Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who...

16
Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world!

Transcript of Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who...

Page 1: Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who live in Paint Box Land. ... Singapore, Hong Kong a De Corea, ymhlith degau o wledydd eraill,

Croeso i fyd Cyw!Welcome to Cyw’s world!

Page 2: Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who live in Paint Box Land. ... Singapore, Hong Kong a De Corea, ymhlith degau o wledydd eraill,
Page 3: Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who live in Paint Box Land. ... Singapore, Hong Kong a De Corea, ymhlith degau o wledydd eraill,

“Helo, fy enw i yw Cyw.

“Mae gen i newyddion da i chi. Bydd mwy nag erioed o raglenni meithrin Cymraeg i’w gwylio o hyn allan. Bydd cyfresi newydd sbon a ffefrynnau o bob math. Bydd gwefan gyffrous hefyd, gyda digon o gemau, gweithgareddau a gwybodaeth ar gyfer rhieni.

“Bydd dros chwe awr o raglenni meithrin yn cael eu darlledu bob dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener ar S4C Digidol, gwasanaeth digidol S4C. Mae’r cyfan yn dechrau ar 23 Mehefin, 2008.

“Yn well na hyn i gyd, maen nhw wedi enwi’r gwasanaeth newydd ar fy ôl i – Cyw!”

“Hello, my name’s Cyw.

“I’ve got good news for you. There’s going to be more Welsh language nursery programmes than ever before. There’ll be brand new series and all kinds of favourites. There’s also an exciting website with plenty of games, activities and information for parents.

“Over six hours of nursery programming will be broadcast each day, Monday-Friday, on S4C Digidol, S4C’s digital service. It all starts on 23 June, 2008.

“And guess what? They’ve named the new service after me - Cyw!”

“By the way, Cyw is the Welsh word for chick. It’s very easy to pronounce – just say the letter ‘q’.”

Page 4: Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who live in Paint Box Land. ... Singapore, Hong Kong a De Corea, ymhlith degau o wledydd eraill,

“Gadewch i fi gyflwyno fy ffrindiau, Llew, Plwmp, Deryn, Jangl a Bolgi – sy’n llawn drygioni! Bydd y criw yn ymuno â fi i gyflwyno cynnwys newydd i blant bach Cymraeg eu hiaith – lle bynnag maen nhw’n byw.

“Bydd nifer o raglenni sydd eisoes yn gyfarwydd i wylwyr iau yn cael eu darlledu, gan gynnwys Rachael a Gareth, Sali Mali, Holi Hana, Sam Tân a’r Meees.

“Gwyliwch hefyd am ein cyfresi newydd sbon. Bydd Heini yn annog plant bach (a chi, mam a dad, mam-gu a dad-cu!) i gael hwyl trwy wneud ymarfer corff. Bydd cyfres newydd sbon o’r Meees a bydd Igi, Tigi, Bip a Bop yn cadw reiat mewn cyfres newydd llawn cerdd a chân.”

“Let me introduce my friends, Llew, Plwmp, Deryn, Jangl and Bolgi – who’s full of mischief! The gang will help me present new content for Welsh speaking youngsters – wherever they live.

“Many programmes, including Rachael a Gareth, Sali Mali, Holi Hana, Sam Tân and the Meees, will already be familiar to younger viewers.

“Look out for our brand new series too. Heini will be encouraging younger children (and you, mum and dad, gran and grandad!) to keep fit in a fun way. There will be a brand new series of Meees, while Igi, Tigi, Bip a Bop will be kicking up a musical storm in their new series.”

“Dyma fy ffrindiau.”“Meet my friends.”

Page 5: Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who live in Paint Box Land. ... Singapore, Hong Kong a De Corea, ymhlith degau o wledydd eraill,

02/03

Deryn

Jangl

Plwmp

Llew

Bolgi

Page 6: Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who live in Paint Box Land. ... Singapore, Hong Kong a De Corea, ymhlith degau o wledydd eraill,
Page 7: Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who live in Paint Box Land. ... Singapore, Hong Kong a De Corea, ymhlith degau o wledydd eraill,

“Felly, sut allai wylio Cyw? Mae’n hawdd. Bydd y gwasanaeth meithrin newydd yn cael ei ddarlledu rhwng 7∑00-1∑30 o ddydd Llun i ddydd Gwener trwy gydol y flwyddyn ar S4C Digidol.

