CBHC Cynllun Gweithredol 2017-18 › wp-content › uploads › 2017 › 06 › CBHC-Cynll… ·...

13
© Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 2017. Mae’r holl gynnwys ar gael dan Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 ac eithrio pan nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon ewch http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence- cymraeg/version/3/. Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y cyhoeddiad hwn at: Comisiwyn Brenhinol Henebion Cymru, Ffordd Penglais, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3BU, [email protected]. Cynllun Gweithredol 2017-18

Transcript of CBHC Cynllun Gweithredol 2017-18 › wp-content › uploads › 2017 › 06 › CBHC-Cynll… ·...

Page 1: CBHC Cynllun Gweithredol 2017-18 › wp-content › uploads › 2017 › 06 › CBHC-Cynll… · sector treftadaeth yng Nghymru, ac yn ail drwy lunio a rheoli Rhestr Enwau Lleoedd

© Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 2017.

Mae’r holl gynnwys ar gael dan Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 ac eithrio

pan nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon ewch

http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-

cymraeg/version/3/.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y cyhoeddiad hwn at: Comisiwyn Brenhinol Henebion

Cymru, Ffordd Penglais, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3BU, [email protected].

Cynllun Gweithredol 2017-18

Page 2: CBHC Cynllun Gweithredol 2017-18 › wp-content › uploads › 2017 › 06 › CBHC-Cynll… · sector treftadaeth yng Nghymru, ac yn ail drwy lunio a rheoli Rhestr Enwau Lleoedd

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Cynllun Gweithredol 2017-18

Tudalen 2 o 13

Cynnwys

1. Cyflwyniad ................................................................................................ 3

2. Nodau ac amcanion .................................................................................. 4

3. Gwerthoedd ............................................................................................. 5

4. Gweithio er budd y gymuned ................................................................... 5

5. Yr iaith Gymraeg ....................................................................................... 6

6. Cynhyrchu incwm ..................................................................................... 7

7. Blaenoriaethau ar gyfer 2017-18 .............................................................. 8

8. Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2017-18 ...................................... 11

9. Llywodraethu ac adnoddau .................................................................... 12

10. Cymorth ariannol .................................................................................... 13

Page 3: CBHC Cynllun Gweithredol 2017-18 › wp-content › uploads › 2017 › 06 › CBHC-Cynll… · sector treftadaeth yng Nghymru, ac yn ail drwy lunio a rheoli Rhestr Enwau Lleoedd

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Cynllun Gweithredol 2017-18

Tudalen 3 o 13

1. Cyflwyniad Mae adeiladau hanesyddol a henebion yn rhan mor bwysig o dreftadaeth Cymru â’i chasgliadau mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd, a dyna pam y sefydlwyd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (y Comisiwn Brenhinol) ym 1908 i ymchwilio i’r adeiladau, henebion a thirweddau sy’n ffurfio amgylchedd hanesyddol arbennig Cymru a’u cofnodi. Ein gwaith ni sy’n darparu’r sylfaen dystiolaeth a ddefnyddir wrth wneud penderfyniadau am yr amgylchedd hanesyddol, yn enwedig mewn perthynas â’r arferion cynllunio hynny a sefydlwyd i adnabod a diogelu’r adeiladau, henebion a thirweddau pwysicaf rhag datblygiadau niweidiol. Yn y modd hwn mae’r Comisiwn Brenhinol yn helpu i sicrhau bod amgylchedd hanesyddol Cymru yn parhau’n gyfoethog, amrywiol a gwerthfawr i bobl Cymru ac i’r ymwelwyr niferus sy’n hanfodol i economi twristiaeth Cymru. Mae’r cofnodion a grëwn drwy ein gwaith maes ein hunain, a’r cofnodion sy’n cael eu creu gan ein partneriaid a’n cefnogwyr a’u rhoi ar adnau gyda ni, yn ffurfio Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), trydydd casgliad cenedlaethol Cymru (ochr yn ochr â chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru). Mae’r casgliad cyfoethog ac amrywiol hwn yn diogelu’r dystiolaeth ddogfennol dros dreftadaeth a diwylliant Cymru i’r cenedlaethau a ddaw, a sicrhawn ei fod ar gael i’r amrywiaeth ehangaf posibl o ddefnyddwyr ar gyfer llawer gwahanol fath o ddysgu ac ymchwil. Er mwyn cyflawni’r rhaglen hon o waith yn effeithiol, derbyniwn arian o’r pwrs cyhoeddus fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. I ychwanegu at ein cyllid craidd o £1.531m, cynhyrchwn incwm i ni ein hunain drwy wneud ceisiadau am grantiau a thrwy werthu llyfrau a ffotograffau. Yn y Cynllun Gweithredol hwn nodwn y prif dasgau y bwriadwn ymgymryd â hwy yn ystod y flwyddyn ariannol o Ebrill 2017 hyd Fawrth 2018.

