CLICzine #4 (Cymraeg)
Click here to load reader
-
Upload
promo-cymru -
Category
Documents
-
view
237 -
download
0
description
Transcript of CLICzine #4 (Cymraeg)
CADWA’N
GYSYLLTIEDIG CLICZINE # 4 HAF 2011
WWW.CLICARLEIN.CO.UK
YN Y GYFROL HONCLIC YN DY ARDAL DI
IEUENCTID SIR GÂR YN FYW
ERTHYGL 2000 Y SPROUT
BWLIO
PRESWYL GAEAF CLIC
TROI’N VEGGIE
SUT I GYMRYD RHAN
SENGLAU
Y DRWG TU ÔL I…
ARHOLIADAU
NEWYDDION / GWYBODAETH / DIGWYDDIADAU / CYNGOR / HELP / FFORDD O FYW / DWEUD DY DDWEUDWWW.CLICARLEIN.CO.UK // CLIC, Y SIANEL AM WYBODAETH, NEWYDDION A CHYNGOR
GWEFANNAU CYFUNOL CLICARLEIN
DARGANFOD BETH YDYNT DRWY YMWELD: WWW.CCUHPGWNEUDPETHAUNIAWN.CO.UK
GEIRIAU CYWIR TREFN ANGHYWIR MAE GEN TI HAWLIAU
1 2 3 4
5 6 7 8
9 10 11 12
13 14 15 16
17 18 19 20
21 22 23
AM CLICzine
CLICzine ydy chwaer fach argraffedig CLIC, y cylchgrawn ar-lein i bobl ifanc yng Nghymru. Dyma’r lle i ddarganfod a rhannu newyddion, gwybodaeth, cyngor a chael dweud dy ddweud. Cymera ran ar CLICarlein.co.uk
CLIC YN DY ARDAL DI
Hoffwn roi croeso mawr i ychwanegiadau newydd i’r rhwydwaith CLIC. Aeth ieuenctidsirgar.co.uk yn fyw fis Mawrth, tra cafodd gwefan newydd Pen-y-bont ar Ogwr bwsted.com ei lansio fis Ebrill. Cer i edrych arnynt, arwyddo i mewn a gadael sylwad o dan un o’r erthyglau.
NODYN GOLYGYDD
Bu hanner cyntaf 2011 yn anhygoel i CLIC. Cafwyd y preswyl mwyaf hyd yn hyn yng Nghanolfan Awyr Agored Ynys Môn ym
mis Chwefror, a chafwyd syniadau a
chyfeillgarwch newydd sydd wedi datblygu’r
prosiect CLIC yn fawr iawn. Gall ddarllen mwy am
y penwythnos preswyl yn y rhifyn yma o’r CLICzine, neu
drwy ymweld clicarlein.co.uk a rhoi ‘preswyl’ yn y blwch chwilio. Y digwyddiad nesaf fydd ein Brwydr Y Bandiau blynyddol, sydd eleni mewn cysylltiad â Merthyr Rock, yr wyl sydd yn cynnwys The Blackout, Funeral For A Friend a llawer mwy – darllena amdano ar y dudalen nesaf. Syniad y cylchgrawn yma yw rhoi blas i ti o beth sydd ar gael ar y wefan, a gobeithio dy annog di i gymryd rhan. Gall gofrestru a chyflwyno cynnwys ar unrhyw adeg, felly mae croeso i ti rannu dy greadigrwydd a syniadau, neu bori a darganfod ychydig o’r wybodaeth sydd yno i ti fel person ifanc yn byw yng Nghymru.Ryan Heeger, golygydd.
SUT I GYMRYD RHAN GYDA CLIC
MMae CLIC yn le i ti fynegi dy hun drwy greadigrwydd a rhyngweithio gydag eraill. Gallet ysgrifennu erthyglau, gadael sylwadau, cyflwyno lluniau a chelf, creu a mewnosod fideos a
hyd yn oed addasu cefndir y gwefannau. Rydym yn gobeithio lansio gwefannau CLIC i bob sir yng Nghymru. I ddarganfod beth sydd yn dy ardal di, cer i www.CLICarlein.co.uk a defnyddio’r map cwymplen o Gymru (ar frig de’r Hafan). Yn bresennol mae safleoedd gwe yn fyw yn Ynys Môn, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Bro Morgannwg a Wrecsam. Gall hefyd ymuno ag un o’n grwpiau Golygyddol sy’n goruchwylio’r safleoedd, a chael y cyfle i adolygu gigs, sioeau a digwyddiadau a bod yn aelodau o’r wasg. Rho alwad i ni ar 029 2046 2222 am ragor o wybodaeth, neu e-bostia [email protected].
