Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef...

45

Transcript of Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef...

Page 1: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid
Page 2: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 2 o 45

Mae gan Gyngor Caerdydd ddyletswydd i orfodi Rhan 2 Deddf Tai 2004 sy’n rheoleiddio

safonau mewn llety rhent sector preifat ac, ers ei weithredu yn 2006 mae wedi ymgymryd â

Chynllun Trwyddedu Gorfodol ar gyfer pob tŷ amlfeddiannaeth sydd â 5 o bobl neu ragor

mewn eiddo sydd â 3 o loriau neu ragor. Nod y ddeddfwriaeth yw gwella trefniadau rheoli,

amwynderau a safonau diogelwch tai amlfeddiannaeth a mynd i’r afael ag ymddygiad

gwrthgymdeithasol i wella safonau byw yn y gymuned. Mae hefyd yn rhoi pwerau disgresiwn

i awdurdodau lleol ymestyn cwmpas gwaith Trwyddedu tai amlfeddiannaeth drwy weithredu

Cynllun Trwyddedu Ychwanegol er mwyn diwallu anghenion eu hardal leol os tybir bod

angen.

Mae’r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad a wneir gan y sector rhent preifat i stoc tai’r

awdurdod, a thrwy’r Cynllun Gorfodol a mentrau eraill bu’n gweithio’n galed i wella safonau

yn yr eiddo hynny gyda rhywfaint o lwyddiant. Fodd bynnag, mae’r ffaith mai dim ond ar

raddfa fach y cymhwyswyd y cynllun, sef i dai sydd â 3 llawr neu ragor, dim ond yn cael

effaith fach mewn ardal, a chydnabuwyd bod angen pwerau ychwanegol, yn enwedig mewn

wardiau penodol, er mwyn darparu atebion gwell a mwy effeithiol i’r problemau. Felly, yn

dilyn arfarniad ac ymgynghoriad trwyadl, enwyd Ward Cymuned Cathays yn Ardal Trwyddedu

Ychwanegol yng Nghyfarfod Busnes Gweithrediaeth y Cyngor ar 4 Mawrth 2010.

Daeth y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yn Cathays i rym ar 1 Gorffennaf 2010 ac mae’n

ehangu cwmpas trwyddedu i gynnwys y rhan fwyaf o eiddo rhent sydd â 3 deiliad neu ragor

sy’n ffurfio 2 aelwyd neu ragor, ni waeth faint o loriau sydd gan yr eiddo. Mae’r Cynllun yn

rhedeg am 5 mlynedd, ac ar ddiwedd y cyfnod hwn bydd yn ofynnol i’r Cyngor ailddatgan

ardal y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol gan gynnal arfarniad ac ymgynghoriad cynhwysfawr a

thrwyadl.

Pan ddaw’r Cynllun presennol i ben yn 2015, bydd y Cyngor yn ystyried cynigion ar gyfer

ailddatgan ward Cathays. Ers cyflwyno’r Cynllun, mae’r Cynllun wedi’i werthuso fel mater o

drefn, gan roi cyfle i arfarnu effeithiolrwydd y Cynllun yn rheolaidd, monitro perfformiad a

hwyluso unrhyw welliannau gofynnol. Cynhaliwyd y gwerthusiad cyntaf o’r Cynllun ym mis

Ebrill 2012, a dilynwyd hynny gan werthusiad arall yn 2013, a gynhyrchodd adolygiad

cynhwysfawr o’r Cynllun ers ei gyflwyno ym mis Gorffennaf 2010, ynghyd â nifer o

argymhellion. Wrth i gyfnod 5 mlynedd y Cynllun ddod i ben ym Mehefin 2015, lluniwyd yr

adolygiad hwn i roi gwerthusiad terfynol o’r Cynllun er mwyn ystyried y posibilrwydd o estyn

y Cynllun am 5 mlynedd arall.

Cyflwyniad

Page 3: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 3 o 45

Cyflwyniad

1. Cefndir 1.1 Y cyd-destun deddfwriaethol

1.2 Proffil Cathays

1.3 Cysylltiadau â Pholisïau, Cynlluniau a Strategaethau

1.4 Nodau ac amcanion

2. Cyflawni’r Cynllun 2.1 Cwmpas y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol

2.2 Cyflwyno’r Cynllun

2.3 Mentrau ategol

2.4 Gweithio mewn partneriaeth

2.5 Polisi Gorfodi

3. Gwerthuso’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol 3.1 Diben Gwerthuso’r Cynllun

3.2 Methodoleg a Chwmpas

3.3 Dadansoddiad o effaith y Cynllun.

3.4 Gwelliannau

4. Casgliadau ac Argymhellion 4.1 Pwyntiau a chasgliadau allweddol

4.2 Argymhellion

Contents

Page 4: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 4 o 45

Cefndir

1.1 Y cyd-destun deddfwriaethol

Cyflwynodd Rhan 2 Deddf Tai 2004 drefniadau i drwyddedu tai amlfeddiannaeth, gan ei

gwneud yn ofynnol i drwyddedu tai amlfeddiannaeth sy’n cynnwys 3 o loriau neu ragor A

phump o bobl neu ragor sy’n byw fel dwy aelwyd unigol neu ragor ac sy’n rhannu rhai

amwynderau. Fe’i gelwir yn Drwyddedu Gorfodol, ac mae’r term yn gymwys i eiddo yn y

sector rhent preifat.

Mae safonau ffisegol a safonau rheoli yn aml yn isel mewn tai amlfeddiannaeth, a nod y

gyfundrefn drwyddedu yw sicrhau bod yr eiddo sydd yn y cyflwr gwaethaf a’r eiddo risg uchaf

yn y farchnad rhentu preifat yn bodloni’r safonau cyfreithiol ac y cânt eu rheoli’n gywir er

mwyn amddiffyn iechyd, diogelwch a lles deiliaid y math hwn o eiddo yn well.

Yng Nghaerdydd, mae nifer fawr o geisiadau/cwynion am gyflwr eiddo preifat yn y Ddinas yn

ymwneud â thai amlfeddiannaeth. Maent hefyd yn gysylltiedig â materion sy’n effeithio ar y

gymdogaeth megis sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, sef problemau sy’n gallu codi

gan fod yr eiddo wedi’i reoli’n wael. Gall tai amlfeddiannaeth hefyd newid natur ardal ac

arwain at lai o gydlyniant cymunedol.

Er bod y gyfundrefn drwyddedu orfodol yn cwmpasu nifer o eiddo, ni all fynd i’r afael â’r holl

broblemau a amlygwyd yn y sector rhent preifat gan ei bod ond yn gymwys i gyfran fechan

o’r stoc, a phrin yw’r effaith weladwy a gaiff mewn ardal, yn enwedig mewn ardal lle ceir

problemau sylweddol sy’n gysylltiedig â’r nifer fawr o dai amlfeddiannaeth yn yr ardal.

O dan Ddeddf Tai 2004, mae pwerau ychwanegol ar gael i alluogi awdurdodau lleol estyn y

gyfundrefn drwyddedu i gategorïau eraill o eiddo, sef:-

• Pwerau trwyddedu ychwanegol sy’n galluogi’r Cyngor i ymestyn cwmpas ei

waith trwyddedu tai amlfeddiannaeth i gwmpasu mathau eraill o dai

amlfeddiannaeth, naill ai ar draws ei ardal gyfan neu mewn rhan o'r ardal.

• Pwerau trwyddedu dethol sy’n galluogi’r Cyngor i estyn y gyfundrefn

drwyddedu i fathau eraill o eiddo yn ogystal â thai amlfeddiannaeth mewn

rhannau o’r Ddinas lle gall fod problemau o ran lefel isel o alw am dai neu

broblemau o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Er gwaethaf y gwaith da a wnaed i wella cyflwr eiddo ym mhob rhan o’r Ddinas, roedd yn

amlwg nad oedd y gyfundrefn drwyddedu a oedd yn bodoli eisoes yn gwarchod ardaloedd

penodol yn y Ddinas yn ddigonol, ac roedd amryw o broblemau cyffredin i’w gweld yn yr

ardaloedd hynny megis tomenni sbwriel, diffyg mannau parcio, dirywiad o ran golwg

strydoedd a thai mewn cyflwr gwael. Gan hynny, cydnabu’r Awdurdod y byddai’r pwerau

ychwanegol sydd ar gael drwy gyflwyno trefniadau Trwyddedu Ychwanegol yn sicrhau

atebion gwell a mwy effeithiol.

1

Page 5: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 5 o 45

Ar 10 Medi 2009, penderfynodd y Weithrediaeth gynnal ymgynghoriadau mewnol ac allanol

ar y cynnig i gyflwyno Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yn Ward Cymuned Cathays, Caerdydd.

Yn dilyn yr arfarniad a’r ymgynghoriad trwyadl hyn, datganwyd yn ffurfiol bod yr ardal yn

ardal Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yng Nghyfarfod Busnes y Weithrediaeth ar 4 Mawrth

2010, gyda dyddiad dod i rym o 1 Gorffennaf 2010.

1.2 Proffil Cathays

Mae Caerdydd yn ddinas brifysgolion, gyda thua 36,000 o fyfyrwyr llawn amser dros 18 oed

yn byw yn y ddinas. Mae tua 10% o boblogaeth Caerdydd yn fyfyrwyr, gyda’r rhan fwyaf

ohonynt yn byw yn ardal Cathays a Phlasnewydd, fel arfer mewn tai teras a rennir a

adeiladwyd cyn 1919.

Mae Cathays yn ardal o’r ddinas sy’n ddeniadol i fyfyrwyr gan ei fod yn agos i’r campws a

chanol y ddinas. Mae’r ardal yn cynnwys nifer fawr o dai rhent preifat (mae 64% o

aelwydydd yn Cathays yn byw mewn tai rhent preifat yn ôl cyfrifiad 2011) ac mae dros 64% o

drigolion Cathays yn fyfyrwyr llawn amser. Mae’r galw mawr am eiddo yn galluogi rhai

landlordiaid ac asiantau i hysbysebu a gosod eiddo sydd mewn cyflwr gwael yn Cathays.

Yn 2006 sefydlwyd partneriaeth strategol rhwng y Cyngor a phrifysgolion y Ddinas drwy

fabwysiadu Cynllun Cymuned Myfyrwyr Caerdydd, gan fynd i’r afael â “myfyrwyreiddio”

ardaloedd penodol o’r ddinas lle mae nifer fawr o fyfyrwyr yn byw. Fel arfer roedd amryw o

broblemau i’w gweld yn yr ardaloedd hynny, megis tomenni sbwriel, diffyg mannau parcio,

dirywiad o ran golwg strydoedd a thai mewn cyflwr gwael. Cynorthwywyd y bartneriaeth

hon gan gydlynydd a ariennir ar y cyd i arwain y gwaith o weithredu cynllun cymuned y

myfyrwyr ond, er gwaethaf hyn, mae undebau myfyrwyr yn dal i ddweud mai tai myfyrwyr

yw’r mater unigol pwysicaf a wynebir ganddynt, ac mae anfodlonrwydd yn y gymuned yn

parhau.

Yn sgil yr anfodlonrwydd hyn, cyflwynwyd cynnig i’r Cyngor ar 20 Tachwedd 2008 yn tynnu

sylw at effaith nifer fawr o fyfyrwyr mewn rhannau penodol o’r Ddinas ac yn galw ar

swyddogion i ystyried sut y gellid cymhwyso darpariaethau Deddf Tai 2004 i ehangu

cyfundrefnau trwyddedu tai amlfeddiannaeth yng Nghaerdydd. Cadarnhaodd y Grŵp y gallai

cyflwyno trefniadau Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth fod yn rhan o ateb

effeithiol, ac ystyriodd pa rannau o’r Ddinas fyddai’n cael y budd mwyaf o hynny.

Wrth bennu ardaloedd priodol i’w datgan fel ardaloedd Cynllun Trwyddedu Ychwanegol, aeth

y Cyngor ati i ystyried nifer o ffactorau ychwanegol a arweiniodd at ddewis Cathays fel ardal

o’r fath:-

• Cathays sydd â’r gyfradd uchaf o gwynion ynghylch Gorfodi Tai fesul eiddo yn y

Ddinas. (Roedd 14.83% o’r holl geisiadau gwasanaeth ar gyfer Gorfodi Tai yn

ymwneud ag eiddo yn Cathays).

• Dangosodd Arolwg Cyflwr Stoc Tai y Sector Preifat 2005 y cafwyd y lefelau

uchaf o eiddo nad ydynt yn ffit yng Nghaerdydd yn Ardal 5 (sef Cathays a

Gabalfa ar y cyd), gydag 8.9% o anheddau yn yr ardal heb fod yn ffit.

• Yn ogystal, nododd arolwg 2005 mai Ardal 5 (Cathays a Gabalfa) oedd â’r gost

atgyweirio uchaf fesul eiddo yng Nghaerdydd.

Page 6: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 6 o 45

• Yn ogystal dangosodd yr Arolwg mai Ardal 5 (Cathays a Gabalfa) oedd â’r

lefelau uchaf o dlodi tanwydd o bell ffordd, gyda 19.4% o aelwydydd yn byw

mewn tlodi tanwydd o gymharu â’r uchaf ond un o 10.1%.

• Yn ystod 2008/09, cafwyd 118 (sef 22.78% o gyfanswm Caerdydd) o geisiadau

gwasanaeth ynghylch Gorfodi Tai yn ardal Cathays.

• Yn ystod 2008/09, cafwyd 195 (sef 11.74% o gyfanswm Caerdydd) o gwynion

am Niwsans Sŵn Tai Sector Preifat yn ardal Cathays.

• Yn ystod 2008/09, cofnodwyd 274 o achosion o fyrgleriaeth yn ardal Ward

Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd.

• Mae ymatebion tenantiaid i’r holiaduron Rhanddeiliaid yn nodi lefelau uchel o

bryderon am eu llety a’r ardal.

1.3 Cysylltiadau â Pholisïau, Cynlluniau a

Strategaethau

Mae Strategaeth Tai Lleol Cyngor Caerdydd 2012-2017 yn nodi’r weledigaeth o sicrhau bod

Caerdydd yn cyflawni marchnad dai sy’n cefnogi anghenion a dyheadau ei chymuned, yn

cynnig dewis ac yn gwella hygyrchedd drwy gynnig cartrefi fforddiadwy, cynaliadwy o safon.

Mae pob adran yn disgrifio’r materion strategol a wynebir gan wasanaethau tai yng

Nghaerdydd a’r camau a gymerir i gynorthwyo o ran mynd i’r afael â’r blaenoriaethau. Mae’r

Strategaeth yn nodi bod manteision sylweddol yn deillio o gyflwyno Cynllun Trwyddedu

Ychwanegol o ran sicrhau tai gwell a rheoli eiddo’n well tra’n gwella diogelwch y deiliaid a

dod â gwelliannau i’r gymuned ehangach. At hynny mae’n cydnabod bod gweithredu’r

Cynllun yn Ward Cymunedol Cathays wedi canolbwyntio ar ardal llety myfyrwyr, gan helpu

sicrhau cyflenwad o eiddo rhent sector preifat o ansawdd da a reolir yn dda. Nodir bod

gwerthuso’r Cynllun yn Cathays yn rheolaidd yn weithgarwch a fydd yn helpu cyflawni

amcanion sy’n sicrhau bod Tenantiaid a phreswylwyr yn byw mewn cartrefi diogel.

