Engage · Web viewMae Cydlynydd Rhaglen Extend ar gael drwy gydol y cyfnod recriwtio i ateb unrhyw...

5
Rhaglen Arweinyddiaeth Extend 2020 - 2021 Cwestiynau Cyffredin I ymgeiswyr sy’n preswylio ac yn gweithio yng Nghymru neu’r Alban Nodwch: dylai ymgeiswyr sy’n preswylio ac yn gweithio yn Lloegr gyfeirio at ddogfennau cwestiynau cyffredin ar wahân sydd ar gael yn https://engage.org/happenings/extend/ Sut fydd rhaglen Extend eleni’n wahanol i raglenni blynyddoedd blaenorol? Yng ngoleuni’r cyfyngiadau yn sgil Covid 19, rydym wedi penderfynu gwneud rhai newidiadau i’r rhaglen eleni. Er bod hyn yn golygu na fydd rhai elfennau o Extend yn bresennol eleni, mae’n golygu hefyd y byddwn yn gallu agor y rhaglen i ddwywaith y garfan arferol a lleihau’r ffioedd. Rydym ni wedi gweithio gyda chydweithwyr a chyn-gyfranogwyr Extend i ddatblygu’r hyn sydd yn ein barn ni’n gyfle cyffrous i gydweithwyr addysg a dysgu ddatblygu eu sgiliau arwain. Mae’r newidiadau allweddol i Extend fel a ganlyn: - Eleni byddwn yn cyflwyno dwy raglen fer gyda chyfanswm o 30 yn y garfan; y gyntaf rhwng Hydref a Rhagfyr 2020 a’r ail rhwng Ionawr a Mawrth 2021 - Caiff cynnwys y rhaglen ei chyflwyno o bell ond bydd yn cadw rhai o elfennau’r rhaglenni blaenorol - Bydd Extend yn cynnal ffocws cryf ar goetsio fel dull arwain. Caiff yr elfen hon o Extend ei chyflenwi gan Relational Dynamics First, darparwr hyfforddiant coetsio uchel ei barch yn y sector. - Yng ngoleuni’r newidiadau uchod ac er mwyn gwneud y rhaglen mor hygyrch â phosibl i ymgeiswyr cymwys, y ffi cyfranogi eleni fydd £200 Ydy’r Rhaglen ar agor i ymgeiswyr llawrydd? Ydy. Mae Extend ar agor i gydweithwyr mewn rolau addysg / dysgu yn sector y celfyddydau a diwylliant sy’n dymuno arwain, ac sy’n

Transcript of Engage · Web viewMae Cydlynydd Rhaglen Extend ar gael drwy gydol y cyfnod recriwtio i ateb unrhyw...

Rhaglen Arweinyddiaeth Extend 2020 - 2021

Cwestiynau Cyffredin

I ymgeiswyr sy’n preswylio ac yn gweithio yng Nghymru neu’r Alban

Nodwch: dylai ymgeiswyr sy’n preswylio ac yn gweithio yn Lloegr gyfeirio at ddogfennau cwestiynau cyffredin ar wahân sydd ar gael yn https://engage.org/happenings/extend/

· Sut fydd rhaglen Extend eleni’n wahanol i raglenni blynyddoedd blaenorol?

Yng ngoleuni’r cyfyngiadau yn sgil Covid 19, rydym wedi penderfynu gwneud rhai newidiadau i’r rhaglen eleni. Er bod hyn yn golygu na fydd rhai elfennau o Extend yn bresennol eleni, mae’n golygu hefyd y byddwn yn gallu agor y rhaglen i ddwywaith y garfan arferol a lleihau’r ffioedd. Rydym ni wedi gweithio gyda chydweithwyr a chyn-gyfranogwyr Extend i ddatblygu’r hyn sydd yn ein barn ni’n gyfle cyffrous i gydweithwyr addysg a dysgu ddatblygu eu sgiliau arwain. Mae’r newidiadau allweddol i Extend fel a ganlyn:

· Eleni byddwn yn cyflwyno dwy raglen fer gyda chyfanswm o 30 yn y garfan; y gyntaf rhwng Hydref a Rhagfyr 2020 a’r ail rhwng Ionawr a Mawrth 2021

· Caiff cynnwys y rhaglen ei chyflwyno o bell ond bydd yn cadw rhai o elfennau’r rhaglenni blaenorol

· Bydd Extend yn cynnal ffocws cryf ar goetsio fel dull arwain. Caiff yr elfen hon o Extend ei chyflenwi gan Relational Dynamics First, darparwr hyfforddiant coetsio uchel ei barch yn y sector.

