Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol€¦ · Drws y Coed gan Hannah...

12
Drws y Coed gan Hannah Wardle Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Be’ sy’ ‘mlaen Gaeaf 2013

Transcript of Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol€¦ · Drws y Coed gan Hannah...

Page 1: Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol€¦ · Drws y Coed gan Hannah Wardle Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Be’ sy’ ‘mlaen

Drws y Coed gan Hannah Wardle

Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

Be’ sy’ ‘mlaen Gaeaf 2013

Page 2: Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol€¦ · Drws y Coed gan Hannah Wardle Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Be’ sy’ ‘mlaen

Emmanuel Cooper obe 1938–2012

Arddangosfa ôl-syllol

7 Rhagfyr 2013 – 2 Chwefror 2014Oriel 1

Page 3: Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol€¦ · Drws y Coed gan Hannah Wardle Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Be’ sy’ ‘mlaen

Sgyrsiau, Digwyddiadau a Gweithdai I archebu ffoniwch 01824 704774. Am y wybodaeth diweddaraf ewch i www.canolfangrefftrhuthun.org.uk

2/3

Roedd Dr Emmanuel Cooper OBE (HonDFA) 1938–2012 yn grefftwr, llenor, athro a darlledwr o fri. Yn grochenydd o statws rhyngwladol, caiff ei waith ei gynrychioli mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus. Roedd yn awdur bron i ddeg ar hugain o lyfrau, yn olygydd Ceramic Review, Athro gwadd yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain, ac yn ddarlledwr cyson ar y teledu a’r radio. Yn 2002 dyfarnwyd OBE iddo am ei wasanaeth i gelfyddyd. Gwnaeth Emmanuel gyfraniad hynod arwyddocaol i’r byd serameg. Dethlir hyn gydag arddangosfa deithiol o’i serameg a chyhoeddiad yn edrych ar ei fywyd mewn potiau – cynhyrchir gan Ganolfan Grefft Rhuthun mewn cydweithrediad â Phrifysgol Derby.

Curadwyd gan Gregory Parsons.

I ddod yn Ionawr fel rhan o arddangosfa Emmanuel Cooper:

Edrych ymlaen o’r gorffennol – ymarfer serameg nawr.

Yn y blynyddoedd diweddar mae’r maes serameg wedi bod yn nodedig am grochenwyr yn archwilio ffyrdd newydd iawn o weithio, yn aml yn defnyddio deunyddiau eraill wedi’u cyfuno â chlai. Yn rhyfeddol, tra mae’r ymchwiliadau modern yma yn mynd rhagddo, ochr yn ochr mae diddordeb yr un mor gryf gan grochenwyr mewn ail-weithio hen draddodiadau serameg megis gwaith slip.

Yn ‘Edrych ymlaen o’r gorffennol’ bydd dau artist yn egluro eu gwaith â’u dulliau gwahanol iawn o ymarfer cyfoes.

Mae Bethan Lloyd Worthington yn un o’r rhai mwyaf creadigol o’r artistiaid cyfoes sy’n defnyddio serameg, gyda ymarfer yn deillio o sawl disgyblaeth. Mae’n hi’n aelod o grwp o artistiaid sy’n gweithredu o safle yn Llundain fel ‘Stiwdio Manifold’ sy’n cynnal ystod rhyfeddol o brosiectau creadigol. Bydd yn dangos enghreifftiau o’i gwaith a thrafod ei syniadau.

Disgrifwyd Doug Fitch fel crochenydd gwlad cyfoes. Mae’n gweithio o fewn traddodiad crochenwaith slip Swydd Devon ac eto yn ceisio dod â’i lais cyfoes ei hun i’r genre. Bydd yn trafod ei ddulliau gweithio ac yn arbennig y dylanwad gaiff cefn gwlad ar ei waith.