ERTHYGL 2000: HANES Y SPROUT
GWEFANNAU BYW CLIC
Ynys Môn defaid.com • Pen-y-bont ar Ogwr bwsted.com Caerdydd thesprout.co.uk Sir Gaerfyrddin ieuenctidsirgar.co.uk Sir y Fflint fflintyrifanc.co.uk • Casnewydd youngnewport.co.uk Rhondda Cynon Taff wicid.tv • Abertawe shouttawe.co.uk Bro Morgannwg swoosh.me.uk YN MYND YN FYW YN FUAN!
Blaenau Gwent • Merthyr Tudful • Sir Fynwy • Castell-nedd Port Talbot • Torfaen • Wrecsam
Yn fis Mai, gwelwyd yr
2000fed erthygl yn cael
ei gyflwyno i wefan
CLIC Caerdydd theSprout.
Stormer007 oedd yr awdur, a
chymerodd fantais lawn o’r
cyfle….
Heddiw Sproutwyr, rydym yn
wynebu digwyddiad arwyddocaol.
Mae’r erthygl rwyt ti yn darllen
ar hyn o bryd yr 2,000 erthygl i
gael ei chyhoeddi ar theSprout.
Rydym wedi dod o gychwyniad
distaw ond gyda gwaith caled ein
golygyddion ac ymrwymiad a
chysegriad bobl ifanc Caerdydd,
rwyt ti yn darllen beth sydd yn
garreg filltir yn hanes theSprout.
I ddathlu’r hyn, rwyf am arwain ti
drwy hanes byr (wel, dwi’n dweud
byr) theSprout, yn amlygu rhai o
ddigwyddiadau cyntaf ac erthyglau eraill pwysig theSprout, yn ogystal â rhai erthyglau dwi’n eithaf
hoff ohonynt. Yn ôl yn 2007,
cafodd theSprout ei lansio gyda’i
erthygl agoriadol ac o’r holl bynciau
i ddewis ohonynt, dewisodd
ein tîm golygyddol Xboxes a’r
Ailwampio Ewropeaidd. Efallai
nad yw’n ymddangos fel y pwnc
mwyaf diddorol neu bwysig, ond
mae yn bendant yn bwysig.
Darllena’r erthygl lawn ar
http://bit.ly/Erthygl2000
CYFEIRIADProMo-Cymru Unedau 12+13Gweithdai Royal StuartAdelaide Place Bae CaerdyddCF10 5BR
CYSWLLTFfôn: 029 2046 2222Ffacs: 029 2048 [email protected]
GOLYGYDDOLGolygydd: Ryan Heeger Dyluniad: Burning RedCyfieithu: Tania Russell-OwenCat Southall
AMDANON NIMae’r CLICZINE yn gyhoeddiad chwarterol yn anelu at rai 11 i 25 yng Nghymru. Mae’r erthyglau i gyd yn friff, gyda’r fersiwn llawn ar gael ar clicarlein.co.uk. CLIC ydy’r Gwasanaeth
Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol i bobl ifanc yng Nghymru, yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru ProMo-Cymru sydd yn datblygu’r prosiect yn y cyfnod pedair blynedd nesaf.
NEWYDDION
NEWYDDION
Gwybodaeth ar fwy na 600 o yrfaoedd a sut mae dechrau arni
Chwilio am gyrsiau a hyfforddiant ar hyd a lled Cymru
Help gyda CVs ac ymgeisio am swyddi Information on over 600 careers and how to get started
Search for courses and training across Wales
Help with CVs and job applications
Darganfod eich dyfodolDiscover your future
0800 100 900Llinell Gymorth | Helpline
CERDDORIAETH DULL O FYW
Nid oedd cerddoriaeth bob amser yn rhywbeth yr oeddet yn
ei gael ar-lein am ddim.Roedd hen bobl yn arfer mynd i’r siop a thalu am rhywbeth gallent hefyd afael ynddo. Mae Bearsheado Swoosh ym Mro Morgannwg yn esbonio…
Mae record yn beth prydferth. Gallet afael arno a bron teimlo enaid y gerddoriaeth sydd wedi’i fewnblannu yn llawes yr albwm. Ac mae’r ffaith fod rhaid ei drin gyda gofal diamod yn ei wneud yn fil gwaith mwy gwerthfawr na thrac mp3 gwirion.