Mae Strategaeth “Beth sy’n Bwysig” 2010-2020 Caerdydd yn strategaeth ddeng mlynedd

sy’n dwyn ynghyd partneriaid o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yng Nghaerdydd i

gydweithio ar draws ffiniau sefydliadol i rannu a chyflawni’r hyn sy’n bwysig i’r rhan fwyaf o

bobl yn y ddinas. Cydweledigaeth y Strategaeth yw sicrhau erbyn “2020 bydd Caerdydd yn

brifddinas Ewropeaidd o’r radd flaenaf gyda safon byw rhagorol wrth wraidd rhanbarth

dinesig cystadleuol”. Cytunodd y partneriaid ar 7 canlyniad i gyflawni hyn.

Page 7: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 7 o 45

Mae nodau Cynllun Trwyddedu Ychwanegol Cathays yn cyfrannu’n uniongyrchol at nifer o’r

canlyniadau allweddol hyn, drwy sicrhau bod gan Gaerdydd amgylchedd glân, deniadol a

chynaliadwy; ei fod yn lle gwych i fyw, gweithio a chwarae ynddo; a bod ganddi gymdeithas

ddiogel, cyfiawn a chynhwysol lle bod pobl yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel, a'u bod yn iach.

Yn ystod oes Cynllun Trwyddedu Ychwanegol Caerdydd, bob blwyddyn mae Cynllun

Corfforaethol Caerdydd wedi nodi blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer y 3 blynedd nesaf o ran

darparu gwasanaethau i bobl Caerdydd. Mae’r Cynlluniau’n nodi’r weledigaeth ar gyfer y

Ddinas, gan dynnu sylw at y blaenoriaethau a fydd yn sail i ddyheadau’r Cyngor ac yn ceisio’u

cyflawni.

Trwyddedu Ychwanegol fu un flaenoriaeth o’r fath a grybwyllir yn aml mewn Cynlluniau

Corfforaethol. Mewn perthynas â’r canlyniad “Mae gan bobl yng Nghaerdydd amgylchedd

glân, deniadol a chynaliadwy” (Cynllun Corfforaethol 2011-2014) ceir awydd i adfywio

cymdogaethau lleol drwy ddatblygu a hyrwyddo Cyngor Caerdydd fel landlord cymdeithasol

drwy werthuso gwaith y Gweithgor Corfforaethol ar Drefniadau Trwyddedu Ychwanegol ar

gyfer Cathays, ac ystyried manteision ymestyn y cynllun i rannau eraill o Gaerdydd. Yn

ogystal, gwnaeth y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol gyfraniad allweddol at sicrhau tai diogel a

chynnes drwy waith hyrwyddo, gweithio mewn partneriaeth, rhoi cymorth i landlordiaid a

rheoleiddio effeithiol (Cynllun Corfforaethol 2013-17). At hynny, drwy fuddsoddi mewn

ymateb strategol i leihau allyriadau carbon y Cyngor a sicrhau bod yn Cyngor yn cynhyrchu

mwy o ynni adnewyddadwy, cynigiwyd y byddai’r gwelliannau i eiddo a gyflawnir drwy’r

cynllun trwyddedu ychwanegol yn gwella effeithlonrwydd ynni llety rhent. Yn 2015, mae

Cynllun Corfforaethol Caerdydd 2015-17 yn parhau i nodi bod sicrhau bod tai o ansawdd da

ar gael i bobl Caerdydd yn amcan gwella allweddol, ac mae’n gwneud ymrwymiad i sicrhau

bod y sector rhent preifat yn addas at y diben a bod cartrefi’n cyflawni’r safonau cyfreithiol i

ddiogelu iechyd tenantiaid drwy roi blaenoriaeth i ymchwilio i gwynion a chyflawni cynlluniau

trwyddedu ychwanegol yn y ddinas mewn ffordd ragweithiol.

1.4 Nodau’r Cynllun

Diben y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yw gwella safon eiddo rhent yn ardal Cathays. Mae

hyn yn cynnwys pob eiddo a gaiff ei ystyried yn dŷ amlfeddiannaeth. Mae’r Cynllun hefyd yn

bwriadu mynd i’r afael â materion cymunedol ehangach megis gwastraff, ymddygiad

gwrthgymdeithasol, effeithlonrwydd o ran y defnydd o ynni a diogelwch eiddo drwy bennu

amodau trwydded ar gyfer pob eiddo a defnyddio’r System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai.

Wrth ystyried gweithredu’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol, roedd y Cyngor yn cydnabod y

byddai unrhyw broses weithredu o’r fath yn ffurfio rhan o strategaeth ehangach, ac mai dim

ond drwy weithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau eraill y Cyngor, Prifysgolion, yr

Heddlu, y Gwasanaeth Tân a landlordiaid y gellir mynd i’r afael â’r heriau a’r problemau. Gan

hynny, mae’r canlyniadau canlynol yn cynrychioli sut y rhagwelwyd y byddai’r Cynllun

Trwyddedu Ychwanegol yn sicrhau buddion go iawn i denantiaid, ardal Cathays yn gyffredinol

a gwasanaethau eraill y Cyngor drwy weithio mewn partneriaeth.

• Gwella llety drwy bennu amodau trwyddedu yn cynnwys diangfeydd tân,

amwynderau a safonau o ran gofod a thrwy ddefnyddio dulliau eraill megis y System

Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai i sicrhau gwelliannau o ran oerfel gormodol a

diogelwch.

Page 8: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 8 o 45

• Gwella iechyd a diogelwch drwy sicrhau bod gosodiadau nwy a thrydanol yn ddiogel;

• Gwelliannau cynaliadwy i ardal Cathays drwy bennu amodau trwyddedu i wella

“golygfa’r stryd” drwy wneud cyfleusterau storio gwastraff addas yn ofynnol;

• Sicrhau gwell gwerth am arian drwy ddull rhagweithiol mewn un ardal. Drwy

wneud ymdrech ar y cyd mewn un ardal, drwy gynyddu presenoldeb ac ymweld â thai

amlfeddiannaeth yn rheolaidd, cyflawnir rhagor o welliant parhaus hirdymor i gyflwr

eiddo;

• Dull gweithredu cyson o ran Rheoli Tenantiaeth a Chyflwr Eiddo ar gyfer tenantiaid

sy’n byw yn yr ardal. Bydd eiddo trwyddedig yn cydymffurfio â chyfres gyffredin o

amodau a fydd yn rheoli’r broses o gynnal a chadw eiddo a rheoli tenantiaeth, gan

gynnwys:-

- Rheoli diogelwch tân;

- Cyflwr a golwg ardaloedd cymunedol, gerddi a blaengyrtiau;

- Rheoli sbwriel a gwastraff;

- Cynnal a chadw gosodiadau nwy a thrydan;

- Rhoi cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig i bob tenant.

• Gwelliannau a wneir drwy hyfforddiant landlordiaid – Mae’r amodau sydd ynghlwm â

phob trwydded yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y drwydded fynychu hyfforddiant

priodol ar y gofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â rhentu preifat a rheoli tenantiaeth,

megis Cwrs Achredu Landlordiaid Cymru.

• Cael gwared â landlordiaid gwael - Ni all landlordiaid nad ydynt yn “addas a phriodol”,

e.e. sydd â chofnod troseddol neu hanes o reoli tai yn wael ddal trwydded.

• Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy wneud landlordiaid yn fwy atebol am

ymddygiad eu tenantiaid a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol;

• Argaeledd gwybodaeth – Mae trwyddedu yn galluogi’r Cyngor i gadw cofrestr

gyhoeddus o landlordiaid trwyddedig, sy’n galluogi’r Cyngor i rannu gwybodaeth gyda

gwasanaethau eraill y Cyngor. e.e. rheoli gwastraff, gyda’r gwelliant o ran

effeithlonrwydd gwasanaethau a gweithgarwch gorfodi a ddaw yn sgil hynny. Bydd

gan y cyhoedd fynediad i’r wybodaeth hefyd.

Yn gryno, drwy gyflwyno’r Cynllun, byddai’r Cyngor yn gwneud y canlynol:-

• Sicrhau bod y trefniadau rheoli effeithiol ar waith.

• Lleihau’r risg o dân, oerfel gormodol a pheryglon eraill mewn tai amlfeddiannaeth a

rennir a fflatiau unigol a addaswyd yn wael

• Gwella safon tai amlfeddiannaeth o ran amwynderau a gwaith atgyweirio

• Gwella safon tai amlfeddiannaeth mewn perthynas â diogelwch

• Rhoi cymorth i landlordiaid dibrofiad a sicrhau bod pob landlord/perchennog eiddo yn

fwy atebol am ymddygiad eu tenantiaid ac yn mynd i’r afael ag ymddygiad

gwrthgymdeithasol

• Creu sefyllfa decach lle mae landlordiaid pob tŷ amlfeddiannaeth yn buddsoddi mewn

safonau gwell

• Gwella ansawdd tai er budd tenantiaid a'r gymuned ehangach.

Page 9: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 9 o 45

Cyflawni’r Cynllun

2.1 Cwmpas y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol

Mae Adran 254 Deddf Tai 2004 yn rhoi diffiniad o dŷ amlfeddiannaeth ynghyd ag eithriadau

priodol, ond yn gryno mae Trwyddedu Gorfodol Tai Amlfeddiannaeth yn ei gwneud yn

ofynnol i drwyddedu tai amlfeddiannaeth sydd â 3 llawr neu ragor A phump o bobl neu ragor

sy’n byw fel dwy aelwyd unigol neu ragor ac sy’n rhannu rhai amwynderau. Mae’r Cynllun

Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Cathays yn ymestyn cwmpas trwyddedu i gwmpasu’r rhan

fwyaf o eiddo rhent sydd â 3 o ddeiliaid neu ragor sy’n ffurfio dwy aelwyd neu ragor ni waeth

faint o loriau sydd gan yr eiddo.

Ers cyflwyno’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol, mae nifer yr eiddo trwyddedig wedi cynyddu

o 323 eiddo i 2174.

2.2 Cyflwyno’r Cynllun

Unwaith y cymeradwywyd y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar 4 Mawrth 2010, gwnaed y

gwaith cyhoeddusrwydd angenrheidiol drwy gyhoeddi’r hysbysiadau cyfreithiol gofynnol yn y

Western Mail a’r South Wales Echo ar 11 Mawrth 2010 yn rhoi gwybod am y dyddiad

gweithredu arfaethedig sef 1 Gorffennaf 2010. Yn dilyn y broses o hysbysu’r cyhoedd cafwyd

4 o wrthwynebiadau, fodd bynnag ni dderbyniwyd y gwrthwynebiadau hyn, ac arhosodd

dyddiad gweithredu’r cynllun yr un fath.

Gan gydnabod yr angen i godi cymaint o ymwybyddiaeth â phosibl ymhlith landlordiaid,

hyrwyddwyd y cynllun ymhellach yng nghylchlythyr Llais y Ddinas y Cyngor, Unity News a

Chylchlythyr Achredu Landlordiaid Cymru, a gwnaed cyflwyniadau hefyd i Fforwm

Landlordiaid Caerdydd ac i Brifysgolion, Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion perthnasol y

Cyngor. At hynny, diweddarwyd gwefan Cyngor Caerdydd a’r wefan Tai Myfyrwyr

www.cardiffdigs.co.uk i gynnwys manylion llawn y cynllun. At hynny, hysbyswyd pob asiant

gosod tai am y cynllun, a hysbyswyd landlordiaid o’r angen am Drwydded gan Swyddogion a

oedd yn cyflawni eu dyletswyddau yn ardal Cathays.

Roedd yr ymateb cychwynnol i’r Cynllun yn dda iawn, gyda llawer o landlordiaid yn gofyn am

ffurflenni cais yn ystod y 2 fis cyntaf. Ym mis Medi/Hydref dychwelwyd nifer fawr o geisiadau

wedi’u cwblhau. Braf yw cael nodi y bu landlordiaid ac asiantau yn cysylltu â’r Cyngor i gael

ffurflenni cais. Dros amser, mae ymwybyddiaeth wedi cynyddu ymhellach, gyda’r rhan

fwyaf o eiddo trwyddedadwy yn cael eu trwyddedu, neu’n aros am ganlyniad eu cais.

2

Page 10: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 10 o 45

2.3 Mentrau ategol

Mae’r Cyngor wedi rhoi nifer o gynlluniau a mentrau ar waith i fynd i’r afael â’r heriau a’r

problemau sy’n bodoli yn Ward Cymuned Cathays ochr yn ochr â’r Cynllun Trwyddedu

Ychwanegol, fel a ganlyn:-

• Mae Cynllun Achredu Landlordiaid Cymru yn gynllun cenedlaethol a lansiwyd ym mis

Tachwedd 2008 sydd â’r nod o hyfforddi a chynorthwyo landlordiaid gan felly codi

safonau gwybodaeth a phroffesiynoldeb yn y sector rhent preifat a gwella’r ffordd y

mae landlordiaid yn ymdrin â’u heiddo a’u tenantiaid. Hyd yma mae 900 o

landlordiaid sydd ag eiddo yng Nghaerdydd wedi cael hyfforddiant o dan y Cynllun.

Mae mynychu cwrs hyfforddi addas ac achrededig ar reoli tenantiaeth a safonau

cyfreithiol ym maes rhentu preifat yn un o amodau’r cynlluniau trwyddedu gorfodol

ac ychwanegol, ac mae cymhellion ar gael i annog landlordiaid i fynychu’r cyrsiau.

Mae anogaeth o’r fath wedi cynnwys gostyngiad o £175 yn y ffi Trwyddedu

Ychwanegol ar gyfer pob eiddo y mae landlord yn berchen arno, a hyfforddiant am

ddim i’r landlordiaid hynny a achredwyd ar ôl cwblhau’r broses drwyddedu.

Fel sefydliad, mae Achredu Landlordiaid Cymru yn cynorthwyo landlordiaid drwy roi

gwybodaeth ac arweiniad ar newidiadau deddfwriaethol yn ogystal â rhannu arferion

gorau, ac mae’n rhoi cydnabyddiaeth i landlordiaid achrededig sy’n helpu eu

gwahaniaethu o’r landlordiaid hynny sy’n rhoi enw drwg i’r farchnad rent. Mae hyn o

fantais i’r landlord o ran busnes ac enw da, ac o fantais i’r Cyngor hefyd gan fod llai o

angen iddynt ymyrryd pan fo problemau’n codi.