Caiff y siaradwyr eu cyflwyno gan y crochenydd, awdur a’r darlithydd Alex McErlain a fydd hefyd yn trafod newidiadau o fewn crochenwaith stiwdio dros y deugain mlynedd diwethaf.

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad hwn, ewch i’n gwefan.

Emmanuel Cooper OBE 1938–2012 Arddangosfa ôl-syllol Mae llyfr hardd yn cyd-fynd â’r arddangosfa. ISBN 978-1-905865-60-4

Ffoniwch i archebu eich copi. Ffôn: +44 (0)1824 704774

Holl ffotograffiaeth: Dewi Tannatt Lloyd. Ffoto portread Emmanuel Cooper: Richard Smith. Delwedd trwy garedigrwydd Cyngor Celfyddydau Lloegr.

Page 4: Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol€¦ · Drws y Coed gan Hannah Wardle Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Be’ sy’ ‘mlaen

Gerddi Mythau Hud

gwaith Betty Pennell a Ronald Pennell

7 Rhagfyr 2013 – 2 Chwefror 2014Oriel 2

Ronald Pennell

Betty Pennell

Ronald Pennell

Page 5: Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol€¦ · Drws y Coed gan Hannah Wardle Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Be’ sy’ ‘mlaen

4/5

Dywedir yn aml bod gerddi yn creu trefn o anhrefn natur. Gellir dweud ymhellach bod Myth yn trefnu’r gwych, yr anragweladwy a’r anesboniadwy i mewn i ffurfiau lle gallwn archwilio holl ystod y cyflwr dynol. Daw hud i’r amlwg drwy ddatgelu bydoedd dirgel a chyfochrog mewn ffyrdd y gallwn ni deimlo yn rhan ohonynt. Trwy gyfrwng eu celf, mae Betty a Ronald Pennell yn ein swyno a’n hudo ni, gan ein tywys ar daith arallfydol trwy dirluniau mytholegol a hudolus.

Wedi derbyn hyfforddant gan John Nash ac Edward Bawden yn y Coleg Celf Brenhinol yn y 1950au, mae Betty Pennell yn ysgythrwr coed a chanddi allu penodol a sylweddol. Mae ei delweddaeth yn deillio o’r coed a’r gwrychoedd ywen sy’n creu terfynnau’r gerddi ffurfiol ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae Ronald Pennell yn ysgythru’n rhydd ar ffurfiau llestr gwydr chwythwyd â llaw, ei naratif yn orchest gyson-newidiol trwy chwedlau dychmygol a rhyfeddol.

Mae’r arddangosfa hon yn dathlu llwyddiant mawr y bartneriaeth greadigol hanner can mlwydd oed hon; yn gwireddu gardd ryfeddol, yn lle gwirioneddol hudolus ochr yn ochr ag arfer creadigol ffyniannus a rhagorol. Mae Canolfan Grefft Rhuthun yn falch iawn o gael y cyfle unigryw i lwyfannu a rhannu’r corff rhagorol hwn o waith. Fe’ch gwahoddir i mewn i’r byd hudolus a llawn swyn hwn; gobeithiwn y byddwch yn mwynhau llawer o synfyfyrio...

Philip Hughes

Betty Pennell

Ronald Pennell

Betty PennellDelweddau trwy garedigrwydd yr artistiaid.

Page 6: Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol€¦ · Drws y Coed gan Hannah Wardle Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Be’ sy’ ‘mlaen

7 Rhagfyr 2013 – 2 Chwefror 2014Oriel 3

goleuo

Mae pobl wedi dathlu gwyliau “canol-gaeaf” ers miloedd o flynyddoedd. Maent fel arfer yn cynnwys gwledda a thanau i nodi dechread dychweliad yr haul a mwy o oriau o olau dydd sy’n digwydd gyda Heuldro’r gaeaf ac a elwir yn llawer o enwau, gan gynnwys Yule, y Nadolig, a Saturnalia. Ym mhob un o’r gwyliau hyn mae goleuadau yn rhan bwysig o’r profiad.