Page 4: CBHC Cynllun Gweithredol 2017-18 › wp-content › uploads › 2017 › 06 › CBHC-Cynll… · sector treftadaeth yng Nghymru, ac yn ail drwy lunio a rheoli Rhestr Enwau Lleoedd

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Cynllun Gweithredol 2017-18

Tudalen 4 o 13

2. Nodau ac amcanion

Seilir y cynllun ar nodau ac amcanion y Comisiwn, a gyflwynwyd yn gyntaf mewn Gwarant Frenhinol a gyhoeddwyd ym 1908. Fe’i diwygiwyd ddiwethaf yn 2000 a nodir ynddi mai rôl y Comisiwn Brenhinol yw:

darparu ar gyfer arolygu a chofnodi henebion ac adeiladweithiau hanesyddol sy’n gysylltiedig â diwylliant cyfoes, gwareiddiad ac amodau byw pobl Cymru o’r cyfnodau cynharaf (gan gynnwys yr henebion a’r adeiladweithiau yng ngwely’r môr, arno neu oddi tano o fewn môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy’n gyfagos â Chymru):

drwy lunio, cynnal a churaduro CHCC fel cofnod cenedlaethol sylfaenol yr amgylchedd archaeolegol a hanesyddol;

drwy ddarganfod, arolygu, dehongli a chofnodi’r holl adeiladau, safleoedd a henebion sydd o ddiddordeb archaeolegol, pensaernïol a hanesyddol yng Nghymru neu o fewn y môr tiriogaethol sy’n gyfagos â Chymru, er mwyn gwella a diweddaru CHCC, a hefyd ymateb i anghenion statudol;

drwy ddarparu cyngor a gwybodaeth sy’n berthnasol i ddiogelu a chadw adeiladau, safleoedd a henebion sydd o ddiddordeb archaeolegol, pensaernïol a hanesyddol;

drwy gasglu data a’u cyfnewid gyda sefydliadau eraill sy’n cadw cofnodion a darparu mynegai i ddata o ffynonellau eraill;

drwy hybu defnyddio’r wybodaeth yn CHCC gan y cyhoedd ym mhob ffordd briodol;

drwy osod a chynnal safonau cenedlaethol ym meysydd arolygu, cofnodi a churaduro cofnodion yn ymwneud ag archaeoleg a phensaernïaeth hanesyddol a darparu arweiniad ar y materion hyn i gyrff eraill;

a thrwy fod yn gyfrifol am oruchwylio Cofnodion Safleoedd a Henebion lleol (a elwir bellach yn Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol, neu CAHion).

Wrth ymgymryd â’r dyletswyddau hyn, bydd y Comisiwn Brenhinol yn ategu:

gwaith Cadw wrth roi cyngor i Lywodraeth Cymru ar bolisi amgylchedd hanesyddol;

gwaith awdurdodau cynllunio lleol wrth iddynt guraduro amgylchedd hanesyddol Cymru ac ymgymryd â gweithgareddau cynllunio a rheoli datblygiadau;

a gwaith Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru wrth iddynt ymgymryd â chloddio archaeolegol a chofnodi pensaernïol pan wneir hyn fel amod caniatâd cynllunio a’r gwaith a wnânt i reoli a gwella Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol Cymru.

Page 5: CBHC Cynllun Gweithredol 2017-18 › wp-content › uploads › 2017 › 06 › CBHC-Cynll… · sector treftadaeth yng Nghymru, ac yn ail drwy lunio a rheoli Rhestr Enwau Lleoedd