· Yng ngoleuni’r newidiadau uchod ac er mwyn gwneud y rhaglen mor hygyrch â phosibl i ymgeiswyr cymwys, y ffi cyfranogi eleni fydd £200

· Ydy’r Rhaglen ar agor i ymgeiswyr llawrydd?

Ydy. Mae Extend ar agor i gydweithwyr mewn rolau addysg / dysgu yn sector y celfyddydau a diwylliant sy’n dymuno arwain, ac sy’n ystyried eu bod yng nghanol eu gyrfa. Anogir gweithwyr llawrydd i ymgeisio ac fe’u cynrychiolwyd ar bob rhaglen Extend hyd yma.

· Dim ond ers ychydig o flynyddoedd wyf wedi bod yn gweithio yn y sector celfyddydau / diwylliant. A gaf i ymgeisio?

Cewch, cyhyd â’ch bod yn bodloni meini prawf cymhwysedd Extend (mae’r rhain i’w gweld yn y ddogfen Gwybodaeth i Ymgeiswyr). Mae carfannau blaenorol wedi cynnwys cyfranogwyr sydd wedi gweithio yn y sector am flynyddoedd lawer a rhai sy’n gymharol newydd.

Yn nodweddiadol, mae carfannau wedi cynnwys cydweithwyr o bob oed sy’n gweithio mewn amrywiol leoliadau ac sydd ag amrywiaeth o sgiliau a phrofiad. Efallai y bydd rhai wedi gweithio yn y sector celfyddydau a diwylliant drwy gydol eu gyrfaoedd, gallai eraill fod wedi cymryd saib gyrfa, ac mae’n bosibl fod eraill wedi dod i mewn i’r sector ar ôl gweithio mewn rolau eraill yn flaenorol. Yr hyn maen nhw’n ei rannu yw ymrwymiad i’w datblygiad proffesiynol eu hunain, sgiliau cryf a ddatblygwyd mewn lleoliad addysg a dysgu a dyhead i gyflawni rôl arwain. Mae bywgraffiadau carfannau blaenorol Extend i’w gweld ar wefan Engage.

· Oes rhaid i fi gwblhau ffurflen Mynegi Diddordeb?

Nac oes, does dim rhaid i chi, ond mae’n ddefnyddiol i ni os ydych chi’n gwneud hynny gan ei fod yn golygu y gallwch gwblhau gwiriad cymhwysedd cyflym a gofyn am gyswllt ffôn / ebost gyda Chydlynydd Extend i drafod unrhyw ymholiadau a allai fod gennych am y Rhaglen. Mae cwblhau’r Ffuflen Mynegi Diddordeb hefyd yn gymorth i ni ar gyfer gwerthuso gan ein helpu i fesur y lefelau o ddiddordeb yn y Rhaglen.

· Sut caiff ceisiadau eu hasesu?

Caiff ceisiadau eu hasesu gan banel o weithwyr proffesiynol ar sail y ffurflen gais rydych chi’n ei chyflwyno. Mae gennym baneli ar wahân ar gyfer ymgeiswyr o Gymru, Lloegr a’r Alban. Yn nodweddiadol mae’r paneli’n cynnwys o leiaf un person sydd wedi cwblhau’r Rhaglen yn flaenorol.

Yr ymgeiswyr llwyddiannus fydd y rheini sy’n gallu dangos orau eu bod yn bodloni’r meini prawf dethol; mae’r rhain i’w gweld yn y ddogfen gwybodaeth i ymgeiswyr. Wrth lenwi eich ffurflen, dylech gadw'r rhain yn eich meddwl. Os nad yw cais ysgrifenedig yn bosibl i chi, cysylltwch â Chydlynydd Extend a gallwn drafod fformatau ymgeisio eraill.

Ceir uchafswm geiriau mewn rhai cwestiynau. Peidiwch â mynd dros y rhain.

Nid ydym ni’n cyfweld ag ymgeiswyr, felly mae’n hollbwysig eich bod yn treulio amser yn gwneud yn siŵr eich bod yn ymateb i’r cwestiynau yn y ffurflen gais yn glir ac yn gryno.