Felly, wrth i ni addurno ein cartrefi gyda goleuadau, mae Goleuo yn dathlu hyn gyda detholiad cyffrous o oleuadau newydd ar gyfer eich cartref. Wedi eu gwneud gan ddylunwyr ifanc talentog o bob cwr o’r DU, mae yn Goleuo gysgodau golau gwydr wedi eu chwythu â llaw, goleuadau crog a lampau desg wnaed o ystod eang o ddeunyddiau – oll yn ddarnau gwych i oleuo eich nosweithiau ganol gaeaf.

Curadwyd gan Gregory Parsons.

Delweddau gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Claire Norcross, Nick Grant & Colin Chetwood, Freshwest, Louise Tucker, Piers Saxby Candy Studio, Sheldon Cooney, Sebastian Cox, Michael Ruh (gorchydd llinyn trydanol Aimee Betts), Drws y Coed gan Hannah Wardle, Emily Phillips. Delweddau trwy garedigrwydd yr artistiaid.

Sgyrsiau, Digwyddiadau a Gweithdai I archebu ffoniwch 01824 704774. Am y wybodaeth diweddaraf ewch i www.canolfangrefftrhuthun.org.uk

sheldon cooney / sebastian cox freshwest / nick grant & colin chetwood claire norcross / emily phillips michael ruh / piers saxby candy studio louise tucker / drws y coed gan hannah wardle

Page 7: Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol€¦ · Drws y Coed gan Hannah Wardle Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Be’ sy’ ‘mlaen

Drws y Coed gan Hannah Wardle

6/7

Page 8: Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol€¦ · Drws y Coed gan Hannah Wardle Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Be’ sy’ ‘mlaen

d dRydym angen eich help i addurno’r goeden Nadolig yn Café R!!! Ymunwch â ni yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar gyfer gweithgareddau trawo-mewn ysbrydolwyd gan y Nadolig gall yr holl deulu eu mwynhau. Bydd y sesiynau am ddim yn cynnwys gwneud addurniadau Nadolig hardd â llaw gyda’n artistiaid a gwneuthurwyr lleol.

‘Addurniadau Nadolig Crefftus’ Codwch hwyl yr wyl drwy ymuno â ni ar gyfer gweithgareddau crefft tymhorol! Sadwrn 14 Rhagfyr 11.00am – 3.00pm AM DDIM dim angen archebu

Mandy Coates Dysgwch dechnegau gwehyddu basgedi gyda Mandy Coates lle byddwch yn creu eich haddurniadau Nadolig eich hun mewn helyg a brwyn.

Chloe Needham Bydd gweithdy’r artist papur Chloe Needham yn cyfuno technegau dyfrlliw hardd a thoriadau papur syml i greu addurniadau a chardiau Nadolig unigryw.

Gweithdy trawo-mewn Nadoligaidd gyda’r artistiaid Mai Thomas ac Eleri Jones Sadwrn 21 Rhagfyr 11.00am – 3.00pm AM DDIM dim angen archebu

‘I’r golau’, ymunwch â ni yn hwyl yr wyl a chreu eich llusern addurniadol eich hun i oleuo’r cwrt a’ch ffordd gartref.

3.30pm – Beth am ddathlu tymor yr wyl gyda ni mewn steil trwy ein helpu i addurno coeden Caffi R a derbyn rhai danteithion Nadoligaidd!!!

Y goeden Nadolig a’r danteithion Nadoligaidd wedi eu noddi’n garedig gan Café R.

Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn.

Nid oes angen archebu lle ar gyfer y digwyddiadau rhad ac am ddim hyn, ond byddwch yn amyneddgar os ydym yn brysur gan y bydd cyfle i bawb ymuno yn yr hwyl.