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Cynllun Gweithredol 2017-18

Tudalen 5 o 13

3. Gwerthoedd

Ein bwriad yw gwneud cyfraniad adeiladol i’r nodau cenedlaethol a geir yn fframwaith llywodraethu Llywodraeth Cymru (Symud Cymru Ymlaen 2016-21), Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r Weledigaeth ar gyfer Diwylliant yng Nghymru (Golau yn y Gwyll). Nodau craidd y rhain yw creu Cymru sydd â diwylliant bywiog, iaith Gymraeg ffyniannus a chymunedau mwy cyfartal, cydlynol a chydnerth, ac sy’n llewyrchus a diogel, iach ac egnïol, uchelgeisiol a brwd dros addysg, unedig a chysylltiedig, ac yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol ar raddfa fyd-eang. Yn arbennig, drwy ymchwilio i’r amgylchedd hanesyddol a’i gofnodi, bydd y Comisiwn Brenhinol yn hyrwyddo ac yn cryfhau diwylliant a threftadaeth Cymru, ac yn ymdrechu’n barhaus i wella ei wasanaeth o safon uchel i’r cyhoedd, a thrwy hynny gyfrannu at safle Cymru fel gwlad uchelgeisiol a rhyngwladol ei gorwelion. Chwaraewn ran allweddol hefyd yng ngwaith grŵp llywio Cymru Hanesyddol, y rhoddwyd iddo’r her o ddarparu gwasanaethau treftadaeth yng Nghymru yn fwy effeithiol drwy gydweithredu. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i’r egwyddor o weithio’n nes â’r sefydliadau treftadaeth cenedlaethol eraill yng Nghymru a gyllidir gan y Llywodraeth (Cadw, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru), ac i chwarae rhan lawn yng ngwaith y fenter ar y cyd sydd wrth galon yr argymhellion a gyflwynwyd i’r Gweinidog ym mis Ionawr 2017, yn enwedig drwy gefnogi mentrau masnachol a chynlluniau twristiaeth ddiwylliannol newydd.

4. Gweithio er budd y gymuned

Gall sefydliadau treftadaeth chwarae rhan werthfawr yn y gwaith o ysbrydoli a rhoi grym i bobl drwy eu cynnwys mewn gweithgareddau sy’n hybu eu sgiliau, eu hunanhyder a’u dyheadau. Mae ymgysylltu â’r cyhoedd yn rhan annatod o’n holl gynlluniau gweithgarwch ac, yn arbennig, yn ystod 2017-18, gobeithiwn:

sicrhau arian CDL ar gyfer ein prosiect ar ryfel llongau tanfor yr Almaen, sy’n cynnwys rhaglen fawr o ymgysylltu â’r cyhoedd a fydd yn berthnasol i’r gweithgareddau i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf ac i Flwyddyn y Môr;

mewn partneriaeth â Cadw, defnyddio’r arian CDL rydym wedi’i dderbyn ar gyfer y prosiect ‘Treftadaeth nas Cerir?’ i weithio gyda phobl ifanc yng Ngheredigion i ystyried cysyniadau megis gwerth treftadaeth ac i ehangu mynediad i gyfleoedd diwylliannol i bobl ifanc, yn enwedig rhai o gefndiroedd difreintiedig;

Page 6: CBHC Cynllun Gweithredol 2017-18 › wp-content › uploads › 2017 › 06 › CBHC-Cynll… · sector treftadaeth yng Nghymru, ac yn ail drwy lunio a rheoli Rhestr Enwau Lleoedd

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Cynllun Gweithredol 2017-18

Tudalen 6 o 13

a defnyddio’r €4.145m o arian Undeb Ewropeaidd (Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020) rydym wedi’i sicrhau ar gyfer ein prosiect CHERISH i gynyddu dealltwriaeth cymunedau o effeithiau newid hinsawdd ar dreftadaeth arfordirol ac arforol Cymru, ac i hyrwyddo twristiaeth arfordirol, gan roi pwyslais neilltuol ar weithgareddau’n ymwneud â Blwyddyn y Môr.

