Bwletin Llên Natur · Dyma rew boreuol ar y Migneint - yr Arenig yn y cefndir. -2 radd canradd am...
Transcript of Bwletin Llên Natur · Dyma rew boreuol ar y Migneint - yr Arenig yn y cefndir. -2 radd canradd am...
Bwletin Llên Natur Golwg newydd ar y byd o’n cwmpas
Rhifyn
84Chwefror 2014
50 mlynedd yn ôl Cofio mynd i’r ysgol y diwrnod hwn Mawrth 3 1965, rhyw fore ddigon llwydaidd. Erbyn amser cinio fe
ddechreuodd hi fwrw eira yn drwm, a’r penderfyniad yn Ysgol Dyffryn Nantlle oedd gyrru pawb adref.
Cychwynnais i a chriw o blant eraill o’r Groeslon gerdded am adref - taith o ddwy filltir; ‘roedd y tywydd yn
gwaethygu. Erbyn cyrraedd Garth Dorwen, daeth bws dybl dec Crosville yn araf drwy’r eira. Yr adeg hynny
oedd yna yrrwr a chondyctor ar y bws, ac roedd chwarter ôl y bws yn agored. Fel daeth y bws atom
gwaeddodd y condyctor wrthym am neidio i mewn, gan na all y bws stopio, ag i mewn a ni. Cynhesrwydd o’r
diwedd, a dechreuodd y pibonwy ddod o’n trwynau doddi, a’r eira oedd wedi glynu drosom. Erbyn cyrraedd Y
Groeslon, cawsom orchymyn i neidio oddi ar y bws, gan na allai’r bws aros, a neidio allan bu raid, fel plant,
roedden wedi dysgu’r tric yma ers peth amser. I ffwrdd a ni fesul un fel milwyr yn neidio allan o awyren bron.
Roeddwn yn falch iawn o gyrraedd adref y diwrnod hwnnw. I goroni’r cwbl, roedd y bechgyn blwyddyn gyntaf
yn gorfod gwisgo trwosus cwta i fynd i’r ysgol. Bore drannoeth, awyr las a haul llachar. ‘Roedd yr eira wedi
lluwchio ym mhob man, ac ar y ffordd fawr, roedd y cyngor wedi llwyddo i agor un llwybr o’r ffordd rhwng Y
Groeslon a Phenygroes. Penderfynu`r diwrnod hwnnw mai’r peth doethaf oedd peidio â mynd i’r ysgol.
Beth oedd eich profiad chwi o’r diwrnod hwn, arhosoch yn yr ysgol dros nos ynteu ei mentro hi adref,
gadewch i ni wybod? Ifor Williams
Pont Grog y Borth, 30 Rhagfyr 2014Llun a chapsiynnau: Alun Williams
Roedd hwn yn lun anodd, exposure o 30 eiliad a cheisio peidio llosgi y golau llachar rhag iddynt
droi yn wyn. Roeddwn hefyd angen llanw uchel ac awyr glir tua deg munud cyn i'r awyr droi yn ddu.
White Knight says to Alice,'I heard him then,for I had just completed my design.To keep the Menai Bridge from rust.By boiling it in wine.
Lewis Carrol, Through the Looking Glass
Rhew ar y Migneint
Dyma rew boreuol ar y Migneint - yr Arenig yn ycefndir. -2 radd canradd am 9 y bore, 13 Rhagfyr2014 Gwyn Williams
Caerdydd 1762
Ar ôl Waun Elai mis diwethaf dyma sylw arall am
Treganna (Canton), Caerdydd o’r un llaw:
This mg [morning] ye full moon tide run`d [ran] further and
by a great storm more dangerous than it did for several
yrs past, and meeted with ye flood of ye night past yt
[that]John Jenkin of Canton was in danger of loosing all
his sheep on ye Granges, some of ym [them] drowned
and ye current made great destruction on ye sea walls -
this day cloudy and often heavy showers of rain wind S.W Dyddiadur William Thomas, Michaelston-super-Ely
Pysgodyn clicied ym Mhontllyfni
Corff pysgodyn clicied llwyd Balistes capriscus agafwyd ar y traeth ym Mhontllyfni, Arfon, ar y 20Rhagfyr 2014. Dyma ddywed y wefan “BritishSea Fishing”:
Triggerfish were once a very rare species around all of thecoast – as recently as 2005 a triggerfish being caught inBritish waters made national news, but now triggerfish arebeing caught in the UK more and more often, to the extentthat they are approaching near-common status in certainareas around the southern parts of the British Isles andthere is evidence to suggest that they are making theirway northwards.
