Ficer Llandudno Vicar of Llandudno - Amazon...

32
Ficer Llandudno Vicar of Llandudno Proffil yr apwyntiad Appointment profile DRAFT 1

Transcript of Ficer Llandudno Vicar of Llandudno - Amazon...

Ficer LlandudnoVicar of Llandudno

Proffil yr apwyntiadAppointment profile

DRAFT 1

Addolu Duw Worshipping GodTyfu’r Eglwys Growing the Church

Caru’r Byd Loving the World

www.llandudno-parish.org.ukLlanast Llan yn Llandudno / Messy Church in Llandudno

Proffil yr Apwyntiad / Appointment Profile

Cynnwys / Contents

Oddi wrth yr EsgobFrom the Bishop

Cyflwyniad i Esgobaeth BangorAn introduction to Bangor Diocese

Cyflwyniad i LlandudnoAn introduction to Llandudno

Disgrifiad swyddJob description

10 27

4 8

4 Ficer Llandudno / Vicar of Llandudno

Thank you for considering whether you’re called to join us in the Diocese of Bangor as the Vicar and Ministry Area Leader of Llandudno.

I hope that this appointment profile will provide you with a wealth of helpful information. You’ll find within it an intro-duction to the diocese as well as to Llandudno, alongside a job description.

The Archdeacon of Bangor will be very happy to answer any questions that you may have about this post.

Diolch i chi am ystyried a ydych wedi eich galw i ymuno â ni yn Esgobaeth Bangor fel Ficer ac Arweinydd yr Ardal Gweinidogaeth Llandudno.

Rwy’n gobeithio y bydd y proffil hwn yn eich darparu gyda chyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol. Fe welwch ynddo gyflwyniad i’r esgobaeth yn ogystal a Llandudno, ochr yn ochr â disgrifiad swydd.

Bydd Archddiacon Bangor yn hapus iawn i ateb unrhyw gwestiynau y gallai fod gennych am y swydd hon.

Oddi wrth yr Esgob / From the Bishop

5Proffil yr Apwyntiad / Appointment Profile

Submitting an application

Should you wish to submit an application, I invite you to provide me with a letter of application and a CV.

Your letter of application, taking up no more than two sides of A4, should describe what attracts you to this appointment and relate your skills and experience to the job description.

Your CV should outline your education, your past and present appointments as a ordained minister, and any other employment history. It should also include the names, postal addresses and email addresses of two referees (at least one of whom should be the Dean or Archdeacon who currently has oversight of your ministry). I will only be contacting the referees of candidates that are short-listed.

Please send your letter of application and CV (electronically or by post) to arrive no later than 12 noon on Friday 6 October 2017. They should be sent to the Archdeacon of Bangor, the Venerable Paul Davies, at the following address:

The Archdeaconry, Belmont Road, BangorGwyneddLL57 2LL

[email protected]

It is my intention to draw up a shortlist by Tuesday 10th October and to invite short-listed candidates to an interview in Llandudno on Wednesday 26th October.

Please be assured of my prayers for this process of discernment as you reflect at this time on your calling and ministry.

Yours in Christ

The Rt Revd Andrew JohnBishop of Bangor

Gwneud cais

Os hoffech gyflwyno cais, yr wyf yn eich gwahodd i anfon llythyr cais a CV ataf.

Yn eich llythyr cais dylech, mewn dim mwy na dwy ochr A4, ddisgrifio yr hyn yr sy’n eich denu at y penodiad hwn, a pherthnasu eich sgiliau a phrofiad i’r disgrifiad swydd.

Dylai eich CV amlinellu eich addysg, eich penodiadau gweinidogaethol cyfoes ac o’r gorffennol, ac unrhyw hanes cyflogaeth arall. Dylai hefyd gynnwys enwau, cyfeiriadau post a chyfeiriadau e-bost dau ganolwr (dylai o leiaf un ohonynt fod yr Ddeon neu Archddiacon sydd ar hyn o bryd yn goruchwylio eich gweinidogaeth). Byddaf yn cysylltu â chanolwyr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn unig.

Anfonwch eich llythyr cais a CV (yn electronig neu drwy’r post) i gyrraedd dim hwyrach na hanner dydd ar ddydd Gwener 6 Hydref 2017. Dylid eu hanfon i Archddiacon Bangor, yr Hybarch Paul Davies, at un o’r cyfeiriadau canlynol:

Yr Archddiacondy, Ffordd Belmont, BangorGwyneddLL57 2LL

[email protected]

Mae’n fwriad gennyf lunio rhestr fer erbyn Dydd Mawrth 10fed Hydref, a gwahodd ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweliad yn Llandudno ar Dydd Mercher 25ain Hydref

Hoffwn eich sicrhau o’m gweddïau dros y broses hon o ddirnadaeth wrth i chi fyfyrio ar eich galwedigaeth a’ch gweinidogaeth.

Yr eiddoch yng Nghrist

Y Gwir Barchedig Andrew JohnEsgob Bangor

6 Ficer Llandudno / Vicar of Llandudno

Oddi wrth yr Archddiacon / From the Archdeacon

Introducing Llandudno

The Rectorial Benefice of Llandudno is the penultimate ‘traditional parish’ in the Diocese of Bangor to be developed into a ministry area. By way of introduction, it is helpful to say three things about this new ministry area.

Firstly, it is one of the finest ministry areas in North Wales. In many respects, Llandudno feels like the capital town of North Wales. It is a beautiful victorian town which, unlike many of its counterparts in the UK, is still a thriving tourist destination which attracts thousands of visitors each year. The beautiful seaside prominade and attractive town centre make it probably the most popular holiday destination in Wales. In addition, it is now home to the Welsh Assembly Government’s offices in North Wales and is the main centre for economic, political and cultural activities in North Wales.

Secondly, it is unique in that, whilst the ministry area is in the Diocese of Bangor, it is completely landlocked by the Diocese of St Asaph! This strange situation is a vestige of a bygone era when the Bishop of Bangor had a residence on the Orme. Today, the ‘Bangor’ part of Llandudo consists largely of the town centre and the Orme and the smaller part of the residential population (approximately 5,000 of the total population of 20,731). Whilst, however, the town is divided into two dioceses, the different parishes and dioceses have historically worked very closely together (all clergy have permission to officiate in ‘the other diocese’). The local clergy have recently held discussions about how this growing partnership may be strengthened and we hope that these discussions will bear further fruit in the future.

Thirdly (and largely because of the unique geographical situation), unlike the formation of the other ministry areas in the Diocese of Bangor, there have been no changes to the boundary of this traditional parish. The new ministry area is coterminous with the former Rectorial Benefice of Llandudno. There is, however, a danger that as this ministry area is launched, there will be a sense of ‘nothing has changed’. It is, therefore, of utmost importance that the new vicar of Llandudno will be able to lead the minstry area into a change of culture. Whilst the geography has not changed, it is the vision of the Diocese that it will play as full a part as other ministry areas in our Diocesan strategy: the principles, priorities, plans and platforms that are outlined in this document and which form the framework for this profile. The new vicar will be called from the outset to formally establish a team to support her or him and to work with that team to provide the best ministry possible at the centre of this great town.

Cyflwyno Llandudno

Bywoliaeth Reithorol Llandudno yw’r ‘plwyf traddodiadol’ olaf ond un yn Esgobaeth Bangor i’w ddatblygu’n ardal weinidogaeth. Mewn modd o gyflwyno, mae o gymorth dweud tri pheth am yr ardal weinidogaethol newydd hon.

Yn gyntaf, mae’n un o’r ardaloedd gwychaf yng Ngogledd Cymru. Ar lawer cyfrif, mae Llandudno’n teimlo fel prif dref Gogledd Cymru. Mae’n dref Fictoraidd hardd sydd, yn wahanol i lawer o’i threfi cyfatebol, yn dal i fod yn gyrchfan dwristaidd ffyniannus sy’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae’r promenâd glan môr hardd a’r canol tref ffyniannus yn ei gwneud mae’n debyg yn gyrchfan wyliau fwyaf poblogaidd yng Nghymru. Yn ychwanegol, mae’n awr yn gartref i swyddfeydd Cynulliad Cymru ac, hefyd yn brif ganolfan ar gyfer gweithgareddau economaidd, gwleidyddol a diwylliannol yng Ngogledd Cymru.

Yn ail, mae’n unigryw oherwydd tra bo’r ardal weinidogaeth yn Esgobaeth Bangor, mae’n hollol dirgloëdig gan Esgobaeth Llanelwy! Olion oes a fu yw’r sefyllfa ryfedd hon pan oedd gan Esgob Bangor breswylfa ar y Gogarth. Yn y dydd sydd ohoni, mae rhan ‘Bangor’ o Landudno’n cynnwys yn bennaf ganol y dref a’r Gogarth a rhan leiaf y boblogaeth breswyl. ( 5,000 yn fras o’r boblogaeth gyfansymiol o 20,731). Tra bod y dref, fodd bynnag, wedi ei rhannu’n ddwy esgobaeth, mae’r gwahanol blwyfi ac esgobaethau yn hanesyddol wedi gweithio’n agos iawn gyda’i gilydd (mae gan yr holl glerigion yr hawl i wasanaethu’r ‘esgobaeth arall’). Mae’r clerigion lleol yn ddiweddar wedi cynnal trafodaethau am y modd y gellid cryfhau’r bartneriaeth hon a gobeithiwn y bydd y trafodaethau hyn yn dwyn ffrwyth pellach yn y dyfodol.

Yn drydydd (ac yn bennaf oherwydd y sefyllfa ddaear-yddol unigryw), yn wahanol i ffurfiant yr ardaloedd gweinidogaeth eraill yn Esgobaeth Bangor, ni fu unrhyw newidiadau i ffin y plwyf traddodiadol hwn. Mae’r ardal weinidogaeth newydd yn gydffiniol â chyn-fywoliaeth Reithorol Llandudno. Ceir, fodd bynnag, berygl wrth i’r ardal hon gael ei lawnsio, y bydd synnwyr o ‘does dim wedi newid’. Mae, felly, o’r pwysigrwydd mwyaf y bydd Ficer newydd Llandudno’n gallu arwain yr ardal weinidogaeth i newid diwylliant. Tra nad yw’r ddaearyddiaeth wedi newid, gweledigaeth yr Esgobaeth yw y bydd yn chwarae rhan mor lawn ag ardaloedd gweinidogaeth eraill yn strategaeth ein Hesgobaeth: yr egwyddorion, y blaenoriaethau, y cynlluniau a’r llwyfannau a amlinellir yn y ddogfen hon ac sy’n ffurfio’r fframwaith ar gyfer y proffil hwn. Gelwir ar y Ficer newydd o’r cychwyn cyntaf i sefydlu’n ffurfiol Dîm i’w gefnogi/chefnogi ac i weithio gyda’r tîm hwnnw i ddarparu’r weinidogaeth orau bosibl yng nghanol y dref wych hon.

7Proffil yr Apwyntiad / Appointment Profile

Having said this, the foundations for building are strong. There is already an army of disciples who are active in so many aspects of ministry in Llandudno: leading worship, ;ospitality to visitors; youth and children’s ministry; care for the elderly and housebound and so many other aspects of mission and ministry.

This is a superb opportunity for the right person to live in one of the finest places in Wales and to lead a warm, diligent and very co-operative Christian community to the next level of worshipping God, growing the Church and loving the world.

Please do not hesitate to be in touch if you would value a confidential and informal conversation

Richard Paul DaviesArchdeacon of Bangor

The Archdeaconry, Belmont Road, Bangor, LL57 2LLT: 01248 354360E: [email protected]

Wedi dweud hyn, mae’r sylfeini ar gyfer adeiladu’n gryf. Ceir eisoes fyddin o ddisgyblion sy’n weithgar mewn cymaint o agweddau ar weinidogaeth yn Llandudno: yn arwain addoli, yn croesawu ymwelwyr; gweinidogaeth pobl ifanc a phlant; gofal am yr henoed a’r caeth i’r cartref a chymaint o agweddau eraill ar genhadaeth a gweinidogaeth.