5. Yr iaith Gymraeg

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i hybu’r Gymraeg a hwyluso ei defnydd. Byddwn yn parhau i weithredu yn unol â’r 169 o safonau a luniwyd gan Gomisiynydd yr Iaith ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus llwyr ddwyieithog yng Nghymru, gan roi cydraddoldeb i’r Gymraeg a’r Saesneg a galluogi siaradwyr Cymraeg i ymdrin â’r Comisiwn Brenhinol a CHCC yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg os dymunant. Daeth ein Safonau Iaith Gymraeg i rym ar 25 Ionawr 2017, ac rydym wedi gwneud ymdrech fawr i sicrhau ein bod ni’n cydymffurfio’n llawn. Rydym, serch hynny, wedi gwneud cais am gael ein heithrio o’r safon sy’n gofyn i ni gynhyrchu pob cofnod yn CHCC yn y dyfodol yn y Gymraeg a’r Saesneg, nid oherwydd nad ydym ni’n dymuno gwneud hynny ond oherwydd y byddai’r adnoddau y byddai angen eu darparu er mwyn cydymffurfio yn llyncu cyfran fawr o’n cyllid, cyfyngu ar ein gweithgareddau eraill, a’n hatal rhag cyflawni unrhyw un o’r tasgau eraill a nodir yn y Cynllun Gweithredol hwn. Serch hynny, byddwn yn parhau i weithio’n agos â’n partneriaid i hwyluso defnydd ehangach o’r Gymraeg, yn gyntaf drwy ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer arfer gorau ym maes rheoli cofnodion dwyieithog a fydd yn fodel ar gyfer y sector treftadaeth yng Nghymru, ac yn ail drwy lunio a rheoli Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru. Byddwn yn parhau i ddarparu dosbarthiadau yn y Gymraeg i’n staff ein hunain ac i hybu defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith er mwyn cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Drwy ein polisïau recriwtio ceisiwn gynyddu nifer y staff dwyieithog a gyflogir gan y Comisiwn Brenhinol a chynyddu nifer y Comisiynwyr sy’n gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Page 7: CBHC Cynllun Gweithredol 2017-18 › wp-content › uploads › 2017 › 06 › CBHC-Cynll… · sector treftadaeth yng Nghymru, ac yn ail drwy lunio a rheoli Rhestr Enwau Lleoedd

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Cynllun Gweithredol 2017-18

Tudalen 7 o 13

6. Cynhyrchu incwm

Yn ystod y deuddeng mis diwethaf rydym wedi llwyddo i sicrhau grantiau gan gyrff allanol i’n cynorthwyo gyda’n gweithgareddau. Mae’r rhain yn amrywio o symiau bach o Gronfa Marc Fitch i helpu gyda chostau cyhoeddi llyfrau i grant mawr o €4.145m gan yr Undeb Ewropeaidd (Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020) ar gyfer ein prosiect CHERISH pum-mlynedd i asesu effeithiau newid hinsawdd ar dreftadaeth arfordirol pentiroedd, ynysoedd a riffiau Basn Môr Iwerddon (mae gan y prosiect werth cyfan o €5.184m pan gynhwysir arian cyfatebol).

Rydym wrthi’n gwneud ceisiadau i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am grantiau eraill (ar gyfer prosiect i goffáu rhyfel llongau tanfor yr Almaen 1917), i Sefydliad Albert Gubay (i gofnodi eglwysi catholig yng Nghymru), ac i Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (ar gyfer prosiect wedi’i seilio ar ddisgrifiadau o Gymru a ysgrifennwyd gan deithwyr o gyfandir Ewrop yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif).

Mae’n ddyddiau cynnar ar sawl prosiect arall: prosiect amlddisgyblaethol mawr ar Glawdd Offa gyda Cadw, Historic England, Prifysgol Caer, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant; prosiect gydag Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur i wella ein dealltwriaeth o weithgarwch y mynaich Sistersaidd a’i effaith ar dirwedd Cymru; a phrosiect ymchwil gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Llyfrgell Genedlaethol a Phrifysgol Bangor ar hanes ystadau Cymru. Disgwyliwn hefyd wneud ceisiadau am grantiau i ddigido rhannau allweddol o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru a’u gwneud yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr.

Ein polisi wrth geisio incwm o ffynonellau heblaw am y Llywodraeth yw canolbwyntio ar ennill grantiau mawr ar gyfer prosiectau mawr sy’n cyd-fynd â’n strategaeth ymchwil, sydd yn ei thro yn adlewyrchu strategaethau ymchwil ehangach y sector yng Nghymru. Yn ogystal, rydym ar fin dechrau adolygiad o’n gweithgarwch marchnata. Byddwn yn gofyn: pa gynhyrchion a gwasanaethau a gynigiwn ar hyn o bryd ac i bwy ac ai’r rhain yw’r cynhyrchion a gwasanaethau cywir; a oes ffyrdd gwell o’u darparu; a oes cynhyrchion a gwasanaethau eraill y dylem ni eu cynnig; pa fuddsoddiad sydd ei angen er mwyn gallu datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd (er enghraifft, mewn platfform e-fasnach effeithiol); a sut y mesurwn lwyddiant.