Crempogau ia yn yr Alban
....the first time the pancakes, more commonly found in the Antarctic or the Baltic Sea, have been
seen on the River Dee (yn sir Aberdeen)..
Cwt be ar y Foel Gron?
Fe gafodd chwilfrydedd rhai trigolion pentre’r
Waunfawr ei ail-gynnau yn ddiweddar wrth iddynt
geisio dyfalu beth oedd gwir bwrpas y “cwt geifr”
ar ochr y Foel Groen uwchben Nant y Betws. Un
o’r criw oedd Dafydd Whiteside Thomas, a
gyhoeddodd ffrwyth ei ymchwil ym mhapur Bro
Eco’r Wyddfa ym mis Rhagfyr 2014.
Dangosodd Dafydd bod y cwt yn mynd yn ôl i 1816 o leiaf,
ac mae ei gyflwr fel newydd. Ei gasgliad oedd bod
tystiolaeth y gallai fod yn a) cell meudwy (Garmon o bosib),
b) cwt bugail neu c) gwt godro geifr. Nid oedd Dafydd am
gael ei dynnu i unrhyw gyfeiriad gan ddweud wrth y
darllennydd “dewiswch chi!”
Twrci cyntaf Cymru?
Cefais fy sbarduno gan ymweliad Albert, y Twrci,
i stiwdio Galwad Cynnar cyn y Nadolig i edrych
ar gywydd gan Wiliam Cynwal lle mae’n gofyn i
Edwart ap Rhosier (boneddigyn o Riwabon o
deulu Eutun) am dri thwrci, un ceiliog a dwy iâr.
Bu farw Wiliam yn 1587 ac felly mae’n debyg
bod Edwart yn berchen ar rai o’r adar cyntaf i
gyrraedd Cymru. Mae’n amlwg bod yr ‘edn mawr
hynod’, yn enwedig pen y ceiliog, yn gwneud
argraff ddwys ar Wiliam: Edn enbyd yn ei unbaisAcw i syr fal lacâi Sais,A bogail pan fo’n bygwthUwch y trwyn, edrychiad rhwth,A’i dagell wedi digioYn goch fydd dan ei guwch fo.
Ynghylch y cwpled olaf, diddorol nodi’r sylw hwn yn yr
Encyclopedia Britannica:
When males are excited, a fleshy flap on the bill expands, and this,the wattles and the bare skin of the head and neck all becomeengorged with blood, almost concealing the eyes and bill.’
Does dim sôn yma am fwyta twrci ond disodlwyd yr alarchyn raddol yr alarch ar fyrddau’r boneddigion gan y twrci drosy canrifoedd dilynol.
Howard Williams
Wystrys y coed ar arwyddbost capel
Oyster Mushrooms,
Pleurotus ostreatus
growing from the
Chapel name board
of Shiloh Chapel,
Tregarth on
13/12/2014, which I
thought was quite
unusual.
Debbie Evans
A common edible
mushroom. It was first
cultivated in Germany
as a subsistence measure during World War and is now
grown commercially around the world for food. ...contains
statins such as lovastatin which work to reduce cholesterol
Wikipedia
Mor olau, mor hwyr?
Mewn cerdyn post wedi ei ysgrifennu yng
ngyffiniau Abergele yn ôl y marc post, dyddiedig 1
Gorffennaf 1908, dywedodd y cyfaill fel hyn:
"Still alive in spite of the heat! It was absolutely
roasting yesterday [1 Gorffennaf, y cerdyn wedi
ei ddyddio yr 2ail]. I sat in the shade of a
haystack for a long time reading. It was
delightful. It was so light last night that i could
read easily at 1030."
Daeth y rheswm am barhad hwyr y golau y noson honno o
bapur newydd y Llandudno Advertiser 4 Gorffennaf 1908:
THE AURORA BOREALIS. A MAGNIFICENT
SPECTACLE. Wednesday night last, July 1st, will be
remembered and handed down to history as the lightest
on record. At 11 30 it was possible to read the evening
paper on the promenade, and at no time during the night
could it be described as being more than twilight. Some
authorities declare that this was due to a northern day-
break) commonly known as the "Aurora Borealis," a
display that has many times been seen at, Llandudno, but
never with such magnificent effect.....
