? Mae nifer gynyddol o aelodau a chyfeillion yn dewis cefnogi GGBC yn y
modd yma. Rydym yn croesawu pob rhodd, fawr a mân, gan ei bod yn gwneud
cyfraniad hanfodol a pharhaus at gadwraeth glöynnod byw a gwyfynod. Mae
cymynroddion o’r fath yn cyfrif am fwy na thraean o incwm gwirfoddol y mudiad, ac
maent yn gwneud gwahaniaeth y byd i gwmpas y gwaith y gallwn ni ei gyflawni.
Yn ogystal â gadael rhoddion i’ch rhai annwyl yn eich ewyllys felly, a wnewch chi ystyried gadael
cymynrhodd i Warchod Glöynnod Byw, i’n helpu ni i sicrhau y bydd glöynnod byw a gwyfynod yn parhau i
ffynnu yn y blynyddoedd sy’n dod.
I ddysgu rhagor am sut i fynd ati i adael rhodd i Warchod Glöynnod Byw gan gydrannu eich cariad at löynnod byw a
gwyfynod â’r cenedlaethau a ddaw, galwch Helen Corrigan ar 01273 453313 neu e-bostiwch hcorrigan@butterfly-
conservation.org neu ysgrifennwch iddi at: Butterfly Conservation, Manor Yard, East Lulworth, Wareham, Dorset
BH20 5QP. Diolch o galon am eich cefnogaeth
Eich rhodd barhal
3 Gwarchod Glöynnod Byw yng Blynyddol 2014
Mae’n bosibl y bydd arch-garchar newydd yn golygu colled cyfle i helpu un o gytrefi pwysicaf y Gwibiwr Brith yng Nghymru. Mae Ystad Ddiwydiannol Wrecsam yn dirwedd allweddol i’r glöyn byw prin hwn yn y Gogledd, ac yn wir
yn un o gwta pump ardal allweddol i’r rhywogaeth ledled Cymru.
Cyflwynodd Gwarchod Glöynnod Byw Cymru wrthwynebiad i’r cais cynllunio amlinellol gan fod yr ardal
eang hon o Dir Llwyd, fel llawer ardal arall ar yr Ystad Ddiwydiannol, o werth amgylcheddol fawr. Mae’r
clytwaith hwn o dir noeth, glaswelltir a phrysgwydd yn adnodd hanfodol bwysig, yn enwedig i drychfilod,
nad oes ei debyg i’w gael ar y dirwedd amaethyddol o’i gwmpas nac i’r un graddau chwaith mewn
ardaloedd eraill ar yr Ystad sydd heb gael eu datblygu. Byddai datblygiad yn golygu adeiladu ar fwy na
60% o’r safle, a’r gweddill yn cael ei roi o’r neilltu i leddfu’r effeithiau ecolegol niweidiol.
Mae Gwarchod Glöynnod Byw yn derbyn bod rhaid datblygu’r ystad ddiwydiannol, ond cred y dylid
gweithredu’n briodol i leddfu’r effeithiau amgylcheddol negyddol ar fioamrywiaeth, a bod angen talu
iawndal lle nad yw’n bosibl gwneud hyn. Credwn yn daer y gall rhywogaethau megis y Gwibiwr Brith fod
yn elfen lwyddiannus o dirwedd ddiwydiannol, yn hytrach na rhwystr rhag datblygiad.
Ond mae’r cynllun lliniaru sydd wedi cael ei roi gerbron yn un truenus o annigonol a allai arwain at dranc
rhywogaethau prin megis y Gwibiwr Brith yng Ngogledd Cymru, yn lle helpu i ddiogelu eu poblogaethau.
Mae Gwarchod Glöynnod Byw a sawl sefydliad amgylcheddol arall wedi cynnal trafodaethau gyda
Chyngor Sir Wrecsam cyn bod caniatâd cynllunio’n cael ei roi, ond serch hynny mae’r datblygiad
arfaethedig wedi derbyn golau gwyrdd.
Mae Ystad Ddiwydiannol Wrecsam yn cynnig cyfle pwysig i ddangos ei bod hi’n bosibl atgyfnerthu a
chadarnhau ecoleg yr ardal ochr yn ochr â datblygiad. Mae’n wir gywilydd y bydd y datblygiad hwn a
ariennir gan y cyhoedd yn methu â manteisio ar y cyfle hwn, gan sathru dan draed y cyfarwyddydd ar
arferion gorau y mae Gwarchod Glöynnod Byw Cymru ac eraill wedi’i ddatblygu’n flaenorol ar gyfer yr
Ystad mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Wrecsam, gyda golwg ar hyrwyddo datblygiad conomaidd
tra’n amddiffyn ecoleg a thirwedd yr Ystad a’r ardal ehangach ar yr un pryd.
Ystad Ddiwydiannol Wrecsam – cyfle a gollwyd Russel Hobson Pennaeth Cadwraeth, Cymru
Cynefin olynol cynnar ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam. Ar y dde: Gwibiwr Brith. C. Williams
4 Gwarchod Glöynnod Byw yng Blynyddol 2014
Mae’r erthygl hon yn manylu ar ein
rhaglenni arolygu a chadw golwg ar
draws Cymru, gan roi esiamplau hefyd
o waith cadwraethol ar raddfa’r
dirwedd er lles Britheg y Gors. Mae’r
rhywogaeth hon yn dal i ddirywio yng
Nghymru, ac mae’n flaenoriaeth yng
ngwaith Gwarchod Glöynnod Byw
Cymru (GGBC). Dros y blynyddoedd
diwethaf rydym wedi llwyddo i ehangu
amrediad y tir lle y cyflawnir gwaith
arolygu a monitro, tra’n canlyn arni â
gwaith adfer cynefin mewn dwy
dirwedd o bwys.