Efallai bod nifer ohonoch yn meddwl fod recordiau yn cael eu crafu yn hawdd, slab o blastig du lletchwith roedd nain a thaid yn prynu gyda’u harian poced. Ond y peth yw, mae recordiau yn
ddadleuol – maen nhw’n arbennig. Fel sengl y Sex Pistols, God Save The Queen. Roedd y gân yna yn arwyddocâd o newid, yn llais i’r rhai oedd yn adnabod llywodraeth llygrid y cyfnod.
A beth am y gwaith arlunio? Un o’r esiamplau o gelf fodern gorau o gwmpas. Cafodd yr albwm ei hun ei wahardd ym mhob siop ym Mhrydain
ac ni chaniateir ei chwarae ar y radio. Fe wnaeth gwerthiant record ei hun ei osod yn #2 yn y siartiau ar y pryd. Byddai cân fel hyn byth wedi goroesi efo’r syniad newydd yma o gael gwared ar ryddhad materol.
Darllena’r erthygl lawn ar http://bit.ly/senglddimmwy
Roedd rhaid i mi ddarganfod ffyrdd
newydd o gydbwyso fy niet
...bron teimlo enaid y gerddoriaeth
sydd wedi’i fewnblannu
Sengl
AR BETH MAE CLICWYR YN GWRANDO? ARTIST/ Katy Perry • CÂN/ Last Friday Night DEWISWYD GAN / Tasha, Sir Fynwy www.facebook.com/cliconline
ARTIST/ Metronomy • CÂN/ The Bay • DEWISWYD GAN/ Sam Sprout, Caerdydd thesprout.co.uk
ARTIST/ Miley Cyrus • CÂN/ 7 Things • DEWISWYD GAN/ ihavethecyrusvirusx, RCT wicid.tv
ARTIST/ The Joy Formidable • CÂN/ Whirring • DEWISWYD GAN/ Golygydd Ryan CLIConline.co.uk
ARTIST/ Skindred • CÂN/ Corrupted • DEWISWYD GAN/ CrazyDistortion, RCT • wicid.tv
ARTIST/ My Chemical Romance CÂN/ The Black Parade • DEWISWYD GAN/ emily16, Bro Morgannwg • swoosh.me.uk
ARTIST/ Bad Meets Evil • CÂN/ Fast Lane • DEWISWYD GAN/ Steven MJ • shouttawe.co.uk
ARTIST/ Green Day • CÂN/ 21 Guns • DEWISWYD GAN/ Tansi, Caerdydd • thesprout.co.uk
ARTIST/ Aloe Blacc • CÂN/ I Need A Dollar • DEWISWYD GAN/ ANTLERD, Sir y Fflint • fflintyrifanc.co.uk
ARTIST/ Hugh Laurie • CÂN/ You Don’t Know My Mind DEWISWYD GAN/ pubsongs, Ynys Môn • defaid.com
ARTIST/ Emily Osment • CÂN/ 1-800 Clap Your Hands DEWISWYD GAN/ Stormer007, Caerdydd
GWRANDO’TROI’N VEGGIEAmber7 o Abertawe yn trafod sut beth yw dilyndiet heb gig..
Penderfynais ddod yn llysieuwr tua blwyddyn yn ôl, yn 20 oed. Stopiais
fwyta cig a physgod ynghyd â bwyd a diodydd (ia diodydd!) sydd efo sgil-gynnyrch anifail ynddynt. Y rheswm? Wel, fel un
sydd yn caru anifeiliaid ac yn amgylcheddwr brwd roeddwn yn
meddwl ei bod hi’n bryd i mi ymrwymo yn fy nghrediniaethau. Roeddwn wedi bod yn fwytäwr cig am byth ac wrth fy modd efo cyw iâr yn enwedig felly roeddwn yn meddwl byddai’r newid yn anodd ac fe roedd mewn rhai ffyrdd
Roedd rhaid i mi ddarganfod ffyrdd newydd o gydbwyso fy niet. Er esiampl, pan fyddwn yn gwneud cyri o’r blaen byddwn i’n ychwanegu cyw iâr i jar o saws, berwi reis a voila! Ond nawr, roedd rhaid i mi gychwyn cyflwyno bwyd i wneud y prydau yn fwy sylweddol ac felly roedd rhaid i mi drio llysiau nad oeddwn wedi arfer â nhw, fel planhigyn wy a chorbwmpen, ac amnewid cig fel y ‘tofu’ dychrynllyd.