Pan edrychwn ar y dewisiadau sy’n codi o’r adolygiad hwn, byddwn yn ystyried a ddylai cynhyrchion a gwasanaethau newydd gael eu datblygu fel rhan o’r Bartneriaeth Strategol gyda Cadw, y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru sy’n cael ei chynnig fel un o ganlyniadau proses adolygu strategol Cymru Hanesyddol.

Page 8: CBHC Cynllun Gweithredol 2017-18 › wp-content › uploads › 2017 › 06 › CBHC-Cynll… · sector treftadaeth yng Nghymru, ac yn ail drwy lunio a rheoli Rhestr Enwau Lleoedd

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Cynllun Gweithredol 2017-18

Tudalen 8 o 13

7. Blaenoriaethau ar gyfer 2017-18

I gyflawni’r nodau strategol a amlinellwyd uchod, bwriadwn ymgymryd â’r gweithgareddau canlynol yn ystod 2017-18. Gwella ein sylfaen wybodaeth a’n dealltwriaeth o’r amgylchedd hanesyddol

Parhau â’n gwaith o gofnodi adeiladau hanesyddol a henebion gan ddilyn y nodau ymchwil rydym wedi cytuno arnynt gyda Cadw, gan gynnwys astudiaeth ffotograffiaeth o’r awyr i helpu i fonitro cyflwr parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig, cofnodi addoldai o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif, a chofnodi safleoedd ac adeiladau o bwys sydd dan fygythiad oherwydd diffyg defnydd neu esgeulustod neu sydd mewn perygl o gael eu dymchwel.

Llunio, cynnal a churaduro CHCC fel cofnod cenedlaethol amgylchedd archaeolegol a hanesyddol Cymru.

Hybu’r defnydd o CHCC ym mhob ffordd briodol i gyrraedd yr amrywiaeth ehangaf posibl o ddefnyddwyr a chynyddu i’r eithaf gyfleoedd i bobl ymgysylltu â’n hadnoddau archifol, eu deall a’u mwynhau.

Darparu gwasanaeth ymholiadau ardderchog i’r sawl sy’n dod i’n hystafell ymchwil gyhoeddus yn Aberystwyth, a cheisio darparu mynediad digidol i gyfran gynyddol o’n casgliad.

Mesur a phwyso ffyrdd newydd o hyrwyddo CHCC, i gynyddu defnydd ac incwm, ac ystyried marchnadoedd newydd.

Catalogio’r casgliad cenedlaethol o awyrluniau a ddaeth i’n meddiant yn ddiweddar ac asesu ei botensial masnachol ac ymchwil.

Cyflawni achrediad archifol ar gyfer CHCC o dan gynllun Yr Archifau Cenedlaethol.

Gweithio gyda Cadw i weithredu rhaglen o arolygu a chofnodi asedau treftadaeth sydd mewn perygl, yn enwedig addoldai o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.

Ymgymryd ag adolygiad sylfaenol o’n gwasanaethau cofnodi brys er mwyn penderfynu ar ddull gweithredu priodol gyda Cadw, a cheisio’r adnoddau angenrheidiol (staff a chyllid) i ddarparu’r gwasanaeth hwn.

Adolygu ein gweithdrefnau ar gyfer ymgorffori cofnodion maes, gan gynnwys awyrluniau, yn Coflein a CHCC i sicrhau bod deunydd newydd ar gael cyn gynted ag y bo modd.

Parhau â’n rhaglen o fonitro cyflwr parciau a gerddi cofrestredig o’r awyr er mwyn diweddaru’r rhestr statudol newydd.

Page 9: CBHC Cynllun Gweithredol 2017-18 › wp-content › uploads › 2017 › 06 › CBHC-Cynll… · sector treftadaeth yng Nghymru, ac yn ail drwy lunio a rheoli Rhestr Enwau Lleoedd

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Cynllun Gweithredol 2017-18

Tudalen 9 o 13

Arweinyddiaeth strategol a chyngor proffesiynol

Parhau i ddarparu arweinyddiaeth mewn perthynas â rheoli data am amgylchedd hanesyddol Cymru, a chefnogi gweithredu Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol statudol yng Nghymru.

Gosod safonau cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer cofnodi ac ymchwilio yn y sector, a hybu arloesedd ac ymagweddau creadigol at ddehongli’r amgylchedd hanesyddol.

Datblygu ein rôl ym maes arweinyddiaeth ddigidol drwy hyrwyddo a chydlynu’r defnydd o dechnoleg ddigidol a thrwy weithio gyda chyrff eraill i hybu ymagwedd fwy strategol ar draws y sector.