Cyflwr Britheg y Gors yng Nghymru
Canfu arolwg ar gofnodion safleoedd Britheg y Gors fod llawer o safleoedd lle roedd y rhywogaeth wedi
cael ei chofnodi ers 1990 heb gael yr un ymweliad ers 2005. Yn 2012 a 2013, ail-ymwelwyd â 96 o
safleoedd i weld a oedd hi’n bresennol o hyd. Cofnodwyd Britheg y Gors ar naw safle, ond yn 2012 yr
ymwelwyd â’r rhan fwyaf o’r safleoedd, sef blwyddyn wael o safbwynt y glöyn hwn. Y peth calonogol
oedd bod 46 o leiaf o’r 94 o safleoedd a arolygwyd yn dal i gynnwys ardaloedd sylweddol o’i gynefin
epilio; golyga hyn eu bod yn elfennau pwysig o feta-boblogaethau Britheg y Gors, hyd yn oed os nad
yw’n bresennol ynddynt ar hyn o bryd. (Mae meta-boblogaeth yn grŵp o wahanol boblogaethau ar
draws tirwedd benodol sydd ar wahân i’w gilydd ond yn rhyngweithio, gan fod rhai unigolion yn symud
rhyngddynt). Ar sail y gwaith hwn rydym wedi sefydlu bod 127 o gytrefi o’r glöyn hwn yng Nghymru.
Rydym yn trefnu rhaglen dreiglol o ymweliadau bellach i sicrhau bod pob safle’n cael ymweliad o leiaf
unwaith bob pum mlynedd.
Mae gwyliadwriaeth flynyddol yn dangos cynnydd
yn niferoedd Britheg y Gors ers 2008 yng Nghymru
Rydym wedi datblygu rhaglen wyliadwriaeth hefyd sy’n
cwmpasu 16 o safleoedd craidd erbyn hyn. Mae’n dibynnu
ar gyfrif gweoedd larfaol o flwyddyn i flwyddyn ynghyd â
data eraill a gesglir mewn dull cyson o safleoedd ers 1993.
Mae’r safleoedd hyn yn rhoi mynegai flynyddol bellach o
helaethrwydd Britheg y Gors ar lefel Cymru gyfan, y gellir
cymharu perfformiad safleoedd penodol yn ei herbyn a’i
defnyddio’n sail ar gyfer gofynion adrodd Ewropeaidd. Mae’r
data cyfredol yn dangos ‘Tuedd ansicr’ yn helaethrwydd
gweoedd rhwng 1993 a 2013 (dirywiad o 63% mewn 20
mlynedd, nad yw’n ystadegol arwyddocaol). Serch hynny
mae arwyddion i gynnydd ysgafn ond ystadegol
arwyddocaol ddigwydd rhwng 2008 a 2013.
Cadwraeth Britheg y Gors yng Nghymru
Clare Williams y George Tordoff Swyddogion Cadwraeth
5 Gwarchod Glöynnod Byw yng Blynyddol 2014
Mae llwyddiant y rhwydwaith wyliadwriaeth yn dibynnu ar bartneriaeth effeithiol â rhychwant o
sefydliadau a gwirfoddolwyr. GGBC sy’n cydlynu’r arolygon, prosesu’r data a chynnal diwrnodau
hyfforddiant, ac mae’n rhoi adborth rheolaidd i gyfarwyddo pobl â methodoleg yr arolygon a chynyddu’r
sylw y gellir ei roi i’r feta-boblogaeth.
Gwaith adfer cynefin
Dyma drydedd flwyddyn y gwaith adfer cynefin ar dirwedd Blaenau Cwm Élai ym Morgannwg Ganol.
Cyflawnwyd gwaith clirio prysgwydd ar 10 safle i agor ardaloedd o laswelltir corsiog a gwella’r borfa.
Dechreuodd y gwaith tua diwedd 2013 ar ein gwarchodfa newydd yn Fferm y Median ym meta-
boblogaeth Mynydd Mawr yn Sir Gâr (gweler yr erthygl ar dudalen 8). Bu raid gwaredu prysgwydd
aeddfed o derfynau’r safle fel y gellid codi ffensys newydd. Helpodd gwirfoddolwyr i glirio’r sbwriel, hen
weiar a mieri ymledol a oedd yno ers degawd, gan addasu’r gwaith i sicrhau bod cynefin y pathew yn
cael ei gadw’n ddiogel.
Cyswllt: Russel Hobson [email protected]
Arianwyr/Cydweithredwyr:
Mae’r partneriaid yn y prosiect yn cynnwys Cangen De Cymru, Gwarchod
Glöynnod Byw; Cyngor Sir Gaerfyrddin;
Ymddiriedolaeth Tref Llantrisant; Cyfoeth
Naturiol Cymru; Cyngor Bwrdeistref Sirol
Rhondda Cynon Taf ac Ymddiriedolaeth
Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru
Ariennir yr arolwg a’r wyliadwriaeth gan
GGBC a Chyfoeth Naturiol Cymru. Ariennir
y gwaith adfer cynefin gan Apêl Arian
Cyfatebol GGBC; Cronfa Cymunedau
Tirlenwi cwmni Cwm Environmental; y Grid
Cenedlaethol a Chronfa Gwydnwch ac
Amrywiaeth Ecosystemau Llywodraeth
Cymru.
Brithegion y Gors :
G. Tordoff
Llinell Las: Mynegai o nifer flynyddol gweoedd larfaol Britheg y Gors
Llinell Goch: Y duedd wastataëdig yn nifer y gweoedd larfaol
6 Gwarchod Glöynnod Byw yng Blynyddol 2014
Gwyfyn tra phrin yw’r Fachadain Brin, nas gwelir
mohono ond yn Nyffryn Gwy a’r coetiroedd cyfagos am y
ffin rhwng Sir Fynwy a Swydd Gaerloyw. Bydd y larfâu’n
ymborthi ar y Bisgwydden Ddeilen Fach yn unig. Yn
2013 cyflawnodd Gwarchod Glöynnod Byw Cymru
(GGBC) yr arolwg gyntaf ar y rhywogaeth hon, gan
geisio pennu ei statws presennol. Roedd cofnodion
blaenorol o gwta pedwar safle yn Sir Fynwy: Wyndcliff, Coedwig Livox, Coedwig Fawr St Pierre a
Threllech. Gardd lle gosodir maglau’n rheolaidd yw’r safle olaf hwn, a dim ond un Fachadain Brin a
gofnodwyd yno erioed; yr awgrym felly yw iddi grwydro yno o fan arall. Wyndcliff yw’r safle ‘clasurol’ i’r
rhywogaeth, â llu o gofnodiadau diweddar; nid oedd yn flaenoriaeth felly ei arolygu. Cynhaliwyd
arolygon ar Livox a Choedwig Fawr St Pierre, lle nad oedd y gwyfyn wedi cael ei weld ers 2000 a 2004.