Darllena’r erthygl lawn ar http://bit.ly/troinveggie
ffot
o: b
rad
ley
j, fl
ickr
Ddim
Mwy?
Gwybodaeth ar fwy na 600 o yrfaoedd a sut mae dechrau arni
Chwilio am gyrsiau a hyfforddiant ar hyd a lled Cymru
Help gyda CVs ac ymgeisio am swyddi Information on over 600 careers and how to get started
Search for courses and training across Wales
Help with CVs and job applications
Darganfod eich dyfodolDiscover your future
0800 100 900Llinell Gymorth | Helpline
GWRANDO’
CERDDORIAETH DULL O FYW
BRWYDR Y BANDIAU
Bydd Brwydr Y Bandiau CLIC eleni mewn cyswllt
gyda Merthyr Rock, gw yl gerddoriaeth dau
ddiwrnod gyda The Blackout a Ocean Colour
Scene yn perfformio, sydd yn digwydd rhwng dydd
Sadwrn 3ydd a dydd Sul 4ydd Medi 2011 ym Mharc
Cyfartha, Merthyr Tudful.
Bydd rowndiau rhanbarthol yn cael eu cynnal
dros Gymru ddiwedd mis Gorffennaf, gyda brwydr
derfynol yng Nghaerdydd fis Awst. Bydd yr enillydd
yn agor i The Blackout ar y prif lwyfan ym Merthyr
Rock, tra bydd dau fand arall yn cael chwarae’r ail
lwyfan. Mae hefyd pecyn gwobr enfawr ar gael.
Mae’r frwydr yn agored i bob math o artistiaid, nid cerddoriaeth gitâr yn unig, felly
os wyt ti’n MC, yn ddewin ar yr allweddellau, yn giamstar ar
y deciau neu’n berffaith yn acapela,
rydym eisiau i ti gystadlu. Bydd y cystadleuwyr
rhanbarthol yn cael ei benderfynu drwy bleidlais ar-
lein felly e-bostia dy/eich linc MySpace, bywgraffiad
ac unrhyw luniau neu fideos ohonot ti/chi’n
perfformio i [email protected].
Edrycha ar frwydr llynedd ar http://bit.ly/brwydrybandiau
Mae’r cyfrannwr CLIC GLITTER EYES360 o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei hun mewn i le cymhleth…
Roeddwn yn arfer casáu’r unigolion yna oedd yn wastad yn defnyddio’r term ‘cymhleth’ pan roeddent mewn perthynas.
Byddwn i’n edrych arnynt efo dicter llwyr am y ffaith bod angen i ti fod efo rhywun neu ddim efo rhywun.
Roeddwn yn casáu’r derminoleg yna unwaith, ond nawr dwi’n defnyddio’r frawddeg yna fy hun. Eironig, yn tydi? Mae bywyd yn sicr efo’i hiwmor.
Yn ddiweddar fe redais yn ôl i freichiau fy nghyn gariad ac aros yn ei fflat. Felly nawr, pam fyddaf o gwmpas ei ffrindiau sydd wedi dod yn ffrindiau i mi, rydym yn dweud “rydym yn gwpl cymhleth”.
Fe ddylwn i gasáu’r frawddeg hon gan fy mod i’n harfer rholio fy llygaid pam fyddai cyplau eraill yn ei ddweud. Ond os mai bod yn gymhleth ydy’r unig ffordd gallaf fod gydag ef, yna ydym, rydym yn gymhleth.
Darllena’r erthygl lawn arhttp://bit.ly/maengymhleth
Galw Iechyd Cymru Gwasanaeth cyngor a gwybodaeth iechyd ar gael 24 awr y dydd, bob dydd. galwiechydcymru.wales.nhs.uk • 0845 4647
Dewisiadau Cadarnhaol Mind Cymru Codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad a darparu hyfforddiant hanfodol mewn sgiliau ymyriad cynnar. positivechoices-wales.org • 029 2034 6583
Meic Y llinell gymorth gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru. meiccymru.org • 080880 23456
Yr Ystafell Gwefan iechyd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i bobl ifanc 13-17 oed. theroom.wales.nhs.uk
Youth2Youth Llinell gymorth Brydeinig unigryw sydd yn cael ei redeg gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. youth2youth.co.uk • 020 8896 3675
Cysylltiadau Iechyd Hanfodol CLIC
Pan roeddwn i yn yr ysgol roeddwn i yn cael fy mwlio. Mae gen i frawd mawr sydd
yn hoyw. Roedd yn fy mhoeni i fy mod i’n cael fy mhigo arno oherwydd dewisiadau fy mrawd. Am dair blynedd roedd yr un hogyn yn dod ataf ac yn gofyn “ydy dy frawd di’n cyffwrdd ynddo ti yn y nos?” bob bore pan roeddwn yn cyrraedd yr ysgol. Roeddwn yn cymryd y peth gan nad oeddwn yn gweld llawer o bwynt o gael fy nhramgwyddo gan y fath gwestiwn.