Lledaenu safonau proffesiynol, gan ddarparu cyngor ar archifau archaeolegol digidol, a pharhau i ddatblygu cynlluniau ar gyfer strategaeth cadwraeth ddigidol genedlaethol gyda phartneriaid yn y sector Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifdai.

Gweithio gyda Cadw i lunio a gwella’r rhestr o enwau lleoedd hanesyddol Cymru, yn unol â Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, a hyrwyddo’r rhestr er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru.

Gwesteia a gwella’r Gofrestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol.

Gweithio mewn partneriaeth â’r Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd (MALD), Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru i gyflawni cynllun gweithredu Casgliad y Werin Cymru, gan gynnwys arwain y llinyn arloesedd.

Rhoi cymorth proffesiynol i wasanaethau cadwraeth awdurdodau lleol drwy ddatblygu arweiniad ar y lefelau o gofnodi sy’n briodol mewn perthynas â chaniatâd adeilad rhestredig, cynnal rhaglen o ymweliadau maes ar gyfer staff cadwraeth awdurdodau lleol a chyfrannu i ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn Fforwm yr Amgylchedd Hanesyddol gan ganolbwyntio ar ddeall arwyddocâd mathau allweddol o adeiladau.

Rhoi cyngor arbenigol i Cadw a Chyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o’r drefn caniatâd morol er mwyn eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus; ac i Cadw ac adrannau eraill Llywodraeth Cymru i’w helpu i ddatblygu strategaeth ar gyfer diogelu’r amgylchedd hanesyddol morol, gan adeiladu ar weithredoedd yn codi o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

Gweithio gyda Cadw a Chyngor Sir Gwynedd i ddatblygu’r cais Safle Treftadaeth Byd ar gyfer Diwydiant Llechi Cymru.

Cadeirio’r Fforwm Addoldai Hanesyddol a gweithredu rhaglen o weithgareddau sy’n cyfrannu at gyflawni’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Addoldai Hanesyddol yng Nghymru.

Page 10: CBHC Cynllun Gweithredol 2017-18 › wp-content › uploads › 2017 › 06 › CBHC-Cynll… · sector treftadaeth yng Nghymru, ac yn ail drwy lunio a rheoli Rhestr Enwau Lleoedd

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Cynllun Gweithredol 2017-18

Tudalen 10 o 13

Gwneud y Comisiwn Brenhinol a’r sector yn fwy cynaliadwy

Parhau â’n hymwneud brwd a chadarnhaol â phroses adolygu Cymru Hanesyddol gyda’r nod o sicrhau’r gwerth gorau am arian o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru ym maes treftadaeth, a chwarae rhan flaenllaw yn y Bartneriaeth Strategol arfaethedig.

Parhau i geisio cyllid allanol ar gyfer y prosiectau yr ymgymerwn â hwy er mwyn ychwanegu at y grant creiddiol a dderbyniwn gan Lywodraeth Cymru.

Cwrdd â’r ymrwymiadau i gyflawni sy’n gysylltiedig â chyllid allanol, gan gynnwys ein rhwymedigaethau o dan y rhaglen CHERISH a gyllidir gan yr UE.

Parhau i geisio statws elusennol er mwyn galluogi’r Comisiwn i wneud ceisiadau am gyllid o ffynonellau allanol ar gyfer y sector treftadaeth.

Datblygu platfform e-fasnach dwyieithog ar gyfer gwerthu llyfrau, delweddau a thocynnau ar gyfer digwyddiadau (o bosibl fel prosiect partneriaeth Cymru Hanesyddol).

Buddsoddi mewn hyfforddiant sgiliau staff, yn enwedig sgiliau iaith Gymraeg.

Cydymffurfio â safonau Diogeledd Seiber (Cyber Essentials Plus gyda IASME) ar gyfer ein holl weithrediadau TG.

Parhau i weithio’n agos â Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth ddarparu ein gwasanaethau, gan gynnwys is-gontractio gwasanaethau ystafell-gefn i’r llyfrgell a chyd-gynnal dyddiau agored, arddangosfeydd, digwyddiadau, darlithiau a symposia.

Estyn-allan

Datblygu ein rhaglenni o ddigwyddiadau, sgyrsiau ac arddangosfeydd fel rhan o’n hymdrechion marchnata ac estyn-allan, mewn partneriaeth â chyrff treftadaeth a diwylliannol eraill yng Nghymru.