Mae hwn yn gyfle rhagorol i’r unigolyn cywir fyw yn un o’r lleoedd gwychaf yng Nghymru ac arwain cymuned Gristnogol gynnes, diwyd a chydweithredol iawn i’r lefel nesaf o addoli Duw, tyfu’r Eglwys a charu’r byd.

Peidiwch ag oedi i gysylltu pe baech yn gweld gwerth mewn sgwrs gyfrinachol ac anffurfiol.

Richard Paul DaviesArchddiacon Bangor

Yr Archddiacondy, Ffordd Belmont, Bangor, LL57 2LLT: 01248 354360E: [email protected]

SYNODAU / SYNODS

BroTudno

BroDeiniol

BroDwylan

BroGwydyr

BroCelynninBro

OgwenBroEryriBro

Peblig

Beuno Sant Uwch Gwyrfai

1.

4.

5.2.

3.

7.

8.6.

1. ARDAL WEINIDOGAETH BRO DEINIOL BRO DEINIOL MINISTRY AREA

DEON AC ARWEINYDD YR ARDAL WEINIDOGAETH DEAN & MINISTRY AREA LEADER Kathy Jones [email protected] 01248 352515

2. ARDAL WEINIDOGAETH BRO OGWEN BRO OGWEN MINISTRY AREA

ARWEINYDD YR ARDAL WEINIDOGAETH MINISTRY AREA LEADER John Matthews [email protected] 01248 364991

3. ARDAL WEINIDOGAETH BRO DWYLAN BRO DWYLAN MINISTRY AREA

ARWEINYDD YR ARDAL WEINIDOGAETH MINISTRY AREA LEADER Janice Brown [email protected] 01492 339781

4. DARPAR ARDAL WEINIDOGAETH BRO TUDNO / BRO TUDNO MINISTRY AREA DESIGNATE

RHEITHOR RECTOR John Nice [email protected] 01492 876624

5. ARDAL WEINIDOGAETH BRO CELYNNIN

BRO CELYNNIN MINISTRY AREA ARWEINYDD YR ARDAL WEINIDOGAETH MINISTRY AREA LEADER David Parry [email protected] 01492 593402

6. ARDAL WEINIDOGAETH BRO GWYDYR BRO GWYDYR MINISTRY AREA

ARWEINYDD YR ARDAL WEINIDOGAETH MINISTRY AREA LEADER Stuart Elliott [email protected] 01690 710313

7. ARDAL WEINIDOGAETH BRO ERYRI BRO ERYRI MINISTRY AREA

ARWEINYDD YR ARDAL WEINIDOGAETH MINISTRY AREA LEADER Carol Roberts [email protected] 01286 870514

8. ARDAL WEINIDOGAETH BEUNO SANT UWCH GWYRFAI / BEUNO SANT UWCH GWYRFAI MINISTRY AREA

ARWEINYDD YR ARDAL WEINIDOGAETH MINISTRY AREA LEADER Lloyd Jones [email protected] 01286 660656

9. DARPAR ARDAL WEINIDOGAETH BRO PEBLIG / BRO PEBLIG MINISTRY AREA DESIGNATE

RHEITHOR RECTOR Roger Donaldson [email protected] 01286 673750

ARDALOEDD GWEINIDOGAETHSYNOD BANGORTHE BANGOR SYNOD’S MINISTRY AREAS

9.

8

Synod Bangor / The Bangor Synod

8 Ficer Llandudno / Vicar of Llandudno

As Christians in the Diocese of Bangor, we can trace our history back to holy men and women who founded communities of prayer and service across the diocese as early as the fifth century. These early Celtic saints – Cybi, Seiriol, Tudwen, Madryn, and many others – are still commemorated in the names of our churches, villages and towns. The Cathedral itself stands on the site of the community formed by St Deiniol himself, who became the first bishop of Bangor in the mid-fifth century.

The Diocese Today

A millennium and a half later, the geographical boundaries of the present diocese are ones that would be familiar to Deiniol, as they remain broadly co-terminus with those of the ancient kingdom of Gwynedd, taking in the north-western quarter of Wales, extending from Anglesey and the Llyn Peninsula in the west to Llandudno in the east, southwards along the west Wales coast to Tywyn and inland to mid-Wales as far as Llanidloes. This large area is home to great cultural, economic and demographic diversity: there are affluent seaside towns, small mountain villages, fertile valleys and post-industrial communities. Both Welsh and English are everyday languages.

The diocesan family is close-knit despite being geographically far-flung. Over sixty licensed clerics, over seventy licensed readers, and increasing numbers of worship leaders and pastoral assistants lead and serve over 180 worshipping communities, which are grouped into 27 Ministry Areas, four Synods, and two archdeaconries.

Renewal

With our eyes both on the centenary of the formation of the Church in Wales in 2020, and on the need for revitalisation in mission and discipleship across the diocese, we have embarked on serious and shared process of renewal over the past two years.

Rooted in our Vision

Our renewal has been rooted in our diocesan vision of becoming a Learning Church following in the footsteps of Christ by worshipping God, growing the Church and loving the world. Time and again, we have returned to this fundamental commitment to follow Christ as his disciples with new energy, and to do so by glorifying and enjoying God in prayer and worship, by seeking growth in grace and numbers, and by showing the signs of the cross and resurrection in our communties through transformational acts of kindness and goodness.

Fel Cristnogion yn Esgobeth Bangor, gallwn olrhain ein hanes yn ôl i ddynion a merched sanctaidd a sefydlodd gymunedau o weddi a gwasanaeth ar draws yr esgobaeth mor gynnar â’r bumed ganrif. Parheir i goffáu’r saint Celtaidd cynnar hyn – Cybi, Seiriol, Tudwen, Madryn, a llawer o rai eraill – yn enwau ein heglwysi, ein pentrefi a’n trefi. Mae’r Cadeirlan ei hun wedi ei hadeiladu ar safle y gymuned a ffurfiwyd gan Deiniol Sant ei hun, a ddaeth yn esgob cyntaf Bangor yng nghanol y bumed ganrif.

Yr Esgobaeth Heddiw

Fileniwm a hanner yn ddiweddarach, mae ffiniau daearyddol yr esgobaeth bresennol yn rhai a fyddai’n gyfarwydd i Deiniol, gan eu bod yn ymdebygu i ffiniau hynafol teyrnas Gwynedd. Fe gynhwysant y cyfan o ogledd-orllewin Cymru, gan ymestyn o Ynys Môn a Phen Llyn yn y gorllewin i Landudno yn y dwyrain, tua’r de ar hyd arfordir gorllewin Cymru i Dywyn ac yna draws gwlad i ganolbarth Cymru cyn belled â Llanidloes. Mae’r ardal eang yn gartref i amrywiaeth diwylliannol, economaidd a demograffig: cewch yma drefi glan môr cefnog, pentrefi mynyddig bychain, dyffrynnoedd ffrwythlon a chymunedau ôl-ddiwydiannol sy’n ceisio galwad newydd. Defnyddir y Gymraeg a’r Saesneg o ddydd i ddydd. Mae’r teulu esgobaethol yn glos er ei fod yn ddaearyddol wasgaredig. Mae dros chwe deg o glerigwyr trwyddedig, dros saith deg o ddarllenwyr trwyddedig, a mwy a mwy o arweinwyr addoli a chynorthwywyr bugeiliol yn arwain ac yn gwasanaethu dros 180 o gymunedau addoli, wedi eu grwpio mewn 27 Ardal Gweinidogaeth, pedair Synod, a dwy archddiaconiaeth.

Adfwyiad

Gyda’n sylw ar ganmlwyddiant ffurfio’r Eglwys yng Nghymru yn 2020, ac ar yr angen am adfywio mewn cenhadaeth a disgyblaeth ar draws yr esgobaeth, rydym wedi dechrau cydweithio ar broses o adnewyddu sylweddol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Wedi ei wreiddio yn ein gweledigaeth

Mae ein adnewyddu wedi ei wreiddio yn ein gweledigaeth esgobaethol o fod yn Eglwys sy’n Dysgu, gan ddilyn yn ôl troed Crist trwy addoli Duw, tyfu’r Eglwys a charu’r y byd. Dro ar ôl tro, yr ydym wedi dychwelyd at yr ymrwymiad sylfaenol i ddilyn Crist fel ei ddisgyblion gydag egni newydd, ac i wneud hynny gan ogoneddu a mwynhau Dduw mewn gweddi ac addoliad, drwy geisio twf mewn gras a rhifau, a thrwy ddangos arwyddion y groes a’r atgyfodiad yn ein cymunedau trwy weithredoedd trawsffurfiol o garedigrwydd a daioni.

1 / Cyflwyniad i Esgobaeth Bangor / An introduction to the Diocese of Bangor

9Proffil yr Apwyntiad / Appointment Profile

From this vision, shaped by the Bishop and his Council and shared by the diocese as whole, has flowed a comprehensive strategy for development that has been the focus of much prayer and practical energy over the last two years.

The Four P’s

The focus of our direction of travel as a Diocese is outlined in the Vision document that accompanies this profile. Briefly, it many be summarised by what we call ‘the four P’s’ (each of which has three elements)!

A) Our principles (or vision) are those things that are fundamental to our life as a Diocese: i) worshipping God; ii) growing the Church;iii) loving the World. We are aiming that these three principles are at the centre of our common life and our mission and ministry.

B) Our priorities are those particular areas of our life as a diocese in which we recognise that we need to invest particular energy:i) Nurturing disciples;ii) Growing new ministries;iii) welcoming children, youth and families.

C) Our plans allow us to share a detailed picture of where we are now, whilst also helping to imagine creatively how we can develop our resources:i) Mission Plan;ii) Property Plan;iii) Finance Plan.

D) Our revitalised platforms are already releasing new energy and encouraging collaboration as well as making our structures much lighter for travel into the future:i) Diocesan Structure;ii) Synods;iii) Ministry Areas.

Further details on these twelve aspects of our vision and strategy are contained within the booklet that accompanies this Profile.

This profile seeks to map out where the ministry area of Llandudno finds itself in relation to each of these areas as it prepares for it’s official launch which will co-incide with the institution and induction of a new Vicar and Ministry Area Leader.

O’r weledigaeth wreiddiol hon, sydd wedi ei siapio gan yr Esgob a’i Gyngor, ac a rennir gan yr esgobaeth yn gyffredinol, mae strategaeth gynhwysfawr yn llifo – strategaeth sydd wedi bod yn destun gweddi ac egni ymarferol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Y Pedair C

Mae ffocws ein cyfeiriad teithio fel Esgobaeth wedi ei amlinellu yn y ddogfen Weledigaeth sy’n mynd gyda’r proffiol hwn. Yn fyr, mae modd ei grynhoi gan yr hyn a alwn yn ‘bedair C’ (sydd â thair elfen ym mhob un)!

A) Ein hegwyddorion (neu ein gweledigaeth) yw’r pethau hynny sy’n sylfaenol i’n bywyd fel Esgobaeth: i) addoli Duw; ii) tyfu’r Eglwys;iii) caru’r Byd. Rydym yn amcanu bod y tair egwyddor hyn yng nghanol ein bywyd cyffredin a’n cenhadaetth a’n gweinidogaeth.

B) Ein blaenoriaethau yw’r meysydd arbennig hynny o’n bywyd fel esgobaeth lle rydym yn adnabod bod arnom angen buddsoddi egni arbennig:i) Meithrin disgyblion;ii) Tyfu gweinidogaethau newydd;iii) Croesawu plant, ieuenctid a theuluoedd.

C) Mae ein cynlluniau’n caniatáu i ni rannu darlun manwl o le rydym yn awr, wrth hefyd gynorthwyo i ddychmygu’n greadigol sut y gallwn ddatblygu ein hadnoddau:i) Cynllun Cenhadaeth;ii) Cynllun Eiddo ;iii) Cynllun Ariannol.

D) Mae ein llwyfannau a adfywiwyd eisoes yn rhyddhau egni newydd ac yn annog cydweithredu yn ogystal â gwneud ein strwythurau’n llawer ysgafnach ar gyfer teithio i’r dyfodol:i) Strwythur Esgobaethol;ii) Synodau;iii) Ardaloedd Gweinidogaethol.