Yna un diwrnod aeth pethau yn waeth. Cychwynnodd yr hogyn yma ofyn pethau wrthyf am fywyd personol fy mrawd. Gofynnodd a oedd cariadon fy mrawd yn cyffwrdd ynof ac oedd fy mrawd yn gwylio? Fe es at fy athrawes dosbarth pan ddywedodd hyn wrthyf. Dywedais wrthi beth oedd yn digwydd a dywedodd hithau nad oedd dim gallai wneud heb glywed yr hogyn yma yn dweud hyn.
BWLIODWEUDDDWEUD
www.cymru.gov.uk
Cymry IfancYoung Wa les
Holiaduron Gemau aGweithgareddau
AstudiaethauAchos Clipiau Fideo
• Beth yw llais y disgybl? • Beth mae’n ei olygu i CHI? • Sut gall wneud gwahaniaeth yn eich ysgol chi?
Gallwch ateb y cwestiynau hyn a llawer mwy wrth fynd at www.llaisdisgyblioncymru.org.uk
... dyma rai o’r pethau y gallwch ddod o hyd iddynt ar y wefan hon, ond er mwyn eigwneud hi’n well byth, hoffem glywed GENNYCH CHI! Mynegwch eich barn!
Rhannwch eich syniadau, dywedwch wrthym sut rydych wedi
gwneud gwahaniaeth yn eich ysgol chi, neu sut
hoffech chi i bethau newid
Peidiwch ag oedi - anfonwch e-bost heddiw @ [email protected]
MAE’N GYMHLETH
gan kinghamster o Bridgend
O, mi ydym, ond nid ydym chwaith!
Darllena’r erthygl lawn ar http://bit.ly/bwilo
Ar ddydd Gwener 18 Chwefror 2011, aeth 60 ohonom ar fws i Ynys Môn
ar gyfer Penwythnos Preswyl Gaeaf CLIC. A phrofodd i fod yn breswyl gorau CLIC hyd yn hyn. Roedd CrazyDistortion o RCT yno ac ysgrifennodd amdano…
Dyfala be? Na, nid hynna. Dyfala eto.
Na, nid hynna chwaith. Fydda hi’n haws i mi ddweud wrthyt ti be di be?
Iawn ta, dydd Gwener paciais fy magiau a gadael adref o’r diwedd. I Ynys Môn. Am benwythnos. Efo CLIC. Lyfli.
Cychwynnodd dydd Gwener. Roedd yr haul wedi’i guddio gan gymylau. Gwisgais jîns. Roedd y bws yn beth fyddet ti’n disgwyl o unrhyw fws. Ond roeddwn i’n eithaf ansicr i gychwyn pam fod y
gyrrwr wedi penderfynu gyrru’n ôl i mewn i Rondda Cynon Taf ar ôl codi ein cyd breswylwyr o Lyn Ebwy a Chasnewydd.
Nid oedd unrhyw glem gennym fod ein siwrne am fod yn hirach na’r pedair awr amcangyfrif.
Ia, penderfynodd y sat nav direidus fynd y ffordd olygfaol i’r darn bach o Gymru yn y Gogledd. Roedd y ffordd ddewisol hefyd yn amwisg o dwyll ar ein ffonau, gan nad oedd signal o gwbl am ran go dda o’n siwrne. Gymaint fel bod merch o’r enw Jess a finnau wedi addasu cân am ail-tweetio, gyda’r prif eiriau yn “Rydym ni angen ail-tweetio, pam na allwn ni ail-tweetio?”
Ac ia, dwi’n siwr ein bod wedi cythruddo ein cyd deithwyr o’r De gyda’r gân yma. O wel, gallai fod yn waeth, gallwn ni wedi stolio ychydig o weithiau. O, disgwyl, fe wnaethon ni.