Malwen yn ei ogof mewn wal
Gofynnais (DB) i Gabriel fel Llydawr o Ffrancwr
os oedd o wedi mwynhau bwyta'r falwen ar ôl
tynnu ei lun (stereoteip hil anghywir mi wn!).
Dyma ei ateb:
Bon, eh bien, j’m’en va manger l’escargot, avec
un béret sur la tête, une baguette de pain devant
moi et un bon rouge! Rassurant, non? GT
Cyfeillachu yn y ffosydd Dydd Nadolig 1914 (rhewi’n gorn, ond dim son am gêm bel droed)
Dearest Mother I am writing this in the trenches in my "dug out" with a wood fire going and plenty of straw it is
rather cosy although it is freezing hard and real Christmas weather - I think? have seen one of the most
extraordinary sites today that anyone has ever seen - about 10 o`clock this morning I was peeping over the
parapet when I saw a German waving his arms and presently two them got out of their trenches and came
towards ours. We were just going to fire on them when we saw they had no rifles so one of our men went out
to meet them and in about two minutes the ground between the two lines of trenches was swimming with men
and officers of both sides, shaking hands and wishing each other a happy Christmas. This continued for about
half an hour when most of the men were ordered back to the trenches for the rest of the day nobody has fired
a shot and the men have been wandering about at will on the top of the parapet and carrying straw and
firewood about in the open - we have also had joint burial parties with a service for some dead - some German
and some ours - who were lying out between the lines..... I have been taking advantage of the truce to improve
my "dug out" which I share with DM Bain the Scotch rugger international an excellent fellow. We put on a
proper roof this morning and now we have got a tiled fireplace and brush wood and straw on the floor. We
leave the trenches tomorrow and I shan`t be sorry as it is much too cold to be pleasant at nights.... 27th I am
writing this back in billets.... the same business continues...
Adref yn Llandudno dyma ysgrifennodd Harry Thomas yr un diwrnod:
Barometer tonight 29.65. The frost has gone & the day without actually rain has been damp and cold. The
wind passing Talyfan & Foel Fras. Very reprehensible for Christmas morning but I rise late 10 a.m. ..... Take
bunches of berried holly to .... grave at Llanrhos.....
Rhyfeddodau Rwmania trwy stamp a cherdyn
Leporele (ysgyfarnog)
ar gerdyn post a
dderbyniwyd o Romania
Nadolig 2014.
Y neges ar y cerdyn
oddiwrth David
Greenslade oedd
"Gwlad llawn
rhyfeddodau mae Romania o hyd - ym mynyddoedd mawr y
Carpats [Mynyddoedd Carpathia] mae'n hawdd dod ar
draws arwyddion eirth - ac mae dynion yn gwisgo fel eirth
cyfnod y Calan..."
Gwylannod Ysgol BrynhyllRhuthun, Ionawr 2015: Dwi wedi sylwi bod na lwythi
o wylanod ger Ysgol Brynhyll (roedd o`n fryn hyfryd
cyn iddynt godi`r
ysgol). Tybed a oes yna
boblogaethau tebyg o
wylanod ger ysgolion
eraill Cymru? Dwi`n
siwr eu bod nhw yn
byw ar wastraff bwyd y
disgyblion
Gwyn Williams
Llun Mehefin 2010:Ar daith Cymdeithas Edward Llwyd i
Gaergybi. Ydy, mae gwylanod yn hoffi hufen ia Magnum !
Alun Williams
Jac lantar
Ai cyfeiriad at y Jac
Lantar yw enw’r
pentref bach ger
Porthmadog? Beth
yw’r dystiolaeth am
jac lantar yng
Nghymru. Pam na
welir byth y ffenomenon mwyach?
Yr unig gyfeiriad yn y Tywyddiadur hyd yma yw hwn o
swydd Northampton:
...saw two 'Will o whisps' last night [neu Jack a lanthorn] - Ihave often seen these vapours or what ever philosophy maycall them..... Dyddiadur John Clare ISBN 1 85754 288-6
Morfa Harlech
Peli tân yn codi efallai yn gysylltedig â ffawt Mochras, Edward Llwyd
hefyd wedi ystryried ffenomenon tebyg yn 1693 Morfa Harlech a
ysbrydolodd efallai Elis Wyn I gyfansoddi'r gweledigaethau tua 1693.