Ar 24 Mehefin 2013 yn yr hwyr, gosododd staff a gwirfoddolwyr GGBC 9 magl oleuni yng Nghoedwig
Fawr St Pierre, rhan o ystad goedwigoedd Llywodraeth Cymru a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Er
ei bod hi’n noson glir oeraidd, cofnodwyd 6 Bachadain Brin tra ifanc, gan awgrymu mai newydd
ddechrau ddeor yr oedd y gwyfynod hyn. Ar 1 Gorffennaf, cofnododd Dave Grundy a’i gymdeithion 22 o
Fachadennydd Prin ar yr un safle, nifer a ddangosai fod eu tymor yn cyrraedd ei frig.
Ddeuddydd ar ôl arolwg St Pierre, ar 26 Mehefin, gosodwyd 9 magl oleuni yng Nghoedwig Livox ar
noson gynhesach, fwy addas ar gyfer maglu gwyfynod. Er syndod
inni, ni ddaliwyd yr un Fachadain Brin er inni gofnodi ystod dda o
rywogaethau eraill. Mae angen parhau i osod maglau goleuni ar y
safle hwn i gadarnhau bod y gwyfyn yn dal yn bresennol.
Gwyddom bellach fod nifer dda o’r gwyfynod hyn i’w cael ar hyn o
bryd ar o leiaf ddau safle yng Nghymru, sef Wyndcliff a Choedwig
Fawr St Pierre. Ni wyddys eto beth yw eu statws yn Livox a
choetiroedd eraill lle na chynhaliwyd arolygon eto oherwydd
anhawster mynediad atynt. Rydym yn gobeithio cynnal arolygon
larfaol yn y dyfodol, gan gynnwys gwaith yn entrychion y coed, gyda
golwg ar ddeall ecoleg y gwyfyn hwn yn well.
Cynefin y Fachadain Brin, Coedwig Fawr St Pierre, G. Tordoff
Y Fachadain Brin a Gwyfyn Gwent
Yn 2013 cynhaliom arolygon ar ddau o
wyfynod gwledydd Prydain mwyaf
cyfyngedig eu cynefin: Gwyfyn Gwent
a’r Fachadain Brin. Cyfyngir y ddwy
rywogaeth i gornel dde-ddwyreiniol
Cymru ac ardaloedd cyfagos dros y
ffin, ond fe’u ceir mewn cynefinoedd
llwyr wahanol. Gwelir y Fachadain Brin
mewn cymoedd lle tyf coetiroedd
hynafol, tra bod Gwyfyn Gwent yn byw
ar rostiroedd uchel lle mae llusi duon
bach. George Tordoff sy’n disgrifio’r
arolygon a gynhaliwyd arnynt yn
ddiweddar
Fachadain Brin , C. Manley
7 Gwarchod Glöynnod Byw yng Blynyddol 2014
Am fwy na 30 mlynedd ni welid Gwyfyn Gwent ym Mhrydain ond ar un
darn o rostir mynyddig ger Abertyleri, Blaenau Gwent. Ym mis
Gorffennaf 2011, darganfuwyd ail boblogaeth 20km i ffwrdd ar Fynydd
Du, ar gefnen Mynydd y Gader/Hatterrall Ridge sy’n ffurfio’r ffin rhwng
Sir Fynwy a Swydd Henffordd. Yn sgil arolygon pellach yn 2012
gwyddom fod ei gynefin yn ymestyn i ran ganolog y gefnen 16 km o
hyd, ond ni ellid lleoli Gwyfynod Gwent ar eithafon gogleddol na
deheuol y mynydd.
Parhaodd y gwaith arolygu â’r nod o fapio cwmpas cynefin Gwyfyn
Gwent ar Fynydd Du ym 2013. Cynhaliwyd arolygon larfaol yn y
gwanwyn gan GGBC a Dave Grundy, gyda chymorth nifer o
wirfoddolwyr o Gangen De Cymru. Daeth chwiliad ar Fynydd y Gader ar 21 Ebrill o hyd i ddwy larfa’n
unig, y ddwy yn fach iawn, gan ddangos sut roedd y gaeaf a gwanwyn oer 2013 wedi arafu eu
datblygiad. Ond cafwyd un o’r larfáu hyn i’r gogledd o bob lleoliad a oedd wedi’i gofnodi o’r blaen, gan
estyn cwmpas y cynefin ar y gefnen. Ar 8 Mai, diolch i’r pum larfa a ddarganfuwyd mewn un ardal fach
estynwyd gynefin hysbys Gwyfyn Gwent sawl can metr tua’r de. Efallai taw dyma derfyn deheuol ei
ddosbarthiad ar y gefnen gan na welwyd yr un larfa ymhellach i’r de.
Rhwng y ddau chwiliad ar Fynydd y Gader, aed ati ar 25 Ebrill i chwilio ar Ben-y-Fâl ger Y Fenni, ond
mae’r methiant i ddod o hyd i larfâu Gwyfyn Gwent, ynghyd â methiant yr ymgeisiau blaenorol i gael hyd
i’r oedolion â maglau goleuni, yn awgrymu nad yw Gwyfyn Gwent yn bresennol yma.
Daeth darganfyddiad mwyaf cyffrous 2013 ar 15 Mai. Er gwaethaf y tywydd arctig (â thymheredd o 1.2°
C), daethpwyd o hyd i 21 o larfâu Gwyfyn Gwent ar y Darren Lwyd, sef y gefnen nesaf i’r gorllewin o
Fynydd y Gader. Cafwyd y cofnodion newydd ar bedair sgwâr 1km newydd rhwng 580 a 615m o
uchder. Dyma’r cofnodion epilio mwyaf gogleddol yng ngwledydd Prydain, a’r rhai cyntaf yn Sir
Frycheiniog.
Mae angen cynnal rhagor o arolygon ar Fynydd Du er mwyn
pennu hyd a lled dosbarthiad y boblogaeth. Bydd hyn yn ein
galluogi i adnabod ardaloedd allweddol y rhywogaeth a
gweithredu lle bo angen at leihau gweithgareddau niweidiol
megis llosgi a gor-bori.