Mae manylion pellach ar y deuddeng agwedd hyn o’n gweledigaeth a’n strategaeth wedi eu cynnwys o fewn y llyfryn sy’n mynd gyda’r proffil hwn.

Mae’r proffil hwn yn ceisio mapio allan lle mae ardal weinidogaethol Llandudno yn ei chael ei hun mewn perthynas â phob un o’r ardaloedd hyn wrth iddi baratoi ei lawnsiad swyddogol a fydd yn cydredeg â sefydlu Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaethol newydd.

10 Ficer Llandudno / Vicar of Llandudno

A / North Wales

North Wales is one of the most stunning regions in the United Kingdom. The beauty of mountains and sea, combined with the warmth of it’s culture and people make it an increasingly popular lifestyle choice and holiday destination.

Snowdonia is the heart of the massive Snowdonia National Park (the first of the three areas in Wales to be designated National Parks in 1951) which encompasses 823 square miles and extends north and south, beyond the bounds of Snowdonia itself, to encompass the Rhinogs, and Cadair Idris. At the heart of the National Park is Mount Snowdon itself, which is the highest mountain in Wales at 3,560 ft (1,085 m). The region is framed on the north and west by over 100 miles of stunning coastline.

There are two main arteries which provide road networks through the region. The A55 which follows the North Wales coast now provides a dual carriageway from Chester in the east to Holyhead in the west and it is possible to travel from one to the other in less than an hour and a half. The A5 (originally built by Thomas Telford), provides a network from Llangollen to Bangor which travels through the heart of the National Park and beautiful villages such as Betws y Coed. The majority of the population (687,937) is scattered along these arteries whilst most of the land mass consists of the wild and rugged mountain ranges.

Politically, the region is divided into six administrative areas (Wrexham, Flintshire, Denbighshire, Conwy, Gwynedd and the Isle of Anglesey). For ceremonial purposes, there are two preserved counties: Clwyd (Wrexham, Flintshire, Denbighshire and Conwy); and Gwynedd (Gwynedd and the Isle of Anglesey) which is coterminous with the Diocese of Bangor.

The region is steeped in history and was for almost a millennium known as the Kingdom of Gwynedd. The mountainous stronghold of Snowdonia formed the nucleus of that realm and would become the last redoubt of independent Wales; only overcome in 1283. To this day it remains a stronghold of the Welsh language and a centre for Welsh national and cultural identity. The area is home to two of the three World Heritage Sites in Wales.

The combination of mountains and coast has ensured that tourism is the principal industry of the region. Farming, which was once the principal economic force in the area, is now much reduced in importance.

A / Gogledd Cymru

Gogledd Cymru yw un o’r rhanbarthau mwyaf trawiadol yn y Deyrnas Unedig. Mae harddwch ei fynyddoedd a’i fôr, wedi ei gyfuno â chynhesrwydd ei ddiwylliant a’i bobl yn ei wneud yn ddewis ffordd o fyw cynyddol boblogaidd ac yn gyrchfan gwyliau.

Eryri yw cnewyllyn Parc Cenedlaethol anferth Eryri (y gyntaf o’r tair ardal yng Nghymru i gael eu dynodi’n Barciau Cenedlaethol yn 1951) sy’n cwmpasu 823 o filltiroedd sgwâr ac yn ymestyn i’r gogledd ac i’r de, y tu draw i ffiniau Eryri ei hun, i gynnwys y Rhinogion, a Chadair Idris. Wrth galon y parc Cenedlaethol mae’r Wyddfa ei hun, sef y mynydd uchaf yng Nghymru ar 3,560 tr. (1,085 m). Mae’r rhanbarth wedi ei fframio yn y gogledd a’r gorllewin gan dros 100 milltir o arfordir trawiadol.

Ceir dwy brif rydweli sy’n darparu rhwydweithiau ffyrdd drwy’r rhanbarth. Mae’r A55 sy’n dilyn glannau Gogledd Cymru yn awr yn darparu ffordd ddeuol o Gaer yn y dwyrain i Gaergybi yn y gorllewin ac mae modd teithio o un i’r llall mewn llai nag awr a hanner. Mae’r A5 (a adeiladwyd yn wreiddiol gan Thomas Telford), yn darparu rhwydwaith o Langollen i Fangor sy’n teithio drwy ganol y Parc Cenedlaethol a phentrefi hardd megis Betws y Coed. Mae mwyafrif y boblogaeth (687,937) wedi eu gwasgaru ar hyd y rhydwelïau hyn tra bod mwyafswm crynswth y tir yn cynnwys cadwyni o fynyddoedd gwyllt a geirwon.

Yn wleidyddol, mae’r rhanbarth wedi ei rhannu’n chwe ardal weinyddol (Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn). Ar gyfer pwrpasau seremonïol, ceir dwy sir a gadwyd: Clwyd (Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy); a Gwynedd (Gwynedd ac Ynys Môn) sy’n gydffiniol ag Esgobaeth Bangor.

Mae’r rhanbarth wedi ei thrwytho mewn hanes ac roedd am ymron i fileniwm yn cael ei hadnabod fel Teyrnas Gwynedd. Ffurfiai cadarnle mynyddig Eryri gnewyllyn y deyrnas honno a deuai’n amddiffynfa olaf Cymru annibynnol; a oresgynnwyd yn unig yn 1283. I’r dydd hwn erys yn gadarnle’r Gymraeg ac yn ganolfan ar gyfer hunaniaeth cenedlaethol a diwylliannol Cymru. Mae’r ardal yn gartref i ddau o’r tri Safle Treftadaeth Fyd-eang yng Nghymru.

Mae’r cyfuniad o fynyddoedd a glannau wedi sicrhau bod twristiaeth yn brif ddiwydiant y rhanbarth. Mae amaethyddiaeth, a oedd unwaith yn brif rym economaidd yn yr ardal, yn awr wedi lleihau’n fawr mewn pwysigrwydd

2 / Cyflwyniad i’rArdal GweinidogaethAn introduction to the Ministry Area

11Proffil yr Apwyntiad / Appointment Profile

B / Llandudno

Llandudno, often referred to as the ‘Capital of North Wales’ or the ‘Queen of the Welsh Resorts’ occupies a stunning location on the Creuddyn Peninsula, situated midway on the coast of North Wales.

The name of the town means ‘Church of St Tudno’. It is believed that Tudno founded a church on the site of the current St Tudno’s Church on the top of the Orme in the 6th century. In mediaeval times, there were three settlements on the peninsula: the agricultural Y Cyngreawdr to the north that included St. Tudno’s Church; Yn Wyddfid in the south-east below the fort-hill of Pen-y-Dynas; and Y Gogarth to the south-west. The oldest recorded history tells that in the year 1284, King Edward I gave the Manor of Gogarth (which included the three aforementioned settlements) to Anian, the Bishop of Bangor, and Gogarth became the location of the Bishop of Bangor’s Palace which was burnt down by Owain Glyndwr in 1400.

By 1847 the centre of population had grown to a thousand people, served by the new church of St George, built in 1840. The majority worked in the copper mines, with others employed in fishing and subsistence agriculture.

In 1848, Owen Williams, an architect and surveyor from Liverpool, presented Lord Mostyn with plans to develop the marshlands behind Llandudno Bay as a holiday resort. These were enthusiastically pursued by Lord Mostyn. The influence of the Mostyn Estate and its agents over the years was paramount in the development of Llandudno, especially after the appointment of George Felton as surveyor and architect in 1857. Between 1857 and 1877 much of central Llandudno was developed under Felton’s supervision. Felton also undertook architectural design work, including the design and execution of Holy Trinity Church in Mostyn Street. Much of Llandudno is still owned and managed by the Mostyn Estate.

The current population of the town (which takes in Penrhyn Bay and Penrhynside) is 20,731. There are eight Junior Schools (including Ysgol San Sior - the only VA School in the Diocese of Bangor); two comprehensive schools and an independednt school. There is a hospital (Llandudno General Hospital); Theatre (Venue Cymru - the main theatre in North Wales) and probably the largest shopping centre in North Wales. In addition to the shops in the town centre, there is an out of town retail park in Llandudno Junction which includes a multiplex cinema complex.

B / Llandudno

Mae Llandudno, y cyfeirir ato’n aml fel ‘Prif Ddinas Gogledd Cymru’ neu fel ‘Brenhines y Cyrchfannau Cymreig’ yn sefyll ar leoliad trawiadol ar Benrhyn Creuddyn, wedi ei leoli hanner ffordd ar arfordir Gogledd Cymru.

Mae enw’r dref yn golygu ‘Eglwys Tudno Sant’. Credir bod Tudno wedi sylfaenu eglwys ar safle’r Eglwys Tudno Sant bresennol ar ben y Gogarth yn y 6ed ganrif. Mewn amserau canoloessol, roedd tri anheddiad ar y penrhyn: Y Cyngreawdr amaethyddol i’r gogledd a oedd yn cynnwys Eglwys Tudno Sant; Yr Wyddfid yn y de-ddwyrain o dan fryngaer Pen-y-Dynas; a’r Gogarth i’r de-orllewin. Mae’r hanes hynaf a gofnodwyd yn dweud bod y Brenin Edward I, yn y flwyddyn 1284, wedi rhoi Maenor Gogarth (sy’n cynnwys y tri anheddiad rhagddywededig) i Anian, Esgob Bangor, a daeth y Gogarth yn lleoliad Palas Esgob Bangor a losgwyd i lawr gan Owain Glyn Dŵr yn 1400.

Erbyn 1847 roedd y ganolfan boblogaeth wedi tyfu’n fil o bobl, yn cael eu gwasanaethu gan Eglwys newydd Sant Siôr, a adeiladwyd yn 1840. Roedd y mwyafrif yn gweithio yn y mwynfeydd copr, gydag eraill yn cael eu cyflogi mewn pysgota ac amaethu ymgynhaliol.

Yn 1848, cyflwynodd Owen Williams, pensaer a syrfewr o Lerpwl, gynlluniau i’r Arglwydd Mostyn i ddatblygu’r morfeydd y tu ôl i Fae Llandudno yn gyrchfan gwyliau. Dilynwyd y rhain yn frwdfrydig gan yr Arglwydd Mostyn. Roedd dylanwad Ystâd Mostyn a’i hasiantau dros y blynyddoedd yn hollbwysig yn natblygiad Llandudno, yn arbennig wedi penodi George Felton yn syrfewr ac yn bensaer yn 1857. Rhwng 1857 a 1877 datblygwyd llawer o ganol Llandudno o dan oruchwyliaeth Felton. Ymgymerodd Felton hefyd â gwaith dylunio pensaernïol, yn cynnwys cynllunio a gweithredu Eglwys y Drindod yn Stryd Mostyn. Mae llawer o Landudno o hyd ym mherchnogaeth Ystâd Mostyn ac yn cael ei reoli ganddi.

Mae poblogaeth bresennol y dref (sy’n cynnwys Bae Penrhyn ac Ochr Penrhyn) yn 20,731. Ceir wyth o Ysgolion Iau (yn cynnwys Ysgol San Siôr – yr unig Ysgol dan gymorth Gwirfoddol yn Esgobaeth Bangor); dwy ysgol gyfun ac ysgol annibynnol. Ceir ysbyty (Ysbyty Cyffredinol Llandudno); Theatr (Venue Cymru – y brif theatr yng Ngogledd Cymru) ac mae’n debyg y ganolfan siopa fwyaf yng Ngogledd Cymru. Yn ychwanegol at y siopau yng nghanol y dref, ceir parc manwerthu y tu allan i’r dref yng Nghyffordd Llandudno sy’n cynnwys cyfadail sinema amryfal.