Digwyddiadau’r NadoligGweithgareddau trawo-mewn ysbrydolwyd gan y Nadolig ar gyfer y teulu oll. AM DDIM dim angen archebu

d

d

dd

d

Eleri Jones

Page 9: Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol€¦ · Drws y Coed gan Hannah Wardle Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Be’ sy’ ‘mlaen

d

d

dd

Dewch i Ganolfan Grefft Rhuthun y Nadolig hwn ar gyfer gemwaith cain, serameg, gwydr, tecstilau,

llyfrau a llawer mwy.

Stiwdios Artistaid

Cefyn Burgess, Stiwdio Artist 1www.cefynburgess.co.uk

Neil Dalrymple, Stiwdio Artist 4www.neildalrymple.com

Yma yng Nghanolfan Grefft Rhuthun mae gennym dair Stiwdio Artist i’w harchwilio. Tecstilau a ffabrigau gan Cefyn Burgess, Cerfluniau crochenwaith caled seramig gan Neil Dalrymple a Gemwaith gan Mirage Jewellery. Dewch i ymweld â’r stiwdios heddiw ar gyfer syniadau gwreiddiol am anrhegion Nadolig. Cysylltwch â’r gwneuthurwyr yn unigol ar gyfer eu horiau agor.

Mirage Jewellery, Stiwdio Artist 6www.mirage-jewellery.co.uk

d

d

dd

d

8/9

Page 10: Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol€¦ · Drws y Coed gan Hannah Wardle Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Be’ sy’ ‘mlaen

Gof Arian Pamela Rawnsley ar breswyliad 4 – 30 Tachwedd 2013 Bydd y Wobr Cymru Greadigol hon yn galluogi Pamela i ymchwilio a chynhyrchu corff newydd o waith, mewn amrywiol ffyrdd.

Mae ei gwaith presennol fel gof arian wedi canolbwyntio ar ymdeimlad cryf tuag at le, yn gysylltiedig â’i chyffiniau agos. Mae hi nawr wedi cael y cyfle i ddarganfod ei hymateb gweledol i amgylchedd cwbl wahanol, sef De Awstralia.

‘Tirwedd yw ysbrydoliaeth aruchaf fy ngwaith.’

Yn y blynyddoedd diweddar rwyf wedi canolbwyntio ar filltir sgwâr fy nghartref, gan arsylwi’n fanwl ar y golau a’r tywydd sy’n creu siapiau symudol ar Fannau Brycheiniog, ar adegau penodol o’r dydd a’r flwyddyn. Arweiniodd hyn at greu grwpiau o lestri arian yn cyfleu llonyddwch canolog ynghyd â synnwyr cryf o symudiad.

Derbyniais Ddyfarniad Llysgennad Cymru Creadigol yn 2012 arweiniodd at breswyliad gwâdd yn Awstralia gyda’r enwog Jam Factory, a chyfle i brofi tirweddau eraill hynod ac

anghyffredin. Erbyn hyn mae corff newydd o waith ar y gweill, gyda lliwiau, gweadau a phlanhigion De Awstralia yn ffurfio’r craidd, gyda’m ffynhonnell gwreiddiol yn cael ei weld o’r newydd.

Pamela Rawnsley 2013

Sgwrs: Pamela Rawnsley Sadwrn 23 Tachwedd, 2013 2.30pm – 4.00pm AM DDIM Ffoniwch i archebu lle

Dewch i glywed y Gof Arian enwog Pamela Rawnsley yn trafod ei dylanwadau a gwaith diweddar. Angela Davies ar breswyliad 5 Tachwedd, 2013 – 22 Chwefror, 2014

Golau Gyda lês yn gweithredu fel trosiad am dirwedd, mae’r gwaith yn bwriadu trosgynnu ffiniau crefft ac ymarfer celf gyfoes gyda thirwedd. Bydd gosodwaith synhwyraidd yn cael ei osod yng Nghastell y Waun ar y cyd ag ymarferwyr creadigol eraill.