Gwyfyn Gwent,
R. Morris
Dosbarthiad hysbys Gwyfyn
Gwent 2014: Sgwariau 1km
coch – Poblogaethau epilio
Gwyfyn Gwent. Sgwariau du
– lle mae chwiliad
aflwyddiannus am oedolion a/
neu larfâu wedi digwydd.
Ardaloedd llwyd – tir uwch na
450m. Llinellau glas –
Ffiniau uwch-siroedd
Cynefin Gwyfyn Gwent, G.Tordoff
8 Gwarchod Glöynnod Byw yng Blynyddol 2014
Mae Gwarchodfa GGB Cymru yng Nghaeau Ffos Fach ger Cross Hands, Sir Gâr, yn gyfres
wych o ddolydd bach gwlyb. Mae maint y warchodfa wedi dyblu a mwy y llynedd, ers i Gyfoeth
Naturiol Cymru gaffael Fferm y Median gerllaw a’i gosod ar brydles i GGBC. Mae hyn yn
ychwanegu 10 o hectarau o laswelltir corsiog at y 7 hectar gwreiddiol yng Ngwarchodfa Caeau
Ffos Fach.
Helpu Britheg y Gors
Mae ardal Cross Hands yn un o dirweddau allweddol
Britheg y Gors yng Nghymru, gan fod ardaloedd
sylweddol o borfa ros ar gael yno o hyd, h.y. caeau
corsiog lle mae brwyn neu Laswellt y Gweunydd yn tra-
arglwyddiaethu. Roedd niferoedd Britheg y Gors yn
graddol ddirywio ers rhai blynyddoedd yng Nghaeau Ffos
Fach, fel y gellid ei ddisgwyl o ystyried maint bach y
warchodfa a chyn lleied o’r cynefin a oedd yn cael ei
reoli’n briodol er lles y rhywogaeth hon. Roedd angen
bloc ychwanegol o gynefin addas er mwyn gwella ei
gobeithion o oroesi, a dylai’r tir ychwanegol helpu i
wireddu’r nod yma.
Ategu’r terfynau
Mae Fferm y Median yn wag ac wedi cael ei hesgeuluso ers blynyddoedd. Mae’r ffensys mewn
cyflwr gwael, ac mae llawer o’r ardaloedd o laswelltir yn ildio i brysgwydd drwchus. Roedd
GGBC wrth ei fodd felly i dderbyn grant tirlenwi gan Cwm Environmental, a fydd yn ein galluogi
i stoc-ffensio terfyn y safle ar ei hyd, codi rhai ffensys mewnol a chyflogi contractwyr i glirio
ffosydd dros y gaeaf. Fe gynhelir sawl parti gwaith hefyd gan GGBC, i roi cyfle i wirfoddolwyr i
reoli’r prysgwydd mewn rhannau mwy sensitif o’r safle.
Fferm y Median
Helpu Britheg y Gors yng
Nghaeau Ffos Fach
George Tordoff
Swyddog Cadwraeth
Mae Gwarchodfa
Gwarchod
Glöynnod Byw
Cymru (GGBC) yng
Nghaeau Ffos Fach
newydd dyfu’n fwy,
trwy gymorth grant
tirlenwi oddi wrth
gwmni Cwm
Environmental Cyf
Glas – Gwarchodfa Caeau Ffos Fach Coch - yr estyniad newydd ar Fferm y Median
9 Gwarchod Glöynnod Byw yng Blynyddol 2014
Adfer y glaswelltir
Mae tri o’r caeau yn Fferm y Median yn gartref i Frithegion y
Gors yn barod, ac mae yna glytiau tir â chyfoeth o Fara’r
Cythraul, sef unig blanhigyn bwyd y glöyn byw hwn. Ond yn sgil
sawl blwyddyn heb anifeiliaid yn pori, mae brwyn a glaswelltydd
tuswog wedi cymryd drosodd mewn mannau helaeth. Cyn
gynted ag y bydd y ffensys newydd wedi cael eu codi, fe fydd
pori ysgafn dros yr haf gan wartheg Duon Cymreig yn gwella
ansawdd y glaswelltiroedd hyn, fel sydd wedi digwydd eisoes
yng Nghaeau Ffos Fach.
Mae caeau eraill Fferm y Median yn fwy o her – maent wedi cael
rhywfaint o welliant amaethyddol yn y gorffennol, a brwyn tal
sydd i’w gweld yn anad dim ynddynt, ac ond ychydig o Fara’r
Cythraul. Bydd angen mwy na phori yn unig os ydym am adfer y
caeau hyn – bydd rhaid gostwng lefelau’r maetholion yn y pridd
nid yn unig trwy bori ond hefyd trwy dorri a gwaredu’r brwyn bob
hydref. Fe’u torrwyd am y tro cyntaf eisoes yr hydref diwethaf.
Lluniau o’r pen i lawr:
Gwirfoddolwyr yn arolygu
gweoedd larfaol
Prysgwydd ymledol
Torrwyd y prysgwydd gan
wirfoddolwyr
Cae lle y tra-
arglwyddiaethai Brwyn tal,
a’r rheina wedi’u torri a’u
byrnu
Ffensys newydd, ffosydd
wedi’u clirio.