12 Ficer Llandudno / Vicar of Llandudno

The overwhelming economy of Llandudno is rooted in tourism. The main attractions are the two beaches: North Shore (the main beach) which stretches over two miles between the Great Orme and the Little Orme and along which there is a wide curving promenade; and West Shore (a smaller beach) on the Conwy Estuary. The award winning pier, on the North Shore, is a grade II listed building which was built in 1878. The North Wales Theatre, Arena and Conference Centre, built in 1994, extended in 2006 and renamed ‘Venue Cymru’ is located near the centre of the promenade on Penrhyn Crescent. It is noted for opera, orchestral concerts, ballet, musical theatre, drama, circus, ice shows and pantomimes. Every year in May bank holiday weekend, Llandudno has a three-day Victorian Carnival and Mostyn Street becomes a funfair.

In 2010, the Welsh Assembly Government opened a North Wales office in Llandudno Junction. This employs over 650 staff and houses the economic and transport departments, education and lifelong learning, and regional communication teams.

Mae economi lethol Llandudno â’i gwreiddiau mewn twristiaeth. Y prif atyniadau yw’r ddau draeth: Glan y Gogledd (y prif draeth) sy’n ymestyn dros ddwy filltir rhwng Y Gogarth a Thrwyn y Fuwch ac ar hyd ba un y ceir promenâd ystum eang; a Glan y Gorllewin (traeth llai) ar Foryd Conwy. Mae’r pier sydd wedi ennill gwobrau, ar Lan y Gogledd (North Shore), yn adeilad rhestredig gradd II a adeiladwyd yn 1878. Mae Theatr, Arena a Chanolfan Gynadledda Gogledd Cymru, a adeiladwyd yn 1994, a estynwyd yn 2006 ac a ailenwyd yn ‘Venue Cymru’ wedi ei leoli yn ymyl canol y promenâd ar Gilgant Penrhyn. Mae’n nodedig am opera, cyngherddau cerddorfaol, bale, theatr gerdd, drama, syrcas, sioeau rhew a phantomeimiau. Bob blwyddyn ym mhenwythnos gwyliau’r banc Mai, mae gan Landudno Garnifal Fictoraidd tri diwrnod a daw Stryd Mostyn yn sioe fach.

Yn 2010, agorodd Llywodraeth Cynulliad Cymru swyddfa Gogledd Cymru yng Nghyffordd Llandudno. Mae hon yn cyflogi dros 650 o staff ac yn cartrefu’r adrannau economaidd a chludiant, addysg a dysgu gydol oes, a Mae Ardal Weinidogaethol Llandudno ar hyn o bryd wedi

Carolau gyda Canwyllau / Carols by Candlelight, St Tudno

13Proffil yr Apwyntiad / Appointment Profile

C / Principles

i) Worshipping God

The Ministry Area of Llandudno is currently eucharistically centred. The previous Rector was trained at Mirfield and maintained a high standard of well ordered liturgy although Holy Trinity has the feel of a warm town centre church which embraces all people and also provides a platform for the main civic occasions. Whilst the worship is eucharistically centred, there is a monthly ecumenical Exploring Worship group which enjoy a less structured and more informal style of worship in the Hall.

Sundays - Weekly

08:00 Holy Communion in Holy Trinity Church (1984) in the Lady Chapel (ASA 10-12).

10:30 Parish Eucharist in Holy Trinity Church (2004) with Matins on the second Sunday of the month (ASA 60-100). There is a robed adult choir of between 10 - 12 people.

11:00 Service of the Word with Hymns outside St Tudno’s Church on the Orme (unless wet) (May - September).

Sundays – Monthly

11:00: Holy Eucharist in St Tudno’s Church on the Orme (first Sunday of the Month only) (ASA 20).19:30: Compline (June-September) in St Tudno’s.

18:00: Exploring Worship in Holy Trinity Hall (see p.14).

Midweek Worship

Daily Office in Holy Trinity Church at 09:00 and 17:00.

Wednesday at 09:00: Holy Eucharist (1984) (AA 6).Thursday at 11:00: Holy Eucharist (1984) (AA 11).Saturday at 11:00: Yr Offeren (1984/2004) (AA 8-10).

Use of Welsh in worship

All worship is mainly in English. There is a Welsh language Eucharist in Holy Trinity on Saturday morning.

Occasional Offices

In 2016, there were 17 Baptisms (16 infants); 3 weddings (St Tudno’s Church is not licensed for marriages) and 30 funerals (16 in church and 17 in Colwyn Bay Crematorium)

C / Conglfeini

i) Addolu Duw

Mae Ardal Weinidogaeth Llandudno ar hyn o bryd ei ganoli ar yr ewcharist. Hyfforddwyd y Rheithor blaenorol yn Mirfield a chynhaliodd safon uchel o litwrgi trefnus iawn er bod i’r Drindod Sanctaidd y teimlad o eglwys gynnes ganol tref sy’n cynnwys yr holl bobl a hefyd yn darparu llwyfan ar gyfer y prif ddigwyddiadau sifig. Tra bo’r addoli wedi ei ganoli ar yr ewcharist, ceir grŵp misol Archwilio Addoli eciwmenaidd sy’n mwynhau arddull o addoli llai strwythuredig a mwy anffurfiol yn y Neuadd.

Suliau - Wythnosol

08:00 Cymun Bendigaid yn Eglwys y Drindod Sanctaidd (1984) yng Nghapel y Forwyn (ASA 10-12).

10:30 Ewcharist y Plwyf yn Eglwys y Drindod Sanctaidd (2004) gyda Boreol Weddi ar yr ail Sul o’r mis (ASA 60-100). Ceir côr oedolion mewn gwisg o rhwng 10 - 12 o bobl.

11:00 Gwasanaeth y Gair gydag Emynau y tu allan i Eglwys Tudno Sant ar y Gogarth (oni fo’n wlyb) (Mai-Fedi).

Suliau – Misol

11:00: Cymun Bendigaid yn Eglwys Tudno Sant ar y Gogarth (Sul cyntaf y mis yn unig) (ASA 20).19:30: Complin (Mehefin-Medi) yn Eglwys Tudno Sant.

18:00: Archwilio Addoli yn Neuadd yr Eglwys (gweler t.14).

Addoli Canol Wythnos

Gwasanaeth Dyddiol yn Eglwys y Drindod am 09:00 a 17:00.

Dydd Mercher am 09:00: Cymun Bendigaid (1984) (AA 6).Dydd Iau am 11:00: Cymun Bendigaid (1984) (AA 11).Dydd Sadwrn am 11:00: Yr Offeren (1984/2004) (AA 8-10).

Y defnydd o’r Gymraeg yn yr addoli

Mae’r holl addoli gan mwyaf yn Saesneg. Ceir Offeren yn Gymraeg yn Eglwys y Drindod Sanctaidd fore dydd Sadwrn.

Gwasanaethau Achlysurol

Yn 2016, roedd 17 Bedydd (16 o fabanod); 3 priodas (nid yw Eglwys Tudno Sant wedi ei thrwyddedu ar gyfer priodasau) a 30 angladd (16 yn yr eglwys a 17 yn Amlosgfa Bae Colwyn)

14 Ficer Llandudno / Vicar of Llandudno

ii) Growing the Church

Developing Discipleship

The main provision for growth in discipleship through study and teaching is during Lent when the two anglican ministry areas (either side of the Diocesan boundary) come together to study a course at the Hospice Chapel. Last year, the Pilgrim Course was followed and many benefitted from this. The previous incumbent comments that the attendance from the Llandudno parish has always been much smaller that that from the Aberconwy benefice. Emphasising the importance of Bible study, prayer groups and opportunities for people to grow and develop as disciples beyond worship might be seen as a priority for a new Vicar and Ministry Area Leader

Exploring Worship

This act of worship, which takes place in Holy Trinity Church at 1800 on the second Sunday of the month, is a more informal, relaxed style of worship which experiments with different forms of worship. It is deliberately ecumenical in nature and attracts an average congregation of about 30 people. Whilst it is primarily an act of worship, it aims to be engaging in style and explores various aspects of the Christian life, encouraging growth in discipleship.

Guild of St Raphael

On the second Thursday of each month, there is a focus on healing in a Christian context during the morning Eucharist. The Guild of St Raphael reminds the church of it’s significant ministry of healing and people are offered the laying on of hands and prayers for healing at this act of worship. The Guild also keeps a list of those who request prayers for healing.

Mothers’ Union

There is an active Mothers’ Union branch in Llandudno, although most members are grandmothers! There are usually about 15 members who gather for monthly meetings.

Other Fellowship Groups

There are also various groups that enjoy fellowship: the Parish Fellowship Group (which meets weekly turing term time usually with a speaker); the Bellringers (who meet to ring the 8 bells in Holy Trinity Church on Friday evenings and Sunday mornings - and who also ring handbells) and the Church Choir (who sing at the Principal Service in Holy Trinity on a Sunday Morning).

ii) Tyfu’r Eglwys

Datblygu Disgyblaeth

Mae’r brif ddarpariaeth ar gyfer twf drwy astudiaeth a dysgeidiaeth yn ystod y Grawys pan ddaw’r ddwy ardal weinidogaeth anglicanaidd (y naill ochr i ffin yr Esgobaeth) yn dod at ei gilydd i astudio cwrs yng Nghapel yr Hosbis. Y llynedd, dilynwyd Cwrs y Pererin ac elwodd llawer o hyn. Mae’r periglor blaenorol yn gwneud y sylw bod y presenoldeb o blwyf Llandudno bob amser wedi bod yn llawer llai nag o fywoliaeth Aberconwy. Gellid gweld pwysleisio pwysigrwydd astudiaeth Feiblaidd, grwpiau gweddi a chyfleoedd i bobl dyfu a datblygu fel disgyblion y tu draw i addoli yn flaenorioaeth i Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth.

Archwilio Addoli

Mae’r weithred hon o addoli, sy’n digwydd yn Eglwys y Drindod am 1800 ar ail Sul y mis, yn arddull o addoli fwy anffurfiol, ymlaciol o addoli sy’n arbrofi gyda ffurfiau gwahanol o addoli. Mae’n fwriadol eciwmenaidd yn ei natur ac yn denu cynulleidfa o oddeutu 30 o bobl. Tra’i fod yn bennaf yn weithred o addoli, mae’n amcanu at fod yn atyniadol mewn arddull ac yn archwilio gwahanol agweddau ar bywyd Cristnogol, gan annog twf mewn disgyblaeth.

Urdd Sant Raphael

Ar yr ail ddydd Iau o bob mis, ceir canolbwyntio ar iachau mewn cyd-destun Cristnogol yn ystod Ewcharist y bore. Mae Urdd Sant Raphael yn atgoffa’r eglwys am ei weinidogaeth sylweddol o iachau a chynigir i bobl osod dwylo a gweddïo am iachâd yn y weithred o addoli hon. Mae’r Urdd hefyd yn cadw rhestr o’r rhai sy’n gofyn am weddïo am iachâd

Undeb y Mamau

Mae cangen brysur o Undeb y Mamau yn Llandudno, er bod y rhan fwyaf o’r aelodau’n neiniau! Ceir yn arferol oddeutu 15 o aelodau sy’n casglu ar gyfer cyfarfodydd misol.

Grwpiau Cymdeithasol Eraill

Ceir hefyd wahanol grwpiau sy’n mwynhau cymdeithasu: Grŵp Cymdeithasol y Plwyf (sy’n cyfarfod yn wythnosol yn ystod amser tymor yn arferol gyda siaradwr); y canwyr Clychau (sy’n cyfarfod i ganu’r 8 cloch yn Eglwys y Drindod ar nos Wener a bore Sul - ac sydd hefyd yn canu clychau llaw) a Chôr yr Eglwys (sy’n canu yn y Prif Wasanaeth yn Eglwys y Drindod Sanctaidd ar Fore Sul).

15Proffil yr Apwyntiad / Appointment Profile

iii) Loving the World

In addition to the ways in which individuals serve each other and the community, the parish currently contributes to social action in the community through two main ways:

Worshippers are generous in their contribution to the Conwy Foodbank which serves the area.