“Mae S4C Digidol ar gael yn rhad ac am ddim yng Nghymru ar sianel ddigidol Sky 104, Freeview rhif 4, Virgin TV rhif 194 a Freesat 104. Tu allan i Gymru, mae S4C Digidol ar Sky 134 a Freesat 120.

“Bydd nifer o raglenni ar gael i’w gwylio ar y we, ac wrth gwrs, mae gwefan liwgar llawn hwyl – s4c.co.uk/cyw.”

“So, how can I watch Cyw? It’s easy. The new nursery service is broadcast throughout the year between 7∑00-1∑30 every weekday on S4C Digidol.

“S4C Digidol is available free-to-air in Wales on digital channel Sky 104, Freeview 4, Virgin TV 194 and Freesat 104. Outside Wales, S4C Digidol is available on Sky 134 and Freesat 120.

“Many programmes will be available to view on-line, and don’t forget about our colourful, fun-filled website – s4c.co.uk/cyw.”

04/05

“Mae’n hawdd gwylio Cyw.”“It’s easy to watch Cyw.”

Page 8: Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who live in Paint Box Land. ... Singapore, Hong Kong a De Corea, ymhlith degau o wledydd eraill,

“Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ddwyieithog am y gwasanaeth drwy fynd i’r wefan.

“Ewch i s4c.co.uk/cyw a chliciwch ar y botwm ‘Oedolion’. Yma fe gewch chi gefndir am y gwasanaeth, gan gynnwys fy hanes i a fy ffrindiau! Mae manylion yno am sut i gysylltu â chynhyrchwyr Cyw a sut i anfon cyfarchion pen-blwydd hefyd.

“Os ydych chi’n dysgu’r iaith, peidiwch ag anghofio am wefan gynhwysfawr S4C ar gyfer dysgwyr, dysguars4c.co.uk, sy’n cynnwys pob math o ddeunydd a gweithgareddau defnyddiol.

“Ac wrth gwrs, os ydych chi’n ddysgwr, fe allwch wylio – a dysgu - ochr-yn-ochr â’ch plentyn, gan fod isdeitlau Saesneg yn cael eu darparu ar y gwasanaeth.

“Symbol y dylluan sy’n dynodi fod isdeitlau ar gael. Mae croeso i chi gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C am fwy o fanylion, drwy ffonio 0870 6004141 neu ebostio [email protected].”

“If you’re a Welsh learner or don’t speak Welsh, then here’s how you can find out more about the service.

“Go to the website, s4c.co.uk/cyw and click on the ‘English’ button, then the ‘Adult’ button. You’ll find all the background about the service here, including information about me and my friends! There are details on how to contact Cyw’s producers and how to send birthday greetings too.

“Don’t forget about S4C’s comprehensive website for Welsh learners, learnons4c.co.uk, which features all sorts of helpful content and activities.

“And of course, you can watch – and learn – alongside your child, as there are English subtitles available on the service.

“Look out for the owl icon, which signals that subtitles are available. Please contact the S4C Viewers’ Hotline for more details, telephone 0870 6004141, or [email protected].”

“Mae isdeitlau Saesneg ar gael ar y rhan fwyaf o raglenni. Bydd y wefan – s4c.co.uk/cyw - yn fyw ar 23 Mehefin.”“English subtitles are available on most programmes. The website - s4c.co.uk/cyw - goes live on 23 June.”

Page 9: Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who live in Paint Box Land. ... Singapore, Hong Kong a De Corea, ymhlith degau o wledydd eraill,

06/07

Gareth a Rachael

Page 10: Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who live in Paint Box Land. ... Singapore, Hong Kong a De Corea, ymhlith degau o wledydd eraill,

AMSERLEN 23 MEHEFIN

7∑00—Rachael a Gareth Rachael Solomon a Gareth Delve sy’n cyflwyno llond trol o hwyl.Dydd Gŵyl Hwyl Sioe gerdd i’r plant lleiaf yn llawn cerddoriaeth a sbort.

8∑00—DwdlamCyfres yng nghwmni Lowri Williams a thrigolion byd cymylau Dwdlam.Dysgu ’da FalmaiGwers fer gyda Falmai’r Fuwch.Rala RwdinsAnturiaethau’r wrach fach a’i ffrindiau yng Ngwlad y Rwla.Peppa PincCartŵn yn dilyn teulu o foch sy’n joio chwarae, gwisgo lan a neidio yn y mwd.Sali MaliHelyntion animeiddiedig Sali Mali a’i ffrindiau.TrionglCanu a dawnsio gyda chriw Triongl.