• Mae Cyngor Caerdydd a’r tair Prifysgol yn cydariannu Swyddog Cyswllt Myfyrwyr i roi

Cynllun Gweithredu Cymuned Myfyrwyr Caerdydd a’r waith. Mae’r swydd hon yn

atgyfnerthu gweithio mewn partneriaeth rhwng y Cyngor a’r Prifysgolion i leihau’r

effeithiau negyddol sy’n gysylltiedig â nifer fawr o fyfyrwyr yn byw mewn ardaloedd

daearyddol bach. Mae’r Swyddog Cyswllt Myfyrwyr hefyd yn gweithredu fel un pwynt

cyswllt o ran materion tai myfyrwyr a materion ffordd o fyw.

• Mae www.lletycaerdydd.co.uk yn wefan benodedig i fyfyrwyr gael cyngor amrywiol ar

dai a byw mewn eiddo rhent preifat gan gynnwys costau, asiantau gosod achrededig,

landlordiaid, symud allan o’r neuaddau preswyl ac ati.

• Mae’r ymgyrch flynyddol O’r Neuadd Breswyl i Dŷ yn hysbysu myfyrwyr sy’n byw

mewn neuaddau preswyl am fyw yn y sector rhent preifat. Cynhelir yr ymgyrch cyn

gwyliau’r haf, gyda’r partneriaid yn dod ynghyd i roi cyngor i fyfyrwyr ar

ailddefnyddio, teithio cynaliadwy, diogelu pethau gwerthfawr a chyngor ar symud o’r

neuaddau i dai.

• Mae’r ymgyrch flynyddol Wedi Cael Llety, Be’ Nesa?’ yn hysbysu myfyrwyr am eu

cyfrifoldebau fel tenantiaid yn y sector rhent preifat drwy ddosbarthu ac arddangos

gwybodaeth am faterion megis cysylltiadau cymunedol, sbwriel ac ailgylchu,

diogelwch ac iechyd a diogelwch. Cynhyrchwyd rhestrau gwirio ar gyfer Symud i

Mewn a Symud Allan o eiddo i gynorthwyo’r ymgyrch. Caiff y rhain eu dosbarthu i

dros 600 o landlordiaid ac asiantau gosod yng Nghaerdydd er mwyn iddynt eu

cynnwys yn eu pecynnau croeso tenantiaeth a roddir i fyfyrwyr.

Page 11: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 11 o 45

• Mae ‘Dan Glo. Dan Ofal. yn ymgyrch ar y cyd â’r heddlu sydd wedi’i hanelu at

fyfyrwyr er mwyn gwella diogelwch a lleihau/atal achosion o fyrgleriaeth. Mae

amryw o fentrau ar waith gan gynnwys sicrhau bod mwy o heddlu i’w gweld yn yr

ardal, ymgyrchoedd marchnata gan gynnwys mynd o ddrws i ddrws i gyfleu

negeseuon diogelwch ac ymwybyddiaeth cymunedol, mentrau cofrestru eiddo a thîm

o wardeiniaid sy’n fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli gyda’r heddlu.

• Sefydlwyd y grŵp gweithredu gwirfoddol Eiriolwyr Amgylcheddol i fynd i’r afael â

materion cynaliadwyedd ac amgylcheddol yn yr ardal leol. Mae’r grŵp yn cynnwys

myfyrwyr ac aelodau o’r gymuned sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau

cynaliadwyedd a thasgau amgylcheddol rheolaidd megis mynd o ddrws i ddrws i godi

ymwybyddiaeth am wastraff, clirio sbwriel o afonydd, cefnogi’r wythnos

gynaliadwyedd, gweithio ochr yn ochr â Masnach Deg, ymgyrchoedd codi sbwriel

arloesol a phrojectau amgylcheddol.

• Mae Gwaredu’r Gwastraff yn ymgyrch ar y cyd arloesol sy’n helpu myfyrwyr i waredu

eu gwastraff ar ddiwedd y flwyddyn academaidd gyda’r nod o ailddefnyddio ac

ailgylchu cymaint â phosibl. Nod y cynllun yw helpu myfyrwyr ledled Caerdydd i

symud allan o’u heiddo’n ddidrafferth, tra’n sicrhau bod y gymuned leol yn lân ac yn

daclus.

Sefydlir 21 Ardal Werdd mewn neuaddau preswyl ac Undebau Myfyrwyr ledled y

ddinas lle gall myfyrwyr roi dillad, bwyd (tuniau, pacedi, jariau ac ati heb eu hagor),

eitemau trydanol bychan, llyfrau, CDs/DVDs ac eitemau’r gegin (platiau, mygiau,

teclynnau, sosbenni ac ati). Yn ogystal mae 20 o fanciau ailddefnyddio’r YMCA ar gael

ledled y ddinas drwy gydol y flwyddyn i gasglu dillad, esgidiau, bagiau, tecstilau,

eitemau trydanol bach, llyfrau, a CDau/DVDau.

Mae nifer o elusennau’n cael budd o’r cynllun. Mae bwyd yn cael ei gasglu ar gyfer

FareShare Cymru – gan gynorthwyo cymunedau i liniaru tlodi bwyd. Mae dillad,

eitemau trydanol, cyfryngau a thrugareddau yn cael eu casglu ar gyfer y YMCA i’w

hail-fuddsoddi’n uniongyrchol mewn projectau a gwasanaethau i bobl ddigartref yng

Nghymdeithas Tai YMCA Caerdydd. Caiff eitemau cegin eu storio dros yr haf a’u

gwerthu'n rhad iawn i fyfyrwyr ar ddechrau'r tymor, gyda'r holl elw'n mynd i elusen.

Un o nodau eraill y Cynllun yw annog ac addysgu myfyrwyr i roi eu gwastraff allan i’w

gasglu ar y diwrnod cywir wrth symud allan o’u tenantiaeth. Mae’r cynllun tair

wythnos a gynhelir ym mis Mehefin bob blwyddyn yn canolbwyntio ar sicrhau y caiff

gwastraff diwedd tymor ei gyflwyno a’i waredu mewn modd trefnus. Mae’r ymgyrch

hefyd yn gweithredu drwy gydol y flwyddyn i addysgu a chodi ymwybyddiaeth

myfyrwyr a landlordiaid o gyfrifoldebau cymdeithasol a’r ffordd gywir o gyflwyno

gwastraff. Cyn lansio’r ymgyrch yn 2004, wynebodd yr ardal gyfnod estynedig lle cai

gwastraff ei gyflwyno’n anghywir dros nifer o wythnosau wrth i fyfyrwyr adael yr

ardal, gan osod mwy o bwysau ar y gwasanaethau casglu gwastraff a glanhau. Yn

ogystal mae cyflwyno gwastraff yn anghywir yn ddyddiol yn cael effaith negyddol ar yr

amgylchedd a chymunedau lleol.

Cynhelir yr ymgyrch mewn partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd; Prifysgol Caerdydd;

Undebau Myfyrwyr; Prifysgol Fetropolitan Caerdydd; Prifysgol De Cymru; Llety

Myfyrwyr Caerdydd; YMCA Caerdydd; FareShare Cymru; Cardiff Self Storage a Liberty

Page 12: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 12 o 45

Living, ac ailddefnyddiwyd 18 tunnell o wastraff wrth i fyfyrwyr roi eitemau i

elusennau yn ystod 2014.

2.4 Gweithio mewn partneriaeth

Mae’r Cyngor yn gadarn o’r farn mai dim ond drwy sefydlu dull gweithredu cadarn mewn

partneriaeth rhwng tenantiaid, landlordiaid, cymunedau lleol, y sector gwirfoddol, y sector

preifat a gwasanaethau amrywiol y Cyngor yn cydweithio y gellir sicrhau gwelliannau parhaol

i’r stoc tai sector preifat yng Nghaerdydd. I’r perwyl hwn, mae gan yr awdurdod nifer o

drefniadau ar waith, sef:-

• Amodau trwydded - Un o brif ddibenion y cynllun yw mynd i’r afael â materion

cymunedol ehangach megis gwastraff, ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch

eiddo, a chyflawnir hyn drwy bennu amodau trwydded sy’n cwmpasu’r meysydd hyn.

Nod yr amodau hyn yw ategu gwaith gwasanaethau eraill y Cyngor drwy godi

ymwybyddiaeth, addysgu deiliaid trwyddedau a chydweithio i fynd i’r afael â’r

problemau. Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos cwmpas yr amodau:-

- Mae’r holl amodau sy’n ymwneud â thai amlfeddiannaeth yn cynnwys

gofynion sy’n ymwneud â llygredd sŵn a storio a gwaredu gwastraff;

- Mae’n ofynnol i landlordiaid hysbysu eu tenantiaid am eu cyfrifoldebau o ran

rheoli gwastraff ac ailgylchu, a lleihau sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

arall. Rhoddir dogfen “ymrwymiad tenantiaid” i landlordiaid sy’n egluro’r

cyfrifoldebau hyn;

- Mae’n ofynnol i landlordiaid weithio gyda’r gwasanaeth rheoli gwastraff i

ddarparu biniau sy’n addas ac yn ddigonol ar gyfer maint yr aelwyd. Yn ogystal

â hyrwyddo’r arfer o gadw a defnyddio cadis cegin, bagiau gwyrdd a bagiau

gwastraff bwyd.

- Er mai’r adran Rheoli Gwastraff yw’r pwynt gorfodi cyntaf o ran gwastraff,

gofynnir i landlordiaid waredu gwastraff adeiladu a dodrefn diangen a sicrhau

bod ierdydd a gerddi’n daclus.

- Mae’n ofynnol i landlordiaid hysbysu’r Adran Rheoli Llygredd am ddeiliaid

allweddi larymau a chymryd camau rhesymol i reoli ymddygiad

gwrthgymdeithasol.

-

• Ers 2011, bu swyddogion y Tîm Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth yn cydweithio â’r

Heddlu ar Broject Atal Byrgleriaethau Cathays sy’n defnyddio’r Cynllun Trwyddedu

Ychwanegol fel dull i leihau nifer yr achosion o fyrgleriaeth yn bennaf, yn ogystal â

mynd i’r afael â materion cymunedol ehangach megis gwastraff, ymddygiad

gwrthgymdeithasol, effeithlonrwydd ynni a diogelwch tân mewn tai amlfeddiannaeth.

Mae’r swyddogion yn ymweld ag eiddo ar y cyd â’r heddlu i archwilio’r eiddo i sicrhau

ei fod yn cydymffurfio â safonau’r drwydded a safonau diogelwch, a rhoi cyngor ar

atal troseddu. Cyflwynir rhybuddion i’r eiddo hynny sy’n methu â chyrraedd y

safonau i’w gorfodi i wneud gwaith i unioni’r sefyllfa.

Page 13: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 13 o 45

Mae’r canlyniadau’n dangos bod y project atal byrgleriaethau yn gweithio ac yn

lleihau nifer yr achosion o fyrgleriaeth yn ardal Cathays, gyda lleihad o 80% yn nifer yr

achosion o fyrgleriaeth dros 3 blynedd. (Am ragor o wybodaeth, gweler yr Adran

Byrgleriaethau)

• Sefydlwyd protocolau ar y cyd gyda’r Adrannau Rheoli Gwastraff a Rheoli Llygredd er

mwyn sicrhau cydweithio effeithiol. Enghraifft o’r dull gweithredu ar y cyd hwn yw

menter beilot gyda swyddogion Rheoli Gwastraff, swyddogion Trwyddedu Tai

Amlfeddiannaeth a Swyddogion Rheoli Plâu sy’n patrolio ar y cyd ar hyd Colum Road i

fynd i’r afael â phroblemau o ran golwg y stryd gan ddefnyddio’r ystod ehangach o

bwerau sydd ar gael i’r tair is-adran.

• Caiff copi o’r gofrestr Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth, sy’n nodi manylion

perchenogaeth a deiliadaeth, ei ddosbarthu’n fisol i’r adran Rheoli Llygredd, yr adran

Rheoli Gwastraff, y Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, yr Heddlu, yr adran Safonau

Masnach a’r adran Treth Gyngor er mwyn eu cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau

ac ymateb yn gyflymach i broblemau a chwynion.

• Yn 2011/12 cynhaliwyd cyfres o archwiliadau gan Swyddogion Safonau Masnach yn

Cathays o ran ansawdd a diogelwch nwyddau a ddarperir gyda thenantiaeth yn

cynnwys dodrefn, diogelwch tân a diogelwch trydanol. Yn ystod yr archwiliadau hyn,

archwiliwyd 165 o eitemau o ddodrefn, 30 o eitemau trydanol, cynhaliwyd 9

archwiliad diogelwch nwy, archwiliwyd 10 o gynhyrchion o dan gyfreithiau diogelwch

cyffredinol cynnyrch, ac archwiliwyd 21 o gynhyrchion o dan gyfreithiau diogelwch

eraill. O ran yr achosion o dorri rheolau, roeddent yn ymwneud â 2 fatres, 4 soffa ac

un gadair nad oeddynt yn cydymffurfio â’r safonau gofynnol. Roedd pob achos

tybiedig o ddiffyg cydymffurfiaeth yn ymwneud â dodrefn nas labelwyd â’r labeli

statudol. Anfonwyd gohebiaeth at bob landlord, a ymatebodd naill ai drwy gyflwyno

gwaith papur priodol neu drwy gael dodrefn sydd yn cydymffurfio.

• Yn ystod 2012, cwblhaodd y Tîm Gwasanaethau Defnyddwyr broject/partneriaeth

gwaith gyda Phrifysgol Caerdydd/Undebau Myfyrwyr/yr is-adran Gorfodi Tai mewn

perthynas â chytundebau tenantiaeth, a chyda myfyrwyr o ran materion contractau

cyfreithiol (sifil). Yn sgîl y gwaith hwn cyhoeddwyd taflen grŵp a roddwyd i holl

Fyfyrwyr Caerdydd yn rhoi cyngor a gwybodaeth iddynt.

• Mae’r adran Safonau Masnach hefyd yn anfon swyddogion yn rheolaidd i gynrychioli’r

adran yn ffair wythnos y glas ym Mhrifysgol Caerdydd i drafod materion Safonau

Masnach a chodi ymwybyddiaeth o’r adran

• Mae gan y Cyngor drefniadau partneriaeth ar waith gyda landlordiaid er mwyn eu

haddysgu a’u hysbysu, sef:-

- Fforwm Landlordiaid Caerdydd ac ALMA. Mae’r ddau yn cael cymorth gan y

Cyngor ond maent yn sefydliadau a arweinir gan landlordiaid ac asiantau sy’n

darparu gwybodaeth werthfawr i landlordiaid Caerdydd.

- Mae’r Cyngor wedi cynnal cyfres o Ddiwrnodau Agored Landlordiaid, sef

digwyddiad sy’n denu dros 200 o gynrychiolwyr yn rheolaidd.

- Cynhyrchir Cylchlythyr Landlordiaid bob chwe mis i roi gwybodaeth werthfawr,

a chaiff ei ddosbarthu’n electronig i landlordiaid yng Nghaerdydd.