The Parish also tithes a proportion of the Income generated by the Holy Trinity car park. Both during Holy Week and in the week leading up to Christmas, the profit from the car park is donated to three local charities which are chosen by the Ministry Area Council. Recent recipients have included CMS (Church Missionary Society); CAIS (a local charity helping people with addictions, mental health problems, unemployed etc); the St David’s Hospice in Llandudno; the Ty Gobaith Hospice in the Conwy Valley; MIND, Llandudno and local schools.

iii) Caru’r Byd

Yn ychwanegol at y ffyrdd y mae unigolion yn gwasanaethu ei gilydd a’r gymuned, mae’r plwyf ar hyn o bryd yn cyfrannu at weithredu cymdeithasol yn y gymuned drwy ddwy brif ffordd:

Mae addolwyr yn hael yn eu cyfraniad tuag at Fanc Bwyd Conwy sy’n gwasanaethu’r ardal.

Mae’r Plwyf hefyd yn degymu cyfran o’r incwm a gynhyrchir gan faes parcio’r Drindod. Yn ystod yr Wythnos Sanctaidd ac yn yr wythnos sy’n arwain i fyny at y Nadolig, rhoddir yr elw o’r maes parcio i’r tair elusen leol a ddewisir gan Gyngor yr Ardal Weinidogaeth. Mae derbynwyr diweddar wedi cynnwys yr CMS (Cymdeithas Genhadol yr Eglwys); CAIS (elusen leol sy’n cynorthwyo pobl gyda dibyniaethau, problemau iechyd meddwl, y di-waith ayyb); Hosbis Dewi Sant yn Llandudno; Hosbis Tŷ Gobaith yn Nyffryn Conwy; MIND, Llandudno ac ysgolion lleol.

Neuadd Eglwys y Drindod / Holy Trinity Church Hall

16 Ficer Llandudno / Vicar of Llandudno

D / Canolbwyntiau

i)Meithrin Disgyblion

Gweler Adran A2 ar dudalen 14

ii) Tyfu Gweinidogaethau Newydd

Mae’r rhai a drwyddedir ar hyn o bryd ar gyfer gweinidogaeth ym Mro Cybi yn cynnwys:

Ficer ac Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth ( Yn wag)Offeiriad wedi Ymddeol & Caplan yr Hospis (Jane Allen)Offeiriad wedi Ymddeol (Canon David Jenkins)Offeiriad wedi Ymddeol (Y Parch Mike Harrison)Offeiriad wedi Ymddeol (Y Parch Derek Simpson)Offeiriad wedi Ymddeol (Y Parch Peter Plunkett)Offeiriad wedi Ymddeol (Y Parch Trevor Jones)Cynorthwy-ydd Ewcaristaidd Bugeiliol (Gwilym Davies)Cynorthwy-ydd Ewcaristaidd Bugeiliol (Angela Pritchard)Mae yna hefyd timau sydd yn arwain ‘Exploring Worship’

Rhan o’r newid diwylliant y mae’r Esgob yn gobeithio ei weld yn datblygu yn Llandudno yw twf tîm gweinidogaeth i gynnwys rhai o’r gweinidogaethau newydd cyffrous y mae’r Esgobaeth yn eu cynnig ac yn eu hadnoddi. Mae llyfryn yr Esgobaeth Gelwir i’r Weinidogaeth yn amlinellu rhai o’r gweinidogaethau y mae’r Esgobaeth ar hyn o bryd yn galw pobl i’w harchwilio a’u hystyried. Bydd hyn yn flaenoriaeth arall i’r Ficer newydd.

D / Priorities

i) Nurturing Disciples

See section A2 on page 14

ii) Growing New Ministries

Those currently licensed for ministry in Llandudno include:

Vicar and Ministry Area Leader (Vacant)Retired Priest & Chaplain of Hospice (The Revd Jane Allen)Retired Priest (Canon David Jenkins)Retired Priest (The Revd Mike Harrison)Retired Priest (The Revd Derek Simpson)Retired Priest (The Revd Peter Plunkett)Retired Priest (The Revd Trevor Jones)Pastoral Eucharistic Minister (Gwilym Davies)Pastoral Eucharistic Minister (Angela Pritchard)In addition there are various teams who lead Exploring Worship.

Part of the change of culture which the Bishop hopes to see develop in Llandudno is the growth of a ministry team to in-clude some of the exciting new ministries that the Diocese is offering and resourcing. The Diocesan booklet Called to Ministry outlines some of the ministries that the Diocese is currently calling people to explore and consider. This will be another priority for the new Vicar and Ministry Area Leader.

Gorseddau’r Groes, Eglwys y Drindod Sanctaidd / Stations of the Cross, Holy Trinity Church, Llandudno

17Proffil yr Apwyntiad / Appointment Profile

iii) Children, Young People & Families

Ysgol San Sior

One of the significant blessings of Llandudno is that it is the home of our only VA Primary School in the Diocese. An introduction to Ysgol San Sior may be found on page 30. Suffice it to say that there is a very close link between the School and Ministry Area. The Bishop would expect the next vicar to be a governor and regular visitor to the School; taking assembly and presiding at a termly Eucharist.

Sunday School

There has been a good size Sunday School in Holy Trini-ty Church for many years. During the past year, this has benefitted enormously from the help of the Bangor Synod CYFME (Children, Young People and Families Ministry Ena-bler). One of the problems experienced by the leadership team of the Sunday School was that children were leaving once they gained admission to the school (parents were sending children to Sunday School to comply with one of the admissions criteria of the school that they be habitu-al worshippers). The CYFME has worked with the team to reimagine the Sunday School to attempt to make it more attractive and engaging with the intention of hoping that children and parents would be encoraged to stay. What has emerged from this process is a more Messy Church style activity. It continues to meet in Holy Trinity Hall alongside the principal act of worship on a Sunday and there are now a greater number of children of school age attending.There is an extremely committed and talented team who lead this work and it will be important for the new vicar to en-courage and resource them as much as possible. Priorities looking forward have been identified as:

Continuation of new style Sunday SchoolGreater integration with main worshipping communityGreater provision for older childrenWork with parents; coffee for mums, who let the dads outVictorian Sunday School during the Victorian ExtravaganzaDevelopment of Open the Book team for the school.

Guides and Mums and Toddlers

Holy Trinity Church has a Guide pack (1st Llandudno)(which meet on a Monday evening between 5 and 8pm in the Hall (currently between 15-20 guides).

There is also a Parent and Toddler Group that meets every Monday during term time in the Hall from 09.30-11am.

Whilst both of these groups are well run, they would greatly appreciate the encouragement and support of a new vicar.

iii) Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

Ysgol San Siôr

Un o fendithion Llandudno yw ei fod yn gartref ein hunig Ysgol Gynradd dan gymorth Gwirfoddol yn yr Esgobaeth. Gellir dod o hyd i gyflwyniad i Ysgol San Siôr ar tudalen 30. Digon yw dweud bod cysylltiad agos iawn rhwng yr Ysgol a’r Ardal Weinidogaeth. Byddai’r Esgob yn disgwyl i’r ficer nesaf fod yn llywodraethwr ac yn ymwelydd rheolaidd â’r Ysgol; yn cymryd gwasanaethau a’r offeren tymhorol.

Ysgol Sul

Mae Ysgol Sul o faint da wedi bod yn Eglwys y Drindod am lawer o flynyddoedd. Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, mae hynny wedi elwa’n anferthol o gymorth CYFME (Galluogwr Gweinidogaeth Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd) Synod Bangor. Un o’r problemau a brofwyd gan dîm arweinyddol oedd bod plant yn gadael unwaith yr oeddent yn cael mynediad i’r ysgol (roedd rhieni’n anfon plant i’r Ysgol Sul i gydymffurfio ag un o feini prawf mynediad yr ysgol eu bod yn addolwyr cyson). Mae’r CYFME wedi gweithio gyda’r tîm i ailddelweddu’r Ysgol Sul i geisio’i gwneud yn fwy deniadol ac atyniadol gyda’r bwriad o obeithio y byddai plant a rhieni’n cael eu hannog i aros. Yr hyn sydd wedi dod i’r wyneb o’r broses hon yw mwy o weithgaredd o arddull Llanast y Llan . Mae’n parhau i gyfarfod yn Neuadd Eglwys y Drindod ochr yn ochr â’r brif weithred o addoli ar ddydd Sul a cheir yn awr nifer fwy o blant o oedran ysgol yn mynychu. Ceir tîm eithriadol o ymroddedig a dawnus yn arwain y gwaith hwn a bydd yn bwysig i’r ficer newydd eu hannog a’u hadnoddi gymaint ag y bo modd. Mae blaenoriaethau edrych ymlaen wedi eu hadnabod fel:

Parhad o’r Ysgol Sul ar arddull newydd Mwy o integreiddio â’r brif gymuned addoliMwy o ddarpariaeth ar gyfer plant hŷnGweithio gyda rhieni; Ysgol Sul Fictoraidd yn ystod y Strafagansa Fictoraidd (Victorian Extravaganza)Datblygu tîm Agor y Llyfr ar gyfer yr ysgol.

Geidiaid a Mamau a Phlant Bach

Mae gan Eglwys y Drindod Sanctaidd becyn Geidiaid (1af Llandudno) sy’n cyfarfod ar nos Lun rhwng 5 ac 8yh yn y Neuadd (rhwng 15-20 o geidiaid ar hyn o bryd).

Ceir hefyd Grŵp Rhieni a Phlant sy’n cyfarfod bob dydd Llun yn ystod amser tymor yn y Neuadd o 09.30-11yb.

Tra bod y ddau grŵp yn cael eu rhedeg yn dda, byddent yn gwerthfawrogi’n fawr anogaeth ficer newydd.

18 Ficer Llandudno / Vicar of Llandudno

E / Plans

i) Mission Development Plan

The Ministry Area of Llandudno has not yet started to compile it’s Mission Development Plan. It was agreed with the former incumbent that this would be best left for his successor to begin. This is, however, not a task of starting from scratch.

The first task will be to map out the many elements of the mission of the church that are already happening in Llandudno. The various aspects listed in this profile will provide a sketch of what is already happening.

The second task will seek to discern what elements of mission and ministry will need to be a priority in forthcoming years; what elements might be put to one side for the time being; and what other elements might God be calling the church to embrace at this time or join in work that he is already doing.

This is a task in listening to God and each other. There is plenty of help available in the process through diocesan resources; not least the Archdeacon and Diocesan Director of Planning and Development.

E / Cynlluniau

i) Cynllun Datblygu Cenhadaeth

Nid yw Ardal Weinidogaeth Llandudno eto wedi dechrau llunio ei Chynllun datblygu Cenhadaeth. Cytunwyd gyda’r cyn-beriglor y gadewid hyn orau i’w olynydd ei ddechrau. Nid yw hon, fodd bynnag, yn dasg o ddechrau o’r dechrau.

Y dasg gyntaf fydd mapio allan y nifer o elfennau o genhadaeth yr eglwys sydd eisoes yn digwydd yn Llandudno. Bydd y gwahanol agweddau a restrir yn y proffil hwn yn darparu braslun o’r hyn sydd eisoes yn digwydd.

Bydd yr ail dasg yn ceisio dirnad pa elfennau o genhadaeth a gweinidogaeth a fydd angen bod yn flaenoriaeth yn y blynyddoedd i ddod; pa elfennau y gellid eu rhoi ar un ochr am y tro; a pha elfennau eraill y gallai Duw fod yn galw’r eglwys i’w cwmpasu ar yr adeg hon neu ymuno mewn gwaith y mae’n ei wneud eisoes.

Tasg yw hon o wrando ar Dduw ac ar ei gilydd. Mae digonedd o gymorth ar gael yn y broses drwy adnoddau’r esgobaeth; nid lleiaf yr Archddiacon a chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu’r Esgobaeth.

Plant yn ymweld a Mynwent Eglwys Sant Tudno / Children visiting St Tudno’s Churchyard

19Proffil yr Apwyntiad / Appointment Profile

ii) Property Development Plan

In terms of property, Llandudno is one of the most blessed ministry areas in the Diocese. In many ways, the task of looking at church property through the lens of the mission and deciding what is truly needed has already taken place in Llandudno.