9∑00— Dafydd a Bitw ac Owain a Henri Mae Dafydd yr athro ifanc yn darllen stori i Bitw’r ci. Cwm Teg Hwiangerddi hen a newydd, wedi’u hanimeiddio.

Cegin TwtsBydd Twts, y llygoden binc yn creu pryd blasus gyda chymorth Martyn Geraint. RibidirêsHwyl gyda Now a Nia.Y BlobsCreaduriaid bach o bob lliw a llun yw’r Blobs sy’n byw yng Ngwlad Bocs Paent.Gel a FfionStori hyfryd am ferch fach o’r enw Ffion a’i chi ffyddlon, Gel. 10∑00— Y MeeesHelyntion Jaaason, Meeedea a theulu bwthyn Acropolis.Y Dywysoges FachAnturiaethau’r Dywysoges Fach.Darllen ’da FiEich hoff gymeriadau plant yn darllen straeon difyr.BincaCyfres yn dilyn Binca’r gath a’i ffrindiau.CaioBe nesa’ i’r bachgen bach direidus?Pei PwmpenCân, stori a sbort yng nghwmni Mrs Marblys a’i ffrindiau.

11∑00— Myffin y MulBeth sydd ar y gweill yng Nghaermulod heddiw?

Clwb CleberStraeon gwych, dysgu cyfri acadnabod lliwiau yng nghwmni Col y Ci a’i ffrindiau Mo a Macs.Plismon PuwAnturiaethau plismon enwocaf Cymru, Plismon Puw o Landdedwydd.Ari AwyrenAnturiaethau Ari’r awyren a’i ffrindiau yn Nhretarri.Ffi Ffi a’i FfrindiauCyfres wedi’i hanimeiddio sy’n dilyn helyntion Ffi Ffi a’i Ffrindiau sy’n byw mewn gardd hudol.

12∑00— Igi, Tigi, Bip a BopDigon o ganu, dawnsio a dwli gyda’r grŵp pop newydd yma.

12∑30— Rachael a GarethAil-ymunwch â Rachael a Gareth am lond trol o hwyl.HeiniMae ymarfer corff yn hwyl.Falmai’r FuwchAmser stori gyda Falmai’r Fuwch.Tecwyn y TractorHwyl a sbri ar y fferm yn y gyfres arobryn hon.Rhacsyn a’r Goeden HudHoll hanes Rhacsyn y dewin a’i ffrindiau.

“Hwre! Dyma enghraifft o ddiwrnod arferol o wylio ar wasanaeth meithrin newydd Cyw.”

Page 11: Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who live in Paint Box Land. ... Singapore, Hong Kong a De Corea, ymhlith degau o wledydd eraill,

SCHEDULE 23 JUNE

7∑00— Rachael a GarethJoin presenters Rachael Solomon and Gareth Delve for plenty of fun.Dydd Gŵyl HwylA musical show starring many of S4C’s most enduring children’s characters.

8∑00—DwdlamPresenter Lowri Williams is joined by the inhabitants of Dwdlam.Dysgu ’da FalmaiA short lesson with Falmai the cow.Rala RwdinsThe adventures of Rala Rwdins the witch and friends.Peppa PincFun with a family of pigs who love playing games, dressing up and jumping in the mud. Sali MaliThe latest animated adventures of Sali Mali and friends.TrionglMusic and dance with the Triongl gang.

9∑00— Dafydd a Bitw ac Owain a HenriDafydd, a young teacher, reads a story to Bitw the dog.Cwm Teg Animated nursery tales, both traditional and modern.

Cegin TwtsA series introducing food to younger viewers. Twts the mouse prepares a meal with Martyn Geraint’s help.RibidirêsFun and games aboard the ark.Y Blobs The adventures of the colourful Blobs who live in Paint Box Land.Gel a FfionAnimated fun with Ffion and her dog, Gel, based on the popular books by Jane Simmons.

10∑00— Y MeeesLive action fun with this family of all-singing, all-dancing sheep.Y Dywysoges FachThe adventures of the Little Princess.Darllen ’da FiPopular characters reading your favourite books.BincaThe adventures of Binca the cat and his friends.CaioWhat will this mischievous little boy get up to next?Pei PwmpenA song, a story and lots of fun with Mrs Marblys and her friends.

11∑00— Myffin y MulWhat’s happening in Muffinham today?Clwb CleberFun, learning and great stories with Col the dog, Mo and Macs.Plismon PuwThe adventures of law enforcer, Plismon Puw.Ari AwyrenMore adventures with Ari, the little jet engine, and his friends in Tretarri.Ffi Ffi a’i FfrindiauAnimated series following the adventures of Ffi Ffi and her friends who live in a magic garden.