Chwith: Brithegion y Gors
Credydau: G. Tordoff
Diolch i’r gwaith parhaus i adfer y glaswelltir ar Fferm y Median, mae’r rhagolygon i Fritheg y Gors, ynghyd â llu o rywogaethau eraill sy’n ffynnu mewn glaswelltiroedd corsiog, yn edrych gryn dipyn yn well bellach. Rydym yn dra diolchgar i Gyfoeth
Naturiol Cymru am brynu safle Fferm y Median a’i roi ar brydles i GGB, ac i gwmni Cwm Environmental Cyf. am ddarparu grant ar gyfer y gwaith parhaus ar y safle
10 Gwarchod Glöynnod Byw yng Blynyddol 2014
Douglas Boyes yw Cofnodydd Glöynnod Byw Sirol Uwch-Sir Drefaldwyn. Mae wedi ysgrifennu arolwg cynhwysfawr ar löynnod byw’r sir, y gellir ei ddarllen ar www.montgomeryshiremoths.org.uk/articles/Butterflies%20of%20Montgomeryshire%20%202014.pdf . Mae Douglas yn gymeriad tra anghyffredin ym myd y cofnodwyr glöynnod byw. Ac yntau yn ei arddegau o hyd, mae e wedi dechrau ar garlam wrth ysgwyddo rôl y cofnodydd glöynnod byw uwch-sirol tra’n cael hyd i amser hefyd i fynd allan yn yr hwyr ar drywydd gwyfynod. Yn ogystal â didoli llwyth dryslyd o hen gofnodion papur, mae Douglas yn ymdrechu i weld pa rywogaethau a pha rannau o’r uwch-sir sy’n dal heb eu cofnodi. Mae’n gwneud sylw o’r tebygrwydd bod amrediad cynefin nifer o rywogaethau’n fwy eang yn y sir na’r disgwyl, gan gynnwys y Brithribin Porffor. Erys cyfleoedd cyffrous i ‘bilipalgarwyr’ helpu i lenwi bylchau yn y cofnodion sirol. Mae’r map (isod) yn dangos y sgwariau 2km hynny yn y Sir lle nad oes cofnodion glöynnod byw wedi cael
eu cyflwyno, ac mae llawer mwy ohonynt lle nad oes ond ychydig o gofnodion neu y mae’r rhai mwyaf diweddar yn dyddio o sawl blwyddyn yn ôl. Mae Douglas am ofyn i unrhywun a garai wybod union leoliad y sgwariau hyn gysylltu ag e. Rhoddir i bob rhywogaeth dudalen â llun, map yn dangos dosbarthiad y cofnodion, manylion ei statws cenedlaethol a sirol, ei hoff gynefinoedd, planhigion bwyd y larfâu a’i hamseroedd hedfan, fel y dengys y llun o dudalen y Brithribin Porffor, uchod ar y dde.
Gellir cysylltu â Douglas ar [email protected] neu 01938 570418
Glöynnod Byw Sir Drefaldwyn Russel Hobson, Pennaeth Cadwraeth
Sir Drefaldwyn: Y sgwariau 2km lle nad oes cofnodion glöynnod byw
11 Gwarchod Glöynnod Byw yng Blynyddol 2014
Cymerwch ran…. Mae angen cymorth bob amser ar staff Gwarchod Glöynnod Byw Cymru (GGBC) gyda phrosiectau ynghylch rhywogaethau penodol ar draws Cymru. Mae llu o aelodau a gwirfoddolwyr GGBC yn chwarae eu rhan yn barod, ond byddwn yn croesawu pobl newydd bob amser i’r gwaith cyffrous hwn. Heb gael blas arno o’r blaen? Wel rhowch gynnig iddo – mae’n ffordd wych o droi crwydr di-amcan yn anturiaeth ….
Rwyf wedi rhestru rhai o’r prosiectau allweddol isod, ond os nad yw’r rhain yn codi blas arnoch chi neu os byddai’n well gennych chi wneud rhywbeth yn eich ardal leol, tybed a ydych chi wedi ystyried cynnal Trawsluniad Glöynnod Byw llawn neu Drawsluniad ar un rhywogaeth os oes cyfyngiadau ar eich amser? Dyma ffordd wych o ddod i ’nabod eich milltir sgwâr eich hun gydol y flwyddyn. Clare Williams sy’n cydlynu Trawsluniadau ledled Cymru; cysylltwch â hi’n gyntaf felly. Mae Clare yn gweithio bob dydd Mawrth a Mercher yn y Canolbarth. Cewch adael neges iddi ar [email protected] neu ar 01686 430823. A pheidiwch anghofio’r gwaith pwysig y mae’n rhaid ei wneud yn ein gwarchodfeydd natur ar draws Cymru, Creigiau Eyarth ger Rhuthun a’r warchodfa sydd newydd gael ei hehangu yng Nghaeau Ffos Fach ger Cross Hands. Os carech chi helpu gydag arolygon, monitro a gwaith ar safleoedd, e-bostiwch Russel Hobson [email protected] neu ffoniwch 01792 642972 Diolch o galon i’r holl rai sydd eisoes yn helpu yn y dasg o ddeall dosbarthiad glöynnod byw a gwyfynod byw yng Nghymru.
Prosiectau Cymru Gyfan Ebrill-Mehefin (yn ddibynnol ar y tymor) Y Fritheg Berlog ar safleoedd ar hyd glannau Ceredigion, yn Sir Drefaldwyn o gwmpas Y Trallwng a’n gwarchodfa yn y Gogledd yng Nghreigiau Eyarth ger Rhuthun. Mae angen cymorth arnom bob amser i gynnal cyfrifiadau ar löynnod byw llawn dwf yn ystod eu tymor hedfan. E-bostiwch Russel Hobson [email protected] neu ffoniwch 01792 642972
Ebrill-Mehefin Y Gwibiwr Brith yn Ystad Ddiwydiannol Wrecsam a Merthyr Mawr. Yn Wrecsam rydym yn cydweithio â’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a sefydliad Buglife ar brosiect newydd yn yr Ystad Ddiwydiannol. Os carech chi roi help llaw e-bostiwch Clare Williams [email protected] neu ffoniwch 01686 430823.
Ebrill-Mehefin a Medi Britheg y Gors: mae angen cynnal cyfrifiadau ar löynnod llawn dwf a larfâu ar safleoedd o Ynys Môn ar draws y Gorllewin i Forgannwg. E-bostiwch George Tordoff [email protected] neu ffoniwch 01792 642972
O fis Gorffennaf ymlaen Y Don Sidan ar Y Gogarth ac ym Mro Gŵyr. Ceisir cynnal cyfrifiadau rheolaidd ar y gwyfynod bach cyfareddol hyn bob blwyddyn. E-bostiwch Russel Hobson [email protected] neu ffoniwch 01792 642972
De Cymru Ebrill-Gorffennaf Gwyfynod y De Ddwyrain. Mae arolygon yn cael eu cynnal eleni ar Wyfyn Gwent, y Dolennwr Llwydfelyn a’r Gliradain Gymreig. E-bostiwch George Tordoff [email protected] neu ffoniwch 01792 642972 Gydol y flwyddyn Mae’na gyfle cyffrous ichi ddarganfod glöynnod byw Coed Gwent yn Sir Fynwy. Mae angen arolwg ar löynnod y goedwig arnom ninnau ac Ymddiriedolaeth y Coetiroedd, i helpu’r cynlluniau ail-blannu yn sgil rhaglen eang o gwympo llarwydd. Os gallwch chi ymrwymo i roi un diwrnod y mis i gymryd rhan yn yr arolwg hwn, e-bostiwch Russel Hobson [email protected] 01792 642972
Prosiectau Lle gallwch chi helpu
12 Gwarchod Glöynnod Byw yng Blynyddol 2014
Coedwig Pen-bre
Mae’r goedwig fawr hon, ar dwyni ar hyd glannau Sir Gâr, yn safle allweddol i lawer o rywogaethau
sy’n flaenoriaeth gennym, gan gynnwys y Gwibiwr Llwyd a’r Gwibiwr Brith, y Glesyn Bach, Britheg y
Gors, y Fritheg Berlog Fach a’r Gwyfyn Du â Smotiau Gwyn (Anania funebris).