In the late 1990s, there were four anglican churches in Llandudno: (i) St Tudno’s Church on the Great Orme; (ii) St George’s Church in Church Walks which was built in 1840 as the population began to increase in this part of the town and which succeeded St Tudno’s Church as the new parish church; (iii) Holy Trinity Church, the largest building right in the middle of the new Victorian centre of population, built by the Mostyn Family in 1876 for the many visitors that were coming to the town; (iv) Church of our Saviour on the West Shore, built in 1911.

At the end of the 1990s, serious consideration was given to the issue of church buildings which resulted in the disposal of St George’s Church (now offices) and Church of our Saviour (now the Baptist Church). Since this time, St Tudno’s ministry has grown as the spiritual heart of the town and Holy Trinity feels like the Cathedral of Llandudno with its adjoining hall and car park at the very centre of the town. Both buildings, whilst requiring constant maintenance, are in very good order.

ii) Cynllun Datblygu Eiddo

Yn nhermau eiddo, Llandudno yw un o’r ardaloedd gweinidogaeth a fendithiwyd fwyaf yn yr Esgobaeth. Mewn llawer modd, mae’r dasg o edrych ar eiddo eglwysig drwy lens y genhadaeth a phenderfynu beth sydd ei wir angen eisoes wedi digwydd yn Llandudno.

Ar ddiwedd yr 1990au, roedd pedair eglwys anglicanaidd yn Llandudno: (i) Eglwys Tudno Sant ar y Gogarth; (ii) Eglwys Sant Siôr yn Church Walks a adeiladwyd yn 1840 wrth i’r boblogaeth ddechrau cynyddu yn y rhan hon o’r dref ac a olynodd Eglwys Tudno Sant yn eglwys y plwyf newydd; (iii) Eglwys y Drindod yr adeilad mwyaf yn union yng nghanol y ganolfan boblogaeth Fictoraidd newydd, a adeiladwyd gan Deulu Mostyn yn 1876 ar gyfer yr ymwelwyr niferus a oedd yn dod i’r dref; (iv) Eglwys ein Gwaredwr ar Lan y Gorllewin, a adeiladwyd yn 1911.

Ar ddiwedd yr 1990au, rhoddwyd ystyriaeth ddifrifol i fater adeiladau eglwysig a arweiniodd at gael gwared ar Eglwys Sant Siôr (sydd yn awr yn swyddfeydd) ac Eglwys ein Gwaredwr (Eglwys y Bedyddwyr yn awr). Ers yr amser hwn, mae gweinidogaeth Tudno Sant wedi tyfu’n graidd ysbrydol y dref ac mae Eglwys y Drindod yn teimlo fel Cadeirlan Llandudno gyda’i Neuadd gyfagos a’i maes parcio yng nghanol y dref. Mae’r ddau adeilad, tra’u bod angen cynnal a chadw cyson, mewn trefn dda iawn.

Eglwys Cybi Sant yng Nghaergybi /St Cybi’s Church in HolyheadEglwys y Drindod Sanctaidd / Holy Trinity Church, Llandudno

20 Ficer Llandudno / Vicar of Llandudno

Mae Eglwys Sant Tudno. ar y Gogarth wedi bod yn safle addoli Cristnogol ers y 6ed ganrif, pan ddaeth y mynach Celtaidd Tudno â gair Duw i’r bobl yma.

Yn ôl y llawysgrifau Cymreig hynafol, Tudno oedd un o feibion Seithenyn, y credid ei fod yn gyd-reolwr Cantref ofa Gwaelod. Teyrnas chwedlonol oedd hon, o dan lefel y môr, yn yr ardal sydd yn awr yn Fae Ceredigion. Roedd yn dir ffrwythlon a amddiffynnid gan argae mawr gyda llifddorau. Seithenyn oedd ceidwad a gwarcheidwad y dorau ond beiwyd ef am ganiatáu i’r tir foddi a chael ei golli o dan y môr. Ar ôl hynny yr aeth Tudno, a’i frodyr, i mewn i fynachlog.

Nid erys unrhyw olion o’r adeilad gwreiddiol. Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn y 12fed ganrif ac erys rhan o’r wal ogleddol o’r amser hwnnw, tra bod gweddill y fframwaith yn dyddio o estyniad o’r 15fed ganrif. Yn 1839 difrodwyd y to gan storm a phenderfynwyd peidio ag atgyweirio’r eglwys ond adeiladu eglwys newydd yn nes i ganol pentref Llandudno. Esgeuluswyd Eglwys Tudno Sant tan1855 pan wnaed apêl i atgyweirio’r to ac ailagorwyd yr eglwys ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn 1855.

Heddiw, mae’n denu nifer fawr iawn o ymwelwyr a hoffir hi yn fawr gan y gymuned leol sy’n addoli yma. Cefnogir hi hefyd gan waith y cyfeillion Eglwys Tudno.

St Tudno’s Church on the Great Orme has been a site of Christian worship since the 6th century, when the Celtic monk Tudno brought the word of God to the people here.

According to ancient Welsh manuscripts, Tudno was one of the sons of Seithenyn, who was thought to be a co-ruler of Cantref ofa Gwaelod. This was a legendary kingdom, below sea level, in the area which is now Cardigan Bay. It was a fertile land protected by a great dyke with sluice gates. Seithenyn was custodian and keeper of the gates but was blamed for allowing the land to flood and to be lost below the sea. It was after this that Tudno, and his brothers, entered the monastery.

No trace of the original building remains. The present church was built in the 12th century and part of the north wall remains from this time, while the rest of the structure dates from a 15th century extension. In 1839 the roof was damaged by a storm and it was decided not to repair the church but to build a new church nearer the centre of he village of Llandudno. St. Tudno’s Church was neglected until 1855 when an appeal was made to repair the roof and the church was re-opened for public service in1855.

Today, it attracts a very large number of visitors and is much loved by the local community who worship here. It is also supported by the work of the Friends of St Tudno.

Eglwys Tudno Sant, Y Gogarth / St Tudno’s Church, the Great OrmeEglwys Sanrt Tudno / St Tudno’s Church, Llandudno

21Proffil yr Apwyntiad / Appointment Profile

Holy Trinity Church in the centre of Llandudno is the most prominent building in the town and feels like the Cathedral of Llandudno.

By 1860 Llandudno was developing as a fashionable tourist centre and the Church of the Holy Trinity was built in the new town to cater for the increasing number of visitors. The land was given by the Mostyn Estate and their architect, George Felton, designed the church. The original part of the church was completed in 1872 and consecrated in 1874. Following the closure of St George’s Church in 2002, Holy Trinity became the Parish Church for Llandudno. In 2015, the parish celebrated the 150th anniversary of the laying of the cornerstone. A detailed history of the church is given in the book Holy Trinity Church, Llandudno: A Victorian Vision by John Horsfield.

The blessing of this building is that, in addition to the church which seats 600 people, there is a hall, kitchen and toilets all under one roof and served by a large car park.

In addition to worship, the building is heavily used for civic occasions and many concerts throughout the year. The concerts are one way in which the church serves visitors to the town whilst also providing an additional source of income generation. The building is in good order.

Mae Eglwys y Drindod Sanctaidd yn Llandudno yng nghanol Llandudno yw’r adeilad mwyaf amlwg yn y dref ac mae’n ymdeimlo fel Cadeirlan Llandudno.

Erbyn 1860 roedd Llandudno’n datblygu’n ganolfan dwristaidd ffasiynol ac adeiladwyd Eglwys y Drindod Santaidd yn y dref newydd i ddarparu ar gyfer y nifer cynyddol o ymwelwyr. Rhoddwyd y tir gan Ystâd Mostyn a’u pensaer, George Felton, a gynlluniodd yr eglwys. Cwblhawyd rhan wreiddiol yr eglwys yn 1872 a chysegrwyd hi yn 1874. Yn dilyn cau Eglwys Sant Siôr yn 2002, daeth Eglwys y Drindod Sanctaidd yn Eglwys y Plwyf ar gyfer Llandudno. Yn 2015, dathlodd y plwyf y pen-blwydd yn 150 gosod y conglfaen. Rhoddir hanes manwl yr eglwys yn llyfr Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno: A Victorian Vision gan John Horsfield.

Bendith yr adeilad hwn yw bod, yn ychwanegol at yr eglwys sy’n eistedd 600 o bobl, neuadd, cegin a thoiledau i gyd o dan un to ac a wasanaethir gan faes parcio mawr.

Yn ychwanegol at addoli, defnyddir yr adeilad gryn lawer ar gyfer achlysuron sifig a llawer o gyngherddau drwy gydol y flwyddyn. Mae’r cyngherddau’n un ffordd y mae’r eglwys yn gwasanaethu ymwelwyr i’r dref tra’u bod hefyd yn darparu ffynhonnell ychwanegol o gynhyrchu incwm. Mae’r adeilad mewn cyflwr da.

Eglwys y Drindod Sanctaidd / Holy Trinity Church, Llandudno

22 Ficer Llandudno / Vicar of Llandudno

The two buildings are very well looked after and overseen by a dedicated team of churchwardens and volunteers. In recent years at Holy Trinity Church, the Hall has been completely upgraded, new stained glass windows have been installed and the organ is currently being rebuilt by Willis of Liverpool. At St Tudno’s Church, new storm doors have been hung; new window protection has been erected and an icon depicting St Tudno has been installed in the chancel. Clearly, maintenance is a constant issue and there is bathstone in Holy Trinity which will need to be renewed in forthcoming years.

In addition, there is an active churchyard group which manages the land owned by the ministry area. This includes the car park in Holy Trinity Church (which is managed by a pay and display system); the churchyard around the sold St George’s Church (which is relatively small but demands maintennace); and the large churchyard at St Tudno’s Church. All land is immaculately kept. In recent years, a management plan has been put together for the St Tudno’s Churchyard which, in addition to keeping the churchyard tidy, encourages biodiversity and the many visitors to take interest in it’s fauna, flora and history. In recent months churchyard trails have been launched for both adults and children which seek to be educational and fun.

Gofelir yn dda iawn am y ddau adeilad a goruchwylir gan dîm o wardeiniaid eglwysig a gwirfoddolwyr ymroddedig. Yn y blynyddoedd diweddar yn Eglwys y Drindod, mae’r Neuadd wedi cael ei huwchraddio’n gyfan gwbl, mae ffenestri gwydr lliw newydd wedi eu gosod ac mae’r organ ar hyn o bryd yn cael ei hailadeiladu gan Willis o Lerpwl. Yn Eglwys Tudno Sant, mae drysau stormydd newydd wedi eu gosod; mae amddiffyniad ffenestri newydd wedi ei godi ac mae eicon yn darlunio Tudno Sant wedi ei osod yn y gangell. Yn glir, mae cynnal a chadw yn broblem gyson a cheir cerrig nadd yn Eglwys y Drindod Sanctaidd a fydd angen eu hadnewyddu yn y blynyddoedd i ddod.

Yn ychwanegol, ceir grŵp mynwent egnïol sy’n rheoli’r tir sydd ym mherchnogaeth yr ardal weinidogaethol. Mae hyn yn cynnwys y maes parcio yn Eglwys y Drindod (a reolir gan gyfundrefn talu ac arddangos); y fynwent o amgylch Eglwys Sant Siôr a werthwyd (sy’n gymharol fychan ond sy’n gofyn am ei chynnal a’i chadw); a’r fynwent fawr yn Eglwys Tudno Sant. Cedwir yr holl dir yn daclus. Yn y blynyddoedd diweddar, mae cynllun rheoli wedi ei roi ynghyd ar gyfer Mynwent Tudno Sant sydd, yn ychwanegol at gadw’r fynwent yn daclus, yn annog bio-amrywiaeth a’r nifer o ymwelwyr i gymryd diddordeb yn ei ffawna, ei fflora a’i hanes. Yn y misoedd diweddar mae llwybrau mynwentydd wedi eu lawnsio ar gyfer oedolion a phlant sy’n ceisio bod yn addysgiadol ac yn hwyliog.

Grŵp Mynwent Sant Tudno / St Tudno’s Churchyard Group

23Proffil yr Apwyntiad / Appointment Profile

The Rectory in Church Walks was built at the same time as St George’s Church in about 1842. It is a beautiful period property in an excellent location, within easy walking distance to Holy Trinity Church and the centre of town. That said, it has a beautiful secluded garden with mature trees and a small orchard.