Page 14: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 14 o 45

• Mae Operation Saturn yn ymgyrch a arweinir gan yr heddlu a gynhelir bob blwyddyn

pan fo myfyrwyr prifysgol yn dychwelyd i Cathays ar ôl gwyliau’r haf. Nod y fenter yw

atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a sicrhau diogelwch y gymuned a

myfyrwyr. Darperir adnoddau ychwanegol gan yr heddlu ac mae Swyddogion Sŵn y

Cyngor ar gael gyda’r nos i ymateb i gwynion sŵn a gwella cyfrifoldebau cymunedol o

ran sŵn.

• Mae Cynllun Cymuned Myfyrwyr Caerdydd yn gyd-strategaeth rhwng Cyngor

Caerdydd a Phrifysgolion y Ddinas ar gyfer sicrhau gwelliannau sy’n mynd i’r afael â’r

problemau tai a ffordd o fyw sy’n gysylltiedig a nifer fawr o fyfyrwyr yn byw mewn

ardaloedd daearyddol bach yn y Ddinas. Mae’r Cynllun yn nodi nifer o gamau

gweithredu allweddol i fynd i’r afael ag amryw o faterion sy’n gwella ansawdd a nifer

llety myfyrwyr, hybu amgylchedd glân, deniadol a chynaliadwy, lleihau troseddu yn

erbyn myfyrwyr ac annog natur gymdogol a pharch.

• Ar 23 Mawrth 2015, cynhaliodd Cyngor Caerdydd ddigwyddiad rhanddeiliaid

partneriaeth cymuned myfyrwyr i adolygu cyflawniadau gwaith y Swyddog Cyswllt

Myfyrwyr dros y 3 blynedd diwethaf a hysbysu’r cynllun gweithredu ar gyfer y 3

blynedd nesaf. Traddodwyd prif areithiau gan aelodau perthnasol o’r cabinet a

rhoddwyd cyflwyniadau gan yr Heddlu, yr adran Rheoli Gwastraff, Gwirfoddoli

Myfyrwyr Caerdydd a’r adran Gorfodi Tai i godi ymwybyddiaeth o’r holl waith

partneriaeth da a wnaed eisoes. Cynhaliwyd gweithdai ar y themâu allweddol, sef 1)

llety, 2) natur gymdogol a pharch cymunedol, 3) yr Amgylchedd a 4) Iechyd a

Diogelwch i ailbennu ffocws yr holl bartneriaid a chynhyrchu syniadau da ar gyfer

cynllun 2015-18.

• Bu Rheolwr y tîm Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth yn aelod o Weithgor Llywodraeth

Cymru i astudio effaith nifer fawr o dai amlfeddiannaeth ar chwe thref allweddol

ledled Cymru gyda’r nod o gynhyrchu pecyn cymorth arferion da a chynigion ar gyfer

newid deddfwriaethol ym meysydd Tai a'r Gyfraith Gynllunio.

2.5 Gorfodi Tai – Polisi Gorfodi Mae camau gorfodi teg ac effeithiol yn hanfodol i warchod buddiannau economaidd,

amgylcheddol a chymdeithasol y cyhoedd a busnesau. Mae goblygiadau difrifol yn sgîl

penderfyniadau ynghylch camau gorfodi, yn enwedig y penderfyniad i erlyn, i bawb sy’n

ymwneud â’r achos, ac oherwydd hyn mae’r Tîm Gorfodi Tai wedi mabwysiadu Polisi Gorfodi.

Mae’r Polisi yn amlinellu rhwymedigaethau’r Cyngor i gydymffurfio â deddfwriaeth er mwyn

gwella safonau tai yng Nghaerdydd, gan sicrhau’r canlynol:-

• Bod unrhyw un y mae camau gorfodi yn effeithio arno neu arni yn deall pa

egwyddorion a gaiff eu cymhwyso wrth ystyried cymryd camau o’r fath;

• Bod penderfyniadau ynghylch camau gorfodi yn deg, yn gymesur ac yn gyson;

• Bod swyddogion yn cymhwyso canllawiau a chodau ymarfer presennol wrth ystyried

cymryd unrhyw gamau ffurfiol;

• Bod cynllun atebolrwydd priodol ar waith.

Page 15: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 15 o 45

3 Gwerthuso’r Cynllun

3.1 Diben Gwerthuso’r Cynllun

Bu’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Ward Cymuned Cathays ar waith ers mis

Gorffennaf 2010, a rhaid ei ailddatgan ar ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd. Daw’r cyfnod o 5

mlynedd i ben yn 2015, ac o ganlyniad mae’n angenrheidiol cynnal arfarniad trylwyr o’r

Cynllun i ganfod pa mor effeithiol ydoedd, a hysbysu unrhyw estyniad pellach o’r Cynllun am

5 mlynedd arall.

Mae’r ddogfen hon yn Werthusiad o’r Cynllun ac yn datblygu ar sail gwerthusiadau blaenorol

a gynhaliwyd ers cyflwyno’r Cynllun.

Hyd yma, mae’r cynllun wedi arwain at ehangu cwmpas Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth er

mwyn cynnwys 1664 o eiddo ychwanegol na fyddai wedi angen eu trwyddedu fel arall. Pan

gyflwynwyd y cynllun, amcangyfrifwyd mai dim ond 1400 eiddo fyddai angen Trwydded.

Caiff yr holl eiddo trwyddedadwy eu harchwilio cyn rhoi trwydded, ac mae’r cynnydd

sylweddol hwn yn nifer yr eiddo trwyddedadwy yn dystiolaeth o welliant sylweddol o ran

gweithgarwch gorfodi o ganlyniad i’r Cynllun. Fodd bynnag, er mwyn mesur effeithiolrwydd y

Cynllun, rhaid i ni ystyried gweithgareddau a mesurau eraill i gadarnhau i ba raddau y mae’r

Cynllun wedi cyflawni ei amcanion allweddol ac wedi sicrhau buddion a ddymunir. At hynny,

os yw’r Cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar yr ardal, yna dylid ystyried ymestyn y Cynllun am

bum mlynedd arall. Gan hynny, diben yr Adroddiad Gwerthuso hwn yw tynnu sylw at y

cynnydd a wnaed hyd yma ac asesu effaith y Cynllun mewn nifer o feysydd allweddol.

3.2 Methodoleg a Chwmpas

Nod y gwerthusiad hwn yw dadansoddi gweithgareddau a mesurau’r Tîm Gorfodi Tai a’i

bartneriaid i gadarnhau i ba raddau y mae’r Cynllun wedi cyflawni ei amcanion allweddol a

sicrhau’r gwelliannau a ddymunir.

Y prif ffynhonnell data a ddadansoddwyd wrth gynhyrchu’r asesiad hwn yw’r data a gedwir ar

Gronfa Ddata Tai Civica Caerdydd, sef gwybodaeth am geisiadau am drwyddedau,

archwiliadau, cydymffurfiaeth a cheisiadau gwasanaeth. Ategir y wybodaeth hon gan ddata

ychwanegol a roddwyd gan wasanaethau megis Rheoli Gwastraff, Heddlu De Cymru a’r

Timau Llygredd Sŵn.

Mae'r dadansoddiad hwn yn cyflwyno adroddiad fesul blwyddyn ariannol, sy'n galluogi

cynnwys data diweddar a bod mor gyfoes â phosibl.

Page 16: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 16 o 45

Cyfyngiadau

Yn ystod cyfnod 5 mlynedd Trwydded, gall eiddo gael ei werthu, neu efallai ni fydd yn

drwyddedadwy mwyach. O ganlyniad gall ystadegau ar gronfa ddata Civica newid yn ystod

cyfnodau adrodd gwahanol. O’r herwydd, gall rhai canlyniadau a gynhyrchir yn yr adroddiad

hwn ar gyfer blynyddoedd blaenorol fod ychydig yn wahanol i'r canlyniadau a nodwyd mewn

gwerthusiadau blaenorol.

Yn yr un modd, ar yr adeg y caiff adroddiadau eu llunio i hysbysu’r gwerthusiad hwn, mae’n

bosibl nad yw’r cofnodion yn hollol gyfoes, ac y cânt eu diweddaru ar ôl llunio’r adroddiadau.

Gall hyn arwain at newidiadau i’r canlyniadau blaenorol a nodwyd mewn gwerthusiadau

blaenorol hefyd.

3.3 Dadansoddiad o effaith y Cynllun

Er mwyn deall a gwerthuso effaith y Cynllun ar ôl ei weithredu, mae angen asesu’r ystadegau

a’r mesurau perfformiad amrywiol sydd ar gael i’r awdurdod i gael darlun cytbwys o sut

mae’r cynllun wedi datblygu, ac effaith y cynllun ar ardal Cathays. Gan hynny, cyflwynir y

mesurau canlynol i dynnu sylw at gynnydd y cynllun ar ôl 4 ¾ mlynedd o weithredu, a rhoi

gwybodaeth i hysbysu unrhyw benderfyniad i ailddatgan yr ardal yn y dyfodol.

Nifer yr eiddo a drwyddedwyd

Mae gweithredu’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol wedi sicrhau bod y gyfran fawr o eiddo a

fyddai fel arall wedi'u hepgor o’r cynllun trwyddedu o dan ddarpariaethau’r Cynllun Gorfodol

bellach yn cael eu cynnwys fel rhan o’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol. Ar hyn o bryd, mae

2174 eiddo yn Cathays wedi’u trwyddedu, sef cynnydd sylweddol o’r 323 a drwyddedwyd yn

flaenorol cyn gweithredu’r cynllun. Nid dyma’r nifer terfynol o eiddo a drwyddedir yn ardal

Cathays o bell ffordd. Mae nifer o geisiadau’n cael eu prosesu ar hyn o bryd, a nifer fach o

eiddo nas cyflwynwyd cais ar eu cyfer hyd yma.

Page 17: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 17 o 45

Roedd y gweithgarwch gorfodi yn sgîl gweithredu’r Cynllun ym mis Gorffennaf 2010 a thrwy

gydol y flwyddyn ganlynol yn canolbwyntio’n bennaf ar nodi eiddo i’w trwyddedu o dan y

Cynllun. Mae’r graff isod yn rhoi dadansoddiad o’r gweithgarwch trwyddedu cyn

gweithredu’r Cynllun ac ers hynny. Gellir gweld bod nifer yr eiddo a drwyddedwyd ar ei

anterth yn ystod 2011-12 yn dilyn gweithredu’r Cynllun, ac rydym bellach wedi cyrraedd cam

lle bo’r rhan fwyaf o’r eiddo perthnasol yn Cathays wedi'u trwyddedu a/neu cyflwynwyd

ceisiadau ar eu cyfer.

Gwella eiddo

Prif ddiben y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yw gwella safon eiddo rhent yn Ardal Cathays

yn ogystal â mynd i’r afael ag effeithlonrwydd ynni a diogelwch eiddo drwy bennu amodau

trwydded ar gyfer pob eiddo a defnyddio’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.

Gan hynny, mae’r canlyniadau canlynol yn dangos faint o welliant a gyflawnwyd ers

gweithredu’r Cynllun.

Cyn trwyddedu eiddo, cynhelir archwiliad er mwyn nodi unrhyw welliannau sy’n

angenrheidiol i gyflawni safonau trwyddedu. Mae’r graff canlynol yn dangos canran yr eiddo

y mae angen cyflawni gwaith arnynt. Gellir gweld, ar ôl cynnydd cychwynnol o ran canran yr

eiddo y mae angen cyflawni gwaith arnynt yn dilyn gweithredu’r Cynllun, mae’r canran wedi

lleihau’r sylweddol yn ystod cyfnod y Cynllun, o 81% yn 2011/12 i 36% dros y flwyddyn

ddiwethaf.

Mae archwiliad manylach o gofnodion yr eiddo a drwyddedwyd o dan y Cynllun Trwyddedu

Ychwanegol yn unig yn dangos bod angen gwella 41% o eiddo trwyddedig, sy’n uwch na’r

cyfanswm cyffredinol o drwch blewyn. Fodd bynnag, mae hyn yn welliant cadarnhaol ac yn

Trwyddedwyd 1664

eiddo o dan y

Cynllun Trwyddedu

Ychwanegol ers

dechrau'r cynllun

Page 18: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 18 o 45

dangos sut mae nodi gwaith gofynnol a gwaith adfer dilynol a gyflawnwyd gan landlordiaid o

ganlyniad i ofynion trwyddedu wedi arwain at leihad yn nifer yr eiddo sydd angen eu gwella.

Ar hyn o bryd mae 63% o’r eiddo trwyddedig yn Cathays yn cyrraedd y safonau gofynnol.

Mae hyn naill ai yn sgîl ymyrryd gan y Cyngor, neu oherwydd bod yr eiddo eisoes wedi

cyrraedd y safon pan gawsant eu harchwilio'r tro cyntaf.

Mae 31% o eiddo wedi’u gwella drwy’r gyfundrefn drwyddedu, sef cynnydd sylweddol o

gymharu â 10% yn 2011/12. Mae’r graff isod yn dangos bod y bwlch rhwng yr eiddo sydd

angen eu gwella a’r eiddo sydd wedi’u gwella wedi lleihau’n sylweddol o ganlyniad i’r Cynllun

Trwyddedu Ychwanegol.

System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai

Mae’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai yn offeryn asesu risg a ddefnyddir i

asesu risgiau posibl i iechyd a diogelwch deiliaid eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr. Mae’r

dull asesu yn canolbwyntio ar y peryglon sydd mewn tai, a mynd i’r afael â’r peryglon hynny i

wneud tai yn fwy iach ac yn fwy diogel i fyw ynddynt. Cynhelir y dull asesu hwn fel rhan o’r

broses archwilio ar ôl i gais dilys ddod i law. Cyfunir tebygolrwydd a difrifoldeb y canlyniad i

gynhyrchu sgôr peryglon, gan ddosbarthu’r peryglon i naill ai Categori 1 neu Gategori 2. Caiff

yr holl beryglon eu hasesu ar wahân, ac os bernir ei fod yn ddifrifol gyda sgôr uchel, bernir

felly ei fod yn berygl Categori 1. Mae’r holl beryglon eraill yn beryglon Categori 2. Pan nodir

peryglon Categori 1, mae dyletswydd ar y Cyngor i weithredu i ddileu’r risg, ac o leiaf ei

lleihau i fod yn Risg Categori 2 a mynnu gwelliannau pellach.

Mae'r graff canlynol yn dangos nifer y peryglon a ddilëwyd o eiddo yn ardal Cathays ar ôl

cynnal asesiad. Ers cychwyn y Cynllun, dilëwyd 1921 o beryglon, sef 421 o beryglon Categori

1 a leihawyd i Gategori 2, ac mae 1500 o beryglon Categori 2 wedi’u gwella.

Page 19: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 19 o 45

Diogelwch ac Oerfel Gormodol

Ers gweithredu’r Cynllun, gosodwyd mwy o bwyslais ar sicrhau gwelliannau o ran diogelwch

ac oerfel gormodol mewn eiddo yn ystod y broses archwilio, ac mae’r graffiau canlynol yn

dangos nifer y rhybuddion a gyflwynwyd ac y cydymffurfiwyd â hwy. Cyflwynwyd 787 o

rybuddion mewn perthynas â diogelwch ers gweithredu’r Cynllun, sef 47% o’r eiddo

ychwanegol a drwyddedwyd. Ymhlith y gofynion nodweddiadol mae darparu cloeon ar

ffenestri a drysau a gwella gatiau cefn. Hyd yma cydymffurfiwyd â 40% o hysbysiadau, sef

gwelliant sylweddol o’r ffigur o 10% yn 2012/13.