Ariennir prosiect Angela Davies gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Sean Harris ar breswyliad Yn dechrau ei gyfnod preswyl ganol Ionawr

Bydd Gwobr Cymru Greadigol Sean Harris yn caniatáu iddo ymgymryd ag ail-ddarganfyddiad artistig, gyda chyfnod o leiaf 10 mis yn cael ei dreulio yn ail-gysylltu â’i arfer stiwdio mewn partneriaeth â Chanolfan Greff Rhuthun, a Chanolfan Celfyddydau Pyramid Atlantic yn UDA drwy edrych ar bobloedd brodorol â’u hanes a rhai llwybrau diddorol sy’n cysylltu’n ôl i Gymru.

Am sgyrsiau a digwyddiadau sydd ar droed, ewch i’n gwefan am fanylion pellach.

Ariennir Gwobr Llysgennad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Artistiaid preswyl

Pamela Rawnsley

Sean Harris

Angela Davies

Page 11: Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol€¦ · Drws y Coed gan Hannah Wardle Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Be’ sy’ ‘mlaen

9 Rhagfyr 2013 – 7 Chwerfor 2014 Stiwdo 5 Mae Ymgolli mewn celf yn brosiect sydd wedi ei anelu tuag at bobl sy’n 50+ â dementia, ynghyd ag aelodau eu teuluoedd a’u gofalwyr. Bob wythnos bydd cyfranogwyr yn ymweld â’r orielau yng Nghanolfan Grefft Rhuthun lle byddan nhw’n edrych ar arddangosfeydd ac yn ymateb iddyn nhw; gan weithio ynghyd â’r artist Siân Hughes fe fyddan nhw’n cynhyrchu gwaith celf â’r oriel yn fan cychwyn ac yn ysbrydoliaeth.

Nod y prosiect yw ystyried rôl y celfyddydau gweledol o ran trin materion sy’n medru effeithio pobl gyda dementia, gan gynnwys unigedd cymdeithasol, hyder, cyfathrebu ac ansawdd bywyd a lles.

Cydweithiodd plant Ysgol Gellifor ochr yn ochr â grwp Ymgolli mewn celf, mewn un sesiwn, i wneud gweithiau celf. Roedd y grwp yn gallu rhannu eu syniadau creadigol gyda’r plant ac felly yn codi ymwybyddiaeth o dementia a sut mae’n effeithio pobl yn eu cymuned.

Fe arweinir y prosiect gan Wasanaeth Celfyddydau Cymunedol Cyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chanolfan Grefftau Rhuthun. Caiff y prosiect ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.

Hoffem eich gwahodd chi i weld y gwaith a sgwrsio â’r cyfranogwyr mewn arddangosfa arbennig yn Stiwdio 5 yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.

Llun 9 Rhagfyr 1.00pm – 3.00pm Stiwdio 5 Canolfan Grefft Rhuthun

Ymgolli mewn Celf

Arddangosfa i ddathlu gwaith celf sydd wedi ei greu gan grwp Ymgolli mewn celf

‘Patrwm Arwynebol ac Addurno Gwydredd’ Sgwrs ac Arddangosfa gyda David a Margaret Frith Sul 15 Rhagfyr, 11.00am – 3.00pm AM DDIM archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi

David a Margaret wedi bod yn gwneud potiau hardd gyda’i gilydd am hanner can mlynedd: Wedi eu lleoli yn gadarn yn y cyfoes mae eu potiau yn mynegi etifeddiaeth traddodiadau amrywiol. Wedi meistroli ffurfiau taflu a thanio gwydreddau gostyngol hardd aethant ati i ddatblygu proses gwrthgwyr i hwyluso haenu gwydreddau gyda motiffau wedi’u paentio a’u diferu i roi dyfnder a chyseiniant i’r addurniad arwynebol sy’n ymddangos mor ddiymdrech.

Yn dilyn yr arddangosiad blaenorol ‘Taflu mewn Cytgord’ ac yn ôl y gofyn, bydd David a Margaret Frith yn dychwelyd i roi arddangosiad arall fydd yn archwilio technegau a dulliau gwydro a phatrwm arwynebol, gan gynnwys cerfio, ffliwtio a gwaith padlo.