Cyhoeddi Cymru a’r Môr/Wales and the Sea fel rhan o gynlluniau Croeso Cymru i hyrwyddo 2018 fel Blwyddyn y Môr mewn partneriaeth â Cadw, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Y Lolfa; a threfnu arddangosfa’n seiliedig ar y llyfr mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru.

Meithrin perthnasoedd ag ysgolion, colegau a phrifysgolion yng Nghymru i’w hannog i ddefnyddio CHCC fel adnodd dysgu ac ymchwil.

Meithrin cysylltiadau nes â chyrff addysg uwch, yn enwedig mewn perthynas ag ymchwil, lleoliadau myfyrwyr ac addysgu.

Hyfforddi pobl sydd eisoes yn gweithio yn y sector a phobl ar ddechrau eu gyrfaoedd (e.e. drwy brentisiaethau).

Datblygu ein rhaglen ar gyfer gwirfoddolwyr a’n hymgysylltu â Chyfeillion y Comisiwn Brenhinol.

Page 11: CBHC Cynllun Gweithredol 2017-18 › wp-content › uploads › 2017 › 06 › CBHC-Cynll… · sector treftadaeth yng Nghymru, ac yn ail drwy lunio a rheoli Rhestr Enwau Lleoedd

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Cynllun Gweithredol 2017-18

Tudalen 11 o 13

8. Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2017-18

Yn gysylltiedig â’r blaenoriaethau uchod, cytunwyd y defnyddir y dangosyddion perfformiad allweddol canlynol i fesur ein cynnydd yn ystod y flwyddyn:

1. Y Cofnod Henebion Cenedlaethol: adrodd ar gynnydd mewn perthynas â chyflawni achrediad archifol ar gyfer CHCC erbyn 30 Medi 2017.

2. Arweinyddiaeth ddigidol: adrodd ar rôl y Comisiwn mewn perthynas â defnydd strategol o dechnoleg ddigidol yn y sector amgylchedd hanesyddol erbyn 31 Rhagfyr 2017.

3. Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): datblygu’r rhestr o enwau lleoedd hanesyddol fel ei bod yn barod i’w lansio erbyn diwedd Ebrill 2017; hyrwyddo a gwella’r rhestr yn ystod 2017 ac adrodd ar gynnydd erbyn 30 Medi 2017.

4. Treftadaeth mewn perygl: cwblhau adolygiad o gyngor ar gofnodi brys a chynllunio erbyn 30 Mehefin 2017; a chytuno gyda Cadw ar sut i ddatblygu rhaglenni arolygu a chofnodi yn y dyfodol erbyn 31 Mawrth 2018.

5. Awyrluniau: datblygu cynllun gweithredu i gyflymu’r broses o ymgorffori awyrluniau’n ymwneud ag asedau dynodedig yn Coflein a systemau monitro Cadw erbyn 30 Mehefin 2017.

6. Parciau a Gerddi Hanesyddol: cwblhau’r astudiaeth ffotograffiaeth o’r awyr man cychwyn i helpu i fonitro cyflwr parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig erbyn 31 Mawrth 2018.

7. Addoldai Hanesyddol: parhau â rhaglen o gofnodi sy’n canolbwyntio ar adeiladau’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif, gan roi pwyslais arbennig ar eglwysi catholig, ac adrodd ar gynnydd erbyn 30 Medi 2017.

8. Cymorth ar gyfer gwasanaethau cadwraeth awdurdodau lleol: cwblhau arweiniad drafft ar y lefelau o gofnodi sy’n briodol mewn perthynas â chaniatâd adeilad rhestredig; gweithredu rhaglen o ymweliadau maes yn gysylltiedig â gweithgarwch cofnodi creiddiol y Comisiwn ar gyfer staff cadwraeth awdurdodau lleol erbyn 30 Medi 2017; datblygu pecyn Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer Fforwm yr Amgylchedd Hanesyddol, gan ganolbwyntio ar ddeall arwyddocâd mathau allweddol o adeiladau, erbyn 31 Mawrth 2018.

9. Cyd-leoli: adrodd ar y cyfleoedd ychwanegol ar gyfer darparu gwasanaethau a’u gwneud yn fwy effeithlon sy’n deillio o rannu lleoliad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru erbyn 31 Rhagfyr 2017.

10. Statws elusennol a ffynonellau incwm ychwanegol: adrodd ar gynnydd mewn perthynas â sefydlu Sefydliad Corfforedig Elusennol erbyn 30 Medi 2017.