Page 20: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 20 o 45

Yn yr un modd, cyflwynwyd 633 o rybuddion mewn perthynas ag oerfel gormodol, sef 38%

o’r eiddo ‘ychwanegol’ a drwyddedwyd. Mae’r gofynion nodweddiadol yn y maes hwn yn

cynnwys gwella systemau gwresogi drwy insiwleiddio atigau, dileu lleithder a llwydni ac ati.

Ar hyn o bryd mae 44% o’r sawl y cyflwynwyd hysbysiadau iddynt wedi cydymffurfio â

gofynion y Cyngor. Eto, mae hyn yn gynnydd sylweddol o gymharu â’r gwerthusiad cyntaf, lle

cydymffurfiwyd â dim ond 8% o’r hysbysiadau a gyflwynwyd.

Page 21: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 21 o 45

Tân ac Amwynderau

Mae’r Cyngor wedi sicrhau gwelliant i 673 eiddo o ran tân ac amwynderau ers cychwyn y

Cynllun, yn bennaf drwy orfodi amodau trwyddedau. Mae’r graffiau canlynol yn dangos

nifer yr eiddo sydd wedi’u gwella ym mhob categori.

O’r 673 eiddo a gafodd eu gwella, cafodd 652 eu gwella o ran pheryglon tân ers dechrau’r

Cynllun, ynghyd â gwella 520 o ran amwynderau. Mae’r peryglon tân cyffredin yn cynnwys

diffyg systemau larwm tân neu systemau o’r fath sy’n ddiffygiol, diffyg mesurau diogelwch

strwythurol rhag tân, diffyg drysau tân, uwchraddio waliau a nenfydau lle y bo angen. Mae’r

gwelliannau cyffredin i amwynderau yn cynnwys sicrhau bod y cyfleusterau cegin,

ystafelloedd ymolchi a’r toiledau yn addas a bod digon ohonynt ar gael ar gyfer nifer y

deiliaid.

Page 22: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 22 o 45

Ceisiadau am Wasanaeth

Yn ogystal â sicrhau gwelliannau i dai amlfeddiannaeth drwy’r gyfundrefn drwyddedu, mae’r

Tîm Gorfodi Tai hefyd yn cael ceisiadau am wasanaeth. Mae hyn yn cwmpasu ystod eang o

faterion, ond cwynion am eiddo neu geisiadau am wybodaeth neu ffurflenni cais ydynt yn

bennaf. Mae’r graff canlynol yn dangos nifer y ceisiadau am wasanaeth a gafwyd cyn

gweithredu’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ac ers hynny.

Cyn cyflwyno Cynllun Cathays, Cathays oedd yr ardal o’r ddinas â’r gyfradd uchaf o gwynion,

gyda bron 15% o’r cwynion yn ymwneud ag eiddo yn Cathays. Wrth edrych ar y cwynion a

gafwyd yn ystod cyfnod y Cynllun, gellir gweld bod y sefyllfa hon wedi gwella ychydig. Yn

ystod y 4¾ mlynedd, Cathays oedd yr ardal â’r gyfradd uchaf ond un o gwynion, ar ôl

Plasnewydd, sef ychydig yn llai na 13% o’r cwynion ar gyfer y Ddinas gyfan.

Wrth edrych ar y cwynion hyn sy’n ymwneud â Cathays, gellir gweld o’r graff bod y rhan

fwyaf o’r ceisiadau am wasanaeth yn ymwneud â cheisiadau am wybodaeth, ac roedd y math

hyn o gwynion ar ei anterth 2010/11. Mae’n debyg bod hyn oherwydd y gwaith cychwynnol o

hyrwyddo’r cynllun newydd pan gafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf, a’r nifer fawr o geisiadau

a gafwyd yn ystod y 6 mis cyntaf. Yn anochel mae’r nifer wedi lleihau wrth i fwy a mwy o

eiddo gael trwydded.

Yn ddiddorol, mae nifer y cwynion a gafwyd am gyflwr eiddo wedi aros yn weddol sefydlog

cyn ac yn ystod y Cynllun, er gwaethaf y cynnydd sylweddol yn nifer yr eiddo trwyddedig.

Gellid disgwyl y byddai nifer y cwynion yn cynyddu oherwydd bod nifer fawr o eiddo

trwyddedig yn yr ardal, a bod ymwybyddiaeth uwch o’r Cynllun ymhlith tenantiaid â phobl

Page 23: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 23 o 45

sy’n pryderu am y sefyllfa, ond ymddengys mai nid felly y bu. Ar hyn o bryd mae 2174 eiddo

trwyddedig yn ardal Cathays, ac mae nifer y cwynion (142) am eiddo a gafwyd yn ystod y

flwyddyn flaenorol yn cyfateb i 6.53% o’r eiddo trwyddedig. Cyn gweithredu’r Cynllun, roedd

nifer y cwynion a gafwyd yn cyfateb i 35% o’r eiddo trwyddedig. Ymddengys fod lleihad o’r

fath yng nghanran y cwynion yn arwydd cadarnhaol bod y gwaith rhagweithiol a wnaed fel

rhan o’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol wedi arwain at welliant o ran yr eiddo a gwmpesir

gan y Cynllun, gan felly lleihau’r angen i gwyno.

Ceir sawl categori o gwynion am eiddo, ac mae’r graff isod yn dangos y prif fathau o gwynion

a gafwyd. Cyn gweithredu’r Cynllun ac ers hynny, mae’r nifer fwyaf o gwynion a gafwyd yn

ymwneud â dadfeiliad, sy’n gallu cwmpasu materion amrywiol sy’n ymwneud â dadfeiliad

adeiladwaith neu ddiffyg sylw neu ddiffyg buddsoddi gan landlord. Mae hefyd yn cynnwys yr

holl beryglon sy’n berthnasol o ran y Cynllun Sgorio Peryglon.

Ers dechrau’r Cynllun yn 2010, cafwyd 1216 o Geisiadau am Wasanaeth, y mae 548 ohonynt

yn ymwneud â chwynion am eiddo. Mae’r siart gylch ganlynol yn crynhoi’r prif fathau o

gwynion a gafwyd yn ystod y cyfnod hwn. Fel y dangosir yn y graff uchod, nodir yn glir mai

dadfeiliad, sy’n cynnwys ystod eang o broblemau, yw’r prif faes sy’n achosi pryder.

Page 24: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 24 o 45

Tai Gwag sy’n Peri Problemau

Mae Strategaeth Eiddo Gwag y Cyngor yn ymdrin ag eiddo gwael sy’n peri problemau sydd

mewn cyflwr ffisegol gwael neu’n gwaethygu gan achosi niwsans i eiddo cyfagos drwy ddenu

ymddygiad gwrthgymdeithasol neu fermin, tipio anghyfreithlon ac ati, neu lle y ceir

mynediad heb awdurdod iddynt. Mae’r dull gweithredu rhagweithiol hwn wedi arwain at

ailddefnyddio 380 (90 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf) o dai gwag ledled Caerdydd ers

cyflwyno Cynllun Cathays, gyda 18 (4 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf) o’r tai hynny yn

Cathays. At hynny cafwyd 20 o gwynion yn Cathays am eiddo gwag a oedd yn peri

problemau ers dechrau’r Cynllun.

Ceisiadau a wrthodwyd

Cyn gweithredu’r Cynllun, gwrthodwyd 2 gais am drwyddedau Gorfodol, fodd bynnag ni

wrthodwyd yr un cais ers dechrau’r Cynllun.

Erlyniadau

Cafwyd 13 erlyniad mewn perthynas ag eiddo yn Cathays ers dechrau’r cynllun, naill ai am

fethu â thrwyddedu eiddo neu am dorri amod trwydded.

Page 25: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 25 o 45

Landlordiaid Achrededig

Mae mynychu cwrs hyfforddi addas ac achrededig ar reoli tenantiaeth a safonau cyfreithiol

ym maes rhentu preifat yn un o amodau’r cynlluniau trwyddedu gorfodol ac ychwanegol. Yn

ystod cyfnod y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol, cynigiwyd cymhellion i annog landlordiaid i

fynychu’r cyrsiau, sef gostyngiad cychwynnol o £175 ar y ffi drwyddedu ar gyfer pob eiddo os

yw’r landlord wedi’i achredu wrth gyflwyno cais. Lleihawyd y gostyngiad hwnnw i £100 yn

2013/14, neu roddir hyfforddiant am ddim i'r landlordiaid hynny sy'n cael eu hachredu ar ôl

cwblhau’r broses drwyddedu. Nid yw’r hyfforddiant am ddim ar gael mwyach ers 31 Mawrth

2015, fodd bynnag, ers gweithredu’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yn Cathays, mae 273

wedi cael hyfforddiant Achredu Landlordiaid Cymru am ddim.

Page 26: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 26 o 45

Bu Caerdydd yn arwain y ffordd o ran Hyfforddi Landlordiaid ac mae wedi hyfforddi dros 900

landlord sydd ag eiddo yng Nghaerdydd (736 ers dechrau’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol).

Mae hyn yn gyfran sylweddol o’r holl landlordiaid yng Nghymru sydd wedi cael hyfforddiant,

sef 29% o’r holl landlordiaid achrededig yng Nghymru.

Addysg a Gorfodi Gwastraff

Yn ogystal â gwella eiddo rhent preifat, nod y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yw helpu i fynd

i’r afael â materion cymunedol ehangach megis tomenni sbwriel a gwella’r ‘olygfa stryd’ drwy

bennu amodau trwydded i wella trefniadau rheoli gwastraff a chodi ymwybyddiaeth.

Mae’r adran Rheoli Gwastraff wedi ategu ei chynllun cyfathrebu â myfyrwyr a’r

gweithgareddau sy’n bodoli eisoes i gyfathrebu â nhw gyda’r wybodaeth a gynhyrchir gan y

gronfa ddata trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth er mwyn cyrraedd y gymuned ehangach.

Mae amryw o bwerau cyfreithiol ar gael i’r adran Rheoli Gwastraff er mwyn mynd i’r afael â

gwastraff a gyflwynwyd yn anghywir a thomenni sbwriel mewn gerddi blaen. Mae

cydweithio’n agos â’r adran Rheoli Gwastraff wedi helpu’r cynllun trwyddedu i fynd i’r afael

â’r materion allweddol sy’n ymwneud â storio gwastraff sy’n gallu cyfrannu’n rhwydd at y

broblem o wastraff a gyflwynwyd yn anghywir a thomenni sbwriel mewn gerddi blaen os nad

yw landlordiaid yn darparu cyfleusterau digonol.

Mae’r swyddogion gorfodi gwastraff wedi canolbwyntio fwyfwy ar yr ardaloedd o’r ddinas lle

mae myfyrwyr yn byw dros y tair blynedd ddiwethaf. Ers cyflwyno’r cynllun trwyddedu

gosodwyd mwy o bwyslais ar weithio gyda landlordiaid i sicrhau bod y capasiti storio

gwastraff priodol ar gael, ac i fonitro tai amlfeddiannaeth anghyfreithlon a sefydlir a rhoi

gwybod i’r awdurdodau amdanynt. At hynny, bob blwyddyn o fis Medi ymlaen, mae’r adran

Rheoli Gwastraff yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd sydd â’r nod

o addysgu myfywyr o ran sut i drin eu gwastraff a’i gyflwyno ar gyfer ei gasglu.

Mae dau Swyddog Gorfodi Gwastraff yn gweithio yn ward Cathays 5 diwrnod yr wythnos

gan ymdrin â phob agwedd ar faterion gwastraff, gan weithio’n ymatebol ac yn rhagweithiol.

Maent yn ymateb i gwynion yn ogystal ag addysgu preswylwyr yn barhaus o ddydd i ddydd.

Mae’r gwaith addysgu yn cynnwys gweithio wyneb yn wyneb gyda phreswylwyr gan roi

Page 27: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 27 o 45

cyngor iddynt ar faterion megis amlder casgliadau, yr hyn y gellir a na ellir ei ailgylchu, yn

ogystal â hyrwyddo ailgylchu. Maent hefyd yn dosbarthu taflenni i eiddo lle nad yw’r

preswylwyr yn bresennol wrth i’r swyddogion fynd o ddrws i ddrws.

Mae’r gwaith gorfodi yn cynnwys cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig am droseddau megis

taflu sbwriel neu dorri amodau hysbysiadau adran 46. Mae’r swyddogion hefyd yn cyflwyno

hysbysiadau adran 215 am faterion megis tommeni sbwriel o fewn ffiniau eiddo.

Yn ôl yr adran Rheoli Gwastraff mae’r gwaith hwn wedi arwain at leihad yn nifer y cwynion

(er nad oedd unrhyw ganlyniadau ar gael ar gyfer yr adroddiad gwerthuso hwn) ac y gwelwyd

gwelliant sylweddol o ran materion blaenorol megis biniau’n cael eu gadael ar y briffordd ar

ôl casgliadau gwastraff a chyflwyno’r math anghywir o wastraff yn ystod yr wythnos

anghywir. Gellir gweld y gwelliant hwn yn amlwg drwy gerdded o amgylch yn yr ardal.

Cafwyd lleihad hefyd o ran gweithgarwch Gorfodi a Gofnodwyd wrth i swyddogion ymdrin â

nifer o faterion yn rhagweithiol cyn iddynt gael eu cofnodi fel cwynion swyddogol.

Mae’r graff canlynol yn dangos lefelau’r gweithgarwch gorfodi gwastraff yn Cathays ers 2009

o ran gwastraff a gyflwynwyd yn anghywir a gwastraff mewn gerddi blaen. Mae’r cynnydd o

ran gorfodi gwastraff yn dangos effaith gynyddol wrth i’r lefel o gamau gorfodi arwain at

gyflwyno hysbysiad cosb benodedig. Mae’r tri cham rhagarweiniol sy’n ofyniad cyfreithiol yn

helpu i roi’r cyfle i breswylwyr wella’u hymddygiad cyn y cyflwynir unrhyw ddirwy. Addysg

yw’r flaenoriaeth o hyd, a dim ond pan fetho popeth arall y cymerir camau gorfodi.

Yn 2010 gosodwyd pwyslais sylweddol ar sicrhau bod gan eiddo y nifer priodol o finiau

ynghyd â’r gyfundrefn drwyddedu tai amlfeddiannaeth, er bod y gwaith gorfodi gwastraff yn

cwmpasu pob eiddo a nid dim ond y rheini a oedd yn rhan o’r cynllun. Roedd y timau hefyd

yn canolbwyntio ar sicrhau y cai biniau eu dychwelyd i eiddo ar ôl casglu’r gwastraff yn

hytrach na’u gadael ar ymyl y ffordd. Yna newidiwyd y pwyslais hwn i gynorthwyo

preswylwyr gyda’r newidiadau i’r trefniadau casglu a gyflwynwyd yn 2011.