‘50 Mlynedd o Grochendy Brwcws’ gan Pete Telfer Culture Colony Ffilm, 3.30pm – 4.30pm

Yn ddilyniant o’r arddangosfa fawreddog yr haf hwn bydd ffilm newydd yn cael ei dangos ar ddiwedd yr arddangosiad i ddathlu bywyd ac ymarfer David a Margaret Frith a Chrochendy Brwcws.

Digwyddiadau Eraill:

10/11

Sgyrsiau, Digwyddiadau a Gweithdai I archebu ffoniwch 01824 704774. Am y wybodaeth diweddaraf ewch i www.canolfangrefftrhuthun.org.uk

Page 12: Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol€¦ · Drws y Coed gan Hannah Wardle Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Be’ sy’ ‘mlaen

Gyda thair oriel yn dangos y gelfyddyd gymhwysol genedlaethol a rhyng-genedlaethol orau bosib, gweithdai, caffi ac oriel werthu – dewch i Ganolfan Grefft Rhuthun.

Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau CymhwysolHeol y Parc, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 1BB Ffôn: +44 (0)1824 704774

Ewch i’n gwefan am wybodaeth am wahanol arddangosfeydd www.canolfangrefftrhuthun.org.uk

Bwyty Café RBeth am ymweld â bwyty Café R gyda’i gwrt petryal a bwyd cartref, prydau ysgafn bore a phnawn a bwydlen pryd canol dydd. Beth am archebu bwrdd os ydych yn meddwl dod mewn grw p.I archebu galwch 01824 703571.

Oriau agor Yn agored yn ddyddiol o 10.00am – 5.30pm. Mynediad am ddim. Maes parcio am ddim.

Yr Oriel WerthuYn gwerthu gwaith cyfoes rhai o grefftwyr gorau’r wlad. Piciwch i mewn i weld y dewis eang o dlysau, serameg, gwydr, gwaith metel, llyfrau, nwyddau sgwennu ac anrhegion unigryw.

Cofiwch am Collectorplan, sef cynllun prynu di-log Cyngor Celfyddydau Cymru sydd ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o nwyddau’r oriel.

Gwybodaeth i ymwelwyr

12

RHAI O’N CYHOEDDIADAU

Rydyn ni’n stocio dewis eang o lyfrau a chatalogau yn ein horiel manwerthu yn cynnwys llawer o deitlau sydd wedi’u cyhoeddi gan GGRh yn unig.

Cewch weld ein rhestr lawn ar www.canolfangrefftrhuthun.org.uk

Ar gael o Oriel Werthu Canolfan Grefft Rhuthun neu drwy’r post. Bydd costau postio a phacio’n gymwys. Ffoniwch neu ebostiwch am fanylion os gwelwch yn dda

Ffoniwch: +44 (0)1824 704774 neu ebost: [email protected]

Walter Keeler

108 tudalen, lliw llawn 240x297mm

Clawr caled arferol: £25 Pris Cynnig Arbennig: £20

Meddal cynt: £19 Pris Cynnig Arbennig: £15

Michael Casson

120 tudalen, lliw llawn 298x235mm

Meddal arferol: £20 Pris Cynnig Arbennig: £15

Studio: Ceramicists and their studios

48 tudalen, du a gwyn 276x275mm

Meddal arferol: £12 Pris Cynnig Arbennig: £9.50

Ruth Duckworth Duckworth at Ninety

48 tudalen, lliw llawn 210x210mm

Meddal arferol: £12 Pris Cynnig Arbennig: £9.50

Mae’r cyfrolau canlynol oll yn cynnwys traethodau gan Emmanuel Cooper

Mae’r gyfrol Studio yn cynnwys gwaith a gofod stiwdio Emmanuel Cooper