Mae CCW yn cyflawni gwaith rheoli ers sawl blwyddyn gan gynnwys clirio prysgwydd, creu sgolpiau,
torri ar hyd ymylon rhodfeydd a chreu crafdir (clytiau o ddaear noeth). Mae’r gwaith rheoli’n targedu tair
rhywogaeth allweddol o löynnod byw, ond mae’r canlyniadau’n rhai cymysg. Mae’r Gwibiwr Llwyd i’w
gael yn helaeth o fewn y goedwig ac ymddengys ei fod yn ffynnu; mae’r Gwibiwr Brith wedi’i gyfyngu i
nifer lai o leoliadau er bod y boblogaeth yn cynyddu, ac mae’r Glesyn Bach yn dirywio ac iddo
ddosbarthiad cyfyngedig iawn.
Mae poblogaeth y rhywogaethau allweddol hyn yn cael ei monitro bob blwyddyn. Yn 2013, roedd
niferoedd y Gwibiwr Brith a’r Gwibiwr Llwyd wedi dirywio ers y flwyddyn flaenorol, a hynny mae’n
debyg o ganlyniad i dywydd oer yn y gwanwyn. Mae’r Glesyn Bach yn dirywio ers 2008, ond mae’r
boblogaeth wedi ymsefydlogi dros y tair blynedd ddiwethaf ac rydym yn gobeithio gwella ei dynged
trwy ymgymryd â gwaith rheoli ychwanegol at gynyddu’r maint o Fysedd Mair (Meillion Melyn), sef
planhigyn bwyd y larfâu. Y darganfyddiad mwyaf cyffrous yn 2013 oedd nifer o Frithegion y Gors ar
hyd ‘Rhodfa’r Pilipalod’, sydd bellach yn gartref i doreth o Fara’r Cythraul, planhigyn bwyd y larfâu,
diolch i reolaeth gylchdro wrth ymyl y rhodfeydd gan CCW.
Coetiroedd Sir Fynwy
Mae nifer o safleoedd coediol yn ne ddwyrain Sir Fynwy yn gartref i’r gwyfyn prin hwnnw, y Dolennwr
Llwydfelyn. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith cadwraethol er lles y rhywogaeth hon yn digwydd yng
Nghoedwig yr Hendre ger Trefynwy. Dyma lle roedd cadarnle Cymreig y Dolennwr Llwydfelyn unwaith,
ond mae’r boblogaeth yn dirywio ac rydym yn gweithio’n galed â’r nod o gynyddu’r maint o Laethlys y
Coed, unig blanhigyn bwyd y larfâu, sy’n tyfu mewn mannau heulog cysgodlyd. Dros y gaeafau
diwethaf hyn mae gwaith clirio prysgwydd wedi cael ei gyflawni gan gyfuniad o
staff CCW, contractwyr a staff a gwirfoddolwyr GGBC.
Yn 2013 cynhaliwyd arolygon hefyd ar nifer o safleoedd coediol,a chofnodwyd
niferoedd bach o Ddolenwyr Llwydfelyn ar lawer ohonynt. Mae hyn yn cynnwys
Coedwig Slade, lle mae sgolpiau mawr wedi cael eu creu wrth ochr y
rhodfeydd, a Choedwig Fawr St Pierre, lle y cofnodwyd y gwyfyn am y tro cyntaf
ers 2006.
Mae Gwarchod Glöynnod Byw
Cymru GGBC yn gweithio ers
sawl blwyddyn mewn
partneriaeth gyda Chomisiwn
Coedwigo Cymru (sy’n rhan o
Gyfoeth Naturiol Cymru bellach)
at fonitro rhywogaethau allweddol
a rheoli eu cynefinoedd ar ystad
goedwigol Llywodraeth Cymru.
Trafodwn yma y gwaith
diweddaraf ar safleoedd coedwig
allweddol ledled Cymru.
Clare Williams
a George Tordoff
Glöynnod
Byw a
Gwyfynod
y Coedwigoedd
y Glesyn Bach G. Tordoff
Ddolenwyr Llwydfelyn, G. Tordoff
13 Gwarchod Glöynnod Byw yng Blynyddol 2014
Clocaenog a Bryniau Alwen
(ger Rhuthun, Sir Ddinbych)
2013 oedd 13eg flwyddyn prosiect monitro’r Fritheg
Berlog Fach. Cyfyngwyd yr arolygon yn bennaf i’r 13 o
safleoedd allweddol yn y rhwydwaith coedwigol, a’r
peth calonogol yw bod y rhywogaeth yn bresennol o
hyd ym mhob un ohonynt. Roedd y poblogaethau at ei
gilydd yn llai niferus nag yn y flwyddyn flaenorol, a
hynny mae’n debyg trwy effeithiau parhaol yr haf tra
gwlyb yn 2012.
Yn y tymor hir mae poblogaethau’r Fritheg Berlog Fach
ar y rhan fwyaf o’r safleoedd allweddol p’un ai’n
sefydlog neu’n cynyddu. Y rheswm yw bod mwy na
5.5ha o brysgwydd wedi cael eu clirio (a thriniwyd bonion yr un pryd) gan Gomisiwn Coedwigo Cymru
(CCW). Mae canlyniadau’r asesiadau o gynefinoedd yn dangos effeithiau positif y rheoli cynefin, gyda
chynnydd mewn fioledau (planhigyn bwyd y larfâu) a mewn ffynonellau neithdar ar safleoedd sydd wedi
cael eu rheoli’n helaeth ac yn barhaus, tra bod yr elfennau hanfodol hyn wedi lleihau ar safleoedd lle
nad oes ond ychydig o reolaeth neu ddim rheolaeth, megis Bryniau Alwen.