The house has two large reception rooms and four bedrooms. The house was extended between the two world wars to accommodate a very large study with an entrance and toilet which is separate from the house.

The address of the Rectory is

The Rectory27 Church WalksLlandudnoNorth WalesLL30 2HL

It is the custom in the Church in Wales that Council Tax is paid by the Representative Body and water rates are paid by the Ministry Area. The Ministry Area will also cover reasonable expenses in relation to heat and light for the public part of the building.

Adeiladwyd y Rheithordy yn Church Walks ar yr un adeg ag eglwys Sant Siôr oddeutu 1842. Mae’n eiddo cyfnod hardd mewn lleoliad ardderchog, o fewn pellter cerdded hawdd i Eglwys y Drindod a chanol y dref. Wedi dweud hynny, mae ganddo ardd neilltuedig hardd gyda choed aeddfed a pherllan fechan.

Mae gan y tŷ ddwy ystafell dderbyn fawr a phedair ystafell wely. Estynnwyd y tŷ rhwng y ddau ryfel byd i gartrefu stydi fawr iawn gyda mynedfa a thoiled sydd ar wahân i’r tŷ.

Cyfeiriad y Rheithordy yw:

Y Rheithordy27 Church WalksLlandudnoGogledd Cymru.LL65 2UD.

Mae’n arferiaid yn yr Eglwys yng Nghymru y telir Treth y Cyngor gan y Corff Cynrychioli a thelir treth y dŵr gan yr Ardal Weinidogaeth. Bydd yr Ardal Weinidogaeth hefyd yn cwmpasu treuliau rhesymol mewn perthynas â gwres a goleuni ar gyfer rhan gyhoeddus yr adeilad.

Y Rheithordy, Llandudno / The Rectory, Llandudno

24 Ficer Llandudno / Vicar of Llandudno

iii) Finance Development Plan

The Ministry Area of Llandudno is blessed through the opportunities that it has for income generation, largely through it’s pay and display car park and the concerts and opportunities for fundraising through the many tourists that visit Llandudno each year. That said, parishioners work very hard to fundraise and much of it is hard won.

The diocese has ceased to use a formula for Bishop’s Ministry Fund. Contributions from each ministry area are decided through Christian conferring at a Synod level. For the past few years, Llandudno has been generous to the Synod and contributed over £70,000 each year.

One of the priorities for a new Vicar and Ministry Area Leader will be to think more strategically about how finance is used and managed. This is as key for wealthier ministry areas as for poorer ministry areas. This will need to be a task that is undertaken alongside that of compiling a mission development plan.

The Diocese provides help for this task through it’s a full time fundraising and stewardship officer. This officer offers help and training for all treasurers and assistance for ministry areas to think strategically about the management of finance and making the most of the resources that they have. A summary of the ministry area accounts are presented on the opposite page.

iii) Cynllun Datblygu Cyllid

Mae Ardal Weinidogaeth Llandudno wedi ei bendithio drwy’r cyfleoedd sydd ganddi ar gyfer cynhyrchu incwm yn bennaf drwy ei faes parcio a’r cyngherddau a’r cyfleoedd ar gyfer codi arian drwy’r llu o dwristiaid sy’n ymweld â Llandudno bob blwyddyn. Wedi dweud hynny, mae’r plwyf yn gweithio’n galed iawn i godi arian ac mae llawer ohono wedi ei ennill drwy fawr ymdrech.

Mae’r esgobaeth wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio fformiwla ar gyfer Cronfa Weinidogaethol yr Esgob. Penderfynir ar gyfraniadau o bob ardal weinidogaethol drwy drafodaeth Cristnogion ar lefel Synod. Am yr ychydig flynyddoedd a aeth heibio, bu Llandudno’n hael tuag at y Synod a chyfrannodd dros £70,000 bob blwyddyn.

Un o’r blaenoriaethau i Ficer newydd fydd meddwl yn fwy strategol am y modd y defnyddir ac y rheolir cyllid. Mae hynny yr un mor allweddol i ardaloedd gweinidogaeth cyfoethocach ag ar gyfer ardaloedd tlotach. Bydd angen i hon fod yn dasg yr ymgymerir â hi ochr yn ochr â rhoi at ei gilydd gynllun datblygu cenhadaeth. Mae’r Esgobaeth yn darparu cymorth ar gyfer y dasg hon drwy ei chodi arian a’i swyddog stiwardio llawn amser. Mae’r swyddog hwn yn cynnig cymorth a hyfforddiant ar gyfer pob trysorydd a chymorth i ardaloedd gweinidogaeth i feddwl yn strategol am reoli cyllid a gwneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ganddynt. Cyflwynir crynodeb o gyfrifon yr ardal weinidogaethol ar y dudalen gyferbyn.

25Proffil yr Apwyntiad / Appointment Profile

Accounts 2016Cyfrifon 2016

26 Ficer Llandudno / Vicar of Llandudno

Sul y Palmwydd, Eglwys y Drindod Sanctaidd / Palm Sunday, Holy Trinity Church, Llandudno

27Proffil yr Apwyntiad / Appointment Profile

4 / Disgrifiad swydd / Job description

1. Diben: Rhannu yn episgop yr Esgob fel Prif Fugail a Gweinidog yr Esgobaeth drwy ddarparu arweinyddiaeth a goruchwylio cenhadaeth a gweinidogaeth Ardal Weinidogaeth Llandudno

2. Cyfrifoldeb: Bod yn gyfrifol am gydweithio a chydweithrediad llawn gyda’r Esgob, yr Esgobaeth, y Tîm Gweinidogaeth a Cyngor yr Ardal Weinidogaeth am:

Arweinyddiaeth o fewn yr Ardal Weinidogaeth Arwain addoli’r Duw Hollalluog Cyfranogiad pobl Dduw yn ei Genhadaeth Addysgu a meithrin disgyblion Galw pobl i weinidogaeth Stiwardiaeth cyllid, eiddo ac adnoddau

Bydd ef neu hi yn gyfrifol yn y pen draw am gyflawni gweledigaeth yr esgobaeth yn yr Ardal Weinidogaeth ac am y strategaeth i gyflawni hyn ar lefel leol.

3. Prif dasgau a dyletswyddau:

a) Arweinyddiaeth gyffredinol

1. Bod yn ffyddlon mewn gweddi ac annog holl bobl Duw i fod yn ffyddlon ac yn rheolaidd mewn gweddi a sefydlu patrwm o weddi bob dydd yn yr Ardal Weinidogaeth.2. Darparu canolbwynt sagrafennol i atgoffa’r ffyddloniaid am fraint a chyfrifoldeb holl bobl Duw mewn addoliad a gwasanaeth.3. Ffurfio a meithrin Tîm Gweinidogaeth a fydd yn cynnwys Gweinidogion eraill (ordeiniedig a lleyg) wedi’u hawdurdodi gan yr Esgob ar gyfer y weinidogaeth gyhoeddus, a nodi anghenion hyfforddiant i eraill y gallai Duw fod yn eu galw i weinidogaethu.4. Gweithio gyda’r wardeniaid fel prif swyddogion lleyg y plwyf a chadeirio cyngor yr ardal weinidogaeth yn ei gyfrifoldebau i gyflawni gweledigaeth yr Esgobaeth am eglwys sy’n dysgu a’i dyletswyddau yn ôl Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru.5. Cymryd yr awenau yn y gwaith o ddatblygu strategaeth ar gyfer cyflwyno cenhadaeth a gweinidogaeth ar lefel leol a thyfu’r eglwys, yn ysbrydol ac o ran nifer. 6. Sicrhau bod cyfarfodydd rheolaidd o cynghorau yr Ardal Weinidogaeth yn cael eu cynnal.7. Cydweithio gyda phwyllgorau neu ar faterion sy’n ymwneud â’r eglwysi unigol.8. Chwilio am bob cyfle i weithio’n eciwmenaidd yn yr Ardal Weinidogaeth

1. Purpose:

To share in the episcope of the Bishop as Chief Shepherd, Pastor and Minister of the Diocese through providing leadership and overseeing mission and ministry in the Llandudno Ministry Area

2. Responsible: Be responsible in collaboration and full co-operation with the Bishop, Diocese, Ministry Team and Ministry Area Council for:

The leadership within the Ministry AreaLeading the worship of Almighty GodThe participation of God’s people in his MissionThe education and nurturing of disciplesThe calling of people to ministryThe stewardship of finance, property and resources

He or she will be ultimately responsible for the execution of the diocesan vision in the Ministry Area and for the strategy to achieve this at a local level.

3. Principal tasks and duties:

a) General Leadership

1. To be faithful in prayer and to encourage all God’s people to be faithful and regular in prayer and to establish a pattern of daily prayer in the Ministry Area.2. To provide a sacramental focus reminding the faithful of the privilege and responsibility of all God’s people in worship and service.3. To form and nurture a Ministry Team consisting of other Ministers (ordained and lay) authorized by the Bishop for public ministry and to identify the training needs for others whom God might be calling to ministry.4. To work with the Churchwardens as the principal lay officers of the parish and to chair the ministry area council in its responsibilities to deliver the Diocesan vision for a learning church and its duties according to the Constitution of the Church in Wales.5. To take a lead in the development of a strategy for delivering mission and ministry at a local level and in growing the church, spiritually and numerically.6. To ensure regular meetings of the Ministry Area Council occur.7. To co-operate with committees or on matters which relate to the individual church.8. To seek all opportunities to work ecumenically in the Ministry Area.

28 Ficer Llandudno / Vicar of Llandudno

9. Cydweithio â’r Archddiacon i adolygu’r Ardal WQeinidogaeth bob blwyddyn er mwyn cynnig y gorau i Dduw a’r gymuned o ran addoli, cenhadaeth a gwasanaeth.10. Sicrhau bod swyddfa’r ardal yn drefnus ac yn effeithlon.; bod cofnodion gwasanaethau, rhestr etholwyr, bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau yn cael eu cynnal mewn modd proffesiynol.11. Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion statudol y gyfraith, y gwasanaethau a’r gweithdrefnau a gymeradwywyd gan yr Eglwys yng Nghymru mewn gweinidogaeth a rennir ac sy’n ydweithredol.12. Cydymffurfio â chyfraith y wlad a rheoliadau’r eglwys o ran: priodasau a marwolaethau, diogelu, atebolrwydd ariannol, iechyd a diogelwch, cynnal a chadw cyfrifon, rhestr o ddodrefn, gosodiadau ac arteffactau, gofalu am adeiladau eglwysig.

b) Addoliad a litwrgi1. Llywyddu dros addoli yn yr Ardal Weinidogaeth, gan sicrhau ei fod yn ysbrydoledig, yn barchus, yn greadigol, yn drefnus ac yn hygyrch i bawb. 2. Bod â throsolwg ar weinidogion eraill yn yr ardal; gwneud yn siŵr fod yr addoli’n briodol o ran natur ac amlder, a bod pobl awdurdodedig yn cael eu penodi i arwain (offeiriad digyflog, diaconiaid, darllenwyr lleyg, arweinwyr addoliad, wardeniaid).3. Darparu cyfleoedd i gleifion a’r rhai sy’n gaeth i’w cartref dderbyn cymun a sacramentau eraill yn y cartref lle bo’n briodol.4. Cydlynu addoli mewn ysgolion yn yr ardal, o ran cymryd rhan ac annog eraill i helpu gyda’r fraint o rannu yn y gwaith o feithrin plant yn Gristnogol.5. Cydlynu, cymryd rhan a helpu i baratoi a hyfforddi gweinidogion awdurdodedig eraill i weinyddu gwasanaethau achlysurol yn effeithiol.

c) Efengylu, addysgu a meithrin1. Bod yn brif efengylydd ac athro’r ffydd yn yr Ardal.2. Darparu cyfleoedd i’r rhai sy’n anghyfarwydd â’r eglwys i ddysgu am y ffydd Gristnogol ac ymgysylltu â hi.3. Meithrin diwylliant o efengylu yn yr ardal.4. Darparu cyfleoedd i’r ffyddloniaid dyfu mewn disgyblaeth drwy astudio a thrafod.5. Ar y cyd â Chyfarwyddwr Weinidogaeth, sefydlu cwrs Archwilio Ffydd yn y fywoliaeth ac annog y ffyddloniaid i fod yn bresennol.6. Cyd-drefnu a chymryd rhan yn y gwaith o addysgu a meithrin y rhai sy’n paratoi ar gyfer bedydd (a lle bo’n briodol, rhieni a rhieni bedydd) a darparu cyfleoedd ar gyfer y rhai sy’n ceisio conffyrmasiwn i gael eu cyfarwyddo a’u meithrin yn briodol.7. Rhoi cyfle i’r rhai sy’n anghyfarwydd â’r eglwys i glywed yr Efengyl Gristnogol, a, lle bo’n briodol, sefydlu cyrsiau efengylu.