Yn anffodus, roedd hi’n eithaf tywyll unwaith cyrhaeddwyd o’r diwedd ar dir Ynys Môn. Mor dywyll i ddweud y gwir, fel bod y gyrrwr bws ddim wedi sylwi ar bostyn arwydd yn dweud “dim cerbydau llydan” tan ar ôl i ni fynd i lawr y stryd yna
Darllena’r erthygl lawn, gweld y lluniau a’r fideos, ac efallai cymryd rhan yn y preswyl nesaf ar www.clicarlein.co.uk
TWEETS DEFNYDDWYR /SYLWADAU/ADBORTH @cliconline Pleser i gyfarfod chi ac mae fy ngwasanaethau gostyngedig yma at eich gwasanaeth unrhyw amser :-) @CJDEMOOI (o raglen Eggheads y BBC)
DWEUDDDWEUDgan kinghamster o Bridgend
Racism I am black. You are white. Is that the reason for us to fight? Just because of my colour you’d be racist to me and my brother? I am black. You are white. Is that the reason for us to fight? What you see is not what is inside of me?
I am black. You are white. Is that the reason for us to fight? When you talk I feel like chalk I am black. You are white. There is no need to fight. It just isn’t right. Is it?
gan EL@@YZ BWOII!! o Newport
GAN CRAZYDISTORTION
O WICID
PRESWYLCLIC
YNYSMÔN
Darllena’r erthygl lawn ar http://bit.ly/bwilo
Beth ydych chi’n feddwl wrth glywed y gair yna?
Mae pobl efo syniadau gwahanol iawn o beth yw gwirfoddoli. Mae rhai yn meddwl am gyfleoedd newydd a heriol, mae rhai yn meddwl am waith elusennol a helpu gwella’r byd o’u cwmpas, tra mae eraill yn meddwl “Gwirfoddoli? Beth yw’r pwynt?”
Y grŵp diwethaf yma ydy’r rhai rydym eisiau cael y neges drwodd iddynt: y bobl sydd yn gwrthod y syniad fel un “diflas” – yn dweud pethau fel “dim ond pethau fel codi ysbwriel ydy gwirfoddoli” a “mae gwneud pethau heb gael dy dalu yn wastraff amser.” Ein bwriad ydy newid y canfyddiad yma.
Ond i fod yn onest, nid yw un erthygl yn ddigon i ddysgu pobl am yr holl bethau sydd gan wirfoddoli i gynnig. Yn enwedig pan mae cymaint allan yna. Rydym angen mwy o ffyrdd i gyrraedd pobl i ddweud eich straeon ac i helpu pobl gymryd rhan mewn gwirfoddoli.
Dyna pam fod gennym bellach oriel lluniau, oriel fideo, diweddariadau Twitter cyson a thudalen ffan Facebook (cliciwch ‘Like’ i gael eich diweddaru am newyddion, straeon a digwyddiadau gwirfoddoli).
Wrth gwrs, nid yw’n bosib gwneud hyn ein hunain.
Darllena’r erthygl lawn ar http://bit.ly/gwirvolynmynd
GWIRVOL YN MYND YN GYMDEITHASOL!ADDYSG HYFFORDDIANT
US UNLTD
Mae ANTLERD o Sir y Fflint yn siarad ynglyn â Us
Unltd, grwp o 12 o bobl ifanc rhwng 16-24 sydd wedi profi digartrefedd. Maent ar hyn o bryd yn codi arian i helpu gyda’u nod o agor caffi galw heibio i’r digartref, canolfan hyfforddi a chanolfan cyngor a gwybodaeth.
Deuddeg mis yn ôl, cafodd Shelly Moorefield gyfarfod yn ei swyddfa gyda Katie a Suzanne o Gefnogi Pobl, a James o Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint.
Gofynnwyd i Shelly os byddai hi â diddordeb mewn gweithio “ychydig fwy” o oriau i weithio ar brosiect gyda rhai pobl
ifanc gyda
phrofiad o ddigartrefedd. “Doedd gen i ddim syniad y byddwn yn helpu’r un bobl ifanc gychwyn busnes eu hunain 12 mis wedyn” meddai Shelly.
Yn y dyddiau cynnar mae’n rhaid ei bod wedi cymryd naid o ffydd enfawr i Katie a Suzanne i rannu eu cyllid. Roeddent yn cael cyfarfodydd anhrefnus ar ôl cyfarfodydd anhrefnus, a dwi’n sicr eu bod yn melltithio ar adegau.
Darllena’r erthygl lawn ar http://bit.ly/clicarleinusultd
“Gwirfoddoli”gan AntlerD o Flintshire