Page 28: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 28 o 45

Mae’r graff uchod yn dangos lleihad sylweddol o ran camau gorfodi yn ystod 2012/13, yn

bennaf oherwydd gosod mwy o bwyslais ar addysg yn yr ardal. Mae gweithgarwch o’r fath

wedi cyfrannu at wella safonau a lleihad o ran gwaith gorfodi. Yn fwy diweddar yn ystod y

flwyddyn ddiwethaf, roedd lefel y camau gorfodi wedi cynyddu’n sylweddol o gymharu â’r

flwyddyn flaenorol, ond mae hynny yn bennaf oherwydd cynllun peilot Adran 46 mewn

ardaloedd o’r ward lle ceir problemau, o ganlyniad i bryderon a fynegwyd gan swyddogion

gorfodi ac chynghorwyr y ward. (Gweler yr ardaloedd lle ceir problemau isod).

Wrth gyflwyno’r trefniadau newydd o ran casglu deunydd ailgylchu yn wythnosol a chasglu

gwastraff gweddilliol bob pythefnos ym mis Medi 2011, daeth yr holl weithgarwch gorfodi i

ben rhwng Awst a Rhagfyr tra bod y timau’n canolbwyntio’u holl adnoddau ar gynorthwyo’r

preswylwyr gyda’r newidiadau sylweddol i’r trefniadau casglu. Ni chofnodwyd nifer yr

ymweliadau ag eiddo na’r achosion o gysylltu ag eiddo yn ystod y cyfnod hwn. Cynhaliwyd

gwaith monitro ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn er mwyn sicrhau bod gan dai

amlfeddiannaeth ddarpariaeth briodol o ran casglu gwastraff.

Yn ystod 2012/13 casglwyd gwybodaeth ychwanegol o ran addysg a gorfodi, fodd bynnag

dylid nodi y rhoddwyd y gorau i gofnodi gweithgarwch addysgu yn 2014/15, sy’n esbonio’r

niferoedd isel a welir yn y graff.

Ardaloedd lle ceir problemau

Ddydd Llun 26 Ionawr 2015, dechreuodd adran Rheoli Gwastraff Cyngor Caerdydd gynllun

peilot Adran 46 mewn 11 stryd yn Cathays lle y nodwyd y cafwyd problemau parhaus

oherwydd gwastraff yn y gorffennol. Roedd y cynllun peilot yn golygu cyflwyno hysbysiadau

Adran 46 i ddeiliaid ar 11 o’r strydoedd a nodwyd. Roedd yr hysbysiad yn nodi gofynion y

gwasanaeth gwaredu gwastraff yn mae’n ofynnol i ddeiliaid gydymffurfio â hwy. Ar ôl

cyflwyno hysbysiad iddynt, os oedd y deiliaid yn methu â chydymffurfio â gofynion y

gwasanaeth, cyflwynir hysbysiad tâl cosb o £100 iddynt.

Dangosir nifer yr eiddo ac unigolion y cyflwynwyd hysbysiadau adran 46 iddynt yn y tabl

canlynol. Cyflwynwyd cyfanswm o 770 o hysbysiadau Adran 46.

Stryd Nifer yr

hysbysiadau

Adran 46

Stryd Nifer yr

hysbysiadau

Adran 46

Harriett Street 124 Richard Street 131

Wyeverne Road 124 Miskin Street 119

Cogan Terrace 17 Llandough Street 30

Llanbleddian Gardens 74 Glynrhondda Street 80

Llantwit Street 27 Senghenydd Place 5

Ruthin Gardens 39

Mae’r cam ymyrryd hwn yn dilyn ymdrechion parhaus a dwys gan y timau Addysg a Gorfodi

Gwastraff i addysgu tenantiaid ar y strydoedd rhagnodedig, ac er gwaethaf yr ymdrechion

hyn, ac ymdrechion y Prifysgolion a’r Undebau Myfyrwyr i addysgu myfyrwyr, roedd y

broblem i’w weld yn amlwg. Roedd y Prifysgolion a’r Undebau Myfyrwyr yn cynorthwyo’r

Cyngor drwy sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o’r gweithgarwch gorfodi drwy annog

myfyrwyr i wybod ar ba ddiwrnodau y dylent cyflwyno eu biniau i’w casglu.

Page 29: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 29 o 45

Yn ogystal â’r gwaith addysgu a gorfodi, mae’r tîm hefyd yn ymgymryd â mentrau ategol

megis gwell cyfathrebu â myfyrwyr drwy’r cyfryngau cymdeithasol, a gwaith parhaus i

hyrwyddo’r gwasanaeth Testun Taclus sy’n anfon neges destun i danysgrifwyr y noson cyn eu

diwrnod casglu i’w hatgoffa pryd i gyflwyno eu gwastraff, a pha fath o wastraff i’w gyflwyno.

At hynny, mae Cyngor Caerdydd wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol am ei ymgyrch

ymgysylltu â myfyrwyr drwy gael clod uchel gan Wobrau Diwastraff 2012.

Rheoli Plâu

Ceir cysylltiad rhwng tai amlfeddiannaeth a phlâu, yn enwedig llygod mawr. Ar y cyfan,

achosir hyn gan wastraff a storiwyd yn annigonol neu domenni gwastraff sy’n denu plâu.

Mae defnyddio’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai i wella eiddo yn sicrhau yr eir

i’r afael â phroblemau megis hylendid domestig, plâu a gwastraff.

Mae dadansoddiad o’r nifer o gwynion am lygod mawr/plâu a wnaed yn Ward Cathays i

Wasanaeth Rheoli Plâu’r Cyngor yn dangos tuedd ar i lawr hyd at fis Ebrill 2014 lle cafwyd

bron hanner nifer y cwynion a gafwyd yn 2009/10. Fodd bynnag, ymddengys fod y duedd ar i

fyny wedi’i gwrthdroi yn ystod 2014/15, gyda chynnydd o 59% yn nifer y cwynion yn ystod y

flwyddyn. Ymddengys fod y cynnydd sylweddol hwn yn cyfateb i’r sefyllfa ledled Caerdydd,

lle cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cwynion o gymharu â 2013/14, sef cynnydd o 33%.

Mae’n bosibl mai un o’r rhesymau am y cynnydd hwn yw ymgyrch hysbysebu a lansiwyd a

oedd yn cynnwys posteri cysgodfeydd aros bysus, hysbysebion radio, erthygl yn Llais y Ddinas

a dosbarthu taflenni. At hynny, dosbarthwyd taflenni a phosteri i nifer o asiantau gosod yn

ardal Cathays. Gall deunydd cyhoeddusrwydd o’r fath fod wedi llwyddo i godi

ymwybyddiaeth o’r Gwasanaeth, sy’n rhatach o lawer na chwmnïau eraill.

Niwsans Sŵn

Un o nodau’r Cynllun yw mynd i’r afael â nifer o broblemau cymunedol megis ymddygiad

gwrthgymdeithasol a niwsans sŵn drwy bennu amodau trwydded a chymryd rhan mewn

nifer o fentrau. Mae gwefan Llety Myfyrwyr Caerdydd yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr

i fyfyrwyr ar fod yn gymdogion da, a chynhaliwyd ymarferion ar y cyd rhwng yr Heddlu a

Swyddogion Llygredd Sŵn er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn yn rhagweithiol.

Page 30: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 30 o 45

Mae’r graff canlynol yn dangos nifer y cwynion am niwsans sŵn a gyflwynwyd i Wasanaeth

Llygredd Sŵn y Cyngor a oedd yn ymwneud ag ardal Cathays. Cathays sydd â’r gyfradd uchaf

o gwynion sŵn yn y Ddinas, a gellir priodoli hyn i faterion ffordd o fyw, megis y gyfran uchel o

fyfyrwyr, pobl iau a dwysedd y stoc dai, e.e. nifer y fflatiau, cyfran yr eiddo teras. Chwarae

cerddoriaeth uchel yw’r prif ffactor sy’n achosi cwynion sŵn yn ardal Cathays a ledled y

Ddinas.

Deiliaid Allweddi Larwm

Mae’r drwydded yn ei gwneud yn ofynnol bod trefniadau ar waith i sicrhau bod person

addas, sydd â chysylltiad ag eiddo, ar gael i fynd i’r eiddo ar unrhyw adeg pe bai larwm yn

canu’n ddiangen er mwyn sicrhau bod y system larwm tân yn cael ei ailosod yn gywir a bod

manylion cyswllt y person hwn wedi’u cofrestru â Gwasanaeth Rheoli Llygredd Cyngor

Caerdydd.

Mae’r graff canlynol yn dangos nifer yr eiddo yn Cathays a gweddill y Ddinas sydd wedi

cofrestru ar y Gronfa Ddata Deiliaid Allweddi ers Ebrill 2010. Mae’r graff yn dangos bod

cyfran fawr o’r eiddo hynny a gofrestrwyd yn ardal Cathays, yn enwedig yn ystod 2011/12

pan fu cynnydd sylweddol yn nifer yr eiddo yn Cathays. Mae’r cyfnod hwn yn arbennig o

berthnasol wrth ystyried effaith y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol gan mai dyma’r un cyfnod

y cafodd y nifer fwyaf o eiddo eu trwyddedu gan y Cyngor o dan y Cynllun.

Page 31: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 31 o 45

Yn yr un modd, wrth ystyried cyfanswm nifer yr eiddo a gofrestrwyd ar y Gronfa Ddata

Deiliaid Allweddi, roedd dros un ran o bump o’r holl eiddo a gofrestrwyd ledled y Ddinas yn

eiddo yn ardal Cathays, sy’n dangos y cafwyd ymateb cadarnhaol yn yr ardal honno.

Ymgysylltu â Chwsmeriaid

Ers 2012 anfonwyd holiadur boddhad cwsmeriaid at ddeiliaid trwyddedau tai

amlfeddiannaeth er mwyn mesur boddhad cwsmeriaid â’r broses drwyddedu tai

amlfeddiannaeth. Anfonir holiaduron drwy’r post gyda’r Trwyddedau ar gyfer y Cynllun

Trwyddedu Gorfodol a’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol. Cafwyd cyfanswm o 81 o

ymatebion. I gychwyn, y gobaith oedd y gellid gwahanu’r canlyniadau rhwng Trwyddedu

Gorfodol a Thrwyddedu Ychwanegol, fodd bynnag, ni fu hynny’n ymarferol bosibl. Gan

hynny, cyflwynir y wybodaeth ganlynol fel canlyniadau ar gyfer holl faes Trwyddedu Tai

Amlfeddiannaeth.

Page 32: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 32 o 45

Roedd canlyniadau’r arolwg yn gadarnhaol iawn, a rhoddir cipolwg o’r canlyniadau sy’n

berthnasol i’r gwerthusiad hwn isod.

Gwybodaeth/Cyngor Holwyd cwsmeriaid o ran pa mor hawdd oedd hi i ddeall y wybodaeth/cyngor a roddwyd o

dan nifer o amgylchiadau gwahanol? O’r sawl a ymatebodd:-

• Roedd 90% o’r farn ei fod hi’n hawdd neu’n hawdd iawn deall gwybodaeth cyn

gwneud cais.

• Roedd 89% o’r farn ei fod hi’n hawdd iawn neu’n hawdd deall gwybodaeth ar adeg

cynnal archwiliad.

• Roedd 91% o’r farn ei fod hi’n hawdd iawn neu’n hawdd deall gwybodaeth yn yr

ohebiaeth a anfonir allan.

• Roedd 70% o’r farn fod y wybodaeth ar wefan Cyngor Caerdydd yn hawdd iawn neu’n

hawdd i’w deall.

Gwella safonau Holwyd cwsmeriaid p’un a oeddent o’r farn fod y Cynllun Trwyddedu wedi gwella safonau yn

y sector rhent preifat? Cafwyd ymateb cadarnhaol, gyda 97% yn cytuno.

Holwyd y cwsmeriaid hynny yr oedd yn ofynnol iddynt gwblhau gwaith ar eu heiddo i ba

raddau oedd y broses wedi’u helpu i wella safonau mewn perthynas â nifer o feysydd. Wrth

gyfuno’r canlyniadau ar gyfer da iawn a gweddol dda, mae’r graff canlynol yn dangos ei fod

yn amlwg fod cwsmeriaid o’r farn fod y broses wedi’u helpu i wella safonau mewn nifer o

feysydd. Fodd bynnag, roedd y nifer fwyaf o’r farn fod y broses wedi’u helpu i wella safonau

rhagofalon tân yn fwy na materion eraill, gyda 83% (68% yn dda iawn) yn ymateb yn

gadarnhaol yn y maes hwn.

Page 33: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 33 o 45

Ansawdd y gwasanaeth a’r cymorth a roddir i gwsmeriaid Holwyd cwsmeriaid p’un a allai’r Swyddog fod wedi gwneud mwy i wella ansawdd y

gwasanaeth a ddarparwyd? Cafwyd ymateb cadarnhaol eto, gyda 93% yn dweud nad oedd

angen gwella dim.

Ymwybyddiaeth o’r Cynllun a dealltwriaeth ohono

Mae ymwybyddiaeth o’r Cynllun yn ffactor pwysig o ran sicrhau bod eiddo wedi’u

trwyddedu. Holwyd cwsmeriaid o ran sut y daethant yn ymwybodol o’r angen i drwyddedu

eu heiddo? Mewn rhai achosion, roedd yr ymatebwyr wedi nodi tic mewn mwy nag un

blwch, fodd bynnag, mae’n amlwg o’r canlyniadau bod y rhan fwyaf o ymatebwyr wedi cael

gwybod gan asiantau gosod am yr angen i drwyddedu eiddo.

Page 34: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 34 o 45

Achrediad Landlord

Mae mynychu cwrs hyfforddi addas ac achrededig ar reoli tenantiaeth a safonau cyfreithiol

ym maes rhentu preifat yn un o amodau’r cynlluniau trwyddedu gorfodol ac ychwanegol, a

hyd at fis Ebrill 2015 roedd cymhellion ar gael i annog landlordiaid i fynychu’r cyrsiau.

Holwyd y cwsmeriaid p’un a oeddent yn Landlord Achrededig? O'r rheini a ymatebodd,

cadarnhaodd 75% eu bod yn landlordiaid achrededig.

Boddhad â lefel gyffredinol y gwasanaeth

Gofynnwyd i gwsmeriaid ddweud i ba raddau yr oeddent yn fodlon â lefel gyffredinol y

gwasanaeth a gafwyd gan y Tîm Trwyddedu. Cafwyd canlyniad rhagorol, gyda 96% o

gwsmeriaid yn dweud eu bod naill ai’n fodlon iawn neu’n fodlon â lefel gyffredinol y

gwasanaeth.

Olrhain Taith Cwsmer Olrhain Taith Cwsmer yw’r broses o olrhain a disgrifio holl brofiadau cwsmeriaid wrth iddynt

dderbyn gwasanaeth neu gyfres o wasanaethau, gan ystyried eu hymatebion i’w profiadau yn

ogystal ag ystyried yr hyn sy’n digwydd iddynt. Caiff y wybodaeth hon ei chasglu’n ansoddol

ac yn feintiol.