Twm Elias
Image prise le 19 Juillet 2008 lors de la route faite vers Douarnenez. Ici nous sommes à l’ouest de la
rade de Brest, au fond la presqu’ile de Crozon, on va virer à la Pointe des Espagnols (qui ferme la
partie sud de la rade)
Depuis 1992, tous les quatre ans, Brest est le lieux d’une fête maritime que l’on peut qualifier de grandiose. Pendant une
semaine s’y donnent rendez-vous des voiliers venant du monde entier, voiliers-écoles, voiliers historiques, orgueil de
différentes marines… Depuis les plus grands quatre-mâts tels le Sedow ukrainien, le Kruzenstein russe qui font plus de 110
mètre chacun jusqu’aux plus modestes. Bref, plus de 3000 bateaux (oui, trois mille) alignés sur les quais, voguant sur la
rade… Vraiment la fête qui attire près de deux millions de touristes. Vers la fin du séjour toute cette armada appareille et
met le cap sur Douarnenez. Vu de terre ou mieux depuis un autre bateau, le spectacle est époustouflant.
Gabriel Quere [GT]
Gin a thonic?
Sylwch bod llythrennau GT mewn ambell i destun yn golygu
dolen i gyfieithiad trwy Google Translate.
Ystyriwch y brain
Cigfran, ger y Twll Du ar ail ddiwrnod y flwyddyn
newydd, roedd yn ddigon eofn (neu lwglyd) i
ddod atom i hel briwsion mins peis! Gerallt Pennant
Talcen tŷ ym Mhenygroes tua’r un pryd.
Hen adar castiog, cableddus, croch,
Wedi hel ar nos Sul at y Chwarel Goch,
Gan regi a rhwygo ym mrigau'r coed...
Yn ôl cylchgrawn Barn (Rhifyn 623/4), mae
Angharad Tomos wedi dyfynnu TH Parry Williams
ar dalcen ei thy:
“Un dydd” meddai, “daeth Sais heibio, a gofyn am
gyfieithiad. 'Consider the crows - and that's what I did,'
medda fi. Edrychodd y dieithryn yn hurt. Na, nid popeth all
gael ei gyfieithu”.
Gwiddonyn gwrddnerth
Fe wnes i ddarganfod y gwiddonyn yma ar wal
lefn yn yr ardd [ym Mhenygroes y 14 Mai 2014].
Am ei fod yn ymddangos yn farwol rhaid oedd ei
aflonyddu ac, yn wir i chi, symudodd y creadur er
mwyn osgoi y bwli mawr. Maint y corff heb y
trwnc (rostrum) ydoedd 4-5mm. Does'na ddim
gwiddonyn tebyg iddo yn fy llyfr Collin's Pocket
Guide, Insects of Britain and Western Europe.
Nigel Pitts
Yes, a weevil [gwiddonyn] - Cionus scrophulariae. Feeds on
figwort [gwrddnerth]. John Bratton
A dyma weld ar wefan Nature Spot
nad ydi’r chwilen fach yma wedi cael
ei gofnodi ym Mhenygroes o’r blaen.
Ymlaen a fo i’r Ganolfan Gofnodi
Leol COFNOD.
A dyma lun o’r gwrnerth.
(neu y ddeilen ddu dda,
neu dail duon), ond
defnyddir yr enw yn
draddodiadol am
Veronica officinalis a
Prunella vulgaris. Wedi
eu henwi ar ôl Llywelyn
ap Gwrnerth (GPC)
Cyhoeddir Bwletin Llên Natur gan Gymdeithas Edward Llwyd (Rhif Elusen: 1126027). Mae Prosiect Llên Natur ar Facebook a Twitter.