Mae’r prosiect hirsefydlog hwn wedi rhoi inni gipolwg gwerthfawr ar sut mae meta-boblogaeth y Fritheg
Berlog Fach yn llwyddo i fyw a ffynnu ar y dirwedd goedwig ucheldirol hon; mae’n dangos hefyd fod
angen rheolaeth gylchdro ar rwydwaith o safleoedd allweddol a rhai cysylltiol os ydym am sicrhau bod y
poblogaethau’n goroesi ac yn ymsefydlu.
Coedwig Harlech
Mae Coedwig Harlech yn gartref i’r gytref olaf o Wibwyr Llwyd y gwyddys amdani yn Sir Feirionnydd.
Dechreuodd gwaith rheoli buddiol gan CCW ym 2007, ochr yn ochr â’r gwaith o fonitro rhywogaethau a
chynefinoedd dan arweiniad GGBC â’r nod o olrhain yr effeithiau. Mae rhaglen gylchdro o dorri gwair ar
hyd lleiniau ochr y ffyrdd; mae ardaloedd wedi cael eu crafu’n arbrofol i greu cynefin daear noeth, ac
mae rhandir mawr o gonwydd wedi cael ei glirio
er mwyn cysylltu dwy ardal goediog. Mae ail-
asesiadau o gyflwr y cynefin wedi dangos
effeithiau cadarnhaoly rheolaeth hon ar
ansawdd cynefin y glöyn byw dan sylw; mae
cynnydd yn y planhigion bwyd, yyn y maint o
ddaear noeth a neithdar a lleihad ym maint y
prysgwydd wedi cael eu cofnodi yn sgil y gwaith
rheoli.
Er gwaethaf y rheolaeth gadarnhaol hon,
syrthiodd niferoedd y Gwibiwr Llwyd yn y
goedwig i’w lefel isaf erioed yn 2013. Mae’n
debyg mai dwy flynedd o dywydd oer gwlyb yn
ystod ei dymor hedfan yw’r prif ffactor sydd wedi
cyfrannu. Bydd monitro’n parhau yn 2014, a
gobeithiwn weld y rhywogaeth yn adennill ei thir
ar ôl sawl blwyddyn eithaf heriol.
Gwibiwr Llwyd , B. Roberts
Fritheg Berlog Fach, G. Tordoff
14 Gwarchod Glöynnod Byw yng Blynyddol 2014
Yr Adroddiad ar Gyflwr Natur, flwyddyn yn ddiweddarach Russel Hobson
Datgelodd yr adroddiad fod niferoedd hanner y 25 o
löynnod byw a aseswyd yn lleihau. Y rhywogaethau
hyn, tra arbenigol eu cynefin, yw’r rhai sydd fwyaf
dybryd eu hangen o ran cadwraeth, tra bod y glöynnod
mwy cyffredin eu cynefin yn cynyddu. Dangosodd
hefyd fod rhychwant sylweddol o dacsonau eraill
hwythau dan fygwth:
Ystyrir bod mwy nag 1 o bob 6 rhywogaeth o’n
planhigion yng Nghymru dan fygwth.
Ymhlith adar, dioddefodd dwywaith cymaint o
rywogaethau grebachiad yn ehangder eu cynefin â’r
rhai y cynyddodd eu cynefin.
Mae gan Gymru 40% o goedwigoedd derw ucheldirol
gwledydd Prydain, sef cynefin o bwys byd-eang.
Gwnaed astudiaeth achos yn yr adroddiad o’r gwaith
cadwraethol llwyddiannus gyda’r Fritheg Frown.
Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r her mewn modd
mwy cadarnhaol na llywodraethau eraill gwledydd
Prydain. Cyhoeddwyd Cronfa Natur werth £6 miliwn,
yn ogystal â mesurau i ddatblygu Cynllun Adfer Natur,
rhoi Cynllun Gweithredu’r Peillwyr mewn grym, Bil
Amgylcheddol newydd, a bwriad Cyfoeth Naturiol
Cymru i ddatblygu Cynlluniau Rheoli Adnoddau
Naturiol.
*lluniwyd gan 25 o sefydliadau cadwraethol yn y DU,
gan gynnwys Gwarchod Glöynnod Byw (GGB)
Mae angen mannau i epilio a gaeafu ar beillwyr megis y Coediwr
Yr Adroddiad
ar Gyflwr
Natur,
flwyddyn yn
ddiweddarach
Russel Hobson Pennaeth Cadwraeth
Derbyniodd yr Adroddiad ‘State of
Nature’ * gyhoeddusrwydd
aruthrol yng Nghymru ym mis Mai
2013. Y rheswm pennaf oedd
beirniadaeth lem Iolo Williams ar y
gwleidyddion sydd wedi methu â
childroi’r dirywiad mewn
bioamrywiaeth yng Nghymru.
Fritheg Frown, B. Williams
15 Gwarchod Glöynnod Byw yng Blynyddol 2014
Er bod cymaint o ewyllys da yn
arwydd calonogol, mae aelodau
Gwarchod Glöynnod Byw am weld
pethau’n digwydd yn y maes a
chynnydd yn niferoedd ein glöynnod
a’n gwyfynod gwerthfawr. Ein pryder
yw, os mabwysiedir dynesiad
ecosystemig at reoli’r amgylchedd
naturiol, y caiff y pethau bychain eu
hanghofio. Mae gwaith GGB ar
raddfa tirweddau unigol yn dangos y
gellir creu buddion ehangach trwy
ganolbwyntio ar gadwraeth
glöynnod byw a gwyfynod.
Trwy helpu i adsefydlu pori ar Y Graig
ger Llantrisant, er enghraifft, rydym wedi
creu glaswelltir a chyfoeth o neithdar
arno, lleihau achosion o losgi maleisus a
throi’r ardal yn fan deniadol i gerdded
ynddo. Ein gobaith yw y bydd cyflwyno
buchod ucheldirol o’r Alban yn rhoi hwb
arall i’r gweddnewidiad.