Yn ystod 2011, cynhaliwyd ymarfer Olrhain Taith Cwsmer gyda chwsmeriaid a oedd yn

ddeiliaid trwyddedau eiddo a drwyddedwyd o dan y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yn

Cathays. Cysylltwyd â chwsmeriaid yn bersonol, gan eu tywys drwy’r broses o gael trwydded

gan nodi eu profiadau da a’u profiadau gwael. Dogfennwyd y canlyniadau a lluniwyd

adroddiad ar y materion a’r argymhellion allweddol.

Roedd yn amlwg o’r adroddiad bod cwsmeriaid o’r farn bod swyddogion yn gwrtais, yn

gyfeillgar ac yn barod eu cymwynas, ac roedd ymdeimlad cyffredinol o gefnogaeth i’r Cyngor

o ran cyflwyno’r trwyddedau hyn gan y byddai’n “dod o hyd i landlordiaid gwael” a “dylai’r

Cyngor a landlordiaid gydweithio”. At hynny, y farn oedd ei bod yn gymharol hawdd gofyn

am ffurflenni cais, a bod y pecyn trwydded a anfonwyd ar ddiwedd y broses yn ddefnyddiol.

Fodd bynnag, er gwaethaf y sylwadau cadarnhaol hyn, nodwyd nifer fach o broblemau nad

oedd yn creu profiad mor gadarnhaol. Roedd y rhain yn ymwneud â’r canlynol yn bennaf:-

• Y farn oedd nad oedd Gwefan y Cyngor a’r wybodaeth arni fawr o gymorth, gydag un

cwsmer o’r farn ei bod yn “achosi dryswch ac yn anghyson”;

• Beirniadwyd y ffurflen gais am Drwydded o dan y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol am

fod yn rhy hir, yn orfanwl ac yn “anodd iawn i’w chwblhau”. At hynny, mae’n ofynnol

i landlordiaid sy’n berchen ar fwy nag un eiddo lenwi ffurflen lawn ar gyfer pob eiddo

unigol, sef proses a oedd yn “cymryd llawer o amser” yn eu barn hwy.

• Y farn oedd bod y broses yn rhy hir. (Bryd hynny roedd ceisiadau’n cymryd 90

diwrnod o’r dechrau i’r diwedd ar gyfartaledd).

• Roedd yn anodd cael gafael ar y ddogfennaeth ategol ac roedd yn ddrud i wneud

hynny.

Dechreuodd yr Is-adran Gorfodi Tai weithio i fynd i’r afael â’r materion hyn, ac fel cam cyntaf

diwygiwyd y ffurflen gais er mwyn cynhyrchu ffurflen fwy syml sy’n haws ei defnyddio, gyda

chanllawiau ategol ar lenwi’r ffurflen a’r wybodaeth sy’n ofynnol.

Page 35: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 35 o 45

Yn ystod 2012/13 canolbwyntiwyd ar leihau hyd y broses drwyddedu, ac o ganlyniad,

lleihawyd y cyfnod cyfartalog a gymerwyd i brosesu cais o 90 diwrnod i 56 diwrnod (8

wythnos).

Manteisiwyd ar gyfleoedd i wella’r gwe-dudalennau a’r canllawiau ynddynt lle yr oedd yn

bosibl, ond nid oedd yn bosibl ailwampio’r we-dudalen hon tan 2014 pan adolygwyd gwefan

Cyngor Caerdydd.

Proffil Ethnigrwydd Ymgeiswyr am Drwyddedau

Fel rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i ymgeiswyr lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb. Nid

yw’r orfodol i lenwi’r ffurflen, ond mae’r graffiau canlynol yn dangos enghreifftiau o’r

ffurflenni hynny a ddychwelwyd ers gweithredu’r Cynllun.

Mae’r graff yn dangos lefel uchel o berchenogaeth eiddo ymhlith y boblogaeth Asiaidd (18%)

o gymharu ag ystadegau ethnigrwydd cyffredinol Caerdydd, gan fod 8% yn Asiaidd yn ôl

Cyfrifiad 2011. Fodd bynnag, dylid trin y canlyniadau hyn yn ochelgar, gan nad yw nifer o

landlordiaid eiddo yng Nghaerdydd yn byw yn yr ardal.

Byrgleriaethau

Cyflawnwyd dadansoddiad o’r holl achosion o Fyrgleriaethau Domestig a gyflawnwyd o 1

Ebrill 2011 i 31 Mawrth 2015 yn ardal yr heddlu rhif 3901. Mae’r graff isod yn dangos lleihad

sylweddol yn nifer y byrgleriaethau yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwnnw, o 167 yn 2011/12 i

98 yn 2014/15, sef lleihad o 48%

Page 36: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 36 o 45

Pan roddir gwybod am achosion o fyrgleriaeth, yn ôl y rheolau cyfrif troseddau a ddefnyddir

gan yr heddlu, os y gellir cloi’r ystafelloedd mewn eiddo a rennir yna cânt eu cofnodi fel

achosion o fyrgleriaeth ar wahân, ac os nad yw’n bosibl cloi’r ystafelloedd caiff ei gofnodi fel

un achos o fyrgleriaeth. Fodd bynnag, mae’r canlyniadau uchod yn adlewyrchu

dadansoddiad manylach sy’n seiliedig ar archwilio pob cofnod a oedd yn nodi deiliadaeth a

rennir, e.e. Pobl sy’n rhannu fflat neu fwy nag un ddeiliad eiddo nad oeddent yn cydfyw.

Project Atal Byrgleriaethau Cathays

Ers 2011, bu swyddogion y Tîm Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth yn cydweithio â’r Heddlu ar

Broject Atal Byrgleriaethau Cathays sy’n defnyddio’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol fel dull i

leihau nifer yr achosion o fyrgleriaeth yn bennaf, yn ogystal â mynd i’r afael â materion

cymunedol ehangach megis gwastraff, ymddygiad gwrthgymdeithasol, effeithlonrwydd ynni a

diogelwch tân mewn tai amlfeddiannaeth.

Mae’r swyddogion yn ymweld ag eiddo ar y cyd â’r heddlu i archwilio’r eiddo i sicrhau ei fod

yn cydymffurfio â safonau’r drwydded a safonau diogelwch a rhoi cyngor ar atal troseddu.

Cyflwynir hysbysiadau i’r eiddo hynny sy’n methu â chyrraedd y safonau i’w gorfodi i wneud

gwaith i unioni’r sefyllfa.

I gychwyn, roedd y project atal byrgleriaethau yn targedu’r 5 stryd yn Cathays lle ceir y nifer

fwyaf o achosion o fyrgleriaeth. Nodwyd y strydoedd hynny drwy ddadansoddi cudd-

wybodaeth. Ers ei sefydlu, mae’r project wedi llwyddo i leihau nifer yr achosion o fyrgleriaeth

yn y strydoedd hynny gan 89%, o 48 achos yn 2011/12 i 5 achos yn 2013/14.

Page 37: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 37 o 45

Y flwyddyn ganlynol, dewiswyd y 5 stryd nesaf â’r nifer fwyaf o achosion o fyrgleriaeth, a

chafwyd lleihad o 58% yn nifer yr achosion o fyrgleriaeth yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd, o

19 i 8 o achosion.

Yn ystod 2014, nodwyd nad oedd ‘5 stryd’ lle cafwyd y nifer fwyaf o achosion o fyrgleriaeth

mwyach o gymharu â strydoedd eraill, gan fod cyfraddau byrgleriaeth wedi lleihau i'r fath

raddau. Gan hynny, nid oedd yn bosibl dewis ‘5 stryd’ i weithio arnynt yn ystod y cyfnod

hynny. Gan hynny, yn ystod 2014 cyflawnwyd archwiliadau ar y cyd o unrhyw eiddo lle

nodwyd risg, a chynhaliwyd ymweliadau dilynol ag unrhyw eiddo lle cyflawnwyd

byrgleriaethau. Yn ogystal, mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn llenwi

rhestrau gwirio wrth ymweld â thai amlfeddiannaeth sy’n cael eu trosglwyddo i swyddogion

Gorfodi Tai. Mae'r taflenni hyn yn nodi unrhyw waith diogelwch sy'n ofynnol yn yr eiddo er

mwyn galluogi swyddogion i orfodi cwblhau'r gwaith. O 2015 ymlaen, caiff adroddiad newydd

ei lunio sy’n cwmpasu Plasnewydd a Cathays, a dewisir 5 stryd newydd sy’n cynnwys y ddwy

ardal. Mae hyn yn bosibl bellach gan fod Cyngor Caerdydd wedi dynodi Plasnewydd yn ardal

drwyddedu ychwanegol, yn weithredol o 3 Tachwedd 2014.

Page 38: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 38 o 45

Mae’r canlyniadau’n dangos bod y project atal byrgleriaethau yn gweithio ac yn lleihau nifer

yr achosion o fyrgleriaeth yn ardal Cathays, i raddau helaeth, gyda lleihad o 80% yn nifer yr

achosion o fyrgleriaeth dros 3 blynedd, sef lleihad sylweddol.

Bellach mae’r Project yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft o arferion da a chydweithio rhwng

yr Heddlu, y Cyngor, Prifysgolion a Myfyrwyr yn ardaloedd eraill yr heddlu, yn ogystal â

chynorthwyo Operation Saturn, a gynhelir yn flynyddol, sy’n mynd rhagddo (gweler isod)

drwy leihau nifer yr achosion o fyrgleriaeth yn ardal Cathays.

Nifer yr achosion o fyrgleriaeth y rhoddwyd gwybod amdanynt fesul mis

Cynhaliwyd dadansoddiad tymhorol, ac mae'r siart canlynol yn dangos nifer y troseddau y

rhoddwyd gwybod amdanynt bob mis.

Eiddo a Ddygwyd

Yn sgîl chwiliad o system gofnodi’r heddlu (Niche), nodwyd nifer yr eitemau o eiddo a

ddygwyd yn ystod byrgleriaethau o 2011 i 2015. Mae’r graff isod yn dangos lleihad sylweddol

yn nifer yr eitemau a ddygwyd, o 604 yn 2011/12 i 258 yn 2014/15, sef lleihad o tua 57%.

Roedd y lleihad hwn yn ddisgwyliedig yn unol â'r lleihad yn nifer yr achosion o fyrgleriaeth a

gofnodwyd yn yr ardal.

Page 39: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 39 o 45

Yn sgîl dadansoddiad o’r 10 eitem a ddygwyd amlaf bob blwyddyn, nodwyd cyfanswm o 16 o

eitemau gwahanol dros y cyfnod o 4 blynedd. Mae’r graff isod yn nodi’r eitemau eiddo hyn.

Er bod rhai eitemau ymhlith y 10 eitem a ddygwyd amlaf mewn rhai blynyddoedd ac nid

mewn blynyddoedd eraill, gliniaduron fu’r eitem a ddygwyd amlaf yn gyson yn ystod pob un

o’r pedair blynedd. Er gwaethaf hyn, mae nifer y gliniaduron a ddygwyd ers 2011/12 wedi

haneru.

Page 40: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 40 o 45

3.4 Gwelliannau

Bu’r gwerthusiadau blaenorol o’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol a’r adborth gan gwsmeriaid

a gafwyd dros gyfnod y Cynllun yn gyfleoedd i adolygu a gwella’r gwasanaethau a ddarperir

a’r ffordd y mae’r cynllun trwyddedu yn gweithredu. Gan hynny, mae’r rhestr ganlynol yn

tynnu sylw at y gwelliannau hynny a wnaed yn ystod cyfnod y Cynllun.

• Y ffurflen gais am drwydded – wedi’i adolygu a’i symleiddio, cynhyrchwyd ffurflen

sy’n hawdd i’w ddefnyddio sy’n cynnwys canllawiau. Gwnaed hynny yn sgîl adborth

gan gwsmeriaid a nifer y ffurflenni a gyflwynwyd wedi’u llenwi’n anghywir.

• Mae gweithgareddau ymgysylltu â chwsmeriaid wedi’u hehangu drwy holiadur

boddhad cwsmeriaid a anfonwyd at bob trwyddedai ar ôl y broses drwyddedu i gael

adborth ar eu profiadau a sut y gellid gwella’r Gwasanaeth.

• Mae’r broses ymgeisio wedi’i gwella’n sylweddol drwy drosglwyddo’r gwaith o

weinyddu’r ceisiadau am Drwyddedau Tai Amlfeddiannaeth i Wasanaeth Trwyddedu’r

Cyngor, sy’n ymdrin â gweithgareddau trwyddedu amrywiol ym mhob rhan o’r

Cyngor. Roedd y newid hwn yn gyfle i adolygu'r broses weinyddol a’i symleiddio er

mwyn darparu gwasanaeth mwy effeithlon. Ni chaiff ceisiadau eu prosesu mwyach

tan fod y ceisiadau a’r dogfennau gofynnol cywir yn cael eu derbyn a’u dilysu. Mae

hyn yn galluogi swyddogion gorfodi tai i ganolbwyntio ar archwiliadau yn hytrach na

gorfod gofyn am y darnau coll o’r cais, ac mae’n sicrhau proses gliriach a symlach i

landlordiaid.

• Mae’r amser a gymerir i dderbyn a dilysu cais wedi lleihau’n sylweddol i dau

ddiwrnod neu lai ar ôl ei gael, sy’n golygu bod ceisiadau’n cael eu prosesu ar unwaith,

ac os yw ceisiadau’n annilys, rhoddir gwybod i’r landlordiaid am y gofynion yn ddi-

oed.

• Mae’r Canllawiau wedi’u hadolygu a’u hailysgrifennu.

• Mae’r wefan trwyddedu tai amlfeddiannaeth wedi’i hailysgrifennu’n drwyadl, ac mae’r

taflenni gwybodaeth a geir ar y wefan wedi’u hadolygu a’u symleiddio.

• Mae nifer y dogfennau cais y mae’n ofynnol eu cyflwyno gyda chais wedi’u lleihau, felly

nid yw’n ofynnol mwyach i gynnal gwiriadau troseddol. Canfuwyd bod hynny’n oedi’r

gwaith o brosesu ceisiadau ac yn gosod baich ariannol ychwanegol ar landlordiaid.

• Cynigiwyd dulliau talu ychwanegol i landlordiaid, sydd bellach yn gallu talu drwy

BACS, neu dalu drwy beiriant cerdyn debyd lle gellir talu’n bersonol neu dros y ffôn.

Dim ond sieciau neu arian parod a ganiatawyd yn flaenorol.