Rydym ni’n gwerthfawrogi y gall gymryd peth amser i gwblhau’r ffurflen ac rydym ni am i chi gyflwyno’r cais gorau bosibl. Mae Cydlynydd Rhaglen Extend ar gael drwy gydol y cyfnod recriwtio i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych am y broses - mae croeso i chi gysylltu â hi dros y ffôn neu ebost.

Rydym ni hefyd yn awgrymu eich bod yn gofyn i gydweithiwr neu gyfaill adolygu eich ffurflen gais cyn i chi ei chyflwyno.

Dyddiad cau ceisiadau yw 14 Medi 2020.

· Pryf gaf i wybod a yw fy nghais yn llwyddiannus?

Bwriadwn roi gwybod i’r holl ymgeiswyr am ganlyniad eu cais erbyn dydd Llun 5 Hydref

· Faint o amser fydd angen i mi ymrwymo i’r Rhaglen?

Mae cyfranogwyr yn ymrwymo i gymryd rhan ym mhob agwedd o’r Rhaglen, a bydd llawer o hyn eleni’n cynnwys presenoldeb a chyfranogi mewn sesiynau a gyflwynir o bell. Cyfeiriwch at y ddogfen Gwybodaeth i Ymgeiswyr ar gyfer dyddiadau’r sesiynau dysgu. Rhwng y sesiynau dysgu, disgwylir y byddwch yn gweithio gydag aelodau eraill o’ch carfan i ymarfer coetsio a rhoi’r sgiliau dysgu y byddwch chi’n eu caffael dros gyfnod Extend ar waith.

· Os wyf i wedi ymgeisio’n aflwyddiannus yn y gorffennol, oes pwynt ailymgeisio?

Oes. Caiff pob cais ei ystyried bob blwyddyn ar ei rinweddau unigol. Os byddwch yn ymgeisio ond ddim yn cael eich dewis, rydyn ni’n hapus i gynnig adborth i chi a allai fod o gymorth os ydych chi’n penderfynu ymgeisio eto.

· Oes modd talu ffi’r Rhaglen mewn rhandaliadau?

Nac oes. Cyn ymgeisio, rhaid i chi sicrhau eich bod mewn sefyllfa i dalu ffioedd y Rhaglen gan y byddwn yn eich anfonebu cyn gynted ag y byddwch wedi cadarnhau eich bod yn derbyn eich lle. Bydd gan ymgeiswyr gyfnod o 7 diwrnod i dderbyn eu lle. Unwaith y caiff lle ei dderbyn, mae’r ymgeisydd yn atebol i dalu’r ffi yn llawn.

· Pam ydych chi’n gofyn am fywgraffiad yn y cam ymgeisio?

Caiff bywgraffiadau’r ymgeiswyr a ddewisir eu rhannu ymhlith y garfan cyn y cyfnod preswyl cyntaf. Bydd eich bywgraffiad hefyd yn ymddangos ar wefan Engage a chaiff ei rannu gyda darpar fentor.

· Beth yw’r digwyddiad i gyn-fyfyrwyr, ac a oes disgwyl i gyfranogwyr fod yno?

Cynhelir y digwyddiad i gyn-fyfyrwyr bob blwyddyn ym mis Ionawr fel arfer yn Llundain ond bydd hyn yn dibynnu ar ystyriaethau iechyd cyhoeddus yn 2020-2021. Gwahoddir pawb sydd wedi cymryd rhan yn Extend. Mae’r digwyddiad yn gyfle i gyfranogwyr cyfredol a chyn-gyfranogwyr ddod at ei gilydd i rannu dysgu, cyfnewid ymarfer a chynnal cymuned ddysgu. Mae pob digwyddiad yn cynnwys siaradwr gwadd. Fodd bynnag caiff llawer o’r cynnwys ei gyd-gynhyrchu gyda chyfranogwyr cyfredol a blaenorol Extend. Er nad yw’r digwyddiad yn elfen orfodol o Extend, rydym ni’n annog cyfranogwyr cyfredol yn gryf i ddod os ydynt yn gallu.

· Mae gen i gwestiwn nad yw’r Cwestiynau Cyffredin yn ei ateb.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am unrhyw elfen o Raglen Arweinyddiaeth Extend, cysylltwch â Dawn Cameron, Cydlynydd y Rhaglen: [email protected] neu 0113 226 4064 / 07753 748 038.