Page 12: CBHC Cynllun Gweithredol 2017-18 › wp-content › uploads › 2017 › 06 › CBHC-Cynll… · sector treftadaeth yng Nghymru, ac yn ail drwy lunio a rheoli Rhestr Enwau Lleoedd

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Cynllun Gweithredol 2017-18

Tudalen 12 o 13

11. Treftadaeth Forol: rhoi cyngor proffesiynol i Gyfoeth Naturiol Cymru ar geisiadau am drwyddedau morol mewn perthynas â datblygiadau alltraeth yn unol â thargedau ymateb y cytunwyd arnynt.

12. Cofnodion Dwyieithog: rheoli cyflawni’r cynllun gweithredu rheoli cofnodion dwyieithog, gan gynnwys sefydlu grŵp i adolygu a diweddaru terminoleg ddwyieithog, ac adrodd ar gynnydd erbyn 30 Medi 2017.

9. Llywodraethu ac adnoddau

Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, dilynwn yr arferion llywodraethu-da a nodir yn ein Dogfen Fframwaith.

Yr Ysgrifennydd sy’n gyfrifol yn bersonol am stiwardiaeth briodol yr arian cyhoeddus sydd yn ei ofal, am weithrediadau a rheolaeth y Comisiwn o ddydd i ddydd, ac am sicrhau cydymffurfiad â gofynion Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.

O dan y Warant Frenhinol mae’r Cadeirydd a hyd at ddeg Comisiynydd yn gyfrifol am oruchwylio ein holl weithrediadau. Penodir ein Comisiynwyr gan y Goron, a’u prif rôl yw sicrhau y caiff y dyletswyddau sydd wedi’u diffinio yn y Warant Frenhinol eu cyflawni’n llawn ac yn briodol o fewn trefn lywodraethu sy’n rheolaidd ac yn briodol. Bydd y Comisiynwyr yn cyfarfod mewn sesiwn lawn bob chwe mis, wedi’u cynorthwyo gan dri is-bwyllgor. Mae cwmpas a natur eu cyfrifoldebau, a’r rhaniad cyfrifoldebau rhwng eu rôl hwy a rôl y staff, yn cael eu nodi yn Nhelerau ac Amodau y penodiad i rôl Comisiynydd.

Gan gynnwys y Cadeirydd, mae gennym ar hyn o bryd un yn fwy na’r nifer lleiaf o Gomisiynwyr (pump) sy’n ofynnol o dan delerau’r Warant Frenhinol. Mae recriwtio tri Chomisiynydd newydd fel y cytunwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn flaenoriaeth ar gyfer 2017/18. Ceisir sgiliau ym meysydd strategaeth ddigidol, ymgysylltu â’r cyhoedd ac archaeoleg (gan gynnwys archaeoleg ddiwydiannol).

Comisiynwyr ac Ysgrifennydd ar 1 Ebrill 2017

Dr Eurwyn Wiliam MA, PhD, FSA (Cadeirydd)

Ms Catherine S Hardman MA, FSA (Is-Gadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Cyhoeddus)

Mrs Caroline Crewe-Read BA, MPhil, FRSA, MAPM (Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol)

Mr Thomas O S Lloyd OBE, MA, DL, FSA

Dr Mark Redknap BA, PhD, FSA, MCIfA

Yr Athro Christopher Williams BA, PhD, FRHistS (Cadeirydd y Pwyllgor Gwybodaeth a Dealltwriaeth)

Mr Christopher Catling MA, FSA, MCIfA (Ysgrifennydd)

Page 13: CBHC Cynllun Gweithredol 2017-18 › wp-content › uploads › 2017 › 06 › CBHC-Cynll… · sector treftadaeth yng Nghymru, ac yn ail drwy lunio a rheoli Rhestr Enwau Lleoedd

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Cynllun Gweithredol 2017-18

Tudalen 13 o 13

10. Cymorth ariannol

Mae’r cyllid a dderbynnir gan y Comisiwn Brenhinol yn 2017-18 i gyflawni’r blaenoriaethau hyn fel a ganlyn: Costau rhedeg 2017-18 £000oedd Cyfanswm 1,531 Cyfalaf 15 Dibrisiad 134 (eitem nad yw’n arian parod yw hon ac nid

yw ar gael i’w thynnu i lawr yn ystod y flwyddyn)

Cyllid ychwanegol Y Gofrestr Enwau Lleoedd

Hanesyddol 60 Casgliad y Werin Cymru 39.4