• Mae’r camau a gymerwyd hanner ffordd drwy gyfnod y Cynllun i recriwtio staff

ychwanegol wedi mynd i’r afael â’r lefel isel o weithgarwch gwella a welwyd yn sgîl y

gwerthusiad cyntaf yn 2012. Mae hyn wedi hwyluso ail-archwilio eiddo i sicrhau

cydymffurfiaeth ag amodau a hysbysiadau. At hynny, yn fwy diweddar, mae’r Tîm

Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth wedi’i atgyfnerthu drwy recriwtio 3 swyddog

technegol arall a dau weinyddwr arall, ac mae’r tîm wrthi’n recriwtio Swyddog

Cymorth Trwyddedu i wneud gwaith dilynol gyda landlordiaid sy’n methu â chyflwyno

ceisiadau mewn pryd.

Page 41: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 41 o 45

• Gwnaed cynnydd sylweddol o ran lleihau nifer y ceisiadau a oedd yn weddill a oedd

yn broblem amlwg yn 2012. Cyflawnwyd hyn yn rhannol drwy gyd-fentrau gyda’r

Heddlu a myfyrwyr sy’n gwirfoddoli gyda’r Heddlu, arolygon annibynnol o strydoedd a

gynhaliwyd gan swyddogion gorfodi tai a throsglwyddo’r broses weinyddu i dîm

arbenigol er mwyn rhyddhau mwy o amser i swyddogion wneud gwaith rhagweithiol.

• Mae’r canlyniadau cadarnhaol a ddaeth i’r amlwg o’r gwerthusiadau blaenorol o

Gynllun Cathays wedi arwain at ddatgan Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yn Ward

Plasnewydd a ddechreuodd ar 3 Tachwedd 2014. Bydd y Cynllun hwn yn para am 5

mlynedd ac yn sicrhau y caiff 1500 yn rhagor o dai amlfeddiannaeth eu trwyddedu.

Page 42: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 42 o 45

Casgliadau ac argymhellion

4.1 Pwyntiau a chasgliadau allweddol

Bu’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Ward Cathays ar waith am 4¾ mlynedd ers 1

Gorffennaf 2010, a diben yr adroddiad hwn yw gwerthuso’r cynnydd a wnaed yn ystod y

cyfnod hwnnw. Yn dilyn y gwerthusiad cyntaf yn 2011/12, ni ragwelwyd y byddai

gwelliannau sylweddol yn dod i’r amlwg ar gam mor gynnar, fodd bynnag, gan fod cyfnod 5

mlynedd y cynllun ar fin dod i ben, mae tystiolaeth gliriach o lawer o welliant wedi dod i’r

amlwg. Ar ôl craffu ar y canlyniadau amrywiol a gyflwynir yn yr adroddiad hwn ac archwilio'r

canlyniadau hynny, cyflwynir y pwyntiau a'r casgliadau allweddol canlynol:

• Bu’r Cynllun yn llwyddiannus o ran trwyddedu 1664 o eiddo ychwanegol na fyddent

wedi’u trwyddedu fel arall.

• Sicrhawyd gwelliannau amrywiol i lety drwy bennu amodau trwyddedu a chyflwyno

hysbysiadau.

• Mae trwyddedu’r eiddo ychwanegol hyn wedi sicrhau bod landlordiaid yn cyflwyno

trwyddedau gosod nwy a thrydan cyfoes fel rhan o’r broses drwyddedu, gan sicrhau

bod offer nwy a thrydan mewn cyflwr boddhaol.

• Cafwyd gwelliant o ran nifer yr eiddo sydd angen gwneud gwaith gwella arnynt, gan

leihau o 81% yn 2011/12 y tro cyntaf y gwerthuswyd y Cynllun i 36% yn ystod y

flwyddyn flaenorol.

• Mae nifer yr eiddo sydd wedi’u gwella o ganlyniad i ymyrraeth wedi cynyddu o 10% i

31%, sy’n golygu bod 63% o eiddo trwyddedig yn cyrraedd y safon.

• Mae’r bwlch rhwng yr eiddo hynny sydd angen eu gwella a’r eiddo sydd wedi’u gwella

drwy ymyrraeth wedi lleihau’n sylweddol yn ystod cyfnod y Cynllun. Mae hyn yn

arwydd cadarnhaol y bu’r Cynllun yn ddylanwadol o ran nodi problemau a gwella

eiddo.

• Er gwaethaf tueddiadau cadarnhaol sy’n dangos gwelliant sylweddol o ran cyflwr

eiddo, erys canran uchel o eiddo sydd angen eu gwella o hyd.

• Gellir gweld tueddiadau cadarnhaol o ran nifer yr hysbysiadau a gyflwynwyd y

cydymffurfiwyd â hwy mewn perthynas â diogelwch, sef cynnydd o 10% i 40%.

• Gellir gweld tueddiadau cadarnhaol o ran nifer yr hysbysiadau a gyflwynwyd y

cydymffurfiwyd â hwy mewn perthynas ag oerfel gormodol, sef cynnydd o 8% i 44%.

4

Page 43: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 43 o 45

• Mae nifer sylweddol o beryglon wedi’u gwella o dan y System Mesur Iechyd a

Diogelwch ar gyfer Tai. Diogelwch tân yw’r perygl mwyaf cyffredin sydd wedi’i wella.

• Ni wrthodwyd unrhyw drwyddedau ers gweithredu’r Cynllun.

• Mae nifer yr erlyniadau mewn perthynas ag eiddo yn Cathays ar gyfer naill ai methu â

thrwyddedu eiddo neu fethu â chydymffurfio â hysbysiad/gwaith gwella yn isel iawn.

• Er gwaethaf cynnydd sylweddol yn nifer yr eiddo trwyddedig ers gweithredu’r

Cynllun, ynghyd ag ymwybyddiaeth uwch ymhlith tenantiaid, mae nifer y cwynion a

wnaed i’r Tîm Gorfodi Tai am eiddo yn ardal Cathays wedi aros yn weddol sefydlog. Ar

hyn o bryd mae 2174 eiddo trwyddedig yn ardal Cathays, ac mae nifer y cwynion am

eiddo a gafwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol yn cyfateb i 6.53% o’r eiddo trwyddedig

yn unig. Cyn gweithredu’r Cynllun, roedd hwn yn 35%. Ymddengys fod lleihad o’r

fath yng nghanran y cwynion yn arwydd cadarnhaol bod y gwaith rhagweithiol a

wnaed fel rhan o’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol wedi arwain at welliant o ran

cyflwr yr eiddo, gan felly lleihau’r angen i gwyno.

• Ers gweithredu’r Cynllun mae’r nifer fwyaf o gwynion o bell ffordd yn ymwneud â

dadfeilio.

• Mae gweithio mewn partneriaeth rhwng Swyddogion Trwyddedu Tai

Amlfeddiannaeth a’r Heddlu yn cynnal ymweliadau ar y cyd â'r 5 stryd lle cafwyd y

nifer fwyaf o achosion o fyrgleriaeth gyda’r nod o wella diogelwch eiddo ac addysgu

tenantiaid o ran atal troseddu wedi arwain at lwyddiant sylweddol, a lleihad o 80% yn

nifer yr achosion o fyrgleriaeth yn y strydoedd a dargedwyd.

• Gellir gweld tystiolaeth o duedd gadarnhaol ar i lawr mewn perthynas ag achosion o

fyrgleriaethau domestig a gyflawnwyd yn Cathays, gyda dim ond 98 o achosion o

fyrgleriaeth wedi’u cofnodi yn ystod 2014/15. Mae hyn yn cymharu’n gadarnhaol â

chyfanswm 2011/12 o 167, sef lleihad o 48%.

• Dygwyd 258 eitem o eiddo yn 2014/15, sef lleihad sylweddol ers 2011/12 pan

ddygwyd 604 o eitemau. Gliniaduron yw’r eitem y dygwyd y nifer fwyaf ohonynt o

hyd, fodd bynnag mae’r nifer hwn wedi haneru ers 2011/12.

• Bu Caerdydd yn arwain y ffordd o ran Hyfforddi Landlordiaid ac mae wedi hyfforddi

dros 900 landlord sydd ag eiddo yng Nghaerdydd (736 ers dechrau’r Cynllun

Trwyddedu Ychwanegol). Mae hyn yn gyfran sylweddol o’r holl landlordiaid yng

Nghymru sydd wedi cael hyfforddiant, sef 29% o’r holl landlordiaid achrededig yng

Nghymru. Mae’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol wedi cyfrannu at y nifer hwn drwy

bennu amodau trwyddedu sy’n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gael eu hachredu,

a’r cymhellion a gynigir i annog landlordiaid i gymryd rhan.

• Ymddengys fod y gofyniad Trwyddedu i gofrestru deiliaid allweddi larymau gyda

Gwasanaeth Rheoli Llygredd y Cyngor wedi cael ymateb cadarnhaol, gyda’r nifer o

eiddo yn Cathays a gofrestrwyd yn cynrychioli mwy nag un ran o bump o gyfanswm yr

eiddo a gofrestrwyd ledled Caerdydd gyfan.

Page 44: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 44 o 45

• Cafwyd ymateb cadarnhaol ym mhob ardal i’r gwaith ymgysylltu â

thrwyddedigion/landlordiaid drwy’r Arolwg Boddhad Cwsmeriaid. Mae’r canlyniad

rhagorol a gafwyd o ran barn ymatebwyr am y Cynllun Trwyddedu yn berthnasol iawn

i’r gwerthusiad hwn, gan fod y mwyafrif (97%) o’r farn bod y Cynllun yn gwella

safonau yn y sector rhent preifat.

Cafodd ansawdd y gwasanaeth a’r cymorth sgôr uchel, gyda 96% o’r ymatebwyr yn

cadarnhau eu bod yn fodlon â’r gwasanaeth cyffredinol.

• Nododd gwaith ymgysylltu blaenorol â landlordiaid drwy’r broses Olrhain Taith y

Cwsmer nifer o feysydd allweddol sydd angen eu gwella. Mae’r Cyngor wedi cymryd

camau i fynd i’r afael â hyn drwy adolygu’r ffurflen gais a lleihau’r amser a gymerir i

brosesu cais.

• Mae'r Tîm Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth wedi croesawu adborth gan gwsmeriaid,

ac mae gan y tîm ddull gweithredu hyblyg o ran y Cynllun drwy wneud gwelliannau lle

y bo angen sydd o fudd i’r landlord a’r Cyngor.

• Mae trosglwyddo gwaith gweinyddu'r Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth i'r tîm

trwyddedu arbenigol wedi cael effeithiau cadarnhaol o ran symleiddio'r broses

weinyddol a lleihau’r baich ar swyddogion gorfodi, gan eu galluogi i ganolbwyntio ar

waith gorfodi. At hynny, mae’r lleihad o ran yr amser a gymerir i brosesu cais wedi

cyflymu’r broses drwyddedu, ac wedi sicrhau proses fwy clir a mwy cyson ar gyfer

landlordiaid.

• Er y gwnaed gwaith ymgysylltu â chwsmeriaid gyda landlordiaid drwy’r fethodoleg

Olrhain Taith y Cwsmer, fodd bynnag, prin fu’r ymgysylltu â thenantiaid, ac o

ganlyniad bu’n anodd cadarnhau eu canfyddiadau ynghylch effeithiolrwydd y cynllun.

• Bydd y trwyddedau a roddwyd o dan y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yn dechrau

dod i ben yn 2015, a bydd angen eu hadnewyddu, gyda llawer o eiddo (31%) sydd

angen eu gwella. Pe bai’r Cynllun yn dod i ben, bydd yr eiddo hyn wedi’u heithrio o’r

gyfundrefn drwyddedu, ac felly ni fyddent yn cael eu gwella. Yn yr un modd, yn ystod

cyfnod 5 mlynedd trwydded, gall cyflwr eiddo ddirywio, a phe bai trwydded ddim yn

cael ei hadnewyddu ac eiddo ddim yn cael ei archwilio, collir cyfleoedd pellach i wella

cyflwr eiddo.

Crynodeb

Diben y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yw gwella safon eiddo rhent yn Ardal Cathays yn

ogystal â mynd i’r afael â materion cymunedol ehangach megis gwastraff, ymddygiad

gwrthgymdeithasol, defnyddio ynni’n effeithlon a diogelwch eiddo. Wrth baratoi’r

gwerthusiad hwn, dadansoddwyd elfennau amrywiol y Cynllun, ac mae’n amlwg o’r holl

ganlyniadau bod tystiolaeth o effaith gadarnhaol y Cynllun wedi dod i’r amlwg. Bu’n ofynnol

gwella nifer fawr o eiddo, ac mae nifer fawr wedi’u gwella, sy’n dangos bod angen ymyrraeth

gan y Cyngor, ac mae’r ymyrraeth honno yn cael effaith ar yr ardal. Cyn gweithredu’r

Cynllun, byddai’r eiddo hyn wedi’u heithrio o’r gyfundrefn Drwyddedu, ac ni fyddai’r gwaith

gwella o’r fath wedi’i nodi.

Page 45: Evaluation of Additional Licensing Scheme 2015 Cymraeg · 2015. 8. 4. · Cymuned Cathays, sef 12.09% o’r holl achosion o fyrgleriaeth yng Nghaerdydd. • Mae ymatebion tenantiaid

Tudalen 45 o 45

Mae’n glir yn sgîl y gwerthusiad hwn y bu’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yn offeryn

gwerthfawr o ran cymhwyso safonau i nifer o eiddo, a gwella’r eiddo hynny, a fyddai fel arall

wedi’u heithrio. Gan hynny, mae’n holl bwysig bod y gwaith da hwn yn parhau. Mae diwedd

cyfnod y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol presennol ym Mehefin 2015 yn gyfle i’r Cyngor

barhau â’r gwaith da hwn. Gan hynny, argymhellir y dylid ailddatgan ardal Cathays yn ardal

Trwyddedu Ychwanegol am 5 mlynedd arall.

4.2 Argymhellion

Argymhellion

• Dylai’r Cyngor ailddatgan y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yn Cathays am 5 mlynedd

arall i ddatblygu ar sail y gwaith da a welir yn y gwerthusiad hwn.

• Dylid annog landlordiaid i gydymffurfio â gofynion trwyddedu yn brydlon drwy

atgyfnerthu’r broses orfodi a gymhwysir i landlordiaid sy’n methu â chydymffurfio â

gofynion trwyddedu o ran cyflwyno ceisiadau a gwneud gwaith gwella.

• Ehangu’r gweithgarwch ymgysylltu â chwsmeriaid gyda thenantiaid yn Cathays er

mwyn deall eu canfyddiadau o effeithiolrwydd cyffredinol y Cynllun Trwyddedu

Ychwanegol. DS. Pe bai’r Cyngor yn penderfynu ailddatgan yr ardal, cynhelir

ymgynghoriad cyhoeddus fydd yn mynd i’r afael â’r mater hwn.

• Gwerthuso Cynllun Cymuned Myfyrwyr Caerdydd er mwyn sicrhau ei fod yn effeithiol

a rhoi gwelliannau ar waith lle bo angen.

• Parhau â’r cydweithio rhwng yr Heddlu a Swyddogion Trwyddedu Tai

Amlfeddiannaeth i wella diogelwch eiddo trwyddedig.

• Gwerthuso’r Cynllun yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gyflawni’r

buddiannau gofynnol a gweithredu gwelliannau a nodir.