9. To co-operate with the Archdeacon in a review of the Ministry Area every year for the benefit of offering God and community the best in worship, mission and service.10. To ensure that the Ministry Area office is organised and efficient; that the records of services, electoral roll, baptisms, weddings and burials are maintained in a professional manner.11. To ensure that the statutory requirements of the law, the services and procedures approved by the Church in Wales are complied with in a shared and collaborative ministry.12. To comply with the law of the land and church regulations in relation to the following: marriages & deaths, safeguarding, financial accountability, health and safety, maintenance of accounts, inventory of furniture, fitting and artefacts, care of church buildings.

b) Worship and liturgy1. To preside over worship in the Ministry Area, ensuring that it is inspiring, reverent, creative, ordered and accessible to all.2. To have oversight over other ministers in the area; making sure that worship is appropriate in nature and frequency and that authorized people are appointed to lead (NSMs, deacons, readers, worship leaders, churchwardens).3. To provide opportunities for the sick and housebound to receive communion at home where appropriate.4. To co-ordinate worship within schools in the area in both participating and encouraging others to help with the privilege of sharing in the Christian nurture of children.5. To co-ordinate, participate in and help equip and train other authorised ministers for effective administration of the occasional offices.

c) Evangelism, Education and nurture1. To be the principal evangelist and teacher of the faith in the Ministry Area.2. To provide opportunities for the ‘unchurched’ to learn about and engage with the Christian faith.3. To foster a culture of evangelism within the area.4.To provide opportunities for the faithful to grow in discipleship through study and discussion.5. In co-ordination with the Director of Ministry, to establish courses in the area and to encourage the faithful to attend.6. To co-ordinate and participate in the education and nurture of those preparing for baptism (and where appropriate parents and godparents) and to provide opportunities for those seeking confirmation to be properly instructed and nurtured.7. To provide opportunity for the un-churched to hear the Christian Gospel and, where appropriate, to establish process evangelism courses.

29Proffil yr Apwyntiad / Appointment Profile

8. Cyd-drefnu gweinidogaeth i’r rhai sy’n dymuno priodi, a chynnal priodasau.

d) Gofal bugeiliol

1. Meithrin o fewn yr Ardal Weinidogaeth ddiwylliant a gweinidogaeth o ofal bugeiliol ymhlith y ffyddloniaid ac am allan yn y gymuned drwy addysgu ac esiampl. 2. Ceisio cysylltu â strwythurau cymorth statudol i’r rhai sy’n dioddef.3. Sicrhau gofal a darparu’r sacramentau i’r cleifion a’r rhai sy’n marw. 4. Cynnig cefnogaeth a chyngor ysbrydol i’r Fywo2. Ceisio cysylltu â strwythurau cymorth statudol i’r rhai sy’n dioddef.5. Cydlynu a rhannu yn y weinidogaeth angladdau.6. Cydlynu a rhannu yn y weinidogaeth i’r rhai mewn profedigaeth.7. Rhyddhau pobl Duw er lles pawb a gogoniant i Dduw.

e) Gweithredu Cymdeithasol

1. Sicrhau bod yr eglwys yn yr Ardal Weinidogaeth yn cymryd rhan yng nghenhadaeth Duw i’r byd.2. Ceisio meithrin rhwydweithiau a chysylltiadau y tu allan i’r eglwys er mwyn bod yn bartner i asiantaethau eraill wrth adeiladu teyrnas Dduw. 3. Cofleidio egwyddor Lund mewn gwaith eciwmenaidd, sef ‘y dylai eglwysi weithredu gyda’i gilydd ym mhob mater ac eithrio’r rhai y mae gwahaniaethau dwfn o argyhoeddiad yn eu gorfodi i weithredu ar wahân’.

Dylid cyflawni’r holl dasgau a dyletswyddau hyn gan gofio am fraint aruthrol gweinidogaeth: gyda chymorth Duw, er mwyn Iesu Grist ac yn nerth yr Ysbryd Glân.

8. To co-ordinate ministry to those seeking marriage and to conduct weddings.

d) Pastoral Care

1. To foster within the Ministry Area a culture and ministry of pastoral care amongst the faithful and outwards into the community by teaching and example.2. To seek to connect with statutory support structures for the suffering.3. To ensure care and provision of the sacraments for the sick and dying.4. To offer support and spiritual counsel to the whole Benefice.5. To co-ordinate and share in the ministry of funerals.6. To co-ordinate and share in the ministry to the bereaved.7. To liberate God’s people for the good of all and the glory of God.

e) Social Action

1. To ensure that the church in the Ministry Area is participating in God’s mission to the world.2. To seek to build networks and relationships outside the church in order to partner other agencies in building God’s kingdom.3. To embrace the Lund principle in working ecumenically ‘that churches should act together in all matters except those in which deep differences of conviction compel them to act separately’. All these tasks and duties are to be carried out remembering the immense privilege of ministry: with the help of God, for the sake of Jesus Christ and in the power of the Holy Spirit.

30 Ficer Llandudno / Vicar of Llandudno

5 / Atodiad / Appendix: Oddiwrth Pennaeth San Siôr / from the Head of San Siôr

Mae Ysgol San Siôr yn Ysgol Gynradd dan Gymorth yr Eglwys (ystod oedran 3-11) ac mae plant yn dechrau yn yr ysgol ar sail ran-amser yn y mis Medi sy’n dilyn eu trydydd pen-blwydd. Mae’r ysgol, sy’n adnabod ei gwaddoliad hanesyddol ac yn myfyrio ar ei Gweithred Ymddiriedolaeth, yn amcanu at gadw a datblygu ei chymeriad crefyddol yn unol ag egwyddorion yr Eglwys yng Nghymru ac mewn partneriaeth â’r Eglwys ar lefel plwyf ac Esgobaeth.

Mae’r ysgol hefyd yn amcanu at wasanaethu ei chymuned drwy ddarparu addysg o’r ansawdd gorau o fewn cyd-destun cred ac arfer Cristnogol. Mae’n annog dealltwriaeth o ystyr ac arwyddocâd ffydd ac yn amcanu at hybu gwerthoedd Cristnogol drwy’r profiadau a’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig i’w holl ddisgyblion o fewn amgylchedd dysgu gofalgar ac ysgogol.

Yn Ysgol San Siôr rydym yn darparu cwricwlwm ysgogol a heriol, sy’n galluogi i blant feddwl amdanynt eu hunain a mynd y tu draw i’w disgwyliadau; gan wireddu cyfyngiadau’r dosbarth fel amgylchedd dysgu a’r cyfleoedd y mae’r amgylchedd ehangach yn eu dal. Mae ein hamgylchoedd yn darparu amgylchedd dysgu cyfoethog ac amryfal sy’n cyfannu gwaith y dosbarth dan do. Mae pysgodyn aur yr ysgol wedi ei ailosod gan gameleonod, cywion ieir, crwbanod, gecoaid o bob math a llyffantod ecsotig yr un faint â soseri. Amcanwn at gyfarparu pob disgybl yn cynnwys y genhedlaeth nesaf o rai fel Steve Backshall, David Attenborough a Iolo Williams gyda’r sgiliau a’r wybodaeth i ganiatáu iddynt ddod yn ddinasyddion cyfrifol a phrysur wrth iddynt fynd ymlaen i gam nesaf eu haddysg. Byddem yn gobeithio y byddai’r ymgeisydd llwyddiannus fel Ficer yn cymryd rhan ym mywyd a gwaith yr ysgol, gan rannu gwerthoedd yr ysgol tra’u bod hefyd yn cynnig arweiniad ysbrydol i’r disgyblion, y rhieni, y staff a’r llywodraethwyr yn yr ysgol.Rydym yn amcanu at ddarparu cymaint o brofiadau uniongyrchol ag y bo modd ac yn credu y gall y defnydd o’r byd naturiol fel adnodd arwain at safonau uchel lle mae plant yn ymfalchïo yn y byd o’u hamgylch, cariad at ddysgu a gwerthfawrogiad dyfnach o greadigaeth Duw. Enillodd yr Ysgol Wobr Menter Ysgol Gynradd Orau Llywodraeth Cynulliad Cymru am fenter ddyfeisgar ‘Wyau San Siôr’

Mae’r ysgol ar y funud yn llawn dop ac mae ganddi rif mynediad o 30. Mae’r dalgylch yn cwmpasu Bywoliaeth Llandudno ac mae’r galw am leoedd yn uchel. Mae’r ysgol yn ysgol arweiniol ar gyfer dysgu Byd-Eang a chynrychiolir 15 o genhedloedd yn yr ysgol, tra bod 45 disgybl yn siarad iaith arall ar wahân i Saesneg/Cymraeg yn cynrychioli 18% o gymuned yr ysgol. Mae hynny’n sylweddol uwch na chyfartaledd y sir o 5% yn unig

Ian Jones, Pennaeth

Ysgol San Siôr is a Church Aided Primary School (age range 3-11) and children start at the school on a part-time basis the September following their third birthday. Recognising its historic foundation and reflecting its Trust Deed, the school aims to preserve and develop its religious character in accordance with the principles of the Church in Wales and in partnership with the Church at parish and Diocesan level.

The school also aims to serve its community by providing an education of the highest quality within the context of Christian belief and practice .It encourages an understanding of the meaning and significance of faith and aims to promote Christian values through the experiences and opportunities it offers to all its pupils within a caring and stimulating learning environment.

At Ysgol San Sior we provide a stimulating and challenging curriculum, empowering children to think for themselves and to exceed their expectations; realising the limitations of the classroom as a learning environment and the opportunities that the wider environment holds. Our surroundings provide a rich and diverse learning environment that complements the work of the indoor classroom. The school goldfish has been replaced by chameleons, chickens, tortoises, geckos of every variety and exotic frogs the size of saucers. We aim to equip all pupils including the next generation of Steve Backshalls, David Attenboroughs and Iolo Williamses with the skills and knowledge to allow them to become responsible and active citizens as they proceed onto the next stage of their education. We would hope that the successful candidate as Rector would participate in the life and work of the school, sharing the school values whilst also offering spiritual guidance to the pupils, parents, staff and governors at the school. We aim to provide as many first-hand experiences as possible and believe that the use of the natural world as a resource can result in high standards where children take pride in the world around them, a love of learning and a deeper appreciation of God’s creation. The school won Welsh Assembly Government Best Primary Enterprise Award for the innovative ‘Wyau San Sior’ enterprise.

The school is currently full to capacity and has an admission number of 30. The catchment area encompasses the Rectorial Benefice of Llandudno and demand for places is high. The school is a lead school for Global Learning and 15 nationalities are represented at the school, while 45 pupils speak another language other than English /Welsh representing 18% of the school community. This is significantly higher than the county average of just 5%.

Ian Jones, Headteacher.

Casglu wyau yn Ysgol San Siôr / Collecting the eggs in Ysgol San Siôr

Swyddfa Archddiacon BangorArchdeacon of Bangor’s Office

* Yr Archddiacondy | The ArchdeaconryFfordd Belmont, Bangor, Gwynedd, LL57 2LL

( 01248 354360 8 [email protected]

Lluniau | Photographs© Christine Jones, Paul Davies & Ian Jones

Eglwys Sant Tudno / St Tudno’s Church