Mae clirio llystyfiant o ymylon y
rhodfeydd trwy Goedwig yr Hendre yn
Sir Fynwy wedi troi’r rhan yma o Lwybr
Clawdd Offa’n lle mwy pleserus i
gerdded, ac mae clwstwr mawr prydferth
o Degeirianau Llydanwyrdd wedi
ymsefydlu yno.
Gobaith GGB yw y bydd yr holl
gynlluniau’n golygu y bydd mwy
o weithredu’n digwydd a mwy o
adnoddau ar gael i gynyddu
niferoedd glöynnod byw a
gwyfynod ac ehangu eu
cynefinoedd, a hynny mewn
pryd i gyrraedd y targed o roi
terfyn ar ddirywiad
bioamrywiaeth erbyn 2020.
Mae gwartheg gwydn megis buchod Ucheldirol Huw Rees yn hanfo-dol ar gyfer adfer safleoedd diffaith Gall gwaith rheoli cynefin er lles glöynnod a gwyfynod prin fod yn fud-
diol hefyd i rywogaethau eraill megis y Tegeirian Llydanwyrdd
Butterfly Conservation is very grateful to the following organisations in Wales that have made our work possible: Carmarthenshire
County Council, Natural Resources Wales, Vale of Glamorgan County Borough Council and the Welsh Government
Butterfly Conservation Head Office, Manor Yard, East Lulworth, Wareham, Dorset BH20 5QP
01929 400209
[email protected] www.butterfly-conservation.org
Butterfly Conservation is the UK charity taking action to
save butterflies, moths and our environment. Working with a wide range of partners, we are taking action by:
Advising landowners and managers on conserving
and restoring important habitats.
Purchasing and managing land for threatened
butterflies, moths and other wildlife.
Carrying out surveys, monitoring and other essential
research.
Lobbying government and its agencies to influence
land use policy.
Being a working partner of BC Europe
Butterfly Conservation is a Company limited by
guarantee, registered in England (2206468). Registered Office: Manor Yard, East Lulworth, Wareham, Dorset,
BH20 5QP. Charity registered in England & Wales (254937) and in Scotland (SCO39268).
Butterfly
Conservation Wales
10 Calvert Terrace, Swansea,
SA1 6AR
01792 642972
Russel Hobson, Head of Conservation, Wales
Clare Williams, Conservation Officer (based in Mid Wales)
George Tordoff, Conservation Officer
Judy Burroughs, Administration Officer
Wales Branches’ Websites
www.northwalesbutterflies.org.uk
www.southwales-butterflies.org.uk
This newsletter has been produced thanks to a grant from Natural Resources Wales and edited by Butterfly Conservation staff. The views expressed do not necessarily reflect those of Butterfly Conservation.
Also available in Welsh, translated by Meic Haines CymruLíngua. Published August 2014.
Follow us: facebook.com/savebutterflies twitter.com/savebutterflies
Ymunwch â ni heddiw ar-lein ar
www.butterfly-conservation.org Gallwch chi gefnogi’r gwaith hanfodol y mae Gwarchod Glöynnod Byw’n ei wneud trwy ymaelodi
heddiw. Fel aelod fe dderbyniwch chi becyn croeso, ein cylchgrawn hynod ddiddorol Butterfly
deirgwaith y flwyddyn, siart adnabod rhywogaethau ac aelodaeth o’ch Cangen leol.
Mae ein Canghennau’n trefnu mwy na 700 o gyfarfodydd cyhoeddus trwy gydol y flwyddyn
ynghylch pilipalod a gwyfynod, a gallech chi fod yn rhan ohonynt.
Dilynwch ni: facebook.com/savebutterflies twitter.com/savebutterflies
Gwefannau Canghennau Cymru
www.northwalesbutterflies.org.uk
www.southwales-butterflies.org.uk
Prif Swyddfa Gwarchod Glöynnod Byw, Manor Yard, East Lulworth, Wareham, Dorset BH20 5QP Ffôn: 01929 400209 [email protected] www.butterfly-conservation.org
Mae’r elusen GGB yn gweithredu yn y DU dros achub glöynnod byw, gwyfynod a’n hamgylchedd. Gan weithio ar y
cyd ag ystod eang o bartneriaid, rydym yn gweithredu
trwy:
Gynghori perchnogion a rheolwyr tir ynghylch cadw ac
adfer cynefinoedd pwysig.
Prynu a rheoli tir er lles glöynnod byw, gwyfynod a
rhywogaethau eraill sydd dan fygythiad.
Cynnal arolygon, monitro a chyflawni gwaith ymchwil
hanfodol arall.
Lobïo llywodraeth a’i hasiantaethau er mwyn dylanwadu
ar bolisïau defnyddio’r tir.
Gweithredu mewn partneriaeth â GGB Ewrop
Mae Gwarchod Glöynnod Byw yn gwmni a gyfyngir gan warant, wedi’i gofrestru yn Lloegr (2206468). Swyddfa
Gofrestredig: Manor Yard, East Lulworth, Wareham, Dorset,
BH20 5QP. Elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (254937) a’r Alban (SCO39268).
Mae Gwarchod Glöynnod Byw yn dra diolchgar
i’r sefydliadau canlynol yng Nghymru sydd wedi gwneud ein gwaith yn bosibl: Cyngor Sir Gâr, Adnoddau Naturiol Cymru, Cyngor Bwrdeistref
Sirol Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru.
Cynhyrchwyd y cylchlythyr hwn gyda chymorth grant oddi wrth Adnoddau Naturiol Cymru, ac fe’i golygwyd gan staff
Gwarchod Glöynnod Byw (GGB). Nid yw’r sylwadau a wneir yn adlewyrchu barn Gwarchod Glöynnod Byw o
angenrhaid. Cyhoeddwyd fis Medi 2014. Cyfieithwyd gan Meic Haines CymruLíngua
Gwarchod
Glöynnod Byw
Cymru
10 Rhes Calvert,
Abertawe
SA1 6AR
01792 642972
Russel Hobson, Pennaeth Cadwraeth,
Cymru
Clare Williams, Swyddog Cadwraeth
(wedi’i lleoli yn y Canolbarth) George Tordoff, Swyddog Cadwraeth
Judy Burroughs, Swyddog Gweinyddol