Cysylltwch â ni trwy [email protected]
Cewri Mynydd
Ar 4 Hydref 1804 [soniodd John Wynne Griffith
(1763-1834) o'r Garn, Henllan ger Dinbych] am
daith i gopa'r Wyddfa gyda'i gyfaill William
Withering (1775-1832) drwy gychwyn o Gapel
Curig am hanner awr wedi saith ac ymlaen drwy
Gwm Dyli. Mae'r ffordd hwylusaf a mwyaf
poblogaidd o'r ochr ogleddol erbyn heddiw yn
cychwyn o Ben-y-Pas ar hyd un ai Lwybr y
Mwynwyr neu Lwybr Bwlch-y-moch. Doedd y
sarn ar draws Llyn Llydaw a adeiladwyd gan y
mwynwyr i'r gwaith copr ddim yn bod bryd hynny
ac felly rhaid oedd dilyn glannau deheuol y llyn er
mwyn cyrraedd Llyn Glaslyn. Maent yn cofnodi
ffenomenon [Llyfr ymwelwyr Capel Curig 1801-
1836 Archifdy Gwynedd XM5171/1] a welwyd
tra'n dilyn crib y mynydd. Gelwir y ffenomenon
hon yn 'glorie' yn Saesneg a'r unig enw Cymraeg
y gwn amdano yw 'cewri'r mynydd'. Fe'i gwelir
pan mae cerddwr neu ddringwr yn dilyn cwrs crib
fynyddig uwchben dyfnder yn llawn niwl.
Ymddengys cysgod anferth y cerddwr yn y niwl
oddi tano a phan dywynna'r heulwen arno drwy
orchudd tenau o gwmwl mae enfys fechan i'w
gweld yn amgylchynu ei ben.
Dewi Jones (“Ar Drywydd y Dringwyr” 2010)
A dyma gawr mynydd (ar lun ei gysgod ei hun) a welodd
Jeremy Trumper ar y 6 Ionawr 2005 ar Trum y Ddisgl’
Mwyalchod epilgar a chartrefol
Mae Tom Jones,
Golan wedi bod yn
dyst i bâr o adar
duon (roedd posibl
adnabod yr iar
unigol wrth glwt
bach gwyn ar ei
brest) oedd wedi
nythu yn yr un
nyth dair (hwyrach bedair) blynedd yn olynol.
Dyma ddywedodd Tom: Mae hyn yn mynd yn ôl bedair blynedd... Bu yma am tua4 blynedd yn nythu, a hyn oedd yn ryfeddol roedd yn cael2 i dri nythiad y tymor ac fe roedd gan y beinw ifanc fibgolau ond nid yn hollol wyn hefyd fel eu rhiant. Erbyn hynmae'r gwyn wedi diflannu neu mae'r [unigolyn hwnnw]wedi symud rhywle arall.
Bu i'r iar sydd wedi dod ar ei hôl fod yma 3 blynedd. Bu’ndywyll fel y disgwilir i iar Aderyn du fod ac mae hon eto ynrhyfeddol trwy iddi gael 3 a hyd yn oed 4 nythiad y tymor.
Y tymor 2014 cafodd 4 nythiad o gywion yn yr un un nythyn yr hen gwt ieir. Roedd y cywion o gwmpas yr ardd amgyfnod tra roedd hi yn eistedd yr ail nythiad wedyn felroedd yr ail yn barod i adael y nyth roedd y rhai cyntaf yncael eu herlid oddi yma a felly pob nythiad tan ypedwerydd, mae epil y nythiad olaf yn dal o gwmpas onddim golwg o'r iar. Felly fe fagwyd 4 cyw i bob nythiad ac fewelais fod yr rhain wedi tyfu i fyny yn oedolion bron, 16 ogywion i gyd mewn un tymor. Tybed oes rhywyn arallwedi sylwi ar rhywbeth tebyg? Ydi hyn yn rhyw fath orecord i'r Aderyn du?
Cofnododd Tom hynt yr adar ers 2011 yn y
Tywyddiadur. Mae’r hanes yn annisgwyl efallai gan
fod adar mân fel arfer yn codi nyth o’r newydd i bob
deoriad oherwydd, yn ôl pob damcaniaeth, y peryglon
afiechyd a thynnu sylw gelynion. Mae’n debyg bod
ffrwythlondeb y par(au) yn yr ardd hon (rhwng 10 a 14
nythaid dros bedair blynedd) yn tystio i dywydd ffafriol
y blynyddoedd dan sylw. Llun ar y brig gan Gareth Pritchard, Llandudno
Glaw Pelcomb, Penfro 2014
.... mewn dau le, un yn y gogledd (Llanfaglan, glas, Caernarfon 2km o’r môr, gan Ifor Williams) a’r llall yn y de (Pelcombe,
piws, Hwlffordd, tua 7km o’r môr, gan John Lloyd Jones).