12∑00— Igi, Tigi, Bip a BopCrazy song and dance capers with this new pop group.

12∑30— Rachael a GarethBack to Rachael & Gareth for plenty of fun.HeiniKeep fit fun!Falmai’r FuwchStorytime with Falmai the cow.Tecwyn y TractorUK Bafta Kids award-winning TV fun on the farm.Rhacsyn a’r Goeden HudRhacsyn is a wizard who lives with his friends in a magic tree.

08/09

“Yipee! Here’s an example of a typical day’s viewing on the new Cyw nursery service.”

Page 12: Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who live in Paint Box Land. ... Singapore, Hong Kong a De Corea, ymhlith degau o wledydd eraill,
Page 13: Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who live in Paint Box Land. ... Singapore, Hong Kong a De Corea, ymhlith degau o wledydd eraill,

“Mae gan S4C enw da ym maes plant ac mae seiliau cadarn i’r gwasanaeth newydd.

“Beth yw eich ffefryn chi o’ch plentyndod tybed? SuperTed? Sam Tân, neu ’falle Wil Cwac Cwac?

“Ry’n ni wedi gwerthu oriau helaeth o raglenni ym mhedwar ban byd. Mae’n bosib cael cymorth gan Hana’r hwyaden yn Singapore, Hong Kong a De Corea, ymhlith degau o wledydd eraill, gan fod y gyfres, Holi Hana, wedi’i gwerthu yn rhyngwladol. Sam Tân yw un o gyfresi meithrin mwyaf poblogaidd Gwlad Pwyl ac mae Sali Mali yn cael ei darlledu yn Israel!”

“S4C has made a name for itself in the field of children’s programming, and this new service is being built on strong foundations.

“I’m sure you have your childhood favourites, whether it’s SuperTed, Fireman Sam or how about Wil Cwac Cwac?

“We’ve also sold hundreds of hours of programming around the world. You can get help from Hana the Duck in Singaporean, Cantonese and Korean, among dozens of other languages, as animation Hana’s Helpline has sold internationally. Fireman Sam is one of Poland’s most popular nursery programmes and Sali Mali is broadcast in Israel!”

10/11

“Pwy yw eich hoff gymeriad chi?”“Who’s your favourite children’s character?”

Page 14: Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who live in Paint Box Land. ... Singapore, Hong Kong a De Corea, ymhlith degau o wledydd eraill,

“Mae’n cyfresi wedi ennill nifer o brif wobrau’r byd teledu – gan gynnwys yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, Bafta Cymru, Bafta Plant Prydain a Gŵyl Ffilm a Theledu Efrog Newydd.

“Byddwn i’n hoffi clywed eich barn am y gwasanaeth newydd. Mae croeso i chi wneud sylwadau ar wefan S4C a thrwy Wifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141.

“Felly, dyna ni, hwyl am y tro, a… MWYNHEWCH!”

“Our programmes have won some of the TV world’s biggest prizes - including the Celtic Media Festival, Bafta Cymru, Bafta Kids UK and the New York Film and Television Festival.

“I’d love to hear what you think about the new service. You’re welcome to make any comments on S4C’s website or via the S4C Viewers’ Hotline on 0870 6004141.

“So bye for now, and… ENJOY!”

“Mwynhewch Cyw!”“Enjoy Cyw!”

Page 15: Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who live in Paint Box Land. ... Singapore, Hong Kong a De Corea, ymhlith degau o wledydd eraill,

12/13

Sam Tân: © 2008 S4C International Limited ac Prism Art & Design Limited, a HIT Entertainment PLC company. Cedwir pob hawl.

Page 16: Croeso i fyd Cyw! Welcome to Cyw’s world! · PDF fileWelsh word for chick. ... Blobs who live in Paint Box Land. ... Singapore, Hong Kong a De Corea, ymhlith degau o wledydd eraill,

Parc Tŷ GlasLlanisienCaerdyddCF14 5DU

Ffôn029 2074 7444Ffacs029 2075 4444

Minicom029 2074 [email protected]

GwifrenGwylwyr0870 600 4141

Parc Tŷ GlasLlanishenCardiffCF14 5DU

Telephone029 2074 7444Fax029 2075 4444

Minicom029 2074 [email protected]

Viewers’Hotline0870 600 4141

S4C